12
GWELLA ARWEINYDDIAETH RANBARTHOL A’R BERTHYNAS RHWNG MUDIADAU LLEOL A CHENEDLAETHOL O FEWN Y TRYDYDD SECTOR YNG NGHYMRU Crynodeb Gweithredol ar gyfer Cynghrair y Cynghreiriau a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Mark Llewellyn, Marcus Longley, Tony Garthwaite, Rhys Evans a Jennifer Hilgart Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru · Prifysgol De Cymru Chwefror 2016

GWELLA ARWEINYDDIAETH RANBARTHOL A’R BERTHYNAS … · gwella arweinyddiaeth ranbarthol a’r berthynas rhwng mudiadau lleol a chenedlaethol o fewn y trydydd sector yng nghymru crynodeb

Embed Size (px)

Citation preview

GWELLA ARWEINYDDIAETH RANBARTHOL A’R BERTHYNAS RHWNG MUDIADAU LLEOL A CHENEDLAETHOL O FEWN Y

TRYDYDD SECTOR YNG NGHYMRU

Crynodeb Gweithredol ar gyfer Cynghrair y Cynghreiriau a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mark Llewellyn, Marcus Longley, Tony Garthwaite, Rhys Evans a Jennifer Hilgart

Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru · Prifysgol De Cymru

Chwefror 2016

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru – Gorffennaf 2015 · Tudalen 1

CYNNWYS

1. CYFLWYNIAD ............................................................................................................................... 2

MANYLEB Y PROSIECT ............................................................................................................................. 2

METHODOLEG ......................................................................................................................................... 2

2. CRYNODEB O’R CANFYDDIADAU ....................................... ERROR! BOOKMARK NOT DEFINED.

3. CAMAU NESAF – OPSIYNAU I WEITHREDU ............................................................................... 6

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru – Gorffennaf 2015 · Tudalen 2

1. CYFLWYNIAD

Comisiynwyd Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru i gynnal astudiaeth ymchwil ar wella arweinyddiaeth ranbarthol a’r cysylltiadau rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol y mae pob ohonynt yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Comisiyniwyd y gwaith gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ar ran Cynghrair y Cynghreiriau iechyd a gofal cymdeithasol yn y trydydd sector.

MANYLEB Y PROSIECT Dyma gyfarwyddyd WCVA ar gyfer y gwaith – mae manylion pellach ar gael mewn detholiad o’r fanyleb yn Atodiad 1:

− Cwmpasu er mwyn canfod pa seilwaith sydd yn ei le; arfer da; cyfleoedd a bylchau.

− Y nod yw sicrhau parodrwydd a’r gallu i ymwneud â datblygu polisi yn genedlaethol, a sicrhau cydweithio â phartneriaid allanol gan gynnwys Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, yn ogystal ag o fewn y trydydd sector ei hun, ac yn bwysig wella’r gwaith rhwng mudiadau lleol a chenedlaethol gyda’r elfen ranbarthol ychwanegol.

Rhaid oedd cwblhau’r astudiaeth yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2015, ac fe’i hariannwyd gan ‘Grant Cyflawni Trawsnewid’ Llywodraeth Cymru (LlC), sy’n cynorthwyo i roi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar waith.

METHODOLEG Er mwyn ymateb i’r fanyleb, dewiswyd tri dull.

1. Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth, ac iddo ffocws pendant, er mwyn canfod profiad eraill o fewn y trydydd sector o’r tu allan i Gymru. Yn y bôn, adolygiad o sawl dogfen lenyddiaeth ‘lwyd’ o fewn y Deyrnas Unedig oedd hwn;

2. Datblygwyd holiadur arlein er mwyn canfod barn cyfranogwyr ar gyfres o swyddogaethau sy’n diffinio gweithgareddau allweddol i’r trydydd sector, a chyflwr presennol perthnasau o fewn y sector a’r tu allan iddo. Roedd yr arolwg ar gael i’w lenwi yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae copi o’r fersiwn Saesneg wedi’i gynnwys o fewn Atodiad 2. Dosbarthwyd yr arolwg gan ddefnyddio rhwydweithiau WCVA, ond cafodd ei ddadansoddi’n annibynnol gan ymchwilwyr yn yr Athrofa;

