Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 27, 2017Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: [email protected]
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
DATHLU YN SEION, ABERYSTWYTHCafwyd oedfa deuluol yn Seion ym mis Mawrth i ddathlu gŵyl ein nawddsant a 300
mlynedd geni’r Pêr Ganiedydd. Cafwyd cyfraniadau didwyll a graenus gan blant ac
ieuenctid yr eglwys dan arweiniad y gweinidog. Roedd yn gyfle hefyd i ni gyfrif ein
bendithion a diolch am gariad Crist, sy’n newid dynion er daioni, ac anogwyd ni i
adlewyrchu ei gariad a’i estyn at eraill trwy bob gair a gweithred yn ein cymuned a
thu hwnt. Ar ddiwedd yr oedfa, gwnaed casgliad at anffodusion De Swdan, ac erbyn
hyn mae’r swm wedi cyrraedd £700. Ein braint yw helpu eraill llai breintiedig na ni.
Ymunodd pawb yn y festri wedyn am baned a sgwrs.
Bellach mae’r Parchg. Andrew Lenny wedi gwasanaethu’r eglwys hon yn
gydwybodol ers 30 o flynyddoedd. Diolchwn i’r Arglwydd am ei gadw a’i gynnal i
gyhoeddi Efengyl
gras Duw i ni yn
ddi-dor gydol y
blynyddoedd hyn.
Dathlwn a
diolchwn i Andrew
a Rosemary am eu
cenhadaeth, eu
gofal a’u
cyfeillgarwch.
Yn y llun:Bedyddio DionWyn, mab CatrinMedi a Mesachgan y ParchgAndrew Lenny ynSeion ar ddyddSul, Mawrth 26.
PIP ar daith
Aeth PIP (Pobol Ifanc Priordy) ar daith arbennig i Bencladlys Heddlu Dyfed
Powys, yn Llangynnwyr, Caerfyrddin. Yno i’w croesawu, ac yn i’w harwain am
y bore roedd Y Parchg Tom Evans, Caplan yr Heddlu sydd wedi bod yn gwneud
ei waith yn wirfoddol ers dros 5 mlynedd.
Cafwyd bore hynod o ddiddorol yn dysgu am waith yr heddlu yn ardal eang
Dyfed Powys. Bu’r ymweliad yn ddilyniant i’r gynhadledd arbennig a drefnwyd
ar gyfer Gweinidogion yn y Pencadlys y llynedd, gyda’r bwriad o greu perthynas
agosach rhwng yr eglwysi lleol a’r heddlu - y naill a’r llall yn gwasnaethu’r
gymuned yn eu hamryw ffyrdd. Diolch am y croeso, ac i’r Parchg Tom Evans
am ei gwmni.
FfoaduriaidDoes dim angen ein help arnynt
Felly peidiwch a dweud wrtha i
Mi allai’r gwynebau gwyllt fod yn eiddo i chi neu fi
Pe bai bywyd wedi delio’r cardiau yn wahanol
Mae angen eu gweld nhw fel y bobl ydynt mewn
gwirionedd
Rhai mentrus a chwiwladron
Diogwyr a segurwyr
Gyda bomiau dan eu gwisg
Yn dorrwyr gyddfau a lladron
Dydy nhw ddim (i)
Deimlo fod croeso yma
Dylent
Fynd yn ol i’r lle y daethant ohono
Ni allant hwy
Rhannu ein bwyd
Rhannu ein cartrefi
Rhannu ein gwledydd
Yn hytrach
Adeiladwn wal i’w cadw allan
Nid yw’n iawn dweud
Mae’r bobl yma yn union fel ni
Dylai lle fod yn eiddo i’r rhai a anwyd yno yn unig
Peidiwch a bod mor ffôl a meddwl y
Gellir edrych ar y byd mewn ffordd arall
Nawr darllenwch y gerdd o’r llinell olaf yn ol.
Cyfieithiad Raymond Owen o’r gerdd “Refugees”gan Brian Bilston.
