36
1 | SECTION HEADER YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025 Datganiad Dylunio a Mynediad

YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

© Horizon Nuclear Power Wylfa Limited

1 | SECTION HEADERYN

NI YN

GWEITH

IO I BRYD

AIN

Prosiect Wylfa NewyddGwelliannau i Briffordd yr A5025

Datganiad Dylunio a Mynediad

Page 2: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Cynnwys 1 Cyflwyniad ........................................................................................................ 1 1.1 Trosolwg ........................................................................................................... 1

Y Cyd-destun .................................................................................................... 1 1.2 Y Gofyniad am Ddatganiad Dylunio a Mynediad .............................................. 3 1.3 Trosolwg a’r Amcanion ..................................................................................... 3 1.4 Disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig ................................................................ 3

Trosolwg o’r Gwelliannau yn Adrannau 1, 3, 5 a 7 ........................................... 4 Trosolwg o’r Gwelliannau yn Adrannau 2, 4, 6 a 8 ........................................... 4

2 Cyd-destun y Safle ........................................................................................... 5 2.1 Trosolwg ........................................................................................................... 5 2.2 Cyd-destun Ffisegol ......................................................................................... 5 2.3 Y Cyd-destun Economaidd ............................................................................... 9 2.4 Y Cyd-destun Cymdeithasol ............................................................................. 9 2.5 Y Cyd-destun Polisi .......................................................................................... 9

Y cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol ....................................................... 9 Y cyd-destun polisi cynllunio lleol ..................................................................... 9

2.6 Ymgynghori .................................................................................................... 11 Ymatebion i’r Gwelliannau i Briffordd yr A5025 .............................................. 11 Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Cam Tri (Mai 2017) ......................................... 12 Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Statudol (Gorffennaf 2017) .............................. 12 Ymgysylltu â rhanddeiliad............................................................................... 12

2.7 Crynodeb o ddatblygiad y dyluniad ................................................................ 12 Datblygu dyluniad y ffordd. ............................................................................. 12 Compownd Adeiladu Dros Dro ....................................................................... 13

3 Egwyddorion a Chysyniadau Dylunio’r Datblygiad Arfaethedig ...................... 14 3.1 Trosolwg ......................................................................................................... 14 3.2 Cysyniadau..................................................................................................... 14 3.3 Prif elfennau’r Gwelliannau i Briffordd yr A5025 ............................................. 14

Lledu .............................................................................................................. 14 Ailadeiladu ...................................................................................................... 14 Wyneb Newydd .............................................................................................. 14 Compownd Adeiladu Dros Dro ....................................................................... 14

3.4 Graddfa gyffredinol y safle.............................................................................. 15 3.5 Cynigion tirwedd ............................................................................................. 15 3.6 Cynigion goleuo .............................................................................................. 16 3.7 Diogelwch Cymunedol .................................................................................... 17

Diogelwch ar yr A5025 ................................................................................... 17 Diogelwch y Compownd Adeiladu Dros Dro ................................................... 17 Cymunedol ..................................................................................................... 17

4 Cynaliadwyedd Amgylcheddol ........................................................................ 18 4.1 Dyluniad Cynaliadwy ...................................................................................... 18

Draenio a dŵr .................................................................................................. 18 Deunyddiau adeiladu ...................................................................................... 18 Goleuadau ...................................................................................................... 18

4.2 Cynefinoedd Naturiol ...................................................................................... 18 4.3 Gwastraff ......................................................................................................... 19 5 Hygyrchedd a Symudiadau ............................................................................. 19 6 Adeiladu .......................................................................................................... 20 7 Ar ôl gweithredu .............................................................................................. 21 8 Crynodeb ........................................................................................................ 21 9 Byrfoddau a Geirfa .......................................................................................... 22 10 Cyfeiriadau ...................................................................................................... 31

Rhestr o’r Tablau Tabl 5-1 Rhagolygon traffig adeiladu ...................................................................... 19 Tabl 10-1 Rhestr cyfeiriadau ..................................................................................... 31

Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1-1 Trosolwg o’r Gwelliannau i Briffordd yr A5025 ............................................ 2 Ffigur 1-2 Adran o ffordd gerbydau newydd yn Bytheicws (Adran 4) .......................... 4 Ffigur 2-1 Wal gerrig nodweddiadol ............................................................................ 5 Ffigur 2-2 Gwrych nodweddiadol ................................................................................ 6 Ffigur 2-3 Nodweddion amgylcheddol ar hyd yr A5025 Adrannau 1-4 ........................ 7 Ffigur 2-4 Nodweddion amgylcheddol ar hyd yr A5025 Adrannau 5-8 ........................ 8 Ffigur 3-1 Darlun o groestoriad wal gerrig arfaethedig .............................................. 16 Ffigur 3-2 Darlun o wedd wal gerrig arfaethedig ....................................................... 16 Ffigur 3-3 Darlun o glawdd arfaethedig ..................................................................... 16 Ffigur 3-4 Cynllun Dangosol y Compownd Adeiladu Dros Dro.................................. 17

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen i

Page 3: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

[Mae’r dudalen hon i fod yn wag]

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen ii

Page 4: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

1 Cyflwyniad 1.1 Trosolwg 1.1.1 Mae’r Datganiad Dylunio a Mynediad hwn wedi cael ei baratoi gan Pŵer Niwclear

Horizon Wylfa Cyfyngedig (Horizon) i gefnogi cais cynllunio llawn am welliannau arfaethedig i briffordd bresennol yr A5025, a gyflwynir i Gyngor Sir Ynys Môn. Mae’r gwelliannau hyn yn ceisio mynd i’r afael â chyfyngiadau ffisegol a gweithredol ar y darn o'r A5025 rhwng y Fali a Chyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer arfaethedig i’r de o Dregele, o ran lled ac aliniad y ffordd, y cyfleoedd i oddiweddyd a chyflwr wyneb y ffordd.

1.1.2 Rhaid cael y gwelliannau hyn er mwyn lliniaru’r effeithiau a ragwelir yn sgil y cynnydd mewn traffig oherwydd y gweithgareddau adeiladu a fyddai’n cael eu gwneud yn Ardal Datblygu Wylfa Newydd, ac oherwydd traffig yr Orsaf Bŵer weithredol, a fyddai’n teithio ar hyd y rhan hon o’r rhwydwaith priffyrdd. Diben y Datganiad Dylunio a Mynediad hwn ydy cyfleu sut mae dyluniad y cynnig, gan gynnwys mynediad, wedi cael ei ystyried o ddechrau’r broses datblygu a sut mae amcanion dylunio da wedi cael eu defnyddio i gyfrannu at hyn, ar sail yr egwyddorion a nodir yn y Dull Dylunio a’r Strategaeth Tirwedd, a gyflwynir i gefnogi’r cais hwn.

Y Cyd-destun 1.1.3 Mae Horizon yn cyflwyno cais i’r Ysgrifennydd Gwladol am Orchymyn Cydsyniad

Datblygu (DCO) o dan Ddeddf Cynllunio 2008, i adeiladu, i weithredu ac i gynnal a chadw gorsaf bŵer newydd ar dir i’r gorllewin o Gemaes ar Ynys Môn.

1.1.4 Mae Prosiect Wylfa Newydd (y Prosiect) yn cynnwys Prosiect DCO Wylfa Newydd a’r Gwaith Galluogi.

1.1.5 Mae Prosiect DCO Wylfa Newydd yn cael ei ddiffinio fel y rhannau hynny o’r Prosiect a fydd yn cael cydsyniad drwy'r Gorchymyn Cydsyniad Dylunio, sy’n cynnwys: yr Orsaf Bŵer; datblygiadau eraill ar y safle; Gwaith Morol, y Cyfleusterau Oddi ar Safle'r Orsaf Bŵer; a’r Datblygiadau Cysylltiedig:

• Yr Orsaf Bŵer: yr Orsaf Bŵer Niwclear newydd arfaethedig, gan gynnwys dau Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch y DU a gyflenwir gan Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd., cyfleusterau, adeiladau, strwythurau ac offer cefnogol, ac adeiladau i storio tanwydd sydd wedi cael ei ddefnyddio a gwastraff ymbelydrol;

• Datblygiadau eraill ar y safle: gan gynnwys gwaith tirweddu a phlannu, draeniau, systemau rheoli dŵr wyneb, gwaith mynediad i’r cyhoedd gan gynnwys cau a dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus dros dro ac yn barhaol, Ffordd Fynediad newydd i’r Orsaf Bŵer a ffyrdd mewnol y safle, llefydd parcio, compowndiau adeiladu ac ardaloedd parcio dros dro, ardaloedd gosod, ardaloedd gweithio a gwaith a strwythurau dros dro, ardal dros dro i wylio’r gwaith adeiladu, dargyfeirio cyfleustodau, ffensys y ffin a ffensys adeiladu;

• Gwaith Morol: sy’n cynnwys strwythurau sugno a gollwng y System Dŵr Oeri, Cyfleuster Dadlwytho Morol a strwythurau morglawdd;

• Cyfleusterau Oddi ar Safle'r Orsaf Bŵer: sy’n cynnwys y Ganolfan Rheoli Argyfwng Amgen, y Labordy Arolygon Amgylcheddol a’r Garej Offer Argyfwng Symudol; a

• Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, ac sy’n bennaf yn cynnwys; Campws y Safle a fydd yn darparu llety i weithwyr adeiladu; cyfleuster Parcio a Theithio dros dro yn Dalar Hir ar gyfer gweithwyr adeiladu; Canolfan Logisteg dros dro ym Mharc Cybi; Newidiadau i Briffordd yr A5025; a chysylltiad trydanol ag is-orsaf y National Grid.

1.1.6 Bydd Horizon yn paratoi ceisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) ar gyfer y Gwaith Galluogi, a gyflwynir i Gyngor Sir Ynys Môn sef yr awdurdod cynllunio lleol a fydd yn penderfynu ar y cais.

1.1.7 Mae’r Gwaith Galluogi yn cynnwys y gwaith Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, y Gwelliannau i Briffordd yr A5025 (y Datblygiad Arfaethedig) a’r gwaith Paratoi a Chlirio’r Safle sy’n dod o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad aThref.

1.1.8 Mae’r termau canlynol yn cael eu defnyddio yn y ddogfen hon wrth ddisgrifio’r ardaloedd daearyddol sy’n ymwneud â’r Prosiect:

• Safle’r Orsaf Bŵer – yr ardaloedd dangosol o dir a môr lle byddai'r rhan fwyaf o adeiladau, offer a strwythurau parhaol yr Orsaf Bŵer. Byddai’n cynnwys dau adweithydd niwclear, tyrbinau stêm, strwythur sugno’r System Dŵr Oeri ac adeilad y pwmp, strwythurau gollwng, morgloddiau, Campws y Safle a’r Cyfleuster Dadlwytho Morol, yn ogystal â strwythurau ategol eraill.

• Ardal Datblygu Wylfa Newydd - yr ardaloedd dangosol o dir a môr gan gynnwys yr ardaloedd o amgylch Safle’r Orsaf Bŵer a fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer adeiladu a gweithredu’r Orsaf Bŵer. Mae'r ardal hon yn dangos yr ardal fwyaf y byddai Prif Waith Adeiladu'r Orsaf Bŵer yn effeithio arni'n ffisegol a bydd yn cael ei defnyddio i ffurfio lleoliad a nodweddion yr Orsaf Bŵer weithredol.

1.1.9 Fel sy’n cael ei amlinellu ym mharagraff 1.1.1, mae’r Datganiad Dylunio a Mynediad hwn yn ymwneud â’r Datblygiad Arfaethedig (edrychwch ar ffigur 1-1). Edrychwch ar yr eirfa yn adran 9 i weld y termau sy’n cael eu defnyddio yn y Datganiad Dylunio a Mynediad hwn.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 1

Page 5: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Ffigur 1-1 Trosolwg o’r Gwelliannau i Briffordd yr A5025

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 2

Page 6: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

1.2 Y Gofyniad am Ddatganiad Dylunio a Mynediad 1.2.1 Mae’r gofynion presennol am Ddatganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru wedi’u

hamlinellu yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd) [RD1].

1.2.2 Ar gyfer datblygiadau ‘mawr’, heblaw gweithrediadau peirianneg a newid defnydd tir neu adeiladau, mae’n ofynnol cyflwyno Datganiad Dylunio a Mynediad gyda’r cais cynllunio. Mae’r Datblygiad Arfaethedig yn dod o dan y diffiniad o ddatblygiad mawr gan ei fod yn cael ei wneud ar safle sy’n 1 hectar neu fwy1.

1.2.3 Mae Erthygl 7 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd) [RD1] yn cadarnhau ei bod yn ofynnol bod Datganiadau Dylunio a Mynediad:

• Yn egluro’r egwyddorion a chysyniadau dylunio sydd wedi’u defnyddio gyda’r datblygiad;

• Yn dangos y camau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a sut y mae dyluniad y datblygiad yn ystyried y cyd-destun hwnnw;

• Yn egluro’r polisi neu ddull o weithredu a fabwysiadwyd i ddarparu mynediad, a sut y mae polisïau sy’n ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu wedi’u hystyried; ac

• Yn egluro sut y rhoddwyd sylw i unrhyw faterion penodol a allai effeithio ar fynediad i’r datblygiad.

1.2.4 Mae Nodyn Cyngor Technegol 12: Canllawiau ar Ddatganiadau Dylunio a Mynediad, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016 [RD2], a’r canllawiau ar ‘Ddatganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru’ a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru yn 2014 [RD3] hefyd wedi cael eu hystyried.

1.2.5 Mae’r materion a restrwyd uchod wedi’u cynnwys wrth baratoi’r Datganiad Dylunio a Mynediad.

1.3 Trosolwg a’r Amcanion 1.3.1 Mae'r Gwelliannau i Briffordd yr A5025 yn rhan bwysig o Brosiect Wylfa Newydd, ac yn

angenrheidiol fel rhan o’r strategaeth drafnidiaeth ehangach. Mae polisi cenedlaethol yn cydnabod bod taer angen gorsafoedd pŵer niwclear newydd, a bod angen eu cyflwyno cyn gynted ag sy’n bosibl [RD4]. Os rhoddir Gorchymyn Cydsyniad Datblygu ar gyfer Prosiect DCO Wylfa Newydd, byddai angen i’r traffig adeiladu ddefnyddio’r A5025 o’r A5 i’r dwyrain o gyffordd y Fali er mwyn teithio i Ardal Datblygu Wylfa Newydd.

1.3.2 Er bod angen y Datblygiad Arfaethedig er mwyn hwyluso Prosiect Wylfa Newydd, nid yw’r ffordd bresennol yn cyrraedd y safonau priffyrdd presennol ac mae angen ei gwella. Mae materion gyda’r llwybr presennol o ran ei led, ei aliniad a’r cyfleoedd i oddiweddyd, sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar symudiad traffig ar hyd y ffordd.

1.3.3 Dyma amcanion y Datblygiad Arfaethedig:

1 Fel y mae wedi’i ddiffinio yn erthygl 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd) [RDx].

• uwchraddio’r llwybr, o ran safon yr adeiladwaith a geometreg y ffordd, er mwyn i'r ffordd allu cynnal rhagor o draffig, ac er mwyn gwella diogelwch a mynediad;

• sicrhau bod pob llwyth annormal perthnasol yn gallu teithio ar hyd yr A5025; • lleihau unrhyw gynnydd posibl yn y perygl o ddamweiniau ffordd; • lleihau unrhyw effeithiau niweidiol ar gymunedau lleol; • lleihau unrhyw effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd; a • chwilio am gyfleoedd pan fo’n bosibl i sicrhau gwelliannau i gymunedau lleol ac i’r

amgylchedd drwy fesurau dylunio ffyrdd.

1.4 Disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig 1.4.1 Er bod natur y Datblygiad Arfaethedig yn gymharol gyfyngedig wrth gymharu â chamau

dilynol y gwaith ar yr Orsaf Bŵer, mae’n rhan annatod o’r camau adeiladu dilynol, gan ganiatáu ffordd i mewn ac allan i gerbydau a fydd yn cludo deunyddiau ac offer adeiladu. Mae'r gwaith hefyd yn hanfodol er mwyn hwyluso mynediad i’r Orsaf Bŵer ar gyfer cerbydau gwasanaeth a chynnal a chadw pan fydd yr orsaf yn weithredol.

1.4.2 Dyma ddisgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig:

“Gwelliannau i’r A5025 bresennol rhwng yr A5 i’r dwyrain o gyffordd y Fali at Gyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer arfaethedig, gan gynnwys ail adeiladu a lledu’r palmant presennol mewn mannau a rhoi wyneb newydd. Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys Compownd Adeiladu Dros Dro gan gynnwys cyfleuster ailgylchu palmant dros dro, a gwaith cysylltiedig arall fel seilwaith draeniau, trin ffiniau, plannu, arwyddion newydd a marciau newydd ar y ffordd”.

1.4.3 Mae’r Datblygiad Arfaethedig yn ymestyn dros 16.19km o’r A5025 bresennol rhwng y Fali a Chyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer arfaethedig a chynigir iddo gael ei weithredu ar hyd yr adrannau canlynol (edrychwch ar Ffigur 1-1 i weld eu lleoliad):

• Adran 1 – rhwng yr A5 i’r dwyrain o gyffordd y Fali ac i’r gogledd o Gyffordd y Fali (A5/A5025) – 1.06km;

• Adran 2 – rhwng i’r gogledd o Gyffordd y Fali (A5/A5025) ac i’r gogledd o Lanynghenedl – 2.46km;

• Adran 3 – rhwng i’r gogledd o Lanynghenedl ac i’r gogledd o Lanfachraeth – 2.28km;

• Adran 4 – rhwng i'r gogledd o Lanfachraeth ac i’r de o Lanfaethlu – 2.7km; • Adran 5 – rhwng i’r de o Lanfaethlu ac i’r gogledd o Lanfaethlu – 1.43km; • Adran 6 – rhwng i’r gogledd o Lanfaethlu ac i’r gogledd o Lanrhuddlad – 3.36km; • Adran 7 – rhwng i’r gogledd o Lanrhuddlad ac i’r gogledd o Gefn Coch – 1.3km; • Adran 8 – rhwng i’r gogledd o Gefn Coch a Chyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf

Bŵer arfaethedig – 1.6km. 1.4.4 Mae’r Datblygiad Arfaethedig yn golygu gwella’r ffordd o fewn ffin briffordd bresennol yr

A5025 i raddau helaeth. Yn gryno, mae’r rhain yn cynnwys:

• gwella’r palmant presennol drwy roi wyneb newydd ar hyd Adrannau 1, 3, 5 a 7; • ailadeiladu a lledu’r palmant presennol yn lleol drwy Adrannau 2, 4, 6 a 8;

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 3

Page 7: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

• addasu a gwella’r arwyddion a’r marciau presennol ar y ffordd drwy Adrannau 1–8; ac

• adeiladu Compownd Adeiladu Dros Dro (a fydd yn cynnwys cyfleuster ailgylchu palmant dros dro) yn Adran 7 yn union wrth ymyl yr A5025.

1.4.5 Byddai’r Newidiadau i Briffordd yr A5025 yn cael eu gweithredu tua’r adeg y bydd y Datblygiad Arfaethedig yn cael ei gwblhau (yn amodol ar gael cydsyniad) drwy Adrannau 1, 3, 5 a 7. Yn gryno, byddai’r rhain yn golygu adeiladu ffyrdd osgoi er mwyn lleihau effeithiau traffig yn y dyfodol ar gymunedau, creu trefniadau cyffordd newydd (gan gynnwys darparu Cyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer arfaethedig), a gwelliannau lleol i droadau presennol.

