8
Mynediad Sylfaen Canolradd Uwch Hyfedredd Llyfryn D Llawlyfr i Ddysgwyr Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults

Llyfryn D - Uwch

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Uwch - Learner's Handbook

Citation preview

Page 1: Llyfryn D - Uwch

MynediadSylfaenCanolradd

UwchHyfedredd

Llyfryn D Llawlyfr i Ddysgwyr

Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults

Page 2: Llyfryn D - Uwch

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

CroesoShwmae, a chroeso i’ch Llyfryn D!! Nod y llyfryn hwn yw eich helpu ymgyfarwyddo â’ch cwrs, a bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi ynghylch beth i’w ddisgwyl yn ystod y misoedd nesaf. Bydd e’n rhoi gwybod i chi am gynnwys eich cwrs hefyd. Felly, ar ôl darllen y llyfryn hwn, byddwch chi’n gwybod a ydych chi wedi gwneud y gwaith yma o’r blaen neu beidio! Cofiwch – does dim asesu ffurfiol ar ein cyrsiau Uwch, ond bydd cyfle i chi i sefyll arholiad ar ôl Blwyddyn 3 neu 4!

Dych chi’n gwybod eich bod chi’n gallu dewis beth fyddwch chi’n ei ddysgu? Trwy’r Daith Iaith, bydd cyfle gyda chi i feddwl am 2 darged y tymor, a bydd eich tiwtor yn eich helpu chi i gyrraedd y targedau hyn yn y gwersi.

Os oes problem gyda chi’n setlo i mewn i’ch cwrs, siaradwch â’ch tiwtor yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni o hyd, edrychwch ar y Siart Llif Data yn y llyfryn hwn fydd yn rhoi gwybod i chi ble i fynd i gael help. Ar y tudalennau High Five, byddwch chi’n gweld ychydig o gyngor ynghylch dysgu Cymraeg.

Hefyd mae tudalen gyda ni ar Ddysgu Anffurfiol. Mae dysgu anffurfiol yn rhoi’r cyfle i chi i siarad Cymraeg y tu allan i’ch dosbarth. Dyma le byddwch chi’n wir dysgu sut i siarad Cymraeg! Os dych chi’n mynychu’r sesiynau hyn yn rheolaidd, byddan nhw’n dod yn rhan annatod o’ch proses ddysgu. Mae dywediad gyda ni yn y Gymraeg - “Dyfal donc a dyr y garreg.” Mae hyn yn bwysig iawn wrth ddysgu iaith. Cofiwch – Ymarfer Ymarfer Ymarfer!!!!!

Gwelwch hefyd fanylion am y sefydliadau Cymraeg sydd ar gael yn ardal Gwent a fydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ragor o gyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg neu yn darparu cyfle i chi i wneud cyfnod o brofiad gwaith yn Gymraeg!! Dyn ni wedi cynnwys nifer o wefannau allanol a fydd o gymorth i chi wneud astudio preifat/ychwanegol hefyd. Gofynnwn ni i’ch dosbarth benodi Cynrychiolydd Dosbarth i helpu i’ch grŵp roi adborth i ni yn y Ganolfan. Dyn ni’n gwerthfawrogi eich sylwadau a’ch awgrymiadau, a byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i newid pethau os oes angen i wella’ch profiad dysgu.

Cyn diwedd y cwrs, bydd eich tiwtor yn dweud wrthoch chi beth fyddwch chi’n ddysgu ar y cwrs Uwch y flwyddyn nesaf. Bydd eich tiwtor yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y cwrs nesaf hefyd!

Ein nod yw sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg cymaint â phosibl. Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gyda chi ar ddechrau’r cwrs, neu os oes unrhywbeth sydd yn eich poeni ynghylch eich iechyd a diogelwch, siaradwch â staff y Ganolfan lle mae’ch cwrs yn cael ei gynnal. Os ydych chi’n dysgu mewn neuadd bentref, neu rywle lle nad oes aelodau o staff o gwmpas, dych chi’n gallu cysylltu â fi, Sean Driscoll, Rheolwr Ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent gan ddefnyddio’r manylion isod.

