8
WILIA PAPUR MISOL CYMRAEG ABERTAWE RHIF 412 CHWEFROR 2019 PRIS 50C Y tu mewn: 2 Gwennan Gibbard yn Nhy Tawe Y Clwb Darllen 3 Brwydr Garn Goch: yr hanes a’r garreg 4 Twrw Tawe’n llenwi’r Tabernacl Cerdded yn y Glaw 5 Y Nadolig ym Methel Cerdded Ling-di-long 6 Peirianneg yn Ysgol Gwyr 7 Huw Dylan yn gwerino Robin Campbell yn rasio Trenau di- Gymraeg 8 Gwleidyddion Gwyr YSGOLION NEWYDD I DDOD ERBYN IONAWR 2021 Bydd adeiladau newydd a mwy yn barod erbyn 2021 i Ysgolion Cym- raeg Tirdeunaw a Than-y-Lan. Dyna destun ymgynghoriad statudol Sir Abertawe, Bydd y Sir yn derbyn arian ychwan- egol o dan gynllun cyfalaf Ysgolion Cymraeg y Llywodraeth i sicrhau bod y ddwy ysgol yn rhoi lle i gynyddu add- ysg Gymraeg. TIRDEUNAW Bydd Ysgol Tirdeunaw yn symud o’i safle presennol i safle ar dir Ysgol Bryn Tawe. Bydd Ysgol Tan-y-Lan yn symud i safle newydd yn y Clas. Bydd gan Ysgol Tirdeunaw le i 525 o blant, gyda 2.5 dosbarth yn mynd i mewn bob blwyddyn. Lle i 413 o blant sydd yn yr ysgol bresennol sydd yn Heol Tir Du, Treboeth. Bydd dalgylch Tirdeunaw yn newid, gan gynnwys Blaen-y-maes, Cadle, Clwyd, Gendros a Phortmead, sydd ar hyn o bryd yn bwydo Pontybrenin. Bydd y dalgylch hefyd yn cynnwys Brynhyferyd a Burlais, sy’n bwydo Bryn -y-môr yn awr. TAN-Y-LAN Ar hyn o bryd mae gan Ysgol Tan-y- Lan 140 o ddisgyblion er nad oes ond lle i 130 yn yr adeiladau (Ionawr 2018). Y bwriad yw bod lle i 420 o ddisgyb- lion yn yr ysgol newydd, gyda dau ddosbarth mynediad. Bydd yr ysgol yn estyn ei dalgylch i gynnwys y Clas a Llangyfelach, sy’n bwydo Tirdeunaw ar hyn o bryd. Mae’r Sir yn rhag- weld y bydd y safle newydd, fydd ddim yn bell o’r M4 a’r DVLA, yn denu galw sylweddol uwch o blant i add- ysg Gymraeg. Bydd adeilad pres- ennol yr ysgol yn cael ei ryddhau, a byddai’r Sir yn aw- yddus i agor trafod- aeth gyda rhai a allai ddarparu add- ysg gyn ysgol neu ddarpariaeth Gymraeg i oedolion yno. Byddai’n dda gweld Mudiad Meith- rin a Chymraeg i Oedolion yn trafod gyda’r Sir. FELINDRE Gwaetha’r modd, stori arall sydd i Ysg- ol Gymraeg Felindre. Mae’r Sir yn bwriadu cau’r ysgol hon, yn bennaf oherwydd y niferoedd isel sydd ynddi. Tua 12 o blant sydd gan yr ysgol, gostyngiad o’r 18 oedd yn yr ysgol ym mis Ionawr 2018. O’r 18 yna, 2 oedd yn byw yn nalgylch yr ysgol, a dau arall ar ffiniau’r dalgylch. Roedd 5 yn byw yn nalgylch Ysgol Gymraeg Gellionnen, 3 yn ardal Tirdeunaw, un yr un yn ardaloedd Lôn-las, y Cwm, Pontybrenin, Login Fach a Bryn Iago. Mae’r map isod yn dangos man byw’r 18 disgybl oedd yn yr ysgol yn 2018. Os bydd yr ysgol yn gorfod cau, mae llawer am weld yr adeilad yn cael ei ddatblygu’n adnodd cymunedol. CYFARFODYDD Ym mis Rhagfyr ymatebodd Mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg i gynlluniau’r Sir gan bwysleisio’r angen am sicrhau twf yn addysg Gymraeg Aber- tawe. Mae sawl achos arall yn aros i’w ddatrys. Yn eu mysg mae’r angen am ysgol Gym- raeg arall yn ardal Pontybrenin, a’r angen am ysgolion Cym- raeg pan gaiff stadau tai new- ydd eu codi. Caiff Cynllun Datblygu Add- ysg Gymraeg ei baratoi ar gyfer 2020 a 2025. DIM COEDEN! Doedd dim coeden Nadolig ar ffordd y brenin i ddathlu’r ŵyl eleni. Penderfynodd y cyngir roi pelen Nadolig yn ei lle. Ond go brin o hon gyfranny at ysbryd yr ŵyl. Ond roedd cyfarchion dwyieithog ar y ffens a godwyd o’i chwmpas. Neil Rosser a’i fand oedd yr atyniad yn Sesiwn Werin Ty Tawe ddiwedd Ionawr. Daeth yn agos at gant i gael eu diddanu.