1.4.6 Mae'r Newidiadau i Briffordd yr A5025 yn rhan annatod o gais DCO Prosiect Wylfa Newydd, ac nid ydynt yn rhan o’r cais cynllunio ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig.

Trosolwg o’r Gwelliannau yn Adrannau 1, 3, 5 a 7 1.4.7 Byddai’r gwaith sy’n ymwneud â rhoi wyneb newydd i’r palmant presennol yn cael ei

wneud yn Adrannau 1, 3, 5 a 7 o dan amodau rheoli traffig.

1.4.8 Byddai wyneb newydd yn cael ei osod drwy osod glynwr bitwmen ac yna graean i atal sgidio. Byddai marciau wedyn yn cael eu rhoi ar y ffordd ar ôl y glynu, a byddai arwyddion presennol yn cael eu disodli pan fyddai angen.

1.4.9 Ni fyddai newidiadau’n cael eu gwneud i’r trefniadau presennol o ran draeniau, cyffyrdd, hygyrchedd, triniaethau ffiniau na thirwedd, ac ni fyddai angen cymryd unrhyw dir yn barhaol na gwneud gwaith cloddio parhaol er mwyn gosod yr wyneb newydd ar y ffordd.

1.4.10 Byddai’r Compownd Adeiladu Dros Dro, a fyddai’n cynnwys y cyfleuster ailgylchu palmant dros dro yn cael ei leoli mewn safle wrth ymyl yr A5025 yng Nghefn Coch (Adran 7), gan gynnwys cyfleuster ailgylchu palmant dros dro, a fyddai’n trin ac yn prosesu sgil-gynhyrchion priffordd. Byddai’r Compownd Adeiladu Dros Dro yn cael ei ddefnyddio ar gyfer swyddfeydd safle ar ffurf cabanau symudol, llefydd parcio i’r staff adeiladu, storio deunyddiau adeiladu, storio a rheoli gwastraff (gan gynnwys carthbwll a thoiledau symudol); parcio offer o bosibl yn y tymor byr pan nad yw’n cael ei ddefnyddio neu pan fydd yn disgwyl i gael ei gludo oddi ar y safle, ac ar gyfer cyfleusterau lles. Mae’r safle tua 1.28ha ac mae’n 1.1km i’r gogledd o Lanrhuddlad. Ar ôl dymchwel y Compownd Adeiladu Dros Dro, bydd y safle’n cael ei adfer i gyflwr y cytunir arno.

Trosolwg o’r Gwelliannau yn Adrannau 2, 4, 6 a 8 1.4.11 Byddai’r palmant presennol yn cael ei ail adeiladu a'i ledu yn Adrannau 2, 4, 6 a 8.

1.4.12 Mae’r gwelliannau wedi cael eu dylunio er mwyn dilyn aliniad llorweddol a fertigol presennol y ffordd gerbydau bresennol pan fo hynny’n bosibl. Byddai’r gwaith lledu yn cael ei wneud i ddarparu trawstoriad (lled) sylfaenol o 7.3m, a fyddai’n cynnwys lled ffordd gerbydau o 6.7m a llain galed 0.3m o led ar y naill ochr a’r llall i’r ardal balmant. Byddai gwaith lledu ychwanegol yn cael ei wneud ar rai troadau er mwyn i gerbydau nwyddau trwm allu pasio’n ddiogel.

1.4.13 Byddai llain ymyl ffordd o 450mm o leiaf yn cael ei darparu o fewn ffin bresennol y briffordd ar y naill ochr a’r llall i’r ffordd, pan fo hynny’n bosibl. Pan nad oes modd gwneud hyn, byddai angen lledu y tu allan i ffin bresennol y briffordd.

1.4.14 Byddai lledu y tu hwnt i ffin y briffordd yn golygu bod angen cymryd darnau bach o dir yn barhaol, gan symud y ffiniau i safleoedd newydd. Mewn lleoliadau lle mae angen lledu y tu hwnt i ffin y briffordd a lle pennir bod hynny’n ymarferol, byddai llain ymyl ffordd o 700mm o leiaf yn cael ei darparu.

1.4.15 Byddai tua 250m o ffordd gerbydau newydd yn cael ei hadeiladu yn union i’r dwyrain o’r ffordd gerbydau bresennol yn Bytheicws (Adran 4), gan ymestyn tua 40m i’r cae cyfagos ar ei bwynt pellaf, er mwyn gwella tro sydyn yn y lleoliad penodol hwn.

Ffigur 1-2 Adran o ffordd gerbydau newydd yn Bytheicws (Adran 4)

1.4.16 Tybiwyd y byddai terfyn cyflymder o 60 milltir yr awr ar hyd Adrannau 2, 4, 6 a 8 ac eithrio drwy'r aneddiadau a’r pentrefi, lle byddai cyfyngiadau cyflymder yn berthnasol am resymau diogelwch. Byddai terfynau cyflymder is hefyd yn cael eu hargymell mewn lleoliadau lle cynigir rhoi croesfannau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, drwy ymgynghori a chael cytundeb gyda Chyngor Sir Ynys Môn.

1.4.17 Mae’r draeniau wedi cael eu dylunio i fynd i’r afael â'r cynnydd bach mewn ardaloedd anathraidd sy’n gysylltiedig â lledu. Mae hyn wedi cael ei ddatblygu ar yr egwyddor bod unrhyw seilwaith newydd yn cyfateb i’r system bresennol, pan fo’n bosibl, gan osod cydrannau draenio newydd yn ôl y galw.

1.4.18 Byddai addasiadau’n cael eu gwneud i nifer o drefniadau cyffyrdd a mynedfeydd preifat presennol y bydd y lledu yn effeithio arnynt, gyda radiws rhai o’r troadau’n cael ei

Darn o’r lluniad Trefniant Cyffredinol Arfaethedig rhif WN02.05-ACM-S6-00-DRG-001 R1

Cyffordd 16

Mynedfa Cae

Stribed lledu 1200mm i roi ffordd gerbydau 7.9m o led o amgylch y tro

Mynedfa breifat

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 4

Page 8: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

addasu er mwyn gwella diogelwch a’i gwneud hi’n haws gweld ymlaen. Byddai triniaethau i’r ffiniau, waliau a gwrychoedd, yn cael eu halinio er mwyn ei gwneud hi’n haws gweld. Byddai gwelliannau, fel gosod giatiau, hefyd yn cael eu gwneud i nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n cyrraedd y ffordd, a byddai adrannau newydd byr o lwybrau beicio yn cael eu creu hefyd. Byddai’r rhan fwyaf o’r cilfannau presennol yn cael eu cadw ac ni fyddai’r lledu yn effeithio arnynt.

1.4.19 Byddai wyneb tawel yn cael ei osod ar y ffordd, a fyddai’n cynnwys haen denau o ddeunydd haenau arwyneb tenau a fyddai’n cynnwys 10mm o agregau. Byddai hyn yn cael ei ddefnyddio i leihau effeithiau sŵn sy’n gysylltiedig gyda llif traffig yn y dyfodol ar hyd y briffordd (gyda’r rhain yn gysylltiedig ag adeiladu a gweithredu’r Orsaf Bŵer yn y dyfodol).

1.4.20 Byddai lledu hefyd yn golygu bod angen symud rhai llochesi bysiau, blychau ffôn, marciau ac arwyddion ffordd mewn lleoliadau gwahanol ar hyd y briffordd.

1.4.21 Byddai adrannau o’r ffordd gerbydau na fyddent yn cael eu defnyddio mwyach o ganlyniad i’r Datblygiad Arfaethedig, fel y rheini o ganlyniad i’r gwelliannau yn Bytheicws (Adran 4), yn cael eu cau a’u dychwelyd i’r tirfeddianwyr cyfagos.

1.4.22 Mae gwybodaeth lawn sy’n ymwneud â’r Datblygiad Arfaethedig yn Adran 3 y Datganiad Cynllunio ac yn Adran 2 yr Adroddiad Amgylcheddol.

2 Cyd-destun y Safle 2.1 Trosolwg 2.1.1 Mae’r adran hon yn rhoi disgrifiad o gyd-destun yr A5025 o’r Fali i Gyffordd Ffordd

Fynediad yr Orsaf Bŵer (safle’r Datblygiad Arfaethedig) a’r ardal gyfagos, gan roi sylfaen o dystiolaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth er mwyn arwain egwyddorion a chysyniadau’r Datblygiad Arfaethedig.

2.2 Cyd-destun Ffisegol 2.2.1 Mae’r A5025 yn brif llwybr trafnidiaeth o amgylch rhannau gorllewinol, gogleddol a

dwyreiniol Ynys Môn. Mae’r llwybr yn cysylltu’r arfordir gogleddol a’r pentrefi yn y gorllewin a’r gogledd â’r A55 mewn dau le, un yn y gogledd orllewin, ac un yn y de ddwyrain ym Mhorthaethwy.

2.2.2 Yr A5025 ydy’r prif lwybr mynediad i Orsaf Bŵer bresennol Magnox ar yr arfordir gogleddol ger Tregele, ac mae’n rhoi mynediad i nifer o bentrefi bach ac eiddo gwledig sydd ar wasgar ar draws tir amaethyddol.

2.2.3 Mae’r A5025 yn amrywio’n arw o ran lled ac uchder. Mae’n dilyn llwybr troellog gyda nifer o droadau sydyn. Mewn rhai llefydd mae’r llwybr yn mynd drwy gymunedau gwledig ac mae eiddo preswyl a strwythurau eraill yn agos at bob ochr. Mae'r ffotograffau yn ffigurau 2-1 a 2-2 isod yn dangos adrannau nodweddiadol yr A5025 bresennol gan gynnwys triniaethau ffin nodweddiadol.

Ffigur 2-1 Wal gerrig nodweddiadol

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 5

Page 9: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Ffigur 2-2 Gwrych nodweddiadol

2.2.4 Mae Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn croesi’r A5025 yn Llanynghenedl,

ac mae Llwybr 566 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (y Trywydd Copr) yn croesi’r A5025 wrth Lanrhuddlad. Nid oes dim darpariaeth beicio ffurfiol arall yn bodoli ar hyd y llwybr. Mae’r A5025 yn croesi nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus, serch hynny, mae’r mwyafrif helaeth o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn gorffen wrth yr A5025 ac yn mynnu bod defnyddwyr yn teithio ar hyd yr A5025 i barhau ac wedyn cysylltu â Hawl Tramwy Cyhoeddus arall.

2.2.5 Mae cyrsiau dŵr a draeniau lleol yn pasio o dan y ffordd gerbydau drwy strwythurau cwlfertau, ac mae modd cyrraedd nifer o ddaliadau amaethyddol cyfagos yn syth oddi ar yr A5025 drwy lonydd mynediad preifat.

2.2.6 Mae ardaloedd cyfagos yr A5025 yn cynnwys tir amaethyddol gan fwyaf sydd wedi’i amgylchynu gan wrychoedd ac sy’n cael ei groesi gan rwydwaith o ffyrdd, lonydd, llwybrau troed, pocedi o goetir, cyrsiau dŵr a seilwaith trydan uwchben. Bob hyn a hyn mae coed ar draws y caeau ac mae’r caeau’n cael eu rhannu gan ffensys, waliau cerrig sych isel a gwrychoedd. Mae ffermydd ac eiddo preswyl ar eu pen eu hunain yn agos at y Datblygiad Arfaethedig. Mae morlin gwledig Ynys Môn i gyd a’r tir cyfagos, gan ymestyn sawl cilometr i’r tir mewn sawl rhan, wedi'i ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mewn llefydd, mae ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn yn cael ei ffurfio gan yr A5025 bresennol, yn enwedig i’r gorllewin o Adrannau 2 a 6.

2.2.7 Mae nodweddion dynodedig sy’n agos at safle’r Datblygiad Arfaethedig, ond y tu allan iddo, yn cynnwys:

• Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cae Gwyn;

• Ardal Gwarchodaeth Arbennig Ynys Feurig, Bae Cemlyn ac Ynysoedd y Moelrhoniaid;

• Ardal Cadwraeth Arbennig Llyn Dinam; • SoDdGA Tre’r Gof; • SoDdGA Beddmanarch-Cymyran • SoDdGA Llyn Llygeirian; • SoDdGA Llyn Garreg-Lwyd; • SoDdGA Llynnau y Fali; • Ardal Cadwraeth Arbennig a SoDdGA Bae Cemlyn; a • Gerddi Cestyll rhestredig Gradd II, sydd hefyd yn Barc a Gardd Rhestredig o

Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. 2.2.8 Edrychwch ar y Cynlluniau Meistr Amgylcheddol yng nghyfrol 2 yr Adroddiad

Amgylcheddol (ffigurau 2.24-2.38) ac sy’n cael eu dangos isod i weld y prif nodweddion ecolegol yn y safle a’r ardal gyfagos

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 6

Page 10: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Ffigur 2-3 Nodweddion amgylcheddol ar hyd yr A5025 Adrannau 1-4

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 7

Page 11: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Ffigur 2-4 Nodweddion amgylcheddol ar hyd yr A5025 Adrannau 5-8

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 8

Page 12: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

2.3 Y Cyd-destun Economaidd 2.3.1 Mae cyflogaeth mewn amaethyddiaeth yn bwysig iawn yn lleol, ac mae cyflogaeth yn y

sector adeiladu ychydig yn uwch yn lleol i’r A5025 nag ydyw yn Ynys Môn neu yng ngweddill Cymru.

2.3.2 Mae effeithiau manteisiol yn debyg o gael eu gwireddu o ganlyniad i’r Datblygiad Arfaethedig drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth lleol ar gyfer gweithwyr adeiladu. Disgwylir y byddai’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud dros gyfnod o 66 wythnos (heb gynnwys cyfnod adfer o 4 wythnos ar gyfer y Compownd Adeiladu Dros Dro). Ar sail bod angen 125 o weithwyr ar gyfer y cyfnod adeiladu o 66 wythnos, mae hyn yn arwain at amcangyfrif o 159 blwyddyn swydd (lle mae un flwyddyn swydd yn gyfystyr â dal un swydd am flwyddyn) o gyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol i adeiladu’r Datblygiad Arfaethedig.

2.3.3 Nid oes disgwyl dim effeithiau uniongyrchol ar gyflogaeth o ganlyniad i weithredu’r Datblygiad Arfaethedig. Edrychwch ar Adran 4 o’r Adroddiad Amgylcheddol i gael rhagor o fanylion ynghylch effeithiau economaidd-gymdeithasol y Datblygiad Arfaethedig.

2.4 Y Cyd-destun Cymdeithasol 2.4.1 Yr A5025 ydy'r prif lwybr mynediad i’r Orsaf Bŵer Bresennol ac mae’n rhoi mynediad at

nifer o bentrefi bach ac eiddo gwledig sydd ar wasgar ar draws ardal sydd wedi cael ei dominyddu’n draddodiadol gan amaethyddiaeth a’r diwydiant twristiaeth.

2.4.2 Mae’r prif gymunedau sydd wedi’u lleoli ar hyd safle’r Datblygiad Arfaethedig yn cynnwys pentrefi Llanrhuddlad, Llanfaethlu, Llanfachraeth, Llanynghenedl a'r Fali. Mae’r cyfleusterau yn y pentrefi hyn yn cynnwys siopau, mannau addoli, gwestai a llety, ardaloedd hamdden a lleoliadau addysg. Mae nifer bach o gyfleusterau ar hyd yr A5025 sydd y tu allan i’r cymunedau hyn.

2.4.3 Mae'r iaith Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol a diwylliannol cymunedau ar draws Ynys Môn. Mae’r cyd-destun hwn wedi cyfrannu at y ffordd mae dyluniad y cynigion wedi cael ei ddatblygu, yn enwedig pan fyddai penderfyniadau’n effeithio ar y cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol, er enghraifft o ran gwella'r mynediad at swyddi a digwyddiadau cymdeithasol.

2.4.4 Mae trigolion lleol yn dibynnu’n drwm ar yr A5025 fel ffordd o gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau ehangach mewn car. Mae cerddwyr, beicwyr ac, i raddau llai, marchogwyr, yn defnyddio’r A5025 fel llwybr hamdden ac ar gyfer siwrneiau rhwng eiddo preswyl a chyfleusterau cymunedol.

2.4.5 Mae effeithiau’r Datblygiad Arfaethedig ar fynediad y cyhoedd a hamdden ar gael yn Adran 5 yr Adroddiad Amgylcheddol. Edrychwch hefyd ar yr Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg a’r Datganiad Sgrinio Asesiad Cyflym o’r Effaith ar Iechyd a gyflwynir i gefnogi’r cais hwn i gael rhagor o fanylion.

2.5 Y Cyd-destun Polisi 2.5.1 Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (a.38 (6)) [RD5] yn mynnu ei bod yn rhaid

ystyried ceisiadau yn unol â’r Cynllun Datblygu oni bai fod ystyriaethau perthnasol yn dynodi fel arall.

2.5.2 Mae manylion polisi cynllunio sy’n berthnasol i’r Datblygiad Arfaethedig yn y Datganiad Cynllunio sy’n dod gyda’r cais cynllunio hwn. Mae’r adran hon yn amlinellu polisi cynllunio cenedlaethol a lleol sy’n ymwneud â materion dylunio a mynediad.

Y cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol

Polisi Cynllunio Cymru (2016) [RD6] 2.5.3 Ar lefel genedlaethol, mae Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 9, a gyhoeddwyd ym mis

Ionawr 2016, ynghyd â nifer o Nodiadau Cyngor Technegol (TANs), cylchlythyrau a llythyrau egluro polisi, yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Bwriad dogfen Polisi Cynllunio Cymru ydy:

• hybu datblygu cynaliadwy; a • bod yn sail ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu.

2.5.4 Mae’r polisi cenedlaethol yn cadarnhau bod dylunio da yn hanfodol i sicrhau datblygu cynaliadwy.

2.5.5 Caiff y polisi cenedlaethol ei gefnogi gan TAN 12: Dylunio [RD2], sy’n amlinellu’r mesurau sydd eu hangen i hyrwyddo cynaliadwyedd drwy ddylunio da.

2.5.6 Mae’r TANs canlynol hefyd wedi cael eu hystyried mewn perthynas â’r Datblygiad Arfaethedig:

• TAN 5: Gwarchod Natur a Chynllunio (2009); • TAN 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010); Yn yr un modd

mae TAN 11: Sŵn (1997); • TAN 12: Dylunio (2006); • TAN 13: Twristiaeth (1997); • TAN 15: Datblygu a'r Risg o Lifogydd (2004); • TAN 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored (2009); • TAN 18: Trafnidiaeth (2007); • TAN 20: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg (2013); • TAN 21: Gwastraff (2014); • TAN 23: Datblygu Economaidd (2014); a • TAN 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol (2017).

Y cyd-destun polisi cynllunio lleol

Cynllun Datblygu Lleol 2.5.7 Ar hyn o bryd o bryd mae Cynllun Datblygu statudol Ynys Môn yn cynnwys Cynllun

Strwythur Gwynedd [RD7] a Chynllun Lleol Ynys Môn [RD8].

