24
Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach Tachwedd 2014 estyn.llyw.cymru

Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach

Tachwedd 2014 estyn.llyw.cymru

Page 2: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu: ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan

awdurdodau lleol; ysgolion cynradd; ysgolion uwchradd; ysgolion arbennig; unedau cyfeirio disgyblion; ysgolion annibynnol; addysg bellach; dysgu oedolion yn y gymuned; hyfforddiant gwaith ieuenctid a chymunedol; gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc; addysg a hyfforddiant athrawon; Cymraeg i oedolion; dysgu yn y gwaith; a dysgu yn y sector cyfiawnder. Mae Estyn hefyd: yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i

Lywodraeth Cymru ac eraill; ac yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at: Yr Adran Gyhoeddiadau Estyn Llys Angor Heol Keen Caerdydd CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at [email protected] Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Hawlfraint y Goron 2014: Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl

mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad penodol.

Page 3: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Cynnwys Tudalen Cyflwyniad

1

Methodoleg ar gyfer arolygu medrau llythrennedd a rhifedd

1

Cyn yr arolygiad

1

Yn ystod wythnos yr arolygiad

2

Data rhaglenni cymorth

2

Cyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru a TGAU

3

Samplau o waith dysgwyr

4

Olrhain a monitro cynnydd dysgwyr mewn llythrennedd a rhifedd

4

Polisïau ar gyfer datblygu llythrennedd a rhifedd

4

Samplau o gynlluniau gwaith

5

Samplau o gynllunio tymor byr

5

Cymorth dysgu

5

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer cyfweliadau am raglenni cymorth llythrennedd a rhifedd

6

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer gwrando ar ddysgwyr penodol – ffocws ar lythrennedd a rhifedd

6

Cwestiynau i’w gofyn mewn perthynas â Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill os yw hwn yn drywydd ymholi

8

Awgrymiadau cyfweld ar gyfer yr uwch reolwr sy’n goruchwylio llythrennedd a rhifedd neu’r cydlynydd llythrennedd a rhifedd

8

Cwestiynau penodol ar lythrennedd a rhifedd ar gyfer cyfweliadau â rheolwyr canol meysydd dysgu

9

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer craffu ar bortffolio llythrennedd

10

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer arsylwi gwersi – ffocws ar lythrennedd

12

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer craffu ar bortffolios rhifedd

13

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer arsylwi gwersi – ffocws ar rifedd

17

Atodiad 1: Ysgrifennu’r Sylwebaeth cyn Arolygiad (SCA)

18

Atodiad 2: Rôl yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd

19

Page 4: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

1

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys strategaeth a dulliau ar gyfer arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach (AB). Mae’n ddogfen fewnol sy’n dod â’r holl ddarnau o arweiniad a chymorth o arolygon blaenorol ar fedrau darllen ac ysgrifennu at ei gilydd, yn ogystal ag arweiniad ar arolygu medrau rhifedd. Bydd adrannau yn y ddogfen hon yn newid yn anorfod o ganlyniad i’n profiadau a bydd adrannau newydd y bydd angen eu hychwanegu. Bydd y fersiwn ddiweddaraf bob amser yn cael ei storio yn y safle AB yn SharePoint. Mae’r arweiniad hwn ar gyfer cam un arolygiadau AB yn bennaf. Dylai arolygwyr sydd ar gam dau arolygiadau AB gyfeirio at y ddogfen Arweiniad ar Arolygu Addysg Bellach, yn enwedig agweddau 1.1.4 medrau yn y dangosydd ansawdd 1.1; ac agwedd 2.1.2 yn y dangosydd ansawdd 2.1 darpariaeth ar gyfer medrau. Mae llythrennedd a rhifedd yn rhan bwysig o bob arolygiad ac mae gan bob arolygydd gyfrifoldeb i gofnodi tystiolaeth a gwneud arfarniadau o ansawdd y safonau, darpariaeth a’r rheolaeth ar fedrau. Bydd gan arolygwyr arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd (AALlRh) gyfrifoldeb am yr adroddiadau llythrennedd a rhifedd. Fodd bynnag, drwy arolygwyr arweiniol y meysydd dysgu, bydd pob arolygydd yn cyfrannu at y dystiolaeth ar gyfer medrau.

Methodoleg ar gyfer arolygu llythrennedd a rhifedd

Cyn yr arolygiad

Bydd yr ACof yn:

(1) Paratoi dadansoddiad o’r data

Ystyried y canlyniadau llythrennedd a rhifedd o asesiadau cychwynnol:

Faint o ddysgwyr sydd ar bob un o’r chwe lefel: mynediad 1; mynediad 2; mynediad 3; lefel 1; lefel 2; a lefel 3?

Faint o ddysgwyr sydd naill ai ar ben isaf neu ben uchaf y raddfa?

A oes mwy o ddysgwyr ar un lefel benodol? Ystyriwch broffil ymrestriadau Sgiliau Hanfodol Cymru a TGAU:

A yw data’r asesiad cychwynnol yn cyfateb yn gymharol dda i’r niferoedd o ddysgwyr sydd wedi ymrestru ar bob un o’r lefelau ar gyfer iaith a mathemateg-rhif TGAU a chyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru? (Fel arfer dylai dysgwyr fod yn gweithio i un lefel yn uwch na lefel eu hasesiad cychwynnol.)

A oes niferoedd is na’r disgwyl ar lefel 3?

A oes niferoedd uwch na’r disgwyl ar lefel 1 neu lefel 2?

Page 5: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

2

(2) Lanlwytho’r dadansoddiad o’r data i’r adran meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd yn yr ystafell arolygu rithwir (YAR).

(3) Cysylltu â’r arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd i gadarnhau’r ystafell

sylfaen ac unrhyw ofynion llety. (4) Paratoi’r SCA. Bydd y cydlynydd arolygu: Yn ffonio’r coleg i ofyn am unrhyw ddadansoddiad trosolwg gan y coleg o’r asesiad cychwynnol ar lythrennedd a rhifedd, data datblygu medrau neu ddata dilyniant, er enghraifft:

dadansoddiad o’r asesiad cychwynnol yn ôl cyrsiau;

nifer yr ymrestriadau cyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru yn ôl lefel;

nifer yr ymrestriadau Saesneg a mathemateg-rhifedd TGAU; a

data o unrhyw ailasesiad o ddysgwyr.

Yn ystod wythnos yr arolygiad

Cyfarfod tîm ddydd Llun Bydd arolygydd arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd:

yn adolygu’r dadansoddiad o ddata a ddarparwyd gan yr ACof ac yn adolygu’r SCA (gweler yr arweiniad isod);

yn cynllunio amserlenni arsylwi a mynd am droeon dysgu; ac

yn cynllunio cyfarfodydd gydag arweinwyr a rheolwyr perthnasol.

Dydd Mawrth/Dydd Mercher Bydd arolygwyr arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd:

yn cynnal arsylwadau ac yn mynd am droeon dysgu mewn meysydd dysgu nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr arolygiad cam un;

yn casglu gwybodaeth gan arolygwyr arweiniol y maes dysgu cam un;

yn cyfarfod ag arweinwyr a rheolwyr dethol ar gyfer medrau;

yn cyfarfod ag arweinwyr a rheolwyr cymorth dysgu;

yn cyfarfod â chynorthwywyr addysgu a dysgu;

yn craffu ar waith dysgwyr; ac

yn siarad â dysgwyr.

