7
Polisi Cyfryngau Cymdeithasol Fersiwn: 1.0 Cymeradwyir gan: Fforwm Rhieni/Gofalwyr Consortia De-ddwyrain Cymru (Blaenau-Gwent; Caerffili; Trefynwy; Casnewydd; Torfaen) Cymeradwyir ar: 18 fed Awst 2020 Adolygir: YN FLYNYDDOL Dyddiad adolygiad Awst 2021

Microsoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social ... · Web viewMicrosoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social Media Policy Last modified by Teresa Bradley Company Microsoft

  • Upload
    others

  • View
    6

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Microsoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social ... · Web viewMicrosoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social Media Policy Last modified by Teresa Bradley Company Microsoft

Polisi Cyfryngau Cymdeithasol

Fersiwn: 1.0 Cymeradwyir gan: Fforwm Rhieni/Gofalwyr Consortia De-

ddwyrain Cymru (Blaenau-Gwent; Caerffili; Trefynwy; Casnewydd; Torfaen)

Cymeradwyir ar: 18fed Awst 2020Adolygir: YN FLYNYDDOLDyddiad adolygiad nesaf:

Awst 2021

Page 2: Microsoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social ... · Web viewMicrosoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social Media Policy Last modified by Teresa Bradley Company Microsoft

Diffiniad: Term yw Cyfryngau Cymdeithasol a ddefnyddir am safleoedd ar y we a dulliau ar lein, sy’n galluogi pobl i rannu ac i gyfathrebu gyda’i

gilydd. Gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth, lluniau, fideo, barn, newyddion a diddordebau

Tra’n cydnabod buddion y dull hwn o gyfleoedd newydd i gyfathrebu, mae’r polisi hwn yn gosod yr egwyddorion y disgwylir i bobl broffesiynol, aelodau’r fforwm/rhieni/gofalwyr a’r gymuned eu dilyn pan yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Cynllunir yr egwyddorion yn y polisi hwn i sicrhau bod defnydd cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn gyfrifol ac y diogelir cyfrinachedd bobl broffesiynol, aelodau’r fforwm ac enw da y fforwm. Mae rhaid i holl aelodau Fforwm Rhieni/Gofalwyr fod yn ymwybodol bob amser o’r angen i gadw eu bywydau personol a phroffesiynol ar wahan.

Pan yn cyfeirio at gyfryngau cymdeithasol mae’r ddogfen hon yn golygu unrhyw safle rhyngrwyd a ddefnyddir i gyfathrebu a rhannu. Mae safleoedd poblogaidd cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: Twitter Facebook Instagram Snapchat YouTube

Tra nad oes gan y Fforwm Rhieni/Gofalwyr bresenoldeb ar unrhyw blatfform, bydd yna dudalen cyfryngau cymdeithasol benodol i’r Fforwm Rhieni/Gofalwyr ble gellir rhannu pob cyfathrebiad a phostio ar safle we/Facebook Snap Cymru trwy’r cyd gysyltydd.

Ni all logo’r Fforwm ar unrhyw amod gael ei ddefnyddio na’i gyhoeddi ar unrhyw safle we personol nag ar unrhyw gyfrwng ar lein neu gyfrwng all-lein heb ganiatad ymlaen llaw. Mae rhain yn nodau masnach cofrestredig, patentau ac eiddo deallusol yr awdurdod lleol.

Mae’r polisi’n cynnwys defnydd personol cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ȃ defnydd swyddogol Fforwm Rhieni/Gofalwyr, gan gynnwys safleoedd sy’n cael eu cynnal ar ran y fforwm.

Page 3: Microsoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social ... · Web viewMicrosoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social Media Policy Last modified by Teresa Bradley Company Microsoft

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl aelodau’r Fforwm Rhieni/Gofalwyr. Fodd bynnag, disgwylir i weithwyr yr awdurdod lleol sy’n cefnogi’r grŵp i gadw at ‘Bolisi Defnydd Cyfryngau Cymdeithasol’ eu awdurdod lleol nhw.

Sut y defnyddiwn Cyfryngau CymdeithasolAnogwn holl aelodau’r Fforwm Rhiei/Gofalwyr i rannu gwybodaeth am y grŵp a’i bwrpas trwy gyfryngau cymdeithasol er mwyn ymgysyltu ȃ rhieni/ gofalwyr a gofyn iddynt am gyfeirio unrhyw gwestiwn at y cyd gysylltydd (bydd cyfeiriad ebost y cyd gysylltydd gan bob aelod o’r Fforwm).

Byddwch yn Gyfrifol a PharchusDylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bob amser o’r angen i gadw eu bywydau personol a phroffesiynol/fforwm ar wahan.

Ni ddylent fod mewn sefyllfa ble mae yna wrthdaro rhwng y fforwm a’u buddiannau personol.

Ni ddylai defnyddwyr ymrwymo mewn gweithgareddau sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol a allai ddwyn gwarth ar Fforwm Rhieni/Gofalwyr CD-ddC.

Ni ddylai defnyddwyr honni bod eu barn personol nhw yn cynrychioli Fforwm Rhieni/Gofalwyr CD-ddC ar unrhyw gyfrwng cymdeithasol.

