DEILLIANNAU
CYSYLLTIADAU CWRICWLWM
DYSGU
CENEDLAETHOL
Bydd pob disgybl:
Yn deall bod tri math gwahanol o ficrobau.
Yn gwybod eu bod i’w cael ym mhobman.
Bydd disgyblion mwy galluog:
Yn gwybod bod bacteria buddiol i’w cael yn ein cyrff.
Yn deall bod microbau o wahanol feintiau.
Cyfnod Allweddol 3 Amrediad: 7 Cyfathrebu: C1, C2 Sgiliau: D1, D3, D4 ABCh Iechyd a lles emosiynol: 1a)
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Cenedlaethol
Amcan o Amser Addysgu
50 munud
Adran 1.1, mae’r adran hon yn cyflwyno disgyblion i fyd microbau, yn gyntaf trwy archwilio’r gwahanol fathau o ficrobau a’u siapiau, yna drwy edrych yn fanwl ar ficrobau buddiol a niweidiol.
Mae’r gweithgaredd cyflwyno hwn yn galluogi’r disgyblion i ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau a siapiau o ficrobau drwy gêm gardiau dysgu rhyngweithiol.
Mae’r gweithgaredd estyn cysylltiedig yn atgyfnerthu gwybodaeth y disgyblion am strwythur microbaidd drwy baratoi posteri ymchwil. Neu, gall disgyblion ddewis ymchwilio i hanes microbioleg drwy ddatblygu poster ar linell amser microbioleg.
Campylobacter
MICRO-ORGANEBAU - CYFLWYNIAD
Organebau byw yw micro-organebau sy’n rhy fach i ni allu eu gweld gyda’n llygaid heb gymorth. Maen nhw ym mhob man bron ar y ddaear ac mae rhai yn fuddiol ac eraill yn niweidiol i bobl (byddwn yn trafod hyn eto). Er eu bod yn fach iawn, mae microbau o bob lliw a llun i’w cael. Mae yna dri phrif grŵp ohonyn nhw:
Firysau – y microbau lleiaf sy’n niweidiol i bobl fel arfer. Dydyn nhw ddim yn gallu goroesi ar eu pen eu hunain. Maen nhw angen cell ‘letyol’ i oroesi ac atgynhyrchu. Yn y gell letyol maen nhw’n gallu lluosogi’n gyflym a difa’r gell wrth wneud hynny!
Ffyngau – organebau aml-gellog sy’n gallu bod yn fuddiol a niweidiol i bobl. Mae ffyngau’n cael eu bwyd drwy ddadelfennu deunydd organig marw neu drwy fyw fel parasitau ar ddeunydd lletyol. Mae ffyngau’n amrywio o ran maint – o fod yn ficrosgopig i fod yn fawr iawn ac yn cynnwys llwydni a madarch! Gall ffwng niweidiol achosi haint neu fod yn wenwynig i’w fwyta; gall eraill fod yn fuddiol neu’n ddi-ddrwg, e.e. Penisiliwm sy’n cynhyrchu’r gwrthfiotig penisilin a gellir bwyta Agaricus (botymau madarch gwyn). Maent yn lledaenu drwy’r aer mewn sborau bach caled fel hadau. Wrth lanio ar fara neu ffrwythau, maent yn agor a thyfu o dan yr amodau cywir (lleithder).
Bacteria – organebau un gell sy’n gallu lluosogi’n gynt a chynt bob 20 munud. Yn ystod eu twf arferol mae rhai yn cynhyrchu sylweddau (tocsinau) sy’n niweidiol iawn i bobl ac yn achosi haint (Staffylococcws aureus). Mae rhai yn hollol ddiniwed i bobl ac eraill yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i ni (Lactobasilws yn y diwydiant bwyd) ac mae rhai yn angenrheidiol ar gyfer bywyd dynol fel y rhai sy’n gysylltiedig â thwf planhigion (Rhisobacteriwm). Gelwir bacteria diniwed yn facteria nad ydynt yn bathogenaidd, a bacteria niweidiol yn bathogenaidd. Mae dros 70% o facteria yn rhai nad ydynt yn bathogenaidd.
