68
*Z\GGRU DQLIHLOLDLG &\QK\UFKZ\G \U DGQRGGDX K\Q J\GD FK\PRUWK DULDQQRO (/:D

Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

  • Upload
    vantram

  • View
    220

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Gwyddor anifeiliaid

Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn gyda chymorth ariannol ELWa

Page 2: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Gwyddor Anifeiliaid

Tabl Cynnwys

Pennod 1 - Systemau’r Corff............................................................................4 Y Sgerbwd....................................................................................................4

Strwythur y sgerbwd .................................................................................4 Esgyrn ......................................................................................................4 Cymalau ...................................................................................................5

Resbiradaeth a’r System Gylchredol ............................................................6 Resbiradaeth ............................................................................................6 Swyddogaethau’r system gylchredol ........................................................6 Strwythur ..................................................................................................6

Y System dreulio ........................................................................................11 System dreulio anifail un stumog (e.e. mochyn) .....................................11 System Dreulio Anifeiliaid Cnoi Cil (e.e. defaid a gwartheg) ...................13

Y System Nerfol .........................................................................................17 Swyddogaethau’r system nerfol..............................................................17 Strwythur y system nerfol .......................................................................17

Y system ysgarthol a gwaredu gwastraff....................................................17 Swyddogaethau’r system ysgarthol ........................................................17 Yr ysgyfaint .............................................................................................17 Yr afu ......................................................................................................18 Yr arennau..............................................................................................18

Systemau atgenhedlu.................................................................................19 Swyddogaethau’r system atgenhedlu wrywaidd .....................................19 Swyddogaethau’r system atgenhedlu fenywaidd ....................................21 Strwythur y system atgenhedlu fenywaidd..............................................21 Glasoed ..................................................................................................22 Y cylchredau atgenhedlu ........................................................................22 Beichiogrwydd ........................................................................................24

Y system fronnol.........................................................................................25 Swyddogaeth y gadair ............................................................................25 Strwythur y gadair...................................................................................25 Gollwng llaeth (Milk let-down) .................................................................26

Y system endocrinaidd ...............................................................................26 Swyddogaeth y system endocrinaidd .....................................................26

Rheoli tymheredd .......................................................................................28 Colli gwres ..............................................................................................28 Cynnal a chynhyrchu gwres....................................................................28

Cyfeiriadau a darllen pellach ......................................................................29 Pennod 2 - Iechyd a Lles ...............................................................................30

Codau Lles Da Byw....................................................................................30 Cefndir y codau.......................................................................................30 Y Pum Rhyddid.......................................................................................30 Achosion clefydau...................................................................................31

Egwyddorion imiwnedd ..............................................................................33 Imiwnedd actif.........................................................................................33 Imiwnedd goddefol..................................................................................33 Brechlynnau............................................................................................34

2

Page 3: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Arwyddion o iechyd ac afiechyd mewn da byw ..........................................35 Clefydau hysbysadwy .............................................................................37

Defnyddio a storio meddyginiaethau milfeddygol .......................................40 Cod ymarfer ar gyfer meddyginiaethau...................................................40 Cofnodion meddyginiaethau ...................................................................41 Mathau o feddyginiaethau ......................................................................43 Termau cyffredin a welir mewn cyfarwyddiadau meddyginiaethau .........44

Cyfeiriadau a darllen pellach ......................................................................44 Pennod 3 - Bwydydd a Phorthi ......................................................................46

Dosbarthu bwydydd....................................................................................46 Planhigion suddlon (Succulents).............................................................46 Bwydydd sych.........................................................................................47

Cyfansoddion mewn bwyd .........................................................................48 D r (H2O) ...............................................................................................48 Carbohydradau (CHO)............................................................................48 Protein ....................................................................................................49 Brasterau ac olewau (lipidau) .................................................................50 Fitaminau ................................................................................................50 Mwynau ..................................................................................................51

Mesurau o gyfansoddion ac ansawdd bwyd...............................................52 Mater sych (DM) .....................................................................................52 Cymeriant digymell o fwyd......................................................................53 Gwerth-D a threuliadedd.........................................................................54 Ynni ........................................................................................................54 Cynnal y corff a chynhyrchu....................................................................55 Bwydo protein i dda byw.........................................................................56

Dogni..........................................................................................................56 Dewis bwydydd.......................................................................................57 Paratoi dogn ...........................................................................................58 Cyfrif y dogn............................................................................................58 Pwyntiau i’w cofio wrth gyfrif dognau: .....................................................62

Cyfeiriadau a darllen pellach ......................................................................62 Pennod 4 - Lletya da byw ..............................................................................63

Rhesymau dros letya da byw .....................................................................63 Gofynion lletya da byw ...............................................................................63

Awyru......................................................................................................63 Cyfraddau stocio.....................................................................................65 Lloriau a gwasarn ...................................................................................66 Bwyd a d r .............................................................................................67 Golau ......................................................................................................67 Argyfyngau..............................................................................................67 Trefnau ...................................................................................................68

Cyfeiriadau a darllen pellach ......................................................................68

3

Page 4: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Pennod 1 - Systemau’r Corff

Y Sgerbwd

Swyddogaethau’r sgerbwd yw: Diogelu’r organau hanfodol (e.e. yr ymennydd, yr ysgyfaint, y galon) Cynnal siâp neu ffurf y corff Hwyluso symudiad y corff Cynhyrchu celloedd gwaed Storio mwynau

Strwythur y sgerbwd Mae strwythur sylfaenol esgyrn a chymalau’r rhan fwyaf o anifeiliaid yn debyg i’w gilydd, er eu bod wedi ymaddasu mewn ffyrdd penodol i’w hamgylchedd.

Ffig 1 – Diagram o sgerbwd buwch

Esgyrn Mae esgyrn yn ddefnydd byw, ac maent yn cynnwys mwynau (calsiwm, ffosfforws a magnesiwm) sy’n eu gwneud yn galed ac yn gryf. Bydd esgyrn hir fel y ffemwr yn cynnwys mêr yng nghanol yr asgwrn. Mae mêr coch yn cynhyrchu celloedd coch y gwaed, ac felly mae gan esgyrn gyflenwad da o waed.

Mae angen i anifeiliaid ifainc gael calsiwm yn eu diet er mwyn sicrhau bod eu hesgyrn yn gryf ac yn iach. Gall diffyg calsiwm achosi’r llech (rickets - clefyd diffyg sy’n atal esgyrn rhag datblygu’n iawn). Gallai anifeiliaid llawndwf, fel gwartheg godro sy’n llaetha, fedru symud calsiwm o’r esgyrn i lif y gwaed.

4

Page 5: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Wrth i anifeiliaid heneiddio gallai fod yn anoddach iddynt ryddhau’r calsiwm, a gall hyn achosi twymyn llaeth (hypocalsemia).

Cymalau Ceir cymal lle mae dau asgwrn yn cwrdd â’i gilydd. Bydd strwythur y cymalau’n rheoli cyfeiriad a symudiad y cymal a faint y bydd yn symud.

Cymalau sefydlog – bydd yr esgyrn yn cydgloi fel na cheir unrhyw symudiad, e.e. y penglog. Cymalau cartilagaidd (yn gallu symud ychydig) – mae cartilag yn cysylltu’r esgyrn, ac felly mae ychydig o symudiad. Mae cymalau fel hyn yn yr asgwrn cefn, rhwng y fertebrâu. Cymalau synofaidd (yn gallu symud yn rhydd) - mae gan y cymalau gartilag a chwpan (capsule) o hylif synofaidd ar bennau’r esgyrn. Mae cymalu pelen a soced (e.e. yn y glun a’r ysgwydd) a chymalau colfach (e.e. yn y penelin) yn enghreifftiau o’r mathau hyn o gymalau.

gorchudd a gewynnau

asgwrn hylif synofaidd

pilen synofaidd

cartilag

asgwrn

Ffig 2 – Diagram cyffredinol o gymal

Mae cymal yn cynnwys y meinweoedd canlynol: Gewynnau – ffibrau gwydn sy’n cysylltu’r esgyrn Tendonau –ffibrau sy’n glynu cyhyrau wrth esgyrn Cartilag – haen lyfn a llithrig sy’n gorchuddio pennau esgyrn ac yn lleihau ffrithiant Hylif synofaidd – yr hylif sy’n iro’r cymal

Gallai gwahanol broblemau, yn cynnwys heintiau fel clefyd y cymalau (joint ill), effeithio ar gymalau. Mae hyn yn digwydd pan fydd bacteria yn mynd i mewn i gorff anifail ifanc ac yn heintio cymal. Gall hyn achosi niwed a chwydd poenus.

5

Page 6: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Resbiradaeth a’r System Gylchredol

Resbiradaeth

Mae resbiradaeth yn broses ffisegol a chemegol sy’n cynnwys mewnanadlu ffisegol sy’n symud nwyon o’r aer i lif y gwaed, allanadlu i waredu nwyon gwastraff a d r, a resbiradaeth celloedd sy’n rhyddhau ynni drwy adwaith cemegol. Resbiradaeth celloedd yw’r broses sy’n gadael i blanhigion ac anifeiliaid ryddhau ynni i’w defnydd eu hunain. Caiff yr ynni mewn cemegau fel glwcos ei ryddhau pan fydd ocsigen yn adweithio â nhw i gynhyrchu moleciwlau llai. Mae’r broses yn debyg i’r rhyddhau ynni sy’n digwydd pan gaiff tanwydd fel petrol ei losgi.

Bwyd + Ocsigen Carbon deuocsid + D r + Ynni

Mae’r adwaith hwn yn digwydd y tu mewn i gelloedd, ond rhaid i’r broses resbiradu hefyd symud ocsigen i’r celloedd a gwaredu cynhyrchion gwastraff. Os na all anifail symud ocsigen i’r organau hanfodol bydd yn marw’n gyflym.

Swyddogaethau’r system gylchredol

Mae gan y system gylchredol sawl swyddogaeth: Trosglwyddo ocsigen i’r cyhyrau a meinweoedd eraill Gwaredu cynhyrchion gwastraff e.e. carbon deuocsid Trosglwyddo cynhyrchion treulio bwyd i’r meinweoedd sydd eu hangen Trosglwyddo negeseuon cemegol ar ffurf hormonau Cludo celloedd gwaed a gwrthgyrff er mwyn ymladd clefydau Helpu i reoli tymheredd

Strwythur Caiff nwyon eu cyfnewid yn yr ysgyfaint. Wrth i anifail dynhau cawell ei asennau, gan gyfangu’i ddiaffram, bydd cyfaint y frest yn cynyddu. Mae hyn yn tynnu aer i mewn i’r ysgyfaint, ac mae’r anifail yn mewnanadlu.

6

Page 7: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

MEWNANADLU ALLANANADLU awyr sy’n cynnwys ocsigen i mewn

awyr sy’n cynnwys carbon diocsid a dwr allan

Asenau yn ymestyn allan

Asenau yn gwthio i fewn

Diaffram yn symud i lawr

Diaffram yn gwthio i fyny

Ffig.3 – Diagramau o fewnanadlu ac allanadlu

Mae mwy o ocsigen yn yr aer yn yr ysgyfaint nag sydd yn y meinweoedd, felly mae ocsigen yn hydoddi yn yr ysgyfaint ac yn symud i lif y gwaed. Caiff yr ocsigen ei gario gan gelloedd coch y gwaed.

alfeoli

dwythell alfeolaidd

rhwydwaith capilarïaidd

bronciolyn terfynol

Ffig.4 - Diagram o’r ysgyfaint a’r alfeoli

7

Page 8: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Mae’r system gylchredol yn symud gwaed ocsigenedig o’r ysgyfaint i’r meinweoedd, a gwaed diocsigenedig yn ôl i’r ysgyfaint. Mae’r galon yn pwmpio’r gwaed trwy’r gyfres o bibellau gwaed i’r meinweoedd.

Rhydwelïau (yn cario gwaed o’r galon) - Bydd y gwaed, fel arfer, dan bwysedd uchel, ac mae’n cynnwys llawer o ocsigen Gwythiennau (Yn cario gwaed i’r galon) - Fel arfer, ychydig o ocsigen sydd yn y gwaed, ond mae’n cynnwys y carbon deuocsid y bydd yr ysgyfaint yn ei echdynnu Capilarïau - mae’r rhain i’w cael lle mae’r gwythiennau’n mynd yn gul iawn er mwyn gadael i’r gwaed lifo trwy gelloedd y meinweoedd, gan fynd â d r ac ocsigen iddynt, a symud cynhyrchion gwastraff oddi wrthynt. Bydd gwaed sy’n gadael y capilarïau yn mynd i’r gwythiennau er mwyn cael ei anfon yn ôl i’r galon.

Ffig.5 – Diagram o’r galon

8

Page 9: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Ffig.6 – Diagram o’r system gylchredol

Celloedd coch y gwaed – maent yn cynnwys haemoglobin - protein sydd wedi’i seilio ar haearn – sy’n uno gydag ocsigen ac yn ei gludo yn y gwaed. Caiff celloedd coch eu cynhyrchu yn y mêr coch sydd mewn esgyrn hir fel y ffemwr a’r asennau.

9

Page 10: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Celloedd gwyn y gwaed - mae angen y rhain er mwyn diogelu anifeiliaid rhag clefydau.

Mae ffagosytau’n gelloedd mawr sy’n gallu ymosod ar facteria a’u lladd Mae lymffocytau’n cynhyrchu gwrthgyrff sy’n ymladd clefydau penodol.

Mae angen platennau ar gyfer ceulo’r gwaed

Cyfraddau resbiradu a churiad y galon Mae’r tabl canlynol yn dangos cyfraddau arferol resbiradu a churiadau’r galon mewn anifeiliaid iach sy’n gorffwys:

Anifail Cyfradd resbiradu (anadliadau / munud)

Cyfradd curiad y galon (curiadau / munud)

Gwartheg 12-16 45-50 Defaid 12-20 70-80 Moch 10-16 70-80

Tabl 1 – Cyfraddau Resbiradu a Churiad y Galon. (Addasiad o Black’s Veterinary Dictionary)

Bydd straen neu ymarfer corff yn cynyddu cyfraddau’r resbiradu a churiad y galon. Ar y cyfan, bydd cyfraddau anifeiliaid ifainc yn gyflymach na chyfraddau anifeiliaid llawndwf.

Rhai cyflyrau a allai effeithio ar resbiradaeth a’r system gylchredol:

Niwmonia – llid yr ysgyfaint. Gallai hon fod yn broblem arbennig os bydd anifeiliaid yn cael eu cadw dan do heb ddigon o awyriad. Anaemia – prinder haemoglobin, sef y cemegyn mewn celloedd coch y gwaed sy’n cario ocsigen. Mae anifeiliaid sy’n brin o haearn yn aml yn dioddef o’r clefyd hwn, e.e. moch bach sydd heb gael digon o haearn yn eu diet, neu famogiaid sy’n cario llawer iawn o lyngyr. Mygu - anifeiliaid sydd heb gael digon o ocsigen, e.e. os caiff llawer o nwyon gwenwynig eu rhyddhau o danc slyri tanddaearol i adeilad lle cedwir gwartheg. Ataliad y galon – mae’r galon yn stopio pwmpio gwaed o gwmpas y corff

10

Page 11: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Y System dreulio Mae’r system dreulio’n ymddatod (breakdown) bwyd ac yn ei droi’n foleciwlau bach a gaiff eu hamsugno gan y llwybr treulio a’u cludo i’r gwaed a’r system lymffatig. Mae tair rhan i’r broses dreulio: Ymddatod ffisegol – e.e. cnoi’r bwyd Ymddatod cemegol - e.e. (1) asid hydroclorig yn cael ei ryddhau gan wal y stumog; (2) ensymau sef cemegau sy’n cyflymu adweithiau cemegol heb iddynt gael eu newid eu hunain Gweithgaredd microbau - e.e. eplesu bwyd yn y rwmen (stumog gyntaf dafad neu fuwch)

Mae systemau treulio wedi esblygu dros gyfnod o amser mewn ymateb i ddiet naturiol yr anifail arbennig. Mae’r llwybr ymborth (alimentary canal) yn enw arall ar y llwybr treulio.

System dreulio anifail un stumog (e.e. mochyn)

Y Geg

Dannedd – defnyddir y dannedd i gasglu a chnoi bwyd. Y mathau gwahanol o ddannedd yw:

Blaenddannedd – i dorri bwyd Dannedd llygad – i rwygo cnawd Cilddannedd a childdannedd blaen – i fathru a malu bwyd

Mae’r dannedd wedi’u haddasu i’r diet. Mae moch, er enghraifft, yn hollysyddion (maent yn bwyta ystod eang o fwyd o blanhigion ac anifeiliaid); mae enamel llyfn ar eu dannedd, ac mae ganddynt flaenddannedd ar eu genau isaf ac uchaf.

Mae poer yn cynnwys d r, electrolytau, mwcws ac ensymau i ymddatod startsh. Mae’n gwlychu bwyd er mwyn iddo fod yn haws i’w lyncu.

Mae cyhyrau yn y tafod sy’n troi bwyd yn folws (pelen) y gall yr anifail ei lyncu. Mae blasbwyntiau (taste buds) arno sy’n galluogi’r anifail i flasu’r bwyd. Wrth fedru blasu, mae’r anifail yn gallu adnabod bwyd â blas chwerw neu annymunol a allai fod yn wenwynig, a pheidio â’i fwyta. Mae’r anifail yn llyncu bwyd ar ôl iddo gael ei symud i gefn y geg; bydd fflap - yr epiglotis - yn cau’r bibell wynt (tracea) er mwyn i’r anifail beidio â thagu.

Yr Oesoffagws Dyma’r tiwb sy’n cysylltu’r geg a’r stumog. Caiff bwyd ei wthio ar hyd yr oesoffagws gan gyfangiadau cyhyrol - peristalsis.

Y Stumog Dyma lle y caiff y rhan fwyaf o’r protein ei ymddatod drwy actifedd yr ensym pepsin. Er mwyn i ensymau weithio’n effeithiol mae asid hydroclorig yn cael

11

Page 12: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

ei ryddhau gan wal y stumog er mwyn troi cynnwys y stumog yn asidig. Bydd cyhyrau wal y stumog yn cymysgu’r bwyd cyn iddo gael ei ryddhau’n raddol i’r coluddyn bach ar gyfer cam nesaf y broses dreulio. Mae anifeiliaid ifainc yn cynhyrchu rennin yn y stumog sy’n ceulo protein llaeth ac yn ei droi’n geuled (curds) sydd wedyn yn cael eu ymddatod gan yr ensym pepsin.

