28
0300 500 1822 www.tsd.ac.uk Astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg Nifer fwyaf o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Llyfryn Cyrsiau Cymraeg Y Drindod Dewi Sant

Citation preview

Page 1: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

0300 500 1822 www.tsd.ac.uk

Astudiaethau trwy gyfrwng

y GymraegNifer fwyaf o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Page 2: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

Y Gymraeg yn y Drindod Dewi SantMae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddatblygudarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac rydym yn cynnig ysgoloriaethau ohyd at £1,800 i annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Brifysgol acmae nifer o gyrsiau gradd y Brifysgol yn rhan o Gynllun Ysgoloriaethau’r ColegCymraeg Cenedlaethol sy’n cynnig hyd at £3,000 i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudiotrwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn Brifysgol naturiol ddwyieithog, lle mae’r Gymraeg a’rSaesneg yn cyd-fyw mewn cytgord. Mae canran uchel iawn o’n staff a’n myfyrwyryn medru’r Gymraeg ac felly mae yma ddigon o gyfle i chi fyw bywyd mewn

awyrgylch Cymraeg. Cynigir cyrsiau cyfrwng Cymraeg yny Brifysgol, ond hefyd gellir astudio rhai cyrsiau yn

ddwyieithog. Mae hyn yn golygu os ydych wedi’chcofrestru ar gwrs cyfrwng Saesneg, mae’n bosib ygallwch astudio modwl, gyflwyno gwaith neu fynychu

seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae yma hefyd ddigon o gyfle i chi wella’chsgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg mewndosbarthiadau i ddysgwyr a gwersi gloywi iaith.Mae’r cyfleoedd hyn yn eich galluogi iddatblygu’ch sgiliau yn y ddwy iaith - sy’n rhoi

mantais sylweddol i chi wrth ymgeisio amswyddi ar ddiwedd eich cwrs.

“Mae bywyd yn y Brifysgol yn grêt. Maepawb mor gyfeillgar yma. Fel rhan o’r cwrsrydym yn cael cyfle i weithio gyda phlant ac, fel

myfyrwraig Gymraeg, rwyf yn cael y cyfle i wneudrhannau o’r cwrs trwy’r Gymraeg.”Delun Evans, BA Addysg Gorfforol

2 | www.ydds.ac.uk

Page 3: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 3

Darpariaeth Gymraeg a DwyieithogMae Campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn hanesyddol wedi darparu ystod oraglenni addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig ym meysydd hyfforddi athrawon a’rcelfyddydau perfformio. Yn ogystal â pharhau i gynnig darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig o’r raddflaenaf yn y meysydd hyn, mae’r Brifysgol hefyd wedi buddsoddi mewn darpariaeth o’r newydd yn ystod yblynyddoedd diweddar mewn meysydd megis Addysg Blynyddoedd Cynnar, Gwaith Ieuenctid aChymuned, Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd,Busnes, ac mae’r ddarpariaeth yn ehangu.

Darperir cyrsiau Gloywi Iaith ar y campws ac yn electronig i gefnogi’r myfyrwyr hynny sy’n dymunoastudio’u cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir hefyd ddeunydd atodol arfewnrwyd y Brifysgol. Mae canran uchel o’r staff yn gwbl ddwyieithog a gellir darparu cefnogaethdiwtorial a bugeiliol ar gyfer siaradwyrCymraeg yn eu mamiaith. Mae’r Drindod DewiSant hefyd yn darparu ystod o raglenni GloywiIaith ar gyfer y gweithle gan ganolbwyntio arhybu sgiliau llafar ac ysgrifenedig y rheini sy’ngweithio o fewn cyd-destunau dwyieithog.

Os ydych yn dymuno astudio’ch cwrs addysguwch yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraegneu hyd yn oed gofrestru ar fodwl neu ddau arhyd y daith, dewch i Brifysgol CymreiciafCymru, Prifysgol y mae iddi draddodiad oaddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a Phrifysgolsydd wedi ymrwymo ei hun i hyfforddimyfyrwyr ar gyfer y Gymru ddwyieithog.

Pam astudio trwygyfrwng y Gymraeg?• Mwy o gyfleoedd am swyddi• Dangos sgil ychwanegol• Datblygu hyder i ddefnyddio'r iaith ymhob

agwedd o fywyd• Dewch yn arbenigwr cyfrwng Cymraeg yn

eich maes• Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau penodol ar

gael• Adnoddau amrywiol i gefnogi astudiaethau

cyfrwng Cymraeg

Gwnewch y gorau o’ch cyfleoedd… gwnewch eich gorau, er mwyn eich gyrfa!

Page 4: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cangen Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

4 | www.ydds.ac.uk

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o’rColeg Cymraeg Cenedlaethol ac yn chwarae rôl flaenllawo’i fewn. Mae cangen o’r Coleg ar fin cael ei sefydlu yn yBrifysgol ar y campws yng Nghaerfyrddin. Bydd y Gangenyn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymaelodi â’r Coleg CymraegCenedlaethol ynghyd â derbyn gwybodaeth am yr amrywadnoddau sydd wedi eu datblygu’n ddiweddar i gefnogimyfyrwyr sydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’radnoddau hyn yn cynnwys nifer o lawlyfrau, DVD,adnoddau amlgyfrwng megis podlediadau, clipiau fideo asain ynghyd ac astudiaethau achos amrywiol i enwi ondychydig enghreifftiau. Mae’r adnoddau’n berthnasol iastudiaethau myfyrwyr o fewn amryw o feysydd pwnc,gan gynnwys cyrsiau Addysg a Hyfforddiant, cyrsiauTheatr, Cerdd a’r Cyfryngau yn ogystal â chyrsiauChwaraeon.

Mae nifer o gyrsiau gradd y Brifysgol wedi eu cynnwys ofewn Cynllun Ysgoloriaethau’r Coleg CymraegCenedlaethol yn ogystal, a thrwy’r cynllun hwn mae moddi fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant ymgeisio amysgoloriaethau o hyd at £3,000 am astudio’u cwrs trwygyfrwng y Gymraeg. Mae rhestr lawn o’r cyrsiau cymwysynghyd â gwybodaeth am y broses ymgeisio i’w canfod arwefan y Brifysgol ynghyd â gwefan Mantais. Noder bod yrysgoloriaethau hyn yn ychwanegol i’r bwrsari o hyd at£1,800 y mae’r Brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr am astudiotrwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Prif Swyddfa’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

“Bydd swyddi ar gael ar bob lefel lle mae’r gallu i weithio’nddwyieithog yn ddymunol, os nad yn angenrheidiol”

Dyfyniad o wefan Bwrdd yr Iaith

Page 5: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

Os nad ydych wedi dewis cwrscyfrwng Cymraeg, a ydych wediystyried astudio’n ddwyieithog?

PAM?… yn syml,

mae’n gwneud synnwyr!

Os oes gennych chi sgiliau, gwnewch y gorauohonynt…Cewch ddigon o gyfle yn y Drindod Dewi Sant i ehangu’chsgiliau ieithyddol, naill ai fel rhan o’ch cwrs, mewn gwersiychwanegol neu mewn digwyddiadau cymdeithasol.

Byddwch yn gwella’ch siawns o gael swydd… Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a

phreifat yng Nghymru yn tystio bod cyflogistaff dwyieithog yn gwella eu busnes.

Cymdeithas Gymraeg i fyfyrwyr yBrifysgolMae’r Gymdeithas Gymraeg yn cael eirhedeg gan fyfyrwyr y Brifysgol, a threfnirgweithgareddau a digwyddiadaucymdeithasol amrywiol, o deithiau Rygbirhyngwladol i Gystadlaethau Chwaraeon acEisteddfodau’r Rhyng-gol… llu o gyfleoedda llu o weithgareddau at ddant pawb!

Côr y Drindod Dewi SantMae Côr y Drindod Dewi Sant wedi caelcryn lwyddiant wrth berfformio arlwyfannau’r Eisteddfodau Cenedlaetholdros y blynyddoedd dan arweinyddiaethEilir Owen Griffiths. Cynhelir nifer ogyngherddau gyda’r Côr yn ogystal…digonedd o gyfleoedd i berfformio, teithioa chymdeithasu!

www.ydds.ac.uk | 5

Gwnewch y gorau o’chsgiliauYn y prosbectws hwn cewchwybodaeth am y cyrsiau y gallwcheu hastudio trwy gyfrwng yGymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’nfwriad gan y Brifysgol i ehangu’rcyfleoedd drwy nodi meysydd ardraws y cwricwlwm lle gallwchddewis astudio rhan o’ch cwrs yn yGymraeg. Ein nod yw creucyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygusgiliau ar lefel uwch a fydd yncaniatáu iddynt weithio yngNghymru’r unfed ganrif ar hugain.

Bydd Cangen Prifysgol Cymru YDrindod Dewi Sant o’r ColegCymraeg Cenedlaethol yn darparucyfle i fyfyrwyr ennill tystysgrifsgiliau iaith a fydd cydnabod sgiliaullafar ac ysgrifenedig ac yn dangoslefel gallu ieithyddol graddedigion yBrifysgol.

Page 6: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

“Dwi’n mwynhau bywyd Prifysgol. Dwiwedi cwrdd â phobl â'r un diddordebau â mi,ac wedi gwneud llawer o ffrindiau. Mae digono gyfleoedd i gymdeithasu. Ar hyn o bryd dwiar leoliad gwaith gyda’r Urdd a dwi wedidysgu tipyn o’r profiad.”Nanw Beard, BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned

6 | www.ydds.ac.uk

Page 7: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 7

Y CELFYDDYDAU PERFFORMIOYr Actor a’r CelfyddydauY Celfyddydau PerfformioCerdd a’r CyfryngauCerddoriaeth BroffesiynolY Cyfryngau Creadigol

Ein cyrsiau

BUSNESFframwaith Arfer ProffesiynolRheolaeth Busnes

CHWARAEON, IECHYD AC ADDYSG AWYRAGOREDAddysg Awyr AgoredAddysg Gorfforol

PLENTYNDOD CYNNARAddysg Blynyddoedd Cynnar

HYFFORDDIANT AC ADDYSG GYCHWYNNOLATHRAWONAddysg Gynradd gyda SAC

CYFIAWNDER A CHYNHWYSIANTCYMDEITHASOLAstudiaethau Addysg GynraddGwaith Ieuenctid a Chymuned

DIWINYDDIAETH, ASTUDIAETHAUCREFYDDOL AC ASTUDIAETHAU ISLAMAIDDCrefydd a Chymdeithas

Y CELFYDDYDAU CREADIGOLCelf a DylunioDylunydd Gwneuthur 3D - Cynnyrch CrefftauCelfyddyd gainCyfathrebu Graffig

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r addysg, yr arholiadau, yr asesiadau a’r cyfleusterau aamlinellwyd yn y Prosbectws hwn. Fodd bynnag, ni all roi sicrwydd y darperir y gwasanaethau hyn, a cheidw’r hawl i’w diwygio, eudiddymu, eu haddasu neu’u gohirio, yn llwyr neu’n rhannol.