Gellir rhannu bacteria yn dri grŵp yn ôl eu siap – coci (peli), basili (rhodenni) a sbiralau. Gellir rhannu coci yn dri grŵp pellach yn ôl y ffordd mae’r coci wedi’u trefnu: staffylococi (clystyrau), streptococi (cadwynau) a diplococi (parau). Mae gwyddonwyr yn defnyddio’r siapiau hyn i ddweud pa haint sydd ar y claf.
Fel creaduriaid byw, mae gan ficrobau ofynion twf penodol, ond mae’r rhain yn amrywio yn ôl lleoliad y microb. Er enghraifft, mae’n well gan ficrobau sy’n byw mewn pobl dymheredd o 37oC, mae’n well gan ficrobau sy’n byw yn awyrellau thermol y cefnfor dymheredd llawer uwch ac mae’n well gan ficrobau sy’n byw mewn rhanbarthau arctig dymheredd llawer is. Mae microbau’n amrywio hefyd o ran eu gofynion maethol. Gall newid yn yr amgylchedd ladd llawer o ficrobau, ond mae’n bwysig cofio bod microbau’n gallu addasu’n hawdd a gall newidiadau graddol olygu bod microbau’n addasu i’w hamgylchedd, e.e. bacteria sy’n datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau.
Deunyddiau Angenrheidiol I bob disgybl Copi o TD 1 Copi o TD 2
Copi o TD 3
Copi o TD 4
1.1 Micro - organebau Cyflwyniad
Geiriau Allweddol Bacteria Byg Cell Cilia Cytoplasm Clefyd DNA Flagella Ffyngau Germ Microb Micro-organeb Microsgop Pathogen RNA Firysau
Gwybodaeth Gefndir
Paratoi Ymlaen Llaw
Torrwch a lamineiddiwch set o gardiau chwarae (TD 2 – TD 4) ar gyfer pob grŵp.
Adnoddau sydd ar gael ar y We Ffilm o’r
gweithgaredd
Ffotograffau amrywiol o ficrobau
TD 1 mewn fformat MS PowerPoint
Animeiddiad i ddangos y gwahaniaeth ym maint microbau
1. Dechreuwch y wers drwy ofyn i’r disgyblion beth maen nhw’n ei wybod am ficrobau. Bydd y mwyafrif eisoes yn gwybod bod microbau’n gallu achosi salwch, ond efalla na fyddan nhw’n gwybod y gall microbau fod yn dda i ni hefyd. Gofynnwch a ydyn nhw’n gwybod am beth i chwilio pe baent am weld microbau. Ydyn nhw’n meddwl bod microbau’n bwysig i ni?
2. Esboniwch mai microbau yw’r creaduriaid byw lleiaf ar y ddaear a bod y gair micro-organebau’n cyfieithu’n llythrennol i ficro: bach ac organeb: bywyd. Mae microbau mor fach fel na ellir eu gweld heb ddefnyddio microsgop. Anthony van Leewenhoek greodd y microsgop cyntaf ym 1676. Fe’i defnyddiodd i edrych ar eitemau amrywiol o gwmpas ei dŷ a rhoddodd y term ‘milionos’ ar y creaduriaid byw (bacteria) a welodd wrth grafu ei ddannedd.
3. Dangoswch i’r dosbarth fod yna dri math gwahanol o ficrob: bacteria, firysau a ffyngau. Defnyddiwch TD 1 i ddangos sut mae’r tri microb hwn yn amrywio o ran siâp a strwythur. Gellir defnyddio’r adnodd ar y we yn www.e-bug.eu i helpu i ddangos meintiau amrywiol bacteria, firysau a ffyngau mewn perthynas â’i gilydd.
4. Pwysleisiwch fod yna ficrobau buddiol i’w cael yn ogystal â rhai sy’n achosi salwch. Gofynnwch i’r plant nodi manteision rhai microbau defnyddiol. Os nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny, rhowch enghreifftiau iddyn nhw e.e. Lactobasilws mewn iogwrt a bacteria probiotig yn ein perfedd sy’n cynorthwyo i dreulio a’r ffwng Penicillium sy’n cynhyrchu’r gwrthfiotig penisilin.
5. Pwysleisiwch wrth y dosbarth fod microbau i’w cael YM MHOB MAN: yn yr aer rydym yn ei anadlu, ar y bwyd rydym yn ei fwyta, yn y dŵr rydym yn ei yfed ac ar arwyneb ein cyrff ac ynddynt. Pwysleisiwch er bod microbau niweidiol sy’n gallu ein gwneud yn sâl, mae llawer o ficrobau mwy defnyddiol y gallwn eu defnyddio.
