38
Cyrsiau Tŷ Newydd Gwanwyn a Haf 2015 Yn dathlu 25 mlynedd

Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

Cyrsiau Tŷ Newydd Gwanwyn a Haf 2015

Yn dathlu 25 mlynedd

Page 2: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW

01766 522811 [email protected]

@Ty_Newydd / @LlenCymru

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Thŷ Newydd a chyrsiau 2015, yn cynnwys ffurflenni archebu a chwestiynau cyffredinol, ewch i: www.tynewydd.org

Cysylltwch â ni

Lluniau gan: Richard Outram, Keith Morris a Geraint Edwards Dyluniwyd y rhaglen gan Hoffi - www.hoffi.comMae Tŷ Newydd yn rhan o Llenyddiaeth Cymru, y Cwmni Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru: www.llenyddiaethcymru.org

Page 3: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

1

“O! Am aros yn Nhŷ Newydd ddyddiau f’oes.” - Guto

Page 4: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

2

Croeso

Ym mis Ebrill 1990, agorodd Tŷ Newydd ei ddrysau i’r cwrs barddoniaeth cyntaf un, lle’r oeddwn i a’r bardd Robert Minhinnick yn tiwtora. Roeddem ni wrthi’n gorffen twtio’r tŷ, yn gosod blodau a chanhwyllau ar y bwrdd derw mawr yn yr ystafell fwyta, wrth i’r beirdd cyntaf gyrraedd. Yr wythnos honno, gwelsom feirdd a barddoniaeth yn blodeuo yn ystafelloedd cysurus Tŷ Newydd, lle’r oedd y ffenestri mawr yn edrych allan dros y borfa daclus at y môr, a mynyddoedd glas Eryri dros ddŵr Bae Ceredigion.

Roedd yn freuddwyd gennyf erioed i agor noddfa i eiriau, rhywle a fyddai’n perthyn i awduron, boed nhw yn brofiadol neu beidio. Tŷ lle byddai pobl yn ymgynnull dan gyfarwyddyd awduron profiadol, i gydweithio a bwyta ynghyd, ac i ymuno yn y ddefod syml o droi meddyliau yn eiriau.

Yr wythnos honno, a phob wythnos wedi hynny, fe lwyddom i greu rhywbeth hudolus. Bu pobl yn darllen, gwrando ac ysgrifennu ar y cyd ac yn mwynhau rhannu bwyd da, cwmnïaeth, sgwrs, a chwerthin mewn tŷ hanesyddol, ein cartref am bum niwrnod. Bob wythnos, mae teulu o awduron yn cael ei greu, ac yn aml cyfeillgarwch oes. Mae wedi newid bywydau pobl, yr ifanc a’r hen. Dewch i Dŷ Newydd. Dewch i brofi rhywbeth hudolus.

Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru

Page 5: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

3

Page 6: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

4

Tŷ Newydd

Yn ystod eich arhosiad, Tŷ Newydd, lle’r arferai’r Prif Weinidog David Lloyd George fyw a lle bu hefyd farw, fydd eich cartref. Cynlluniwyd y gerddi, sy’n edrych dros Fae Ceredigion a thirlun Eifionydd gan y pensaer enwog Syr Clough Williams-Ellis yn y 1940au, ac mae’n lleoliad perffaith i chi gael ysgrifennu mewn tawelwch.

Mae ffordd yn arwain dan flanced drwchus o ganghennau coed heibio man gorffwys Lloyd George i bentref bychan Llanystumdwy, lle mae croeso yn eich disgwyl yn Nhafarn y Plu. Gallwch ddal bws o’r pentref, neu gerdded i lawr yr allt o Dŷ Newydd tua’r môr a’r dref agosaf, Cricieth, lle mae digonedd o siopau a chaffis amrywiol.

I nifer, uchafbwynt eu arhosiad yn Nhŷ Newydd yw’r bwyd, a gaiff ei baratoi yn y gegin gyda’ch help chi gan ddefnyddio cynhwysion gan gyflenwyr lleol. Mae’r ystafell yn ganolbwynt i’r tŷ, yn ofod cymdeithasol lle mae syniadau yn cael eu rhannu wrth basio’r halen.

Page 7: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

5

“Mae Tŷ Newydd yn annwyl iawn i mi; tŷ o farddoniaeth, cwmnïaeth dda,

chwerthin a myfyrdod. Tŷ sy’n fy nenu yn ôl dro ar ôl tro.”

- Carol Ann Duffy, Bardd Llawryfog.

Page 8: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

6

Yn Nhŷ Newydd rydym yn credu fod profiadau ein cyrsiau yn unigryw. Rydym yn falch iawn o’n lletygarwch a’r awyrgylch anffurfiol. Mewn cydweithrediad agos â’n tiwtoriaid proffesiynol rydym wedi teilwra fformat pob cwrs i wneud y gorau o’ch amser chi yma. Boed chi yn Nhŷ Newydd am benwythnos neu am wythnos, bydd y tiwtoriaid yn arwain gweithdai i’ch helpu i archwilio agweddau penodol o’ch ysgrifennu.

Y Cyrsiau

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau byddwch yn rhannu’r tŷ gyda grŵp o hyd at 12 o awduron eraill. Bydd cyfle i chi fwynhau sesiynau grŵp, gweithdai, tiwtorialau a darlleniadau. Ond bydd wastad cyfle i ysgrifennu’n unigol, i gael mynd am dro ac i archwilio. Pan fo’n berthnasol ac os bydd yn bosib byddwn yn cynnig mentora un-i-un gwerthfawr i edrych ar eich gwaith.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau profiad hollol unigryw gyda ni, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i’ch croesawu atom i Dŷ Newydd.

Page 9: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

7

Pethau Ymarferol

Mae’r cyrsiau ar agor i bawb dros 16 oed, nid oes angen unrhyw gymwysterau. Mae staff Tŷ Newydd bob amser yn barod i gynghori unigolion ar ba mor addas yw’r cyrsiau, cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Gofynnir i gyfranogwyr gyrraedd ar noson gyntaf y cwrs rhwng 4.00 pm a 6.30 pm mewn pryd ar gyfer swper sydd am 7.00 pm. Rydym yn arlwyo ar gyfer llysieuwyr a rhai sydd â gofynion diet penodol - rhowch wybod i ni am eich gofynion wrth archebu lle ar y cwrs.