Y Coluddyn Bach Bydd cemegau sy’n cwblhau ymddatodiad bwyd yn cael eu rhyddhau i’r coluddyn bach o’r canlynol: Wal y coluddyn – sy’n rhyddhau ensymau Y pancreas – sy’n rhyddhau sudd pancreatig sy’n cynnwys ensymau Coden y bustl (gall bladder) - mae’r afu’n cynhyrchu bustl (bile) sy’n cael ei storio yng nghoden y bustl a’i ryddhau i’r dwodenwm (rhan gyntaf y coluddyn bach).

Cemegyn Swyddogaeth Bustl Niwtraleiddio’r pH fel y gall yr ensymau

weithio’n well Emwlsio’r brasterau a’r olewau yn ddiferion mân er mwyn cynyddu’r arwynebedd arwyneb y gall yr ensymau weithio arno.

Amylas Ymddatod carbohydradau’n siwgr Trypsin Ymddatod proteinau’n asidau amino Lipas Ymddatod brasterau’n asidau brasterog a

glyserol

Pan fydd y gronynnau bwyd o faint moleciwlau maent yn ddigon bach i basio trwy wal y coluddyn i’r gwaed neu’r system lymffatig. Er mwyn cyflymu’r broses hon, mae’r coluddyn bach wedi’i orchuddio gan filysau sy’n cynhyrchu arwynebedd arwyneb mawr.

Ffig.7 – Diagram o filws

12

Page 13: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Unwaith y bydd gronynnau bwyd sydd wedi’u hamsugno yn cyrraedd y system gylchredol byddant yn pasio trwy’r afu er mwyn cael gwared â gronynnau gwenwynig. Bydd y system gylchredol yn symud y cynhyrchion treuliad o gwmpas y corff fel bod modd i’r gronynnau bwyd sydd wedi’u treulio gyrraedd y mannau lle mae’u hangen, e.e. siwgr i’r cyhyrau er mwyn iddynt gael ynni.

Y coluddyn mawr Dyma lle y mae’r broses dreulio ac amsugno’n gorffen, a’r lle y caiff d r ei adamsugno o’r llwybr treulio i’r corff. Mae’r gwastraff yn cael ei ddal yn y rectwm nes iddo gael ei basio trwy’r anws.

System Dreulio Anifeiliaid Cnoi Cil (e.e. defaid a gwartheg)

Mae system dreulio anifeiliaid cnoi cil wedi’i addasu’n arbennig i ddiet sy’n cynnwys lefelau uchel o ffibr planhigol sy’n anodd ei ymddatod. Mae hyn wedi arwain at ddatblygiad strwythur sydd â phedair stumog; yn cynnwys siambr olaf sy’n gweithio’n debyg i stumog mochyn.

Y Geg

Y Dannedd – defnyddir y rhain ar gyfer casglu a chnoi bwyd. Does dim dannedd gan wartheg na defaid ar du blaen y geg, lle mae ganddynt bad caled o asgwrn a chroen yn lle dannedd. Wrth i wartheg a defaid aeddfedu, byddant yn colli’u set gyntaf o ddannedd (dannedd sugno) ac yn tyfu patrwm gosod o ddannedd aeddfed.

Ffig.8 – Llun o flaenddannedd gwartheg (2 – 2 ½ oed)

Mae defaid yn tueddu pori drwy gnoi porfa yn erbyn y pad caled ar yr ên uchaf er mwyn ei thorri gyda’u blaenddannedd. Tuedda gwartheg ddefnyddio’u tafodau i gasglu a thynnu’r borfa cyn ei chnoi. Bydd anifeiliaid cnoi cil yn llyncu’r bwyd cyn gorffen ei gnoi oherwydd eu bod yn gallu’i chwydu yn ôl i’r geg yn ddiweddarach er mwyn gorffen ei gnoi. Mae

13

Page 14: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

arwynebedd garw ar gilddannedd a childdannedd blaen yr ên uchaf a’r ên isaf yng nghefn y geg er mwyn malu ffibr planhigol.

Poer – Mae anifeiliaid cnoi cil yn cynhyrchu llawer o boer. Mae’r poer ychydig yn alcalïaidd er mwyn atal hylif rwmen rhag mynd yn rhy asidig.

Yr Oesoffagws Dyma’r tiwb sy’n cysylltu’r geg a’r rwmen. Mae tair stumog gyntaf anifeiliaid cnoi cil wedi datblygu o’r oesoffagws; nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw gemegau treulio.

Y Stumogau Y stumogau yw’r......

Rwmen Reticwlwm Y God Fach Abomaswm (y gwir stumog)

Ffig.9 – System dreulio anifail cnoi cil

Gall rwmen buwch ddal tua 120 litr, ond mae hyn yn amrywio yn ôl maint corff a brîd. Gall rwmen dafad ddal 15-20 litr. Caiff bwyd yn y rwmen ei ymddatod yn bennaf gan ficrobau, bacteria a phrotosoa.

Mae bacteria’n defnyddio peth o’r bwyd i atgenhedlu a lluosi. Maent yn symud ar hyd y system dreulio gyda gweddill y bwyd ac yn cael eu treulio. Dyma’r protein microbaidd. Mae microbau hefyd yn ychwanegu nitrogen i foleciwlau er mwyn cynhyrchu protein. Bydd microbau’n rhyddhau cynhyrchion gwastraff, a gall y fuwch ddefnyddio rhai o’r rhain, e.e. asidau brasterog anweddol. Bydd nwyon gwastraff fel methan, a gynhyrchir gan ficrobau, yn cael eu gwaredu drwy dorri gwynt. Rhaid i wartheg a defaid waredu nwyon gwastraff er mwyn atal chwyddwynt y boten fawr (bloat), pan fydd nwyon sydd

14

Page 15: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

wedi’u dal yn chwyddo’r rwmen gan achosi poen a gwasgu ar organau mewnol. Mewn rhai achosion gwael, gall hyn ladd anifeiliaid. Os rhoddir gormod o fwyd sy’n gallu eplesu’n gryf, e.e. gwenith, yna bydd gormod o asid yn cael ei gynhyrchu. Bydd hyn yn amharu ar y system dreulio ac yn achosi asidosis.

Mae microbau’r rwmen wedi’u haddasu ar gyfer bwydydd penodol. Rhaid cyflwyno unrhyw newid i’r diet yn raddol er mwyn i’r microbau yn y rwmen gael amser i ymaddasu.

Mae cyhyrau’r rwmen yn symud y bwyd a’r nwyon; mae hyn yn helpu i waredu’r nwyon a chymysgu’r bwyd a’r bacteria. Gall rhai cemegau gael eu hamsugno trwy wal y rwmen.

Mae’r reticwlwm yn llawer llai na’r rwmen. Bydd bwyd yn symud i’r reticwlwm o’r rwmen. Caiff darnau mawr o fwyd eu hanfon yn ôl i’r geg er mwyn iddynt gael eu cnoi eto. Pan fydd y darnau’n ddigon bach maent yn symud i’r stumog nesaf, y god fach neu’r omaswm. Yr omaswm yw’r drydedd stumog. Mae gan y stumog hon blygion o feinwe cryf sy’n gallu malu deunydd ffibrog. Yr abomaswm yw’r bedwaredd stumog. Bydd y stumog yn gweithio yn yr un ffordd â stumog sengl y mochyn, ac yma y bydd asid hydroclorig a phepsin yn ymddatod bwyd.

Mae fflora a ffawna’r rwmen yn ymddatod cynhwysion bwydydd er mwyn iddynt gael eu hamsugno yn y perfeddion isaf. Mae rhai bwydydd, yn enwedig braster a phroteinau o ansawdd uchel, eisoes mewn ffurf y gellir ei ymddatod a’u hamsugno yn y perfeddion isaf, felly gwastraff ynni fyddai ymddatod bwydydd cyfansawdd hyn yn y rwmen. Oherwydd bod braster a phrotein o ansawdd uchel yn ddrud iawn, fel arfer dim ond anifeiliaid cynhyrchiol iawn sy’n cael dognau sy’n cynnwys ffynonellau ‘wedi’u hamddiffyn’ o fraster a phrotein na ddylid cael eu ymddatod gan ficrobau yn y rwmen.

Y coluddion bach a mawr Mae’r treulio a’r amsugno sy’n cymryd lle yn y coluddion yn debyg i’r prosesau sy’n cymryd lle mewn anifail un stumog (gweler y nodiadau blaenorol).

Datblygu’r system dreulio mewn anifeiliaid cnoi cil ifainc. Oherwydd nad yw’r tair stumog gyntaf wedi’u datblygu’n llawn adeg eu geni, rhaid i laeth gyrraedd abomaswm anifeiliaid ifainc er mwyn iddo gael ei dreulio. Pan fydd anifeiliaid cnoi cil ifainc yn yfed llaeth mae casgliad o feinweoedd - rhigol yr oesoffagws - yn dargyfeirio llaeth yn uniongyrchol trwy’r rwmen, y reticwlwm a’r omaswm i’r abomaswm.

15

Page 16: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Ffig.10 – Diagram o’r rwmen ifanc

Gall arferion bwydo gwael, e.e. y bwcedi ar yr uchder anghywir, atal rhigol yr oesoffagws rhag ffurfio’n gywir, ac o ganlyniad bydd anifeiliaid yn colli llaeth i’r rwmen, y reticwlwm a’r omaswm, sy’n achosi problemau treulio fel ysgothi. Wrth i’r anifail fwyta rhagor o fwyd, yn enwedig bwyd sy’n cynnwys llawer o ffibr, bydd y tair stumog gyntaf yn datblygu. Mae’n bwysig bod yr anifail ifanc yn bwyta digon o fwyd solet cyn iddo gael ei ddiddyfnu (rhoi’r gorau i fwydo ar laeth).

Yn ystod chwe awr gyntaf eu bywydau, gall yn a lloi amsugno llawer o fwydydd cyfansawdd trwy wal y llwybr treulio. Bydd y system dreulio yn newid yn gyflym iawn ar ôl hynny, a bydd yr anifail yn colli’r gallu i amsugno gwrthgyrff ar ôl tua chwe awr. Mae’r gwrthgyrff yn cynnig imiwnedd goddefol rhag glefydau.

16

Page 17: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Y System Nerfol

Swyddogaethau’r system nerfol Mae system nerfol anifail yn cydgordio symudiadau’r corff; mae’n anfon a derbyn negeseuon sy’n ysgogi adwaith i boen, s n, ac arogleuon er enghraifft, ac mae’n monitro gweithrediad yr organau.

Strwythur y system nerfol Mae’r system nerfol yn cynnwys dwy ran: Y system nerfol ganolog – yr ymennydd a llinyn y cefn Y system nerfol berifferol - gweddill nerfau’r anifail

Mae ysgogiadau’n teithio ar hyd y system nerfol berifferol i’r system nerfol ganolog. Gall hyn sbarduno ymateb rheoledig ar ôl i’r ymennydd eu prosesu, neu ymateb anrheoledig cyflymach pan gaiff yr ysgogiadau eu prosesu gan yr ymennydd a llinyn y cefn.

Mae anifeiliaid fferm sydd wedi cael niwed i’w system nerfol, neu anifeiliaid nad yw eu system nerfol yn gweithio’n iawn, yn dangos symptomau sy’n ganlyniad i’r canlynol: Niwed corfforol

Pendro – pan fydd codenni llyngyren yn datblygu ac yn cynyddu’r pwysau ar yr ymennydd. Niwed i’r ymennydd yn dilyn ymladd

Diffygion maeth Cefn gwan – datblygiad anghyflawn llinyn y cefn - mewn yn ifainc mamogiaid sydd heb gael digon o gopr yn ystod eu beichiogrwydd Anhwylderau metabolaidd, fel dera’r borfa - anhawster i anfon negeseuon sy’n cael ei achosi gan brinder magnesiwm.

Heintiau BSE a chlefyd y crafu, sy’n ganlyniad i niwed i’r ymennydd Tetanws a botwliaeth – niwed i’r system nerfol a achosir gan docsinau

Y system ysgarthol a gwaredu gwastraff

Swyddogaethau’r system ysgarthol Mae’r system hon yn gwaredu cynhyrchion gwastraff yr anifail. Mae’r perfeddion yn gwaredu cynhyrchion gwastraff anhydraul (indigestible) y llwybr treulio trwy’r anws. Mae cynhyrchion gwastraff eraill yn symud o’r meinweoedd i lif y gwaed, ac mae’r afu a’r arennau yn eu tynnu o’r gwaed.

Yr ysgyfaint Mae’r ysgyfaint yn galluogi’r corff i waredu cynhyrchion gwastraff resbiradaeth – carbon deuocsid a d r – drwy allanadlu.

17

Page 18: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Yr afu Mae gan yr afu sawl swyddogaeth sy’n cynnwys y canlynol:

Cynhyrchu bustl o gelloedd coch y gwaed sydd wedi’u difrodi Ymddatod asidau amino sy’n weddill i wrea sy’n cael ei ryddhau i lif y gwaed cyn i’r arennau waredu ag ef Tynnu sylweddau gwenwynig, e.e. alcohol, o’r gwaed Ymddatod cronfeydd wrth gefn o fraster sydd yn y corff er mwyn rhyddhau ynni. Weithiau, gall hyn ryddhau cemegau gwenwynig (cetonau) sy’n achosi afiechyd, e.e. clefyd yr eira mewn mamogiaid beichiog.

Ymhlith y clefydau sy’n effeithio ar yr afu mae clefyd yr euod (liver fluke), lle mae parasitiaid yn niweidio meinwe’r afu, a heintiau fel hepatitis.

Yr arennau Mae gan y corff ddwy aren, ac mae’r rhain yn ffiltro’r gwaed.

Ffig 11 Diagram o’r aren

Maent yn gwaredu halwynau, d r a wrea o’r gwaed, ac yn casglu’r piso sy’n ffurfio cyn ei anfon i’r bledren trwy’r wreter. Cedwir y piso yn y bledren cyn ei basio allan o’r corff trwy’r wrethra. Ymhlith y problemau a allai effeithio ar y system gwaredu gwastraff y mae: Caregos yn y piso – crisialau’n ffurfio yn y piso oherwydd y mwynau sydd ynddo. Gallai’r rhain gau’r wrethra fel na all yr anifail biso. Mae’n fwyaf cyffredin mewn yn sydd wedi’u sbaddu sydd wedi’u bwydo ar fwydydd cyfansawdd.

18

Page 19: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Systemau atgenhedlu Y system atgenhedlu wrywaidd

Swyddogaethau’r system atgenhedlu wrywaidd Mae’r system atgenhedlu wrywaidd yn cynhyrchu sberm sy’n ffrwythloni’r ofa (wyau) yn y fenyw er mwyn cynhyrchu embryo. Cynhyrchir hormonau sy’n effeithio ar ymddygiad yr anifail ac yn achosi datblygiad nodweddion rhywiol eilaidd fel ysgwyddau, gwddf a phen cryf.

Fig 12 Strwythur y system atgenhedlu wrywaidd

Tabl i ddangos swyddogaethau prif rannau’r system atgenhedlu

Ceilliau Cynhyrchu sberm anaeddfed Cynhyrchu hormonau gwryw

Pwrs Dyma’r croen sydd o gwmpas y ceilliau

Epididymis Tiwb hir iawn a chul lle mae’r sberm yn datblygu ac aeddfedu

19

Page 20: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Cortyn sbermatig

Cyflenwi gwaed a sberm i’r ceilliau

Vas deferens Cludo’r sberm o’r epididymis i’r wrethra. Ychwanegir hylif o’r chwarennau rhyw atodol i’r sberm er mwyn cynhyrchu semen

Chwarennau atodol

Cynhyrchu hylif sy’n maethu’r sberm ac yn ei gludo

Pidyn Yr organ gwrywaidd a ddefnyddir i osod semen yng ngwain y fenyw adeg cyplu

Sbaddu Gellir sbaddu lloi ac yn gwrywaidd sy’n cael eu cadw ar gyfer eu cig pan fyddant yn ifanc er mwyn eu hatal rhag datblygu nodweddion rhywiol eilaidd. Gallai sbaddu’r anifeiliaid hyn eu gwneud yn haws i’w trin yn ddiogel oherwydd ni fyddant yn gallu cyplu â da byw benywaidd, a gallant fod yn fwy dof. Fodd bynnag, gallai hyn effeithio ar gyfradd eu tyfiant. Gellir sbaddu moch bach, ond mae hyn yn llai cyffredin heddiw. Gallai disbaddu moch atal adlas (boar taint - y cig yn magu blas annymunol), ond caiff llawer o foch eu lladd yn ddigon ifanc, felly nid yw hyn yn broblem. Dylech gyfeirio at y codau lles anifeiliaid priodol am y rheolau caeth yngl n â sbaddu da byw.

Fasectomïau Mae gwrywod cyflawn yn cynhyrchu fferomonau (cemegau) sy’n anfon negeseuon i fenywod sy’n eu hysgogi i gynhyrchu hormonau benywaidd. ‘Ymlidwyr’ (teasers) yw’r enw ar hyrddod sydd wedi cael fasectomi - torri’r vas deferens fel na all y sberm a gynhyrchir gyrraedd y pidyn. Bydd ymlidwyr yn cynhyrchu fferomonau ac yn ymddwyn fel gwrywod cyflawn, ond byddant yn anffrwythlon. Cânt eu defnyddio i gydamseru tymor bridio da byw benywaidd.

Ffrwythlondeb Bydd teirw a hyrddod ffrwythlon yn cynhyrchu semen sy’n cynnwys llawer o sberm iach a bywiog. Er mwyn i’r anifail fod yn ffrwythlon rhaid i’r sberm fod yn aeddfed. Mae’r ceilliau wedi’u rhoi mewn pwrs y tu allan i’r corff er mwyn cynhyrchu a storio sberm ar dymheredd sy’n is na gweddill y corff. Caiff sberm ei niweidio’n hawdd os yw’n rhy gynnes.