3. Cynhaliodd dîm yr Athrofa 18 o gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol o bedair ‘etholaeth’: grwpiau sector gwirfoddol lleol, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGSau), elusennau cenedlaethol a/neu aelodau o’r Gynghrair, a’r sector statudol. Canfu’r Athrofa ddarpar gyfweleion a chysylltu â hwy, ac oherwydd yr amserlen fer ar gyfer yr astudiaeth, cynhaliwyd cyfweliadau ffôn. Cymerodd y trafodaethau hyn fel arfer rhwng 30 munud ac awr i’w cwblhau.

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru – Gorffennaf 2015 · Tudalen 3

Mae’n bwysig nodi y canolbwyntiodd yr ymchwilwyr eu hamser, drwy gydol yr astudiaeth, ar ddeall yn well y ‘swyddogaethau’ a’r perthnasau allweddol y mae ar y trydydd sector eu hangen o gofio cyd-destun y gwaith cynyddol a wneir ar draws rhanbarthau. Teimlai’r tîm yn gryf na ellid trafod y ‘ffurf’ na’r trefniadau o fewn y trydydd sector ond ar ôl sefydlu eglurder ynghylch y swyddogaethau, ac felly mae’r adroddiad hwn yn ymatal rhag siarad mewn unrhyw fanylder ynghylch y seilwaith y bydd ei angen yng Nghymru er mwyn sicrhau y cyflawnir y swyddogaethau hyn yn effeithiol.

Rydym hefyd yn dra ymwybodol nad yw’r ‘rhanbarth’ eto yn gysyniad penodedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ceir nifer o wahanol ranbarthau o wahanol feintiau, ac ar gyfer gwahanol wasanaethau a meysydd polisi. Ymhellach, cydnabyddwn hefyd nad oes dim penderfyniadau ffurfiol wedi’u gwneud eto ynghylch ffurf ad-drefnu llywodraeth leol, ac felly mae’n anodd siarad â sicrwydd ynghylch unrhyw ‘ranbarth’. Yn wir, cydnabyddwn ei bod hi braidd yn gynnar i sôn am y ‘rhanbarth’. Wedi dweud hynny, rydym wrth gwrs yn cydnabod bod byrddau iechyd wedi bod yn gweithio ar batrwm ‘rhanbarthol’ ers sawl blwyddyn, a bod ad-drefnu llywodraeth leol yn debygol o ddod â mwy o gysondeb rhwng ffiniau gweinyddol darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y cyd-destun hwn y cynhaliwyd yr astudiaeth.

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru – Gorffennaf 2015 · Tudalen 4

2. CRYNODEB O’R CANFYDDIADAU

I grynhoi, mae’r adran ganlynol yn rhoi trosolwg o’r dystiolaeth sydd wedi’i chasglu hyd yma.

ADOLYGIAD LLENYDDIAETH

− Nid oes un ‘glasbrint’ perffaith i Gymru, ond ceir dulliau a modelau sy’n werth edrych yn fanwl arnynt a’u hystyried, ac nid yw’r materion sy’n wynebu Cymru yn unigryw o bell ffordd;

− Cydnabyddir gwerth y trydydd sector mewn trafodaethau rhanbarthol, yn ogystal â’r cyfraniad y gall y trydydd sector ei wneud at ddylanwadu ar benderfyniadau strategol ar gyfer partneriaid yn y sector statudol. Pan fo gwaith da wedi’i wneud, fe’i gwnaed mewn partneriaeth, gyda mudiadau trydydd sector yn gweithio’n effeithiol o fewn y sector a’r tu allan iddo.