2.5.8 Mae Cynllun Strwythur Gwynedd yn gosod y dull gweithredu strategol ar gyfer datblygu am y cyfnod 1991 i 2006 ac mae Cynllun Lleol Ynys Môn yn rhoi mwy o bolisïau manwl sydd wedi’u goleuo gan Gynllun Strwythur Gwynedd am y cyfnod 1991 i 2001. Cafodd y Cynllun Datblygu Unedol wedi’i Stopio [RD9] ei baratoi gyda’r bwriad o ddisodli’r Cynllun Datblygu sy’n bodoli ar hyn o bryd. Cafodd y ddogfen hon ei harchwilio’n annibynnol ac

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 9

Page 13: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

roedd yn destun Adroddiad Archwilydd. Fodd bynnag, penderfynodd Cyngor Sir Ynys Môn stopio gweithio ar y ddogfen a pheidio â symud ymlaen i’w mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2005 er mwyn dechrau ar y Cynllun Datblygu Lleol.

2.5.9 Er gwaethaf y ffaith bod y Cynllun Datblygu Unedol wedi'i Stopio [RD9] ddim wedi symud ymlaen i gael ei fabwysiadu’n ffurfiol, roedd y cam datblygedig roedd y ddogfen wedi’i gyrraedd yn y broses mabwysiadu, cyn i Gyngor Sir Ynys Môn benderfynu beidio â’i ddatblygu ymhellach, yn golygu bod modd ystyried ei ddarpariaethau fel ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Dylai’r pwysau a roddir i bolisïau perthnasol yn y ddogfen hon fod ar sail cysondeb gyda pholisi cynllunio cenedlaethol presennol.

2.5.10 Mae’r Cynllun Datblygu Lleol presennol ar ganol gael ei ddisodli gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd newydd, a fydd yn berthnasol i ardaloedd Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd dros y cyfnod 2011 i 2026. At ddibenion y Datblygiad Dylunio a Mynediad hwn, mae Horizon wedi cyfeirio at Fersiwn Cyfansawdd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn Cynnwys Newidiadau Materion sy’n Codi (2017) [RD11].

2.5.11 Mae’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi bod drwy’r broses archwilio a chyhoeddwyd Adroddiad yr Arolygwyr ar 30 Mehefin 2017. Daeth yr Arolygwyr i’r casgliad, yn amodol ar y newidiadau a nodwyd yn Atodiad A (Newidiadau Materion sy’n Codi y Cynghorau) a B (Newidiadau Materion yn Codi a gynigiwyd gan yr Arolygwyr) o’r Adroddiad, mae’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn gadarn. Mae disgwyl y bydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cael ei fabwysiadu ym mis Gorffennaf neu ym mis Awst 2017. Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu bydd yn disodli’r Cynllun Datblygu cyfredol.

2.5.12 Cafodd Canllawiau Cynllunio Atodol Gorsaf Niwclear Newydd yn Wylfa (Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa) eu cyhoeddi gan Gyngor Sir Ynys Môn yn 2014 [RD10]. Diben y ddogfen yw bod Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu cyngor ar faterion uniongyrchol neu anuniongyrchol lleol pwysig sy’n berthnasol i Brosiect Wylfa Newydd mewn ymateb i bolisïau a strategaethau cenedlaethol a lleol. Er nad yw Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa (2014) [RD10] yn rhan o'r cynllun datblygu, maent yn cynrychioli’r canllawiau a fabwysiadwyd diweddaraf a safbwynt Cyngor Sir Ynys Môn mewn perthynas â Phrosiect Wylfa Newydd. Wrth ystyried ei berthnasedd uniongyrchol i Brosiect Wylfa Newydd ac, yn unol â hynny, mae ei ddarpariaethau yn ystyriaeth berthnasol bwysig i'r cais hwn. Mae modd felly rhoi pwysau dyladwy i'r cyfarwyddyd sydd yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol Wylfa wrth benderfynu ar y cais. Fodd bynnag, ceir ar ddeall bod y Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu hadolygu gan Gyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd ac y byddant yn cael eu mabwysiadu cyn pen 6 mis o fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

2.5.13 Caiff gwelliannau i briffordd yr A5025 eu cefnogi gan bolisïau cynllunio sydd wedi cael eu mabwysiadu ac sy’n cael eu datblygu. Mae’r polisïau FF2, FF5 a FF11 yng Nghynllun Strwythur Gwynedd [RD7] yn cadarnhau bod angen darparu er mwyn i draffig allu symud yn hwylus. Mae'r Cynllun Datblygu Unedol [RD9] yn cefnogi gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd yn enwedig pan fydd angen cyfrannu at yr economi leol, gwella diogelwch ar y ffyrdd a hyrwyddo hygyrchedd (Polisïau TR2 a TR3). Mae Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa yn cadarnhau yn Amcan 6 y dylai’r Prosiect hyrwyddo symud pobl a deunyddiau’n gynaliadwy. Mae paragraff 5.6.1 Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa yn cadarnhau efallai fod angen gwella cyffyrdd ac adrannau allweddol o’r ffordd gerbydau er mwyn gallu ymdopi â llif y traffig ar y cyfnodau prysuraf, gan gynnwys adrannau o'r A5025.

Dylunio

2.5.14 Mae dylunio da yn cael ei gydnabod fel nodwedd bwysig gan y polisïau cynllunio perthnasol a fabwysiadwyd. Mae Polisi Cynllunio Lleol 42 Ynys Môn yn cadarnhau y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ffafrio cynigion datblygu sy’n hyrwyddo dylunio o ansawdd uchel ac y bydd y Cyngor, ymhlith pethau eraill, yn ystyried sut mae’r datblygiad yn gweddu i’r ardal gyfagos, y darpariaethau ar gyfer tirweddu, y darpariaethau a wneir ar gyfer mynediad i gerddwyr ac i ba raddau y mae'r cynigion yn diwallu’r angen i leihau llygredd gan olau artiffisial.

2.5.15 Mae Polisi D4 Cynllun Strwythur Gwynedd yn cadarnhau y bydd lleoliad, lleoli a dylunio yn ystyriaethau o bwys ar gyfer pob cais ac mae D29 yn ceisio sicrhau bod datblygiadau newydd yn dangos dylunio o safon uchel a'u bod yn cael eu lleoli’n addas yn y dirwedd neu'r drefwedd.

2.5.16 Mae Polisi GP2 o’r Cynllun Datblygu Unedol wedi’i Stopio [RD9], hefyd yn hyrwyddo dylunio o ansawdd uchel ac yn gosod meini prawf ar gyfer cyflawni hyn. Er enghraifft, ystyried sut mae’r datblygiad yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal gyfagos, y darpariaethau sydd wedi cael eu gwneud ar gyfer manylion ffiniau a hyrwyddo mesurau cynaliadwyedd.

2.5.17 Mae Polisi Strategol drafft PS 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd datblygol Ynys Môn a Gwynedd [RD11] yn datgan y bydd y datblygiad yn cael ei gefnogi pan fydd cynigion yn hyrwyddo safonau dylunio uchel sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal leol. Ar ben hynny, mae Polisi PCYFF2 yn cadarnhau y bydd disgwyl i’r cynigion ddangos dyluniad o ansawdd uchel sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’r cyd-destun naturiol, hanesyddol a'r amgylchedd adeiledig.

Mynediad 2.5.18 Mae Polisi Cynllunio Cymru [RD6] yn datgan wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sy’n

ymwneud â thrafnidiaeth, y dylid ystyried hygyrchedd gan amrywiaeth o ddulliau trafnidiaeth gwahanol (paragraff 8.7). Ar ben hynny, mae paragraff 11.1.13 yn datgan y dylai awdurdodau lleol geisio diogelu a gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy. Yn yr un modd mae TAN 18: Trafnidiaeth (2007) [RD12] a TAN 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored (2009) [RD13] yn hyrwyddo cerdded a beicio ac mae’n hybu defnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

2.5.19 Mae Polisi CH12 Cynllun Strategaeth Gwynedd [RD7] yn ymwneud â mynediad cyhoeddus a'r nod o ddatblygu rhwydwaith o lwybrau troed sydd wedi cael eu marcio, llwybrau ceffylau a llwybrau beicio. Mae’r cynnig wedi ymgorffori mynediad gwell i Hawliau Tramwy Cyhoeddus, croesfannau newydd ac adrannau o lwybrau beicio gydag wyneb fel rhan o'r gwaith (edrychwch ar Adran 2 o'r Adroddiad Amgylcheddol i gael rhagor o fanylion).

2.5.20 Mae Polisi FF15 Cynllun Strwythur Gwynedd [RD7] yn mynnu bod mynediad hwylus a diogel yn cael ei ddarparu ar gyfer cerddwyr, pobl anabl, yr henoed a defnyddwyr pramiau a chadeiriau olwyn fel rhan o ddatblygiadau newydd. Mae Polisi PS4 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd drafft (Mai 2017) [RD11] yn datgan bydd y Cyngor yn cefnogi gwelliannau i gynyddu hygyrchedd ar gyfer pob math o drafnidiaeth ac y bydd hyn yn cael ei wneud drwy, ymysg pethau eraill, sicrhau mynediad hwylus drwy lwybrau troed a seilwaith beicio.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 10

Page 14: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

2.5.21 Mae dyluniad y Datblygiad Arfaethedig yn ymgorffori cynnwys cyfleusterau i sicrhau bod mynediad yn dal i fod ar gael at lwybrau troed presennol, byddai llwybr troed newydd yn cael ei ddarparu i’r gorllewin o’r briffordd er mwyn caniatáu i gerddwyr gael mynediad at bentref Llanfaethlu o’r eiddo sydd i’r gogledd o’r ffordd osgoi. Byddai man croesi diogel yn cael ei ddarparu ar draws yr A5025, sy’n gwella’r amodau presennol sydd ar hyn o bryd yn cynnig dim darpariaethau i gerddwyr. Edrychwch ar bennod 6 o’r Adroddiad Amgylcheddol i gael rhagor o fanylion.

Canllawiau Cynllunio Atodol 2.5.22 Mae nifer o ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol wedi cael eu cyhoeddi gan Gyngor

Sir Ynys Môn er mwyn cyfrannu rhagor at bolisïau Cynllun Datblygu. Y ddogfen sydd fwyaf perthnasol i’r Datblygiad Arfaethedig ac sy’n ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar y cais, ydy Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa. Mae'r ddogfen hon yn rhoi cyfarwyddyd er mwyn cyfrannu at ddehongli polisïau'r Cynllun Datblygu a gweledigaeth ac amcanion Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y datblygiad niwclear newydd.

2.5.23 Mae Polisi GP20 Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa yn ei gwneud yn ofynnol bod egwyddorion dylunio o ansawdd uchel yn cael eu mabwysiadu ar gyfer pob datblygiad sy’n gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd.

2.5.24 Mae Polisi GP14 yn datgan pan fydd angen defnyddio trafnidiaeth ffyrdd y dylid asesu'r effeithiau posibl ar y seilwaith priffyrdd, a dylai’r gwelliannau i’r briffordd, pan fo’n briodol, leihau tagfeydd, sicrhau diogelwch a lleihau effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â sŵn, ansawdd aer a thorri cysylltiad.

2.5.25 Canllawiau Cynllunio Atodol eraill a gynhyrchwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn sy’n berthnasol i’r cynigion ydy'r Canllawiau Cynllunio Atodol Dylunio yn yr Amgylchedd Adeiledig Trefol a Gwledig (2008) [RD14], a Chanllawiau Cynllunio Atodol Cynllunio a’r Iaith Gymraeg (2007) [RD15].

2.5.26 Rhoddir ystyriaeth i gydymffurfiaeth â’r polisïau cynllunio a’r canllawiau uchod yn y Datganiad Cynllunio.

2.6 Ymgynghori 2.6.1 Mae Horizon wedi cynnal nifer o ymgynghoriadau â’r cyhoedd ac â rhanddeiliaid

ynghylch Prosiect Wylfa Newydd, a oedd yn cynnwys Gwelliannau i Briffordd yr A5025. Maent yn cynnwys y canlynol:

• Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Cam Un (Medi 2014) – Yn ystod yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Cam Un, roedd trigolion ac ymgyngoreion eraill wedi mynd i arddangosfeydd, cyflwyniadau, sesiynau galw draw a chymorthfeydd agored; ac wedi gweld diweddariadau rheolaidd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a gwefan ein hymgynghoriad. Cafwyd dros 400 o ymatebion i’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Cam Un.

• Ymgynghoriad Datblygiadau Cysylltiedig (Gorffennaf 2015) – Roedd hwn yn cynnwys ymgynghoriad wedi’i dargedu, yn enwedig ar gyfer awdurdodau lleol a chymunedau lleol Ynys Môn. Dosbarthwyd gwybodaeth yn uniongyrchol i’r holl aelwydydd drwy rifyn arbennig o gylchlythyr a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion a oedd yn cael eu datblygu ar gyfer y Datblygiadau Cysylltiedig (gan gynnwys Gwelliannau i Briffordd yr A5025).

• Diweddariad Prosiect (Ionawr 2016) – Cynhaliodd Horizon ragor o ymgynghori cyhoeddus a oedd yn cyflwyno’r cynigion a oedd wedi’u diweddaru ar gyfer Prosiect Wylfa Newydd drwyddo draw, gyda ffocws penodol ar rannu syniadau Horizon ynghylch y Datblygiadau Cysylltiedig a’r Cyfleusterau Oddi ar Safle’r Orsaf Bŵer. Daeth dros 450 o bobl i 11 o arddangosfeydd ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn ystod y cyfnod hwn a chafwyd dros 100 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Fel rhan o’r gwaith hwn, roedd Horizon hefyd wedi cynnal sesiynau galw draw ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion lleol, gan gyflwyno gwybodaeth am y prosiect iddynt a chasglu adborth.

• Ymgynghoriad Cynllunio Lleol (Mai 2016) – Cynhaliodd Horizon gyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth yn ystod mis Mai 2016 i gyflwyno’r cynigion Paratoi a Chlirio’r Safle, er mwyn paratoi Safle’r Orsaf Bŵer ar gyfer y gwaith adeiladu, a chynigion ar gyfer y Gwelliannau i Briffordd yr A5025 (fersiwn cynnar o’r Datblygiad Arfaethedig). Roedd yr ymgynghoriad yn cyflwyno’r cyfyngiadau a’r sensitifeddau amgylcheddol a oedd wedi cael eu hystyried, yn ogystal ag effeithiau posibl ar yr amgylchedd a mesurau i’w lleihau. Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn dros wythnos ym mis Mai 2016 a daeth dros 350 i’r chwe digwyddiad.

• Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Cam Dau (Medi 2016) – Cynhaliwyd 15 o ddigwyddiadau yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau achlysurol mewn ardaloedd lle byddai nifer mawr o bobl ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru a sesiynau galw draw rheolaidd mewn caban ymgynghori symudol yn Nhregele. Ochr yn ochr â’r digwyddiadau cyhoeddus, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorau Cymuned, a Chynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Roedd Horizon hefyd wedi gwneud llawer o waith allgymorth gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar yr ynys, gan rannu ein cynigion â’r disgyblion a gofyn am eu hadborth. At ei gilydd roedd yr arddangosfeydd cyhoeddus wedi denu 467 o ymwelwyr.

2.6.2 Ym mhob digwyddiad ymgynghori cyhoeddus, roedd staff a oedd yn siarad Cymraeg a Saesneg ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.

Ymatebion i’r Gwelliannau i Briffordd yr A5025 2.6.3 Ar ôl ymgynghori cafwyd cefnogaeth eang i'r angen am welliannau ffordd, gan nodi bod

y cynigion ffordd a ddynodwyd yn gam tuag at hyn. Roedd yr adborth a ddaeth i law yn canolbwyntio ar y themâu a’r pynciau canlynol, sydd wedi cael eu hystyried fel rhan o ddatblygiad y dyluniad.

• cefnogaeth gyffredinol ar gyfer gwella’r A5025 bresennol yn y ffordd roedd Horizon yn ei chynnig;

• ceisiadau am waith tirweddu i leihau’r llygredd posibl; • ceisiadau i ddarparu arwyddion ar gyfer gwasanaethau lleol; • yn gyffredinol roedd cyfnod byrrach o waith adeiladu a fyddai’n fwy dwys yn cael ei

ffafrio; • pryderon diogelwch mewn perthynas â mynediad parhaus at eiddo preifat ac

amlygrwydd yn ystod y cyfnod adeiladu;

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 11

Page 15: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

• pryderon ynghylch cyfeiriad y traffig (yn ôl ac ymlaen o'r safle) a’r posibilrwydd i yrwyr ddefnyddio lonydd cefn o amgylch yr A5025 yn ystod y cyfnod adeiladu;

• pryderon ynghylch cynnydd posibl mewn sŵn ac effaith yr adeiladu ar fuddiannau masnachol;

• pryder ynghylch y posibilrwydd o fwd a malurion ar y ffordd yn ystod y cyfnod adeiladu;

• pryderon ynghylch pa mor agos fyddai’r traffig adeiladu at eiddo preswyl ac effeithiau’r adeiladu ar yr iaith Gymraeg;

• amharu posibl ar fywyd gwyllt; • ceisiadau am ragor o wybodaeth ynghylch llwybrau beicio, llwybrau troed a llwybrau

cenedlaethol; a • pryderon ynghylch cynyddu’r perygl o lifogydd.

2.6.4 Cafodd y sylwadau uchod eu cynnwys ym mhroses esblygiad y dyluniad. Mae Horizon wedi rhoi sylw i’r themâu a’r pynciau penodol hyn a chaiff hyn ei gyflwyno yn atodiad 3.1 (crynodeb o gwmpas yr asesiad) ac atodiad 3.2 (crynodeb o'r ymgynghoriad) yng nghyfrol 3 yr Adroddiad Amgylcheddol.

2.6.5 Mae rhagor o fanylion ynghylch yr adborth i'r ymgynghoriad a ddaeth i law mewn perthynas â’r gwaith i Wella Briffordd yr A5025 yn cael eu darparu yn Adroddiad yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio a gyflwynir i gefnogi’r cais cynllunio hwn.

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Cam Tri (Mai 2017) 2.6.6 Ym mis Mai 2017, lansiodd Horizon drydydd cam yr ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Wylfa Newydd ers yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Cam Dau yn ystod hydref 2016 ac roedd yn gofyn am adborth am y newidiadau a oedd wedi cael eu gwneud ers hynny. Cynhaliwyd cyfres o arddangosfeydd a digwyddiadau achlysurol a chyfarfodydd â rhanddeiliaid rhwng 24 Mai a 22 Mehefin 2017 er mwyn cyflwyno’r cynigion diweddaraf.

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Statudol (Gorffennaf 2017) 2.6.7 Mae’r Datblygiad Arfaethedig yn ‘ddatblygiad mawr’ o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a

Thref ac felly mae’n rhwym wrth ofyniad i gynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn unol ag adran 61Z o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref a Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygiad) 2016 [RD16]. Dyma'r cam o’r ymgynghoriad mae Horizon yn ei gynnal ar hyn o bryd.

2.6.8 Bydd ymatebion a ddaw i law yn ystod yr ymgynghoriad adran 61Z hwn yn cael eu hystyried gan Horizon wrth lunio fersiwn terfynol dyluniad ac asesiad amgylcheddol y Datblygiad Arfaethedig. Bydd manylion yr ymgynghoriad a gynhelir gan Horizon, crynodeb o'r ymatebion a ddaw i law a sut mae Horizon wedi mynd i’r afael â'r ymatebion hynny ar gael mewn Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio a fydd yn cael ei gyflwyno gyda’r cais cynllunio.

Ymgysylltu â rhanddeiliad 2.6.9 Mae dyluniad y Datblygiad Arfaethedig wedi cael ei ddatblygu drwy ymgynghori â nifer o

randdeiliaid gan gynnwys y canlynol, ond nid dim ond y rhain:

• Llywodraeth Cymru; • Cyngor Sir Ynys Môn; • Comisiwn Dylunio Cymru; a • Cyfoeth Naturiol Cymru.

