9

Eryri - Snowdonia - Pwrpas Parc Cenedlaethol yw · 2020. 4. 9. · dal y bws ysgol o Lanbedr i Harlech. Oriau ein hysgol yw 8.15 tan 2.20 gan mai dyna pryd mae’r trenau o Benrhyndeudraeth

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 1

    2

    3

    4

    Beth yw Parc Cenedlaethol?Pwrpas Parc Cenedlaethol yw: • gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a hen ddiwylliant yr ardal• rhoi'r cyfle i’r cyhoedd ddeall a mwynhau’r pethau sy’n gwneud y Parc yn le arbennig

    Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, penderfynodd Llywodraeth Prydain sefydlu Parciau Cenedlaethol er mwyn annog pobl i fynd allan i’r awyr agored i fwynhau eu hunain. Sefydlwyd y Parciau Cenedlaethol cyntaf ym Mhrydain yn 1951.

    Thema 1: Ceri ddarganfod... Ffeithiau am Barciau Cenedlaethol

    Ffeithiau Difyr am Barciau Cenedlaethol PrydainMae 15 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain. Dyma restr ohonynt yn ôl y dyddiad y cawsant eu creu:

    1951 Peak District, Lake District, Eryri a Dartmoor1952 Arfordir Penfro a North York Moors1954 Yorkshire Dales ac Exmoor1956 Northumberland1957 Bannau Brycheiniog1989 The Broads2002 Loch Laomainn is nan Tròisichean (Loch Lomond a'r Trossachs)2003 A' Mhonaidh Ruaidh (Cairngorms)2005 New Forest2009 South Downs

    Y Parc Cenedlaethol mwyaf yn y DU yw Pàirc Nàiseanta a' Mhonaidh Ruaidh yn yr Alban. Mae’n 1,467 milltir sgwâr sydd yn fwy na Gwlad Luxemburg.

    ‘‘Helo… Ceri ydw i. Dwi’n hoffi darganfod ffeithiau newydd. Beth am ddod ar daith gyda mi i ddarganfod ffeithiau am Barc Cenedlaethol Eryri.’’

    Ffeithiau difyr am Barc Cenedlaethol EryriParc Cenedlaethol Eryri (1) yw’r mwyaf yng Nghymru. Maint ardal y Parc yw 823 milltir sgwâr neu 1,324km². Mae hyn:-• Ddwywaith maint Ynys Môn (2)• Ychydig bach yn llai na Sir Benfro (3)• Yr un maint â siroedd Caerdydd (4), Merthyr Tydfil (5), Rhondda Cynon Taf (6), Casnewydd (7), Caerffili (8) a Thorfaen (9) i gyd gyda’i gilydd.

    Ffeithiau Difyr am Barciau Cenedlaethol y Byd

    Parc Cenedlaethol YellowstoneYn 1872 sefydlwyd y Parc Cenedlaethol Cyntaf, sef Parc Cenedlaethol Yellowstone yn America. Yma gwelwch:

    BualArth Lwyd

    Geiser

    2

    1

    3

    4

    6 87

    59

    0 100km

    PeakDistrict

    Eryri

    Sir Benfro

    BannauBrycheiniog

    Exmoor

    Dartmoor NewForest

    SouthDowns

    TheBroads

    LakeDistrict

    YorkshireDales

    North YorkMoors

    Northumberland

    Loch Laomainn isnan Tròisichean

    A' Mhonaidh Ruaidh

    Parc Cenedlaethol Ynys LasY Parc Cenedlaethol mwyaf yn y byd yw Parc Cenedlaethol Gogledd-ddwyrain yr Ynys Las (Grønlands Nationalpark). Mae’n 375,000 milltir sgwâr. Mae hyn 42 gwaith yn fwy na holl Barciau Cenedlaethol Prydain gyda’i gilydd!

    Un a fu’n flaengar wrth sefydlu parciau cenedlaethol yn America oedd John Muir, Albanwr a ymfudodd yno yn blentyn.

    Yn America, y wladwriaeth sydd berchen ar holl dir y parciau, sy’n wahanol iawn i ni ym Mhrydain. Llai nag 1% o Barc Cenedlaethol Eryri sydd dan berchnogaeth yr Awdurdod.

    Mae yna 6,555 o Barciau Cenedlaethol ar draws y byd! O’r rhain, mae 359 ohonynt yn Ewrop.

