42
DIOGELU OEDOLION Polisi ar gyfer yr Eglwys Fethodistaidd Ymateb yr Eglwys Fethodistaidd i’r angen i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed

DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

Polisi ar gyfer yr Eglwys Fethodistaidd

Ymateb yr Eglwys Fethodistaidd i’r angen i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed

Page 2: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

3

Diogelu Oedolion

Polisi ar gyfer yr Eglwys Fethodistaidd

2010

Cymeradwywyd gan y Gynhadledd Fethodistaidd 2010

Yr Eglwys Fethodistaidd, Methodist Church House, 25 Marylebone Road, London NW1 5JR

Ffôn: 020 7486 5502 E-bost: [email protected]

Page 3: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

3

Cynnwys

Datganiad Polisi ar Ddiogelu ar gyfer yr Eglwys Fethodistaidd ac Eglwys Loegr … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 5

1 Cyflwyniad … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 61.1 Golwg ddiwinyddol ar bethau … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 61.2 Y cyd-destun cymdeithasol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 8

2 Oedolion Agored i Niwed … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 92.1 Pwy sy’n agored i niwed … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 92.2 Diffiniadau … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 92.3 Gallu … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 112.4 Arferion da … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 11

3 Y gwerthoedd sy’n sail i’r polisi … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 12

4 Mathau o niwed a’r arwyddion … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.1 Cam-drin corfforol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.2 Cam-drin emosiynol neu seicolegol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.3 Cam-drin rhywiol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.4 Cam-drin ariannol neu faterol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.5 Esgeulustod ac anweithiau … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.6 Cam-drin trwy gamwahaniaethu … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.7 Cam-drin ysbrydol a defodol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 134.8 Cam-drin domestig … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 144.9 Priodas dan orfod … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 144.10 Cam-drin sefydliadol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 15

5 Rhoi’r polisi ar waith … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 165.1 Rhoi’r polisi ar waith yn yr eglwys leol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 165.2 Rhoi’r polisi ar waith yn y Gylchdaith … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 165.3 Rhoi’r polisi ar waith yn y Dalaith … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 165.4 Rhoi’r polisi ar waith ar lefel Gyfundebol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 17

6 Hyrwyddo arferion da … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 186.1 Yr hyn sydd wrth wraidd arferion diogel a chynhwysol … … … … … … … … … … … … … … … … … 186.2 Recriwtio’n fwy diogel – crynodeb byr … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 196.3 Hyfforddiant … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 196.4 Eiriolaeth … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 196.5 Amrywiaeth ddiwylliannol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 20

7 Canllawiau ar gyfer y rhai sy’n rhoi gofal bugeiliol … … … … … … … … … … … … … … … … … 21

Page 4: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

4

DIOGELU OEDOLION

5

8 Ymateb i gamdriniaeth … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 258.1 Y broses a chyfrinachedd … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 258.2 Cadw cofnodion a phreifatrwydd … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 268.3 Rhannu gwybodaeth … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 26

9 Gofalu am oedolion sydd wedi goroesi … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 28

10 Gweinidogaethu i bobl y mae pryder am eu hymddygiad yn y gorffennol … … … … … 2910.1Cyflwyniad … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 2910.2 Cyfamod Gofal … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 2910.3 Y cytundeb … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 29

11 Delio ag anghytundebau a chwynion … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 3111.1Cyflwyniad … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 3111.2 Atal Dros Dro … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 3111.3 Goblygiadau ehangach … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 3111.4 Atgyfeirio i sylw’r Awdurdod Diogelu Annibynnol … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 32

12 Penderfyniadau … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 33

13 Atodiadau … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 34A. Y datganiad polisi ar ddiogelu ar ffurf poster … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 35B. Tabl o gyfrifoldebau … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 36C. Swyddogaethgrŵpachyd-drefnydddiogeluoedolionyDalaith … … … … … … … … … … … … 37CH. Rhestr wirio ar gyfer eglwysi … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 38D. Adnoddau … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 39DD. Siart llif i gyfeirio ati … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … … 40

Page 5: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

4

DIOGELU OEDOLION

5

Datganiad Polisi ar Ddiogelu ar gyfer yr Eglwys

Fethodistaidd ac Eglwys Loegr1

Rhagair

Mae pob bod dynol yn meddu ar werth ac urddas sy’n deillio’n uniongyrchol o waith Duw yn ein creu, yn wryw a benyw, ar ei lun a’i ddelw ei hun. Mae Cristnogion yn gweld y potensial hwn yn cael ei gyflawni wrth i Dduw ein hail-greu yng Nghrist. Ymhlith pethau eraill mae hyn yn golygu fod arnom ddyletswydd i werthfawrogi pob unigolyn gan fod delw Duw ar bawb a rhaid gwarchod pawb rhag niwed.

Egwyddorion

Rydym wedi ymrwymo: i ofalu am bob plentyn, pob unigolyn ifanc a phob oedolyn, eu meithrin a chynnal gweinidogaeth

fugeiliol lawn parch gyda hwy. i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn, pob unigolyn ifanc a phob oedolyn pan fyddant yn agored i

niwed. i sefydlu cymunedau diogel, gofalgar sydd yn darparu amgylchedd cariadus lle ceir gwyliadwriaeth

ddeallus gan wybod am beryglon cam-drin.

Byddwn yn dethol a hyfforddi’n ofalus bawb sydd yn cael unrhyw gyfrifoldeb o fewn yr Eglwys, yn unol ag egwyddorion recriwtio diogelach, gan gynnwys defnyddio datgeliadau cofnodion troseddol a chofrestru gyda’r cynlluniau fetio a gwahardd perthnasol2.

Byddwn yn ymateb yn ddi-oed i bob cwyn a wneir sydd yn awgrymu y gall oedolyn, plentyn neu unigolyn ifanc fod wedi cael niwed, gan gydweithio â’r heddlu a’r awdurdod lleol mewn unrhyw ymchwiliad.

Byddwn yn ceisio cynnig gofal bugeiliol goleuedig i unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth, gan ddatblygu gweinidogaeth briodol gyda hwy.

Byddwnynceisioheriounrhywgamddefnyddobŵer,ynenwedigganunrhywunsyddmewnsafleymddiriedaeth.

Byddwn yn ceisio cynnig gofal a chymorth bugeiliol, gan gynnwys goruchwyliaeth, ac atgyfeiriad at awdurdodau priodol, ar gyfer unrhyw aelod o’n cymuned eglwysig y gwyddys iddo droseddu yn erbyn plentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn agored i niwed.

Yn yr holl egwyddorion hyn byddwn yn dilyn y statud, y canllawiau a’r arferion da cydnabyddedig.

1 Mae copi o’r datganiad hwn i’w gael ar ffurf poster yn Atodiad A. Gellir arddangos y poster ar hysbysfwrdd yr eglwys i ddangos bod yr eglwys leol yn derbyn y Datganiad Polisi ar Ddiogelu ac yn ymrwymo iddo.

2 Neu aelodaeth o’r cynllun Diogelu Carfanau Agored i Niwed yn yr Alban.

Page 6: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

6

DIOGELU OEDOLION

7

‘Mae diogelu oedolion yn cynnwys cysyniadau atal, grymuso ac amddiffyn, fel y gall oedolion sydd mewn amgylchiadau a’u gwnânt yn agored i niwed, gadw eu hannibyniaeth, eu buddiannau a’u gallu i ddewis a chael hawl i fyw yn rhydd rhag camdriniaeth ac esgeulustod.’3

Diben y ddogfen hon yw nodi polisi, gweithdrefnau a chanllawiau. Mae pob un o’r gweithdrefnau a nodir yn y ddogfen hon naill ai yn ofynnol dan y gyfraith neu yn rhan o bolisi’r Eglwys Fethodistaidd ac felly mae’n rhaid eu dilyn. Petai amgylchiadau penodol yn awgrymu bod rhesymau eithriadol dros ganiatáu gwneud rhywbeth yn wahanol, mae’n rhaid ymgynghori â Chyd-drefnydd Diogelu’r Dalaith a chofnodi unrhyw beth sydd am gael ei wneud yn wahanol.

1.1 Golwg ddiwinyddol ar bethauMae pob bod dynol yn meddu ar werth ac urddas sy’n deillio’n uniongyrchol o waith Duw yn ein creu, yn wryw a benyw, ar ei lun a’i ddelw ei hun. Mae Cristnogion yn gweld y potensial hwn yn cael ei gyflawni wrth i Dduw ein hail-greu yng Nghrist. Ymhlith pethau eraill mae hyn yn golygu fod arnom ddyletswydd i werthfawrogi pob unigolyn gan fod delw Duw ar bawb a rhaid gwarchod pawb rhag niwed. Roedd Crist yn gweld pawb yn werthfawr, yn enwedig y rhai oedd yn agored i niwed. Fe roddodd gariad, sylw, amser a pharch iddynt.

Mae pob unigolyn yr un mor werthfawr i Dduw. Mae ar bawb angen y sicrwydd a ddaw i ni pan fydd y ffaith hon yn cael ei pharchu. Bydd unigolion sy’n dioddef camdriniaeth yn aml yn teimlo eu bod wedi colli eu hunaniaeth a’u gwerth; byddant yn aml yn teimlo cywilydd ac euogrwydd. Dylai’r Eglwys fod yn fan lle gall dynion a merched, plant a phobl ifanc, y rhai sydd wedi’u brifo a’u niweidio, ganfod iachâd a chyfanrwydd. Ein galwad ni yw bod yn

3 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Oedolion

gyfrwng iachâd ac adferiad, yn y fath fodd fel y galluogir pawb sydd wedi dioddef camdriniaeth i fyw bywyd gydag urddas mewn amgylchedd mor ddiogel ag y bo modd. Mae’n golygu llefaru tangnefedd. Mae’n cyfleu ‘shalom’, sef cyfiawnder, iachâd a thangnefedd i’r unigolyn cyfan ac ar yr un pryd i’r gymuned.

Mae Duw yn bresennol ac ar waith yn y byd mewn llawer iawn o ffyrdd. Pan fydd yr Eglwys yn derbyn nerth yr Ysbryd Glân sydd yn preswylio ynddi, gall fod yn fan lle mae cymeriad rhyfeddol Duw i’w weld yn arbennig. Gelwir ar yr Eglwys i dystiolaethu i’r gwirionedd hwnnw. Fel Cristnogion unigol ac fel rhan o’r Eglwys, fe’n gelwir i adlewyrchu cymeriad Duw. Fe’n gelwir i groesawu a gofalu am y rhai a gafodd eu gormesu, eu hymyleiddio a’u trin yn anghyfiawn. Mae arferion da ym maes diogelu yn golygu datblygu ffyrdd diogelach o fynegi gofal am bawb. Mae’n greiddiol i gariad a chroeso Duw i’w holl bobl.

Rhan o roi cariad ar waith yw cyfiawnder. Mae’n rhaid i’r Eglwys sicrhau cydbwysedd rhwng cyfiawnder a chydymdeimlad. Ond weithiau ni wrandawyd ar y rhai a ddioddefodd gamdriniaeth neu ni ddangoswyd cydymdeimlad tuag atynt. Efallai nad oedd neb yn eu credu a byddent yn torri eu calon ac yn cael eu niweidio ymhellach. Tuedda pobl eraill i ochri gyda’r sawl yr honnir iddo gyflawni’r drosedd. Mae hyn yn digwydd ym mhob rhan o gymdeithas, ond mae’n brifo mwy fyth pan fydd yn digwydd yn yr Eglwys. Pan fydd hyn yn digwydd, mae llawer yn teimlo’r anghyfiawnder i’r byw. Os gofynnwn, “Beth y mae Duw yn ei geisio gennym?” yna mae gwneud beth sy’n iawn yn rhan o’r ateb yn ogystal â charu ffyddlondeb a rhodio’n ostyngedig gyda Duw (Micha 6:8).

1 Cyflwyniad

Page 7: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

6

DIOGELU OEDOLION

7

Cred llawer o bobl a ddioddefodd gamdriniaeth fod mwy o bwys yn cael ei roi ar ddangos trugaredd tuag at y rhai a bechodd nag ar sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwyr. Mae’r ddau beth yn hollbwysig. Wrth greu’r ddynoliaeth, gwnaeth Duw ni i gyd-fyw gyda’n gilydd mewn cymdeithas. Pan fydd un yn dioddef, rydym i gyd yn dioddef. Fe’n tlodir ni i gyd gan bob achos o gam-drin, plant neu oedolion, fel gan bob pechod. Pan gawn ras i ddangos cyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef, rydym hefyd yn cael ein trawsffurfio trwy ras. Rydym yn well pobl ac mae ein heglwysi yn fannau diogelach i bawb.

Yn yr un modd, gall troseddwyr hefyd gael sicrwydd eu bod yn werthfawr yng ngolwg Duw a chael iachâd a bod yn gyflawn. Mae achubiaeth a’r posibilrwydd o faddeuant yn ganolog iawn i’r Efengyl a chan hynny mae’r Eglwys wedi’i chymhwyso’n dda i helpu gydag ailsefydlu troseddwyr. Ar yr un pryd mae hefyd yn cael ei herio gan y cwestiynau y mae eu presenoldeb yn eu codi ar ein cyfer ni. Mae’r Eglwys hefyd yn rhan o gymdeithas lle bydd llawer yn cydgynllwynio â phobl sydd yn cyflawni trais mewn teuluoedd, yn cam-drin yn emosiynol neu’ncynnaltabŵorywfathynglŷnâ chamdriniaeth rywiol. Weithiau mae aelodau’r Eglwys wedi mynnu bod y rhai a ddioddefodd gamdriniaeth yn maddau, ond fe’n gelwir i geisio cyfiawnder a gras ac adeiladu cymunedau diogelach mewn eglwysi, dan amgylchiadau anodd yn aml. Mae angen inni ddeall hefyd mai prosesau sy’n para gydol oes yw maddau a derbyn maddeuant.

Gall ein cynulleidfaoedd fod yn noddfa i’r rhai sydd wedi cyflawni camdriniaeth ond sy’n ceisio cymorth i fyw yn awr heb wneud peth o’r fath. Mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol hefyd y gall rhai pobl sydd yn cam-drin weld aelodaeth eglwysig fel cyfle i fod yn agos at blant, oedolion agored i niwed neu rieni a gofalwyr agored i niwed er mwyn parhau gyda’u patrwm o ymddygiad camdriniol. Boed y rhai sydd wedi cam-drin

yn edifar neu beidio, fe wyddys o brofiad fod bob amser angen cymorth arnynt er mwyn iddynt allu cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd eu hunain a rhoi’r gorau i’w hymddygiad camdriniol. Mae’r rhai sy’n agored i niwed angen eu hamddiffyn rhagddynt hefyd, wrth reswm. Bydd y sawl sydd yn wirioneddol edifar yn derbyn bod angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth realistig yr Eglwys am bechod a’i effeithiau, a chyfrifoldeb yr Eglwys i garu holl bobl Duw.

Pan ddarllenwn yr Efengylau fe gofiwn fod Iesu yn ddynol ac agored i niwed trwy gydol ei oes. Rhoddodd heibio bopeth ac eithrio nerth ei gariad. Rhoddodd heibio bob cyfoeth, diogelwch a statws. Gwrandawai a gweinai ar y rhai oedd heb rym, y rhai agored i niwed. Galwodd yn ddisgyblion rai ffaeledig a gwan a rhaid oedd iddynt sylweddoli eu cyfyngiadau a chael nerth trwy ras Duw i gyd-fyw. Mae’r sawl sy’n ostyngedig ac agored i niwed yn aml yn meddu ar y ddawn i weinidogaethu gyda’r rhai mwyaf anghenus, gan gynnwys plant ac oedolion sydd wedi dioddef. Gan hynny, mae’r Eglwys yn wynebu’r her o weinidogaethu, gwasanaethu ac arwain mewn ffyrdd sydd yn helpu pobl i ddeall y terfynau a’r cyfyngiadau sydd arnynt, gan ddibynnu ar Dduw a’n brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist. Trwy hyn fe ddatblygir gweinidogaethau llawn cydymdeimlad, gan gydweithio a galluogi a chan werthfawrogi pwysigrwydd gwrando’n ofalus ar bawb.

