28

Click here to load reader

Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

  • Upload
    vulien

  • View
    224

  • Download
    1

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Pontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis

Cynnwys Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu? Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw Pam mae hi'n bwysig meddwl am opsiynau posib ar gyfer y

cyfnod ar ôl Blwyddyn 11 ymhell cyn i chi adael yr ysgol? Profiad gwaith Gwirfoddoli Mynd ymlaen i brifysgol Pam y dylech chi gael Asesiad Golwg Gwan cyn dechrau mewn

coleg, prifysgol neu swydd newydd Symud ymlaen i fyd gwaith: pethau pwysig y dylech fod yn

ymwybodol ohonynt Stori Ken: o Ewrop i America i Dŵr Llundain Buddion a chymorth ariannol Cysylltiadau defnyddiol ar gyfer gwybodaeth a chefnogaeth

bellach Gyrfaoedd Cymru - amserlen ar gyfer cefnogaeth yn ystod

cyfnod o newid

Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?Meddyliwch am eich cyfnod yn yr ysgol. Fe fyddwch chi'n gyfarwydd â'r staff sy'n eich helpu a'r addasiadau sy'n ei gwneud hi'n bosib i chi ddefnyddio deunyddiau mewn pwnc penodol. Mae'n bosib y bydd gennych daflenni gwaith neu lyfrau gosod mewn print bras neu athro cynorthwyol sy'n cymryd nodiadau ar eich rhan yn y dosbarth. Yn yr ysgol, mae'r staff a chi yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch er mwyn sicrhau nad yw eich problemau golwg yn amharu ar eich gallu i ddysgu. Ond ydych chi wedi ystyried beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn gadael yr ysgol ac yn parhau mewn coleg, prifysgol neu ym myd gwaith?

Meddyliwch am y newid o'r ysgol i'r hyn ddaw wedyn fel cyfres o deithiau o un lleoliad i leoliad arall. Er enghraifft: o'r ysgol i fyd gwaith o'r ysgol i goleg i brifysgol i fyd gwaith o'r ysgol i fyd hyfforddiant galwedigaethol i fyd gwaith.

1

Page 2: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Mae'r teithiau sy'n eich cymryd o un fan i fan arall yn "bwyntiau trawsnewid" ac mae hi'n bwysig i chi a'r gwahanol asiantaethau cymorth gynllunio ar gyfer y cyfnodau hyn o newid mewn digon o amser. Bydd hyn yn sicrhau bod y newid o'r chweched dosbarth i brifysgol, er enghraifft, yn effeithiol a didrafferth ac y byddwch chi'n ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael i chi a phwy fydd yn gyfrifol amdani. Mae cynllunio gofalus hefyd yn bwysig am resymau ymarferol, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod technoleg hygyrch ar gael i chi, fel darllenwyr sgrin neu offer chwyddo, a hynny reit o'r dechrau.

Mae yna lawer o gefnogaeth ar gael ac mae'n bosib na fyddwch chi'n ymwybodol o'r holl opsiynau. Mae gwybod beth sydd ar gael yn eich galluogi i reoli eich dyfodol ac i chi wneud dewisiadau annibynnol ynglŷn â'r camau nesaf i chi.

Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw Pan fyddwch chi wedi gorffen eich arholiadau TGAU gallwch ddewis o blith nifer o opsiynau. Mae'n bosib y byddwch chi eisiau aros yn yr ysgol tan eich bod chi'n 18 oed os oes gan eich ysgol chweched dosbarth neu fynychu coleg lleol a dilyn cwrs yn y fan honno. Fel arall, mae'n bosib y byddwch chi eisiau mynd yn syth i fyd gwaith a dechrau ennill bywoliaeth. Mae yna lawer o opsiynau posib ond fe fydd y gwaith paratoi ar gyfer eich dyfodol yn dechrau ym Mlwyddyn 9.

Cyn eich "cyfarfod newidiadau" ar ddiwedd Blwyddyn 9 fe ddylech chi: Gwrdd â'ch Cynghorydd Gyrfaol i drafod pa bynciau rydych

chi'n eu mwynhau ac yn gwneud yn dda ynddynt, pa bynciau rydych chi'n bwriadu eu hastudio ar gyfer eich arholiadau TGAU a'ch dyheadau ar gyfer y cyfnod ar ôl i chi adael ysgol.

Siarad â'ch athrawon pwnc ynglŷn â'ch cryfderau a pha bynciau sy'n gweddu orau i chi.

Siarad â'r Cynghorydd Gyrfaoedd Cymru a'ch rhieni ynglŷn â'r hyn yr hoffech ei wneud ar ôl cwblhau Blwyddyn 11. Mae'n bosib y byddwch yn ystyried parhau yn y chweched dosbarth, coleg lleol, coleg preswyl, hyfforddiant pellach neu fynd yn syth i fyd gwaith.

Feddwl am anawsterau yn yr ysgol fel y gallwch drafod y rhain yn ystod y cyfarfod.

2

Page 3: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Yn ogystal â chynghorwyr gyrfaol, athrawon a'ch athro/athrawes gymwysedig nam ar y golwg, bydd eich rhieni hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod. Os ydych chi'n teimlo'n swil neu'n nerfus wrth godi pethau penodol yn ystod y cyfarfod, mae hi'n syniad da i drafod pynciau sy'n eich poeni gydag aelod o staff neu gyda'ch rhieni o flaen llaw.

Caiff adroddiad ei greu ar ôl y cyfarfod fydd yn crynhoi'r pynciau a drafodwyd. Bydd eich rhieni'n derbyn copi ac fe allwch chi ei ddarllen hefyd er mwyn sicrhau eich bod yn hapus â'r cynnwys. Os ydych chi'n teimlo bod unrhyw beth wedi'i adael allan, dwedwch wrth aelod o staff.

Cofiwch, eich cynllun chi ar gyfer eich dyfodol chi sydd dan sylw, felly mae hi'n bwysig iawn ei fod yn cynnwys y pethau yr hoffech chi iddo gynnwys.

Cyfarfod adolygu Blwyddyn 10Caiff cyfarfod adolygu arall ei drefnu yn ystod Blwyddyn 10. Yn ystod y cyfarfod hwn, mae'n bosib y bydd staff o'ch coleg lleol neu'r chweched dosbarth hefyd yn bresennol. Fe fydd yna drafodaethau ynglŷn â'r gefnogaeth a gawsoch chi yn yr ysgol a'r gefnogaeth r'ych chi'n debygol o fod angen mewn coleg neu chweched dosbarth. Bydd angen i chi ystyried y cyrsiau neu'r pynciau r'ych chi'n bwriadau eu hastudio a'r math o gefnogaeth y byddwch chi ei hangen.

Ar ôl cyfarfod Blwyddyn 10Caiff adroddiad ei baratoi ac fe gaiff copïau eu danfon atoch chi, eich rhieni, staff yr ysgol, staff Gyrfaoedd Cymru a staff y chweched dosbarth neu'r coleg y byddwch chi'n ei fynychu. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu eich cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl Blwyddyn 11 ac yn edrych yn benodol ar: y gefnogaeth r'ych chi'n ei derbyn yn yr ysgol eich gallu o ran symudedd, cyfeiriadedd a sgiliau byw'n

annibynnol y gefnogaeth y byddwch chi ei hangen mewn coleg neu

chweched dosbarth.

Eto, darllenwch yr adroddiad ar ôl y cyfarfod er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag ef.

3

Page 4: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Beth os af i ymlaen i astudio yn y chweched dosbarth?Os byddwch chi'n mynd ymlaen i astudio yn y chweched dosbarth, bydd pethau'n mynd yn eu blaenau fel o'r blaen, gan mwyaf. Byddwch yn dal i dderbyn cefnogaeth gan eich ysgol a'r staff cynorthwyol r'ych chi'n eu hadnabod yn barod.

Beth os symuda' i o'r ysgol i goleg lleol?Os byddwch chi'n penderfynu gadael a symud i goleg Addysg Bellach neu goleg preswyl, neu os byddwch chi'n symud i fyd hyfforddiant gwaith bydd eich Datganiad yn dod i ben - ni fydd yn bodoli mwyach.

Byddwch yn dal i dderbyn cefnogaeth ond fe gaiff ei darparu gan staff ategol y coleg lleol. Fyddwch chi ddim yn gweld eich athro/athrawes gymwysedig nam ar y golwg mwyach ac fe fyddwch yn cael eich addysg gan dîm o staff newydd yn y coleg.

Mae'r gefnogaeth sydd ar gael mewn colegau yn amrywio ac mae hi'n bwysig eich bod chi'n ymweld â'r fan cyn gwneud cais am le. Hyd yn oed os nad ydych chi'n hollol sicr eich bod chi eisiau mynd, mae hi'n syniad da ymweld â choleg am y gall hynny eich helpu i benderfynu.

Pethau fydd yn eich helpu i benderfynu a yw mynd i goleg yn iawn i chi Edrychwch ar eu gwefan - mae gan bob coleg le ar y we. Siaradwch â phobl eraill sydd wedi bod i'r coleg a gofynnwch

iddyn nhw sut brofiad oedd hynny. Siaradwch â'ch athrawon pwnc a staff ategol yn yr ysgol a

gofynnwch am eu barn nhw. Ewch i ymweld â'r colegau rydych yn eu hystyried cyn gynted â

phosib. Byddwch yn gallu cyfarfod â'r staff ategol yno a gofyn cwestiynau. Hefyd, sicrhewch eich bod yn edrych i weld pa dechnoleg gynorthwyol sydd ar gael - gofynnwch sawl cyfrifiadur sydd ganddynt sy'n gallu chwyddo'r sgrin a pha feddalwedd sy'n cael ei defnyddio. Bydd y rhain i gyd yn ffactorau pwysig wrth i chi wneud eich penderfyniad.

Siaradwch â'r darlithwyr fydd yn eich dysgu yn y coleg.

4

Page 5: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Beth os ydw i'n ystyried gwneud cais i goleg preswyl?Bydd angen i chi ddechrau cynllunio cyn gynted ag y gallwch. Fe ddylech chi a'ch rhieni: wneud gwaith ymchwil am golegau preswyl; ymchwilio'r lleoliadau posib; drefnu i ymweld â cholegau; ystyried pa goleg sy'n debygol o ateb eich gofynion chi orau.

Os ydych chi'n ystyried mynd i goleg preswyl mae hi'n bwysig iawn bod hynny'n cael ei nodi adeg eich cyfarfod adolygu.

Pam mae hi'n bwysig meddwl am opsiynau posib ar gyfer y cyfnod ar ôl Blwyddyn 11 ymhell cyn i chi adael yr ysgol? Nawdd yw'r rheswm pennaf. Os ydych chi'n meddwl mynd i

goleg preswyl bydd angen i'r staff yno wybod ymhell o flaen llaw am y bydd angen iddynt wneud ceisiadau am nawdd i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol hefyd efallai. Mae'r broses yn cymryd amser felly go gorau po fwyaf o amser sydd ar gael.

Mae nawdd hefyd yn bwysig os ydych chi'n mynd i fynychu coleg addysg bellach lleol. Yn yr ysgol, yr Awdurdod Addysg Lleol dalodd am eich cefnogaeth ond mae'n rhaid i golegau ddefnyddio eu arian eu hunain felly mae angen iddyn nhw wybod am eich cynlluniau cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn sicrhau bod popeth yn barod ar eich cyfer pan ddechreuwch chi eich cwrs.

Mae meddwl mewn da bryd am eich opsiynau yn golygu y gallwch drefnu ymweliadau ac ymchwilio'r gefnogaeth sydd ar gael cyn i chi wneud eich dewis terfynol.

Bydd hefyd yn golygu bod gennych fwy o amser i ddod o hyd i'r cyrsiau mwyaf addas a dysgu mwy am y coleg a'i staff ac i siarad â chyn-ddisgyblion.

