7
Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan ei Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy (2016-19).

Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

Ein gwaith yng Nghymru:

Fy NghenhedlaethGwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan ei Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy (2016-19).

Page 2: Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

Mae Fy Nghenhedlaeth wedi fy helpu i gymaint, a nawr rwy’n teimlo nad ydw i ar fy mhen fy hun am fod pobl eraill yn cael yr un problemau â fi.Rwy’n teimlo’n fwy hyderus ac yn gallu cyflawni pethau roeddwn i wedi rhoi’r gorau iddyn nhw am y tro.

CyflwyniadMae’n fwy tebygol y bydd pobl hy n yn teimlo’n fwy ynysig ac yn unig. Mae Fy Nghenhedlaeth yn gynllun ymyrryd ar sail tystiolaeth sy’n ceisio helpu pobl dros 50 oed i wella eu lles meddyliol, eu cyfalaf cymdeithasol a’u hunan-effeithlonrwydd.

Mae mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, yn enwedig ymhlith pobl hyn, yn flaenoriaeth genedlaethol i Lywodraeth Cymru. Mae gan Gymru gyfradd fwy o bobl hyn, nag unrhyw wlad arall yn y DU, gyda mwy nag un o bob 5 person dros 65 oed.

Mae’n fwy tebygol y bydd pobl hyn, yn teimlo’n ynysig ac yn unig a gall hyn arwain at broblemau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder, a gall hefyd gael effaith negyddol ar iechyd corfforol.

Mae poblogaeth sydd ar wasgar yn ddaearyddol a thoriadau i wasanaethau lleol, fel bysiau a chanolfannau gofal dydd yn golygu y gall pobl hyn yng Nghymru ei chael hi’n fwy anodd chwarae rhan weithredol yn eu cymunedau lleol, sy’n golygu eu bod yn wynebu mwy o risg o deimlo’n ynysig neu’n unig.

Yn 2016, cawsom gyllid gan weithio mewn partneriaeth ag Age Cymru gan Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu a threialu model i wella lles a chysylltiadau cymdeithasol pobl hyn yng Nghymru, gan gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r ‘Strategaeth ar gyfer

Pobl Hyn,yng Nghymru 2013-2013.’ Mae rhaglen wyth wythnos o hyd ‘Fy Nghenhedlaeth’

yn cynnig amrywiaeth o adnoddau a thechnegau i wella lles pobl hyn, yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a dod yn aelodau gweithredol o’u cymunedau lleol.

Dangosodd ein gwerthusiad annibynnol gan Ecorys fod y rhaglen wedi helpu mwy na 350 o bobl hyn,i wella eu lles ar y cam treialu, cynyddu eu cysylltiadau cymdeithasol a gwella eu gallu i ddatrys problemau.

Dangosodd y gwerthusiad annibynnol fod y rhaglen wedi cyrraedd pobl hyn yn llwyddiannus gydag amrywiaeth o ddemograffeg mewn ardaloedd trefol a gwledig yng Nghymru, gan gynnwys y bobl hynny sy’n wynebu’r risg o gael eu hynysu’n gymdeithasol a’u hallgáu yn ariannol.

Mae’r ddogfen hon yn ystyried cwmpas ac effaith prosiect Fy Nghenhedlaeth ac yn crynhoi’r dysgu allweddol a chamau nesaf ein gwerthusiad o’r cam treialu.

Rydym yn cloi gyda thri cham gweithredu rydym wedi’u cymryd a thri cham gweithredu rydym yn gofyn i sefydliadau eraill eu cymryd.

CynnwysCyflwyniad .................................................................................................................................2

Beth yw Fy Nghenhedlaeth? .....................................................................................................3

Sut mae’r cwrs wedi’i gynllunio? ..............................................................................................4

Effaith Fy Nghenhedlaeth ..........................................................................................................5

Profiadau cyfranogwyr ..............................................................................................................7

Helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn: Pethau allweddol a gafodd eu dysgu o’r rhaglen .........9

Camau nesaf ............................................................................................................................ 10

1 Data swyddogol ar Gymru gan Stats Cymru (www.statscymru.llyw.cymru). 2016.

Mae Fy Nghenhedlaeth yn rhaglen 8 wythnos o hyd ar gyfer pobl hyn sy’n meithrin gwydnwch ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n llai ynysig ac unig.