Mae cyfranogwyr yn helpu eu hunain i frecwast a chinio steil bwffe, ac yn cymryd eu tro i roi help llaw yn y gegin gyda gwaith paratoi prydau bwyd gyda’r nos. Gofynnwn i chi ddod â thywelion a deunyddiau ysgrifennu eich hunain. Mae cysylltiad di-wifr ar gael i’w ddefnyddio yn rhad ac am ddim yn Nhŷ Newydd a’r gerddi, ac mae gwasanaeth printio a llungopïo ar gael.

Mae lifft yn y tŷ yn rhoi mynediad llawn i’r prif stafelloedd i’r rhai sydd ag anawsterau symud. Mae gennym hefyd ystafell wely addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, sydd iddi ystafell ymolchi wedi ei haddasu’n bwrpasol.

Rydym yn cydnabod cyfyngiadau ambell un o’n hystafelloedd gwely. Gan fod hwn yn adeilad rhestredig Gradd II rydym yn adolygu’r opsiynau gorau ar sut i wella ein cyfleusterau yn gyson, gan gymryd i ystyriaeth etifeddiaeth a hanes pensaernïol yr adeilad.

Page 10: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

8

Sut i archebu

1. Llenwch ffurflen archebu. Gallwch lawrlwytho ffurflen archebu o www.tynewydd.org. Fel arall gallwch ffonio Tŷ Newydd ar 01766 522811 i ofyn am un. Gallwch ddychwelyd eich ffurflenni dros e-bost i [email protected], neu drwy’r post i: Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW.

2. Gofynnwn i chi ddarparu blaendal o £100 gyda phob ffurflen archebu i sicrhau eich lle ar y cwrs. Mae botymau PayPal i’w canfod ar dudalen pob cwrs unigol ar y wefan. Fel arall gallwch anfon siec gyda’r ffurflen yn y post (taladwy i Llenyddiaeth Cymru).

Ni allwn ad-dalu’r blaendal unwaith bydd yr archeb wedi ei gadarnhau. Mae’r swm llawn yn ddyledus 4 wythnos cyn cychwyn y cwrs. Os ydych yn canslo ar ôl y dyddiad hwn, yr unig adeg y bydd y swm yn cael ei ddychwelyd i chi yw os bydd eich lle yn cael ei lenwi ar y cwrs. Cynghorwn chi i ystyried cymryd yswiriant personol i’ch gwarchod rhag y posibilrwydd hwn.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ganslo hyd at 3 wythnos cyn cychwyn y cwrs. Yn yr achosion hyn, bydd yr holl arian yn cael ei ddychwelyd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r rhaglen.

Page 11: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

9

Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynd ar gwrs i Dŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’r incwm a lefel o brofiad. Gallwch dalu am ffioedd cwrs mewn rhandaliadau dros gyfnod uchafswm o 12 mis, heblaw am y blaendal na ellir ei ddychwelyd (£100 sy’n ddyledus wrth archebu).

Cymorth Ariannol

Ar gyfer unigolion a all fod angen cymorth ariannol, mae gennym fwrsariaethau, ond mae cyfyngiadau ar y gronfa. Er ein bod yn rhoi blaenoriaeth i bobl sydd ag incwm is, ni allwn sicrhau cymorth ariannol bob tro.

Er mwyn i ni asesu anghenion a bod yn deg gyda phawb, mae’n hollbwysig nodi cais am gymorth ariannol wrth archebu cwrs. Ni allwn ystyried cais am fwrsariaeth ar ôl i archeb gael ei wneud. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â staff Tŷ Newydd neu e-bostio: [email protected].

Page 12: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

10

Cyrsiau 2015

Page 13: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

11

1: Doniau Ifainc Newydd Dydd Gwener 6 – Dydd Sul 8 Chwefror

Tiwtoriaid: Tom Anderson a Hanna Jameson Ffi: £195

Ydych chi rhwng 16 a 30 oed, yn awchu am fod yn awdur ac eisiau mireinio’r sgiliau sydd eu hangen i greu cyfanwaith i’w gyhoeddi? Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar eich crefft, cynnwys y naratif, cyflymder y stori, trefn amser, arddull a datblygu cymeriadau. Byddwn yn defnyddio lleoliad anhygoel Tŷ Newydd i gynnal sesiwn gwylio’r sêr a byddwn yn mynd i weld y wawr ar draeth Cricieth. Cewch adborth gonest ac adeiladol ar eich gwaith, cyngor ar sut i fod yn llwyddiannus wrth drafod gyda gweisg, a chymorth ar sut i gyflwyno syniad, ysgrifennu broliant a thargedu cynulleidfa.

Bu Tom Anderson yn gweithio fel ymchwilydd preifat i amryw gleientiaid cyn datblygu gyrfa fel awdur teithio yn seiliedig ar ei deithiau fel syrffiwr. Daeth ei gofiant, Riding the Magic Carpet (2006) yn ffefryn ymysg teithwyr. Cyhoeddodd ei ffuglen gyntaf yn 2014, sef nofel gyffro oruwchnaturiol The Actaeon Tide. Tom yw Cadeirydd yr Academi Gymreig.

Drafftiodd Hanna Jameson ei nofel gyntaf, Something You Are, pan oedd yn ddim ond 17 oed, ac erbyn ei bod yn 21 roedd wedi llunio dwy nofel ddilynol. Yn 2013, cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Dagr John Creasy y Gymdeithas i Awduron Nofelau Ditectif am nofel drosedd gyntaf.

Ffuglen Ffeithiol Awduron Newydd

Page 14: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

12

2: Dosbarth Meistr: Ysgrifennu ar gyfer y Theatr a Pherfformio Dydd Llun 9 – Dydd Sadwrn 14 Chwefror

Tiwtor: Kaite O’ReillyFfi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

O sioeau theatr undyn i areithiau dramatig mewn dramâu aml-gymeriad, o reolau rhethreg Shakespeare i araith Mamet – bydd y cwrs hwn yn astudio’r sgiliau, y dulliau, yr estheteg a’r arferion sy’n creu deialog ddeinamig ac effeithiol wrth ysgrifennu ar gyfer y theatr. Bydd yn gwrs dwys iawn ar gyfer dramodwyr ymrwymedig, gan gynnig cymysgedd o theori a gweithdai ymarferol a chyfleoedd i rannu gwaith er mwyn derbyn adborth cefnogol a beirniadol.

