32

Cynllun Gwella

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Cyngor Sir Penfro - Cynllun Gwella 2013 / 14

Citation preview

Page 1: Cynllun Gwella

����� � ����� � ����

Page 2: Cynllun Gwella

cynllungwe l l a

Ble i gael rhagor o wybodaeth a datganiad cydymffurfio

Mae’r cynllun hwn yn cyflawni ein dyletswyddau dan Fesur Llywodraeth Leol(Cymru) 2009 i gynhyrchu Cynllun Gwella.

I gael copi o’r ddogfen hon mewn print bras, fel Braille, ar dâp sain neu mewn iaitharall, cysylltwch â: Jackie Meskimmon ar 01437 776613.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:Dan Shaw, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Cyngor Sir PenfroNeuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TPFfôn: 01437 [email protected]

www.pembrokeshire.gov.uk

Rhagair ........................................................ 031. Cyflwyniad .............................................. 042. Ein hegwyddorion.................................... 063. Cynaliadwyedd a chydraddoldeb .......... 084. Datblygu ein Hamcanion Gwella ............ 105. Plant ........................................................ 146. Yr Economi ............................................ 177. Yr Amgylchedd ...................................... 208. Iechyd .................................................... 229. Diogelwch .............................................. 2611. Cyflwyno adroddiadau ............................ 2912. Geirfa ...................................................... 30

Cynnwys

Page 3: Cynllun Gwella

03

Rwy’n falch o gyflwyno Cynllun Gwella Cyngor Sir Penfro ar gyfer2013/14.

Y Cynllun hwn yw ein prif ddogfen sy’n edrych i’r dyfodol acmae’n cyflwyno ein hamcanion am y flwyddyn a ddaw. Mae’n rhoicyfle i ni fynegi ein dealltwriaeth o’r materion sy’n bwysig i chi arhannu sut y bwriadwn roi sylw iddynt.

Bu’r flwyddyn aeth heibio, un gyntaf y Cyngor newydd hwn, yn unanodd. Rydym wedi gweithio’n galed i roi sylw i’r pryderon afynegwyd ynghylch ein trefniadau diogelu a gwasanaethauaddysg. Rydym wedi cydnabod ein mannau gwan, wedi penodiaelodau allweddol o’r staff, wedi ymwneud yn weithredol â’nhysgolion ac wedi targedu ein hadnoddau’n fwy effeithiol. Mae’ndda gennyf ddweud bod yr ymdrechion hyn bellach wedi dechraucael effaith gadarnhaol ac, ar ben hynny, bod hyn yn dechrau caelei gydnabod gan y rhai sy’n ein rheoleiddio. Mae’n amlwg fodgennym fwy i’w wneud, ond rwy’n hyderus y byddwn yn dal iwneud cynnydd yn ystod 2013/14.

Ni fu’n rhwydd cyflawni hyn o flaen cefnlen o bwysau ariannolcynyddol. Er ein bod yn dal i reoli’n cyllideb yn effeithiol, ac eto

Rhagair eleni wedi pennu’r Dreth Gyngor isaf yng Nghymru, mae’n amlwgy bydd y pwysau hwn yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd addaw. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynllun ariannol tymor canoliggennym yn dangos ein bwriad i arbed £8.6m dros dair blynedd. Ynddiamau bydd hyn yn golygu y byddwn yn wynebu rhaidewisiadau anodd, ac amhoblogaidd ambell waith, yn ystod ymisoedd a ddaw.Wedi dweud hynny, bydd y gofynion i arbed arian hefyd yn rhoicyfleoedd i ni. Fe all weithiau fod yn anodd derbyn newid ablaenoriaethu’r gwasanaethau a werthfawrogwn fwyaf. Efallai’n wiry bydd y dewisiadau a wnawn yn ystod y ddwy flynedd neu dairnesaf yn dechrau ailddiffinio swyddogaeth y Cyngor o ran darparugwasanaethau yn Sir Benfro.

Bob amser bydd gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu darparu gany Cyngor hwn y bydd yn ymdrechu i’w gwarchod – gwasanaethaucymdeithasol, amddiffyn plant a gwasanaethau addysg, erenghraifft. Fodd bynnag, fe all fod gwasanaethau eraill lle gall fodyn fuddiol mewn gwirionedd edrych yn wahanol ar eu darparu –efallai trwy rannu rhai cyfrifoldebau gyda chymunedau lleol neudrwy gyflenwi cyfran uwch o’n gwasanaethau ar y cyd agasiantaethau eraill.

Ar waethaf gorfod canolbwyntio ar gyllid yn ystod 2013/14,byddwn yn ceisio datblygu cyfleoedd cyffrous o ran eingwasanaeth gwella ysgolion, diogelu, adfywio canol trefi, rheoligwastraff ac adolygu ein gwasanaethau gofal cymdeithasoloedolion. Byddwn hefyd yn dal i ddatblygu ein cynlluniau iweithredu un o’r rhaglenni adeiladu ysgolion mwyaf uchelgeisiolyng Nghymru. Er ei bod yn anochel y bydd yr hinsawdd ariannolyn peri canlyniadau mewn rhai meysydd, mae’n hollbwysig einbod yn parhau ein hymrwymiad i ddod â’r canlyniadau gorau oll iSir Benfro a’i thrigolion.

Y Cynghorydd Jamie Adams, Arweinydd

Page 4: Cynllun Gwella

04

1. Cyflwyniad1.1 Diben y cynllun hwn yw disgrifio beth fyddwn

yn ei wneud i gyflawni ein dyletswydd isicrhau gwelliant parhaol . Mae’n cyflwyno’rmeysydd gwella y byddwn yn canolbwyntioarnynt yn ystod y flwyddyn a ddaw ac mae’negluro ein sail resymegol ar gyfer gwneudhynny.

1.2 Ysgrifennwyd y Cynllun gyda thrigolion,busnesau ac ymwelwyr â’r Sir mewn golwg.Bydd pob un o’r rhanddeiliaid hyn yndefnyddio’n gwasanaethau ac mae ganddyntddiddordeb yn ein hagwedd at gyflawnigwelliant parhaol.

1.3 Y Cynllun yw mynegiant cyhoeddus einhagwedd at reoli perfformiad. Ein fframwaithrheoli perfformiad sy’n disgrifio’r cylchblynyddol a ddilynwn wrth gynllunio, arolyguac adolygu popeth a wnawn.

1.4 Â siarad yn gyffredinol, mae pedwar cam ynein fframwaith. Rhwng Rhagfyr a Mawrth bobblwyddyn canolbwyntiwn ar nodi amcanionat wella. Yn ystod Mawrth ac Ebrill byddwn yn

terfynu ein hamcanion ac yn cyflwyno eincynlluniau ar gyfer cyflawni yn ystod yflwyddyn a ddaw. Byddwn yn cadw golwg arberfformiad drwy gydol y flwyddyn ac ynceisio gweld pa effaith gafodd cyflenwi’ngwasanaethau ar y gymuned. Yn olaf, ynystod Medi a Hydref dechreuwn adolygu eincynnydd fel ein bod mewn sefyllfa i goethi einhamcanion ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

1Mae Adran 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn rhoidyletswydd gyffredinol ar holl awdurdodau lleol Cymru i “drefnusicrhau gwelliant parhaol wrth arfer [eu] swyddogaethau”.

Page 5: Cynllun Gwella

05

1.5 Trefnwyd y Cynlluniau Gwella a gyhoeddwydgennym o’r blaen o gwmpas yr wyth thema anodwyd yng Nghynllun Cymunedol Sir Benfro 2010- 2025. Trefnwyd Cynllun eleni o gwmpas y chwechanlyniad allweddol sydd yng Nghynllun CyfunUnigol newydd Sir Benfro, sydd wedi disodli’rCynllun Cymunedol blaenorol fel y ddogfengynllunio strategol bwysicaf ar gyfer y Sir. Y chwechanlyniad allweddol a nodwyd yn y Cynllun CyfunUnigol yw:

• Plant: bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn caelcyfle i gyflawni eu gallu addysgol a bywbywydau iach a hapus

• Yr Economi: bod economi Sir Benfro’ngystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy

• Yr Amgylchedd: bod pobl Sir Benfro’nmwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy acamrywiol

• Iechyd: bod pobl Sir Benfro’n iachach• Diogelu: bod plant ac oedolion yn cael eu

diogelu• Diogelwch: bod cymunedau Sir Benfro’n `

teimlo’n ddiogel

1.6 Yn ogystal â nodi ein cyfraniad at gyflawni’rcanlyniadau allweddol hyn, mae’r Cynllun hwn yndisgrifio:

• ein hegwyddorion fel sefydliad,• ein hagwedd at gynaliadwyedd a chydraddoldeb;• ein Hamcanion Gwella ar gyfer 2013/14; a• sut fyddwn yn hysbysu ac yn adolygu ein

cynnydd yn y dyfodol.

SUT MAE EIN CYNLLUNIAU’NMYND I’W GILYDD

1.7 Mae’r Cynllun Gwella hwn yn rhan o hierarchaetho gynlluniau, pob un ohonynt yn chwarae rhansylweddol yn nhrefniadau cyflenwi’ngwasanaethau. Mae’n arfer da gallu tynnu ‘llinyneuraid’ rhwng y cynlluniau a nodi sut fydd aelodauunigol o’r staff, timau, adrannau gwasanaeth acasiantaethau cyfan yn gweithio tuag atganlyniadau allweddol y Cynllun Cyfun Unigol2.

2 Er nad yw’n cael lle blaenllaw yn y diagram, rydym hefyd yn ymroddi i gyflawni CynllunGweithredu Estyn yn ystod 2013/14. Mae ein Cynllun Gweithredu Estyn yn disgrifio’r camau agymrwn i ymateb i’r argymhellion a gyhoeddwyd gan yr arolygwyr ym mis Rhagfyr 2012. Caiff ycamau hyn eu trafod yn ein Cynlluniau Gwella Gwasanaethau.