2.6.10 Mae’r prif ymatebion gan y rhanddeiliaid hyn wedi’u nodi yn atodiad 3.2 yr Adroddiad Amgylcheddol, ac mae’r rhain wedi cael eu hystyried fel rhan o’r broses ddylunio a’r asesiad amgylcheddol o’r Datblygiad Arfaethedig.

2.7 Crynodeb o ddatblygiad y dyluniad 2.7.1 Mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi bod yn destun proses esblygiad y dyluniad, sydd

wedi cael ei goleuo gan ymgynghori â rhanddeiliaid ac ystyried materion amgylcheddol yn iteraidd. Mae Atodiadau 3.1 a 3.2 yng nghyfrol 3 yr Adroddiad Amgylcheddol yn rhoi trosolwg o’r materion sylweddol a godwyd yn ystod y broses sgrinio, cwmpasu ac ymgynghori, ac mae’n nodi sut mae’r rhain wedi cael eu hystyried yn yr Adroddiad Amgylcheddol. Rhoddir esboniad hefyd pan na fydd agwedd neu gais penodol wedi cael ei ystyried ymhellach neu ei gynnwys yn yr asesiad.

2.7.2 Mae’r prosesau hyn wedi helpu i adnabod a dewis datrysiadau priffordd strategol a lleol, nodi sut caiff y gwelliannau eu hadeiladu a’u cyflawni, a mireinio dyluniadau i leihau, pan fo’n bosibl, eu heffeithiau amgylcheddol posibl.

Datblygu dyluniad y ffordd. 2.7.3 Roedd astudiaethau annibynnol a gynhaliwyd ar gyfer Horizon yn 2010 ac yn 2011, wedi

nod y byddai angen pecyn o welliannau ffordd er mwyn sicrhau bod y llwybrau a fyddai’n cael eu defnyddio gan draffig datblygu yn y dyfodol a fyddai’n gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd o safon addas.

2.7.4 Roedd cam cyntaf y gwaith dylunio a meddwl am opsiynau (proses o adnabod, asesu a gwerthuso opsiynau) ar gyfer Gwelliannau i Briffordd yr A5025 wedi dechrau yn 2011. Datblygwyd cyfres o opsiynau dylunio cysyniadol a chawsant eu hasesu a’u gwerthuso.

2.7.5 Ar ôl datblygu’r dyluniadau cysyniadol, datblygodd Horizon opsiynau llwybr yn 2014. Cynhaliwyd astudiaethau i gyflwr cyfredol y ffordd gerbydau bresennol yn 2015, a oedd yn nodi bod angen cryfhau’r palmant presennol er mwyn cynnal traffig yn y dyfodol.

2.7.6 Daeth yr adolygiad o’r opsiynau i’r casgliad y byddai angen rhoi wyneb newydd ar y palmant presennol yn Adrannau 1, 3, 5 a 7 ac y byddai angen ail adeiladu’r palmant a lledu’r ffordd (a fyddai’n cynnwys ailgylchu’r palmant presennol) yn Adrannau 2, 4, 6 a 8.

2.7.7 Cafodd y dyluniadau wedyn eu datblygu ymhellach, gan ganolbwyntio ar addasiadau i’r ffordd gerbydau bresennol er mwyn lledu’r troadau, gwella’r pellter golwg stopio o gyffyrdd, gwella arwyddion y llwybr, ail adeiladu’r palmant presennol a rhoi wyneb newydd. Cafodd mân addasiadau eu gwneud hefyd mewn perthynas â hyd a lled y Datblygiad Arfaethedig yn y Fali, a oedd yn ystyried perthynas y Datblygiad Arfaethedig gyda’r Newidiadau i Briffordd yr A5025.

2.7.8 Cafodd dyluniadau peirianneg manwl eu datblygu ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig o ganol 2015 ymlaen, ar ôl cynnal rhagor o arolygon safle ac ar ôl rhagor o ymgynghori.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 12

Page 16: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

2.7.9 Roedd y ffactorau a ystyriwyd yng ngham terfynol datblygu’r dyluniad yn cynnwys y canlynol:

• Diogelwch – roedd Horizon wedi cynnal gweithdai risg ac wedi nodi pa adrannau fydd yn galw am fesurau rheoli traffig yn ystod y cyfnod adeiladu. Cynhelir Archwiliad Diogelwch ar y Ffyrdd Cam Dau yn ystod mis Awst 2017;

• Cyfyngiadau cyflymder – a ddylid dylunio'r gwelliannau i weithredu ar y terfynau cyflymder presennol neu a ddylid eu dylunio ar gyfer cyflymder dylunio uwch;

• Aliniad y briffordd – a ddylai’r lledu fod o fewn llain ymyl ffordd y briffordd ynteu a ddylai fynd y tu hwnt i ffin bresennol y briffordd, drwy ystyried agweddau fel diogelwch, gwelededd, y tir sydd ar gael ac unrhyw ofynion ar gyfer mân waith cloddio;

• Trin yr wyneb – a ddylai adrannau o’r palmant gynnwys gorffeniad sydd wedi cael ei ddylunio i leihau sŵn cerbydau, a’r disgwyliad oes gweithredol y byddai’r gwahanol orffeniadau yn ei gyflawni;

• Cyffyrdd a mynediad – a ddylai trefniadau parcio a mynediad presennol ar gyfer preswylwyr, busnesau, cerddwyr, beicwyr a marchogwyr gael eu cau, eu cadw, eu disodli neu eu gwella;

• Draeniau – a ddylid cadw’r draeniau presennol neu eu gwella ar hyd y ffordd drwy ystyried trefniadau draenio presennol a chyflwr y seilwaith presennol, gan ystyried yr effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â llifogydd a newid yn yr hinsawdd;

• Triniaethau ffiniau – nodi’r atebion mwyaf priodol ar gyfer y lleoliadau gwahanol ar hyd y ffordd, fel adfer nodweddion ffiniau, a datblygu opsiynau aliniad sy’n osgoi effeithiau ar wrychoedd a waliau cerrig pan fo’n bosibl;

• Integreiddio amgylcheddol – nodi’r opsiynau ar gyfer tirweddu yn y tir sydd ar gael, er mwyn integreiddio’r adrannau o'r ffordd a fydd wedi cael eu gwella i’r amgylchedd sy’n eu derbyn; a

• Adeiladu – archwilio sut mae lleihau cludo deunyddiau yn ôl ac ymlaen o'r ardaloedd adeiladu, er enghraifft drwy ailgylchu deunyddiau a chanfod safleoedd er mwyn storio deunyddiau.

2.7.10 Mae rhagor o fanylion ynghylch sut mae’r camau dylunio a’r ymgynghori wedi cyfrannu at a newid dyluniad y cynigion wedi cael eu cynnwys yn atodiad 3.2 yr Adroddiad Amgylcheddol.

2.7.11 Ym mis Ebrill 2016 daethpwyd i’r casgliad, fel rhan o broses datblygu’r dyluniad, y dylai’r Datblygiad Arfaethedig gynnwys darpariaeth ar gyfer Compownd Adeiladu Dros Dro arbennig yn y dyluniad cyffredinol (gan gynnwys cyfleuster ailgylchu palmant dros dro). Cafodd hyn ei sbarduno gan benderfyniad Horizon yn gynnar yn 2016 i wahanu'r Gwelliannau i’r A5025 oddi wrth y Newidiadau i’r A5025 (a fyddai’n cael eu paratoi fel dau gais cynllunio ar wahân ar yr adeg honno), er mwyn gallu cwblhau’r Gwelliannau i’r A5025 yn gyntaf.

2.7.12 Roedd y gofyniad am y Compownd Adeiladu Dros Dro wedi cael ei ddylanwadu gan yr angen i ddarparu lle ar gyfer y cyfleuster ailgylchu palmant dros dro yn agos at y gwaith arfaethedig; gan leihau symudiadau cerbydau’n sylweddol. Manteision hyn ydy lleihau faint o dir fydd angen ei ddefnyddio dros dro, faint o wastraff fydd yn cael ei gynhyrchu,

cludo deunyddiau oddi ar y safle, a'r gofyniad i fewnforio deunyddiau newydd a symudiadau cerbydau ar y rhwydwaith priffyrdd.

2.7.13 Edrychwyd ar yr opsiynau yn ystod mis Mai a mis Mehefin 2016 er mwyn canfod safleoedd posibl ar gyfer y Compownd Adeiladu Dros Dro a nodwyd lleoliad a oedd yn cael ei ffafrio i’r gorllewin o’r A5025 bresennol ger Cefn Coch (Adran 7). Tybir y byddai hyd at 95% o ddeunydd y palmant presennol yn gallu cael ei ailgylchu yn y cyfleuster, gan leihau'r angen am waredu deunyddiau a’r ddibyniaeth ar fewnforio deunyddiau crai.

Compownd Adeiladu Dros Dro 2.7.14 Bydd y Compownd Adeiladu Dros Dro yn cael ei reoli gan y contractwr a benodir a bydd

yn cael ei ddefnyddio i storio deunyddiau, offer, cyfarpar a swyddfa dros dro safonol. Dangosol felly ydy cynllun arfaethedig y Compownd Adeiladu Dros dro ar y cam hwn (fel sy’n cael ei ddangos yn Ffigur 3-4).

2.7.15 Mae cynllun y Compownd Adeiladu Dros Dro wedi cael ei ddatblygu i ddiwallu cyfres o ofynion, sy’n cael ei hysgogi gan gyfyngiadau'r safle a chyfyngiadau gweithredol swyddogaethol. Mae prif gyfyngiadau’r safle wedi cael eu nodi i:

• ymateb i gyd-destun y safle;

• cadw cynifer o nodweddion allweddol y safle ag sy’n bosibl;

• cwtogi ar raddfa ac effaith bosibl yr ardaloedd parcio/pentyrru stoc deunyddiau; a

• lleihau effaith bosibl y strwythurau ar y safle. 2.7.16 Y contractwr a benodir fydd yn penderfynu ar gynllun terfynol y Compownd Adeiladu

Dros Dro, a bydd y manylion yn cael eu darparu yn y Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol ac Adeiladu a fydd yn cael ei baratoi gan y contractwr yn unol â’r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymarfer Adeiladu yng nghyfrol 3 (atodiad 14.1) yr Adroddiad Amgylcheddol, a gyflwynir i gefnogi’r cais hwn.

2.7.17 I grynhoi, er bod y potensial ar gyfer dewisiadau dylunio amgen yn gyfyngedig ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig ar y cyfan, mae rhagor o wybodaeth am y dewisiadau dylunio amgen a ystyriwyd ar gael ym mhennod 2 o'r Adroddiad Amgylcheddol.

2.7.18 Mae’r dyluniadau terfynol a’r fethodoleg adeiladu ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig yn cael eu cyflwyno yn adran 2.7 o’r Adroddiad Amgylcheddol.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 13

Page 17: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

3 Egwyddorion a Chysyniadau Dylunio’r Datblygiad Arfaethedig

3.1 Trosolwg 3.1.1 Fel sy’n ofynnol o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu)

(Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd) [RD1] mae’r adran hon yn ystyried y cysyniadau a’r egwyddorion dylunio a ddefnyddir gyda’r datblygiad hwn.

3.2 Cysyniadau 3.2.1 Mae’r Datblygiad Arfaethedig yn rhan bwysig o’r gweithgareddau cychwynnol i hwyluso

adeiladu’r Orsaf Bŵer newydd yn Wylfa Newydd.

3.2.2 Wrth ddatblygu’r Datblygiad Arfaethedig, mae Horizon wedi ystyried cyfarwyddyd polisi cynllunio sy’n ymwneud â dylunio. Ar lefel genedlaethol, mae Polisi Cynllunio Cymru yn cadarnhau bod dylunio da yn hanfodol i sicrhau datblygu cynaliadwy. Er mwyn deall y cyd-destun lleol, rhoddwyd ystyried benodol i TAN 12: Dylunio (2016) a’r Canllawiau Cynllunio Atodol Dylunio yn yr Amgylchedd Adeiledig Trefol a Gwledig a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn yn 2008.

3.2.3 Er mai'r amcan o sicrhau dyluniad cynaliadwy o safon uchel ydy’r prif sbardun dylunio ar gyfer sawl math o ddatblygiad, oherwydd natur y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â’r Datblygiad Arfaethedig, mae’r atebion dylunio amgen sydd ar gael i Horizon yn gyfyngedig ac felly mae’r ffactor hwn wedi dynodi’r dyluniad a’r cynllun i raddau helaeth. Fodd bynnag, dylid nodi bod y cyfleuster ailgylchu palmant dros dro yn helpu i leihau ôl-troed carbon y Datblygiad Arfaethedig. Byddai modd lleihau’r ôl-troed carbon drwy ailddefnyddio deunyddiau a fydd yn cael eu hailgylchu a sicrhau bod y cyfleuster ailgylchu palmant dros dro yn agos at lle mae’r Datblygiad Arfaethedig yn digwydd (hy yr A5025).

3.2.4 Yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol, cafodd penderfyniadau ynghylch dewisiadau dylunio amgen ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig eu gwneud ar sail:

• seilwaith presennol ar y safle; • atebion peirianneg; • adborth o’r ymgynghoriad ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol; • cadw cynifer â phosibl o nodweddion allweddol y safle a nodweddion

amgylcheddol; a • gwasanaethau cyfleustodau a gwaith seilwaith arall.

3.2.5 Mae Polisi FF2 Cynllun Strwythur Gwynedd [RD7] yn datgan y dylid cyflawni’r cydbwysedd rhwng hwyluso symudiadau traffig a’r amgen i warchod yr amgylchedd, drwy sicrhau bod gwelliannau i ffyrdd yn cael eu halinio, eu tirweddu a'u dylunio’n ofalus. Ar ben hynny, mae polisi FF5 yn datgan bod blaenoriaeth ar gyfer gwelliannau ar ffyrdd yn cael ei rhoi i gynlluniau sy’n gwella diogelwch ar y ffordd, cyflwr y ffordd, aliniad gwael a dim digon o gyfleoedd i oddiweddyd. Fel sy’n cael ei egluro yn y ddogfen hon, mae angen gwella’r A5025 er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn. Fel sy’n cael ei nodi ym mhennod 6 yr Adroddiad Amgylcheddol, mae dyluniad y Datblygiad Arfaethedig, a fydd

yn sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael ei wneud, wedi cael ei ystyried yn sensitif yng nghyd-destun yr amgylchedd a’r dirwedd lle bydd y gwelliannau.

3.3 Prif elfennau’r Gwelliannau i Briffordd yr A5025 3.3.1 Mae'r Datblygiad Arfaethedig a fyddai’n cael ei ddarparu yn cynnwys y prif elfennau

canlynol (edrychwch ar gynlluniau’r cais i gael y manylion llawn):

Lledu 3.3.2 Cynigir lledu’r A5025 bresennol i led ffordd gerbydau sylfaenol safonol o 6.7m gyda dwy

lain galed 0.3m ar y naill ochr a’r llall i’r ffordd gerbydau er mwyn darparu lled palmant sylfaenol o 7.3m pan fo’n bosibl. Mae hyn er mwyn caniatáu i gerbydau symud yn fwy diogel. Naill ochr a’r llall i’r ardal balmant, byddai llain ymyl ffordd o 450mm yn aros o fewn ffin bresennol y briffordd pan fo’n bosibl.

3.3.3 Byddai’r gwelliannau’n lled rhai troadau presennol yn ychwanegol a fyddai’n cael eu haddasu i wella diogelwch a’i gwneud hi’n haws gweld am ymlaen. Gan ddibynnu ar radiws y tro, mae’r lled sydd ei angen yn fwy o lawer nag ar gyfer adrannau syth o briffordd, oherwydd yr ardal fwy sydd ei hangen ar gyfer cerbydau mawr (yn enwedig cerbydau nwyddau trwm) er mwyn dod o amgylch y tro. Mae’r gofynion sydd wedi’u gosod yn y Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd (Asiantaeth Priffyrdd, 2011) [RD17] wedi cael eu defnyddio ar gyfer pob tro ar hyd coridor y llwybr. Nid ydy sawl leoliad ar aliniadau sythach yn diwallu’r safonau hyn ac mae’r rhain wedi cael eu nodi hefyd ac mae dyluniadau alinio wedi cael eu datblygu i gywiro’r rhain.

Ailadeiladu 3.3.4 Mae hyn yn golygu tynnu ac adnewyddu’r haenau sy’n creu palmant y briffordd er mwyn

gwella perfformiad y briffordd yn ystod cam adeiladu Prosiect Wylfa Newydd pan fydd mwy o draffig yn defnyddio’r A5025.

Wyneb Newydd 3.3.5 Mae hyn yn golygu rhoi wyneb newydd ar y ffordd drwy chwistrellu glynwr bitwmen ar y

ffordd ac yna taenu’r cerrig mân a’u rholio i mewn. Mae hyn yn sicrhau y bydd ansawdd wyneb y ffordd yn well ar hyd y llwybr. Bydd rhoi wyneb newydd ar y ffordd yn ymestyn ei oes ac yn darparu budd tymor hir i ddefnyddwyr y ffordd.

Compownd Adeiladu Dros Dro 3.3.6 Er mwyn delio â’r deunyddiau a fydd yn cael eu codi o’r briffordd bresennol a’u

hailgylchu i fod yn haen sylfaen ar gyfer wyneb newydd y ffordd, byddai Compownd Adeiladu Dros Dro (gan gynnwys cyfleuster ailgylchu palmant dros dro) yn cael ei ddarparu.

3.3.7 Cynigir y bydd y Compownd Adeiladu Dros Dro yn cynnwys y canlynol (yn amodol ar ofynion y contractwr):

• ffens y ffin; • cabannau symudol safle dros dro, ddim uwch na dwy uned; • generadur pŵer;

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 14

Page 18: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

• llefydd parcio i’r staff adeiladu; • lle i storio a rheoli gwastraff (gan gynnwys carthbwll a thoiledau symudol); • storio tanwydd (disel) ac ireidiau; • storio deunyddiau adeiladu a dŵr; • lle posibl i storio offer yn y tymor byr pan na fydd yn cael ei ddefnyddio neu pan

fydd yn disgwyl i gael ei gludo oddi ar y safle, • cyfleusterau lles staff; a • cyfleuster ailgylchu palmant dros dro.

3.3.8 Dyma brif ofynion swyddogaethol a gweithredol y Compownd Adeiladu Dros Dro:

• mae’r offer yn debyg o gynnwys: malwr, cymysgwr, seilo ar gyfer storio deunyddiau, cloddiwr, rhaw lwytho, (bydd rhywfaint o’r offer yn debyg o ran maint i lori gymalog);

• mae disgwyl i’r cyfleuster ailgylchu palmant dros dro ddelio ag oddeutu 14,000m³ o sgil-gynhyrchion priffyrdd a ddaw o'r palmant presennol yn Adrannau 2, 4, 6 a 8; a

• yr angen am swyddfeydd safle (cabannau symudol), llefydd parcio i’r staff adeiladu, lle i barcio offer dros y tymor byr a chyfleusterau lles.

3.3.9 Byddai’r Compownd Adeiladu Dros Dro yn cael ei ddymchwel a byddai’r tir yn cael ei adfer i’w gyflwr blaenorol ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu.

3.4 Graddfa gyffredinol y safle 3.4.1 At ei gilydd byddai’r Datblygiad Arfaethedig yn cael ei gyfyngu i ffin y briffordd ac eithrio

pan fydd gwaith lledu yn cael ei wneud yn Adrannau 2, 4, 6 a 8. Yn yr achosion hyn, byddai’r addasiadau’n golygu bod angen cymryd tir yn union wrth ymyl ffin bresennol y briffordd. Byddai hefyd angen tir dros dro i hwyluso’r broses adeiladu.

