8
DEILLIANNAU CYSYLLTIADAU CWRICWLWM DYSGU CENEDLAETHOL Bydd pob disgybl: Yn deall bod tri math gwahanol o ficrobau. Yn gwybod eu bod i’w cael ym mhobman. Bydd disgyblion mwy galluog: Yn gwybod bod bacteria buddiol i’w cael yn ein cyrff. Yn deall bod microbau o wahanol feintiau. Cyfnod Allweddol 3 Amrediad: 7 Cyfathrebu: C1, C2 Sgiliau: D1, D3, D4 ABCh Iechyd a lles emosiynol: 1a) Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol Amcan o Amser Addysgu 50 munud Adran 1.1, mae’r adran hon yn cyflwyno disgyblion i fyd microbau, yn gyntaf trwy archwilio’r gwahanol fathau o ficrobau a’u siapiau, yna drwy edrych yn fanwl ar ficrobau buddiol a niweidiol. Mae’r gweithgaredd cyflwyno hwn yn galluogi’r disgyblion i ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau a siapiau o ficrobau drwy gêm gardiau dysgu rhyngweithiol. Mae’r gweithgaredd estyn cysylltiedig yn atgyfnerthu gwybodaeth y disgyblion am strwythur microbaidd drwy baratoi posteri ymchwil. Neu, gall disgyblion ddewis ymchwilio i hanes microbioleg drwy ddatblygu poster ar linell amser microbioleg. Campylobacter MICRO-ORGANEBAU - CYFLWYNIAD

MICRO-ORGANEBAU - CYFLWYNIADWAL)/WAL Senior Pack/Senior... · 2014. 7. 31. · Fel creaduriaid byw, mae gan ficrobau ofynion twf penodol, ond mae’r rhain yn amrywio yn ôl lleoliad

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • DEILLIANNAU

    CYSYLLTIADAU CWRICWLWM

    DYSGU

    CENEDLAETHOL

    Bydd pob disgybl:

    Yn deall bod tri math gwahanol o ficrobau.

    Yn gwybod eu bod i’w cael ym mhobman.

    Bydd disgyblion mwy galluog:

    Yn gwybod bod bacteria buddiol i’w cael yn ein cyrff.

    Yn deall bod microbau o wahanol feintiau.

    Cyfnod Allweddol 3 Amrediad: 7 Cyfathrebu: C1, C2 Sgiliau: D1, D3, D4 ABCh Iechyd a lles emosiynol: 1a)

    Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

    Cenedlaethol

    Amcan o Amser Addysgu

    50 munud

    Adran 1.1, mae’r adran hon yn cyflwyno disgyblion i fyd microbau, yn gyntaf trwy archwilio’r gwahanol fathau o ficrobau a’u siapiau, yna drwy edrych yn fanwl ar ficrobau buddiol a niweidiol.

    Mae’r gweithgaredd cyflwyno hwn yn galluogi’r disgyblion i ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau a siapiau o ficrobau drwy gêm gardiau dysgu rhyngweithiol.

    Mae’r gweithgaredd estyn cysylltiedig yn atgyfnerthu gwybodaeth y disgyblion am strwythur microbaidd drwy baratoi posteri ymchwil. Neu, gall disgyblion ddewis ymchwilio i hanes microbioleg drwy ddatblygu poster ar linell amser microbioleg.

    Campylobacter

    MICRO-ORGANEBAU - CYFLWYNIAD

  • Organebau byw yw micro-organebau sy’n rhy fach i ni allu eu gweld gyda’n llygaid heb gymorth. Maen nhw ym mhob man bron ar y ddaear ac mae rhai yn fuddiol ac eraill yn niweidiol i bobl (byddwn yn trafod hyn eto). Er eu bod yn fach iawn, mae microbau o bob lliw a llun i’w cael. Mae yna dri phrif grŵp ohonyn nhw:

    Firysau – y microbau lleiaf sy’n niweidiol i bobl fel arfer. Dydyn nhw ddim yn gallu goroesi ar eu pen eu hunain. Maen nhw angen cell ‘letyol’ i oroesi ac atgynhyrchu. Yn y gell letyol maen nhw’n gallu lluosogi’n gyflym a difa’r gell wrth wneud hynny!