Page 8: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

8 | www.ydds.ac.uk

PRIF FFEITHIAU

BUSNESFframwaith Arfer Proffesiynol

Cynnwys y cwrsNod y Fframwaith Arfer Proffesiynolyw cynnig cyfleoedd dysgu sy’ncanolbwyntio ar y myfyriwr, gyda’rcyfleoedd hynny’n rhai hygyrch,hyblyg a chynhwysol. Yn fwy na dim, eifwriad yw cyflawni anghenioncyflogwyr a’r rheini sy’n gweithioiddynt. Ym mhob achos, cyfunirastudiaeth academaidd â dysgu yn ygweithle i ddarparu pobl â’rwybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliauperthnasol iddynt allu gwellaperfformiad yn y gwaith ac ennillcymhwyster academaidd.

Bydd y dysgwyr yn gweithio gydagYmgynghorydd Rhaglen a fydd yn rhoiarweiniad iddynt ac fel arfer ar gaeliddynt trwy gydol eu hastudiaethau.Byddant yn cychwyn fel arfer âchynllun dysgu a gallant ennillcredydau AU tuag at gymwysterauisraddedig mewn Arfer Proffesiynol. Ycymwysterau yw Tystysgrif AddysgUwch mewn Arfer Proffesiynol, GraddSylfaen mewn Arfer Proffesiynol a BA(Anrh) mewn Arfer Proffesiynol.

Modylau nodweddiadol • Cydnabod ac Achredu Dysgu • Cynllun Rhaglen Dysgu yn y Gwaith • Gweithio a Dysgu: cyflwyniad i

addysg uwch yn y gwaith• Dulliau Ymchwil ar gyfer Dysgu yn y

Gwaith • Cyflwyniad i Fentora• Prosiect Dysgu yn y Gwaith • Rheoli Prosiectau• Astudio Annibynnol• Portffolio Cymwyseddau• Dwyieithrwydd yn y Gweithle

• Cymraeg Galwedigaethol (Gwrandoa Siarad)

• Cymraeg Galwedigaethol (Darllen acYsgrifennu)

Prif Nodweddion • Dysgu sy’n ymateb i alw gyda’i

ansawdd wedi ei sicrhau ac syddwedi ei addasu i anghenionunigolion ac anghenion datblygu eucyflogwyr.

• Lleolir y dysgu yn bennaf yn ygwaith ac felly mae’n cwtogi ar yramser sydd ei angen y tu allan i’rgweithle.

• Cynigir y rhaglenni drwy gyfrwng yGymraeg a’r Saesneg.

• Mae achredu dysgu blaenorol ynnodwedd o’r rhaglen, naill ai dysgudrwy brofiad gwaith neu drwyastudiaeth flaenorol.

• Mae dysgu drwy gymorth technolegyn caniatáu i bobl ddysgu aramserau ac mewn mannau sy'ngyfleus iddyn nhw.

Cyfleoedd gyrfa Mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol yncaniatáu i chi ennill cymwysterauprifysgol a gydnabyddir ynrhyngwladol ac mae’n canolbwyntio arddatblygu eich gyrfa. Mae hefyd ynbosibl astudio ar lefel ôl-raddedig wrthi’ch gyrfa ddatblygu.

DyfarniadauTystysgrif AUGradd Sylfaen (FdA)BA Anrhydedd

LleoliadDysgu yn y gwaithSesiynau cyflwyno ar GampwsCaerfyrddin

Hyd y cwrsMae’n dibynnu ar y modylau aastudir

Gofynion MynediadFel arfer disgwylir ichi fod mewngweithle sy’n cefnogi eich cais, ery gallai hyn fod yn wirfoddol.Fe’ch gwahoddir i ymweld â’rBrifysgol i drafod y rhaglen. Caiffmyfyrwyr eu derbyn ar sailteilyngdod unigol.

Sut i wneud caisCysylltwch â [email protected] amragor o fanylion.

Page 9: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 9

PRIF FFEITHIAU

BUSNESRheolaeth Busnes

Cynnwys y cwrsMae'r cwrs hwn yn cynnig arweiniaddelfrydol i fyd busnes sy'n newid yngyflym. Fe'i cynlluniwyd i roi ichi'rsgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangeni lwyddo yn y sector cyhoeddus,preifat neu'r trydydd sector.

Mae'r BA Rheolaeth Busnes yn gwrsamrywiol sy'n cynnwys yr hollelfennau diweddaraf. Yn ogystal âchynnig y prif feysydd astudiotraddodiadol fel marchnata, rheoliadnoddau dynol a chyllid, mae'r cwrsyn trafod materion ffres, cyfoes achyfredol fel cyfrifoldeb cymdeithasolcorfforaethol, e-fasnach,entrepreneuriaeth a menter.

Mae modylau craidd y flwyddyngyntaf yn rhoi dealltwriaeth gadarnichi o'r materion allweddol, ac maedewis o fodylau yn yr ail a'r drydeddflwyddyn yn eich galluogi i roi sylwmanylach i feysydd sydd o ddiddordebarbennig ichi.

Cewch eich annog i:• Ddatblygu sgiliau gwneud

penderfyniadau a datrys problemaui'ch helpu i ddadansoddi achynhyrchu datrysiadau arloesol ibroblemau busnes

• Ehangu ac adeiladu ar eichgwybodaeth o raglenni TG i'wdefnyddio mewn cyd-destun busnes

• Datblygu ystod o sgiliautrosglwyddadwy sydd o bwys mawri lawer o gyflogwyr, gan gynnwyssgiliau cyfathrebu a rhyngbersonoleffeithiol

Modylau enghreifftiol• Amgylchedd Busnes • Datblygu Sgiliau TG • Rheoli Adnoddau Dynol • Marchnata • Rheolaeth Ariannol• Ymddygiad Sefydliadol • Cyd-destunau Rheolaeth

Rhyngwladol• Rheolaeth Strategol

Prif nodweddion• Defnydd o dechnoleg arloesol i

gyfoethogi'r dysgu a'r addysgu• Cwrs amrywiol sy'n ymdrin â'r prif

faterion busnes mewn cyd-destunaulleol, cenedlaethol a byd-eang

• Cyfleoedd cyfnewid yn Ewrop a'rUnol Daleithiau yn bosibl

• Ffocws ymarferol• Cysylltiadau gyda busnesau yn y

sectorau cyhoeddus a phreifat• Cydweithio gydag asiantaethau a

chynlluniau sy'n ymwneud âdatblygu syniadau menter a busnes

• Gall Swyddog Profiad Gwaith drefnucyfleoedd profiad gwaith gyda thâla di-dâl i sicrhau eich bod yn gwblgyfarwydd ag amgylchedd ygweithle

Cyfleodd gyrfa • Adnoddau Dynol• Marchnata a Gwerthu• Gwasanaethau Ariannol• Rheolaeth yn y sector cyhoeddus,

preifat neu'r trydydd sector• Ymgynghoriaeth Busnes• Astudiaethau/ymchwil ôl-radd

Côd UCASBA Rheolaeth Busnes - N200

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amser ar gael hefyd.

Gofynion derbynFe’ch gwahoddir i ymweld â'rBrifysgol i drafod y cwrs. Maemynediad yn dibynnu ardeilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Manylion pellachGlyn Howells - 01267 [email protected]

ar gyfer 2012

Page 10: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

10 | www.ydds.ac.uk

PRIF FFEITHIAU

CYFIAWNDER ACHYNHWYSIANTCYMDEITHASOL Astudiaethau Addysg Gynradd

Cynnwys y cwrsAnelir y rhaglen at y rhai sydd âdiddordeb mewn Addysg mewnYsgolion Cynradd a gellid ei hystyriedyn radd 'cyn-broffesiynol' ar gyfer ysawl sy'n gobeithio gwneud TystysgrifAddysg i Raddedigion ar ôl cwblhau'rradd yn llwyddiannus.

Y mae'n rhaglen addas hefyd i rai syddeisiau gweithio mewn swyddi eraill ymmaes addysg gynradd eeCynorthwywyr Addysgu.

Bydd y rhaglen radd yn cynnig y cyfle ichi astudio'r cwricwlwm cynradd ynfanwl tra'n gwneud cysylltiadau gydagagweddau addysgol ehangach.

Modylau enghreifftiol • Byd Newidiol Addysg• Y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru• Astudiaethau Cyfnod Allweddol 2• Addysg Gymdeithasol, Foesol,

Ysbrydol a Diwylliannol• Prosiect Personol• Anghenion Addysgol Ychwanegol

Prif nodweddion• Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y

Gymraeg, Saesneg neu'nDdwyieithog

• Cyfleoedd ar gyfer Profiad Gwaith• Cyfleoedd i Astudio Dramor• Cyfle i arbenigo mewn agweddau ar

addysg gynradd, er enghraifftAddysg Arbennig/AnghenionAddysgol Ychwanegol, AddysgAmgylcheddol ac AstudiaethauCreadigol, ar gyfer cwblhautraethawd hir

• Staff profiadol sy'n meddu ar brofiadarbennig ym maes Addysg Gynradd

• Adnoddau rhagorol ar gyfer addysggynradd

• Cysylltiadau agos â 250 o ysgolioncynradd partner

Cyfleoedd gyrfaBwriad y radd yw darparu sgiliautrosglwyddadwy a fyddai'n gymwys argyfer nifer o feysydd gyrfaol, ynarbennig y rhai sy'n ymwneud âphlant. Y mae hefyd yn gwrsparatoadol ar gyfer y proffesiwnaddysgu cynradd.

Côd UCASBA Astudiaethau AddysgGynradd - X320

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amser ar gael hefyd.

Gofynion derbynFe’ch gwahoddir i ymweld â'rBrifysgol i drafod y cwrs. Maemynediad yn dibynnu ardeilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Manylion pellachSue Davies - 01267 [email protected]

Page 11: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 11

PRIF FFEITHIAU

CYFIAWNDER ACHYNHWYSIANTCYMDEITHASOLGwaith Ieuenctid a Chymuned

Cynnwys y cwrsYn y blynyddoedd diwethaf daeth triphwnc allweddol i'r amlwg yn ydrafodaeth ynglyn â'r blaenoriaethaucenedlaethol sy'n effeithio ar addysg adatblygiad pobl ifanc: cynhwysiantcymdeithasol, dinasyddiaeth a'r gallu igael swydd. Mae Gwaith Ieuenctid aChymuned yn ganolog i unrhyw waithgyda phobl ifanc yn y tri maes hwn.