Maepobcam-drinyngolygucam-drinpŵerac mae’n bla sy’n effeithio ar unigolion, ein Heglwys a’n cymdeithas lle bynnag y mae’n digwydd. Mae’n rhaid inni ddweud hynny’n blaen, gan wneud popeth allwn ni i’w atal. Dylem feithrin plant ac oedolion mewn modd mor gyflawn â phosibl yn enw Crist.

Gan hynny, bydd agwedd Gristnogol at ddiogelu oedolion yn disgwyl i unigolion a chymunedau:

Page 8: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

8

DIOGELU OEDOLION

9

greu amgylchedd diogel ar gyfer plant, oedolion a phobl sy’n gofalu amdanynt

delio yn syth ag unrhyw gwynion a wneir gofalu am y rhai a gafodd eu cam-drin yn

y gorffennol gweinidogaethu’n briodol i’r rhai sydd

wedi cam-drin pobl eraill rhoicyfleargyferiachâdaffyniant.

Newyddion da am gariad a chroeso i’r tlawd a’r gwrthodedig yw cenhadaeth Duw. Mae’n rhaid i’r Eglwys gymryd o ddifrif dueddfryd drygionus pobl ond hefyd yr adnoddau a gawn gan Dduw sef daioni, tangnefedd, iachâd a chyfiawnder, sef yn wir cariad a bywyd Duw ei hun.

1.2 Y cyd-destun cymdeithasolYn y blynyddoedd diwethaf, mae cymdeithas yn ei chyfanrwydd wedi dod yn fwy ymwybodol o faint o niwed sy’n cael ei wneud i oedolion, yn fwriadol neu drwy esgeulustod. Yn y flwyddyn 2000, cyhoeddodd yr Adran Iechyd ddogfen No Secrets,4 i ddatblygu a rhoi ar waith bolisïau a gweithdrefnau rhyngasiantaeth er mwyn amddiffyn oedolion agored i niwed, gan gynnwys creu Byrddau Diogelu Oedolion yn ardal pob awdurdod lleol. Mae’r canllawiau hyn, sydd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, yn darparu

4 Yr Adran Iechyd, No Secrets (Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi, 2000)

fframwaith ar gyfer diogelu oedolion, gan gynnwys y strwythurau a argymhellir pan fydd awdurdodau lleol yn ymchwilio i honiadau o gam-drin. Gofynnir hefyd i fudiadau gwirfoddol, fel eglwysi, ddatblygu gweithdrefnau tebyg os ydynt yn darparu gwasanaethau i oedolion a all fod yn agored i niwed, neu os ydynt mewn cysylltiad rheolaidd â phobl o’r fath, a gofynnir iddynt chwarae rhan wrth amddiffyn oedolion mewn cyd-destun ehangach. Y neges yw bod diogelu oedolion yn fusnes i bawb. Cafwyd datblygiadau eraill, gan gynnwys Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a datblygu’r Awdurdod Diogelu Annibynnol o 2009 ymlaen, yn ogystal â chreu Byrddau Lleol Diogelu Oedolion.

Yn 2002 fe gynhyrchodd Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon adroddiad o’r enw Time for Action,5 a rhan o neges yr adroddiad oedd herio’r eglwysi i ymateb yn fwy cydymdeimladol ac effeithiol i oedolion a oedd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Yn 2007 fe dderbyniodd y Gynhadledd Fethodistaidd yr adroddiad Creating Safer Space, a oedd yn cadarnhau ymrwymiad yr Eglwys i ddilyn yr arferion gorau mewn perthynas â gwaith gyda phlant ac oedolion agored i niwed fel ei gilydd.6

5 Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, Time for Action (Llundain: CTBI, 2002).

6 NOM 15 cymal 5.2.4 yn yr adroddiad.

Page 9: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

8

DIOGELU OEDOLION

9

2.1 Pwy sy’n agored i niwedMae bod yn agored i niwed yn rhan o’r cyflwr dynol ac nid oes neb na all gael ei niweidio. Rydym yn cyfeirio at yr Eglwys fel ‘corff drylliedig Crist’. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y polisi hwn, mae ystyr arbennig i’r geiriau ‘agored i niwed’. Gall pawb fod yn agored i niwed ar ryw adeg neu adegau yn ei fywyd. Gallwn fod yn agored i niwed yn barhaol neu dros dro a gall hyn fod i raddau mwy neu lai. Mae sawl ffactor a all ychwanegu at y cyflwr, gan gynnwys yr isod: anabledd neu nam corfforol neu yn

effeithio ar y synhwyrau anabledd dysgu salwch corfforol salwch meddwl dementia camddefnydd sylweddau ac alcohol effaith digwyddiad mewn bywyd fel

profedigaeth, pethau y mae pobl eraill wedi’u gwneud, neu newid yn y sefyllfa rydym yn byw ynddi.

Gall bod yn agored i niwed olygu ei bod yn anodd gwneud penderfyniadau neu gyfleu’r hyn rydym wedi’i benderfynu. Efallai mai penderfyniad syml fydd dan sylw, fel beth i’w ddewis i’w fwyta, neu benderfyniad mwy cymhleth fel p’run ai i gymryd rhan mewn rhyw weithgaredd neu beidio neu ble i fyw. Dylid rhagdybio bob amser bod unigolyn yn gallu gwneud penderfyniad a dylid ymdrechu i ddeall pa ddewis y mae’r unigolyn yn ei wneud, hyd yn oed os yw’n mynegi hyn heb eiriau neu mewn iaith wahanol. Os oes rhai penderfyniadau na all yr unigolyn eu gwneud oherwydd ei fod yn agored i niwed, dylid rhagdybio nad yw penderfyniadau eraill wedi eu rhwystro yn yr un modd oni bai ei bod yn glir mai felly mae hi.7

7 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

2.2 DiffiniadauMae sawl diffiniad ar gyfer y term ‘oedolyn agored i niwed’. Er mwyn gallu canolbwyntio ar yr oedolion hynny y dylai’r Eglwys fod â gofal arbennig drostynt, dyma’r diffiniad a ddefnyddir yn y polisi hwn:

Unrhywoedolyn18oedneuhŷnsydd,oherwydd anabledd meddyliol neu ryw anableddarall,oed,afiechydneusefyllfaarall,mewncyflwrparhaolneudrosdrollenaallofaluamdano/amdanieihun,neu ei (h)amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu gamfanteisio.8

Mae’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn diffinio oedolion agored i niwed fel a ganlyn:

Unigolyn18oedneuhŷnsyddynderbyngwasanaethau o fath a restrir ym mharagraff i isod ac o ganlyniad i gyflwr a restrir ym mharagraff ii isod, neu sydd ag anabledd o fath a restrir ym mharagraff iii isod:i a) llety a gofal nyrsio neu bersonol mewn

cartref gofalb) gofal personol neu gymorth i fyw’n

annibynnol yn ei gartref/chartref ei hunc) unrhyw wasanaethau a ddarperir gan

ysbyty annibynnol, clinig annibynnol, asiantaeth feddygol annibynnol neu gorff sy’n rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol

ch) gwasanaethau gofal cymdeithasold) unrhyw wasanaethau a ddarperir

mewn sefydliad ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu

ii a) anabledd dysgu neu gorfforolb) salwch corfforol neu feddyliol, boed

yn salwch cronig neu beidio, gan gynnwys bod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau

8 Materi’rgweithwyrdansylwywsutiddiffiniosylweddol.Dylid ystyried materion fel pa mor agored i niwed yw’r un-igolyn, difrifoldeb a maint y niwed, am ba hyd y parhaodd y niwedabwriadycyflawnwrhonedig,ynogystalâ’reffaitharyr unigolyn.

2 Oedolion Agored i Niwed

Page 10: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

10

DIOGELU OEDOLION

11

c) lleihad mewn gallu corfforol neu feddyliol

iii a) dibyniaeth ar eraill, neu orfod cael cymorth gan eraill, i gyflawni swyddogaethau corfforol sylfaenol

b) amhariad difrifol ar y gallu i gyfathrebu ag eraill

c) amhariad ar allu unigolyn i’w amddiffyn ei hun rhag ymosodiad, camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 yn diffinio oedolyn agored i niwed fel

Unigolyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ac sydd a) mewn llety preswylb) mewn llety gwarchodc) yn derbyn gofal yn y cartrefch) yn derbyn unrhyw fath o ofal iechydd) yn cael ei gadw’n gyfreithlon yn y ddalfadd) mewn cysylltiad â gwasanaethau

prawf (h.y. yn derbyn cymorth neu oruchwyliaeth)

e) yn derbyn gwasanaeth lles sy’n un o’r gwasanaethau a 120nodir

f) yn derbyn unrhyw wasanaeth neu’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a ddarperir yn benodol ar gyfer unigolion [sydd ag anghenion penodol oherwydd oedran; unrhyw fath o anabledd; problem gorfforol neu feddyliol a nodir; ynghyd â dau fater arall nad ydynt yn berthnasol i hyn]

ff) yn derbyn taliadau uniongyrcholg) yn gorfod cael cymorth i ofalu am ei

faterion ei hun.

Maehwnynddiffiniadpwysigganeifod yn effeithio ar y penderfyniad a oes angen i’r gweithiwr gofrestru gyda’r Awdurdod Diogelu Annibynnol ac a oes angen i’r Eglwys gadarnhau ei fod wedi cofrestrucyncyflogi’runigolynhwnnwneudderbyn ei wasanaeth fel gwirfoddolwr. (Gweler Recriwtio’n ddiogel yn yr Eglwys Fethodistaidd.)

Dylid nodi bod y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cwmpasu pobl dros 16 oed. Fodd bynnag, yn y ddogfen No Secrets9 yn 2000, diffiniwydoedolynagorediniwedfelrhywun18oedneuhŷn“syddneuaallfodangengwasanaethau gofal yn y gymuned yn sgil anabledd meddyliol neu anabledd arall, oedran neu salwch ac sydd neu a all fod yn methu gofalu amdano/amdani ei hun, neu’n methu ei (h)amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu gam-fanteisio”. Felly gall y term fod â gwahanol ystyron, gan ddibynnu ar y cyd-destun. Ypethpwysigi’wgofioyw bod angen i’r Eglwys ddiogelu oedolion sy’n agored i niwed rhag camdriniaeth,niwedacesgeulustod.O ran canllawiau’r llywodraeth, nodwyd yn Diogelu Oedolion y dylai’r pwyslais fod ar alluogi oedolion i “gynnal eu hannibyniaeth, eu buddiannau a’u gallu i ddewis a chael arfer eu hawl ddynol i fyw yn rhydd rhag camdriniaeth ac esgeulustod”.10 Dylai’r rhai sydd o’r farn bod oedolyn penodol yn agored i niwed ddelio â sefyllfaoedd perthynol i’r oedolyn hwnnw yn y cyd-destun hwn.

YrAlban–diffiniadooedolynaamddiffynnir

Oedolyn a amddiffynnir yw unigolyn 16oedneuhŷnsyddynderbynmathauarbennig o wasanaethau. Mae pedwar categori o wasanaethau yn cael eu nodi yn y Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf. Mae union natur y gwasanaethau hyn11 yn cael ei nodi yn adran 94 a’r rheoliadau, ond dyma hwy yn fras:

9 Adran Iechyd, No Secrets (Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi, 2000).

10 Adran Iechyd, Diogelu Oedolion (Llundain: Llyfrfa Ei Maw-rhydi, 2006).

11 O’R YMGYNGHORIAD AR Y CANLLAWIAU DRAFFT, AMDDIFFYN GRWPIAU HYGLWYF, TACHWEDD 2009Gwasanaethau gofal iechyd: a ddarperir neu a sicrheir gan y GIG neu a ddarperir gan weithredwyr annibynnol, (sy’n berthnasol i driniaeth, gofal a chefnogaeth unigolion ar gyfer eu hiechyd a’u lles, a darparu cyngor a chymorth iddynt i’r diben hwn)

Gwasanaethau gofal yn y gymuned: a ddarperir neu a sicrheir gan gyngor o dan Ddeddf

Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003, neu wasa-naethau y mae’r cyngor wedi gwneud taliad uniongyrchol amdanynt.

Page 11: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

10

DIOGELU OEDOLION

11

Gwasanaeth gan rywun sy’n rhoi: gwasanaeth cefnogi gwasanaeth lleoliad oedolion gwasanaeth cartref gofal, neu wasanaeth cymorth tai

fel y’i diffinnir yn Rhan 1, Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001.

2.3 GalluMae gallu yn fater pwysig. Nid yw’n gysyniad sydd yr un fath ym mhob cyd-destun. Mae’n rhaid ei gymhwyso i gyd-destun penodol: a all yr unigolyn hwn wneud y penderfyniad arbennig hwn ar yr adeg benodol hon? Rhagdybir bod oedolion yn gallu gwneud pob penderfyniad amdanynt eu hunain. Dylai’r rhai sy’n gweithio gyda hwy wneud pob ymdrech i wybod beth yw penderfyniad yr oedolyn. Os bydd hyn yn methu, yna gall y sawl sy’n gweithio gyda’r oedolyn wneud penderfyniadau beunyddiol, e.e. beth maent am ei gael i ginio. Mae angen gwneud penderfyniadau pwysicach, fel gyda phwy y maent am gael cysylltiad, mewn ffordd fwy strwythuredig. Fel rheol bydd hynny’n golygu ymgynghori â Gwasanaethau Oedolion yr Awdurdod Lleol. Gellir cael cyngor gan y Gwasanaethau Oedolion os oes ansicrwydd ynghylch penderfyniad pwysig neu sefyllfa lle gall niwed ddigwydd. Os yw’n fater brys, dylid atgyfeirio yn ddi-oed.

Gwasanaethau lles: sy’n cwmpasu gweithgareddau gofal a chefnogaeth a gy-flawnirynysectorgwirfoddola’rsectorpreifat,nadydyntyn dod o dan unrhyw un o’r tri chategori cyntaf

mae hyn yn cynnwys unrhyw wasanaeth sydd yn darparu cefnogaeth, cymorth, cyngor neu gwnsela ar gyfer unigo-lion sydd ag anghenion arbennig, AC

a ddarperir fel rhan o’r gwaith i un neu ragor o unigolion dros 16 oed

a ddarperir ar ran sefydliad lle bydd angen i’r sawl sy’n darparu’r gwasanaeth gael ei hyfforddi syddagamlderaffurfioldebynperthyni’rgwasanaeth,abod angen naill ai

contract a gytunir rhwng darparwr y gwasanaeth a’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth cyn i’r gwasanaeth gael ei gyflawni,neu

sydd yn bersonol ar gyfer anghenion oedolyn unigol.

2.4 Arferion daMae’r pwyntiau isod wedi’u haddasu o Ganllawiau ‘Safe from Harm’ y Swyddfa Gartref:1. Mabwysiadu polisi ar ddiogelu oedolion

agored i niwed a phlant. Sicrhau bod datganiad polisi yn cael ei arddangos yn ysafle.

2. Cynllunio gwaith yr eglwys fel bod cyn lleied o sefyllfaoedd â phosibl yn codi lle gallai oedolion agored i niwed gael eu cam-drin neu lle gellid camddehongli sefyllfaoedd (e.e. sicrhau bod mwy nag un oedolyn yn bresennol lle bo modd; sicrhau y cofnodir ymweliadau; gwneud trefniadau ar gyfer cludo pobl yn ddiogel).