Enillodd Kaite O’Reilly Wobr Ted Hughes am Weithiau Newydd mewn Barddoniaeth am ei fersiwn ddramatig o The Persians ar gyfer National Theatre Wales yn ei blwyddyn gyntaf. Roedd ei chyfosodiad o fonologau In Water I’m Weightless a gynhyrchwyd gan National Theatre Wales yn rhan o’r ŵyl swyddogol i ddathlu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yng

Nghanolfan South Bank. Mae ei gwaith wedi ei gynhyrchu’n eang, a hynny mewn 11 o wledydd ledled y byd.

www.kaiteoreilly.com /

@kaiteoreilly

Er mwyn i bawb gael elwa o lefel uchel o drafodaeth feirniadol a chyfranogiad, bydd yr awduron yn cael eu dethol ar gyfer y cwrs hwn. Cysylltwch â Thŷ Newydd i gael mwy o wybodaeth am y broses ddethol. Bydd opsiwn i’r mynychwyr gofrestru ar gwrs tebyg yn 2016 ac yn 2017 i annog cynnydd yn eu gwaith.

Theatr DramodwyrDosbarth Meistr

Page 15: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

13

3: Barddoniaeth a Dementia Dydd Gwener 27 Chwefror – Dydd Sul 1 Mawrth

Tiwtoriaid: Karen Hayes a John Killick Ffi: £275 (ystafell sengl) / £220 (rhannu ystafell)

Bydd y cwrs hwn yn rhoi blas ar yr hyn sydd ynghlwm â’r broses o ysgrifennu barddoniaeth gyda phobl â dementia. Anelir at ddangos y potensial sylweddol sydd yn y maes hwn, yn ogystal ag edrych ar ambell rwystr posib. Edrychir ar y nodweddion o ddementia sydd yn effeithio ar y gallu i gyfathrebu a dweud y gwirionedd, a chydweithio â staff a derbyn mentora. Mae’r ddau diwtor yn brofiadol iawn, ac wedi cyhoeddi’n helaeth yn y maes. Bydd y cwrs yn defnyddio clipiau sain a fideo i esbonio gwahanol agweddau’r pwnc.

Mae John Killick wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth gyda pobol sydd yn byw â dementia ers ugain mlynedd, ac wedi cyhoeddi chwe cyfrol o farddoniaeth. Roedd yn Gymrawd Ymchwil mewn cyfathrebu drwy’r celfyddydau yn Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Stirling am chwe mlynedd. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Playfulness and Dementia.

Bardd a libretydd yw Karen Hayes sy’n gweithio gyda phobl â dementia. Mae wedi cyhoeddi tair blodeugerdd o farddoniaeth yn y maes. Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu i brosiect Horizon Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n gweithio gyda phlant sydd ag anableddau difrifol ac oedolion â dementia i greu libreto, cerddoriaeth, a ffilm newydd.

Iechyd a Lles Barddoniaeth Datblygu Sgiliau

Page 16: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

14

4: Y Neuadd Dydd Gwener 6 – Dydd Sul 8 Mawrth

Tiwtoriaid: Siân Melangell Dafydd ac Angharad Elen Ffi: £195

Mae’r cwrs hwn wedi ei anelu at awduron addawol yn y Gymraeg sy’n dymuno arbrofi â genre a chrefft. Dyma gyfle gwych i ddysgu o brofiad ac arbenigedd golygyddion Y Neuadd (yneuadd.com) wrth iddynt roi cyngor ac arweiniad ar eich gwaith. Croesawn feirdd, perfformwyr, adolygwyr, ac awduron ffeithiol a ffuglen mewn amryw genre i ddatblygu eu gwaith a chael y cyfle i gyhoeddi darn yng nghylchgrawn llenyddol ar-lein Y Neuadd.

Enillodd Siân Melangell Dafydd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009 am ei nofel gyntaf Y Trydydd Peth. Mae Siân yn gydolygydd cylchgrawn Taliesin ac Y Neuadd. Mae’n addysgu Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol Americanaidd ym Mharis, ac mae’n hyfforddi ioga. Mae’n mwynhau cydweithio gydag artistiaid a dawnswyr i greu gwaith newydd.

Mae Angharad Elen yn gweithio i Gwmni Da fel cynhyrchydd teledu ac mae’n gydolygydd cylchgrawn Taliesin ac Y Neuadd. Yn ddiweddar enillodd Wobr BAFTA Cymru a’r brif wobr yn Ngŵyl Celtic Media am y rhaglen ddogfen, Gerallt. Mae Angharad yn sgriptwraig ac mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn amryw gyhoeddiadau.

Rhyddiaith Ffuglen Barddoniaeth Ffeithiol

Page 17: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

15

5: Encil y Gwanwyn Dydd Llun 16 – Dydd Gwener 20 Mawrth

Ffi: £415

Ydych chi’n ysu i gael dianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd, a dod o hyd i noddfa greadigol – y lleoliad perffaith, heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i ysgrifennu, darllen neu fyfyrio?

Bydd ein hwythnos o encil yn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd yn cynnig y ddihangfa greadigol berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y lôn goed neu ymweld â’r dafarn leol. Cewch eich ysbrydoli gan olygfeydd godidog Bae Ceredigion, rhannu syniadau dros swper, neu ymlacio yn llonyddwch llyfrgell glyd Tŷ Newydd.

Bydd gan bawb ei ystafell ei hun, a bydd prydau bwyd cartref o gynnyrch lleol yn cael eu paratoi ar eich cyfer. Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Dŷ Newydd, cartref llenyddiaeth Cymru.

Encil

Page 18: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

16

6: Ysgrifennu Ffuglen ar gyfer Cynulleidfa Ifainc Dydd Llun 13 – Dydd Gwener 17 Ebrill

Tiwtoriaid: Lucy Christopher a Julia Green Siaradwr Gwadd: Annalie Grainger Ffi: £460 (ystafell sengl); £395 (rhannu ystafell)

Bydd y cwrs hwn yn ysbrydoli ac yn cefnogi eich ysgrifennu ar gyfer bobl ifainc o bob oed, o lyfrau llun a stori i ffuglen pobl ifainc a phopeth rhwng y ddau. Dewch i weld y byd drwy lygaid plentyn, i archwilio eich dychymyg ac i ganfod llwybrau newydd i’w dilyn gyda’ch ysgrifennu ar gyfer yr ifainc. Bydd Annalie Grainger, golygydd comisiynu ffuglen yn Walker Books, yn westai ar y cwrs, a bydd yn cynnig cyngor ac argymhellion ynglŷn â’r byd cyhoeddi.

