12
Haf 2011 Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig P OBL PENWEDDIG P OBL PENWEDDIG www.penweddig.ceredigion.sch.uk Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn y Neuadd Fawr ar safle’r Brifysgol. Bu llysoedd Bleddyn, Hywel a Llywelyn â’u llygaid ar y wobr ond erbyn diwedd y dydd Hywel oedd y llys buddugol. Gellir gweld holl ganlyniadau’r diwrnod ar wefan yr ysgol ynghyd â lluniau. Y llys buddugol HYWEL Y llys buddugol am waith cartref HYWEL Y llys buddugol am waith llwyfan BLEDDYN Unigolion y Tlysau Gwobr Lledrith Llew Erin Gruffydd, Llywelyn Tlws y Cerddor Megan Haf, Hywel Tlws Saesneg Sophie Trotter, Hywel Gwobr Goffa Eilir Huws, Bleddyn Trystan Maelgwyn Gwobr Goffa Non Sioned Llywelyn, Hywel Taylor i’r Offerynnwr Gorau Cantor Gorau Rhian Whalley, Hywel Llefarydd Gorau Rhiannon Hincks, Hywel Perfformiwr Gorau Cati Fychan, Hywel Cystadleuaeth y Gadair Megan Lewis, Bleddyn Cystadleuaeth y Goron Megan Lewis, Bleddyn Llwyddiannau’r llysoedd Bleddyn Meimio Cân Steil Grŵp Dawnsio Disgo Hywel Ymgom Iau Côr Llywelyn Grŵp Offerynnol/Roc Llwyddiannau Unigolion Llefaru Iau Cati Fychan, Hywel Unawd Iau Emily Jones, Hywel Llefaru Hŷn Megan Lewis, Bleddyn Unawd Offerynnol Esther Llwyd Ifan, Hywel Iau Deuawd Agored Rhian Whalley a Lucy Trotter, Hywel Monolog Bl 10-13 Rhiannon Hincks, Hywel Unawd Merched Rhiannon Hincks, Hywel Bl 10-13 Unawd Offerynnol Hŷn Sioned Llywelyn, Hywel Unawd Bechgyn Cadan ap Tomos, Bleddyn Bl 10-13 Llefaru Digri Rhianna Davies, Hywel Unawd o Sioe Gerdd Sam Ebenezer, Llywelyn Megan Lewis Bl 13: Enillydd y Gadair a’r Goron Cynrychiolwyr llys ‘Hywel’: David Phillips, Rhydian ap Owen, Rhiannon Hincks a Mari Fflur Rowlands 1

POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

Haf 2011Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig

POBL PENWEDDIGPOBL PENWEDDIGwww.penweddig.ceredigion.sch.uk

Eisteddfod yr YsgolDdydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn y Neuadd Fawr ar safle’r Brifysgol. Bu llysoedd Bleddyn, Hywel a Llywelyn â’u llygaid ar y wobr ond erbyn diwedd y dydd Hywel oedd y llys buddugol. Gellir gweld holl ganlyniadau’r diwrnod ar wefan yr ysgol ynghyd â lluniau.