Dangosodd gwerthusiad annibynnol y canlynol:• roedd 79% o bobl a gymerodd ran

wedi gweld gwelliant yn eu lles.• roedd 63% wedi gwella eu sgiliau

ymdopi ac yn teimlo eu bod wedi’u grymuso mwy i ddatrys problemau.

• roedd 74% wedi cynyddu eu cysylltiadau cymdeithasol.

• gwnaeth 91% ohonyn nhw nodi bod y cwrs yn “Rhagorol” neu’n “Dda Iawn”.

Ewch i dudalennau 5-7 i gael rhagor o wybodaeth

Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth 3

Page 3: Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

50%50%

Sut mae’r cwrs wedi’i gynllunio? Gan weithio mewn partneriaeth ag Age Cymru, Age Connect Morgannwg a’n canghennau Mind lleol, gwnaethom gydgynhyrchu a datblygu rhaglen arloesol newydd a’i threialu mewn pedair cymuned wahanol ledled Cymru.

Mae Fy Nghenhedlaeth yn rhaglen 8 wythnos o hyd sy’n cael ei darparu am ddwy awr yr wythnos. Bydd yr awr gyntaf yn cynnwys modiwl seicoaddysg sy’n ystyried pwnc newydd bob wythnos. Mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i fynd i’r afael â’r adnoddau a’r technegau i aros yn iach a’u helpu i feithrin rhwydwaith o gymorth. Mae cyfranogwyr yn cael eu grymuso i wella eu lles, gyda’i gilydd. Mae’r ail awr yn gwahodd cyfranogwyr i roi cynnig ar weithgareddau lles sydd ar gael yn y gymuned leol, fel yoga ar eich eistedd, tai chi neu arddio.

yn canolbwyntio ar wella gwydnwch

(1 awr yr wythnos)

Ystyried adnoddau a thechnegau sy’n canolbwyntio ar wella gwydnwch meddyliol ac sy’n cael eu darparu gan ymarferydd lles Mind lleol.

Elfennau hyfforddiant gwydnwch MindMae pob sesiwn isod yn para am awr yr wythnos ac yn cael ei darparu gan yr ymarferydd lles Mind lleol.

Wythnos 1 Ystyried ffordd o feddwl sy’n helpu a ffordd o feddwl nad yw’n helpu Sut i nodi ffordd o feddwl sy’n helpu a ffordd o feddwl nad yw’n helpu.

Wythnos 2 Ystyried straen Sut i adnabod eich arwyddion o straen a sut i’w reoli.

Wythnos 3 Ystyried teimladau (rhan 1) Pam fod gennym deimladau a sut allwn ni brosesu ein teimladau yn effeithiol?

Wythnos 4 Ystyried teimladau (rhan 2) Beth sy’n digwydd os nad ydyn ni’n prosesu ein teimladau? Beth sydd ei angen arnon ni gan eraill?

Wythnos 5 Ystyried colled, galar a gwella Ystyried y gwahanol fathau o golled ac edrych ar y broses alaru dros gyfnod o amser.

Wythnos 6 Ystyried ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar Dysgu am ymwybyddiaeth ofalgar ac ymarfer technegau ymlacio.

Wythnos 7 Ystyried datrys problemau Adnoddau a thechnegau i ddatrys problemau mewn bywyd.

Wythnos 8 Ystyried cysylltiadau Ystyried cysylltiadau ag eraill a’r gymuned.

Rhaglen

8 wythnos o hyd

yn canolbwyntio ar ymgysylltiad cymdeithasol

(1 awr yr wythnos)

Sesiynau rhagflas lle y gall pobl roi cynnig ar

weithgareddau lles sydd ar gael yn y gymuned leol, fel yoga ar eich eistedd, tai

chi, garddio, sgiliau TG.

Strategaethau ymdopi

seicolegol

Cyfalaf cymdeithasol

Lles

Gwydnwch

Beth yw Fy Nghenhedlaeth?Yn 2016, cafodd Mind Cymru gan weithio mewn partneriaeth ag Age Cymru gyllid gan Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu a threialu cynllun ymyrryd er mwyn cefnogi pobl hy n yng Nghymru.

Nod y prosiect oedd:

1. Gwella lles a gwydnwch pobl hy n yng Nghymru drwy sicrhau mwy o gysylltiad cymdeithasol, gweithgareddau lles a strategaethau ymdopi seicolegol.

2. Creu cynllun ymyrryd ar sail tystiolaeth y gellir ei ddarparu mewn cymunedau amrywiol ledled Cymru a’r DU.

3. Cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r ‘Strategaeth ar gyfer Pobl Hy n y yng Nghymru 2013-2023’.

Model gwydnwch MindGwydnwch yw’r gallu i addasu yn wyneb amgylchiadau heriol, wrth gynnal lles meddyliol sefydlog.