Tipyn o amser cyn y tymor bridio caiff hyrddod eu harchwilio am abnormaleddau a allai effeithio ar eu ffrwythlondeb. Mae tua 10% o hyrddod llawndwf yn anffrwythlon. Gall heintiau yn y corff, e.e. cloffni, leihau ffrwythlondeb drwy gynyddu tymheredd y corff a lleihau hyfywdra’r sberm. Gall heintiau leihau gweithgaredd corfforol yr hwrdd ac yn anuniongyrchol effeithio ar y system atgenhedlu drwy leihau’r awydd i gyplu â benywod, ac felly lleihau ffrwythlondeb y ddiadell. Gellir casglu samplau o sberm a’u hastudio dan ficrosgop er mwyn asesu ansawdd y sberm. Mae sberm llonydd, anffurfiadau, a chynffonnau sydd wedi’u niweidio ymhlith y namau cyffredin a welir mewn sberm.

20

Page 21: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Y system atgenhedlu fenywaidd

Swyddogaethau’r system atgenhedlu fenywaidd

Bydd hon yn cynhyrchu’r ofa (wyau) a gaiff eu ffrwythloni i gynhyrchu embryonau. Bydd yr embryonau’n cael eu maethu yn y groth tan amser geni. Bydd y system atgenhedlu fenywaidd yn cynhyrchu ystod o hormonau a fydd yn rheoli’r broses o aeddfedu a rhyddhau’r ofa. Byddant hefyd yn gwneud y fenyw yn barod i dderbyn y gwryw fel ei bod yn sefyll er mwyn cyplu ag ef.

Strwythur y system atgenhedlu fenywaidd

Ffig. 13 Y sustem atgenhedlu fenywaidd

Ofari Mae’r rhain yn dal ofa sy’n datblygu y tu mewn i ffoliglau. Dim ond ychydig o ofa sy’n datblygu ar y tro (mae’r nifer yn amrywio yn ôl rhywogaeth a chyflwr yr anifail) Cynhyrchir hormonau benywaidd

Tiwbiau Fallopio Mae’r rhain yn casglu’r ofa pan gânt eu rhyddhau (ofwliad), ac yn eu cario i’r groth. Bydd y sberm yn ffrwythloni’r ofwm yn y tiwbiau Fallopio. Bydd yr wy sydd wedi’i ffrwythloni yn symud i’r groth.

Croth Mae’r embryo’n datblygu yn y groth. Yn ystod beichiogrwydd mae’r embryo yn mewnblannu’i hun yn wal y groth, a bydd yn derbyn maeth o’r fam trwy’r brych.

Ceg y groth Rhwymyn trwchus o gyhyrau sy’n cau gwddf y groth. Mae’n gadael i semen fynd i mewn pan fydd yr anifail yn wasod, ac mae’n agor er mwyn iddi esgor.

21

Page 22: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Mae’n atal heintiau rhag cyrraedd y groth, ac yn cadw’r ffoetws sy’n datblygu y tu mewn i’r groth.

Gwain Mae’n dal y pidyn yn ystod paru fel y caiff y sberm ei roi yn y lle iawn.

Fwlfa Agoriad allanol y llwybr atgenhedlu benywaidd

Glasoed

Glasoed yw’r cyfnod ym mywyd yr anifail pan ddaw’n rhywiol weithredol a phan fydd yn gallu atgenhedlu. Bydd oedran glasoed yn amrywio o unigolyn i unigolyn, a bydd y ffactorau canlynol yn effeithio ar ei amseriad:

Brîd Pwysau a maeth (gallai hyn fod yn llawer pwysicach nag oedran, yn enwedig i fenywod) Effaith newid yn hyd y dydd (bydd defaid yn dechrau bridio pan fydd hyd y dydd yn lleihau, a bydd ceffylau ac adar yn dechrau bridio pan fydd hyd y dydd yn ymestyn). Ffactorau amgylcheddol, e.e. gwrywod yn bresennol

Y cylchredau atgenhedlu Y cyfnod yn ystod y gylchred atgenhedlu pan fydd y fenyw yn sefyll i’w pharu yw’r oestrws. Yn ystod y tymor bridio mae benywod llawndwf nad ydynt yn feichiog yn cael cylchred oestrws yn rheolaidd.

Anifail Hyd y gylchred oestrws

Arferol Ystod

Hyd yr oestrws

Buwch 20 diwrnod 16-24 diwrnod

4 -24 awr

Mamog 16-17 diwrnod 10-20 diwrnod

1-2 ddiwrnod

Hwch 21 diwrnod 15-30 diwrnod

1-3 diwrnod

Tabl 2. Manylion yr oestrws mewn gwartheg, defaid a moch. Addasiad o Black’s Veterinary Dictionary.

Mae gwartheg a moch a gedwir mewn systemau amaethyddol yn bridio trwy’r flwyddyn. Mae gan ddefaid dymor bridio sy’n dechrau yn yr hydref. Bydd y bridiau llawr gwlad yn dechrau’u cylchred oestrws yn gynharach yn y flwyddyn na bridiau’r ucheldiroedd.

Hormonau benywaidd sy’n rheoli’r gylchred oestrws. Bydd y rhain yn cydgordio’r broses o aeddfedu a rhyddhau’r ofa gydag ymddygiad atgenhedlu’r anifail. Os caiff yr ofa eu ffrwythloni bydd yr hormonau yn cynnal y beichiogrwydd.

22

Page 23: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Hormon Symbylu Ffoligl (FSH) - mae hwn yn cael ei gynhyrchu gan y chwarren bit idol ac mae’n symbylu’r ofa i aeddfedu yn y ffoligl. Hormon lwteineiddio (LH) - sy’n gwneud i’r ffoligl fyrstio gan ryddhau’r ofwm Oestrogen – sy’n gwneud i’r anifail ddangos ei bod yn wasod Progesteron – yn atal FSH ac yn rhwystro’r anifail rhag ofylu. Os caiff ofwm ei ffrwythloni, yna bydd lefel y progesteron yn aros yn uchel trwy gydol y beichiogrwydd. Prostaglandinau – os na chaiff yr wy ei ffrwythlon, yna bydd y groth yn cynhyrchu prostaglandinau, a bydd y gylchred yn cael ei hailadrodd.

23

Page 24: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Ofyliad Ofyliad

Gofyn tarw

Gofyn tarw

FSH

Progesteron

LH

Oestrogen

0 5 10 15 21

Diwrnod

Ffig 14 Diagram o lefelau’r hormonau benywaidd

Beichiogrwydd Os caiff yr ofa eu ffrwythloni bydd y gell yn rhannu ac yn lluosi’n gyflym. Bydd yr embryo yn mewnblannu’i hun yn wal y groth er mwyn cael maeth o’r fam. Os bydd y fam dan straen, e.e. heb gael digon o fwyd, yna gallai’r embryo fethu â mewnblannu. Mae tabl 3 yn dangos cyfnod cyfebru (hyd beichiogrwydd) cyfartalog gwahanol ddosbarthiadau o dda byw.

Anifeiliaid Cyfnod cyfebru (misoedd)

Cyfnod cyfebru (dyddiau)

Gwartheg 9 279-290 Defaid 5 144-150 Moch 3 mis, 3 wythnos

a 3 diwrnod 112-115

24

Page 25: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Tabl 3 - Cyfnod cyfebru cyfartalog gwahanol anifeiliaid fferm (addasiad o Merck’s Veterinary Manual).

Mae hyd y cyfnod cyfebru’n cael ei effeithio gan nifer yr epil, y brid, a rhyw’r embryo. Ar y cyfan, mae cyfnod cyfebru byrrach gyda gefeilliaid nag sydd gyda senglau, a gyda bridiau llaeth o’u cymharu â bridiau bîff, a gyda ffoetysau benywaidd o’u cymharu â ffoetysau gwrywaidd.

Y system fronnol

Swyddogaeth y gadair

Llaeth yw bwyd anifeiliaid ifainc, ac mae’n cael ei gynhyrchu a’i storio yn y gadair. Mae celloedd sy’n gallu cynhyrchu llaeth yn datblygu yn y gadair wrth i’r fenyw aeddfedu. Yn ystod beichiogrwydd mae hormonau’n paratoi’r celloedd ar gyfer cynhyrchu llaeth, ac yn ystod oriau olaf y cyfnod cyfebru maent yn cynhyrchu llaeth a fydd ar gael i’r anifail ifanc yn union ar ôl yr esgor.

Y llaeth cyntaf a gynhyrchir yw colostrwm (llaeth toro neu laeth tor) ac mae’n cynnwys llawer o fraster sy’n golygu ei fod yn uchel mewn ynni. Mae e hefyd yn cyflenwi gwrthgyrff ar gyfer anifeiliaid newydd-anedig. O dipyn i beth bydd y fam yn cynhyrchu llaeth ar gyfer yr anifeiliaid ifainc neu i’w werthu, e.e. gwartheg godro.

Strwythur y gadair

Bydd nifer yr adrannau a’r tethau’n amrywio yn ôl math y da byw.

Buchod – pedair adran i’r gadair a elwir yn chwarteri. Mamogiaid – dwy adran â dwy deth Hychod - llawer (14 - 16) o dethau annibynnol. Mae nifer a lleoliad y tethau’n un o’r meini prawf a ddefnyddir wrth ddewis banwesod amnewid.

Mae gan chwarter buwch gyflenwad sylweddol o waed. Mae llawer o feinwe sbyngaidd sy’n cynnwys miliynau o gelloedd cynhyrchu llaeth sy’n ffurfio sfferau bach o gelloedd (alfeoli).

25

Page 26: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Ffig 15 Diagram o chwarter y fuwch

Mae tiwbiau bach yn mynd o’r alfeoli i ran isaf y gadair lle maent yn uno i ffurfio’r ddwythell laeth (neu goden y deth) uwchben y deth. Mae dwythell neu diwb cul yn mynd ar hyd y deth, ac mae rhwymyn o gyhyrau yn cau’r agoriad ym mhen y deth.

Gollwng llaeth (Milk let-down)

Er mwyn i’r epil yfed y llaeth, neu er mwyn godro’r fuwch neu’r famog, rhaid i’r fam ollwng y llaeth. Caiff y llaeth ei ryddhau o’r celloedd lle mae’n cael ei gynhyrchu, ac mae’n symud o’r alfeoli i ran isaf y gadair. Mae ysgogiadau, fel llo’n gwthio’r gadair ac yn sugno’r deth, neu lanhau’r deth cyn godro, yn gwneud i’r fuwch ryddhau’r hormon ocsitosin. Caiff yr ocsitosin ei gario yn llif y gwaed i’r gadair lle mae’r llaeth yn cael ei ryddhau.

Os yw’r anifail wedi’i ddychryn neu os yw’n ofidus, caiff adrenalin ei ryddhau a fydd yn blocio ocsitosin ac yn atal y llaeth rhag cael ei ryddhau’n iawn. Nid yw’r llaeth yn cael ei ryddhau ar unwaith, ac mae’n rhaid gadael amser i’r hormon weithio (60 -90 eiliad); felly, gellir paratoi pum buwch ar gyfer eu godro cyn mynd yn ôl at y fuwch gyntaf i gysylltu’r unedau.

Y system endocrinaidd

Swyddogaeth y system endocrinaidd Mae’r system endocrinaidd yn cynhyrchu cemegau (hormonau) sy’n cael eu secretu i lif y gwaed. Mae’r hormonau hyn yn cario negeseuon i rannau eraill y corff ac mae’n ysgogi ymatebion penodol.

Enghreifftiau o chwarennau endocrin a hormonau:

26

Page 27: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Hormon Gweithred Lle mae’n cael ei gynhyrchu

Thyrocsin Rheoli’r gyfradd fetabolaidd; pa mor gyflym y mae systemau’r corff yn gweithio

Chwarren thyroid

Adrenalin Paratoi’r corff i ymateb i berygl: Cynyddu cyfradd curiad y galon a’r gyfradd anadlu Paratoi’r anifail i ymladd neu ffoi Amharu ar ollwng llaeth

Chwarren adrenal ger yr arennau

Inswlin Rheoli lefelau siwgr yn y gwaed Pancreas Ocsitosin Ysgogi rhyddhau llaeth

Cynhyrchu cyfangiadau’r groth adeg lloia neu yna (esgoriad)

Chwarren bit idol

Oestrogen Datblygu nodweddion rhywiol eilaidd benywaidd Gwneud y fuwch yn wasod (oestrws)

Ofarïau

Progesteron Cynnal beichiogrwydd ac yn atal yr ofa rhag aeddfedu a chael eu rhyddhau

Ofarïau

Testosteron Hormon rhyw gwrywaidd sy’n rheoli nodweddion rhywiol eilaidd

Ceilliau

Twf

Pan fydd da byw ifainc fel yn neu loi yn tyfu mae eu datblygiad yn dilyn trefn osod. Mae’r carcas yn cynnwys esgyrn, cyhyrau a braster, a bydd cyfrannedd y meinweoedd hyn, a siâp yr anifail, yn newid wrth iddo aeddfedu. Mae patrwm twf nodweddiadol yn dangos cynnydd sydyn mewn pwysau ar y cychwyn, ac mae’r cynnydd yn arafu wrth i’r anifail gyrraedd glasoed.

Ar y cychwyn mae cyfrannedd uchel o dyfiant esgyrn, wedi’i dilyn gan gynnydd yng nghyfrannedd y cyhyrau, ac yna bydd braster yn ffurfio. Mae cyfradd ffurfiant braster yn amrywio o frîd i frîd, a rhoddir ystyriaeth i hyn wrth ddethol y da byw i’w cynnwys yn y system orffen. Bydd y gyfradd twf yn amrywio yn ôl y ffactorau canlynol:

geneteg yr amgylchedd (yn cynnwys iechyd, a swm a math y bwyd sydd ar gael) rhyw (a ph’un a yw’r gwrywod yn gyflawn neu wedi’u sbaddu)

Gellir cyfrif cyfradd twf anifail drwy rannu’r cynnydd mewn pwysau gan nifer y dyddiau o dwf; dyma’r cynnydd pwysau byw dyddiol (d.l.w.g.). Fel arfer, caiff y d.l.w.g. ei fynegi fel cilogramau neu gramau’r dydd. Y fformiwla yw:

Cynnydd pwysau byw dyddiol = Cynnydd pwysau ÷ nifer y dyddiau o dwf

27

Page 28: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Enghraifft

5.5kg oedd pwysau oen adeg ei eni; ugain diwrnod yn ddiweddarach roedd yn pwyso 8.5kg. Beth yw’r cynnydd pwysau byw dyddiol?

Pwysau’r ail dro – pwysau adeg geni = 8.5kg - 5.5kg = 3.0kg cynnydd mewn pwysau Dyddiau o dwf = 20 dydd.

Cynnydd pwysau = 3.0 kg = 0.15kg/dydd cynnydd pwysau byw dyddiol

Dyddiau o dwf 20 diwrnod

Rheoli tymheredd Mae gwartheg, defaid a moch yn famaliaid. Maent yn anifeiliaid gwaed cynnes ac felly mae ganddynt systemau corff sy’n gallu rheoli’u tymheredd.

Tymereddau cyfartalog y corff:

Gwartheg 38.9 ûC Defaid 40.0 ûC Moch 39.7 ûC

Colli gwres Mae anifeiliaid yn colli gwres wrth iddynt ddyhefod neu chwysu, a bydd y ddwy weithred hyn yn golygu eu bod angen mwy o dd r. Os yw’n bosibl, byddant hefyd yn achub ar y cyfle i oeri, e.e. drwy sefyll yn y cysgod, neu sefyll mewn nentydd. Mae chwysu’n broses weithredol sy’n gorfod cael gwres er mwyn anweddu d r, ac mae tynnu gwres o’r croen yn oeri’r anifail. Er mwyn cyflymu’r golled o wres gall anifeiliaid gynyddu llif gwaed i’r croen. Os bydd yr amgylchedd yn rhy boeth bydd y cymeriant o fwyd a’r cynhyrchu’n lleihau, e.e. gwartheg godro’n cynhyrchu llai o laeth. Gall tymereddau amrywio llawer dros gyfnod o 24 awr a gall anifeiliaid a oedd yn rhy dwym yn ystod y dydd fod yn llaith ac yn oer yn nes ymlaen ar ôl i’r chwys anweddu.

Cynnal a chynhyrchu gwres Cyn belled â’u bod yn cael digon o fwyd a chysgod, gall defaid a gwartheg sydd â chotiau neu gnuau llawn gynnal eu tymheredd. Mae gan anifeiliaid ifainc arwynebedd arwyneb eithaf mawr (llawer o arwyneb croen o’i gymharu â’u cyfaint) a llai o gronfeydd wrth gefn o fraster felly maent yn fwy agored i hypothermia (bod yn rhy oer). Gall anifeiliaid gynhyrchu gwres drwy Ymddatod braster, ond ychydig o fraster sydd gan anifeiliaid ifanc iawn fell mae angen colostrwm arnynt (ac wedyn llaeth) er mwyn iddynt gael digon o ynni i gadw’n dwym. Os bydd anifeiliaid yn gwlychu, byddant yn colli gwres yn gyflymach oherwydd byddant yn colli ynni o’u croen i anweddu’r d r.

28

Page 29: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Bydd maint a math y got sydd gan anifail ifanc adeg ei eni yn effeithio ar ei allu i gadw’n gynnes. Mae yn yr ucheldiroedd yn cael eu geni gyda chotiau trwchus sydd yn eu hamddiffyn rhag y tywydd. Dim ond blew mân sydd gan foch bach, felly mae angen eu hamddiffyn rhag yr elfennau. Mae corau gwely mewn systemau awyr agored ar gyfer hychod a moch bach, ac mae’r ardaloedd didolborthi mewn llawer o systemau dan do sydd wedi’u cynhesu. Mae cotiau anifeiliaid h n yn amrywio yn ôl y brîd a faint o fwyd y bydd yr anifail yn ei chael.

Mae anifeiliaid yn defnyddio dulliau eraill er mwyn cadw’n dwym, fel crynu, gwneud y blew i sefyll yn syth, a lleihau llif y gwaed i’r croen. Bydd symudiadau cyflym y cyhyrau wrth grynu yn cynhyrchu gwres, ond gall anifeiliaid ddioddef o hypothermia heb iddynt grynu. Mae codi’r blew yn syth yn dal mwy o aer yn agos i’r croen, a bydd hyn yn insiwleiddio’r anifail. Mae darwasgu’r pibellau gwaed sy’n agos i’r croen yn gostwng tymheredd y croen ac yn lleihau cyfanswm y gwres a gollir.