3.4.2 Gyda’i gilydd byddai’r tir mae angen ei gymryd dros dro ac yn barhaol gyda ffin y cais cynllunio yn Adrannau 2, 4, 6 a 8, a gan gynnwys Compownd Adeiladu Dros Dro yn Adran 7 yn cynnwys tua 5.8ha o dir. Dyma'r rhaniad:

• O tua 3.7ha o dir, y byddai 1.3ha o hwnnw’n gysylltiedig â’r Compownd Adeiladu Dros Dro, yn cael ei ddefnyddio dros dro er mwyn gallu adeiladu’r Datblygiad Arfaethedig.

• Byddai tua 2.1ha o dir y tu hwnt i ffin bresennol y briffordd yn cael ei gymryd yn barhaol er mwyn gallu lledu'r ffordd.

3.4.3 Byddai tua 0.11ha o gyfanswm y tir a fyddai’n cael ei gymryd yn digwydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig Ynys Môn: byddai 0.07ha yn cael ei gymryd yn barhaol; a byddai 0.04ha yn cael ei ddefnyddio dros dro yn ystod y cam adeiladu.

3.4.4 Mae Polisi D1 o Gynllun Strategaeth Gwynedd [RD7] a Pholisi 30 o Gynllun Lleol Ynys Môn [RD8] yn cadarnhau mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu tirweddau. Mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi ceisio gwneud hyn cymaint ag y bo modd. Ar ôl gorffen y gwaith adeiladu, prin fyddid yn gallu gweld y newidiadau i gymeriad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

3.5 Cynigion tirwedd 3.5.1 Mae Polisi Cyffredinol 1 Cynllun Lleol Ynys Môn [RD8] yn datgan y dylid ystyried yr

effeithiau ar y dirwedd wrth benderfynu ar geisiadau. Mae polisi cynllunio datblygol yn y Cynllun Datblygu ar y Cyd drafft (2017) [RD11] yn ceisio sicrhau bod dylunio ac adeiladu o ansawdd uchel yn ystyried cyd-destun naturiol, amgylchedd adeiledig a thirwedd cyffredinol y safle.

3.5.2 Yn unol â Pholisi 42 Cynllun Lleol Ynys Môn [RD8], Polisi D4 Cynllun Strategaeth Gwynedd [RD7] (a'r polisïau y cyfeirir atynt uchod) mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi cael ei ddylunio’n ofalus er mwyn lleihau’r effeithiau ar gymeriad tirwedd y safle a’r ardal gyfagos. Er enghraifft, mae’r mesurau lliniaru canlynol wedi cael eu gwreiddio yn nyluniad y Datblygiad Arfaethedig yn Adrannau 2, 4, 6 a 8 i sicrhau bod y datblygiad yn gweddu i’w ardal gyfagos:

• lledu o fewn ffin bresennol y briffordd pan fo’n bosibl a, phan na fydd modd gwneud hyn, lleihau’r ardal llawr caled a gyflwynir;

• Cynnwys adrannau newydd o lwybrau troed a llwybrau beicio cyd-ddefnyddio er mwyn darparu cysylltiad gwell rhwng y ffordd well a llwybrau hamdden pwysig;

• datblygu strategaeth plannu tirweddu er mwyn sgrinio’n weledol a chynnwys nodweddion ymyl y ffordd; gwella integreiddio’r dirwedd ac adfer ffiniau caeau drwy ddefnyddio tirweddu caled a meddal;

• defnyddio System Haenau Arwyneb Tenau i dawelu’r sŵn a gynhyrchir o ganlyniad i’r rhyngweithio rhwng teiars cerbydau ac wyneb y ffordd gerbydau;

• ymgorffori trefniadau a seilwaith presennol yn nyluniad cyffredinol y draeniau, er mwyn lleihau’r angen i osod cydrannau draenio newydd;

• cynnwys cyfleuster ailgylchu palmant dros dro arbennig mewn Compownd Adeiladu Dros Dro i leihau faint o dir bydd angen ei ddefnyddio dros dro, faint o wastraff fydd yn cael ei gynhyrchu, cludo deunyddiau oddi ar y safle, yr angen i fewnforio deunyddiau newydd a symudiadau cerbydau ar y rhwydwaith ffyrdd; a

• datblygu cynllun mewnol dangosol o’r Compownd Adeiladu Dros Dro er mwyn lleihau sŵn, llwch ac amharu ar y dirwedd gyfagos a'r amgylchedd gweledol drwy ddefnyddio ffens bren ar y ffin, gosod swyddfeydd dros dro (cabannau symudol) a deunyddiau a fydd yn cael eu pentyrru yn ofalus, a marcio ardaloedd byffer diogelu o amgylch cyrsiau dŵr.

3.5.3 Oherwydd natur y gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd yn Adrannau 1, 3, 5 a 7 nid oes angen gwreiddio mesurau penodol yn y dyluniad.

3.5.4 Mae Horizon wedi cynhyrchu Dull Dylunio a Strategaeth Tirwedd. Mae hyn yn rhan o ddogfennau’r cais cynllunio ac mae’n rhoi cynllun rheoli ar gyfer y gwaith tirweddu a fydd yn gysylltiedig â’r Datblygiad Arfaethedig ar ôl gorffen adeiladu. I grynhoi, yn ystod y tair blynedd gyntaf, y contractwr a benodir fyddai’n gyfrifol am reoli’r dirwedd a'r gwaith cynnal a chadw cyffredinol, byddai hefyd yn gyfrifol am y gwaith plannu a hadu. Byddai hyn yn cynnwys cyfnod cywiro diffygion cychwynnol o 12 mis ar gyfer plannu.

3.5.5 Mae Polisi 32 o Gynllun Lleol Ynys Môn [RD8] yn datgan y dylid diogelu coed, gwrychoedd, waliau cerrig a nodweddion tirwedd traddodiadol eraill. Mae Horizon wedi ceisio gwneud hyn pan fo’n bosibl. Mae’r Dull Dylunio a’r Strategaeth Tirwedd yn

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 15

Page 19: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

cadarnhau bod Horizon yn ceisio cadw coed a gwrychoedd a chadw lleiniau ymyl ffordd glaswellt pan fo’n bosibl. Pan fydd angen codi lleiniau ymyl ffordd glaswellt a llystyfiant, byddai lliniaru’n cael ei ddarparu. Efallai na fydd hi bob tro’n bosibl cyfnewid llystyfiant tebyg am debyg mewn lleoliad penodol bob amser oherwydd gofynion goledd gwelededd. zzByddai llystyfiant newydd felly’n cael ei ddarparu mor agos â phosibl at leoliad y llystyfiant gwreiddiol. Pan fo’n bosibl, byddai gwrychoedd presennol sydd wedi cael eu marcio i’w tynnu’n cael eu symud i safle newydd ar y cam clirio’r safle. Byddai lleiniau ymyl ffordd glaswellt yn cael eu hail hadu gyda chymysgedd o blanhigion nodweddiadol ar ymyl priffordd.

3.5.6 Byddai waliau cerrig a chloddiau newydd (fel sy’n cael eu dangos yn ffigurau 3.1-3.3 isod) yn cael eu hadeiladu i gyfateb i’r nodweddion ffin presennol, gan ddefnyddio deunyddiau gwreiddiol pan fo’n bosibl. Byddai cerrig yn cael eu rhoi yn lle cerrig eraill mewn lleoliadau tebyg er mwyn copïo microgynefinoedd ar gyfer cen, mwsogl a llys yr iau.

Ffigur 3-1 Darlun o groestoriad wal gerrig arfaethedig

Ffigur 3-2 Darlun o wedd wal gerrig arfaethedig

Ffigur 3-3 Darlun o glawdd arfaethedig

3.6 Cynigion goleuo

Cerrig wedi’u trefnu ar hap

Copin ar hap

Uniadau wedi’u plastro â morter i’w gwrthsoddi ychydig

Stribed uno hyblyg

Copin ar hap

Uchdel ac ôl-ogwydd y wal i gyfateb i waliau sydd eisoes yn bodoli gerllau

Uniadau wedi’u plastro â morter i’w gwrthsoddi ychydig

Cerrig wedi’u trefnu ar hap

Pridd gronynnog wedi’i gompactio

Top cromennog gyda thywarchen arno

Gwaith cerrig i gynnal cyswllt cerrig â cherrig ôl-ogwydd 1 i 4 i’r goledd

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 16

Page 20: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

3.6.1 Mae’r dyluniad wedi ystyried y cyd-destun bod Ynys Môn yn gweithio at enill Statws Gwarchodfa Awyr Dywyll ac mae’n unol â Pholisi 42 Cynllun Lleol Ynys Môn [RD8] ac egwyddorion paragraff 5.14.5 TAN 12 (2014) [RD2] sy’n ceisio lleihau llygredd goleuadau artiffisial. Ystyriwyd presenoldeb goleuadau ffordd presennol ac mae goleuadau arfaethedig wedi cael eu cynllunio’n ofalus er mwyn lleihau faint o olau fydd yn cael ei ollwng ar ardaloedd cyfagos ac ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol, cyrsiau dŵr, gwrychoedd a chynefinoedd eraill.

3.6.2 Byddai goleuadau dros dro yn cael eu gosod yn y Compownd Adeiladu Dros Dro. Byddai colofnau golau’n cael eu gosod o amgylch ffin y safle ac i swyddfeydd y safle, ac ni fyddai’r rhain yn uwch na phum metr er mwyn lleihau faint o olau fyddai’n cael ei ollwng yn ystod cyfnodau tywyll. Byddai’r cynigion goleuo yn dilyn oriau gwaith safonol (edrychwch ar baragraff 6.1.4 y Datganiad Mynediad a Dylunio hwn).

Ffigur 3-4 Cynllun Dangosol y Compownd Adeiladu Dros Dro

3.7 Diogelwch Cymunedol

Diogelwch ar yr A5025 3.7.1 Un o brif amcanion y Datblygiad Arfaethedig ydy uwchraddio’r llwybr, o ran safon yr

adeiladwaith a geometreg y ffordd, er mwyn i'r ffordd allu cynnal rhagor o draffig, ac er mwyn gwella diogelwch a mynediad.

3.7.2 Byddai ardaloedd gwaith yn effeithio dros dro ar leoliadau lle mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cyrraedd y ffordd gerbydau bresennol. Er mwyn sicrhau diogelwch yn ystod y gwaith, byddid yn gofyn am Orchmyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro ar gyfer cau’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yr effeithir arnynt dros dro gan Gyngor Sir Ynys Môn am gyfnod o hyd at chwe wythnos yn Adrannau 2, 4, 6 ac 8 ac am hyd at wythnos yn Adrannau 1, 3, 5 a 7.

3.7.3 Byddai’r llwybr beicio newydd yn Adran 2 o’r A5025 yn golygu bod beicwyr yn gallu croesi’r A5025 drwy un symudiad traffig yn hytrach na gorfod croesi drwy symudiad cyffordd groesgam. Byddai hyn yn gwella’r diogelwch yn y gyffordd hon a byddai’n effaith fanteisiol i feicwyr hamdden. Yn Adran 8, byddai llwybr beicio ar wahân newydd yn cael ei ddarparu ar ochr orllewinol yr A5025 rhwng Ffordd Nanner a chyffordd i'r dwyrain, sy’n arwain i Lanfechell. Byddai’r llwybr beicio yn 2m o led ac wedi’i wahanu oddi wrth yr A5025 gan lain ymyl ffordd o laswellt. Mae Ffigur 5-4 yng nghyfrol 2 yn dangos manylion yr adran newydd hon o lwybr beicio. Byddai’r gwelliant hwn yn arwain at effaith fanteisiol i feicwyr a cherddwyr presennol sy’n defnyddio’r llwybr rhwng Ffordd Nanner a Llanfechell.

Diogelwch y Compownd Adeiladu Dros Dro 3.7.4 Byddai palis pren (ffens) dim uwch na 2.4m yn cael ei osod o amgylch ffin y safle er

mwyn dal y gweithrediadau, sicrhau diogelwch y safle a sgrinio gweithgareddau’r Compownd Adeiladu Dros Dro o olwg pobl. Mae’n debyg y byddai gorffeniad hwn yn wyrdd er mwyn gwneud iddo integreiddio â’r amgylchedd lleol a gallai hwn fod yn destun amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir.

3.7.5 Byddai’r goleuadau allanol yn cyrraedd y lefel lwcs sylfaenol sydd ei angen er mwyn cyrraedd safonau perthnasol. Byddai colofnau golau’n cael eu gosod o amgylch ffin y safle ac i swyddfeydd y safle, ac ni fyddai’r rhain yn uwch na 5m er mwyn lleihau faint o olau fyddai’n cael ei ollwng yn ystod cyfnodau tywyll.

Cymunedol 3.7.6 Yn unol â’r Cod Ymarfer Adeiladu, bwriedir cael swyddog cyswllt cymunedol arbennig ar

gyfer y gwelliannau i’r briffordd a fydd yn meddu ar wybodaeth fanwl am y gwaith adeiladu, sut bydd yn cael ei wneud a dyma fydd yr unigolyn gorau i ddelio ag unrhyw ymholiadau neu bryderon.

3.7.7 Yn unol â Pholisi 1 Cynllun Lleol Ynys Môn [RD8] a Pholisi TRA4 Cynllun Strategaeth Gwynedd [RD7] mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi cael ei baratoi gan ystyried yr effeithiau posibl ar faterion traffig sy’n ymwneud â cherddwyr a cherbydau, hawliau tramwy cyhoeddus, beicio a mynediad i gerbydau. Mae Horizon wedi cyfyngu ar yr effeithiau ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Rhwydweithiau Beicio Cenedlaethol cymaint ag y bo modd, a bydd y Cod Ymarfer Adeiladu yn gosod mesurau er mwyn rheoli’r gwaith o gau llwybrau troed a chyfyngu ar yr effeithiau niweidiol cymaint ag y bo modd.

FFENS PALIS 2.4m

SWYDDFEYDD SAFLE

ARDAL LLAWR CALED DROS DRO I’W DARPARU I OFFER GROESI

OFFER AILBROSESU

ARDAL PENTYRRAU DEUNYDDIAU

30 LLE PARCIO

CLUSTOGFA 10m O’R CWRS DŴR PRESENNOL

SEILOS STORIO

CEBLAU TRYDAN UWCHBEN PRESENNOL

STORIO DEUNYDDIAU

PENTWR

OFFER MALU PALMANT

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 17

Page 21: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

4 Cynaliadwyedd Amgylcheddol 4.1 Dyluniad Cynaliadwy

Draenio a dŵr 4.1.1 Mae'r system draenio bresennol yn dibynnu ar ddŵr ffo oddi ar y ffordd a ddaw dros yr

ymyl i dir cyfagos, ffosydd neu gyrsiau dŵr. Mewn sawl lleoliad, bydd dŵr ffo yn cael ei ryddhau i ylïau sydd wedi cael eu gosod ar bwyntiau isel, sydd wedi cael eu cysylltu â ffosydd a chyrsiau dŵr. Mae modd crynhoi'r cynigion draenio fel a ganlyn:

• dim newidiadau i’r trefniadau draenio presennol yn Adrannau 1, 3, 5 a 7; • byddai seilwaith newydd yn Adrannau 2, 4, 6, ac 8 yn golygu cyfuniad o gylfatiau,

gylïau, sianelau pantiog, stribedi hidlo, draeniau cludo/hidlo a draeniau cwrb er mwyn dal a chludo dŵr ffo oddi ar y ffordd i bwyntiau rhyddhau i gyrsiau dŵr. Byddai gylïau a draeniau cludo/hidlo yn cysylltu â ffosydd neu gyrsiau dŵr presennol ac yn rhyddhau i fannau gollwng sydd eisoes yn bodoli;

• byddai dau bwll i ddal dŵr ffo yn cael eu creu yn Adran 2 er mwyn dal a rheoli’r dŵr ffo oddi ar y ffordd i gyrsiau dŵr cyfagos (edrychwch ar ffigur 2.4 yng nghyfrol 2 yr Adroddiad Amgylcheddol). Byddai modd cyrraedd y ddau bwll dal dŵr ffo yn uniongyrchol o’r A5025 er mwyn gallu eu cynnal a’u harchwilio yn y dyfodol, a byddai’r rhain y tu ôl i ffensys am resymau diogelwch; a

• byddai system draenio newydd yn cael ei darparu yn Adran 4 yn Bytheicws fel rhan o'r gwelliannau arfaethedig i’r tro yn y lleoliad hwn. Byddai hyn yn golygu defnyddio draeniau hidlo/cludo newydd er mwyn dal y dŵr ffo ychwanegol a fyddai’n codi o’r adran newydd o'r ffordd gerbydau, a byddai wedyn yn cael ei ryddhau i gwrs dŵr sydd eisoes yn bodoli yn union i'r de.

Deunyddiau adeiladu 4.1.2 Byddai'r strwythurau dros dro sy’n cael eu cynnig yn y Compownd Adeiladu Dros Dro yn

cynnwys swyddfeydd dros dro (cabannau symudol), a fyddai’n cynnig nifer o fanteision o ran lleihau faint o ynni fydd yn cael ei ddefnyddio a lleihau allyriadau carbon, gan gynnwys y canlynol:

• dylunio a fydd yn cyrraedd ac yn rhagori ar y safonau diweddaraf ar gyfer effeithlonrwydd ynni;

• byddai’r swyddfeydd dros dro (cabannau symudol) yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle ac yn cael eu cludo i’r Compownd Adeiladu Dros Dro, sy’n golygu na fyddai’n rhaid cludo cynifer o bethau i’r safle. Gallai fod llai o lawer o symudiadau cerbydau drwy ddefnyddio’r dull hwn yn hytrach na phrosiect adeiladu traddodiadol, gan leihau’r allyriadau sy’n gysylltiedig â defnyddio cerbydau;

• yn nodweddiadol bydd angen llai o ynni i gynhyrchu swyddfa dros dro na swyddfa sy’n cael ei hadeiladu’n draddodiadol; a

• mae gweithgynhyrchu oddi ar y safle i oddefiant tynn yn gallu helpu i greu adeiladau aerdyn iawn, gan leihau'r drafftiau sy’n lleihau effeithlonrwydd thermol.

Goleuadau 4.1.3 Fel y nodir uchod, byddai goleuadau dros dro yn cael eu gosod yn y Compownd

Adeiladu Dros Dro. Byddai colofnau golau’n cael eu gosod o amgylch ffin y safle ac i swyddfeydd y safle, ac ni fyddai’r rhain yn uwch na 5m er mwyn lleihau faint o olau fyddai’n cael ei ollwng yn ystod cyfnodau tywyll.

4.2 Cynefinoedd Naturiol 4.2.1 Mae’r safle datblygu wedi cael ei arolygu gan ecolegydd sydd â chymwysterau addas er

mwyn adnabod unrhyw nodweddion sydd â gwerth ecolegol a'r mesurau diogelu a lliniaru sydd eu hangen. Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion wedi cael eu hymgorffori yn y Cynlluniau Meistr Amgylcheddol, a gyflwynir gyda’r cais hwn (yng nghyfrol 2 yr Adroddiad Amgylcheddol).

4.2.2 Mae’n bosibl i’r gwaith adeiladu effeithio ar nodweddion ecolegol drwy golli cynefin o ganlyniad i glirio’r safle, y gwaith cloddio, ffurfio a phresenoldeb y Compownd Adeiladu Dros Dro a gwneud y gwaith tirweddu. Cynhelir arolygon ecolegol cyn adeiladu rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2018, cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2018.