3. Dilyn gweithdrefnau priodol ar gyfer yr hollstaffcyflogedigagwirfoddol.

4. Sicrhauboddisgrifiadaucliroswyddogaethau, a chynlluniau adolygu a hyfforddi wedi’u sefydlu ar gyfer yr holl staff a’r rhain i gyd yn ysgrifenedig.

5. Sicrhau bod arferion recriwtio diogel yn cael eu dilyn ac y sicrheir gwiriadau a llythyrau geirda bob amser a bod cyfnod prawf ar gyfer pob gweithiwr newydd.

6. Hyfforddi’r holl weithwyr mewn arferion diogel a diogelu gan gynnwys hyfforddiant i ddiweddaru eu gwybodaeth.

Page 12: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

12

DIOGELU OEDOLION

13

Dylai cymunedau Cristnogol fod yn fannau 12

lle mae pawb (yn oedolion a phlant) yn teimlo bod iddynt groeso a pharch a’u bod yn ddiogel rhag camdriniaeth. Mae’r Eglwys wedi ei galw gan Dduw yn neilltuol i gefnogi pobl yr ymylon, y rhai lleiaf pwerus a’r rhai sydd heb lais yn ein cymdeithas. Gall yr Eglwys weithio tuag at greu amgylchedd diogel lle nad oes camwahaniaethu, trwy fod yn ymwybodol o rai o’r sefyllfaoedd penodol sydd yn achosi i bobl fod yn agored i niwed. Mae angen ystyried yr amgylchedd corfforol, emosiynol ac ysbrydol a hefyd agweddau gweithwyr a’r hyn a wnânt.

Fel pawb arall, mae hawl gan unigolyn y gellir ei ystyried yn agored i niwed: i gael ei drin â pharch ac urddas, gyda

chydnabyddiaeth o’i alluoedd a’i ddoniau

12 Addaswyd o gyhoeddiad gan Eglwys Loegr, ‘Promoting a Safe Church’ (Llundain, Church House Publishing, 2006).

i gael preifatrwydd i allu byw bywyd mor annibynnol ag sy’n bosibl i allu dewis sut i fyw ei fywyd a gwneud ei

benderfyniadau ei hun i gael ei amddiffyn gan y gyfraith i gael yr un hawliau waeth beth yw ei

ethnigrwydd, ei ryw, ei rywioldeb, ei amhariad neu anabledd, ei oed, ei grefydd neu’i gefndir diwylliannol

i allu defnyddio ei ddewis iaith neu ddewis ei ddull o gyfathrebu

i gael gwrandawiad.

Mae’n rhaid sylweddoli, pan fydd oedolion yn agored i niwed, fod eu gallu i gyfranogi yn cael ei amharu. Mae’n rhaid i’r eglwysi geisio byw yn unol â’n galwad trwy weld gwerth pawb a gwerth y cyfraniad y gall pob unigolyn ei wneud.

3 Y gwerthoedd sy’n sail i’r polisi12

Page 13: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

12

DIOGELU OEDOLION

13

Niwed yw’r hyn sy’n digwydd o ganlyniad i gamdriniaeth, esgeulustod, bwlio ac aflonyddu. Gall ddigwydd yn y ffyrdd a restrir isod. Dylid nodi y gall y gwahanol fathau o gamdriniaeth orgyffwrdd â’i gilydd.

4.1 Cam-drin corfforol, gan gynnwys taro, slapio, gwthio, cicio, atal neu sancsiynau amhriodol. Gall gynnwys defnydd amhriodol o feddyginiaethau ac amharu ar iechyd neu beri i iechyd ddirywio pan allesid osgoi hynny. Mae’n amlwg bod lle i amau bod rhywun wedi’i gam-drin os gwelir anafiadau arno, yn enwedig os digwydd hyn droeon neu os bydd anafiadau tebyg ar fwy nag un achlysur neu heb unrhyw eglurhad. Efallai mai’r hyn fydd yn digwydd yw bod yr unigolyn yn dangos nad yw’n dymuno bod gyda rhywun penodol.

4.2 Cam-drin emosiynol neu seicolegol, gan gynnwys bygwth niweidio neu gefnu ar yr unigolyn, gwrthod cyswllt, codi cywilydd, beio, gor-reoli, dychrynu, gorfodi, aflonyddu, cam-drin yn eiriol, cadw ar wahân neu wrthod caniatâd i gael gwasanaethau neu rwydweithiau cefnogol. Gall hyn ddigwydd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol dros y ffôn neu’r rhyngrwyd. Arwydd bod hyn yn digwydd yw fod unigolyn yn mynd yn dawel neu’n mynd i’w gragen neu, ar y llaw arall, gall fynd yn ymosodol neu’n ddig am ddim rheswm amlwg. Gall ddangos nodwedd sy’n anarferol iddo, fel bod yn ddiymadferth neu’n ddagreuol. Dylid nodi bod arwyddion o’r fath i’w gweld weithiau hefyd yn y rhai sy’n cael eu cam-drin yn gorfforol neu’n rhywiol. Mae elfen emosiynol i bob math o gamdriniaeth.

4.3 Cam-drin rhywiol,gan gynnwys treisio ac ymosodiad rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw’n oedolyn agored i niwed wedi cydsynio iddynt, neu na allai gydsynio iddynt neu y cydsyniodd iddynt dan bwysau.

4.4 Cam-drin ariannol neu faterol, gan gynnwys dwyn, twyllo, ymelwa, pwysau mewn perthynas ag ewyllysiau, eiddo neu etifeddiaeth neu drafodion ariannol, neu gamddefnyddio neu gam-berchnogi eiddo, meddiannau neu fuddiannau. Mae arwyddion i fod yn wyliadwrus amdanynt hefyd gyda phethau materol, megis newid sydyn yn sefyllfa ariannol unigolyn, nad oes ganddo gymaint o arian ag arfer i dalu am nwyddau neu deithiau arferol, neu fynd i ddyled. Gwyliwch am unrhyw ddogfennau swyddogol neu ariannol sydd yn ymddangos yn anarferol, ac unrhyw ddogfennau perthynol i’w faterion ariannol sydd wedi mynd ar goll yn sydyn.

4.5 Esgeulustod ac anweithiau, gan gynnwys anwybyddu anghenion meddygol neu angen am ofal corfforol, peidio â sicrhau bod unigolyn yn cael gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysg priodol, peidio â rhoi iddo angenrheidiau bywyd fel meddyginiaeth, bwyd digonol a chynhesrwydd. Arwydd o hyn yw bod yr unigolyn yn edrych yn flêr neu’n fudr a’i fod yn drewi. Gall ennill neu golli pwysau.

4.6 Cam-drin trwy gamwahaniaethu, gan gynnwys difrïo ar sail hil a rhyw ac anabledd unigolyn, a mathau eraill o aflonyddu, dwyn anfri neu drin mewn modd arall tebyg. Gall arwyddion ddod i’r amlwg mewn sgyrsiau neu pan fydd yr unigolyn yn dangos sut y mae’n ei weld ei hun. Enghraifft o hyn yw pan fydd unigolyn yn rhwbio’i groen i geisio cael gwared â’r lliw neu os bydd yn ei fychanu ei hun wrth sôn am ei ryw neu ei rywioldeb.

4.7 Cam-drin ysbrydol a defodolYng nghyd-destun yr Eglwys, fe sylweddolwyd fwyfwy mai math arall o niwed yw camdriniaeth ysbrydol. Mae gan Eglwys Loegr ganllawiau, Guidelines for the

4 Mathau o niwed a’r arwyddion

Page 14: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

14

DIOGELU OEDOLION

15

Professional Conduct of the Clergy13 sydd yn rhybuddio’r sawl sy’n gweinidogaethu rhag iddynt gamddefnyddio eu safle. Yn yr adroddiad Domestic Violence and the Methodist Church – the Way Forward,14

mae tystiolaeth am faterion cam-drin ysbrydol.

Mae angen i eglwysi fod yn sensitif fel na fyddant, wrth gynnig gofal bugeiliol, yn ceisio ‘gorfodi’ gwerthoedd neu syniadau crefyddol ar bobl, yn enwedig y rhai a all fod yn agored i niwed trwy arferion o’r fath. Mewn cymunedau ffydd, gellir peri niwed trwy ddefnyddio cred neu arfer crefyddol yn amhriodol; gall hyn gynnwys camddefnyddio awdurdod arweinwyr neu ddisgyblaeth benydiol, dysg ormesol, neu weinidogaethau iacháu neu ymwared sydd yn ymyrryd ac a all olygu bod pobl agored i niwed yn dioddef niwed corfforol, emosiynol neu rywiol. Rhai mathau eraill o gam-drin ysbrydol yw gwrthod rhoi hawl i bobl agored i niwed gael ffydd neu gyfle i dyfu yng ngwybodaeth a chariad Duw.15

Os bydd ymddygiad amhriodol o’r fath yn peri niwed, dylid ei atgyfeirio er mwyn cynnal ymchwiliad yn y modd arferol. Os bydd y rhai yr ymddiriedir iddynt ofal bugeiliol oedolion yn cael eu goruchwylio a’u mentora yn ofalus, dylai hynny fod yn gymorth i sicrhau na fydd niwed o’r fath yn digwydd.

4.8 Cam-drin domestigMae’r termau ‘trais’ a ‘cham-drin’ yn cael eu defnyddio i olygu’r un peth drwy’r holl adroddiad hwn. Mae’r Swyddfa Gartref yn diffinio trais domestig fel:16

‘Trais domestig yw unrhyw ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng oedolion sydd neu sydd wedi bod mewn

13 Guidelines for the Professional Conduct of Clergy (Llundain: Church House Publishing, 2003).

14 Adroddiad a dderbyniwyd gan y Gynhadledd Fethodistaidd 2002.

15 Addaswyd o gyhoeddiad Eglwys Loegr, Promoting a Safe Church (Llundain: Church House Publishing, 2006).

16 http://www.homeoffice.gov.uk/crime-victims/reducing-crime/domestic-violence/

perthynas, neu rhwng aelodau o’r teulu. Gall effeithio ar unrhyw un, waeth beth yw eu rhyw neu rywioldeb’.

Gall y trais fod yn seicolegol, yn gorfforol, yn rhywiol neu’n emosiynol. Gall gynnwys trais yn seiliedig ar anrhydedd, anffurfio organau rhywiol menywod, a phriodas dan orfod.

Beth bynnag yw ei ffurf, anaml y mae trais domestig yn gyfyngedig i un digwyddiad. Fel rheol mae’n batrwm o ymddygiad camdriniol gan rywun sy’n mynnu meistroli eraill. Trwy’r ymddygiad hwn mae’r sawl sy’ncam-drinynceisiocaelpŵerdrosaelod o’i deulu neu ei bartner.

Mae trais domestig yn digwydd ym mhob rhan o gymdeithas a gall pobl o bob oed, rhyw, hil a rhywioldeb ei ddioddef, boed gyfoethog neu dlawd ac ym mhob math o leoliad. Mae menywod yn fwy tebygol o ddioddef trais domestig na dynion, ac mae plant yn cael eu heffeithio hefyd – gall fod yn drawmatig iddynt weld y trais, ac mae cysylltiad cryf rhwng trais domestig a cham-drin plant.17

Nid yw pobl o unrhyw oed arbennig yn fwy tebygol na’i gilydd o gael eu hamddiffyn rhag effaith cam-drin domestig nac yn fwy tebygol o gael eu niweidio ganddo. Yr hyn sy’n allweddol ar gyfer diogelwch menywod a phlant sy’n wynebu trais a’r bygythiad o drais yw bod lle arall ar gael i fyw sydd yn ddiogel a chefnogol iddynt.

4.9 Priodas dan OrfodMae canllawiau ar briodas dan orfod wedi’u nodi yn Canllawiau aml-asiantaeth ar arferion: Ymdrin ag achosion o Briodasau dan Orfod gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2009, y dyfynnir ohoni isod:

Ni ddylid priodi ond o lwyr fodd y ddau sy’n golygu gwneud hynny.18

17 Mae canllawiau pellach i’w cael yn y Llawlyfr hwn.18 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, Erthygl 16(2).

Page 15: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

14

DIOGELU OEDOLION

15

Mae priodas dan orfod yn ffurf ar gam-drin plentyn neu gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a dynion; dylai fod yn rhan o strwythurau, polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant ac oedolion.

Yn unol â chyhoeddiadau eraill ar gam-drin domestig, mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar anghenion menywod yn hytrach nag anghenion dynion. Mae hyn oherwydd bod 85% o achosion a gaiff eu cyfeirio at yr Uned Priodasau dan Orfod yn ymwneud â menywod, ac mae’r effaith a gaiff priodi dan orfod ar fenywod yn wahanol i’r effaith ar ddynion.

Er bod y canllawiau hyn yn canolbwyntio ar fenywod, mae llawer o’r canllawiau yr

un mor berthnasol i ddynion sy’n wynebu priodi dan orfod – a dylid rhoi’r un cymorth a pharch i ddynion sy’n gofyn am gymorth.

4.10 Cam-drin sefydliadolGwelir y math hwn o gamdriniaeth pan fydd sefydliad yn gynhenid gamwahaniaethol yn erbyn carfan arbennig o bobl. Gall ddigwydd mewn cartref gofal lle cyfeirir yn gyson at y preswylwyr mewn modd gwawdlyd neu lle bo eu preifatrwydd a’u hurddas yn cael eu hesgeuluso yn gyson. Wedyn mae’n bosibl na fydd sefydliad yn gallu diogelu preswylwyr rhag niwed ac esgeulustod emosiynol neu hyd yn oed gorfforol. Gall yr Eglwys fel sefydliad fod yn euog o gamdriniaeth sefydliadol.

Page 16: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

16

DIOGELU OEDOLION

17

5.1 Rhoi’r polisi ar waith yn yr eglwys leol Mae angen i’r eglwys leol sicrhau ei bod wedi cynnal adolygiad o’i sefyllfa ei hun, e.e.: Pa fath o adeilad sydd gennym? A yw’n

hawdd mynd iddo? Pa weithgareddau sy’n cael eu cynnal ar ysafle?

Pwy sy’n cynnal y gweithgareddau hynny?

Beth yw cenhadaeth yr eglwys leol?

Dylai pob eglwys, cylchdaith a thalaith ddatblygu polisi diogelu sydd yn cynnwys plant ac oedolion. Darperir modelau o bolisïau yn y Llawlyfr Diogelu. Isafswm y gofynion sy’n cael eu nodi ynddynt. Dylai eglwysi, cylchdeithiau a thaleithiau ystyried pa bethau ychwanegol all fod yn angenrheidiol er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa yn lleol. Bydd Grwpiau Diogelu’r Dalaith ar gyfer oedolion a phlant ar gael i gynorthwyo gyda’r broses hon.

Dylai’r polisi gynnwys dyddiad ar gyfer ei adolygu, o leiaf unwaith y flwyddyn, fel y bydd yr eglwys leol yn cadarnhau ei bod yn derbyn ei chyfrifoldeb dros y materion hyn. Dylai’r eglwys benodi cynrychiolydd Diogelu Oedolion. Gall y cynrychiolydd hwn fod yr un person ag sy’n gyfrifol am waith diogelu plant, neu rywun gwahanol, ond dylai fod â gwybodaeth am y materion sy’n gysylltiedig â diogelu oedolion. Mae’n bwysig gweithio allan sut y rhoddir y polisi ar waith a dylid cael cynllun gweithredu ar gyfer pob blwyddyn hefyd.