Cyfeiriadau a darllen pellach

Primrose McConnnell (2003). The Agricultural Notebook. Blackwell Publishing

Geoffrey West (1992). Black’s Veterinary Dictionary. A&C Black (Publishers) Cyf.

Teagasc (1994). Introduction to Farm Anifeiliaid. Teagasc

D.G.M Thomas ac eraill (1983). Animal Husbandry. Bailliere Tindall

D.G Mackean (1995). GCSE Biology. John Murray

Andrew W Speedy (1993). Sheep Production. Science into Practice. Longman Scientific and Technical

29

Page 30: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Pennod 2 - Iechyd a Lles

Mae lles anifeiliaid yn bwysig oherwydd bod ....

cyfrifoldeb moesol gan bobl sy’n gofalu am dda byw i sicrhau bod yr anifeiliaid yn derbyn y gofal priodol deddfwriaeth yn ei lle i ddiogelu lles anifeiliaid (yn ôl y gyfraith, rhaid gofalu’n iawn am dda byw) angen i’r da byw fod yn iach er mwyn iddynt fod yn broffidiol

Erbyn hyn, mae agweddau ar les anifeiliaid yn elfen o’r trawsgydymffurfio sy’n ofynnol dan y Cynllun Taliad Sengl. (Ceir manylion ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru www.cymru.gov.uk neu www.cefngwlad.cymru.gov.uk , neu ewch i wefan DEFRA www.defra.gov.uk am y gofynion yn Lloegr)

Codau Lles Da Byw

Cefndir y codau Mae canllawiau penodol yn ymwneud â lles anifeiliaid fferm yng Nghymru a Lloegr. Mae codau lles ar gael ar gyfer gwahanol fathau o dda byw, e.e. defaid, gwartheg a moch, ac ar gyfer gwahanol amgylchiadau fel ocsiynau da byw. Ceir gwybodaeth yn y codau lles am y ddeddfwriaeth lles anifeiliaid ddiweddaraf, ac maent hefyd yn esbonio sut i ddehongli’r gyfraith mewn sefyllfaoedd penodol, e.e. faint o le sydd ei angen ar bob anifail. Dylai pawb sy’n berchen ar dda byw, neu sy’n gyfrifol amdanynt, gydymffurfio â’r safonau a restrir yn y codau hyn. Mae modd gweld copïau o’r safonau ar wefannau’r Cynulliad a DEFRA. Caiff y codau eu diweddaru’n rheolaidd, ac maent yn ymwneud â phob agwedd ar gynhyrchu da byw a stocmoniaeth, e.e. iechyd, rheolaeth, bwydo, bridio, cadw da byw dan do, rhagofalon argyfwng.

Y Pum Rhyddid

Rhaid cadw anifeiliaid mewn modd sy’n bodloni anghenion y pum rhyddid. Y pum rhyddid, a nodir ar ddechrau’r codau lles, yw:

1. Rhyddid oddi wrth newyn a syched trwy gael mynediad rhwydd at dd r ffres ac at borthiant a fydd yn sicrhau iechyd ac egni llawn

2. Rhyddid oddi wrth anghysur trwy ddarparu amgylchedd priodol gan gynnwys cysgod a lle gorffwys cyffyrddus

3. Rhyddid oddi wrth boen, anaf neu glefyd trwy’u hatal, neu drwy ddiagnosis a thriniaeth gyflym

4. Rhyddid i ymddwyn yn normal trwy ddarparu digon o le, cyfleusterau priodol a chwmni anifeiliaid eraill o’r un rhywogaeth

5. Rhyddid oddi wrth ofn a phryder trwy sicrhau amodau a thriniaeth i osgoi dioddefaint meddyliol

Er mwyn sicrhau y cedwir da byw yn unol â’r safonau hyn, dylai’r bobl sy’n gofalu am dda byw weithredu fel a ganlyn:

30

Page 31: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Cynllunio a rheoli gofalgar a chyfrifol Stocmoniaeth fedrus, wybodus a chydwybodol Cynllunio amgylcheddol priodol Trafod a chludo anifeiliaid mewn ffordd ystyriol Lladd heb boen

Achosion clefydau Mae afiechydon mewn anifeiliaid yn cael eu hachosi gan:

Firysau Bacteria Ffyngau Parasitiaid Anhwylder metabolaidd Gwenwynau

Mae’n bosibl i anifeiliaid ddioddef o sawl un o’r rhain ar yr un pryd.

Er mwyn atal neu drin clefydau mae’n bwysig gwybod beth sy’n achosi’r clefyd. Er enghraifft, gallai newid y system fwydo atal anhwylderau metabolaidd, ond gallai brechu neu wella hylendid fod yn gamau priodol i’w cymryd er mwyn atal rhai clefydau a achosir gan firysau neu facteria.

Achos y clefyd

Gwybodaeth am y clefyd Enghreifftiau o glefydau / problemau a

achosir Firysau Organebau bach iawn sy’n achosi

clefydau Dim ond mewn celloedd byw eraill y gallant luosogi Yn aml yn heintus iawn Gall diheintyddion eu lladd pan fyddant y tu allan i’r corff Nid oes modd eu gweld heb ficrosgop

Clwy’r traed a’r genau

Orff

Bacteria Organebau bach iawn sy’n achosi clefydau Ystod o wahanol fathau, siapiau a meintiau (crwn, ar ffurf rhoden, sbiral) Gallant dyfu a lluosogi y tu allan i’r celloedd lletyol Gallant fyw fel sborau am sawl blwyddyn (gallai fod yn anodd eu lladd heb ddiheintyddion) Gellir eu gweld gyda microsgop golau Weithiau, defnyddir enw gwyddonol i ddisgrifio’r clefyd, e.e. Escherichia coli (enw byr = E. coli)

Clwy’r traed (Fusobacterium necrophorum a Dichelobacter nodosus) Anthracs (Bacillus anthracis) Clwy’r cymalau (Joint ill) Clefydau clostridiol fel Tetanws (Clostridi um tetani), Clwy coch (Clostridi um septicum), ac Aren bwdr (Clostridi um welchii)

31

Page 32: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Achos y clefyd

Gwybodaeth am y clefyd Enghreifftiau o glefydau / problemau a

achosir Gallent ymateb i wrthfiotigau Y clefyd du (Clostridi

um oedematiens)

Ffyngau Mae’r rhain yn cynnwys llwydni a burumau Yn fwy o faint na bacteria Yn lluosogi’n gyflym dan amodau cynnes a llaith Yn eithaf ymwrthol i ddiheintyddion

Tarwden (Trichophyton verrucosum)

Parasitiaid Organebau mwy o faint sy’n cael eu cynnal gan organeb letyol (yr anifail y maen nhw’n byw arno) Mae parasitiaid mewnol yn byw y tu mewn i’r organeb letyol (yn y coluddyn, yr afu, yr ysgyfaint) Mae parasitiaid allanol yn byw y tu allan i’r anifail Bydd rhai parasitiaid ond yn treulio rhan fechan o’u cylch bywyd gyda’r organeb letyol (e.e. trogod) Bydd parasitiaid fel llyngyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u cylch bywyd y tu mewn i’r organeb letyol

Llyngyr main (Nematoda) Llyngyr (Cestoda) e.e. llyngyr moch (Taenia solium), llyngyr eidion (Taenia saginata) Llyngyren yr afu [Fluke] (Trematoda e.e Fasicola) Llau (Linoganthus) Cleren chwythu (Lucilia sericata) Trogod (Loxodes ricinus) Gwiddon clafr defaid (Psoroptes communis ovis)

Anhwylderau a diffygion metabolaidd

Bydd anhwylderau metabolaidd yn digwydd pan fydd anghydbwysedd yn yr egni neu’r mwynau ym meinweoedd y corff Gallent gael eu hachosi gan ddiffyg mwyn penodol yn y porthiant, e.e. dera’r borfa (hypomagnesaemia) mewn stoc sy’n pori yn y gwanwyn Gallai straen eu hachosi (e.e. gallai trafod defaid ychydig cyn iddynt yna achosi clwy’r eira) Os bydd un anifail yn dangos arwyddion o anhwylder metabolaidd gallai anifeiliaid eraill yn y praidd neu’r fuches fod ar fin dioddef o’r un anhwylder.

Diffyg calsiwm (Hypocalcaemia) Twymyn llaeth Diffyg magnesiwm (Hypomagnesaemia) Dera’r borfa Diffyg siwgr gwaed (Hypoglycemia) Clwy’r eira Cefn gwan – a achosir gan ddiffyg copr

Gwenwynau Anifeiliaid yn bwyta planhigion gwenwynig, neu’n cael gorddos damweiniol o gopr, er enghraifft, yn achosion posibl

Planhigion gwenwynig yn cynnwys rhedyn (Pteridium aquilinum), ywen (Taxus baccata) a

32

Page 33: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Achos y clefyd

Gwybodaeth am y clefyd Enghreifftiau o glefydau / problemau a

achosir

Mewn cemegau fferm

Llysiau’r gingroen (Senecio jacobea)

Plwm, gwrthrewydd, pelenni malwod, gwenwyn llygod Ffrengig

Egwyddorion imiwnedd

Mae anifeiliaid yn gallu amddiffyn eu hunain rhag clefydau mewn dwy ffordd:

Mae celloedd gwyn y gwnaed yn amlyncu corffynnau estron fel bacteria; nid yw’r rhain yn arbennig i unrhyw organeb benodol sy’n achosi clefydau. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu yn y gwaed i ymladd clefydau penodol. Os caiff anifail ei heintio gan glefyd, yna bydd yn cynhyrchu gwrthgyrff i ymladd y clefyd hwnnw. Ond gall gwrthgyrff ddatblygu yn y gwaed am resymau eraill, felly gellir categoreiddio imiwnedd mewn sawl ffordd.

Imiwnedd actif

Mae imiwnedd actif yn digwydd pan fydd yr anifail yn cynhyrchu gwrthgyrff naill ai wrth ymateb i fygythiadau naturiol gan glefydau, neu o ganlyniad i frechu. Unwaith y bydd anifail wedi cynhyrchu gwrthgorff penodol, gall gynhyrchu rhagor o wrthgyrff tebyg yn gyflym wrth ymateb i haint. Dyma sy’n esbonio pam mae modd dal rhai clefydau ond unwaith mewn oes.

Imiwnedd goddefol Mae hyn yn digwydd pan fydd anifail yn derbyn gwrthgyrff o ffynhonnell arall yn hytrach na chynhyrchu rhai ei hunan. Bydd imiwnedd goddefol ond yn para am gyfnod byr (ychydig wythnosau) oherwydd bod y gwrthgyrff yn cael eu defnyddio neu’u hymddatod yn raddol gan yr anifail. Bydd anifeiliaid beichiog yn cynhyrchu gwrthgyrff sy’n cael eu symud o’r gwaed i’r colostrwm (gwaed cyntaf). Mae’n bwysig iawn bod anifeiliaid newydd anedig yn cael colostrwm yn eu llaeth cyntaf oherwydd y gallant amsugno gwrthgyrff i’r gwaed o’r perfeddion. Bydd y colostrwm ond yn cynnwys gwrthgyrff yn erbyn clefydau y bydd y fam wedi dod i gysylltiad â nhw. Mae’n bosibl casglu gwrthgyrff penodol o’r gwaed a’u rhoi i anifeiliaid sy’n sâl. Gallai triniaeth hon fod yn effeithiol wrth drin anifail sydd heb gael digon o amser i gynhyrchu’i wrthgyrff ei hunan.

33

Page 34: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Brechlynnau

Mae brechlynnau’n cynnwys rhywogaethau gwannach o organebau sy’n achosi clefydau (brechlynnau byw) neu rywogaethau gwanedig (=attenuated = wedi’u lladd) ohonynt. Caiff anifeiliaid eu brechu er mwyn iddynt ddatblygu imiwnedd actif i glefyd heb ddioddef ohono. Rhoddir brechlynnau i anifeiliaid mewn sawl ffordd (e.e. pigiadau ar gyfer clefydau clostridiol, crafu’r croen ar gyfer orff; dos trwy’r genau ar gyfer llyngyr yr ysgyfaint). Bydd yr anifail sydd wedi’i frechu’n yn ymateb i’r brechlyn drwy gynhyrchu gwrthgyrff. Mae sawl brechlyn yn cynnwys cemegyn, fel olew, fel cynhwysyn cynorthwyol (adjuvant) sy’n helpu’r anifail i gynhyrchu mwy o adwaith i’r brechlyn. Rhaid trafod brechlynnau’n ofalus bob tro oherwydd gall yr organebau a’r cynhwysion cynorthwyol gael effaith wael ar bobl os cânt eu brechu’n ddamweiniol. Er mwyn i’r brechlynnau weithio rhaid eu storio a’u gweini’n gywir. Er enghraifft, gall gwres uchel neu ddefnyddio cemegau sterileiddio ar yr offer brechu niweidio neu ladd brechlynnau’n hawdd. Bydd lefelau’r gwrthgyrff yn cynyddu’n raddol ar ôl rhoi’r brechlyn, ac yn achos sawl brechlyn rhaid dilyn rhaglen frechu arbennig er mwyn sicrhau’r lefel uchaf o amddiffyniad rhag y clefyd.

Enghraifft: Yn achos brechlynnau clostridiol, rhaid dilyn rhaglen sy’n dechrau gyda’r brechlyn cyntaf, ac wedyn gan ddos atgyfnerthu ar ôl chwe wythnos, a dos atgyfnerthu bob blwyddyn ar ôl hynny er mwyn cynnal yr amddiffyniad ac ysgogi’r cynhyrchu gwrthgyrff ar gyfer y colostrwm fel bod yr oen yn datblygu imiwnedd goddefol am wythnosau cyntaf ei fywyd.

34

Page 35: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

dos atgyfnerthu

bob blwyddyn dos

atgyfnerthu Oen yn datblygu imiwnedd goddefol drwy dderbyn colostrwm yn ystod y 6 awr cyntaf

6 wythnos

brechlyn cyntaf

Ffig 16 : Brechlynnau clostridiol

Bydd brechu ond yn gweithio os bydd yr anifeiliaid sy’n derbyn y brechlyn yn iach ac yn cael digon o fwyd. Rhaid gofalu rhag rhoi gormod o driniaethau ar yr un pryd oherwydd gall hyn amharu ar ddatblygiad yr imiwnedd, e.e. os yw’r anifail wedi cael ei frechu’n erbyn llyngyr yr ysgyfaint, bydd rhoi dos o anthelminticau (rhag mathau eraill o lyngyr) yn lladd llyngyr yr ysgyfaint yn y brechlyn ac ni fydd yr anifail yn datblygu’i imiwnedd ei hun rhagddo.

Arwyddion o iechyd ac afiechyd mewn da byw

Wrth ofalu am dda byw, mae’n bwysig bwrw golwg drostynt yn rheolaidd er mwyn gweld unrhyw arwyddion o afiechyd ac er mwyn cymryd y camau priodol yn ddiymdroi. Bydd amlder hyn yn amrywio. Er enghraifft, mae modd archwilio cadair buwch odro ddwywaith y dydd adeg godro, ond bydd defaid yn cael eu harchwilio o bryd i’w gilydd yn y cae.

Mae’r tabl canlynol yn dangos rhai arwyddion o iechyd ac afiechyd mewn da byw. Pwrpas y tabl yw dangos rhai o’r arwyddion yn hytrach na dangos pob arwydd.

35

Page 36: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Pethau i’w gwirio

Arwyddion o iechyd Arwyddion o afiechyd

Ymddygiad Yn effro, ac yn ymddiddori yn yr hyn sydd o’i gwmpas Aros gyda’r praidd / y fuches, heblaw, efallai adeg bwrw llo /

yna

Difywyd, llesg Ar wahân; heb fod gyda’r praidd neu’r fuches

Ymddaliad (sut mae’r anifail yn sefyll / gorwedd)

Y pwysau’n gyfartal ar y pedair coes

Yn gefngrwm e.e. yn gyda hypothermia Y pen yn isel gyda’r gwddf wedi’i ymestyn; anawsterau anadlu Y pwysau’n anghyfartal, neu broblemau gyda’r traed neu’r coesau neu wrth benlinio Heb fedru codi, neu’n gorwedd yn ei hyd

Symudiad Cydsymud yn dda. Cyflymder a mathau’r symudiadau fel y gellir disgwyl gan y math hwn o anifail yn y math hwn o le

Anystwyth, cloff neu gydsymud gwael

Coesau a thraed Yn symud fel y dylai (pwysau ar y pedair coes)

Chwyddo Y carnau wedi gordyfu neu’n ddi-siâp Cloffni Arogl cryf ac annymunol

Archwaeth Yn bwydo ac yn yfed yn ôl y disgwyl, e.e. yn dod adeg bwydo; lloi / yn yn yfed eu llaeth

Heb ddod adeg bwydo; lloi / yn ddim yn yfed eu llaeth

Cyflwr y cnu / cot a’r croen

Cot sgleiniog gydag ôl llyfu arni (gwartheg) Cnu glân Croen hyblyg, heb ei niweidio Pilenni gludiog pinc, e.e. ger y llygaid a’r deintgig

Colli cnu neu flew Crafu Baeddu (pridd / tail) Y croen yn goch, yn gennog, yn grachlyd neu wedi’i dorri Lympiau / crawniadau

Cyflwr Angen cymharu â gweddill yr anifeiliaid yn y gr p. Sgôr cyflwr o 2-3 yn dderbyniol, ond gall hyn amrywio gyda’r gylchred gynhyrchu (mae’n anodd gwneud hyn heb drafod yr anifeiliaid)

Tenau; dylech gymharu cyflwr yr unigolyn gyda chyflwr y gr p cyfan

Cyflwr y tail / piso

Lliw a thewdra nodweddiadol o’r math o dda byw

Ysgothi Arogl cryf ac annymunol

36

Page 37: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Pethau i’w gwirio

Arwyddion o iechyd Arwyddion o afiechyd

Dim anawsterau wrth basio d r nac ysgarthu; y ddau’n digwydd yn aml

Gwaedlyd Pasio d r / ysgarthu’n anodd

Anadlu Tawel, difrys Byr ei anadl; anadlu’n gyflym neu’n araf iawn Peswch Anadlu swnllyd Trwyn yn rhedeg

Llygaid Clir, disglair Aneglur, yn rhedeg Clustiau Yn symud wrth ymateb i synau Yn llipa, oer Gên / dannedd Blaenddannedd yn cwrdd â’r pad

uchaf. Nifer cywir o ddannedd i anifail o’r oed

Bwyd yn cwympo o’r geg Dannedd yn eisiau; dannedd rhydd Gên wedi chwyddo

Bogail (anifeiliaid ifainc)

Y llinyn bogail yn wlyb un union ar ôl esgor, ond yn sychu’n gyflym

Wedi chwyddo; caled; gwlyb; yn gwaedu

Cadair Yn feddal ac yn gynnes Lympiau, yn dwym neu’n oer, wedi chwyddo

Rhedlif annormal yn dod ohoni Poenus Tethau wedi cracio ac yn gwaedu

Tymheredd corff cyfartalog gwahanol fathau o dda byw yw: Gwartheg 38.9 ûC Defaid 40.0 ûC Moch 39.7 ûC

(Ffigurau o Black’s Veterinary Dictionary.)

