7
Cydymaith Datblygu Artistiaid Mae Canolfan Mileniwm Cymru ac adran Rheoli’r Celfyddydau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn chwilio am Artist neu Gynhyrchydd o Gymru neu sydd wedi’i leoli yng Nghymru, sy’n angerddol ynghylch datblygu artistiaid ac amrywiaeth y sector yng Nghymru, ac sydd â uchelgais i fod yn Gyfarwyddwr Artistig. Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn cwestiynu ac yn procio arferion presennol y Ganolfan yng nghyswllt Datblygu Artistiaid. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwaith ar ein llwyfannau yn cynrychioli poblogaeth Cymru, gan feithrin artistiaid ar bob cam yn eu gyrfaoedd ar yr un pryd, a gan adeiladu perthynas rhyngddynt hwy a’r Ganolfan. Dyma’r cyntaf o nifer o swyddi Datblygu Artistiaid â thâl, gyda’r swyddi Cynhyrchydd Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Cynorthwyol i ddilyn yn fuan. Y Rôl Hyd: Dechrau Medi 2019 hyd at ddiwedd Hydref 2020 Math o Gytundeb: Tymor Penodol, Rhan Amser (3 diwrnod yr wythnos). Treulir hanner diwrnod/un diwrnod yr wythnos yn cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli’r Celfyddydau (60 credyd ôl-radd) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ni fydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn raddedig. Lleoliad: Wedi’i leoli yn y Ganolfan a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fodd bynnag, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio ledled Cymru ac mae potensial i deithio’n rhyngwladol. Cyflog: £27,000 y flwyddyn pro rata Proses Ymgeisio: Drwy ffurflen gais Canolfan Mileniwm Cymru Rheolwr Llinell: Uwch Gynhyrchydd Cynhyrchu a Rhaglennu Buddion: Fel cyflogai’r Ganolfan byddwch yn elwa o . . . Gynllun Pensiwn hael Rhaglen gymorth i weithwyr a chymorth iechyd galwedigaethol. Gostyngiad ar barcio, raciau beiciau a mynediad i gynllun Next bike Cyrsiau Cymraeg am ddim Gweithio hyblyg

res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

Cydymaith Datblygu Artistiaid

Mae Canolfan Mileniwm Cymru ac adran Rheoli’r Celfyddydau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn chwilio am Artist neu Gynhyrchydd o Gymru neu sydd wedi’i leoli yng Nghymru, sy’n angerddol ynghylch datblygu artistiaid ac amrywiaeth y sector yng Nghymru, ac sydd â uchelgais i fod yn Gyfarwyddwr Artistig.

Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn cwestiynu ac yn procio arferion presennol y Ganolfan yng nghyswllt Datblygu Artistiaid. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwaith ar ein llwyfannau yn cynrychioli poblogaeth Cymru, gan feithrin artistiaid ar bob cam yn eu gyrfaoedd ar yr un pryd, a gan adeiladu perthynas rhyngddynt hwy a’r Ganolfan.

Dyma’r cyntaf o nifer o swyddi Datblygu Artistiaid â thâl, gyda’r swyddi Cynhyrchydd Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Cynorthwyol i ddilyn yn fuan.

Y Rôl

Hyd: Dechrau Medi 2019 hyd at ddiwedd Hydref 2020

Math o Gytundeb: Tymor Penodol, Rhan Amser (3 diwrnod yr wythnos). Treulir hanner diwrnod/un diwrnod yr wythnos yn cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli’r Celfyddydau (60 credyd ôl-radd) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ni fydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn raddedig.

Lleoliad: Wedi’i leoli yn y Ganolfan a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.Fodd bynnag, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio ledled Cymru ac mae potensial i deithio’n rhyngwladol.

Cyflog: £27,000 y flwyddyn pro rata

Proses Ymgeisio: Drwy ffurflen gais Canolfan Mileniwm Cymru

Rheolwr Llinell: Uwch Gynhyrchydd Cynhyrchu a Rhaglennu

Buddion: Fel cyflogai’r Ganolfan byddwch yn elwa o . . .

Gynllun Pensiwn hael Rhaglen gymorth i weithwyr a chymorth iechyd galwedigaethol. Gostyngiad ar barcio, raciau beiciau a mynediad i gynllun Next bike Cyrsiau Cymraeg am ddim Gweithio hyblyg

Page 2: res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

Talebau at ofal llygaid Cyfle i wneud cais am docynnau am ddim Gostyngiad yn ein gofodau bwyd a diod a manwerthu Clwb – rhaglen o weithgareddau cymdeithasol blynyddol 25 diwrnod o wyliau (i weithwyr llawn amser) yn ogystal a gwyliau banc Mae cost yr hyfforddiant dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig hefyd wedi’i

chynnwys fel rhan o’r rôl ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mentora gan Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig y Ganolfan. Mentora ychwanegol o’r tu allan i’r sefydliad yn unol ag uchelgeisiau

gyrfa’r ymgeisydd llwyddiannus yn y dyfodol.