Mae'r cwrs yn cynnig cymhwysterproffesiynol sy'n seiliedig aregwyddorion a gwerthoedd craiddgwaith ieuenctid. Mae'n ymchwilio i'rmodd y gellir hwyluso a chefnogi twfpobl ifanc yn ogystal â datblygiadpersonol a chymdeithasol mewnamrywiaeth o feysydd anffurfiol. Mae'nadlewyrchu polisïau ac arferionpresennol yn ymwneud ag ieuenctidyng Nghymru a Lloegr, ac mae'nberthnasol i'r sector galwedigaethol, igyflogwyr lleol a chenedlaethol ac i'rsectorau gwirfoddol.

Mae cyfnodau profiad gwaith ynganolog i'r cwrs a hynny mewnlleoliadau gwaith ieuenctid statudol agwirfoddol, a rhoddir sylfaen gadarn i'rrheiny trwy werthuso'n feirniadol ymaterion sy'n dylanwadu ar fywydaupobl ifanc, megis natur cymdeithas achynhwysiant cymdeithasol,cymdeithaseg a seicoleg yr ifanc.Rhaid i fyfyrwyr gwblhau 800 awr ogyfnodau gwaith maes wedi'u hasesuyn ystod y rhaglen, yn ogystal agymgymryd â theithiau arsylwi igefnogi modylau eraill. Cynigir y cwrstrwy gyfrwng y Gymraeg ac ynddwyieithog.

Modylau enghreifftiol• Astudiaethau Proffesiynol• Astudiaethau Rheolaeth• Arfer Gwaith Seiliedig• Trosiannau Glasoed a Gwaith Ieuenctid• Arfer, Damcaniaethau a Sgiliau• Dulliau Ymchwil ar gyfer y

Gwasanaeth Ieuenctid• Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig ac

Allestyn • Cynllunio a Chyflawni Gwaith

Ieuenctid cyfrwng Cymraeg adwyieithog

• Sgiliau Goruchwylio a Chefnogi

Prif nodweddion • Cwrs delfrydol ar gyfer gweithwyr

ieuenctid a'r gymuned sy'n awyddusi gael cymhwyster proffesiynolisraddedig, yn ogystal â'r rheiny ahoffai ddilyn gyrfa yn y maes hwn

• Rhaglen a ardystiwyd ynbroffesiynol, ac a gydnabuwyd ynrhyngwladol, ac a gyflwynir o fewnfframwaith academaidd cadarn

• Cyflwynir y rhaglen gan dîm oweithwyr Ieuenctid a Chymunedbrwdfrydig, cefnogol a dwyieithog achanddynt gymwysterau acarbenigedd cydnabyddedig

• Mae profiad gwaith mewn lleoliadauieuenctid statudol a gwirfoddol ynelfen orfodol o'r cwrs

• Ymweliadau astudio ag amrywiaetho brosiectau a mentrau ieuenctid achymunedol

• Fe'i cyflwynir yn unol â nodau,gwerthoedd ac amcanion craiddGwaith Ieuenctid

• Gogwydd ymarferol a galwedigaethol • Pwyslais ar ddatblygiad personol a

chymdeithasol yr unigolyn • Addysgir mewn grwpiau bychain

mewn awyrgylch dysgu cefnogol

Côd UCASBA Gwaith Ieuenctid a Chymuned - L592

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amserar gael hefyd.

Gofynion derbynMae mynediad yn dibynnu ardeilyngdod unigol yr ymgeisydd.Oherwydd yr ardystiad proffesiynol,mae'n rhaid i bob ymgeisydd gael oleiaf 100 awr o brofiad diweddar apherthnasol o Waith Ieuenctid.

Cyfleoedd gyrfaMae'r cwrs yn cynnwys cymhwysterproffesiynol sy'n angenrheidiol argyfer y maes.Mae gweithwyrieuenctid cymwys yn cael swyddimewn amrywiaeth o leoliadaugalwedigaethol megis gydagawdurdodau lleol, timau cyfiawnderieuenctid, awdurdodau iechyd,adrannau hamdden a chelf amudiadau'r sector gwirfoddol.

Manylion pellachSue Davies - 01267 [email protected]

Page 12: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

12 | www.ydds.ac.uk

PRIF FFEITHIAU

CHWARAEON, IECHYD ACADDYSG AWYR AGORED Addysg Awyr Agored

Cynnwys y cwrsMae'r dull amlddisgyblaethol o gyflwyno Addysg Awyr Agored yn manteisio ar theori addysg, arweinyddiaeth ac amgylcheddol i archwilio potensial yr amgylchedd naturiol i gynnig ffordd wahanol o ddysgu sy'n seiliedig ar brofiad. Mae gan Addysg Awyr Agored lawer i'w gynnig fel ffordd weithredol, gynhwysol a naturiol o ddysgu sy'n datblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng yr unigolyn, grwp a'r amgylchedd. Mae mwy a mwy o gyfleoedd gwaith ar gael mewn addysg, hamdden, datblygu cymunedol, twristiaeth antur a chynaliadwyedd amgylcheddol. Fe'i cydnabyddir yn ddull gwerthfawr o ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i holl sectorau'r gweithle yn yr 21ain ganrif.

Modylau enghreifftiol• Athroniaeth a Dulliau Addysg Awyr

Agored • Theori ac ymarfer hwyluso • Sgiliau Arweinyddiaeth yn yr Awyr

Agored (crefft mynydda, dringocreigiau, caiacio/canwio, beiciomynydd, arfordira)

• Yr Amgylchedd Naturiol a Systemau-Eco

• O Ddesgiau i Wâliau (mynd tu allani'r ystafell ddosbarth)

• Effeithiau Hamdden Awyr Agored• Addysg Awyr Agored yn y Gymuned • Lleoliad Proffesiynol (30 diwrnod)• Hyfforddiant a Datblygiad Personol • Dulliau Ymchwil ar gyfer gwerthuso

dysgu awyr agored• Astudiaethau Alldeithiau• Tirwedd a Hamdden yng Nghymru • Agweddau Naws am Le at yr

Amgylchedd Awyr Agored• Materion Cyfoes Addysg Awyr Agored • Traethawd hir

Prif nodweddion• Modylau perfformiad ymarferol ym

Mlynyddoedd 1 a 2, gan gynnwysmodwl alldaith annibynnol ymmlwyddyn 2

• Cyfleoedd i ennill cymwysterau CorffLlywodraethu Cenedlaethol

• Profiad gwaith mewn nifer oleoliadau addysg awyr agoredgwahanol

• Cwrs heriol ar gyfer twf a datblygiadpersonol

• Gogwydd ymarferol agalwedigaethol i'r cwrs

• Campws bach a chyfeillgar gydamynediad hwylus i amrywiaetheang o gyfleoedd ardderchog argyfer hamdden yn yr awyr agored

• Cysylltiadau da â llawer o sefydliadaumasnachol a chyhoeddus ym maesaddysg awyr agored

• Cyfleusterau ac offer ardderchog • Staff profiadol iawn â chymwysterau

helaeth gyda chymarebaustaff/myfyrwyr da

• Cyfleoedd i astudio yn UDA/Norwy • Mae alldeithiau tramor diweddar yn

cynnwys: Nepal, Norwy, Sardinia,Sbaen, Moroco a Gwlad Groeg

Cyfleoedd gyrfa• Hyfforddwr/Hwylusydd Awyr Agored • Gweithiwr Datblygu Cymunedol

Awyr Agored • Hyfforddwr Awyr Agored/Antur

Llawrydd//Eco-Dwristiaeth• Sefydliadau Amgylcheddol a

Chadwraeth• Addysgu (yn amodol ar TAR) • Gwasanaethau Awdurdodau Lleol -

Swyddog Gweithgareddau AwyrAgored

• Y Lluoedd Arfog a'r Heddlu

Côd UCASBA Addysg Awyr Agored - X390

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amserar gael hefyd.

Gofynion derbynFe'ch gwahoddir i ymweld â'rBrifysgol i drafod y cwrs. Maemynediad yn dibynnu ar deilyngdodunigol yr ymgeisydd.

Manylion pellachCeredig Emanuel - 01267 [email protected]

Page 13: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 13

PRIF FFEITHIAU

CHWARAEON, IECHYD ACADDYSG AWYR AGOREDAddysg Gorfforol

Cynnwys y cwrsLluniwyd y cwrs hwn ar gyfermyfyrwyr sy'n ystyried y posibilrwyddo ddilyn gyrfa fel athro/athrawesAddysg Gorfforol (cynradd neuuwchradd) yn y dyfodol, neu yrfa ymmaes chwaraeon ieuenctid. Mae pobun o'r meysydd ymarferol addynodwyd yn y CwricwlwmCenedlaethol ar gyfer AddysgGorfforol wedi'u cynnwys yn fodylaucraidd neu ddewisol.

Adlewyrchir y ffocws cyfredol ariechyd o fewn addysg gorfforol yn gryfyng nghynnwys cyffredinol y radd.Drwy gydol y cwrs bydd y myfyrwyr yndatblygu diffiniad cyffredinol oAddysg Gorfforol fel proses gydol oesa byddant yn gallu rhoi'rdamcaniaethau a ddysgant ar waithmewn lleoliad ymarferol. Bydd cyfle ifynd ar brofiad gwaith i ysgol gynraddneu uwchradd yn yr ail flwyddyn, neu idreulio semester ar gwrs cyfnewidmewn Prifysgol yn UDA.

Modylau enghreifftiol• Addysg Gorfforol, y Plentyn a'r

Cwricwlwm• Gemau mewn Addysg*• Addysgu Hanfodion Nofio• Cynhwysiant mewn Addysg

Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid*• Addysg Gorfforol ac Iechyd*• Profiad Gwaith mewn Ysgol• Ffurfiau Dawns• Dulliau Ymchwil• Gweithgareddau Athletig • Caffaeliad Sgiliau• Asesu mewn Addysg Gorfforol• Agweddau ar Chwaraeon, Iechyd ac

Addysg Gorfforol

• Addysg, Chwaraeon ac AddysgGorfforol*

• Pedagogeg Hyfforddi • Traethawd hir**cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Prif nodweddion• Cwrs unigryw yng Nghymru • Cyfleoedd i ennill cymwysterau Cyrff

Llywodraethol ychwanegol• Mae'r staff yn chwarae rhan

flaenllaw ym mhrosiectcenedlaethol PESS - AddysgGorfforol a Chwaraeon Ysgol

• Mae gogwydd ymarferol agalwedigaethol i'r cwrs

• Gradd berthnasol dros ben i symudymlaen i'r cyrsiau TAR cynradd acuwchradd

• Cyfle i astudio nifer o fodylau trwygyfrwng y Gymraeg

• Cyfleusterau chwaraeon gwych ar ycampws

• Traddodiad chwaraeon cryf• Campws bychan, cyfeillgar gyda

staff brwdfrydig a chefnogol• Mae gogwydd ymarferol a

galwedigaethol i'r cwrs • Mae timau chwaraeon y Brifysgol yn

cystadlu ym MhencampwriaethauPrifysgolion Prydain mewnamrywiaeth eang o chwaraeon, gangynnwys rygbi, pêl rwyd, pêl droed,hoci, criced, triathlon, traws gwlad,jiwdo a golff. Hefyd mae nifer oglybiau a chymdeithasau chwaraeoneraill megis y clwb GweithgareddauAwyr Agored, Aerobeg a Syrffio. Maemyfyrwyr yr Ysgol yn cymryd rhanflaenllaw yn trefnu a rhedeg nifer o'rclybiau hyn

• Canolfan wedi'i hachredu ar gyferGwobr Dug Caeredin

Côd UCASBA Addysg Gorfforol - CX69

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amserar gael hefyd.