Y CYNLLUN CYFUN UNIGOL

Y CYNLLUN GWELLA

CYNLLUNIAU GWELLA GWASANAETHAU

CYNLLUNIAU TIMAU

GWERTHUSIADAU PERFFORMIAD

Y CYNLLUNHWN

Page 6: Cynllun Gwella

06

2. Ein Hegwyddorion2.1 Ers dechreuad Cyngor Sir Penfro yn 1996, rydym

wedi gweithio yn ôl tair egwyddor drawsbynciol.

2.2 Mae trin cwsmeriaid yn gwrtais ac yn deg ynegwyddor sydd wedi’n gwasanaethu’n dda.Rydym yn cymryd sylw o’r elfennau ac yn euharolygu; materion fel pa mor gyflym y caiffgalwadau ffôn a llythyrau eu hateb, yn ogystal âsut gaiff cwynion eu trin a pha wersi y gellid eudysgu.

2.3 Ein nod yw gweinyddu cyfleoedd syml a rhwydd igwsmeriaid gael gafael ar ein gwasanaethau. Fely datblygodd technoleg gwybodaeth, bu modd ini ehangu’r sianelau y gall cwsmeriaid eudefnyddio i gysylltu â ni. Er enghraifft, rydym yncynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gwsmeriaid gaelgwasanaethau a gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd.

Byddwn yn datblygu mwy ar waith yn y maeshwn yn ystod y flwyddyn a ddaw.

2.4 Roeddem yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf yngNghymru i fod â chanolfan gyswllt cwsmeriaidunswydd ac, er bod mwyafrif llethol eincwsmeriaid yn dal i ddefnyddio’r sianel hon ynhytrach na chyswllt wyneb yn wyneb, rydymwedi cadw amrywiaeth o gyfleusterau fel bodcwsmeriaid yn gallu cael gwasanaethau dros ycownter.

2.5 Fel holl gyrff cyhoeddus rydym yn ymrwymo isicrhau nad yw’n cwsmeriaid yn dioddefcamwahaniaethu. Mae ein Cynllun CydraddoldebStrategol yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfersicrhau bod y gwasanaethau sydd arnynt euhangen ar gael yn gyfartal i’n cwsmeriaid.

2.6 Mae llawer o’n gwasanaethau’n rhoi cefnogaethuniongyrchol i gwsmeriaid a allai fod ar gyrioncymdeithas fel arall. Er enghraifft, caiff cyfransylweddol o’n gwariant ar ofal cymdeithasoloedolion ei glustnodi ar gyfer cynorthwyo poblsy’n byw gydag anabledd neu salwch hirdymorcyfyngol. Ar ben hynny, caiff ymhell dros hannerein cyllideb lawn ei gwario ar wasanaethau sy’ncynorthwyo plant a phobl ifanc gyrraedd eullawn allu.

Single Integrated Plan

canolbwyntio ar y cwsmer

gwerth am yr arian

un ti^m

Page 7: Cynllun Gwella

07

2.7 Bu cael gwerth da am yr arian yn bwysig i nierioed. Ers llawer blwyddyn rydym wedi pennu’rDreth Gyngor isaf o unrhyw awdurdod lleol yngNghymru. Ein Treth Gyngor Band ‘D’ yn ystod2013/14 yw £741.17, sydd tua £250 yn llai nachyfartaledd Cymru.

2.8 Tra nad ydym yn rhydd o’r pwysau ar wariantcyhoeddus, mae’r ffaith ein bod bob amser wedirhoi blaenoriaeth i werth am yr arian wedi golygubod maint yr arbedion y mae angen i ni eugwneud yn ystod 2013/14 yn llai na llawer oawdurdodau lleol eraill. Yn ystod y flwyddyn addaw rydym yn bwriadu arbed tua 0.5% o’ncyllideb lawn. Y gofyniad arbed ar awdurdodaulleol ar hyd a lled Cymru yn ystod 2013/14 ywtua 2.5% ar gyfartaledd.

2.9 Nid yw cael gwerth am yr arian bob amser yngolygu cyfyngu ar ein gwariant. Mae adegau panfydd buddsoddi mewn gwasanaethau’n helpu ini gyflawni arbedion yn y tymor hwy. Erenghraifft, bydd ein buddsoddiad arfaethedigmewn adeiladau ysgolion dan Raglen Ysgolionyr 21ain Ganrif yn arwain at adeiladucyfleusterau mwy effeithlon (trwy gostau ynni is).Trwy ddadansoddi effeithiau cyfnod hwy eingwariant, rydym yn gallu gwella cynaliadwyeddy gwasanaethau a ddarparwn.

2.10 Ein hegwyddor derfynol yw gweithio fel un tîmer lles pawb yn Sir Benfro. Mae awdurdodaulleol yn sefydliadau mawr a chymhleth, ondrydym bob amser wedi ceisio lleihaurhaniadau mewnol er lles ein cwsmeriaid.

2.11 Er enghraifft, trefnwyd bod eingwasanaethau’n cael eu llywodraethu fel ag idorri ar draws ffiniau adrannol. Mae hyn yngolygu bod Cynghorwyr etholedig yn galluedrych y tu hwnt i faterion plwyfol a chadwsafbwynt strategol eang.

Page 8: Cynllun Gwella

08

3.1 Mae cynaliadwyedd a chydraddoldeb fel ei gilydd yn themâutrawsbynciol pwysig sy’n cynorthwyo diffinio sut ydym eisiaugwella. Mae modd gweld elfennau o’r ddwy agenda yn llawero’r gwaith a wnawn, ac mae’r ddwy’n rhan o’r asesiadaueffaith a wnawn mewn cysylltiad â pholisïau newydd aphenderfyniadau o bwys.

3.2 Ceisiwn hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ble bynnag y bomodd, trwy gefnogi prosiectau sy’n rhoi sylw i ystyriaethaucymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd.Mae hyn yn helpu sicrhau nad yw’r penderfyniadau a wnawnheddiw’n cael effeithiau annheg ar genedlaethau a ddaw. Felcynghorau eraill ar hyd a lled Cymru, mae gennym hanes da owella ein harferion yn y maes hwn.

3.3 Mae llawer o’r Amcanion sy’n cael eu disgrifio yn y Cynllunhwn yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd. Erenghraifft, rydym yn ymrwymo i reoli ein gwastraff fel ein bodyn osgoi bod yn faich ar genedlaethau a ddaw trwy gostaugormodol a chanlyniadau amgylcheddol.

3.4 Yn ystod y flwyddyn a ddaw byddwn yn gweithredu nifer obrosiectau fydd yn cynorthwyo lleihau ein hôl troed carbon.Byddwn yn dal i leihau 3% y flwyddyn ar yr ynni addefnyddiwn (mewn adeiladau cyhoeddus annomestig).Byddwn yn cael cymaint o’n trydan ag y gallwn o ffynonellautrydan glân neu adnewyddadwy. Bydd holl adeiladau newydda gomisiynwn yn cyrraedd safonau amgylcheddol uchel ac yncael eu dylunio gyda dulliau sy’n ystyried barn rhanddeiliaid.

3.5 Byddwn yn dal i gynnal y rhaglen gwobrau ysgolioncynaliadwy yn ystod 2013/14 ac yn annog ysgolion i gyrraeddsafonau bythol uwch y cynllun. Bydd y gwaith hwn yncynorthwyo ysgolion ymdoddi datblygu cynaliadwy ymhobagwedd ar fywyd ysgol. Bydd llawer o’r gwaith a wnawn iddatblygu’r economi lleol hefyd yn cynnal egwyddoriondatblygu cynaliadwy – mae cyflogaeth uchel yn sail i ffyniant abywiogrwydd cymunedau lleol.

3. Cynaliadwyedd a chydraddoldeb

Page 9: Cynllun Gwella

09

3.6 Er mwyn plannu mwy ar welliant, rydym wedisefydlu ‘Tîm Gwyrdd’ dan gadeiryddiaethuwch-reolwr i ddatblygu a lledaenu arferion da ofewn yr Awdurdod. Un o’r heriau y byddwn yn eihwynebu yn y flwyddyn a ddaw fydd paratoi argyfer dyfodiad dyletswydd newydd ar awdurdodaulleol yng Nghymru i fewnosod datblygu cynaliadwyfel eu hegwyddor drefnu ganolog.

3.7 Mae llawer o’r gwaith a wnawn i hyrwyddodatblygu cynaliadwy hefyd yn cynnal yr agendacydraddoldeb. Caiff ein hamcanion cydraddoldebeu disgrifio yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.Bydd cyflawni’r amcanion hyn yn helpu i ni atebein dyletswyddau i sicrhau nad yw’r grwpiau anodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn dioddefanffafriaeth, eu bod yn cael mynediad cyfartal atwasanaethau a’u bod yn byw mewn cymunedau llecaiff cysylltiadau da eu hyrwyddo.

3.8 Mae’r amcanion yn ein Cynllun CydraddoldebStrategol yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen ini ganolbwyntio’n sylw. Er enghraifft, mae cyfrangymharol uchel o boblogaeth Sir Benfro’noedrannus. O ganlyniad, mae cyfran o bobluwchlaw’r cyfartaledd yn byw gydag anableddneu’n gofalu am rywun gydag anabledd yn SirBenfro. Yn ystod 2013/14, mewn partneriaethâ’r Bwrdd Iechyd Lleol, byddwn yn gwellarhychwant y gwasanaethau a gynigiwn iofalwyr, gan ddileu rhai o’r rhwystrau sy’nwynebu gofalwyr wrth iddynt geisio caelgwasanaethau neu gyflogaeth.

3.9 Yn ystod 2012/13, cynyddodd Llywodraeth Cymruein gallu i roi sylw i faterion cydlynu cymunedoltrwy dalu am benodi Swyddog CydlynuCymunedol (adnodd a rannwn gyda Chyngor SirGâr). Yn ystod 2013/14, byddwn yn cyflawnicynllun gweithredu sy’n rhoi sylw i’r materionperthnasol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwngcymunedau (gan gynnwys cymunedau diddordeb)yn Sir Benfro.