Os yw’r eglwys yn rhan o bartneriaeth ecwmenaidd leol, dylai benderfynu polisi pa eglwys sydd i’w ddilyn a chadarnhau’r hyn a wneir gydag awdurdodau’r ddwy eglwys/pob eglwys fel y bo’n briodol.

5.2 Rhoi’r polisi ar waith yn y GylchdaithEfallai y bydd y gylchdaith yn cynnal ei gweithgareddau ei hun ac mae angen dilyn yr un broses ag ar gyfer yr eglwys leol ar gyfer y gylchdaith hithau, gan ystyried yr angen i wybod pwy sydd yn gyfrifol am weithgareddau ac am anghenion unigolion. Dylai’r gylchdaith hefyd ystyried pa gefnogaeth y mae’n ei chynnig i’r eglwys leol. Mae angen i’r gylchdaith benodi Cyd-drefnydd Diogelu Oedolion ac mae’n rhaidi’rCyd-drefnyddhwnhysbysuGrŵpDiogelu’r Dalaith am ei benodiad, fel y gellir rhannu gwybodaeth. Y Cyfarfod Cylchdaith a staff a goruchwylwyr y gylchdaith sydd yn gyfrifol am roi’r materion hyn ar waith ac felly mae’n rhaid i’r Cyd-drefnydd Diogelu gaelmyndigyfarfodyddyGrŵpa’rCyfarfodCylchdaith, gyda hawl i siarad yn y cyfarfod a rhoi adroddiad blynyddol.

5.3 Rhoi’r polisi ar waith yn y DalaithEfallai y bydd y Dalaith yn cynnal ei gweithgareddau ei hun ac mae angen i’r Dalaith ddilyn yr un broses ag ar gyfer y gylchdaith.

Bydd y Dalaith hefyd yn gyfrifol am sicrhau bodgrŵpoboblsyddynarbenigwyrarddiogelu, ar gael i gefnogi’r cylchdeithiau a’r eglwysi lleol, i roi cyngor ar arferion da, ymateb i ddigwyddiadau ac annog a chynorthwyo gyda hyfforddiant drwy’r holl dalaith. Mae disgrifiad o gyfrifoldebau’r Cyd-drefnyddDiogelua’rGrŵpi’wgweldynAtodiad C.

ByddydalaitheisoeswedisefydluGrŵpDiogelu ar gyfer plant.19 Bydd angen sefydlu GrŵpDiogeluargyferoedolionagorediniwedhefyd.Gellirpenodi’rungrŵpagargyfer diogelu plant, gan ychwanegu ato er mwyn cynnwys yr arbenigedd a’r

19 AadwaenidgyntefallaifelGrŵpCymrydGofal.

5 Rhoi’r polisi ar waith

Page 17: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

16

DIOGELU OEDOLION

17

profiad sy’n briodol ar gyfer oedolion agored i niwed. Efallai y bydd yn well gan raitaleithiausefydlugrŵphollolwahanol,naill ai er mwyn adlewyrchu’r profiadau gwahanol neu er mwyn adlewyrchu faint o amser sydd ei angen ar gyfer y materion dan sylw.

Osmaisefydludaugrŵpawneir,dylai’rddau gyfathrebu’n rheolaidd â’i gilydd. Mae nifer o’r materion sydd a wnelo â diogelu yn gyffredin i blant ac oedolion agored i niwed abyddai’nddryslydpetai’rddaugrŵpyncynnig cyngor a hyfforddiant nad oedd yn adlewyrchu hynny. Mae angen i’r grwpiau gyd-drefnu eu hymateb a’u hyfforddiant ar gam-drin domestig yn arbennig. Mae modd gwneud hyn trwy gynnal cyd-gyfarfodydd neudrwyi’rddaugrŵpddodateigilyddrhwng y ddau gyfarfod. Mae angen i Gyd-drefnyddygrŵpallucydgysylltuâ

swyddogion perthnasol yr awdurdod lleol ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion.

Y Swyddogion Hyfforddi fydd yn gyfrifol, lle bo hyn yn un o’u blaenoriaethau, am alluogi a hwyluso hyfforddiant ar Ddiogelu Oedolion drwy’r taleithiau, ond bydd y grŵpDiogeluOedolionhefydyngyfrifolamfonitro’r cynnwys ym maes diogelu ac am ymateb i geisiadau am hyfforddiant, ar y cyd gyda’r Swyddog Hyfforddi. Mewn llawer o achosion byddant yn rhannol gyfrifol am gyflwyno’r hyfforddiant.

5.4 Rhoi’r polisi ar waith ar lefel Gyfundebol Y Tîm Cyfundebol sydd yn gyfrifol am ddarparu arbenigedd ac am sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer y maes hwn. Mae hefyd yn gyfrifol am gydgysylltu ag asiantaethau eraill gan gynnwys y llywodraeth yn genedlaethol.

Page 18: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

18

DIOGELU OEDOLION

19

6.1 Yr hyn sydd wrth wraidd arferion diogel a chynhwysolAddaswyd yr egwyddorion hyn o The Ten Essential Shared Capabilities,20 ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl ac maent yn darparu cyfeirbwynt ar gyfer y rhai sy’n gweithio gydag unigolion, gofalwyr, teuluoedd, cydweithwyr a’r gymuned ehangach er mwyn mynd i’r afael ag arferion diogel a chynhwysol.

Gweithio mewn partneriaeth. Datblygu a chynnal perthnasau gwaith adeiladol gydag unigolion, gofalwyr, teuluoedd, cydweithwyr a rhwydweithiau ehangach yn y gymuned. Gweithio mewn modd cadarnhaol gydag unrhyw densiynau sy’n cael eu creu oherwydd gwrthdaro buddiannau neu ddyheadau, a all godi rhwng y partneriaid.

Parchu amrywiaeth. Gweithio gydag unigolion, gofalwyr a theuluoedd mewn ffyrdd sydd yn parchu a gwerthfawrogi amrywiaeth, gan gynnwys oed, ethnigrwydd, hil, diwylliant, anabledd, rhyw, ysbrydolrwydd a rhywioldeb.

Ymarfer mewn modd moesegol. Sylweddoli bod gan unigolion a’u teuluoedd hawliau a dyheadau, gan gydnabod gwahaniaethaumewnpŵeralleihau’rrhainhyd y gellir a lle bynnag y gellir. Caniatáu i unigolion wneud eu dewisiadau eu hunain.

Herio anghydraddoldeb. Mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau stigma, camwahaniaethu, anghydraddoldeb ac allgau cymdeithasol, ar gyfer unigolion, gofalwyr a theuluoedd. Creu, datblygu neu gynnal swyddogaethau cymdeithasol y mae gan bobl feddwl ohonynt, yn y cymunedau y daethant ohonynt. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr adeiladau a’r

20 Yr Adran Iechyd, The Ten Essential Shared Capabilities (Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi, 2004).

arferion yn gyfryw fel y gall pobl gael eu cynnwys. Dylid asesu adeiladau er mwyn sicrhau eu bod mor hawdd mynd iddynt â phosibl ac y defnyddiwyd cymhorthion ac addasiadau. Gall hyn gynnwys defnyddio rampiau, systemau dolen ac yn y blaen.21

Dylai’r addoliad a’r gweithgareddau eraill yn yr eglwys fod mor hygyrch ag sy’n bosibl a dylid gwirio’r ‘negeseuon’ sy’n cael eu cyfleu ganddynt. Er enghraifft, a yw dod ymlaen a phenlinio i dderbyn y Cymun yn cau allan y rhai sy’n cael anhawster i symud? A yw math arbennig o iaith yn peri loes i rai pobl? A yw’r amgylchedd sy’n cael ei greu yn yr eglwys yn cynnwys pawb? Gall bod yn gynhwysol olygu bod angen i’r eglwys ystyried darparu gwasanaethau ar gyfer carfanau arbennig o bobl, fel addoliad arbennig i’r rhai sydd yn fregus, y rhai sydd â dementia neu sydd ag anawsterau dysgu. Mae bod yn gynhwysol hefyd yn golygu galluogi pobl i wneud yr hyn a allant fel disgyblion ac ymateb i’w galwad.

Hyrwyddo adferiad. Gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu cymorth sydd yn galluogi unigolion, teuluoedd a gofalwyr i fynd i’r afael â phroblemau gyda gobaith ac optimistiaeth a gweithio tuag at ffordd o fyw y mae iddi werth, oddi mewn a thu hwnt i gyfyngiadau unrhyw broblem.

Adnabod anghenion a chryfderau pobl. Gweithio mewn partneriaeth yng nghyd-destun y ffordd o fyw y mae unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau yn ei dewis a dyheadau’r bobl hyn. Dylai deunyddiau a ddarperir ar gyfer gweithgareddau fod ar gael i gynifer o bobl ag y bo’r modd. Mewn addoliad, dylid darparu deunydd mewn print bras (ffont 18 o leiaf) a dylid atodi deunydd

21 Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dwyn ynghyd yr holl ddeddfwriaeth debyg. Mae canllawiau pellach ar gael ar gyfer y rhai sy’n ymdrin ag eiddo gan Central Buildings, Oldham Street, Manceinion M1 1JQ, rhif ffôn 0161 236 5194 ac ar wefan yr Eglwys Fethodistaidd www.methodistchurch.org.uk

6 Hyrwyddo arferion da

Page 19: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

18

DIOGELU OEDOLION

19

a ddarperir gyda PowerPoint, os bydd angen.22

Hybu diogelwch a chymryd risgiau mewn modd cadarnhaol. Rhoi grym i’r unigolyn benderfynu pa lefel o risg y mae’n fodlon ei gymryd yn ei fywyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r tyndra sydd rhwng hybu diogelwch a chymryd risgiau mewn modd cadarnhaol, gan gynnwys asesu a delio ag unrhyw risgiau posibl ar gyfer unigolion, gofalwyr, aelodau teuluoedd a’r cyhoedd yn fwy cyffredinol.

Datblygiad personol a dysgu. Gwybod bob amser am y newidiadau diweddaraf mewn arferion a chymryd rhan mewn dysgu gydol oes a datblygiad personol a phroffesiynol, ar eich cyfer eich hun a chydweithwyr, trwy gyfrwng goruchwyliaeth, gwerthuso a myfyrio ar yr hyn a wnewch.

6.2 Recriwtio’n fwy diogel – crynodeb byrNi roddir manylion yma am recriwtio’n ddiogel gan fod y llyfryn arall, Recriwtio’n Ddiogel yn yr Eglwys Fethodistaidd 2010, yn rhoi gwybodaeth am y mater.

Mae recriwtio’n ddiogel yn berthnasol i bob swydd, boed gyflogedig neu wirfoddol, deiliaid swyddi (sydd wedi’u penodi), ymgeiswyr am y weinidogaeth a phawb sy’n gyflogedig. Mae’n berthnasol i bob eglwys, pob mudiad mewn eglwys a phob rhan o’r Cyfundeb Methodistaidd, lle mae gwaith yn digwydd gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed.

6.3 HyfforddiantDylai pawb sy’n gweithio gydag oedolion agored i niwed dderbyn hyfforddiant. Bydd hyn yn cynnwys: Hyfforddiant penodol ar gyfer y swydd yr

ymgymerir â hi. Hyfforddiantcyffredinolynglŷnâ’r

gweithgaredd a’r adeilad. Hyfforddiantynglŷnagoedolionagored

i niwed. Bydd hyn yn cynnwys delio â’r materion penodol sy’n codi mewn

22 Mae adnoddau ar gael gan Methodist Church House, rhif ffôn 020 7486 5502.

perthynas ag oedolion agored i niwed. Gall oedolion fod yn agored i niwed mewn gwahanol ffyrdd a gellid rhoi sylw i’r pethau hyn trwy ddefnyddio cymhorthion ac addasiadau, neu sgiliau arbennig, mewn ffordd briodol. Efallai y byddai angen hyfforddiant arbenigol ar gyfer y pethau hyn.

Gall oedolion ddangos eu bod yn agored i niwed trwy ymddwyn mewn sawl gwahanol ffordd. Efallai y bydd angen hyfforddiant ar sut i ddelio â’r gwahanol ffyrdd a sut y cynorthwyir staff i osgoi ymddygiad amhriodol ac i adnabod ymddygiad o’r fath, gan gynnwys bwlio, ynddynt eu hunain ac mewn eraill.

Byddangenhyfforddianthefydynglŷnâ’r materion sy’n codi mewn perthynas â gwneud penderfyniadau wrth ddelio ag oedolion y mae eu gallu yn ddiffygiol.

6.4 EiriolaethMae gweithwyr eglwysig yn aml yn eu cael eu hunain yn gweithredu fel eiriolwyr. Mae eiriolaeth yn arbennig o bwysig ar gyfer oedolion sydd yn agored i niwed. Mae eiriolaeth yn golygu siarad dros, neu weithredu ar ran, rhywun arall neu chi eich hun. Gall eiriolaeth helpu unigolion: i ddweud yn glir beth yw eu barn a’u

dymuniadau ifynegieubarna’ichyflwyno’neffeithiola

chywir i gael cyngor annibynnol a gwybodaeth

fanwl gywir i negydu a datrys anghydfod.

Nid yw rhai pobl yn gwybod yn iawn beth yw eu hawliau, neu byddant yn ei chael yn anodd deall yr hawliau hyn yn llawn. Gall eraill gael anhawster i siarad drostynt eu hunain. Gall eiriolaeth alluogi pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb am benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a rheoli’r penderfyniadau hyn.

Egwyddorion eiriolaeth Y peth pwysicaf yw beth mae’r unigolyn yneigyfleua’rhynymaearnoeieisiau.

Page 20: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

20

DIOGELU OEDOLION

21

Mae eiriolaeth yn galluogi unigolion i wneud mwy drostynt eu hunain ac yn eu gwneud yn llai dibynnol ar eraill.

Dylai eiriolaeth helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Mae’n rhaid i eiriolwr sicrhau bod yr unigolyn yn gwneud dewisiadau gwirioneddol ar sail gwybodaeth dda.

Ni ddylai unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau effeithio ar eiriolwyr. Dylent fod yn annibynnol.

Sylwer: Ni ddisgwylir i Ymgynghorwyr Diogelu na Chyd-drefnwyr ar lefel cylchdaith neu dalaith fod yn gyfrifol am bob gwaith eirioli, e.e. gyda materion hawliau anabledd neu fynediad.23 Cyfrifoldeb yr Eglwys gyfan yw’r materion hyn, er y bydd gan rai Ymgynghorwyr Diogelu y sgiliau angenrheidiol, efallai, ac y byddant yn awyddus i ymwneud â hyn. Er bod a wnelo diogelu â’r meysydd hyn, a bod rhai materion yn gyffredin, nid yw eiriolaeth yn rhan o’r tasgau hanfodol sef ymateb i

23 Dylech ymgynghori ag Ymgynghorydd Anabledd y Dalaith.

ymholiadau a phenderfynu ar arferion da, delio â phryderon penodol a galluogi a chefnogi hyfforddiant.

6.5 Amrywiaeth ddiwylliannolYn eu cyhoeddiad Cultural Diversity in Britain24 fe nododd Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree,felrhano’ucasgliadauynglŷnâswyddogaeth cymunedau ffydd, fod:

…y sector ffydd yn canolbwyntio fwyfwy ar ddialog rhyngddiwylliannol, o bersbectif dealltwriaeth rhwng pobl a sicrhau llai o wrthdaro. Efallai y bydd o fudd i fudiadau ffydd ystyried ehangu eu golwg ar bethau er mwyn asesu manteision cymysgu diwylliannol a thrawsffrwythloni.

Mae adran 6.1 [Yr hyn sydd wrth wraidd arferion diogel a chynhwysol] yn dangos ffordd o weithio gydag unigolion, gofalwyr, teuluoedd a chymunedau. Mae’r ffordd hon o fynd ati yn canu cloch gyda chymdeithas sydd ag amrywiaeth ddiwylliannol.