Ganwyd Lucy Christopher yng Nghymru, ond fe’i magwyd yn Awstralia. Hi yw awdur Stolen, Flyaway a The Killing Woods, tair nofel i bobl ifainc sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae Lucy yn Uwch Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ac mae ar hyn o bryd yn addasu Stolen ar gyfer y sgrin, ynghyd ag ysgrifennu ei phedwaredd nofel i oedolion ifanc.

Mae Julia Green yn awdur ar bymtheg llyfr i bobl ifainc, gan gynnwys saith o nofelau i oedolion ifainc a straeon i blant iau. Ei nofelau diweddaraf yw Seal Island a This Northern Sky. Julia yw Cyfarwyddwr cwrs hynod lwyddiannus MA Ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifainc ym Mhrifysgol Bath Spa, ac mae’n diwtor profiadol ac ysgogol iawn.

Ffuglen Cynulleidfa Ifainc

Page 19: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

17

Tiwtor: Siân Melangell Dafydd Ffi: £275 (ystafell sengl) / £220 (rhannu ystafell)

Mae ysgrifennu a ioga yn gyfuniad creadigol. Ar y cwrs hwn, byddwn yn defnyddio myfyrdod, pranayama (ymarferion anadlu) ac asana (ystumiau) i dawelu cleber y meddwl anwadal a chanfod gofod i fwynhau defnyddio geiriau. Byddwn yn edrych ar ystyr llais neu dharma – ar y mat, ar bapur a thu hwnt. Drwy gyfuno ymarferion ioga gydag ymarferion ysgrifennu, cawn weld sut y daw ysgrifennu i fod yn fater brys a gwreiddiol. Byddwn hefyd yn defnyddio ysgrifennu fel dull i fyfyrio. Bydd y penwythnos hwn yn chwareus, arbrofol a hwyliog. Dewch â mat ioga a llyfr nodiadau. Cwrs addas ar gyfer pob lefel o ysgrifennu a ioga.

Bu Siân Melangell Dafydd yn ymarfer ioga ers 2001 wrth ganfod ei fod yn ei helpu fel awdur. Y mae’n athrawes wedi ei hardystio gan y Gynghrair Ioga ac mae’n addysgu gyda Dharma Yoga Inspired. Hi yw awdur y nofel Y Trydydd Peth, a enillodd iddi Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009, ac ymddangosodd ei straeon byrion a’i cherddi mewn amrywiaeth o

gyhoeddiadau, gan gynnwys The Best British Short Story 2014 a The Best British Poetry 2014. Y mae’n gydolygydd ar gylchgronau llenyddol Taliesin ac Y Neuadd ac mae ar hyn o bryd wrthi’n cyfieithu gwaith Rabindranath Tagore, enillydd Gwobr Nobel o Bengal, i’r Gymraeg.

www.sianmelangell.wordpress.com

7: Ioga ac Ysgrifennu Dydd Gwener 17 – Dydd Sul 19 Ebrill

RhyddiaithBarddoniaeth Ioga

Page 20: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

18

Tiwtoriaid: Gillian Clarke a Maura DooleySiaradwr Gwadd: Samantha Wynne-Rhydderch Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)Dyddiad Cau Ymgeisio: Dydd Llun 9 Chwefror

Dyma’r cyfle i feirdd ymrwymedig fynd a’u gwaith i lefel uwch. Bydd y Dosbarth Meistr hwn yn cynnwys gweithdai grŵp, cyfarfodydd grŵp bach er mwyn trafod a chefnogi, ynghyd ag amser i ysgrifennu’n unigol. Bydd y gweithdai dyddiol yn sbarduno cerddi newydd ac yn annog trafodaeth ar waith sydd ar y gweill. Yn ystod yr wythnos, bydd y tiwtoriaid a’r siaradwr gwadd yn rhoi darlleniadau. Caiff y cyfranogwyr olygu a chyfrannu at flodeugerdd, a phenllanw’r cwrs fydd darlleniad i ddathlu ar y nos Wener.

8: Dosbarth Meistr Barddoniaeth Dydd Llun 20 – Dydd Sadwrn 25 Ebrill

Er mwyn i bawb gael elwa o lefel uchel o drafodaeth feirniadol a chyfranogiad, bydd y beirdd yn cael eu dethol ar gyfer y cwrs hwn. Cysylltwch â Thŷ Newydd i gael mwy o wybodaeth am y broses ddethol.

Dosbarth Meistr Barddoniaeth

Page 21: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

19

Gillian Clarke yw Bardd Cenedlaethol Cymru ers 2008. Yn 2010, dyfarnwyd iddi Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth, a derbyniodd Wobr Wilfred Owen yn 2012. Cyhoeddodd 13 o lyfrau i oedolion, a nifer hefyd i blant, fel awdur, cyfieithydd neu olygydd. Rhoddwyd ei chasgliad cyhoeddedig diweddaraf Ice, a gyhoeddwyd gan Carcanet, ar restr fer Gwobr T S Eliot 2012.

www.gillianclarke.co.uk

Awdur a bardd llawrydd yw Maura Dooley, ac mae’n darlithio yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Bu ddwywaith ar restr fer Gwobr T S Eliot, yn 1996 am ei chasgliad

Kissing a Bone ac yn 2008 am Life Under Water. Cafodd dau o’i chasgliadau eu rhestru ymhlith Argymhellion y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth, ac ym 1997 rhoddwyd ei cherdd ‘The Message’ ar restr fer Gwobr Barddoniaeth Forward am y gerdd unigol orau.

Mae Samantha Wynne-Rhydderch wedi cyhoeddi tri chasgliad, Rockclimbing in Silk, Not in These Shoes a cyhoeddwyd ei chyfrol ddiweddaraf, Banjo, gan Picador yn 2012. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, a bu ar restr fer Gwobr Michael Marks yn 2014 am ei phamffled Lime & Winter.

Page 22: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

20

Tiwtoriaid: Mark Cocker a Rhian Edwards Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

O daith hadau’r ysgall neu baill y gwair, i draffig y cacwn neu ymfudo’r gwenoliaid; mae symud drwy’r awyr yn rhan allweddol o holl brosesau natur. Drwy gyfuniad o weithdai, gwibdeithiau a chydfyfyrio, byddwn yn archwilio’r bywyd gwyllt a’r tirlun hyfryd o amgylch Tŷ Newydd er mwyn rhoi ein dychymyg ar wib.