Ni ddylai defnyddwyr drafod unrhyw wybodaeth bersonol am aelodau/bobl broffesiynol eraill sy’n rhan o’r fforwm. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn unrhyw ffordd i ymosod ar, sarhau, cam drin neu ddifrio bobl broffesiynol/aelodau sy’n gysylltiedig ȃ’r Fforwm, aelodau eu teuluoedd, cyd weithwyr, sefydliadau eraill.

Nid ydym yn cymedroli cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ymlaen llaw. Fodd bynnag, rydym yn monitro pob sianel a byddwn yn dileu sylwadau neu negeseuon sydd ddim yn cydymffurfio gyda’n canllawiau postio.

Nid ydym yn atebol am gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr. Nid ydym yn ymrwymo i ymateb i sylwadau unigol, negeseuon neu

drydar

Page 4: Microsoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social ... · Web viewMicrosoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social Media Policy Last modified by Teresa Bradley Company Microsoft

Bydd negeseuon gan Rieni/Gofalwyr/Gwirfoddolwyr yn cynnig gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid ydynt yn gyngor proffesiynol.

Pan yn cael eu defnyddio’n gywir, mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd bwerus i gysylltu ȃ phobl. Maent yn fodd allweddol i gyfathrebu sy’n dangos ein ymrwymiad i ddidwylledd a thryloywder ac sy’n hyrwyddo gwaith a gweledigaeth Fforwm Rhieni/Gofalwyr CD-DdC.

Mae buddion defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol gan Fforwm Rhieni/Gofalwyr yn cynnwys:

Ymgysylltu ȃ mwy o rieni, gofalwyr a thrigolion yn gyflym Hyrwyddo gwaith y Fforwm Rhieni/Gofalwyr Codi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau

Pan yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol mae’n bwysig cofio hefyd:

Y gellir rhannu gwybodaeth o gwmpas y byd mewn eiliadau Y gall enw da y Fforwm Rhieni/Gofalwyr gael ei niweidio os na

ddefnyddir cyfryngau cymdeithasol yn gywir

Cofiwch os gwelwch yn dda: Rydych chi’n gyfrifol am yr hyn yr ydych yn ei ysgrifennu Peidiwch ȃ rhannu gwybodaeth gyfrinachol amdanoch chi eich hun

na phobl eraill Peidiwch ȃ phostio lluniau o bobl eraill, yn enwedig plant, hyd yn

oed os ydynt wedi’u tynnu yn ystod gweithgareddau Fforwm Rhieni/Gofalwyr CD-ddC.

Os ydych eisiau siarad ȃ rhywun oddi ar y pwnc, danfonwch neges breifat atynt os gwelwch yn dda.

Canllawiau Postio:Er ein bod yn dymuno i’n safleoedd cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ein tudalen Facebook, i fod yn lefydd agored ac onest, dylai sylwadau fod yn gwrtais heb achosi tramgwydd. Felly, rydym yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw sylw sy’n:

cynnwys gwybodaeth bersonol, fel rhifau ffôn, cyfeiriadau ac ati cynnwys ddolen neu ddelweddau treisgar, pornograffig, anweddus,

rhywiol, atgas neu wahaniaethol bygwth neu ddifenwi unrhyw berson a enwir, person proffesiynol

neu sefydliad

Page 5: Microsoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social ... · Web viewMicrosoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social Media Policy Last modified by Teresa Bradley Company Microsoft

hysbysebu gweithgaredd masnachol neu wneud ceisiadau am roddion neu arian, awgrymu neu’n annog gweithgaredd anghyfreithlon

cynnwys datganiadau ffug neu ddifriol am unrhyw berson neu sefydliad

oddi ar y pwnc neu sy’n amherthnasol sylwadau ailadroddus, wedi’u copio neu eu dyblygu gan

ddefnyddwyr unigol neu aml ddefnyddwyr bwlio neu’n aflonyddu dynwared neu’n honni’n ffug eu bod yn cynrychioli person neu

sefydliad wleidyddol torri hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol eraill ddolenni neu’n ddeunydd sy’n gysylltiedig ȃ llythyrau cadwyn, post

sothach, gamblo ar lein neu grwpiau eithafol. cynnwys deunydd sy’n debygol o greu atebolrwydd, troseddol neu

sifil, i unigolyn neu’r sefydliad Pan yn bosib ac mewn ymateb i unrhyw gais, byddwn yn esbonio pam rydym wedi gwahardd cyfrannwr neu ddileu sylw. Byddwn yn esbonio pam nad oedd sylw yn cydymmfurfio ȃ’r canllawiau ac yn awgrymu sut allai’r cynnwys gael ei addasu er mwyn ei gyhoeddi.

Diogelu: Pan fydd angen clir i ddiogelu lles cyfrannwr a/neu ei deulu/theulu, byddwn yn cysylltu ȃ’r awdurdodau perthnasol.

Torri’r Polisi: Gallai urhyw achos o dorri’r polisi hwn sy’n arwain at dorri cyfrinachedd, difenwi neu niweidio enw da y fforwm a’i bwrpas neu unrhyw weithred anghyfreithlon neu weithred sy’n golygu bod y fforwm yn atebol i drydydd parti, arwain at gamau cyfreithiol.

Page 6: Microsoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social ... · Web viewMicrosoft Word - Powys ALN Parent Carer Forum - Social Media Policy Last modified by Teresa Bradley Company Microsoft