3.10 Un arall o’r gorchwylion allweddol y byddwn yncanolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn a ddawfydd gwella ein sylfaen dystiolaeth mewncysylltiad â materion cydraddoldeb. Byddwn yngwneud y gwaith hwn yng ngoleuni’r wybodaethfanwl sydd bellach yn cael ei chyhoeddi oGyfrifiad 2011, ac yn sicrhau bod eindadansoddiad yn cael ei ddeall yn eang drwy’rsefydliad i gyd.

3.11 Byddwn yn arolygu ac yn hysbysu ein cynnyddmewn cysylltiad â’n hamcanion cydraddoldebtrwy ein Grŵp Llywio Cydraddoldeb Corfforaethol.Byddwn yn paratoi diweddariad ar y gwaith hwnfel rhan o’n Hadolygiad Gwelliannau, y byddwn ynei gyhoeddi ym mis Tachwedd.

Page 10: Cynllun Gwella

10

4. Datblygu ein Hamcanion Gwella

4.1 Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yngofyn ein bod yn cyhoeddi rhestr o AmcanionGwella bob blwyddyn. CynhyrchoddLlywodraeth Cymru ganllawiau statudol i helpui ni gyflawni hyn. Rydym wedi defnyddio’rfframwaith hwn i nodi Amcanion Gwella sy’nuchelgeisiol, ond hefyd yn gyraeddadwy.

4.2 Mae’r canllawiau’n disgrifio sut ddylid addasuAmcanion Gwella’n fwy manwl. Er enghraifft,mae’n cyfeirio at yr angen i gydbwysoblaenoriaethau cenedlaethol a lleol, sylwi arganlyniadau adroddiadau arolwg, mewnosodyr angen am arbediadau a manteisio argyfleoedd sy’n deillio o ddatblygu technolegaunewydd.

4.3 Mae’r Amcanion Gwella a ddewiswyd gennymar gyfer 2013/14 yn adlewyrchu’r cyngor hwn.Er enghraifft, er bod trosedd a diogelwchcymunedol yn flaenoriaeth uchel dros Gymrugyfan, mae’n llai o broblem yn Sir Benfro. Maedau o’n Hamcanion Gwella’n ymatebuniongyrchol i adroddiadau arolwg. Mae’ragenda arbediadau’n sail i Amcan Gwella eingwasanaethau oedolion. Mae ein Hamcangwastraff yn adlewyrchu’r cyfleoedd aroddodd datblygiadau technolegol i ni reoligwastraff yn fwy cynaliadwy.

Sut y buom yn ymgynghori arein Hamcanion Gwella

4.4 Buom yn manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd iennyn diddordeb yn ein Hamcanion Gwella.Roedd y rhain yn cynnwys ennyn sylw’r wasg adefnyddio rhestri postio. Buom hefyd ynymgynghori’n uniongyrchol â grwpiau cyswllt,cyrff a mudiadau gwirfoddol a chynghorau trefa chymuned. Y dull mwyaf poblogaidd oymwneud â’n cwsmeriaid oedd trwy eingwefan.

4.5 Buom yn gofyn am farn ar naw o AmcanionGwella arfaethedig. Roedd rhestr yr Amcanionarfaethedig yn cwmpasu meysydd fel:

• gwella ysgolion a chynhwysiad;• canol trefi;• gofal cymdeithasol oedolion;• diogelu;• gwastraff ac ailgylchu;• trosedd a diogelwch cymunedol;• arweinyddiaeth a rheolaeth;• cynllunio lleoedd mewn ysgolion; a• newid corfforaethol a gwleidyddol.

Page 11: Cynllun Gwella

11

4.6 Trwy’r ymateb a gawsom wrth ymgynghori, ochr yn ochr âdatblygiadau yn ein syniadau ar flaenoriaethau allweddol yCyngor, helpwyd i ni leihau’r rhestr hon.

4.7 Er enghraifft, roeddem wedi ystyried pennu Amcanion Gwellacysylltiedig â rheolaeth ac arweinyddiaeth a newidcorfforaethol a gwleidyddol. Roedd y camau gweithredu aystyriwyd gennym yn y meysydd hyn yn cynnwys gweithredugwelliannau i’n trefniadau goruchwylio ac archwilio, creuagwedd ddiwygiedig at gynllunio corfforaethol a datblygufframwaith hunangloriannu diwygiedig. Er ein bod wedi dewispeidio â chynnwys y rhain fel Amcanion Gwella ar gyfer2013/14, byddwn yn dal i geisio symud ymlaen yn y meysyddhyn. Yn wir, bydd ein Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidda’n Pwyllgor Archwilio dan gadeiryddiaeth annibynnol yncadw golwg ar nifer o gamau gweithredu cysylltiedig.

4.8 O ganlyniad i’n hymgynghori rydym hefyd wedi dewiscyd-doddi’r Amcan arfaethedig ar gynllunio lleoedd mewnysgolion gydag Amcan ehangach cysylltiedig â gwellaysgolion. Ysbrydolwyd y penderfyniad hwn trwy’r ffaith ei bodyn annhebygol y byddwn yn dechrau gweld effaith am ddwyneu dair blynedd arall, er ein bod yn bwriadu gwneud cynnyddmewn cysylltiad â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod2013/14.

4.9 Am resymau gwahanol, rydym hefyd wedi penderfynu peidio âdatblygu Amcan Gwella cysylltiedig â diogelwch cymunedol.Er bod rhai ymatebwyr i’n ymgynghori wedi awgrymu bodtrosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn faterion oedd yneu pryderu, dengys y dystiolaeth bod Sir Benfro’n dal yn uno’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y DU.

4.10 Mae’r Amcanion a ddewiswyd gennym eleni’n adlewyrchu’rhyn a ddysgwyd gennym yn ystod y blynyddoedd aeth heibioa’r cyngor a gawsom gan y rhai sy’n ein rheoleiddio. Rydymwedi dewis amrediad culach o Amcanion fel ag i ganolbwyntioein hymdrechion gwella’n fwy effeithiol. Ein hamcanion gwellaar gyfer 2013/14 yw:

io1 : Gwella ysgolion• Byddwn yn gwella canlyniadau dysgu i helpu plant a

phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu

io2 : Gwella ysgolion• Byddwn yn galluogi, yn hwyluso ac yn cyflawni

cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi

io3 : Rheoli gwastraff• Byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu

er mwyn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi

io5 : Diogelu• Byddwn yn cryfhau ein trefniadau diogelu mewn ysgolion er

mwyn sicrhau nad uw plant a phobl ifanc mewn perygl

io4 : Adolygu gwasanaethau gofalcymdeithasol oedolion

• Byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofalcymdeithasol oedolion er mwyn gwella effeithlonrwydd achynaliadwyedd

Page 12: Cynllun Gwella

12

4.11 Wrth nodi ein Hamcanion Gwella mae'n bwysig ein bod yn gallullunio cysylltiadau cryf gyda Chynllun Cyfun Unigol Sir Benfro.Gydag un eithriad, ac am y rhesymau a ddisgrifiwyd eisoes,rydym wedi nodi Amcan i gyfrannu at bob un o'r canlyniadauallweddol a ddisgrifiwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol. Caiff yberthynas rhwng yr Amcanion a'r canlyniadau allweddol hyn eidangos isod:

Canlyniad allweddol Amcan Gwella

Plant: bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn caelcyfle i gyflawni eu gallu addysgol a byw bywydauiach a hapus

Gwella ysgolion: byddwn yn gwella canlyniadaudysgu i helpu plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawnallu

Yr Economi: bod economi Sir Benfro’ngystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy

Gwella canol trefi: byddwn yn galluogi, yn hwylusoac yn cyflawni cynlluniau i wella hyfywedd abwrlwm canol ein trefi

Yr Amgylchedd: bod pobl Sir Benfro’n mwynhauamgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol

Rheoli gwastraff: byddwn yn dal i gynyddu cyfran ygwastraff sy'n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau fainto wastraff sy'n cael ei anfon i dirlenwi

Iechyd: bod pobl Sir Benfro’n iachachAdolygu gwasanaethau gofal cymdeithasoloedolion: byddwn yn ad-drefnu darpariaeth eingwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wellaeffeithlonrwydd a chynaliadwyedd

Diogelu: bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu Diogelu: byddwn yn cryfhau ein trefniadau diogelumewn ysgolion er mwyn sicrhau nad yw plant aphobl ifanc mewn perygl

Diogelwch: bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’nddiogel

Dim Amcan Gwella

Page 13: Cynllun Gwella

13

4.12 Rydym hefyd wedi newid pwyslais ein Hamcanion Gwella ar gyfer2013/14. Mae ein Hamcanion eleni'n fwy penodol, gan nodimesurau llwyddiant mwy eglur a chanolbwynt ar ganlyniadau. Ieglurhau'r pwynt hwn rydym wedi cynnwys cymhariaethuniongyrchol gyda'r Amcanion cyfatebol o restr y llynedd isod.Canran y rhai 16-18 oed heb fod mewn addysg neu gyflogaeth.

4.13 Mae gweddill y ddogfen hon yn disgrifio pob AmcanGwella’n fwy manwl ac yn egluro beth arall a wnawn igyfrannu at y canlyniadau allweddol a nodwyd yn y CynllunCyfun Unigol.

