114
2007 Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru

Prif Swyddog Meddygol Cymru - NHS Wales · 2008. 11. 27. · 2007 Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru D4040809 cmo-w.indd 1 CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 2007

    Adroddiad Blynyddol

    Prif Swyddog Meddygol Cymru

    D4040809 cmo-w.indd 1 18/11/08 12:49:15✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    ii

    Y Prif Swyddog Meddygol

    Adran Iechyd y Cyhoedd a’r Proffesiynau Iechyd

    Llywodraeth Cynulliad Cymru

    Parc Cathays

    Caerdydd

    CF10 3NQ

    Mae’r holl fapiau, ac eithrio’r rhai ar dudalennau 35, 61, 95 and 96 dan © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rhif y Drwydded: 100017916. 2008

    ISBN 978 0 7504 49786

    D4040809

    CMK-22-02-262

    © Hawlfraint y Goron Tachwedd 2008

    D4040809 cmo-w.indd 2 18/11/08 12:49:15✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    1

    Llythyr at Brif Weinidog Cymru 3

    Cyflwyniad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru 5

    Pennod 1 - Iechyd Pobl CymruMamau a babanod 9 Plant a phobl ifanc 10 Oedran gweithio 14 Pobl hŷn 16 Anghydraddoldebau iechyd 17 Casgliadau 20

    Pennod 2 - Gwella ein HiechydYsmygu 22 Camddefnyddio sylweddau 24 Iechyd rhywiol 26 Bwyd a ffitrwydd 27 Iechyd meddwl a lles 30 Casgliadau 32

    Pennod 3 - Diogelu Iechyd - Atal yr hyn y gellir ei atal Y newid yn yr hinsawdd ac iechyd 33 Iechyd a’r amgylchedd 34 Clefydau trosglwyddadwy 37 Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd 38 Imiwneiddio 41 Casgliadau 45

    Cynnwys

    D4040809 cmo-w.indd 1 18/11/08 12:49:15✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    2

    Pennod 4 - Gwella Ansawdd Iechyd a Gofal CymdeithasolGweithio gyda chyrff proffesiynol i wella ansawdd 47 Sgrinio serfigol 49 Strôc 50 Achub bywydau mamau 53 Casgliadau 54

    Pennod 5 - Creu’r CysylltiadauCreu’r cysylltiadau 55 Iechyd y cyhoedd a chydberthnasau lleol 56 Gweithio ar draws ffiniau: gweithio ym maes iechyd y cyhoedd yn y DU 59 Cymru fel dinesydd Ewrop a’r Byd 60 Casgliadau 64

    Casgliadau - Mapio’r Dyfodol Edrych i’r dyfodol 65 Y newid yn yr hinsawdd 65 Mynd i’r afael â bygythiad heintiau newydd 66 Heneiddio’n iach a chyflyrau hirdymor 66 Lleihau anghydraddoldebau a gwella iechyd 68 System Iechyd y Cyhoedd Unedig 69 Ein Dyfodol Iach: Fframwaith Strategol Iechyd y Cyhoedd 69 Casgliadau 73

    Casgliad o Ddata 74

    Cyfeiriadau a Llyfryddiaeth 106

    Ôl-nodiadau 109

    D4040809 cmo-w.indd 2 18/11/08 12:49:16✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    Llythyr at Brif Weinidog Cymru

    3

    Annwyl Brif Weinidog

    Mae’n bleser gennyf gyflwyno i chi a Llywodraeth Cynulliad Cymru fy Adroddiad Blynyddol ar iechyd pobl Cymru ar gyfer 2007. Hwn yw fy ail Adroddiad Blynyddol fel Prif Swyddog Meddygol, ac ynddo, rwyf yn ymdrin â’r thema o weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd er mwyn gwneud Cymru yn wlad decach ac iachach. Yn yr un modd â’r adroddiad a gyflwynwyd y llynedd, mae’r adroddiad hwn wedi’i strwythuro o amgylch tri pharth ymarfer iechyd y cyhoedd: gwella iechyd; diogelu iechyd ac ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n bleser gennyf allu nodi llwyddiannau a heriau pwysig ym mhob parth.

    Mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol i’w gweld yng Nghymru o hyd. Fodd bynnag, nid dim ond yng Nghymru y gwelir hyn - mae patrymau tebyg yn cael eu gweld ledled Ewrop a gweddill y byd - ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod y problemau a wynebir gennym yn ddifrifol ac mae iddynt wreiddiau dwfn. Mae annhegwch ym maes

    iechyd wedi’i ddisgrifio fel ‘achosion o salwch sy’n annheg, yn anghyfiawn ac y gellir eu hosgoi.’ Ni all ymyriadau iechyd, ar eu pennau eu hunain, fynd i’r afael â’r penderfynyddion iechyd a lles hyn yn gyfan gwbl, a dyna pam bod gweithio gyda’n partneriaid mewn sectorau eraill mor bwysig. Efallai fod y cynnydd yn ymddangos yn araf ac yn anodd i’w gynnal, a dyna pam bod gweithredu strategol ymrwymedig yn yr hirdymor mor angenrheidiol. Rwy’n trafod y themâu hyn yn fanylach yn fy adroddiad.

    Gall rhai newidiadau cymdeithasol roi holl aelodau’r gymdeithas mewn perygl. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â’r anawsterau sy’n gysylltiedig â chynnal ffordd o fyw iach ac egnïol mewn amgylchedd sy’n dueddol o achosi gordewdra. Rydym yn arwain bywydau mwyfwy segur ac mae dros hanner y boblogaeth yn rhy drwm neu’n ordew. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o sicrhau bod pobl yn bwyta ac yn yfed yn iach a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn sylweddol. Mae rhai pobl yn cymryd mwy o risgiau nag eraill; mae’n arferol

    D4040809 cmo-w.indd 3 18/11/08 12:49:16✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 4

    i bobl ifanc, yn enwedig y glasoed, arbrofi a gwthio ffiniau. Ond i rai pobl ifanc gall y canlyniadau fod yn anffodus ac yn barhaol - dibyniaeth sy’n achosi afiechyd, anaf sy’n analluogi neu feichiogrwydd heb ei gynllunio, er enghraifft. Bydd helpu pobl ifanc i ddatblygu’n naturiol ond yn ddiogel yn rhan bwysig o fframwaith strategol iechyd y cyhoedd. Mae achosion o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc bob amser yn drasig ac, ar ddiwedd 2007, cofnodwyd nifer o achosion o hunanladdiad yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddadansoddi ac ymchwilio i’r digwyddiadau hyn yn drwyadl, ac rydym wedi datblygu cynllun gweithredu cenedlaethol i leihau’r cyfraddau yn y dyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau.

    O ran iechyd y cyhoedd, caiff 2007 ei chofio fel y flwyddyn pan gyflwynwyd y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ysmygu yn dal i fod yn un o brif achosion salwch a’r ffactor pwysicaf o ran creu anghydraddoldebau iechyd. Efallai ei bod yn rhyfedd ystyried gwaharddiad yn hwb i ryddid ond, yn yr achos hwn, dyna’n union beth ydyw - hwb i ryddid, i bobl o bob oedran gan leihau’r risg o salwch gwanhaol a marw cyn pryd. Fodd bynnag, bydd angen i ni barhau â’r ymgyrch dybaco gan fod un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru yn dal i ysmygu. Dim ond os bydd lefelau ysmygu yn gostwng yn sylweddol y gwelir Cymru iachach.

    Yn gywir

    Dr Tony Jewell Y Prif Swyddog Meddygol

    Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    D4040809 cmo-w.indd 4 18/11/08 12:49:16✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    5

    Cyflwyniad

    Yn yr Adroddiad Blynyddol hwn, yr ail i mi fel Prif Swyddog Meddygol Cymru, nodaf yr heriau sy’n wynebu iechyd yng Nghymru a’n hymdrechion i fynd i’r afael â hwy. Edrychaf ar y ffordd y mae iechyd pobl Cymru wedi gwella ac wedi’i ddiogelu drwy gamau cydgysylltiedig a gymerwyd ar draws llawer o sectorau. Edrychaf hefyd ar y ffordd yr ydym yn paratoi ar gyfer heriau newydd i iechyd y cyhoedd yn yr hirdymor a’r tymor canolig, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd a heintiau newydd.

    Yn gyffredinol, mae iechyd pobl Cymru yn gwella. Dengys data canlyniadau iechyd fod tueddiadau hirdymor megis lleihad yn nifer y marwolaethau yn sgil clefyd y galon a disgwyliad oes gwell wedi parhau. Fodd bynnag, nid yw’r anghydraddoldebau rhwng gwahanol ardaloedd a rhwng grwpiau cymdeithasol yn lleihau. Mae mynd i’r afael â’r mater hwn a datblygu dulliau o sicrhau gwell iechyd i fwy o bobl yn dal i fod wrth wraidd ymarfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Cafodd hyn gryn dipyn o sylw yn gyhoeddus yn y wasg ar ddechrau 2007 pan gyhoeddwyd map iechyd a luniwyd gan yr ymchwilwyr i’r farchnad CACI/TNS a nododd fod wyth awdurdod lleol yng Nghymru ymhlith y deg lle lleiaf iach i fyw ynddynt ym Mhrydain.

    Mae mynd i’r afael â’r amddifadedd sylfaenol hanesyddol mewn rhai cymunedau yn flaenoriaeth genedlaethol ac yn elfen allweddol o raglen Cymru’n Un y llywodraeth ar gyfer 2007-2011. Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn sail i bob polisi iechyd y cyhoedd ac yn un o gonglfeini Ein Dyfodol Iach: Fframwaith Strategol Iechyd y Cyhoedd(gweler Pennod 5). Ein nod yw lleihau’r rhwystrau sy’n wynebu unigolion a chymunedau o ran cyflawni canlyniadau iechyd da. Mae hyn yn golygu sicrhau mynediad teg i gyfleoedd iechyd a lles a goresgyn anfanteision fel statws

    D4040809 cmo-w.indd 5 18/11/08 12:49:21✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 6

    cyflogaeth, ethnigrwydd, oedran neu safle economaidd-gymdeithasol. Mae pawb yn haeddu cyfle teg i gael bywyd hir ac iach.

    Y cam pwysicaf a gymerwyd i wella iechyd yn 2007 oedd cyflwyno’r ddeddfwriaeth a oedd yn gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Bu hyn yn llwyddiant sylweddol. Mae’r gwaith gwerthuso yn parhau, ond mae’r canfyddiadau cynnar wedi dod i’r casgliad bod amlygiad i fwg ail-law wedi gostwng traean mewn llai na blwyddyn. Bydd mwy o bobl yn mwynhau iechyd gwell a llai o risg o farw cyn pryd. Drwy’r ddeddfwriaeth hon ac ymyriadau hybu iechyd cysylltiedig, byddwn yn sicrhau bod ysmygu, yr achos mwyaf o farwolaeth y gellir ei osgoi, yn cael ei leihau cymaint â phosibl.

    Profwyd cadernid a gwydnwch ein systemau diogelu iechyd y cyhoedd yn 2007 gan yr achosion o ffliw adar yng Nghorwen yn Sir Ddinbych. Cawsom ein hatgoffa o’r risg o bandemig posibl o ffliw a allai ddigwydd wrth i feirws newydd gael ei drosglwyddo o anifeiliaid fel moch neu adar i bobl. Rheolwyd yr achosion hynny yn effeithiol gan Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru a gwelwyd gwaith trawsffiniol gyda Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, cydweithwyr iechyd anifeiliaid, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd yn Lloegr ac adrannau eraill o lywodraeth y DU.

    Roedd yr ymyriad yr oedd ei angen i reoli achos o dwbercwlosis mewn gwartheg mewn teml Hindŵaidd yn Sir Gaerfyrddin yn enghraifft arall lle y gall mesur iechyd y cyhoedd a gymerir gan gydweithwyr iechyd anifeiliaid hefyd ddiogelu iechyd

    pobl. Cafodd achos ‘Shambo’r Tarw’ ei arwain gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru a chodwyd heriau cyfreithiol mewn perthynas â diogelu iechyd y gymuned. Ym Mhennod 3, nodaf y gwaith ardderchog a wneir i ddiogelu iechyd yng Nghymru, yn cynnwys ein gwaith ar y cyd ag asiantaethau ledled y DU.

