40
COVID-19: Canllawiau ar gyfer y gweithle i gyflogwyr, gweithwyr a phobl hunangyflogedig 7 Gorffennaf 2020 Diogelu Cymru yn y gwaith mewn labordai a chyfleusterau ymchwil a datblygu

Diogelu Cymru yn y gwaith mewn labordai a chyfleusterau ......wneud yn siŵr bod pellter o 2m yn cael ei gadw rhwng unigolion ar unrhyw safle lle caiff gwaith ei wneud, a rhoi mesurau

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • COVID-19: Canllawiau ar gyfer y gweithle i gyflogwyr, gweithwyra phobl hunangyflogedig

    7 Gorffennaf 2020

    Diogelu Cymru yn y gwaith –mewn labordai a chyfleusterauymchwil a datblygu

  • Diweddariadau i'rddogfen

    2

    Cyhoeddwyd 7 Gorffennaf 2020

  • Bydd y ddogfen hon yn helpu cyflogwyr, gweithwyr a phoblhunangyflogedig yng Nghymru i ddeall sut mae gweithio’nddiogel yn ystod y pandemig COVID-19, gan gadw cyniferâ phosibl o bobl 2 fetr oddi wrth y rheini nad ydynt yn bywgyda nhw.

    Er mwyn mynd i’r afael â lledaeniad COVID-19, cyflwynoddLlywodraeth Cymru y Rheoliadau Coronafeirws sy’n gosodcyfyngiadau llym ar ymgynnull, symud pobl, a gweithredubusnesau (mae rhai ohonyn nhw wedi gorfod cau dros dro). Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi’r flaenoriaeth i ddiogelupobl, a gyda’r nod hwn, mae nawr yn mynd ati’n ofalus ilacio’r cyfyngiadau symud ac ailagor busnesau. Mae diogelwch, iechyd a llesiant pawb yn bwysicach na dim i ni.

    Mae’r Rheoliadau yn gofyn i unigolyn sy’n gyfrifol am waithsy'n cael ei gyflawni (ac eithrio busnes sy’n cael ei restru'nbenodol yn Rhan 4 o Atodlen 1) i gymryd pob cam rhesymoli wneud yn siŵr bod pellter o 2m yn cael ei gadw rhwngunrhyw unigolion ar y safle (heblaw rhwng dau aelod o'r un aelwyd, neu ofalwr â'r person sy'n cael cymorth gan y gofalwr). Cyfeirir at y gofyniad hwn yn y ddogfen hon fel y “dyletswydd cadw pellter corfforol”. Mae “safle” yn cynnwysunrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir ac felly mae’ncynnwys lleoliadau dan do ac yn yr awyr agored.

    Sut mae defnyddio'r canllawiau hyn

    O dan reoliad 7A, mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddiCanllawiau Statudol a chanllawiau atodol ar gymryd pobcam rhesymol i gadw pellter corfforol ym mhob gweithle, ac mae’n rhaid i bob busnes ac unigolyn sy’n ddarostyngedig i’rddyletswydd cadw pellter corfforol roi sylw iddyn nhw. Mae’rddogfen hon yn adeiladu ar y gofynion hyn gyda chyngorymarferol yn ogystal â chyfeirio at ganllawiau sector-benodolneu berthnasol eraill.

    Nod y ddogfen hon yw cynorthwyo cyflogwyr, gweithwyr a phobl hunangyflogedig sy'n gweithredu mewn labordai a chyfleusterau ymchwil a datblygu. Mae'n cynnwysystyriaethau ymarferol ynghylch sut gellir rhoi arferion diogelar waith yn eich safle. Bydd angen i bob busnes drosi’r rhainyn gamau penodol y bydd angen iddo eu cymryd, ganddibynnu ar natur y busnes, gan gynnwys maint a math y busnes, sut mae’n cael ei drefnu, ei weithredu, ei reoli a’ireoleiddio.

    Os oes unrhyw anghysondeb rhwng y canllawiau hyn a’rCanllawiau Statudol, dilynwch y Canllawiau Statudol. Nidyw'r canllawiau hyn yn disodli cyngor cyfreithiol y dylechystyried ei gael lle bo angen, nac yn disodli unrhywrwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys ynghylch iechyda diogelwch, cyflogaeth neu gydraddoldeb.

    Cyflwyniad

    3

    Amgylcheddau ymchwil dan do, fel canolfannau peirianneg, ystafelloedd glân, canolfannauprototeipio, labordai gwlyb, twnelau gwynt, labordaicyfrifiaduron, efelychwyr, labordai datblygu deunyddiau, ystafelloedd profi arbenigol a safleoedd tebyg.

    Mewn labordai a chyfleusterauymchwil a datblygu, mae gofyn ibobl gydweithio ar y safle, a hynny’n gorfforol agos yn aml. Mae’n bosibl bod cyfyngiad arba mor hyblyg mae shifftiau a gosodiad ystafelloedd yn gallubod. Hefyd, mae llawer o eitemau amlddefnydd yn cael eudefnyddio’n aml, fel cyfarpar a pheiriannau profi – a does dim modd golchi pob un.

    Nid yw'r canllawiau hyn ynuniongyrchol berthnasol ileoliadau gofal iechyd.

    Beth mae ‘labordaia chyfleusterauymchwil a datblygu’ ynei olygu?

    https://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraithhttps://llyw.cymru/cymryd-pob-cam-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithlehttps://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle-canllawiau-atodol

  • Mae'n bwysig eich bod chi fel busnes neu gyflogwr ynparhau i gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau presennol, gangynnwys y rheini sy'n ymwneud ag unigolion â nodweddiongwarchodedig. Os na fyddwch yn cydymffurfio â'rddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd berthnasol, gallai’rawdurdodau perthnasol gymryd camau gorfodi.

    Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau i’w hystyriedwrth gydymffurfio â’r rhwymedigaethau cyfredol hyn. Wrthystyried sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn, dylech ystyriedgweithwyr asiantaeth, contractwyr a phobl eraill, yn ogystalâ'ch gweithwyr ac unrhyw un arall ar y safle.

    Er mwyn eich helpu i benderfynu pa gamau mae angeni chi eu cymryd, mae’n rhaid ichi gynnal asesiad risgCOVID-19 priodol, yn union fel y byddech chi’n eiwneud ar gyfer peryglon Iechyd a Diogelwch eraill. Dylid ymgynghori â'r undeb llafur cydnabyddedig wrthgynnal yr asesiad risg neu, os nad oes un yn bodoli, dylid ymgynghori â chynrychiolydd wedi'i ddewis gany gweithwyr.

    Rydym yn disgwyl i’r ddogfen hon gael ei diweddaru drosamser. Mae’r fersiwn hwn yn gyfredol ar 1 Gorffennaf 2020. Gallwch ddod o hyd i’r fersiynau diweddaraf yn Diogelu Cymru – yn y gwaith.

    Cyflwyniad

    (parhad)

    4

    https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/diogelu-cymru-yn-y-gweithle

  • Y prif egwyddorionGweithleoedd yng Nghymru

    5

    1. Gofal: Ein hiechyd a'n llesiant sy'n dodgyntaf

    Dylai pawb sicrhau bod iechyd, diogelwch a llesianteu gweithwyr a’u contractwyr, yn ogystal ag unrhywun arall ar y safle yn fater hollbwysig..

    Mae pandemig COVID-19 yn sefyllfa newydd sy'ndatblygu'n gyflym i bawb. Bydd yn her, yn peri pryder, ac o bosibl yn straen i lawer.

    O ran eich gweithlu: dim ond os nad yw'nrhesymol ymarferol iddyn nhw weithio gartref y caniateir i weithwyr ddychwelyd i'r gweithle. Ynogystal ,gall sicrhau gofal plant a dod o hyd i fforddddiogel o deithio i’r gwaith ac yn ôl fod yn anodd, ac yn destun pryder. Dylai cyflogwyr fod ynymwybodol y gallai hyn rwystro gweithiwr rhagdychwelyd i'r gwaith mewn modd diogel.

    Mae pandemig COVID-19 yn peri risgiau iechyd ibawb ond, i rai pobl agored i niwed, mae mwy o risg o salwch difrifol. Mae hefyd yn amlwg bod y feirws yn effeithio ar rai aelodau penodol o'ncymuned, megis pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yn fwy nag eraill. Nid oes gennym y dystiolaeth etosy'n dangos pam y mae’r effaith yn waeth ar rai grwpiau nag eraill, felly dylai cyflogwyr gymrydgofal ychwanegol i ddiogelu gweithwyr sy'n agoredi niwed.

    Mae mwy o wybodaeth am grwpiau sy'n agoredi niwed a chadw pellter cymdeithasol yma: Canllawiau cadw pellter cymdeithasol COVID-19 i bawb yng Nghymru. Mae’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu ar-lein yn asesiadrisg dau gam i weithwyr y GIG a GofalCymdeithasol. Mae’n addas i’r holl staff sy’n agoredi neu mewn perygl o ddal COVID-19, gan gynnwyspobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a LleiafrifoeddEthnig (BAME).

    Mae dyletswyddau cyfreithiol ar gyflogwyr a gweithredwyr busnes i sicrhau nad yw’rpenderfyniadau y byddant yn eu gwneud er mwynymateb i COVID-19 yn gwahaniaethu’nuniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Ni ddylechwneud rhagdybiaethau rhagfarnllyd a defnyddio'rrheini i roi gweithwyr dan anfantais neu eu rhwystrorhag cael mynediad at y farchnad swyddi.

    2. Cydymffurfio: Rhaid glynu wrth y deddfausy’n ein cadw'n ddiogel

    Rhaid i gyflogwyr a gweithredwyr busnes barhaui gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol o dangyfreithiau iechyd a diogelwch newydd a'r rhai sy'nbodoli eisoes, gan gynnwys cynnal a diogeluiechyd, diogelwch a llesiant gweithwyr, contractwyr, cwsmeriaid, ac ymwelwyr.