Mwynhewch eich cwrs!!!!

Sean

[email protected] 01495 333701

Page 3: Llyfryn D - Uwch

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

Manylion y CwrsUwch 1 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 1 i 15 o’r cwrs Uwch. Mae’r Unedau yn cynnwys gweithgareddau sgwrsio, gramadeg, deialog, darllen/gwrando a deall, dril, idiomau, geirfa, mynegi barn, ysgrifennu llythyrau a gwaith cartref. Mae Uwch 1 yn delio yn benodol â’r Cymal Enwol, Pwyslais, Y Lluosog, Taw/Mai, Yn/Mewn, Yr Amodol a’r Amhersonol.

Uwch 2 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 16 i 30 o’r cwrs Uwch. Mae’r Unedau yn cynnwys gweithgareddau sgwrsio, gramadeg, deialog, darllen/gwrando a deall, arddywediaid, cofio gwahaniaethau, dril, idiomau, geirfa, mynegi barn, ysgrifennu llythyrau, llenwi bylchau a gwaith cartref. Mae Uwch 2 yn delio yn benodol ag Arddodiaid, y Goddefol, Rhifolion, Trefnolion, Blwyddyn/Diwrnod/Noson, Byth/Erioed, Cynffoneiriau, Bues i/Ro’n i ac Hwn/Hon/Hyn.

Uwch 3 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 1 i 13 o gwrs Uwch 2. Mae’r Unedau yn cynnwys gweithgareddau sgwrsio, gramadeg, gwrando/gwylio/darllen a deall, ysgrifennu llythyrau, geirfa, cefndir Cymraeg a gwaith cartref. Mae Uwch 3 yn delio yn benodol â Threigladau, Yr Iaith Lenyddol, Meddiant, Cymalau ‘a’ ac ‘y’, ‘For’, ‘Gan’, Amherffaith – Y Ffurf Gryno, Darnau Ffolio, A/Ac/Ag/Gyda/Gydag.

Uwch 4 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 14 i 26 o gwrs Uwch 2. Mae’r Unedau yn cynnwys gweithgareddau gwylio/gwrando/darllen a deall, ysgrifennu ymatebion i bwnc llosg, ysgrifennu traethodau, llythyrau ffurfiol, llenwi bylchau, geirfa, darnau ffolio, darnau cofnodol, cefndir Cymraeg a gwaith cartref. Ar ôl Uwch 4 awgrymir eich bod yn barod i sefyll yr arholiad Uwch.

Ydych chi ar y lefel iawn? Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel, cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir. Fel arall, gallwch gwblhau darganfyddwr lefel ar-lein y BBC - www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/level_test/

Edrychwch ar y gwefannau yma:

• www.learnwelsh.org.uk• http://gwent.ybont.org• www.s4c.co.uk• www.bbc.co.uk• www.canolfanpeniarth.org/CBAC/• www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg/cymarfer_CC/index.php.cy• www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg/geiriadur• http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/myfyrwyr/adnoddau/fideoscymorthcyflym/• www.golwg360.com• www.geiriaduracademi.org• www.cysgliad.com• www.cronfacio.co.uk

Gwefannau defnyddiol

Page 4: Llyfryn D - Uwch

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

Cym

orth

i dd

ysgu

Colli

dos

bart

h?