    Cafodd ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau yn 2007 gyda’r cynnydd ymddangosiadol mewn marwolaethau o ganlyniad i achosion o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc. Er bod y gyfradd hunanladdiad yng Nghymru ar gyfer dynion a menywod dros 15 oed yn is na’r cyfraddau ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban,1 mae’r achos trasig hwn o farwolaethau cyn pryd yn ffocws pwysig ar gyfer ein gwaith o ran iechyd y cyhoedd. Ar gais uniongyrchol y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae cynllun gweithredu atal hunanladdiad wedi’i baratoi.

    Wrth i ni ddysgu’r gwersi o 2007, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ymateb yn well drwy gyfrwng camau cydgysylltiedig rhwng asiantaethau gwahanol ac yn gweithredu’n fwy effeithiol i ddiogelu unigolion a chymunedau rhag ffactorau risg hysbys ac ymwthiad diangen, ansensitif. Rydym hefyd yn bwriadu cryfhau rôl cyfarwyddwyr lleol iechyd y cyhoedd fel arweinwyr gweledol ar gyfer iechyd y cyhoedd mewn partneriaethau lleol. Byddaf yn trafod y pwnc hwn ymhellach mewn adroddiad yn y dyfodol.

    Ni allai’r gwaith o wella a diogelu iechyd pobl Cymru fynd rhagddo heb ymrwymiad ac arbenigedd y gweithlu iechyd. Unwaith

    Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    D4040809 cmo-w.indd 6 18/11/08 12:49:21✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 7

    eto yn 2007, dangoswyd effeithiolrwydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella ansawdd gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Drwy bwyllgorau statudol a’r Cydfforwm Proffesiynol, mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn chwarae rôl barhaus yn y gwaith o ddatblygu polisïau ac arferion. Rydym hefyd yn croesawu

    buddiannau archwiliadau annibynnol, allanol. Un enghraifft o hyn oedd yr Archwiliad o Wasanaethau Strôc2 gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr a gyhoeddwyd yn 2007 a oedd yn annog arweinyddiaeth glinigol a gwaith ar y cyd â’r GIG yng Nghymru i gyflwyno mwy o unedau strôc mewn ysbytai.

    Llywodraeth Cynulliad Cymru

    Fframwaith Strategol Iechyd y Cyhoedd

    Pobl Cymru

    Gwella iechyd

    Gwybodaeth

    Cadw Gwyliadwriaeth a Gwerthuso

    Diogelu iechyd

    Ansawdd iechyd a gofal

    cymdeithasol

    Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    D4040809 cmo-w.indd 7 18/11/08 12:49:21✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 8

    o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau a sefydliadau eraill. Rhaid i mi ddiolch i’r canlynol: Beth Jones, Gila Gingell, Ian Weaver, Ginny Blakey, Sue Bowker, Maureen Howell, Elaine Mcnish, Gaynor Denny, Suzanne McKeown, Steve Thomas, Steve Wall, Jenny Thorne, Chris Tudor-Smith, Chris Roberts, Cath Roberts, Huw Brunt, Dr Sara Hayes, Dr Mike Harmer, Dr Karen Gully, Chris Riley a Chris Brereton. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r Tîm Golygyddol sef Dr. Jane Wilkinson, Dr Jane Ludlow, Elizabeth Mitchell a Neil Riley. Hoffwn hefyd gydnabod gwaith adolygwyr allanol yn cynnwys: Elizabeth Evans, Dr Cerilan Rogers, Dr Judith Greenacre, Dr David Pencheon a’r Athro Sian Griffiths.

    Dr Tony Jewell Y Prif Swyddog Meddygol

    Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    Yn yr adroddiad blynyddol hwn, rwyf unwaith eto wedi dewis cynrychioli’r gwaith a wneir gennym ledled Cymru drwy fframwaith o dri pharth ymarfer iechyd y cyhoedd sy’n gorgyffwrdd: gwella iechyd, diogelu iechyd ac ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r model parthau’n crynhoi, mewn ffordd ddefnyddiol, y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â newid canlyniadau iechyd yn ein poblogaeth. Mae hefyd yn dangos pa mor ganolog bwysig yw systemau da ar gyfer gwybodaeth.

    Mae partneriaethau yn hanfodol bwysig ar bob lefel. Dim ond drwy gydweithio effeithiol, system gyfan, ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol y gellir mynd i’r afael â’r heriau a wynebwn yn y dyfodol - y newid yn yr hinsawdd, heintiau newydd, rheoli cyflyrau cronig a heneiddio iach.

    Ni ellir llunio adroddiad fel hwn heb gymorth eraill. Rwyf wedi cael cymorth mawr gan nifer o gydweithwyr

    D4040809 cmo-w.indd 8 18/11/08 12:49:21✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Pennod 1: Iechyd pobl Cymru

    9Caiff iechyd pobl Cymru ei fesur mewn sawl ffordd wahanol. Mae dangosyddion iechyd yn ein galluogi i ddeall ein sefyllfa gymharol a gallant nodi tueddiadau neu ddifrifoldeb heriau gwahanol. Yn y bennod hon, edrychwn ar rywfaint o’r data sy’n adlewyrchu iechyd ein poblogaeth ac ystyriwn bwysigrwydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau wrth weithio tuag at Gymru decach ac iachach.

    Mamau a babanodGaned 33,628 o fabanod yng Nghymru yn 2006 - y nifer uchaf ers 10 mlynedd a thua 10% yn fwy nag yn 2001.3 Ganed y nifer fwyaf o fabanod i fenywod rhwng 20 a 34 oed ond gwelir nifer gynyddol o enedigaethau i fenywod dros 35 oed,4

    1,376 yn fwy nag yn 2001. Ganed 53%5

    o fabanod y tu allan i briodas, a chyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb oedd 1.86 o blant i bob mam yn 2006, cyfradd sydd wedi codi dros y pum mlynedd diwethaf. 6

    Ffigur 1: Genedigaethau byw yng Nghymru, 1971-2006

    0

    10,000

    20,000

    30,000

    40,000

    50,000

    Gen

    edig

    aeth

    au b

    yw

    1971

    1973

    1975

    1977

    1979

    1981

    1983

    1985

    1987

    1989

    1991

    1993

    1995

    1997

    1999

    2001

    2003

    2005

    Ffynhonnell: Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

    Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    D4040809 cmo-w.indd 9 18/11/08 12:49:22✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    10

    Mae rhoi genedigaeth yn dod yn fwy diogel, pwnc a gaiff ei ystyried ymhellach ym Mhennod 4. Yn ôl yr Ymchwiliad Cyfrinachol i Iechyd Mamau a Phlant (CEMACH), mae cyfraddau marwolaethau babanod, babanod newydd-anedig a marwolaethau amenedigol wedi bod yn gostwng dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r gyfradd marwolaethau babanod (marwolaethau yn ystod y flwyddyn gyntaf o fywyd) yng Nghymru yn 2007 sef 5.3 o bob 1000 o enedigaethau yn sylweddol uwch na’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd diweddar.7 O’r 182 o fabanod hynny, bu 81 ohonynt farw yn ystod wythnos gyntaf eu bywydau. Cafwyd 171 o enedigaethau marw-anedig. Cofnodwyd pwysau adeg geni o lai na 2,500g ar gyfer 73 o fabanod i bob 1,000 o enedigaethau byw. Mae ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn cyfrannu at bwysau geni isel ac mae pwysau geni isel yn arwydd o amddifadedd a gall fod yn arwydd o ddatblygiad corfforol a gwybyddol yn y dyfodol.8

    Cafwyd 40,930 o achosion o feichiogi yng Nghymru yn 2005, 71 i bob 1,000 o fenywod rhwng 15 a 44 oed. Roedd 15% o’r achosion hyn o feichiogi ymhlith menywod o dan 20 oed. Parhaodd y gyfradd feichiogi ymhlith menywod yn eu harddegau yn gymharol uchel o gymharu â’r ffigurau ar gyfer y DU gyda 43.6 o achosion o feichiogi i bob 1,000 o ferched rhwng 15 ac 17 oed, er bod hyn wedi gostwng ychydig o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ceir gwahaniaeth mawr yn y gyfradd hon ledled Cymru. Yn Nhor-faen, y gyfradd yw 62 i bob 1,000 o ferched rhwng 15 ac 17 oed. Yn Sir Fynwy, y gyfradd yw 28 i bob 1,000. Caiff tua 19% o’r holl achosion

    o feichiogi eu terfynu drwy erthyliad. Mae 39% o’r holl achosion o feichiogi ymhlith menywod rhwng 15 ac 17 oed yn cael eu terfynu drwy erthyliad. Yn amlwg, mae angen i ni wella’r addysg iechyd rhywiol a ddarparwn i blant a phobl ifanc er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r risg, meithrin hunan-barch a sicrhau y gallant gael gafael ar ddulliau atal cenhedlu yn haws.9

    Erys pryderon ynghylch y nifer o fenywod sy’n ysmygu yn ystod beichiogrwydd neu cyn hynny. Canfu’r Arolwg Bwydo Babanodyn 2005 fod 37% o famau wedi ysmygu yn ystod y flwyddyn cyn iddynt feichiogi neu yn ystod eu beichiogrwydd. Canfuwyd bod 22% o fenywod wedi ysmygu drwy eu beichiogrwydd. O gofio’r dystiolaeth bod cyswllt rhwng ysmygu ac iechyd gwaeth i fabanod, mae’r ffigur hwn yn dal i fod yn rhy uchel ac yn cyfrannu at gylch o amddifadedd. Hefyd, mae llai o famau yng Nghymru yn bwydo ar y fron o gymharu â menywod mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn 2005, bwydodd 71% o famau yng Nghymru eu plentyn cyntaf ar y fron ar ryw adeg gyda chyfanswm cyfradd o 67% ar gyfer Cymru. Roedd hyn yn sylweddol is na’r cyfartaledd ar gyfer Lloegr sef 78%. Mae mentrau newydd megis ymestyn allan i gymunedau i roi gwybodaeth well iddynt wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r diffyg hwn gan fod bwydo ar y fron yn rhoi dechrau iach i fywyd i fabanod. Mae amodau anffafriol yn ystod beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar yn cael effaith gydol oes ar botensial.10

    Plant a phobl ifancMae cael dechrau teg mewn bywyd yn bwysig ac mae cynnal a datblygu ymddygiad iechyd da yn hanfodol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi

    D4040809 cmo-w.indd 10 18/11/08 12:49:22✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    11

    mabwysiadu targedau i fesur cynnydd o ran lleihau effeithiau tlodi ar iechyd plant, gan ganolbwyntio’n arbennig ar wella sefyllfa’r bumed ran fwyaf difreintiedig o’r boblogaeth o ran cyfradd marwolaethau babanod, pwysau isel adeg geni, beichiogrwydd ymhlith merched o dan 16 oed, dannedd sydd wedi pydru a damweiniau sy’n digwydd i blant. Yn ystod 2007, cychwynnwyd ar raglen waith i nodi camau gweithredu effeithiol a allai gyfrannu at gyflawni cerrig milltir iechyd o fewn y cynllun tlodi plant. Caiff y gwaith hwn, a arweinir gan gydweithwyr Cyfiawnder Cymdeithasol, ei gwblhau yn 2008.

    Mae Cymru’n cymryd rhan yn yr arolwg rhyngwladol Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (HBSC) mewn cydweithrediad â Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n ystyried iechyd plant 11, 13 a 15 oed mewn 41 o wledydd

    a rhanbarthau. Mae Cymru wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad yr arolwg hwn dros flynyddoedd lawer, gan ychwanegu’n sylweddol at ddealltwriaeth o faterion yn ymwneud â phlentyndod ar lefel ryngwladol.

    Yn yr adroddiad rhyngwladol diweddaraf, Inequalities in Young People’s Health (2005/6)11, ceir nifer o ddangosyddion sy’n dangos ymddygiad a risgiau cyfredol. Mae pobl ifanc yng Nghymru o’r farn bod eu hiechyd eu hunain yn gymharol wael, gyda 33% o ferched 15 oed yng Nghymru yn nodi bod eu hiechyd yn ‘weddol’ neu’n ‘wael’, 10% yn fwy na’r cyfartaledd rhyngwladol. Roedd 17% o ferched 13 oed naill ai’n rhy drwm neu’n ordew, a gellir cymharu hyn ag 8% yn yr Iseldiroedd a 7% yn Nenmarc. Roedd 41% o ferched 13 oed yng Nghymru o’r farn eu bod yn rhy dew, gyda 25% yn ymgymryd â rhyw fath o ymddygiad lleihau pwysau.