Naturiaethwr ac ymgyrchydd amgylcheddol yw Mark Cocker sy’n ysgrifennu ac yn darlledu am natur a bywyd gwyllt mewn amrywiaeth o gyfryngau cenedlaethol. Ei lyfrau diweddaraf yw Claxton: Field Notes from a Small Planet a Birds and People, sy’n waith ar y cyd gyda’r ffotograffydd David Tipling. Rhoddwyd ei waith blaenorol, Crow Country, ar restr fer Gwobr Samuel Johnson yn 2008, ac enillodd Wobr Lenyddiaeth New Angle yn 2009.

Enillodd Rhian Edwards Llyfr y Flwyddyn 2013 gyda’i chyfrol Clueless Dogs, ac roedd ar restr fer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau 2012. Enillodd Rhian Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar yn 2011. Ymddangosodd ei cherddi mewn llawer o gyhoeddiadau, gan gynnwys The Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Poetry London a Poetry Wales.

9: Adar, Gwenyn a Thaith y Dychymyg Dydd Llun 4 – Dydd Sadwrn 9 Mai

Ffeithiol Barddoniaeth Ffuglen Natur

Page 23: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

21

Tiwtor: Angeli MacfarlaneSiaradwr Gwadd: Kieran Evans Ffi: £460 (ystafell sengl); £395 (rhannu ystafell)

Mae trawsnewid o weithio ar y dudalen i’r sgrin yn gallu bod yn her. Sut mae datblygu cymeriadau credadwy, a threfnu haenau o naratif a hynny ar linell amser addas? Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar sut i ddatblygu naratif sy’n addas ar gyfer ffilm a theledu. Sut i greu strwythur soled, cymeriadau cymhleth a gwych a golygfeydd atyniadol. Drwy weithdai, ymarferion a thiwtora unigol, bydd y mynychwyr yn ennill sgiliau, yn derbyn gwybodaeth ymarferol hollbwysig ac yn magu hyder mewn scriptio a chyflwyno syniad.

Mae Angeli Macfarlane yn gynhyrchydd ac yn olygydd sgript bydenwog. Mae hi’n darparu ymgynghoriaeth yn y maes ac mae’n hyfforddi awduron, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr dros y byd. Mae hi’n brif diwtor yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol ac mae ei gwaith yn cynnwys: Death of a President, I am Slave, The Guard, Borrowed Time ac Outlaw Prophet i Sony TV.

Cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr o Gymru yw Kieran Evans sy’n weithgar ar draws llawer o genres: fideos cerddoriaeth, teledu a ffilmiau dogfen a ffeithiol. Enillodd wobr BAFTA am Brif Ffilm Gyntaf Ragorol am ei ffilm Kelly + Victor yn 2014, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar y gyfres dditectif boblogaidd, Y Gwyll.

10: Stiwdio Sgript Dydd Llun 11 – Dydd Gwener 15 Mai

Ffilm a Theledu Sgriptio Datblygu Sgiliau

Page 24: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

22

Tiwtoriaid: Paul Henry a Mike Jenkins Ffi: £275 (ystafell sengl); £220 (rhannu ystafell)

Bydd y cwrs hwn yn addas i rai sy’n awyddus i fynd ati i ysgrifennu barddoniaeth am y tro cyntaf a’r rhai sydd eisiau dychwelyd at eu crefft. Bydd cyfuniad o weithdai a thiwtorialau, wedi eu cynnal mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol, yn cynnig amrywiaeth o ddulliau i fynd ati i ysgrifennu barddoniaeth. Bydd y cwrs yn ysbrydoli gwaith newydd ac yn rhoi hwb i’r hyder ar y cam cyffrous hwn yn eich gwaith ysgrifennu.

Bardd a chyfansoddwr caneuon yw Paul Henry. Y mae’n awdur ar chwe chasgliad o gerddi. Bu Paul yn addysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru a bu’n westai-olygydd i Poetry Wales. Y mae hefyd wedi ysgrifennu a chyflwyno rhaglenni yn y celfyddydau ar gyfer BBC Radio 3 a Radio 4. Caiff ei lyfr diweddaraf Boy Running ei gyhoeddi yn 2015.

www.paulhenrywales.co.uk

Mae Mike Jenkins yn gyn-olygydd Poetry Wales a bu’n gydolygydd cylchgrawn Red Poets am 20 mlynedd. Y mae wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Eric Gregory, Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar a Gwobr Awduron Ifanc Cyngor Celfyddydau Cymru. Ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth (ei bymthegfed) yw Shedding Paper Skin a gaiff ei lansio yng ngwanwyn 2015.

11: Barddoniaeth i Ddechreuwyr Dydd Gwener 15 – Dydd Sul 17 Mai

Barddoniaeth Awduron Newydd

Page 25: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

23

Awdur Preswyl: Mona Arshi Ffi: £415

Ydych chi’n ysu i gael dianc rhag y cyfan, a chael llonydd i ysgrifennu, darllen neu fyfyrio? Os felly, ein hwythnos o encil yn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd yw’r ddihangfa greadigol berffaith. Gallwch fynd am dro ar hyd y lôn goed neu ymweld â’r dafarn leol. Cewch eich ysbrydoli gan olygfeydd godidog Bae Ceredigion, rhannu syniadau dros swper, neu ymlacio yn llonyddwch llyfrgell glyd Tŷ Newydd.

Bydd yr awdur preswyl, Mona Arshi, ar gael drwy gydol yr wythnos i gynnig cyngor ar y gwaith sydd gennych ar y gweill. Bydd gan bawb ei ystafell ei hun, a bydd prydau bwyd cartref o gynnyrch lleol yn cael eu paratoi ar eich cyfer.

Ganwyd Mona Arshi yng ngorllewin Llundain i rieni Sikhaidd o Punjab, ac mae’n dal i fyw yno. Hyfforddodd fel cyfreithwraig a bu’n gweithio am sawl blwyddyn i Liberty, sefydliad hawliau dynol y Deyrnas Unedig.

Yn 2011 enillodd Mona Gystadleuaeth Farddoniaeth gyntaf Magma, a daeth yn gydradd gyntaf yng Ngwobr Farddoniaeth Manceinion yn 2014. Caiff ei chasgliad cyntaf, Small Hands, ei gyhoeddi yn 2015.