Y llys buddugol HYWEL

Y llys buddugol am waith cartref HYWEL

Y llys buddugol am waith llwyfan BLEDDYN

Unigolion y Tlysau

Gwobr Lledrith Llew Erin Gruffydd, Llywelyn

Tlws y Cerddor Megan Haf, Hywel

Tlws Saesneg Sophie Trotter, Hywel

Gwobr Goffa Eilir Huws, Bleddyn Trystan Maelgwyn

Gwobr Goffa Non Sioned Llywelyn, Hywel Taylor i’r Offerynnwr Gorau

Cantor Gorau Rhian Whalley, Hywel

Llefarydd Gorau Rhiannon Hincks, Hywel

Perfformiwr Gorau Cati Fychan, Hywel

Cystadleuaeth y Gadair Megan Lewis, Bleddyn

Cystadleuaeth y Goron Megan Lewis, Bleddyn

Llwyddiannau’r llysoedd Bleddyn Meimio Cân Steil Grŵp Dawnsio Disgo

Hywel Ymgom Iau Côr

Llywelyn Grŵp Offerynnol/Roc

Llwyddiannau Unigolion Llefaru Iau Cati Fychan, Hywel

Unawd Iau Emily Jones, Hywel

Llefaru Hŷn Megan Lewis, Bleddyn

Unawd Offerynnol Esther Llwyd Ifan, Hywel Iau

Deuawd Agored Rhian Whalley a Lucy Trotter, Hywel

Monolog Bl 10-13 Rhiannon Hincks, Hywel

Unawd Merched Rhiannon Hincks, Hywel Bl 10-13

Unawd Offerynnol Hŷn Sioned Llywelyn, Hywel

Unawd Bechgyn Cadan ap Tomos, Bleddyn Bl 10-13

Llefaru Digri Rhianna Davies, Hywel

Unawd o Sioe Gerdd Sam Ebenezer, Llywelyn

Megan Lewis Bl 13: Enillydd y Gadair a’r Goron

Cynrychiolwyr llys ‘Hywel’: David Phillips, Rhydian ap Owen, Rhiannon Hincks a Mari Fflur Rowlands

1

Page 2: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

Eisteddfod yr Urdd 2011

2

Llongyfarchiadau i’r cystadleuwyr a gynrychiolodd yr ysgol yn yr Eisteddfod. Mae’r ysgol yn falch iawn ohonynt.

1af Y Gwirfoddolwyr – Grŵp Pop Bl 7 – 9

Heddwen Daniel – Unawd Piano Bl 10 a dan 19 oed

Dawns Cyfansoddiad Creadigol Bl 7 a dan 19 oed

Grŵp Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo Bl 10 a dan 19 oed

2il

Ensemble Bl 7, 8 a 9 (sef Aled Skym, Carwyn Hughes, Steffan Thomas, Rose Gillison, David Michael, Ffion Evans, Iestyn Evans, Gwern Penri, Gethin Thomas a Dafydd Rees)

Sioned Llywelyn – Unawd Chwythbrennau Bl 10 a dan 19 oed

Megan Haf a Sioned Llywelyn – Deuawd Offerynnol Bl 13 ac iau

3ydd

Mared Pugh-Evans & Emily Jones – Deuawd Bl 7 – 9

Yn yr adran gwaith cartref bu’r uchod yn llwyddiannus, sef (o’r chwith i’r dde); Dylan Edwards - 1af am waith barddoniaeth, Efa Lois Thomas - 3ydd am ysgrifennu e-bost rhwng dau gariad, Eoin Mahon - 3ydd am waith rhyddiaith, Gwenan Evans - 3ydd am waith rhyddiaith ac Esther Llwyd Ifan – 1af am waith rhyddiaith.

Ffion Nelmes – 3ydd am greu mwgwd neu byped ac Angharad Davies – 1af am waith tecstiliau 2D

Page 3: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

3

Ifan Thomas – 3ydd am ffotograffiaeth (print lliw)

Diwrnod y LlyfrI ddathlu Diwrnod y Llyfr eleni cynhaliwyd cwis llyfrau Cymraeg a Saesneg yn y Ganolfan Adnoddau. Cofrestrodd saith tîm ond dim ond un oedd yn fuddugol ar ôl y 30 o gwestiynau sef ‘Turtle Doves’. Cafodd aelodau’r tîm Leah Ruddock, Llinos Turner, Meinir Williams a Catrin Pink docyn llyfrau gwerth £5. Da iawn iddyn nhw.

Dydd Gŵyl Ddewi

Bu aelodau’r ysgol yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn Sgwâr Glyndŵr eleni. Cafwyd perfformiad gan delynoresau’r ysgol a chan grŵp dawnsio disgo buddugol Eisteddfod yr ysgol, Bleddyn. Yn ogystal dangosodd Gwion James Bl 13 ei sgiliau rhyddredeg.