4.2.3 Mae’r mesurau canlynol wedi cael eu gwreiddio yn nyluniad y Datblygiad Arfaethedig er mwyn lleihau’r effeithiau ar nodweddion ecolegol:

• trawsleoli deunyddiau gwrychoedd presennol addas i’r ffin y bydd ei aliniad wedi newid ac ailddefnyddio cerrig y waliau sy’n berthnasol i bob lleoliad;

• defnyddio ardal byffer diogelu o 10m o amgylch cyrsiau dŵr i osgoi unrhyw gysylltiad hydrolegol posibl gyda’r Datblygiad Arfaethedig;

• dim gwaith clirio’r safle yn ystod y tymor bridio; (mis Mawrth i fis Awst); a • wrth ailddefnyddio cerrig y waliau, ailosod y deunyddiau yn yr un lleoliad er mwyn

cynnal y meicro- amgylchedd ar gyfer unrhyw gen, mwsogl neu lys yr iau sy’n bresennol.

4.2.4 Mae’r Adroddiad Rhywogaethau a Warchodir a Rhywogaethau a Reolir yn Gyfreithiol ar gyfer y Gwelliannau i Briffordd yr A5025, a gyflwynir i gefnogi’r cais hwn, yn cyflwyno mesurau i osgoi troseddau i leihau’r effeithiau ar gadwraeth natur.

4.2.5 Mae nodweddion dynodedig sy’n agos at safle’r Datblygiad Arfaethedig, ond y tu allan iddo, yn cynnwys:

• Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cae Gwyn; • Ardal Gwarchodaeth Arbennig Ynys Feurig, Bae Cemlyn ac Ynysoedd y

Moelrhoniaid; • Ardal Cadwraeth Arbennig Llyn Dinam; • SoDdGA Tre’r Gof; • SoDdGA Beddmanarch-Cymyran; • SoDdGA Llyn Llygeirian; • SoDdGA Llyn Garreg-Lwyd; • SoDdGA Llynnau y Fali;

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 18

Page 22: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

• Ardal Cadwraeth Arbennig a SoDdGA Bae Cemlyn; a • Gerddi Cestyll rhestredig Gradd II, sydd hefyd yn Barc a Gardd Rhestredig o

Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. 4.2.6 Mae Pennod 11 yr Adroddiad Amgylcheddol yn cadarnhau na ddisgwylir unrhyw

effeithiau niweidiol ar y safleoedd dynodedig hyn.

4.2.7 Mae natur gyfyngedig y gwaith sy’n gysylltiedig â’r Datblygiad Arfaethedig yn golygu bod yr effeithiau a ddisgwylir ar y derbynyddion ecolegol yn amrywio o rai niwtral i rai cadarnhaol bach. Felly nid oes angen unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol.

4.3 Gwastraff 4.3.1 Byddai trin, storio a gwaredu gwastraff yn cael ei reoli gan y contractwr a benodir fel y

nodir yn y Cynllun Rheoli Gwastraff Safle rhagarweiniol a gynhyrchir gan y contractwr gan ddilyn yr egwyddorion yn y Cod Ymarfer Adeiladu.

4.3.2 Ystyrir lleihau gwastraff drwy ddefnyddio egwyddorion Horizon o leihau hierarchaeth gwastraff (mewn trefn blaenoriaeth am i lawr):

• atal a lleihau; • paratoi i’w ailddefnyddio; • ailgylchu; • adfer mewn ffordd arall; a • gwaredu.

5 Hygyrchedd a Symudiadau 5.1.1 Disgwylir y bydd gweithlu’r Datblygiad Arfaethedig yn teithio bob dydd o’u preswylfa

arferol ac ni fydd angen llety dros dro arnynt yn ystod y gwaith hyn.

5.1.2 Rydyn ni’n deall y traffig a gynhyrchir gan y Datblygiad Arfaethedig o ganlyniad i arolwg o waith gweithgareddau ar y safle, profiad a dealltwriaeth o brosiectau tebyg.

5.1.3 Bydd y cerbydau a fydd yn cyrraedd safle'r Datblygiad Arfaethedig yn defnyddio’r A5025 i’r Fali a’r A55 ar ôl hynny. Byddai’r cerbydau a fydd yn dod i’r Compownd Adeiladu Dros Dro yn cyrraedd y safle drwy'r A5025 bresennol a drwy giât diogelwch. Byddai’r cerbydau wedyn yn symud ymlaen i un o’r parthau parcio. Byddai pobl yn cerdded ar hyd llwybr cerddwyr penodol i adeiladau’r Compownd Adeiladu Dros Dro.

5.1.4 Mae cyfanswm o 30 lle parcio wedi cael eu cynnwys yn nyluniad dangosol y Compownd Adeiladu Dros Dro. Byddai’r rhain wedyn cael eu defnyddio gan staff swyddfa’r contractwr a thîm safle’r cleient. Byddai'r gweithwyr adeiladu yn cael eu hannog i rannu ceir a, phan fo’n ymarferol, mae’n bosibl y byddai bysiau mini ar gael i’r gweithwyr adeiladu a fyddai’n teithio o’u llety preswyl a’r Compownd Adeiladu Dros Dro.

5.1.5 Byddai cerbydau sy’n danfon deunyddiau traul o ddydd i ddydd a/neu reoli cyfleusterau’n cyrraedd safle'r Compownd Adeiladu Dros Dro yn yr un ffordd â cherbydau’r staff, ac wedyn yn gallu pasio drwy’r giât diogelwch ac i’r parth parcio penodol ar gyfer danfon nwyddau.

5.1.6 Gyda golwg ar reoli symudiadau traffig, bydd y contractwr yn paratoi Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu fel rhan o’r Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol ac Adeiladu, a fydd yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn y Cod Ymarfer Adeiladu. Disgwylir y bydd hwn yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i amod cynllunio a fydd ynghlwm wrth roi caniatâd cynllunio.

5.1.7 Mae’r math o gerbydau ar hyd yr A5025 a nifer y siwrneiau a fyddai’n digwydd yn ystod cam adeiladu’r Datblygiad Arfaethedig wedi cael eu nodi yn y tabl isod.

Tabl 5-1 Rhagolygon traffig adeiladu Math o gerbyd Traffig Dyddiol Blynyddol

Cyfartalog (llif dwy ffordd) Traffig Diwrnod Gwaith

Blynyddol Cyfartalog (llif dwy ffordd)

Ceir/cerbydau nwyddau ysgafn 162 195

Cerbydau nwyddau trwm 41 46

Cyfanswm 203 241

5.1.8 Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn croestorri â’r A5025 mewn nifer o leoliadau, a byddai croesfannau ac adrannau o lwybrau beicio ag wyneb yn cael eu darparu fel rhan o’r gwelliannau.

5.1.9 Byddai ardaloedd gwaith yn effeithio dros dro ar leoliadau lle mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cyrraedd y ffordd gerbydau bresennol. Er mwyn sicrhau diogelwch yn ystod y gwaith, byddid yn gofyn am Orchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer cau’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yr effeithir arnynt dros dro gan Gyngor Sir Ynys Môn am

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 19

Page 23: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

gyfnod o hyd at chwe wythnos yn Adrannau 2, 4, 6 ac 8 ac am hyd at wythnos yn Adrannau 1, 3, 5 a 7.

5.1.10 Pan fydd Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn croestorri â’r A5025 neu’n dod i ben wrth yr A5025, mae’r gwelliannau wedi cael eu dylunio er mwyn peidio ag effeithio ar eu gweithrediad. Mae’r A5025 yn croesi nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac yn ystod y gwaith adeiladu efallai bydd angen dargyfeirio defnyddwyr llwybrau troed dros dro at Hawliau Tramwy Cyhoeddus eraill sy’n briodol ac yn cael eu defnyddio’n aml. Serch hynny, mae’r mwyafrif helaeth yn gorffen wrth yr A5025 ac yn mynnu bod defnyddwyr yn cerdded ar hyd yr A5025 i barhau ac wedyn cysylltu â Hawl Tramwy Cyhoeddus arall. Byddai llain ymyl ffordd digon llydan yn cael ei darparu lle bydd y llwybrau’n croesi’r A5025 er mwyn cadw'r cerddwyr i ffwrdd oddi wrth ymyl y ffordd gerbydau.

5.1.11 Byddai addasiadau’n cael eu gwneud i nifer o drefniadau mynediad presennol a chyffyrdd y bydd y lledu yn effeithio arnynt, gyda radiws rhai o’r troadau’n cael ei gynyddu er mwyn gwella diogelwch a’i gwneud hi’n haws gweld ymlaen. Mae’r triniaethau arfaethedig i’r ffiniau, y waliau a’r gwrychoedd hefyd wedi cael eu halinio i’w gwneud hi’n haws gweld. Byddai gwelliannau, fel gosod giatiau, hefyd yn cael eu gwneud i nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n cyrraedd y ffordd, a byddai adrannau newydd byr o lwybrau beicio yn cael eu creu hefyd. Byddai’r rhan fwyaf o’r cilfannau presennol yn cael eu cadw ac ni fyddai’r lledu yn effeithio arnynt.

Fel arfer, mynedfa breifat yw mynediad at safle sydd heb fod yn rhan o’r rhwydwaith priffyrdd ei hun. Mae pob mynedfa breifat ar hyd yr A5025 wedi cael ei hasesu er mwyn i Horizon allu ymgorffori dyluniadau priodol. Yn achos yr A5025, rhodfeydd yw’r rhain gan mwyaf (nid ydynt yn cynnwys mynedfeydd amaethyddol). Byddai trefniadau presennol mewn cyffyrdd a mynedfeydd preifat yn cael eu haddasu pan fo angen i'w gwneud hi’n haws gweld ac i wella diogelwch ar gyfer preswylwyr a busnesau sy’n gadael ac yn ymuno â’r A5025. Mae rhagor o fanylion ynghylch addasiadau a gwelliannau i fynedfeydd preifat ar gael ym mhennod 2 yr Adroddiad Amgylcheddol.

6 Adeiladu 6.1.1 Byddai’r gwaith adeiladu yn Adrannau 2, 4, 6 a 8 yn digwydd ar yr un pryd er mwyn

lleihau’r holl darfu ar y rhwydwaith ffyrdd. Ar ôl gorffen yr adrannau hynny, byddai’r gwaith o roi wyneb newydd ar Adrannau 1, 3, 5 a 7 yn dechrau.

6.1.2 Roedd yr adborth o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ym mis Mai 2016, wedi canfod y byddai’n well gan y cyhoedd orfod disgwyl ychydig bach yn hirach pan fyddai’r traffig yn cael ei reoli dros dro er mwyn cwtogi ar y cyfnod adeiladu cyffredinol.

6.1.3 Byddai’r gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r Datblygiad Arfaethedig yn cael eu gwneud o fis Awst 2018 ymlaen, dros gyfnod o oddeutu 66 wythnos, a chyfnod ychwanegol o 4 wythnos i adfer y Compownd Adeiladu Dros Dro. Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu bara fel a ganlyn:

• Adran 2 – 52 wythnos; • Adran 4 – 50 wythnos; • Adran 6 – 62 wythnos; • Adran 8 – 42 wythnos; a • Rhoi wyneb newydd yn Adrannau 1, 3, 5 a 7 = pedair wythnos.

6.1.4 Disgwylir y byddai gwaith adeiladu yn ystod yr haf yn cael ei wneud rhwng 07:00 a 19:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 07:00 a 13:00 ar ddydd Sadwrn. Byddai gwaith adeiladu yn ystod y gaeaf yn cael ei wneud rhwng 08:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 08:00 a 13:00 ar ddydd Sadwrn.

6.1.5 Byddai’r gwaith adeiladu yn cael ei wneud mewn segmentau teithio, gan ddefnyddio mesurau rheoli traffig dros dro gan gynnwys goleuadau traffig wedi’u rheoli gan signalau, byrddau stop-go a chynnal un lôn drwy'r ardaloedd gwaith. Byddai pellter gwahanu sylfaenol o 1 cilometr rhwng y gwaith ffordd lle rheolir y traffig yn cael ei gadw yn ystod y gwaith.

6.1.6 Byddai angen dargyfeirio a/neu ddiogelu nifer o gyfleustodau fel seilwaith telegyfathrebiadau tanddaearol cyn dechrau’r gweithgareddau uchod. Byddai gwaith o’r fath yn cael ei wneud gan gontractwyr a benodir gan yr ymgymerwr/ymgymerwyr statudol perthnasol.

6.1.7 Byddai'r gweithgareddau adeiladu’n cael eu rheoli drwy ddefnyddio technegau rheoli safle arfer gorau, er enghraifft drwy wlychu ardaloedd o bridd er mwyn lleihau faint o lwch sy’n cael ei ryddhau i’r aer a thrwy hynny liniaru unrhyw effaith yn y ffynhonnell. Byddai mesurau lliniaru safonol eraill yn cael eu defnyddio gan y contractwr a benodir er mwyn lleihau’r effeithiau posibl.

6.1.8 Bwriedir y bydd gwaith ar wahân i adeiladu adrannau newydd o ffordd (Newidiadau i Briffordd yr A5025), rydyn ni wedi ymgynghori yn eu cylch o'r blaen, yn dechrau yn hydref 2019 a byddai hyn yn cymryd tua 18 mis i’w gwblhau.

6.1.9 Mae Cod Ymarfer Adeiladu Gwelliannau i Briffordd yr A5025 yn cyflwyno’r mesurau lliniaru ymarfer da y byddai’n rhaid i’r contractwr eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 20

Page 24: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

7 Ar ôl gweithredu 7.1.1 Ar ôl gorffen y Datblygiad Arfaethedig, byddai ardaloedd o dir a gafodd eu defnyddio

dros dro ar gyfer y gwaith adeiladu yn cael eu dychwelyd i’r tirfeddianwyr mewn cyflwr tebyg i gyflwr y tir ar ddechrau’r gwaith.

7.1.2 Byddai’r holl offer a chyfarpar dros dro sy’n gysylltiedig â cham adeiladu'r Gwelliannau i Briffordd yr A5025 yn cael eu datgymalu a’u symud o’r safle ar ddiwedd cyfnod adeiladu’r Datblygiad Arfaethedig.

7.1.3 Byddai’r tir a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer y Compownd Adeiladu Dros Dro yn cael ei adfer i’w ddefnydd a’i gyflwr blaenorol gan Horizon ar ddiwedd cyfnod adeiladu’r Datblygiad Arfaethedig, dros gyfnod o bedair wythnos. Byddai hyn yn cynnwys:

• symud a gwaredu'r cabanau symudol a ffens y ffin; • symud a gwaredu deunyddiau’r ardaloedd o lawr caled (agregau wedi’u malu); • symud cysylltiadau cyfleustodau dros dro; • mân waith cloddio i ddychwelyd y safle i’w gyfuchliniau a’i broffil blaenorol; • adfer proffil y pridd drwy ailddefnyddio uwchbridd a oedd wedi cael ei storio a

chywasgu’n ysgafn er mwyn cynhyrchu strwythur pridd sefydlog; • adfer triniaethau ffin blaenorol; a • ail hadu'r uwchbridd drwy ddefnyddio cymysgedd priodol o rywogaethau.

7.1.4 Byddai disgwyl i’r gweithgareddau adfer gael eu cwblhau ar ddiwedd y cyfnod adeiladu, am gyfnod o hyd at bedair wythnos.

8 Crynodeb 8.1.1 Mae’r Datganiad Mynediad a Dylunio hwn wedi cael ei baratoi gan Horizon i gefnogi cais

sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer Gwelliannau i Briffordd yr A5025 (y Datblygiad Arfaethedig), sy’n gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd.

8.1.2 Mae'r Datblygiad Arfaethedig yn rhan bwysig o Brosiect Wylfa Newydd, ac yn angenrheidiol fel rhan o’r strategaeth drafnidiaeth ehangach. Mae polisi cenedlaethol yn cydnabod bod taer angen gorsafoedd pŵer niwclear newydd, a bod angen eu cyflwyno cyn gynted ag sy’n bosibl [RD4].

8.1.3 Nid ydy’r A5025 rhwng y Fali a Chyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer yn diwallu safonau priffyrdd presennol ac mae angen ei gwella. Mae materion gyda’r llwybr presennol o ran ei led, ei aliniad a’r cyfleoedd i oddiweddyd, sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar symudiad traffig ar hyd y ffordd.

8.1.4 Bydd rhoi’r Datblygiad Arfaethedig ar waith yn rhan o’r gweithgareddau cychwynnol i hwyluso adeiladu Prosiect Wylfa Newydd ac yn y pen draw bydd yn golygu bod modd gweithredu’r Orsaf Bŵer, a thrwy hynny gynhyrchu trydan, mor fuan ag sy’n bosibl.

8.1.5 Mae’r Datganiad Dylunio a Mynediad hwn yn ofyniad statudol ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig ac mae wedi cael ei baratoi’n unol â’r gofynion sydd wedi’u nodi mewn rheoliadau a pholisi cynllunio.

8.1.6 Mae’r Datganiad Dylunio a Mynediad hwn yn dangos y broses a ddilynir i ddatblygu’r cynigion a’r ystyriaeth a roddir i gyd-destun y safle wrth benderfynu ar ymddangosiad y Datblygiad Arfaethedig. Mae'n dangos bod dull cynaliadwy wedi’i ymgorffori yn y gwaith o ddylunio'r cynigion i’r graddau roedd hynny’n bosibl ac yn ymarferol.

8.1.7 Mae materion sy’n ymwneud â mynediad wedi’u hegluro hefyd, gan ddangos bod gofynion mewn polisi cynllunio wedi’u hystyried lle roeddent yn berthnasol i sicrhau bod modd darparu mynediad diogel yn ystod y gwaith, gan gynnwys ar gyfer gweithwyr y safle, cyflenwadau a defnyddwyr priffyrdd cyhoeddus a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y safle ac o’i gwmpas.

8.1.8 Mae’r asesiad a gyflawnwyd yn y Datganiad Dylunio a Mynediad hwn yn dangos bod modd ystyried bod y cynigion yn dderbyniol ac yn cefnogi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 21

Page 25: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

9 Byrfoddau a Geirfa Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

A

Adeilad Rhestredig (gan gynnwys Graddfeydd I, II a II*)

Adeilad sydd ar y Rhestr Statudol o Adeiladau sydd o Ddiddordeb Hanesyddol neu Bensaernïol Arbennig. Mae adeiladau Gradd I o ddiddordeb eithriadol, mae adeiladau Gradd II* o fwy na diddordeb arbennig ac mae adeiladau Gradd II o ddiddordeb arbennig. Mae’r olaf yn cynnwys dros 90% o'r holl adeiladau rhestredig. Rhaid gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig er mwyn gwneud unrhyw newid i adeilad rhestredig.

Adroddiad Amgylcheddol - Dogfen anstatudol sy’n cofnodi canfyddiadau'r broses asesiad amgylcheddol.

Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch

- Esblygiad trydedd genhedlaeth o’r dyluniad adweithydd dŵr berwedig. Bydd yr Orsaf Bŵer yn defnyddio’r dyluniad Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch a fydd yn cael ei ddarparu gan Hitachi-GE ac yn cael ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU.

Afonol - Term sy’n ymwneud ag afonydd a nentydd a’r prosesau sy’n digwydd ynddyn nhw.

Amwynder gweledol - Dymunoldeb cyffredinol y golygfeydd mae pobl yn eu mwynhau o’u cwmpas, sy’n ddeniadol ac yn rhoi pleser ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal, yn gweithio yn yr ardal, yn ymweld â’r ardal neu'n teithio drwyddi.