Gall tymheredd corff gwahanol anifeiliaid amrywio, felly gallai cofnodi newidiadau yn nhymheredd yr unigolyn fod yn well na chyfeirio at dablau safonol.

Clefydau hysbysadwy

Mae rhai clefydau anifeiliaid yn hysbysadwy (notifiable). Maent yn glefydau sydd ag o leiaf un o’r nodweddion canlynol:

Gallent fod yn beryglus i bobl, e.e. anthracs Yn debygol o achosi llawer iawn o ddioddefaint i anifeiliaid, a cholledion economaidd sylweddol, e.e. clwy’r traed a’r genau Mae modd eu rheoli neu eu lleihau os hysbysir yr awdurdodau amdanynt

37

Page 38: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Os bydd rhywun sy’n berchen ar dda byw, neu sy’n gofalu am dda byw, yn amau eu bod yn dioddef o glefyd hysbysadwy, dylent hysbysu’r awdurdodau (h.y. Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol DEFRA). Nid Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am iechyd anifeiliaid yng Nghymru.

Mae rhestr gyflawn a diweddar o‘r clefydau hysbysadwy ar gael ar wefan y llywodraeth www.defra.gov.uk . Mae’r rhestr hon yn nodi dyddiad achos diweddaraf y clefyd yn y DU (os bu achos erioed).

Clefydau Anifeiliaid yr effeithir arnynt Anthracs Gwartheg, defaid a mamaliaid eraill Enseffalopathi Sbyngffurf Gwartheg (BSE)

Gwartheg

Y Tafod Glas Defaid a geifr Brwselosis (dau fath) Brucella abortus Brucella melitensis

Gwartheg Defaid a geifr

Liwcosis Buchol Ensöotig Gwartheg Clwy’r Traed a’r Genau Gwartheg, defaid, moch ac anifeiliaid

fforchdroed eraill Y Gynddaredd C n a mamaliaid eraill Clefyd y crafu Defaid a geifr Twbercwlosis (TB mewn gwartheg)

Gwartheg a cheirw

Pryf gweryd Gwartheg, ceirw a cheffylau

Tabl 1. Enghreifftiau o glefydau hysbysadwy mewn anifeiliaid fferm (Mae’r rhestr gyflawn yn gynnwys nifer sylweddol o glefydau eraill sy’n effeithio ar foch, geifr a cheffylau.)

Unwaith y bydd y clefyd wedi’i hysbysu caiff mesurau eu gweithredu mewn ymgais i rwystro’r clefyd rhag ymledu. Er enghraifft, gellir ynysu’r anifeiliaid a gwahardd symud da byw yn yr ardal. Bydd union natur y gwaharddiadau yn dibynnu ar ba glefyd sydd dan sylw. Gallai fod angen lladd anifeiliaid yn orfodol er mwyn rhwystro’r clefyd rhag ymledu, e.e. gydag achosion o Glwy’r Traed a’r Genau a Thwbercwlosis Gwartheg.

Anthracs

Achosir y clefyd hwn gan facteria anthracs sy’n gallu byw yn y pridd am gyfnod maith iawn (hyd yn oed am ganrifoedd). Gall y sborau oroesi’n hir mewn cilfachau mewn adeiladau. Bydd anifeiliaid yn mynd yn sâl ac yn marw’n gyflym iawn, ac yn aml fe’u canfyddir yn farw. Mae gan anifeiliaid sy’n sâl dymheredd uchel, a cheir peth gwaedu o’r geg neu’r trwyn. Mae’r gwaed yn cynnwys llawer iawn o facteria anthracs, ac mae’n heintus iawn. Dylid ynysu anifeiliaid neu garcasau os amheuir anthracs, a dylid hysbysu Swyddog Milfeddygol y Wladwriaeth. Bydd y swyddogion yn penderfynu beth i’w wneud â’r anifeiliaid a sut i waredu’r carcasau.

38

Page 39: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE)

Pan fydd ymddygiad neu gymeriad gwartheg h n yn newid, neu pan fydd eu cydsymud yn dirywio, gallai hyn fod yn arwydd eu bod yn dioddef o BSE. Os caiff achos o BSE ei hysbysu bydd milfeddyg yn archwilio’r anifail. Os bydd yn amau BSE, caiff yr anifail ei ladd ar unwaith. Bydd Milfeddygon y Wladwriaeth yn edrych ar ymennydd yr anifail dan ficrosgop er mwyn cadarnhau’r diagnosis. Mae BSE yn troi meinwe’r ymennydd yn sbyngaidd.

Clwy’r Traed a’r Genau

Dyma glefyd heintus iawn a achosir gan firws. Bydd cyflwr yr anifeiliaid yn dirywio’n gyflym, byddant yn colli’u harchwaeth, yn datblygu tymheredd uchel ac yn ymddangos yn llesg. Byddant hefyd yn datblygu pothelli yn eu cegau a rhwng carnau’u traed. Bydd y rhain yn boenus iawn i’r anifail. Dim ond tua 5% o’r anifeiliaid yr effeithir arnynt fydd yn marw’n naturiol o’r clefyd, ond mae’r lleihad mewn cynhyrchedd yn achosi colledion economaidd. Rhesymau economaidd a lles anifeiliaid sydd i gyfrif am y ffaith fod rhaid lladd anifeiliaid yn orfodol. Gweithredir polisïau o arwahanu, diheintio a chyfyngu ar symudiadau anifeiliaid ar unwaith os amheuir achos o glwy’r traed a’r genau. Os caiff y clefyd ei gadarnhau caiff yr holl stoc ar y fferm eu lladd. Defnyddir brechu i reoli’r clefyd ar y cyfandir. Yn 1967 a 2001 y cafwyd y prif achosion diwethaf o’r clefyd yn y DU.

Twbercwlosis mewn Gwartheg Bacteria Mycobacterium bovis sy’n achosi’r clefyd hwn. Gwartheg yw anifeiliaid lletyol y clefyd, ond mae’n gallu heintio pobl yn ogystal ag ystod eang o anifeiliaid, yn cynnwys ceirw, moch, c n, cathod a moch daear. Mae’r clefyd yn achosi’r datblygiad graddol o diwbercylau (tyfiannau) yn yr organau. Bydd symptomau a chyflymdra datblygiad y clefyd yn amrywio yn ôl pa organ sydd wedi’i effeithio. Mae gwendid, colli archwaeth, chwyddo yn y nodau lymff a pheswch ymhlith arwyddion y clefyd. Os bydd y clefyd yn heintio’r gadair, bydd y chwarter hwnnw o’r anifail sydd wedi’i heintio’n chwyddo, a bydd samplau o laeth yn dangos presenoldeb y clefyd. Cynhelir profion rheoliad ar anifeiliaid er mwyn rheoli TB mewn gwartheg, ac felly dim ond yn anaml y gwelir achosion o’r clefyd mewn gwartheg. Mae gan y rhaglen reoli TB mewn gwartheg ddwy brif elfen:

Profion croen rheoliadd yn ddi-dâl ar wartheg bob blwyddyn neu o leiaf unwaith bob pedair blynedd. Bydd pob anifail sy’n adweithio i’r prawf, a phob anifail sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn cael eu lladd. Archwilio carcasau yn rheoliad gan y Gwasanaeth Hylendid Cig, er mwyn chwilio am anafiadau a achosir gan TB.

Mae nifer yr achosion o TB yn amrywio’n sylweddol yn y DU. Cynhelir profion ar hyn o bryd ar effeithiolrwydd gwahanol fesurau rheoli, yn cynnwys lladd a rheoli moch daear. Bydd y llywodraeth yn talu iawndal am hyn.

39

Page 40: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Defnyddio a storio meddyginiaethau milfeddygol

Rhaid defnyddio a storio meddyginiaethau’n gywir: er mwyn cydymffurfio a’r ddeddfwriaeth (COSHH a deddfwriaeth lles anifeiliaid) er mwyn diogelu’r sawl sy’n eu defnyddio, a phrynwr y cynnyrch, ac er mwyn sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol

Cod ymarfer ar gyfer meddyginiaethau

Gellir cael copïau o “The code of practice on the responsible use of animal meddyginiaethau on the farm”, o’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (www.vmd.gov.uk). Mae crynodeb o’r prif bwyntiau yn dilyn:

Cynllunio a phrynu

Cynlluniwch ymlaen llaw; dylai fod gan y fferm gynllun clir ar gyfer iechyd anifeiliaid sy’n ymdrin ag atal a thrin clefydau. Rhaid cynnal asesiadau risg er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel. Dylech gydweithio â’r milfeddyg er mwyn sicrhau bod y meddyginiaethau a’r triniaethau cywir yn cael eu rhoi. Prynwch y swm cywir o foddion. Rhaid defnyddio meddyginiaethau cyn eu dyddiad dod i ben. Gallai fod yn anghyfreithlon i werthu neu basio ymlaen meddyginiaethau i bobl eraill. Dylech ond prynu a defnyddio meddyginiaethau awdurdodedig. Cadwch gofnodion cywir (mae mwy o fanylion am hyn isod)

Rhoi meddyginiaethau

Dim ond un person ddylai fod yn gyfrifol am gofnodi a rhoi meddyginiaethau, a sicrhau bod y cyfnodau diddyfnu’n cael eu parchu Dim ond pobl brofiadol sydd wedi’u hyfforddi ddylai drafod a rhoi meddyginiaethau Peidiwch â rhoi meddyginiaethau’n ddiangen oherwydd gall anifeiliaid ddatblygu ymwrthedd (resistance) iddynt Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus bob tro Gwiriwch y dyddiad dod i ben er mwyn sicrhau bod y feddyginiaeth yn dal yn weithredol Oni bai bod eich milfeddyg yn eich cyfarwyddo fel arall, dylech ddefnyddio dim ond y math a’r dos cywir o’r feddyginiaeth, ac i’r dibenion pwrpasol y maent wedi’u hawdurdodi ar eu cyfer. Dylech ddefnyddio meddyginiaethau presgripsiwn dim ond gyda’r anifeiliaid a ddylai eu cael Dylech gwblhau’r rhaglen driniaeth bob tro Os nad ydych chi’n sicr, gofynnwch i filfeddyg

40

Page 41: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Diogelwch

Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau ar y label bob tro, e.e. defnyddio dillad amddiffynnol. Rhaid dilyn canllawiau’r asesiadau risg Cadwch restr wrth law o rifau ffôn i’w galw mewn argyfwng (doctor lleol, ysbyty, milfeddyg a fferyllfa) Er mwyn rhwystro unrhyw feddyginiaeth rhag cyrraedd y gadwyn fwyd ddynol, rhaid dilyn y cyfarwyddiadau am gyfnodau diddyfnu’n ofalus iawn, e.e. rhwng gorffen y driniaeth a lladd yr anifail, neu rhwng cymryd wyau neu laeth ar gyfer y gadwyn fwyd ddynol.

Storio

Rhaid storio meddyginiaethau yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y label. Ni ddylid eu gadael yn llygad yr haul, ac ni ddylent fynd yn rhy gynnes neu’n rhy oer. Os ydynt yn cael eu cadw mewn oergell, dylai’r tymheredd fod rhwng 2 û C ac 8 û C. Os defnyddir porthiant meddyginiaethol rhaid dangos y math o borthiant a’r dyddiad dod i ben yn glir ar y biniau porthiant. Dylech gadw meddyginiaethau yn eu cynwysyddion gwreiddiol, ac allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid. Os yn bosibl, dylech gadw meddyginiaethau dan glo ac ar wahân i bopeth arall.

Gwaredu meddyginiaethau a nodwyddau nad oes eu hangen

Rhaid gwaredu nodwyddau sydd wedi’u defnyddio yn ofalus, drwy ddefnyddio cynhwysydd pwrpasol er enghraifft. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yngl n â gwaredu, a pheidiwch byth â rhoi meddyginiaethau i lawr y draeniau neu’r t bach, na’u taflu i ffwrdd gyda sbwriel y t . Gall cemegau fel dip defaid fod yn beryglus iawn i’r amgylchedd, a rhaid sicrhau bod modd eu gwaredu’n ofalus cyn eu prynu.

Adrodd am sgil effeithiau niweidiol ac annisgwyl

Os bydd anifeiliaid sydd wedi’u trin yn dangos unrhyw adweithiau niweidiol i’r meddyginiaethau, rhaid dweud wrth eich milfeddyg neu i Gynllun Cymru Ymatebion Niweidiol i Gyffuriau yn y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Dylid adrodd hefyd am unrhyw ymateb niweidiol gan bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r meddyginiaethau.

Cofnodion meddyginiaethau

Rhaid cadw cofnodion o’r meddyginiaethau a ddefnyddiwyd ar y fferm am o leiaf dair blynedd. Os defnyddiwyd meddyginiaethau presgripsiwn, rhaid cadw’r cofnodion am bum mlynedd. Rhaid i’r cofnodion ddangos:

Enw’r feddyginiaeth a ddefnyddiwyd Enw a chyfeiriad cyflenwr y feddyginiaeth Dyddiad ei phrynu

41

Page 42: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Dyddiad rhoi’r feddyginiaeth Cyfanswm y feddyginiaeth a ddefnyddiwyd Tystiolaeth adnabod yr anifeiliaid neu’r gr p a gafodd driniaeth Nifer yr anifeiliaid a gafodd driniaeth

Er mwyn atal gweddillion rhag mynd i’r gadwyn fwyd, rhaid sicrhau bod y cofnodion yn gyflawn ac yn cynnwys:

Dyddiadau dod i ben unrhyw gyfnod diddyfnu ar gyfer lladd, neu gynhyrchu llaeth neu gynhyrchion eraill o anifeiliaid Dyddiad gorffen y driniaeth Enw’r person a fu’n rhoi’r feddyginiaeth Rhif swp (batch number) y cynnyrch a ddefnyddiwyd

Nid oes rhaid cadw’r cofnodion mewn fformat gosod. Serch hynny, mae llyfrau safonol ar gyfer cofnodi meddyginiaethau anifeiliaid ar gael oddi wrth y Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid (NOAH). Bydd angen cadw cofnodion ar gyfer cynlluniau gwarant fferm a rhai systemau cynhyrchu, e.e. systemau organig, lle gall y cyfnod diddyfnu fod yn llawer hwy nag ar gyfer systemau ffermio confensiynol.

42

Page 43: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Mathau o feddyginiaethau

Mae sawl gr p gwahanol o feddyginiaethau da byw, ac yn ôl y dosbarth y maent yn perthyn iddo, mae modd eu cael o wahanol ffynonellau. Bydd system newydd o reoli’r ffordd y bydd meddyginiaethau’n cael eu gwerthu yn dod i rym yn 2008, a bydd yr hen system yn graddol gael ei disodli gan yr un newydd dros y cyfnod cyn hynny.

Hen ddosbarthiad Dosbarthiad newydd Meddyginiaethau presgripsiwn yn unig (POM) Dim ond gan filfeddygon, ac ar gyfer anifeiliaid sydd dan eu gofal nhw, y gellir cael y rhain, neu mae modd eu cael, gyda phresgripsiwn gan filfeddyg, oddi wrth fferyllfa.

Meddyginiaethau presgripsiwn yn unig – milfeddyg (POM-V) Rhaid cael presgripsiwn gan lawfeddyg milfeddygol ar gyfer y rhain, e.e. gwrthfiotigau, a gall unrhyw lawfeddyg milfeddygol neu fferyllydd eu gwerthu

Meddyginiaethau Anifeiliaid (P) Dim ond gan filfeddygon, ac ar gyfer anifeiliaid sydd dan eu gofal nhw, y gellir cael y rhain, neu mewn fferyllfa. Os bydd y feddyginiaeth ar Restr y Fferyllwyr a’r Masnachwyr (PMS) gall masnachwyr amaethyddol cofrestredig eu gwerthu i ffermwyr da byw.

Meddyginiaethau presgripsiwn yn unig – milfeddyg, fferyllydd, person cymwys (POM-VPS) Rhaid cael presgripsiwn gan filfeddyg, fferyllydd neu berson cymwys ar gyfer y rhain, e.e. meddyginiaethau rhag llyngyr, brechlynnau. Gall unrhyw un o’r bobl hyn eu gwerthu.

Meddyginiaethau ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid bwyd - milfeddyg, fferyllydd, person cymwys Rhaid cael presgripsiwn gan filfeddyg, fferyllydd neu berson cymwys ar gyfer y rhain, e.e. meddyginiaethau rhag llyngyr mewn anifeiliaid anwes.

Rhestr Gwerthu Gyffredinol (GSL) Gellir gwerthu’r rhain mewn siopau cyffredin

Meddyginiaethau milfeddygol awdurdodedig (AVM-GSL) Gall rhywun eu gwerthu, e.e. triniaethau rhag chwain

Porthiant meddyginiaethol (MFS) – dyma feddyginiaethau, a geir ar bresgripsiwn gan filfeddyg, sy’n cael eu hychwanegu i’r porthiant.