CYN I BROBLEM FACHFYND YN BROBLEM FAWR!Mae Ymddiriedolaeth
Genedlaethol yr Eglwysi
am helpu â gwaith cynnal
a chadw brys trwy gynnig
grantiau o £1,000-£2,500
tuag at waith cymharol
fach sy’n costio rhwng
£2,000 a £10,000. Gall unrhyw enwad Cristnogol
ymgeisio – ond rhaid i’r adeilad fod yn un syddwedi ei restru gan Cadw. Hefyd, rhaid i’r adeilad
fod yn un a godwyd fel addoldy yn wreiddiol a bod
50% o’r arian sy’n ofynnol eisoes ar gael.
Bydd angen ‘quote’ gan ddau gontractwr. Mae
rhagor o fanylion, a sut i ymgeisio am gymorth
ariannol, ar wefan yr Ymddiriedolaeth.
Y dyddiadau cau yw Mai 10 a Medi 6.
Mae digon o amser gennych felly i archwilio eich
capel i weld os oes angen gwneud gwaith, ac i
drafod â chontractwyr. Mwy o fanylion:
http://www.nationalchurchestrust.org/our-
grants/maintenance-grants
sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 17 Ebrill 27, 2017 50c.
Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
COFIO CALFARIA: CODI’R GROES AR BEN Y BRYN
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Cyfarfodydd Blynyddol
Rhydaman, 2017Tybed a fyddai’r sawl sy’n bwriadu dod
i’r Cyfarfodydd Blynyddol yn Rhydaman
ac yn gobeithio cael bwyd yno, yn
dychwelyd eu Ffurflenni Bwyd ar
unwaith at:
Mrs Bethan E. Thomas,
Lleifior, 15 Heol yr Hendre,
Tycroes, Rhydaman.
Sir Gaerfyrddin, SA18 3LA
Diolch yn fawr iawn
Ar brynhawn Gwener y Groglith
fe gerddodd hanner cant o
aelodau a phlant capeli Cymraeg
cylch Caerfyrddin i ben Bryn
Myrddin a chodi croes yno. Mae
olion hen fryngaer ar y bryn
uwchlaw pentref Abergwili.
Mae’n bosib mai dyna oedd
lleoliad tref Geltaidd Mordin,
neu enw tebyg, adeg bywyd
daearol Iesu. Ond pam mynd
yno i gynnal oedfa?
“Ar ôl cymryd rhan mewn oedfa
yn y dre y bore ‘ma, a gan fod
gweddill y dydd yn rhydd, ro’
ni’n meddwl y byddai’n braf gwneud rhyw beth gwahanol i nodi gŵyl fawr y Pasg,”
esboniodd y Parchg Beti-Wyn James. “Gan bo ni’n byw wrth droed Bryn Myrddin ro’ ni’n
awyddus i drefnu achlysur ar gyfer y teulu cyfan. Rwy’n credu bod hi’n bwysig iawn bo ni’n
cadw ffresni yn ein dathliadau ac yn manteisio ar gyfleon fel hyn i dreial rhyw beth
newydd.”
Dathlu Mawredd Crist
“Dringo’r mynydd ar fy ngluniau” oedd yr emyn a ddaeth i’r cof wrth esgyn y llwybr serth
o’r fferm gyfagos, cyn tremio – nid drwy cawodydd dagrau – ond trwy ddagrau ambell
gawod ysgafn ar dre Caerfyrddin a Dyffryn Twyi islaw. Cariwyd y groesbren arw gan rhai
o’r plant, a’i gosod i orffwys yn erbyn yr hysbysfwrdd sy’n adrodd hanes y fryngaer.
Anerchwyd y pererinion gan y Parchg Beti-Wyn, a gyhoeddodd yr emyn cyntaf, o’r eiddo
Roger Jones:
Ar y groes, Waredwr dynion
drosom ni, buost ti,
collaist waed dy galon
Cafwyd darlleniad teimladwy o Luc 23 gan y Parchg Peter Cutts am farwolaeth Iesu ar
Galfaria am dri o’r gloch y pnawn, a hithau erbyn hynny yn dri o’r gloch ar ben Bryn
Myrddin hefyd. Yn dilyn gweddi, a chydadrodd Gweddi’r Arglwydd, fe ganwyd geiriau
Titus Lewis ar alw Bryn Myrddin:
Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb,
mawr yn gwisgo natur dyn,
mawr yn marw ar Galfaria,
mawr yn maeddu angau’i hun...