Ardal Cadwraeth Arbennig - Ardal a ddynodwyd sy’n bwysig oherwydd amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid sy’n agored i niwed yn yr Undeb Ewropeaidd ac sydd wedi’u dynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Ardal Cymeriad Tirwedd - Ardal ddaearyddol ar wahân sydd o fath penodol o dirwedd.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Ardal Cymeriad Tirwedd Leol - Ardaloedd unigol ac unigryw sy’n ardaloedd daearyddol lleol ar wahân o fath o gymeriad tirwedd penodol.

Ardal Datblygu Wylfa Newydd

- Yr ardaloedd o dir a môr sy’n cael eu dangos gan gynnwys yr ardaloedd o amgylch Safle’r Orsaf Bŵer a fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer adeiladu a gweithredu’r Orsaf Bŵer. Mae'r ardal hon yn dangos yr ardal fwyaf y byddai Prif Waith Adeiladu'r Orsaf Bŵer yn effeithio arni'n ffisegol ac a fydd yn cael ei defnyddio i ffurfio cyd-destun gweledol tirwedd yr Orsaf Bŵer weithredol.

Ardal Gadwraeth - Ardal a ddynodir o dan adran 69 o’r Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 fel ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y mae hi’n ddymunol gwarchod neu wella ei chymeriad neu sut mae’n edrych.

Ardal Gwarchodaeth Arbennig

- Safle a ddynodir o dan y Gyfarwyddeb Adar oherwydd ei bwysigrwydd rhyngwladol o ran bridio, bwydo, gaeafu neu fudo rhywogaethau adar prin ac agored i niwed.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

AHNE Ardaloedd o gefn gwlad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd wedi cael eu dynodi o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 er mwyn gwarchod a gwella prydferthwch naturiol yr ardal ddynodedig.

Ardal Teithio i'r Gwaith Bob Dydd (Adeiladu)

- Yr ardal benodol y tybir ei bod yn rhesymol ar gyfer teithio bob dydd i Safle'r Orsaf Bŵer yn ystod y gwaith o adeiladu’r Orsaf Bŵer a phan fydd yn weithredol.

Ardal Tirwedd Arbennig - Dynodiad anstatudol a roddir gan yr awdurdod cynllunio lleol i ddiffinio ardaloedd sydd yn bwysig iawn o ran tirwedd o fewn eu ffin weinyddol.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 22

Page 26: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Ardal yr astudiaeth - Yr ardal ofodol a ddefnyddir i asesu effeithiau amgylcheddol (hy ymestyn bellter o ôl troed y datblygiad lle rhagwelir y bydd effeithiau amgylcheddol sylweddol). Mae’r ardal hon yn amrywio rhwng y meysydd pwnc amgylcheddol gwahanol.

Arferion lliniaru da - Mesurau lliniaru a fyddai’n digwydd gyda neu heb fewnbwn gan yr asesiad amgylcheddol yn bwydo i’r broses dylunio (er enghraifft, lliniaru sy’n cynrychioli arferion sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y diwydiant neu gydymffurfiad cyfreithiol).

Arolwg cynefinoedd cam 1 - System gyflym i gefnogi’r llystyfiant lled-naturiol a chynefinoedd bywyd gwyllt eraill a gyhoeddwyd yn gyntaf gan y Cyngor Gwarchod Natur ar y Cyd yn 1990.

Arolwg Ordnans - Asiantaeth mapio genedlaethol y DU sydd ar hyn o bryd yn gweithredu fel cwmni sy’n berchen i’r llywodraeth.

Ased treftadaeth - Adeilad, heneb, safle, lleoliad, ardal neu dirwedd y pennir bod iddo rywfaint o arwyddocâd sy’n cyfiawnhau ei ystyried mewn penderfyniadau cynllunio oherwydd ei ddiddordeb o ran treftadaeth. Mae asedau treftadaeth yn cynnwys asedau treftadaeth dynodedig ac asedau a nodir gan yr awdurdod cynllunio lleol (gan gynnwys rhestru lleol).

Asesiad amgylcheddol - Dull a phroses ar gyfer casglu, asesu a defnyddio gwybodaeth am effeithiau amgylcheddol er mwyn helpu i wneud penderfyniadau.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Asesiad o Ganlyniad Llifogydd

- Y broses ar gyfer asesu'r risg bosibl o lifogydd i safle a chanfod a oes unrhyw faterion rheoli llifogydd neu ddŵr wyneb a allai gyfiawnhau ystyriaeth bellach neu a allai effeithio ar ddichonoldeb datblygiad. Mae’r gofynion asesu wedi’u nodi yn Nodyn Cyngor Technegol 15 Polisi Cynllunio Cymru: Datblygu a'r Risg o Lifogydd (TAN 15).

Asesiad o gymeriad tirwedd - Y broses o adnabod a disgrifio amrywiad yng nghymeriad y dirwedd, a defnyddio’r wybodaeth hon i helpu i reoli newid yn y dirwedd. Mae’n ceisio adnabod ac egluro’r cyfuniad unigryw o elfennau a nodweddion sy’n gwneud tirwedd yn wahanol.

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

- Proses ar gyfer adnabod ac asesu effeithiau sylweddol tebygol datblygiad ar yr amgylchedd.

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd - Y broses a ddefnyddir i asesu prosiect er mwyn penderfynu ar yr effeithiau iechyd posibl ar boblogaeth, yn enwedig grwpiau dan anfantais neu agored i niwed.

Asesiad o’r Effeithiau Cronnus

- Asesiad i ganfod yr effeithiau sylweddol posibl a achosir gan ryngweithiad yr effeithiau ar yr amgylchedd o agweddau gwahanol o’r un prosiect ac o brosiectau eraill.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

- Y broses o asesu cynlluniau a phrosiectau i weld a ydynt yn debyg o gael effaith sylweddol ar Safle Dynodedig Ewropeaidd naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, yn unol â’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd.

Asiantaeth yr Amgylchedd - Y corff cyhoeddus anadrannol gweithredol sy’n gyfrifol am reoleiddio amgylcheddol yn Lloegr.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 23

Page 27: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Awdurdod cynllunio lleol - Awdurdod cynllunio lleol ydy'r awdurdod lleol neu’r cyngor sydd wedi cael ei rymuso gan y gyfraith i ymarfer swyddogaethau cynllunio tref statudol ar gyfer ardal benodol o’r Deyrnas Unedig.

B

Barn Gwmpasu - Barn ysgrifenedig awdurdod cynllunio perthnasol, yn dilyn cais gan yr ymgeisydd am ganiatâd cynllunio, ynghylch yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol.

Barn Sgrinio - Barn ysgrifenedig a ddarperir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol ynghylch a ydy prosiect yn ddatblygiad y mae’n rhaid darparu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ffurfiol ar ei gyfer.

Bitwmen - Cymysgedd gludiog neu solet o hydrocarbonau sy’n digwydd mewn asffalt neu dar ac sy’n cael ei ddefnyddio fel deunydd i’w roi ar wyneb priffordd.

C

Canolfan Logisteg - Cyfleuster Oddi ar y Safle lle bydd modd cyfuno nwyddau sydd i’w cludo ar lai o lwythi a bydd modd rheoli amseriad symudiadau traffig i Ardal Datblygu Wylfa Newydd yn ystod cam Gwaith Galluogi a Phrif Gam Adeiladu datblygu’r Orsaf Bŵer.

Canolfan Rheoli Argyfwng Amgen

- Cyfleuster sydd ar wahân i’r Orsaf Bŵer ond ddim yn rhy bell oddi wrthi ac sy’n rhan o’r Orsaf Bŵer. Byddai hwn yn darparu cyfleusterau cyfathrebu a rheoli wrth gefn a fyddai’n cael eu defnyddio i reoli digwyddiad yn Safle’r Orsaf Bŵer petai’r annhebyg yn digwydd ac nad oedd y prif gyfleusterau yn Safle’r Orsaf Bŵer ar gael.

Cerbyd Nwyddau Trwm HGV Cerbyd cludo masnachol sydd â phwysau cerbyd gros dros 3.5 tunnell.

Cilometr km Uned o hyd.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Clawdd - Clawdd pridd, fel rheol gyda cherrig ar yr wyneb, ac o bosibl gyda gwrych wedi’i blannu ar y top.

Cloddiau - Mwy nag un clawdd.

Cloddio arbrofol - Dull o werthuso archaeolegol a ddefnyddir i bennu presenoldeb neu absenoldeb nodweddion, eitemau neu strwythurau archaeolegol ac asesu eu cymeriad a’u harwyddocâd.

Clustogfa - Ardal neu bellter a ddynodir o amgylch safle neu nodwedd o ddiddordeb.

Cod Ymarfer Adeiladu - Dogfen sy’n amlinellu cyfres o fesurau a safonau gwaith i'w dilyn drwy gydol y cyfnod adeiladu. Mae’n sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaethau a bod gwaith adeiladu’n cael ei gynllunio a’i reoli’n effeithiol. Y nod yw rheoli effeithiau niweidiol ar y gymuned leol a’r amgylchedd.

Coetiroedd hynafol lled-naturiol

- Math o goetir hynafol, cânt eu cydnabod fel safleoedd dynodedig anstatudol a'u diogelu o dan y Fframwaith Polisïau Cynllunio Cenedlaethol.

Comisiwn Dylunio Cymru - Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn gorff cyhoeddus bach, arbenigol sy’n gweithio ar draws Cymru i helpu i’w gwneud yn lle gwell, drwy ddylunio.

Mae’r Comisiwn yn gwmni cyfyngedig preifat a gafodd ei ymgorffori gan Lywodraeth Cymru yn 2002 fel is-gwmni sy’n cael ei reoli’n gyfan gwbl. Mae ei gytundeb yn gytundeb ar gyfer Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Comisiwn yn hyrwyddo dylunio da ar draws pob sector, er budd ansawdd da yn amgylchedd adeiledig Cymru ac yn ansawdd dyluniad adeiladau, llefydd a thir y cyhoedd.

Compownd Adeiladu Dros Dro

- Ardal lle caiff deunyddiau adeiladu eu storio a lle bydd swyddfeydd safle adeiladu ynghyd ag ardaloedd parcio ar gyfer gweithwyr adeiladu a pheiriannau.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 24

Page 28: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Corff dŵr - Rhan benodol o afon, ardal o ddŵr daear, llyn neu arfordir sy’n uned rheoli wedi’i diffinio o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Cwmpasu - Y broses o adnabod y materion y rhoddir sylw iddynt gan broses yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (neu asesiad amgylcheddol). Mae’n ddull o sicrhau bod asesiad yn canolbwyntio ar y materion pwysig ac yn osgoi’r rheini yr ystyrir ei bod yn annhebyg y byddant yn arwyddocaol.

Cydbwyllgor Cadwraeth Natur

- Y corff cyhoeddus sy’n cynghori Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch cadwraeth natur ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Cyd-destun gweledol - Yr amgylchoedd sy’n rhoi’r profiad o le, ar yr un pryd â chofleidio dealltwriaeth o dystiolaeth ganfyddadwy o’r gorffennol yn y dirwedd bresennol.

Cyfarwyddeb Cynefinoedd - Cyfarwyddeb Cyngor 92/43/EEC 21 Mai 1992 ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna gwyllt.

Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

- Cyfarwyddeb 2000/60/EC o Gyngor a Senedd Ewrop dyddiedig 23 Hydref 2000 sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu cymunedol ym maes polisi dŵr.

Cyfleuster parcio a theithio - Mae’r parcio a theithio yn gyfleuster dros dro lle bydd gweithwyr yn gallu parcio eu cerbydau’n ddiogel a byddai bysiau gwennol yn mynd â nhw i Safle'r Orsaf Bŵer. Mae’r safle wedi cael ei ddylunio i gynnwys parth ar gyfer bysiau i gasglu a gollwng teithwyr, gyda swyddfa rheoli a llefydd parcio i’r staff (a fydd yn gweithio yn y cyfleuster parcio a theithio).

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Cyfleusterau Oddi ar Safle’r Orsaf Bŵer

- Y cyfleusterau brys a’r cyfleusterau eraill a fyddai’n ffisegol ar wahân i’r Orsaf Bŵer ac a fyddai’n ategu’r cyfleusterau yn Safle’r Orsaf Bŵer, gan gynnwys Canolfan Rheoli Argyfwng Amgen, Labordy Arolygon Amgylcheddol a Garej Offer Argyfwng Symudol.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Y corff cyhoeddus sydd â’r diben o sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu defnyddio a’u gwella mewn modd cynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol. Etifeddodd ddyletswyddau rheoleiddio a chynghori Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Cyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer

- Y gyffordd arfaethedig a fydd yn cysylltu’r A5025 â Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer.

Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Môn Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal lle bwriedir adeiladu Prosiect Wylfa Newydd.

Cymeriad y dirwedd - Patrwm arbennig, adnabyddadwy a chyson o elfennau yn y dirwedd sy'n peri bod un dirwedd yn wahanol i'r llall, yn hytrach nag yn well neu'n waeth.

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

- Y cynllun datblygu lleol sy’n cael ei baratoi gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd.

Cynllun Datblygu Unedol - Dogfen statudol sy’n nodi polisïau cynllunio’r awdurdod cynllunio lleol er mwyn rheoli datblygiad.

Cynllun Halogiad Annisgwyl - Cynllun rheoli sy’n nodi’r camau a gymerir pan ddeuir ar draws halogiad nad oedd wedi cael ei ganfod o’r blaen yn ystod gwaith adeiladu. Gall gynnwys gweithgareddau fel stopio gweithio yn yr ardal honno, asesu risg a chynhyrchu strategaeth gwneud iawn i lanhau / gwaredu’r deunyddiau halogedig.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 25

Page 29: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Adeiladu

- Cynllun sy’n amlinellu sut bydd prosiect adeiladu yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru effeithiau ar yr amgylchedd a'r ardal gyfagos a’r protocolau sydd i’w dilyn wrth roi’r mesurau hyn ar waith yn unol ag ymrwymiadau amgylcheddol.

Cynllun Rheoli Deunyddiau - Cynllun a ddefnyddir i amlinellu sut bydd prosiect adeiladu yn trin a/neu yn defnyddio’r holl ddeunyddiau, fel rhan o brosiect adeiladu neu ddatblygiad tebyg i leihau neu i liniaru’r effeithiau ar yr amgylchedd a’r ardal gyfagos.

Cynllun Rheoli Gwastraff y Safle

- Cynllun sy’n cael ei ddefnyddio i amlinellu sut bydd prosiect adeiladu yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru effeithiau cynhyrchu a delio â gwastraff ar yr amgylchedd a’r ardal gyfagos.

D

Datblygiadau Cysylltiedig DC Gwaith sydd wedi cael ei gynnwys yn y DCO sy’n hwyluso darparu’r prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, ac sydd yn bennaf yn cynnwys: Campws y Safle; cyfleuster Parcio a Theithio dros dro yn Dalar Hir ar gyfer gweithwyr adeiladu; Canolfan Logisteg dros dro ym Mharc Cybi; Newidiadau i Briffordd yr A5025; a chysylltiad trydanol i is-orsaf y National Grid.

Datganiad Amgylcheddol - Y ddogfen/dogfennau sy’n nodi’r broses Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a chanfyddiadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol fel sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Datganiad Polisi Cenedlaethol

NPS Datganiadau sy’n cael eu paratoi a’u dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 sy’n sefydlu polisi cenedlaethol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth a dŵr, dŵr gwastraff a gwastraff a defnyddir y rhain er mwyn asesu ceisiadau am Orchmynion Cydsyniad Datblygu.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Cynhyrchu Ynni Niwclear EN-6

NPS EN-6 Y Datganiad Polisi Cenedlaethol a ddynodwyd ym mis Gorffennaf 2011 sy’n datgan y polisi cenedlaethol ar orsafoedd pŵer niwclear newydd.

Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Ynni EN-1

NPS EN-1 Y Datganiad Polisi Cenedlaethol a ddynodwyd ym mis Gorffennaf 2011 sy’n datgan y polisi cenedlaethol cyffredinol ar gyfer darparu prosiectau seilwaith ynni mawr.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

- Y prif ddarn o ddeddfwriaeth y DU sy’n ymwneud â diogelu bywyd gwyllt.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

- Y Ddeddf sy’n rhan o’r drefn cynllunio defnydd tir yn y DU ac (ymhlith pethau eraill) sy’n sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer ceisiadau am ganiatâd cynllunio a phenderfyniadau yn eu cylch.

Defnydd tir - Beth mae tir yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer, ar sail categorïau eang o orchudd tir, fel defnydd trefol a diwydiannol a’r gwahanol fathau o amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Defnyddwyr heblaw modurwyr

- Term a ddefnyddir i ddisgrifio cerddwyr, beicwyr a marchogwyr.

Dull Dylunio a’r Strategaeth Tirwedd

- Dogfen sy’n rhoi manylion datblygiad y dyluniad tirwedd a ddangosir ar y Cynllun Meistr Amgylcheddol. Mae hefyd yn cynnwys disgrifiad o'r mathau o blannu a hadu a mesurau ar gyfer eu gweithredu a'u cynnal a’u cadw.

Dŵr daear - Yr holl ddŵr sydd o dan wyneb y tir yn y gylchfa ddirlawnder (o dan y lefel trwythiad) ac mewn cyswllt uniongyrchol â’r tir neu’r isbridd.

Dŵr ffo - Dyddodiad sy’n llifo fel dŵr wyneb o safle, dalgylch neu ranbarth i’r môr.

E

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 26

Page 30: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Effeithiau Cronnus - Effeithiau sy'n codi o newidiadau graddol a gaiff, neu sydd wedi cael, eu hachosi gan weithgareddau yn y gorffennol neu yn y presennol, neu weithgareddau y gellir yn rhesymol eu rhagweld, ynghyd â’r prosiect.

Ff

Ffordd gerbydau - Lled palmant y briffordd mae modd i gerbydau a defnyddwyr heblaw modurwyr ei ddefnyddio.

Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer

- Y ffordd fynediad newydd arfaethedig a fydd yn cysylltu’r A5025 â Safle’r Orsaf Bŵer.

G

Gardd a Pharc Cofrestredig - Cofrestr o barciau a gerddi sydd o arwyddocâd hanesyddol a gedwir gan Historic England.

Garej Offer Argyfwng Symudol

- Cyfleuster Oddi ar y Safle ar gyfer storio cerbydau ac offer i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau a allai godi yn ystod cam gweithredu’r Orsaf Bŵer.

Gorchymyn Cydsyniad Datblygu

DCO Y cydsyniad ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig

- Dogfennau cyfreithiol sy’n caniatáu i’r heddlu neu i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau ffordd i reoli neu i gyfeirio traffig.

Gorlifdir - Mae gorlifdir yn dir gwastad neu bron yn wastad sydd wrth ymyl nant neu afon, gan ymestyn o lannau’r sianel i waelod waliau’r dyffryn o’i hamgylch (o dan amodau naturiol) ac sy’n cael llifogydd yn ystod cyfnodau o arllwysiad uchel.

Gorsaf Bŵer - Yr orsaf bŵer niwclear newydd arfaethedig, gan gynnwys dau Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch y DU a gyflenwir gan Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd., cyfleusterau, adeiladau, strwythurau ac offer cefnogol, ac adeiladau i storio tanwydd sydd wedi cael ei ddefnyddio a gwastraff ymbelydrol.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Gwaith Galluogi - Y gwaith i ddymchwel a chlirio rhannau o Ardal Datblygu Wylfa Newydd o lystyfiant, uwchbridd, gwasanaethau presennol, cyfleustodau a nodweddion a strwythurau eraill, gan gynnwys lliniaru ecoleg, er mwyn caniatáu i’r gweithgareddau gwaith cloddio a’r Prif Gam Adeiladu ddechrau. Byddai’r gwaith hwn hefyd yn cynnwys gosod unrhyw wasanaethau neu gyfleustodau newydd sydd eu hangen i gefnogi gweithgareddau’r Prif Gam Adeiladu.