Gofynion derbynFe'ch gwahoddir i ymweld â'rBrifysgol i drafod y cwrs. Maemynediad yn dibynnu ardeilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Cyfleoedd gyrfa• Addysgu - Cynradd / Uwchradd

(yn amodol ar ddilyn cwrs TAR)• Datblygu Chwaraeon a

Chwaraeon Ieuenctid • Gwasanaeth Ieuenctid

Cymunedol• Gwasanaethau Cyhoeddus a'r

Lluoedd• Gradd Uwch ac ymchwil

Manylion pellachCeredig Emanuel - 01267 [email protected]

Page 14: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

14 | www.ydds.ac.uk

PRIF FFEITHIAU

DIWINYDDIAETH,ASTUDIAETHAU CREFYDD ACASTUDIAETHAU ISLAMAIDD Crefydd a Chymdeithas

Cynnwys y cwrs Ni allwch gael gwir ddealltwriaeth o'ncymdeithas, ein hanes a'r byd o'ncwmpas heb ddeall rhywbeth am yramrywiaeth eang o grefyddau sydd yny byd. Mae'r cwrs yma, felly, wedi'igynllunio i helpu myfyrwyr ddeallcrefyddau yn eu cyd-destunaudiwylliannol, cymdeithasegol,hanesyddol, a diwinyddol.

Cewch ddealltwriaeth o'r berthynasddeinamig rhwng crefydd achymdeithas a byddwch yn archwilio'rrolau y mae crefydd yn eu chwaraeyng nghwestiynau pwysicaf eincyfnod. Aiff y rhaglen â myfyrwyrheibio'r sylw arwynebol a rodda'rcyfryngau i ddigwyddiadau cyfoes,gan ymdrin yn ddyfnach â hanes,hunaniaeth a goblygiadau ymrwymiadcrefyddol i faterion sydd o bwys byd-eang.

Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyrastudio arferion a chredoauCrefyddau’r Byd a thraddodiadaucrefyddol eraill. Cyflwynir gwahanolddulliau o astudio crefydd, gangynnwys cymdeithaseg,diwinyddiaeth, anthropoleg acastudiaethau beiblaidd, a rhoddir sylwpenodol i le crefydd yn y byd cyfoes.Cewch y cyfle i ymweld ag addoldai aci feithrin adnabyddiaeth ymarferol,bersonol o ddiwylliannau achrefyddau 'eraill'.

Modylau enghreifftiol • Profiad Crefyddol• Crefyddau Byw• Cyflwyniad i’r Beibl• Ffwndamentaliaeth• Moeseg a’r Crefyddau• Addysgu Addysg Grefyddol• Y Ferch mewn Iddewiaeth a

Christnogaeth Gynnar• Crefydd a Ffilm• Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru• Taith Astudio• Traethawd hir neu brosiect

annibynnol

Prif nodweddion• Cwrs amrywiol sy’n ymdrin â

chrefydd o safbwynt diwylliannol,cymdeithasegol, moesegol,hanesyddol a diwinyddol.

• Staff sydd ag arbenigeddcydnabyddedig mewnDiwinyddiaeth, AstudiaethauCrefyddol ac Addysg Grefyddol.

• Cyfleoedd cyfnewid mewn nifer owledydd tramor.

• Cyfleoedd ar gyfer ymweliadauaddysgol lleol ac ar gyfer teithiauastudio i wledydd megis Twrci,Sbaen, yr Eidal, Israel-Palesteina.

• Nifer o fwrsarïau ac ysgoloriaethau.• Staff wedi’ï hymroi i ragoriaeth

mewn addysgu. • Cwrs llawn cyfrwng Cymraeg.• Awyrgylch dysgu cefnogol a

chyfeillgar.

Cyfleoedd gyrfa• Gwasanaethau cymdeithasol• Dysgu • Sefydliadau cymorth ac elusennol

rhyngwladol• Twristiaeth, cyfryngau• Gwleidyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil

Côd UCAS BA Crefydd a Chymdeithas - V600

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amserar gael hefyd.

Gofynion derbynFe'ch gwahoddir i ymweld â'rBrifysgol i drafod y cwrs. Maemynediad yn dibynnu ardeilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Manylion pellachCatrin Williams - 01570 [email protected]

Page 15: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

Cynnwys y cwrsMae'r cwrs arloesol ac unigryw hwn yncaniatáu ichi astudio celf a dyluniotrwy gyfrwng y Gymraeg, i gyfathrebuyn y Gymraeg â’r tiwtoriaid a’rmyfyrwyr ac i edrych ar ddiwylliannaugweledol creadigol Cymru.

Byddwch yn ymwneud â gwaithymarferol ym meysydd dylunio,gwaith digidol, cyfrwng cymysg,gwaith dau a thri-dimensiwn aphrosiectau creadigol. Bydd y gwaithymarferol yn cael ei danategu ganddamcaniaethau a hanes celf adylunio ynghyd â dealltwriaeth eang obwysigrwydd y diwylliannau gweledolyn y byd creadigol.

Ar ôl datblygu eich sgiliau ymarferol,wrth symud ymlaen yn y cwrs,byddwch yn canolbwyntio’n fanylachar agweddau o gelf a dylunio ac ynogystal bydd cyfleoedd i ddatblygu’rsgiliau yma mewn prosiectaucreadigol.

Bydd y radd yn cynnig rhychwantcyffrous o fodylau mewn amgylcheddcefnogol a heriol i fyfyrwyr a fydd yncaniatáu i chi ddatblygu eich doniaucreadigol personol mewn celf adylunio a hynny trwy gyfrwng yGymraeg.

Modylau enghreifftiol • Argraffu• Cyfrwng cymysg 2D/3D • Astudiaethau gweledol• Prosiect creadigol• Prosiect cynllunio proffesiynol• Digidol

Prif nodweddion • Staff a chanddynt gymwysterau

proffesiynol, academaidd adiwydiannol

• Teithiau, cynadleddau adigwyddiadau rheolaidd - yngenedlaethol a rhyngwladol

• Datblygu sgiliau trosglwyddadwy argyfer gwaith a hunangyflogaeth

• Cyfle i gymryd rhan mewn meddwlcreadigol, hunanfynegiant, trafod achyfathrebu

Cyfleoedd gyrfa• Artist Proffesiynol/Cymunedol• Artist celf gyhoeddus • Curadu • Gweinyddwr Celf• Dysgu uwchradd a chynradd

www.ydds.ac.uk | 15

PRIF FFEITHIAU

Celf a Dylunio

Côd UCASBA Celf & Dylunio - W000

Gwneir cais ar gyfer y rhaglenhon trwy Goleg Sir Gâr C22

LleoliadCampws Caerfyrddina Champws Ffynnon JobCaerfyrddin Coleg Sir Gâr

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amser ar gael hefyd.

Gofynion derbynFe'ch gwahoddir i ymweld â'rBrifysgol i drafod y cwrs. Maemynediad yn dibynnu ardeilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Manylion pellachCaroline Thraves - 01267 [email protected]

Y CELFYDDYDAU CREADIGOL

Page 16: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

16 | www.ydds.ac.uk

PRIF FFEITHIAU

Y CELFYDDYDAU CREADIGOLDylunydd Gwneuthur 3D -Cynnyrch CrefftauGwybodaeth am y cwrsRhaglen yw hon ar gyfer unigolionchwilfrydig, arloesol, entrepreneuraiddac sydd â diddordeb angerddol yn ygwaith o ddatblygugwrthrychau/arteffactau tridimensiwn. Byddwch yn dylunio agwneud gwrthrychau pwrpasol, ogynllun da ar gyfer y tu mewn a’r tuallan. Byddwch yn ennill sgiliau aphrofiad gan weithio fel dylunyddgwneuthur, a rhoddir cyfle i chiddatblygu cynnyrch i’wmasgynhyrchu, cynnyrch i’w swpgynhyrchu ar raddfa fach agwrthrychau unigol pwrpasol.Byddwch yn arbrofi’n greadigol âphrosesau a thechnegau ar gyfercrefftau mewn dull cyfoes. Byddwchhefyd yn ymwneud â thechnolegau 3Dar gyfer datblygu’ch gwaith.

Byddwch yn archwilio ac yn datblygusgiliau mewn ystod o feysydd cyfrwng,megis pren, ceramig, metel, mosaig,carreg, gwydr, tecstilau, concrit,plastigau a gwrthrychau/deunyddiauhapgael i ehangu eu gwybodaeth achryfhau’r defnydd creadigol oddeunyddiau a chyfryngau. Cewchddewis datblygu gwaith gydadeunyddiau trwy gyfuno deunyddiauneu’u defnyddio’n unigol i greuarteffactau unigryw, rhai safleol neurai sydd wedi’u gweithgynhyrchu.Mae’r rhaglen hefyd yn caniatáu cyfle iunigolion greu gwaith mewn cyd-destun ac amgylchedd dwyieithog.

Ategir y gwaith ymarferol gan raglentheori integredig sy’n eich galluogi iweithio’n hyderus a phroffesiynol yngnghyd-destun Cynnyrch Crefft.