Amcan Gwella 2013/14 Amcan Cyfatebol 2012/13

Gwella ysgolion: byddwn yn gwella canlyniadaudysgu i helpu plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawnallu

Byddwn yn dal i ddatblygu'r gwasanaethau addysgo safon a ddarparwn

Gwella canol trefi: byddwn yn galluogi, yn hwylusoac yn cyflawni cynlluniau i wella hyfywedd abwrlwm canol ein trefi

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wellaeconomi Sir Benfro

Rheoli gwastraff: byddwn yn dal i gynyddu cyfrany gwastraff sy'n cael ei ailgylchu er mwyn lleihaufaint o wastraff sy'n cael ei anfon i dirlenwi

Byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon ac yngweithredu’n fwy cynaliadwy

Adolygu gwasanaethau gofal cymdeithasoloedolion: byddwn yn ad-drefnu darpariaeth eingwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wellaeffeithlonrwydd a chynaliadwyedd

Byddwn yn gweithredu i gefnogi ffyniant annibynnola byw’n iach

Diogelu: byddwn yn cryfhau ein trefniadau diogelumewn ysgolion er mwyn sicrhau nad yw plant aphobl ifanc mewn perygl

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhaubod Sir Benfro’n aros yn lle diogel

Page 14: Cynllun Gwella

14

5.1 Mae ein gwasanaethau i blant a theuluoedd yn cyfrif amfymryn dros 40% o’n gwariant llawn bob blwyddyn. Er ein bodyn darparu llawer o wasanaethau ein hunain, gwnawn gryndipyn o waith yn y maes hwn gydag asiantaethau eraill. Maecyrhaeddiad a phresenoldeb yn faterion hollbwysig i’r Sirgyfan, ond mae’r heriau hyn yn fwy hyd enbyd fyth i blant atheuluoedd ar incwm isel.

5.2 Dewiswyd yr amcan hwn gennym oherwydd ein bod eisiau iblant a phobl ifanc Sir Benfro gyflawni’r canlyniadau gorau olla allant a bod ymhlith y rhai sy’n gwneud orau yng Nghymru.Tynnodd adroddiad arolwg diwethaf Estyn ar eingwasanaethau addysg sylw at yr angen i wneudgwelliannau ymhob maes; mae’r Amcan Gwellahwn yn ategu’r camau gweithredu a gytunwydmewn ymateb i argymhellion Estyn.

5.3 Dangosodd yr ymgynghori a wnaethom ar ein HamcanionGwella arfaethedig bod gwella ysgolion a chynhwysiad, ynogystal â chynllunio lleoedd mewn ysgolion, yn bwysig idrigolion lleol. Dywedodd 95% o ymatebwyr i’n hymgynghorieu bod yn meddwl bod angen rhoi sylw i wella ysgolion achynhwysiad. Fodd bynnag, dim ond 50% o ymatebwyr oeddyn cytuno y dylai cynllunio lleoedd mewn ysgolion fod ynflaenoriaeth. Mewn ymateb i hyn, ac am y rhesymau agyflwynwyd yn adran 4 y Cynllun hwn, rydym wedi cyfuno’rddau Amcan Gwella arfaethedig hyn.

5. Plant

Amcan Gwella 1 - byddwn yngwella canlyniadau dysgu ihelpu plant a phobl ifancgyrraedd eu llawn allu

Page 15: Cynllun Gwella

15

5.4 Rydym wedi pennu chwech o gamau gweithredu i ni einhunain dan yr amcan hwn:• Gweithio gydag ysgolion i ddadansoddi data a chyflawni

ymyriadau a dargedwyd a fydd yn cynyddu cyfraddaupresenoldeb.

• Gweithio gydag ysgolion a Choleg Sir Benfro i ddarparucwricwlwm sy’n diwallu anghenion holl ddysgwyr.

• Gwella defnyddio data a rheoli perfformiad er mwyngalluogi cymorth a her amserol, ar sail tystiolaeth i ysgolion.

• Gweithredu gwasanaeth gwella ysgolion ar y cyd â ChyngorSir Gâr, fydd yn darparu gallu ychwanegol i gefnogi a herioysgolion.

• Cynyddu’r gallu sydd gan ysgolion i wella eu hunain.• Gwneud cynnydd gyda’n cynlluniau i wella amgylcheddau

dysgu fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

5.5 Yn ogystal â’r camau gweithredu a ddisgrifiwyd uchod,byddwn yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i gryfhauarweiniad y gwasanaeth addysg. Bydd y rhain yn cynnwysdenu tîm rheoli hollol newydd ar gyfer y gwasanaeth erbyn misMai 2013.

5.6 Effaith cyflawni’r amcan hwn fydd y byddai’r rhai sy’n gadaelysgolion Sir Benfro’n cyrraedd eu llawn allu ac yn fwy parod iwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas.

5.7 Byddwn yn mesur effaith ein cynnydd dan yr Amcan hwn trwygadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Un o’nmesurau llwyddiant allweddol fydd canran y myfyrwyr sy’ncyflawni’r trothwy lefel 2, gan gynnwys Cymraeg / Saesneg aMathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4. Caiff y dangosyddhwn ei ddefnyddio’n aml i gymharu cyrhaeddiad ledled ywlad. Cynyddodd cyrhaeddiad yng Nghyfnod Allweddol 4 o

51% i 56% yn Sir Benfro rhwng 2009/10 a 2011/12. Einhuchelgais yw cynnal y gyfradd hon o gynnydd, ac rydymwedi pennu targed o 59% ar gyfer 2013/14.

35%

40%

45%

50%

55%

60%

2007/08 2008/09 2009/10 2010/11 2011/12 2012/13 2013/14

Lefel 2 CA4 yn cynnwys Saesneg/Cymraeg + Mathemateg

Sir Benfro Cymru

Page 16: Cynllun Gwella

16

Mesurau llwyddiant Targed 2013/14

Dangosyddion cyfnod sylfaen, sy’n dadansoddicanlyniadau disgyblion Blynyddoedd 1 a 2LLC = Iaith, Llythrennedd a ChyfathrebuMD = Datblygiad MathemategolFPI = Dangosydd Cyfnod Sylfaen

LLC=87%MD=90%FPI=84%

Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol2, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblionBlwyddyn 6

Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol3, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblionBlwyddyn 6

86%

80%

Cyfnod Allweddol 4 lefel 1 mesur faint oddisgyblion Blwyddyn 11 sy’n cyflawni 5 TGAU

94%

Cyfnod Allweddol 4 lefel 2 gan gynnwysCymraeg / Saesneg a Mathemateg

59%

Cadw golwg ar gyfraddau presenoldebmewn ysgolion cynradd ac uwchradd

95%; 94%

Canran y rhai 16-18 oed sydd heb fod mewnaddysg neu gyflogaeth (NEET)

3.5

5.8 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’rAmcan Gwella hwn, yn cyfrannu tuag at y Canlyniad Allweddolcysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod plant, poblifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu gallu addysgol abyw bywydau iach a hapus.

5.9 Er enghraifft, byddwn yn mynd ar drywydd amrywiaeth ogamau gweithredu er mwyn gwella ein gwasanaethau argyfer pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol neu syddangen cymorth ychwanegol. Byddwn yn datblygu unllwybr cyfeirio cydgysylltiedig ar gyfer gwasanaethaucynhwysiad a ffyniant a byddwn hefyd yn ymestyn eingwasanaeth cynghori personol.

5.10 Er mwyn cyflawni gwell gwasanaeth i bobl ifanc gydaganghenion mwy sylweddol, byddwn yn gwellaeffeithiolrwydd ein gwasanaeth seicoleg addysg, ac ynad-drefnu cyfleusterau addysgol arbenigol ar gyfer poblifanc sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.

5.11 Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth i nodiac ateb y galw am addysg Gymraeg. Er ein bod yn diwalluffafriaeth pobl ifanc a’u teuluoedd am addysg Gymraeg,bydd y gwaith hwn yn rhoi hyder i ni fod galw cudd yncael ei ateb hefyd.

5.12 Rydym hefyd yn ceisio gwella cyrhaeddiad y cyrsiauaddysg cymunedol sy’n cael eu darparu gan Sir Benfro’nDysgu, a chynnal cyfraddau uchel o gwblhau cyrsiau.

Page 17: Cynllun Gwella

17

6.1 Mae economi Sir Benfro’n adlewyrchu eidaearyddiaeth ymylol; mae cyflogau asafonau sgiliau’n tueddu i fod yn is nagmewn mannau eraill. Mae datblygiadau yny sector ynni wedi cynorthwyo economiSir Benfro fod yn fwy llwyddiannus ynystod y degawd aeth heibio. Foddbynnag, oherwydd ansicrwydd byd-eangparhaus, mae cyfradd twf yn Sir Benfro(ynghyd â gweddill y DU) yn debygol o fodyn arafach yn y dyfodol na’r hyn oedd ynystod llawer o’r 10 mlynedd diwethaf.

6.2 Dewiswyd yr amcan hwn gennymoherwydd bod Sir Benfro’n sir wledig llemae canol trefi’n chwarae rhan hollbwysigfel canolfannau gwasanaeth achyrchfannau ymwelwyr. Mae tystiolaethbod cyfuniad o’r dirwasgiad, ymddygiadnewidiol defnyddwyr a mwy ogystadleuaeth leol wedi cael effaithnegyddol ar ganol ein trefi.

6.3 Cytunai wyth o bob deg o ymatebwyr i’nymgynghori y dylai gwella canol trefi fodyn Amcan Gwella. Cawsom nifer cymharolfawr o sylwadau manwl ynghylch y maeshwn. Roedd llawer o’r rhai a roddoddsylwadau’n cydnabod y gystadleuaeth

sy’n wynebu canol trefi oherwydddatblygiadau siopa allan o’r dref ynogystal â threfi eraill a’r rhyngrwyd.Tynnodd amryw ymatebwyr sylw atbwysigrwydd cydweithio â busnesau lleolgan nodi cyfraniad canol trefi at ydiwydiant ymwelwyr.

6.4 Rydym wedi pennu pedwar o gamaugweithredu i ni ein hunain dan yr amcanhwn:• Creu cyd-destun cynllunio sy’n

cydbwyso polisïau adwerthu gydadefnyddiau sy’n cynorthwyo bwrlwm.

• Cael cyllid allanol i gefnogi a chyflwynogwelliannau adeileddol i ganol trefi.

• Hyrwyddo a chyflawni rhaglen dwyflynedd o’n arweiniadau brandio i wellaproffil canol ein trefi.

• Gweithio gyda datblygwyr i sicrhau bodcynlluniau sector preifat yn cyfrannu atac yn ategu canol ein trefi.