    Ffigur 2: Ymddygiad cymryd risg ymhlith plant 15 oed yng Nghymru

    Ffynhonnell: Adroddiad Rhyngwladol HBSC 2005/6

    0

    10%

    20%

    30%

    40%

    50%

    60%

    Yn ysmygu bob wythnos

    Yn yfed bob wythnos

    Wedi meddwi o leiaf ddwywaith

    Wedi defnyddio canabis yn ddiweddar

    Wedi cael rhyw

    Merched

    Bechgyn

    Can

    ran

    y p

    lant

    15

    oed

    D4040809 cmo-w.indd 11 18/11/08 12:49:22✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    12

    O ran bechgyn 11, 13 a 15 oed yng Nghymru, nodwyd cyfraddau gweithgarwch corfforol dyddiol a oedd yn uwch na’r cyfartaledd rhyngwladol. Fodd bynnag, roedd plant yng Nghymru hefyd yn dangos cyfraddau uwch o ymddygiad eisteddog gyda lefelau uwch na’r cyfartaledd o ran gwylio’r teledu. Yn arbennig, gwelir gwahaniaeth amlwg rhwng bechgyn 15 oed yng Nghymru a Lloegr. Roedd 75% o fechgyn yng Nghymru yn gwylio mwy na dwy awr o deledu’r diwrnod, o gymharu â 63% o fechgyn yn Lloegr.

    Roedd plant yng Nghymru yn dangos lefelau uwch o ymddygiad cymryd risg o’u cymharu â phobl ifanc mewn nifer o wledydd eraill. Nododd 25% o fechgyn 15 oed yng Nghymru eu bod wedi meddwi am y tro cyntaf pan oeddent yn 13 oed neu’n iau. Mae’r gyfradd hon yn sylweddol

    uwch na’r gyfradd ryngwladol, sef 17%. Ymhlith plant yng Nghymru y gwelwyd y drydedd gyfradd uchaf o ran ysmygu canabis yn yr astudiaeth ryngwladol. Nododd 41% o ferched yng Nghymru eu bod wedi cael cyfathrach rywiol yn 15 oed, 7 pwynt canran yn uwch na’r Alban a 10 yn uwch na Lloegr. Mae gan bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru gyfraddau canolrif o ran dechrau ysmygu sigaréts yn gynnar gyda 34% o ferched 15 oed yng Nghymru yn nodi eu bod wedi ysmygu yn 13 oed neu’n iau. Cynhaliwyd yr arolwg yn 2006 ac felly nid yw’n cofnodi effaith polisi diweddar y llywodraeth. Fodd bynnag, o gymharu â chyfnodau blaenorol yr arolwg ceir arwyddion gobeithiol, er gwaethaf ein safle cymharol, bod y tueddiadau’n dechrau symud i’r cyfeiriad cywir, yn enwedig o ran ysmygu.12

    D4040809 cmo-w.indd 12 18/11/08 12:49:26✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    13

    Blwch 1: Arolwg Iechyd Cymru ar gyfer oedolion

    Arolwg Iechyd Cymru yw’r prif ddull a ddefnyddiwn i fesur iechyd pobl Cymru, y defnydd a wneir o wasanaethau iechyd a’r ffactorau a all effeithio ar iechyd. Mae’n rhoi data ar gyfer monitro iechyd a ffyrdd o fyw sy’n gysylltiedig ag iechyd a mesur cynnydd tuag at dargedau. Mae hefyd yn rhoi tystiolaeth i lywio polisïau ac ategu strategaethau i hyrwyddo iechyd gwell. Ymhellach, mae’n rhoi mesur uniongyrchol o’r angen o ran dyrannu adnoddau gofal iechyd yng Nghymru.

    Caiff yr Arolwg ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Adran Iechyd y Cyhoedd a’r Proffesiynau Iechyd. Cyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n dadansoddi ac yn cyhoeddi’r canlyniadau a chânt eu cymeradwyo fel cynnyrch Ystadegau Gwladol, nod ansawdd sy’n gwarantu annibyniaeth a chadernid.

    Mae’r Arolwg wedi’i gynnal ar ei ffurf bresennol ers 2003/4 ac mae arian wedi’i neilltuo ar ei gyfer hyd nes y cwblheir arolwg 2010. Drwy’r gyfres o ddata sydd gennym ar faterion ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd dros amser ledled Cymru, gallwn ganfod neu fesur effeithiau polisïau.

    Ffigur 3: Prif ganlyniadau Arolwg Iechyd Cymru 2007 ar gyfer oedolion 16 oed +

    Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru, 2007

    0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80%

    13

    Ysmygwr

    Wedi'i amlygu i fwg ysmygu goddefol

    Yn yfed gormod o alcohol

    Yn goryfed mewn pyliau

    Ddim yn bwyta 5 y dydd

    Ddim yn gwneud digon o ymarfer corff

    Yn rhy drwm neu'n ordew

    Yn ordew

    Can

    ran

    o’r

    bob

    loga

    eth

    D4040809 cmo-w.indd 13 18/11/08 12:49:26✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 14

    Oedran gweithioYng Nghymru yn 2006, roedd cydbwysedd poblogaeth o 66 o ddibynyddion i bob 100 bobl o oedran gweithio (y rhai rhwng 15 a 64 oed). Mae’r rhagamcanion ar gyfer y boblogaeth hyd at 2031 yn awgrymu y bydd y gymhareb hon yn cynyddu i tua 70 o ddibynyddion i bob 100 o bobl o oedran gweithio gydag amrywiaeth eang ledled y wlad. Mae iechyd unigolion o oedran gweithio yn effeithio ar eu teuluoedd a’u plant, eu gweithleoedd a’u cymunedau. Mae economïau ffyniannus yn dibynnu ar weithlu iach i greu cyfoeth ar draws llawer o sectorau. ‘…mae iechyd gwell yn cyfrannu at les cymdeithasol drwy ei effaith ar ddatblygu economaidd, cystadleurwydd a chynhyrchiant.’14

    Mae marwolaethau ymhlith y rhai o dan 35 oed yn dueddol o fod o ganlyniad i achosion allanol, megis damweiniau neu hunanladdiad, ond canser yw’r achos mwyaf tebygol ymhlith pobl rhwng 45 a 64 oed.15 Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae nifer yr achosion o salwch a’r marwolaethau y gellir eu priodoli i gamddefnyddio sylweddau, yn enwedig alcohol wedi cynyddu. Yn 2006/07, cafodd 12,909 o bobl rhwng 20 a 60 oed eu trin ar gyfer problemau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Cafodd 12,000 o bobl eraill eu gweld mewn perthynas â phroblemau’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, yn cynnwys 5,180 a gafodd help am eu bod yn gaeth i heroin.16

    Ffigur 4: Prif gyffur a arweiniodd at driniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau, 20-60 oed, 2006/7

    Ffynhonnell: Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

    0

    3,000

    6,000

    9,000

    12,000

    15,000

    Alcohol Heroin Cyffuriaueraill

    Canabis Amffetaminau Opiadau eraill

    Nife

    r y

    bob

    l sy’

    n ca

    el t

    rinia

    eth

    Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    D4040809 cmo-w.indd 14 18/11/08 12:49:26✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 15

    Mae anweithgarwch economaidd yn cael effaith fawr ar iechyd pobl o oedran gweithio. Mae graddiant iechyd clir rhwng y rheini yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae anweithgarwch economaidd yn benderfynydd allweddol. Roedd 21% o’r boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru yn economaidd anweithgar yn 2007.17 Roedd cyfraddau diweithdra yn amrywio o 8.2% ym Merthyr Tudful i 3.1% yn Sir y Fflint.18 Er mwyn sicrhau lleihad mewn anghydraddoldebau iechyd, mae’n rhaid mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran cyfleoedd cyflogaeth yn barhaus ac yn systematig.

    Rydym hefyd am gadw’r gweithlu yn iach i weithio. Soniodd Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2006 am y fenter Cefnau Cymru a mentrau arloesol eraill sydd â’r nod o gynnal iechyd corfforol a meddyliol da drwy gydol bywyd gwaith.

    Nododd 15% o bobl rhwng 45 a 64 oed iddynt gael triniaeth ar gyfer poen cefn a gwelir tuedd ar i fyny o ran derbyniadau19

    ysbyty. Mae sicrhau bod pobl â chyflyrau cyhyrysgerbydol yn cael digon o gymorth i ddychwelyd i’r gwaith yn un o flaenoriaethau’r llywodraeth. Mae data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi rhywfaint o gynnydd, gyda gostyngiad ers 2001 yng nghyfran y bobl sy’n cael budd-dal analluogrwydd ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol.

    Fel y gellid ei ddisgwyl, mae teuluoedd nad oes unrhyw aelod ohonynt yn gweithio yn fwy tebygol o ddioddef o dlodi. Mae eu plant hefyd yn debygol o brofi canlyniadau iechyd gwaeth, fel salwch meddwl. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod y rôl bwysig y gall gwaith ei chwarae o ran gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau - un enghraifft o hyn yw cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i famau sengl.

    Ffigur 5: Hawlwyr budd-dal analluogrwydd oherwydd cyflwr cyhyrysgerbydol 1999-2006

    0

    1,000

    2,000

    3,000

    4,000

    Haw

    lwyr

    i b

    ob 1

    00,0

    00

    1999

    2000

    2001

    2002

    2003

    2004

    2005

    2006

    Ffynhonnell: Nomisweb, DWP

    Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    D4040809 cmo-w.indd 15 18/11/08 12:49:26✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 16

    Gyda phartneriaid megis yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu dull integredig o wella iechyd y boblogaeth o oedran gweithio a lleihau’r llif o bobl allan o waith ac i mewn i anweithgarwch economaidd. Mae rhaglenni fel Cymru Iach ar Waith, Cefnau Cymru, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, a Hybu Gwaith Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i unigolion, gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a gwaith. Mae’n bleser gweld bod gan Gymru enw da am weithredu’n gadarnhaol yn y maes polisi hwn.

    Pobl hŷnMae mwy o bobl yn byw’n hirach nag erioed o’r blaen. Dengys ystadegau gwladol ar gyfer 2007 fod mwy o bensiynwyr na phlant o dan 16 oed am y tro cyntaf. Gall plentyn a enir yng Nghymru heddiw ddisgwyl byw hyd nes ei fod yn 80 oed neu’n hŷn os bydd y tueddiadau cyfredol yn parhau.20 Mae’r oedran cyfartalog y gall rhywun ddisgwyl byw heb gael cyflwr rhwystrol (disgwyliad oes heb anabledd) yn is na’r gyfradd ar gyfer y DU sef 60.6 mlynedd i ddynion a 62.2 i fenywod.21

    Mae angen i ni rwystro’r cynnydd mewn cyflyrau cronig lle y bo’n bosibl a sicrhau y caiff cyflyrau cronig eu rheoli’n effeithiol lle maent wedi datblygu. Mae disgwyliadau o ran lefelau iechyd wedi cynyddu wrth i dechnolegau iechyd newydd gael eu

    datblygu a’u cynnig. Mae hyn yn costio, fellymae sicrhau bod gofal meddygol gwell yn cael ei ddarparu’n deg yn un o’r heriau sy’n wynebu iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.

    Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o lawdriniaeth gosod clun a gosod pen-glin newydd ymhlith pobl dros 65 oed a’r twf mewn llawdriniaeth tynnu cataract yn dangos effaith datblygiadau mewn technolegau iechyd ar gyflyrau cronig ymhlith pobl hŷn. Yn 2006, cynhaliwyd 1,325 o lawdriniaethau i osod cluniau a phen-gliniau newydd i bob 100,000 o’r boblogaeth dros 65 oed, o gymharu â 503 i bob 100,000 yn 1991. Yn yr un modd, cynhaliwyd 2,791 o lawdriniaethau i dynnu cataract yn 2006 i bob 100,000 o’r boblogaeth. Mae hyn bron dair gwaith yn uwch na chyfradd 1991 sef 1,044 i bob 100,000.