Yn dilyn y fendith, fe aeth pawb i lawr o ben y bryn, ond gan adael y groes yno, i gael
cwpaned o de a chacen yng nghanolfan fferm Bryn Myrddin. Er gwaetha’r tywydd anffafriol,
bu’n brofiad gwahanol a bendithiol iawn i’r pererinion.
Lluniau a geiriau: Alun Lenny
NEGES PASG YLLYWYDD
Dim ond cariad Duwall lanhau’r byd o’rcasineb gwenwynig aamlygir ar ei waethafyn y defnydd o arfaucemegol, meddaiGlyn Williams,Llywydd Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg mewn neges argyfer y Pasg.
“Er bod arfau cemegol yn cael eu
gwahardd gan Brotocol Genefa, mae
cemegau fel Sarin yn dal i gael eu
defnyddio i ladd pobl yn y modd mwyaf
erchyll,” meddai. “Cynnyrch labordy yw
Sarin, ond mae’r defnydd ohono yn
gynnyrch casineb dyn yn erbyn cyd-ddyn.
“Casineb yw un o’r nodweddion dynol
negyddol y mae’r Beibl yn galw’n
bechodau. Dioddefodd Iesu ei hun
ganlyniadau casineb pan gafodd ei
arteithio a’i ladd am bregethu cariad Duw
yn hinsawdd wleidyddol wenwynig y
Dwyrain Canol yn y ganrif gyntaf,”
meddai Mr Williams.
“Ond mae buddugoliaeth Crist dros
bechod a marwolaeth ei hun yn arwydd o
allu Duw i’n glanhau ni o’r pethau hynny
sy’n gwenwyno ein bywydau – ar lefel
bersonol a chymdeithasol. Dim ond grym
cariad Duw all waredu dynoliaeth o’r
casineb gwenwynig sy’n arwain at ryfel
a’r defnydd o arfau cemegol i ladd
dynion, menywod a phlant.”
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 27, 2017Y TYsT
PARATOI AR GYFER Y DATHLUMis Hydref 1981. Dyna oedd y tro cyntaf i mi dderbyn gwahoddiad gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg i’w gynrychioli mewn cynhadledd. Y tro hwnnw, mewn eglwys yn
Aston, Birmingham y bu i ni ymgynnull, a’r digwyddiad oedd cynhadledd i ieuenctid
Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM). Euthum yno yng nghwmni ein darpar-lywydd, Jill-
Hailey Harries, ac Anna Jane Evans, sydd bellach yn weithwraig gyda Cymorth Cristnogol.
Yn y 35 mlynedd ers hynny cefais y fraint o gynrychioli’r Undeb mewn nifer o wahanol
gyfarfodydd a digwyddiadau, a phob tro ‘rwyf wedi dychwelyd adref wedi fy ngoleuo, fy
addysgu a’m ffydd gymaint yn gryfach. Nid oes dim tebyg i rannu a phrofi ffydd yng
nghwmni aelodau eglwysig o draddodiadau Cristnogol gwahanol!
Rhanbarth Ewrop
‘Roeddwn yn rhyfedd o falch, felly, pan
ofynnwyd i mi gan yr Undeb i fynd i
gyfarfod Rhanbarth Ewrop o’r Cymundeb
Byd-eang o Eglwysi Diwygiedig yn
Dusseldorf. Cyfarfod paratoadol oedd hwn ar
gyfer Cyngor Cyffredinol y Cymundeb a
drefnir pob saith mlynedd. Cefais gyfle i
fynychu’r Cyngor diwethaf yn Grand Rapids,
UDA, ‘nôl yn 2010 a braint fawr i mi yw
bod yr Undeb wedi gofyn i mi fynychu’r
Cyngor eleni eto yn Leipzig ar ddiwedd mis
Mehefin, yn un o dri a fydd yn cynrychioli’r
Undeb yno.