Amcan Gwella 2- byddwn yngalluogi, yn

hwyluso ac yncyflawni

cynlluniau iwella hyfywedda bwrlwm canol

ein trefi

6. Yr Economi

Page 18: Cynllun Gwella

18

6.5 Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd cadw mwy owariant adwerthu yn yr economi lleol, cynhyrchu mwy ogyfleoedd cyflogaeth a chanol trefi’n dod yn fwy bywiog.

6.6 Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r amcanhwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Yblaenaf o’r rhain fydd cyfradd siopau gwag yng nghanol eintrefi ym mis Medi bob blwyddyn. Caiff y cyfraddau gwacteryn ein trefi allweddol fel yr oedd pethau ym mis Medi 2012eu dangos isod.

6.7 Yn ogystal â’r mesurau llwyddiant a ddisgrifiwyd uchod,byddwn hefyd yn datblygu ein defnydd o offer meincnodiperfformiad canol trefi yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yngalluogi i ni gymharu sut mae canol ein trefi’n gwneudgyferbyn â threfi o faint tebyg yng Nghymru a Lloegr.Byddwn yn hysbysu ein canfyddiadau ac yn cloriannu eincynnydd yn Adolygiad Gwelliannau’r flwyddyn nesaf. Byddyr adolygiad hefyd yn tynnu ar astudiaethau achos sy’ndangos y gwelliannau a wnaed gennym i ganol ein trefi a’reffaith a gafodd hyn.

6.8 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd ynystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrcholberthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y CanlyniadAllweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol:bod economi Sir Benfro’n gystadleuol, cynhyrchiol achynaliadwy.

6.9 Er enghraifft, byddwn yn dal i edrych ar gyfleoedd i gefnogiadfywiad yn fwy cyffredinol. Nid yw ein canolbwynt ar ganoltrefi’n disodli’r angen i adfywio cylchoedd eraill; mae’n eiategu.

Mesurau llwyddiant Targed 2013/14

Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer 6 treffwyaf Sir Benfro

Gorffennwydpob un o’r 6

Cadw golwg ar siopau gwag ynghanol trefiBod y gyfradd

gwacter yn arosyn sefydlogneu’n gwella

0%

5%

10%

15%

20%

25%

30%

Abergwaun Hwllffordd Aberdaugleddau Arberth Penfro Doc Penfro Dinbych-y-pysgod

2012 Cyfradd Wacter

Page 19: Cynllun Gwella

19

6.10 Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat aLlywodraeth Cymru i gael y cyfle eithaf y mae dynodiad felArdal Fenter yn ei roi i gylchoedd cyflogaeth a busnesau ogwmpas dyfrffordd Cleddau a Maes Awyr Hwlffordd.Rhagwelwn mai’r prif gyfleoedd fydd gwell lwfansau cyfalaf arhyddhad treth fusnes a fydd, yn ei dro, yn dod â thwf mewnswyddi tra medrus. Byddwn yn mesur llwyddiant trwy nifer ybusnesau sy’n denu rhyddhad trethi.

6.11 Er bod maint ein rhaglen gyfalaf yn lleihau, rhagwelwn ybyddwn yn dal i fod â rhaglen gyfalaf sylweddol. Trwy reoli’rrhaglen yn effeithiol, byddwn yn sicrhau bod buddiannau i’reconomi lleol yn cael eu gwireddu mewn cysylltiad â gwaithadeiladu. Byddwn yn mesur llwyddiant trwy weithreducymalau mantais gymunedol.

6.12 Mae’r sector twristiaeth yn gyflogwr sylweddol yn Sir Benfro.Ynghyd â’n partneriaid, rydym wedi mabwysiadu cynllunrheoli cyrchfannau ymwelwyr cynhwysfawr i gynyddu’r budda ddaw inni o’r diwydiant. Yn ystod 2013/14 byddwn yngweithredu’r camau a ddisgrifiwyd yn y cynllun, felailganolbwyntio ein hymdrech farchnata ar gyfryngau digidola datblygu calendr digwyddiadau ar-lein ar gyfer y Sir gyfan.

6.13 Mae Sir Benfro wedi elwa ar gylch presennol cyllid Ewropeaidd.Bydd y cylch hwn yn dirwyn i ben o 2014 ymlaen, ond bydd SirBenfro’n gymwys ar gyfer cylch nesaf y cronfeydd strwythurol abuddsoddi. Byddwn yn gwneud gwaith paratoadol gydarhanddeiliaid allweddol er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedda ddaw yn sgil y cymorth ariannol hwn o 2014 i 2020.

Page 20: Cynllun Gwella

20

7.1 Fel pob ardal arall, mae amgylchedd Sir Benfro’n wynebuheriau sylweddol. Un o’r mwyaf argyfyngus o’r rhain yw’rperygl bod ein hinsawdd yn dod yn llai rhagweladwy ac yn fwyeithafol. Tra bo llawer o’r ffactorau sy’n debygol o gyfrannu atnewid yn yr hinsawdd y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol,gallwn fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau’n lleol; yn enwedig y rhaisy’n berthnasol i sut ydym yn rheoli’r gwastraff a gynhyrchwn.

7.2 Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau anodd ar leihaugwastraff sy’n rhaid eu cyrraedd er mwyn osgoi dirwyonsylweddol. Er bod canran y gwastraff a ailddefnyddiwn neu aailgylchwn wedi cynyddu’n sylweddol (yn y saith mlynedddiwethaf cynyddodd cyfran y gwastraff a ailgylchwn bumgwaith), mae her aruthrol yn y targedau sydd angen i ni eucyrraedd yn y blynyddoedd a ddaw.

7.3 Dewiswyd yr Amcan hwn gennym oherwydd na fydd hawltirlenwi gyda gwastraff yn yr hirdymor oherwydd bod gwastraffo dirlenwi’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol. Mae targedauLlywodraeth Cymru’n dod yn anoddach ac mae angen i niganolbwyntio ar y maes hwn er mwyn sicrhau bod targedau’ncael eu cyrraedd.

7.4 Nifer cymharol fychan o ymatebwyr i’n hymgynghori oedd yncytuno y dylai gwastraff ac ailgylchu fod yn flaenoriaeth. Roeddllawer o’r rhai a roddodd sylwadau’n cytuno â phwyslais y camaugweithredu y bwriadwn eu cymryd, fel tynnu sylw at ygwasanaethau ailgylchu a ddarparwn ac annog pobl i ailgylchuamrywiaeth mwy o ddeunyddiau. Gwnaeth rhai ymatebwyr y sylwy dylid gwneud mwy o ddefnydd o gyfleusterau ynni o wastraff.

7.5 Ni thynnodd ymatebwyr i’n hymgynghori sylw at faterionamgylcheddol ehangach fel datblygu cynaliadwy neu newid ynyr hinsawdd, er bod y materion hyn yn cael sylw helaeth yngNghynllun Cyfun Unigol Sir Benfro.

7.6 Rydym wedi pennu tri o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yramcan hwn:• Gwella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymgyrchoedd ailgylchu

trwy weithgareddau denu’r cyhoedd.` • Ystyried cyflwyno casgliadau sachau du (gwastraff

gweddilliol) bob pythefnos i annog cwsmeriaid i ailgylchucyfran uwch o’u gwastraff.

• Cyflwyno cynlluniau ailgylchu ffrydiau deunydd ychwanegolfel matresi neu garpedi.

7. Yr Amgylchedd

Amcan Gwella 3 - byddwnyn dal i gynyddu cyfran ygwastraff sy'n cael eiailgylchu er mwyn lleihaufaint o wastraff sy'n cael eianfon i dirlenwi

Page 21: Cynllun Gwella

21

7.7 Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd anfon cyfran lai owastraff i dirlenwi, gan ostwng effeithiau negyddol ar yramgylchedd drwy hynny

7.8 Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r amcanhwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol.Mae un o’r rhain yn arbennig o bwysig, sef cyfanswm ygwastraff pydradwy sy’n cael ei anfon i dirlenwi. Dyma’rmesur a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gyfrif y dirwyon arnompe byddem yn methu cyrraedd ein targedau.

7.9 Yn ogystal â’r mesurau llwyddiant a ddisgrifiwyd uchod a byddwnhefyd yn cloriannu effaith amrywiaeth o ddigwyddiadau penodolac ymweliadau ag ysgolion yn ystod y flwyddyn i hyrwyddoailgylchu. Byddwn yn rhoi ymateb ar yr achlysuron hyn a’u heffaithpan fyddwn yn hysbysu ein cynnydd yn Adolygiad Gwelliannau’rflwyddyn nesaf. Ar ben hynny, byddwn yn cael ymateb eincwsmeriaid ynghylch y pethau sy’n rhwystro ailgylchu.

7.10 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’rAmcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y Canlyniad Allweddolcysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod pobl SirBenfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy acamrywiol.

7.11 Yn gyffredinol mae Sir Benfro’n lân a thaclus iawn ond, fel pobardal arall, mae gwibdaflu sbwriel yn dal yn broblem pan fydd yndigwydd. Byddwn yn datblygu strategaeth gwibdaflu sbwrielfydd yn cryfhau ein trefniadau gorfodi.

7.12 O ganlyniad i newidiadau yn y ddeddfwriaeth, mae gennym ranflaenllaw erbyn hyn mewn rheoli perygl llifogydd a byddwn yndatblygu strategaethau perygl llifogydd yn ystod y flwyddyn.Bydd y rhain yn ddefnyddiol trwy gynorthwyo rheoli’r cynnydddisgwyliedig mewn llifogydd (o afonydd a dŵr arwyneb fel ei gilydd)fydd yn deillio o gynnydd disgwyliedig yn amlder glaw trwm.

7.13 Byddwn yn cymryd camau i hyrwyddo teithio cynaliadwy acegnïol. Bydd y rhain yn cynnwys gwelliannau i safleoedd bysiauar hyd llwybrau arbennig, yn ogystal â datblygu llwybrau beicio.Ochr yn ochr â’r buddsoddiad hwn, byddwn hefyd yn gwneudadolygiad sylfaenol o’r cymorth a gynigiwn i gludiant cyhoeddusa chymunedol. Byddwn yn ymgynghori’n eang ar y materion hynyn ystod 2013/14.