24 2006.

Page 21: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

20

DIOGELU OEDOLION

21

Nid yw pawb sy’n derbyn gofal bugeiliol yn 25 agored i niwed yn unol â’r diffiniad yn adran 2.2. Fodd bynnag, fe ddylai pawb sy’n ymwneud â gofal bugeiliol dros eraill, yn gyflogedig neu’n ddi-dâl, clerigwyr neu leygwyr, fod yn gweithio o fewn y canllawiau hyn. Bydd dilyn canllawiau o’r fath nid yn unig yn amddiffyn pobl agored i niwed ond hefyd yn helpu i sicrhau na fydd gweithwyr yn cael eu cyhuddo ar gam o gam-drin neu gamymddwyn.

Perthnasau bugeiliolMae cyflawni gweinidogaeth o unrhyw fath yn golygu y bydd gweithwyr yn datblygu dealltwriaeth ohonynt eu hunain a sut y maent yn ymwneud â phobl eraill, sut maent yn gwella lles pobl eraill a sut maent yn gofalu am eu lles a’u diogelwch eu hunain ac eraill. O reidrwydd fe fydd gan bobl sydd mewnsafleymddiriedaethbŵer,ernadywhynefallai yn amlwg iddynt; gan hynny, mae’n arbennig o bwysig parchu terfynau. Gall llawer o berthnasau bugeiliol ymblethu â chyfeillgarwch a chysylltiadau cymdeithasol, fel bod y canllawiau isod yn fwy angenrheidiol fyth.

Dylai gweithwyr eglwysig fod yn arbennig o ofalus pan fyddant yn gweinidogaethu i bobl y mae ganddynt gyfeillgarwch personol agos neu berthynas deuluol â hwy.

Mae’n rhaid i weithwyr eglwysig fod yn ymwybodol o beryglon dibyniaeth mewn perthnasau bugeiliol a phroffesiynol, gan geisio cyngor neu oruchwyliaeth pan fydd pryderon o’r fath yn codi.

Dylai gweithwyr eglwysig sy’n cynnig ‘gweinidogaeth iacháu’ gael eu hyfforddi yn niwinyddiaeth ac arferion anymwthiol y gwaith hwnnw.

Dylai gweithwyr eglwysig sylweddoli eu cyfyngiadau ac ni ddylent ymgymryd ag unrhyw weinidogaeth sydd y tu hwnt i’w gallu neu eu swyddogaeth (e.e. cwnsela therapiwtig, gweinidogaeth ymwared, cwnsela’r rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth a thrais domestig, neu’rrhaiagyflawnoddypethauhyn,neuroi

25 Addaswyd o Guidelines for the Professional Conduct of the Clergy, Eglwys Loegr 2003.

cyngor cyfreithiol). Mewn achosion o’r fath, dylid atgyfeirio’r unigolyn at rywun arall neu asiantaeth sydd ag arbenigedd priodol.

Dylai gweithwyr eglwysig ystyried materion ethnigrwydd a rhyw yn eu gweinidogaeth.

Dylai gweithwyr eglwysig ochel rhag ymddwyn mewn modd a allai roi’r argraff eu bod yn ffafrio rhywun yn amhriodol neu yn annog perthnasau arbennig, amhriodol.

Dylai gweithwyr eglwysig drin y bobl y maent yn gweithio â hwy neu’n ymweld â hwy gyda pharch, gan hybu hunan-benderfyniad, annibyniaeth a dewis.

Dylid bod yn ofalus wrth helpu gydag anghenion corfforol, ymolchi a mynd i’r toiled, gan barchu dewis yr unigolyn dan sylw bob amser. Efallai y bydd angen hyfforddiant arbenigol yn y meysydd hyn a dylai gweithwyr bob amser ystyried a ellir rhoi’r cymorth hwn ai peidio, o ran eu diogelwch eu hunain a diogelwch yr oedolyn agored i niwed.

Gall perthynas fugeiliol ddatblygu yn serch rhamantus ac fe ddylid trin sefyllfaoedd o’r fath mewn modd sensitif. Mae angen i weithwyr sylweddoli bod hyn yn digwydd a dweud yn glir am y peth wrth yr unigolyn dan sylw ac wrth oruchwyliwr neu gydweithiwr. Mae’n rhaid gwneud trefniadau eraill ar gyfer parhau i roi gofal bugeiliol i’r unigolyn dan sylw.

Ni ddylai gweithwyr eglwysig ymgymryd ag unrhyw weinidogaeth fugeiliol tra bônt dan ddylanwad diod feddwol neu gyffuriau.

Sgyrsiau a chyfweliadau yng nghyd-destun gweinidogaethMae cyfweliadau ffurfiol a sgyrsiau anffurfiol yng nghyd-destun gweinidogaeth yn gyfarfyddiadau bugeiliol. Dylai gweithwyr eglwysig fod yn ymwybodol o’u hieithwedd a’u hymarweddiad. Er enghraifft, mae ensyniadau neu ganmoliaeth o natur rywiol bob amser yn amhriodol. Pan fydd rhywun yn gofyn cwestiynau neu’n gofyn am gyngor ynghylch materion yn ymwneud â rhyw, dylai’r gweithiwr ddirnad cymhellion ac anghenion yr unigolyn a dylai ei holi ei hun a yw’n gallu helpu.

7 Canllawiau ar gyfer y rhai sy’n rhoi gofal bugeiliol25

Page 22: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

22

DIOGELU OEDOLION

23

Dylai’r gweithiwr eglwysig ystyried ymlaen llaw: Lle mae’r cyfarfod i’w gynnal, sut mae’r dodrefn

wedi’i drefnu, sut mae’r lle wedi’i oleuo a sut mae’r gweithiwr yn gwisgo.

Y cydbwysedd rhwng preifatrwydd ar gyfer cynnal sgwrs a sicrhau bod modd cael goruchwyliaeth (agor drysau neu ffenestri mewn drysau, bod rhywun arall gerllaw).

Y pellter corfforol rhwng pobl, yn unol ag arferion lletygarwch a pharch, gan gadw mewn cof y gall unigolyn fod wedi dioddef camdriniaeth neu aflonyddwchynygorffennol.

A yw’r amgylchiadau yn awgrymu ymwneud proffesiynol ynteu cymdeithasol.

A yw’n briodol neu’n beryglus ymweld neu dderbyn ymweliad ar eich pen eich hun, a diogelwch personol wrth ymweld, yn enwedig gyda’r nos.

Diogelwch personol a chysur pawb sy’n ymwneud â’r mater.

Sefydlu ar y dechrau beth yw natur y cyfweliad o ran beth sydd i’w drafod, cyfrinachedd a hyd y sgwrs, a pha mor briodol yw rhoi neu dderbyn unrhyw gyffyrddiad corfforol, er enghraifft fel arwydd i gysuro rhywun, na fyddai arno ei eisiau, efallai, neu y gallai ei gamddehongli.

Anghenion bugeiliol penodol unigolion ac a oes gan y gweithiwr y sgiliau i ddiwallu’r anghenion hyn heb gefnogaeth ychwanegol. Bydd ar rai pobl angen cefnogaeth fedrus a phroffesiynol, gyda gwaith bugeiliol fel rhywbeth atodol. Efallai mai’r dasg fugeiliol gyntaf mewn sefyllfa o’r fath yw gweithio gyda’r unigolyn i’w helpu i gael cymorth proffesiynol.

Gweithio gyda chydweithwyrMae’r safonau a gynhelir mewn perthynas fugeiliol yr un mor berthnasol mewn perthnasau â chydweithwyr. Ni ddylid byth oddef aflonyddu neu fwlio. Mae angen i bob gweithiwr fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o straen yn y gweithle. Dylid cydnabod anghenion y teulu a dylai pawb sy’n cydweithio barchu’r terfyn rhwng gwaith a chartref, gan ganiatáu digon o amser ar gyfer ymlacio a chymryd gwyliau. Dylai pawb sy’n gweithio gyda phobl agored i niwed wybod i bwy y mae’n atebol a bod ag unigolyn penodol i drafod ei waith ag ef wrth dderbyn goruchwyliaeth.

Dylai gweithwyr eglwysig fod yn ymwybodol o’r

cyfrifoldebau, y swyddogaeth a’r ffordd o weithio sydd gan weithwyr eglwysig eraill, gan hybu cydweithio ac ymgynghori rhwng gweithwyr yn y tasgau y maent yn eu gwneud.

Ni ddylid camwahaniaethu yn erbyn cydweithwyr,nacaflonydduarnyntna’ubwliona’u cam-drin am unrhyw reswm.

Ni ddylid cosbi cydweithwyr am ddilyn y canllawiau hyn nac am unrhyw weithred mewn perthynas â phobl eraill a’r canllawiau hyn.

Pan fydd gweithwyr eglwysig yn gadael eu swydd neu’n rhoi’r gorau i unrhyw dasg, dylent roi’r gorau i unrhyw berthynas fugeiliol ac eithrio trwy gytundeb ag unrhyw un sy’n eu holynu.

Dylai gweithwyr eglwysig wybod i bwy y maent yn atebol a dylent gael eu mentora’n rheolaidd gan yr unigolyn hwnnw neu rywun arall a all eu helpu. Mae mentora o’r fath yn arbennig o angenrheidiol ar gyfer y rhai sy’n ymgymryd â gweinidogaeth fugeiliol unigol barhaus gan gynnig cwnsela, neu lle bo eu gweinidogaeth yn golygu mynd y tu hwnt i waith arferol yr eglwys.

Dylai gweithwyr eglwysig sicrhau y gall rhywun arallgyflawnieutasgauosbyddantynsâlneuynmethuâchyflawnieucyfrifoldebauamrywreswm arall. Mae hyn yn golygu y dylid cadw cofnodion priodol a dyddiadur ymrwymiadau.

Ymddygiad rhywiolGall ymddygiad rhywiol gweithwyr eglwysig effeithio ar eu gweinidogaeth yn yr Eglwys. Nid yw byth yn briodol i weithwyr gymryd mantais o’u swyddogaeth a chael perthynas rywiol ag unrhyw un y mae ganddynt berthynas fugeiliol ag ef neu hi. Dylai gweithwyr fod yn ymwybodol o’r diffyg cydbwyseddpŵersyddyngynhenidiberthnasaubugeiliol. Ni chaniateir i weithwyr eglwysig fyth gam-drin oedolynnaphlentynnacaflonydduarrywunynrhywiol.

Mae’n rhaid i weithwyr eglwysig dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a ddywedant ac a wnânt os ydynt yn dymuno cael cyswllt corfforol ag oedolyn arall (e.e. gallai rhywun gamddeall os cânteucofleidio)neusiaradâhwyamfaterionrhywiol. Bydd hyn yn cynnwys ceisio caniatâd, parchu dymuniadau’r unigolyn, sylwi ac ymateb i gyfathrebu aneiriol, ac ymatal rhag ymddygiad o’r fath os yw’n ansicr beth y mae ar yr unigolyn ei eisiau.

Page 23: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

22

DIOGELU OEDOLION

23

Ni chaniateir i weithwyr eglwysig edrych ar ddelweddau rhywiol o blant, na bod â’r delweddau hyn yn eu meddiant na’u dosbarthu, a dylent ymatal rhag edrych ar ddelweddau sy’n ecsploetio oedolion yn rhywiol, eu meddiannu a’u dosbarthu.

Dylai gweithwyr eglwysig osgoi sefyllfaoedd lle byddant yn teimlo’n agored i demtasiwn neu lle gallai eu hymddygiad gael ei gamddehongli.

Gonestrwydd ariannolGall trafodion ariannol effeithio ar yr eglwys a’r gymuned ac mae angen eu trin yn onest bob amser. Dylai’r rhai sydd ag awdurdod i drin materion o’r fath gynnal systemau priodol ac ni ddylent ddirprwyo’r cyfrifoldeb hwnnw i unrhyw un arall.

Ni ddylai gweithwyr eglwysig geisio budd ariannolpersonolo’usaflearwahâni’wcyflogneu lwfansau cydnabyddedig.

Ni ddylai gweithwyr eglwysig gael eu dylanwadu gan gynigion o arian.

Dylai gweithwyr eglwysig sicrhau bod arian yr eglwys a’u harian personol yn cael eu cadw ar wahân a dylent osgoi unrhyw wrthdaro mewn buddiannau.

Dylai dau leygwr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd drin arian sy’n cael ei dderbyn gan yr eglwys.

Os derbynnir unrhyw rodd, dylid rhoi gwybod i oruchwyliwr neu gydweithiwr er mwyn penderfynu a yw’n iawn derbyn.

Dylid gofalu peidio â gofyn am roddion i’r eglwys gan bobl a all fod yn agored i niwed, e.e. rhywun sydd newydd fod mewn profedigaeth.

Mae materion penodol yn codi mewn perthynas âPhŵerAtwrnaiArhosolacewyllysiau.26 Gall PŵerAtwrnaiArhosolgaeleiwneudganoedolynsydd â’r gallu a gall ymwneud â materion cyllid a/neules.PanfyddysawlawnaethyPŵerAtwrnai Arhosol yn colli ei allu (methu â gwneud penderfyniadau), gall y sawl a enwyd fel Atwrnai barhau i wneud penderfyniadau ar ei ran. Diogelir yr offeryn hwn trwy fynnu ei fod yn cael ei gofrestru gyda’r Llys Gwarchod. Petai rhywun yn dymuno enwi gweithiwr eglwysig fel Atwrnai, byddai’n briodol iddo dderbyn cyngor cyfreithiol annibynnol ar y mater cyn mynd ymhellach. Mae hyn yn

26 MaePŵerAtwrnaiArhosolyndisodliPŵerAtwrnaiParhaus.

diogelu’r gweithiwr eglwysig rhag y posibilrwydd y gellid awgrymu iddo gael dylanwad gormodol. Fodd bynnag, dylai’r gweithiwr eglwysig ystyried hyn yn ofalus ac efallai y byddai’n dymuno cael cyngoreihun.GellirgwneudhynnytrwyGrŵpDiogelu Oedolion y Dalaith. Nid yw’n dasg i ymgymryd â hi yn ysgafn.

Mewn perthynas ag ewyllysiau, dylid dilyn y canllawiaumewnperthynasâPhŵerAtwrnaiArhosol os ystyrir derbyn penodiad fel Ysgutor neu lle bo’r unigolyn yn ystyried rhoi cymynrodd i weithiwr eglwysig neu i eglwys. Dylid codi hyn bobamsermewnsesiwnoruchwylioachydaGrŵpDiogelu Oedolion y Dalaith, er mwyn cael cyngor.

Cadw cofnodion a phreifatrwydd Dylai gweithwyr eglwysig ystyried cadw cofnod

dyddiol o gyfarfyddiadau bugeiliol gan gynnwys y dyddiad, yr amser, y lle, y mater dan sylw a’r hyn sydd i’w wneud.

Dim ond trwy gydsyniad yr unigolyn y dylid cofnodi cynnwys unrhyw sgwrs, ac eithrio materion amddiffyn plant neu lle gallai fod yn gofnod o gam-drin.

Dylai unrhyw gofnod fod yn ffeithiol ac osgoi sïon a mynegi barn.

Dylid cadw cofnodion sy’n ymwneud â cham-drin am gyfnod amhenodol (o leiaf 50 mlynedd).

Dylid dilyn y ddeddfwriaeth briodol wrth gyhoeddi, rhannu neu gadw data neu ddelweddau personol.

Ymddygiad y tu allan i’r gwaith a gweinidogaeth GristnogolMewn gweinidogaeth eglwysig, gall ymddygiad y tu allan i’r gwaith effeithio yn aml ar y weinidogaeth honno. Disgwylir i weithwyr eglwysig gynnal gwerthoedd Cristnogol trwy eu holl fywyd.