Brexit
Cyfarfod 24-awr oedd hwn yn Dusseldorf,
gyda chynrychiolwyr o eglwysi diwygiedig Ewrop yn bresennol. Cymysg iawn oedd fy
nheimladau gan fod y cyfarfod yn digwydd yr un penwythnos ag yr oedd arweinwyr yr
Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod yn Rhufain i ddathlu 60 mlynedd Cytundeb Rhufain a ddaeth
â’r gymuned Ewropeaidd i fodolaeth. Ni fedrwn lai nag ystyried oblygiadau Brexit i mi, i
Gymru ac i wledydd Prydain trwy gydol fy amser ym mhlith fy nghyd-ddinasyddion.
Lloches
Cawsom drafodaethau brwd a goleuedig ar ein dyletswyddau fel Cristnogion tuag at
ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid; afraid dweud ein bod i gyd yn gytûn am ein cyfrifoldeb i
ofalu am, a chynnig cymorth i’n brodyr a’n chwiorydd. Penderfynwyd pwysleisio i drefnwyr
y Cyngor Cyffredinol yn Leipzig bwysigrwydd neilltuo amser i drafod y mater hwn o ddifrif.
Cefais innau gyfle i sôn am bwysigrwydd cynnwys ffoaduriaid amgylcheddol mewn
trafodaeth o’r fath.
Trafodaeth
‘Adnewyddu a Thrawsffurfio’ fydd thema’r trafodaethau yn ystod y deng niwrnod yn Leipzig
ac ynghyd ag addoli rheolaidd ac astudiaethau Beiblaidd, ceir cyfle i wrando ar gyfres o
siaradwyr, yn ddiwinyddion, economegwyr, haneswyr, cyfreithwyr rhyngwladol a
gwleidyddion. Rhaid cyfaddef i mi groesawu’n fawr y wybodaeth fod y bytholwyrdd Jurgen
Moltmann (sy’n 92 mlwydd oed), ac yn dal i ysgrifennu ac annerch! Mae ei ddehongliad o’r
Drindod wedi fy niddori (er nad wyf bob amser yn cytuno ag ef) ers blynyddoedd), ynghyd â
Farid Esack (Mwslim a fu’n gweithio gyda Nelson Mandela ar y Comisiwn Cyfiawnder)
ymysg y siaradwyr gwadd.
Gwerthfawrogiad
Braint fawr ddaeth i’m rhan yn Dusseldorf oedd bod Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, gyda
chefnogaeth Eglwys yr Alban, Eglwys Bresbyteraidd Iwerddon a’r Eglwys Ddiwygiedig
Unedig wedi cyflwyno fy enw i’w ystyried fel aelod o Bwyllgor Gweinyddol y Cymundeb.
Go brin y gwireddir hyn gan fy mod yn cofio’r holl ‘wleidydda crefyddol’ a ddigwyddodd
ymysg y mil a mwy o gynrychiolwyr yn Grand Rapids wrth drafod enwebiadau saith
mlynedd yn ôl. Nid yw hynny’n lleihau dim ar y fraint o gael fy enwebu. Diolchaf i’r
Undeb, a’r tri enwad arall o wledydd Prydain, am eu hymddiriedaeth.
Uchafbwynt y Cyngor Cyffredinol yn Leipzig fydd ein taith i Wittenberg. Yno, yn ôl yr
hanes, ar 31 Hydref 1517, hoeliodd Martin Luther ei gant namyn pum erthygl ar ddrws
Eglwys yr Holl Saint. Yn sicr, bydd hyn yn rhywbeth i edrych ymlaen ato wrth i mi farcio
sgriptiau arholiad yn y Brifysgol trwy fisoedd Mai a dechrau Mehefin, oherwydd nid yw
antur y bererindod i’r Almaen ond megis wedi dechrau!