R H I F 4 1 2 C H W E F R O R 2 0 1 9 P A P U R M I S O L ... · Ar hyn o bryd mae gan Ysgol Tan-y-Lan 140 o ddisgyblion er nad oes ond lle i 130 yn yr adeiladau (Ionawr 2018). Y

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

WILIA P A P U R M I S O L C Y M R A E G

A B E R T A W E

R H I F 4 1 2 C H W E F R O R 2 0 1 9

P R I S 5 0 C

Y tu mewn: 2

Gwennan Gibbard yn Nhy

Tawe Y Clwb Darllen

3 Brwydr Garn

Goch: yr hanes a’r garreg

4 Twrw Tawe’n

llenwi’r Tabernacl

Cerdded yn y Glaw

5 Y Nadolig ym

Methel Cerdded

Ling-di-long 6

Peirianneg yn Ysgol Gwyr

7 Huw Dylan yn

gwerino Robin Campbell

yn rasio Trenau di-Gymraeg

8 Gwleidyddion

Gwyr

YSGOLION NEWYDD I DDOD ERBYN IONAWR 2021

Bydd adeiladau newydd a mwy yn barod erbyn 2021 i Ysgolion Cym-raeg Tirdeunaw a Than-y-Lan. Dyna destun ymgynghoriad statudol Sir Abertawe, Bydd y Sir yn derbyn arian ychwan-egol o dan gynllun cyfalaf Ysgolion Cymraeg y Llywodraeth i sicrhau bod y ddwy ysgol yn rhoi lle i gynyddu add-ysg Gymraeg.

TIRDEUNAW Bydd Ysgol Tirdeunaw yn symud o’i safle presennol i safle ar dir Ysgol Bryn Tawe. Bydd Ysgol Tan-y-Lan yn symud i safle newydd yn y Clas. Bydd gan Ysgol Tirdeunaw le i 525 o blant, gyda 2.5 dosbarth yn mynd i mewn bob blwyddyn. Lle i 413 o blant sydd yn yr ysgol bresennol sydd yn Heol Tir Du, Treboeth. Bydd dalgylch Tirdeunaw yn newid, gan gynnwys Blaen-y-maes, Cadle, Clwyd, Gendros a Phortmead, sydd ar hyn o bryd yn bwydo Pontybrenin. Bydd y dalgylch hefyd yn cynnwys Brynhyferyd a Burlais, sy’n bwydo Bryn-y-môr yn awr.

TAN-Y-LAN Ar hyn o bryd mae gan Ysgol Tan-y-Lan 140 o ddisgyblion er nad oes ond lle i 130 yn yr adeiladau (Ionawr 2018). Y bwriad yw bod lle i 420 o ddisgyb-lion yn yr ysgol newydd, gyda dau ddosbarth mynediad. Bydd yr ysgol yn estyn ei dalgylch i gynnwys y Clas a Llangyfelach, sy’n bwydo Tirdeunaw ar hyn o bryd.

Mae’r Sir yn rhag-weld y bydd y safle newydd, fydd ddim yn bell o’r M4 a’r DVLA, yn denu galw sylweddol uwch o blant i add-ysg Gymraeg. Bydd adeilad pres-ennol yr ysgol yn cael ei ryddhau, a byddai’r Sir yn aw-yddus i agor trafod-aeth gyda rhai a allai ddarparu add-ysg gyn ysgol neu ddarpariaeth Gymraeg i oedolion yno. Byddai’n dda gweld Mudiad Meith-rin a Chymraeg i Oedolion yn trafod gyda’r Sir.

FELINDRE Gwaetha’r modd, stori arall sydd i Ysg-ol Gymraeg Felindre. Mae’r Sir yn bwriadu cau’r ysgol hon, yn bennaf oherwydd y niferoedd isel sydd ynddi. Tua 12 o blant sydd gan yr ysgol, gostyngiad o’r 18 oedd yn yr ysgol ym mis Ionawr 2018. O’r 18 yna, 2 oedd yn byw yn nalgylch yr ysgol, a dau arall ar ffiniau’r dalgylch. Roedd 5

yn byw yn nalgylch Ysgol Gymraeg Gellionnen, 3 yn ardal Tirdeunaw, un yr un yn ardaloedd Lôn-las, y Cwm, Pontybrenin, Login Fach a Bryn Iago. Mae’r map isod yn dangos man byw’r 18 disgybl oedd yn yr ysgol yn 2018. Os bydd yr ysgol yn gorfod cau, mae llawer am weld yr

adeilad yn cael ei ddatblygu’n adnodd cymunedol.

CYFARFODYDD Ym mis Rhagfyr ymatebodd Mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg i gynlluniau’r Sir gan

bwysleisio’r angen am sicrhau twf yn addysg Gymraeg Aber-tawe. Mae sawl achos arall yn aros i’w ddatrys. Yn eu mysg mae’r angen am ysgol Gym-raeg arall yn ardal Pontybrenin, a’r angen am ysgolion Cym-raeg pan gaiff stadau tai new-ydd eu codi. Caiff Cynllun Datblygu Add-ysg Gymraeg ei baratoi ar gyfer 2020 a 2025.

DIM COEDEN! Doedd dim coeden Nadolig ar ffordd y brenin i ddathlu’r ŵyl eleni. Penderfynodd y cyngir roi pelen Nadolig yn ei lle. Ond go brin o hon gyfranny at ysbryd yr ŵyl. Ond roedd cyfarchion dwyieithog ar y ffens a godwyd o’i chwmpas.

Neil Rosser a’i fand oedd yr atyniad yn Sesiwn Werin Ty Tawe ddiwedd Ionawr. Daeth yn agos at gant i gael eu diddanu.