Gwion James

Y Cwis Llyfrau

Elin Wallace, Eleri Turner(Athrawes Beripatetig), Esther Llwyd Ifan a Medi Fflur Evans

Grŵp ‘Bleddyn’ yn perfformio

Page 4: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

4

Twrnamaint Pêl-osgoiCynhaliwyd twrnamaint pêl-osgoi 5x60 ar ddechrau mis Mawrth yn Aberteifi er mwyn codi arian tuag at Sefydliad y Galon. Bu timau o’r saith ysgol uwchradd yng Ngheredigion yn cystadlu ond bechgyn Bl 7 Penweddig enillodd. Llongyfarchiadau iddyn nhw!

Y Tîm Buddugol

Rhedeg yn OakwoodCynhaliwyd cystadleuaeth draws gwlad Dyfed ar ddechrau mis Chwefror ar gaeau Parc Oakwood. Cafwyd cystadlu brwd gyda thîm Ceredigion yn gwneud yn arbennig o dda. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu ond yn arbennig i: Dylan Jones Bl 9 – 7fed, Cari Harries Bl 9 – 10fed, Megan Turner Bl 11 – 3ydd, Lauren Harries Bl 12 – 2il.

Taith i BarisAeth Sam Ebenezer Bl 11 i Disneyland Paris gyda’r Urdd ar ddechrau mis Mawrth gan ei fod wedi ennill yr unawd o sioe gerdd llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Gwelir Sam â’i ddwylo i fyny y tu ôl i’r yrwraig

Page 5: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

5

Daeargryn a Thswnami Siapan Yn dilyn trasiedi’r ddaeargryn yn Siapan cafwyd anerchiad gan Fumi Inui, athrawes Siapanaeg yr ysgol. Bu’n disgrifio ei phrofiad ei hun o ddaeargrynfeydd a dangosodd fideo o arbrawf ar dŷ newydd a gynlluniwyd i wrthsefyll daeargrynfeydd. Aeth hanner yr arian a gasglwyd ar ddiwrnod Comic Relief at achos Siapan ac fe godwyd arian yn ogystal trwy ysgrifennu enwau disgyblion mewn Siapanaeg.Fumi Inui

…..ysgrifennu mewn Siapanaeg

Artist yn ysbrydoli…Cafodd rhai o ddisgyblion blwyddyn 9 gyfle gwych i ymweld ag arddangosfa’r BP Portrait Award yng nghwmni’r artist leol Ruth Jen, ac i fynychu gweithdy argraffu wedi ei ysbrydoli gan bortreadau’r arddangosfa. Dyma atgofion Siriol Dafis o’r diwrnod: “Roedd hi’n ddiwrnod llawn hwyl a sbri! I mi, y rhan gorau o’r ymweliad oedd darlunio portreadau clou ar ddechrau’r dydd. Roedd hynny’n ddiddorol iawn, ond yn hwyl hefyd. Rwyf wedi dysgu bod modd portreadu pobl mewn sawl osgo, ac rwyf am ddefnyddio rhai o’r ‘poses’ yma yn fy ngwaith yn y dyfodol. Wedi edrych ar y gwaith yn yr oriel, rwyf yn synnu ar gampweithiau rhai o’r artistiaid gan eu bod mor realistig – bron â bod fel ffotograffau. Roedd dysgu’r broses argraffu yn hwyl, er i mi orfod gweithio’n galed i orffen y gwaith cyn diwedd y dydd!”Diolch i’r disgyblion ac i Ruth Jen am eu gwaith caled! Yn cymryd rhan oedd Ifan Thomas, Siriol Dafis, Hannah Evans, Ruby Cains, Amy Waters, Glyn Rhys James, Catrin Ansell, Erin Hyde, Osian Pearson, Jeno Evans, Catrin Hughes, Ceri Evans, Harri Gethin, Sion Clifton, Gethin Thomas, Glyn Birtwistle, Cari Edwards a Griffri Llwyd.

