Upload
tao
View
54
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Geiriau Tebyg. Asesu ar Gyfer Dysgu / AfL MEDDWL-PARU-RHANNU THINK-PAIR-SHARE. ADOLYGU. Ydych chi’n cofio’r geiriau tebyg?. Meddwl - yn unigol ysgrifenna restr o’r geiriau tebyg rwyt ti’n gofio. Mae gen ti ddau funud. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Geiriau Tebyg
ADOLYGU Asesu ar Gyfer Dysgu / AfL
MEDDWL-PARU-RHANNU
THINK-PAIR-SHARE
• Meddwl - yn unigol ysgrifenna restr o’r geiriau tebyg rwyt ti’n gofio. Mae gen ti ddau funud.
• Paru - rhaid cymharu syniadau gyda phartner. Mae gennych chi funud.
• Rhannu - yn awr rhaid rhannu’ch syniadau gyda gweddill y dosbarth.
Ydych chi’n cofio’r geiriau tebyg?
Y Sgiliau Allweddol
• Cyfathrebu
• Meddwl
• Y Cwricwlwm Cymreig
Byddwch chi’n datblygu’r sgiliau yma:
Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y wers byddwch chi’n gwybod: • pa fath o gwestiwn arholiad ar y
geiriau tebyg fyddwch chi’n ei gael• beth ydy’r meini prawf llwyddiant
Geiriau Allweddol:
• meini prawf• llwyddiant• ystyr• eglur• camgymeriadau• cystrawen• llunio• cynllun• cywirdeb• gwallau
• criteria• success• meaning• clear• mistakes• syntax/construction• construct• plan• correctness• mistakes/faults
Meini Prawf Llwyddiant
• gwybod a deall ystyr y geiriau tebyg• gallu llunio brawddegau i ddangos yn
eglur ystyron y geiriau tebyg yn llwyddiannus.
• ysgrifennu brawddegau heb gamgymeriadau iaith na chamgymeriadau sillafu
• ysgrifennu brawddegau heb gamgymeriadau cystrawennol
CA3 Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth Adran A Defnyddio’r Iaith -
Cwestiwn 1 - (y Papur Enghreifftiol)
Dyma fydd y cwestiwn yn yr arholiad:Lluniwch frawddegau i ddangos yn eglurystyr y geiriau tebyg canlynol: [8]
(i) hun(ii) hyn (iii)Cymru(iv)Cymry
Cynllun Marcio• Mae 2 farc am bob brawddeg sy’n dangos
yn eglur ystyr a defnydd y geiriau ac sy’n berffaith gywir o ran cywirdeb iaith.
• Cewch chi 1 marc os ydych chi wedi dangos yn eglur ystyr y gair.
• Ond rydych chi’n colli marciau am:– wallau iaith e.e gwallau treiglo / gwallau
sillafu = ½ marc– wallau cystrawennol = ½ marc
• 0 marc os dydy ystyr y gair ddim yn glir.
Enghreifftiau
Mae Rhys bob amser yn eistedd ar ei
ben ei hun.
Mae’r frawddeg hon yn haeddu marciau llawn = 2 farc.
Mae ystyr a defnydd y gair yn hollol eglur a’r frawddeg yn berffaith gywir o ran cywirdeb iaith.
(i) hun
Enghreifftiau
Mae Rhys bob amser yn ista ar ei
ben ei hun.
Mae’r frawddeg hon yn haeddu 1½ marc. Mae
ystyr a defnydd y gair yn eglur ond mae’r gwall
sillafu’n cael ei gosbi - ista.
Enghreifftiau
Rydw i fy hun.
Dydy ystyr na defnydd y gair yn eglur felly 0 marc.
Marciwch y brawddegau yma.
Tasg: Edrychwch ar y brawddegau ar y daflen. Cofiwch dynnu hanner marc yr un am unrhyw gamgymeriadau. Mae’n rhaid i chi farcio’r brawddegau drwy:
1. ddod o hyd i unrhyw gamgymeriadau treiglo neu sillafu yn y brawddegau;
2. benderfynu a ydy’r frawddeg yn llwyddo i ddangos ystyr y gair yn eglur;
3. ddod o hyd i unrhyw gamgymeriadau cystrawennol yn y brawddegau.
Gorffen Brawddegau
• Eich tro chi rŵan!!
• Gorffennwch y brawddegau ac yna crëwch eich brawddegau eich hun.
• Cofiwch am y gwaith cartref ar y diwedd!!
Sut wnes i ddysgu yn yr uned hon?
Ydw i wedi dysgu’n effeithiol?
Pa sgiliau ydw i wedi eu
defnyddio?
Edrychwch ar y daflen hunanasesu.
ADBORTH