WILIA CHWEFROR 2019 TUDALEN 2

GWENNAN GIBBARD YN LLENWI TY TAWE

Llanwyd lolfa Tŷ Tawe pan ddaeth Gwenan Gibbard i ganu ddiwedd Tachwedd. Canodd ganeuon traddodiadol a newydd gan gyn-nwys carolau plygain a chaneuon y daeth o hyd iddynt yng nghasgl-iadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Cyfeiliodd ei hun ar y dekyn a chanu rhai alawon ar y delyn. Roedd yn noson i’w chofio, yr olaf o gyfres 2018 yn Nhŷ Tawe, pan gafwyd perfformwyr o ferched bob mis.

Sylwadau Cylch Darllen Tŷ Tawe am Esgyrn gan Heiddwen Tomos, Y Lolfa, £8.99. “Roedd llawer o bethau i’w canmol yn y nofel

hon, fel y plot a’r ddeialog.”

“Cawsom ddarlun o gefn gwlad gorllewin Cymru

– darlun oedd yn aml yn un anghysurus. Eto i

gyd, ro’n i’n awyddus i weld beth oedd yn

digwydd.”

“Ches i ddim hwyl o gwbl ar y nofel hon; methais

ei mwynhau.”

“Llwyddodd yr awdur i lunio cymeriadau

credadwy, er bod peth o’r gyfeiriadaeth weithiau

yn y ddeialog braidd yn anghredadwy.”

“Efallai fod y portread o Saeson yn y nofel yn

ystrydebol.”

“Roedd y dechrau a’r diwedd yn clymu’n dda, er

imi gymryd amser i sylweddoli nad oedd y darn

agoriadol yn rhan o’r prif naratif.”

“Roedd rhai darnau braidd yn aflednais, felly ro’n

i’n methu eu darllen nhw.”

“Does dim dwywaith bod gan yr awdur ddawn

ysgrifennu.”

“Roedd gormod o ddarnau llanw o ran y

Llawer o ddiolch iddi hi ac i Huw Dylan Owen am ei holl waith trefnu'r cyfres Tyrfe Tawe - ac am yr englyn cofiadwy hwn, 'Tachwedd yn Abertawe': Yn heulog o haf Pwllheli - Gwenan Mor gynnes, lawn egni Llwydda’n dirion i’n llonni - A gwres ddaw â'i halaw hi.

CINIO’R CLWB DARLLEN Cafodd Clwb Darllen Ty Tawe amser da yn eu cinio Nadolig ym mwyty Parmigiano, y tu ol i Heol Walter. Mwynhawyd bwyd Eidalaidd a chafwyd trafod brwd ar lyfrau’r flwyddyn.

disgrifiadau.”

“Dangosodd yr awdur sut datblygodd y

berthynas rhwng y tad-cu a’r wyrion yn

arbennig o dda.”

Cyfarfodydd nesaf y Cylch, am 7:30 yn

Nhŷ Tawe:

11 Chwefror Ar Drywydd Llofrudd, Alun

Davies, Y Lolfa, £8.99

11 Mawrth Celwydd Oll, Siân

Northey, Gwasg y Bwthyn, £8.00

Croeso i bawb. Cysylltwch ag [email protected] os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth.

Bydd y clwb yn cwrdd ar ail nos Lun pob mis yn Nhy Tawe, am 7.30.Mae’r Clwb yn addas i rai sydd ar lefelau uchaf dysgu Cymraeg a siaradwyr Cymraeg, ac mae croeso i bawb.

DR LLINOS ROBERTS GYDA’R CYLCH CINIO John Thomas, ysgrifennydd Cylch Cinio Abertawe, oedd yn cyflwyno Dr Llinos Roberts, eu gwestai ar gyfer eu cyfarfod ym Mis Rhagfyr. Mae Llinos yn feddyg teulu yn y Tymbl,

Sir Gaerfyrddin, ac fe rhoddodd ddarlun difyr iawn o'i phrofiadau wrth helpu cleifion mewn lleoedd anghysbell yn Queensland, Awstralia yn ogystal â Glasgow ac yn ol yng Nghymru. Dywedodd hefyd fod mwy o fyfyrwyr o Gymru bellach yn mynychu cwrs hyfforddi Prifysgol Abertawe ar gyfer meddygon teulu, gyda'r ganran erbyn hyn dros 50 y cant. Cafwyd pleidlais o ddiolch gan feddyg arall, Dr Don Williams, a gyflwynodd lyfr o drafodion Cymdeithas Meddygon Myddfai.

WILIA CHWEFROR 2019 TUDALEN 3

BRWYDR GARN GOCH

Ar ddydd Gŵyl Dewi 1985 daeth nifer o Gymry gwladgarol ynghyd i dystio i ser-emoni ddadorchuddio cofeb unigryw ar gyrion Abertawe gan Gwynfor Evans. Yng Ngharn Goch, gerllaw'r ysbyty ar gyrion Gorseinon fe welir y gofeb wenithfaen hardd i gofio am y cannoedd a fu farw dros Gymru bron i naw can mlynedd yn ôl. Yn Abertawe daeth criw ynghyd i ystyried sut y dylid coffau y frwydr waedlyd dros rydd-id Cymru gerllaw'r ddinas ar ddydd Calan yn 1136.

Gwladychwyd rhannau o Gymru, gan gynnwys Penrhyn Gŵyr, gan werinwyr Normanaidd yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg ac erbyn 1106 'roedd brenin Lloegr, Harri I, yn ddigon eofn yng Nghymru i rhoddi Gŵyr yn anrheg i Iarll Warwick, a hynny heb oresgyn y tir! Bu brwydro ffyrnig, ond erbyn ugeiniau'r ddeuddegfed ganrif, wedi gweld y pris mewn gwaed daeth Gruffydd ap Rhys i gytundeb â Harri I a bu rhywfaint o heddwch. Ond pery llid yn hwy na galar, ac ar ddydd Calan 1136, gyda Steffan bellach ar orsedd Lloegr, daeth Hywel ap Maredudd, pennaeth â chryn ddylanwad ganddo ym Mrycheiniog, gyda nifer fawr o Gymry tua Phenrhyn Gŵyr, am waed y Normaniaid. Dynion Brycheiniog,

Morgannwg a gogledd Gŵyr oedd cyfansoddiad y fyddin. 'Roedd y Normaniaid wedi hen arfer delio gyda grwp-iau bychain o Gymry a'u gyrru i'w heglu hi am adref, ond y tro h w n b u c a m -

amcangyfrif ac ni ragwelwyd maint byddin y Cymry. Aeth y ddwy fyddin ben-ben a'i gilydd am hanner dydd ar y dydd Calan hwnnw ar dir gerllaw ys-byty Garn Goch heddiw. Bu galanas a bu farw cannoedd ar y ddwy ochr, 516 o'r Normaniaid yn ôl cofnodion o'r cyfnod. Dywedir nad oedd yr olygfa a ddilynai'r frwydr yn un ddymunol, gyda chyrff y lladdedigion wedi cael eu llusgo o

gwmpas y lle a'u hanner bwyta gan fleiddiaid fyddai'n teyrnasu yng nghors Einon. Aeth byddin y Cymry yn ei blaen i losgi a rheib-io de Gŵyr. Dyma oedd dechrau rhyfel gwaedlyd y Cymry a'r Saeson rhwng 1136 ac 1137, y rhyfel a welodd Gwenllïan ddewr yn farw yng Nghydweli a'i gŵr – Gruffydd ap Rhys, o gyd-ddigwyddiad, yn marw ym Mhenllergaer rai misoedd yn ddiweddarach. Nid cyd-ddigwyddiad, mae'n debyg, yw'r enwau Garn Goch, Cadle a Blaen-y-Maes yng nghyffiniau'r frwydr, ac wrth sefyll

ar faes y frwydr fe welir twmpyn bychan ar dir cyfagos gydag ambell i goeden ar ei ben – yma medd rhai y claddwyd cyrff y meirwon; yma medd eraill roedd y 'gaer' (Penllergaer) o ba le y gwyliai

Hywel y frwydr yn datblygu'n waedlyd. Yn 1985 bu cryn weithio a threfnu i sic-rhau fod cofeb gwerth ei gweld yng Ngharn Goch. Cloddiwyd carreg enfawr, hardd ac urddasol o chwarel yng Nghwm Gwendraeth a threfnwyd i'r fyddin diriog-aethol ei chludo i'r fan. Gerllaw hefyd mae'r cofnod ar lechi sydd yn ein hatgoffa o'r hanes. Daeth y ddwy lechen hardd o fwrdd snwcer yng ngharchar Abertawe, eu glanhau, eu cerfio a'u cludo'n ddiogel i'r fan. Gwrthododd yr awdurdodau dro ar ôl thro i roi arwydd i gyfeirio'r teithiwr at y maen coffa ac felly aeth rhywrai ati yn y dirgel i 'addasu' arwydd eu hunain a'i osod yn y fan a hwnnw'n union yr un peth yr olwg ag

arwydd swyddogol at faes y gad. Rhy hawdd yw anghofio aberth y Cymry a fu er ein mwyn. Nid oedd yn wastraff ac

heb eu llafur a'u merthyrdod mae'n bur debyg na fyddai gennym iaith, diwyll-iant, nac ymwy-byddiaeth a arwein-iodd at y Cynulliad ym Mae Caerdydd. Diolchwn iddynt ac i'r miloedd eraill sydd wedi dioddef dros ein gwlad. Am hanner dydd yn flynyddol ar ddydd Calan aiff rhai ohonom i gofio.

Cawn sefyll yno ger y maen i hel meddyliau, ceir ambell i air i'n hatgoffa o'r hyn a fu, ac yna cawn ganu ein hanthem genedlaethol. Trueni fod cyn lleied yn mynychu bob blwyddyn, ond dyna ni, fel y dywed rhyw gân am frwydr arall tua Penyberth yn Mhen Llyn rhyw dro, “Does angen dim ond tri – i danio'r hen hen freuddwyd – a chynnau'r her a gollwyd – daw eto ddau neu dri.”

Yn 2011 saith ddaeth i gofio...

Eu hamdo oedd clô'u gorymdaith, - cofiwn eu cyfiawn caledwaith; I wrando gwlatgar araith Yn swil heddiw daeth ond saith. Gwibient a'u cri'n llawn gobaith - i'w han-gau'n Llwyr ingol dros heniaith; 'N ufudd i gofio'r afiaith Yn syn eleni 'mond saith. Uffern fu'r frwydr diffaith - y miri A'r marw bum-canwaith, Colli'r cyfan drwy anrhaith; Yn siom eleni daeth saith. Er yr hoen ym mheirianwaith - y milwyr pery malais artaith Y gad a'i holl anfadwaith Erchyll; yn sefyll 'roedd saith. Mil gwron frwydrodd estroniaith - cleddau Yn claddu eu gobaith; O'u gwirfodd nawr at gerfwaith Yn ddi-syfl coffa 'roedd saith.