Hefin Jones
Diolch am 36 Mlyneddo Wasanaeth
Gofid i ni fel eglwys oedd gorfod derbyn
ymddiswyddiad Mrs Mair Olwen Jones
fel ysgrifennydd Salem, Porthmadog a
hynny wedi 36 o flynyddoedd o waith
cydwybodol. Llwyddodd Mair i wneud y
gwaith gyda sirioldeb a hynawsedd ar bob
achlysur, ac mewn cyfnod di-weinidog yn
nechrau Nawdegau’r ganrif ddiwethaf,
llwyddodd yn rhyfeddol i lenwi’r pulpud
bob Sul gyda gwahanol bregethwyr.
Yn ogystal â bod yn ysgrifennydd,
rhoddodd gyfraniad teilwng iawn fel
athrawes ysgol Sul hyd yn ddiweddar. Bu
cyfnod hyd yn gymharol ddiweddar pan
gynhelid gwasanaeth plant bob bore Sul
cyntaf o’r mis (ar wahan i fis Awst) a’r
athrawon, yn eu tro, yn gyfrifol am
lunio’r rhaglen. Bob tro y lluniai Mair
wasanaeth i’r plant, byddai graen arno.
Cofier hefyd am gyfraniad ei diweddar
briod Mr Harri Jones a fu’n un o
ymddiriedolwyr yr eglwys am
flynyddoedd.
Bore Sul Mawrth 12 a’r gwasanaeth o
dan ofal y gweinidog, y Parchg Iwan
Llewelyn Jones, daliwyd ar y cyfle i
ddiolch iddi ac i ddymuno’n dda iddi.
Cyflwynwyd rhoddion iddi ar ran yr
eglwys a’r Ysgol Sul. Da dweud y bydd
yn parhau yn un o’r diaconiaid. Ymunodd
y gynulleidfa a’r plant i ddiolch i Dduw
am ei chyfraniad.
Croesawn Mr Tomos Iwan Edwards fel
ysgrifennydd newydd yr eglwys a
diolchwn iddo am ei barodrwydd i
dderbyn y swydd. Y mae Twm fel y’i
hadwaenir yn gyn-brifathro ac yn un o
frodorion y Ganllwyd ger Dolgellau.
Iwan Llewelyn Jones
Ebrill 27, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Barn Annibynnol
AGOR Y DRWsHwre! Cafwyd dwy erthygl yn ‘y Tyst’ ym
mis Chwefror eleni oedd yn anelu at
gwrdd ag un o anghenion mawr ein
eglwysi – sef arweiniad addysgol,
bywiog, cyfoes a sylweddol i agor y
drws i syniadau meddylwyr Cristnogol
blaenllaw o bedwar ban byd.
Byddai’n beth da
cael cyflwyniadau
cyson sy’n ymgadw
rhag pardduo na
chanmol, ond yn
bodloni ar agor y
drws mor gytbwys
ag sy’n bosibl, gan
adael i bobl allu cnoi
cil dros y cynnwys
drostyn nhw eu
hunain. Tynnodd yr
erthyglau sylw at lyfr John Spong,
“Christianity Must Change or Die”. Teg
nodi fod Spong yn un o bregethwyr
ysgolheigaidd mwya’n hoes ac yn un
sydd wedi hawlio sylw.
Ysgrifennu Creadigol
Rydw i am gyfeirio at ei lyfr diweddara –
mae’n bosib ei olaf. Y mae “Biblical
Literalism: A Gentile Heresy” yn hynod o
ddiddorol. Yn gyson gyda nifer o
ysgolheigion y mae Spong yn honni nad
oedd y cenedl ddynion (Groegwyr) yn
sylweddolwn nad yw stori’r eglwys
erioed wedi bod yn statig. Yng nghanol
gwewyr ansicr y cyfnod hwnnw
gafaelodd arweinwyr y diwygiad mewn
awdurdod newydd i’w galluogi i
wynebu’r ffaith fod y Pab wedi colli ei
awdurdod ef. Troi wnaethant at y Beibl
a’i droi i fod yn debyg i ganllawiau celfi
IKEA i esbonio sut mae codi silff lyfrau.