    Yng Nghymru – fel yr amlinellir uchod – maeRheoliadau'r Coronafeirws yn mynnu bod pawbsy'n gyfrifol am redeg busnes neu am waith sy'ncael ei gyflawni (ac eithrio'r busnesau a restrir ynRhan 4 o Atodlen 1 y Rheoliadau) mewn safleoeddyn cymryd pob cam rhesymol i wneud yn siŵrbod pellter o 2m yn cael ei gadw rhwng unrhywunigolion ar y safle (heblaw rhwng dau aelod o'r un aelwyd, neu ofalwr â'r person sy'n cael cymorthgan y gofalwr). Mae rhagor o fanylion ar gael yny Canllawiau Statudol a’r canllawiau ategol argymryd pob cam rhesymol i gadw pellter corfforolyn y gweithle.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadwyr pum egwyddor ar gyfer diogelwch yn y gwaith. Mae’r rhain yncael eu crynhoi isod ond mae’r testun llawn ar gael yn Diogelu Cymru – yn y gwaith.

    https://llyw.cymru/coronafeirws-cadw-pellter-cymdeithasolhttps://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-adnodd-asesu-risg-covid-19-cymru-gyfan-ar-gyfer-y-gweithluhttps://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraithhttps://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraithhttps://llyw.cymru/cymryd-pob-cam-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithlehttps://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle-canllawiau-atodolhttps://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/diogelu-cymru-yn-y-gweithle

  • Y prif egwyddorion (parhad)

    6

    3. Cynnwys: Mae pob un ohonom yn gyfrifol am arferion gwaith diogel

    Mae'n ofynnol i gyflogwyr a gweithredwyr busnesddiogelu eu gweithwyr, ac eraill, rhag niwed yn ôl y gyfraith. Hefyd mae gan weithwyr a chontractwyrddyletswydd gofal o ran eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill ar y safle. Mae hwn yn gyfrifoldebar y cyd.

    Cyfathrebu'n rheolaidd ac yn ystyrlon gydagweithwyr a gyda'r undeb llafur cydnabyddedigneu, os nad oes un, cynrychiolydd a ddewiswydgan y gweithwyr (gan gynnwys eu pwyllgor iechyda diogelwch, os oes un). Dylai hyn ganfod a rhoisylw i risgiau cyn i unrhyw un ailddechrau gweithio, a rheoli risgiau yn y gweithle’n barhaus. Dylai’r staff gymryd rhan yn y broses o weithredu mesuraurheoli a rhoi gwybod am risgiau er mwyn diogelugweithwyr ac ymwelwyr.

    4. Addasu: Bydd angen i bob un ohonom newidein ffordd o weithio

    Mae'r Rheoliadau'n rhoi dyletswydd ar y rhai sy'ngyfrifol am waith i gymryd pob cam rhesymol iwneud yn siŵr bod pellter o 2m yn cael ei gadwrhwng unigolion ar unrhyw safle lle caiff gwaith eiwneud, a rhoi mesurau hylendid cadarn ar waith..

    Bydd ymgynghori a chyfathrebu rhwng cyflogwyr, gweithwyr ac undebau llafur yn helpu i nodi'rprotocolau, yr offer a’r mesurau hylendid hanfodolsydd eu hangen i gadw'r gweithle yn ddiogel rhagCOVID-19 a chyfyngu ar y broses o'i drosglwyddo. Mae pob gweithle yn wahanol, ond mae nifercynyddol o ganllawiau sy'n benodol i ddiwydiantac enghreifftiau o arferion da ar gael i’w diilyn.

    5. Cyfathrebu: Rhaid i ni i gyd ddeall beth i’wwneud

    Mae'n hanfodol bod dulliau cyfathrebu clir, manwla chyson rhwng cyflogwyr, gweithwyr, poblhunangyflogedig, undebau llafur, ymwelwyr ac unrhyw un arall ar y safle, yn nodi’r camaurhesymol a chymesur a gymerir yng nghyswlltdiogelwch yn y gweithle. Mae'n bwysig bod pawbyn cael yr un neges a'r un cyfarwyddyd. Dylaicyflogwyr a gweithredwyr busnes sicrhau bod y dulliau cyfathrebu'n hygyrch i bawb.

    Y nod yw rhannu negeseuon clir a rhoi sicrwydd y caiff y risg COVID-19 ei rheoli yn y gweithle.

  • Cyflwyniad

    Sut mae defnyddio'r canllawiau hyn

    Beth mae ‘labordai a chyfleusterau ymchwil a datblygu’ yn ei olygu?

    Y prif egwyddorion

    1. Meddwl am risg

    2. Pwy ddylai fynd i'r gwaith

    3. Cadw pellter corfforol yn y gwaith

    4. Rheoli eich cwsmeriaid, eich ymwelwyr a'ch contractwyr

    5. Glanhau'r gweithle

    6. Cyfarpar diogelu personol (PPE) a gorchuddion wyneb

    7. Rheoli'r gweithlu

    8. Nwyddau i mewn ac am allan

    Ble i gael rhagor o arweiniad

    Atodiad

    Tabl Cynnwys

    3

    3

    3

    5

    8

    11

    14

    22

    24

    28

    32

    36

    37

    37

    7

  • Sut maecodipryder:

    Defnyddio ffurflen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sydd

    ar gael yn https://www.hse.gov.uk/contact/concerns.htm

    Ffonio'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0300 790 6787.

    Cysylltu â'ch undeb llafur neu eich cymdeithas os ydych chi'n perthyn i un.

    Cysylltu â'ch cynrychiolydd gweithwyr.

    1. Meddwl am risgAmcan: Bod pob cyflogwr yn cynnal asesiad risg COVID-19.

    8

    Mae angen i bawb asesu a rheoli risgiau COVID-

    19. Fel cyflogwr neu weithredwr busnes, mae

    cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi i ddiogelu

    gweithwyr a chontractwyr; ac unrhyw un arall ar y

    safle rhag risgiau i’w hiechyd a’u diogelwch. Mae

    hyn yn golygu bod angen i chi feddwl am y risgiau

    sy’n eu hwynebu a chymryd pob cam rhesymol

    ymarferol i’w lleihau, gan gydnabod na allwch chi

    ddileu’r risg o COVID-19 yn llwyr.

    Rhaid i chi sicrhau bod yr asesiad risg ar gyfer eich

    busnes yn mynd i’r afael â risgiau COVID-19, gan

    ddefnyddio’r canllawiau hyn i helpu gyda’ch

    penderfyniadau a’ch mesurau rheoli. Nid creu

    llawer iawn o waith papur yw diben asesiad risg,

    ond yn hytrach, nodi mesurau synhwyrol i reoli'r

    risgiau yn eich safle. Bydd eich asesiad risg yn eich

    helpu i benderfynu a ydych chi wedi gwneud

    popeth mae angen i chi ei wneud. Mae offer

    rhyngweithiol ar gael i’ch helpu chi gan yr

    Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn

    Managing risks and risk assessments at work.

    Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i ymgynghori â’r

    gweithlu ynghylch iechyd a diogelwch. Gallwch

    wneud hyn drwy wrando arnynt a siarad â nhw am

    y gwaith a sut byddwch chi’n rheoli risgiau COVID-

    19. Yn aml iawn y bobl sy’n gwneud y gwaith yw’r

    bobl orau i ddeall y risgiau a bydd ganddynt farn

    ynghylch sut mae gweithio’n ddiogel. Mae eu

    cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau

    yn dangos eich bod yn cymryd eu hiechyd a’u

    diogelwch o ddifri. Rhaid i chi ymgynghori â'r

    cynrychiolydd iechyd a diogelwch a ddewisir gan

    undeb llafur cydnabyddedig neu, os nad oes un,

    cynrychiolydd a ddewisir gan y gweithwyr. Fel

    cyflogwr, ni chewch chi benderfynu pwy fydd y

    cynrychiolydd.

    Pan fydd ar ei orau, mae cynnwys eich gweithwyr

    yn llawn yn creu diwylliant lle mae cysylltiadau

    rhwng cyflogwyr a gweithwyr yn seiliedig ar

    gydweithrediad, ymddiriedaeth a datrys problemau

    ar y cyd. Yn unol â’r drefn arferol, dylai gweithwyr

    fod yn ymwneud â’r gwaith o asesu risgiau yn y

    gweithle a datblygu ac adolygu polisïau iechyd a

    diogelwch yn y gweithle mewn partneriaeth â’r

    cyflogwr.

    Dylai cyflogwyr a gweithwyr bob amser ddod at

    ei gilydd i ddatrys problemau. Os nad oes modd

    datrys pryderon o hyd, edrychwch isod i weld y

    camau pellach y gallwch eu cymryd.

    Os bydd unigolyn yn poeni am y mesurau

    diogelwch ar unrhyw safle lle mae busnes yn cael

    ei redeg neu wasanaeth yn cael ei ddarparu, gall

    roi gwybod i wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd yr

    awdurdod lleol perthnasol (sy’n cynnwys iechyd yr

    amgylchedd ac iechyd a diogelwch). Pan fo'r

    awdurdod gorfodi, fel eich awdurdod lleol, yn nodi

    cyflogwyr neu weithredwyr busnes nad ydynt yn

    cymryd camau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r

    canllawiau iechyd y cyhoedd perthnasol i reoli

    risgiau i iechyd y cyhoedd, byddant yn ystyried

    cymryd amrywiaeth o gamau i wella'r modd y caiff

    risgiau yn y gweithle eu rheoli. Er enghraifft, byddai

    hyn yn cynnwys busnesau nad ydynt yn cymryd

    pob cam rhesymol i fodloni'r gofynion cadw pellter

    o 2m.

    https://www.hse.gov.uk/simple-health-safety/risk/index.htm

  • 1.1 Rheoli risgAmcan: Lleihau’r risg i’r lefel isaf sy’n rhesymol ymarferol drwy gymrydcamau ataliol, mewn trefn blaenoriaeth.