12: Encil yr Haf Dydd Llun 1 – Dydd Gwener 5 Mehefin

Encil

Page 26: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

24

Tiwtoriaid: Eimear Ryan a Rachel Trezise Ffi: £275 (ystafell sengl) / £220 (rhannu ystafell)

Bydd y cwrs ffuglen hwn i ddechreuwyr yn canolbwyntio’n bennaf ar y stori fer, ac yn cynnwys gweithdai grŵp a thiwtorialau unigol. Byddwn yn ystyried elfennau hanfodol y stori fer a ffuglen yn gyffredinol: cychwyn arni, teitlau, llinellau agoriadol, cymeriadau, safbwynt, plot, gwrthdaro, ôl-stori, deialog, themâu, clo, a chyflwyno eich gwaith gorffenedig. Ar ddiwedd y cwrs, dylai’r cyfranogwyr allu parhau a’u gwaith eu hunain yn hyderus, neu efallai y byddant wedi dechrau ar brosiect newydd cyffrous.

Awdur Gwyddelig o Swydd Tipperary yw Eimear Ryan, sydd bellach yn byw ac yn ysgrifennu yn ninas Cork. Ymddangosodd ei ffuglen fer yn The Dublin Review, The Stinging Fly, The Irish Times, a blodeugerdd Faber Town & Country. Enillodd Wobr Hennessy, Gwobr Awduron Ifanc Sean Dunne, a Gwobr Awdur Newydd Over the Edge.

www.eimearryan.tumblr.com

Yn 2006, enillodd Rachel Trezise Wobr Dylan Thomas am ei chasgliad cyntaf o ffuglen fer Fresh Apples, ac yn 2014 enillodd Wobr y Darllenwyr yng Ngwobrau Stori Fer Edge Hill am ei hail gasgliad, Cosmic Latte. Llwyfannwyd ei drama hir gyntaf, Tonypandemonium, gan National Theatre Wales yn 2013 gan ennill Gwobr y Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru yn 2014.

www.racheltrezise.co.uk

13: Rhyddiaith i Ddechreuwyr Dydd Gwener 12 – Dydd Sul 14 Mehefin

Ffuglen Awduron Newydd

Page 27: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

25

Tiwtoriaid: Hugh Lupton a Daniel Morden Ffi: £275 (ystafell sengl) / £220 (rhannu ystafell)

Straeon llên gwerin, hanesion tylwyth teg a chwedlau ein cyndadau yw sylfaen pob stori a adroddwyd ers hynny. Mae’r cwrs adrodd straeon hwn i ddechreuwyr yn gyfle i ddysgu sut i baratoi a pherfformio chwedlau traddodiadol yng nghwmni dau o diwtoriaid gorau Prydain ym maes celfyddyd adrodd straeon. Erbyn diwedd y penwythnos, byddwch wedi adrodd a chlywed llawer o straeon.

Am 30 mlynedd, bu Hugh Lupton yn ffigwr canolog yn yr adfywiad ym maes adrodd straeon ym Mhrydain. Mae’n adrodd chwedlau a straeon llên gwerin o lawer o ddiwylliannau ond mae ganddo ddiddordeb arbennig yn yr haenau o dirwedd a’r straeon a’r baledi sy’n rhoi llais iddynt. Y mae wedi ysgrifennu sawl casgliad o straeon gwerin ac un nofel - The Ballad of John Clare.

Bu Daniel Morden yn adroddwr straeon proffesiynol ers 1989. Y mae wedi perfformio ledled y byd, o Efrog Newydd i Nairobi. Enillodd Wobr Tir na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru ddwywaith am ei arddull o adrodd straeon traddodiadol.

14: Adrodd Straeon i Ddechreuwyr Dydd Gwener 10 – Dydd Sul 12 Gorffennaf

Adrodd Straeon Dechreuwyr

Page 28: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

26

Tiwtoriaid: Julie Cohen a Rowan ColemanSiaradwr Gwadd: Katie Fforde Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

Ffuglen boblogaidd i fenywod yw canran enfawr o’r farchnad ffuglen i oedolion, yn amrywio o’r masnachol i’r llenyddol, o’r straeon rhamant comig cyfoes i sagâu dros sawl cenhedlaeth a ffuglen hanesyddol. Mae ffuglen menywod yn ymwneud â stori’r ferch, ei gobeithion, ei hofnau, ei ffantasïau a’i grym, boed i’r stori orffen mewn trasiedi neu â diweddglo hapus. Mae’r cwrs hwn yn addas i rai sy’n bwriadu dechrau ar eu nofel, neu ddatblygu gwaith sydd ar y gweill i safon sy’n ddigon uchel i’w gyflwyno i gyhoeddwr.

15: Ysgrifennu Ffuglen Boblogaidd i Fenywod Dydd Llun 20 – Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf

Ffuglen Boblogaidd

Page 29: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

27

Mae Julie Cohen wedi gwerthu dros dri chwarter miliwn o gopïau ledled y byd, mewn dros pymtheg o ieithoedd. Mae wedi ennill sawl gwobr, neu gyrraedd y rhestr fer, gan gynnwys Gwobr Ramant Cymdeithas y Nofelwyr Rhamantus, Medaliwn HOLT, Gwobr Dewis y Darllenwyr Cenedlaethol, Gwobr PRISM a Chalon Aur Awduron Rhamant America. Roedd nofel Julie, Dear Thing, ymhlith detholiad Clwb Llyfrau Richard a Judy yn haf 2014.

Enillodd Rowan Coleman Awdur Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Company Magazine yn 2001, ac mae wedi ysgrifennu deg o nofelau ers hynny, gan

gynnwys Dearest Rose, a enillodd Lyfr Rhamantus Gorau yr Ŵyl Ramant yn 2012, a Nofel Ramant Epig RoNA yn 2013. Roedd ei nofel ddiweddaraf The Memory Book ymhlith detholiad Clwb Llyfrau Richard a Judy yn hydref 2014 ac roedd ar restr deg uchaf y Sunday Times o ran gwerthiant.

Awdur ffuglen arobryn yw Katie Fforde, a gyrhaeddodd dop rhestr gwerthiant y Sunday Times. Hi yw Llywydd Cymdeithas y Nofelwyr Rhamantus, ac mae’n cynnig cymorth i awduron newydd drwy ei Ysgoloriaeth Katie Fforde.