Profiad gwaithMae profiad gwaith yn rhan hollbwysig o "symud ymlaen" ac yn eich galluogi i gael profiad ymarferol o weithio mewn gwahanol amgylchiadau. Nid rhywbeth i'w wneud tua diwedd eich gyrfa yn yr ysgol yn unig yw profiad gwaith; mae'n rhywbeth y dylech geisio'i wneud eto pan fyddwch chi mewn coleg neu brifysgol. Mae profiad gwaith yn ffordd ardderchog o ddangos eich brwdfrydedd a'ch egni ar eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu

5

Page 6: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae'n bosib y bydd profiad gwaith yn rhan o'ch cwrs prifysgol ac fe all hyd yn oed arwain at gynigion swydd. Mae hi'n bwysig iawn eich bod yn edrych ar brofiad gwaith fel rhywbeth ymarferol a defnyddiol, i'w gwblhau tra byddwch yn yr ysgol ac ar ôl hynny hefyd.

Bydd staff Gyrfaoedd Cymru a'r cydlynydd profiad gwaith yn eich ysgol yn eich helpu i ddod o hyd i leoliadau posib ar gyfer profiad gwaith. Eich cyfrifoldeb chi fydd trefnu'r cyfnod o brofiad gwaith, ond fe allwch chi ofyn am help gan eich rhieni os bydd angen.

Cynhyrchodd RNIB Cymru a Gyrfaoedd Cymru dri llyfryn i'ch helpu chi yn ystod y broses o gwblhau cyfnod o brofiad gwaith a sut i wneud y mwyaf ohono. Cysylltwch â Swyddog Trawsnewidiadua RNIB Cymru i gael copïau ohonynt (gweler yr adran Cysylltiadau defnyddiol am fanylion).

Adnoddau ar-lein eraill Mae profiad gwaith yn elfen gynyddol bwysig ar CV graddedigion. Mae Disability Toolkits yn adnodd ar-lein fydd yn eich helpu i wneud y mwyaf o'ch profiad gwaith a chyfleoedd yn deillio ohono. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.disabilitytoolkits.ac.uk.

Gwirfoddoli Gall Gwirfoddoli wneud gwahaniaeth mawr i'ch bywyd chi ac i fywydau eraill. Mae'n rhoi cyfle i chi ymwneud ag achos sy'n agos at eich calon yn ogystal â chwrdd â phobl newydd, tebyg i chi. Mae hefyd yn fodd o roi cynnig ar rywbeth a gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth i chi benderfynu a hoffech chi ddilyn gyrfa mewn maes penodol. Mae gwirfoddoli yn ffordd ardderchog o gryfhau eich CV ac fe all fod yn werthfawr iawn pan fyddwch yn ceisio am swyddi; yn wir, gall gwirfoddoli gyda sefydliad arwain at gael cynnig swydd gyda'r un sefydliad.

Mae yna nifer o gyfleoedd gwirfoddol ar gael, gan gynnwys nifer gyda RNIB Cymru. I gael mwy o wybodaeth gyffredinol am gyfleoedd gwirfoddol yng Nghymru ewch i www.volunteering-wales.net.

6

Page 7: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Mynd ymlaen i brifysgolPan fyddwch chi wedi gorffen yn y chweched dosbarth neu'r coleg mae'n bosib y byddwch yn ystyried mynd ymlaen i brifysgol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ac fe all olygu symud i ffwrdd a byw ar eich pen eich hun am y tro cyntaf. Eto, mae hi'n bwysig iawn eich bod yn cynllunio ymlaen llaw felly dechreuwch ystyried hyn cyn gynted ag y gallwch. Mae hi'n bwysig ystyried o flaen llaw er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y cwrs iawn, y brifysgol iawn ac, yn bwysicach na dim, bod pob dim yn ei le yn barod at eich diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn golygu y gallwch ddechrau eich cwrs heb orfod poeni am eich offer ategol a'ch cefnogaeth a chanolbwyntio yn lle hynny ar wneud ffrindiau a setlo i mewn i'ch bywyd newydd.

Dewis prifysgol Trafodwch eich opsiynau â'ch Cynghorydd Gyrfaol, athrawon

pwnc a staff ategol a rhieni Edrychwch ar wefan UCAS am wybodaeth ynglŷn â chyrsiau,

sefydliadau a'r gofynion mynediad: www.ucas.ac.uk Mae gan bob prifysgol ei gwefan ei hun. Bydd y we-fan yn

darparu gwybodaeth am gyrsiau, gweithgareddau cymdeithasol a neuaddau preswyl. Bydd yna dudalennau penodol yn sôn am gefnogaeth ychwanegol, technoleg gynorthwyol a'r feddalwedd hygyrch sydd ar gael yn y llyfrgell.

Trefnwch ymweliad. Caiff diwrnodau agored eu hysbysebu ar y wefan ond mae'n bosib y byddwch chi eisiau cysylltu â'r Gwasanaeth Cefnogaeth Anabledd yn uniongyrchol er mwyn mynd i gyfarfod â nhw hefyd yr un pryd. Mae hyn yn ddefnyddiol oherwydd gallwch gyfarfod â staff o flaen llaw a gofyn cwestiynau am y math o gefnogaeth fydd ar gael i chi.

Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)Mae'r DSA yn grant all helpu i dalu'r costau ychwanegol y gall myfyrwyr eu wynebu o ganlyniad i golli golwg a/neu anableddau eraill. Bydd y DSA yn eich galluogi i astudio a chael gafael ar ddeunyddiau ar gyfer eich cwrs a hynny ar yr un telerau â myfyrwyr eraill; telir y DSA ar ben y pecyn ariannol safonol i fyfyrwyr. Bydd y swm sy'n ddyledus i chi yn dibynnu ar natur y gefnogaeth ychwanegol y byddwch ei hangen. Nid oes rhaid i chi ad-dalu'r DSA ac nid yw'n effeithio ar unrhyw daliadau eraill y byddwch yn eu derbyn. Mae hi'n bwysig nodi hefyd nad yw eich

7

Page 8: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

hawl ar lwfans DSA yn dibynnu ar incwm eich teulu - mae'n seiliedig ar eich anghenion yn unig.

Pa fath o bethau alla i dalu amdanynt gyda'r DSA? Eitemau ac offer arbenigol - er enghraifft, darllenwyr sgrin, offer

chwyddo cyfrifiadurol, dyfeisiau cymryd nodiadau braille. Lwfans helpwr anfeddygol - er enghraifft, cymorth mewn llyfrgell

neu ddefnydd o ddarllenydd mewn arholiadau. Lwfans cyffredinol - y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel

papurau arholiad a deunyddiau addysgol wedi'u chwyddo.

Un peth ardderchog am Lwfans Myfyrwyr Anabl yw'r ffaith bod yr offer a brynir ganddo yn perthyn i chi – gallwch eu cadw yn eich cartref neu yn eich neuadd breswyl. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gwneud defnydd llawn o dechnoleg gynorthwyol yn eich cartref eich hun a chadw'r offer wedi hynny.

Mae mathau eraill o gymorth y gellir talu amdanynt gyda'r DSA yn cynnwys: talu i fyfyriwr â phroblemau golwg ddysgu braille sgiliau adsefydlu a hyfforddiant symudedd talu am dacsi i fynd yn ôl ac ymlaen o'r brifysgol.

Mae hi'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r amrywiaeth eang o gefnogaeth y gallech gael gafael arni gyda'ch lwfans DSA. Meddyliwch am y rhestr uchod cyn i chi adael yr ysgol a thrafodwch eich anghenion yn y gorffennol a'ch anghenion posib yn y dyfodol, dros gyfnod eich cwrs. Mae'n bosib y bydd angen hyfforddiant symudedd arnoch er mwyn ymgyfarwyddo â llwybrau penodol a chynllun y brifysgol. Ystyriwch yr holl bethau hyn pan fyddwch chi'n meddwl am wahanol brifysgolion ac yn gwneud ceisiadau.

Tips technolegMae'n bosib na fyddwch chi'n ymwybodol o'r amrywiaeth eang o dechnoleg sydd ar gael – a gyda'r holl ddatblygiadau newydd, gall fod yn anodd cadw trac. Fe all fod yn syniad cysylltu â chyflenwr fydd yn gallu ymweld â chi yn eich cartref i ddangos y cynhyrchion diweddaraf i chi. Os gwelwch chi rywbeth a allai fod o werth i chi yn y brifysgol, trafodwch hyn gydag asesydd y DSA – mae'n bosib y bydd modd i chi wneud cais am yr eitem gyda'ch taliad DSA.

8

Page 9: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Sut mae gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl - DSA?Caiff y lwfans ei ddarparu gan eich awdurdod addysg lleol. Hynny yw, os ydych chi'n byw yn Wrecsam ond yn astudio yng Nghaerdydd, caiff eich DSA ei ariannu gan Awdurdod Addysg Lleol Wrecsam.

Asesiad y DSAOs penderfynwch chi wneud cais i brifysgol, cewch eich asesu, gan rhywun o'r brifysgol fel arfer. Dylai'r asesydd fod wedi derbyn gwybodaeth am y gefnogaeth a gawsoch chi yn yr ysgol neu'r coleg ac fe fydd yn ystyried: prognosis y cyflwr sy'n effeithio ar eich llygaid; anghenion y cwrs dros y blynyddoedd i ddod.

Bydd yr asesydd yn trafod gyda chi ac yn penderfynu pa fath o gefnogaeth i wneud cais amdani. Os byddwch chi wedi ystyried hyn eisoes, bydd hynny'n ddefnyddiol iawn - oherwydd fe allwch chi gyfrannu'n adeiladol at yr asesiad. Cofiwch, chi yw'r person gorau i ddisgrifio eich anghenion.

Bydd yr asesydd wedyn yn cynhyrchu adroddiad yn amlinellu'r gefnogaeth r'ych chi'n gwneud cais amdani. Mae gennych hawl i dderbyn copi o'r adroddiad ac fe ddylech chi a'ch asesydd gytuno ar ei gynnwys. Caiff yr adroddiad ei ddanfon at eich awdurdod addysg lleol wedyn, fel cais am Lwfans DSA.

Beth os bydd f'anghenion yn newid tra byddaf yn y brifysgol? Nod asesiad y DSA yw i ateb eich gofynion ar hyd y cyfnod y byddwch yn y brifysgol ond weithiau mae anghenion a gofynion yn newid. Mae'n bosib y bydd eich golwg yn newid neu y byddwch yn dilyn modiwl lle bydd angen darn newydd o offer. Os felly, mae gennych hawl i wneud cais am "asesiad ychwanegol" fydd yn archwilio'r broblem er mwyn ei datrys.

I gael mwy o wybodaeth am Lwfans Myfyrwyr Anabl y DSA gallwch ymweld â: www.direct.gov.uk

Codi llaisMae rhai prifysgolion yn fawr iawn. Gallant gynnwys nifer o adeiladau gwahanol, dros ardal eang, a nifer o staff ac adrannau gwahanol. Mae hi'n hollbwysig nad ydych chi'n cael eich drysu gan hyn. Mae hi'n bwysig eich bod yn gwybod pwy yn union sy'n gyfrifol am ddarparu cefnogaeth, er enghraifft pwy yn eich adran

9

Page 10: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

fydd yn cynhyrchu deunyddiau mewn print bras neu yn trefnu amser ychwanegol i chi ar gyfer eich arholiadau.

Y peth pwysicaf yw i godi llais ac i fod yn hyderus wrth ofyn am help. Os nad ydych yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am y pethau hyn, gofynnwch wrth y dderbynfa neu gofynnwch i ddarlithydd fydd yn gallu eich cyfeirio i'r man cywir.

Mewn prifysgol, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn derbyn yr help sydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael trafferthion, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwybod i staff fel y gellir dod o hyd i atebion.

Mae yna lawer o staff a chefnogaeth ar gael mewn prifysgol felly byddwch yn hyderus ac yn weithgar wrth fynd ati i ofyn am help.

Hunan-eiriolaeth - sgil bywyd gwerthfawr Mae bod yn ddigon hyderus i godi llais ynglŷn â phroblemau yn rhan greiddiol o fyw'n annibynnol ac yn llwyddiannus. Ar ôl prifysgol, pan fyddwch yn ystyried gwaith a chyflogaeth, bydd angen i chi fod yn hyderus wrth siarad â staff a chyflogwyr er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd eich llawn botensial yn eich gyrfa. Gall prifysgol fod yn lle ardderchog i fagu sgiliau ac i ddechrau mynd ati i ddod o hyd i atebion i broblemau drosoch eich hun.

Ffynonellau nawdd eraill Yn ogystal â'r DSA, mae'n bosib y byddwch yn gallu cael gafael ar nawdd i dalu am offer ychwanegol trwy gyfrwng ymddiriedolaethau elusennol fel Sefydliad Snowdon. Nid yw eu grantiau yn seiliedig ar incwm teuluol ond mae'n rhaid i chi ddangos: eich bod yn fyfyriwr; bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch.

I gael mwy o wybodaeth am Sefydliad Snowdon gallwch ymweld â: www.snowdonawardscheme.org.uk

10

Page 11: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Pam y dylech chi gael Asesiad Golwg Gwan cyn dechrau mewn coleg, prifysgol neu swydd newyddYng Nghymru rydym yn ffodus bod gennym Wasanaeth Golwg Gwan i Gymru. Mae hyn yn golygu, os ydych yn byw yng Nghymru, y gallwch chi ymweld ag optometrydd achrededig ar y stryd fawr a chael asesiad er mwyn gweld pa gymhorthion golwg gwan fyddai'n ddefnyddiol i chi. Mae'n bosib y caiff pethau fel chwyddwyr, lamp at dasgau penodol neu gymorth golwg gwan electronig eu rhag-nodi. Caiff y rhain eu darparu yn rhad ac am ddim.

Ystyriwn symud i ffwrdd i brifysgol fel enghraifft. Dychmygwch eich bod newydd orffen eich arholiadau Lefel A a'ch bod ar fin byw ar eich pen eich hun am y tro cyntaf. Fe all chwyddwyr a chymhorthion golwg gwan eraill fod yn ddefnyddiol mewn ffyrdd nad oeddech chi'n ymwybodol ohonynt o'r blaen. Fe all chwyddwyr fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer: darllen cynhwysion, dyddiadau dod i ben a chyfarwyddiadau

coginio; darllen gwybodaeth ar boteli meddyginiaeth; edrych ar y deialau ar ffwrn ficrodon, ffwrn a pheiriant golchi.

Mae byw ar eich pen eich hun am y tro cyntaf yn golygu y bydd yn rhaid i chi wneud rhai pethau yr oedd eraill yn eu gwneud drosoch yn y gorffennol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous ac yn eich galluogi i fod yn fwy annibynnol a hyderus wrth ofalu amdanoch eich hun. Mae cymhorthion golwg gwan yn angenrheidiol ar gyfer tasgau fel y rhain felly mynnwch asesiad cyn i chi fynd a thrafodwch y newidiadau yn eich ffordd o fyw gyda'r optometrydd. Fe all cymhorthion golwg gwan hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer deunyddiau prifysgol. Er enghraifft, os nad yw eich nodiadau darlith wedi cael eu chwyddo mewn da bryd, fyddwch chi'n: a) Eistedd trwy'r ddarlith heb allu dilyn a cheisio dal i fyny yn

nes ymlaen? neu'n b) Defnyddio eich chwyddwr eich hun i ddarllen y nodiadau ar yr

un pryd â phawb arall ac yn treulio'r amser ar ôl y ddarlith gyda'ch ffrindiau?

I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Golwg Gwan ac i ddod o hyd i'ch optometrydd achrededig agosaf, ewch i

11

Page 12: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

www.eyecarewales.nhs.uk neu ffoniwch yr Eiriolwr ar ran Plant Golwg Gwan Cymru ar 02920 44 95 52.

Symud ymlaen i fyd gwaith: pethau pwysig y dylech fod yn ymwybodol ohonynt

Dod o hyd i'ch Cynghorydd Cyflogaeth i Bobl AnablBydd eich Canolfan Waith leol yn gallu'ch helpu chi i chwilio am waith yn eich ardal. Byddant yn hysbysebu swyddi ar-lein ac hefyd yn y Ganolfan ei hun. Os bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch, bydd y Ganolfan Waith yn gallu eich cyfeirio at un o'u Cynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl - gaiff eu hadnabod hefyd fel DEAs. Fe allan nhw eich helpu i ddod o hyd i swydd i ennill sgiliau newydd os ydych chi wedi bod yn ddi-waith ers amser hir, neu os ydych yn gymharol ddibrofiad. Mae hi'n werth cysylltu â DEA yn eich ardal chi i gael help ychwanegol wrth i chi chwilio am swydd.

Y Symbol AnableddPan fyddwch chi'n gwneud cais am swydd, edrychwch am y cyflogwyr hynny sy'n arddangos y symbol anabledd. Mae'r symbol yn dangos bod gan y cyflogwr agwedd gadarnhaol at geisiadau gan bobl anabl a'i fod yn gwarantu y bydd yn cynnig cyfweliad i chi os byddwch yn ateb gofynion sylfaenol y swydd wag.

Cynrychiolir y symbol anabledd gan "ddau dic" a'r geiriau "yn gadarn o blaid pobl anabl". Fe welwch y symbol wedi'i arddangos ar hysbysebion swydd a ffurflenni cais.

I gael mwy o wybodaeth am rôl Cynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl neu'r symbol anabledd ewch i www.direct.gov.uk

Trafod problemau golwg gyda chyflogwyrPan fyddwch chi'n gwneud ceisiadau am swyddi bydd angen i chi ystyried pryd a sut y byddwch yn trafod eich problemau golwg gyda'ch cyflogwr. Nid oes yna reolau pendant yn hyn o beth a does dim rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am eich cyflwr os nad ydych chi eisiau. Os penderfynwch chi sôn am eich cyflwr, chi sydd i benderfynu pryd yn ystod y broses y dymunwch chi sôn amdano.

12

Page 13: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Gall llawer o fanteision ddeillio o siarad â chyflogwr am eich cyflwr. Bydd yn golygu bod gennych gyfle i gyflwyno'r mater mewn modd cadarnhaol a dangos i'ch cyflogwr nad yw colli golwg yn golygu colli'r gallu i gyflawni dyletswyddau'n llwyddiannus.

Mae yna lawer o resymau da eraill dros siarad â'ch cyflogwr am gyflwr eich llygaid. Os penderfynwch chi eich bod chi eisiau trafod eich problemau golwg â chyflogwr fe allwch chi ddyfeisio eich strategaeth eich hun ar gyfer hynny. Mae hyn yn golygu y gallwch gynllunio'n union sut yr hoffech drafod y peth ac fe ddylech chi ystyried hyn cyn cyfweliadau.

Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chanllawiau ynglŷn â strategaethau datgelu ar wefan RNIB. Ewch i www.rnib.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Sgiliau cyfweliad: gair i gall Gwnewch drefniadau ymlaen llaw. Er enghraifft, os bydd

angen i chi gwblhau prawf, mae'n bosib y bydd angen fersiwn print bras arnoch.

Cynlluniwch eich taith gan sicrhau eich bod yn gwybod ble i ddal bws, trên ac ati. R'ych chi'n annhebygol o gael cynnig swydd os byddwch yn hwyr.

Sicrhewch eich bod yn gwybod am Gynllun Mynediad at Waith.

Gwisgwch ddillad priodol. Byddwch yn hyderus a rhowch sylw i'ch osgo ('posture'). Ymchwiliwch y sefydliad a goblygiadau'r swydd. Ailddarllenwch eich ffurflen gais. Ymchwiliwch ac ystyriwch y bobl fydd yn eich cyf-weld. Ystyriwch y cwestiynau posib y gellid eu gofyn yn ystod y

cyfweliad a chynlluniwch eich atebion. Meddyliwch am eich strategaeth ddatgelu. Paratowch eich cwestiynau eich hun i'w gofyn ar ddiwedd y

cyfweliad.

Cynllun Mynediad at WaithPan fyddwch yn chwilio am swydd mae hi'n bwysig iawn eich bod yn ymwybodol o'r Cynllun Mynediad at Waith. Mae hwn yn gynllun gan y Ganolfan Waith ac fe all dalu am bethau fel: tacsi yn ôl ac ymlaen o'r gwaith - defnyddiol iawn os yw'r

cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn wael;

13

Page 14: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

monitor mawr a meddalwedd chwyddo sgrin ar gyfer gwaith cyfrifiadurol;

gweithiwr ategol i'ch gyrru chi i gyfarfodydd fyddai fel arall yn anodd eu mynychu;

cymhorthion golwg gwan technoleg-uchel i'ch helpu chi â'ch gwaith.

Bydd y gefnogaeth a dderbyniwch yn ddibynnol ar eich swydd ac ar eich anghenion. Cewch eich asesu yn rhan o gynllun Mynediad at Waith. Bydd yr asesydd yn trafod y gefnogaeth rydych yn debygol o fod angen ac yn edrych ar ofynion y swydd.

I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun Mynediad at Waith a'r cyfleoedd cysylltiedig ewch i www.direct.gov.uk neu cysylltwch â Swyddog Trawsnewidiadau RNIB Cymru (gweler y manylion yn yr adran ar Gysylltiadau Defnyddiol).

Lleddfu pryderon y cyflogwrBydd casglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch am y Cynllun Mynediad at Waith cyn eich cyfweliad yn ddefnyddiol iawn. Mae cyflogwyr yn aml yn poeni am gostau posib cyflogi person â phroblem golwg oherwydd maen nhw'n credu bod yr offer a'r gefnogaeth angenrheidiol yn ddrud. Mae yna lawer o gyflogwyr nad ydyn nhw'n gwybod am y Cynllun Mynediad at Waith felly mae hi'n syniad da i chi ddod o hyd i gymaint o wybodaeth â phosib. Byddwch wedyn yn gallu trafod y Cynllun yn ystod eich cyfweliad a dangos i'r cyflogwr bod cefnogaeth ar gael ac na fydd yn costio arian mawr iddynt.

Stori Ken: o Ewrop i America i Dŵr Llundain "Dw i'n 47 oed ac mae gen i Retinitis Pigmentosa. Dw i eisiau sicrhau pobl ifainc sydd wedi colli golwg nad oes rhaid i hynny fod yn broblem yn eich bywyd. Dw i byth wedi gadael i'r cyflwr fy atal rhag gwneud unrhyw beth. Treuliais flynyddoedd yn gweithio fel peiriannydd sain, rheolwr gorsaf radio, yn darllen y newyddion, yn cynhyrchu hysbysebion a recordiau - i enwi ond ychydig o fy swyddi. Treuliais rai blynyddoedd yn trefnu cyngherddau pop ac ar wahân i ambell gnoc ar fy mhen a cherdded i mewn i goed wedi'u gosod yn y mannau anghywir, dw i wedi dod trwyddi'n ddianaf. Ers 15 mlynedd, dw i'n gweithio yn Nhŵr Llundain felly gallwch weld bod fy ngyrfa wedi bod yn amrywiol a dweud y lleiaf.

14

Page 15: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

Mae gen i wraig hyfryd a dau fab yn eu harddegau sy'n fy helpu ac yn deall fy nghyflwr. Dw i'n difaru weithiau nad ydw i'n gallu gyrru ond, gyda map mawr a chwyddwr, dw i wedi gallu tywys ein teulu o amgylch Ewrop a'r Unol Daleithiau. Yn anffodus, dw i'n ddi-werth yn hynny o beth, ers i Sat Nav gael ei ddyfeisio!

Dw i'n cario fflach-lamp i'w wisgo ar y pen yn fy mhoced bob amser ac mae gen i gwpwl o chwyddwyr o gwmpas y tŷ ac yn y gwaith. Yn fy mhrofiad i, os esboniwch chi eich cyflwr wrth bobl, maen nhw'n eich parchu ac yn barod i helpu. Weithiau dw i'n dod ar draws rhywun sy'n cael hwyl am fy mhen ond wedi iddyn nhw wynebu eu rhagfarnau maen nhw'n ymddiheuro - os na, does ond angen i chi sôn yn fras am y gyfraith ar anabledd ac aflonyddu ac maen nhw'n cau eu cegau'n ddigon buan.

Fe fyddwn i'n dweud hyn wrth unrhyw un sydd wedi colli golwg: peidiwch â gadael iddo'ch dal yn ôl, mwynhewch eich bywyd - os rhywbeth mae'n eich gwneud chi'n berson cryfach.

Pob hwyl!"

Buddion a chymorth ariannolWrth i chi fynd o'r ysgol i'r byd y tu hwnt, bydd gennych hawl ar gymorth ariannol a budd-daliadau oherwydd eich cyflwr llygaid. Bydd y cymorth ariannol sydd ar gael i chi yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei wneud a'ch amgylchiadau ar y pryd: er enghraifft os ydych chi'n fyfyriwr prifysgol bydd Lwfans Myfyrwyr Anabl ar gael i chi ac ym myd gwaith bydd nawdd trwy'r Cynllun Mynediad at Waith ar gael. Mae'n bosib y byddwch chi'n gymwys hefyd ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

I gael mwy o wybodaeth am y budd-daliadau hyn a chyngor ariannol, ffoniwch Linell Gymorth RNIB ar 0303 123 9999.

Cysylltiadau defnyddiol ar gyfer gwybodaeth a chefnogaeth bellach

Mae Blind in Business yn elusen sy'n gweithio gyda phobl ifainc dall ac â golwg rhannol er mwyn eu helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd ym myd addysg a gwaith. Mae'n cynnig gweithdai arbenigol, rhaglen o hyfforddiant a gwasanaethau penodol i

15

Page 16: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

fyfyrwyr Lefel A a graddedigion. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.blindinbusiness.org.uk neu ffoniwch 020 7588 1885.

Mae Gyrfaoedd Cymru yn cynnig gwybodaeth am yrfaoedd, yn rhad ac am ddim, yn ddiduedd ac yn gyfrinachol ac fe allan nhw eich helpu yn yr ysgol, yn y coleg, hyd yn oed pan fyddwch yn gwneud cais i brifysgol. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.careerswales.com neu trowch at ddiwedd y llyfryn hwn i weld sut y gallwn nhw helpu yn ystod cyfnod eich trawsnewidiad. Mae Sgil Cymru yn gweithio i gefnogi myfyrwyr ag anableddau, gan sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf o'u haddysg, hyfforddiant a chyfleoedd ym myd gwaith. Mae Sgil Cymru yn darparu gwybodaeth ac arweiniad trwy gyfrwng taflenni gwybodaeth a chyhoeddiadau - gan gynnwys y gyfres "Into" sy'n cynnig arweiniad ar gyfer gyrfaoedd penodol fel Dysgu a Meddygaeth. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.skill.org.uk neu ffoniwch 0800 328 5050.

Mae CLIC yn sianel ar-lein sy'n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifainc 11 - 25 oed yng Nghymru ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ble i gael hyd i gefnogaeth yn eich ardal leol. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.cliconline.co.uk .

Mae GO Wales yn cynnig cefnogaeth i raddedigion a myfyrwyr ac yn eich helpu i gael y dechrau gorau posib yn y farchnad waith gystadleuol. I gael mwy o wybodaeth am eu cynlluniau profiad gwaith a chyfleodd eraill ewch i www.gowales.co.uk

Mae Gwefan RNIB yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i bobl ifainc sy'n astudio neu yn chwilio am waith. Defnyddiwch y wefan i gael help wrth ysgrifennu CV, penderfynu sut i fynd ati i drafod eich cyflwr llygaid gyda chyflogwr posib ac i gael mwy o wybodaeth am bethau fel Cynllun Mynediad at Waith. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.rnib.org.uk. Mae gwybodaeth bellach i fyfyrwyr ar gael ar www.rnib.org.uk/student.

Mae Llinell Gymorth RNIB yn ffynhonnell uniongyrchol ar gyfer cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth am gynhyrchion angenrheidiol. Byddwn yn eich helpu i weld beth sydd ar gael yn eich ardal a thu hwnt, gan RNIB a sefydliadau eraill. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gyflwr penodol, prynu eitem o'n siop, ymuno â'n llyfrgell, cael gwybodaeth am fudd-daliadau, siarad â chynghorydd

16

Page 17: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

arbenigol neu wneud ymholiad cyffredinol, does ond angen i chi godi'r ffôn. Ffoniwch: 0303 123 9999 neu e-bostiwch [email protected]

Mae Coleg RNIB Loughborough yn croesawu pobl o bob gallu, o 16 oed ymlaen, yn ddyddiol neu ar gyfer cyfnodau preswyl. Rydym yn cynnig awyrgylch cyfeillgar a chefnogol i ddysgwyr sy'n ddall neu â golwg rhannol a/neu yn byw ag anableddau eraill. Mae'r Coleg a'r neuaddau preswyl fel ei gilydd yn fodern ac wedi'u hadeiladau'n unswydd. Rydym yn rhannu'r campws â choleg prif-ffrwd, sy'n ein galluogi i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd a dewisiadau. I gael mwy o wybodaeth, i gael prosbectws neu i drefnu ymweliad, ffoniwch 01509 61 10 77 neu [email protected]

Cylchgrawn Insight RNIBGwybodaeth ymarferol ac ysbrydoledig am addysg, iechyd a lles cyffredinol plant a phobl ifainc â phroblemau golwg, gan gynnwys y rheiny ag anghenion cymhleth. Bydd rhieni bellach yn derbyn Insight yn rhad ac am ddim wrth ymaelodi â RNIB. Am fwy o fanylion ffoniwch 0303 123 9999 a soniwch am yr "Insight offer".