43

Page 44: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Termau cyffredin a welir mewn cyfarwyddiadau meddyginiaethau

Mae’n bwysig deall y termau sy’n cael eu defnyddio yng nghyfarwyddiadau’r gwneuthurwr. Mae rhai ohonynt yn cael eu hesbonio isod:

Gwrthrybuddion Efallai y bydd y cyfarwyddiadau’n sôn am ‘contra indications’. Bydd y rhain yn cynnwys gwybodaeth am y feddyginiaeth, a phryd i beidio â’i defnyddio. Bydd rhai labeli’n cynnwys y pennawd ‘Contra indications and warnings’

Isgroenol (subcutaneous) e.e. brechlyn a roddir drwy bigiad dan y croen. Dyma ddull cyffredin o roi meddyginiaethau a brechlynnau i dda byw. Mae’r cyffur yn cyrraedd y gwaed yn arafach drwy wneud hyn.

Mewnwythiennol (intravenous) ‘i mewn i’r wythïen’. Fel arfer, y milfeddyg, yn hytrach na ffermwyr na stocmyn, fydd yn defnyddio’r dull hwn o roi’r feddyginiaeth. Mae’r cyffur yn cyrraedd y gwaed yn gyflym iawn drwy wneud hyn.

Mewngyhyrol (intramuscular) h.y. rhoi pigiad o feddyginiaeth, e.e. gwrthfiotig, i mewn i’r cyhyr. Rhaid cymryd gofal na fydd gwneud hyn yn niweidio carcasau anifeiliaid sy’n mynd i’r farchnad gig.

Mewndethol (intramammary) ‘i mewn i’r gadair’. Mae modd rhoi tiwbiau buwch hesb neu wrthfiotigau i drin mastitis drwy piben y deth i goden y deth.

Trwy’r genau (orally) h.y. meddyginiaethau a roddir i’r anifail drwy’r geg.

Bolws. Bydd bolws yn aros yn stumog anifail sy’n cnoi cil. Caiff bolysau eu defnyddio ar gyfer meddyginiaethau a mwynau a gaiff eu rhyddhau dros sawl wythnos, e.e. gellir rhoi bolysau magnesiwm i ddefaid yn y gwanwyn fel eu bod yn cael cyflenwad cyson o fagnesiwm pan na fydd digon ohono i’w gael yn y borfa.

Cyfeiriadau a darllen pellach

Primrose McConnnell (2003). The Agricultural Notebook. Blackwell Publishing

Geoffrey West (1992). Black’s Veterinary Dictionary. A & C Black (Publishers) Cyf.

Teagasc (1994). Introduction to Farm Animals. Teagasc

D.G.M Thomas ac eraill (1983). Animal Husbandry. Bailliere Tindall

www.defra.gov.uk/animalh/diseases Gwefan DEFRA

44

Page 45: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

www.cymru.gov.uk neu www.cefngwlad.cymru.gov.uk am fanylion y Cynllun Taliad Sengl

David Sainsbury (1998). Animal Health. Blackwell Science.

Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) Veterinary Medicines, safe use by farmers and other animal handlers. (gweler gwefan HSE www.hse.gov.uk)

Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. (2000). Code of Practice on the responsible use of animal medicines on the farm. (gweler gwefan www.vmd.gov.uk)

45

Page 46: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Pennod 3 - Bwydydd a Phorthi

Mae bwydo da byw’n gywir yn sicrhau eu bod nhw’n cadw’n iach ac yn gynhyrchiol, a’u bod yn cyfrannu at elw’r fferm.

Dosbarthu bwydydd

Gellir dosbarthu bwydydd yn ôl ei gynnwys lleithder.

Brasfwydydd

Cnydau dail gwyrdd

Dwysfwydydd

Cnydau gwraidd

Bwydydd suddlon

Bwydydd

Bwydydd sych

Ffig. 17 - Diagram i ddangos y gwahanol fathau o fwydydd

Planhigion suddlon (Succulents)

Mae planhigion suddlon yn cynnwys canran uchel o dd r, e.e. mae porfa ffres yn cynnwys 20% o fater sych ac 80% o dd r. Mae da byw yn hoffi eu bwyta ac yn eu cael yn flasus. Mae’r planhigion suddlon yn cynnwys porthiant fel silwair yn ogystal â bwydydd o blanhigion ffres. Mae’r bwydydd hyn yn addas ar gyfer anifeiliaid cnoi cil, a gall rhai ohonynt oroesi ar ddogn sy’n cynnwys dim ond planhigion suddlon e.e. gwartheg sugno yn bwyta silwair dros y gaeaf, neu yn sydd wedi’u diddyfnu yn bwyta porfa.

Mae dau gategori o blanhigion suddlon:

Cnydau dail gwyrdd fel porfa, meillion, rêp a chêl. Bydd y cynnwys ffibr a’r gwerth porthiannol yn dibynnu ar y math o blanhigyn a chyfnod ei dyfiant. Tuedd planhigion ifancach yw cynnwys llai o ffibr ond mae’u gwerth porthiannol yn uwch.

Cnydau gwraidd fel maip a swêds. Tuedda’r rhain gynnwys llawer o garbohydrad ond ychydig o brotein. Ychydig iawn o fater sych sydd gan rai cnydau gwraidd, e.e. 11% ar gyfartaledd ar gyfer swêds.

46

Page 47: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Bwydydd sych

Mae rhwng 86% a 90% o fater sych mewn bwydydd sych. Mae’n bwysig cadw’r bwydydd hyn mewn lle sych er mwyn rhwystro ffyngau a llwydni rhag tyfu ac andwyo cyflwr y bwydydd (mae llwydni’n tueddu datblygu ar wair gwlyb.)

Mae bwydydd sych wedi’u rhannu’n ddau brif gr p:

Brasfwydydd e.e. gwair a gwellt Mae’r bwydydd hyn yn swmpus, ac maent yn cynnwys lefelau eithaf uchel o ffibr.

Dwysfwydydd e.e. cnau llaeth, cnau defaid, barlys, gwenith a soia.

Fel arfer, mae’r bwydydd hyn yn cynnwys dwyseddau uchel o ynni a phrotein, ac nid ydynt mor swmpus â brasfwydydd. Bydd dwysfwydydd sy’n cael eu prynu er mwyn eu cymysgu’n ddogn ar y fferm (e.e. glwten gwenith neu India corn) yn cael eu galw’n ‘straights’. Bydd y rheiny sydd wedi’u cymysgu gan y gwneuthurwr (e.e. cymysgedd bras neu belenni) yn cael eu galw’n fwydydd cyfansawdd.

Bydd y dewis o ddognau ar fferm yn dibynnu ar ffactorau sy’n cynnwys: Y bwydydd sydd eisoes ar gael ar y fferm, e.e. porfa, gwellt, gwair, silwair Prisiau cymharol gwahanol fathau o fwydydd Y system fwydo, maint y fenter a’r peiriannau sydd ar gael. Lefel cynhyrchedd yr anifail Cyfyngiadau sy’n ymwneud â chynlluniau gwarant fferm neu safonau bwydydd organig

47

Page 48: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Cyfansoddion mewn bwyd Mae chwe phrif gyfansoddyn mewn bwyd:

D r

Mater sych

Mwynau

Fitaminau

Protein

Carbohydradau

Brasterau ac Olewau F & Oil

Ffig. 18 - Diagram i ddangos cyfansoddion bwyd (Mae cydran y d r a’r mater sych yn amrywio yn ôl y math o fwyd.)

D r (H2O) Mae cynnwys d r bwyd cyffredin yn amrywio o 10% - 90%.

Porthiant Mater Sych % D r % Maip 10.5 89.5 Barlys 86.0 14.0 Grawn bragdy 23.0 77.0 Blawd Ffa Soia (Hipro) 90.0 10.0 Porfa ffres 20.0 80.0 Silwair - cladd 25.0 75.0 Silwair – byrnau mawr 35.0 65.0 Gwellt 85.0 15.0

Tabl 1 - % y mater sych a’r d r mewn gwahanol fwydydd anifeiliaid.

Mae angen d r ar y corff er mwyn hwyluso adweithiau cemegol, felly mae’n hanfodol bod da byw’n cael cyflenwad digonol o dd r. Bydd yr angen am dd r yn cynyddu os....

bydd yr anifeiliaid yn bwyta dognau gyda lefelau uchel o fater sych yw’r tywydd yn boeth yw’r da byw’n llaetha (cynhyrchu llaeth)

Carbohydradau (CHO)

48

Page 49: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Mae’r rhain yn cynnwys carbon, ocsigen a hydrogen. Mae carbohydradau yn ffynhonnell ynni i anifeiliaid, a nhw yw’r brif ffynhonnell o ynni yn y rhan fwyaf o ddognau anifeiliaid cnoi cil. Unedau lleiaf y carbohydradau yw’r siwgrau sengl (monosacaridau) fel glwcos. Er mwyn i garbohydradau gael eu hamsugno yn y perfedd rhaid iddynt gael eu newid o siwgrau cymhleth i siwgrau syml.

Mathau o garbohydradau Nodweddion Siwgrau syml e.e. glwcos a decstros

Blas melys Hydawdd mewn d r Mewnlifo’n gyflym am fod eu molecylau’n fach iawn.

Startsh Wedi’u gwneud o gadwynau hir o unedau siwgr Heb fod â blas melys Anhydawdd mewn d r I’w gael mewn bwydydd fel gwenith a barlys (yn yr endosberm) Eplesu mewn rwmen; angen ei ymddatod cyn y gall yr anifail ei amsugno

Ffibr Wedi’i wneud o gadwynau hir o siwgr sydd wedi’u bondio i’w gilydd fel eu bod yn anodd eu ymddatod Anhydawdd mewn d r Yn cael ei ymddatod gan system dreulio’r anifail cnoi cil, ond nid gan anifeiliaid un stumog Bwydydd fel gwellt yn cynnwys lefelau uchel ohono

Protein

Mae proteinau’n cynnwys carbon, ocsigen, hydrogen a nitrogen. Mae proteinau’n cynnwys unedau sy’n cael eu galw’n asidau amino. Mae pump ar hugain asid amino mewn proteinau ac mae pob un ohonynt yn cynnwys nitrogen. Mae dau brif fath:-

Asidau amino hanfodol sydd rhaid eu cynnwys yn rhan o ddiet anifail. Bydd angen asidau amino fel lysin, methionin a thryptoffan ar anifeiliaid un stumog. Asidau amino dianghenraid a all gael eu cynhyrchu o asidau amino eraill gan yr anifail; nid oes rhaid eu cynnwys yn y bwyd. Bydd angen protein ar anifeiliaid sy’n cnoi cil ond nid oes angen i’w dognau gynnwys lefelau gosod o asidau amino penodol.

Mae angen protein er mwyn i’r cyhyrau dyfu, i adfer meinweoedd, i gynhyrchu llaeth, er mwyn hybu actifedd metabolaidd a chynhyrchu ensymau, ac er mwyn atgenhedlu a chynhyrchu gwaed Mae bwydydd fel soia yn cynnwys llawer o broteinau planhigion, ac maent yn cael eu hychwanegu at y diet er mwyn cynyddu lefel y protein.

49

Page 50: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Gall anifeiliaid cnoi cil ddefnyddio nitrogen yn eu diet hyd yn oed os na fyddant yn ei gael ar ffurf protein. Dyma’r nitrogen di-brotein (NPN). Mae wrea yn enghraifft o nitrogen di-brotein a allai fod mewn bwydydd anifeiliaid cnoi cil.

Brasterau ac olewau (lipidau)

Mae’r term ‘lipid’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio brasterau ac olewau fel ei gilydd. Maent yn cynnwys carbon, ocsigen a hydrogen. Nid yw brasterau ac olewau’n hydawdd mewn d r. Mae lipidau’n ffynhonnell ynni i anifeiliaid. Maent yn cynnwys tua dwywaith cymaint o ynni â’r un pwysau o garbohydradau, ond dim ond hyn a hyn ohonynt y gellir ei gynnwys mewn dognau da byw heb achosi anhwylderau yn y system dreulio.

Mae brasterau’n galed ar dymheredd ystafell Mae olewau’n hylifol ar dymheredd ystafell

Mae llawer o lipidau’n cynnwys dau fath o gemegyn - asidau brasterog a glyserol.

Asid brasterog

Asid brasterog

Asid brasterog

Ffig.19- Diagram i ddangos strwythur lipidau.

Er mwyn i’r anifail fedru amsugno brasterau rhaid i’r ensymau dorri’r cysylltiadau rhwng yr asidau brasterog a’r glyserol. Gall rhai dognau ar gyfer da byw cynhyrchiol iawn fel gwartheg gynnwys brasterau ‘a amddiffynnir’ fel ffynhonnell ynni sy’n cael ei threulio yn y coluddyn bach.

Fitaminau

Dyma’r moleciwlau cymhleth y bydd eu hangen ar yr anifail er mwyn iddo aros yn iach. Sail y moleciwlau hyn yw carbon, hydrogen ac ocsigen, ond maent hefyd yn cynnwys gwahanol elfennau eraill. Dim ond ychydig o fitaminau sydd eu hangen yn y diet. Gall fitaminau ymddatod dros gyfnod o amser, felly bydd labeli’n dangos lefelau’r fitaminau yn y bwyd, a dyddiad dod i ben y bwyd.

50

Page 51: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Fitamin Ei angen ar gyfer: Symptomau diffyg ohono Fitamin A Cynhyrchu protein

Datblygu esgyrn a chroen Golwg nos

Gostyngiad mewn cynhyrchiant a ffrwythlondeb; cot a charnau gwael

Gr p Fitamin B Llawer o brosesau’r corff, yn cynnwys rhyddhau ynni

Tyfu’n wael, anaemia a phroblemau eraill Gall microbau yn y rwmen gynhyrchu fitamin B cyn belled â bod digon o gobalt yn y diet

Fitamin C Tyfu ac amddiffyn rhag clefydau

Am ei fod mewn llawer o blanhigion, anaml iawn y bydd anifeiliaid heb gael digon ohono

Fitamin D Datblygu esgyrn Cydbwyso calsiwm a ffosfforws yn y corff

Twymyn llaeth Gwendid yn yr esgyrn

Fitamin E Defnyddio brasterau Pilenni corff cryf Cyhyrau

Gostyngiad mewn ffrwythlondeb, mwy o enedigaethau marw a chadw’r brych Cysylltiad agos â seleniwm Strwythur a gweithrediad y cyhyrau’n wael

Mwynau

Dyma’r elfennau mwynol sydd, ynghyd â charbon, hydrogen, ocsigen a nitrogen, yn hanfodol ar gyfer bywyd. Mae modd rhannu mwynau’n ddau gr p yn ôl faint ohonynt y bydd anifeiliaid ei angen er mwyn cadw’n iach.

Prif elfennau: Mae angen cryn dipyn o’r prif elfennau fel calsiwm a ffosfforws.

Mwyn Symbol Ei angen ar gyfer: Symptomau diffyg ohono Calsiwm Ca Esgyrn, dannedd,

cynhyrchu llaeth, defnyddio’r cyhyrau

Twymyn llaeth, hypocalsemia. Llai o galsiwm ar gael yn y gwaed; colli archwaeth a defnydd y cyhyrau

Ffosfforws P Esgyrn, ffrwythlondeb, cynhyrchu llaeth

Gostyngiad mewn ffrwythlondeb a chynhyrchiant

Magnesiwm Mg Gweithredu cywir y system nerfol

Dera’r borfa / tetanedd y borfa; yn cynhyrfu, cyn mynd i goma a marw.

Potasiwm K Cydbwysedd d r Defnyddio ynni

Gostyngiad mewn ffrwythlondeb a chynhyrchiant

51

Page 52: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Mwyn Symbol Ei angen ar gyfer: Symptomau diffyg ohono Haearn Fe Celloedd coch y gwaed,

sy’n cario ocsigen Anemia

Elfennau llai (neu elfennau hybrin [trace]) Mae angen llai o’r elfennau llai, e.e. copr, cobalt a seleniwm Gyda defaid, dim ond ychydig o wahaniaeth sydd rhwng swm digonol i osgoi symptomau diffyg a dos wenwynig.

Mwyn Symbol Ei angen ar gyfer: Symptomau diffyg ohono Sodiwm Na Cydbwysedd d r Llai o archwaeth, diffyg hylif

yn y corff Clorin Cl Cydbwysedd d r Llai o archwaeth, diffyg hylif

yn y corff Sylffwr S Cynhyrchu proteinau Diffyg proteinau Copr Cu Celloedd y gwaed,

nerfau, ffrwythlondeb yn yn datblygu cefn gwan –

y coesau ôl yn methu â chydsymud

Cobalt Co Gwneud fitamin B12 Dihoenedd – perfformiad gwael

Seleniwm Se Pilenni iach Gostyngiad mewn ffrwythlondeb, pwd y cyhyrau

Sinc Zn Croen iach, ffrwythlondeb

Tyfiant gwael a chroen gwael

Ïodin I Cynhyrchu’r hormon thyrocsin

Anffrwythlondeb a pherfformiad gwael. Goitr

Mesurau o gyfansoddion ac ansawdd bwyd

Mater sych (DM) Gan fod cynnwys d r bwydydd yn amrywio gymaint, maent yn cael eu cymharu ar sail faint o fater sych sydd ynddynt.

Os yw silwair ffres yn cynnwys 25% o fater sych, byddai 7.5kg o dd r mewn 10kg o silwair. Os yw gwenith yn cynnwys 86% o fater sych, byddai dim ond 1.4kg o dd r mewn 10kg o silwair.

52

Page 53: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

1.4 kg D r 7.5kg D r

8.6kg Mater sych

2.5 kg Mater sych

10 kg o wenith 10 kg o silwair

Ffig 20 – Diagram i gymharu’r symiau cymharol o dd r a mater sych mewn 10kg o wenith a silwair porfa ffres

Mae’n bwysig peidio â chymysgu rhwng dadansoddiadau o fater ffres a mater sych. Rhaid newid dognau, sydd wedi’u cyfrif ar sail eu cynnwys mater sych, i’w pwysau ffres er mwyn gwybod faint yn union o fwyd i’w roi i dda byw. Os caiff symiau bwyd eu newid o fater sych i bwysau ffres rhaid i’r ateb fod yn fwy na’r swm ar y dechrau.