    Un o’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar iechyd pobl hŷn yw etifeddiaeth bywyd o waith, neu fyw mewn cymuned ddifreintiedig. Caiff amddifadedd hanesyddol cymoedd de Cymru ei adlewyrchu yn yr achosion cyfredol o farwolaethau ymhlith y genhedlaeth hŷn. Cyflyrau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd gwaith a’r amgylchedd cymdeithasol, megis cyflyrau anadlol, cyflyrau sy’n ymwneud â’r galon a chanserau’r ysgyfaint, yw prif achosion cyflyrau hirdymor sy’n cyfyngu ar fywyd a marwolaethau ymhlith y grŵp oedran hwn.

    Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    D4040809 cmo-w.indd 16 18/11/08 12:49:28✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 17

    Anghydraddoldebau iechydRydym wedi dadlau dros newidiadau i leihau anghydraddoldebau ers blynyddoedd lawer. Yn aml, mae’r sylw a roddir i leihau anghydraddoldebau yn cuddio’r angen i sicrhau tegwch. ‘Nid yw pob anghydraddoldeb iechyd yn annheg neu’n anghyfiawn. Pe bai’n amhosibl

    cael iechyd da, byddai hynny’n anffodus ond nid yn anghyfiawn. Lle y gellir osgoi anghydraddoldebau iechyd, ond na chânt eu hosgoi maent yn annheg.’22 Yn gryno, gellir mesur a monitro anghydraddoldeb, ond mae annhegwch yn golygu’r methiant i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

    Ffigur 6: Cyfradd tynnu cataractau a gosod cluniau a phengliniau newydd i bob 100,000 o'r boblogaeth 65 oed +

    0

    1,000

    2,000

    3,000

    4,000

    Cyf

    rad

    d i

    bob

    100

    ,000

    1991 1993 1995 1997 1999 2001 2003 2005

    Ffynhonnell: ehealthshow

    Cluniau a phengliniau Cataractau

    Blwch 2: Diffiniadau o anghydraddoldeb ac annhegwch

    Anghydraddoldeb iechyd - mesur o’r gwahaniaeth mewn iechyd rhwng poblogaethau.

    Annhegwch iechyd - gwahaniaethau annheg neu anghyfiawn mewn iechyd rhwng poblogaethau y gellir eu hosgoi drwy gamau rhesymol.

    Addaswyd o Sefydliad Iechyd y Byd, Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd

    Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    D4040809 cmo-w.indd 17 18/11/08 12:49:28✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    18

    Bwlch 3: Asesu anghydraddoldeb ac anhegwch

    Mae ein hiechyd yn ganlyniad i ffactorau biolegol, cemegol, amgylcheddol a seicogymdeithasol. Er mwyn symud ymlaen i Gymru iachach a thecach, mae angen i ni edrych ar y gwahaniaethau mewn iechyd rhwng gwahanol sectorau o’r boblogaeth. Rydym yn asesu’r gwahaniaethau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dadansoddi. Cyflwynir cyfraddau marwolaethau o glefyd isgaemig y galon uchod ar gyfer tair gwahanol poblogaeth o ddiddordeb. Ceir bylchau sylweddol rhwng y gorau a’r gwaethaf, yr uchaf a’r isaf ym mhob categori, ac mae’r bwlch rhyngddynt yn dangos graddiant cymdeithasol hefyd. Lle y gellir osgoi’r ffactorau, ceir annhegwch.

    Poblogaethau difreintiedig: Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn edrych ar 39 o ddangosyddion sy’n cyfrannu at amddifadedd ledled y wlad. Ymhlith y rhain mae cyfraddau cyflogaeth, lefelau ansawdd yr aer a statws addysgol. Rydym yn dosbarthu’r 1896 o ardaloedd bach yn 5 grŵp cyfartal i gynrychioli’r gwahanol lefelau o amddifadedd. Ceir cysylltiad clir rhwng amddifadedd cymharol ac iechyd gwael ac ystyriwn sut y gellir lleihau’r anghydraddoldeb rhwng y lleiaf difreintiedig a’r mwyaf difreintiedig.

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi nodi ei dyheadau ar gyfer lleihau anghydraddoldebau iechyd yn y deng mlynedd o 2002. Er enghraifft, nodwyd targed anghydraddoldebau iechyd ar gyfer

    canserau a oedd yn galw am welliant mewn cyfraddau marwolaethau cynnar o ganlyniad i ganser ym mhob grŵp, gyda gwelliant cyflymach yn y grwpiau mwyaf difreintiedig. Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad A.

    Ffigur 7: Anghydraddoldebau o ran clefyd y galon (marwolaethau o glefyd coronaidd y galon, 2006, 65-74 oed)

    Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, eHealthshow, Atebion Iechyd Cymru

    0

    100

    200

    300

    400

    500

    600

    700

    800

    Mwyaf difreintiedigLleiaf difreintiedig

    Blaenau GwentCeredigion

    DynionMenywod

    Mynegai amddifadedd lluosog Cymru

    Poblogaethau Awdurdodau Lleol

    Rhyw

    Cyf

    rad

    d fa

    rwol

    aeth

    i b

    ob 1

    00,0

    00

    D4040809 cmo-w.indd 18 18/11/08 12:49:28✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    19

    Poblogaethau daearyddol: Rhennir y 8,000 o filltiroedd sgwâr yng Nghymru yn 22 o ardaloedd awdurdod lleol. Mae’r rhain yn amrywio o ardaloedd mwy gwledig Powys a Sir Fynwy i ardaloedd trefol Caerdydd, Abertawe a Wrecsam. Caiff iechyd da ei lunio gan ein

    hamgylchedd cymdeithasol. Edrychwn ar y bylchau mewn canlyniadau ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol gwahanol er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd ar gyfer iechyd da ar gael i bawb.

    Ffynonellau: Ystadegau Iechyd 2008, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, eHealthshow

    Yn Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2006, amlinellwyd y llwyddiant a gafwyd o ran lleihau’r anghydraddoldeb mewn lefelau damweiniau ymhlith plant. Dengys y data yn Atodiad A ar gyfer anafiadau i gerddwyr ifanc a achosir drwy ddamweiniau â cherbydau modur ein bod eisoes wedi cyflawni’r targed lleihau a bennwyd ar gyfer 2012, sef 35%. Fodd bynnag, dengys data newydd o Arolwg Iechyd Cymru 2005/06 natur barhaus anhegwch iechyd mewn meysydd eraill.

    Yn gyffredinol, roedd lefelau salwch ar eu hisaf ymhlith y rheini mewn cartrefi lle y dilynir galwedigaethau rheoli a phroffesiynol ac ar eu huchaf ymhlith pobl nad oeddent erioed wedi gweithio neu bobl a fu’n ddi-waith am gyfnod hir.

    Yn gyffredinol, pobl mewn cartrefi lle y dilynir galwedigaethau rheoli a phroffesiynol a nododd y ffyrdd o fyw iachach, gyda’r amrywiad economaidd-gymdeithasol yn arbennig o amlwg ar gyfer ysmygu, yn amrywio o 17% i 42% ar draws y grwpiau cymdeithasol.23

    Mae cydnabod amddifadedd yn hanfodol er mwyn deall iechyd ein poblogaeth. Mae data diweddaraf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 200824 yn dangos bod y lefelau uchaf o amddifadedd wedi’u crynhoi yn ardal cymoedd De Cymru, ond ceir ardaloedd bach o amddifadedd mawr ledled y wlad. Mae’r data’n dangos bod cydberthnasau cryf rhwng iechyd, addysg, cyflogaeth a diogelwch cymunedol.23

    Nid Cymru yw’r unig wlad sy’n cael anhawster mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. ‘Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, mae pob gwlad yn Ewrop yn wynebu anghydraddoldebau sylweddol o ran iechyd eu poblogaethau.’25

    Bydd angen mynd i’r afael â mynediad i ofal iechyd a chymryd camau mewn perthynas â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd er mwyn dileu’r anghyfiawnder sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldebau iechyd.26 Adlewyrchir hyn yn glir yn y ffordd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithredu.

    Yn ystod 2007, cyhoeddwyd adroddiadau gennym ar benderfynyddion cymdeithasol clefyd y galon ac iechyd meddwl, gydag adroddiadau eraill ar benderfynyddion cymdeithasol canser ac iechyd plant a phobl hŷn i ddilyn.27 Mae’r adroddiadau hyn, sy’n defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael, yn nodi’r ffactorau cymdeithasol hynny y bydd angen mynd i’r afael â hwy os ydym am weld gwelliant sylweddol mewn iechyd. Er enghraifft, canfuwyd mai’r ffactorau cymdeithasol oedd amddifadedd cronnol, diweithdra, nodweddion gwaith seicogymdeithasol gwael, problemau teuluol a chyfansoddiad teuluol yn ystod plentyndod, tor-priodas, ac ynysu cymdeithasol a effeithir gan anhwylderau meddwl cyffredin.

    Enghraifft arall o’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy benderfynyddion cymdeithasol yw’r Rhaglen Ymchwil Weithredu Gynaliadwy ar Iechyd (SHARP) a gynhaliwyd rhwng 2001

    D4040809 cmo-w.indd 19 18/11/08 12:49:28✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • 20

    a 2006.28 Bu’r rhaglen hon yn ystyried potensial ymchwil weithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Roedd yn cynnwys saith prosiect yn cynnwys partneriaethau rhwng sefydliadau sector cyhoeddus, y byd academaidd a chymunedau. Lluniwyd pob prosiect gan y cyfranogwyr, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau’n cael eu datblygu, yn cynnwys fan wybodaeth deithiol ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, sefydliadau cymunedol a sefydlwyd i roi gwybod am anghenion a blaenoriaethau cymunedau a dosbarthiadau nofio i fenywod Asiaidd. Fel y mae adroddiad terfynol y rhaglen, Iechyd a Lles Cymunedol, yn ei ddangos, mae camau ymarferol o’r fath wedi arwain at amrywiaeth eang o ganlyniadau yn cynnwys gwell cyfleusterau cymunedol ac ymgysylltu gwell â’r gymuned, yn ogystal â datblygiad unigol. Mae’n amlwg o’r fath waith bod angen ymateb cymhleth ac amlochrog i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

    CasgliadauMae angen ymdrechion pellach i leihau lefelau ysmygu, sef prif achos anghydraddoldebau iechyd, drwy gynorthwyo pobl i wynebu’r her o roi’r gorau i ysmygu, ac atal plant a phobl ifanc rhag cychwyn arni. Gallai negeseuon iechyd gael eu targedu’n fwy priodol

    at anghenion pobl ym mhob un o’n cymunedau, drwy’r defnydd cynyddol o dechnegau marchnata cymdeithasol. Mae gan wasanaethau gofal sylfaenol rôl ganolog i’w chwarae yn hyn o beth a dylid eu hannog i nodi’r cleifion hynny â ffactorau risg a gysylltir â phrif achosion marwolaeth a chlefyd cronig mewn ffordd ragweithiol a systematig. Er mwyn cefnogi’r newidiadau hyn, mae angen gwybodaeth dda i fireinio’r dulliau presennol a datblygu dulliau newydd. Bydd yr Arsyllfa Iechyd arfaethedig i Gymru a Sefydliad Iechyd y Cyhoedd yn canolbwyntio ar y gweithgareddau hyn, sy’n hanfodol i sicrhau gwelliant gwirioneddol yn iechyd y boblogaeth gyfan.

    Mae’r bennod hon yn dangos yr anghydraddoldebau parhaus ledled Cymru o ran iechyd a lles. Mae’r gwahaniaethau sylfaenol yn y cyfleoedd iechyd ar bob cam o fywyd i’w gweld yn gryf. Er ein bod yn dathlu’r cynnydd mewn disgwyliad oes, mae angen i ni ganolbwyntio ar gynyddu nifer y blynyddoedd heb anabledd a mynd i’r afael â materion fel ymddygiadau peryglus a ffordd o fyw plant a amlygir gan arolwg HBSC. Bydd Ein Dyfodol Iach: Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd yn rhoi dull o gysylltu a sbarduno ein hymdrechion i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a dileu anfanteision sy’n rhwystro iechyd gwell.

    Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    D4040809 cmo-w.indd 20 18/11/08 12:49:31✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    Pennod 2: Gwella ein Hiechyd

    21

    Mae gwella iechyd yn ymwneud â lleihau ymddygiadau iechyd peryglus mewn gwahanol grwpiau poblogaeth a lleoliadau a galluogi ymddygiadau iach drwy hybu iechyd. Mae’r bennod hon yn edrych ar waith sy’n cyfrannu at wella iechyd drwy ymgysylltu ag unigolion, sefydliadau a’r llywodraeth, yn cynnwys Her Iechyd Cymru. Wrth wraidd y gwaith hwn mae’r angen i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwella tegwch er mwyn rhoi cyfl e cyfartal i unigolion wella eu hiechyd eu hunain.

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd ac yn cydnabod effaith yr amgylchedd cymdeithasol a naturiol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth gref bod rhai ffactorau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw yn cael dylanwad mawr ar iechyd yr unigolyn. Awgrymodd ymchwil ddiweddar o astudiaeth EPIC-Norfolk fod effaith gyfunol pedwar ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd (peidio ag ysmygu, bod yn gorfforol egnïol, yfed alcohol yn gymedrol a bwyta ffrwythau a llysiau) yn ychwanegu 14 mlynedd i ddisgwyliad oes y boblogaeth canol oed.29

    Mae mynd i’r afael â’r risgiau i iechyd yn parhau i fod yn her hollbwysig. Mae llawer o ymddygiadau a all gael effaith negyddol yn dechrau yn ystod plentyndod a glaslencyndod, yn cynnwys cymryd risgiau o ran diogelwch ar y ffordd, diogelwch rhywiol, camddefnyddio sylweddau ac alcohol. Er ei bod yn naturiol i bobl ifanc arbrofi , efallai na fydd ganddynt y gallu i wneud penderfyniadau hyddysg eto. Er y gallai’r ifanc oroesi risgiau uniongyrchol, gallai’r hyn a wneir ganddynt pan fyddant yn ifanc arwain at ganlyniadau gydol oes.

    Ceir cydberthynas gref rhwng amddifadedd yng Nghymru a chanlyniadau ymddygiadau sy’n gysylltiedig â risg. Dengys tystiolaeth fod mwy o achosion o ysmygu, camddefnyddio sylweddol a beichiogrwydd ymhlith merched o dan 16 oed mewn ardaloedd lle ceir mwy o amddifadedd.30 Er mwyn newid yr ymddygiadau hyn, mae angen newid mewn agweddau diwylliannol, cyfrifoldeb personol a chymorth drwy ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau ymarferol yn ogystal â chamau cydgysylltiedig ar draws llawer o sectorau.

    D4040809 cmo-w.indd 21 18/11/08 12:49:31✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    22

    YsmyguAr 2 Ebrill, 2007, daeth deddfwriaeth sy’n gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus i rym yng Nghymru. Roedd hon yn garreg filltir o ran iechyd y cyhoedd a’r mesur unigol pwysicaf a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o ran iechyd y cyhoedd i wella iechyd y genedl a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

    Mae mwg tybaco ail-law yn berygl mawr i iechyd y cyhoedd. Amcangyfrifwn y bydd y gyfraith newydd yn arwain at o leiaf 400 yn llai o farwolaethau cyn pryd ymhlith pobl nad ydynt yn ysmygu bob blwyddyn o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint, clefyd y galon, clefyd anadlol a strôc. Yn arbennig, bydd y gwaharddiad yn cael effaith fuddiol ar iechyd pobl a amlygwyd i fwg tybaco yn rheolaidd yn y gwaith yn flaenorol, megis staff tafarndai a chlybiau.

    Er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a busnesau yn barod am y gwaharddiad, comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad ei hymgyrch wybodaeth fwyaf erioed o ran iechyd y cyhoedd. Roedd yr ymgyrch hon yn cynnwys gwefan benodedig, hysbysebion teledu a radio, byrddau poster, hysbysebion ar fysiau a threnau a thaflen bost uniongyrchol a anfonwyd i bob cartref yng Nghymru, ynghyd â gweithgarwch yn y wasg a gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus mewn amrywiaeth

    o bapurau newydd a chyfnodolion. Anfonwyd pecyn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd a sut i gydymffurfio â hi i fusnesau ledled Cymru hefyd.

    Mae gwaith partneriaeth sylweddol wedi’i gynnal rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth. Mae’r gwaith hwnnw wedi canolbwyntio ar helpu busnesau i gydymffurfio drwy godi ymwybyddiaeth, rhoi cyngor a chymorth, gyda chamau gorfodi yn cael eu neilltuo ar gyfer achosion lle ceir diffyg cydymffurfiaeth amlwg a chyson er gwaetha’r ddeddfwriaeth.

    O ganlyniad i’r gwaith paratoi hwn, mae’r broses o gyflwyno’r gwaharddiad wedi mynd rhagddi’n ddiffwdan. Bu’r sylw yn y wasg yn gadarnhaol ar y cyfan, gan adlewyrchu sylwadau a wnaed gan y cyhoedd a busnesau. Dangosodd canfyddiadau o arolygon barn ym mis Tachwedd 2007 fod cefnogaeth y cyhoedd i’r ddeddfwriaeth wedi codi i 84% o oedolion yng Nghymru, o gymharu â 77% o’r holl oedolion ym mis Chwefror 2007.31 Noda awdurdodau lleol lefelau cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddi-fwg o tua 97%, sy’n gyson â gweddill y DU a Gweriniaeth Iwerddon.32

    D4040809 cmo-w.indd 22 18/11/08 12:49:33✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    23

    Bu’r canfyddiadau cychwynnol yn sgil cyflwyno’r gwaharddiad yn gadarnhaol. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod y gwaith ymchwil yn parhau er mwyn ein galluogi i ddeall yr effaith lawn. Maes o law, bydd canlyniadau astudiaethau yn rhoi asesiad

    cadarn o effeithiau’r broses o gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon. Fel y dangosir yn Ffigurau 8 a 9, mae heriau mawr yn ein hwynebu o hyd, megis atal ysmygu yn ystod beichiogrwydd.

    Ffigur 8: Amlygiad i fwg tybaco amgylcheddol (ETS)

    0

    10

    20

    30

    40

    50

    60

    70

    80

    Ffynonellau: Arolwg Iechyd Cymru

    2003/04 2004/05 2005/06 2007

    Can

    ran

    a am

    lygw

    yd i

    ETS

    Blwch 4: Ysmygu yng Nghymru

    Ffigur 9: Canran y mamau a fu'n ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd neu yn y flwyddyn cyn eu beichiogrwydd, 2005

    0%

    5%

    10%

    15%

    20%

    25%

    30%

    35%

    40%

    Cymru Yr Alban Y DU Gogledd Iwerddon Lloegr

    D4040809 cmo-w.indd 23 18/11/08 12:49:34✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    24

    Camddefnyddio sylweddauGall pobl sy’n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol achosi niwed sylweddol i’w hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl, gyda goblygiadau ehangach i’r teulu, eu ffrindiau a’r gymdeithas ehangach, yn cynnwys baich gofal a allai ddisgyn ar berthnasau a phroblemau sy’n gysylltiedig â throsedd ac anhrefn. Amcangyfrifir bod camddefnyddio cyffuriau Dosbarth A ac alcohol yn costio tua £2 biliwn bob blwyddyn yng Nghymru o ran y gost economaidd a’r gost gysylltiedig i wasanaethau cymdeithasol.34

    Mae hanner dynion a thraean o fenywod yn nodi eu bod yn yfed mwy o alcohol na’r canllawiau a argymhellir, gydag un o bob pedwar o ddynion ac un o bob deg o fenywod yn nodi eu bod wedi goryfed yn yr wythnos diwethaf.35 Er bod tystiolaeth yn dod i’r amlwg o ostyngiad o ran amlder yfed, mae un o bob pump o bobl ifanc 13 oed yng Nghymru yn nodi eu bod yn yfed alcohol yn wythnosol a chwarter yn nodi eu bod wedi bod yn feddw o leiaf ddwywaith

    yn eu bywydau.36 Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi dyblu yng Nghymru yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf.

    Nododd un o bob deg o oedolion rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru eu bod wedi defnyddio o leiaf un cyffur yn 2006/07 gyda’r nifer yn cynyddu i chwarter y bobl rhwng 16 a 24 oed. Canabis oedd y sylwedd a ddefnyddiwyd amlaf.37

    Amcangyfrifir bod ychydig o dan 20,000 o bobl â phroblem gyffuriau yng Nghymru, tua 1% o gyfanswm y boblogaeth sy’n oedolion. Cafwyd 92 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru yn 2006 (78 o ddynion a 14 o fenywod). Mae’r ffigur hwn wedi amrywio mewn blynyddoedd blaenorol o 68 yn 2004 i 109 yn 2003.38

    Mae’r achosion a nodir o gyffuriau’n cael eu defnyddio gan y glasoed yn cynyddu gydag oedran, o 3% o blant 11 a 12 oed i 31% o bobl ifanc 15 a 16 oed. Canabis yw’r sylwedd mwyaf cyffredin o lawer y nodir ei fod yn cael ei ddefnyddio.39

    Yn 2005 bu 37% o famau yn ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd neu yn y flwyddyn cyn eu beichiogrwydd. Roedd y gyfradd hon yn uwch nag unrhyw le arall yn y DU. Bu 22% o famau yn ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd.

    Yn 2007, gwelwyd gostyngiad mewn cyfraddau ysmygu i 24% o’r boblogaeth yng Nghymru, 16 pwynt canran yn is nag ym 1978.

    Mae cyfran yr oedolion sy’n ysmygu yn parhau’n uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

    Ceir tua 6,000 o farwolaethau bob blwyddyn oherwydd ysmygu.

    Ffynonellau: Arolwg Bwydo Babanod 2005, Ysmygu yng Nghymru: Y Ffeithiau Cyfredol

    D4040809 cmo-w.indd 24 18/11/08 12:49:34✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    Blwch 5: Marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol

    Cafwyd 407 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol, megis clefydau’r afu, yng Nghymru yn 2005, ychydig yn is na’r nifer yn 2004 (416), ond ddwywaith yn fwy na’r nifer ym 1992 (199).

    Yn 2005, dynion oedd yn cyfrif am 63% o’r marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Cafwyd 255 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol ymhlith dynion a 152 ymhlith menywod.

    Rhwng 1991 a 1993 a 2003 a 2005 gwelwyd cynnydd yn y gyfradd marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru o 6.8 i bob 100,000 o’r boblogaeth i 12.6 i bob 100,000 o’r boblogaeth.

    Ceir cyfraddau marwolaethau uwch mewn cymunedau mwy difreintiedig.

    Rhwng 1998 a 2005, gwelwyd y gyfradd gyfartalog uchaf o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru ym Merthyr Tudful (16.0 i bob 100,000 o’r boblogaeth) a gwelwyd y gyfradd isaf yn Sir Fynwy (5.9 i bob 100,000 o’r boblogaeth).

    Ffynhonnell: Marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, 2005, Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol

    25

    Ffigur 10: Marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru

    0

    5

    10

    15

    20

    25

    30

    Cyf

    rad

    d i

    bob

    100

    ,000

    5(20% mwyaf difreintiedig)

    4 3 2 1(20% lleiaf difreintiedig)

    Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Cymru = 14.4

    D4040809 cmo-w.indd 25 18/11/08 12:49:34✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    26

    Iechyd rhywiolGall yr hyn sy’n digwydd mewn eiliad gael effaith fawr ar weddill bywyd. Mae iechyd a lles rhywiol cadarnhaol yn agwedd bwysig ar fod yn oedolyn. Mae angen gwneud penderfyniadau hyddysg i ddiogelu rhag canlyniadau anfwriadol gweithgarwch rhywiol, megis heintiau a’r risg o danffrwythlondeb. Yng Nghymru,

    fel y gwelir mewn llawer o wledydd y byd gorllewinol, mae cyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i gynyddu, gyda chlamydia yn enghraifft bwysig. Yn yr un modd ag ymddygiadau eraill sy’n peri risg, ceir cysylltiad rhwng iechyd rhywiol gwael ac amddifadedd.