    Ffyngau – organebau aml-gellog sy’n gallu bod yn fuddiol a niweidiol i bobl. Mae ffyngau’n cael eu bwyd drwy ddadelfennu deunydd organig marw neu drwy fyw fel parasitau ar ddeunydd lletyol. Mae ffyngau’n amrywio o ran maint – o fod yn ficrosgopig i fod yn fawr iawn ac yn cynnwys llwydni a madarch! Gall ffwng niweidiol achosi haint neu fod yn wenwynig i’w fwyta; gall eraill fod yn fuddiol neu’n ddi-ddrwg, e.e. Penisiliwm sy’n cynhyrchu’r gwrthfiotig penisilin a gellir bwyta Agaricus (botymau madarch gwyn). Maent yn lledaenu drwy’r aer mewn sborau bach caled fel hadau. Wrth lanio ar fara neu ffrwythau, maent yn agor a thyfu o dan yr amodau cywir (lleithder).

    Bacteria – organebau un gell sy’n gallu lluosogi’n gynt a chynt bob 20 munud. Yn ystod eu twf arferol mae rhai yn cynhyrchu sylweddau (tocsinau) sy’n niweidiol iawn i bobl ac yn achosi haint (Staffylococcws aureus). Mae rhai yn hollol ddiniwed i bobl ac eraill yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i ni (Lactobasilws yn y diwydiant bwyd) ac mae rhai yn angenrheidiol ar gyfer bywyd dynol fel y rhai sy’n gysylltiedig â thwf planhigion (Rhisobacteriwm). Gelwir bacteria diniwed yn facteria nad ydynt yn bathogenaidd, a bacteria niweidiol yn bathogenaidd. Mae dros 70% o facteria yn rhai nad ydynt yn bathogenaidd.

    Gellir rhannu bacteria yn dri grŵp yn ôl eu siap – coci (peli), basili (rhodenni) a sbiralau. Gellir rhannu coci yn dri grŵp pellach yn ôl y ffordd mae’r coci wedi’u trefnu: staffylococi (clystyrau), streptococi (cadwynau) a diplococi (parau). Mae gwyddonwyr yn defnyddio’r siapiau hyn i ddweud pa haint sydd ar y claf.

    Fel creaduriaid byw, mae gan ficrobau ofynion twf penodol, ond mae’r rhain yn amrywio yn ôl lleoliad y microb. Er enghraifft, mae’n well gan ficrobau sy’n byw mewn pobl dymheredd o 37oC, mae’n well gan ficrobau sy’n byw yn awyrellau thermol y cefnfor dymheredd llawer uwch ac mae’n well gan ficrobau sy’n byw mewn rhanbarthau arctig dymheredd llawer is. Mae microbau’n amrywio hefyd o ran eu gofynion maethol. Gall newid yn yr amgylchedd ladd llawer o ficrobau, ond mae’n bwysig cofio bod microbau’n gallu addasu’n hawdd a gall newidiadau graddol olygu bod microbau’n addasu i’w hamgylchedd, e.e. bacteria sy’n datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau.

    Deunyddiau Angenrheidiol I bob disgybl Copi o TD 1 Copi o TD 2

    Copi o TD 3

    Copi o TD 4

    1.1 Micro - organebau Cyflwyniad

    Geiriau Allweddol Bacteria Byg Cell Cilia Cytoplasm Clefyd DNA Flagella Ffyngau Germ Microb Micro-organeb Microsgop Pathogen RNA Firysau

    Gwybodaeth Gefndir

    Paratoi Ymlaen Llaw

    Torrwch a lamineiddiwch set o gardiau chwarae (TD 2 – TD 4) ar gyfer pob grŵp.