Prob

lem

au

ynga

nu

Prob

lem

au

gyda

’r cw

rs

Siar

adw

ch â

’ch ti

wto

r / c

ynry

chio

lydd

do

sbar

th. O

s by

dd y

pr

oble

m h

eb e

i dat

rys

ffon

iwch

Sea

n D

risc

oll

0149

5 33

3701

Siar

adw

ch â

’ch ti

wto

r. Ew

ch i

Y Bo

nt a

de

fnyd

dio’

r adn

odda

u ar

-lein

. Myn

ychu

Cy

rsia

u Ys

gol U

ndyd

d a

Phen

wyt

hnos

sy’

n ca

el e

u ha

nelu

tuag

at

ado

lygu

. Ast

udio

pr

eifa

t.G

ofyn

nwch

i’ch

ti

wto

r am

hel

p yc

hwan

egol

. G

wyl

iwch

S4C

a

gwra

ndew

ch a

r Ra

dio

Cym

ru a

Cds

y

Cwrs

Pa fa

th o

gym

orth

syd

d ar

gae

l?

Page 5: Llyfryn D - Uwch

Os

oes

genn

ych

unrh

yw b

ryde

ron

o ra

n Ie

chyd

a

Dio

gelw

ch, c

ysyl

ltw

ch â

Ste

ffan

Web

b st

effan

.web

b@co

legg

wen

t.ac.

uk n

eu 0

1495

333

735

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

Para

toi t

uag

at

Arh

olia

d

Ana

bled

dau

Ana

wst

erau

e.

e. D

ysle

xia

/ D

ysle

csia

Cym

orth

i dd

ysgu

Mae

’r cy

mor

th a

r gae

l i

ddys

gwyr

y n

odw

yd b

od

gand

dynt

ana

wst

erau

dy

sgu

ac s

ydd

ange

n cy

mor

th y

chw

aneg

ol w

rth

ddys

gu C

ymra

eg. E

falla

i y

bydd

wch

hef

yd y

n ga

llu c

ael

amse

r ych

wan

egol

mew

n ar

holia

dau.

Byd

d an

gen

i chi

ga

el e

ich

ases

u ne

u dd

arpa

ru

tyst

iola

eth

fedd

ygol

. Mae

an

gen

i ddy

sgw

yr g

wbl

hau

Ffur

flen

B.

Traf

odw

ch g

yda’

ch

tiw

tor.

Myn

ychu

cy

rsia

u ad

olyg

u i’c

h pa

rato

i ar g

yfer

yr

arho

liad.

Ast

udio

pr

eifa

t. Cy

syllt

wch

â’

r Cyd

-lyny

dd

arho

liada

u Ca

trin

Ca

mer

on 0

1495

33

3782

Traf

odw

ch g

yda’

ch

tiw

tor n

eu g

yda

staff

yn

g N

ghan

olfa

n y

cwrs

. Os

bydd

pro

blem

yn

par

hau,

cys

yllt

wch

â

Sean

Dri

scol

l 014

95

3337

01

Page 6: Llyfryn D - Uwch

5Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

Sut i gael y gorau o’ch cwrs: y 5 uchaf!

Cofiwch fwynhau!

1. Dewch i bob gwers bosib yn brydlon Os ydych yn absennol oherwydd salwch neu wyliau, gadewch i’ch tiwtor wybod cyn gynted ag y bo modd. Yn achos absenoldeb annisgwyl, bydd eich tiwtor yn cysylltu â chi. Mae colli 4 gwers heb ymddiheuriad yn golygu colli’ch lle ar y cwrs.

2. Ansicr o rywbeth? Wedi colli gwers neu wersi? Ansicr o rywbeth? Peidiwch â phoeni mae help wedi cyrraedd! Gofynnwch i’ch tiwtor helpu gydag unrhyw waith dal i fyny. Cofiwch ymweld â Y Bont a defnyddio’r adnoddau ar-lein. Mynychwch Ysgolion Undydd a Chyrsiau Penwythnos a pheidiwch ag anghofio edrych ar yr holl wefannau Cymraeg sydd ar gael erbyn hyn.