Gwelliannau i Briffordd yr A5025

- Gwelliannau i’r A5025 bresennol rhwng yr A5 i’r dwyrain o gyffordd y Fali at Gyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer arfaethedig, gan gynnwys ail adeiladu a lledu’r palmant presennol mewn mannau a rhoi wyneb newydd. Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys Compownd Adeiladu Dros Dro gan gynnwys cyfleuster ailgylchu palmant dros dro, a gwaith cysylltiedig arall fel seilwaith draeniau, trin ffiniau, plannu, arwyddion newydd a marciau newydd ar y ffordd.

Gwerthusiad (archaeolegol) - Pennu arwyddocâd effeithiau ar nodweddion a gwerthoedd archeolegol sy’n golygu gwneud penderfyniadau ynghylch gwerth y derbynnydd/adnodd yr effeithir arno a chanlyniadau’r effaith ar y derbynnydd/adnodd ar sail maint yr effaith.

Gwrych pwysig - Gwrych sydd yn 30 oed o leiaf ac sy’n diwallu meini prawf penodol sy’n ymwneud â'i werth archaeolegol, hanesyddol, bywyd gwyllt a thirwedd.

H

Haen o dan y sylfaen - Mewn peirianneg priffyrdd haen o ddeunyddiau agregau a osodir ar haen sy’n is na’r safon (deunyddiau brodorol a ddefnyddir o dan y ffordd). Y brif haen o’r palmant sy’n cynnal y llwyth.

Hawl Tramwy Cyhoeddus - Priffyrdd fel llwybrau troed, llwybrau beicio a llwybrau cenedlaethol sy’n rhoi hawl tramwy cyfreithiol i'r cyhoedd.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 27

Page 31: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Heneb Gofrestredig / Heneb Restredig

- Asedau treftadaeth sydd wedi'u henwi o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 ac sy'n cael eu gwarchod o dan y ddeddf honno.

I

Infertebratau - Anifeiliaid heb asgwrn cefn.

Isbridd - Pridd sydd union o dan yr uwchbridd ond heb fater organig yr uwchbridd.

L

Labordy Arolwg Amgylcheddol

- Cyfleuster sydd ar wahân i’r Orsaf Bŵer ond ddim yn rhy bell oddi wrthi.

Ll

Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd

- Llawlyfr cynhwysfawr a baratowyd gan yr Asiantaeth Briffyrdd (Highways England erbyn hyn) sy’n nodi’r holl safonau, nodiadau cyngor a dogfennau cyfredol eraill a gyhoeddwyd sy’n ymwneud â dylunio, asesu a gweithredu cefnffyrdd (gan gynnwys traffyrdd).

Lliniaru - Mesurau a fwriedir i osgoi, i leihau a, phan fo’n bosibl, i wella effeithiau amgylcheddol niweidiol arwyddocaol.

M

Macadam - Cerrig wedi’u torri o’r un maint sydd wedi’u huno gan dar neu fitwmen a’u cywasgu i’w defnyddio fel wyneb ffordd.

Madfallod dŵr cribog - Rhywogaeth o fadfall a ddiogelir fel Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd.

Math o dirwedd hanesyddol - Parsel i dirwedd sydd â chymeriad cyffredin fel defnydd tir neu batrwm caeau.

Meini hirion - Heneb cynhanesyddol sydd yn bennaf yn Ynysoedd Prydain a Ffrainc sy’n cynnwys carreg unionsyth dal.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Mesurau lliniaru creiddiol - Mesurau i osgoi neu leihau effaith amgylcheddol, y gellir eu hymgorffori’n rhesymol yn nyluniad y cynllun a gyflwynir i’r corff perthnasol sy’n gwneud penderfyniad fel rhan o’r cais ar gyfer y cynigion.

Metr M Uned o hyd.

Mynedfa Breifat - Dull presennol neu arfaethedig o gael mynediad at eiddo preifat, er enghraifft ffordd breifat neu fynediad gyda giât at ddaliad tir amaethyddol.

N

Newidiadau i Briffordd yr A5025

- Byddai’r Newidiadau i Briffordd yr A5025 yn cael eu gweithredu drwy Adrannau 1, 3, 5 a 7. Byddai’r rhain yn golygu adeiladu ffyrdd osgoi, creu trefniadau cyffordd newydd (gan gynnwys darparu Cyffordd Ffordd Fynediad yr Orsaf Bŵer arfaethedig), a gwelliannau lleol i droadau presennol.

Nodyn Cyngor Technegol TAN Cyfres o ddogfennau polisi sy’n ymwneud â phynciau penodol sy’n ategu Polisi Cynllunio Cymru.

O

Oddi ar y Safle - Ardaloedd o dir sydd eu hangen ar gyfer Prosiect Wylfa Newydd a fyddai’r tu allan i Ardal Datblygu Wylfa Newydd.

Offer - Y peiriannau neu’r seilwaith a ddefnyddir i adeiladu neu i gefnogi gweithredu datblygiad neu gyfleuster penodol.

P

Palmant - Deunyddiau sy’n cynnwys yr haen o dan y sylfaen, haen y sylfaen a haen yr wyneb a roddir ar haen o ddeunydd is na’r safon er mwyn cefnogi llwyth y traffig.

Paratoi a Chlirio’r Safle SPC Y term a ddefnyddir ar gyfer y gwaith sy’n angenrheidiol i glirio safle’r Orsaf Bŵer wrth baratoi ar gyfer y Prif Waith o Adeiladu’r Orsaf Bŵer.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 28

Page 32: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Parciau a Gerddi Hanesyddol - Parciau a Gerddi Hanesyddol yng Nghymru ydy'r safleoedd hynny y credir bod iddynt bwysigrwydd cenedlaethol ac sydd wedi cael eu cynnwys yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.

Peiriannau Symudol Heb Fod ar y Ffordd

NRMM Unrhyw beiriant symudol, eitem o offer diwydiannol mae modd ei symud, neu gerbyd - gyda neu heb gorff - hynny yw:

•ni chafodd ei fwriadu ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau ar y ffordd

•mae ganddo injan danio - naill ai injan betrol gynnau sbarc mewnol, neu injan gynnau gywasgol ddisel.

Polisi Cynllunio Cymru PPW Arweiniad wedi’i baratoi gan Lywodraeth Cymru, sy’n nodi’r polisi cynllunio defnydd tir presennol ar gyfer Cymru, y dylai awdurdodau cynllunio lleol ei ystyried wrth baratoi Cynlluniau Datblygu.

Prif Waith Adeiladu - Gweithgareddau yn Ardal Datblygu Wylfa Newydd a fyddai’n arwain at gwblhau’r Orsaf Bŵer, gan gynnwys lefelu terfynol a gwaith cloddio dwfn ar gyfer sylfeini'r Orsaf Bŵer, gweithgareddau adeiladwaith sifil, comisiynu’r ddwy Uned a gorffen y safle

Prosiect - Prosiect Wylfa Newydd.

Prosiect DCO Wylfa Newydd - Y rhannau hynny o Brosiect DCO Wylfa Newydd y mae’n rhaid iddynt gael cydsyniad drwy Orchymyn Cydsyniad Datblygu - sy’n cynnwys: yr Orsaf Bŵer; datblygiadau eraill ar y safle; Gwaith Morol; Cyfleusterau Oddi ar Safle’r Orsaf Bŵer; a’r Datblygiadau Cysylltiedig.

Prosiect Wylfa Newydd - Prosiect DCO Wylfa Newydd a Gwaith Galluogi.

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

- Math o brosiect sydd wedi’i restru yn Neddf Cynllunio 2008 y mae’n rhaid iddo gael cydsyniad drwy Orchymyn Cydsyniad Datblygu.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

Pŵer Niwclear Horizon Wylfa Cyfyngedig

Horizon Yr ymgeisydd.

Pwll gwanhau - Pwll sydd wedi cael ei ddylunio i arafu taith dŵr o ddŵr ffo i’r system draenio/tir.

Rh

Rhanddeiliad - Sefydliad neu unigolyn sydd â diddordeb neu fudd penodol mewn prosiect.

Rheoliadau Cynefinoedd - Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.

Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

NCN Llwybr beicio cenedlaethol ar draws y Deyrnas Unedig, a sefydlwyd i hybu beicio ledled Prydain, yn ogystal ag ar gyfer gwyliau beicio.

Rhywogaeth Oresgynnol - Planhigion nad ydynt yn rhai brodorol i’r DU sy’n oresgynnol, er enghraifft Clymog Japan.

S

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

SoDdGA Safleoedd a ddynodir eu bod o ddiddordeb arbennig am eu fflora, eu ffawna neu’r nodweddion daearegol neu ffisiograffigol sy’n cael eu diogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Safle’r Orsaf Bŵer - Yr ardaloedd dangosol o dir a môr lle bydd y rhan fwyaf o adeiladau, offer a strwythurau parhaol yr Orsaf Bŵer. Byddai’n cynnwys dau adweithydd niwclear, tyrbinau stêm, y system sugno dŵr oeri ac adeilad y pwmp, strwythurau gollwng, morgloddiau a’r Cyfleuster Dadlwytho Morol, yn ogystal â strwythurau ategol eraill.

Safon Brydeinig BS Safon a gynhyrchir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig.

Sgrinio - Y broses ffurfiol o benderfynu a oes angen cynnal Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol statudol a chyhoeddi Datganiad Amgylcheddol yn unol â Rheoliadau’r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 29

Page 33: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

System Dŵr Oeri - Y system drwyddo unwaith sy’n defnyddio Dŵr Oeri i dynnu cyfran o’r ynni gwres sy’n cael ei gynhyrchu gan yr Adweithyddion Niwclear, ac nad oes modd ei newid yn drydan. Ar gyfer y Prosiect hwn mae hyn yn cynnwys y strwythur sugno, adeiladau’r pwmp, morgloddiau, pyllau selio a’r strwythurau gollwng yn ogystal â'r piblinellau cysylltu a’r twneli ar gyfer pob Uned Cynhyrchu.

Systemau Draenio Cynaliadwy

- Cyfres o arferion a chyfleusterau rheoli dŵr sydd wedi cael eu dylunio i ddraenio dŵr wyneb mewn ffordd a fydd yn darparu dull gweithredu sy’n fwy cynaliadwy na’r arfer o lwybro dŵr ffo drwy bibell i gwrs dŵr.

T

Tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (Dosbarthiad Tir Amaethyddol)

- Caiff ei ddefnyddio i ddiffinio graddfeydd Dosbarthiad Tir Amaethyddol 1, 2 a 3a.

Tir wedi’i wneud - Tir neu ddaear sydd wedi cael ei greu drwy lenwi ardal isel gydag ysbwriel neu ddeunydd llenwi arall.

Torri cysylltiad - Gwahanu trigolion yn ganfyddadwy o gyfleusterau a gwasanaethau maent yn eu defnyddio yn eu cymuned oherwydd ffyrdd gwell neu newydd neu newidiadau mewn llif traffig.

Twristiaeth - Ffenomenon gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd lle mae pobl yn symud i lefydd y tu allan i'w hamgylchedd arferol at ddibenion personol neu fusnes/proffesiynol.

U

Uned - Yr holl offer a systemau, rhai niwclear a heb fod yn rhai niwclear, sy’n gysylltiedig ag un adweithydd niwclear a generadur tyrbin stêm cysylltiedig.

Uwchbridd Yr haen uchaf o brif sydd fel rheol yn 5-20cm o ddyfnder gyda chrynodiad uchel o fater organig lle mae planhigion yn tyfu.

Teitl llawn Byrfodd Disgrifiad

W

Wyneb newydd - Triniaeth sy’n golygu chwistrellu’r ffordd â glynwr bitwmen ac ychwanegu haen o gerrig mân.

Y

Y Datblygiad Arfaethedig - Y Gwelliannau i Briffordd yr A5025

Ymchwiliadau tir - Ymchwiliad mewnwthiol a wneir i gasglu gwybodaeth sy’n ymwneud ag amodau’r tir, fel rheol at ddibenion geodechnegol neu halogiad tir.

Ymgynghorai anstatudol - Ymgynghorai - er nad yw wedi’i ddynodi gan gyfraith - a allai fod â diddordeb mewn cynnig datblygu (edrychwch ar ymgynghorai statudol).

Yr Orsaf Bŵer Bresennol - Gorsaf bŵer niwclear bresennol Magnox yn Wylfa.

Ysgrifennydd Gwladol - Gweinidog y cabinet sydd (ymhlith pethau eraill) yn penderfynu ar geisiadau am Orchmynion Cydsyniad Datblygu yn y pen draw.

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 30

Page 34: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Prosiect Wylfa Newydd Datganiad Dylunio a Mynediad Gwelliannau i Briffordd yr A5025

10 Cyfeiriadau Tabl 10-1 Rhestr cyfeiriadau

ID Cyfeiriad

RD1 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd). [Ar-lein] Ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2012/801/made/welsh [Cyrchwyd 2017].

RD2 Llywodraeth Cymru, 2016b. Nodyn Cyngor Technegol 12: Canllawiau ar Ddatganiadau Dylunio a Mynediad [Ar-lein] Ar gael yn: http://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan12/?skip=1&lang=cy [ Cyrchwyd 2017]

RD3 Canllawiau ar Ddatganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru yn 2014 [Ar-lein] Ar gael yn: https://dcfw.org/design-and-access-statements-in-wales/ (Saesneg yn unig) [ Cyrchwyd 2017]

RD4 Datganiad Polisi Cenedlaethol Cyffredinol ar Ynni (EN-1) dyddiedig Gorffennaf 2011 (NPS EN-1).[Ar-lein] Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/national-policy-statements-for-energy-infrastructure (Saesneg yn unig) [ Cyrchwyd 2017]

RD5 Llywodraeth y DU, 2004. Mesur Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, Llundain: Llywodraeth y DU.

RD6 Llywodraeth Cymru, 2016. Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9, Tachwedd 2016). [Ar-lein] Ar gael yn: http://gov.wales/topics/planning/policy/ppw/?skip=1&lang=cy [Cyrchwyd 2017].

RD7 Cyngor Sir Ynys Môn, 1993. Cynllun Strwythur Gwynedd, Llangefni: Cyngor Sir Ynys Môn.[ar-lein] Ar gael yn: http://www.ynysmon.gov.uk/cynllunio-a-gwastraff/polisi-cynllunio/cynlluniau-a-pholisiau-cyfredol/cynllun-fframwaith-gwynedd?redirect=false [Cyrchwyd 2017]

RD8 Cyngor Sir Ynys Môn, 1996. Cynllun Lleol Ynys Môn. [Ar-lein] Ar gael yn: http://www.ynysmon.gov.uk/cynllunio-a-gwastraff/polisi-cynllunio/cynlluniau-a-pholisiau-cyfredol/cynllun-lleol-ynys-mn/ [Cyrchwyd 2017].

RD9 Cyngor Sir Ynys Môn, 2005. Cynllun Datblygu Unedol wedi’i Stopio (heb ei fabwysiadu) Rhagfyr 2005. [Ar-lein] Ar gael yn: http://www.ynysmon.gov.uk/cynllunio-a-gwastraff/polisi-cynllunio/cynlluniau-a-pholisiau-cyfredol/cynllun-datblygu-unedol/cdu-wedii-stopio-heb-ei-fabwysiadu-rhagfyr-2005?redirect=false [Cyrchwyd 2017].

RD10 Cyngor Sir Ynys Môn, 2014. Gorsaf Niwclear Newydd yn Wylfa: Canllawiau Cynllunio Atodol, Llangefni: Cyngor Sir Ynys Môn.[ar-lein] Ar gael yn: http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2014/08/11/i/r/p/Gorsaf-Niwclear-Newydd-yn-Wylfa-Canllawiau-Cynllunio-Atodol-Mabwysiadwyd-Gorffennaf-2014.pdf [Cyrchwyd 2017]

RD11 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd - Fersiwn Cyfansawdd yn Cynnwys Materion sy’n Codi Ar gael yn: https://www.ynysmon.gov.uk/Journals/y/p/e/Cynllun-Cyfansawdd-NMC-2017.pdf

ID Cyfeiriad

[Cyrchwyd 2017].

RD12 Llywodraeth Cymru, 2007. Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth [Ar-lein] Ar gael yn: http://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan18/?skip=1&lang=cy [Cyrchwyd 2017].

RD13 Llywodraeth Cymru, 2009. Nodyn Cyngor Technegol 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored [Ar-lein] Ar gael yn: http://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan16e/?skip=1&lang=cy [Cyrchwyd 2017]

RD14 Cyngor Sir Ynys Môn, 2008. Canllawiau Cynllunio Atodol Dylunio ar gyfer yr Amgylchedd Trefol a Gwledig [Ar-lein] Ar gael yn http://www.ynysmon.gov.uk/cyfarwyddyd-cynllunio-atodol-canllawiau-dylunio-yr-amgylchedd-adeiledig-gwledig-a-threfol/2464.article?redirect=false [Cyrchwyd 2017]

RD15 Cyngor Sir Ynys Môn, 2007. Canllawiau Cynllunio Atodol Cynllunio a’r Iaith Gymraeg [Ar-lein] Ar gael yn: http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/public/attachments/68/Cynllunio_ar_Iaith_Gymraeg.pdf [Cyrchwyd 2017]

RD16 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (fel y’i diwygiwyd) 2016 [Ar-lein] Ar gael yn: http://legislation.data.gov.uk/wsi/2016/59/made/data.htm?wrap=true [Cyrchwyd 2017]

RD17 Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd (Asiantaeth Priffyrdd, 2011) (DMRB)

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 31

Page 35: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

Datganiad Dylunio a Mynediad Prosiect Wylfa Newydd Gwelliannau i Briffordd yr A5025

[Mae’r dudalen hon i fod yn wag]

© Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd Tudalen 32

Page 36: YNNI YN GWEITHIO I BRYDAIN Prosiect Wylfa Newydd ... · • Datblygiadau Cysylltiedig: sy’n cynnwys gwaith a fydd yn rhan o’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n hwyluso darparu

TBCWN0904-QUD-OS-REP-00002_Welsh

Pŵer Niwclear Horizon Sunrise House 1420 Charlton Court Gloucester Business Park Gloucester, GL3 4AE

Ffôn +44 (0)1242 508508

www.horizonnuclearpower.com

CYSYLLTU Â NI: Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu adborth ynghylch Prosiect Wylfa Newydd gallwch chi gysylltu â ni ar ein llinell gymorth radffôn Wylfa Newydd arbennig a’n cyfeiriad e-bost, drwy ffonio 0800 954 9516 neu e-bostio [email protected]

Mae’r holl ddeunydd sydd yn y ddogfen hon, oni nodir fel arall, yn hawlfraint i Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd, ac ni cheir ei atgynhyrchu heb ganiatâd ymlaen llaw. Gall defnyddio neu gopïo’r deunydd heb awdurdod mewn unrhyw ffordd dorri rheolau nod masnach, hawlfraint a hawliau eiddo eraill a statudau sifil a throseddol. Ni cheir defnyddio’r deunydd mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw nod masnach, hawlfraint na hawliau eiddo eraill ac mae Horizon Nuclear Power Wylfa Ltd yn cadw pob hawl mewn perthynas â defnyddio heb awdurdod o’r fath.