Modylau nodweddiadol • Modelu, Gwneud Mowldiau a Chastio• Cerfio, Adeiladu a Gwneuthuriad• Arfer Digidol Creadigol• Ffurf Cyfrwng Cymysg 3D:

Gwrthrych, Cyfosodiad a Lleoliad• Sgiliau Arbenigol• Menter• Prosiect Celf Creadigol Uwch a

Phrosiectau Dylunio

Nodweddion allweddol • Staff proffesiynol, academaidd ac

sydd â chymwysterau yn y diwydiant• Cyfle ymarferol i ymchwilio i

ddeunyddiau a thechnegau• Cyfle i fanteisio ar gyfleusterau ac

offer ardderchog• Ymweliadau addysgiadol rheolaidd

ag arddangosfeydd, ffeiriaumasnach a digwyddiadau

• Cyfleoedd i ddilyn eich meysydddiddordeb eich hun

• Prosiectau creadigol uwch yn yflwyddyn olaf ar eich dewis o bwnc

• Parch at ddefnyddio deunyddiau,tanwydd ac adnoddau naturiol ganystyried cynaliadwyedd a’ramgylchedd

• Deinameg Gymreig

Cyfleoedd gyrfa • Dylunydd/artist, gwneuthurwr

crefftau• Gwneuthurwr modelau, arteffactau

cerfluniol• Celfi, teganau, golau, papur rhoddion,

offer a llestri bwrdd, y tu mewn/allan• Marchnata, masnacheiddio, prynu,

ymgynghori• Cynllunydd, gweinyddwr celf,

gweithiwr celf cymunedol• Addysg uwchradd neu gynradd • Therapi celf

Cod UCASBA Dylunydd Gwneuthur 3D –Cynnyrch Crefft – W W27

Gwneir ceisiadau i’r rhaglen hontrwy Goleg Sir Gâr C22

LleoliadCampws Caerfyrddina Choleg Sir Gâr Campws FfynnonJob Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd amser llawn; cyfleoeddastudio rhan-amser ar gael

Gofynion mynediadFe’ch gwahoddir i ymweld â’rBrifysgol i drafod y rhaglen. Caiffmyfyrwyr eu derbyn ar sailteilyngdod unigol.

Manylion pellachCaroline Thraves - 01267 [email protected]

Page 17: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.tsd.ac.uk | 17

PRIF FFEITHIAU

Y CELFYDDYDAU CREADIGOL

Gwybodaeth am y cwrs Dyluniwyd y cwrs BA Celfyddyd Gain iroi cyfle i chi arbenigo mewn maespenodol trwy ddilyn un o’r llwybrauarbenigol:

• Celfyddyd Gain: Arfer Cyfoes• Celfyddyd Gain: Peintio, Darlunio a

Gwneud Printiau• Celfyddyd Gain: Cerfluniaeth

Nodweddion allweddol • Cyfle i fanteisio ar gyfleusterau

ardderchog ac offer unigryw achyffredinol

• Cynllun cyfnewid myfyrwyrrhyngwladol

• Teithiau rheolaidd i deithiau,cynadleddau a digwyddiadau – yngenedlaethol a rhyngwladol

• Datblygu sgiliau trosglwyddadwy argyfer cyflogadwyedd a hunan-gyflogadwyedd.

• Ymwneud â'r gwaith o feddwl yngreadigol, hunanfynegiant,trafodaeth a chyfathrebu

• Mae’r staff ar y cyrsiau'n artistiaid acyn ysgrifenwyr sy'n ymarfer

• Cyfle i greu gwaith mewn cyd-destun ac amgylchedd dwyieithog.

Cyfleoedd gyrfa • Artist Proffesiynol/Cymunedol• Cynorthwyydd artist, gweithiwr

ffowndri• Gwneuthur modelau/propiau• Artist setiau – diwydiant Ffilm a’r

Cyfryngau• Curadu, Gweinyddwr Celfyddydau• Animeiddio/Darlunio. • Athro Cynradd/Uwchradd (yn

amodol ar TAR)• Therapi Celf

Arfer Cyfoes Dyluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unrhywun sydd â diddordeb mewn CelfyddydGain ar ei hystyr gyfoes ehangach.Cewch gyfle i ymwneud â gwaithymarferol mewn meysydd megiscelfyddyd ddigidol, cerameg gerflunio,gwneud printiau, fideo, paentio,cerflunio, cyfryngau cymysg,gosodiadau a pherfformio.

Bydd y radd hon yn cynnig ystodgyffrous o fodylau mewn amgylcheddcefnogol a heriol, sy’n annogdatblygiad doniau creadigol unigol,ynghyd â meithrin sgiliau ymchwildadansoddol ac ymchwil,creadigrwydd, egni a menter.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau technegolangenrheidiol i ddeall, neu i fod yngymwys mewn ystod lawn odechnegau a sgiliau traddodiadol achyfoes. Mae’r rhaglen hefyd yncaniatáu cyfle i unigolion greu gwaithmewn cyd-destun ac amgylchedddwyieithog. Ategir y gwaith ymarferolgan raglen theori integredig sy’n eichgalluogi i weithio’n hyderus aphroffesiynol yng nghyd-destunCynnyrch Crefft: Arfer Cyfoes.

Modylau nodweddiadol • Celf Cyfrwng Cymysg 2D: Gludwaith,

lliw a’r hyn sy’n benodol i’r safle• Herio lleoedd• Ffurf Cyfrwng Cymysg 3D:

Gwrthrych, Cyfosodiad a Lleoliad• Arfer Digidol Creadigol• Sgiliau Stiwdio• Arfer Proffesiynol• Prosiect Creadigol Uwch

Celfyddyd gain

Codau UCASBA Celfyddyd Gain: Arfer Cyfoes –W100

Gwneir ceisiadau i’r rhaglen hontrwy Goleg Sir Gâr C22

LleoliadCampws Caerfyrddina Choleg Sir Gâr CampwsFfynnon Job Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd amser llawn; cyfleoeddastudio rhan-amser ar gael

Gofynion mynediadFe’ch gwahoddir i ymweld â’rBrifysgol i drafod y rhaglen. Caiffmyfyrwyr eu derbyn ar sailteilyngdod unigol.

Manylion pellachCaroline Thraves - 01267 [email protected]

Page 18: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

18 | www.tsd.ac.uk

PRIF FFEITHIAU

Y CELFYDDYDAU CREADIGOLCyfathrebu Graffig

Gwybodaeth am y cwrsYm myd cyfathrebu gweledol sy’n tyfuac sy’n newid mor gyflym, y disgrifiadgorau o ddylunio graffig yw ‘gwneudsyniad yn weladwy’. Rhydd y cwrs hwngyfle i chi feithrin sgiliau ym maesdatrys problemau yn ogystal âgweithio mewn 2D, 3D a chydadelweddau symudol. Byddwch ynymchwilio i’r defnydd o eiriau a’r moddy maent yn cyfathrebu trwyddefnyddio teipograffeg.

Mae’r cwrs yn ceisio'ch cymhwyso iweithio yn y diwydiant cyffrous acamrywiol hwn, gan feithrin agweddaua sgiliau creadigol mewn amrywiaetho gyfryngau, yn draddodiadol ac ynddigidol.

Mae’r cwrs yn cyflwyno’r ieithoedd a’rprosesau graffig hanfodol, gangynnwys trin delwedd ddigidol, tynnullun traddodiadol a digidol,teipograffeg, brandio, hysbysebu,delweddu 3D a 2D, dyluniogwefannau, graffig symudol, gwneudprintiau, cyhoeddi safon uwch argyfrifiaduron, paratoi ar gyfer argraffuynghyd â thechnolegau newydd,rheoli prosiectau.

Trwy ganolbwyntio ar rai o’r priffeysydd mewn cyfathrebu cyfoes,mae’r cwrs hwn yn helpu i hyrwyddo’rprosesau meddwl creadigol ynghyd âchyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen iddechrau yn y diwydiant creadigol.Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi cyfle iunigolion greu gwaith mewn cyd-destun ac amgylchedd dwyieithog.

Ategir eich gwaith ymarferol ganraglen theori integredig sy’n eichgalluogi i weithio’n hyderus aphroffesiynol.

Modylau nodweddiadol • Cyflwyniad i Iaith Weledol• Cyflwyniad i Ddelweddu 2D/3D• Teipograffeg• Prosiectau Byw a Chystadlaethau• Arfer Proffesiynol• Traethawd hir• Prosiect Mawr

Nodweddion Allweddol • Cyfleuster ardderchog • Defnyddio’r technolegau Apple

Macintosh diweddaraf – yngaledwedd neu’n feddalwedd

• Dosbarthiadau bach ym mhobmodwl

• Cynllun cyfnewid myfyrwyrrhyngwladol

• Perthnasedd galwedigaethol cryf achysylltiadau â chyflogwyr

• Teithiau rheolaidd, cynadleddau adigwyddiadau – yn genedlaethol arhyngwladol

• Cysylltiad rheolaidd A’r staff

Cyfleoedd gyrfa • Ymarfer Dylunio Llawrydd• Cyhoeddi/hysbysebu/

brandio• Dylunio gwefannau• Dylunio arddangosfeydd• Rheoli stiwdios/cyfarwyddyd celf• Graffeg teledu • Gweithgynhyrchu arwyddion• Addysgu/darlithio

Cod UCASBA Cyfathrebu Graffig – W290

Gwneir ceisiadau i’r rhaglen hontrwy Goleg Sir Gâr C22

LleoliadCampws Caerfyrddina Choleg Sir Gâr Campws FfynnonJob Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd amser llawn; cyfleoeddastudio rhan-amser ar gael

Gofynion mynediadGweler tudalen 150. Fe’chgwahoddir i ymweld â’r Brifysgol idrafod y rhaglen. Caiff myfyrwyr euderbyn ar sail teilyngdod unigol.

Manylion pellachCaroline Thraves - 01267 [email protected]

Page 19: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 19

HYFFORDDIANT AC ADDYSGGYCHWYNNOL ATHRAWONAddysg Gynradd gyda SAC

Cynnwys y cwrs Mae’r radd anrhydedd BA AddysgGynradd gyda SAC yn canolbwyntio arastudiaeth broffesiynol o hollamrediad addysg gynradd, ac mae’nrhoi sylw penodol i anghenion a chyd-destunau ieithyddol addysgu yngNghymru. Prif egwyddor y rhaglenradd fodwlar yw sicrhau eich bod ynmeithrin dealltwriaeth drylwyr o’rcwricwla statudol ar gyfer ysgolioncynradd. Y nod yw darparu hyn mewnamgylchedd sy’n gofalu amdanoch, yneich cefnogi ac yn eich annog. Gyda’nhysgolion partner, rydym yn anelu atsicrhau eich bod yn cyrraedd eichpotensial llawn wrth ddatblygu’nymarferydd effeithiol a myfyrgar sy’nmedru addysgu mewn ystafellddosbarth gynradd yn awr yn ogystalâ medru delio â heriau’r dyfodol.Lluniwyd y cynllun gradd i addysgu ahyfforddi athrawon ar gyfer ysgolionyng Nghymru a thu hwnt, ac oganlyniad, rydych yn cael y cyfle iastudio nifer o ddyfarniadau atodol ynrhan o’r cwrs neu yn ychwanegol at ycwrs, ee Tystysgrif Ysgolion Eglwysig,Cymraeg fel ail iaith, ac amrywiaeth oDdyfarniadau Hyfforddi Chwaraeon. Fefydd gan hyfforddeion gyfle hefyd iehangu eu hymwybyddiaeth ofaterion aml-ddiwylliannol ac addysgolcyfoes, trwy feithrin cysylltiadau gydasefydliadau addysgol eraill mewnrhannau eraill o Brydain, Iwerddon,Cyfandir Ewrop a Lesotho. Mae llawero gyfleoedd hefyd i chi wella’ch sgiliauieithyddol. Mae yna ddau faesastudiaeth sy’n gysylltiedig ac sy’nmynd law yn llaw â’i gilydd:Astudiaethau Ysgol-seiliedig acAstudiaethau Coleg-seiliedig.