Y diweddar Ray Williams, o Gwmbwrla, prif ysgogwr codi’r Garreg Goffa, yn dangos y cynllun

WILIA CHWEFROR 2019 TUDALEN 4

Er eu rhwysg y gro oedd eu rhaith - o drwst Y drin a'u gorchestwaith O fynnu cartref uniaith; Dros Gymru'n sythu 'roedd saith. Yn gryf nawr erys y graith - yn waddol I naddu gwlad berffaith, Gwaed cad yn adeiladwaith; Yn sicr, 'mond dechrau yw'r saith. Huw Dylan Owen

Cerdded yn y Glaw Cymdeithas Edward Llwyd Aeth 11 o gerddwyr dewr i ardal Aberaman ar fore gwlyb ym mis Ionawr er mwyn profi bod pleser ar gael tra cerdded yn y glaw. Roedd gwlypter ym mhob man, yn disgyn ar ein pen-nau ac yn sblasio dan ein sodlau ond ymlaen aethon ni. Twp neu ddewr? Wel, mae’r cwestiwn yn werth ei ofyn a chredwch neu beidio mae pleser i gael wrth herio’r tywydd, y teimlad nad yw glaw yn ddigon i gadw ni i ffwrdd. Beth bynnag yw’r

LLENWI’R TABERNACL

tywydd mae’r cwmni pob tro yn ddiddorol a’r llefydd bwyta yn amrywio rhwng eistedd ar ochr mynydd ac edmygu harddwch ein gwlad annwyl a gwasgu’n hunain mewn lloches fysys cyfleus ar ochr y ffordd. Dw i’n ysgrifennu’r pwt yma ar fore dydd Sadwrn ac, unwaith eto, dw i’n clywed y glaw yn disgyn ond mae fy nillad dal dŵr allan o’r cwpwrdd yn barod ac am 10.30 mi fydda i yna unwaith eto yn barod i wneud yr un peth eto. Dewch efo ni tro nesaf!Bydd ein

haelodau’n ymestyn croeso mawr i chi ac y byddech chi’n cael y siawns i siarad Cymraeg am ddiwrnod cyfan. Beth amdani? Siarad Cymraeg a chad-w’n heini ar yr un pryd? Gall pethau ddim bod yn well! Os ydych eisiau trafod hyn ymhellach cysylltwch â fi [email protected] Mae ein rhaglen i’w weld ar ein gwefan www.cymdeithasedwardllwyd.cymru

CANU PLYGAIN Bu Côr Ty Tawe’n canu carolau plygain ddwywaith yn y flwyddyn newydd—yn Llanddarog ac yn Llandeilo. Dyma’r côr yn ymarfer yng nghartref Janet Thomas.

Twrw Tawe’n difyrru Cymdeithas Gymraeg Treforys

Roedd Festri’r Tabernacl yn llawn ar gyfer Noson Agoriadol 2019 Cymdeithas Gymraeg Treforys. Plant a phobl ifainc “ Twrw Tawe” oedd yno i ddifyrru’r aelodau a chafwyd noson o berfformiadau gwych gan y Cộr , partion ac unigolion. Mae “ Twrw Tawe “ yn cyfarfod yn wythnosol yn y Tabernacl ac roedd yn bleser estyn croeso iddynt i agor Tymor Newydd y Gymdeithas. Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas yn Festri’r Tabernacl am 7.00.y.h. ar y drydedd nos Iau o bob

mis. Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Iau Chwefror 21. Dr Goronwy Jones o’r Tymbl, ond un sydd yn enedigol o Lansamlet, ydy’r siaradwr. Mae Goronwy wedi teitho’r byd , a thestun diddorol ei gyflwyniad yw “ O Laribe i Leningrad.”Croeso cynnes I aedodau hen a newydd. Gellir ymuno â’r Gymdeithas am £10 y flwyddyn. Mae rhaglen lawn y Gymdeithas yn rhifyn Rhagfyr/Ionawr “ Wilia.”

WILIA CHWEFROR 2019 TUDALEN 5

Dathlu’r Nadolig ym Methel Sgeti. (Cynulleidfa Bethel a Trinity)

Nadolig Madagascar. Cyflwyniad newydd, ffres yn llawn gwybodaeth am Fadagascar oedd dathliad Nadolig plant Ysgol Sul Bethel Sgeti eleni. Ysgrifennwyd y sgript gan Angharad Davies a chyflwynwyd y gwaith yn ardderchog gan ddefnyddio lluniau ar sgrîn, cerddoriaeth offerynnol a chanu i gyf-oethogi’r traddodi clir. Roedden nhw wedi dysgu taw’r Poinsettia yw emblem cenedlaethol y wlad [blodyn sy’n gys-

Clwb Cerdded Ling-di-long Rhaglen teithiau cerdded Ionawr – Mawrth 2019 Teithiau’n cychwyn am 10.30am yn y maes parcio agosaf. 23/1/2019 Castell-nedd – Llansawel. Cwrdd ym maes parcio Morrison’s, Castell-nedd. 30/1/2019 Traeth Aberafan. Cwrdd wrth Remo’s, Traeth Aberafan. 6/2/2019 Sgwd Gwladys, Pontneddfechan. Cwrdd ym maes parcio gwesty’r Angel. 13/2/2019 Mwmbwls – Bae Langland. Cwrdd wrth Verdi’s. 20/2/2019 Parc Margam. Cwrdd ym maes parcio ‘Abbot’s Kitchen’ Margam 27/2/2019 Ystalyfera – Pontardawe. Cwrdd yn y maes parcio gyferbyn â siop Asda 13/3/2019 Port Talbot – Pontrhydyfen. Cwrdd yn y maes parcio wrth Canolfan Age Concern 20/3/2019 Llynoedd Llansamlet. Manylion