3. Cadwch eich gwaith a’ch Taith Iaith mewn ffeil

4. Cofiwch eich gwaith cartref!

5. Manteisiwch ar gyrsiau atodol a dysgu anffurfiol Mae’r Ganolfan yn trefnu cyrsiau undydd a phenwythnosau rheolaidd. Dyma ffordd wych i helpu’ch dysgu. Bydd eich tiwtor yn rhoi taflen i chi ar ddechrau’r cwrs ac yn eich atgoffa am y cyrsiau hyn; maent yn boblogaidd iawn! Mae hefyd gyrsiau wythnos - sef yr Ysgolion Haf. Cyfle gwych i wella’ch Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill ar bob lefel!

Tu fas i’r dosbarthOeddech chi’n gwybod bod Dysgu Anffurfiol yn gyfrifol am 80% o’n dysgu - dim ond 20% sy’n dod o’r ystafell ddosbarth?Dyma pam mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi i ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. O foreau coffi i glybiau darllen, teithiau i lefydd fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru i bartÏon Haf a Nadolig - mae’r cyfleoedd yma i chi. Felly cadwch lygad allan am ddigwyddiadau yn eich ardal chi!

Rydym yn cynnal Cyrsiau Penwythnos drwy gydol y flwyddyn ar Gampws Pont-y pŵl Coleg Gwent. Mae’r rhain yn cynnwys 14 awr o wersi gyda thiwtoriaid profiadol iawn. Mae’r dosbarthiadau yn anffurfiol, gan roi amser i chi adolygu patrymau blaenorol a ddysgwyd yn y dosbarth.

Mae Ysgolion Haf yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae’n nhw’n ffordd berffaith i orffen y flwyddyn, ac bydd yn eich paratoi ar gyfer mynd ymlaen i’r cam nesaf. Os ydych yn dilyn cwrs newydd, yna mae’n ffordd dda o ddechrau eich taith ddysgu Cymraeg. Dewch i gwrdd â dysgwyr eraill sydd wedi dilyn yr un llwybr â chi. Gofynnwch iddynt am awgrymiadau o ran dysgu Cymraeg a sut y mae’r profiad wedi bod ar eu cyfer. Mae’r Ysgolion Haf yn cynnwys 30 awr o ddysgu dros gyfnod o bum diwrnod.

Mae Ysgolion Undydd yn cael eu trefnu gan ein Partneriaid ac yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwent. Maent yn cynnwys 5 awr o ddysgu ar ddydd Sadwrn.

Page 7: Llyfryn D - Uwch

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn credu mewn gwrando ar farn dysgwyr ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr i gael ymwneud yn uniongyrchol wrth asesu a llunio eu profiadau dysgu eu hunain wrth ddysgu Cymraeg. Rydym am i chi wybod y byddwn yn gwrando ar eich barn ac y byddant yn gwneud gwahaniaeth.

Sut y gallwch chi gymryd rhan? • Cwblhau’r “Taith Iaith” • Cael eich ethol fel Cynrychiolydd Dosbarth a chymryd rhan mewn cyfarfodydd y Fforwm

Taith Iaith:

Trwy broses y “Taith Iaith”, byddwch yn cael y cyfle i osod 2 darged y tymor, a bydd y tiwtor yn eich helpu i gyrraedd y targedau hynny yn ystod y gwersi.

Cynrychiolwyr Dosbarth:

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, bydd pob dosbarth yn ethol o leiaf un Cynrychiolydd Dosbarth. Yna, bydd y cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i fynychu gwahanol sesiynau sydd wedi eu cynllunio i’w cefnogi yn eu rôl, ee gan sicrhau bod cynrychiolwyr yn cynrychioli barn y dosbarthiadau. Bydd cynrychiolwyr dosbarth yn cael eu gwahodd i gyfarfod panel y dysgwyr / grŵp ffocws neu ateb holiadur byr syml gyda chymorth eu cyd-aelodau dosbarth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynrychiolydd Dosbarth, cysylltwch â’ch tiwtor neu Antoni Morgan, Swyddog Llais y Dysgwr ar 01495 333710.

Llais y Dysgwr

Yn ystod y cwrs Uwch cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.