Yn y gweithgaredd hwn mae grwpiau o 3-4 yn chwarae gêm gardiau sy’n eu helpu i gofio rhai o’r geiriau technegol sy’n ymwneud â microbau, ynghyd ag ymgyfarwyddo ag enwau microbau amrywiol, y gwahaniaeth o ran maint, eu gallu i achosi niwed ac a ydynt yn datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau. Roedd maint y microbau a nifer y rhywogaethau’n gywir pan ddatblygwyd yr adnodd hwn, ond gall y niferoedd hyn newid wrth i ficrobau newydd gael eu darganfod a’u hailddosbarthu’n barhaus. Arweiniad yn unig yw’r niferoedd yn y penawdau eraill a ddefnyddir ar y cardiau, nid ydynt yn gywir gan nad oes fformiwla i greu’r rhain a gallant newid, h.y. gall rhywogaethau bacterol ddatblygu ymwrthedd i fwy o wrthfiotigau a fyddai’n arwain at nifer uwch yn y golofn hon a’u bod yn fwy peryglus i bobl.
Rheolau’r gêm
1. Dylai’r deliwr gymysgu’r cardiau a delio’r holl gardiau wyneb am i lawr i bob chwaraewr. Dylai pob chwaraewr ddal eu cardiau wyneb i fyny fel eu bod yn gweld y cerdyn uchaf yn unig.
2. Bydd y chwaraewr i’r chwith o’r deliwr yn dechrau drwy ddarllen eitem o’r cerdyn uchaf (e.e. Maint 50). I gyfeiriad y cloc, bydd y chwaraewyr eraill yn darllen yr un eitem. Y chwaraewr gyda’r gwerth uchaf fydd yn ennill, gan gymryd cardiau uchaf y chwaraewyr eraill a’u gosod ar waelod ei bentwr. Yna, bydd yr enillydd yn dewis yr eitem i’w darllen oddi ar y cerdyn nesaf.
3. Os oes gan 2 neu fwy o chwaraewyr yr un gwerth uchaf, yna bydd yr holl gardiau’n cael eu rhoi yn y canol a bydd yr un chwaraewr yn dewis eto o’r cerdyn nesaf. Yna, bydd yr enillydd yn cymryd y cardiau yn y canol hefyd. Y person sydd â’r holl gardiau yn y diwedd sy’n ennill.
1.1 Micro - organebau Cyflwyniad
Prif Weithgaredd
Cyflwyniad
http://www.e-bug.eu/
1. Gwiriwch i weld a yw’r disgyblion yn deall drwy ofyn y cwestiynau canlynol:
a. Beth yw microbau? Organebau byw yw microbau sy’n rhy fach i’w gweld heb gymorth
b. Ble mae microbau i’w gweld? Mae microbau i’w gweld ym mhobman
c. Beth yw’r tri gwahanol siâp sydd gan facteria? Bacilli (rhodenni), cocci (peli) a sbiralau
d. Beth yw’r prif wahaniaeth rhwng bacteria a firysau? Mae bacteria yn llawer mwy cymhleth na firysau a gallant fyw UNRHYW LE bron iawn, tra bod firysau angen byw mewn cell letyol er mwyn goroesi.
e. Trafodwch y microbau a ddefnyddiwyd yn y gêm ar gyfer y prif weithgaredd o dan y penawdau defnyddiol a pheryglus i bobl. Gwiriwch i weld a yw’r disgyblion yn deall pam y gall y microbau hyn fod yn ddefnyddiol neu’n beryglus, neu’r ddau weithiau. Fel arfer, y microbau sy’n beryglus i bobl yw’r rhai sy’n gallu achosi niwed i ni drwy haint. Ond weithiau gellir ystyried bod y microbau hyn yn ddefnyddiol, e.e. gall rhywogaethau penodol o E.coli a Salmonella achosi dolur rhydd difrifol o’u llyncu gan bobl. Ond mae llawer o waith ymchwil wedi’i wneud i’r rhywogaethau bacteria hyn ac rydym wedi dysgu llawer am ficrobau’n gyffredinol a sut gallwn eu defnyddio er ein budd, h.y. peirianneg enetig, datblygu brechiadau ac ati.