    9

    Mae gan gyflogwyr a gweithredwyr busnesauddyletswydd i leihau’r risg yn y gweithle i’r lefel isafsy’n rhesymol ymarferol drwy gymryd camauataliol.

    Mae’n rhaid i'r sawl sy’n gyfrifol am redeg busnesneu ddarparu gwasanaeth weithio gydag unrhywweithwyr neu gontractwyr eraill sy’n rhannu’r saflei sicrhau iechyd a diogelwch pawb.

    Rhaid asesu pob risg, gan gynnal trafodaethystyrlon gyda’r staff a/neu eu hundeb llafurcydnabyddedig, cyn ailgychwyn gweithio. Dylaiasesiadau risg gynnwys y rheini sy’n gweithiogartref. Os yw'r gyfraith yn mynnu bod gennych chi asesiad risg ysgrifenedig (os oes pum gweithiwrneu ragor) yna mae’n rhaid cofnodi’r canfyddiadaupwysig ac mae’n rhaid rhoi mesurau rheoli ar waith. Mae asesiadau risg yn ofyniad cyfreithiol i fenywodbeichiog, waeth beth fo maint y busnes ac maecanllawiau pellach ar gael i gyflogwyr sy’n cyflogimenywod beichiog.

    O safbwynt staff, yng nghyd-destun COVID-19, mae hyn yn golygu dilyn y camau hyn er mwyn:

    § Lle bo'n rhesymol ymarferol i unigolyn weithiogartref, ni chaiff adael ei gartref i weithio. Y ffordd fwyaf effeithiol o gadw pellter corfforol ywgalluogi rhai aelodau o staff, neu'r holl staff, iweithio gartref weithiau neu drwy’r amser. Rydym yn disgwyl i gyflogwyr fod mor hyblyg âphosibl a gwneud unrhyw addasiadau posibl. Gallai hyn gynnwys rhoi gliniaduron neu ffonausymudol i staff, a hwyluso cyfathrebiadau argyfer staff ble bynnag y maen nhw.

    § Lle nad yw'n rhesymol ymarferol gweithiogartref, dylech gymryd pob cam rhesymol i gadwpellter corfforol o 2m rhwng y rheini sydd ary safle.

    § Lle nad yw'n bosibl cymryd camau rhesymol, a lle bo angen gweithio agosach, mae'n bwysigbod mesurau eraill yn cael eu hystyried, erenghraifft:

    § Lleihau lefel y rhyngweithio.

    § Defnyddio rhwystrau ffisegol.

    § Lefel uwch o hylendid, glanweithdraamgylcheddol ac atgoffa am bwysigrwyddhylendid.

    § Golchi dwylo’n drylwyr am 20 eiliad gyda dŵra sebon a’u sychu’n drylwyr, neu ddefnyddiohylif diheintio dwylo ag alcohol, cyn ac ar ôlcysylltiad agos.

    § Os oes rhaid i bobl weithio wyneb yn wyneb am gyfnod hir gyda mwy na grŵp bach o bartneriaidpenodol, yna bydd angen i chi asesu a oesmodd i’r gweithgaredd hwn fwrw ymlaen ynddiogel ai peidio. Nid oes rhaid i neb weithiomewn amgylchedd gwaith anniogel.

    § Dylai eich asesiad ystyried yn benodol a yw’rbobl sy’n gwneud y gwaith yn arbennig o agoredi niwed oherwydd COVID-19.

    § Dylech sicrhau nad oes pobl â symptomau ary safle.

    Os ydych chi’n gweithredu ar hyn o bryd, mae’ndebyg eich bod eisoes wedi meddwl llawer am y materion hyn. Rydym yn argymell eich bod yndefnyddio’r ddogfen hon i ddod o hyd i unrhywwelliannau eraill y dylech chi eu gwneud. Rhaid ichi adolygu’r mesurau rydych chi wedi’u rhoi arwaith i sicrhau eu bod yn gweithio. Dylech chi euhadolygu os nad ydynt yn effeithiol mwyach neu osoes newidiadau yn y gweithle a allai arwain at risgiau newydd.

    https://www.rcog.org.uk/globalassets/documents/guidelines/2020-05-22-occupational-health-advice-for-employers-and-pregnant-women-during-the-covid-19-pandemic.pdf

  • 1.2 Rhannu canlyniadau eich asesiadrisg

    10

    Byddem yn annog bob busnes i ddangos i’w gweithwyr ac i’w cwsmeriaid eu bod wedi asesu eu risg ynbriodol ac wedi cymryd mesurau lliniaru priodol. Os yw’n bosibl, dylech gyhoeddi'r wybodaeth hon ar eichgwefan, yn enwedig os ydych chi’n cyflogi dros 50 o weithwyr. Mae hysbysiad isod y gallech ei arddangosyn eich gweithle neu ar eich safle i ddangos eich bod wedi dilyn y canllawiau hyn.

  • Amcan:

    Gwneud yn siŵr bod pobl yn gweithiogartref lle bo hynny'nrhesymol ymarferol.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    11

    2. Pwy ddylai fynd i'r gwaith

    Rhaid i staff weithio gartref os yw’n rhesymol ymarferol iddynnhw wneud hynny. Meddwl pwy sydd angen bod ar y safle; er enghraifft:

    § Gweithwyr mewn rolau sy’n hanfodol ar gyfer parhad y busnes a pharhad gweithredol, rheoli cyfleusterau’n ddiogel, neu ofynion rheoliadol ac nad oes modd eu cyflawni o bell.

    § Gweithwyr mewn rolau hanfodol y byddai modd eu cyflawnio bell, ond nad oes modd iddyn weithio o bell oherwyddamgylchiadau yn y cartref neu oherwydd nad yw’r cyfarpararbenigol sydd ei angen ar gyfer ymchwil a datblygu ar gael.

    Darparu cyfarpar i bobl allu gweithio gartref yn ddiogel ac yneffeithiol, er enghraifft mynediad o bell at systemau gwaith.

    Monitro llesiant pobl sy'n gweithio gartref a'u helpu i gadwmewn cysylltiad â gweddill y gweithlu, yn enwedig os yw'r rhanfwyaf o'u cydweithwyr ar y safle.

    Cynllunio ar gyfer y nifer sylfaenol o bobl y bydd angen iddyntfod ar y safle er mwyn gweithredu’n ddiogel ac yn effeithiol.

    Cadw mewn cysylltiad â gweithwyr oddi ar y safle ynghylch eutrefniadau gweithio gan gynnwys eu lles, eu hiechyd meddwl a chorfforol, a’u diogelwch personol. Bydd dyletswydd debyg ynberthnasol i fusnesau eraill y bydd gweithwyr yn gorfod teithioiddynt o bosib, er mwyn sicrhau bod pobl yn cadw 2m oddi wrthei gilydd pan fydd gwaith yn cael ei gynnal ar y safle.

  • 2.1 Gwarchodpobl syddmewn mwyo berygl

    2.2 Pobl y mae angeniddynthunanynysu

    12

    Amcan: Gwneud yn siŵr nad yw unigolion a gynghorir i aros gartrefdan y canllawiau cadw pellter cymdeithasol presennol yn dod i'rgwaith yn gorfforol. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd â symptomauCOVID-19, y rhai sy'n byw mewn cartref gyda rhywun sydd âsymptomau a'r rhai sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu fel rhano Raglen Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Darparu cefnogaeth i weithwyr ynghylch iechyd meddwl a llesiant. Gallai hyn gynnwys cyngor neu gymorth dros y ffôn.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Darllenwch y canllawiau hunanynysu cyfredol i bobl sydd âsymptomau a’r rheini sy'n byw gyda phobl eraill sydd âsymptomau.

    Galluogi gweithwyr i weithio gartref tra byddant ynhunanynysu os yw’n briodol.

    Edrychwch ar y canllawiau cyfredol ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr sy’n ymwneud â thâl salwch statudol oherwydd COVID-19.

    Edrych ar y canllawiau cyfredol i unigolion sy’n gwarchodsydd angen sylw penodol.

    Amcan: Amddiffyn pobl agored i niwed ac eithriadol o agored i niwed.§ Ar hyn o bryd, cynghorwyd yn gryf I unigolion sy’n eithriadol o

    agored i niwed (sy'n cael eu gwarchod) beidio â gweithio y tu allani’r cartref.

    • Gofynnwyd i unigolion agored i niwed, sydd mewn perygl uwch o ddioddef salwch difrifol (er enghraifft, pobl sydd â rhai cyflyrau a oedd eisoes yn bodoli, gweler y diffiniad yn yr Atodiad), gymrydgofal ychwanegol wrth gadw pellter corfforol a dylid eu helpu iweithio gartref, naill ai yn eu rôl gyfredol neu mewn rôl arall.

    § Os nad oes modd i unigolion agored i niwed (ond dim unigolioneithriadol o agored i niwed) weithio gartref, dylid cynnig y rolaumwyaf diogel ar y safle iddynt, gan eu galluogi i gadw 2m i ffwrddoddi wrth bobl eraill. Os ydynt yn gorfod treulio amser o fewn 2m ibobl eraill, dylech asesu'n ofalus a yw hyn yn lefel dderbyniol o risg. Yn yr un modd ag unrhyw risg yn y gweithle rhaid i chi ystyrieddyletswyddau penodol i’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig,gan gynnwys, er enghraifft, menywod beichiog sydd bob amser âhawl i gael cyfnod o’r gwaith gyda thâl llawn os nad oes modd dodo hyd i rolau addas. Dylid hefyd rhoi sylw penodol i bobl sy’n bywgydag unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed.