AROLWG ARLEIN

− Teimlai cyfran uchel o ymatebwyr fod angen y swyddogaethau a ganfuwyd ac y byddai mwy o weithio’n rhanbarthol yn cynorthwyo i weithredu’r swyddogaethau, ond roedd gwahaniaethau mawr mewn barn o ran pa mor dda y teimlai ymatebwyr y mae’r swyddogaethau a ganfuwyd yn gweithredu ar hyn o bryd. Po fwyaf gweithredol a mewnol i’r trydydd sector yw’r swyddogaeth, y mwyaf y teimlai pobl ei bod yn effeithiol ar hyn o bryd. Ar y llaw arall po fwyaf strategol ac ‘allanol’, y mwyaf tebygol oedd pobl i ystyried y swyddogaeth yn aneffeithiol;

− Dengys y dadansoddiad ansoddol o’r canfyddiadau fod nifer o themâu, sy’n dod i’r amlwg yn gyson, yn bodoli – ni waeth o ba safbwynt y daw pobl. Mae’r rhain yn gymhleth ond yn troi o amgylch y ffordd y mae’r sector yn gweithio’n fewnol (o amgylch cyfathrebu, llywodraethu, atebolrwydd, er enghraifft) neu’n allanol gyda phartneriaid (o amgylch dylanwadu a darparu gwasanaethau, cynrychiolaeth, ymddiriedaeth, er enghraifft).

CYFWELIADAU

− Daeth hi i’r amlwg fod pum mater yn hanfodol bwysig i wella arweinyddiaeth ranbarthol ym marn rhanddeiliaid allweddol: perthnasau, arweinyddiaeth a datblygu partneriaethau o fewn y trydydd sector; datblygu perthnasau a phartneriaethau strategol a gweithredol rhwng y trydydd sector a chomisiynwyr; rôl CGSau; rôl y Cynghreiriau; a rôl WCVA;

− Mae parch mawr tuag at waith y trydydd sector yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol. Gall y rheini o’r tu allan i’r sector weld diffygion a meysydd sydd angen eu gwella, ond maent yn barod i weithio mewn partneriaeth i ddatrys y problemau hyn a datblygu perthynas waith well a thra mae’r tensiynau mwy anhydrin yn bodoli o fewn y trydydd sector, y rhain yw’r rhai y mae gan y sector mewn nifer o ffyrdd y gallu i’w datrys.

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru – Gorffennaf 2015 · Tudalen 5

Gan ystyried holl dystiolaeth yr ymchwil gyda’i gilydd, mae’r rhestr ganlynol yn rhoi crynodeb o’r materion sy’n wynebu’r trydydd sector yng Nghymru o ran arweinyddiaeth ranbarthol, a’r ffordd y mae mudiadau lleol a chenedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd:

− Creu dealltwriaeth lawer gwell o fewn y sector a chydag eraill o’r ffordd y mae’r sector wedi’i ffurfio, ei rôl a’i ddiben, a’i gyfraniad;

− Datblygu cytundebau ffurfiol ar gyfer cydweithio a phartneriaeth rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol sy’n cynnwys ymrwymiad i weithio’n rhanbarthol a datblygu cytundebau tebyg â phartneriaid statudol gan adolygu trefniadau llywodraethu yn briodol;

− Gwella cyfathrebu o fewn y sector a rhwng y sector a phartner-asiantaethau, gan rannu gwybodaeth, gwersi ac arfer da o bosib drwy greu map o weithgareddau a gwasanaethau presennol sy’n dangos cysylltedd, a chanfod bylchau;

− Creu bwriad cydweithio dilys lle mae ymrwymiadau’n agored ac yn onest ac yn osgoi tiriogaetholdeb, drwy wella arweinyddiaeth ar bob lefel gan gynnwys arweinyddiaeth wleidyddol ac ystyried y system gyllido a chynlluniau cyllido er mwyn iddynt fod yn fwy hirdymor ac yn llai cystadleuol, ac annog cydweithio yn hytrach, gan alluogi cyfranogi llawnach ar bob lefel o’r sector;

− Gwella comisiynu a chaffael gan awdurdodau lleol i alluogi mwy o ddefnydd o’r trydydd sector a chyflogi unigolion o fewn pob rhanbarth fel hwyluswyr i wneud cysylltiadau o fewn y sector a chydag eraill;

− Adolygu rôl a diben CGSau a WCVA i sicrhau eu bod yn addas i’r diben fel rhan o’r trefniadau hyn.