Rhannwch y dosbarth i grwpiau o 3-4. Dylai pob grŵp lunio poster ar un o’r pynciau canlynol:
1. Dewiswch fath penodol o facteriwm, firws neu ffwng, e.e. Salmonella, Influenza neu Penicillium. Dylai’r poster gynnwys:
a. Strwythur y microb hwnnw
b. Y gwahanol fannau maent i’w gweld
c. Sut maent yn effeithio ar bobl mewn ffordd dda neu ddrwg
d. Unrhyw ofynion tyfu penodol ar gyfer y grŵp hwnnw o ficrob
NEU
2. Poster llinell amser ar hanes microbau. Gall y poster hwn gynnwys:
a. 1676: van Leewenhoek yn darganfod ‘milionos’ drwy ddefnyddio microsgop cartref
b. 1796: Jenner yn darganfod brechiad y frech wen
c. 1850: Semmelweis yn annog pobl i olchi dwylo i atal lledaeniad clefyd
d. 1861: Pasteur yn darganfod nad yw bacteria’n ymddangos drwy atffurfiant digymell
e. 1884: Koch yn cyhoeddi ei gynosodiadau, y meini prawf oedd â’r nod o sefydlu perthynas achosol rhwng microb achosol a chlefyd
f. 1892: Ivanovski yn darganfod firysau
g. 1929: Fleming yn darganfod gwrthfiotigau
1.0 Introduction to Microbes
1.1 Micro - organebau Cyflwyniad
Sesiwn Lawn
Gweithgaredd Estyn
Mae bacteria’n byw yn rhydd ac i’w cael ym mhobman Cromosom: Deunydd genetig (DNA) y gell. Cellfur: Mae’r cellfur wedi’i wneud o beptidoglycan ac mae’n cadw siâp cyffredinol cell facterol Cellbilen: Leinin tu mewn i’r cellfur, yn darparu ffin ar gyfer cynnwys y gell a rhwystr i sylweddau rhag dod i mewn ac allan Cytoplasm: Sylwedd fel jeli y tu mewn i’r gell sy’n dal y cynnwys.
Bacteria
Sborangia: Corff sy’n cynhyrchu sborau. Sborangioffor: Coesyn ffilamentog y mae’r sborangiwm yn ffurfio arno. Rhisoidau: Mae’r hyffae is-wyneb yn arbenigo mewn amsugno bwyd.
Ffyngau Complex
(Bacteriophage – a virus which infects
bacteria)
NID yw firysau’n byw’n rhydd – mae’n RHAID iddynt fyw y tu mewn i gell/organeb byw arall
Capsid Haen lipid ddwbl yn dal deunydd genetig y celloedd Glycoprotein
Mae gan y rhain ddau ddiben: Angori’r firws i’r gell letyol Cludo deunydd genetig o’r firws i’r gell
letyol. Asid niwclëig Deunydd DNA neu RNA, ond nid yw firysau’n cynnwys y ddau yn aml iawn. Mae’r rhan fwyaf o firysau’n cynnwys deunydd RNA.
Firysau Cromosom Cellbilen
Cytoplasm Cellfur
Capsid
Asid niwclëig
Glycoproteins
Sborangioffor
Sborangia
Rhisoidau
javascript:ScrollingPopup('http://www.sparknotes.com/biology/microorganisms/fungi/terms/term_16.html',%20'59fb8281e7',%20'500',%20'500')
Grŵp o firysau yw Tobamovirus sy’n
heintio planhigion – a’r firws mosaig
tybaco yw’r un mwyaf cyffredin. Mae
hwn yn heintio planhigion tybaco a
phlanhigion eraill gan achosi afliwiad
fel mosaig ar y dail. Mae’r firws hwn
wedi bod yn ddefnyddiol iawn mewn
gwaith ymchwil gwyddonol.
Nifer y rhywogaethau ...........................
Perygl i bobl ..............................
Ymwrthed i wrthfiotigau
.......................
Maint mwyaf (nm)
...................................