    Edrych ar y canllawiau cadw pellter cymdeithasol cyfredol igael cyngor ynghylch pwy sydd yn y grwpiau eithriadol o agored i niwed, ac agored i niwed.

    Dylai gweithwyr sy'n datblygu symptomau COVID-19 yn y gwaith gael eu hanfon adref i hunanynysu, a dylidglanhau eu gweithle yn unol â'r canllawiau ar lanhau mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd.

    https://llyw.cymru/cadwn-ddiogel-cadw-pellter-cymdeithasolhttps://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-canllawiau-i-gyflogwyrhttps://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posiblhttps://llyw.cymru/coronafeirws-tal-salwch-statudolhttps://llyw.cymru/canllawiau-ar-warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored-i-htmlhttps://llyw.cymru/canllawiau-ar-warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored-i-htmlhttps://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/people-at-higher-risk/whos-at-higher-risk-from-coronavirus/https://www.equalityhumanrights.com/en/equality-act/protected-characteristicshttps://llyw.cymru/coronafeirws-cadw-pellter-cymdeithasolhttps://www.gov.uk/government/publications/covid-19-decontamination-in-non-healthcare-settings/covid-19-decontamination-in-non-healthcare-settings

  • 2.3 Cydraddoldebyn y gweithle

    Amcan: Trin pawb yn eich gweithle’n gyfartal.

    • Wrth ddefnyddio’r canllawiau hyn, dylai cyflogwyr gofio anghenionpenodol grwpiau gwahanol o weithwyr neu unigolion.

    • Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu, yn uniongyrchol neu'nanuniongyrchol, yn erbyn unrhyw un oherwydd nodweddwarchodedig megis oedran, rhyw, anabledd, hil neu ethnigrwydd.

    • Mae gan gyflogwyr hefyd gyfrifoldebau penodol tuag at weithwyranabl a'r rhai sy'n famau newydd neu’n fenywod beichiog.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Ystyried a oes angen i chi roi unrhyw fesurau neu addasiadaupenodol ar waith er mwyn ystyried eich dyletswyddau o dan y ddeddfwriaeth cydraddoldeb.

    Deall ac ystyried amgylchiadau penodol y rheini sydd ânodweddion gwarchodedig gwahanol.

    Cynnwys a chyfathrebu’n briodol â gweithwyr y gallai eunodweddion gwarchodedig olygu bod ganddynt lefel wahanolo risg, neu a allai olygu bod unrhyw gamau rydych chi’n euhystyried yn amhriodol neu’n anodd iddynt.

    Gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau na fydd gweithwyranabl dan anfantais, ac asesu risgiau iechyd a diogelwchmamau newydd neu famau beichiog.

    Gwneud yn siŵr na fydd y camau byddwch chi’n eu cymrydyn cael effaith negyddol nad oes modd ei chyfiawnhau ar rai grwpiau o’u cymharu ag eraill, er enghraifft, y rheini sydd âchyfrifoldebau gofalu neu’r rheini sydd ag ymrwymiadaucrefyddol.

    13

  • 3. Cadw pellter corfforol yn y gwaith

    § Ni fydd hi bob amser yn bosibl cadw pellter o 2m mewn labordaia chyfleusterau ymchwil a datblygu sydd wedi’u dylunio i boblweithio’n gorfforol agos gyda phobl eraill. Gall offer sefydlogolygu nad yw’n ymarferol newid gosodiad ystafelloedd i greumwy o le (gweler yr atodiad i gael rhagor o wybodaeth am Reoliadau’r Coronafeirws).

    § Dylech gynnal asesiad o ba fesurau rhesymol gellir eu cymryd o hyd, ac adolygu hyn yn rheolaidd. Dylai eich asesiad ystyried ynbenodol a yw’r bobl sy’n gwneud y gwaith yn arbennig o agoredi niwed oherwydd COVID-19.

    § Lle nad yw'n bosibl cymryd camau rhesymol, a lle bo angengweithio agosach, mae'n bwysig bod mesurau eraill yn caeleu hystyried, er enghraifft:

    § Lleihau lefel y rhyngweithio.

    § Defnyddio rhwystrau ffisegol.

    § Lefel uwch o hylendid, glanweithdra amgylcheddol ac atgoffaam bwysigrwydd hylendid.

    § Golchi dwylo’n drylwyr am 20 eiliad gyda dŵr a sebon a’usychu’n drylwyr, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo ag alcohol, cyn ac ar ôl cysylltiad agos.

    § Sicrhau nad oes pobl â symptomau ar y safle.

    § Mae cadw pellter corfforol yn berthnasol i bob rhan o safle, niddim ond y lleoedd y mae pobl yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser. Felly, mynedfeydd ac allanfeydd, mannau awyr agored ar y safle, ystafelloedd egwyl, y ffreutur, a lleoedd tebyg. Dyma'rardaloedd anoddaf o ran cadw pellter corfforol yn aml.

    Amcan:

    Cymryd pob mesurrhesymol i wneud ynsiŵr bod pellter corfforolo 2m yn cael ei gadw, gan gynnwys wrthgyrraedd a gadael y gwaith, yn y gwaith, ac wrth deithio rhwngsafleoedd.

    14

    https://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraith

  • 3. Cadwpelltercorfforol yny gwaith(parhad)

    • Caiff caffis/ffreuturiau i staff aros ar agor lle bo’r ddauddatganiad canlynol yn berthnasol (1) does dim ffordd arall istaff yn y gweithle hwnnw gael bwyd; ac (2) mae pob cam rhesymol wedi cael ei gymryd i sicrhau bod pobl sy’ndefnyddio’r ffreutur yn cadw pellter o 2m oddi wrth ei gilydd.

    • Lle bo'n bosibl, dylid annog staff i ddod â'u bwyd eu hunain, ac i olchi a sychu eu dwylo cyn ac ar ôl bwyta.

    15

  • 3.1 Cyrraedd a gadael y gwaithAmcan: Cadw pellter corfforol wrth gyrraedd a gadael y gwaith, a gwneudyn siŵr bod pawb yn golchi eu dwylo ar ôl cyrraedd.

    Camau y byddangen eu cymrydfel rheol:

    Gwasgaru amseroedd cyrraedd a gadael i osgoi caelllawer o bobl yn cyrraedd ac yn gadael y safle ar yr un pryd, gan ystyried yr effaith ar y rheini sydd ânodweddion gwarchodedig (bydd hyn hefyd yn helpu ileihau'r baich ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystodamseroedd allweddol, ac i osgoi gorlenwi).Darparu rhagor o le parcio neu gyfleusterau fel rheselibeiciau i helpu pobl i gerdded, rhedeg neu feicio i'rgwaith lle bo'n bosibl.

    Lleihau nifer y teithwyr mewn cerbydau corfforaethol, erenghraifft bysiau mini'r gwaith. Gallai hyn olygu gadaelseddi'n wag.Cyfyngu ar faint o lefydd sydd ar gael i ddod i mewn ac i fynd allan o’r safle. Ystyried cael pwyntiau mynediada phwyntiau gadael gwahanol os yw’n bosibl.

    Defnyddio marciau a chyflwyno llif unffordd yn y pwyntiau mynediad a gadael.

    Pennu mynedfeydd/allanfeydd dynodedig ar gyferpersonél sy’n gweithio mewn ardaloedd risg uchel, felsafleoedd profi mecanyddol a labordai gwlyb.

    Darparu cyfleusterau golchi dwylo, neu hylif diheintiodwylo ag alcohol lle nad yw hynny'n bosibl, ger y mynedfeydd a'r allanfeydd.

    Gofalu am y defnydd o ddyfeisiau mynediad diogelwch, fel bysellbadiau neu basys, ac addasu'r prosesaumewn mynedfeydd/allanfeydd i leihau'r risg o drosglwyddo. Er enghraifft, glanhau darllenwyr pasysyn rheolaidd a gofyn i'r staff ddal eu pàs uwchben y darllenwyr pasys yn hytrach na'u cyffwrdd.

    Darparu cyfleusterau storio ar gyfer dillad a bagiaugweithwyr.

    Gofyn i staff newid i mewn i ddillad a chyfarpar gwaithar y safle gan ddefnyddio ardaloedd newid/cyfleusteraupriodol lle bo modd bodloni’r canllawiau ar hylendid a chadw pellter corfforol.

    Golchi dillad a chyfarpar labordy, fel gogls, ar y safleyn hytrach na bod aelodau o staff yn eu golchi gartref.

    16

    Darllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio i'r gwaith ac yn ôl adref.

    https://llyw.cymru/teithion-ddiogel-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws-canllawiau-ir-cyhoedd-html

  • Enghreifftiau o arferion defnyddio lifftiau

    3.2 Symud o gwmpas adeiladau a safleoeddgwaith

    Camau y byddangen eu cymrydfel rheol:

    Amcan: Cadw pellter corfforol wrth i bobl deithio drwy’r safle.

    17

    Lleihau symudiadau drwy annog pobl i beidio â myndar deithiau nad ydynt yn hanfodol mewn safleoedd, erenghraifft, cyfyngu ar fynediad i rai ardaloedd, ac annog pobl i ddefnyddio radios, ffonau neu ddyfeisiauelectronig, lle caniateir hynny, a'u glanhau rhwng eudefnyddio.

    Cyfyngu ar fynediad rhwng gwahanol ardaloedd mewnsafle, lle bo'n bosibl.

    Defnyddio timau sefydlog neu addasu prosesauarchebu i leihau nifer y bobl sydd yn y labordy ar yrun pryd ac osgoi cael gormod o bobl yno.

    Cyflwyno mwy o lwybrau unffordd drwy'r safle, gandalu sylw penodol i goridorau hir – sy’n gallu bod yngyffredin mewn adeiladau â labordai ynddynt.