    Blwch 6: Data ar iechyd rhywiol

    Ffigur 11: Nifer yr achosion newydd o glamydia a ganfuwyd yng Nghymru yn sgil profion labordy

    0

    1,000

    2,000

    3,000

    4,000

    5,000

    Nife

    r yr

    ach

    osio

    n ne

    wyd

    d a

    gan

    fuw

    yd

    1997 1998 1999

    Ffynhonnell: Ystadegau Iechyd Cymru 2008, Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, NPHS, HPA, HBSC

    2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006

    D4040809 cmo-w.indd 26 18/11/08 12:49:36✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    27

    Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i hybu iechyd rhywiol, yn amlwg mae angen gwneud mwy. Rydym yn parhau â’n dull gweithredu cynhwysfawr yng Nghymru fel y nodir yn Hybu Iechyd Rhywiol yng Nghymru40, drwy sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth, cyngor a gwasanaethau.

    Erys lleihau nifer yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn un o amcanion allweddol ein strategaeth. Mae partneriaethau’n cael eu datblygu gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, i ystyried y potensial i gyflwyno mentrau mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Rydym hefyd wedi cefnogi menter ddiweddar gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i sicrhau bod gwybodaeth am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ar gael ar wefan rhwydweithio cymdeithasol fel rhan o’u hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag iechyd rhywiol.

    Mae’r Rhwydwaith Iechyd Rhywiol, a ddarperir gan y Gymdeithas Cynllunio Teulu a Chanolfan Iechyd Cymru, wedi bod yn weithredol ers 2000. Mae cydgysylltwyr y rhwydwaith yn cynhyrchu’r cylchlythyr Intersexion, yn cynnal cynadleddau chwarterol sy’n rhoi gwybodaeth hawdd ei deall i ymarferwyr, ac yn cynnal cronfa ddata o arfer da. Ceir rhwydwaith gweithredol ac ymatebol a redir gan Ymddiriedolaeth Terence Higgins sydd, ymhlith gweithgareddau eraill, yn helpu pobl i hunan-reoli a dod yn ‘gleifion arbenigol’, a chyfrannu at bolisi cymdeithasol. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt i ystyried sut y gallwn ddatblygu’r gweithgareddau rhwydweithio hyn yn y dyfodol.

    Bwyd a ffitrwyddBydd lefelau cynyddol o ordewdra yn arwain at achosion cynyddol o glefydau anhrosglwyddadwy megis diabetes a chlefyd y galon. Rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae cynnal pwysau iach

    Mae nifer yr achosion o glamydia a ganfuwyd wedi cynyddu dros y blynyddoedd, gyda’r nifer fwyaf ymhlith menywod ifanc rhwng 16 ac 19 oed a dynion rhwng 20 a 24 oed sy’n cael rhyw.

    Mae nifer yr achosion o feichiogi ymhlith merched o dan 18 yn eu harddegau wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2000, gyda chyfradd o 43.6 i bob 1,000 o ferched rhwng 15 ac 17 oed yn 2005.

    Mae cyfran y merched 15 oed sy’n nodi eu bod yn cael rhyw yng Nghymru yn gymharol uchel (39%) o gymharu â merched o’r un oed mewn gwledydd eraill yn Ewrop, gyda’r defnydd o ddulliau atal cenhedlu yn is o gymharu â llawer o wledydd.

    Nododd yr HPA fod 154 o achosion newydd o’r clefyd HIV wedi’u canfod yng Nghymru yn 2006. Dyma’r nifer uchaf o achosion newydd a ganfuwyd yng Nghymru ers dechrau’r pandemig ac mae’n gynnydd o gymharu â 2005 (122). Er bod modd trin HIV, nid oes modd ei wella ar hyn o bryd.

    Ffynhonnell: Ystadegau Iechyd Cymru 2008, Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, NPHS, HPA, HBSC

    D4040809 cmo-w.indd 27 18/11/08 12:49:36✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    28

    wedi dod yn fwyfwy anodd. Ein hymateb i hyn yw annog ffordd o fyw iach drwy fwyta’n iach, er enghraifft drwy’r rhaglen 5 y dydd a chynyddu’r gweithgarwch corfforol a wneir bob dydd. Mae ein dull cyfunol yn golygu y ceir buddiannau drwy raglenni gweithredu cyflenwol y mae angen i’r diwydiant bwyd a diod a’r mannau lle y gwerthir ei gynnyrch fod yn rhan ohonynt. Mae angen i ni sicrhau

    bod ymddygiadau iach yn gynaliadwy ac yn rhan o ddewisiadau pobl bob dydd.

    Dengys y dystiolaeth o arolygon iechyd yn cynnwys yr astudiaeth ryngwladol Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol fod plant yng Nghymru dipyn ar ei hôl hi o gymharu â gweddill Ewrop o ran dilyn arferion iach. Mae sefydlu ymddygiadau da yn ystod y blynyddoedd cynnar yn creu patrwm byw ar gyfer dyfodol hir ac iach.

    Blwch 7: Plant iach

    0%

    5%

    10%

    15%

    20%

    25%La

    tfia

    Lith

    wan

    iaY

    Sw

    istir

    Slo

    faci

    a

    Bw

    lgar

    ia

    Rw

    sia

    Aw

    stria

    Den

    mar

    c

    Yr

    Alm

    aen

    Gw

    lad

    Pw

    yl

    Rw

    man

    ia

    Wal

    loni

    a

    Ffra

    inc

    Yr

    Isel

    diro

    edd

    Sw

    eden

    Lwcs

    emb

    wrg

    Fflan

    dry

    s

    Mac

    edon

    ia

    Cro

    atia

    Nor

    wy

    Slo

    feni

    a

    Hw

    ngar

    i

    Isra

    el

    Yr

    Eid

    al

    Y F

    find

    ir

    Gw

    lad

    yr

    Y W

    erin

    iaet

    h Ts

    iec

    Sb

    aen

    Iwer

    dd

    on

    Por

    tiwga

    l

    Yr

    Alb

    an

    Lloe

    gr

    Gw

    lad

    Gro

    eg

    Can

    ada

    Cym

    ru

    Grø

    nlan

    d

    Yr

    Uno

    l Dal

    eith

    iau

    Mal

    ta

    Ffynhonnell: HBSC 2005/6

    Ffigur 12: Canran y bobl ifanc 13 oed sy’n rhy drwm

    D4040809 cmo-w.indd 28 18/11/08 12:49:37✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    29

    Rydym yn gweithredu drwy ymyrryd mewn lleoliadau gwahanol er mwyn sicrhau y gall dinasyddion Cymru gael gafael ar fwyd

    o ansawdd da, eu bod yn cael y cyfle i wneud ymarfer corff a’u bod yn cael eu hannog i’w wneud.

    Blwch 8: Dulliau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran bwyd a ffitrwydd

    Bwyd a Ffitrwydd - Hybu Bwyta’n Iach Cynllun Gweithredu Blas am Oes a Gweithgarwch Corfforol i Blant a PhoblIfanc yng Nghymru PANW: Rhwydwaith

    Gweithgarwch Corfforol Cymru

    Polisi Bwyd a Ffitrwydd Ysgol Gyfan Dringo’n Uwch

    Bocsys Bwyd Iachach, Plant Iachach

    ContinYou Cymru

    Cafwyd nifer o lwyddiannau ym maes gwella iechyd drwy fwyd a ffitrwydd yng Nghymru yn 2007. Cafodd y targed o sicrhau bod 75% o ysgolion yn gysylltiedig â chynlluniau Ysgolion Iach lleol erbyn mis Mawrth 2008 ei gyflawni erbyn diwedd 2007. Roedd 1548 o ysgolion a gynhelir yng Nghymru (84%) yn cymryd rhan - cynnydd o dros 200 o ysgolion yn ystod y flwyddyn. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed o sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan erbyn mis Mawrth 2010. Rhagwelir y bydd ysgolion yn datblygu polisïau bwyd a ffitrwydd fel rhan o’u gwaith Ysgol Iach ac y bydd cydgysylltwyr cynlluniau lleol yn arwain ysgolion drwy’r broses hon.

    Mae’r rhaglen 5x60, sy’n rhoi cyfleoedd i ymgymryd â gweithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol, wedi’i hymestyn. Fe’i cyflwynir gan Gyngor Chwaraeon Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth

    Cynulliad Cymru. Erbyn diwedd 2007, roedd gan 39 o’r 222 o ysgolion uwchradd swyddogion 5x60 a rhaglen o weithgareddau allgyrsiol. Gan fod deietegwyr yn chwarae rôl bwysig o ran gwella lefelau bwyta’n iach, rydym wedi darparu arian i gynyddu nifer y dietegwyr cymunedol yng Nghymru. Mae’r 16 o ddeietegwyr a’r naw gweithiwr cymorth deieteteg ychwanegol yn darparu hyfforddiant sgiliau bwyd a maeth i weithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y gymuned.

    Mae gwaith yn ymwneud â bwyd mewn ysgolion, sydd wedi arwain at greu Blas am Oes, wedi’i gydgysylltu o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) mewn cydweithrediad ag Adran Iechyd y Cyhoedd a’r Proffesiynau Iechyd.

    D4040809 cmo-w.indd 29 18/11/08 12:49:37✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    Blwch 9: Anelu am Aur - Casnewydd

    Mae Anelu am Aur yn fenter a weithredir gan Ddinas Casnewydd i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chwaraeon. Mae’r cynllun yn gweithio drwy system ‘cerdyn teyrngarwch’ sy’n cynnig gwobrau cynyddol yn dibynnu ar faint o weithgareddau y mae cyfranogwyr yn cymryd rhan ynddynt a pha mor aml y maent yn defnyddio cyfl eusterau hamdden.

    30Mae wyth awdurdod lleol wedi defnyddio grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru i dreialu bwyta’n iach mewn 30 o ganolfannau hamdden. Daeth y gwerthusiad i’r casgliad bod ‘y prosiect peilot wedi bod yn sbardun amlwg i ganolfannau ac awdurdodau ddechrau sicrhau bod eu harlwyo a’r bwyd a’r diodydd a werthir ganddynt yn fwy iach’.41

    Nododd hefyd ddau o’r prif rwystrau i fwyta’n iach: diffyg bwyd iach cyfl eus a hygyrchedd bwyd nad yw’n iach. Rydym bellach yn bwriadu rhannu’r arfer da hwn ar draws y sector cyhoeddus.

    Mae’r Rhaglen Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol lwyddiannus wedi parhau i fynd o nerth i nerth. Nod y rhaglen yw cyfl enwi, o ffynonellau lleol cyhyd ag y bo hynny’n bosibl, ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ansawdd i gymunedau difreintiedig. Roedd 150 o gydweithfeydd ar waith erbyn diwedd 2007.

    Un o’r prif weithgareddau yn 2007 oedd y drafodaeth ar Ansawdd Bwyd. Nod y drafodaeth oedd ystyried sut y gellid sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu bwyta bwyd sy’n iach, yn fforddiadwy ac yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy, tra’n cefnogi diwydiant bwyd

    cryf ac amrywiol yng Nghymru. Caiff yr ymateb ei ddefnyddio i ddatblygu Cynllun Gweithredu Ansawdd Bwyd.

    Yn ystod 2007, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi arian i Gyngor Chwaraeon Cymru gydgysylltu cynlluniau cerdded sy’n gysylltiedig ag iechyd ledled Cymru. Yn ei fl wyddyn gyntaf, mae’r prosiect Dewch i Gerdded Cymru wedi rhoi grantiau i 36 o brosiectau cerdded, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn targedu ardaloedd o amddifadedd, gan gyrraedd tua 5,000 o gerddwyr. Mae pob un o’r prosiectau wedi’u hanelu at grwpiau targed â lefelau isel o weithgarwch yn draddodiadol, er enghraifft grwpiau anabl a phobl dros 50 oed.

    Iechyd meddwl a llesUn o brif nodau ein gwaith yw deall y rhesymau pam bod pobl yn teimlo bod angen iddynt ladd eu hunain, a dod o hyd i ddulliau addas o ymyrryd. Mae digwyddiadau diweddar, yn effeithio ar bobl ifanc yn arbennig, yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a ddaeth i’r amlwg ar ddiwedd 2007, wedi amlygu natur drasig hunanladdiad i gynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol.