Data rhaglenni cymorth

Bydd arolygwyr arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd yn ystyried:

nifer/canran y dysgwyr sydd wedi cael asesiad cychwynnol wrth iddynt ddechrau.

Page 6: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

3

(Mae’r Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) yn gofyn bod pob dysgwr sy’n dilyn cyrsiau o bum awr neu fwy yr wythnos yn cael asesiad cychwynnol. Felly, dylai’r nifer hon fod yn agos at 100%. Fodd bynnag, rhaid i ni ganiatáu ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n dechrau cyrsiau yn ddiweddarach yn y tymor ac sy’n colli’r asesiad cychwynnol trwy salwch, ac ati. Bydd canrannau islaw 80% yn anfoddhaol.) Gwiriwch bolisi’r coleg ar gyfer nodi’r dysgwyr hynny na chawsant asesiad cychwynnol;

nifer/canran y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt fedrau isel mewn llythrennedd a/neu rifedd (h.y. y rhai y mae canlyniad eu hasesiad cychwynnol islaw lefel eu prif gwrs, ac yn arbennig y dysgwyr hynny yr aseswyd eu bod islaw lefel 1);

y niferoedd/canrannau sy’n mynychu cymorth y tu allan i’r dosbarth ac yn y dosbarth;

niferoedd/canrannau’r dysgwyr sy’n aros mewn darpariaeth cymorth y tu allan i’r dosbarth y tu hwnt i’r tymor cyntaf. Os yw dysgwyr wedi tynnu’n ôl neu wedi cwblhau cymorth y tu allan i’r dosbarth, yna mae angen i ni archwilio’r deilliannau ar gyfer y dysgwyr hynny a pha gymorth arall sydd wedi cael ei roi ar waith, os yw’n berthnasol;

deilliannau ar gyfer darparu cymorth, yn cynnwys data cynnydd a data sy’n adlewyrchu effaith darparu’r cymorth ar brif gwrs astudio’r dysgwr;

dadansoddi canlyniadau unrhyw ailasesiad o ddysgwyr. (Mae arweiniad presennol AdAS yn gofyn am ailasesiad o unrhyw ddysgwr y mae ei (h)asesiad cychwynnol islaw L1 sydd wedi manteisio ar y cymorth a ddarperir i ddysgwyr ond nad yw wedi ennill cymhwyster llythrennedd/rhifedd perthnasol ar un lefel uwchlaw canlyniad eu hasesiad cychwynnol.)

Bydd arolygwyr meysydd dysgu yn ystyried:

y cynnydd sydd wedi’i wneud gan ddysgwyr ar raglenni cymorth, ar eu cyrsiau galwedigaethol a datblygu medrau.

Cyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru ac iaith a mathemateg-rhifedd TGAU

Bydd arolygwyr arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd yn ystyried:

nifer/canran blwyddyn bresennol y dysgwyr sydd wedi cael asesiad cychwynnol wrth iddynt ddechrau (gweler y pwynt bwled cyntaf uchod);

dadansoddiad o’r flwyddyn bresennol gan y coleg o ddata o’r asesiad cychwynnol;

nifer/canran blwyddyn bresennol y dysgwyr sydd wedi ymrestru ar bob un o lefelau Sgiliau Hanfodol Cymru o lefel mynediad i L3 a TGAU;

data o’r asesiadau cychwynnol ar gyfer y flwyddyn flaenorol;

data ymrestru Sgiliau Hanfodol Cymru a TGAU ar gyfer y flwyddyn flaenorol; a

niferoedd/canrannau ar gyfer cyfraddau cwblhau, cyrhaeddiad a llwyddo ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru a TGAU o’i gymharu â data cenedlaethol.

(Dylai’r coleg wybod y canrannau hyn. Os nad ydyw, yna mae’n rhaid nad ydynt yn monitro lefelau medrau eu myfyrwyr nac yn adrodd amdanynt i gyfarfodydd uwch reolwyr a llywodraethwyr).

Page 7: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

4

Samplau o waith dysgwyr

Bydd arolygwyr meysydd dysgu yn edrych ar sampl o waith i farnu:

pa mor dda y mae dysgwyr yn cymhwyso eu medrau llythrennedd a rhifedd yng nghyd-destun eu maes galwedigaethol;

a yw dysgwyr yn dibynnu’n ormodol ar gymorth (fframweithiau ysgrifennu, taflenni gwaith, gormod o gopïo gwybodaeth), heb help i ddatblygu eu medrau ysgrifennu annibynnol; a

pha mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn datblygu eu medrau.

Olrhain a monitro cynnydd dysgwyr mewn llythrennedd a rhifedd

Bydd arolygwyr arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd yn ystyried:

pa mor dda y mae’r coleg yn nodi’r dysgwyr hynny y mae angen cymorth ar gyfer medrau arnynt; a

pha mor dda y mae’r coleg yn olrhain cynnydd y dysgwyr hyn. Bydd arolygwyr arweiniol meysydd dysgu yn ystyried pa mor dda:

y mae athrawon yn olrhain ac yn monitro cynnydd dysgwyr;

y mae’r coleg yn olrhain cynnydd dysgwyr unigol yn ogystal â grwpiau o ddysgwyr ar lefel cwrs a lefel maes dysgu / adran;

y mae’r coleg a’r dysgwr yn trafod targedau ar gyfer gwella ac yn eu cofnodi ar gynlluniau dysgu unigol;

y mae dysgwyr yn gwybod eu targedau;

y mae dysgwyr yn deall mesur cyflawni eu targedau yn llwyddiannus; ac

y mae dysgwyr yn olrhain eu targedau eu hunain.

Polisïau ar gyfer datblygu llythrennedd a rhifedd

Bydd arolygwyr cam dau yn ystyried:

a oes gan y coleg bolisi a strategaethau cynhwysfawr a thrylwyr ar fedrau;

a oes blaenoriaeth uchel yn cael ei rhoi i ddatblygu rhifedd a chodi safonau llythrennedd yng nghynllun gwella’r coleg; a

pha mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu effaith polisïau ar fedrau. Bydd arolygwyr arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd yn ystyried:

a yw’r polisi monitro ac arfarnu yn cynnwys dadansoddi safonau medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr mewn gwersi ac wrth graffu ar lyfrau/ ffolderi/portffolios; a

pha mor dda y mae polisi a gweithdrefnau marcio ac asesu’r coleg yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu medrau rhifedd, darllen ac ysgrifennu, ac i fyfyrio ar eu gwaith a gwneud cynnydd.

Page 8: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

5

Bydd arolygwyr meysydd dysgu yn ystyried:

a yw datblygu rhifedd a chodi safonau llythrennedd yn cael blaenoriaeth uchel yn y maes dysgu;

pa mor dda y mae’r maes dysgu yn dadansoddi safonau medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr mewn gwersi ac wrth graffu ar lyfrau/ ffolderi/portffolios; a

pha mor dda y mae arfer yn y maes dysgu yn bodloni’r targedau ac arweiniad ym mholisi asesu a marcio’r coleg.