    Gostwng yr uchafswm sy'n cael mynd i lifftiau ar yr un adeg, darparu hylif diheintio dwylo ag alcohol ar gyferdefnyddio'r lifftiau, glanhau botymau lifftiau'n rheolaidd, ac annog pobl i ddefnyddio grisiau lle bo'n bosibl.

    Rheoli'r defnydd o fannau prysur gan gynnwyscoridorau, lifftiau, giatiau tro a llwybrau cerdded, er mwyn cadw pellter corfforol.

    Cael gwared ar fesurau rheoli mynediad mewnlabordai categori isel fel bod dim rhaid i boblddefnyddio cardiau mynediad

    Gwneud yn siŵr bod pobl anabl yn gallu cael mynediadi lifftiau.

  • 3.3 Gweithleoedd a mannau gwaith

    Camau y byddangen eu cymrydfel rheol:

    Adolygu cynlluniau i wneud yn siŵr bod pellter o 2m rhwng gweithfannau lle bo'n bosibl.

    Amcan: Cadw pellter corfforol rhwng unigolion pan fyddant wrth eugweithfannau.

    18

    § Efallai y bydd angen i weithwyr rannu gweithfannau a chyfarpar mewn cyfleusterau ymchwil a datblygu. Os oes rhaid eu rhannu, dylent gael eu rhannu gan y nifer lleiaf posibl o bobl.

    § Os oes angen gweithio'n agosach, dylech fod wedi cynnal asesiad o ba fesurau rhesymol gellid eucymryd, ac adolygu hyn o dro i dro. Dylai eich asesiad ystyried yn benodol a yw’r bobl sy’n gwneudy gwaith yn arbennig o agored i niwed oherwydd COVID-19.

    Lle nad yw'n bosibl symud gweithfannau yn bellachar wahân:

    § defnyddio sgriniau i gadw pobl ar wahân, a/neu

    § trefnu bod pobl yn gweithio ochr yn ochr neu gefnwrth gefn, yn hytrach nag wyneb yn wyneb.

    Defnyddio tâp neu baent ar y llawr i farcio ardaloedder mwyn helpu pobl i gadw pellter o 2m.

    Rheoli lefelau deiliadaeth er mwyn cadw pelltercorfforol mewn labordai cyfyng, er enghraifft, drwyaddasu systemau archebu lle i leihau nifer y bobl sy’neu defnyddio.

    Glanhau gweithfannau a pheiriannau/cyfarpar a rennirlle bo hynny’n ymarferol bosibl.

    Cyfyngu ar y defnydd o eitemau sy’n cael eu cyffwrddyn aml a chyfarpar swyddfa a rennir, er enghraifft, offer profi, cyfarpar, terfynellau rheoli a rennir.

    Sicrhau bod systemau trin a hidlo aer priodol yn caeleu gosod a’u cynnal a’u cadw mewn mannau risguchel lle mae risg o ronynnau yn yr aer.

    Cadw pellter o 2m rhwng cadeiriau. Lle nad yw hynny'n bosibl, trefnubod pobl yn eistedd ochr yn ochrneu gefn wrth gefn

  • Amcan: Lleihau trosglwyddiad o ganlyniad i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, a chadwpellter corfforol mewn cyfarfodydd.

    Defnyddio adnoddau gweithio o bell i osgoicyfarfodydd personol.

    Dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y dylaicyfranogwyr fynd i gyfarfodydd a dylent gadw 2m ar wahân drwy gydol y cyfarfod.

    Osgoi'r risg o drosglwyddo yn ystod cyfarfodydd, erenghraifft peidio â rhannu beiros a gwrthrychau eraill.

    Dapraru hylif diheintio dwylo ag alcohol mewnystafelloedd cyfarfod.

    Cynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored neu mewnystafelloedd wedi'u hawyru'n dda lle bo'n bosibl.

    Mewn ardaloedd lle mae cyfarfodydd yn cael eucynnal yn rheolaidd, defnyddio arwyddion llawr i helpupobl i gadw pellter corfforol o 2m.

    19

    3.4 Cyfarfodydd

    Camau y byddangen eu cymrydfel rheol:

    Darparu arwyddion y tu allan i ystafelloedd cyfarfodgan nodi nifer uchaf y bobl sy'n cael bod yno ar yr un pryd.

    Hwyluso mesurau cadw pelltercorfforol a glanhau mewn cyfarfodydd

  • Amcan: Cadw pellter corfforol wrth ddefnyddio ardaloedd cyffredin. Mae dyluniadauadeiladau ymchwil a labordai modern yn aml yn cynnwys llawer o ardaloedd cyffrediner mwyn annog cydweithio a rhwydweithio.

    20

    3.5 Ardaloedd cyffredin

    Camau y byddangen eu cymrydfel rheol:

    Gwasgaru amseroedd egwyl i leihau'r pwysau arardaloedd egwyl a gwneud yn siŵr bod pawb yn cadwpellter corfforol yn yr holl ardaloedd egwyl

    Defnyddio ardaloedd diogel y tu allan ar gyfer egwyliau.

    Creu ardaloedd ychwanegol drwy ddefnyddio rhannaueraill o'r safle sy'n rhydd o ganlyniad i weithio o bell.

    Gosod sgriniau i ddiogelu staff mewn derbynfeydd neuardaloedd tebyg.

    Caiff caffis/ffreuturiau i staff aros ar agor lle bo’r ddauddatganiad canlynol yn berthnasol (1) does dim fforddarall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd; ac (2) maepob cam rhesymol wedi cael ei gymryd i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio’r ffreutur yn cadw pellter o 2m oddiwrth ei gilydd. Lle bo'n bosibl, dylid annog staff i ddodâ'u bwyd eu hunain, ac i olchi a sychu eu dwylo cyn ac ar ôl bwyta.

    Newid trefn cadeiriau a byrddau i gadw pellter a lleihau'r rhyngweithiadau wyneb yn wyneb.

    Annog staff i aros ar y safle a, lle nad yw hynny’n bosibl, i gadw pellter corfforol tra maen nhw oddi ar y safle.

    Rheoli'r defnydd o ystafelloedd loceri, mannau newidac ardaloedd cyfleusterau eraill i leihau’r niferoeddsy'n eu defnyddio ar yr un adeg.

    Annog storio eitemau personol a dillad mewn mannaustorio personol, er enghraifft, loceri ac yn ystod oriaugwaith.

    Ardaloedd cyffredin y mae cyfyngiad ar eu defnydd, sydd wedi cael eu dynodi â marciaugweledol clir er mwyn annog pobl i gadw pellter corfforol

  • 3.6 Damweiniau, diogelwch a digwyddiadaueraill

    Amcan: Blaenoriaethu diogelwch yn ystod digwyddiadau.

    • Mewn argyfwng, er enghraifft, damwain, cemegion wedi tywallt, darparu cymorth cyntaf, tân neu ladrad, nid oes rhaid i boblgadw 2m ar wahân os byddai’n anniogel gwneud hynny.

    • Dylai pobl sy’n helpu eraill roi sylw penodol i fesurauglanweithdra yn syth wedyn, gan gynnwys golchi dwyl.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Adolygu eich gweithdrefnau digwyddiadau ac argyfwng isicrhau eu bod yn adlewyrchu’r egwyddorion cadw pelltercorfforol cymaint ag y bo modd.

    Meddwl am oblygiadau diogelwch unrhyw newidiadau rydychchi’n bwriadu eu gwneud i’ch gweithrediadau a’ch arferionmewn ymateb i COVID-19, oherwydd gallai unrhywddiwygiadau achosi risgiau diogelwch newydd neu wahanol.

    21

  • 4. Rheoli eich cwsmeriaid, eichymwelwyr a'ch contractwyr

    22

  • Amcan: Lleihau nifer yr ymweliadau diangen â'r safle.

    4.1 Rheolicysylltiadau

    4.2 Darparuac esbonio'rcanllawiausydd ar gael

    23

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Annog ymweliadau drwy gysylltiad o bell neu drefniadaugweithio o bell ar gyfer ymwelwyr lle bo hynny’n opsiwn.

    Cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr ar y safle ar unrhyw un adeg.

    Penderfynu a ellir adolygu'r amserlenni ar gyfergwasanaethau hanfodol ac ymweliadau contractwyr er mwynlleihau'r rhyngweithio a'r gorgyffwrdd rhwng pobl, er enghraifft, cynnal gwasanaethau yn ystod y nos.

    Cyfyngu amseroedd ymwelwyr i gyfnod penodol o amser a chyfyngu mynediad i ymwelwyr gofynnol yn unig.

    Cadw cofnod o bob ymwelydd, os yw hyn yn ymarferol.

    Adolygu'r trefniadau ymwelwyr i sicrhau bod pellter corfforolyn cael ei gadw a sicrhau hylendid, er enghraifft gofyn iymwelwyr ddefnyddio eu beiro eu hunain i lofnodi pan fyddantyn cyrraedd.

    Amcan: Gwneud yn siŵr bod pobl yn deall beth sydd angen iddynnhw ei wneud i gadw at fesurau diogelwch.

    Adolygu llwybrau i mewn ac allan ymwelwyr a chontractwyr ermwyn lleihau'r cysylltiad â phobl eraill.

    Cydlynu a chydweithio â landlordiaid ac ardaloedd eraill o safleoedd cyfleusterau, er enghraifft, lle mae cyfleusterauymchwil a datblygu neu labordai wedi’u lleoli mewn parciaugwyddoniaeth.

    Darparu arweiniad clir ar gadw pellter corfforol a hylendid i boblwrth iddynt gyrraedd, er enghraifft, arwyddion, cymhorthiongweledol a chyn cyrraedd, er enghraifft, dros y ffôn, ar y wefan, drwy e-bost. Ystyried anghenion penodol y rhai sydd ânodweddion gwarchodedig, fel y rheini sydd â nam ar eu golwg.