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru – Gorffennaf 2015 · Tudalen 6

3. CAMAU NESAF – OPSIYNAU I WEITHREDU

Mae’r prosiect ymchwil hwn wedi cadarnhau pwysigrwydd ac amrywiaeth y trydydd sector ar adeg pan fo iechyd a gofal cymdeithasol yn newid yn sylweddol, nid yn lleiaf oherwydd y rhoddir Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar waith yn fuan. Mae’r ddeddfwriaeth bwysig hon yn darparu cyfleoedd a heriau i bob sector a bydd llwyddiant wrth ei rhoi ar waith yn dibynnu ar harneisio gwahanol fuddiannau sectorol er budd cyffredin defnyddwyr, gofalwyr a dinasyddion yn gyffredinol.

Mae’n amser gweithredu ac roeddem yn awyddus iawn i’r adran derfynol hon roi pwyslais ar nodi ffyrdd ymarferol y gellid trosi’r ymchwil yn opsiynau i weithredu yn y tymor byr, canolig a’r hirdymor. Fel y nodwyd yn gynharach, mae rhai problemau o fewn gallu’r sector i’w datrys a thra cydnabyddwn y bydd angen cymorth a sylw gan eraill ar gyfer rhai o’r rhain, gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn gatalydd i gynrychiolwyr pob sector yng Nghymru ddeall ac ymgysylltu’n well â’r camau gweithredu rydym yn eu nodi yma fel opsiynau i symud ymlaen. Dylid nodi bod rhai asiantaethau statudol eisoes wedi dangos eu parodrwydd i ymgysylltu drwy lenwi’r arolwg arlein a/neu gyfranogi yn y cyfweliadau. Hefyd cydnabyddwn yn agored fod llawer o waith ar y mathau hyn o faterion eisoes yn digwydd o fewn y sector – ni ofynnwyd i ni ‘fapio’ y gweithgaredd hwn, ac nid ydym wedi ceisio gwneud hynny, ond gwyddem fod llawer o atebion eisoes yn bodoli a bod gwaith yn mynd rhagddo arnynt.

Mae pob elfen o’n hymchwil yn darparu sylfaen i weithredu yn y dyfodol a bydd angen i’r sector ystyried yr hyn a ddysgir ym mhob un a gwahanol rinweddau’r meddyliau a’r syniadau sydd ynddynt. Byddem yn argymell defnyddio’r gwahanol “leisiau” a gynrychiolir yn Adran 4 fel pwynt gwirio i’r camau gweithredu ei ddilyn. Efallai fod y safbwyntiau a gynrychiolir gan y “lleisiau” hyn yn wahanol ond credwn hefyd fod cryn dipyn o feddwl a diben cyffredin o fewn iddynt ac yn y pen draw maent i gyd yn adlewyrchu awydd i wella cyfraniad y trydydd sector ar yr adeg bwysig hon.

Rydym wedi nodi nifer o feysydd i’w hystyried ymhellach (gweler y tabl canlynol) sy’n dwyn ynghyd yr elfennau amrywiol o’n canfyddiadau ac yn darparu “rhestr hir” o opsiynau i weithredu. Argymhellwn y dylid nawr ystyried y rhain er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau. Mae’r tabl yn adlewyrchu’r dystiolaeth, gan ddweud wrthym beth (sydd angen digwydd) a sut (y dylem wneud iddo ddigwydd).

Gellir hefyd ddosbarthu’r dystiolaeth yn ôl y gallu i gyflawni’r nod yn y tymor byr, canolig a’r hirdymor. Efallai fod rhai awgrymiadau’n ymddangos yn eithafol, ac eraill yn llai felly, ond mae pob un yn agored i’w trafod ac mae pob un wedi’u canfod yn ystod yr ymchwil. Ym mhob achos, credwn y gall y cam gweithredu a nodir gynorthwyo i wella arweinyddiaeth ranbarthol a’r cysylltiadau rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol. Mae’n bwysig ystyried y tabl fel opsiynau i weithredu yn gymaint ag fel cynigion.