Defnyddioldeb i bobl ......................
humans
Anh
34
12
125
18
Tobamovirus
Mae’r Lyssavirus yn heintio
planhigion ac anifeiliaid. Y Lyssavirus
mwyaf cyffredin yw firws y
Gynddaredd (Rabies), sy’n cael ei
gysylltu â chŵn fel arfer. Mae’r
Gynddaredd wedi bod yn gyfrifol am
ladd 55,000 ledled y byd, ond gellir ei
hosgoi drwy frechu.
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.......................
Maint mwyaf (nm)
.................................
Defnyddioldeb i bobl ........................
Anh
5
74
10
180
Lyssavirus
Mae Filovirus yn achosi clefyd a
elwir yn Ebola gan amlaf. Mae’n un
o’r firysau peryclaf y gwyddom
amdanynt oherwydd nad oes
brechlyn na thriniaeth hysbys. Mae
50-90% o ddioddefwyr yn marw yn
sgil y clefyd!
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl .........................
Ymwrthedd i wrthfiotigau.......................
Maint mwyaf (nm) ..............................
Defnyddioldeb i bobl ........................
Anh
0
200
1
1500
Ebola
Mae’r firws Epstien-Barr yn fath o
Lymphocryptovirus sy’n achosi salwch
a elwir yn Glefyd Cusanu neu Dwymyn
y Chwarrenau. Mae cleifion yn dioddef
dolur gwddf, chwarrenau lymff wedi
chwyddo, a blinder llethol. Mae angen
cysylltiad agos i’w ledaenu, fel cusanu
neu rannu diodydd.
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.......................
Maint mwyaf (nm)
.................................
Defnyddioldeb i bobl ........................
Anh
2
37
7
110
Lymphocryptovirus
Herpes simplex yw un o’r heintiau
hynaf a drosglwyddir yn rhywiol y
gwyddom amdanynt. Yn aml nid
oes unrhyw symptomau o gwbl,
gyda heintiau Herpes ond gall
symptomau tebyg i grachen
effeithio ar un o bob tri pherson
sy’n cael eu heintio.
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl ...........................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.......................
Maint mwyaf (nm)
................................
Defnyddioldeb i bobl .......................
Anh
2
64
2
200
Simplex Virus
Nifer y rhywogaethau ..........................
Perygl i bobl ...........................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.......................
Maint mwyaf (nm)
.................................
Defnyddioldeb i bobl ......................
Anh
14
28
2
25
Rhinovirus
Mae dros 250 o wahanol fathau o
firysau annwyd! Ond Rhinovirus yw’r
un mwyaf cyffredin o bell ffordd. Mae.
Rhinoviruses yn gyfrifol am bron i
35% o bob annwyd. Gall Rhinovirus
oroesi am dair awr y tu allan i drwyn
rhywun. Os yw ar eich bysedd a’ch
bod yn rhwbio’ch trwyn – byddwch yn
ei ddal!
Nifer y rhywogaethau ..............................
Perygl i bobl ...........................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.......................
Maint mwyaf (nm)
...............................
Defnyddioldeb i bobl........................
Amh
7
21
2
200
Varicellovirus
Mae brech yr ieir yn cael ei achosi
gan y firws Varicella-Zoster. Mae’n
heintus iawn, ond anaml y bydd yn
ddifrifol. Mae’n cael ei ledaenu drwy
gysylltiad uniongyrchol (neu
besychu neu disian). Mae pawb
bron wedi dal brech yr ieir yn blant
cyn i frechlyn brech yr ieir gael ei
ddarganfod.
Mae’r ffliw yn haint a achosir gan
Orthomyxoviridae. Bob blwyddyn
mae 5 – 40% o’r boblogaeth yn cael y
ffliw ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn
gwella’n llwyr o fewn wythnos neu
ddwy. Ym 1918, cyn sôn am unrhyw
frechlynnau ar gyfer y ffliw, lladdwyd
ugain miliwn o bobl!
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl .........................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.......................
Maint mwyaf (nm)
.................................
Defnyddioldeb i bobl ...................... Anh
12
146
1
90
Influenza A
Ffwng yw Penicillium sy’n llythrennol
wedi newid y byd! Ers ei ddarganfod,
mae’r gwrthfiotig wedi’i fasgynhyrchu
i ymladd heintiau bacterol. Yn
anffodus, yn sgil ei orddefnyddio,
mae llawer o rywogaethau bacterol
wedi datblygu ymwrthedd i’r
gwrthfiotig hwn.