Samplau o gynlluniau gwaith

Bydd arolygwyr meysydd dysgu yn ystyried pa mor dda:

y mae staff wedi ymgorffori medrau llythrennedd a rhifedd mewn profiadau dysgu ar draws pob maes dysgu;

y mae cysylltiadau wedi datblygu rhwng cynlluniau gwaith pwnc a chymorth llythrennedd/rhifedd penodol (lle bo’n berthnasol) i ddatblygu dilyniant ym medrau rhifedd, darllen ac ysgrifennu dysgwyr;

y caiff medrau llythrennedd a rhifedd a ddatblygir mewn dosbarthiadau penodol eu hatgyfnerthu, eu gwella a’u datblygu ymhellach mewn meysydd gwaith eraill;

y mae meysydd dysgu galwedigaethol yn addasu’r dysgu/rhaglenni astudio pan fydd dysgwyr yn gweithio gryn dipyn islaw’r lefelau medrau rhifedd/darllen/ysgrifennu disgwyliedig; ac

y mae meysydd pwnc yn addasu rhaglenni astudio i ddarparu gwaith ar gyfer dysgwyr mwy abl a dawnus ar lefelau cryn dipyn yn uwch mewn medrau darllen ac ysgrifennu, i ymateb i fwy o her (ar gyfer dysgwyr hŷn a mwy abl, ymestyn ehangder a manylder yr astudiaethau yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol).

Samplau o gynllunio tymor byr, fel cynlluniau gwersi

Bydd arolygwyr meysydd dysgu yn ystyried pa mor dda:

y mae staff yn elwa ar gyfleoedd i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd; ac

y mae staff yn gwahaniaethu mewn sesiynau ar gyfer y rhai y mae angen mwy o gymorth arnynt a’r dysgwyr hynny sy’n fwy abl a dawnus.

Cymorth dysgu

Bydd arolygwyr arweiniol meysydd dysgu llythrennedd a rhifedd yn ystyried pa mor dda:

y mae rheolwyr cymorth dysgu yn sicrhau bod gan bob aelod o staff perthnasol mewn meysydd galwedigaethol wybodaeth ddigonol am fedrau rhifedd, darllen ac ysgrifennu dysgwyr i gynorthwyo dysgwyr yn llawn yn eu dysgu galwedigaethol;

y mae’r rheolwyr cymorth dysgu yn monitro presenoldeb dysgwyr mewn sesiynau cymorth, gan gynnwys cymorth yn y dosbarth; ac

y defnyddir gwybodaeth i benderfynu a yw dysgwyr yn parhau i gael cymorth.

Page 9: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

6

Bydd arolygwyr meysydd dysgu yn ystyried pa mor dda:

y caiff gwybodaeth am fedrau rhifedd, darllen ac ysgrifennu dysgwyr ei rhannu rhwng staff;

y caiff gwybodaeth sy’n ymwneud â chynnydd dysgwyr ar raglenni cymorth ei rhannu gyda staff;

y mae’r rhaglenni cymorth yn dylanwadu ar y strategaethau addysgu a dysgu a ddefnyddir gan staff;

y defnyddir asesu i ddarparu gwaith sy’n gweddu’n dda i anghenion rhifedd a llythrennedd dysgwyr;

y defnyddir asesu i lywio penderfyniadau ynghylch a yw dysgwyr yn aros ar raglenni cymorth;

y caiff deilliannau rhaglenni cymorth eu casglu a’u defnyddio i osod targedau ar gyfer gwella; ac

y mae rhaglenni cymorth yn bodloni anghenion dysgwyr lefel uchel ag anawsterau neu anableddau.

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer cyfweliadau am raglenni cymorth llythrennedd a rhifedd

Sut caiff cymorth ei gyflwyno? A oes ystod dda o strategaethau a dewisiadau ar gyfer darpariaeth cymorth i ddysgwyr, er enghraifft cymorth yn y dosbarth; cymorth y tu allan i’r dosbarth; cymorth gan gynorthwyydd dysgu; cymorth un i un; cymorth grŵp?

Sut ydych chi’n nodi’r dysgwyr y mae angen cymorth arnynt i wella eu medrau llythrennedd a/neu rifedd?

Sut ydych chi’n coladu’r data ar gyfer darparu cymorth? A yw dysgwyr sy’n dewis peidio â chael cymorth yn ogystal â dysgwyr sy’n ei dderbyn yn cael eu holrhain yn briodol?

A yw dysgwyr yn cael y cyfle i ymuno â rhaglenni cymorth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn?

Pa mor effeithiol yw eich strategaethau ymyrraeth o ran helpu dysgwyr i ddal i fyny â’u cyfoedion?

A yw cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr dysgu sy’n cyflwyno’r rhaglenni cymorth yn cael hyfforddiant priodol?

Sut mae cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr dysgu yn cael eu defnyddio?

Sut caiff cynnydd dysgwyr ar y rhaglenni cymorth ei gyfleu i reolwyr a staff eraill?

Sut ydych chi’n sicrhau bod athrawon ystafell ddosbarth yn ymwybodol o’r strategaethau addysgu a dysgu a’r adnoddau a ddefnyddir yn y rhaglenni cymorth?

Pa strategaethau y mae’r coleg yn eu defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio strategaethau ac adnoddau tebyg yn eu gwersi? Hynny yw, sut caiff arfer orau o ran darparu cymorth ei rhannu gyda phob tiwtor ar draws y coleg?

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer gwrando ar ddysgwyr penodol – ffocws ar lythrennedd a rhifedd

A gawsoch asesiad o’ch medrau llythrennedd a rhifedd ar ddechrau eich cwrs? A gafodd y canlyniadau eu trafod gyda chi?

Page 10: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

7

A wnaethoch chi gwblhau asesiad diagnostig hefyd? A ddefnyddiwyd y canlyniadau i nodi targedau yn eich CDU?

A ydych chi’n gallu cofio beth yw eich targedau? Pa mor aml y maent yn cael eu hadolygu?

A ydych chi’n gwneud cynnydd yn eich medrau? Sut ydych chi’n gwybod pryd yr ydych wedi bodloni targed?

Sut mae’r coleg yn eich helpu i wella eich medrau?

A ydych chi’n gwybod beth mae’n rhaid i chi ei wneud i wella eich medrau rhifedd neu ddarllen ac ysgrifennu ymhellach?

A ydych chi’n gallu dweud wrthyf am rywbeth mewn llythrennedd, darllen neu ysgrifennu, yr ydych yn awr yn gallu ei wneud nad oeddech yn gallu ei wneud pan ddechreuoch chi ar y cwrs?

A ydych chi’n gallu dweud wrthyf am rywbeth mewn rhifedd yr ydych yn awr yn gallu ei wneud nad oeddech yn gallu ei wneud pan ddechreuoch chi ar y cwrs?

A ydych chi’n gallu dweud wrthyf am rywbeth mewn rhifedd yr ydych yn awr yn gallu ei wneud nad oeddech yn gallu ei wneud pan wnaethoch chi ddechrau ar y cwrs?