    Grønlands Nationalpark

    Mae yna 2,381km (1,479 milltir) o lwybrau cyhoeddus ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

    Rhowch nhw at ei gilydd, a gallech ddreifio lonydd troellog i Bari yn yr Eidal, neu fel hed y frân, gallech gyrraedd ffiniau Rwsia.

    Dyma ychydig o ffeithiau am Barciau Cenedlaethol Ewrop1. Parc Cenedlaethol Vatnajökul

    yng Ngwlad yr Iâ yw’r mwyaf yn Ewrop. Mae’n 15,000 km².

    2. Parc Cenedlaethol Ormtjernkampen yn Norwy yw’r lleiaf yn Ewrop sy’n ddim ond 9km².

    3. Y Parc Cenedlaethol mwyaf gogleddol yw Parc Cenedlaethol Stabbursdalen yn Norwy.

    4. Y Parc Cenedlaethol mwyaf deheuol yw Parc Cenedlaethol

    Samariá Gorge yn Crete.

    Hawlfraint - NPS P

    hoto

    Hawlfraint - NPS Photo

  • Ceri adnabod … tirwedd

    “Mae tirwedd Eryri yn amrywiol iawn. Yma mae'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru (a'r uchaf ym Mhrydain i'r de o'r Alban) ynghyd â milltiroedd o draethau, cannoedd o lynnoedd, a gweundiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol fel Y Migneint.”

    Tirwedd EryriThema 2:

    Yr WyddfaUchder 1,085mMaint (ardal) 75.3km²Ystyr yr enw ‘Carnedd’ neu ‘fedd’ yw ystyr ‘Yr Wyddfa’ ac mae sôn bod Rhita Gawr wedi ei gladdu ar y mynydd.

    Defnydd tir Amaethyddiaeth / hamdden.Planhigion Lili’r Wyddfa, brân goesgoch,/anifeiliaid cigfran, tinwen y garn, geifr, defaid.Bygythiad Erydiad llwybrau, ysbwriel, geifr gwyllt.

    Llyn TegidUchder 163mMaint (ardal) 10.24km²Ystyr yr enw Dywed chwedl fod Tegid Foel yn byw ym

    Mhenllyn ar lan y llyn.

    Defnydd tir Hamdden.Planhigion Gwyniad, dyfrgi, cwtiar, /anifeiliaid malwen ludiog, crychbysgodyn.Bygythiad Effaith rhywogaethau estron a phobl ar gynefin y llyn.

    Y MigneintUchder 479mMaint (ardal) 142.35km²Ystyr yr enw Mae’n enw ar blanhigyn sy’n byw ar dir gwlyb, sef mignen.

    Defnydd tir Amaethyddiaeth.Planhigion Defaid, grug, plu’r gweunydd,/anifeiliaid boda tinwyn, cornicyll y mynydd,

    grugiar ddu.

    Bygythiad Y corsdir yn sychu, effaith glaw asid, beiciau modur yn erydu’r tir, tân.

    Morfa HarlechUchder 0mMaint (ardal) 6km²Ystyr yr enw Ystyr ‘Harlech’ ydy craig uchel

    serth.

    Defnydd tir Amaethyddiaeth / hamdden / planhigfa goed.

    Planhigion Moresg, marchwellt arfor, /anifeiliaid clymwellt, tegeiranBygythiad Erydiad o’r twyni, ysbwriel o’r tân.

    Y Migneint

    Morfa Harlech

    Yr Wyddfa

    Llyn Tegid

    Ffaith Ddifyr – Wyddoch chi fod coetiroedd derw yn arfer gorchuddio cymoedd a dyffrynnoedd Eryri? Dim ond rhan fach o’r hen goetiroedd hyn sydd ar ôl heddiw. Mae’r rhain bellach yn Warchodfeydd Natur ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

    Pa fath o dir sydd yn Eryri?

    Trefol

    Tir mynyddig

    Iseldir

    Bryniau

    Llynnoedd mawr

    Dyffrynnoedd

    Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad i bob un o’r uchod!Ffaith Ddifyr –

    Mae gweundiro

    edd

    fel Y Migneint

    yn cael

    eu cydnabod

    fel

    amgylchedd m

    wy prin

    na choedwigo

    edd glaw

    trofannol. Mae

    10-15%

    o weundiroedd

    y byd ym Mhr

    ydain.

    © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. 100022403, 2009.

  • Ceri gyfarfod â … phobl Eryri

    “Wyddoch chi fod 25,682* o bobl yn byw yn Eryri?. Byddai’r rhain yn ffitio yn lefel isaf Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd petai’r plant bach iawn yn eistedd ar lin.”

    Pobl yn EryriThema 3:

    Mae’r bobl yma yn byw mewn pentrefi a threfi yn Eryri.Dewch i ni gyfarfod rhai ohonynt:

    Enw: Iwan ArnoldOedran: 33Nifer o blant: 2Prif Iaith: CymraegArdal: BeddgelertSwydd: Gweithiwr Stad

    Rwyf wedi dewis gweithio yn Eryri gan i mi gael fy nwyn i fyny yma. Dwi wrth fy modd yn crwydo’r lle, siarad efo’r cymeriadau lliwgar, a darganfod yr hanes sydd i’r cymunedau bychain. Rwy'n gweithio i Barc Cenedlaethol Eryri yn cynnal a chadw waliau, llwybrau, meysydd parcio, gatiau a chamfeydd. Defnyddiaf fan i fynd i’r gwaith. Fy niddordebau yw cerdded a dringo yn Eryri.

    Enw: Bernhard LanzOedran: 47Nifer o blant: 3Prif Iaith: AlmaenegArdal: DolgellauSwydd: Rheoli Gwesty

    Rwy’n byw yn Eryri ers saith mlynedd ac yn Reolwr Gwesty yn un o’r ardaloedd mwyaf prydferth yr wyf erioed wedi’i weld. O ddydd i ddydd rwy’n goruchwylio gwaith y gwesty, yn gweithio yn y gegin, ac yn cynnig gwasanaeth i’r cwsmer. Mae 20 o bobl yn gweithio yn y gwesty. Fy niddordebau pan gaf yr amser yw chwaraeon, darllen a theithio.

    Enw: Siwan HywelOedran: 26Prif Iaith: CymraegArdal: Ysbyty IfanSwydd: Cydlynydd Cymraeg i Oedolion

    Er i mi fyw i ffwrdd am flynyddoedd, rwyf bellach yn ôl yn byw yn fy nghynefin. Rwy’n gweithio gyda dysgwyr Cymraeg yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion ym Mangor. Byddaf yn rhannu car gyda thair arall o’r un ardal i fynd i 'ngwaith sy’n well i’r amgylchedd ac i’r boced! Rwy’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Eryri, a byddaf wrth fy modd yn cymdeithasu gyda ffrindiau. Pan gaf amser rwy’n hoffi cerdded yn Eryri, gan fwynhau’r golygfeydd godidog.

    Enw: Mari Wyn LloydOedran: 12Prif Iaith: CymraegArdal: LlanbedrSwydd: Plentyn Ysgol

    Rwy’n mynd i Ysgol Ardudwy yn Harlech ac mae tua 300 o blant yno. Bob bore, mae’r bws mini yn fy nghodi am 7.30 i fynd i Lanbedr, ac rwy’n dal y bws ysgol o Lanbedr i Harlech. Oriau ein hysgol yw 8.15 tan 2.20 gan mai dyna pryd mae’r trenau o Benrhyndeudraeth ac Abermaw yn dod i Harlech. Celf, Cymraeg ac Addysg Gorfforol yw fy hoff bynciau. Yn fy amser hamdden, rwy’n hoff iawn o helpu ar y fferm a mynd ar fy meic. Ar nos Lun, rwy’n mynd i’r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol. Rwyf wrth fy modd yn byw yma gan nad oes llawer o geir, ac mae’n ddistaw a diogel yma.

    Enw: Joe RobertsOedran: 60Nifer o blant: 3Prif Iaith: CymraegArdal: Y BalaSwydd: Cigydd

    Rwyf wedi byw yn Eryri ar hyd fy oes, ac rwy’n rhedeg siop gig sydd wedi bod yn ein teulu ers dros 150 o flynyddoedd. Mae’r mab a’r ferch yn rhan o’r busnes hefyd, ac mae 10 o bobl yn gweithio yn y siop. Byddaf yn torri’r cig ac yn gweini wrth y cownter. Rwyf yn defnyddio’r fan i ddod i fy ngwaith. Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau gwylio pêl-droed, treulio ychydig o amser yn yr ardd, a chyfarfod â ffrindiau.