Page 24: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

24

DIOGELU OEDOLION

25

Page 25: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

24

DIOGELU OEDOLION

25

Gweler y siart llif (Atodiad DD).

Nid ar lafar nac yn ysgrifenedig y bydd datgeliad yn cael ei wneud i’r gweithiwr bob tro. Weithiau bydd gweithiwr yn sylwi ar sefyllfa lle mae’n ymddangos bod rhywun yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Weithiau ni fydd yr oedolyn yn gallu cyfathrebu ar lafar ond bydd yn cyfleu trallod mewn rhyw ffordd arall – dagrau, er enghraifft. Mae ‘gwrando’ yn ofalus yn bwysig ac efallai y bydd ar oedolyn angen cymorth i ddweud ei stori. Mae’n bwysig derbyn y stori a’i chymryd o ddifrif. Nid lle’r gweithiwr, na’r eglwys chwaith, yw cynnal ymchwiliad. Tasg Gwasanaethau Oedolion yr Awdurdod Lleol a’r heddlu yw hynny. Dylid sicrhau bod yr unigolyn yn ddiogel yn ddi-oed os oes angen.

8.1 Y broses a chyfrinacheddY mater cyntaf i’w ystyried yw cyfrinachedd. Fe ragdybir bod oedolyn yn gallu gwneud penderfyniadau drosto/drosti ei hun. Felly os bydd oedolyn yn gofyn am gyfrinachedd mewn perthynas â rhyw fater, dylid derbyn hynny. (Dylai’r gweithiwr allu sicrhau cymorth iddo’i hun i ddelio â’r problemau a’r gwrthdrawiadau sy’n codi yn sgil hyn.) Dylid cadw cofnod o’r mater.

Mae’r eithriadau i hyn fel a ganlyn: Lle bo’r datgeliad yn ymwneud â niwed

i rywun arall. Er enghraifft, gallai’r datgeliad fod am gam-drin domestig mewn perthynas â phartner.

Lle bo’r datgeliad yn ymwneud â risg o niwed i blentyn neu oedolyn agored i niwed. Er enghraifft, gallai oedolyn ddatgelu camdriniaeth a ddigwyddodd iddo’nblentynabodycyflawnwrhonedigyndalmewnsaflellegallainiweidioplant.Ynyrunmodd,gallai’rgŵynfodamweithiwr.

Lle bo’r datgeliad yn cael ei wneud gan oedolyn nad yw’n gallu penderfynu a ddylid ymdrin â’r mater trwy ddilyn trywydd diogelu oedolion, h.y. gofal

cymdeithasol oedolion. Er enghraifft, gallai oedolyn yng nghyfnod olaf dementia ddangos cleisiau i weithiwr sydd yn ymddangos yn annamweiniol a bod pob ymgais yn methu i ddarganfod beth y mae’r oedolyn yn dymuno i rywun wneud â’r wybodaeth hon.

Unwaith y bydd datgeliad wedi’i wneud (gyda’r eithriadau uchod) dylid dilyn y drefn a fabwysiadwyd ar gyfer yr eglwys. Mewn argyfwng neu lle bo angen gwneud rhywbeth ar frys, dylid hysbysu Gwasanaethau Oedolion yr Awdurdod Lleol (gan ddefnyddio eu rhif ar gyfer galwadau y tu allan i oriau arferol, os oes angen) neu’r heddlu. Os nad oes cymaint o frys, neu beth bynnag mor fuan ag y bo’r modd, dylai’r gweithiwr sicrhau yr hysbysir ei reolwr llinell uniongyrchol, y gweinidog a Chyd-drefnydd Diogelu Oedolion y Dalaith (oni bai fod yr unigolyn hwnnw yn gysylltiedig â’r datgeliad). O ran hysbysu unrhyw un arall, er enghraifft gofalwyr, dylid dilyn cyngor yr Awdurdod Lleol neu’r heddlu (os yw’n fater brys) neu Gyd-drefnydd Diogelu’r Dalaith. Dylai’r gweithiwr y gwnaed y datgeliad iddo sicrhau bod ei anghenion bugeiliol ei hun yn cael eu diwallu yn ystod y broses hon, gan fod materion o’r fath yn amlwg yn dreth ar rywun yn emosiynol.

Os oes niwed sylweddol, dylid atgyfeirio’r achos bob amser i sylw’r asiantaethau statudol, gan gymryd i ystyriaeth faterion cyfrinachedd.

Pan wneir datgeliad, dylai’r gweithiwr wrando’n ofalus ar yr hyn sy’n cael ei gyfleu, heb ofyn cwestiynau arweiniol (sef cwestiynau sy’n rhagdybio neu’n arwain at ryw ateb penodol). Os oes unrhyw dystiolaeth o’r gamdriniaeth, dylid ei chadw a’i selio.

8 Ymateb i gamdriniaeth

Page 26: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

26

DIOGELU OEDOLION

27

Os yw gweithiwr wedi derbyn datgeliad, dylai gofnodi’n ysgrifenedig beth yw cynnwys y datgeliad hwnnw. Dylai’r cofnod fod mor glir ag sy’n bosibl a dylai gynnwys pa ddisgrifiad bynnag sydd yn briodol. Dylid osgoi mynegi barn a dylid ei ddyddio a’i lofnodi.

Dylai’r gweithiwr a’r rhai sy’n ei gynorthwyo ddarganfod bob amser pa broses sydd yn cael ei mabwysiadu gan yr asiantaethau statudol oherwydd bydd hyn yn effeithio ar y gweithiwr a’r oedolyn agored i niwed, fel ei gilydd. Gellir gwneud hyn fel rheol gyda chymorth Cyd-drefnydd Diogelu Oedolion y Dalaith. Dylai’r gweithiwr ofyn am gymorth bob amser. Efallai y bydd datgeliad yn arwain at achos troseddol neu achos arall a gall fod yn anodd iawn i weithiwr roi tystiolaeth mewn llys. Gellir cael cymorth ar gyfer y broses hon trwy Gyd-drefnydd Diogelu Oedolion y Dalaith ac fe ddylid cael cymorth o’r fath bob amser.

Dylid cofio, pan fyddir yn delio â materion diogelu mewn perthynas ag oedolion agored i niwed, y dylid cynnwys yr oedolyn (a’i ofalwyr, os oes modd) cymaint ag y bo modd. Ni ddylai diogelu gael ei orfodi ar oedolion heb iddynt gael chwarae eu rhan.

8.2 Cadw cofnodion a phreifatrwydd27 Dylai gweithwyr eglwysig ystyried cadw

cofnod byr o gyfarfyddiadau bugeiliol gan gynnwys y dyddiad, yr amser, y lle, y mater dan sylw a’r hyn sydd i’w wneud. Dim ond trwy gydsyniad yr unigolyn y dylid cofnodi cynnwys unrhyw sgwrs, ac eithrio materion amddiffyn plant/oedolion neu lle gallai fod yn gofnod yn nodi bod amheuaeth o gam-drin.

Dylai unrhyw gofnod fod yn ffeithiol ac osgoi sïon a mynegi barn.

Dylid cadw cofnodion sy’n ymwneud â cham-drin am gyfnod amhenodol (o leiaf 70 mlynedd).

27 With Integrity and Skill, Y Gynhadledd Fethodistaidd 2008, a chanllawiau pellach ar wneud a chadw cofnodion, ar wefan yr Eglwys Fethodistaidd www.methodistchurch.org.uk

Dylid dilyn y ddeddfwriaeth briodol wrth gyhoeddi, rhannu neu gadw data neu ddelweddau personol. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn atal cyhoeddi gwybodaeth heb gydsyniad yr unigolyn dan sylw. Fodd bynnag, caniateir datgelu data lle bo unigolyn yn methu â rhoi cydsyniad neu lle na roddir cydsyniad ond bod angen datgelu’r wybodaeth er budd y cyhoedd neu lle datgelir gwybodaeth i’r heddlu er mwyn datgelu neu atal trosedd. Dylid gofyn am gyngor ar hyn gan Gyd-drefnydd Diogelu Oedolion y Dalaith.28

Mae’r Eglwys Fethodistaidd wedi cofrestru gyda’r Cofrestrydd Diogelu Data ac felly ni chaniateir cadw dogfennau (gan gynnwys dogfennau electronig) ond at y dibenion y maent wedi’u rhoi ar eu cyfer. Dylid deall y gall fod yn ofynnol dangos dogfennau o’r fath, naill ai i’r sawl y maent wedi’u hysgrifennu amdano, neu at ddibenion datgelu neu atal trosedd, neu at ddibenion achos llys.

8.3 Rhannu GwybodaethMae gan yr Eglwys Fethodistaidd daflen wybodaeth ar arferion da, sef Information Sharing. Gellir llwytho’r ddogfen hon i lawr o’r adran adnoddau ar dudalennau Diogelu gwefan yr Eglwys Fethodistaidd.

Isod ceir crynodeb o arferion da gan Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd Llywodraeth San Steffan.29 Ymhlith pethau eraill, mae’r arferion da hyn yn mynnu bod pob gweinidog yn rhannu gwybodaeth allweddol sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu plant neu oedolion agored i niwed gyda’u holynwyr, gyda chynrychiolwyr diogelu yn yr eglwys, y gylchdaith a’r dalaith yn ôl yr angen, a chyda’r awdurdod lleol neu’r heddlu mewn achosion penodol yn ôl y gofyn.

28 Dylid cadw cofnodion yn ddiogel gan ddilyn trefn ar gyfer eu casglu a’u cadw.

29 Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, Information sharing guidance 2008.

Page 27: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

26

DIOGELU OEDOLION

27

Saith rheol aur ar gyfer rhannu gwybodaethi) Cofiwchnadrhwystrirannugwybodaeth

mo’r Ddeddf Diogelu Data ond ei bod yn darparu fframwaith i sicrhau mai mewn modd priodol yn unig y rhennir gwybodaeth bersonol am bobl sydd yn fyw.

ii) Byddwch yn agored ac onest â’r unigolyn (a/neu ei deulu lle bo’n briodol) o’r cychwyn cyntaf gan ddweud pam, beth, sut a gyda phwy y bydd, neu y gallai, gwybodaeth gael ei rhannu, a cheisiwch eu cydsyniad, oni bai ei bod yn anniogel neu’n amhriodol gwneud hynny.

iii) Ceisiwch gyngor os ydych mewn unrhyw amheuaeth, heb ddatgelu pwy yw’r unigolyn os oes modd.

iv) Rhannwchwybodaeth,llebohynny’nbriodol, ar ôl cael cydsyniad a lle bo modd parchwch ddymuniad y rhai nad ydynt yn rhoi cydsyniad ar gyfer rhannu gwybodaeth gyfrinachol. Mae modd i chi rannu gwybodaeth heb gydsyniad hefyd os yw budd y cyhoedd yn bwysicach na’r diffyg cydsyniad, yn eich barn chi.

Bydd angen i chi seilio eich penderfyniad ar ffeithiau’r achos.

v) Ystyriwchddiogelwchallespobl:dylech benderfynu a ydych am rannu gwybodaeth ar sail diogelwch a lles yr unigolyn ac eraill a all gael eu heffeithio gan yr hyn a wna.

vi) Angenrheidiol,cymesur,perthnasol,manwl gywir, amserol a diogel: sicrhewch fod yr wybodaeth yr ydych yn ei rhannu yn angenrheidiol i’r diben yr ydych yn ei rhannu ar ei gyfer. Mae’n cael ei rhannu â’r bobl hynny yn unig y mae angen iddynt ei chael. Mae’n fanwl gywir a chyfredol. Mae’n cael ei rhannu yn brydlon ac yn ddiogel.

vii)Cadwchgofnodo’chpenderfyniada’r rhesymau drosto – sef a ydych am rannu gwybodaeth ai peidio. Os penderfynwch ei rhannu, cofnodwch beth rydych wedi ei rannu, gyda phwy ac i ba ddiben.

Os ydych yn ansicr am unrhyw un o’r pethau hyn, holwch Gyd-drefnydd Diogelu’r Dalaith.

Page 28: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

28

DIOGELU OEDOLION

29

Mae oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth yn cynnwys pobl sydd wedi goroesi niwed rhywiol, corfforol ac emosiynol, neu esgleulustod. Gallant fod yn oroeswyr sydd yn agored i niwed mewn ffyrdd eraill, er enghraifft oherwydd fod ganddynt anabledd dysgu. Gallant fod wedi dioddef y gamdriniaeth yn blant neu yn fwy diweddar, fel oedolion. Mae camdriniaeth yn digwydd fynychaf yn y teulu neu’r gymuned, ond mae rhai plant neu oedolion wedi dioddef camdriniaeth o fewn yr eglwys.

Mae’n hysbys bod llawer o bobl yn yr Eglwys wedi goroesi camdriniaeth. Fodd bynnag, ni fyddant o angenrheidrwydd yn amlygu hynny yn yr Eglwys. Yn wir, mae’n bosibl na fydd neb yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddynt. Mae llawer o fenywod, a dynion, heb ganfod neb y maent yn gallu ymddiried ynddo’n ddigonol i allu dweud. Mae angen i’r Eglwys sicrhau ym mhopeth a wneir bod hyn yn cael ei gymryd i ystyriaeth. I wneud hynny, mae angen bod yn ystyriol yn yr hyn a wneir a’r iaith a ddefnyddir. Mae hynny’n debyg o fod yn arbennig o berthnasol os yw’r gamdriniaeth wedi cynnwys elfennau o arfer defodol, pan fydd eitemau fel y groes yn arbennig o arwyddocaol. Mae’n bosibl y bydd cyffwrdd yn achosi anawsterau a bydd angen i’r Eglwys ystyried yr hyn a wna wrth rannu’r Tangnefedd yn y Cymun. Dylid herio iaith ddirmygus bob amser a dylid ystyried pa fath o iaith a ddefnyddir mewn addoliad. Er bod defnyddio Gweddi’r Arglwydd yn hanfodol i addoliad, gall y gair ‘tad’ greu gwahanfur i rai pobl oherwydd eu profiadauyneuplentyndod.Dylidystyrieddefnyddio iaith gynhwysol hyd yn oed

yng Ngweddi’r Arglwydd, o leiaf weithiau. Gall oedolion sydd wedi goroesi ddangos sawl math o ymddygiad o ganlyniad i’wprofiadau.Gallhyngynnwysencilioac iselder, neu ddicter, camddefnyddio sylweddau a hunan-niwed.

Gall hyn oll arwain at sefyllfa fugeiliol heriol. Dylai’r sawl sy’n cynnig cefnogaeth fugeiliol gael rhywun i roi cefnogaeth a chyngor iddo yntau/iddi hithau. Ni ddylid ceisio gwneud gwaith pwysig ond heriol fel hyn heb neb i’ch helpu ar unrhyw adeg.