Mae’r tabl yn rhoi llawer mwy o fanylder, ond i grynhoi, er mwyn gwella arweinyddiaeth ranbarthol a’r cysylltiadau rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol, awgryma’r dystiolaeth rydym wedi’i chasglu yn ystod yr ymarfer hwn fod angen i’r sector wneud y canlynol:

1. Creu dealltwriaeth lawer gwell o rôl a chyfraniad y sector at iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ac at gyflawni dyheadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru);

2. Sefydlu gwell drefniadau partneriaeth mewnol ac allanol gyda gallu i’w cynnal dros amser;

3. Gweithredu o fewn system gyllido sy’n darparu cynaliadwyedd ariannol a’r defnydd gorau o adnoddau;

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru – Gorffennaf 2015 · Tudalen 7

4. Ffurfio trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd clir i weithio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru · Gorffennaf 2015 Tudalen 8

Tabl 6.1 · Meysydd i’w Hystyried Ymhellach ac Opsiynau i Weithredu

Maes gweithredu allweddol Beth? Sut? Goblygiadau a sylwadau Graddfa

amser

Er mwyn gwella arweinyddiaeth ranbarthol a’r cysylltiadau rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol, mae angen i’r sector wneud y canlynol...

1. CREU DEALLTWRIAETH LAWER GWELL O RÔL A CHYFRANIAD Y SECTOR AT IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A LLESIANT AC AT GYFLAWNI DYHEADAU DEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU)

Creu dealltwriaeth lawer gwell o fewn y sector a chydag eraill o’r ffordd y mae’r sector wedi’i ffurfio, ei rôl a’i ddiben, a’i gyfraniad. Cynyddu gwerth y sector. Canfod agendâu cyffredin, gwerthoedd a rennir a disgwyliadau. Newid agweddau.

Trefnu rhaglen unedig o drafodaethau, fforymau, cynadleddau, gweminarau, sesiynau briffio a digwyddiadau gan gynnwys y partïon perthnasol. Sicrhau deialog wyneb yn wyneb. Ymgysylltu mewn modd mwy ystyrlon. Trefnu ymweliadau gan gynrychiolwyr cenedlaethol a statudol â gweithgareddau lleol. WCVA i chwarae rôl froceru. Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, a’u cynnwys, yn fwy. Trefnu fforymau darparwyr.

Angen llawer mwy o egni nag a welwyd yn flaenorol. Pwnc posib ar gyfer ymgyrch. Dibynnu i ryw raddau ar gyd-ddymuniadau. Angen arweinyddiaeth.

Tymor byr i ganolig.

Gwella cyfathrebu o fewn y sector a rhwng y sector a phartner-asiantaethau, gan wella llif gwybodaeth, mewnbwn a syniadau.

Dyfeisio strategaeth gyfathrebu. Mabwysiadu ystod o ddulliau cyfathrebu gan adlewyrchu technoleg. Sicrhau y cynhwysir grwpiau anodd eu cyrraedd.

Dylid gallu ei gyflawni gyda’r ymrwymiad cywir ond ni ddylid tanbrisio maint a chymhlethdod y sector.

Tymor byr i ganolig

Rhannu gwybodaeth, gwersi ac arfer gorau.

Gweithredu ochr yn ochr â’r fenter gyfathrebu.

Tymor byr i ganolig

Creu map o weithgareddau a gwasanaethau presennol gan ddangos cysylltedd, a chanfod bylchau, i geisio galluogi’r sector a rhanddeiliaid i ddeall y sector yn well a chanfod cyfleoedd.

Cynnal archwiliad o ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli.

Efallai y bydd angen prosiect tymor byr penodol.

Tymor byr i ganolig

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru · Gorffennaf 2015 Tudalen 9

Maes gweithredu allweddol Beth? Sut? Goblygiadau a sylwadau Graddfa

amser

Er mwyn gwella arweinyddiaeth ranbarthol a’r cysylltiadau rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol, mae angen i’r sector wneud y canlynol...

2. SEFYDLU GWELL DREFNIADAU PARTNERIAETH MEWNOL AC ALLANOL GYDA GALLU I’W CYNNAL DROS AMSER

Datblygu cytundebau ffurfiol ar gyfer cydweithio a phartneriaeth rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol sy’n cynnwys ymrwymiad i weithio’n rhanbarthol. Datblygu cytundebau tebyg â phartneriaid statudol. Adolygu trefniadau llywodraethu yn briodol.