    Iwan Arnold

    Bernhard Lanz

    Siwan Hywel

    Mari Wyn Lloyd

    Joe Roberts

    Bedd

    geler

    t

    Poblo

    gaeth

    617

    Betws Garmon

    Poblogaeth 22

    Aberdyfi

    Poblogaeth

    781

    Harlech

    Poblogae

    th 1,406

    Y BalaPoblogaeth 1,98

    0

    DolgellauPoblogaeth 2,678

    Betws y Coed

    Poblogaeth 534

    Ysbyty IfanPoblogaeth 95

    Croeso

    r

    Poblog

    aeth 1

    9

    © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. 100022403, 2009.

    *Data Cyfrifiad 2001

  • Ceri ymchwilio … ymwelwyrYmwelwyrThema 4:

    O ble daw’r ymwelwyr? - Fe ddaw’r ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Mae 3.4 miliwn yn dod o’r Deyrnas Unedig, yn enwedig gwahanol rannau

    o Gymru a Lloegr. Dewch i ni gael edrych am funud ar y siartiau isod...

    Beth mae ymwelwyr yn ei wneud yn Eryri?Mae llawer o bobl yn dod i fwynhau cefn gwlad, nifer ohonynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, ac eraill i deithio o amgylch yr ardal ac ymweld â threfi a phentrefi bach.

    Mae 62% o’r holl ymwelwyr dydd yn ymweld â Betws y Coed. Mae 94% o’r holl ymwelwyr wedi bod yn Eryri o’r blaen.

    Edrychwch ar y siart isod i weld beth mae’r ymwelwyr yn ei wneud pan maent yn ymweld ag Eryri.

    “Wyddoch chi fod yna tua 10 miliwn ymweliad dydd i Eryri bob blwyddyn?”

    Ffaith Ddifyr – Mae nifer o actorion Hollywood wedi bod yn ffilmio yn Eryri fel Angelina Jolie (Tomb Raider 2), Richard Gere a Sean Connery (First Knight), ac Uma Thurman (Robin Hood).

    Pryd maen nhw’n ymweld?

    Mr Jenkins, Gogledd L

    lundain –

    “Wna i fyth ang

    hofio’r lle hyfryd

    hwn – nefoedd a

    r y ddaear!”

    Nick & Lisa Rail, Califo

    rnia, UDA –

    “Gwyllt a Gwlano

    g!”

    Barbara Jones, Surrey

    , Lloegr –

    “Chewch chi ddi

    m gwell

    golygfa yn unlle

    arall!”

    I. P. Jauth, Yr Almaen

    “Rwy’n caru ac y

    n edmygu Eryri”

    O. Hoffman, Ontario, C

    anada –

    “Hyfryd – y wlad

    a’i phobl!”

    N. Hough, De Affrica –

    “Rhy brydferth i’

    w ddisgrifio!”

    Heather Robbins, Burt

    on-on-Trent, Lloegr –

    “Rwy’n bod yma

    !”

    Yr WyddfaCerddwyr

    Betws y CoedCanolfan Groeso APCE

    Canolfan Groeso APCE

    Beicio

    Castell

    Llwybrau

    Safle carafanau a gwersyll

    Cwrs golff

    Marchogaeth

    Pysgota

    Atyniadau eraill i ymwelwyr

    Chwaraeon dŵ r

    Ffaith Ddifyr – Wyddoch chi mai’r gair Saesneg am y pentrefi a’r trefi mwyaf poblogaidd ar gyfer ymwelwyr ydy ́honeypots̀? Fel gwenyn o amgylch

    pot mêl mae pawb yn cael eu denu atynt.

    AberdyfiTraeth

    Caste

    ll y Be

    re

    Llanfih

    angel y

    Penna

    nt

    Aberg

    wyna

    nt

    March

    ogaeth

    Ceffyl

    Y BalaHwylio - Llyn Tegid

    Harlech

    Golff a'r Ca

    stell

    Hawlf

    raint y

    Goron

    (2009)

    Croes

    o Cym

    ru

    © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. 100022403, 2009.