Astudiaethau ysgol-seiliedigLluniwyd yr Astudiaethau Ysgol-seiliedig i’ch galluogi i gymhwyso’rwybodaeth, y medrau a’rddealltwriaeth a gafwyd yn eichAstudiaethau Coleg-seiliedig mewncyd-destunau addysgol mewnysgolion. Fe’ch cyflwynir i faterionaddysgu a dysgu ar lefel sylfaenol yngynnar yn y cwrs, cyn ailymweld ânhw mewn mwy o ddyfnder wrth i’rcwrs fynd yn ei flaen, gan arwain yn ypendraw at ennill Statws AthroCymwysedig erbyn diwedd y cwrs.Mae 24 wythnos o Astudiaethau Ysgol-seiliedig pan gewch eich lleoli mewnysgolion ar hyd a lled De, Gorllewin aChanolbarth Cymru. Fe gewch ystod obrofiadau addysgu a fydd yn eichgalluogi i arddangos eich gallu yn ysafonau addysgu cenedlaethol wrth ichi weithio tuag at fod yn annibynnolfel darpar athro. Darperir AstudiaethauYsgol-seiliedig trwy:• Cyfres o ymweliadau i ystod eang o

leoliadau addysgol.• Ymarferion Dysgu yn y tair blynedd,

gan ddewis eich hoff gyfnod - Cyfnod Sylfaen (3-7 mlwydd oed) neu Gyfnod Allweddol 2 (7-11 mlwydd oed) yn eich ymarfer terfynol.

Os ydych yn astudio’r radd trwy gyfrwng yGymraeg, fe’ch lleolir mewn ystod oysgolion cyfrwng Cymraeg.

Astudiaethau coleg-seiliedig Mae’r Astudiaethau Coleg-seiliedig yncynnwys y meysydd canlynol:

Astudiaethau addysgu proffesiynol Mae’r Astudiaethau AddysguProffesiynol yn cyflwyno myfyrwyr iegwyddorion ac arferion addysgu adysgu sy’n cael eu hatgyfnerthu a’u

Page 20: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

PRIF FFEITHIAU

datblygu mewn agweddau eraill o’rcwrs. Ymhlith y materion a drafodirmae datblygiad proffesiynol athrawon,yr athro a’r gyfraith, gofal proffesiynol oblant ac agweddau ar anghenionaddysgol arbennig. Nod ychwanegolyw gwneud myfyrwyr yn ymwybodol ofaterion polisi yn ymwneud â’uhastudiaethau ysgol-seiliedig. MaeAstudiaethau Addysgu Proffesiynol yneich ysgogi i ehangu eich dealltwriaetho’r materion cyfoes sy’n dylanwadu aryr amgylchedd addysgol.

Astudiaethau y Cyfnod SylfaenMae’r astudiaethau yn canolbwyntio araddysgu plant rhwng 3 a 7 mlwyddoed ac mae’n cynnwys datblygiad yplentyn, pwysigrwydd chwarae arheolaeth y cwricwlwm. Byddwch ynastudio yn y saith maes dysgu sy’nrhan o Gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen:

• Datblygiad Personol aChymdeithasol, Lles ac AmrywiaethDdiwylliannol

• Sgiliau Iaith, Llythrennedd aChyfathrebu

• Datblygiad Mathemategol• Datblygu’r Gymraeg• Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd• Datblygiad Corfforol• Datblygiad Creadigol

Byddwch hefyd yn defnyddio’rcanllawiau a roddir gan GynulliadCenedlaethol Cymru a chymorthsefydliadau megis ESTYN.

Astudiaethau Cyfnod Allweddol 2 Bydd y maes hwn yn rhoi gwybodaeth adealltwriaeth i chi o’r CwricwlwmCenedlaethol ar gyfer Mathemateg,Gwyddoniaeth a Saesneg a’r Cymraegfel Iaith Gyntaf ac Ail Iaith. Byddwch yndysgu am rychwant o waith yn ypynciau canlynol: hanes, daearyddiaeth,TGCh, celf, dylunio a thechnoleg,cerddoriaeth, addysg gorfforol, addysg

bersonol a chymdeithasol ac addysggrefyddol. Yn ogystal astudir:• Gloywi Iaith - Mae’r cwrs yma’n rhoi

cyfle i hyfforddeion cyfrwng Cymraeg gryfhau eu sgiliau yn y Gymraeg.

• Technoleg Gwybodaeth - Y maehefyd gryn bwyslais drwy’r meysyddpynciol amrywiol ar gaffaelgwybodaeth a dealltwriaeth ogymwysiadau TGCh a’u defnydd yny broses o ddysgu ac addysgu.

Y Cwricwlwm Cymreig Mae’r Brifysgol wedi gwneud defnyddda o’i draddodiad hir a chryf o gynnighyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeger mwyn canfod ffyrdd a dulliau ohyrwyddo ymwybyddiaeth yrhyfforddeion o’r dimensiwn Cymreigmewn addysg. Byddwch yn caelgwedd eang ar Gymru trwyymweliadau addysgol a gwaith maes.

Nodweddion• Y gorau a’r mwyaf profiadol yng

Nghymru ym maes hyfforddiathrawon*

• Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio’r cwrs cyfrwng Cymraeg yma nag mewn unrhyw brifysgol arall yng Nghymru

• Darpariaeth arloesol a chymhwysolTGCh

• Cyfle i brofi pob cyfnod o fewnaddysg gynradd

• Mae gan y Brifysgol arbenigeddmewn addysg cyfrwng Cymraeg adwyieithog ynghyd â’r CwricwlwmCymreig

• Cyfle i ymweld â Llundain agwledydd eraill megis Yr Eidal aLesotho ac ymgymeryd â lleoliadgwaith fel rhan o’r AstudiaethauAddysgu Proffesiynol

*Dyfarnwyd cyrsiau hyfforddiant athrawonfel y gorau yng Nghymru mewn adroddiadgan arolygwyr ESTYN (2008). Gelllir gweld yradroddiad llawn ar www.estyn.gov.uk

Côd UCAS BA Addysg Gynradd gyda SAC -

X123

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser

Gofynion derbyn Disgwylir i ymgeiswyr fod âlleiafswm o radd B TGAU mewn oleiaf dau o’r pynciau craidd - mewniaith Saesneg/Cymraeg,Mathemateg a phwnc Gwyddonol.Ystyrir eithriadau os yw’r proffil ardraws y pynciau yn gyffredinoluchel. Os y byddwn yn eichgwahodd i gyfweliad bydd gofyn ichi gwblhau ffurflen yn nodi eichbod yn cwrdd ag anghenion yddogfen ‘Fitness to Teach’ agyhoeddwyd gan y DIUS.

Cyfleoedd gyrfa Dangosodd arolygon blynyddolgan y Gwasanaeth Gyrfaoedd foddros 80% o raddedigion, yndraddodiadol, wedi cael swyddidysgu o fewn chwe mis ar ôlgorffen eu cwrs. Mae mwy o alw amathrawon sy’n medru dysgu drwygyfrwng y Gymraeg.

Manylion pellachMarian Thomas - 01267 [email protected]

20 | www.ydds.ac.uk

HYFFORDDIANT AC ADDYSGGYCHWYNNOL ATHRAWON

Page 21: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 21

PLENTYNDOD CYNNARAddysg Blynyddoedd Cynnar

Cynnwys y cwrsMae’r ffordd y mae plant yn dysgu ynfaes astudio hynod o ddiddorol. Maeganddi ei fframwaith ei hunan ynghydâ’i hanghenion addysgol arbennig.Mae trafodaethau cyffrous ar waith,sy’n cael eu gyrru’n rhannol gan yCyfnod Sylfaen a Dechrau’n Deg yngNghymru, ynghyd â diddordeb mewndiffinio ansawdd ac addasrwyddmewn addysg blynyddoedd cynnar.Caiff y drafodaeth ei gyrru ganymroddiad cyffredinol i sicrhau addysgo’r safon uchaf i blant ifainc yngNghymru a thu hwnt. Mae cael pobl yngweithio yn y maes sydd wedi derbynhyfforddiant gadarn, sy’n wybodus,sy’n meddu ar sgiliau ac sy’n hyderus,yn hanfodol i ddarparu gwasanaethauo’r safon uchaf i blant. Mae’r cwrs hwnyn ymateb i’r galw am raddedigion iweithio ym mhob agwedd owasanaethau addysg i blant ifainc.

Mae’r cwrs yn defnyddio dull holistig odrin sut mae’r plentyn ifanc yn dysgu.Fel myfyriwr byddwch yn edrych ar yffordd y mae’r plentyn yn datblygu,drwy ddamcaniaeth ac ymarferiad, ynhanesyddol a chyfredol. Byddwch, erenghraifft, yn ystyried datblygiadaumewn ymchwil niwro-wyddonol a’ioblygiadau ar bolisi cyhoeddus adarpariaeth safonol. Byddwch ynastudio agweddau o hanes y plentyn,llythrennedd cynnar, teuluoedd drwy’roesoedd, y syniad o chwarae, iechyd yplentyn. Byddwch hefyd yn astudiocysyniad diwylliannol plentyndod,llenyddiaeth i blant, gender aphlentyndod.

Caiff myfyrwyr gyfle i ymweld â nifer owahanol leoliadau. Yn y drydeddflwyddyn byddwch yn ymgymryd âphrosiect arbenigol ac yn cael profiadmewn lleoliad perthnasol. Byddgraddedigion BA Addysg BlynyddoeddCynnar sy’n meddu ar y wybodaeth, ygwerthoedd a’r ddealltwriaethangenrheidiol ar gyfer arfer dda, yngwneud cyfraniadau arwyddocaol iragoriaeth broffesiynol mewn addysgblynyddoedd cynnar yng Nghymru athu hwnt.