Yn seiliedig ar y diffiniad hwn, mae Mind wedi datblygu model gwydnwch sy’n canolbwyntio ar dair elfen allweddol: lles, cyfalaf cymdeithasol a strategaethau ymdopi seicolegol – fel y dangosir yn y diagram hwn.

Beth yw seicoaddysg?

Seicoaddysg yw ymyrraeth therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n rhoi gwybodaeth a chymorth er mwyn helpu cyfranogwyr i ddod yn fwy ymwybodol o hunan-ofal, gwneud dewisiadau gwell a gwella eu gallu i reoli eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol.

Gall cyrsiau seicoaddysgol a ddarperir yn y gymuned helpu pobl i wella eu lles drwy hunan-ofal a thrwy feithrin rhwydweithiau cymdeithasol.

1 Mae’r prosiect wedi mabwysiadu diffiniad Llywodraeth Cymru o bobl hy n, sef y rheini sy’n 50 oed neu’n hy n.

Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth4 Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth 5

Page 4: Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

Effaith gadarnhaol ar les cyfranogwyr

2 o bob 3cyfranogwr a oedd

wedi cwblhau cwrs Fy Nghenhedlaeth wedi

gwella eu rhwydweithiau cymdeithasol.*

Nodwyd bod hyn wedi codi i 74% yn y sesiwn

tri mis ddilynol.

Effaith Fy Nghenhedlaeth

Cyrraedd cymunedau amrywiol ledled Cymru

Gwnaeth 350o gyfranogwyr fynychu 38 o gyrsiau mewn pedair

ardal wahanol fel rhan o’r cynllun peilot.

Comisiynodd Mind bartner gwerthuso annibynnol, Ecorys, i’n helpu i ddeall effaith y rhaglen ar gyfranogwyr. Gwnaeth y gwerthusiad hefyd dynnu sylw at ddysgu allweddol er mwyn helpu i addasu a gwella’r ymyrraeth, fel y gall gyrraedd pobl hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae’r prif ganfyddiadau o werthusiad Ecorys wedi’u nodi yma.

Roedd 2/3o’r cyfranogwyr

yn fenywod.

Roedd 62%ohonyn nhw’n byw ar eu pen eu hunain ac

roedd 65% naill ai wedi ysgaru neu’n weddw.

65oedd oedran y cyfranogwyr ar

gyfartaledd.

oed

Roedd gan42%ohonyn nhw brofiad

personol o broblemau iechyd meddwl.

Roedd 42%o gyfranogwyr wedi cael profiad o wahaniaethau, aflonyddu neu gam-drin dros y 12 mis diwethaf.

wedi dangos gwelliant ar Raddfa Unigrwydd 3 Eitem UCLA yn y sesiwn tri mis ddilynol.

Gwnaethom fesur amrywiaeth o ganlyniadau cyn i’r cwrs ddechrau (llinell sylfaen), ar ôl cwblhau’r cwrs a mesur dilynol ar ôl tri mis.

Dangosodd ein gwerthusiad annibynnol fod y rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar les cyfranogwyr ac wedi gwella eu rhwydweithiau cymdeithasol.

Mae’n bwysig nodi bod y gwelliannau hyn wedi’u cynnal dros gyfnod o dri mis ar ôl y cwrs.

Dangosodd ein gwerthusiad annibynnol fod y rhaglen wedi cyrraedd grw p amrywiol o bobl hyn mewn ardaloedd trefol a gwledig yng Nghymru yn llwyddiannus, gan gynnwys y rhai sy’n wynebu’r risg o gael eu hynysu’n gymdeithasol a’u gwahardd yn ariannol.

*Yn seiliedig ar werthusiad annibynnol o’r prif safleoedd yng nghangen Mind Merthyr a’r Cymoedd, cangen Mind Sir Benfro, cangen Mind Casnewydd a Thorfaen a changen Mind Blaenau Gwent, rhwng mis Medi 2016 a mis Mawrth 2017. Roedd adnoddau gwerthusol yn cynnwys Graddfa Lles Meddyliol Warwick-Caeredin Fer ar gyfer lles meddyliol, Graddfa Rhwydwaith Cymdeithasol Lubben ar gyfer cyfalaf cymdeithasol a rhwydweithiau cymdeithasol a’r Gyfradd Hunan-effeithlonrwydd Gyffredinol ar gyfer y gallu i ddatrys problemau.