Mae RNIB Cymru yn trefnu digwyddiadau a gweithdai gyda'r nod o helpu pobl i symud o fyd addysg i fyd gwaith. I ymuno â'n rhestr bostio ac i gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau yn eich ardal leol, neu i glywed mwy am unrhyw bwnc a drafodwyd fan hyn, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Swyddog Trawsnewidiadau RNIB CymruFfôn: 02920 449 571 E-bost: [email protected]

Gyrfaoedd Cymru - amserlen ar gyfer cefnogaeth yn ystod cyfnod o newidBlwyddyn 9Os oes gennych Ddatganiad, byddwch yn cyfarfod â chynghorydd anabledd/anawsterau dysgu Gyrfaoedd Cymru er mwyn trafod y broses drawsnewid, eich diddordebau gyrfaol, eich uchelgeisiau, cyfleoedd ac opsiynau pellach, gan gynnwys pynciau dewisol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4. Yn ogystal â chynllun Symud Ymlaen yn nodi'r gweithgaredd a gytunwyd yn y cyfarfod, bydd y cynghorydd hefyd yn cynhyrchu Asesiad Galwedigaethol yn amlinellu'r

17

Page 18: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

gefnogaeth y bydd Gyrfaoedd Cymru yn ei darparu yn ystod y cyfnod trawsnewid. Caiff hyn ei rannu â'ch cydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCO) ac fe gaiff ei drafod yn ystod eich cyfarfod Adolygu Trawsnewid.

Os nad oes gennych Ddatganiad, byddwch yn cyfarfod ag un o gynghorwyr prif ffrwd Gyrfaoedd Cymru i drafod y broses drawsnewid, eich diddordebau gyrfaol, eich uchelgeisiau, cyfleoedd ac opsiynau pellach, gan gynnwys pynciau dewisol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4. Caiff cynllun Symud Ymlaen ei gynhyrchu fydd yn nodi'r gweithgarwch a gytunwyd yn ystod y cyfarfod.

Blwyddyn 10Mae'n bosib y bydd yna gyfarfod arall gyda'ch Cynghorydd Gyrfaol er mwyn trafod ymhellach eich opsiynau a'ch cynlluniau. Gellir trafod cyfnodau o brofiad gwaith hefyd, sydd fel arfer yn digwydd yn ystod Blwyddyn 10. Caiff unrhyw weithgareddau y cytunir arnynt eu cynnwys mewn Cynllun Symud Ymlaen. Os oes gennych Ddatganiad, neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, byddwch yn mynychu Cyfarfod Adolygu Blynyddol.

Blwyddyn 11Mae'n bosib y daw Cynghorydd Gyrfaol i'ch gweld fwy nag unwaith i'ch helpu i wneud penderfyniadau ac i osod targedau ar gyfer y dyfodol. Eto, os bydd angen cytuno ar weithredoedd pendant caiff cynllun Symud Ymlaen ei gynhyrchu.

Os oes gennych Ddatganiad, caiff Cynllun Dysgu a Sgiliau (LSP) ei gynhyrchu hefyd. Mae hon yn ddogfen bwysig iawn sy'n sôn am y gefnogaeth y byddwch ei hangen ar gyfer eich cwrs nesaf mewn coleg neu mewn cynllun dysgu neu hyfforddiant ym myd gwaith. (Os ydych yn bwriadu mynd i weithio'n syth bin heb hyfforddiant, ni fydd angen LSP.) Pan fyddwch chi, eich rhieni, eich athrawon a phobl berthnasol eraill wedi cytuno ar yr LSP, caiff ei ddanfon i'r coleg neu'r sefydliad galwedigaethol/darparwr hyfforddiant rydych yn bwriadu mynychu.

Addysg bellachOs oedd gennych Ddatganiad ac os ydych wedi dewis cwrs prif ffrwd, bydd y Cynghorydd Gyrfaol yn eich cefnogi. Gallwch ofyn am apwyntiad trwy'r Gwasanaethau Cefnogaeth i Fyfyrwyr neu

18

Page 19: Pontio'r_bwlch_Cymraeg_Word - rnib.org.ukr_bwlch…  · Web viewPontio'r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis. Cynnwys. Pontio'r bwlch - beth mae hynny'n ei olygu?

trwy gysylltu â'ch cynghorydd LDO. Gan y bydd eich Datganiad wedi dod i ben, ni fydd yna Adolygiadau Blynyddol pellach ohono.

Os oedd gennych Ddatganiad ac os ydych wedi dewis cwrs arbenigol, bydd yna Adolygiadau Blynyddol i fonitro'ch cynnydd ac fe fydd yna gyfweliad dilynol, yn ystod y tymor cyntaf fel arfer, er mwyn sicrhau eich bod wedi setlo'n iawn yn eich cwrs newydd.

Addysg uwchOs ydych yn gwneud cais am le ar gwrs Addysg Uwch, bydd Cynghorwyr Gyrfaoedd Cymru wrth law i'ch cefnogi.

Cynlluniau galwedigaethol neu hyfforddiant gwaithOs ydych yn bwriadu gadael ysgol i ddechrau cynllun galwedigaethol neu hyfforddiant gwaith, fel Skillbuild neu Brentisiaeth Sefydlu, bydd darparwr yr hyfforddiant fel arfer yn cynllunio ac yn trefnu cefnogaeth addas i chi. Byddan nhw'n darllen eich LSP er mwyn cael y wybodaeth berthnasol. Mewn rhai achosion, gall darparwr yr hyfforddiant wneud cais am nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwybodaeth bellachI gael gwybodaeth fanylach am y ffyrdd y gall Gyrfaoedd Cymru eich helpu yn ystod cyfnod o drawsnewid, ewch i: www.careerswales.com i weld rhestr o gysylltiadau lleol.

Cynhyrchwyd y cyhoeddiad hwn gan RNIB Cymru ar y cyd â Gyrfaoedd Cymru. Fe'i noddir gan Red Dragon Help a South Wales Child.

Er mwyn archebu copïau ychwanegol o Pontio'r bwlch neu i gael mwy o wybodaeth am unrhyw bwnc a godwyd fan hyn, gallwch gysylltu â:

Swyddog Trawsnewidiadau RNIB CymruFfôn: 02920 449 571 E-bost: [email protected]

© RNIB Tachwedd 2010Rhif elusen gofrestredig 226227

19