Page 6: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

6

Llwyddiant ym Myd Aredig i Ddisgybl Blwyddyn 9Cafodd Dilwyn Harries o Landdeiniol grym lwyddiant yn ddiweddar yn y byd aredig. Mae wedi ymddiddori yn y maes hwn ers i’w frawd ddechrau cystadlu flynyddoedd yn ôl. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Rhosygarth. Roedd yn cystadlu yn rhanbarth Gogledd Ceredigion yn y dosbarth dechreuwyr agored.

Y dasg oedd troi darn o dir saith deg medr o hyd a thri deg medr o led mewn pum awr. Rhaid cael cwysi syth a chyfartal gyda gorffeniad da. Derbyniodd wobr ariannol a mynd ymlaen i gystadlu ar lefel uwch. Pob llwyddiant iddo yn y dyfodol. Dilwyn Harries

Canolfan Iaith

Mae grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 6 o ysgolion cynradd lleol yn mynychu’r Ganolfan Iaith ar ddydd Iau a dydd Gwener yn ystod y gwanwyn. Pwrpas y cwrs yw eu paratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd ym mis Medi. Ar un pnawn braf yn ddiweddar, aeth aelodau’r dosbarth ar daith gerdded i’r harbwr a’r castell i wneud gwaith maes ac i ddysgu am hanes a datblygiad y dref.

Yn y llun gwelir rhai o’r disgyblion yn gwneud nodiadau ar y marina.

Rygbi MerchedBu criw brwdfrydig o ferched blwyddyn 9 a 10 yn gweithio gyda Sian Williams, Gweithiwr Ieuenctid ENGAGE yr ysgol ar brosiect rygbi arbennig.

Treuliwyd sawl sesiwn hwylus yn dysgu am wahanol sgiliau a rheolau’r bêl hirgron a thrwy hyn yn magu hyder a gwneud ffrindiau newydd.

Daeth yr holl ymarfer i frig ar Ebrill y 7fed wrth i’r merched deithio i Lanelli i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 7 bob ochr Cenedlaethol yr Urdd. Chwaraewyd 5 gêm yn erbyn ysgolion eraill o bob rhan o Gymru.

Tyfodd hyder yr holl dîm wrth fynd o gêm i gêm a chyda gwaith tîm a chefnogaeth wych llwyddwyd i ennill yn erbyn tîm cryf a phrofiadol Maes yr Yrfa a dod yn agos iawn at ail mewn sawl gêm.

Roedd mwynhad y dydd yn amlwg ar wyneb pob un o’r merched ac ambell un eisoes yn sôn am fynd eto’r flwyddyn nesaf. Ynghyd â’r profiad mae

pob un ohonynt wedi ennill cymhwyster lefel 1 ‘OCN’ sgiliau rygbi .

Mae mwy o brosiectau tebyg i ddod gyda’r gweithiwr Ieuenctid yn yr ysgol – felly cofiwch edrych am wybodaeth o amgylch yr ysgol – neu os oes gan unrhyw un syniad am brosiect hoffent ei weld yn yr ysgol, galwch mewn i’r Hafan am sgwrs gyda Sian neu ffoniwch 07581209677.

Page 7: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

Gwersyll Gwyddoniaeth Mae Sophie Trotter Bl 10 wedi ennill lle yng Ngwersyll Cemeg ‘Salters’ a gynhelir ym Mhrifysgol Caergrawnt rhwng Gorffennaf y 13eg a’r 15fed. Llwyddodd i ennill lle yn erbyn disgyblion o bob rhan o Brydain ac Iwerddon. Llongyfarchiadau mawr iddi.

Gwe-ddarlledu: Y profiad o ymweld â’r Eisteddfod o’r ochr arall!Pan ofynnodd Mr Vivian Davies i ni (Gwenno, Alis, Rhiannon, a Gwenllian, Bl.10) os yr oeddem am gymryd rhan yng nghwrs gwe-ddarlledu yn Bont am rai diwrnodau roeddem yn amheus am y profiad. Roedd y cwrs ynghlwm â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Roedd y cwrs yn cynnwys diwrnod o hyfforddiant ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid sef lleoliad Eisteddfod yr Urdd, Rhanbarth Sir Ceredigion eleni, cyn treulio cwpl o ddiwrnodau yn ffilmio digwyddiadau a pherfformiadau’r Eisteddfod Gynradd ac Uwchradd.