Page 30: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

28

Tiwtoriaid: Daljit Nagra a Pascale Petit Guest: Liz Berry Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

Sut mae rhoi bywyd newydd, egnïol i hen chwedl? Neu, sut gallwch drawsffurfio eich bywyd i fod yn chwedl newydd sbon? Bydd y pwyslais ar ysgrifennu mor eofn, mor lliwgar ac mor ddwfn ag a fentrwch. Bydd digon o weithdai i sbarduno cerddi, sgyrsiau unigol ac amser gwerthfawr i ysgrifennu ar gael.

Rhoddwyd llyfr cyfredol Daljit Nagra, Ramayana ar restr fer Gwobr T S Eliot. Ef yw’r Tiwtor Barddoniaeth Arweiniol yn y Faber Academy a bu’n cynnal gweithdai ledled y byd. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd at raglenni radio’r BBC ac mae wedi ysgrifennu erthyglau i’r Financial Times, The Guardian, The Observer a The Times of India.

Cyhoeddwyd cyfrol ddiweddaraf Pascale Petit, Fauverie gan Seren yn 2014 ac enillodd detholiad o gerddi ohoni Wobr Farddoniaeth

Manceinion. Cafwyd ei chasgliad blaenorol o gerddi, What the Water Gave Me: Poems after Frida Kahlo, ei chynnwys ar restr fer Gwobr T S Eliot a Llyfr y Flwyddyn, ac fe enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn The Observer.

www.pascalepetit.co.uk

Dewiswyd casgliad cyntaf Liz Berry, Black Country fel un o awgrymiadau’r Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth, ac fel Llyfr Barddoniaeth y Mis gan The Observer, ac fe enillodd Wobr Forward am Gasgliad Cyntaf Gorau.

16: Creu Chwedlau: Cwrs Barddoniaeth Dydd Llun 27 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 1 Awst

Chwedlau Barddoniaeth

Page 31: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

29

Tiwtoriaid: Jay Griffiths a Robert Minhinnick Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

Y newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i’n cymdeithas a’n hamgylchedd. Mae’r cwrs hwn yn annog pob ffurf ar ysgrifennu dychmygus ynglŷn â’r ffenomen hon, o ddisgrifiadau o’r presennol i sefyllfaoedd posibl yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys trafodaethau a dadleuon, gweithdai a thiwtorialau unigol, a bydd yn denu pobl ar bob lefel o brofiad ym maes ffeithiol, ffuglen a barddoniaeth. Mae’r cwrs yn tybio eich bod yn cytuno â’r consensws gwyddonol cryf bod y newid yn yr hinsawdd yn realiti. Bydd digon o gyfleoedd i fynd am dro a mwynhau amgylchedd Tŷ Newydd.

Enillodd Jay Griffiths Wobr Discover i’r awdur ffeithiol newydd gorau i gael ei chyhoeddi yn UDA am ei llyfr Pip Pip: A Sideways Look at Time. Rhoddwyd ei llyfr Kith: The Riddle of the Childscape ar restr hir gwobr Orwell ac enillodd Wild: An Elemental Journey Wobr Llyfr Orion gyntaf yn 2007.

www.jaygriffiths.com

Robert Minhinnick yw un o gydsylfaenwyr Cyfeillion y Ddaear Cymru ac elusen Cymru Gynhaliol. Y mae’n fardd a thraethodydd a enillodd Wobr Forward ddwywaith am y gerdd unigol orau, ac mae wedi ennill Llyfr y Flwyddyn ddwywaith. Cyhoeddir ei nofel Limestone Man yn 2015, yn ddilyniant i Sea Holly, a roddwyd ar restr fer Gwobr Ondaatje yn 2008.

17: Ysgrifennu am Newid Hinsawdd Dydd Llun 3 – Dydd Sadwrn 8 Awst

AmgylcheddFfuglen Ffeithiol Barddoniaeth

Page 32: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

30

Tiwtoriaid: Damian Walford Davies a Helen Mort Siaradwr Gwadd: Matthew Francis Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

Mae’r cwrs hwn yn ystyried gallu barddoniaeth i godi ofn. Sut mae barddoniaeth yn creu aflonyddwch ac yn cyfathrebu elfennau bwganaidd? Pa dechnegau sydd ar gael i ysgwyd y darllenydd ond gan osgoi cyffro gormodol? Dan arweiniad dau fardd sydd â’u gwaith diweddar yn mentro i’r maes hwn, bydd y cwrs yn apelio at feirdd newydd a phrofiadol, ar adeg pan fo ysgrifennu am elfennau bwganaidd yn sicr yn ffasiynol unwaith eto.

Mae Damian Walford Davies yn awdur ar bedair cyfrol o gerddi: Whiteout, Suit of Lights, Witch a Judas. Y mae newydd gwblhau Docklands, stori ysbryd sydd wedi ei gosod yn ardal y doc yng Nghaerdydd yn y 1890au. Ef yw Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhoddwyd cyfrol gyntaf Helen Mort, Division Street, ar restr fer Gwobr T S Eliot a Gwobr Farddoniaeth Costa.

Roedd ei phamffled, A Pint for the Ghost , yn un o ddewis bamffledi’r Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth. Y mae’n Gymrawd Diwylliannol ym Mhrifysgol Leeds.

Cyfrol ddiweddaraf Matthew Francis yw Muscovy. Rhoddwyd ei farddoniaeth ddwywaith ar restr fer Gwobr Forward, ac yn 2004 fe’i dewiswyd yn un o feirdd y Genhedlaeth Nesaf.

Bydd opsiwn i’r mynychwyr gofrestru ar gwrs tebyg yn 2016 ac yn 2017 i annog cynnydd yn eu gwaith.

18: Barddoniaeth a’r Bwganaidd Dydd Llun 10 – Dydd Sadwrn 15 Awst

Barddoniaeth Goruwchnaturiol

Page 33: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

31

Tiwtoriaid: D.D. Johnston a Tyler Keevil Siaradwr Gwadd: Holly Ainley Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

Bydd y cwrs deinamig hwn yn edrych ar dri cham o ysgrifennu nofel. Datblygu syniad ac agoriad effeithiol a fydd yn cydio yn nychymyg eich darllenwyr; ystyried cwestiynau arddulliadol a strwythurol pwysig; ac yn olaf, agweddau ymarferol ar roi eich pecyn at ei gilydd yn barod i’w gyflwyno, cysylltu ag asiantau a golygyddion, a chanfod eich llwybr yn y diwydiant cyhoeddi. Bydd Holly Ainley, golygydd ffuglen gyda Myriad Editions, yn westai ar y cwrs, a bydd yn cynnig cyngor ac argymhellion ynglŷn â’r byd cyhoeddi.