    Sefydlu cyfrifoldebau lletya yn ymwneud â COVID-19 a darparu unrhyw hyfforddiant angenrheidiol i bobl sy'ngweithredu fel gwesteiwyr i ymwelwyr.

    Annog ymwelwyr i ddefnyddio hylif diheintio dwylo ag alcohol nei gyfleusterau golchi dwylo wrth iddynt ddod i mewn i'r safle.

    Rhoi gwybod i ymwelwyr y dylent fod yn barod i dynnugorchuddion wyneb yn ddiogel os gofynnir iddynt wneudhynny gan swyddogion yr heddlu a staff at ddibenionadnabod.

  • 5. Glanhau safleoedd

    24

  • Amcan: Sicrhau bod unrhyw safle sydd ar gau neu sy’n gweithredu'nrhannol yn lân ac yn barod i ailddechrau, gan gynnwys:

    § Cynnal asesiad ar gyfer pob safle, neu rannau o safleoedd, syddwedi'u cau, cyn ailddechrau gweithio.

    § Dilyn gweithdrefnau glanhau a darparu hylif diheintio dwylo ag alcohol cyn ailddechrau gweithio.5.1 Cyn

    ailagor

    25

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Amcan: Cadw'r safle'n lân ac atal trosglwyddiad drwy gyffwrdd ag arwynebau wedi’u heintio.5.2 Cadw

    safleoeddyn lân

    Gwirio a oes angen i chi wasanaethu neu addasu systemauawyru, er enghraifft, er mwyn sicrhau nad yw’r lefelau awyruyn gostwng yn awtomatig gan fod nifer y bobl sy'n bresennolyn is na'r arfer.

    Nid oes angen addasu'r rhan fwyaf o systemau awyru, ond llemae systemau'n gwasanaethu sawl adeilad neu os nadydych yn siŵr, gallwch ofyn am gyngor gan eich peirianwyrneu gynghorwyr awyru ac aerdymheru (HVAC).

    Gall systemau pwysedd positif a pheiriannau echdynnuweithredu yn ôl yr arfer.

    Ailgychwyn a phrofi cyfarpar arbenigol sydd heb gael eiddefnyddio am gyfnod hirach nag arfer.

    Glanhau mannau gwaith a chyfarpar yn aml rhwng eudefnyddio, gan ddefnyddio eich cynhyrchion glanhau arferol.

    Tacluso gweithfannau a chael gwared ar wastraff ac eiddo o'rardal waith ar ddiwedd sifft.

    Glanhau gwrthrychau ac arwynebau sy'n cael eu cyffwrdd ynrheolaidd gan gynnwys dolenni drysau ac arwynebau profi, a gwneud yn siŵr bod trefniadau gwaredu digonol a diogel arwaith ar gyfer glanhau cynhyrchion.

    Pennu'r broses lanhau ofynnol ar gyfer cyfarpar drud nadoes modd ei olchi, a dylunio rhywbeth i'w roi o gwmpaspeiriannau a chyfarpar i’w hamddiffyn.

    25

    Os ydych yn glanhau ar ôl achos o COVID-19 sy'n hysbysneu sy’n cael ei amau, dylech ddarllen y canllawiau penodol ar gyfer glanhau lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd.

    https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-decontamination-in-non-healthcare-settings/covid-19-decontamination-in-non-healthcare-settings

  • Amcan: Helpu pawb i ddilyn mesurau hylendid da yn ystod y diwrnod gwaith.

    26

    5.3 Hylendid – golchi dwylo, cyfleusterau glanweithdra a thoiledau

    Camau y byddangen eu cymrydfel rheol:

    Defnyddio arwyddion a phosteri i feithrinymwybyddiaeth o dechneg dda ar gyfer golchi dwylo, yr angen i gynyddu pa mor aml mae pobl yn golchidwylo, osgoi cyffwrdd â'ch wyneb a phesychu neudisian i mewn i hances bapur sy'n cael ei rhoi yn y bin yn ddiogel, neu i'ch braich os nad oes hances bapurar gael.

    Darparu arwyddion a nodiadau atgoffa rheolaidd igadw at safonau hylendid.

    Darparu hylif diheintio dwylo ag alcohol mewn sawllleoliad yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi.

    Gosod canllawiau clir ar gyfer glanhau a defnyddiotoiledau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cadw'nlân a bod pellter corfforol yn cael ei gadw cymaintâ phosibl.

    Gwella'r prosesau glanhau mewn ardaloedd prysur.

    Darparu mwy o gyfleusterau gwastraff a chasglusbwriel yn amlach.

    Darparu cyfleusterau sychu dwylo – naill ai tywelipapur neu beiriannau sychu trydanol.

  • Amcan: Lleihau'r risg o drosglwyddo mewn ystafelloedd newid a chawodydd.

    5.4 Ystafelloeddnewid a chawodydd

    27

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Amcan: Lleihau trosglwyddiad drwy gysylltiad â gwrthrychau sy'ndod i'r safle a cherbydau ar y safle.5.5 Trin

    nwyddau a deunyddiaueraill, a cherbydauar y safle

    27

    Lle mae angen cawod a chyfleusterau newid, gosodcanllawiau defnyddio a glanhau clir ar gyfer cawodydd, loceriac ystafelloedd newid er mwyn sicrhau eu bod yn cael eucadw'n lân a heb eitemau personol, a bod pellter corfforol yncael ei gadw cymaint â phosibl.

    Cyflwyno gwell trefniadau ar gyfer glanhau'r holl gyfleusterauyn rheolaidd yn ystod y dydd ac ar ddiwedd y dydd.

    Gweithdrefnau glanhau ar gyfer deunyddiau a chyfarpar sy'ncyrraedd y safle.

    Annog pobl i olchi eu dwylo yn amlach a chynnig mwy o gyfleusterau golchi dwylo i weithwyr sy’n delio â danfoniadau, neu ddarparu hylif diheintio dwylo ag alcohol pan nad ywhynny’n ymarferol.

    Glanhau cerbydau y gall gweithwyr fynd â nhw adref ynrheolaidd.

    Cyfyngu ar ddanfon eitemau heb fod yn rhai busnes, erenghraifft parseli personol i weithwyr.

    Gweithdrefnau glanhau ar gyfer cerbydau.

    Gweithdrefnau ar gyfer glanhau'r rhannau o'r cyfarpar a rennir sy’n cael eu cyffwrdd ar ôl pob defnyddiwr.

  • 6. Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)a gorchuddion wyneb

    28

  • 6. CyfarparDiogeluPersonol(PPE) a gorchuddionwyneb

    29

    Mae cyfarpar diogelu personol (PPE) yn diogelu’r defnyddiwr ynerbyn risgiau iechyd neu ddiogelwch yn y gwaith. Mae’n gallucynnwys eitemau fel helmedau diogelwch, menyg, cyfarpardiogelu’r llygaid, dillad llachar, esgidiau diogelwch a harneisiaudiogelwch. Mae hefyd yn cynnwys cyfarpar diogelu anadlol, felmasgiau wyneb.

    Os ydych eisoes yn defnyddio PPE yn eich gwaith i amddiffyn ynerbyn risgiau heb fod yn rhai COVID-19, dylech barhau i wneudhynny.

    Ar ddechrau’r ddogfen hon, rydym wedi disgrifio’r camau maeangen i chi eu cymryd i reoli risg COVID-19 yn y gweithle. Mae hynyn cynnwys gweithio gartref a chymryd pob cam rhesymol i gadwpellter corfforol o 2m ar eich safle. Wrth reoli'r risg o COVID-19, nidyw PPE ychwanegol y tu hwnt i'r hyn yr ydych yn ei wisgo fel arferyn cael ei argymell. Y rheswm am hynny yw bod COVID-19 yn fathgwahanol o risg i’r risgiau rydych chi fel rheol yn eu hwynebumewn gweithle, ac mae angen rheoli hynny drwy gadw pelltercymdeithasol, hylendid a phartneriaid neu dimau sefydlog, niddrwy ddefnyddio PPE.

    Yr eithriad yw lleoliadau clinigol, fel ysbyty, neu lond dwrn o rolaueraill y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori pobl iddefnyddio PPE ar eu cyfer. Er enghraifft, ymatebwyr cyntaf a swyddogion gorfodi mewnfudo. Os ydych chi yn un o'r grwpiauhyn, dylech gyfeirio at y cyngor yn:

    https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/

    Oni bai eich bod chi mewn sefyllfa lle mae'r risg o drosglwyddoCOVID-19 yn uchel iawn, dylai eich asesiad risg adlewyrchu'r ffaithmai cyfyngedig iawn yw rôl PPE o ran darparu diogelwchychwanegol. Fodd bynnag, os yw eich asesiad risg yn dangos bod angen PPE yna mae'n rhaid i chi ddarparu’r PPE hwn yn rhad ac am ddim i weithwyr sydd ei angen. Rhaid i unrhyw PPE a ddarperirffitio'n iawn.

    Rhagor o wybodaeth am PPE yng Nghymru: Coronafeirws a chyfarpar diogelu personol (PPE).

    https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/https://llyw.cymru/coronafeirws-chyfarpar-diogelu-personol-ppe

  • 6.1 Gorchuddionwyneb

    30

    Mae rhai amgylchiadau lle gallai gwisgo gorchudd wyneb gynnigychydig bach o fantais fel mesur rhagofalus. Mae'r dystiolaeth ynawgrymu nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn eich diogelu chi, ondgallai ddiogelu eraill os yw’r haint arnoch chi ond nad ydych chi wedidatblygu symptomau.