Roedd y cwrs am ddim, wedi’i drefnu gan Urdd Gobaith Cymru, ac fe hoffem ddiolch i Eluned am gynnig y profiad i ni. Roedd wyth ohonom ni yn rhan o’r tîm gwe-ddarlledu, ni’n pedair a disgyblion o ysgol Dyffryn Teifi, Tregaron, a Phreseli.

Ar ddydd Gwener (y diwrnod hyfforddi), gadawon ysgol ar ddiwedd gwers 1. Cawsom lifft lawr gan Eluned, swyddog Urdd Ceredigion, a chyrhaeddon ym Mhontrhydfendigaid erbyn tua un ar ddeg y bore. Treulion weddill y diwrnod yn cwrdd â sawl arbenigwr yn y maes, wrth i ni ddysgu sut i ddefnyddio’r offer. Helpodd rheolwr a threfnydd y cwrs (Carol) i ni i chwilio’n ffordd o amgylch y safle ac i ddod i arfer â’r offer drud (“Peidiwch â phoeni os rydych yn cwympo’r camerâu, maen nhw dim ond gwerth £2000!!”). Hoffem ddiolch iddi hi am

Cystadleuaeth Wythnos GwyddoniaethAeth disgyblion blwyddyn 7 i’r Brifysgol ym mis Mawrth i ymweld â’r digwyddiad Wythnos Gwyddoniaeth. Bob blwyddyn mae’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yn cynnal arddangosfa gwyddoniaeth ymarferol am ddim i nodi Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae’n cynnig profiad ymarferol o wyddoniaeth a chynhaliwyd cwis ar faterion gwyddonol. Daeth Ffion Evans yn gyntaf gydag 19 marc allan o 20 ac yn ei dilyn yn ail daeth Fergus Pitcher, Oscar de Sousa, Penny Trotter, Daniel Hopton a Carwyn Williams. Da iawn iddyn nhw.

Geraint Howard yn dala chwilen ddu fawr

Chwith i dde – Gwenno Stevens, Gwenllian Spink, Alis Rees a Rhiannon James

bopeth a wnaeth yn ystod yr holl gwrs! Ar ôl treulio’r dydd Gwener yn derbyn hyfforddiant a chymorth gan yr arbenigwyr, aethon adref er mwyn ymlacio cyn y dydd Sadwrn!

Ar fore dydd Sadwrn roedd rhaid mynychu’r cwrs unwaith yn rhagor. Roedd gofyn i ni fod ym Mhafiliwn Bont erbyn deuddeg er mwyn paratoi ar gyfer y we ddarlledu fyw a oedd yn cychwyn am un o’r gloch. Trwy gydol y dydd cawsom amryw o gyfleoedd i reoli’r offer technegol yn cynnwys y camerâu, bwrdd sain a’r goleuadau yn ogystal â chymysgu lluniau (vision mixing). Roedd rhaid dysgu termau cywir gwahanol saethiadau’r camerâu, megis ‘M.C.U’- sef Medium Close Up a ‘W.S’- sef Wide Shot.

Ar ôl diwrnod cyfan o we-ddarlledu yn fyw, a chlustiau tost o’r holl weiddi gan Carol, fe adawon ni am wythnos arall. Y dydd Gwener nesaf roeddem ni am ddychwelyd unwaith yn rhagor, a’r tro hwn efo ychydig mwy o brofiad tu ôl y camerâu. Cafodd pawb y cyfle i wneud rhywbeth gwahanol, er bod rhai yn ffafrio’r camerâu, neu gymysgu lluniau. Roedd pawb wedi mwynhau’r cyfle.

Er roedden yn wawdlyd cyn mynychu’r profiad, mi fwynheuon y cyfle gwahanol hwn.

7

Page 8: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

Athletwyr yr ysgolLlongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu ym mabolgampau’r Sir ar yr 11eg o Fai ar drac athletau Treioan, Caerfyrddin ond ymhlith y cystadleuwyr a ddaeth yn gyntaf oedd Nia Wyn Jones yng nghystadleuaeth y pwysau a’r ddisgen, Cari Harries yn y 1500m,

8

Alys Cowdy, Bl 8

Rasio CeirLlongyfarchiadau i Dafydd Jones Bl 8 am gystadlu mewn ras ceir a gynhaliwyd yn Sir Benfro ym mis Ebrill. Daeth yn 2il allan o 12 yn y rasys rhagbrofol ac yna’n ail yn y ras derfynol.

Dilwyn Harries yn y 100m, Sam Hesden yn y waywffon, Ffion Evans yn yr 800m, Fergus Pitcher yn y naid uchel, Sion Ewart yn y naid hir a Lewis Ellis Jones yn y gystadleuaeth pwysau. Llongyfarchiadau i Alys Cowdy Bl 8 ar ennill ‘Gwobr Non Taylor’ am fod yn berfformwraig orau ysgolion Ceredigion. Daeth yn gyntaf yn y 100m, 200m a’r naid hir.

Llenorion PenweddigYn ddiweddar cyflwynodd Clwb Rotari Aberystwyth docynnau llyfr i enillwyr eu cystadleuaeth lenyddol mewn gwasanaeth ysgol arbennig. Bu angen i ddisgyblion gyflwyno gwaith rhyddiaith neu farddoniaeth i bwyllgor addysg y clwb ac fe’u gwelir yn derbyn eu gwobrau.

Yn y llun gyda Mr Geraint Thomas a Mr Alun John o Glwb Rotari Aberystwyth mae:

Rhes gefn: Erin Parry, Gwenno Evans, Siriol Dafis, Huw Lewis, David Marvelly, Dylan Edwards a Llew Evans Rhes flaen: Esther Llwyd Ifan, Penny Trotter, Cari O’Rourke, Erin Gruffydd, Ioan Pearce, Garin Fitter a Sophie

Trotter

Page 9: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

Ras am FywydLlwyddodd y disgyblion i godi £367 at yr elusen Ymchwil Canser trwy dalu i wisgo eitem binc am ddiwrnod. Bu Mrs Rachel Riley Jenkins yn cymryd rhan yn y ras a gynhaliwyd yn y dref ar y dydd Sul.

Bl 11 &13 yn gadaelFfarweliodd yr ysgol ag aelodau Blynyddoedd 11 & 13 ddechrau mis Mai wrth iddynt ddechrau ar eu cyfnodau astudio ar gyfer yr arholiadau TGAU a Safon A. Cyrhaeddodd rhai mewn steil a throedio’r carped coch cyn cael diwrnod o dynnu lluniau, areithiau a hel atgofion. Dymunwn bob hwyl iddynt.

9

Page 10: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

10

Diwrnod ABChCafwyd diwrnod difyr arall o weithgareddau ar y 13eg o Ebrill gan gynnwys hunan amddiffyn, mewnbwn ar gyffuriau gan SUDDS, sesiynau ar sgiliau adolygu ac iechyd meddwl. Yn ogystal cafwyd perfformiad gwych o Your Song mewn arwyddiaith gan ddisgyblion a oedd wedi cael eu dysgu gan Mr Howard Jones.

Yn y prynhawn fe gynhaliwyd sesiwn holi ac ateb yn neuadd yr ysgol gyda phanel o ymgeiswyr etholiadau’r Cynulliad yn wynebu disgyblion yr ysgol a’u cwestiynau. Yn cyflwyno ac yn arwain oedd Cadan ap Tomos Bl 12 a derbyniodd y panel gwestiynau ar faterion cyfoes megis trafnidiaeth, addysg a ffioedd dysgu. Trannoeth yn ystod amser cinio cafodd disgyblion yr ysgol gyfle i bleidleisio ar sail yr hyn a glywsant y diwrnod cynt.