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal a byddem yn gyffrous o dderbyn ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg, pobl liw a phobl sydd ag anableddau. Bydd y Ganolfan yn hwyluso trefniadau i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgeisio am grant Mynediad i Waith os yw hynny’n briodol. Os am resymau mynediad hoffech gymorth i wneud cais , gallwn helpu gyda hyn felly cofiwch gysylltu.

Dyddiad y cyfweliad fydd 14 Awst yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Plâs Bute, Bae Caerdydd. Gellir talu costau gofalu plant a theithio rhesymol o’r tu allan i Gaerdydd.

Os hoffech sgwrs ynghylch y rôl neu’r broses ymgeisio cyn gwneud cais, neu os hoffech dderbyn y wybodaeth hon ar ffurf wahanol, ffoniwch (0)29 2063 4634 neu e-bostiwch [email protected].

Atebolrwydd Arbenigol:

1. Gweithio’n agos gyda’r tîm Celfyddydol a Chreadigol i gynllunio a chyflwyno strategaeth Datblygu Artistiaid tymor byr, 13 mis, ar gyfer y Ganolfan.

2. Gweithio’n agos gyda’r tîm Celfyddydol a Chreadigol i ddatblygu strategaeth Datblygu Artistiaid tymor hir ar gyfer y Ganolfan.

3. Datblygu a chynnal perthnasau gwych gydag artistiaid, cynhyrchwyr, sefydliadau artistig ac ymarferwyr creadigol.

4. Darparu cefnogaeth ymarferol i artistiaid ar gamau amrywiol yn eu gyrfaoedd, o bobl ifanc sydd ynghlwm â’n gwaith Dysgu Creadigol i artistiaid proffesiynol, yng nghyswllt eu hymarfer creadigol a’u gyrfaoedd.

5. Rheoli perthnasau gwaith a chyfathrebu da gyda’r holl adrannau yn y Ganolfan.

6. Ymgymryd â’r holl elfennau o reoli prosiectau yn cynnwys cyllidebu, contractio, amserlennu, cyfathrebu, arfarnu ac adrodd.

Page 3: res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

7. Gosod y gyllideb Datblygu Artistiaid, ar y cyd â’r Rheolwr Cyffredinol Celfyddydau a Chreadigol a’r Uwch Gynhyrchydd a chyflawni i’r gyllideb hon drwy gydol y flwyddyn.

8. Cefnogi tîm Datblygu’r Ganolfan i sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau, adnabod cyfleoedd a phartneriaethau a chefnogi’r gwaith o reoli a datblygu perthnasau’r rhanddeiliaid.

9. Sicrhau bod yr holl weithgarwch datblygu artistiaid yn cydymffurfio â materion iechyd a diogelwch a diogelu, er enghraifft.

Atebolrwydd Cyffredinol:1. Gweithio tuag at gael dealltwriaeth lawn ynghylch sut mae eich rôl a’ch

adran yn ymwneud ag amcanion y Ganolfan; gweithio ar y cyd â’r Tîm Arweinyddiaeth, aelodau’r tîm a chydweithwyr eraill i fodloni nodau ac amcanion y Ganolfan.

2. Ymgysylltu’n weithgar gyda’r tîm Celfyddydau a Chreadigol ehangach ar ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau a digwyddiadau;

3. Cynrychioli’r Ganolfan mewn fforymau perthnasol, cynadleddau a digwyddiadau eraill fel sy’n briodol;

4. Cyfrannu at gynnal a chadw’r holl systemau swyddfa i sicrhau bod yr adran yn cael ei rhedeg yn llyfn, yn cynnwys ffeilio personol a phrosiect;

5. Cadw’n ddiweddar gyda datblygiadau perthnasol o fewn polisïau ac ymarferion perthnasol a chynnal trosolwg da o faterion cyfredol yn y celfyddydau a’r sector diwylliannol ehangach.

Mesurau Llwyddiant:1. Creu strategaeth ar gyfer Datblygu Artistiaid ar gyfer y Ganolfan y

gellir ei hailadrodd.2. Creu partneriaethau newydd ac ychwanegol ar gyfer y Ganolfan gydag

artistiaid, sefydliadau a chwmnïau newydd a rhai sydd wedi’u hen sefydlu.

3. Rhaglen Datblygu Artistiaid lwyddiannus ar gyfer y 13 mis wedi’i chyflawni o fewn y gyllideb.

4. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn pasio’r dystysgrif Ôl-raddedig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:1. Yn meddu ar brofiad fel artist neu gynhyrchydd gyda gwybodaeth

o’r hyn y mae artistiaid ei angen i ddatblygu eu hymarfer. Bydd ganddynt y gallu i wrando’n weithredol ar eraill a defnyddio hyn i hysbysu eu penderfyniadau.

2. Yn gefnogol i eraill a’u huchelgeisiau ac yn eu meithrin. Mydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol gwych, yn arbennig ar lafar; gyda

Page 4: res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

sylw i fanylder a’r gallu i adeiladu perthnasau cryf gydag unigolion a thimau.

3. