3
Galwad allan i Ddramäwriaethwyr Dyddiadau 3 a 4 Hydref 2019 Caerdydd The Outside Eye - Cyfnewidfa ymchwil rhwng Yr Almaen a Chymru sy'n taflu golwg ar ddramäwriaeth mewn theatr. “Yn bennaf, mae theatr yn broses gymdeithasol ar y cyd. Hyd yn oed pan fydd yn cymryd rhan yn ddwys yn y cynhyrchiad, mae'n rhaid i'r dramäwriaethwr gadw ei bellter fel rhyw fath o "lygad o'r tu allan", y gwyliwr cyntaf, y beirniad cyntaf: yn gofalu am y llinellau mawrion, yr edafedd, yn canolbwyntio ar y maglau a'r heriau. A hwythau'n gyfrifol am ymchwil a datblygu'r testun, mae'r dramäwriaethwr yn rhan o'r cyflwyniad sy'n greadigol ac yn ddylanwadol yn artistig: gan helpu gweddill y tîm - awduron, cyfarwyddwyr, actorion, dylunwyr - wrth wau (neu ddatod) y we o ystyron a negeseuon posib." Y DR. STEFAN BLÄSKE Mae'r Almaen yn enwog am gydnabod y rôl hanfodol y mae dramäwriaethwyr yn ei chwarae wrth siapio theatr. Yng Nghymru mae'r rôl hon yn aml yn cael ei rhannu gan y cyfarwyddwr a'r awdur. Ond sut ydym ni'n grymuso cenhedlaeth newydd o ddramäwriaethwyr, sydd wedi'u hymroi i gynnig llygad allanol sydd â rôl ganolog wrth greu theatr o werth ac ansawdd eithriadol? Mae National Theatre Wales a Goethe-Institut Llundain wedi gwahodd y Dr Stefan Bläske i arwain grŵp ymchwil dau ddiwrnod gyda dramäwriaethwyr o Gymru a'r Almaen ym mis Hydref 2019 i ateb y cwestiwn hwn.

National Theatre Wales€¦ · Web viewi gwyliau ledled y byd (o Avignon i Wiener Festwochen) ac wedi ennill nifer o wobrau (megis 3sat-Preis yn Theatertreffen Berlin am “Five Easy

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: National Theatre Wales€¦ · Web viewi gwyliau ledled y byd (o Avignon i Wiener Festwochen) ac wedi ennill nifer o wobrau (megis 3sat-Preis yn Theatertreffen Berlin am “Five Easy

Galwad allan i Ddramäwriaethwyr

Dyddiadau 3 a 4 Hydref 2019

Caerdydd

The Outside Eye - Cyfnewidfa ymchwil rhwng Yr Almaen a Chymru sy'n taflu golwg ar ddramäwriaeth mewn theatr.

“Yn bennaf, mae theatr yn broses gymdeithasol ar y cyd. Hyd yn oed pan fydd yn cymryd rhan yn ddwys yn y cynhyrchiad, mae'n rhaid i'r dramäwriaethwr gadw ei bellter fel rhyw fath o "lygad o'r tu allan", y gwyliwr cyntaf, y beirniad cyntaf: yn gofalu am y llinellau mawrion, yr edafedd, yn canolbwyntio ar y maglau a'r heriau. A hwythau'n gyfrifol am ymchwil a datblygu'r testun, mae'r dramäwriaethwr yn rhan o'r cyflwyniad sy'n greadigol ac yn ddylanwadol yn artistig: gan helpu gweddill y tîm - awduron, cyfarwyddwyr, actorion, dylunwyr - wrth wau (neu ddatod) y we o ystyron a negeseuon posib."  

Y DR. STEFAN BLÄSKE 

Mae'r Almaen yn enwog am gydnabod y rôl hanfodol y mae dramäwriaethwyr yn ei chwarae wrth siapio theatr. Yng Nghymru mae'r rôl hon yn aml yn cael ei rhannu gan y cyfarwyddwr a'r awdur. Ond sut ydym ni'n grymuso cenhedlaeth newydd o ddramäwriaethwyr, sydd wedi'u hymroi i gynnig llygad allanol sydd â rôl ganolog wrth greu theatr o werth ac ansawdd eithriadol?

Mae National Theatre Wales a Goethe-Institut Llundain wedi gwahodd y Dr Stefan Bläske i arwain grŵp ymchwil dau ddiwrnod gyda dramäwriaethwyr o Gymru a'r Almaen ym mis Hydref 2019 i ateb y cwestiwn hwn.