A ydych chi wedi gallu defnyddio medrau newydd mewn llythrennedd neu rifedd ar draws meysydd eraill o’ch cwrs? A ydych chi’n gallu meddwl am enghreifftiau?

Pa mor dda y mae tiwtoriaid yn marcio eich gwaith? A ydynt yn cywiro sillafiadau ac atalnodi ar eich cyfer ac yn esbonio lle’r ydych wedi mynd yn anghywir?

Ar gyfer y rhai sydd ar raglenni cymorth:

Sut cafodd eich anghenion eu nodi ar ddechrau’r cwrs? A gawsoch chi ystod dda o ddewisiadau cymorth?

Pa mor dda y mae’r rhaglen gymorth yn cyd-fynd â’ch prif gwrs astudio? A ydych chi’n gallu defnyddio’r ddarpariaeth ar amseroedd addas? A yw’r adnoddau a ddefnyddir i gefnogi yn gysylltiedig â phwnc eich prif gwrs?

Sut mae’r rhaglen wedi’ch helpu chi i wella eich medrau darllen a/neu ysgrifennu? A ydych chi’n gallu rhoi enghraifft o ble y mae wir wedi’ch helpu i gael marc gwell neu wneud y gwaith yn haws i’w ddeall?

Sut mae’r rhaglen wedi’ch helpu i wella eich medrau rhifedd?

A oes gennych dargedau ar gyfer y sesiynau cymorth? Sut ydych chi’n gwybod

beth yr ydych yn mynd i’w ddysgu a sut ydych chi’n gwybod pan fyddwch wedi’i

ddysgu?

A ydych chi’n credu eich bod wedi gwneud cynnydd da ers cymryd rhan yn y

rhaglen?

Pa mor dda y mae’r rhaglen yn bodloni pob un o’ch anghenion a’ch disgwyliadau?

Page 11: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

8

Cwestiynau i’w gofyn mewn perthynas â Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill OS yw hwn yn drywydd ymholi

A oes polisi coleg cyfan ar gyfer cefnogi dysgwyr nad yw Cymraeg neu Saesneg yn famiaith iddynt?

A yw’r amgylchedd yn groesawgar ar gyfer dysgwyr SSIE?

Pa mor dda y mae staff yn addasu gwersi ar gyfer dysgwyr SSIE?

A yw dysgwyr SSIE yn cael cyfle i fanteisio ar yr holl ddarpariaeth a gynigir gan y coleg?

Pa ddewisiadau a gaiff dysgwyr SSIE os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf derbyn ar gyfer y cwrs y maent wedi’i ddewis? A oes cydbwysedd gofalus rhwng darparu cymorth yn y dosbarth a chyfeirio dysgwyr i ddosbarthiadau SSIE yn unig ar gyfer datblygu medrau cyn ymuno â rhaglen astudio?

A yw’r medrau perthnasol gan staff cymorth i gefnogi dysgwyr SSIE?

Awgrymiadau cyfweld ar gyfer yr uwch reolwr sy’n goruchwylio llythrennedd a rhifedd neu’r cydlynydd llythrennedd a rhifedd

Dewiswch y cwestiynau mwyaf priodol:

Faint o staff sy’n gweithio mewn dosbarthiadau llythrennedd a rhifedd ar wahân sy’n meddu ar gymwysterau llythrennedd a rhifedd perthnasol ar lefel 3 a/neu 4?

Pa gamau a gymerwyd i sicrhau bod pob tiwtor yn deall sut i gefnogi dysgu llythrennedd a rhifedd mewn dosbarth?

Sut caiff gwybodaeth am asesiad cychwynnol a diagnostig ei rhannu rhwng staff?

Pa mor dda y mae tiwtoriaid yn defnyddio’r wybodaeth ar gyfer gwahaniaethu mewn gwersi?

Sut caiff hyn ei fonitro a’i olrhain ar draws y sefydliad cyfan?

A oes cynllun gweithredu ar gyfer datblygu medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr yn systematig ar draws pob un o’u dosbarthiadau?

Pa mor dda y caiff canlyniadau asesiad cychwynnol dysgwyr a’u dysgu blaenorol eu cydweddu â lefel eu cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru?

Sut caiff hyn ei fonitro a’i olrhain?

A oes polisi ar gyfer sicrhau bod gwersi medrau yn rhan ymgorfforedig neu gyd-destunol o gwrs dysgwr?

Sut caiff y cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud wrth ddatblygu medrau ei gofnodi a’i olrhain?

Sut caiff gwybodaeth am gynnydd dysgwyr mewn medrau ei chyfleu i bob un o’u tiwtoriaid cwrs?

A ydych chi’n gwybod pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd, gan gynnwys y rhai sy’n cael cymorth targedig neu gymorth estynedig?

A yw staff yn gweithio fel tîm i gefnogi datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd?

A ydych chi wedi archwilio medrau llythrennedd a rhifedd ar draws cyrsiau astudio / meysydd dysgu i sicrhau bod pynciau yn nodi ac yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd?

A oes dulliau cyffredin cytûn ar gyfer datblygu medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr? Os oes, beth ydynt?

Page 12: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

9

Pa mor effeithiol yw eich cynlluniau gweithredu a’ch arfarniadau o gynnydd ym medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr?

Pa hyfforddiant proffesiynol y mae staff wedi ymgymryd ag ef i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr?

A oes gennych raglen gynlluniedig i adolygu ac arfarnu effaith mentrau llythrennedd a rhifedd / y polisi llythrennedd a rhifedd? A ydych yn gofyn am safbwyntiau dysgwyr ar lythrennedd a rhifedd fel rhan o’r adolygiad hwn?

Sut ydych chi’n defnyddio gwybodaeth o osod targedau i gynhyrchu cymorth ychwanegol amserol ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gwneud cynnydd yn unol â disgwyliadau?

Sut ydych chi’n cynnwys staff a dysgwyr mewn olrhain cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella yn y tymor byr a’r tymor hwy?

Pa hyfforddiant ydych chi’n ei ddarparu ar gyfer staff cymorth ac anogwyr dysgu fel bod ganddynt wybodaeth gadarn am fentrau llythrennedd a rhifedd wrth helpu i gefnogi dysgwyr?

Cwestiynau penodol ar lythrennedd a rhifedd ar gyfer cyfweliadau â rheolwyr canol meysydd dysgu

Dewiswch y cwestiynau mwyaf priodol:

Pa mor dda ydych chi’n gweithio gyda’r cydlynydd llythrennedd/rhifedd i gynllunio cyfleoedd i ddysgwyr gymhwyso a gwella eu medrau mewn rhifedd, darllen ac ysgrifennu?

Pa mor dda ydych chi’n gweithio gyda’r cydlynydd llythrennedd/rhifedd a/neu’r arweinydd pwnc Cymraeg, Saesneg neu fathemateg i gytuno ar strategaethau addysgu a dysgu cyffredin ar gyfer llythrennedd a rhifedd?

A yw staff yn eich maes pwnc yn deall beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r rhai sydd â medrau llythrennedd a rhifedd isel?