Arholiadau

Peidiwch â phoeni mae cymorth ar gael!! Bydd eich tiwtoriaid yn eich paratoi chi yn dda ar gyfer yr arholiadau yn y dosbarthiadau wythnosol. Ond cofiwch hefyd am ein cyrsiau adolygu. Bydd y cyrsiau yma yn canolbwyntio ar basio arholiadau – sut i godi marciau, yn hytrach na’u colli. Bydd cyfleoedd i ymarfer y cyfweliadau llafar – sef y rhan bwysicaf o’r arholiad. Cewch chi adborth unigol oddi wrth y cyfwelwyr hefyd!

Bydd cyfle i chi i wneud profiad gwaith am ddiwrnod neu ddau fel rhan o’r prosiect arholiad mewn nifer o lefydd yng Ngwent. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth

Gofynnwch i’ch tiwtor am wybodaeth am yr arholiadau yma. Maen nhw’n werthfawr iawn, yn enwedig i’r rhai ohonoch chi sy eisiau ennill cymhwyster. Rhowch darged i’ch hunain i sefyll a phasio un o’r arholiadau yma. Os dych chi’n dysgu yn y gweithle, cofiwch, dwy iaith, dau ddewis.

Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg o’r enw Defnyddio’r Gymraeg. Mae’r arholiadau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr i ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol.

Page 8: Llyfryn D - Uwch

Beth sy nesaf? Ar ddiwedd y cwrs Uwch, byddwch yn symud ymlaen i Hyfedredd. Ar y lefel hon bydd pob dosbarth Hyfedredd ag anghenion gwahanol. Ond y nod cyffredinol yw datblygu sgiliau presennol y dysgwyr ymhellach er mwyn eu symud o fyd y dysgwyr i fyd y Cymry Cymraeg. Er mwyn gwneud gweithgareddau fydd yn diwallu anghenion penodol y grŵp dan sylw rhoddir pwyslais mawr ar hyblygrwydd y cwrs ac oherwydd hyn addesir cynnwys y gwersi’n benodol ac yn arbenigol ar gyfer y grŵp. Defnyddir ystod eang o adnoddau er mwyn diwallu gofynion y dosbarth. Defnyddir Ffeil Hyfedredd CBAC sy’n cynnwys pum uned: Cyflwyno, Cyfieithu a Thrawsieithu, Crynhoi a Gwerthuso, Project Ymchwil ac Ysgrifennu Graenus yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau a deunyddiau eraill i wella rhugledd aelodau’r cwrs ymhob un o’r medrau.

Cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 os oes angen cyngor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydym bob amser

yma i’ch helpu chi ar eich taith ddysgu.

Bwriedir defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau er mwyn sicrhau y codir sgiliau y dysgwyr. Bydd y cwrs yn adolygu’r holl gystrawennau a gyflwynwyd hyd yn hyn. Defnyddir nifer o lyfrau/adnoddau gramadegol (yn eu plith):

• Llenwi Bylchau – Politechnig Cymru • Defnyddiau Gloywi – CBAC • Deunyddiau Gloywi Hyfedredd CBAC 1 & 2 gan gynnwys hen bapurau

Uwch a Hyfedredd • Taclo’r Treigladau - David Thorne• Cymraeg Graenus - Phylip Brake• Cwrs Meistroli Canolfan Caerdydd • Adnoddau Y Banc - Acen• Adnoddau Y Tiwtor• Yn ogystal defnyddir erthyglau o Golwg, Golwg 360, Barn, Sgrîn, Y Cymro a

gwefannau perthnasol• Ar gyfer gweithgareddau deunyddiau clyweled defnyddir (yn eu plith):• Gwrando’n Astud – CBAC • Gwylio’n Graff• Eclips – Cymru a Chymreictod• Deg o’r Adeiladau Pwysicaf yng Nghymru – Dr John Davies

Yn ystod y cwrs Uwch cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.