Mesurau llwyddiant TargeD 2013/14

Tunelli o wastraff pydradwy sy’n cael ei anfon i dirlenwi 18,667

Cynnydd yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu 55%

Lleihad yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi 43%

Cyfradd cyfranogi mewn ailgylchu 70%

0

5000

10000

15000

20000

25000

30000

35000

40000

2006/07 2007/08 2008/09 2009/10 2010/11 2011/12 2012/13 2013/14 2014/15 2015/16

Tunelli o wastraff pydradwy sy'n cael ei anfon i dirlenwi

Targed Gwir (amcangyfrif yn 2012/13) dunelli o Wastraff Trefol Pydradwy

Page 22: Cynllun Gwella

22

8. Iechyd8.1 Mae disgwyliad einioes yn Sir Benfro’n gwella

ac mae’n agos at gyfartaledd Cymru. Foddbynnag, mae gwahaniaeth mewn disgwyliadeinioes rhwng ardaloedd difreintiedig acardaloedd eraill yn Sir Benfro (yn enwedignifer y blynyddoedd y gall rhywun ddisgwylbyw’n iach). Mae’r cynnydd hwn mewndisgwyliad einioes yn creu mwy o alw amwasanaethau gofal cymdeithasol.

8.2 Mae’r Amcan Gwella a nodwyd gennym argyfer y maes hwn yn canolbwyntio ar sutfyddwn yn sicrhau bod costau darparugwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion osafon yn aros yn fforddiadwy. Dewiswyd yrAmcan hwn gennym oherwydd bodgwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion osafon yn hanfodol i ansawdd bywyd eincwsmeriaid. Mae nifer y bobl hŷn sy’n byw ynSir Benfro’n cynyddu’n gyflym. Bydd angenaddasu patrymau presennol cyflenwigwasanaethau er mwyn ateb y cynnydd hwnmewn galw. Fel llawer o awdurdodau lleol,

aethom uwchlaw ein cyllideb gofalcymdeithasol oedolion yn ystod 2012/13.

8.3 Cytunodd fymryn dros dri chwarter yrymatebwyr i’n hymgynghori y dylai gofalcymdeithasol oedolion fod yn Amcan Gwella.Awgrymodd y sylwadau a gawsom fodtrigolion yn derbyn bod gwasanaethau argyfer oedolion diamddiffyn yr un mor bwysigâ rhai plant. Dywedodd pobl eraill bod y twfyn y boblogaeth oedrannus yn tanlinellu’rangen i weithredu.

8.4 Tynnodd rhai o’r sylwadau cyffredinol agawsom ar Amcanion Gwella sylw at feysydderaill sy’n effeithio ar iechyd. Roedd y rhain yncynnwys yr effaith andwyol y gall newidiadaumewn budd-daliadau ei gael ar iechyd meddwl,sicrhau ansawdd yn y sector rhentu preifat a’rrhan y gall gwasanaethau ataliol llai amlwg eichwarae wrth leihau unigedd ymysg pobl hŷn.Rydym hefyd wedi derbyn amrywiaeth osylwadau cysylltiedig â’r newidiadauarfaethedig i wasanaethau iechyd lleol.

Amcan Gwella 4 - byddwn yn ad-drefnudarpariaeth ein gwasanaethau gofalcymdeithasol oedolion i wella effeithlonrwydda chynaliadwyedd

Page 23: Cynllun Gwella

23

8.5 Rydym wedi pennu wyth o gamau gweithredu i ni ein hunain danyr amcan hwn:• Adolygu cymhwyster ac effeithiolrwydd rheoli a

llywodraethu gofal cymdeithasol oedolion aphartneriaethau’r Byrddau Iechyd Lleol a chytuno argynigion i wella trefniadau o’r fath.

• Cyfuno cynlluniau comisiynu presennol mewn un ddogfendrosfwaol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac yncynnwys cost y gwasanaeth at ei gilydd.

• Cytuno ar brotocolau eglur i sicrhau bod asesiadau gofalcymdeithasol yn gynaliadwy, yn gadarn, yn deg ac yn cynniggwerth gorau i ddarparwyr a chleientiaid.

• Cynnal adolygiadau gwerth am yr arian ar holl becynnaugofal drud (dros £500) yn y gwasanaethau cartref acanabledd dysgu.

• Datblygu patrymau gofal amgen i sicrhau bod hollgleientiaid yn cael cefnogaeth effeithiol trwy drefniadaugwasanaeth sy’n fforddiadwy ac yn briodol.

• Gweithredu targedau adnoddau ar gyfer holl weithgareddaucomisiynu allweddol o fewn y gwasanaeth:o Oedrannus (Preswyl / Cartref)o Dysgu / Anableddo Iechyd Meddwlo Anabledd Corfforol

• Adolygu trefniadau Amddiffyn Oedolion a sicrhau ein bod yncydymffurfio ag arferion gorau.

• Darparu gwasanaeth ailalluogi a luniwyd i gefnogi cwsmeriaidpan fyddant ei angen fwyaf gyda golwg ar eu gwneud morannibynnol ag y bo modd yn dilyn eu triniaeth.

8.6 Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd bod mwy o bobl hŷnyn byw mewn mannu sy’n briodol i faint y gofal sydd arnynt ei

angen, gan wella ansawdd eu bywydau drwy hynny. Byddcostau llawn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasoloedolion yn cael ei reoli’n fwy effeithiol. Bydd cwsmeriaidhefyd yn elwa ar becynnau ailalluogi a luniwyd i helpu iddyntgael eu hannibyniaeth yn llwyr neu’n rhannol.

8.7 Byddwn yn mesur ein cynnydd gyda’r Amcan hwn trwy gadwgolwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Un o’r mwyafarwyddocaol o’r mesurau hyn yw faint o arian a wariwn ar ofalcymdeithasol oedolion. Dengys y graff isod yr arbedion aragwelwn os yw’r camau a gymrwn yn llwyddiannus.

£20,000

£25,000

£30,000

£35,000

£40,000

£45,000

£50,000

£55,000

Gwariant ar Ofal Cymdeithasol Oedolion (£ miloedd)

actual or anticipated spend

Page 24: Cynllun Gwella

24

Mesurau llwyddiant Targed 2013/14Cyfyngu ar y cynnydd yn nhwf cyllideb gwasanaethauoedolion (mae cyllideb 13/14 6.7% uwchlaw 12/13diwygiedig)

Dim gorwario argyllideb 13/14

Canran y gostyngiad yn yr oriau gofal cartref adrefnwyd ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi gorffencyfnod o ailalluogi

40%

Canran y cwsmeriaid sydd wedi gorffen cwrs oailalluogi heb fod angen gofal cartref hirdymor pellach

37%

Cyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofalcymdeithasol fesul 1,000 o boblogaeth 75 oed neu hŷn(gweithio ar y cyd â GIG)

1.0%

Achosion drud a adolygwyd 25%

Cyfradd y bobl hŷn (65 oed neu hŷn) a gefnogwyd yn ygymuned fesul 1,000 o boblogaeth 65 oed neu hŷn ar 31Mawrth

70

Holiadur blynyddol y gwasanaethau gofal yn profi a ywcwsmeriaid yn cytuno bod eu cynlluniau gofal yn diwallueu hanghenion

85% yn cytuno

8.8 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eucymryd yn ystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt ynuniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yncyfrannu tuag at y Canlyniad Allweddol cysylltiedig anodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod pobl SirBenfro’n iachach.

8.9 Byddwn yn dal i ddatblygu camau gweithredu ihwyluso cadw pobl yn heini ac egnïol. Byddwn yndatblygu prosiectau teithio egnïol ac yn datblyguScolton Manor fel man i bobl ymarfer yn yr awyragored. Byddwn yn ymestyn Rhaglen Campau’rDdraig, sy’n helpu pobl ifanc ddatblygu ystwythder,cydbwysedd a chydgysylltu, i’r Sir gyfan ac ynrhagbrofi “canolfannau iach” mewn llyfrgelloedd.

8.10 Yn ystod 2013/14, bydd ein gwasanaethau hamddenyn rhoi pwyslais ychwanegol ar hyrwyddo nofio, ynogystal â chwaraeon llai poblogaidd fel rhwyfo adringo. Ymhob achos, byddwn yn gweithio gydachlybiau lleol i greu mwy o ddiddordeb yngymunedol. Byddwn hefyd yn gwella ein systemaucadw lle ar-lein ar gyfer canolfannau hamdden.Byddwn yn mesur ein gwelliant trwy ffigurau defnydda mesurau ansawdd cwsmeriaid.

Page 25: Cynllun Gwella

25

8.11 Mae bwyta’n iach yn gydran allweddol o iechyd y cyhoedd.Yn ystod 2013/14, byddwn yn dal i gyrraedd safonau Blasam Oes yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd. Mewnymateb i faterion diweddar cysylltiedig â halogi cynhyrchioncig, byddwn yn adolygu ein trefnau tendro i gynnwysgofynion gallu olrhain cynhyrchion cig a mapio cadwynicyflenwi. Byddwn yn gwybod a fuom yn llwyddiannus trwygadw golwg ar safonau maeth Blas am Oes a thrwy brofibwyd am gig ceffyl a halogyddion eraill.

8.12 Mae tai’n bwysig iawn i iechyd a bydd newidiadau yn yrheolau budd-dal yn ystod 2013/14 yn rhoi pwysauychwanegol ar ein gwasanaethau. Byddwn yn gwella’rprosesau a ddefnyddiwn i ailosod cartrefi a lleihau’r amser ybyddant yn wag. Byddwn yn cadw golwg ar gyfnodau gwagi weld pa mor llwyddiannus a fuom.