Pa mor effeithiol yw polisi llythrennedd a rhifedd y coleg o ran gwella medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr yn eich maes pwnc?

Sut ydych chi’n sicrhau bod eich staff yn addysgu confensiynau gwahanol fathau o ysgrifennu a ddefnyddir yn eich pwnc?

Sut ydych chi’n atgyfnerthu ac yn gwella’r medrau llythrennedd a ddatblygir mewn gwersi Cymraeg neu Saesneg yn eich pwnc?

Pa mor dda ydych chi’n addasu rhaglenni astudio pan fydd dysgwyr yn gweithio gryn dipyn islaw’r lefelau medrau rhifedd/darllen/ysgrifennu disgwyliedig?

Pa mor dda ydych chi’n addasu rhaglenni astudio i ddarparu gwaith ar gyfer dysgwyr mwy abl a dawnus ar lefelau gryn dipyn yn uwch mewn medrau darllen/ysgrifennu, i ymateb i fwy o her (ymestyn ehangder a manylder yr astudiaethau yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol)?

A ydych chi’n ymwybodol o’r strategaethau addysgu a dysgu a’r adnoddau a ddefnyddir yn y rhaglenni cymorth llythrennedd a rhifedd? A ydych chi’n defnyddio strategaethau ac adnoddau tebyg yn eich gwersi?

Page 13: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

10

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer craffu ar bortffolios llythrennedd

Medrau darllen a meddwl

Tystiolaeth o ystod dda o ddeunyddiau darllen

A oes tystiolaeth o:

wahanol ffynonellau a fformatau, testunau o wahanol gymhlethdodau?

Medrau darllen/meddwl cymhleth A oes tystiolaeth o:

symud oddi wrth ddealltwriaeth lythrennol (dod o hyd i ffeithiau; dadansoddi, cyfosod ac aildrefnu syniadau neu wybodaeth eglur mewn darn, nodi patrymau) i ddefnyddio rhesymu a dod i gasgliad, gwneud rhagdybiaethau, canfod ystyron nad ydynt yn amlwg, llunio casgliadau, a symud tuag at fwy o fedrau darllen lefel uwch o arfarnu darn neu grŵp o destunau, cysylltu â phrofiad / gwybodaeth flaenorol, ystyried tystiolaeth a dibynadwyedd; gwerthfawrogi a dadansoddi cynnwys ac arddull; dadl/trafodaeth; a thechnegau awduron?

Ystod o strategaethau adalw gwybodaeth

A oes tystiolaeth o:

amlygu, crynhoi, rhoi testun mewn dilyniant trwy aildrefnu paragraffau neu greu siart llif / bwrdd stori, defnyddio cyfeirlyfrau, defnyddio mynegai, llyfryddiaeth, gridiau gwneud nodiadau i ddethol a threfnu gwybodaeth?

Ystod o strategaethau i ddarllen at wahanol ddibenion

A oes tystiolaeth o:

llithrddarllen, bwrw golwg – marcio’r testun, amlygu, gwneud dehongliadau amgen?

Cymhwyso dealltwriaeth i gyd-destunau ehangach, bywyd bob dydd, sefyllfa newydd

Medrau ysgrifennu

Sillafu Ar bob lefel, a oes tystiolaeth o:

gamgymeriadau sillafu yn cael eu codi trwy farcio? Geiriau anghywir yn cael eu cywiro a’u defnyddio’n gywir wrth ysgrifennu yn y dyfodol? Cydnabod y gwahaniaethau rhwng camgymeriadau sillafu mewn geiriau cyffredin a chamgymeriadau sillafu mewn geiriau technegol ar lefel cwrs? Strategaethau ar gyfer gwella sillafu? Llai o gamgymeriadau wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen?

Page 14: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

11

Atalnodi

Ar lefel mynediad 3 a phob lefel uwch, a oes tystiolaeth o:

ddefnyddio priflythrennau ac atalnodau llawn, marciau cwestiwn ac ebychnodau yn gywir?

Ar lefel 1 a phob lefel uwch, a oes tystiolaeth o:

ddefnyddio comas a chollnodau yn gywir?

Ar lefel 2 ac yn uwch, a oes tystiolaeth o:

ddefnyddio atalnodi lefel uwch fel gwahanodau, hanner colonau a cholonau yn gywir?

A oes tystiolaeth hefyd o:

gamgymeriadau atalnodi yn cael eu cywiro? Nifer y camgymeriadau yn lleihau trwy’r portffolio? Gwaith yn dangos defnydd ac ystod dda o atalnodi?

Gramadeg Ar lefel mynediad 3 a phob lefel uwch, a oes tystiolaeth o:

ysgrifennu cywir mewn brawddegau cyflawn a’r cytundeb rhwng y goddrych a’r ferf yn gywir?

Ar lefel 1 a phob lefel uwch, a oes tystiolaeth o:

ddefnydd cywir o amser y ferf; trefn geiriau; ystod o gysyllteiriau; a brawddegau hwy?

Ar lefel 2 ac yn uwch, a oes tystiolaeth o:

ddefnydd cywir o ragenwau a brawddegau cymhleth i wneud yr ysgrifennu’n ddiddorol?

A oes tystiolaeth hefyd o:

gamgymeriadau gramadegol yn cael eu cywiro? Nifer y camgymeriadau yn lleihau trwy’r portffolio a gwaith yn dangos defnydd datblygol ac ystod o ramadeg?

Ystod ac ansawdd y tasgau ysgrifennu estynedig at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd

A oes tystiolaeth o:

amrywiaeth o ffurfiau o ysgrifennu trwy ddefnydd cywir o’r chwe phrif fath o destun ffeithiol (adrodd; cyfarwyddyd; adroddiad anghronolegol; esbonio; perswadio; trafod)?

Page 15: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

12

Defnydd da o iaith i gyflwyno deunydd yn briodol

A oes tystiolaeth o:

ystod dda o ddewisiadau geiriau yn cael eu defnyddio’n briodol at ddiben y testun a’i gynulleidfa? Geirfa helaeth ac amrywiol?

Awgrymiadau eraill ynghylch medrau cyfathrebu cyffredinol

A oes lefel gynyddol o her yn y testunau a roddir i ddysgwyr eu darllen, a dewis o dasgau ysgrifennu?

A yw gwaith yn cael ei gyflwyno’n ddestlus ac yn defnyddio fformat priodol?

Marcio ac asesu

A yw’r marcio yn gyfoes?

A oes llawer o fylchau, neu waith ar goll yn llyfrau dysgwyr? A yw’r tiwtor yn sylwi ar hyn?

A oes polisi marcio cyffredin o fewn pynciau a rhyngddynt, nid yn unig mewn graddio ond o ran cywiro sillafu, gwella cyflwyniad, ac ati?

A yw’r sylwadau ar waith dysgwyr yn ddiagnostig ac a ydynt yn dangos i ddysgwyr sut i wella?

A yw dysgwyr yn mynd i’r afael â sylwadau tiwtoriaid, er enghraifft i ailddrafftio, cywiro neu gwblhau gwaith?