Enghraifft: Os bydd dogn o 1kg o fater sych o silwair yn cynnwys 25% o fater sych, byddai modd cyfrif y pwysau ffres sydd ei angen fel a ganlyn:

Swm y mater sych (Kg) X 100 = Pwysau sych o fwyd % y mater sych yn y silwair

1 Kg o silwair X 100 = 4kg o silwair ffres 25

Er mwyn cyfrif swm y mater sych mewn swm penodol o fwyd ffres, mae modd defnyddio’r fformiwla isod:

Pwysau ffres y bwyd (kg) X % y mater sych = Mater sych y bwyd mewn kg

Enghraifft: Faint o fater sych sydd mewn 8 kg o silwair sy’n cynnwys 25% mater sych?

8 kg o silwair X 25 mater sych = 2kg o fater sych yn y silwair 100

Cymeriant digymell o fwyd

Mae modd cyfrif swm y mater sych y bydd da byw yn ei fwyta, a defnyddir y ffigur hwn wrth gyfrif maint y dogn. Bydd cymeriant bwyd digymell (archwaeth)

53

Page 54: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

anifail tua 2-3 % o bwysau byw’r anifail, ac mae’n cael ei effeithio gan y canlynol:

Pa mor gyflym y caiff y bwyd ei dreulio a’i symud trwy’r coluddion Lefel cynhyrchiant yr anifail Blasusrwydd y bwyd Y cyfnod o feichiogrwydd

Os bydd lefel isel o fater sych mewn dogn (gwlyb), gallai hyn gyfyngu ar y swm o fater sych y gellir ei fwyta. Mae anifeiliaid un stumog yn methu â threulio ffibr. Gall anifeiliaid cnoi cil dreulio ffibr gyda chymorth microbau rwmen, ond mae hon yn broses eithaf araf o’i chymharu â threulio carbohydradau eraill fel startsh. Mae angen ffibrau mewn dognau anifeiliaid cnoi cil er mwyn eu hysgogi i gnoi cil.

Gwerth-D a threuliadedd

Gwerth-D yw canran y mater organig treuliadwy ym mater sych y bwyd.

Pwysau’r mater organig treuliadwy yn y bwyd (kg) X 100 = gwerth- D Pwysau’r mater sych (kg)

Po fwyaf y gwerth-D, y mwyaf treuliadwy fydd y bwyd.

Er enghraifft, mae porfa ifanc yn cynnwys llai o ffibr na phorfa sydd wedi mynd i had, ac felly bydd yn fwy treuliadwy, a bydd ganddi werth-D uwch.

Ynni

Mae bwydydd yn aml yn cael eu cymharu yn ôl swm yr ynni sydd yn eu mater sych. Defnyddir y megajoule (MJ) fel uned mesur ynni.

Mae gwahanol fesurau o ynni. Er enghraifft, yr ynni gros yw’r holl ynni yn y bwyd. Gellir mesur hwn drwy losgi’r bwyd, ond nid yw’r holl ynni ar gael i’r anifail.

Mae ynni metaboladwy (ME) yn fesur o swm y cynnwys ynni defnyddiol yn y bwyd. Defnyddir ME fel arfer i gymharu gwerth ynni bwydydd da byw.

54

Page 55: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Ynni gros

Ynni carthion Ynni treuliadwy

Ynni methan

Ynni piso Ynni metaboladwy

Cynyddran gwres Ynni net

Defnyddir ar gyfer cynnal systemau’r

corff

Defnyddir ar gyfer cynhyrchu

Ffig. 20 Defnydd ynni a metaboladwyedd

Cynnal y corff a chynhyrchu

Bwyd ar gyfer cynnal y corff (dogn cynnal) - y bwyd y bydd ei angen ar anifail er mwyn iddo gynnal ei gyflwr. Bydd hwn yn amrywio yn ôl maint yr anifail. Mae angen y bwyd ar gyfer swyddogaethau hanfodol y corff, fel anadlu.

Bwyd ar gyfer cynhyrchu – y bwyd ychwanegol sydd ei angen ar anifeiliaid er mwyn gwneud pethau heblaw am aros yn fyw a chynnal eu cyflwr. Mae sawl categori o gynhyrchu:

Tyfu - mae angen i anifeiliaid ifainc gynyddu mewn corffolaeth a chynhyrchu esgyrn, cyhyrau, braster a meinweoedd eraill.

Atgenhedlu – yn / lloi’n tyfu y tu mewn i’r mamogiaid / buchod; cynhyrchu sberm

Llaetha – cynhyrchu llaeth a meinwe cadair Gwlân – cynhyrchu cnu Gweithio – bydd angen bwyd ychwanegol ar rai anifeiliaid oherwydd eu bod

yn gweithio’n galed, e.e. c n defaid

Mae modd cyfrif faint o ynni sydd ei angen er mwyn i wahanol feintiau a mathau o dda byw gynnal eu corff a chynhyrchu, ac mae tablau dognau ar gael i’r diben hwn.

55

Page 56: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Os bydd anifeiliaid yn cael llai o ynni nag sydd ei angen arnynt bydd eu cyflwr yn dirywio; os byddant yn cael mwy o ynni nag sydd ei angen, gallant ei storio fel braster.

Bwydo protein i dda byw

Wrth fwydo moch, mae’n bwysig cael y swm cywir o asidau amino hanfodol yn y bwydydd. Bydd y labeli ar y bwydydd yn dangos y lefelau o rai asidau amino pwysig fel lysin a thryptoffan. Os na fydd digon o ryw asid amino penodol (cyfyngol) ni fydd y moch yn tyfu’n dda, hyd yn oed os bydd swm digonol o brotein yn y diet. Gall microbau yn system dreulio’r anifail cnoi cil ymddatod protein. Gallant hefyd ffurfio protein os bydd digon o nitrogen ac ynni ar gael yn y rwmen. Mae sawl dull gwahanol o fesur protein:

Protein Crai – amcangyfrif o swm y protein yn y bwyd pe bai’r holl brotein ar ffurf moleciwlau o brotein Nitrogen di-brotein – swm y nitrogen mewn cemegau heblaw am brotein (gallai anifeiliaid cnoi cil ddefnyddio hwn yn lle protein). Felly, mae modd defnyddio cemegau fel wrea fel ffynhonnell nitrogen mewn blociau bwyd Protein y gellir ei ddiraddio gan rwmen (RDP) – gall hwn gael ei ymddatod a’i ddefnyddio gan ficrobau rwmen. Os rhoddir gormod i’r anifeiliaid, gallai gael ei wastraffu. Proteinau a amddiffynnir – nid yw’r rhain yn cael eu ymddatod yn y rwmen, ond gallant gael eu treulio wrth fynd yn bellach ar hyd y system dreulio. Gellir eu cynnwys mewn dognau ar gyfer anifeiliaid uchel eu cynnyrch.

Gellir dangos swm y protein yn y mater sych mewn dwy ffordd: Gramau o brotein i bob cilogram o fater sych (g / kg) Fel canran

Dogni

Rhaid i ddognau da byw gynnwys yr holl ynni a maetholion sydd eu hangen arnynt i fod yn iach ac yn gynhyrchiol, a hynny am bris fforddiadwy. Bydd gofynion ynni a phrotein da byw yn amrywio yn ôl cyfnod y gylchred gynhyrchu. Er enghraifft, bydd adegau pan fydd modd bwydo da byw ar borfa, neu borfa wedi’i chadw, fel silwair, heb fod angen unrhyw ddwysfwydydd arnynt, e.e. mamogiaid hesb a buchod sugno. Bydd angen dognau sy’n cynnwys dwysfwydydd ar famogiaid sy’n dod at ddiwedd eu beichiogrwydd sy’n cario gefeilliaid neu dripledi, ac ar wartheg godro uchel eu cynnyrch, er mwyn sicrhau eu bod yn cael digon o brotein ac ynni. Bydd dognau yn cynnwys dwyseddau uwch neu is o ynni neu brotein er mwyn adlewyrchu’r cydbwysedd rhwng gofynion yr anifail a’r bwydydd sydd ar gael.

56

Page 57: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Dewis bwydydd

Bydd y dewis o fwydydd ar gyfer dognau ar fferm benodol yn dibynnu ar sawl ffactor:

1. Y bwydydd sydd ar gael ar y fferm Bydd hyn yn amrywio yn ôl adeg y flwyddyn. Bydd llawer o ffermydd yng Nghymru yn defnyddio porfa ffres fel sail i’w dognau yn ystod yr haf, a phorfa wedi’i chadw, fel silwair neu wair, yn ystod y gaeaf. Gellir tyfu cnydau yn benodol ar gyfer bwydo da byw, e.e. swêds, maip, India corn ar gyfer silwair. Gallai sgil-gynhyrchion cnydau fod ar gael mewn rhai ardaloedd, e.e. gwellt.

2. Prisiau cymharol gwahanol fwydydd Gall prisiau bwydydd newid am sawl rheswm, yn cynnwys cyflenwad a galw. Ar y cyfan, mae bwydydd organig yn ddrutach i’w prynu na chynnyrch tebyg o fferm gonfensiynol. Rhaid ystyried cost cludiant ac ansawdd y bwyd ochr yn ochr â’r pris. Er enghraifft, gallai bwyd gwlyb ymddangos yn rhad pan ystyrir pris tunnell o bwysau ffres, ond gallai pris pob uned o brotein neu ynni fod yn uwch. Bydd adroddiadau marchnad yn galluogi ffermwyr i gymharu cost yr ynni (ceiniogau / MJ) a chost y protein ( ceiniogau / gram o brotein crai y gellir ei dreulio).

3. Y system fwydo, maint y fenter a’r peiriannau sydd ar gael Bydd bwyd a brynir mewn bagiau neu mewn unedau bychain yn ddrutach na chynnyrch tebyg a brynir mewn swmp. Fydd dim angen symiau mawr o fwydydd ar rai ffermydd, ac mae’n bosibl na fydd ganddynt y cyfleusterau storio na’r peiriannau er mwyn iddynt drafod y bwydydd yn hawdd. Mae ffermydd mawr wedi buddsoddi llawer o arian mewn peiriannau bwydo a chyfleusterau storio, ac mae hyn yn eu galluogi i arbed amser wrth fwydo’r da byw, ac arbed arian wrth brynu’r bwydydd, yn ogystal â sicrhau dogn cyson.

4. Lefel cynhyrchedd yr anifail Bydd angen mwy o faetholion ar anifeiliaid mwy cynhyrchiol, a bydd mwy o arian yn cael ei wario ar eu bwydydd.

Wrth i famogiaid nesáu at amser yna bydd eu hangen am ynni a phrotein yn cynyddu, ond bydd eu harchwaeth yn lleihau. Felly, bydd dwysfwydydd yn cael eu rhoi iddynt ar yr adeg hon. Os yw’r mamogiaid wedi’u sganio byddant yn cael eu didoli a’u bwydo yn ôl yr amser y disgwylir iddynt yna, a sawl oen sydd ganddynt. Gellir bwydo gwartheg godro yn ôl lefel eu cynhyrchedd a chyfnod eu llaetha. Gellir bwydo yn a gwartheg sy’n tyfu yn ôl pa mor gyflym y mae’r ffermwr am iddynt dyfu, e.e. didolborthi yn cynnar er mwyn eu gwerthu yn y gwanwyn pan fydd prisiau’n uchel.

5. Rheolau’n ymwneud â sicrwydd fferm neu safonau organig

57

Page 58: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Hwyrach y bydd rheolau arbennig yn ymwneud â’r mathau o fwydydd y gellir eu defnyddio, e.e. mae terfynau i faint o fwydydd confensiynol y gellir eu defnyddio ar fferm organig.

Paratoi dogn

Er mwyn cyfrif dogn bydd angen gwybod: Maint yr anifail Lefel cynhyrchedd yr anifail

Gyda’r wybodaeth hon bydd modd i chi gyfrif: Archwaeth yr anifail (faint o fater sych y bydd yn ei fwyta) Angen yr anifail am ynni (ME) a phrotein

Mae modd defnyddio tablau dadansoddi silwair neu fwyd er mwyn cyfrif swm yr ME, y protein a’r mwynau sydd ar gael yn y bwydydd, a chyfrif y dogn.

Erbyn hyn, defnyddir rhaglenni cyfrifiaduron i gyfrif dognau, am fod y rhain yn gallu cynnwys ffactorau fel pris bwydydd, a’r ystod o wahanol fwydydd sydd ar gael i’w rhoi yn y cymysgedd, yn y cyfrifiadau. Mae’n bosibl, serch hynny, i gyfrif dognau syml yn eithaf cyflym. Y dogn rhataf yw’r dogn cost leiaf.

Cyfrif y dogn

Mae modd cyfrif dognau syml drwy ddefnyddio sgwâr Pearson i ddyfalu’r cydbwysedd rhwng brasfwydydd a dwysfwydydd. Er mwyn i’r dogn a gyfrifir gael yr effaith angenrheidiol, rhaid i archwaeth yr anifail fod yr hyn y disgwylir iddo fod. . Tasg Cyfrifwch y dogn ar gyfer mamog 70Kg sy’n cario gefeilliaid ac sydd ar fin

yna. Mae’r famog yn cael ei chadw dan do, a’r prif fwyd mewn swmp sydd ar gael ar y fferm yw silwair.

1. Chwilio am anghenion dyddiol y ddafad am brotein ac ynni metaboladwy (ME) Ynni angenrheidiol (ME) 16.5 MJ Protein crai treuliadwy (DCP) 132g

2. Chwilio am swm y mater sych y gall y famog ei fwyta mewn diwrnod (archwaeth) Archwaeth 1.33 Kg y dydd o fater sych

3. Cyfrifwch y swm cyfartalog o ynni sydd ei angen ym mhob cilogram o fater sych

Ynni y bydd y famog ei angen = Swm yr ynni sydd ei angen ym mhob Archwaeth cilogram o fater sych (DM)

Ynni 16.5MJ = 12.4 MJ/Kg o fater sych 1.33 Kg

58

Page 59: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

4. Dewiswch fwydydd sy’n addas i’r dogn. Er mwyn i’r cyfrifiad lwyddo, rhaid cael un â gwerth ynni uwch na’r cyfartaledd a gyfrifwyd yng ngham 3, ac un â gwerth ynni is na’r cyfartaledd.

Dangosir dau fath posibl o fwyd isod. Daeth y wybodaeth hon o dabl gwerthoedd bwyd.

Silwair ME (ynni) 12.0 MJ/kg DM DCP (protein) 125 g/kg DM Mater sych 25%

Bwyd cyfansawdd ME (ynni) 12.9 MJ/kg DM DCP (protein) 140 g/kg DM

Mater sych 86%

5. Defnyddiwch sgwâr Pearson er mwyn cyfrif cydbwysedd y gwahanol fwydydd i’w defnyddio.

Gwahaniaeth rhwng silwair a’r cyfartaledd =0.4MJ

Bwyd cyfansawdd 12.9 MJ/Kg

Cyfartaledd sydd ei angen

12.4MJ/Kg

Gwahaniaeth rhwng y bwyd cyfansawdd a’r cyfartaledd =0.5 MJ Silwair 12.0 MJ/Kg

Cyfanswm =0.4+0.5 =0.9

Gellir defnyddio’r ffigurau hyn i gyfrif cymhareb y ddau fwyd yn y dogn

Silwair Ffigur gyferbyn X Archwaeth = 0.5 X 1.33kg = 0.73kg silwair DM

Cyfanswm 0.9 Bwyd cyfansawdd Ffigur gyferbyn X Archwaeth = 0.4 X 1.33kg = 0.6kg bwyd cyfansawdd DM Cyfanswm 0.9

59

Page 60: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Byddai hyn yn rhoi cyfanswm o 0.73kg +0.6 kg = 1.33kg o fater sych yn y dogn (sy’n cyfateb i archwaeth y ddafad).

6. Dylid gwirio’r ffigurau er mwyn sicrhau bod lefelau’r ynni a’r protein yn gywir.

Lefel ynni Silwair mater sych X ynni i bob Kg = swm yr ynni o’r silwair

0..73kg X 12.0 MJ/Kg = 8.8 MJ Bwyd cyfansawdd mater sych X ynni i bob Kg = swm yr ynni yn y bwyd

cyfansawdd 0.6kg X 12.9 MJ/Kg = 7.7MJ

Felly, bydd cyfanswm ME y dogn yn 8.8MJ +7.7MJ=16.5MJ

Lefel Protein Silwair mater sych X protein y Kg = swm y protein o’r silwair

0.73kg X 125g/Kg = 91g Bwyd cyfansawdd mater sych X protein y Kg = swm y protein yn y

bwyd cyfansawdd 0.6kg X 140g/Kg = 84 g

Felly, bydd cyfanswm y protein crai treuliadwy yn 175g; mae hwn yn uwch na’r gofynion dyddiol o 132 g.

Os defnyddir Sgwâr Pearson a chyfrifo bod ynni’r dogn yn gyfartal ag anghenion yr anifail ond bod cyfrifiad cynnwys protein y dogn yn uwch nag anghenion yr anifail, yna gellir ail gyfrifo’r dogn gan ddefnyddio dwysfwyd a llai o brotein ynddo.

7. Newidiwch y symiau o fwyd yn bwysau ffres Swm y bwyd X 100 = Pwysau ffres (Kg)

% Mater sych

Silwair 0.73Kg X 100 = 2.9kg o silwair ffres 25

Bwyd cyfansawdd 0.6Kg X 100 = 0.7Kg o fwyd cyfansawdd

86

Gellir defnyddio taenlen i wneud y cyfrifon uchod.

Gellir gwneud cyfrifiadau mwy cymhleth er mwyn canfod cydbwysedd rhwng mwy na dau fath o fwyd, ac er mwyn ystyried effaith ansawdd cyfnewidiol bwyd ar archwaeth a chynhyrchedd yr anifail (e.e. dognau llaeth). Defnyddir rhaglenni cyfrifiadurol arbenigol i wneud y rhan fwyaf o’r cyfrifiadau hyn.