    Adnoddau sydd ar gael ar y We Ffilm o’r

    gweithgaredd

    Ffotograffau amrywiol o ficrobau

    TD 1 mewn fformat MS PowerPoint

    Animeiddiad i ddangos y gwahaniaeth ym maint microbau

  • 1. Dechreuwch y wers drwy ofyn i’r disgyblion beth maen nhw’n ei wybod am ficrobau. Bydd y mwyafrif eisoes yn gwybod bod microbau’n gallu achosi salwch, ond efalla na fyddan nhw’n gwybod y gall microbau fod yn dda i ni hefyd. Gofynnwch a ydyn nhw’n gwybod am beth i chwilio pe baent am weld microbau. Ydyn nhw’n meddwl bod microbau’n bwysig i ni?

    2. Esboniwch mai microbau yw’r creaduriaid byw lleiaf ar y ddaear a bod y gair micro-organebau’n cyfieithu’n llythrennol i ficro: bach ac organeb: bywyd. Mae microbau mor fach fel na ellir eu gweld heb ddefnyddio microsgop. Anthony van Leewenhoek greodd y microsgop cyntaf ym 1676. Fe’i defnyddiodd i edrych ar eitemau amrywiol o gwmpas ei dŷ a rhoddodd y term ‘milionos’ ar y creaduriaid byw (bacteria) a welodd wrth grafu ei ddannedd.

    3. Dangoswch i’r dosbarth fod yna dri math gwahanol o ficrob: bacteria, firysau a ffyngau. Defnyddiwch TD 1 i ddangos sut mae’r tri microb hwn yn amrywio o ran siâp a strwythur. Gellir defnyddio’r adnodd ar y we yn www.e-bug.eu i helpu i ddangos meintiau amrywiol bacteria, firysau a ffyngau mewn perthynas â’i gilydd.

    4. Pwysleisiwch fod yna ficrobau buddiol i’w cael yn ogystal â rhai sy’n achosi salwch. Gofynnwch i’r plant nodi manteision rhai microbau defnyddiol. Os nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny, rhowch enghreifftiau iddyn nhw e.e. Lactobasilws mewn iogwrt a bacteria probiotig yn ein perfedd sy’n cynorthwyo i dreulio a’r ffwng Penicillium sy’n cynhyrchu’r gwrthfiotig penisilin.

    5. Pwysleisiwch wrth y dosbarth fod microbau i’w cael YM MHOB MAN: yn yr aer rydym yn ei anadlu, ar y bwyd rydym yn ei fwyta, yn y dŵr rydym yn ei yfed ac ar arwyneb ein cyrff ac ynddynt. Pwysleisiwch er bod microbau niweidiol sy’n gallu ein gwneud yn sâl, mae llawer o ficrobau mwy defnyddiol y gallwn eu defnyddio.

    Yn y gweithgaredd hwn mae grwpiau o 3-4 yn chwarae gêm gardiau sy’n eu helpu i gofio rhai o’r geiriau technegol sy’n ymwneud â microbau, ynghyd ag ymgyfarwyddo ag enwau microbau amrywiol, y gwahaniaeth o ran maint, eu gallu i achosi niwed ac a ydynt yn datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau. Roedd maint y microbau a nifer y rhywogaethau’n gywir pan ddatblygwyd yr adnodd hwn, ond gall y niferoedd hyn newid wrth i ficrobau newydd gael eu darganfod a’u hailddosbarthu’n barhaus. Arweiniad yn unig yw’r niferoedd yn y penawdau eraill a ddefnyddir ar y cardiau, nid ydynt yn gywir gan nad oes fformiwla i greu’r rhain a gallant newid, h.y. gall rhywogaethau bacterol ddatblygu ymwrthedd i fwy o wrthfiotigau a fyddai’n arwain at nifer uwch yn y golofn hon a’u bod yn fwy peryglus i bobl.

    Rheolau’r gêm

    1. Dylai’r deliwr gymysgu’r cardiau a delio’r holl gardiau wyneb am i lawr i bob chwaraewr. Dylai pob chwaraewr ddal eu cardiau wyneb i fyny fel eu bod yn gweld y cerdyn uchaf yn unig.

    2. Bydd y chwaraewr i’r chwith o’r deliwr yn dechrau drwy ddarllen eitem o’r cerdyn uchaf (e.e. Maint 50). I gyfeiriad y cloc, bydd y chwaraewyr eraill yn darllen yr un eitem. Y chwaraewr gyda’r gwerth uchaf fydd yn ennill, gan gymryd cardiau uchaf y chwaraewyr eraill a’u gosod ar waelod ei bentwr. Yna, bydd yr enillydd yn dewis yr eitem i’w darllen oddi ar y cerdyn nesaf.