A oes hunanfarcio neu farcio cymheiriaid a hunanasesu neu asesu cymheiriaid?

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer arsylwi gwersi – ffocws ar lythrennedd

Pa mor dda y mae dysgwyr...?

yn gwrando ac yn ymateb i bobl eraill (gwneud cyfraniadau sylweddol i drafodaethau, a chyfathrebu’n glir ac yn effeithiol mewn ffordd sy’n addas i’r pwnc, y gynulleidfa a’r diben)?

yn gofyn cwestiynau ac yn meddwl am gwestiynau drostynt eu hunain?

yn meddu ar ddealltwriaeth fanwl ac eang (deall cysyniadau a syniadau allweddol, gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar y gwaith, a deall y darlun mawr)?

yn cymhwyso eu dealltwriaeth i gyd-destunau ehangach, bywyd bob dydd, a sefyllfaoedd newydd?

yn lleoli, dewis a defnyddio gwybodaeth (dewis, crynhoi, nodi pwyntiau allweddol, a chyfosod gwybodaeth)?

yn ymateb i syniadau a gwybodaeth gan ddefnyddio medrau darllen cymhleth, ar lafar ac yn ysgrifenedig (nodi patrymau, rhesymu neu ragweld, dod i gasgliadau, trafod, ystyried ystod o ddehongliadau)?

yn ymchwilio i atebion o ystod o ffynonellau, ystyried tystiolaeth a’i dibynadwyedd, pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision?

yn ymdopi â gofynion tasgau/gweithgareddau darllen ac ysgrifennu?

yn trefnu ac yn cyflwyno syniadau a gwybodaeth yn glir/yn effeithiol yn eu hysgrifennu (cynllunio, prawfddarllen, golygu/diwygio gwaith)?

Page 16: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

13

yn ysgrifennu’n gywir (sillafu, atalnodi, gramadeg, geirfa, gweddu’r arddull yn ôl y diben a’r gynulleidfa)?

yn dangos ystod o ysgrifennu estynedig da, gwaith creadigol, gwahanol fathau o destun ffeithiol a datrys problemau?

Pa mor dda y mae’r addysgu...?

yn dangos defnydd da o iaith i helpu datblygu medrau darllen ac ysgrifennu dysgwyr?

yn defnyddio chwarae rôl, drama a gwaith grŵp cydweithredol cyn ysgrifennu i ymestyn meddwl dysgwyr?

yn darparu cyfleoedd ar gyfer trafod?

yn defnyddio cwestiynau treiddgar i wella dealltwriaeth dysgwyr?

yn helpu dysgwyr i ymhelaethu ar eu hatebion a gwneud cysylltiadau dysgu?

yn datblygu medrau darllen lefel uwch dysgwyr (i helpu dysgwyr i ddefnyddio eu medrau deall ac adalw gwybodaeth i gael a chyfosod gwybodaeth o ystod o destunau, siartiau, tablau, graffiau, ac ati, llithrddarllen, bwrw golwg, rhesymu, dod i gasgliad a rhagweld)?

yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â medrau darllen ac ysgrifennu (er enghraifft, datblygu medrau prawfddarllen ac ailddrafftio dysgwyr; helpu i sillafu terminoleg sy’n benodol i bwnc; defnyddio sgaffaldio/modelu i gefnogi datblygiad medrau ysgrifennu; rhoi arweiniad penodol ar sut i ddatblygu a chymhwyso medrau llythrennedd deuol)?

yn annog darllen mewn pâr a grŵp, sy’n helpu cyfranogiad ‘gweithredol’ mewn gweithgareddau darllen?

yn sicrhau lefel gynyddol o her mewn testunau a roddir i ddysgwyr eu darllen, a dewis o dasgau ysgrifennu?

Pwyntiau llythrennedd eraill

Pa mor dda y mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn dathlu ac yn hyrwyddo medrau llythrennedd (er enghraifft arddangosiadau o eirfa sy’n benodol i bwnc, ymatebion enghreifftiol ar gyfer tasgau ysgrifennu)?

Pa mor dda y mae’r addysgu yn defnyddio cyfleoedd addas i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm?

Pa mor dda y mae’r medrau darllen ac ysgrifennu sydd eu hangen ar gyfer tasgau penodol wedi cael eu haddysgu?

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer craffu ar bortffolios rhifedd

Rhif

Rhifau cyfan A oes tystiolaeth bod dysgwyr yn gallu:

ar lefel mynediad 3 a phob lefel uwch:

cyfrif, darllen, ysgrifennu, trefnu a chymharu rhifau hyd at 1,000?

adio a thynnu gan ddefnyddio rhifau tri digid?

Page 17: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

14

lluosi a rhannu rhifau dau ddigid?

amcangyfrif atebion mewn cyfrifiadau?

defnyddio cyfrifiannell i wirio cyfrifiadau?

ar lefel 1 a phob lefel uwch:

adnabod rhifau negatif?

adnabod cysylltiadau rhifiadol (lluosrifau, sgwariau ac ati)?

cyfrifo cymhareb syml?

Ar lefel 2 ac yn uwch:

darllen, ysgrifennu, trefnu a chymharu rhifau positif a negatif mewn amrywiaeth o gyd-destunau ymarferol?

cyfrifo cymhareb a chyfrannedd union?

Ffracsiynau, degolion a chanrannau

A oes tystiolaeth bod dysgwyr yn gallu:

ar lefel mynediad 3 a phob lefel uwch:

darllen, ysgrifennu a defnyddio ffracsiynau syml?

darllen, ysgrifennu a defnyddio degolion i ddau le mewn amrywiaeth o gyd-destunau?

defnyddio cyfrifiannell i ddatrys problemau a gwirio cyfrifiadau?

Ar lefel 1 a phob lefel uwch:

darllen, ysgrifennu a defnyddio degolion i dri lle mewn amrywiaeth o gyd-destunau?

talgrynnu degolion yn rhifau cyfan neu i ddau le?

darllen, ysgrifennu, trefnu a defnyddio canrannau syml?

Ar lefel 2 ac yn uwch:

deall a chyfrifo cywerthyddion rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau?

deall cynnydd a gostwng canrannol?

cyfrifo rhan canran meintiau a mesurau mewn amrywiaeth o dasgau ymarferol?

Page 18: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

15

Mesur siâp a gofod

Mesurau cyffredin A oes tystiolaeth bod dysgwyr yn gallu:

ar lefel mynediad 3 a phob lefel uwch:

defnyddio cyfrifiadau degol gydag arian?

dewis a defnyddio offer mesur priodol?

darllen a dehongli mesurau pellter, hyd, tymheredd a phwysau gan ddefnyddio unedau ansafonol a safonol?

Ar lefel 1 a phob lefel uwch:

cyflawni cyfrifiadau gan ddefnyddio amser ar y cloc 12 awr a 24 awr?

amcangyfrif a chymharu mesurau hyd, pwysau, cynhwysedd, tymheredd a phellter?

trosi unedau mesur?

cyfrifo perimedr siapiau syml, arwynebedd petryalau a chyfaint ciwboidau syml?

