6
Nod Maes Dysgu – Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llinyn – Llafaredd Elfen – Datblygu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau. Agwedd – Siarad Tasg Ffocws ‘Dewch, mae’n amser dysgu cyflythrennu’: Yn stori Cyfrinach y Crochan rydyn ni’n dysgu am holl gyfrinachau crochan arbennig Rhoswen, yr hwch. Mae’r geiriau cyfrinach a crochan yn creu cyflythreniad • datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o gyflythreniad drwy ddarllen stori Cyfrinach y Crochan yn uchel a thynnu sylw at y geiriau sy’n dechrau gyda’r un sain • defnyddio taflen Cyflythrennu – Llun a Gair i gyfateb lluniau a geiriau gan ddweud y gair sy’n gysylltiedig â’r llun yn uchel ac yna dewis y gair sy’n dechrau gyda’r un sain • cyfateb parau o eiriau sy’n creu cyflythreniad ar daflen Cyflythrennu – Gair a Gair gan ddweud y geiriau’n uchel cyn tynnu llinell o un gair i’r llall • gofyn i’r disgyblion feddwl am a thrafod geiriau eraill sy’n dechrau gyda’r un lythyren • cymell y disgyblion i feddwl am ansoddair sy’n dechrau gyda’r un lythyren â’u henwau e.e. Dafydd direidus, Heulwen hapus Adnoddau Posib • taflen Cyflythrennu – Llun a Llun • taflen Cyflythrennu – Llun a Gair • taflen Cyflythrennu – Gair a Llun • taflen Cyflythrennu – Gair a Gair Colofn Iaith Edrychwch ar glawr y llyfr. Mae’r gair cyfrinach a’r gair crochan yn dechrau gyda’r un lythyren. Dywedwch y geiriau’n uchel. Gwrandewch yn ofalus ar y sain. Fedrwch chi feddwl am air arall sy’n dechrau gyda c? Cyflythreniad yw’r enw am ddefnyddio geiriau sy’n dechrau gyda’r un lythyren ac yn creu yr un sain mewn brawddegau. Mae cyflythrennu’n gwneud brawddegau i swnio’n fwy diddorol. Ydych chi’n gallu dod o hyd i eiriau sy’n cyflythrennu yn y stori? Dywedwch enwau’r cymeriadau’n uchel. Oes enw cymeriad yn dechrau gyda’r un lythyren â’ch enw chi? Pa eiriau sy’n cyflythrennu yn y brawddegau? Edrychwch o amgylch y dosbarth. Ydych chi’n gallu gweld unrhyw bethau sy’n dechrau gyda’r un lythyren? Fedrwch chi feddwl am air sy’n dechrau gyda’r un lythyren â’ch enw chi? Edrychwch ar y daflen. Dywedwch y geiriau sy’n gysylltiedig â’r lluniau’n uchel. Cysylltwch y lluniau â’r geiriau sy’n dechrau gyda’r un sain. Gweithgaredd 18 Llwybr Llythrennedd Cyfleoedd Cyflythrennu Arbedwch, ailgylchwch ac ailddefnyddiwch adnoddau! Nodyn Gwyrdd Mam-gu Iet-wen Beth am fynd am dro i rywle a cheisio darganfod parau o eiriau sy’n creu cyflythreniad? Antur Natur Mam-gu Iet-wen Geirfa yn seiliedig ar y stori beudy Blodwen brigau Bwgi-bo Glanwen gwlân olwyn Owen Rhost-dy Rhoswen whilber wyau

Gweithgaredd 18 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/04a.A18...Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llinyn – Llafaredd Elfen – Datblygu

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • NodMaes Dysgu – Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

    Fframwaith Llythrennedd a RhifeddLlinyn – LlafareddElfen – Datblygu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau.Agwedd – Siarad

    Tasg Ffocws‘Dewch, mae’n amser dysgu cyflythrennu’:

    Yn stori Cyfrinach y Crochan rydyn ni’n dysgu am holl gyfrinachau crochan arbennig Rhoswen, yr hwch. Mae’r geiriau cyfrinach a crochan yn creu cyflythreniad

    • datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o gyflythreniad drwy ddarllen stori Cyfrinach y Crochan yn uchel a thynnu sylw at y geiriau sy’n dechrau gyda’r un sain