Os bydd goroeswr yn penderfynu dweud wrthrywunameibrofiadau,mae’nbosibl y bydd arno angen gwneud hyn drosodd a throsodd fel y gall ‘brosesu’ ei stori. Efallai y bydd angen hysbysu’r Gwasanaethau Plant neu’r heddlu, a bydd angen cryn lawer o gefnogaeth i wneud hynny, yn enwedig os bydd yn arwain at achos troseddol. Efallai y bydd angen i’rgoroeswrddatrysproblemynglŷnâ sut i faddau. Nid oes unrhyw ateb hawddnachyflymi’rproblemauhynacni ddylid rhuthro’r goroeswr, na gwneud iddo deimlo’n euog, na mynnu ei fod yn gwneud dim byd (er enghraifft, maddau) nad yw’n barod ar ei gyfer. Mae angen i’r goroeswr gael ei dderbyn fel y mae, gwybod bod Duw’n ei garu’n ddi-amod a bod yn hyderus bod cymuned yr eglwys gydag ef ar ei siwrnai, pa mor hir bynnag y bo ac i ba gyfeiriad bynnag y bydd yn mynd. Efallai y bydd angen gwasanaethau proffesiynol ychwanegol i helpu gyda’r broses hon a dylai’r bobl dan sylw holi GrŵpDiogelu’rDalaith,afyddyngalludarparu cyngor ar sut i gael adnoddau a gwasanaethau.30

30 Gweler adroddiad y Gynhadledd, ‘Tracing Rainbows’, sydd i’w weld yn www.methodistchurch.org.uk

9 Gofalu am oedolion sydd wedi goroesi

Page 29: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

28

DIOGELU OEDOLION

29

10.1 CyflwyniadDarperir canllawiau sy’n cynnig arferion da i’r rhai sy’n gweinidogaethu i’r rhai a gafodd euogfarn neu rybuddiad, a darparu gofal bugeiliol ar gyfer y bobl hyn, er mwyn galluogi’r rhai a allai beri risg, i addoli a bod yn rhan o gymuned eglwysig yn fwy diogel. Mae’r drefn a amlinellir yma ac yn Arferion Cyfansoddiadol a Disgyblaeth yr Eglwys Fethodistaidd hefyd i’w defnyddio fel model yn dangos arferion da pan gaiff rhywun ei atal neu os bydd yn aros i sefyll ei brawf am droseddau rhywiol, er mwyn diogelu’r bobl dan sylw a holl aelodau’r gymuned eglwysig.

D.S. Mae’r Rheolau Sefydlog wrthi’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd mewn perthynas â gweithio gyda phlant a phobl ifanc neu oedolion agored i niwed ac mewn perthynas â phenodi i swydd neu swyddogaeth gyfrifol, a hefyd mewn perthynas â ‘chontractau’ gyda’r rhai a gafodd euogfarn neu rybuddiad.

10.2 ‘Cyfamod Gofal’Roedd yr adroddiad ar Yr Eglwys a Throseddwyr Rhyw, 2000, yn argymell sefydlu grwpiau ‘Cymorth a Monitro’ i reoli mewn eglwysi/cylchdeithiau y rhai sydd wedi cael euogfarn neu rybuddiad am droseddau rhywiol yn erbyn plant neu oedolion. (Mae hyn i’w weld yn Rheol Sefydlog 690f a Rhan 2, Adran 12 y canllawiau yn yr Arferion Cyfansoddiadol a Disgyblaeth. Mae copi ohono i’w weld yn Atodiad D yn Diogelu Plant a Phobl Ifanc 2010).

Dylid ystyried y trefniadau hyn yn ‘gyfamod gofal’. Cynigir y dylid eu galw yn ‘gytundeb Cyfamod Gofal’/’trefniadau Cyfamod Gofal’ yn y dyfodol.

Prif elfennau Cyfamod Gofal o’r fath: Cyfnod cyn rhyddhau lle bo’n berthnasol/

bosibl. Sefydlugrŵpbacharlefeleglwysa/neu

gylchdaith. Asesu risg – efallai na fydd yn asesiad

risg proffesiynol a gomisiynir gan rywun o’r tu allan ond dylai ddilyn trefn debyg lle bo modd.

Ysgrifennu contract – gyda’r unigolyn dan sylw, yn ddelfrydol, gan sicrhau ei gytundeb a’i ddealltwriaeth. Dylai trefniadau monitro fod yn rhan o gytundeb o’r fath.

Cyfarfod yn rheolaidd ac adolygu aelodaethygrŵpa’rhyfforddianta’rcymorth sydd ar ei gyfer.

Adolygu’r contract – yn rheolaidd – o leiafunwaithyflwyddyn,neupanfyddamgylchiadau’n newid.

D.S. Gall Cynghorau Eglwys sefydlu grŵp o’r fath ‘mewn egwyddor’, ymlaen llaw.

10.3 Y cytundebYng nghanllawiau Rheol Sefydlog 690f,31 a hefyd yn Rhan 2, Adran 12 y canllawiau32

cynigir fframwaith ar gyfer y cytundeb. Mae’r canllawiau hyn i’w hadolygu yn 2011, ond pwyntiau ychwanegol yw’r isod ac nid ydynt yn disodli’r canllawiau fel y maent yn sefyll.

Meysydd ychwanegol a all fod angen sylw wrth ddatblygu contract/cytundeb sy’n gweithio: Digwyddiadau preswyl, yn enwedig rhai ‘i

bob oed’. Digwyddiadau mewn eglwys neu fudiad

eglwysig arall, yn y gylchdaith neu yn genedlaethol.

31 Yn Arferion Cyfansoddiadol a Disgyblaeth.32 Hefyd yn yr Arferion Cyfansoddiadol a Disgyblaeth – yn y

cefn.

10 Gweinidogaethu i bobl y mae pryder am eu hymddygiad yn y gorffennol

Page 30: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

30

DIOGELU OEDOLION

31

Cael hyd i eglwys neu gylchdaith arall pan fo dioddefwyr/goroeswyr yn yr eglwys flaenorol/bresennol.

Cyfleoeddiddatblygugallu’rgwrthrychi fod yn ddisgybl yn ddiogel ac unwaith y bydd wedi dangos cydweithrediad ac ymddiriedaeth yn y cytundeb.

Materion sensitif neu anodd i’r Arolygwr/gweinidogâgofalbugeiliola’rgrŵpeuhystyried:

Mynnu bod eglwys yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddwr rhyw, pan fu i’r eglwys neu weinidog ei wrthod yn llwyr.

Datblygu contract lle bo gan unigolyn hanes o ‘hen faterion’, euogfarnau neu

rybuddiadau ond lle bo angen rhyw fath o gontract.

Penderfynu ym mha achosion y gellir gwneud trefniadau llai manwl.

Cynnaldiddordebacegni’rgrŵpmonitro. Addoliad/aelodaeth. Dylid ystyried hyn

yn ofalus iawn ar gyfer y diodddefwyr yn yr achos.33 Dylid rhagdybio, oni bai fod rhesymau da, y dylai’r troseddwr rhyw addoli mewn man arall.

Cadw’rcontractifyndamflynyddoeddacefallai degawdau.

Darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau’r grŵpa’reglwysynehangacharypethauhyn.

Datblygu gallu’r gwrthrych i fod yn ddisgybldrosflynyddoeddlawer.

33 Neu pan fo angen, dioddefwyr neu oroeswyr eraill camdrini-aeth honedig.

Page 31: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

30

DIOGELU OEDOLION

31

11.1 CyflwyniadMae gan yr Eglwys Fethodistaidd drefn Gwyno a Disgyblu ffurfiol ar gyfer aelodau a swyddogion.

Gall anghytundeb godi o fewn yr eglwys neu mewn perthynas â’r eglwys. Efallai na fydd ond mater bach ac y gall y bobl dan sylw ei ddatrys – dyna fydd yn digwydd yn y rhan fwyaf o achosion o anghytuno. Fodd bynnag, os nad oes modd datrys anghytundeb yn y modd hwn, dylid ei gymryd o ddifrif a pheidio â’i anwybyddu.

Ar gyfer cwynion, mae gan bob cylchdaith swyddog cwynion lleol yn unol â threfn Gwyno a Disgyblu yr Eglwys Fethodistaidd. Arolygwr y gylchdaith fydd y swyddog yn aml. Fodd bynnag, dylid derbyn y dylai unrhyw unigolyn yn yr eglwys sydd yn derbyncŵynddelioâ’rgŵynhonnomewnryw fodd. Efallai y bydd yn ei datrys, os mai mater bach ydyw, neu yn ei throsglwyddo i’r swyddog cwynion lleol. Fodd bynnag, dylai’r eglwys leol fod â threfn gwyno sy’n anelu i ddelio â materion yn gyflym ac mewn modd priodol.

Byddai’n gymorth petai’r drefn hon yn enwi unigolyn yn yr eglwys a fydd yn gyfrifol ac y bydd ei enw a rhyw fodd o gysylltu ag ef ar gael yn yr eglwys. Mae trefn o’r fath yn dangos fod yr eglwys yn cymryd cwynion o ddifrif ac yn dymuno gwella’i harferion. Mae manylion pellach am y drefn Gwyno a Disgyblu ffurfiol i’w cael yn Rhan 11, Arferion Cyfansoddiadol a Disgyblaeth yr Eglwys Fethodistaidd, neu gan Swyddfa’r Dalaith.

Dylid ymgynghori bob amser â Chyd-drefnydd Diogelu Oedolion y Dalaith os oes amheuaeth o gamdriniaeth neu ymddygiad amhriodol. Mae’n rhaid i’r awdurdodau statudol hefyd gynnal eu hymchwiliadau cyn

dilyn trefn gwyno’r Eglwys Fethodistaidd. Gweler adran 8 uchod.

11.2 Atal Dros DroOs gwneir cwyn yn erbyn gweithiwr, mae’n rhaid ystyried bob amser a ddylid atal y gweithiwr hwnnw dros dro. Dylid gofyn i Gyd-drefnydd Diogelu Oedolion yDalaithamgyngor.Osyw’rgŵynynymwneud ag ymddygiad troseddol, neu os gallai fod, dylid ystyried yn bendant, ac yn ddi-oed, a oes angen atgyfeirio’r mater i sylw’r heddlu a dylid cadw cofnod o’r modd y penderfynwyd beth i’w wneud. Mewn achosion llai difrifol, dylid ystyried ynofalusaellirdatrysunrhywgŵynapha hyfforddiant sydd ei angen i’r diben hwn. Dylid ystyried yn bendant anghenion bugeiliol y gweithiwr a diwallu’r rhain o fewn yr eglwys, gyda chefnogaeth gan y Dalaith os yw hynny’n briodol.

11.3 Goblygiadau ehangachDylid nodi bod materion fel hyn bob amser yn codi cwestiynau bugeiliol ar gyfer pobl eraill. Mae’n bosib iawn y bydd y rhai sy’n cydweithio â’r gweithiwr dan sylw yn dioddef o straen ac yn teimlo bod eu hymddiriedaeth wedi cael ei bradychu. Gall teuluoedd y gweithiwr a’r oedolion agored i niwed hefyd deimlo bod ymddiriedaeth wedi’i bradychu, a gall y gynulleidfa gyfan deimlo bod eu hymdeimlad o genhadaeth wedi’i gyfaddawdu. Mae angen i’r gweinidog a swyddogion yr eglwys sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer y tasgau ychwanegol hyn ac mae’n debygol y bydd angen cefnogaeth gan y dalaith er mwyn sicrhau hynny.

11.4 Atgyfeirio i sylw’r Awdurdod Diogelu AnnibynnolOs caiff gweithiwr ei erlyn neu ei ddiswyddo o ganlyniad i ymddygiad camdriniol tuag at oedolion agored i niwed, mae dyletswydd

11 Delio ag anghytundebau a chwynion

Page 32: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

32

DIOGELU OEDOLION

33

i atgyfeirio’r mater i sylw’r Awdurdod Diogelu Annibynnol. Os bydd gweithiwr yn ymddiswyddo cyn i drefn ddisgyblu neu droseddol gael ei chwblhau, mae’r ddyletswydd honno yn dal i fodoli. Bydd Cyd-drefnyddGrŵpDiogeluOedolionyDalaith yn cynorthwyo gyda’r broses hon. Am ragor o wybodaeth, gweler Recriwtio’n Ddiogel yn yr Eglwys Fethodistaidd 2010.

Page 33: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

32

DIOGELU OEDOLION

33

12 Penderfyniadau

1. Mae’r Gynhadledd Fethodistaidd yn mabwysiadu’r ddogfen bolisi a elwir yn Diogelu Oedolion ac yn rhoi cyfarwyddyd ar iddi gael ei chyhoeddi a’i rhoi ar waith yn yr Eglwys gyfan.

2. Mae’r Gynhadledd hefyd yn rhoi cyfarwyddyd i’r Cyngor Methodistaidd:(a) sicrhau y llunnir cynigion ar gyfer delio â mater diogelu oedolion agored i

niwed mewn prosesau dysgu a datblygu, gan ddod â’r cynigion gerbron y Cyngor cyn pen 12 mis; a

(b) cynnwys goblygiadau’r polisi hwn mewn adolygiad o’r polisi a’r gweithdrefnau a elwir Yr Eglwys a Throseddwyr Rhyw.

3. Mae’rGynhadleddynrhoicyfarwyddydi’rPwyllgorCyfraithaFfurflywodraethystyried a oes angen unrhyw newidiadau i’r Rheolau Sefydlog yng ngoleuni’r polisi ar ‘Ddiogelu Oedolion’.

4. Mae’r Gynhadledd Fethodistaidd yn mynnu:(a) bod Taleithiau yn penodi Grŵp Diogelu Oedolion ar gyfer y Dalaith,

neuaelodauychwanegoligrŵpDiogelusyddynbodolieisoes,ynunolâ modelau a argymhellir yn y polisi ar ‘Ddiogelu Oedolion’ ynghyd â chyd-drefnydd ar gyfer Diogelu Oedolion, a bod taleithiau’n cefnogi’r swyddogaethauhynadarparuadnoddauareucyfer,acydylai’rgrŵpadrodd i Bwyllgor Polisi’r Dalaith neu’r hyn sy’n cyfateb iddo, o leiaf unwaithyflwyddyn.

(b) bod Cylchdeithiau’n penodi, cefnogi a darparu adnoddau ar gyfer Cyd-drefnydd Diogelu Oedolion i’r Gylchdaith, sydd yn adrodd i’r Cyfarfod Cylchdaitholeiafunwaithyflwyddyn.

Page 34: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

34

DIOGELU OEDOLION

35

13 Atodiadau

CynnwysA) Y Datganiad Polisi ar Ddiogelu ar ffurf poster

B) Tabl o gyfrifoldebau

C) SwyddogaethGrŵpaChyd-drefnyddDiogeluOedolionyDalaith

CH) Rhestr wirio ar gyfer eglwysi

D) Adnoddau

DD) Siart llif i gyfeirio ati

13 A

todi

adau

Page 35: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

34

DIOGELU OEDOLION

35

13 Atodiad A

Atodiad A Egwyddorion Diogelu

Datganiad Egwyddorion Diogelu

Mae pob bod dynol yn meddu ar werth ac urddas sy’n deillio’n uniongyrchol o waith Duw yn ein creu, yn wryw a benyw, ar ei lun a’i ddelw ei hun. Mae Cristnogion yn gweld y potensial hwn yn cael ei gyflawni wrth i Dduw ein hail-greu yng Nghrist. Ymhlith pethau eraill mae hyn yn golygu fod arnom ddyletswydd i werthfawrogi pob unigolyn gan fod delw Duw ar bawb a rhaid gwarchod pawb rhag niwed.

Egwyddorion

Rydym wedi ymrwymo: i ofalu am bob plentyn, pob unigolyn ifanc a phob oedolyn, eu meithrin a chynnal

gweinidogaeth fugeiliol lawn parch gyda hwy. i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn, pob unigolyn ifanc a phob oedolyn. i sefydlu cymunedau diogel, gofalgar sydd yn darparu amgylchedd cariadus lle ceir

gwyliadwriaeth ddeallus gan wybod am beryglon cam-drin.

Byddwn yn dethol a hyfforddi’n ofalus bawb sydd yn cael unrhyw gyfrifoldeb o fewn yr Eglwys, yn unol ag egwyddorion Recriwtio Diogelach, gan gynnwys defnyddio datgeliadau cofnodion troseddol a chofrestru gyda’r cynlluniau fetio a gwahardd perthnasol.34

Byddwn yn ymateb yn ddi-oed i bob cwyn a wneir sydd yn awgrymu y gall oedolyn, plentyn neu unigolyn ifanc fod wedi cael niwed, gan gydweithio â’r heddlu a’r awdurdod lleol mewn unrhyw ymchwiliad.