Ar lefel 2 ac yn uwch:

trosi rhwng arian cyfred?

cyfrifo gan ddefnyddio unedau mesur rhwng systemau?

deall a defnyddio fformiwlâu ar gyfer perimedr, arwynebedd a chyfaint?

cyfrifo dimensiynau o luniad wrth raddfa?

Siâp a gofod

A oes tystiolaeth bod dysgwyr yn gallu:

ar lefel mynediad 3 a phob lefel uwch:

datrys problemau ymarferol gan ddefnyddio priodweddau siapiau 2-D a 3-D?

Ar lefel 1 a phob lefel uwch:

datrys problemau gan ddefnyddio brithwaith a chymesuredd?

tynnu lluniau siapiau 2-D gan ddefnyddio gridiau?

Ar lefel 2 ac yn uwch:

adnabod a defnyddio mapiau a chynlluniau?

datrys problemau gan ddefnyddio siapiau 2-D a siapiau 3-D?

Page 19: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

16

Trafod data

Data a mesurau ystadegol A oes tystiolaeth bod dysgwyr yn gallu:

ar lefel mynediad 3 a phob lefel uwch:

tynnu gwybodaeth o dablau, rhestri, diagramau a siartiau syml?

adeiladu a chymharu gwybodaeth o siartiau bar a phictogramau?

cynrychioli data mewn amrywiaeth o ffyrdd ac mewn cyd-destunau ymarferol?

Ar lefel 1 a phob lefel uwch:

dehongli gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau?

casglu a chynrychioli data arwahanol?

darganfod y cymedr a’r ystod ar gyfer setiau o ddata?

Ar lefel 2 a phob lefel uwch:

casglu, trefnu a chynrychioli data parhaus o amrywiaeth o ffynonellau?

cwblhau cyfrifiadau ar gyfer cymedr, canolrif a modd?

dod o hyd i’r ystod a disgrifio’r ymlediad mewn setiau data?

Marcio ac asesu

A yw’r marcio yn gyfoes

A oes llawer o fylchau, neu waith ar goll yn llyfrau dysgwyr? A yw’r tiwtor yn sylwi ar hyn?

A oes polisi marcio cyffredin o fewn pynciau a rhyngddynt, nid yn unig mewn graddio ond o ran nodi a chywiro unrhyw wallau penodol mewn cyfrifiadau rhifedd, h.y. nid rhoi tic a chroes yn unig, ond dangos ble yn y swm y digwyddodd y gwall?

A yw marcio yn ystyried y dulliau penodol o gyfrifo rhifiadol a ddewiswyd gan y dysgwr? Gall dysgwyr ôl-16 ddod ag amrywiaeth o ddulliau cyfrifo rhifiadol gyda nhw.

A yw’r sylwadau ar waith dysgwyr yn ddiagnostig ac a ydynt yn dangos i ddysgwyr sut i wella?

A yw dysgwyr yn mynd i’r afael â sylwadau tiwtoriaid, er enghraifft i ailddrafftio, cywiro neu gwblhau gwaith?

Page 20: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

17

Awgrymiadau ynglŷn â chwestiynau ar gyfer arsylwi gwersi – ffocws ar rifedd

Pa mor dda y mae dysgwyr:

yn esbonio eu meddwl i ddangos eu dealltwriaeth o brosesau a chysyniadau rhif?

yn nodi a defnyddio strategaethau effeithlon ar gyfer cyfrifiadau, gan gynnwys dulliau pen, dulliau ysgrifenedig a defnyddio cyfrifiannell?

yn dangos bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth sicr o ffeithiau rhif (er enghraifft gwerth lle, cywerthyddion degolion a ffracsiynau, trefnu degolion)?

yn dangos dealltwriaeth gadarn o ddulliau cyfrifo (er enghraifft, tablau, bondiau, dulliau pen ac ysgrifenedig a defnydd effeithlon o gyfrifiannell) ac yn cyfrifo’n gywir?

yn dangos ymwybyddiaeth o siâp, graddfa, maint a safle?

yn arfarnu data er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus? A yw dysgwyr yn gallu casglu, trefnu a dadansoddi data’n effeithiol?

yn cymhwyso’u medrau yn gywir wrth weithio’n annibynnol a gyda rhai eraill?

yn arfarnu eu datrysiadau?

yn ymdopi â’r gofynion mathemategol yn y pwnc?

yn defnyddio medrau a chysyniadau a ddysgwyd yn flaenorol? Pa mor dda y mae’r addysgu...?

yn dangos defnydd da o iaith i ddatblygu medrau rhifedd dysgwyr?

yn hyrwyddo diddordeb a brwdfrydedd ynghylch rhifedd?

yn defnyddio tasgau heriol ac ymarferol i ddatblygu medrau rhifedd dysgwyr?

yn cynnig cyfleoedd i ddatrys problemau mewn tasgau ymarferol bob dydd sy’n berthnasol i brif gwrs astudio neu ddiddordebau dysgwyr?

yn hyrwyddo’r cysylltiadau rhwng cyfrifiadau rhifedd a’u perthnasedd i dasgau bob dydd?

yn cynnig cyfleoedd i gymhwyso medrau rhifedd mewn ystod eang o gyd-destunau perthnasol?

yn nodi cyfleoedd i drosglwyddo medrau rhifedd i gyd-destunau gwahanol ac anghyfarwydd?

yn gwneud cysylltiadau rhwng medrau rhifedd, er enghraifft cyfrifo rhif wrth fesur siâp a gofod?

yn defnyddio ystod o strategaethau i wella cywirdeb?

yn defnyddio rhifedd i wella medrau rhesymu dysgwyr?

yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr nodi patrymau a nodweddion sy’n debyg mewn cyfrifiadau?

yn defnyddio cwestiynau treiddgar i wella dealltwriaeth? yn defnyddio technoleg i hyrwyddo a gwella dysgu rhifedd?

Page 21: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

18

Atodiad 1: Ysgrifennu’r Sylwebaeth Cyn-arolygiad (SCA) O ddadansoddiad o adroddiadau hunanasesu (AHAau) y coleg a’r maes dysgu, 1.1.4, gwnewch sylwadau yn yr adran Arfarniad yn y SCA ar:

dystiolaeth o ganran y dysgwyr a nodwyd ar gyfer rhaglenni cymorth llythrennedd a rhifedd;

tystiolaeth o’r niferoedd sydd wedi manteisio ar gymorth llythrennedd a/neu rifedd;

tystiolaeth a ddarparwyd gan y coleg am safonau mewn llythrennedd a rhifedd; tystiolaeth o’r modd y caiff dysgwyr eu cefnogi wrth iddynt ddysgu llythrennedd a

rhifedd; a thystiolaeth o’r modd y caiff cynnydd dysgwyr mewn medrau llythrennedd a

rhifedd ei olrhain a’i gofnodi. O ddadansoddiad o 2.1.2, gwnewch sylwadau ar:

ffordd systematig y coleg o olrhain a monitro cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd;

effeithiolrwydd y rhaglenni cymorth llythrennedd a rhifedd;

pa mor dda y mae’r coleg yn cydlynu darpariaeth medrau i gynllunio ar gyfer dilyniant;

mewn llythrennedd, a oes gan y coleg dystiolaeth o ddysgwyr yn cymhwyso medrau darllen ac ysgrifennu lefel uwch ar draws eu prif gwrs astudio;

pa mor dda y mae cynlluniau gwaith yn mynd i’r afael ag anghenion pob dysgwr, yn enwedig y rhai sy’n gweithio islaw’r lefelau disgwyliedig a’r dysgwyr mwy abl; a

pha mor dda y mae’r coleg yn datblygu medrau llythrennedd deuol ac yn gwneud cysylltiadau ag ieithoedd eraill

O ddadansoddiad o 3.1.1 a 3.2.1, gwnewch sylwadau ar ba mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr: 3.1.1

yn defnyddio data ar lythrennedd a rhifedd i fonitro a herio perfformiad;

yn gosod targedau i ysgogi gwelliant; ac

yn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer medrau a chymwysterau llythrennedd a rhifedd.