8.13 Darparwn wasanaethau cymorth tai arbenigol i bobl sy’n eichael yn anodd byw’n annibynnol. Ar sail y gwaith mapioanghenion a wnaethom eisoes, byddwn yn datblygucymorth ychwanegol ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd.

8.14 Fel gyda holl awdurdodau lleol Cymru, mae cyfran y boblsy’n byw mewn llety’n cael ei ddarparu trwy’r sector rhentupreifat yn Sir Benfro wedi cynyddu yn ystod y degawd aethheibio. Byddwn yn datblygu cysylltiadau sy’n bodoli gydalandlordiaid preifat i edrych ar sut allai’r sector chwarae rhanwrth i ni gyflawni ein dyletswyddau’n ymarferol mewncysylltiad â digartrefedd. Byddwn hefyd yn newid einhagwedd at atal digartrefedd trwy ymwneud â chwsmeriaida thrwy ragbrofi gwasanaeth diwygiedig.

8.15 Byddwn yn dal i gael y nifer mwyaf a allwn o dai fforddiadwyyn Sir Benfro. Wrth i grantiau cyfalaf leihau, byddwn ynfwyfwy dibynnol ar gyflenwi tai fforddiadwy drwygytundebau Adran 106. Byddwn yn cadw golwg agos arymarferoldeb cytundebau o’r fath er mwyn sicrhau boddatblygwyr yn gwneud cyfraniad rhesymol at nifer y taifforddiadwy at ei gilydd.

Page 26: Cynllun Gwella

26

9. Diogelu

9.1 Rydym wedi cael ein harchwilio a’n herio’n sylweddol ar eintrefniadau diogelu ers haf 2011. Nododd adroddiadau arolwg agyhoeddwyd bryd hynny gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal aGwasanaethau Cymdeithasol Cymru ddiffygion eglur mewnarferion a safonau. O ganlyniad, gweithredwyd amrywiaeth owelliannau gennym dan oruchwyliaeth Bwrdd Gweinidogol SirBenfro. Mae adroddiadau diweddar y Bwrdd yn cydnabod ycynnydd a wnaed gennym. Fodd bynnag, rydym yn derbyn bodangen i ni ddal i ganolbwyntio ar y maes hwn er mwyn sicrhau body gwelliant yn dod yn rhan o’n gweithrediad.

9.2 Dewisodd yr Amcan hwn gennym oherwydd ein bod yn ymrwymo isicrhau fod plant a phobl ifanc dan ein gofal yn ddiogel acoherwydd ein bod wedi derbyn adroddiadau beirniadol ganarolygiaethau cenedlaethol.

9.3 Cytunai cyfran uchel iawn o ymatebwyr i’n hymgynghori y dylaidiogelu fod yn flaenoriaeth uchel (roedd yn gydradd uchaf).Cyfeiriai’r sylwadau manwl a gawsom at yr adroddiadau arolwgbeirniadol. Nododd eraill gyswllt rhwng diogelu, gwell cyrhaeddiadaddysgol a llywodraethu corfforaethol yn fwy cyffredinol.

9.4 Rydym wedi pennu saith o gamau gweithredu i ni einhunain dan yr amcan hwn:• Adolygu sut ydym yn rhoi cyngor i ysgolion a sefydlu tîm

newydd yn dwyn ynghyd holl fedrusrwydd diogelu’n ungwasanaeth.

• Gwneud archwiliad trefnus o ddiogelu ymhob ysgol.• Creu un man cyswllt lle gall ysgolion gael cyngor ar

ddiogelu a chyfeirio, fel bod ysgolion yn gallu trinhoniadau’n briodol.

• Datblygu gwasanaeth eiriolaeth a chyfranogiad er mwynsicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed..

• Gwella cysondeb ac eglurder gwybodaeth sydd yn einffeiliau personél er mwyn sicrhau, pan gaiff honiad eiwneud yn erbyn unigolyn, bod crynodeb o’r honiad,canlyniad ymchwilio iddo ac unrhyw ddilyniantangenrheidiol gyda chyrff proffesiynol yn cael eiddogfennu’n gyson.

• Gweithredu Fframwaith Sicrhau Ansawdd rhwngawdurdodau ar gyfer diogelu.

• Sicrhau bod personél allweddol sy’n gyfrifol am ddenustaff mewn ysgolion yn dilyn y cwrs hyfforddiant DenuMwy Diogel.

9.5 Effaith cyflawni’r Amcan hwn fydd bod plant yn ysgolionSir Benfro’n fwy diogel. Yn ogystal, byddwn yn fwyeffeithiol wrth reoli gwybodaeth berthnasol i unigolionsydd wedi cael honiad yn eu herbyn.

Amcan Gwella 5 - byddwn yncryfhau ein trefniadau diogelumewn ysgolion er mwyn sicrhaunad yw plant a phobl ifancmewn perygl

Page 27: Cynllun Gwella

27

9.6 Byddwn yn asesu ein cynnydd ar yr Amcan Gwella hwn trwygadw golwg ar amrywiaeth o fesurau. Yn wahanol i’nHamcanion Gwella eraill, nid oes unrhyw fesur meintiol unigol ymae modd ei ddefnyddio fel dangosydd pennawd i ddilyncynnydd.

9.7 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd ynystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasoli’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y Canlyniad Allweddolcysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod plant acoedolion yn cael eu diogelu.

9.8 Byddwn yn sicrhau bod gweithlu’r gwasanaethau plant yn galluateb y galw’n ddiogel trwy weithredu cynllun denu a chadwgweithwyr cymdeithasol. Bydd hyn yn rhoi sylw i broblemaudenu staff hirsefydlog sydd wedi arwain at ddibynnu gormod arstaff asiantaethau gwaith cymdeithasol cymharol ddrud.

9.9 Byddwn yn gwella ansawdd a chysondeb ein trefniadauasesu, cynllunio gofal ac adolygu. Er bod amseroldebasesiadau ac adolygiadau plant dan ofal a chynlluniauamddiffyn plant yn dda, mae angen i ni wella cysondeb ynogystal â chryfhau adolygiadau plant anghenus (y grŵpmwyaf o blant y mae dyletswydd statudol arnom i ddarparugwasanaethau ar eu cyfer). Mynd i’r afael â’n materion denustaff gofal cymdeithasol yw un ffordd y byddwn yn rhoi sylwi hyn. Byddwn yn cadw golwg ar ein cynnydd trwy hysbysucanlyniadau archwiliad ffeiliau i’r Pwyllgor Craffu aThrosolygu Plant a Theuluoedd.

9.10 Er mwyn cryfhau ein gwaith i atal anghenion teuluoedd rhagcyrraedd sefyllfa pan fo angen gwasanaethau statudol,byddwn yn gweithredu prosiectau Gwasanaethau IntegredigCymorth i Deuluoedd a Thîm o Amgylch y Teulu. Bydd hynyn golygu bod llai o deuluoedd yn cyrraedd argyfwng.Oherwydd bod cyfran uwch o deuluoedd dan straen yn bywmewn cylchoedd difreintiedig, mae hefyd yn fforddymarferol o liniaru effaith tlodi plant. Byddwn yn defnyddio’rpeirianwaith presennol ar y cyd â chyllido’r timau hyn igynhyrchu’r data perfformiad gofynnol i fesur ein llwyddiant.

9.11 Er mwyn diogelu oedolion diamddiffyn yn well, byddwn ynsicrhau ein bod yn gwella cymhwyster ein sefydliad i wneud arheoli cyfeirebau ac ymchwiliadau amddiffyn oedolion. Trwywneud y newidiadau sydd eu hangen, byddwn yn helpudarparwyr gyflenwi gwell gwasanaeth. Byddwn hefyd ynlleihau’r perygl y bydd cam-drin yn digwydd. Byddwn yn cadwgolwg ar y gweithrediadau hyn trwy weld faint o bobl sydd wedicael hyfforddiant mewn agweddau ar amddiffyn oedolion,yn ogystal â thrwy ddadansoddi gwybodaeth arolygu contractau.

Mesurau llwyddiant Targed 2013/14

Canran yr ysgolion sy’n cwblhau’r archwiliad YsgolionMwy Diogel gyda meysydd sydd angen eu gwella 100%

Gwell sicrwydd yn cael ei hysbysu trwy’r FframwaithSicrhau Ansawdd Diogelu ym Myd Addysg

- 3

Nifer y personél addysg sy’n mynychu’r cwrshyfforddiant denu mwy diogel

100

Canran y plant perthnasol sy’n rhan o ymchwiliad(au)cam-drin proffesiynol:• a gafodd gynnig eiriolaeth• a gafodd gynnig eiriolaeth ac a fanteisiodd ar y cynnig

100%30%

3 Nid yw’n ddilys pennu targed meintiol ar gyfery math hwn o fesur.

Page 28: Cynllun Gwella

28

10.1 Sir Benfro yw un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yng Nghymru aLloegr, gydag ychydig iawn o drosedd ac anhrefn mewncymhariaeth ag ardaloedd eraill. Ar waethaf y diffyg troseddmewn gwirionedd, mae ofn trosedd yn dal i beri cryn bryder i raitrigolion.

10.2 Mae gweithgaredd i hyrwyddo diogelwch cymunedol yndibynnu’n drwm ar weithio ar y cyd a’r heddlu sy’n darparuswmp y gwasanaethau perthnasol, yn hytrach na ni einhunain. Dylanwadwyd ar sut mae sefydliadau’n cydweithio iddelio â diogelwch cymunedol trwy ethol Comisiynydd yrHeddlu a Throsedd a all, yn y man, ailgomisiynu sut gaiffgwasanaethau i gynnal yr agenda trosedd a diogelwchcymunedol eu darparu.

10.3 Ar ôl ymgynghori, ein penderfyniad oedd peidio â phennuAmcan Gwella ar gyfer y maes hwn. Roedd hyn yn bennafoherwydd cymharol ychydig o drosedd sydd yn Sir Benfro.