    Coed y Brenin

    Beicio Mynydd

    Hawlfraint y Goron (2009) Croeso Cymru

  • FfermioMae miloedd o flynyddoedd o ffermio wedi rhoi’r canlynol i ni:• Caeau traddodiadol sydd gyda siapiau ac enwau diddorol • Terfynau caeau (gwrychoedd, ffensys, waliau cerrig)• Adeiladau fferm hen a modern• Tirwedd agored heb goed na ffiniau amlwg

    Mae yna lawer iawn o ddefaid yn Eryri. Mae’r mwyafrif yn pori ar yr ucheldir. Nid yw’r tirwedd na’r tywydd yn Eryri yn caniatáu tyfu llawer o gnydau.

    Thema 5: Ceri weithio

    Diwydiant Eryri

    Ffaith Ddifyr – Wyddoch chi fod gwlân wedi bod yn ddiwydiant pwysig yn y Bala a Dolgellau yn y 19eg ganrif? Hyd heddiw gallwch weld olion hen lwybrau a ddefnyddwyd i gario gwlân o'r Bala i Bermo.

    MwyngloddioYn y 19fed ganrif roedd y diwydiant mwyngloddio yn bwysig iawn yn Eryri. Mae copr, aur, plwm, haearn a llechi i gyd wedi eu mwyngloddio yma yn eu tro.

    Mae tystiolaeth o’r hen ddiwydiant i’w weld ar dirlun Eryri hyd heddiw – hen adfeilion, gwastraff llechi, a’r inclein.

    Byddai nifer o’r chwarelwyr oedd yn gweithio yn y chwareli yn byw mewn barics yn ystod yr wythnos. Byddent yn mynd adre ond ar nos Sadwrn ac yna’n dychwelyd yn gynnar fore dydd Llun.

    Ffaith Ddifyr – Wyddech chi i lechi gael eu ffurfio wrth wasgu a phlygu cerrig llaid?

    TwristiaethErbyn heddiw, prif ddiwydiant Eryri yw twristiaeth. Daw miloedd ar filoedd o ymwelwyr i ymweld ag Eryri i wneud pob math o weithgareddau fel cerdded, beicio mynydd, dringo a llawer iawn mwy. Mae atyniadau twristiaeth i’w gweld ym mhob man.

    Ffaith Ddifyr – Mae yna fwy o reilffyrdd bach yn Eryri nac yn unrhyw Barc Cenedlaethol arall yn y byd.

    “Mae pobl wedi bod yn defnyddio’r tir ar gyfer ffermio yn Eryri ers 4,000cc. Gallwch weld rhai o’u holion ar y tir hyd heddiw.”

    Cneifio

    Blaenau Ffestiniog

    Rheilffordd Yr Wyddfa

    Defnydd Tir yn Eryri

    Llynnoedd mawr

    Coedwigaeth

    Porfa iseldir

    Porfa ucheldir

    Chwareli/Mwyngloddfeydd

    Llechen

    Aur

    Copr

    Plwm

    © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. 100022403, 2009.

    Dyma graff yn dangos beth yw gwaith pobl Eryri heddiw.

    Haearn

    Hawlfraint - Gwasanaeth Archifau Gwynedd

    Data Cyfrifiad 2001

  • Ond byddai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn hoffi gweld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio o amgylch yr ardal. Felly, mae’r Awdurdod yn rhoi arian i gefnogi’r gwasanaeth bws ‘Sherpa’r Wyddfa’. Mae’r bws yn cysylltu’r holl brif feysydd parcio a phentrefi o amgylch yr Wyddfa. Gall pobl adael eu ceir ac ymlacio ar fws er mwyn cychwyn eu taith. Mae’r bws yn ddefnyddiol iawn ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal hefyd. Ychydig iawn o ardaloedd gwledig sydd gyda gwasanaeth bws cyson fel hwn.

    Thema 6: Ceri deithio

    “Wyddoch chi fod 92% o’r ymwelwyr yn teithio mewn car i Eryri? Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn defnyddio eu ceir i deithio o amgylch Eryri. Gan fod meysydd parcio yn brin mewn rhai lleoedd, mae tuedd i bobl barcio lle na ddylent.”

    Teithio yn Eryri

    Mae’r map yn dangos llwybrau’r bws. Ydi ffyrdd Eryri mor syth â hyn? Edrychwch sut mae'n edrych.