ylltiedig â’r Nadolig] ac am ddyfodiad y cen-hadon cyntaf i lanio ym mhorthladd Tam-atave, Madagascar yn 1818, sef David Jon-es a Thomas Bevan o ardal Neuaddlwyd Sir Aberteifi. Gwewyd hanes y cenhadon i mewn i stori’r Nadolig yn gelfydd iawn drwy gyflwyno llyf-rau’n anrhegion Nadolig a’r cymeriadau’n dod yn fyw mewn breuddwyd ar noswyl Nadolig. Trwy hynny rhoddwyd hanes y fordaith a’r marwolaethau a dyfodiad David Griffiths i ymuno â David Jones. Hefyd, cychwyn ysgolion a chyfieithu’r Beibl i’r Falagaseg a chefnogaeth y brenin Radama. Darluniwyd cartrefi a bywyd ym Madagascar

oddi wrth Iona ar 07835 748840 ar ôl 19/1/2019 27/3/2019 Parc y Gnoll, Castell-nedd. Cwrdd ym maes parcio’r parc. 3/4/2019 Llwybr Cefn Cribwr. Cwrdd ym Mharc Bedford, Cefn Cribwr. Sefydlwyd Clwb Cerdded Ling-di-long ym mis Mehefin 2017. Nod y clwb yr adeg hynny oedd cynnig cyfle i ddysg-wyr ddefnyddio’r iaith Gymraeg y tu all-

yn y bedwaredd ganrif ar bym-theg a sut y cynlluniwyd y wyddor ym Malagaseg. Yn y freuddwyd ymwelodd y plant â’r brenin Radama a chyf-lwyno stori’r Nadolig iddo ac i ni. Gwelwyd a chlywyd plant ym Madagascar yn canu cân Nad-olig ar y sgrîn a gorffennwyd trwy weddïo dros bobl a phlant Madagascar heddiw, gan ddymuno iddyn nhw gael dŵr glân i’w yfed a digon o fwyd ac i’r newid hinsawdd beidio eff-eithio gormod ar y coed Baobab. Diolchwyd i’r Eglwys ym Madagascar sy’n gwneud

ei gorau dros les y bobl. Diolch i’r rhieni ifainc i gyd am eu cydweith-io a’u cymorth. Nos Sul yng nghwmni pobl ifanc Bethel Sgeti Cyflwynwyd darlleniadau perthnasol o’r Beibl, barddoniaeth, datganiadau cerddorol lleisiol ac offerynnol gan bobl ifanc Bethel, wedi’u plethu rhwng carolau’r gynulleidfa gan greu noson hyfryd a hwylus, dan arweiniad y Parchg. Jill-Hailey Harries gyda chefnogaeth David Williams wrth yr organ, fel bob amser. Parhawyd y gymdeithas ar ôl y gwasanaeth dros gwpanaid a mins pei. Ann Davies

an i’r dosbarth yn ystod gwyliau hir yr haf. Pan ddaeth y gwyliau i ben ym mis Medi, pen-derfynwyd mynd ymlaen gyda’r tethiau drwy’r flwyddyn. Croes-ewir dysgwyr sy’n gallu siarad rhyw-faint o’r iaith a hef-yd, Cymry Cymraeg sy’n hoffi cerdded a chymdeithasu yn yr iaith Gymraeg.

Os hoffech ymuno â’r clwb ar un o’r teithiau uchod, cysyll-twch â Iona ar 07835 748840 neu ebostiwch hi ar [email protected] fel ei bod yn gwybod i’ch disgwyl. Ed-rychwn ymlaen at groesawu aelodau newydd i’r clwb cerdded yn 2019. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Iona ar 07835 748840, neu [email protected]

WILIA CHWEFROR 2019 TUDALEN 6

Hyrwyddo Hawliau Plant

Hyfryd hefyd oedd derbyn gwahoddiad wrth Swyddfa'r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, i

gynnal gweithdy yn ei Chyn-hadledd Flynyddol yn Nhreff-orest. Yn ystod y dydd, bu aelodau o'n gweithgor hawl-iau plant - "Pwer Plant" - yn hyfforddi pobl ifanc cyfrwng Cymraeg o Gymru ben bal-adr ar sut y gallant hybu hawliau plant yn eu hysgol-ion hwy. Roedd yn sesiwn

WILIA Y mis hwn yng ngofal Heini Gruffudd. Diolch yn

fawr i’n cyfranwyr fel arfer. Y mis nesaf yng ngofal Elin Meek

Anfoner cyfraniadau i [email protected] erbyn 21 Chwefror

LLWYDDIANT PEIRIANNEG YN YSGOL GWYR

Dyma hanes Sam Robson-Brown blwyddyn 13 sydd wedi cael llwyddiant arbennig yn y maes peirianneg yn ddiweddar, “Yn ddiweddar, cefais y cyfle i fynd i'r fforwm awtomataidd peirianneg yn y Vale yng Nghaerdydd. Gwelir yn y lln, fy mod yn casglu tlws y beirniaid ar gyfer peirianneg yng Nghymru. Roedd yn fraint enfawr ei dderbyn oddi wrth Alun Cairns, Ysgrifennydd y Wladwriaeth. Roedd y noson yn arbennig, ac roedd yn gyfle i mi gymdeithasu gyda myfyrwyr eraill a oedd yn derbyn tlysau hef-yd, gan glywed am eu profiadau anhygoel nhw. Clywais hefyd wrth arweinwyr o fewn y diwydiant, gan gynnwys y cwmni a oedd yn noddi'r noson sef Qatar Airways. Er mwyn derbyn y cyfle yma, gwnes i nifer o bethau gwahanol, gan gynnwys fod yn rhan o dîm peirianneg fy ysgol sef ysgol Gyfun Gŵyr. Yn ystod fy mhrofiad gyda’r tîm peirianneg, roeddwn yn cydweithio gyda Calsonic Kan-