Lansio ‘Prism’Ymwelodd yr awdures Manon Steffan Ros â Chanolfan Adnoddau’r ysgol yn ddiweddar i lansio ei nofel ddiweddaraf, Prism. Gyda hi oedd Mr Alun Jones, golygydd Cymraeg Y Lolfa a chafwyd sesiwn holi ac ateb gyda disgyblion Bl 7. Rhoddwyd enw pob disgybl a holodd cwestiwn i mewn i het ac fe dynnwyd enw Gwenno Thomas fel enillydd copi o Prism.

Manon Steffan Ros and Alun Jones Gwenno Thomas Yr 7 yn derbyn ei gwobr

O’r chwith – Elin Jones, Plaid Cymru; Richard Boudier, Llafur; Cadan ap Tomos, Llywydd;

Luke Evetts, Ceidwadwyr; Elizabeth Evans, Democratiaid Rhyddfrydol a Chris Simpson, Plaid

Werdd Cymru

Page 11: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

11

Codi ArianCodwyd £109.85 at elusen Ffibrosis Systig gan ferched blwyddyn 8 drwy werthu cacennau yn ystod amser egwyl yng Ngorffennaf. Gwerthwyd popeth o fewn 15 munud!

Gwaith gan Mari Fflur Rowlands

Gwaith gan Rachel TurnerGwaith gan Timothy Ansell

Artistiaid y dyfodolLlongyfarchiadau i griw o ddisgyblion a fu’n arddangos eu gwaith celf yng Nghanolfan Arad Goch o’r 1af - 7fed o Orffennaf.

Detholwyd gwaith gan Mari Fflur Rowlands, Rachel Turner, Timothy Ansell, Ceri Gwin-Morgan a Siân Dewhurst, i’w ddangos gyda gwaith nifer fawr o ddisgyblion lefel-A eraill o Geredigion.

Agorwyd yr arddangosfa gan yr artist adnabyddus Mary Lloyd Jones. Soniodd hi am y gymuned gyfoethog o artistiaid sydd yma yng Ngheredigion, a’i gobaith y byddai rhai o’r artistiaid ifanc yn yr arddangosfa yn

dychwelyd i Geredigion un diwrnod i ymuno’r â’r “fyddin o bobl greadigol” sydd yn y sir hon, a bod Cerdigion yn wir yn lle arbennig ar gyfer y celfyddydau.

Page 12: POBL PENWEDDIG Penweddig...Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig Haf 2011 POBL PENWEDDIG Eisteddfod yr Ysgol Ddydd Iau’r 17eg Chwefror cafwyd cystadlu brwd yn

12

Yn adeiladu’r set mae Jack Rees, Ryan Hughes a Sam Hesden, Bl 9

Y merched a fu’n modelu ynghyd â Courtenay Hamilton sef Miss Cymru a’r cyflwynydd Ifan Jones Evans

Sioe Diwedd BlwyddynGwelodd mis Mai griw Tîm Talent S4C yn glanio yn yr ysgol gyda’u tîm o arbenigwyr o’r byd perfformio a’r celfyddydau gan gynnwys y Miss Cymru bresennol!

Y nod oedd cynorthwyo’r adrannau Celf, Technoleg, Tecstilau ac Arlwyo i gynnal Sioe Diwedd Blwyddyn i’w chofio.

Bu criw o ddisgyblion yn gweithio’n ddiwyd iawn i baratoi set, hysbysebu’r noson, a chreu sioe ffasiwn a gwisgoedd, ynghyd â lluniaeth. Ar y noson cafwyd arddangosfa o waith disgyblion Celf a Thechnoleg ac fe gyflwynodd Ifan Jones Evans Sioe Ffasiwn o wisgoedd y disgyblion.

Bu’r noson yn llwyddiant ysgubol ac fe fydd cyfle i chi weld y rhaglen ar y teledu ym mis Hydref, felly cofiwch wylio allan amdani! Gallwch ddod o hyd i fwy o luniau’r noson ar ein gwefan.

Leisia Tudor Bl 9 ar y llwyfan modelu