79%Roedd lles 79% o gyfranogwyr Fy Nghenhedlaeth wedi gwella.*

Nodwyd bod lles 78% wedi parhau i wella yn y sesiwn tri mis ddilynol.

44%

Roedd63%

Dangosodd 63% o gyfranogwyr Fy

Nghenhedlaeth allu gwell i ddatrys problemau a chyflawni eu nodau.*

Nodwyd bod y ffigur hwn wedi codi i 68% yn y

sesiwn tri mis ddilynol.

Nodwyd bod

Roedd 34%• ohonyn nhw’n

wynebu’r risg o gael eu hallgáu yn ariannol.

Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth6 Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth 7

Page 5: Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

Profiadau cyfranogwyrYn ogystal â’r effaith gadarnhaol ar les, mae cyfranogwyr hefyd wedi nodi bod ganddyn nhw ganfyddiad cadarnhaol iawn o’r rhaglen.

Gwnaeth 91% ohonyn nhw nodi bod y cwrs yn “Rhagorol” neu’n “Dda Iawn”. Gwnaeth cyfranogwyr groesawu’r cyfuniad o fodiwlau seicoaddysgol a gweithgareddau lles, a oedd yn hwyliog ac wedi helpu i atgyfnerthu cydberthnasau o fewn y grw p. Gwnaeth cyfranogwyr hefyd dynnu sylw at ba mor werthfawr oedd y cymorth gan gymheiriaid ac mae llawer ohonyn nhw wedi cadw mewn cysylltiad ar sail gymdeithasol anffurfiol ar ôl i’r rhaglen ddod i ben.

Rwyf wedi dysgu

sut i ymlacio a theimlo’n llai

pryderus

Roedd wedi fy helpu i fynd allan

o’r tŷ

Mae’n wych ar gyfer cwrdd â phobl newydd a

chael cwmni

Mae wedi gwneud i mi

sylweddoli beth

dwi’n gallu ei wneud yn hytrach na

chanolbwyntio ar yr hyn dwi ddim yn gallu ei wneud

Rwyf yn dal i gwrdd â’r bobl

roeddwn i wedi eu cwrdd ar y cwrs

Roedd wedi

fy helpu i dderbyn

marwolaeth fy mab

Rwy’n teimlo’n well o lawer, wedi

ymlacio’n fwy ac yn gallu ystyried

pethau

ohonyn nhw nodi bod y cwrs yn

“Rhagorol” neu’n “Dda Iawn”

Gwnaeth

91%

‘Wendy’, Rhydfelin“Roeddwn i wir wedi mwynhau’r cwrs 8 wythnos ac rwy’n teimlo ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar fy iechyd emosiynol. Bob wythnos byddwn i’n gadael y sesiwn yn teimlo’n fwy positif ac yn hapusach nag oeddwn i’n ei deimlo cyn dod i’r sesiwn y diwrnod hwnnw.

Roedd hi’n braf cael lle i siarad fel grw p, rhannu straeon a phrofiadau, gwrando ar eraill, dysgu a chefnogi ein gilydd. Roedd pobl yn rhannu straeon a oedd yn heriol yn emosiynol gyda’r grw p na fyddai’n cael eu trafod mewn sefyllfa gymdeithasol arferol.

Rwy’n credu y byddai dilyn y rhaglen Fy

Nghenhedlaeth yn fuddiol i bawb, hyd yn oed pobl iau. Mae’r prosiect yn eich cyflwyno chi i weithgareddau newydd, rydych chi’n dysgu pethau newydd, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn cael y cyfle i siarad.”

Mae’r prosiect ar y cyfan wedi fy helpu i wella fy hyder ac wedi fy ysbrydoli i ystyried sefydlu fy ngrŵp cymdeithasol fy hun.

‘David’, Casnewydd“Es i ar gwrs ‘Fy Nghenhedlaeth’ yng nghangen Mind Casnewydd yn 2017. Doeddwn i ddim mewn lle da ar y pryd, ac ar ôl bod gyda phobl a oedd yn wynebu problemau tebyg o’r cychwyn, roeddwn i’n teimlo’n well ar unwaith.

Roedd y fformat yn dda ac yn rhoi amser i bob un ohonon ni siarad amdanon ni ein hunain a’r effaith roedden ni’n ei chael ar ein teuluoedd a’n ffrindiau – siarad am broblemau, teimladau, colled a straen.