Yr Adran Gerdd:

Roedd hi’n fis prysur iawn i’r adran gerdd ym

mis Rhagfyr wrth iddynt gymryd rhan mewn

llu o gyngherddau. Perfformiodd yr ensemble

llinynnol yn Egwlys Sant Ioan; y corau hŷn

yng nghapel Caersalem, Gorseinon; yr en-

semble chwythbrennau tu allan i Tesco,

Fforest Fach a’r band chwythbrennau yn

Ffair Nadolig yr ysgol. Llongyfarchiadau

gwresog hefyd i Elin Griffiths, Elin Rolles a

Daniel Rolles ar ennill lle yng Ngherddorfa

Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac i Lilly Hall

ar ennill lle yng Ngherddorfa Plant Prydain.

Cog-Gŵyr:

Ym mis Rhag-fyr cafodd nifer o’r staff y cyfle i greu eu cacennau Nadolig eu hun-ain dan arweiniad Mr Lloyd Henry. Dyma brofiad a chyfle newydd i’r staff ac roedd y cacennau yn edrych yn wych ar ddiwedd y sesiwn – er i ambell un fynd dros ben llestri gyda’r ‘sherry’!! Diolch Mr Henry!

sei, i geisio datrys problem peirianneg. Ein cwestiwn oedd edrych ar wastraff egni o fewn peiriant penodol o fewn y cwmni. Dat-blygodd ein tîm gynllun i roi 'global messag-ing system' ar y peiriant, sef GMS, byddai modd diffodd y peiriant o unrhyw man yn y byd, trwy ddanfon neges destun syml i'r peiriant. Golygodd hyn gall Calsonic Kansei lleihau ar wastraffu egni, ac yn y pendraw fod yn gwmni mwy gwyrdd o ganlyniad. Wrth i fy nhîm fod yn rhan o'r prosiect, roedd yn gyfle i ni ddatblygu nifer o sgiliau gwahanol, gan gynnwys siarad yn gy-hoeddus, wrth i ni gyflwyno ein syniad i nifer fawr o bobl gwahanol yn y ffair beirian-neg ym Mharc y Scarlets. Enillais le i astudio peirianneg am wythnos ym mhrifysgol Abertawe gyda EESW dros gyfnod yr haf llynedd. Dyma gyfle i mi ym-weld â nifer o feysydd gwahanol o beirian-neg megis peirianneg feddygol a chemegol.

Roedd yn brofiad anhygoel, wrth i mi gwrdd â phobl ledled y Deyrnas Unedig, ac ar ôl gwneud nifer o dasgau gwahanol, enillais Beiriannwr yr wythnos. Ysgrifennais am y profiadau hyn, ymysg profiad gwaith gyda Volkswagen a Vale Europe, yn y llythyr cais datblygais i wneud cais ar gyfer y tlws peirianneg uchod. Ar ôl i mi ysgrifennu'r cais, es i am gyfwel-iad ym mhencadlys EESW, lle roedd rhaid i mi siarad am y cyfleoedd a derbyniais o fewn peirianneg. Roedd hyn hefyd yn brof-iad da, wrth i mi ymarfer ar gyfer cyfweliad-au prifysgol. Rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad peir-ianneg nesaf, ble byddai'n cwrdd â Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet Llywod-raeth Gymru. Edrychaf ymlaen at rannu'r profiad yma gyda fy rhieni a phennaeth adran gwyddoniaeth fy ysgol, Ysgol Gyfun Gŵyr, Mrs Gemma Pugh."

hynod o fuddiol gyda nifer o ysgolion yn nodi y byddant yn rhoi'r syniadau ar waith ar ol dychwelyd i'w hysgolion. Diolch i holl aelodau'r gweithgor am eu gwaith caled.

SIOP TY TAWE Mae popeth yma i ddathlu dydd Gwyl Ddewi Anrhegion Cardiau Llyfrau Dewch am gwpaned Llestri Gemwaith

WILIA CHWEFROR 2019 TUDALEN 7

Galw am Gymraeg ar y trenau Picedu yn erbyn Trafnid-iaeth Cymru Roedd aelodau Cell Abertawe a Chastell-Nedd ynghyd a chefn-ogwyr lleol yn picedu yn Ngorsaf Drenau Abertawe, fel rhan o gyfres o bicedi yng ngorsafoedd ledled Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r Llywodraeth ac felly o dan ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu yn Gymraeg. Fodd bynnag, mae’r gymdeithas wedi derbyn degau o gwynion bod gwasan-aethau Cymraeg sylfaenol ar goll, gan gynnwys: * cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg ar drenau * dim gwasanaeth prynu tocynnau Cym-raeg ar y wefan * peiriannau hunan-wasanaeth nad ydynt yn gweithio’n iawn yn Gymraeg * rhai arwyddion electronig uniaith Saes-

Cymdeithas Ceredigion a Thŷ’r Cymry

Robin Campbell – Rasio Ceffylau yn Abertawe

Pleser mawr oedd cael cwmni Robin Campbell mis Ionawr i siarad efo ni am ei lyfr All Bets are Off cafodd ei gyhoeddi ym 2004. Pan glywais i am fodolaeth y llyfr es i ar y we er mwyn cael gafael ar gopi. Dim ond un oedd ar gael ond roedd y gwerthwr, o Seland Newydd, yn gofyn am tua £1,200 ac roedd hynny braidd yn ormod - hyd yn oed i mi! Pan wnaeth Robin ofyn i mi os oedd yn iawn iddo ddod a chopïau i werthu gwelais gyfle i wneud ffortiwn fawr. Wrth gwrs wnes i newid fy

meddwl, wedi’r cwbl pwy sydd eisiau ffortiwn ynte!