Modylau enghreifftiol• Cyflwyniad i Ddatblygiad Dynol• Egwyddorion ac Ymarfer

Amrywiaeth, Cydraddoldeb aChynhwysiant yn y BlynyddoeddCynnar

• Caffael Iaith Plant• Camu Allan: Dysgu yn yr Awyr

Agored• Rheoli a Gweithio mewn tîm mewn

cyd-destunau Blynyddoedd Cynnar

Page 22: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

PRIF FFEITHIAU

22 | www.ydds.ac.uk

PLENTYNDOD CYNNAR

Prif nodweddion• Astudiaeth academaidd arbenigol

(ee gofal plant, seicoleg, hanesplentyndod, datblygiad iaith yplentyn)

• Lleoliadau ymarferol i wahanolleoedd ee llyfrgelloedd teganau,dosbarthiadau derbyn, ysgolionmeithrin, y sector gwirfoddol

• Gweithdai ymarferol eeCreadigrwydd y Plentyn Ifanc,Cerddoriaeth yn ystod BlynyddoeddCynnar, Babanod a Llyfrau

• Ymweliadau i ganolfannauarbenigol (ee Ysgol Steiner, CanolfanMontessori, lleoliad blynyddoeddcynnar lle defnyddir ieithoeddethnig)

• Mae gan y Brifysgol dros 150 oflynyddoedd o brofiad ym maesaddysg

• Mae’r Brifysgol yn arbenigo mewnaddysg ddwyieithog a darpariaethddwyieithog

• Mae gennym bartneriaethau gydadros 250 o ysgolion cynradd, a nifero ganolfannau addysg yngNghymru

• Meysydd arbenigol yn cynnwysllythrennedd cynnar,dwyieithrwydd, anghenionaddysgol arbennig, chwarae yn yrawyr agored ac ysgolion fforest

• Meithrinfa ar y campws

Cyfleoedd gyrfa• Gwaith gyda phlant ifainc• Gwaith cymdeithasol (gyda

chymhwyster proffesiynol) • Gwaith gyda’r gymuned a

theuluoedd megis Dechrau’n Deg• Seicoleg addysgol/ datblygiadol• Gwaith arbenigol mewn llyfrgell, ee,

Tegannau• Rheolydd Uwch mewn meithrinfa• Ymchwil addysgol• Sector gwirfoddol a gwaith

cymunedol

Hefyd ar gael• Tyst AU Rheolaeth Meithrinfeydd• Tyst AU Ymarfer Cymraeg a

Dwyieithrwydd yn y BlynyddoeddCynnar

• Dip ol-radd Cyfnod Sylfaen • MA Addysg Blynyddoedd Cynnar

Côd UCASBA Addysg Blynyddoedd Cynnar -

X311

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser. Rhan-amserar gael hefyd.

Gofynion derbynRydym hefyd yn derbyn myfyrwyr âchymwysterau DiplomaCACHE/NNEB. Fe gaiff eich cais i’rDrindod ei ystyried ar sail unigol.Rydym yn gwahodd pob ymgeisyddi gyfarfod â ni er mwyn trafod ycwrs a’r brifysgol.

Manylion pellachSian Wyn Siencyn - 01267 [email protected]

Page 23: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 23

Y CELFYDDYDAUPERFFORMIOYr Actor a’r Celfyddydau

Cynnwys y cwrsBwriad y radd hon yw meithrincreadigrwydd actorion crefftus,disgybledig ac ymroddedig gyda'radnoddau angenrheidiol i weithio ofewn sawl maes a chyfrwng. Mae'ngraddau i gyd yn dilyn strwythurtebyg, gan gychwyn gyda blwyddyngyntaf sy'n cynnig ystod eang ofodylau a phrofiadau addysgolamrywiol. Yna yn yr ail, mae'r gwaithyn mynd yn gynyddol bwnc benodol,ac yna yn y drydedd flwyddyn ceirpwyslais cryf ar waith ymarferol apherfformiadau cyhoeddus.

Modylau enghreifftiol• Gwaith llais ac acenion • Shakespeare ar y Llwyfan Cyfoes • Dadansoddi Testun • Darlledu o Stiwdio • Hyfforddiant Lleisiol• Sgriptio• Ffilmio • Cynyrchiadau Theatr• Prosiect Personol

Prif nodweddion• Cynyrchiadau dan gyfarwyddyd

actorion a chyfarwyddwyr profiadol• Cyfle i feithrin cysylltiad

uniongyrchol â chyflogwyr• Sesiynau Hyfforddiant Unigol• Cyngherddau a pherfformiadau gan

fyfyrwyr• Ymweliadau• Siaradwyr gwadd• Gweithdai• Sgiliau trosglwyddadwy helaeth• Cyfle i astudio dramor am gyfnod ar

raglen gyfnewid rhyngwladol yr Ysgol• Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i

ddatblygu potensial pob unigolynyn llawn

• Cyfle i ddatblygu doniau newydd achyfle i'w harddangos

• Cyfle i herio ac ymestyn galluoeddacademaidd

• Awyrgylch Gymreig a phrofiad ofywyd unigryw y Drindod

• Cyfle i feithrin sgiliaugalwedigaethol holl bwysig

• Dewisiadau penodol, addas i ddoniaua diddordeb personol yr unigolyn

• Cysylltiadau uniongyrchol â'rdiwydiannau perfformio achyfryngol

• Gweithgareddau celfyddydolbywiog a chyson ar y campws

Cyfleoedd gyrfa Dylai pob ymgeisydd gydnabod bod ybyd perfformio proffesiynol yn faescystadleuol dros ben, ac mai niferbychan o bobl - mewn gwirionedd -sy'n llwyddo i wneud bywoliaeth felactorion a pherfformwyr llawn amser.Fodd bynnag, mae yna alw cyson gangyflogwyr am bobl wybodus sydd âthalentau creadigol disglair acamrywiol. Am y rheswm hwnnw,cynlluniwyd y radd hon mewn moddsy'n datblygu sgiliau perfformiounigolion, tra ar yr un pryd yndatblygu ystod o sgiliau academaidd asgiliau trosglwyddadwy eraill allaigadw drysau gyrfaol eraill ar agor.Mae'r cysylltiadau sydd gan yr Ysgol â'rdiwydiannau perfformio a chyfryngolwedi arwain at gyflogaeth i nifer fawro'n graddedigion, mae eraill wedimynd yn eu blaenau i weithio mewnmeysydd ehangach gan gynnwys bydaddysg a gwasanaethau cyhoeddus.

PRIF FFEITHIAUCôd UCASBA Yr Actor a’r Celfyddydau -

W411

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser

Gofynion derbynGwahoddir pob ymgeisydd iglyweliad er mwyn asesu eupriodoldeb i'r rhaglen. Maeangen meddu ar sgiliaullythrennedd da, gan amlaf, gydaTGAU Gradd C neu uwch yn yGymraeg.

Manylion pellachIestyn Llwyd - 01267 [email protected]

Page 24: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

PRIF FFEITHIAU

24 | www.ydds.ac.uk

Y CELFYDDYDAUPERFFORMIO Y Celfyddydau Perfformio

Cynnwys y cwrsBwriad y radd hon yw meithrincreadigrwydd perfformwyr crefftus,disgybledig ac ymroddedig gyda'radnoddau a'r sgiliau i weithio o fewnsawl maes a chyfrwng. Mae gogwyddymarferol a galwedigaethol pendant i'rcwrs ynghyd â datblygu eich sgiliauacademaidd a'ch sgiliautrosglwyddadwy. Felly, yn ogystal âmeithrin eich sgiliau perfformio, asgiliau aml-gyfrwng, byddwch hefydyn datblygu sgiliau ymchwil, dehonglia gwerthuso beirniadol ynghyd âsgiliau cyffredinol buddiol a allai hybueich cyfleon gyrfäol mewn meysyddehangach na'r byd adloniant yn unig.Mae'n graddau i gyd yn dilynstrwythur tebyg, gan gychwyn gydablwyddyn gyntaf sy'n cynnig ystodeang o fodylau a phrofiadau addysgolamrywiol. Yna yn yr ail, mae'r gwaithyn mynd yn gynyddol bwnc benodol,ac yna yn y drydedd flwyddyn ceirpwyslais cryf ar waith ymarferol apherfformiadau cyhoeddus.

Modylau enghreifftiol• Dawns a Choreograffi• Y Theatr Gerddorol • Sgriptio • Gwersi canu• Darlledu o Stiwdio• Shakespeare ar y Llwyfan Cyfoes • Prosiect Personol• Cynyrchiadau

Prif nodweddion• Cynyrchiadau dan gyfarwyddyd

cyfarwyddwyr ac actorion profiadol• Cysylltiad uniongyrchol â chwmnïau

o fewn y diwydiant• Sesiynau Hyfforddiant Unigol• Ymweliadau

• Siaradwyr Gwadd• Gweithdai• Sgiliau trosglwyddadwy helaeth• Cyngherddau a Pherfformiadau

allgyrsiol• Cyfle i astudio dramor ar raglen

gyfnewid yr Ysgol• Cwrs sy'n ceisio datblygu potensial

pob unigolyn yn llawn• Cyfle i ymestyn sgiliau a herio

galluoedd academaidd• Awyrgylch Cymreig a phrofiad o

fywyd unigryw Y Drindod Dewi Sant• Cyfle i ddatblygu doniau newydd a

chyfle i'w harddangos• Cyfle i feithrin sgiliau

galwedigaethol hollbwysig• Cysylltiadau uniongyrchol â'r

diwydiannau perfformio a chyfryngol

Cyfleoedd gyrfa Dylai pob ymgeisydd gydnabod bod ybyd perfformio proffesiynol yn faescystadleuol dros ben, ac mai niferbychan o bobl - mewn gwirionedd - sy'nllwyddo i wneud bywoliaeth fel actoriona pherfformwyr llawn amser. Foddbynnag, mae yna alw cyson gangyflogwyr am bobl wybodus sydd âthalentau creadigol disglair acamrywiol. Am y rheswm hwnnw,cynlluniwyd y radd hon mewn moddsy'n datblygu sgiliau perfformiounigolion, tra ar yr un pryd yn datblyguystod o sgiliau academaidd a sgiliautrosglwyddadwy eraill allai gadw drysaugyrfaol eraill ar agor. Mae'r cysylltiadausydd gan yr Ysgol â'r diwydiannauperfformio a chyfryngol wedi arwain ynuniongyrchol at gyflogaeth i nifer o'ngraddedigion, mae eraill wedi mynd yneu blaenau i weithio mewn meysyddehangach gan gynnwys byd addysg agwasanaethau cyhoeddus.

Côd UCASBA Y Celfyddydau Perfformio -

W400

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser

Gofynion derbynGwahoddir pob ymgeisydd iglyweliad er mwyn asesu eupriodoldeb i'r rhaglen. Maeangen meddu ar sgiliaullythrennedd da, gan amlaf, gydaTGAU Gradd C neu uwch yn yGymraeg.