    Mae gorchudd wyneb yn gallu bod yn syml iawn ac mae modd gwisgoun mewn llefydd caeedig lle nad yw’n bosibl cadw pellter corfforol. Mae angen iddo orchuddio eich ceg a’ch trwyn. Nid yw gorchuddwyneb yr un fath â'r masgiau llawfeddygol neu'r masgiau mwy a ddefnyddir gan weithwyr gofal iechyd a gweithwyr eraill fel rhan o’rPPE manyleb uwch. Yn yr un modd, nid yw gorchudd wyneb yr un fathâ’r PPE sy’n cael ei ddefnyddio i reoli risgiau fel llwch a chwistrellmewn cyd-destun diwydiannol. Rhaid i gyflenwadau o PPE, gangynnwys masgiau wyneb, barhau i gael eu cadw ar gyfer y bobl maeeu hangen arnynt i’w hamddiffyn rhag risgiau yn eu gweithle, felgweithwyr iechyd a gofal, a phobl sy’n gweithio mewn lleoliadaudiwydiannol fel y rheini sy’n wynebu peryglon llwch.

    Mae’n bwysig gwybod mai gwan yw’r dystiolaeth am fantais defnyddiogorchudd wyneb i amddiffyn pobl eraill, ac mae’n debygol na chaiffgwisgo gorchudd wyneb lawer o effaith felly ni ddylai gorchuddionwyneb ddisodli’r ffyrdd eraill o reoli risg, gan gynnwys lleihau’r amsersy’n cael ei dreulio mewn cyswllt, defnyddio partneriaid a thimausefydlog ar gyfer gwaith agos, a golchi dwylo ac arwynebau’n amlach. Y mesurau eraill hyn yw’r ffyrdd gorau o reoli risg yn y gweithle ac nifyddai Llywodraeth Cymru felly’n disgwyl gweld cyflogwyr yn dibynnuar orchuddion wyneb i reoli risg at ddibenion eu hasesiadau iechyd a diogelwch.

    Mae gwisgo gorchudd wyneb yn ddewisol ac nid yw’r gyfraith ynmynnu ei bod yn rhaid gwneud hynny, gan gynnwys yn y gweithle. Argymhellir i’r cyhoedd wisgo gorchudd wyneb tairhaen am gyfnod byr pan nad yw’n bosibl dilyn mesurau eraill, felcadw pellter cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys ar drafnidiaethgyhoeddus. Dylai gorchudd wyneb effeithiol, os ydych chi’ngwisgo un, fod a haen allanol gwrth-ddŵr os yw hynny’n bosibl, a dylai gynnwys 3 haen o wahanol ddefnyddiau nad ydynt ynymestyn. Dylen nhw ffitio’n dda ac ni ddylid cael unrhyw fylchauaer ar ochrau’r wyneb ac o dan eich gên. Dydyn nhw ddim yndisodli mesurau ataliol eraill fel cadw pellter cymdeithasol. Pan fydd modd cadw pellter corfforol o 2m yng Nghymru, nid ydymyn argymell gwisgo gorchudd wyneb. Nid ydym yn argymell eubod yn orfodol; fodd bynnag, rydym yn cefnogi hawl y cyhoedd iddewis a ydynt am wisgo un ai peidio.

  • 6.1 Gorchuddionwyneb(parhad)

    31

    Dylai cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr i ddefnyddio gorchuddion wynebyn ddiogel os ydynt yn dewis gwisgo un. Mae hyn yn golygu dweudwrth weithwyr:§ Golchwch eich dwylo'n drylwyr â sebon a dŵr am 20 eiliad neu

    ddefnyddio hylif diheintio dwylo ag alcohol, a sychu’ch dwylo’ndrylwyr cyn gwisgo gorchudd wyneb, ac ar ôl ei dynnu.

    § Wrth wisgo gorchudd wyneb, dylech osgoi cyffwrdd eich wynebneu’ch gorchudd wyneb, gan y gallech ei halogi â germau oddi areich dwylo.

    § Peidiwch â hongian gorchudd wyneb o’ch gwddf na’i dynnu i lawro’ch trwyn.

    § Newidiwch eich gorchudd wyneb os yw’n mynd yn damp neu osydych chi wedi’i gyffwrdd.

    § Daliwch ati i olchi eich dwylo’n rheolaidd.§ Newidiwch eich gorchudd wyneb a’i olchi bob dydd.§ Os oes modd ei olchi, golchwch y gorchudd wyneb drwy ddilyn

    cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr. Os nad yw'n un mae modd ei olchi, dylech gael gwared arno'n ofalus yn eich bin gwastraff arferol ganhelpu i gadw Cymru'n daclus.

    § Cadwch bellter corfforol.

    Gallwch wneud gorchuddion wyneb gartref a gallwch ddod o hyd iarweiniad ar sut i wneud hyn a'u defnyddio'n ddiogel yn gorchuddion wyneb: COVID-19.

    https://llyw.cymru/gorchuddion-wyneb-cwestiynau-cyffredin

  • 7. Rheoli'r gweithlu

    32

  • 33

    7.1 Patrymau sifftiau a grwpiau gweithioAmcan: Newid y ffordd y caiff gwaith ei drefnu i greu grwpiau penodol a lleihau nifer y cysylltiadau sydd gan bob gweithiwr.

    Camau y byddangen eu cymrydfel rheol:

    I'r graddau mwyaf posibl, trefnu timau a grwpiau sifftfelly pan na fydd modd osgoi cyswllt, bod hyn yndigwydd rhwng yr un bobl.

    Nodi ardaloedd lle mae pobl yn pasio pethau i'wgilydd yn uniongyrchol – er enghraifft, unigolion sy’ndestun profion ac unedau rheoli – a dod o hyd i ffyrddo osgoi'r cysylltiad uniongyrchol, fel prosesau ‘rhoi ilawr a chodi’.

  • Amcan: Osgoi teithio diangen i’r gwaith a chadw pobl yn ddiogelpan fydd angen iddynt deithio rhwng lleoliadau.

    7.2 Teithioat ddibengwaith

    7.2.1 Ceir, llety ac ymweliadau

    7.2 Teithioat ddibengwaith

    7.2.2 Danfon isafleoedd eraill

    34

    Amcan: Helpu gweithwyr sy'n danfon i safleoedd eraill felcanghennau, neu safleoedd cyflenwyr neu gwsmeriaid i ddilynarferion cadw pellter corfforol a hylendid.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Glanhau cerbydau a rennir rhwng sifftiau neu wrthnewid dwylo.

    Lle mae gofyn i weithwyr aros o'u cartref (gan gynnwys y tu allan i Gymru), logio'r arhosiad yn ganolog a sicrhaubod unrhyw lety dros nos yn bodloni’r canllawiau cadwpellter corfforol.

    Lleihau teithio nad yw'n hanfodol – ystyried dewisiadau o bell yn gyntaf.

    Annog y rhai sy'n gwneud teithiau hanfodol i ystyriedcerdded neu feicio fel dewis arall yn lle defnyddio cerbydau.

    Lleihau cyswllt yn ystod taliadau a chyfnewid dogfennau, er enghraifft, drwy ddefnyddio dulliau talu electronig a dogfennau wedi'u llofnodi a'u cyfnewid yn electronig.

    Rhoi gweithdrefnau ar waith i leihau'r cyswllt rhwng pobl wrthddanfon i safleoedd eraill.

    Cadw’r parau'n gyson lle mae angen dau unigolyn ar gyferdanfon.

    Lleihau nifer y bobl y tu allan i gartref sy'n teithio gyda'igilydd yn yr un cerbyd, defnyddio partneriaid teithio sefydlog, cynyddu'r dulliau awyru pan fo'n bosibl ac osgoi eisteddwyneb yn wyneb.

  • Amcan: Gwneud yn siŵr bod pob gweithiwr yn deall y gweithdrefnaudiogelwch sy'n gysylltiedig â COVID-19.

    7.3 Cyfathrebua hyfforddi

    7.3.1 Dychwelydi’r gwaith

    7.3 Cyfathrebua hyfforddi

    7.3.2 Arwyddion a dulliau cyfathrebuparhaus

    35

    Amcan: Sicrhau bod pob gweithiwr yn cael yr wybodaethddiweddaraf am sut mae mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waithneu eu diweddaru.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    Defnyddio negeseuon syml, clir i esbonio canllawiau drwyddefnyddio lluniau ac iaith glir, gan ystyried safonau'rGymraeg, grwpiau lle nad yw'r Gymraeg a'r Saesneg yniaith gyntaf iddynt a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedigmegis nam ar y clyw neu'r golwg.

    Parhau i ymgysylltu â gweithwyr (gan gynnwys undebaullafur neu grwpiau sy'n cynrychioli gweithwyr) i fonitro ac iddeall unrhyw effeithiau annisgwyl yn sgil newidiadau iamgylcheddau gwaith.

    Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd meddwl aradegau o ansicrwydd, a chanolbwyntio ar hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar agweddau iechyd meddwl a llesiant COVID-19.

    Defnyddio dulliau cyfathrebu gweledol, er enghraifft, byrddau gwyn neu arwyddion, i esbonio newidiadau iamserlenni neu ddadansoddiadau heb fod angencyfathrebu wyneb yn wyneb.

    Cyfleu dulliau gweithredu a gweithdrefnau gweithredol igyflenwyr, cwsmeriaid neu gyrff masnach i'w helpu i’wmabwysiadu ac i rannu profiadau.

    Llunio deunyddiau cyfathrebu a hyfforddi ar gyfer gweithwyrcyn iddynt ddychwelyd i'r safle, yn enwedig mewn cysylltiadâ gweithdrefnau newydd ar gyfer cyrraedd y gwaith. Ystyriedtroi at Becyn Cymorth Llywodraeth Cymru neu'r hyfforddiantUndeb Llafur perthnasol.

    Darparu dulliau cyfathrebu clir, cyson a rheolaidd i welladealltwriaeth a chysondeb o ran ffyrdd o weithio.