60

Page 61: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Detholiadau o dablau dognau:

1. Gofynion mamog cyn yna Wythnosau cyn yna

Senglau Gefeilliaid Pwysau’r famog

Cyfansoddion y diet

6 4 2 0 6 4 2 0 DM% 1.30 1.25 1.15 1.05 1.30 1.23 1.10 0.95

ME (MJ) 7.8 8.6 9.5 10.5 8.3 9.6 11.1 12.8 50Kg

DCP (g) 62 66 74 92 69 77 88 105 DM% 1.56 1.50 1.38 1.26 1.56 1.47 1.32 1.14

ME (MJ) 8.8 9.8 10.8 11.9 9.4 10.9 12.7 14.7 60 Kg

DCP (g) 70 74 84 104 78 87 90 119 DM% 1.82 1.75 1.61 1.47 1.82 1.71 1.54 1.33

ME (MJ) 9.9 10.9 12.1 13.4 10.6 12.3 14.2 16.5 70Kg

DCP (g) 76 82 92 115 86 96 110 132

2. Enghreifftiau o dablau dadansoddi bwydydd

Enw Mater sych (%) Ynni metaboladwy (MJ/Kg DM)

Protein crai treuliadwy (g/Kg DM)

Porfa dda 20 13.1. 125 Porfa wael 23 9.8 60 Barlys 86 12.8 90 Gwenith 86 13.6 118 Ceirch 86 12.0 8.5 Swêds 11 14.0 65 Maip 10 12.7 70 Gwellt gwenith 86 6.1 10 Mwydion betys siwgr gyda thriagl sych

86 12.5 80

Blawd ffa soia wedi’i echdynnu

90 13.4 445

61

Page 62: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Enghreifftiau o werthoedd bwyd (o The Modern Shepherd)

Enw Mater sych (%) Ynni metaboladwy (MJ/Kg DM)

Protein crai treuliadwy (g/Kg DM)

Silwair 25 12.0 125 Cymysgedd cartref

86 12.9 140

Uchod mae enghreifftiau o fwydydd eraill a ddefnyddir ar y fferm. Dylech nodi bod ansawdd y silwair a chyfansoddiad y cymysgedd cartref yn amrywio’n fawr.

Pwyntiau i’w cofio wrth gyfrif dognau: Gwnewch yn si r fod yr ateb wastad yn un synhwyrol Mae ansawdd bwyd yn amrywio, e.e. ni fydd dadansoddiad yr holl silwair a wneir ar y fferm yn union yr un fath Defnyddir ffigurau mater sych er mwyn cyfrif dognau. Rhaid eu newid i bwysau ffres er mwyn gwybod yr union swm i’w roi yn fwyd Gall fod llawer o amrywiaeth, mewn maint neu lefel y cynhyrchu, er enghraifft, rhwng gwahanol unigolion mewn gr p o dda byw Bydd angen ystyried nodweddion eraill y bwydydd, fel y math o brotein sydd ynddynt, a lefelau’r siwgr, startsh, ffibr a mwynau.

Cyfeiriadau a darllen pellach

Animal Nutrition (2002) J. F. D. Greenhalgh, C.A. Morgan, R. Edwards, Peter McDonald Longman

W.N Ewing (1997). The Feeds Directory. Context

Primrose McConnnell (2003). The Agricultural Notebook.Blackwell Publishing

Teagasc (1994). Introduction to Farm Animals. Teagasc

D.G.M. Thomas ac eraill (1983). Animal Husbandry. Bailliere Tindall

Andrew W Speedy (1993). Sheep Production. Science into Practice. Longman Scientific and Technical

David Brown a Sam Meadowcroft (1989). The Modern Shepherd. Farming Press

J. M. Wilkinson (2005). Silage. Chalcombe Publications

62

Page 63: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Pennod 4 - Lletya da byw

Rhesymau dros letya da byw Er mwyn atal sathru’r tir yn ystod y gaeaf (er mwyn atal difrod a bodloni anghenion trawsgydymffurfio) Er mwyn hwyluso bwydo ac archwilio da byw Er mwyn rhoi cysgod i’r anifeiliaid Er mwyn darparu gwell amodau gwaith i’r stocmon Er mwyn cynyddu nifer y da byw y gellir eu cadw ar y fferm

Nid oes angen gwres ychwanegol ar anifeiliaid llawndwf pan fyddant yn cael eu lletya, ond gallai fod ei angen ar anifeiliaid ifainc fel moch bach yn yr ardal ddidolborthi (creep area).

Gofynion lletya da byw

Mae pob cod lles yn amlinellu gofynion lletya gwahanol ddosbarthiadau o dda byw. Rhaid rhoi sylw i ffactorau pwysig sy’n berthnasol i bob math o lety, e.e. awyru, draenio, ardaloedd gorwedd, a threfniadau bwydo. Pan gaiff anifeiliaid eu lletya mae ganddynt lai o reolaeth dros eu hamgylchedd, e.e. llai o le i osgoi anifeiliaid sy’n eu bwlïo, neu symud o fan lle mae’r gwasarn yn frwnt. Mae’n bwysig iawn felly eu bod yn cael eu harchwilio’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn iawn.

Awyru

Er mwyn i’w hamgylchedd fod yn iach, mae angen digon o awyr iach ar anifeiliaid sy’n cael eu cadw dan do. Mae llif da o aer trwy adeilad yn gostwng lleithder ac yn lleihau cyddwysiad. Mae awyru da hefyd yn lleihau nifer yr achosion o glefydau resbiradol drwy waredu’r amgylchedd lle y gall organebau sy’n achosi clefydau ffynnu. Y nod yw sicrhau llif da o aer heb ddrafftiau, a chynnal tymheredd cyfforddus gan osgoi gorboethi.

63

Page 64: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Awyriad drwy’r cribyn

Gwynt ffres i mewn

Gwynt ffres i mewn Awyr cynnes yn symud ar i fyny

Mae systemau lletya gwartheg a defaid yn y DU yn dibynnu ar awyru naturiol, gydag aer yn cael ei dynnu i mewn trwy ochrau’r adeilad ( e.e. trwy fyrddau Swydd Efrog), ac yn gadael trwy awyrellau (vents) yn y to (e.e. cribau agored). Gellir gosod system awyru b eredig sy’n chwythu aer i mewn i adeilad. Mae systemau o’r fath yn cynyddu’r llif aer ar adegau arbennig, e.e. ar ddyddiau poeth a llaith.

Ffig 23 Awyru p eredig mewn sied biff

64

Page 65: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

Mae angen awyriad ar dda byw er mwyn sicrhau nad oes gormod o lwch yn yr aer, ac er mwyn atal nwyon gwenwynig rhag cronni. Gall nwyon o slyri neu wasarn gronni i lefelau sy’n beryglus i dda byw a gweithwyr fferm. Pan gaiff slyri ei gorddi neu’i droi mae’n rhyddhau rhagor o nwy, ac mae arwyddion mewn llawer o adeiladau i atgoffa pobl o’r peryglon. Os oes rhaid corddi neu droi slyri sydd mewn storfa o dan yr adeilad, ac er mwyn osgoi problemau, dylid symud da byw allan o’r adeiladau. Y prif nwyon a gynhyrchir yw carbon deuocsid (CO2), methan (CH4), amonia (NH3) a hydrogen sylffid (H2S).

Cyfraddau stocio

Y ‘gyfradd stocio’ yw nifer yr anifeiliaid y gellir eu cadw ar arwynebedd penodol o dir. Defnyddir y term ‘dwysedd lletya’ pan gedwir yr anifeiliaid dan do. Bydd y dwysedd yn amrywio yn ôl y system, y mathau o lety, ac oedran a math y da byw.

Tabl 1 – Gofynion gofod defaid sy’n cael eu lletya’n rhydd ar wellt

Mamogiaid llawr gwlad (60-90kg pwysau byw)

1.2-1.4 m 2 o ofod llawr i bob mamog yn ystod beichiogrwydd

Mamogiaid llawr gwlad gydag yn wrth eu traed (hyd at 6 wythnos oed)

2.0-2.2 m 2 o ofod llawr i bob mamog ac oen / yn

yn a defaid rhwng 12 wythnos a 12 mis oed

0.75-0.9 m 2 o ofod llawr i bob oen

Hyrddod 1.5-2.0 m 2 o ofod llawr yr un

(Daw’r wybodaeth uchod o ran o dabl gofynion gofod y Cod ar Gyfer Lles Defaid www.cefngwlad.cymru.gov.uk ).

Lle mae’n bosibl, dylid cadw mamogiaid beichiog mewn grwpiau o lai na 50 gan fod hyn yn hwyluso’r gwaith o roi sylw unigol iddynt adeg yna. Os cedwir gwartheg mewn ciwbiclau yr argymhelliad yw bod 5% yn fwy o giwbiclau nag sydd o wartheg yn y gr p sydd i’w letya. Rhaid i giwbiclau fod yn ddigon mawr i’r da byw sy’n cael eu lletya. Er enghraifft, mae ciwbiclau a godwyd i wartheg Friesian yn rhy fach i wartheg Holstein. Ar y cyfan, gwartheg benywaidd a gedwir mewn ciwbiclau am fod gwrywod yn baeddu’r gwasarn wrth iddynt biso. Rhaid i fuarthau gwellt fod yn ddigon mawr er mwyn i bob anifail fedru gorwedd a symud o gwmpas yn rhydd.

Tabl 2. Gofynion gofod gwartheg bîff mewn buarthau gwellt

Pwysau byw’r anifail (kg)

Arwynebedd gwasarn (m 2 /pen)

Arwynebedd ar gyfer crwydro a

bwydo (m 2 /pen)

Cyfanswm yr arwynebedd

(m 2 /pen)

200 2.0 1.0 3.0 300 2.4 1.0 3.4 400 2.6 1.2 3.8

65

Page 66: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

500 3.0 1.2 4.2 600 3.4 1.2 4.6

Wrth letya gwartheg, rhaid ystyried maint a math yr anifeiliaid, y math o wasarn, y system gynhyrchu, a p’un a oes gan yr anifeiliaid gyrn.

Os cedwir gwartheg ar loriau estyllog, yna bydd eu gofynion gofod yn wahanol.

Tabl 3. Gofynion gofod gwartheg, a chafnau, sydd ar loriau estyllog.

Pwysau byw’r anifail (kg)

Arwynebedd (heb gynnwys y

cafnau) (m 2 /pen)

Gofod cafn ar gyfer bwydo cyfyngedig (m 2 /pen)

Gofod cafn ar gyfer bwydo rhydd

(m 2 /pen)

200 1.1 400 100 300 1.5 500 125 400 1.8 600 150 500 2.1 600 150 600 2.3 600 150

Daw’r tablau o ‘Clean beef cattle for slaughter. A guide for producers.’

Lloriau a gwasarn

Dylai fod gan dda byw fannau gorwedd sych a chyffyrddus, sy’n sych ac yn lân dan draed. Mae hyn yn golygu bod angen eu glanhau, a newid y gwasarn, yn rheolaidd. Mae llawer o ffermydd sydd ddim yn tyfu grawnfwydydd, ac maen nhw wedi chwilio am ddulliau rhatach na gwasarn gwellt, e.e. ciwbiclau ac estyll. Os nad yw’r lloriau na’r mannau gorwedd yn sych ac yn lân, bydd hyn yn destun pryder o safbwynt lles anifeiliaid, a bydd hefyd yn cynyddu nifer yr achosion o glefydau.

Os defnyddir estyll, rhaid iddynt fod o’r maint cywir ar gyfer y da byw dan sylw. Ni ddylid rhoi mamogiaid ac yn ifainc ar loriau estyllog oni bai bod gwasarn addas ychwanegol ar eu cyfer. Ni ddylid defnyddio lloriau sy’n gyfan gwbl estyllog ar gyfer gwartheg bridio, ond gallai adeiladau sydd ag estyll mewn mannau (e.e. ciwbiclau gyda thramwyfa estyllog yn y canol) fod yn addas. Mantais estyll yw eu bod yn gadael i dail a phiso ddraenio o’r adeilad, gan helpu i gadw’r amgylchedd yn lân. Rhaid archwilio a chynnal yr estyll yn rheolaidd, neu bydd y da byw yn niweidio’u traed, e.e. crafangau yn cael eu dal rhwng yr estyll.

Mae angen i giwbiclau gael digon o wasarn glân er mwyn i’r gwartheg fod yn gyfforddus, neu gallant ddatblygu briwiau cyswllt neu friwiau gwasgedd. Gallai’r gwasarn amrywio, e.e. matiau rwber gyda naddion pren drostynt. Er mwyn sicrhau bod y gwasarn yn cadw’n lân, dylid carthu’r tramwyfeydd (o leiaf ddwywaith y dydd yn achos tramwyfeydd heb estyll).

Ychydig iawn o anifeiliaid sy’n cael eu clymu tra byddant dan do. Nid yw clymu hychod na lloi’n gyfreithlon bellach, ac os clymir buchod mewn siediau

66

Page 67: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

rhaid iddynt fod yn rhydd i symud o gwmpas o leiaf unwaith y dydd er mwyn iddynt gael cyfle i ymarfer. Pan fyddant wedi’u clymu, rhaid iddynt fedru gwastrodi’u hunain.

Rhaid i loriau, mewn tramwyfeydd a mannau eraill, gael eu cynnal yn dda. Os ydynt yn rhy arw gallant niweidio traed y da byw, ac os ydynt yn rhy lyfn gallant fod yn llithrig, ac felly’n beryglus i’r da byw a’r stocmon.

Rhaid cadw gwasarn yn lân. Yn ôl y codau lles ar gyfer gwartheg godro fe sonnir am yr angen i newid y gwasarn i gyd bob 4 – 6 wythnos rhag i wartheg godro a gedwir ar fuarthau gwellt ddatblygu mastitis amgylcheddol. Mae cynlluniau iechyd rhai ffermydd unigol yn awgrymu newid y gwasarn bob pythefnos.

Bwyd a d r

Rhaid darparu d r glân a ffres i dda byw a gedwir dan do. Bydd y systemau a ddefnyddir yn amrywio, e.e. bwcedi ar gyfer lloi mewn llociau unigol; powlenni yfed awtomatig neu gafnau d r. Rhaid archwilio, glanhau a chynnal y cyfleusterau’n rheolaidd. Mae’n bwysig bod y system dd r yn addas ar gyfer y math a nifer yr anifeiliaid a gedwir dan do, a bod y powlenni a’r cafnau d r wedi’u gosod mewn mannau lle nad ydynt yn debygol o rewi na chael eu halogi. Pan fydd anifeiliaid yn cael eu bwydo ar ychydig o fwydydd cyfansawdd rhaid bod digon o le ar eu cyfer wrth y cafnau er mwyn iddynt i gyd fedru bwyta ar yr un pryd heb iddynt fod dan straen na chael eu bwlïo. Awgrymir 30cm o hyd cafn yr un ar gyfer mamogiaid yr ucheldir, a 45cm yr un ar gyfer mamogiaid llawr gwlad. (Gweler tabl 3 ar gyfer enghreifftiau o ofynion gofod gwartheg). Os yw’r anifeiliaid i’w bwydo’n rhydd (cymryd eu tro wrth y man bwydo), yna mae modd lleihau’r gofod ar gyfer pob anifail; bydd angen 10 -12cm yr un o hyd cafn ar ddefaid sy’n bwydo’n rhydd ar wair neu silwair.

Golau

Yr un yw’r gofynion ar gyfer defaid a gwartheg; rhaid bod digon o olau (symudol neu wedi’i osod) er mwyn gallu archwilio’r anifeiliaid yn y llety ar unrhyw adeg. Yn ystod oriau’r dydd rhaid bod digon o olau yn yr adeiladau (naturiol neu artiffisial) er mwyn gweld y da byw’n glir.

Argyfyngau

Dylai fod cynlluniau y gellir eu gweithredu mewn argyfwng fel tân. Dylai’r cynlluniau hyn roi sylw i faterion fel sut i ryddhau da byw yn gyflym ac yn ddiogel. Hefyd, rhaid ystyried effeithiau colli’r cyflenwad d r neu b er. Mewn systemau arddwys sy’n dibynnu ar b er i awyru a rheoli tymheredd, mae hyd yn oed doriad byr yn y cyflenwad p er yn gallu achosi dirywiad cyflym yn amgylchedd yr anifeiliaid. Gellir gosod generaduron er mwyn ymdopi â thoriad yn y cyflenwad p er, a gall systemau amddiffyn rhag rhew leihau’r problemau sy’n codi os bydd y cyflenwad d r yn rhewi yn y gaeaf.

67

Page 68: Gwyddor anifeiliaid - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/nvq/agriculture/level_2/c1... · Tabl 1 – Cy fraddau Resbiradu a Churi ad y Galon. (Addasiad

68

Trefnau

Rhaid archwilio da byw’n rheolaidd er mwyn sicrhau: Eu bod yn gallu mynd at ddigon o fwyd Eu bod yn gallu mynd at dd r glân Eu bod yn iach Bod eu tymheredd yn gywir Bod ganddynt ardal fyw lân a sych Bod ganddynt ddigon o awyr iach (heb ddrafftiau) Nad oes unrhyw broblemau gydag anifeiliaid eraill, e.e. moch yn cnoi cynffonnau ei gilydd, camfamaeth o yn ifainc. Nad oes unrhyw ddifrod neu draul i’r adeilad neu’r offer a allai fod yn beryglus (e.e. ymylon miniog ar ddarnau gosod metel sydd wedi’u treulio)

Bydd y drefn yn amrywio yn ôl y math o stoc. Pan fydd yna yn ei anterth gallai bugail fod yn y sied yna bron trwy’r amser, ond mae modd archwilio’r da byw eraill o bryd i’w gilydd pan gânt eu bwydo, neu adeg glanhau neu newid y gwasarn.

Cyfeiriadau a darllen pellach

www.defra.gov.uk/animalh/welfare/farmed/index mae cyswllt ar y dudalen hwn sy’n eich arwain at yr adran ar wefan DEFRA lle gellir dod o hyd i’r codau lles anifeiliaid a chyhoeddiadau perthnasol.

Mae gwybodaeth yn y Gymraeg ar wefan www.cefngwlad.cymru.gov.uk

Cod Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw - Defaid Cod Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw - Gwartheg Argyfyngau ar Ffermydd Da Byw

Primrose McConnnell (2003). The Agricultural Notebook. Pennod 25 - Farm Buildings Blackwell Publishing

Asiantaeth Safonau Bwyd (2005) Clean Beef Cattle for Slaughter- A guide for Producers

Ceir fersiwn Gymraeg ar www.food.gov.uk/multimedia/pdfs/fsacleanbeefwelsh