    3. Os oes gan 2 neu fwy o chwaraewyr yr un gwerth uchaf, yna bydd yr holl gardiau’n cael eu rhoi yn y canol a bydd yr un chwaraewr yn dewis eto o’r cerdyn nesaf. Yna, bydd yr enillydd yn cymryd y cardiau yn y canol hefyd. Y person sydd â’r holl gardiau yn y diwedd sy’n ennill.

    1.1 Micro - organebau Cyflwyniad

    Prif Weithgaredd

    Cyflwyniad

    http://www.e-bug.eu/

  • 1. Gwiriwch i weld a yw’r disgyblion yn deall drwy ofyn y cwestiynau canlynol:

    a. Beth yw microbau? Organebau byw yw microbau sy’n rhy fach i’w gweld heb gymorth

    b. Ble mae microbau i’w gweld? Mae microbau i’w gweld ym mhobman

    c. Beth yw’r tri gwahanol siâp sydd gan facteria? Bacilli (rhodenni), cocci (peli) a sbiralau

    d. Beth yw’r prif wahaniaeth rhwng bacteria a firysau? Mae bacteria yn llawer mwy cymhleth na firysau a gallant fyw UNRHYW LE bron iawn, tra bod firysau angen byw mewn cell letyol er mwyn goroesi.

    e. Trafodwch y microbau a ddefnyddiwyd yn y gêm ar gyfer y prif weithgaredd o dan y penawdau defnyddiol a pheryglus i bobl. Gwiriwch i weld a yw’r disgyblion yn deall pam y gall y microbau hyn fod yn ddefnyddiol neu’n beryglus, neu’r ddau weithiau. Fel arfer, y microbau sy’n beryglus i bobl yw’r rhai sy’n gallu achosi niwed i ni drwy haint. Ond weithiau gellir ystyried bod y microbau hyn yn ddefnyddiol, e.e. gall rhywogaethau penodol o E.coli a Salmonella achosi dolur rhydd difrifol o’u llyncu gan bobl. Ond mae llawer o waith ymchwil wedi’i wneud i’r rhywogaethau bacteria hyn ac rydym wedi dysgu llawer am ficrobau’n gyffredinol a sut gallwn eu defnyddio er ein budd, h.y. peirianneg enetig, datblygu brechiadau ac ati.

    Rhannwch y dosbarth i grwpiau o 3-4. Dylai pob grŵp lunio poster ar un o’r pynciau canlynol:

    1. Dewiswch fath penodol o facteriwm, firws neu ffwng, e.e. Salmonella, Influenza neu Penicillium. Dylai’r poster gynnwys:

    a. Strwythur y microb hwnnw

    b. Y gwahanol fannau maent i’w gweld

    c. Sut maent yn effeithio ar bobl mewn ffordd dda neu ddrwg

    d. Unrhyw ofynion tyfu penodol ar gyfer y grŵp hwnnw o ficrob

    NEU

    2. Poster llinell amser ar hanes microbau. Gall y poster hwn gynnwys:

    a. 1676: van Leewenhoek yn darganfod ‘milionos’ drwy ddefnyddio microsgop cartref

    b. 1796: Jenner yn darganfod brechiad y frech wen

    c. 1850: Semmelweis yn annog pobl i olchi dwylo i atal lledaeniad clefyd

    d. 1861: Pasteur yn darganfod nad yw bacteria’n ymddangos drwy atffurfiant digymell

    e. 1884: Koch yn cyhoeddi ei gynosodiadau, y meini prawf oedd â’r nod o sefydlu perthynas achosol rhwng microb achosol a chlefyd

    f. 1892: Ivanovski yn darganfod firysau

    g. 1929: Fleming yn darganfod gwrthfiotigau

    1.0 Introduction to Microbes

    1.1 Micro - organebau Cyflwyniad

    Sesiwn Lawn

    Gweithgaredd Estyn

  • Mae bacteria’n byw yn rhydd ac i’w cael ym mhobman Cromosom: Deunydd genetig (DNA) y gell. Cellfur: Mae’r cellfur wedi’i wneud o beptidoglycan ac mae’n cadw siâp cyffredinol cell facterol Cellbilen: Leinin tu mewn i’r cellfur, yn darparu ffin ar gyfer cynnwys y gell a rhwystr i sylweddau rhag dod i mewn ac allan Cytoplasm: Sylwedd fel jeli y tu mewn i’r gell sy’n dal y cynnwys.