    Ffaith Ddifyr – Daw’r enw ‘Sherpa’ o Nepal. Dyma’r enw a roddir i’r bobl sydd yn cludo offer a nwyddau mynyddwyr i ‘base camp’ wrth droed Everest cyn i’r mynyddwyr ddringo i’r copa. Bu’r tîm cyntaf i gyrraedd copa Everest yn ymarfer yn Eryri a gallwch weld peth o’u hoffer gwreiddiol yng Ngwesty Pen y Gwryd.

    Pa ffyrdd eraill sydd yna o deithio o amgylch Eryri?

    Oes rhai yn well na’i gilydd?

    Beth sy’n digwydd os oes gormod o geir ar ffyrdd

    culion Eryri?

    © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. 100022403, 2009.

    S4 Sherpa'r Wyddfa

    S96 Sherpa'r Wyddfa

    S1 Sherpa'r Wyddfa

    S6 Sherpa'r Wyddfa

    S2 Sherpa'r Wyddfa

    Rheilffyrdd Cyhoeddus

    Rheilffyrdd Hamdden

  • Thema 7: Ceri fapio Eryri

    “Dwi’n hoff iawn o ddarllen mapiau. Ymunwch â mi yn yr hwyl o ddod o hyd i leoliadau ar y map.”

    2. Mewn neu Allan? - Pa bentrefi/trefi sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a pha rai sydd y tu allan i’r ffin?

    Pentref / Tref

    Conwy

    Machynlleth

    Y Bala

    Llanberis

    Harlech

    Betws y Coed

    Dolgellau

    Mewn AllanCyfeirnod Grid

    7070

    7000

    9030

    5060

    5030

    7050

    7010

    Cyfeiriad

    Gogledd

    De

    Dwyrain

    Gorllewin

    Tref/Pentref Cyf Grid

    3. Posau3.1 Mae’r dref yma yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri,

    ond nid yw yn y Parc. Fedrwch chi ei henwi?

    3.2 Sawl ‘Morfa’ sydd yn Eryri? Beth yw eu cyfeirnod grid?

    3.3 Ym mha grid welwch chi’r nodweddion canlynol?

    Nodweddion

    Mwyaf o safleoedd gwersylla

    Dim tref na phentref

    Tair hostel ieuenctid

    Cyfeirnod Grid

    3.4 Mae yna wyth hostel ieuenctid yn Eryri. Pa un yw'r mwyaf...

    Cyfeiriad

    Gogleddol

    Deheuol

    Dwyreiniol

    Gorllewinol

    Cyfeirnod Grid

    10

    00

    90

    20

    30

    40

    50

    60

    70

    80

    10

    00

    20

    30

    40

    50

    60

    70

    80

    40 50 60 70 80 90 00

    40 50 60 70 80 90 00

    1. Cyfeiriad Mae Trawsfynydd yng

    nghyfeirnod grid 7030.

    Fedrwch chi enwi tref/pentrefi sydd i’r Gogledd, De, Dwyrain a Gorllewin ohono?

    4. Mynd am daithMae Ceri am deithio o Fetws y Coed (7050) i Ddolgellau (7010).

    Ar y daith hoffai gael picnic

    ger castell

    ac ymweld ag Abaty

    .

    4.1 Beth yw rhifau'r ffyrdd y bydd Ceri yn teithio arnynt?4.2 Ble caiff Ceri y picnic?4.3 Beth yw enw’r Abaty?

    “Wrth deithio drwy Eryri, mae Ceri yn awyddus i ymweld ag un o bob atyniad a restrir yn yr allwedd sydd ar y map! Fedrwch chi drefnu taith i Ceri sydd yn ymweld â’r atyniadau? Dylech roi cyfeirnod grid i’r atyniad a nodi wrth ymyl pa dref / pentref y gwelir yr atyniad fel y gall Ceri ei ddarganfod.”

    Canolfan Groeso

    Adeilad hanesyddol

    Castell

    Abaty/Eglwys

    Amgueddfa

    Gardd/ Gardd Goed

    Gwarchodfa Natur

    Rheilffordd a ddiogelwyd

    Atyniadau eraill i ymwelwyr

    Golygfan

    Picnic

    Llwybrau

    Safle carafanau a gwersyll

    Cwrs golff

    Hosteli Ieuenctid

    G

    © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. 100022403, 2009.

    90

  • Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddogion Addysgar 01766 772600 neu ebostiwch [email protected]

    Am ragor o wybodaeth am Barc Cenedlaethol Eryri, ewch i'n gwefan: www.eryri-npa.gov.uk