Mae D.D. Johnston yn uwch ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Ei nofel gyntaf, Peace, Love, & Petrol Bombs, oedd Llyfr y Flwyddyn y Sunday Herald yn 2011 a’i ail nofel arbrofol The Deconstruction of Professor Thrub, oedd Llyfr y Flwyddyn The Morning Star yn 2013.

Symudodd Tyler Keevil i Gymru o Ganada yn 2003. Bu ar restr hir Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, ac enillodd Wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn yn 2013 am ei nofel, The Drive. Mae ei gasgliad cyntaf o ffuglen fer, Burrard Inlet, yn cynnwys y stori ‘Sealskin’ a enillodd Gwobr Journey yn 2014. Y mae bellach yn darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw.

19: Dechrau ar eich Nofel Dydd Llun 17 – Dydd Sadwrn 22 Awst

Ffuglen Cyhoeddi

Page 34: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

32

Tiwtoriaid: Jemma L. King a Marli Roode Ffi: £575 (ystafell sengl) / £475 (rhannu ystafell)

Sut mae cymeriadau benywaidd cryf a chofiadwy yn atseinio ar y dudalen? Sut mae disgwyliadau’r darllenydd yn newid wrth ddarllen o safbwynt y ferch yn hytrach na’r dyn? Sut mae llenyddiaeth sy’n cael eu hadrodd o safbwynt y ferch yn osgoi bod yn llenyddiaeth ‘i’ fenywod? Cewch eich arwain ar y cwrs hwn i ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith yn llais y ferch a sicrhau y caiff ei glywed mewn ffordd gyfoes a bywiog.

Mae Jemma L. King wedi darllen a chyhoeddi ei gwaith yn rhyngwladol, ac enillodd Wobr Awdur Cymreig Ifanc y Flwyddyn Terry Hetherington yn 2011. Rhoddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, The Shape of a Forest, ar restr fer Gwobr Dylan Thomas yn 2013 a rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2014. Cafodd ei dewis yn Gymrawd Scritture Giovanni ar gyfer 2014.

Rhoddwyd nofel gyntaf Marli Roode, Call It Dog, ar restr fer Gwobr Dylan Thomas yn 2013, ac ar restr hir Gwobr Ffuglen The Sunday Times. Cyhoeddwyd ei straeon byrion, Second Degree a Spring Tide yn y Bristol Short Story Prize anthologies yn 2009 a 2010; a rhoddwyd Pieces Green ar restr fer Gwobr Bridport yn 2011. Yn 2014, cafodd ei henwi yn un o 200 o Bobl Ifanc De Affrica gan y Mail & Guardian.

20: Y Ferch fel Prif Gymeriad Dydd Llun 31 Awst – Dydd Sadwrn 5 Medi

RhyddiaithBarddoniaeth

Page 35: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

33

Mae llenyddiaeth yn cynnig llais i bobl. Gall darllen ac ysgrifennu creadigol, mewn grwpiau ac yn unigol, wella lles a iechyd meddwl, yn ogystal ag annog pobl i ddatblygu dealltwriaeth emosiynol.

Ers nifer o flynyddoedd, bu Tŷ Newydd yn cynnig cyrsiau ac yn sbarduno prosiectau i feithrin gwell dealltwriaeth yn y maes hwn. Drwy ymchwil mewn partneriaeth ag academyddion blaenllaw a sefydliadau arbenigol, a gwaith allgymorth gyda grwpiau anodd eu cyrraedd ac ar yr ymylon, y nod fu chwalu’r rhwystrau i fynegiant creadigol a galluogi’r grwpiau hyn i ganfod llais.

Yn 2015, bydd Tŷ Newydd yn lansio cyfres newydd o fentrau a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar weithio gyda phobl sy’n dioddef o ddementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Bydd datblygu arferion gorau a chanllawiau clir gydag awduron, ac ar eu cyfer, yn sylfaen i raglenni cynaliadwy mwy hirdymor yn y maes hwn. Bydd Tŷ Newydd yn parhau i gynnig cyrsiau preswyl ym maes iechyd a lles fel rhan ganolog o’r mentrau newydd hyn.

Bydd mwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn ar gael ar-lein yn y gwanwyn www.tynewydd.org neu gallwch gysylltu â [email protected] i holi ymhellach.

Ysgrifennu ym Maes Iechyd a Lles

Page 36: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

34

Mae Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag i brifysgolion. Mae pob cwrs yn unigryw. Rydym yn cydweithio ag athrawon i drefnu cyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer y dosbarth dan sylw gan gynnig dewis o genre, cynnwys a thiwtoriaid addas.

Yn Nhŷ Newydd, caiff pobl ifainc:

• Yr amser, y lle a’r hyder i archwilio eu potensial fel awduron mewn amgylchedd llawn ysbrydoliaeth

• Gyngor a mentora gan ddau awdur proffesiynol

• Y cyfle i deimlo, ymateb a rhannu drwy ysgrifennu

Mae’r profiad o dreulio’r amser hwn yn awyrgylch Tŷ Newydd a chael y cyfle i ganolbwyntio ar ysgrifennu yn werthfawr tu hwnt, nid yn unig o ran datblygu sgiliau ysgrifennu’r disgyblion a’u gallu i fynegi eu hunain, ond hefyd o ran datblygu eu sgiliau cymdeithasol.

Am fwy o wybodaeth am drefnu ymweliad ysgol â Thŷ Newydd, cysylltwch: 01766 522811 / [email protected]

Ysgolion

Page 37: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

35

“Dyma bum niwrnod gorau fy mywyd, erioed!”

- Ruby, disgybl ysgol.

Page 38: Cyrsiau Tŷ Newydd - Gwanwyn a Haf 2015

36

Encil Adrodd Straeon gyda Hugh Lupton ac Eric Maddern 5 - 10 Hydref

Ysgrifennu am y Goruwchnaturiol gyda Sophie Cooke a Toby Litt 26 – 30 Hydref

Rhith-Ysgrifennu gyda Mark McCrum a Shannon Kyle 23 – 28 Tachwedd

A llawer mwy, yn cynnwys cyrsiau undydd a digwyddiadau fin nos drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Rhaglen Hydref – Gaeaf 2015 allan yn yr haf. Ewch i’r wefan am newyddion diweddaraf ar y cyrsiau: www.tynewydd.org

I ddod yn hydref 2015…