Ar ôl i fy wyth wythnos ddod i ben gyda ‘Fy Nghenhedlaeth’, sylwais i fy mod i’n gallu ymlacio’n fwy ac roeddwn i wedi gwneud ffrindiau da.

Nawr, rwy’n gallu siarad yn agored am fy nheimladau pan fydda i allan gyda ffrindiau yn gymdeithasol.

Rwyf wedi parhau i fynd i gangen Mind Casnewydd, gan ymuno â’r ‘Grw p i ddynion’ a’r grw p ‘Gwerthfawrogi Cerddoriaeth’.

Mae un neu ddau o’m ffrindiau hefyd wedi siarad â fi am eu teimladau nhw ac rwyf wedi awgrymu y gall un ohonyn nhw gael budd o gysylltu â changen Mind Casnewydd, fel y gwnes i.”

Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth 9Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth8

Page 6: Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

Helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn: Dysgu allweddol o’r rhaglenRydyn ni wedi datblygu model sy’n seiliedig ar y gymuned y gallwch ei ddefnyddio mewn sawl ffordd, sy’n helpu pobl hy n yng Nghymru i fyw’n well, gyda’i gilydd.

Drwy’r prosiect hwn, rydyn ni wedi gwneud cyfraniad sylweddol yr oedd ei angen yn fawr tuag at ymyrraeth gynnar, gan fynd i’r afael â materion fel teimlo’n unig ac yn ynysig yng Nghymru.

Gwella lles a lleihau’r teimlad o fod yn ynysig

Ein nod yw helpu pobl i fyw’n well, beth bynnag mae hynny’n ei olygu iddyn nhw. Roedd y rheini a oedd wedi cwblhau’r cwrs yn bositif am yr effaith roedd wedi’i chael arnyn nhw fel unigolion, gan roi enghreifftiau o sut mae eu sgiliau newydd a’u ffrindiau

wedi gwella eu bywydau. Dangosodd y gwerthusiad fod y prosiect wedi gwella lles a hunan-gred y mwyafrif o’r cyfranogwyr.

Meithrin rhwydweithiau cymorth parhaol

Mae model Fy Nghenhedlaeth yn darparu llwyfan sy’n hawdd ei ddefnyddio i ddatblygu grwpiau cymorth gan gymheiriaid. Roedd cyfranogwyr wedi meithrin cydberthnasau drwy rannu’r profiad o gymryd rhan yn y cwrs ac roedd llawer ohonyn nhw’n awyddus i sefydlu neu ymuno â grwpiau lleol sy’n helpu pobl yn eu cymunedau.

3 cham mae Mind wedi’u cymryd 1. Wedi defnyddio’r hyn a gafodd ei ddysgu

o gam treialu’r gwerthusiad i gynyddu darpariaeth y rhaglen, gan alluogi mwy o bobl hy n ledled Cymru i fynd ar y cwrs.

2. Wedi annog canghennau Mind lleol i feithrin cydberthnasau ag amrywiaeth eang o sefydliadau cymunedol er mwyn sicrhau bod y cwrs yn hygyrch i ystod eang o bobl hyon o amrywiaeth o gefndiroedd.

3. Wedi rhannu ein dysgu ac wedi hyrwyddo manteision Fy Nghenhedlaeth i randdeiliaid, gan feithrin partneriaethau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y rhaglen yn y dyfodol.

3 cham rydym yn gofyn i sefydliadau eraill eu cymryd1. Sicrhau bod iechyd meddwl ar yr agenda

bob amser. Ymrwymo i gymryd camau i leihau rhywfaint o’r rhwystrau sy’n atal pobl hy n rhag siarad am eu hiechyd meddwl a darparu cyllid ar gyfer y rhaglen Fy Nghenhedlaeth yn eich ardal leol.

2. Ystyried a blaenoriaethu anghenion pobl hy n wrth ddatblygu a gweithredu gwasanaethau yn y gymuned leol a sicrhau bod cyfleoedd i bobl hynn sy’n teimlo’n ynysig ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.

3. Ystyried goblygiadau gwella lles a chysylltiadau cymunedol i bobl hy n, o ran iechyd a gofal cymdeithasol ehangach a buddsoddi mewn ymyriadau cynnar ar gyfer y rheini sy’n wynebu risg.

Camau nesafYn 2018, cyflwynwyd Fy Nghenhedlaeth i fwy o ganghennau Mind lleol ac fe’i rhoddwyd ar waith ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gyrraedd 315 o bobl hy n ychwanegol.