3.2.1

yn arfarnu effeithiolrwydd strategaethau i wella profiadau dysgu a deilliannau llythrennedd a rhifedd; ac

yn defnyddio’u data i gymharu eu perfformiad â pherfformiad mewn meysydd dysgu eraill ac â thargedau’r coleg.

Page 22: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

19

Atodiad 2: Rôl yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd Rôl yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd yw llunio barnau ar y safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd o fewn y meysydd dysgu ac ar draws y coleg fel rhan o’r arolygiad cam un. Bydd pob arolygiad yn cynnwys arolygydd arweiniol maes dysgu ar gyfer llythrennedd ac arolygydd arweiniol maes dysgu ar gyfer rhifedd. Bydd y ddau arolygydd arweiniol meysydd dysgu yn gweithio’n agos iawn â’i gilydd ac yn adrodd ar lythrennedd a rhifedd. Bydd yr adroddiadau yn cynnwys barn ar gyfer pob cwestiwn allweddol, ond ni fyddant yn cynnwys barnau ar gyfer y dangosyddion ansawdd unigol. Bydd yr arolygwyr yn cynnal arsylwadau ac yn mynd ar droeon dysgu yn bennaf yn y meysydd hynny o’r coleg nad ydynt yn rhan o’r arolygiadau meysydd dysgu.

Bydd colegau’n cyflwyno’u rhaglenni medrau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gall y rhain gynnwys:

dosbarthiadau llythrennedd a rhifedd ar wahân;

llythrennedd a rhifedd yn cael eu datblygu trwy Fagloriaeth Cymru; a

llythrennedd a rhifedd yn cael eu cyflwyno gan staff galwedigaethol ar gyrsiau galwedigaethol.

Bydd angen i’r arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd gysylltu â’r rheolwr medrau (neu gyfwerth) yn gynnar iawn yn yr arolygiad er mwyn pennu’r model cyflwyno. Bydd angen iddynt arsylwi’r dosbarthiadau hyn, ond byddant hefyd yn edrych am dystiolaeth o ba mor dda y mae athrawon yn datblygu medrau fel rhan o bob sesiwn. Dylai troeon dysgu gynnwys siarad â dysgwyr mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Dylai arolygwyr ganolbwyntio’n benodol ar ba mor dda y mae dysgwyr yn gwybod beth yw eu targedau o ran medrau, ac a yw’r rhain yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd. Mae craffu ar waith yn rhan bwysig o’r dystiolaeth. Dylai arolygwyr gymryd pob cyfle i edrych ar waith dysgwyr yn ystod troeon dysgu ac arsylwadau. Fodd bynnag, dylent ganolbwyntio’n benodol ar ba mor dda y mae athrawon a rheolwyr yn monitro ac yn cofnodi datblygiad medrau dysgwyr yng ngwaith y dysgwyr. Dylent edrych ar gofnodion o ba mor dda y mae athrawon yn defnyddio cynlluniau marcio; pa mor dda y mae athrawon yn marcio gwaith a pha mor dda y maent yn cofnodi, olrhain a monitro cynnydd dysgwyr mewn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd. Cyn yr arolygiad cam un: Bydd yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd yn:

craffu ar adroddiadau hunanasesu (AHA) a setiau data’r maes dysgu / coleg;

craffu ar gynllun datblygu ansawdd (CDA) y maes dysgu / coleg;

ysgrifennu SCA drafft;

cysylltu â’r ACof i nodi ystafell sylfaen briodol; ac yn

adolygu gofynion llety.

Page 23: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

20

Yn ystod yr arolygiad cam un Prynhawn dydd Llun - cam un: Bydd yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd yn:

rhannu eu SCAau drafft ac yn nodi themâu cyffredin;

cynllunio amserlen o arsylwadau a throeon dysgu;

trefnu cyfarfodydd;

cynllunio cyfrifoldebau ysgrifennu; ac yn

trefnu’r adborth min nos i’r rheolwr medrau perthnasol (neu gyfwerth).

Dydd Mawrth a Dydd Mercher – cam un: Bydd yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd yn:

cynnal arsylwadau a throeon dysgu;

cyfarfod â staff perthnasol;

siarad â dysgwyr;

gwirio ansawdd y dystiolaeth am fedrau yn y FfF i sicrhau ei bod yn ddigonol, yn gadarn ac wedi’i hysgrifennu yn unol â safonau Estyn;

sicrhau bod unrhyw faterion yn cael eu hadnabod ac y delir â nhw’n briodol;

cysylltu’n ddyddiol ag arweinwyr y meysydd dysgu er mwyn casglu adborth ar lythrennedd a rhifedd yn y meysydd dysgu;

coladu’r FfBau ar gyfnodau cyson; ac yn

cysylltu bob min nos gyda’r ACof. Dydd Iau – cam un: Bydd yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd yn:

llenwi eu FfBau mewnbwn;

creu FfF derfynol wedi’i choladu;

craffu ar y dystiolaeth a gasglwyd er mwyn llunio barnau;

sicrhau bod y FfF yn cynnwys digon o wybodaeth ar gyfer yr arolygiad cam dau;

creu’r FfF adrodd;

cyfarfod â’r arolygydd SAAr a’r ACof i gymedroli’r barnau; ac yn

ysgrifennu’r adrannau cryno ar gyfer yr adroddiad. Bore Gwener – cam un: Bydd yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd yn:

golygu a diwygio’r adroddiad terfynol;

rhannu deilliannau yn y cyfarfod tîm llawn olaf; ac yn

arwain yr adborth i’r rheolwr (rheolwyr) medrau.

Page 24: Arweiniad atodol: Arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg … · 2015-08-20 · Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014 1 Cyflwyniad

Arweiniad atodol: arolygu llythrennedd a rhifedd mewn addysg bellach – Tachwedd 2014

21

Mae gan yr arolygwyr arweiniol llythrennedd a rhifedd gyfrifoldeb am:

wneud yn siŵr bod yr arolygiad llythrennedd a rhifedd yn cael ei gynnal yn unol â safonau a phrotocol Estyn;

cysylltu â’r arolygwyr arweiniol meysydd dysgu;

cynnal cyswllt â’r ACof; a

chreu adroddiadau gorffenedig ar y meysydd dysgu yn unol â safonau cyhoeddi.