    Bacteria

    Sborangia: Corff sy’n cynhyrchu sborau. Sborangioffor: Coesyn ffilamentog y mae’r sborangiwm yn ffurfio arno. Rhisoidau: Mae’r hyffae is-wyneb yn arbenigo mewn amsugno bwyd.

    Ffyngau Complex

    (Bacteriophage – a virus which infects

    bacteria)

    NID yw firysau’n byw’n rhydd – mae’n RHAID iddynt fyw y tu mewn i gell/organeb byw arall

    Capsid Haen lipid ddwbl yn dal deunydd genetig y celloedd Glycoprotein

    Mae gan y rhain ddau ddiben: Angori’r firws i’r gell letyol Cludo deunydd genetig o’r firws i’r gell

    letyol. Asid niwclëig Deunydd DNA neu RNA, ond nid yw firysau’n cynnwys y ddau yn aml iawn. Mae’r rhan fwyaf o firysau’n cynnwys deunydd RNA.

    Firysau Cromosom Cellbilen

    Cytoplasm Cellfur

    Capsid

    Asid niwclëig

    Glycoproteins

    Sborangioffor

    Sborangia

    Rhisoidau

    javascript:ScrollingPopup('http://www.sparknotes.com/biology/microorganisms/fungi/terms/term_16.html',%20'59fb8281e7',%20'500',%20'500')

  • Grŵp o firysau yw Tobamovirus sy’n

    heintio planhigion – a’r firws mosaig

    tybaco yw’r un mwyaf cyffredin. Mae

    hwn yn heintio planhigion tybaco a

    phlanhigion eraill gan achosi afliwiad

    fel mosaig ar y dail. Mae’r firws hwn

    wedi bod yn ddefnyddiol iawn mewn

    gwaith ymchwil gwyddonol.

    Nifer y rhywogaethau ...........................

    Perygl i bobl ..............................

    Ymwrthed i wrthfiotigau

    .......................

    Maint mwyaf (nm)

    ...................................

    Defnyddioldeb i bobl ......................

    humans

    Anh

    34

    12

    125

    18

    Tobamovirus

    Mae’r Lyssavirus yn heintio

    planhigion ac anifeiliaid. Y Lyssavirus

    mwyaf cyffredin yw firws y

    Gynddaredd (Rabies), sy’n cael ei

    gysylltu â chŵn fel arfer. Mae’r

    Gynddaredd wedi bod yn gyfrifol am

    ladd 55,000 ledled y byd, ond gellir ei

    hosgoi drwy frechu.

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .......................

    Maint mwyaf (nm)

    .................................

    Defnyddioldeb i bobl ........................

    Anh

    5

    74

    10

    180

    Lyssavirus

    Mae Filovirus yn achosi clefyd a

    elwir yn Ebola gan amlaf. Mae’n un

    o’r firysau peryclaf y gwyddom

    amdanynt oherwydd nad oes

    brechlyn na thriniaeth hysbys. Mae

    50-90% o ddioddefwyr yn marw yn

    sgil y clefyd!

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl .........................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau.......................

    Maint mwyaf (nm) ..............................

    Defnyddioldeb i bobl ........................

    Anh

    0

    200

    1

    1500

    Ebola

    Mae’r firws Epstien-Barr yn fath o

    Lymphocryptovirus sy’n achosi salwch

    a elwir yn Glefyd Cusanu neu Dwymyn

    y Chwarrenau. Mae cleifion yn dioddef

    dolur gwddf, chwarrenau lymff wedi

    chwyddo, a blinder llethol. Mae angen

    cysylltiad agos i’w ledaenu, fel cusanu

    neu rannu diodydd.