Roedd tri thrac rasio, Twyni Crymlyn, Cwm Clun a

HUW DYLAN YN Y CYLCH CINIO

Threfansel. Roedd ymwelwyr o bob math yn dod o bell i wylio’r rasys yn ogystal â mwynhau yfed, gamblo a phethau eraill rhy ofnadwy i grybwyll fan hyn. Roedd y Dirwestwyr yn gweithio’n galed i gael eu

neges drosodd!

Ar ôl y sgwrs roedd siawns wedyn i brynu copi o’r llyfr a phleser mawr oedd gwybod mod i’ o’r diwedd, wedi dod o hyd i’r llyfr pwysig iawn yma am ran o hanes Abertawe ac ar yr un pryd arbed dros fil o bunnoedd

wrth wneud!

Bryan Davies fydd

ein gŵr gwadd yn ein cyfarfod mis Chwefror yng Nghapel y Drindod, Glan-mor Park Road am 1.15 ar yr 11eg. Dewch i fwynhau a chael sgwrs a phan-ed - croeso mawr i chi. Does dim rhaid i

chi ddod o sir Geredigion!

neg * ap prynu tocynnau uniaith Saesneg * diffyg gwasanaeth wyneb yn wyneb yn Gymraeg * e-byst at gwsmeriaid ddim yn Gym-raeg * dim tocynnau trên yn Gymraeg Cynhelir cyfarfod cell nesaf Abertawe a Chastell-Nedd ar: Nos Lun 4 Chwefr-or am 19:30 yn Nhafarn Y Schooner, Abertawe. Am fwy o wybodaeth, peid-iwch ag oedi i gysylltu ag Owen Howell ar: [email protected] / 02920486469

CERDDORION GWERIN Bu'r cerddorion wrthi eto yn y sesiynau ardderchog o ganu gwerin a gynhelir yn Nhy Tawe. Croeso i bawb ddod bob yn ail Nos Wener.

Huw Dylan Owen fu gwestai cyfarfod cyntaf Cylch Cinio Abertawe yn 2019. O Feirionnydd i Dreforys oedd teitl cynhangeddol ei sgwrs - a thraddodiad canu gwerin Cymru oedd pwnc hanner awr o siarad a chanu hudolus. Huw Dylan sy'n arwain y sesiynau cerddoriaeth hynod lwyddiannus yn Nhŷ Tawe bob yn ail Nos Wener.

WILIA CHWEFROR 2019 TUDALEN 8

Cyngerdd Nadolig Gŵyr i ddisgyblion Pen y Bryn: Unwaith eto eleni, cawsom groeso cyn-nes iawn gan athrawon a disgyblion Ysg-ol Pen y Bryn ar ddiwedd tymor y Gaeaf. Teithiodd ddisgyblion y chweched dosbarth, aelodau o gôr hŷn yr ysgol a staff i ber-

fformio cyngerdd Nadoligaidd. Roedd llawer o wenu a chanu a phawb yn mwynhau. Diolch i’r un-awdwyr sef Ffion Pirotte ac hefyd i’r

Gwleidyddion Gŵyr

STONDINAU NADOLIG ABERTAWE Gyda stondinau Nadolig wedi’u codi ar Ffordd y Dywysoges, doedd adeiladau’r stryd ddim cweit yn barod ar gyfer yr ŵyl.

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi fod dwy o’n disgyblion wedi ennill lle ar Senedd Ieuenctid Cymru. Ym mis Tachwedd cynhaliwyd etholiad cyntaf y Senedd Ieuenctid. Dewiswyd deugain o bobl ifainc i

GEMAU’R CHWE GWLAD YN NHY TAWE Bydd gemau’r chwe gwlad i gyd i’w gweld yn Nhy Tawe—dewch draw am oriau o ddathlu

gynrychioli amryw etholaethau Cymru ac ugain o bobl ifanc i gynrychioli elusennau ac asiantaethau Cymreig. Cafodd Ffion-Haf Davies o Fl.11 ei hethol i gynrychioli etholaeth Gŵyr tra bo Anwen Rodaway o Fl.8 wedi cael ei dewis gan elusen Learning Disability Wales i’w cynrychioli. Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy ohonynt ac rydym yn siwr y byddant yn mynd ymlaen i gyflawni pethau mawrion. Pob

lwc iddynt!

ddeuawd sef Ffion Pirotte a Rosa Humphreys. Diolch i Cadi Hut-chings a Daniel Rolles am eu deu-awd llinynnol. Diolch i’r ddau Mr Lewis am gyfeilio eleni ac ed-rychwn ymlaen at ddychwelyd ym mis Rhagfyr 2019!

Band Neil Rosser—Jazz Sipsi—yn canu yn Nhy Tawe ddiwedd Ionawr. Nos Sadwrn, Mawrth 1af, bydd Lowri Evans yn diddanu yn Nhy Tawe