Roedd hyn I’w weld yn y meddylfryd o
“adnod i brofi pwynt”. Wrth gwrs y mae
digon o adnodau bob amser sy’n croes-
ddweud ei gilydd. Roedd y meddylfryd
‘adnod i brofi pwynt’ wrth dast pobl oedd
chwilio am sicrwydd wnaeth agor y drws
i rannu, dienyddio, carcharu ac ati.
Perthynas gynnes
Onid y peth pwysica i ddilynwyr Iesu
ymhob oes yw ymroi i hwyluso
perthynas gynnes a chreadigol gan fod
yn bersonau bendithiol. Yr opsiwn arall
yw bod yn bobl sy’n cecru’n garfannol a
cheidwadol wrth anwesu rhyw adnodau
dewisol a’u troi’n athrawiaethau cadarn.
Mae ‘na gwpled yn y Gymraeg sy’n
crisialu hanfod yr erthygl hon ac
argyhoeddiadau Spong:
“Nes na’r hanesydd at y gwir digoll /
Ydyw’r dramodydd sydd yn gelwydd
ôll”.
Eirian Rees
(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol
o reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt
Undeb yr Annibynwyr na’r tîm
golygyddol.)
deall dulliau’r Iddew o lenydda. Mae
Spong yn cyflwyno Efengyl Mathew fel
darn o dystiolaeth sy’n cael ei gyflwyno
trwy ysgrifennu creadigol sy’n
adlewyrchu trefn llithiadur a blwyddyn yr
Iddew. Mae hyn i mi yn syniad newydd,
yn union fel roedd esboniad Maurice
Loader flynyddoedd yn ôl fod yr Efengyl
wedi ei ddosrannu’n bump ran sy’n
cyfateb i “bum llyfr Moses”.
Dau Beth
I mi y mae dau beth i’w ddweud am
Spong. Yn gyntaf, ei fod yn darllen ei
Destament Newydd gan edrych ar bob
darn yn ôl dyddiad ei ysgrifennu.
Dechreua gyda 1 Thesoloniaid (49 o.c.)
wedyn epistolau Paul (50 a 60au), Marc
ac wedyn yr efengylau eraill yn dilyn (70
o.c.- 100). Wrth wneud hyn y mae’n
gallu gweld fel bu i’r traddodiad a’r
dystiolaeth Gristnogol ddatblygu gam
wrth gam o 49 o.c.-100 o.c. Y mae
gwneud hyn yn cynnig esboniad ar
lawer o’r gwahaniaethau sy’n y
gwahanol rannau o’r Testament
Newydd. Yn ail, y mae’n amlwg fod
Spong yn poeni llawer mwy am sut mae
llyfrau’r Testament Newydd yn
ysbrydoli, yn hytrach nag yn
awdurdodu.
Achosi Tanchwa
Eleni byddwn yn dathlu cyfraniad Martin
Luther i fywyd yr eglwys. Llwyddodd
Luther a Calvin ac eraill i achosi
tanchwa eglwysig. Wrth gofio hynny
Eirian Rees
Rhaglen DatblyguAnnibynwyr Cymru
Fel y gwyddoch, cychwynnwyd
Rhaglen Datblygu Annibynwyr Cymru
yn 2009 ac roedd i orffen yn 2013.
Roedd iddi chwe elfen ac un o’r
elfennau hynny oedd cynnig
cymhorthdal i eglwysi a chyfundebau ar
gyfer prosiectau a fyddai’n
ddatblygiadol ac yn estyn allan i’n
cymunedau. Elwodd nifer o eglwysi a
rhai cyfundebau ar y cynllun hwn a
rhaid diolch iddynt am fod mor barod i
weld posibiliadau’r Rhaglen.
Dymunaf i’r eglwysi a’r cyfundebau
wybod i Bwyllgor Gweinyddol yr
Undeb yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar
Ebrill 4ydd, 2017 benderfynu terfynu’r
Gronfa Prosiectau, a hynny’n
ddiymdroi.
Hoffwn ddiolch i’r Panel Dyfarnu
Cymhorthdal am eu gwaith trylwyr.
Ifan Alun Puw (Cadeirydd y Panel
Datblygu)