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .......................

    Maint mwyaf (nm)

    .................................

    Defnyddioldeb i bobl ........................

    Anh

    2

    37

    7

    110

    Lymphocryptovirus

    Herpes simplex yw un o’r heintiau

    hynaf a drosglwyddir yn rhywiol y

    gwyddom amdanynt. Yn aml nid

    oes unrhyw symptomau o gwbl,

    gyda heintiau Herpes ond gall

    symptomau tebyg i grachen

    effeithio ar un o bob tri pherson

    sy’n cael eu heintio.

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl ...........................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .......................

    Maint mwyaf (nm)

    ................................

    Defnyddioldeb i bobl .......................

    Anh

    2

    64

    2

    200

    Simplex Virus

    Nifer y rhywogaethau ..........................

    Perygl i bobl ...........................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .......................

    Maint mwyaf (nm)

    .................................

    Defnyddioldeb i bobl ......................

    Anh

    14

    28

    2

    25

    Rhinovirus

    Mae dros 250 o wahanol fathau o

    firysau annwyd! Ond Rhinovirus yw’r

    un mwyaf cyffredin o bell ffordd. Mae.

    Rhinoviruses yn gyfrifol am bron i

    35% o bob annwyd. Gall Rhinovirus

    oroesi am dair awr y tu allan i drwyn

    rhywun. Os yw ar eich bysedd a’ch

    bod yn rhwbio’ch trwyn – byddwch yn

    ei ddal!

    Nifer y rhywogaethau ..............................

    Perygl i bobl ...........................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .......................

    Maint mwyaf (nm)

    ...............................

    Defnyddioldeb i bobl........................

    Amh

    7

    21

    2

    200

    Varicellovirus

    Mae brech yr ieir yn cael ei achosi

    gan y firws Varicella-Zoster. Mae’n

    heintus iawn, ond anaml y bydd yn

    ddifrifol. Mae’n cael ei ledaenu drwy

    gysylltiad uniongyrchol (neu

    besychu neu disian). Mae pawb

    bron wedi dal brech yr ieir yn blant

    cyn i frechlyn brech yr ieir gael ei

    ddarganfod.

    Mae’r ffliw yn haint a achosir gan

    Orthomyxoviridae. Bob blwyddyn

    mae 5 – 40% o’r boblogaeth yn cael y

    ffliw ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn

    gwella’n llwyr o fewn wythnos neu

    ddwy. Ym 1918, cyn sôn am unrhyw

    frechlynnau ar gyfer y ffliw, lladdwyd

    ugain miliwn o bobl!

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl .........................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .......................

    Maint mwyaf (nm)

    .................................

    Defnyddioldeb i bobl ...................... Anh

    12

    146

    1

    90

    Influenza A

  • Ffwng yw Penicillium sy’n llythrennol

    wedi newid y byd! Ers ei ddarganfod,

    mae’r gwrthfiotig wedi’i fasgynhyrchu

    i ymladd heintiau bacterol. Yn

    anffodus, yn sgil ei orddefnyddio,

    mae llawer o rywogaethau bacterol

    wedi datblygu ymwrthedd i’r

    gwrthfiotig hwn.

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl .............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ..........................

    Maint mwyaf (nm) .........................

    Defnyddioldeb i bobl .....................

    Anh

    198

    64

    16

    332, 000

    Penicillium

    Er y gall amrywiaeth o ffyngau

    achosi brechau traed, mae Tinea yn

    achosi i’r croen gosi a chracio, rhwng

    y pedwerydd a’r pumed bys fel arfer.

    Gelwir hyn yn darwden y traed a

    dyma’r haint croen ffwngaidd mwyaf

    cyffredin. Mae’n effeithio ar bron i

    70% o’r boblogaeth.

    Nifer y rhywogaethau ............................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ...........................

    Maint mwyaf (nm) ..........................

    Defnyddioldeb i bobl .......................