Ceisio cefnogaeth LlC dros bwysigrwydd y trydydd sector drwy atgyfnerthu ei chynllun. Llunio Memoranda Cyd-ddealltwriaeth a dulliau priodol eraill.

Bydd angen cefnogaeth wleidyddol i fagu momentwm. Os nad oes modd ei gyflawni, bydd yn cynorthwyo i amlygu mecanweithiau cefnogol eraill ar gyfer cydweithio.

Tymor byr i ganolig

Canfod unigolion a all fod yn bwyntiau cyswllt o fewn pob rhanbarth i wneud cysylltiadau o fewn y sector a chydag eraill.

Ceisio gwirfoddolwyr ar gyfer gorchwyl. Angen gwirfoddolwyr ar gyfer gorchwyl. Tymor byr i ganolig

Creu bwriad cydweithio dilys lle mae ymrwymiadau’n agored ac yn onest ac yn osgoi tiriogaetholdeb.

Sicrhau y gweithredir ar benderfyniadau bob tro, ac y gwelir hynny, gan gyfathrebu â’r sector drwyddo draw. Creu rhwydweithiau rhanbarthol. Cynnal proffil gwaith rhanbarthol ar agendâu.

Angen gweithredu system olrhain penderfyniadau.

Tymor byr i ganolig

Cynyddu gallu defnyddwyr gwasanaethau i gyfrannu at ddylunio gwasanaethau a chynyddu gwerth y sector er budd darparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau, gan felly sicrhau y clywir ac ystyrir llais pob dinesydd, gan gynnwys y rheini ar yr ymylon.

Ailystyried strategaethau ymgysylltu a chynnwys. Ysgogi cyfleoedd hyfforddi newydd.

Bydd angen gwaith paratoi gofalus. Tymor byr i ganolig

Gwella sgiliau i gydweithio. Canfod sgiliau angenrheidiol i gydweithio – dadansoddiad o anghenion hyfforddi

Gall fod yn ymarfer mawr ond gall fod wedi’i dargedu yn fwy.

Tymor canolig

Creu swyddi a sefydlir yn ffurfiol o fewn pob rhanbarth i unigolion fod yn hwyluswyr i greu cysylltiadau yn y sector a chydag eraill.

Angen cyllid. Nid oes cyllid wedi’i gynnig hyd yma yn benodol i’r diben hwn ac efallai na fydd hynny’n digwydd yn y dyfodol.

Hirdymor

Ei gwneud yn ddyletswydd orfodol i gynnwys pob parti o fewn y sector a rhyngddo ac eraill.

Ceisio cefnogaeth lefel uchel gan arweinwyr o fewn y sector a/neu LlC.

Darpara Cynllun y Trydydd Sector lwyfan. Ceir dyletswydd i gydweithio o fewn y Ddeddf. Yn debygol o gymryd peth amser i’w rhoi ar waith.

Hirdymor

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru · Gorffennaf 2015 Tudalen 10

Maes gweithredu allweddol Beth? Sut? Goblygiadau a sylwadau Graddfa amser

Er mwyn gwella arweinyddiaeth ranbarthol a’r cysylltiadau rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol, mae angen i’r sector wneud y canlynol...

3. GWEITHREDU O FEWN SYSTEM GYLLIDO SY’N DARPARU CYNALIADWYEDD ARIANNOL A’R DEFNYDD GORAU O ADNODDAU

Gwella comisiynu a chaffael gan awdurdodau lleol i alluogi mwy o ddefnydd o’r trydydd sector.

Trwy negodi. Canfod a chyfathrebu arfer gorau.

Graddfeydd amser yn dibynnu ar gytundeb awdurdodau lleol.

Tymor byr i ganolig, hirdymor efallai.

Newid y system gyllido a chynlluniau cyllido er mwyn iddynt fod yn fwy hirdymor, yn llai cystadleuol, ac annog cydweithio yn hytrach, gan alluogi cyfranogi llawnach ar bob lefel o’r sector.

Deialog cyfredol o fewn y sector a rhwng y sector a LlC.