Byddwn yn ceisio cynnig gofal bugeiliol goleuedig i unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth, gan ddatblygu gweinidogaeth briodol gyda hwy.

Byddwnynceisioheriounrhywgamddefnyddobŵer,ynenwedigganunrhywunsyddmewn safle ymddiriedaeth.

Byddwn yn ceisio cynnig gofal a chymorth bugeiliol, gan gynnwys goruchwyliaeth, ac atgyfeiriad at yr awdurdodau priodol, ar gyfer unrhyw aelod o’n cymuned eglwysig y gwyddys iddo droseddu yn erbyn plentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn agored i niwed.

Yn yr holl egwyddorion hyn byddwn yn dilyn y statud, y canllawiau a’r arferion da cydnabyddedig.

34 Neu aelodaeth o’r cynllun Diogelu Carfanau Agored i Niwed yn yr Alban.

Page 36: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

36

DIOGELU OEDOLION

37

13 A

todi

ad B

Atodiad B Tabl o gyfrifoldebau

Cyngor Eglwys

Rhoi’r polisi ar waith yn gyffredinol Gweinidog â gofal bugeiliolSicrhauycwblheirffurflennidiogelu Gweinidog â gofal bugeiliolSicrhau nad oes unrhyw un yn dal swydd na all lofnodi ffurflen

Gweinidog â gofal bugeiliol

Sicrhau bod pob swyddog yn deall y polisi Gweinidog â gofal bugeiliolSicrhau bod copïau o’r llawlyfr ar gael ac yn cael eu rhoi i’r holl weithwyr perthnasol

Ysgrifennydd y Cyngor Eglwys

Cynnwys diogelu ar agenda’r Cyngor Eglwys a chadw copïauoffurflenni

Gweinidog â gofal bugeiliol/Ysgrifennydd y Cyngor Eglwys

Paratoi polisi GweithgorMabwysiadu’r polisi Cyngor EglwysRhannu’r polisi â’r eglwys Swyddogion yr EglwysHyrwyddo ymwybyddiaeth a hyfforddiant, a chadw cofnodion presenoldeb

Cyd-drefnydd Diogelu

Asesiad risg o’r eiddo Swyddogion eiddo a’r Cyngor Eglwys

Y Gylchdaith

Danfon copïau o’r polisi i’r eglwysi Ysgrifennydd y Cyfarfod CylchdaithSicrhau bod polisïau gan yr holl eglwysi ArolygwrSicrhau y gwneir gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol

Arolygwr

Sicrhau bod swyddogion y gylchdaith yn cwblhau ffurflen ArolygwrSicrhau y cynhelir hyfforddiant ymwybyddiaeth ac y dilynir arferion da

Tîm Arweinyddiaeth y Gylchdaith (Goruchwylwyr a staff y Gylchdaith)

Cynnwys diogelu ar agenda’r Cyfarfod Cylchdaith a chadw copïau o ffurflenni

Arolygwr

Y Dalaith

Datblygu polisi CadeiryddRhoi’r polisi ar waith CadeiryddCynorthwyo Arolygwyr CadeiryddSicrhau bod Swyddogion y Dalaith yn llofnodi ffurflen CadeiryddDarparu copïau o’r llyfryn ar gyfer Pwyllgor Polisi’r Dalaith Ysgrifennydd y SynodCynorthwyoGrŵpDiogelu’rDalaith CadeiryddDarparuadnoddauargyferGrŵpDiogelu’rDalaith Pwyllgor Polisi’r Dalaith a’r trysoryddSicrhau y rhoddir polisi’r dalaith ar waith Cadeirydd/ysgrifennydd y SynodSicrhau bod y rhai a etholwyd i’r Gynhadledd yn cydymffurfio â’r rheolau sefydlog

Cadeirydd

Ymateb i geisiadau am gymorth a hyfforddiant GrŵpDiogelu’rDalaithCydweithio ag asiantaethau eraill GrŵpDiogelu’rDalaithRhoi cyngor ar sut i roi’r polisi ar waith GrŵpDiogelu’rDalaith

Page 37: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

36

DIOGELU OEDOLION

37

Hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arferion da GrŵpDiogelu’rDalaithY Gynhadledd

Datblygu polisi a chanllawiau Unigolyn dynodedigYmateb i fentrau’r llywodraeth Ysgrifennydd y Gynhadledd – ynghyd â’r

unigolyn dynodedig35

Cydweithio ag asiantaethau ac eglwysi eraill Ysgrifennydd y Gynhadledd – fel uchodTrefnu rhaglen ymwybyddiaeth Ysgrifennydd y Gynhadledd – fel uchodSicrhau y datblygir hyfforddiant Ysgrifennydd y Gynhadledd – fel uchod

Atodiad C Swyddogaeth Grwp a Chyd-drefnydd Diogelu Oedolion y Dalaith

i. Sicrhau yr ymatebir i geisiadau am gymorth, cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant.36

ii. Sicrhau y rhoddir cefnogaeth i roi ar waith bolisi’r Dalaith a’r Cyfundeb ac unrhyw ofynion cyfreithiol.37

iii. Sicrhau bod y Cadeirydd, Arolygwyr a Phwyllgor Polisi’r Dalaith yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i bolisïau, arferion a chanllawiau diogelu. Rhoddir adroddiad i gyfarfod cyntaf PwyllgorPolisi’rDalaithymmhobblwyddyngyfundebolganaelodoGrŵpDiogelu’rDalaith,afyddyncynnwys nodyn ar y modd y caiff digwyddiadau yn y dalaith eu monitro.

iv. Hyrwyddorhaglenniymwybyddiaethacarferionda.v. Cydweithioâgrwpiaueraill perthnasol (e.e.partneriaidCyfundebol, rhanbartholacecwmenaidda

chydweithwyr proffesiynol) gyda materion diogelu.vi. Sicrhaueubodwediparhauigynnaleugwybodaetha’usgiliaueuhunain.

Dylai’rdalaithgefnogiGrŵpDiogeluOedolionyDalaithtrwygyfrwnghyfforddiantareucyfer,goruchwyliaethbroffesiynol,ffônargyfercyd-drefnydd/cynullyddygrŵpathalucostaueraillfelyboangen.

Dylai’r Cadeirydd neu ddirprwy a benodir ganddo38 fynychu’rgrŵpoleiafunwaithyflwyddyn.

35 Maerhaio’rpethauhyni’wcyflawniganyrYmgynghoryddDiogelusyddynyradranDatblyguaPhersonélacmaerhaiohonyntar gyfer Gwaith Disgyblion a Gweinidogaethau gan gydweithio â rhwydwaith y Swyddogion Hyfforddi.

36 Gan gynnwys cymorth gydag achosion/honiadau penodol.37 Er enghraifft, materion fetio a gwahardd gorfodol.38 Bydd angen sicrhau dilyniant hyd y mae’n bosibl.

13 Atodiad C

Page 38: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

38

DIOGELU OEDOLION

39

Atodiad CH Rhestr wirio ar gyfer eglwysi

Polisi’r Cyngor Eglwys Beth arall sydd ei angen?

Pwy sydd am weithredu?

Adolygu’r hyn a wnaed – dyddiad a nodiadau

1 Trosolwg:a) cynllun gweithredu ab) amserlen adolyguc) dyrannu’r cyfrifoldeb ch) trafod materion cydraddoldeb ac

amrywiaeth

2 Trefniadau recriwtio diogelach:a) cofnodion o’r prosesau fetio – h.y.

cofnodion troseddol a chofrestru gyda’r Awdurdod Diogelu Annibynnol/cynllun aelodaeth Amddiffyn Carfanau Agored i Niwed.

b) ffurflennicofrestru,geirda,gwiriopwyywpobl

c) pwy sy’n gyfrifol am y gweithgaredd a’r gwirfoddolwyr

ch) adolygu cyfnodau prawf, adolygiadau blynyddol, hyfforddi a datblygu

d) y cod ymarfer – dosbarthu a thrafod

3 Cynllunio gweithgareddau:a) cymarebau staff a chydbwyseddb) asesiadau risg ysgrifenedigc) adolygu asesiadau risgch) cyfrifoldeb am ddigwyddiadau achlysurold) offerdd) cludiante) caniatâdh.y.argyferffotograffiaethf) e-ddiogelwch

4 Hyfforddi a datblygu:a) cyfnodcynefinob) trefniadau ar gyfer goruchwylio timauc) goruchwyliaeth neu gefnogaeth unigolch) adolygu anghenion hyfforddi a chynllunio

5 Ymateb i ddigwyddiadau:a) llyfr digwyddiadaub) cymorth cyntafc) rhifau ffôn swyddog amddiffyn plant yr

heddlu lleol a Gofal Cymdeithasol Oedolionch) cyfrifoldeb am atgyfeiriod) cyfrifoldeb am roi gwybod i eraill ar sail

‘angen i wybod’

6 Pwy arall sydd angen gwybod am y polisia) ble mae’n cael ei arddangos/ble mae ar

gaelb) cysylltiadau ecwmenaidd lleolc) rhai sy’n llogi adeiladau

Unrhyw beth arall – i’w ychwanegu yma

Llofnod:Dyddiad adolygu:

13 A

todi

ad C

H

Page 39: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

38

DIOGELU OEDOLION

39

Mudiadau perthnasol

GolwgSefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall105 Judd StreetLondon WC1H 9NEwww.rnib.org.uk

ClywSefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar19-23 Featherstone StreetLondon EC1Y 8SLwww.rnid.org.uk

Iechyd MeddwlMind15-19 BroadwayLondon E15 4BQwww.mind.org.uk

PoblHŷnCartrefi Methodistaidd i’r HenoedEpworth HouseStuart StreetDerby DE1 3EQwww.mha.org.uk

Age UKAstral House1268 London RoadLondon SW16 4ERwww.ageuk.org.uk

Action on Elder Abuse0808808 8141www.elderabuse.org.uk

DementiaCymdeithas Alzheimer (gwybodaeth hefyd am fathau eraill o ddementia)Gordon House10 Greencoat PlaceLondon SW1P 1PHwww.alzheimers.org.uk

Anabledd DysguMencap123 Golden LaneLondon EC1Y 0RTwww.mencap.org.uk

Anabledd CorfforolCymdeithas Shaftesbury16 Kingston RoadLondon SW19 1JZwww.shaftesburysociety.org.uk

SCOPE6 Market RoadLondon N7 9PWwww.scope.org.uk

Trais DomestigCymorth i Fenywod08457 023468

Coordinated Action Against Domestic Abusewww.caada.org.uk

Camddefnydd Sylweddauwww.ukna.org.uk (cyffuriau)www.alcoholicsanonymous.org.uk

Ceiswyr LlochesStan PlattYmgynghorydd ar Fewnfudo a Lloches i’r Eglwys Fethodistaidd50 Leeds RoadSelbyNorth Yorkshire

GoroeswyrChristian Survivors of Sexual Abusec/o 38 Sydenham Villa RoadCheltenhamGloucestershireGL52 6DZ

Survivors UK (cymorth i ddynion sydd wedi goroesi)2 Leathermarket StreetLondon SE1 3HNwww.survivors.org.uk

Respond (cymorth i’r rhai sydd ag anawsterau dysgu ac sydd wedi cael eu cam-drin)3rd Floor24-32 Stephenson WayLondon NW1 2HDwww.respond.org.uk

Mae deunyddiau adnoddau ar gael gan y mudiadau uchod.

Bydd adnoddau ar gael, yn enwedig rhai lleol, gan adran Gwasanaethau Oedolion eich awdurdodlleolaGrŵpDiogeluOedolion eich Talaith.

Adnoddau ysgrifenedig

Adran Iechyd No Secrets (Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi, 2000)

Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon Time for Action (Llundain: CTBI 2002)

MaeCartrefiMethodistaiddi’rHenoed wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar ofalu am yr henoed.

13 Atodiad D

Atodiad D Adnoddau

Page 40: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

40

13 A

todi

ad D

D

1. M

ewn rhai achosion bydd y pryder yn ym

wneud yn uniongyrchol â’r gw

einidog neu’r cynrychiolydd diogelu. Os oes gw

einidog dan sylw, cysylltw

ch â C

hadeirydd y Dalaith a/neu Y

mgynghorydd D

iogelu’r Cyfundeb ar unw

aith. Ar gyfer paw

b arall, gofynnwch i G

ynrychiolydd Diogelu’r D

alaith am gyngor

2.Osyw

’rpryderynghylchrhywunsy’ngw

eithiogydaphlantneuoedolionsy’nagorediniwed(yngyflogedig,yndalsw

yddneu’nwirfoddolw

r)cysylltwch

â Chynrychiolydd D

iogelu’r Dalaith i drafod a ddylid hysbysu S

wyddog D

ynodedig yr Awdurdod Lleol neu’r sw

yddog sydd â rôl gyfatebol.

Ymate

b i h

onia

d o

niw

ed i o

edo

lyn a

alla

i fod y

n a

go

red i n

iwed

Nid oes gan yr oedolyn alluedd

Mae gan yr oedolyn alluedd

A oes brys?A oes perygl o niw

ed i eraill? (D

atgelwch bob am

ser niwed neu niw

ed posibl i blentyn neu oedolyn sy’n agored i niw

ed)N

ac oesO

es

A oes brys?A oes ar yr oedolyn eisiau

atgyfeiriad?

Nac oes

OesN

ac oesO

esN

ac oesO

es

Atgyfeiriw

ch at w

asanaethau oedolion2

neu’r heddlu a hysbyswch

y gweinidog a’r

cynrychiolydd diogelu1 ar

gyfer monitro a chefnogi

Hysbysw

ch y gweinidog

a’r cynrychiolydd diogelu1

er mw

yn ystyried yr opsiynau, sef:1. A

tgyfeiriad at w

asanaethau oedolion ar gyfer ystyriaeth am

lasiantaethol2. O

s yw’n fater i’r

eglwys yn unig,

datblygu strategaeth i fynd i’r afael â’r niw

ed

Atgyfeiriw

ch at w

asanaethau oedolion

2 neu’r heddlu a hysbysw

ch y gw

einidog a’r cynrychiolydd diogelu

1 ar gyfer m

onitro a chefnogi

Hysbysw

ch y gw

einidog a’r cynrychiolydd diogelu

1 er m

wyn ystyried

yr opsiynau (gw

eler chw

ith)

Cefnogw

ch yr oedolyn w

rth wneud

atgyfeiriad at w

asanaethau oedolion

2 neu’r heddlu a hysbysw

ch y gw

einidog a’r cynrychiolydd diogelu

1 ar gyfer m

onitro a chefnogi

Hysbysw

ch y gw

einidog a’r cynrychiolydd diogelu

1 ar gyfer m

onitro a chefnogi

Page 41: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

DIOGELU OEDOLION

40

Page 42: DIOGELU OEDOLION - Methodist · 2012. 5. 29. · angen trefniadau gofalus, gan gynnwys rhai cyfyngiadau, er mwyn iddynt ddychwelyd i gymdeithas yr Eglwys. Mae hyn yn unol â dealltwriaeth

Methodist Church House, 25 Marylebone Road, London NW1 5JRFfôn: 020 7486 5502 E-bost: [email protected]

Dylunio a chynhyrchu: Methodist Publishing,ar ran yr Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain.© Hawlfraint Ymddiriedolwyr Dibenion yr Eglwys Fethodistaidd 2010Elusen Gofrestredig Rhif 1132208

Methodist Publishing, 17 Tresham Road, Orton Southgate, Peterborough PE2 6SGFfôn: 01733 235962 E-bost: [email protected] Gwefan: www.methodistpublishing.org.uk