    Anh

    14

    43

    12

    110,000

    Tinea

    Ffwng gwenwynig du yw

    Stratchybotrys (neu lwydni gwellt)

    nad yw’n bathogenaidd ei hun ond

    sy’n cynhyrchu llawer o docsinau a

    all achosi amrywiaeth o broblemau

    iechyd, o frechau i adweithiau sy’n

    gallu lladd pobl â phroblemau

    resbiradol.

    Nifer y rhywogaethau ..............................

    Perygl i bobl ..............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ...........................

    Maint mwyaf (nm) ..............................

    Defnyddioldeb i bobl .........................

    Anh

    2

    83

    2

    72,000

    Stachybotrys

    Nifer y rhywogaethau ..........................

    Perygl i bobl .............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ..........................

    Maint mwyaf (nm) .................

    Defnyddioldeb i bobl .....................

    Anh

    124

    47

    200

    101, 000, 000

    Aspergillus

    Ffwng yw Cryptococcus sy’n tyfu

    o furum. Mae’n fwyaf adnabyddus

    am achosi ffurf ddifrifol ar lid yr

    ymennydd a meningo-enceffalitis

    mewn pobl sydd ag HIV/AIDS.

    Mae’r rhan fwyaf o Cryptococci yn

    byw yn y pridd ac nid ydynt yn

    niweidiol i bobl.

    Nifer y rhywogaethau ..............................

    Perygl i bobl ..............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .........................

    Maint mwyaf (nm) ..............................

    Defnyddioldeb i bobl .......................

    Anh

    37

    98

    37

    7, 500

    Cryptococcus

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl ..............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .........................

    Maint mwyaf (nm) ..............................

    Defnyddioldeb i bobl .....................

    Anh

    175

    74

    44

    10,000

    Candida

    Mae Candida ymysg y fflora naturiol

    sy’n byw yng ngheg pobl a’r bibell

    gastroberfeddol. O dan

    amgylchiadau arferol, mae’r ffwng

    hwn yn byw yn 80% o’r boblogaeth

    heb unrhyw effeithiau niweidiol, er y

    gall gordyfiant arwain at gandidiasis

    (Y Llindag).

    Nifer y rhywogaethau ...............................

    Perygl i bobl ................................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ..........................

    Maint mwyaf (nm) ........................

    Defnyddioldeb i bobl .........................

    N/A

    18

    1

    4

    8,500,000

    Verticillium

    Mae Verticillium yn ffwng sydd i’w

    weld yn eang ac yn byw mewn

    llystyfiant darfodus a phridd. Gall rhai

    Verticillium fod yn bathogenaidd i

    bryfed, planhigion a ffyngau eraill, ond

    nid ydynt yn achosi clefydau mewn

    pobl yn aml iawn.

    Mae Saccharomyces cerevisiae

    (Burum bragwr) wedi’i ddefnyddio ers

    6,000 a mwy o flynyddoedd i wneud

    cwrw a bara! Fe’i defnyddir hefyd i

    wneud gwin ac ym maes ymchwil

    biofeddygol. Gall un gell furum droi yn

    1,000,000 mewn dim mwy na chwe

    awr.

    Nifer y rhywogaethau ............................

    Perygl i bobl ................................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ..........................

    Maint mwyaf (nm) .............................

    Defnyddioldeb i bobl ......................

    Anh

    184

    1

    19

    10,000

    Saccharomyces

    Mae Aspergillus yn ddefnyddiol a

    niweidiol i bobl. Defnyddir llawer

    mewn diwydiant a meddyginiaethau.

    Y ffwng hwn sy’n gyfrifol am 99% o’r

    asid citrig a gynhyrchir ledled y byd

    ac mae’n elfen o feddyginiaethau

    sy’n gallu cael gwared ar wynt yn ôl y

    gweithgynhyrchwyr!

  • Mae Chlamydia yn haint a

    drosglwyddir yn rhywiol a achosir

    gan y bacteria Chlamydia

    trachomatis. Gall achosi

    symptomau ysgafn fel rhedlif o’r

    fagina neu’r pidyn i gymhlethdodau

    mwy difrifol, h.y. methu cael plant

    neu chwydd yn y ceilliau.

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ..........................

    Maint mwyaf (nm) ..............................

    Defnyddioldeb i bobl ........................