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl .............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
..........................
Maint mwyaf (nm) .........................
Defnyddioldeb i bobl .....................
Anh
198
64
16
332, 000
Penicillium
Er y gall amrywiaeth o ffyngau
achosi brechau traed, mae Tinea yn
achosi i’r croen gosi a chracio, rhwng
y pedwerydd a’r pumed bys fel arfer.
Gelwir hyn yn darwden y traed a
dyma’r haint croen ffwngaidd mwyaf
cyffredin. Mae’n effeithio ar bron i
70% o’r boblogaeth.
Nifer y rhywogaethau ............................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
...........................
Maint mwyaf (nm) ..........................
Defnyddioldeb i bobl .......................
Anh
14
43
12
110,000
Tinea
Ffwng gwenwynig du yw
Stratchybotrys (neu lwydni gwellt)
nad yw’n bathogenaidd ei hun ond
sy’n cynhyrchu llawer o docsinau a
all achosi amrywiaeth o broblemau
iechyd, o frechau i adweithiau sy’n
gallu lladd pobl â phroblemau
resbiradol.
Nifer y rhywogaethau ..............................
Perygl i bobl ..............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
...........................
Maint mwyaf (nm) ..............................
Defnyddioldeb i bobl .........................
Anh
2
83
2
72,000
Stachybotrys
Nifer y rhywogaethau ..........................
Perygl i bobl .............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
..........................
Maint mwyaf (nm) .................
Defnyddioldeb i bobl .....................
Anh
124
47
200
101, 000, 000
Aspergillus
Ffwng yw Cryptococcus sy’n tyfu
o furum. Mae’n fwyaf adnabyddus
am achosi ffurf ddifrifol ar lid yr
ymennydd a meningo-enceffalitis
mewn pobl sydd ag HIV/AIDS.
Mae’r rhan fwyaf o Cryptococci yn
byw yn y pridd ac nid ydynt yn
niweidiol i bobl.
Nifer y rhywogaethau ..............................
Perygl i bobl ..............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.........................
Maint mwyaf (nm) ..............................
Defnyddioldeb i bobl .......................
Anh
37
98
37
7, 500
Cryptococcus
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl ..............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.........................
Maint mwyaf (nm) ..............................
Defnyddioldeb i bobl .....................
Anh
175
74
44
10,000
Candida
Mae Candida ymysg y fflora naturiol
sy’n byw yng ngheg pobl a’r bibell
gastroberfeddol. O dan
amgylchiadau arferol, mae’r ffwng
hwn yn byw yn 80% o’r boblogaeth
heb unrhyw effeithiau niweidiol, er y
gall gordyfiant arwain at gandidiasis
(Y Llindag).
Nifer y rhywogaethau ...............................
Perygl i bobl ................................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
..........................
Maint mwyaf (nm) ........................
Defnyddioldeb i bobl .........................
N/A
18
1
4
8,500,000
Verticillium
Mae Verticillium yn ffwng sydd i’w
weld yn eang ac yn byw mewn
llystyfiant darfodus a phridd. Gall rhai
Verticillium fod yn bathogenaidd i
bryfed, planhigion a ffyngau eraill, ond
nid ydynt yn achosi clefydau mewn
pobl yn aml iawn.
Mae Saccharomyces cerevisiae
(Burum bragwr) wedi’i ddefnyddio ers
6,000 a mwy o flynyddoedd i wneud
cwrw a bara! Fe’i defnyddir hefyd i
wneud gwin ac ym maes ymchwil
biofeddygol. Gall un gell furum droi yn
1,000,000 mewn dim mwy na chwe
awr.
Nifer y rhywogaethau ............................
Perygl i bobl ................................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
..........................
Maint mwyaf (nm) .............................
Defnyddioldeb i bobl ......................
Anh
184
1
19
10,000
Saccharomyces
Mae Aspergillus yn ddefnyddiol a
niweidiol i bobl. Defnyddir llawer
mewn diwydiant a meddyginiaethau.
Y ffwng hwn sy’n gyfrifol am 99% o’r
asid citrig a gynhyrchir ledled y byd
ac mae’n elfen o feddyginiaethau
sy’n gallu cael gwared ar wynt yn ôl y
gweithgynhyrchwyr!