Manylion pellachIestyn Llwyd - 01267 [email protected]

Page 25: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.ydds.ac.uk | 25

Y CELFYDDYDAUPERFFORMIOCerdd a’r Cyfryngau

Cynnwys y cwrsBwriad y cwrs yw hyfforddi unigolion iweithio yn y diwydiannau cyfryngol acherddorol trwy gyflwyno cwricwlwmâ gogwydd ymarferol pendant wedi'iseilio ar sylfeini academaidd cadarn.Bydd y radd yn rhoi hyder i chi fynegieich hunan mewn ffyrdd creadigol acyn datblygu eich dealltwriaeth o'rberthynas rhwng dau faes arbenigolsy'n cydblethu'n rhwydd. Byddwch yndatblygu sgiliau ymchwil, dehongli agwerthuso beirniadol ynghyd â niferhelaeth o sgiliau ymarferoltrosglwyddadwy er mwyn hybu eichcyflogadwyedd.

Modylau enghreifftiol• Cerddoriaeth Gyfoes• Cyfryngau Newydd• Creadigrwydd Digidol• Cerddoriaeth a Ffilm• Radio• Sgriptio• Technoleg a Cherddoriaeth• Cyfarwyddo Cerdd• Crefft y Fideo Cerddorol• Rhaglenni Dogfen

Prif nodweddion• Cyfle cyson i weithio gydag

arbenigwyr o'r byd proffesiynol• Cyfle i feithrin agweddau ac

egwyddorion disgwyliedig yn ygweithle

• Defnydd o'r dechnoleg ddiweddarafmewn nifer o agweddau'r meysydd

• Hyfforddiant unigol ac mewngrwpiau bychain

• Ymweliadau• Cyfle i ennill profiad yn y meysydd

trwy gysylltiadau'r ysgol• Gweithdai

• Cwrs lle rhoddir ystyriaeth iddatblygu potensial pob unigolynyn llawn

• Cyfle i ymestyn galluoeddacademaidd

• Tîm o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig• Awyrgylch Cymreig a bywyd

unigryw Prifysgol Y Drindod DewiSant

• Gweithgareddau celfyddydol acherddorol cyson

• Cyfle i ddatblygu doniau newydd achael cyfle i'w harddangos

• Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliaugalwedigaethol hollbwysig

• Cysylltiadau uniongyrchol â'rdiwydiannau perfformio achyfryngol

Cyfleoedd gyrfa Oherwydd natur alwedigaethol y radda'r cysylltiad cyson â'r diwydiannaucyfryngol a pherfformio, mae eingraddedigion yn dueddol o ganfodswyddi ym meysydd teledu, radio,theatr, gwasanaethau cyhoeddus acaddysg. Yn unol ag ethos yr Ysgol,meithrinnir sgiliau trosglwyddadwybuddiol er mwyn hybu eichcyflogadwyedd mewn meysyddehangach yn ogystal, gan gynnwyselfennau o fusnes a mentergarwch.

PRIF FFEITHIAUCôd UCASBA Cerdd a’r Cyfryngau - PW33

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser

Gofynion derbynGwahoddir pob ymgeisydd iglyweliad er mwyn asesu eichpriodoldeb i'r rhaglen. Disgwylir ichi berfformio datganiad lleisiola/neu offerynnol o safon Gradd 5o leiaf. Mae angen meddu arsgiliau llythrennedd da, ganamlaf, gyda TGAU Gradd C neuuwch yn y Gymraeg.

Manylion pellachIestyn Llwyd - 01267 [email protected]

Page 26: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

PRIF FFEITHIAU

26 | www.tsd.ac.uk

Y CELFYDDYDAUPERFFORMIO Cerddoriaeth Broffesiynol

Cynnwys y cwrsDan arweiniad y darlithwyr profiadol,bydd y cwrs yn datblygu eichcreadigrwydd cerddorol ynghyd â'chparatoi ar gyfer gyrfa o fewn meysyddcerddorol proffesiynol. Byddwch yncael eich hyfforddi i gyfansoddi athrefnu cerddoriaeth ar gyfer ffilm atheledu. Bydd y radd yn datblygu eichhyder i gyfansoddi a mynegi eichhunan yn gerddorol tra hefyd ynmeithrin eich sgiliau perfformio, asgiliau technegol wrth recordio achymysgu sain mewn stiwdio. Ynwahanol i sawl gradd gerddorol arall,mae'r pwyslais yma ar ddatblygu achyflawni potensial creadigol, er bodsylw dyledus yn cael ei roi i agweddautheoretig a hanfodion cyfansoddi.

Modylau enghreifftiol• Technoleg Cerddoriaeth• Cyfarwyddo Cerdd • Cyfansoddi i'r Cyfryngau• Cerddoriaeth Gyfoes• Sgiliau Perfformio• Hyfforddiant Lleisiol/Offerynnol• Cerddoriaeth a Ffilm• Crefft y Fideo Cerddorol • Llythrennedd Cerddorol

Prif nodweddion• Cyfle cyson i weithio gydag

arbenigwyr o'r byd proffesiynol• Cyfle i feithrin agweddau ac

egwyddorion disgwyliedig yn ygweithle

• Defnyddio'r dechnoleg ddiweddarafmewn nifer o agweddau ar y pwnc

• Dealltwriaeth gadarn o seiliau acegwyddorion cerddorol

• Hyfforddiantofferynnol/lleisiol/corawl

• Cyfle i astudio dramor am gyfnod arraglen gyfnewid ryngwladol yr Ysgol

• Cwrs lle rhoddir ystyriaeth iddatblygu potensial pob unigolynyn llawn

• Cyfle i herio ac ymestyn galluoeddacademaidd

• Tîm sefydlog o fyfyrwyr Cymraegbrwdfrydig

• Awyrgylch Gymreig a bywydunigryw

• Cyfle i ddatblygu doniau newydd achael cyfle i'w harddangos

• Digwyddiadau celfyddydol acherddorol cyson ar y campws

• Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliaugalwedigaethol hollbwysig

• Cysylltiadau uniongyrchol â'rdiwydiannau perfformio achyfryngol

Cyfleoedd gyrfa Oherwydd natur alwedigaethol y radda'r cysylltiad cyson â'r diwydiant, maegraddedigion yr Ysgol yn dueddol oganfod swyddi ym meysydd teledu,radio, theatr, gwasanaethaucyhoeddus ac addysg. Yn unol agethos yr Ysgol, meithrinnir sgiliautrosglwyddadwy buddiol er mwynhybu eich cyflogadwyedd mewnmeysydd ehangach yn ogystal, gangynnwys elfennau o fusnes amentergarwch.

Côd UCASBA Cerddoriaeth Broffesiynol -

W390

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser

Gofynion derbynGwahoddir pob ymgeisydd iglyweliad er mwyn asesu eupriodoldeb i'r rhaglen. Disgwylir ichi berfformio datganiad lleisiola/neu offerynnol o safon Gradd 5o leiaf. Mae angen meddu arsgiliau llythrennedd da, ganamlaf, gyda TGAU Gradd C neuuwch yn y Gymraeg.

Manylion pellachIestyn Llwyd - 01267 [email protected]

Page 27: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

www.tsd.ac.uk | 27

Y CELFYDDYDAUPERFFORMIOY Cyfryngau Creadigol

Cynnwys y cwrsDiben y rhaglen yw meithrin adatblygu creadigrwydd yr unigolyn a'ugalluogi i fynegi eu syniadau drwynifer o gyfryngau amrywiol. Yn ogystalâ meithrin eich doniau creadigol acymarferol, cyflwynir dealltwriaethgadarn o ofynion y diwydiannaucyfryngol cyfoes. Bwriad y cwrs ywcreu unigolion creadigol sy'n medduar sgiliau technolegol cyfredol ar gyferrhychwant eang o swyddi o fewn ycyfryngau ynghyd â'r sectorau preifata chyhoeddus.

Yn ogystal â phalmantu'r ffordd tuagat waith yn y diwydiannau cyfryngol,bydd y cwrs yn cyflwyno agweddau arfentergarwch a rheoli cyllid er mwynrhoi yr hyder angenrheidiol i chi greu adatblygu eich cyfleoedd gyrfäol eichhun. Gall hefyd arwain at lwybrastudiaeth neu hyfforddiant pellachmewn meysydd perthnasol.

Modylau enghreifftiol• Datblygiad y Cyfryngau• Golygu a Graffeg• Radio• Ffilmio Camera Sengl• Creadigrwydd Digidol• Mentergarwch a Rheoli Cyllid• Rhaglenni Dogfen• Prosiect Personol• O'r Sgript i'r Sgrîn

Prif nodweddion • Darlithwyr gwadd o'r diwydiant yn

cyfrannu'n helaeth i'r modylau• Hyfforddiant mewn grwpiau

bychain• Ymweliadau

• Cyfle i ennill profiad yn y cyfryngautrwy gysylltiadau'r ysgol

• Gweithdai• Sgiliau trosglwyddadwy • Meithrin a datblygu creadigrwydd a

dyfeisgarwch yr unigolyn• Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i

ddatblygu potensial pob unigolynyn llawn

• Cyfle i ymestyn galluoedd ymarferolac academaidd

• Tîm o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig• Awyrgylch Cymreig a bywyd

unigryw • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a

chael cyfle i'w harddangos• Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau

galwedigaethol hollbwysig• Cysylltiadau uniongyrchol â'r

diwydiannau perfformio achyfryngol

Cyfleoedd gyrfa Oherwydd natur alwedigaethol y radda'r cysylltiad cyson â'r diwydiannaucyfryngol, mae ein graddedigion yndueddol o ganfod swyddi ymmeysydd teledu, radio, theatr,gwasanaethau cyhoeddus ac addysg.Yn unol ag ethos yr Ysgol, meithrinnirsgiliau trosglwyddadwy buddiol ermwyn hybu eich cyflogadwyeddmewn meysydd ehangach yn ogystal,gan gynnwys elfennau o fusnes amentergarwch. Yn ystadegol, maellwyddiant ein graddedigion i ganfodgwaith o fewn y meysydd cyfryngol ynuchel.

PRIF FFEITHIAUCôd UCASBA Y Cyfryngau Creadigol - P306

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser

Gofynion derbynGwahoddir pob ymgeisydd iglyweliad er mwyn asesu eupriodoldeb i'r rhaglen. Maeangen meddu ar sgiliaullythrennedd da, gan amlaf, gydaTGAU Gradd C neu uwch yn yGymraeg.

Manylion pellachIestyn Llwyd - 01267 [email protected]

Page 28: Llyfryn Cyrsiau Cymraeg

Gwybodaeth BellachAm fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Brifysgol

01267 676767

www.ydds.ac.uk/cy/cyrsiau/cyfrwngcymraeg