    Ymgysylltu â gweithwyr (gan gynnwys drwy undebau llafurneu grwpiau cynrychiolwyr gweithwyr) drwy lwybraucyfathrebu sy'n bodoli eisoes er mwyn esbonio a chytuno arunrhyw newidiadau mewn trefniadau gweithio.

    https://llyw.cymru/iach-a-diogelhttps://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/pecyn-cymorth

  • Amcan:

    Cadw pellter corfforolac osgoi trosglwyddoar arwynebau pan fyddnwyddau yn dod imewn i’r safle ac ynei adael.

    Camau y bydd angen eu cymryd fel rheol:

    8. Nwyddau i mewn ac am allan

    Diwygio mannau casglu codi a gollwng, gweithdrefnau, arwyddion a marciau.

    Lleihau unrhyw gyswllt diangen yn y porthdy diogelwch, yr iarda'r warws. Er enghraifft, danfon yn ddigyswllt lle mae natur y cynnyrch yn caniatáu defnyddio proses archebu electronigymlaen llaw.

    Ystyried dulliau o leihau pa mor aml caiff nwyddau eu danfon, er enghraifft drwy archebu mwy yn llai aml.

    Lle bo'n bosibl ac yn ddiogel, sicrhau mai gweithwyr unigolsy’n llwytho neu'n dadlwytho cerbydau.

    Lle bo'n bosibl, defnyddio'r un parau o bobl ar gyfer llwythille mae angen mwy nag un.

    Galluogi gyrwyr i gael mynediad at gyfleusterau lles pan fo angen, yn unol â chanllawiau eraill.

    Annog gyrwyr i aros yn eu cerbydau lle nad yw hyn ynperyglu eu diogelwch ac arferion gweithio diogel sy'n bodolieisoes, fel atal gyrru o’r safle.

    36

  • Ble i gael rhagor o arweiniadCOVID-19: beth mae angen i chi ei wneudhttps://llyw.cymru/coronafeirwsCymorth i fusnesau yn ystod COVID-19https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cyCanllawiau cyffredinol ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr yn ystod COVID-19https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-y-gweithle-i-gyflogwyr-chyflogeion-covid-19

    AtodiadDiffiniadau

    37

    Pobl eithriadol o agoredi niwed

    Bydd pobl sy'n eithriadol o agored i niwed wedi cael llythyr yn dweud wrthynt eubod yn y grŵp hwn, neu bydd eu meddyg teulu wedi dweud wrthynt. Mae rhagoro wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar warchod.

    Pobl agored i niwed Mae pobl sy'n agored i niwed yn cynnwys pobl 70 oed a throsodd a'r rhai syddâ rhai cyflyrau iechyd isorweddol. Dylai holl aelodau'r grŵp hwn ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

    Ardaloedd cyffredin Mae'r term ‘ardal gyffredin’ yn cyfeirio at ardaloedd ac amwynderau a ddarperir ifwy nag un person gan gynnwys ffreuturiau, derbynfeydd, ystafelloedd cyfarfod, mannau addoli, toiledau, gerddi, allanfeydd tân, ceginau, cyfleusterau ffitrwydd, ystafelloedd storio, cyfleusterau golchi dillad.

    https://llyw.cymru/coronafeirwshttps://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cyhttps://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-y-gweithle-i-gyflogwyr-chyflogeion-covid-19https://llyw.cymru/canllawiau-ar-warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored-i-htmlhttps://llyw.cymru/coronafeirws-cadw-pellter-cymdeithasol

  • AtodiadRhagor o wybodaeth

    38

    Cymorth i Fusnesau Mae Busnes Cymru yn rhoi rhagor o gymorth i fusnesau yng Nghymru – gangynnwys manylion am y Cymorth Ariannol a'r Grantiau sydd ar gael.

    Cymorth yn y Gwaith Mae nifer o raglenni sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn barod ihelpu pobl sy'n dychwelyd i'r gwaith ac yn wynebu materion brys sy'n effeithioar eu llesiant a'u lles. Mae'r Prosiect Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth ibobl gyflogedig a hunangyflogedig sydd â chyflyrau iechyd meddwl. Mae gan y Prosiect hefyd becyn o gymorth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eumaint yng Ngogledd Cymru sy’n cael ei ddarparu gan Strategaeth Dinas y Rhyl, ac yn cael ei ddarparu yn Ne Orllewin Cymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel Lles drwy Waith.

    Awdurdod GweithredolIechyd a Diogelwch y DU (HSE)

    Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi llunio canllaw byro'r enw Working Safely during the COVID-19 Outbreak.

    Mae’r Awdurdod hefyd wedi cynhyrchu cyngor defnyddiol i gyflogwyr a’u staff ynglŷn â sut mae gweithio gartref yn ddiogel yn ystod y pandemig.

    Cymru Iach ar Waith Mae gwefan Cymru Iach ar Waith yn dwyn ynghyd gyngor ar amrywiaeth eango bynciau defnyddiol, gan gynnwys hunanynysu, gwarchod a diogelu poblagored i niwed, ardystiad meddygol, gweithio'n agos gydag eraill, gweithwyrhanfodol sydd angen PPE a phrofion, a mwy. Mae’r wefan hefyd yn cyfeirio at ddolenni at ymgyrch gwefan Sut wyt ti? Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phecyn Cymorth Dychwelyd i'r Gweithle ar ôl COVID-19 y Gymdeithas MeddygaethAlwedigaethol.

    Amser i Newid Cymru Mae Amser i Newid Cymru yn helpu pobl sy'n wynebu sgyrsiau anodd am iechyd meddwl a stigma yn y gweithle, gan ganolbwyntio'n benodol ar sut iddangos caredigrwydd yn ystod COVID-19. Yn eu geiriau nhw: “Nawr, yn fwynag erioed mae'n bwysig ein bod yn dangos caredigrwydd at ein gilydd. Gall rhoi a derbyn gweithredoedd caredig helpu i wella llesiant meddyliol drwy greuteimladau cadarnhaol.”

    Y Comisiwn Cydraddoldeba Hawliau Dynol

    Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) hefyd wedi lluniocanllawiau COVID-19 i gyflogwyr, sy'n eu helpu i ystyried eu rhwymedigaethaudan y Ddeddf Cydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau anodd. Gellir caelrhagor o wybodaeth yn Canllawiau i Gyflogwyr COVID-19.

    https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy?utm_source=bing&utm_medium=CPC&utm_campaign=BusinessWalesCovid-19GS-Search-BW&msclkid=6a2affb4479818e6c652a16ca7098061https://rcs-wales.co.uk/cy/http://www.wellbeingthroughwork.org.uk/cy/https://www.hse.gov.uk/news/assets/docs/working-safely-guide.pdfhttps://www.hse.gov.uk/toolbox/workers/home.htmhttp://www.cymruiacharwaith.cymru.nhs.uk/hafanhttps://phw.nhs.wales/news/public-health-wales-launches-new-covid-19-wellbeing-campaign/https://www.som.org.uk/som-and-partners-launch-free-toolkit-help-employers-create-safer-workplaces-returning-employeeshttps://www.timetochangewales.org.uk/cy/https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/coronavirus-covid-19-guidance-employers

  • AtodiadRhagor o wybodaeth

    39

    Ailagor neu redeg eichbusnes

    Mae Rheoliadau'r Coronafeirws i yn gosod nifer o gyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau eraill – caiff y rhain eu hadolygu'n barhaus wrth i ni ddatgloi einheconomi yn raddol.

    Os caniateir i chi redeg eich busnes, rhaid i chi wneud hynny'n ddiogel mewnffordd sy'n cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau a osodir gan Reoliadau’rCoronafeirws, yn ogystal â’r rhwymedigaethau cyfreithiol eraill a osodir argyflogwyr (megis y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch).

    Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol iddynt weithio gartref y caniateir iweithwyr ddychwelyd i'r gweithle.

    Cadw pellter corfforol Mae Rheoliadau'r Coronafeirws yn gosod gofyniad cyfreithiol ar y rheini sy’ngyfrifol am waith i gymryd pob cam rhesymol i wneud yn siŵr bod pellter o 2m yn cael ei gadw rhwng unrhyw unigolion ar y safle lle mae’r gwaith yn cael eiwneud (heblaw rhwng dau aelod o'r un aelwyd, neu ofalwr â'r person sy'n caelcymorth gan y gofalwr).

    Mae canllawiau wedi'u llunio i helpu pobl i ddeall beth yw ystyr "cymryd pobcam rhesymol", a beth i'w wneud os nad yw'n bosibl cadw pellter o 2m mewnrhai amgylchiadau. Dylech ystyried y Canllawiau Statudol a'r canllawiau ategolar gymryd pob cam rhesymol i gadw pellter corfforol yn y gweithle.

    Mae methu cydymffurfio â'r ddyletswydd cadw pellter corfforol yng Nghymruheb esgus rhesymol yn drosedd, a allai arwain at ddirwy yn dilyn euogfarn.

    https://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraithhttps://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraithhttps://llyw.cymru/cymryd-pob-cam-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle

  • ISBN digidol: xxx-x-xxxxx-xxx-xWG40766

    © Hawlfraint y Goron 2020Mae’r cyhoeddiad hwn wedi'i drwyddedu yn unol â thelerauTrwydded y Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir ynwahanol. I weld y drwydded hon ewch i:http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/

    Mae'r cyhoeddiad hwn hefyd ar gael ar ein gwefan yn:https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-y-gweithle-i-gyflogwyr-chyflogeion-covid-19

    Nid yw’r delweddau wedi’u cynnwys dan delerau trwydded y Llywodraeth Agored a rhaid peidio â'u hatgynhyrchu na'udefnyddio o am reolau hawlfraint.

    Mae'r lluniau' dangos PPE ar gyfer gwaith i amddiffyn yn erbynrisgiau nad ydynt yn rhai COVID-19.

    40

    http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-y-gweithle-i-gyflogwyr-chyflogeion-covid-19