    5

    1

    37

    3

    1000

    Chlamydia

    Meticillin Resistant Staphylococcus

    aureus (MRSA) yw’r bacteria sy’n

    gyfrifol am achosi heintiau anodd eu

    trin mewn ysbytai. Maent yn

    amrywiad ar y Staffylococws awrëws

    cyffredin sydd wedi esblygu i

    ddatblygu ymwrthedd i wrthfiotigau

    cyffredin.

    Nifer y rhywogaethau ............................

    Perygl i bobl ..........................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .........................

    Maint mwyaf (nm)

    ...............................

    Defnyddioldeb i bobl .....................

    90

    20

    174

    19

    1000

    Staphylococcus

    Mae llawer o Streptococcus yn

    ddiniwed. Dyma fflora normal y

    geg a’r dwylo. Ond, mae rhai

    bacteria Streptococcus yn achosi

    tua 15% o ddolur gwddf. Mae’r

    symptomau’n cynnwys twymyn

    sydyn, poenau stumog a

    chwarrennau chwyddedig.

    Nifer y rhywogaethau ...........................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ........................

    Maint mwyaf (nm)

    ...............................

    Defnyddioldeb i bobl ......................

    20

    75

    50

    21

    1000

    Streptococcus

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ......................

    Maint mwyaf (nm) .............................

    Defnyddioldeb i bobl ....................

    Anh

    184

    54

    7

    2000

    Escherichia

    Pseudomonas yw un o’r microbau

    mwyaf cyffredin, ac maent i’w

    gweld ym mhob amgylchedd bron

    iawn. Er y gall rhai achosi clefyd

    ymysg pobl, mae rhywogaethau

    eraill yn cyfrannu at ddadelfennu

    a bioadfer.

    Nifer y rhywogaethau ..........................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ........................

    Maint mwyaf (nm) .............................

    Defnyddioldeb i bobl...................

    80

    150

    50

    126

    5000

    Pseudomonas

    Nifer y rhywogaethau ..........................

    Perygl i bobl .............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    Maint mwyaf (nm) ..............................

    Defnyddioldeb i bobl ....................

    10

    195

    0

    125

    1500

    Lactobacillus

    Mae Lactobacilli yn gyffredin iawn ac

    nid ydynt yn peri niwed i bobl fel

    arfer. Maent yn y fagina a’r bibell

    gastroberfeddol, ac yn rhan fach o

    fflora’r perfedd. Maent wedi’u

    defnyddio’n eang yn y diwydiant

    bwyd – wrth wneud iogwrt a chaws.

    Nifer y rhywogaethau .............................

    Perygl i bobl ..........................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    .........................

    Maint mwyaf (nm) .............................

    Defnyddioldeb i bobl .......................

    10

    8

    115

    3

    2000

    Treponema

    Mae Syphilis yn glefyd hynod heintus,

    a achosir gan facteria Treponema.

    Mae symptomau’n dechrau gyda

    brech croen a symptomau fel y ffliw a

    gall arwain at niwed i’r ymennydd a

    marwolaeth. Gellir gwella Syphillis

    gyda gwrthfiotigau, ond mae mathau

    ag ymwrthedd yn fwyfwy cyffredin.

    Bacteria siâp rhoden yw

    Salmonella sydd fwyaf

    adnabyddus am achosi gwenwyn

    bwyd a thwymyn teiffoid. Mae

    symptomau’n amrywio o chwydu i

    ddolur rhydd a hyd yn oed

    marwolaeth ar ei waethaf.

    Nifer y rhywogaethau ..............................

    Perygl i bobl ............................

    Ymwrthedd i wrthfiotigau

    ..........................

    Maint mwyaf (nm) ..............................

    Defnyddioldeb i bobl .......................

    40

    15

    89

    3

    1000

    Salmonella

    Mae sawl math o E. coli yn ddiniwed,

    ac mae nifer fawr ohonynt ym

    mherfedd pobl ac anifeiliaid. Hefyd,

    E. coli yw un o’r creaduriaid a astudir

    fwyaf. Ond weithiau, gall E.coli

    achosi heintiau wrinol ac abdomenol

    difrifol a gwenwyn bwyd.