Pwnc mawr a bydd angen newidiadau mewn agwedd gan fod trefniadau presennol yn gweddu i rai ac nid i eraill. Prin yw’r dystiolaeth hyd yma o ganfod y cydbwysedd cywir.

Hirdymor

Cydgyfrannu adnoddau, ariannol, dynol a materol.

Sefydlu cytundebau ffurfiol ac ymrwymiadau newydd.

Yn profi’n her o fewn asiantaethau statudol ar yr agenda i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.

Hirdymor

Er mwyn gwella arweinyddiaeth ranbarthol a’r cysylltiadau rhwng mudiadau trydydd sector lleol a chenedlaethol, mae angen i’r sector wneud y canlynol...

4. FFURFIO TREFNIADAU LLYWODRAETHU AC ATEBOLRWYDD CLIR I WEITHIO AR Y LEFELAU LLEOL, RHANBARTHOL A CHENEDLAETHOL.

Adolygu rôl a diben CGSau.

Canfod ai darparwyr yw CGSau ynteu llais lleol y sector yn cefnogi mudiadau ac yn cynyddu aelodaeth.

Pwnc dadleuol o bosib. Tymor byr i ganolig

Adolygu rôl a diben WCVA. Canfod y rôl orau i WCVA yn yr hinsawdd bresennol. Diwygio neu ailddyfeisio? Tymor byr i ganolig

Adolygu rôl a diben Cynghrair y Cynghreiriau.

Canfod a yw’r Gynghrair hon yn cynrychioli’n ddigonol yr holl fuddiannau trydydd sector ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Adolygu’r cylch gorchwyl.

Cyfle da i wneud hyn o gofio’r ffaith y comisiynodd y Gynghrair y prosiect hwn a’i statws cymharol newydd.

Tymor byr i ganolig

Arweinyddiaeth a gwaith rhanbarthol o fewn y trydydd sector yng Nghymru · Gorffennaf 2015 Tudalen 11

Yn olaf, hoffem gydnabod y cynhaliwyd y gwaith hwn yng nghyd-destun pedwar o ddatblygiadau arwyddocaol cyfredol ym maes polisi:

− Yn gyntaf, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) newydd. Mae mwy o eglurder o ran gweithredu agweddau ar y ddeddfwriaeth yn dod i’r amlwg ar hyn o bryd drwy gyhoeddi’r rheoliadau a’r codau ymarfer cysylltiedig â hi ond, fel gyda’r rhan fwyaf o ddeddfau, ni fydd dealltwriaeth o oblygiadau’r Ddeddf i’r trydydd sector yn dod i’r amlwg yn llwyr hyd nes ar ôl ei rhoi ar waith ar 1 Ebrill 2016.

− Yn ail, y galw parhaus i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy. Wrth wneud cynnydd ar yr agenda hwn, mae’n dilyn bod gweithio traws-sector yn debygol o wella. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid yw’n bosib amcangyfrif maint yr effaith bositif y bydd mwy o integreiddio yn ei chael ar y trydydd sector a’r ffordd mae’n ymwneud â’i bartneriaid statudol.

− Yn drydydd, ceir cyd-destun polisi a deddfwriaethol ehangach sy’n berthnasol i’r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a’i Nodau Llesiant gan gynnwys ‘Cymru iachach’; Gofal Iechyd Darbodus; Ein Cynllun ar gyfer Gofal Iechyd Sylfaenol hyd at fis Mawrth 2018; Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru); Deddf Tai (Cymru) 2014; a Bil Llywodraeth Leol (Cymru).

− Yn olaf, ar drywydd tebyg, gwyddem y bydd ad-drefnu llywodraeth leol yn golygu llai o awdurdodau ac felly batrwm daearyddol ehangach ar gyfer gweithio traws-sector. Eto, fodd bynnag, ni allwn fod yn glir ynghylch effaith bosib hyn ar y ffordd y bydd y trydydd sector yn gweithio’n rhanbarthol yn y dyfodol.

Ein barn ni yw pa gamau gweithredu bynnag y penderfyna’r sector eu blaenoriaethau a’u cynnal, mae angen eu diogelu at y dyfodol gymaint â phosib rhag y tri chyd-destun hyn.

Cyhoeddwyd gan WCVA, Elusen Gofrestredig 218093