10.4 Dangosodd canlyniadau ein hymgynghori bod llai o bobl yncytuno y dylai trosedd a diogelwch cymunedol fod ynflaenoriaeth (dyma’r isaf ond dau). Dywedodd amrywymatebwyr bod y drefn bresennol fel petai’n gweithio’n ddaneu ei bod yn flaenoriaeth is na meysydd eraill. Tynnodd dauymatebydd sylw at effaith cwtogi gwariant ar wasanaeth yrheddlu ei hun, rhywbeth sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

10.5 Er nad ydym wedi pennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn,mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn

ystod 2013/14 a fydd yn cyfrannu at y Canlyniad Allweddol anodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod cymunedau SirBenfro’n teimlo’n ddiogel.

10.6 Er enghraifft, byddwn yn dal i fynd i’r afael ag ymddygiadgwrthgymdeithasol ar y cyfle cyntaf ac yn darparugwasanaethau atal ar gyfer pobl ifanc er mwyn helpu lleihau’rnifer sy’n mynd i drefn cyfiawnder troseddol. Byddwn yndwyn y gwaith hwn ymlaen ar y cyd ag asiantaethau eraillcyfiawnder troseddol.

10.7 Er mwyn rhoi sylw i ymddygiad pobl sy’n troseddu’nrheolaidd, byddwn yn gweithio trwy fframwaithamlasiantaethol i sicrhau cydgysylltu ymyriadau. Byddwn ynasesu effeithiolrwydd y dull hwn trwy gadw golwg araildroseddu ymhlith troseddwyr o fewn Prosiect Cleddau.

10.8 Byddwn yn parhau gyda’r dull llunio cynlluniau gweithredu i roisylw i ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu treisiolcysylltiedig ag yfed gormod o alcohol a fabwysiadwyd gennymyn Ninbych-y-pysgod, Saundersfoot a Hwlffordd. Byddwn ynmesur effaith hyn trwy fesur cyfraddau troseddu treisiol.

10.9 Mae nifer o gyfleusterau petrocemegol o bwysigrwyddcenedlaethol yn Sir Benfro. Yn ystod 2013/14, byddwn yngweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i wella ein parodrwyddar gyfer unrhyw ddigwyddiadau mawr cysylltiedig.

Nid ydym wedi pennuAmcan Gwella argyfer hyn10. Diogelwch

Page 29: Cynllun Gwella

29

11.1 Nid yw cynllunio gwelliant yn gorffengyda gweithredu. Fel y nodwyd yn ycyflwyniad i’r Cynllun hwn, mae’nbroses gylchol pryd y byddwn gyson ynadolygu ac yn edrych eto ar eincynlluniau yng ngoleuni’r amgylchiadauy byddwn yn gweithio danynt.

11.2 Yn ddiweddarach eleni, byddwn yncyhoeddi ein Hadolygiad Gwelliannau.Yn fras, bydd y ddogfen hon yn disgrifioa ydym wedi cyflawni’r Amcanion abennwyd i ni ein hunain ar gyfer2012/13 neu beidio. Bydd yn cynnwystystiolaeth bwysig fel ystadegauperfformiad ac adroddiadau gwaith argwblhau prosiectau. Mae’n gyfle i niasesu sut wnaethom a rhannu’rcloriannu hwnnw gyda’n cwsmeriaid a’rrhai sy’n ein rheoleiddio.

11.3 Mae’r Adolygiad Gwelliannau hefyd yncynorthwyo cynllunio ein gweithgareddat y dyfodol. Mae’n helpu i nibenderfynu a ydym yn mynd i’r afaelâ’r materion cywir neu beidio ac aydym yn mynd ati yn y ffordd iawn.

11.4 Yn olaf, bydd y drefn adolygu’n rhoicyfle arall i ni feddwl am y sylwadau agawsom gan unigolion a grwpiaucymunedol. Rydym bob amser ynbarod i dderbyn sylwadau ar einhamcanion; rydym wedi cynnwys einmanylion cysylltu ar dudalen 1 yCynllun hwn.

11.5 Ni fyddwn yn cyhoeddi’r Adolygiadcysylltiedig â’r Cynllun hwn cyn misTachwedd 2014. Fodd bynnag, byddUwch-swyddogion a Chynghorwyr yncadw golwg bob chwarter ar y camaugweithredu a mesurau perfformiad yn ycynllun hwn. Er enghraifft, bydd einPwyllgorau Arolygu ac Archwilio’nadolygu’r meysydd sy’n berthnasoliddynt. Caiff dyddiadau cyfarfodydd,agendâu a’r holl bapurau perthnasol eucyhoeddi ar ein gwefan.

11. Cyflwyno adroddiadau

Page 30: Cynllun Gwella

30

12. Geirfa

Tai fforddiadwy

Gwastraffpydradwy

Ôl troed carbon

Arolygiaeth Gofala GwasanaethauCymdeithasolCymru (AGGCC)

Rhaglen Ysgolionyr 21ain Ganrife

Prosiect Cleddau

Dangosyddpynciau craidd

Unrhyw dai (e.e. ar rent, i’w prynu, neu felrhent rhannol, prynu rhannol) sydd ar gaelam lai na phrisiau’r farchnad.

Gwastraff yw hwn sy’n dadelfennu ac ynpydru, fel gwastraff bwyd.

Amcangyfrif o gyfanswm carbon deuocsidsy’n cael ei gynhyrchu gan unigolyn,sefydliad, digwyddiad neu gynnyrch.

Mae AGGCC yn annog gwella gofalcymdeithasol, blynyddoedd cynnar agwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.Mae hefyd yn archwilio darparwyr gofalcyhoeddus a phreifat ac awdurdodau lleol.

Cynllun Llywodraeth Cymru i fuddsoddimewn adeiladau ysgol.

Cleddau Sir Benfro yw prosiect CyfunRheoli Troseddwyr, sy’n bartneriaeth o’rHeddlu, Profiannaeth, y Tîm TroseddauIeuenctid, yr Awdurdod Lleol a llawer oasiantaethau eraill sy’n cynnig cynhaliaetha chefnogaeth i’r cleientiaid aros allan odrwbl.

Y ganran sy’n cyflawni’r safon ddisgwyliedigyn y Gymraeg (iaith gyntaf) neu’r Saesneg,Mathemateg a Gwyddoniaeth yng NghyfnodAllweddol 1-3 ac o leiaf TGAU Gradd CyngNghyfnod Allweddol 4.

Oedi wrthdrosglwyddogofal

Gofal cartref

Ardal Fenter

Estyn

Trefniadauffederasiwn

Blocio gwelyau yw’r enw ar hyn weithiau. Gallddigwydd pan fo pobl wedi bod yn yr ysbytya heb fod angen gwasanaethau meddygolmwyach, ond sydd angen bod gwasanaethauychwanegol yn bodoli cyn iddynt allu myndadref. Ein cyfrifoldeb ni’n aml yw sicrhau body gwasanaethau hyn yn bodoli.

Gofal sy’n cael ei ddarparu i bobl yn eu cartrefieu hunain, fel cynorthwyo gydag ymolchi,gwisgo neu anghenion personol eraill.

Dynodiad datblygiad economaiddLlywodraeth y DU sy’n hybu twf trwy roicymhellion i fusnesau mewn ardal benodol.

Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg aHyfforddiant yng Nghymru. Diben Estyn ywedrych ar ansawdd a safonau addysg ahyfforddiant yng Nghymru.

Trefniant rhwng darparwyr addysg igynyddu rhychwant y cymwysterau sydd argael i bobl ifanc. Yn Sir Benfro mae’rprosiect hwn yn gofyn bod ysgolion lleol aCholeg Sir Benfro’n cydgysylltu darpariaethrhai cyrsiau.

Page 31: Cynllun Gwella

31

MesurLlywodraethLeol (Cymru)2009

Plant dan ofal

Gwastraff trefol

Cam-drinproffesiynol

Nodweddiongwarchodedig

Datganolwyd grym i ddeddfu ar gynlluniocymunedol a gwella lleol yng Nghymru iGynulliad Cenedlaethol Cymru. Mesuryw’r term sy’n cael ei ddefnyddio iddisgrifio deddfwriaeth a luniwyd ganGynulliad Cenedlaethol Cymru.

Plant y mae’r Cyngor wedi cymryd i’wgofal. Caiff plant dan ofal eu gosod naillai gyda gofalwyr maeth neu rieni sy’n eumabwysiadu. Fodd bynnag, mae’rCyngor yn cadw cyfrifoldeb cyfreithioldros eu lles (fel eu ‘rhieni corfforaethol’).

Gwastraff sy’n cael ei gasglu’nuniongyrchol o gartrefi, trwy safleoeddamwynder dinesig, o finiau sbwriel neudrwy lanhau strydoedd.Digwyddiadau pan fydd rhywun yn eincyflogaeth neu’n gweithredu ar ein rhanyn cymryd mantais o’u sefyllfa i gam-drinneu niweidio plant neu oedoliondiamddiffyn.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yndiogelu grwpiau amrywiol. Y rhain yw:Oed; Hil; Anabledd; Crefydd a Chred;Newid Rhyw; Rhyw; Priodas aPhartneriaeth Sifil; Cyfeiriadedd Rhywiol;a Beichiogrwydd a Mamolaeth.

Ailalluogit

DatblygiadCynaliadwy

CytundebauS106

Pecyn gwasanaethau ar gyfer pobl syddangen cymorth i fyw yn eu cartrefi euhunain. Mae’r gwasanaethau hyn yn annoga chefnogi pobl i wneud cymaint ag a allantdrostynt eu hunain, gan wneud gorchwyliongyda hwy yn hytrach nag iddynt.

Dogfen sy’n rhoi cyhoeddusrwydd iymroddiad sefydliad i wneudpenderfyniadau sy’n ystyried materioncymdeithasol, economaidd acamgylcheddol hirdymor.

Cytundebau ariannol yw’r rhain sy’nrhwymo’n gyfreithiol rhwng awdurdodcynllunio lleol a datblygwr i wneudcyfraniad at isadeiledd lleol neu i wneudiawn am effeithiau allanol datblygiad.

Page 32: Cynllun Gwella