    • defnyddio taflen Cyflythrennu – Llun a Gair i gyfateb lluniau a geiriau gan ddweud y gair sy’n gysylltiedig â’r llun yn uchel ac yna dewis y gair sy’n dechrau gyda’r un sain

    • cyfateb parau o eiriau sy’n creu cyflythreniad ar daflen Cyflythrennu – Gair a Gair gan ddweud y geiriau’n uchel cyn tynnu llinell o un gair i’r llall

    • gofyn i’r disgyblion feddwl am a thrafod geiriau eraill sy’n dechrau gyda’r un lythyren

    • cymell y disgyblion i feddwl am ansoddair sy’n dechrau gyda’r un lythyren â’u henwau e.e. Dafydd direidus, Heulwen hapus

    Adnoddau Posib• taflen Cyflythrennu – Llun a Llun• taflen Cyflythrennu – Llun a Gair• taflen Cyflythrennu – Gair a Llun• taflen Cyflythrennu – Gair a Gair

    Colofn IaithEdrychwch ar glawr y llyfr.Mae’r gair cyfrinach a’r gair crochan yn dechrau gyda’r un lythyren.Dywedwch y geiriau’n uchel.Gwrandewch yn ofalus ar y sain.Fedrwch chi feddwl am air arall sy’n dechrau gyda c?Cyflythreniad yw’r enw am ddefnyddio geiriau sy’n dechrau gyda’r un lythyren ac yn creu yr un sain mewn brawddegau.Mae cyflythrennu’n gwneud brawddegau i swnio’n fwy diddorol.Ydych chi’n gallu dod o hyd i eiriau sy’n cyflythrennu yn y stori?

    Dywedwch enwau’r cymeriadau’n uchel.Oes enw cymeriad yn dechrau gyda’r un lythyren â’ch enw chi?Pa eiriau sy’n cyflythrennu yn y brawddegau?Edrychwch o amgylch y dosbarth. Ydych chi’n gallu gweld unrhyw bethau sy’n dechrau gyda’r un lythyren?Fedrwch chi feddwl am air sy’n dechrau gyda’r un lythyren â’ch enw chi?Edrychwch ar y daflen.Dywedwch y geiriau sy’n gysylltiedig â’r lluniau’n uchel. Cysylltwch y lluniau â’r geiriau sy’n dechrau gyda’r un sain.

    Gweithgaredd 18

    Llwybr LlythrenneddCyfleoedd Cyflythrennu

    Arbedwch, ailgylchwch

    ac ailddefnyddiwch

    adnoddau!

    Nodyn Gwyrdd

    Mam-gu Iet-wen

    Beth am fynd am dro i rywle a cheisio darganfod parau o eiriau sy’n creu cyflythreniad?

    Antur NaturMam-gu Iet-wen

    Geirfa yn seiliedig ar y storibeudyBlodwenbrigauBwgi-boGlanwengwlânolwynOwenRhost-dyRhoswenwhilberwyau

  • Cyfrinach y Crochan: Gweithgaredd 18 – Cyfleoedd Cyflythrennu

  • Cyfrinach y Crochan: Gweithgaredd 18 – Cyfleoedd Cyflythrennu

    Cyflythrennu – Llun a LlunDywedwch y gair sy’n gysylltiedig â’r llun yn uchel.

    Yna cysylltwch ddau lun sy’n dechraugyda’r un sain.

  • Cyfrinach y Crochan: Gweithgaredd 18 – Cyfleoedd Cyflythrennu

    Cyflythrennu – Gair a LlunDywedwch y gair yn uchel.

    Yna cysylltwch y gair â’r llun sy’n dechraugyda’r un sain.

  • Cyfrinach y Crochan: Gweithgaredd 18 – Cyfleoedd Cyflythrennu

    Cyflythrennu – Llun a GairDywedwch y gair sy’n gysylltiedig â’r llun yn uchel.

    Yna cysylltwch y llun â’r gair sy’n dechraugyda’r un sain.

  • Cyfrinach y Crochan: Gweithgaredd 18 – Cyfleoedd Cyflythrennu

    Cyflythrennu – Gair a GairDywedwch y geiriau’n uchel.

    Yna cysylltwch ddau air sy’n dechraugyda’r un sain.