    D4040809 cmo-w.indd 30 18/11/08 12:49:38✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    31

    Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a’r cynllun gweithredu mewn Adroddiad Blynyddol gan y Prif Swyddog Meddygol yn y dyfodol.

    Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod bod iechyd meddwl cyn bwysiced ag iechyd corfforol mewn bywyd hir, hapus a gweithgar. Mae meddylfryd cadarnhaol yn cynyddu siawns unigolyn o gael swydd

    dda, mae’n diogelu rhag anafiadau, ac yn cynorthwyo’r broses o wella ar ôl salwch.42

    Yn yr un modd â ffactorau risg eraill, mae graddiant economaidd-gymdeithasol clir i iechyd meddwl a lles cyffredinol pobl. Mae data diweddaraf Arolwg Iechyd Cymruyn awgrymu bod gan y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru ganlyniadau iechyd meddwl sylweddol waeth na’r rhannau lleiaf difreintiedig.

    Blwch 10: Iechyd Meddwl

    Y sgôr SF36, mesur o iechyd meddwl a lles wedi’u hunanasesu yng Nghymru, yw 49.8. Mae’r sgôr hon ychydig yn uwch na’r hyn a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

    Mae cysylltiad clir rhwng iechyd meddwl gwael ac amddifadedd.

    Y gyfradd hunanladdiad yng Nghymru rhwng 2004 a 2006 oedd 19.8 i bob 100,000 o ddynion dros 15 oed, a 5.5 i bob 100,000 o fenywod yn yr un grŵp oedran.

    Gan fod y niferoedd yn fach, mae’r cyfraddau hunanladdiad yn amrywio’n sylweddol a gall arfer crwneriaid ddylanwadu arnynt.

    Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru, NPHS

    Ffigur 13: Achosion o hunanladdiad ymhlith dynion, 15 oed +, 2004-2006

    0

    5

    10

    15

    20

    25

    30

    Cyf

    rad

    d i

    bob

    100

    ,000

    Yr Alban Gogledd Iwerddon Cymru Lloegr

    D4040809 cmo-w.indd 31 18/11/08 12:49:38✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    32

    Yn dilyn ymgynghoriad yn 2006, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu Cynllun Gweithredu Iechyd Meddwl i’w lansio yn 2008. Y nodau cyffredinol yw gwella iechyd meddwl a lles y boblogaeth yng Nghymru, lleihau’r stigma a’r camwahaniaethu sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

    Fel rhan o’n dull o weithredu, rydym yn hyrwyddo llythrennedd iechyd meddwl drwy raglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Nod y syniad hwn, a ddatblygwyd yn Awstralia yn y 1990au, yw hyrwyddo dealltwriaeth o iechyd meddwl yn y gymuned. Mae’r rhaglen yn rhoi gwell dealltwriaeth i bobl o sut y gellir rhwystro gofid meddwl rhag datblygu’n gyflwr mwy difrifol, a sut i gysuro pobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r rhaglen hon yn cael ei darparu drwy Mind Cymru sy’n gweithio mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Datblygu Iechyd Meddwl yn yr Alban. Yn sgil y gwaith hwn, dylai unigolion yr effeithir arnynt gan broblemau iechyd meddwl, a’r bobl o’u hamgylch, gael mwy o gyfle i fanteisio ar gymorth amserol a phriodol.

    Un o’r datblygiadau allweddol eraill a welwyd yn 2007 oedd sefydlu Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan. Mae’r rhwydwaith hwn yn seiliedig ar fodel o rwydweithiau llwyddiannus eraill yng Nghymru ac yn dwyn ynghyd nifer o randdeiliaid â diddordeb er mwyn hyrwyddo dysgu a rhannu gwybodaeth ac arfer. Gweinyddir y rhwydwaith gan Ganolfan Iechyd Cymru. Y nod yn yr hirdymor yw rhoi cyfle i unigolion a sefydliadau sy’n gysylltiedig

    â hybu iechyd meddwl da, yn cynnwys sefydliadau’r GIG, yr NPHS, awdurdodau lleol a’r trydydd sector, i gynnal deialog. Dros y blynyddoedd i ddod, ein gobaith yw y bydd aelodau’r rhwydwaith hwn yn helpu i atgyfnerthu’r neges bod ‘iechyd meddwl yn fater i bawb’.

    CasgliadauGwelwyd canlyniadau cymysg yn 2007. Er bod y gwaharddiad ar ysmygu wedi bod yn ddigwyddiad i’w ddathlu, mae digwyddiadau eraill yn dangos bod gwaith i’w wneud o hyd i hyrwyddo gwelliant mewn iechyd a lles da.

    Mae cyflwyno’r gwaharddiad ar ysmygu yn gam mawr a phwysig, ond, fel y nodwyd gennym yn yr Adroddiad Blynyddol y llynedd, mae angen parhau i bwyso i leihau’r rheswm dros yr achosion uchel o farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond un elfen o’r newidiadau mewn ffordd o fyw y mae’n rhaid i rai pobl eu gwneud yw rhoi’r gorau i ysmygu o hyd.

    Mae gwella iechyd yn dibynnu ar unigolion yn cymryd y cyfrifoldeb drostynt hwy eu hunain a’u dyfodol. Mae gan y llywodraeth rôl i’w chwarae i wneud yr amodau’n gywir er mwyn sicrhau bod dewisiadau iach yn ddewisiadau hawdd. Mae gwella iechyd yn dibynnu ar bartneriaeth, partneriaeth wirioneddol rhwng unigolion a’r llywodraeth. Os ydym am weld pobl yn cymryd camau cadarnhaol, yna mae’n rhaid i ni sicrhau hinsawdd lle y caiff pobl eu hannog i gymryd ‘camau bach’ tuag at fywydau iachach. Dyma’r neges a gyflëwyd gennym drwy Her Iechyd Cymru.

    D4040809 cmo-w.indd 32 18/11/08 12:49:38✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    Pennod 3: Diogelu Iechyd - Atal yr hyn y gellir ei atal

    33

    Mae diogelu iechyd y boblogaeth yn dod yn fwyfwy cymhleth. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (NPHS), o dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n arwain ein hymateb iechyd i’r bygythiadau presennol a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg. Mae staff sy’n gweithio ym maes diogelu iechyd yn gweithredu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, diwydiant a sefydliadau’r llywodraeth ar lefel Cymru a Lloegr a’r DU megis yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed.

    Mae bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd yn dod i’r amlwg o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a pharatoi ar gyfer yr effeithiau y gallai hyn eu cael ar iechyd. Ymhlith y pryderon eraill mae achosion o glefydau heintus nas gwelwyd o’r blaen. Dangosodd yr achos cyntaf o ffl iw adar yng Nghymru ym mis Mai 2007 nad cysyniad damcaniaethol mohono. Er mwyn sicrhau bod iechyd y boblogaeth yn cael ei ddiogelu, mae’n hanfodol sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfl eu ledled Cymru er mwyn rhannu dysgu a phrofi ad. Mae’n bwysig hefyd bod yr hyn a ddysgir o brofi ad ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yn cael ei drosi’n atebion ymarferol er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

    Y newid yn yr hinsawdd ac iechydMae hinsawdd y Deyrnas Unedig yn newid. Awgryma tystiolaeth gan Ganolfan Hadley sy’n rhan o’r Swyddfa Feteoroleg y bydd y tymheredd blynyddol cymedrig byd-eang yn cynyddu rhwng 2.5 a 3 gradd erbyn diwedd y ganrif hon.43 Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled y DU i ddeall i ba raddau y mae’r newid yn yr hinsawdd yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd. Rydym wedi gweld yr effaith y gall y tywydd ei chael ar iechyd y cyhoedd. Adlewyrchwyd hyn gan y tonnau gwres a brofwyd ledled Ewrop yn ystod haf 2003 a arweiniodd at farwolaeth mwy na 50,000 o bobl.44

    Rydym yn fwy tebygol o weld llifogydd a phatrymau tywydd newidiol. Yn wahanol i wledydd eraill, nid ydym yn rhagweld cynnydd mewn clefydau a gludir gan fector yn y tymor byr i’r tymor canolig, ond cred llywodraeth y DU fod tebygolrwydd y gwelir cynnydd yn yr achosion o glefydau a gludir gan fwyd yn sgil hafau twymach. Bydd nifer y marwolaethau yn ystod y gaeaf yn parhau i leihau wrth i’r hinsawdd dwymo, sy’n effaith gadarnhaol, ond mae’n bosibl y gwelir cynnydd yn nifer y marwolaethau yn ystod yr haf. Bydd llygredd aer yn parhau i newid yng Nghymru. Er bod crynodiadau o nifer o lygryddion pwysig yn debygol o ostwng dros yr hanner canrif

    D4040809 cmo-w.indd 33 18/11/08 12:49:39✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    34

    nesaf, mae’r crynodiad o osôn yn debygol o gynyddu, gan arwain o bosibl at fwy o farwolaethau a derbyniadau ysbyty.

    Ym mis Chwefror 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Ymateb i’n Hinsawdd sy’n Newid, ymgynghoriad ar gynllun gweithredu ar gyfer addasu i’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.45

    Roedd yr ymgynghoriad yn amlinellu rhai o effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a dechreuodd nodi’r camau y mae angen eu cymryd i ymateb iddo. Er mwyn helpu i gydgysylltu’r ymateb i’r cynllun o safbwynt iechyd y cyhoedd, sefydlwyd Gweithgor Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd, a gadeiriwyd gan Gynghorydd Iechyd yr Amgylchedd.

    Iechyd a’r amgylcheddUn o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a wynebir eisoes yn y DU yw cynnydd yn nifer y tonnau gwres. Mae cysylltiad rhwng tymereddau uchel ag ansawdd aer gwael gyda lefelau uchel o osôn a gronynnau bach, a gaiff eu ffurfio’n gyflymach mewn heulwen gref. Mae tonnau gwres yn berygl bywyd i bobl sy’n agored

    i niwed, megis yr henoed. Mae lefel eithriadol o wres yn beryglus i bawb ac, fel cymdeithas, nid yw ein ffordd o fyw na’n hamgylchedd adeiledig wedi’u cynllunio ar gyfer hinsawdd boeth. Gall ton wres, lle mae tymereddau yn aros yn annormal o uchel am fwy nag ychydig ddiwrnodau, effeithio ar iechyd, drwy risg gynyddol o anawsterau anadlol a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r galon.

    Mewn un cyfnod poeth yn Llundain ym mis Awst 2003, gwelwyd cynnydd o 60% yn nifer y marwolaethau ymhlith pobl dros 75 oed.46 Erbyn y 2080au, rhagwelir y bydd y cyfryw ddigwyddiad yn digwydd bob blwyddyn. Mae’r risg o wynebu ton wres ddifrifol fel yr un a welwyd yn Ffrainc yn 2003 yng Nghymru yn isel iawn ar hyd o bryd, ond hyd yn oed yn ystod tonnau gwres eithaf mwyn, mae marwolaethau ychwanegol yn digwydd ac mae angen cynllunio ar eu cyfer. Yn y dyfodol, gallai cynnydd yn y defnydd o ynni ar gyfer aerdymheru dros fisoedd yr haf arwain at gynnydd yn y sylffwr deuocsid a ollyngir o orsafoedd pŵer, gan waethygu symptomau asthma.

    D4040809 cmo-w.indd 34 18/11/08 12:49:39✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    35

    Blwch 11: Bygythiadau i’r amgylchedd

    Ffigur 14: Ardaloedd â’r cyfraddau uchaf o berygl o lifogydd

    Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2007, cafwyd glawiad nas gwelwyd erioed o’r blaen yng Nghymru a Lloegr. Arweiniodd y patrwm tywydd hwn at lifogydd difrifol; bu farw 13 o bobl a bu’n rhaid i lawer o deuluoedd a chymunedau fyw heb bŵer a chyflenwadau am ddyddiau. Gwelwyd difrod i’r seilwaith hanfodol gan gynnwys gorsafoedd pŵer a ffynonellau ynni eraill, rhwydweithiau trafnidiaeth a chysylltiadau ffôn a chyfathrebu. Fodd bynnag, ni chyfyngwyd y digwyddiadau hyn i Gymru a Lloegr. Amcangyfrifwyd bod tua 200 o lifogydd mawr ledled y byd. Caiff effaith llifogydd ac erydiad arfordirol ei theimlo’n fwyaf uniongyrchol gan unigolion drwy ddifrod i eiddo, cynnydd mewn premiymau yswiriant, ymyrraeth, gofid a hyd yn oed salwch.

    Yng Nghymru, rydym yn wynebu’r posibilrwydd o weld llifogydd o afonydd ac o’r môr. Mae adroddiad Rhagolwg yn 2004 yn amcangyfrif y byddai’r difrod economaidd i Gymru yn sgil llifogydd rhwng £121 miliwn a £1,235 miliwn erbyn 2080. Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfres o raglenni gwaith ar waith i sicrhau bod Cymru yn fwy parod drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lifogydd a chanlyniadau risg gynyddol.47

    D4040809 cmo-w.indd 35 18/11/08 12:49:42✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    36

    Gwelyau haulMae’r defnydd o welyau haul wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru ers yr 1980au. Mae llawer o sefydliadau iechyd y cyhoedd yn y DU, yn Ewrop ac yn fyd-eang wedi mynegi eu pryder ynghylch y cynnydd hwn ac mae hyn, ynghyd â chynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi rhoi pwysau hefyd ar lywodraethau i weithredu. Mae’r deddfau presennol sy’n berthnasol i ddarparu gwelyau haul yng

    Nghymru yn gyfyngedig i ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch y DU. Mae’r anallu hwn i bennu safonau gofynnol ar gyfer y diwydiant wedi arwain at bryderon cynyddol am faterion diogelwch sy’n gysylltiedig â gwelyau haul a’r posibilrwydd y gallant gael eu camddefnyddio gan bobl sy’n agored i niwed, yn enwedig plant. Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn pryderu am y risg hon i iechyd y cyhoedd ac mae wedi codi’r posibilrwydd o reoleiddio’r diwydiant gydag Adran Iechyd y DU.

    Blwch 12: CEHAPE

    Cyfarfu gweinidogion iechyd o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn 2004 i gytuno ar gamau i ddiogelu iechyd plant drwy fentrau amgylcheddol. Mae Cynllun Gweithredu Iechyd a’r Amgylchedd ar gyfer Ewrop (CEHAPE) i Blant yn nodi fframwaith ar gyfer gweithredu sy’n seiliedig ar yr egwyddor bod amlygiad plant i beryglon amgylcheddol yn cael ei ddylanwadu nid yn unig gan gyflwr yr amgylchedd ffisegol ond gan amodau economaidd-gymdeithasol ac ymddygiad unigolion a grwpiau.

    Er mwyn diogelu iechyd, mae angen cymryd camau ar gyfer:

    Atal sylfaenol: polisïau, rhaglenni a chynlluniau sydd wedi’u hanelu at wella cyflwr yr amgylchedd ffisegol (aer, dŵr, pridd, sŵn), yn arbennig drwy integreiddio anghenion plant ym meysydd tai, trafnidiaeth, seilwaith a chynllunio.

    Tegwch: rhoi blaenoriaeth i ddiogelu plant sy’n wynebu’r risg fwyaf, ac yn enwedig plant sydd wedi’u hesgeuluso, eu gadael, plant anabl, plant sefydliadedig, plant y camfanteisir arnynt, neu blant sy’n dioddef canlyniadau gwrthdaro arfog a mudo dan orfod, drwy wella cyfleoedd i gael gafael ar wasanaethau iechyd a diogelwch cymdeithasol ataliol.

    Lleihau tlodi: polisïau sy’n mynd i’r afael ag agweddau amlochrog ar dlodi ymhlith plant.

    Hybu iechyd: camau gweithredu wedi’u hanelu at atal a lleihau amlygiadau i beryglon iechyd yr amgylchedd drwy fabwysiadu ffyrdd o fyw iach, cyflawni patrymau defnydd cynaliadwy a helpu i greu aneddiadau dynol iach sy’n galluogi.

    Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda chydweithwyr o’r Asiantaeth Diogelu Iechyd i lunio ymateb i’r agenda hon ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig.

    D4040809 cmo-w.indd 36 18/11/08 12:49:44✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    37

    Carbon monocsidCaiff 50 o bobl eu lladd bob blwyddyn ar gyfartaledd yn y DU o ganlyniad i groniad peryglus o garbon monocsid o offer gwresogi diffygiol yn y cartref. Yr henoed a’r ifanc iawn sy’n wynebu’r risg fwyaf. Yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid ym mis Hydref 2007, rhoddwyd cyngor i bob meddyg a fferyllydd ar beryglon gwenwyno gan garbon monocsid a sut i wneud diagnosis, a chyhoeddwyd taflen wybodaeth i’r cyhoedd.48

    Plwm mewn dŵrMae effeithiau plwm ar iechyd yn dra hysbys, ac mae’r amlygiad iddo wedi gostwng o ganlyniad i ymdrechion mawr i reoli’r defnydd ohono a chyfyngu ar y modd y mae’n llygru’r amgylchedd. Mae ymdrechion ar droed i waredu plwm o beipiau dŵr mewn cartrefi hŷn ac o beipiau yn y rhwydwaith dosbarthu. Yn 2007, ysgrifennodd Llywodraeth Cynulliad Cymru at awdurdodau lleol i’w rhybuddio am broblem a oedd yn dod i’r amlwg o ran lefelau annerbyniol o blwm mewn samplau dŵr yfed a gymerwyd o ddatblygiadau preswyl diweddar yng Ngogledd Cymru a oedd yn dangos mai sodr plwm yn hytrach na sodr di-blwm a oedd wedi’i ddefnyddio mewn rhai tai, a hynny’n groes i’r Rheoliadau Ffitiadau Dŵr.

    Mae dŵr yfed a yfir yng Nghymru yn dod o bedwar cwmni dŵr sy’n cynnal gwaith monitro helaeth o’u cyflenwadau ac yn gorfodi rheoliadau. Codwyd y mater o hunanreoleiddio gydag awdurdodau lleol drwy Gyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru yn un o’r cyfarfodydd

    cyswllt rheolaidd. Ymatebodd y Cyfarwyddwyr drwy roi trefniadau ar waith i gasglu gwybodaeth ledled Cymru er mwyn darparu data sylfaenol ar y modd y mae awdurdodau lleol yn monitro ac yn mynd i’r afael â phlwm mewn cyflenwadau dŵr yfed. Rydym yn aros am y canlyniadau i weld a oes problem ehangach yn bodoli y bydd angen i’r Prif Swyddogion Meddygol fynd i’r afael â hi drwy weithio ledled y DU.

    Clefydau trosglwyddadwyNid yw clefydau trosglwyddadwy yn ystyried ffiniau cenedlaethol. Ers y 1980au, rydym wedi gweld llawer mwy o deithio a masnachu ar lefel ryngwladol, heintiau newydd a chyfres o achosion rhyngwladol a reolwyd yn wael. Ym mis Mehefin 2007, daeth Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 i rym yn fyd-eang. Mae rheoliadau sy’n gyfreithiol rwymol wedi’u mabwysiadu gan y rhan fwyaf o wledydd er mwyn atal bygythiad clefydau a allai gael eu lledaenu’n gyflym o un wlad i’r llall. Mae’r cyfryw glefydau yn cynnwys heintiau newydd fel SARS, neu feirws ffliw dynol newydd.

    D4040809 cmo-w.indd 37 18/11/08 12:49:46✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adr

    oddi

    ad B

    lyny

    ddol

    Prif

    Sw

    yddo

    g M

    eddy

    gol C

    ymru

    200

    7

    Blwch 13: Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

    38

    Daw bygythiadau hefyd o argyfyngau eraill yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd a allai effeithio ar boblogaethau ar draws ffiniau, megis arllwysiadau cemegol, tanau, gollyngiadau, achosion o ddympio neu ddigwyddiadau niwclear. Mae’r rheoliadau newydd bellach yn ymdrin ag afiechyd yn fwy cyffredinol ac yn cynnwys halogi yn ogystal â heintio. Yng Nghymru, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd Cymru, y Panel Technegol Iechyd Porthladdoedd a’r NPHS i ddynodi porthladdoedd o dan y rheoliadau, cyflwyno rheolaethau newydd ar gyfer glanweithdra ar longau, ac adolygu a diweddaru cyfraith iechyd y cyhoedd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

    Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechydMae heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAIs, er enghraifft, MRSA a C.difficile), yn derm sy’n cwmpasu heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a ddarperir yn y cartref, mewn lleoliadau gofal sylfaenol, mewn cartrefi nyrsio neu mewn ysbytai. Nid yw HCAIs yr un peth â thrawsheintio, gan fod y rhan fwyaf o HCAIs yn cael eu hachosi gan organebau a gludir gan unigolyn. Mae newyddion am lefelau HCAI i’w weld yn rheolaidd yn y wasg leol a chenedlaethol ac erys yn bwnc cyfredol iawn ac yn un sy’n achosi pryder o ran diogelwch cleifion.

    Ffigur 15: Marwolaethau lle nodir MRSA neu C. difficile ar y dystysgrif marwolaeth

    0

    10

    20

    30

    40

    50

    60

    70

    80

    Cyf

    rad

    dau

    i b

    ob 1

    00,0

    00 o

    'r b

    oblo

    gaet

    h

    2003

    2004

    2005

    Ffynhonnell: ONS

    2006

    2007

    MRSA Dynion

    MRSA MenywodC.diff DynionC.diff Menywod

    D4040809 cmo-w.indd 38 18/11/08 12:49:47✓ CertifiedPDF®for digital print Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001

  • Adroddiad B

    lynyddol Prif S

    wyddog M

    eddygol Cym

    ru 2007

    39

    Gwelwyd llawer o ddatblygiadau yn sgil y strategaeth rheoli heintiau mewn ysbytai a lansiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2004. Bellach, mae gan bob ymddiriedolaeth ei rhaglen lleihau heintiau ei hun a chaiff data arolygu heintiau ei gyflwyno’n rheolaidd i fyrddau er mwyn eu helpu i asesu eu blaenoriaethau unigol.

    Yn 2007, cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru archwiliad “gwerth am arian” o’r modd y mae ymddiriedolaethau yn rheoli heintiau. Amcangyfrifwyd bod HCAIs yn costio tua £50 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd gan bob ymddiriedolaeth bwyllgor rheoli heintiau ar waith a gwelwyd llawer o enghreifftiau o arfer da, yr oedd sawl un ohonynt wedi’u cydnabod ledled y DU.49

    Derbyniodd tîm rheoli heintiau Ymddiriedolaeth GIG Abertawe Wobr

    The Nursing Times am Reoli Heintiau ar gyfer eu gwaith targed lleihau heintiau lleol a welwyd yn benodol yn yr uned arennol a’r lleihad mewn staphylococcal bacteraemias. Roedd tîm rheoli heintiau Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin hefyd ymhlith y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol am eu gwaith tîm amlddisgyblaethol yn lleihau effaith C. difficile yn lleol.

    Yn ystod 2007, fel rhan o raglen dreigl o ymweliadau nas cyhoeddwyd ymlaen llaw, anfonodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) dimau arolygu i sampl o ymddiriedolaethau i gynnal hapwiriadau ar lendid yr amgylchedd ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff. Mewn ymateb i’w hadroddiad, mae ymddiriedolaethau wedi cyflwyno cynlluniau gweithredu AGIC ac maent yn rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith.

    Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y tystysgrifau marwolaeth sy’n nodi HCAI. Yn 2007, roedd 63.7 i bob 100,000 o farwolaethau ymhlith dynion a 68.7 i bob 100,000 o farwolaethau ymhlith menywod yn cofnodi C. difficile fel ffactor a gyfrannodd atynt. Mae’r cyfraddau hyn bedair gwaith yn fwy na’r rhai a nodwyd yn 2003.

    Nid yw’r rhesymau dros y cynnydd hwn yn glir eto ond, yn amlwg, maent yn cynnwys y ffaith bod mwy o brofion yn cael eu gwneud a bod gwaith cofnodi a dadansoddi yn well.

    Y gyfradd C. difficile fesul 1,000 o dderbyniadau ymhlith cleifion mewnol dros 65 oed yng Nghymru yn 2007 oedd 16.8, sef cynnydd o 14.8 yn 2006.

    Roedd cyfraddau C. difficile ymhlith menywod yn uwch na’r rhai ar g