Dangosodd ein gwerthusiad annibynnol fod 82% o’r cyfranogwyr wedi dangos cynnydd o ran eu lles rhwng yr arolwg sylfaenol a’r arolwg terfynol yn 2018, o gymharu â 78% yn ystod y cam treialu yn 2017.

Dangosodd 68% newid cadarnhaol yn eu Cyfalaf Cymdeithasol, o gymharu â 74% yn ystod y cam treialu.

Dangosodd 73% welliant o ran eu Hunaneffeithlonrwydd, o gymharu â 67% yn ystod y cam treialu.

Mae’r broses o ymestyn rhaglen Fy Nghenhedlaeth wedi parhau i feithrin gwydnwch pobl hy n a gwneud iddyn nhw deimlo’n llai ynysig ac unig. Yn 2019, bydd Mind yn cyflwyno’r rhaglen i fwy o’n canghennau Mind lleol ac yn cefnogi Canghennau Mind Lleol er mwyn eu helpu i gynnal Fy Nghenhedlaeth a chyrraedd mwy o bobl hy n sy’n wynebu risg ledled Cymru.

Ar ôl dal popeth i mewn am flynyddoedd lawer, roedd hi’n rhyddhad gwych.

Ar ddiwedd y sesiynau, roeddwn i’n sylwi fy mod i’n cyfrif. Rwy’n bwysig ac mae wedi fy arwain at bwynt lle y gallaf i reoli sefyllfaoedd penodol ac mae wedi fy helpu i beidio â chario fy mhroblemau o gwmpas gyda fi.- ‘Jean’ o Gasnewydd

Huw Irranca-Davies AS yn cyfarfod â chyfranogwyr Fy Nghenhedlaeth yn 2018

Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth10 Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth 11

Page 7: Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed …...Ein gwaith yng Nghymru: Fy Nghenhedlaeth Gwella gwydnwch meddyliol a lles pobl dros 50 oed yng Nghymru Wedi’i ariannu gan

About usWe’re Mind Cymru, your go-to mental health partner. We bring focused mental health expertise to our partnerships and services.

Through our network of 20 local Minds in Wales, we help people enjoy better mental health and support people with mental health problems to live well in their communities and at work. Together we are Mind in Wales.

We are able to draw on the best of our learning, information, expertise and evidence-based practice across both Wales and England to strengthen our support and projects in Wales.publ

Work with usIf you’d like to partner with Mind Cymru, or find out more about any of our projects in Wales, please contact us:

E [email protected]

T 029 2039 5123

W Mind.org.uk/projectsCymru

Amdanom niNi yw Mind Cymru, eich parter iechyd meddwl arbenigol. Rydyn ni’n dod ag arbenigedd iechyd meddwl penodol i’n partneriaethau a’n gwasanaethau.

Drwy ein rhwydwaith o 20 o ganghennau Mind lleol yng Nghymru, rydyn ni’n helpu pobl i fwynhau iechyd meddwl gwell a chefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i fyw’n dda yn eu cymunedau ac yn y gwaith. Gyda’n gilydd ni yw Mind yng Nghymru.

Gallwn ddefnyddio’r elfennau gorau o’n dysgu, gwybodaeth, arbenigedd ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ledled Cymru a Lloegr i gryfhau ein cymorth a’n hymgyrchu yng Nghymru.

Gweithiwch gyda niOs hoffech weithio mewn partneriaeth â Mind Cymru, neu ddysgu mwy am unrhyw un o’n prosiectau yng Nghymru, cysylltwch â ni:

E [email protected]

Ff 029 2039 5123

G Mind.org.uk/projectsCymru

Mind Cymru3rd floor, Quebec House

Castlebridge5-9 Cowbridge Road East

CardiffCF11 9AB

Mind.org.uk/WalesFollow us on twitter: @MindCymru

Call us on 029 2039 5123

Mind’s registered charity number is 219830 This project was funded by the Welsh Government under its Sustainable Social Services Third Sector Grant, (2016-19).

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan ei Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy (2016-19).

Mind Cymru3ydd Llawr, Ty Quebec

Castlebridge5-9 Cowbridge Road East

Caerdydd CF11 9AB

Mind.org.uk/WalesDilynwch ni ar twitter: @MindCymru

Ffoniwch ni ar 029 2039 5123

Rhif elusen gofrestredig Mind yw 219830