Mae Chlamydia yn haint a
drosglwyddir yn rhywiol a achosir
gan y bacteria Chlamydia
trachomatis. Gall achosi
symptomau ysgafn fel rhedlif o’r
fagina neu’r pidyn i gymhlethdodau
mwy difrifol, h.y. methu cael plant
neu chwydd yn y ceilliau.
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
..........................
Maint mwyaf (nm) ..............................
Defnyddioldeb i bobl ........................
5
1
37
3
1000
Chlamydia
Meticillin Resistant Staphylococcus
aureus (MRSA) yw’r bacteria sy’n
gyfrifol am achosi heintiau anodd eu
trin mewn ysbytai. Maent yn
amrywiad ar y Staffylococws awrëws
cyffredin sydd wedi esblygu i
ddatblygu ymwrthedd i wrthfiotigau
cyffredin.
Nifer y rhywogaethau ............................
Perygl i bobl ..........................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.........................
Maint mwyaf (nm)
...............................
Defnyddioldeb i bobl .....................
90
20
174
19
1000
Staphylococcus
Mae llawer o Streptococcus yn
ddiniwed. Dyma fflora normal y
geg a’r dwylo. Ond, mae rhai
bacteria Streptococcus yn achosi
tua 15% o ddolur gwddf. Mae’r
symptomau’n cynnwys twymyn
sydyn, poenau stumog a
chwarrennau chwyddedig.
Nifer y rhywogaethau ...........................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
........................
Maint mwyaf (nm)
...............................
Defnyddioldeb i bobl ......................
20
75
50
21
1000
Streptococcus
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
......................
Maint mwyaf (nm) .............................
Defnyddioldeb i bobl ....................
Anh
184
54
7
2000
Escherichia
Pseudomonas yw un o’r microbau
mwyaf cyffredin, ac maent i’w
gweld ym mhob amgylchedd bron
iawn. Er y gall rhai achosi clefyd
ymysg pobl, mae rhywogaethau
eraill yn cyfrannu at ddadelfennu
a bioadfer.
Nifer y rhywogaethau ..........................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
........................
Maint mwyaf (nm) .............................
Defnyddioldeb i bobl...................
80
150
50
126
5000
Pseudomonas
Nifer y rhywogaethau ..........................
Perygl i bobl .............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
Maint mwyaf (nm) ..............................
Defnyddioldeb i bobl ....................
10
195
0
125
1500
Lactobacillus
Mae Lactobacilli yn gyffredin iawn ac
nid ydynt yn peri niwed i bobl fel
arfer. Maent yn y fagina a’r bibell
gastroberfeddol, ac yn rhan fach o
fflora’r perfedd. Maent wedi’u
defnyddio’n eang yn y diwydiant
bwyd – wrth wneud iogwrt a chaws.
Nifer y rhywogaethau .............................
Perygl i bobl ..........................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
.........................
Maint mwyaf (nm) .............................
Defnyddioldeb i bobl .......................
10
8
115
3
2000
Treponema
Mae Syphilis yn glefyd hynod heintus,
a achosir gan facteria Treponema.
Mae symptomau’n dechrau gyda
brech croen a symptomau fel y ffliw a
gall arwain at niwed i’r ymennydd a
marwolaeth. Gellir gwella Syphillis
gyda gwrthfiotigau, ond mae mathau
ag ymwrthedd yn fwyfwy cyffredin.
Bacteria siâp rhoden yw
Salmonella sydd fwyaf
adnabyddus am achosi gwenwyn
bwyd a thwymyn teiffoid. Mae
symptomau’n amrywio o chwydu i
ddolur rhydd a hyd yn oed
marwolaeth ar ei waethaf.
Nifer y rhywogaethau ..............................
Perygl i bobl ............................
Ymwrthedd i wrthfiotigau
..........................
Maint mwyaf (nm) ..............................
Defnyddioldeb i bobl .......................
40
15
89
3
1000
Salmonella
Mae sawl math o E. coli yn ddiniwed,
ac mae nifer fawr ohonynt ym
mherfedd pobl ac anifeiliaid. Hefyd,
E. coli yw un o’r creaduriaid a astudir
fwyaf. Ond weithiau, gall E.coli
achosi heintiau wrinol ac abdomenol
difrifol a gwenwyn bwyd.