Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
L L Y F R 1
Diwrno� ym ��wyd Mari � Max yng N�hymru.
Helô! Mari ydw i! Dwi’n byw yn nhref
Caerfyrddin.
C A E R F Y R D D I N
Mae tipyn o gyffro wedi bod yn ein stryd ni'r wythnos hon. Daeth lori fawr o Loegr ddydd
Llun yn llawn dodrefn i’r tŷ gwag drws nesaf.
C A E R F Y R D D I N
C A E R F Y R D D I N
Drannoeth daeth y teulu Miller i fyw yn
Stryd yr Eglwys.
Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i wneud ffrind
newydd sbon hefyd. Dyma fy nghymydog, yr holl
ffordd o Birmingham yn Lloegr. Ei enw yw Max
Miller.Helô ffrindiau! Max ydw i. Dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â
phobl Cymru!
Beth am i ni ddechrau drwy fynd am dro o
amgylch Caerfyrddin, Max, er mwyn i ti gael cwrdd â rhai o bobl y
dref?
Grêt Mari! Hoffwn i weld pa fath o
siopau sydd yma!
C A E R F Y R D D I N
Dyma farchnad Caerfyrddin. Mae llawer o
wahanol siopau yma. Dere i ni gael cwrdd ag ambell un
o’r siopwyr, Max.
C A E R F Y R D D I N
Dyma siop Albert Rees, y cigydd yn y farchnad. Pwy sy’n gweithio fan hyn?
C A E R F Y R D D I N
C A E R F Y R D D I N
Helô, Albert ydw i. Fi sy’n berchen y
siop yma.
Beth rydych chi’n ei werthu,
Albert?
Mae pob math o gig ar werth yma. Mae ein cig moch
yn boblogaidd iawn! Diolch yn fawr
Albert. Hwyl fawr! Hwyl!
C A E R F Y R D D I N
Dyma’r siop ffrwythau a llysiau yn y farchnad. Pwy sy’n gweithio fan
hyn?
C A E R F Y R D D I N
Helo, Iona ydw i. Fi sy’n gweithio yn y
siop yma.
Beth rydych chi’n ei
werthu, Iona?
C A E R F Y R D D I N
Dwi’n hoffi mefus!
Mmm, dwi’n hoffi bananas.
Beth rwyt ti’n ei hoffi, Max?
C A E R F Y R D D I N
Dwi’n gwerthu pob math o ffrwythau a llysiau yn fy siop.
Dyma Fferyllfa D.King Morgan. Pwy
sy’n gweithio fan hyn?
C A E R F Y R D D I N
Helô, Huw ydw i! Fi yw’r fferyllydd
yma.
Beth rydych chi’nei werthu, Huw?
Rydyn ni’n gwerthu pob math o bethau sy’n eich gwella pan fyddwch chi’n dost.
C A E R F Y R D D I N
Dyma’r Stiwdio Gerdd. Pwy sy’n
gweithio fan hyn?
C A E R F Y R D D I N
Helô, Rhys ydw i. Dwi’n gweithio yn
y siop.
Mae gennym ni bob math o offerynnau
cerddorol a cherddoriaeth ar
werth yma.
Beth rydych chi’n ei werthu,
Rhys?
C A E R F Y R D D I N
Wel, dyna ddiwrnod llawn cyffro a
gawson ni’n dau heddiw, Max. Wyt ti
wedi mwynhau?
Ydw wir, Mari. Dwi wedi cael diwrnod wrth fy
modd yn mynd o amgylch siopau
Caerfyrddin ac yn dysgu am swyddi’r siopwyr.
Byddai hynny’n wych, Mari! Dwi’n
edrych ymlaen at yr antur nesaf yn
barod!
Beth am i ni gael diwrnod arall yn
ymweld â phobl eraill yn eu swyddi mewn
rhan arall o Gymru cyn bo hir?
C A E R F Y R D D I N