Bydd y grŵp ymchwil hwn yn cynnig llwyfan i gyfnewid syniadau o gwmpas dulliau dramäwriaeth ac agor i fyny y posibilrwydd o gydweithio rhwng Cymru a'r Almaen yn y dyfodol.

Rydym yn chwilio am bedwar crëwr theatr Cymreig neu a leolir yng Nghymru sydd â phrofiad o ddramäwriaeth i fod yn bartneriaid â phedwar dramäwriaethwr a leolir yn Yr Almaen. Cyn y digwyddiad, bydd y cyfranogwyr yn cydweithio i baratoi sesiwn a gaiff ei chyflwyno fel rhan o'r grŵp ymchwil sydd i'w arwain gan Stefan dros y ddau ddiwrnod.

Page 2: National Theatre Wales€¦ · Web viewi gwyliau ledled y byd (o Avignon i Wiener Festwochen) ac wedi ennill nifer o wobrau (megis 3sat-Preis yn Theatertreffen Berlin am “Five Easy

Bydd y cyfranogwyr yn derbyn tâl am gymryd rhan ynghyd â threuliau teithio, llety a per diem. Mae tocyn wedi'i gynnwys hefyd ar gyfer cynhyrchiad National Theatre Wales a Royal Court o On Bear Ridge.

Rydym yn derbyn mynegiadau o ddiddordeb ar hyn o bryd gan ddramäwriaethwyr profiadol ar draws ffurfiau amlddisgyblaeth ar gelf. Gallai hyn gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: awduro newydd, cynhyrchu, celfyddydau byw, dawns, theatr ddogfennol, theatr safle neu leoliad penodol, theatr wedi'i dyfeisio a chorfforol. Ein nod yw cael amrywiaeth eang o arbenigedd yn yr ystafell er mwyn sicrhau bod y grŵp ymchwil yn taflu goleuni, ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli.

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Cyfle Cyfartal i gyd-fynd â'ch cais hefyd.

Ewch i: http://bit.ly/2zoWvOe

I fynegi eich diddordeb, llenwch y ffurflen a gyrrwch hi i [email protected] gyda ‘Dramäwriaethwr’ yn y teitl erbyn 2 Awst 2019, 5pm. Bydd y dramäwriaethwyr a ddewisir ar gyfer y symposiwm yn cael eu hysbysu erbyn canol Awst 2019.

Ceir cyfle hefyd i fynegi eich diddordeb trwy recordiad fideo neu sain, defnyddiwch y ffurflen fel canllaw.

Y Dr. Stefan Bläske, fe'i ganwyd ym 1976 yn Yr Almaen, ac mae'n bennaeth dramäwriaeth NTGent, Gwlad Belg, ers 2018. Fe astudiodd theatr ac astudiaethau cyfryngau, athroniaeth, gwleidyddiaeth a gwyddorau gweinyddol (yn Heidelberg, Erlangen, Rennes a Speyer) ac fe weithiodd fel cydymaith ymchwil yn Erlangen-Nuremberg a Vienna. Doethuriaeth ym Mhrifysgol Vienna ar "Hunan-fyfyrio a Myfyrio ar y Cyfryngau mewn theatr gyfoes". Rhwng 2009 a 2011, adolygiadau ac erthyglau i nachtkritik.de a chylchgronau theatr eraill. Gweithiodd Stefan Bläske i adran dramäwriaeth Theatr Gwladwriaeth Bafaria (Residenztheater) rhwng 2011 a 2013 ac fel mentor cyfarwyddo a dramäwriaeth Ysgol Otto Falckenberg, Munich yn 2014. Bu'n addysgu mewn nifer o ysgolion celf ac fe gyflwynodd gweithdai o Hong Kong i Zurich. O 2014 i 2018, mae  Stefan Bläske wedi bod yn cydweithio â Milo Rau ac 'International Institute of Political Murder' (IIPM). Cynhyrchwyd eu perfformiadau gan theatrau mawr eu bri (megis Schaubühne Berlin), maent wedi cael eu gwahodd i gwyliau ledled y byd (o Avignon i Wiener Festwochen) ac wedi ennill nifer o wobrau (megis 3sat-Preis yn Theatertreffen Berlin am “Five Easy Pieces“). Yn 2017, bu i feirniaid theatr Yr Almaen, Awstria a'r Swistir ethol Stefan Bläske yn "ddramäwriaethwr y flwyddyn" ("Theater heute").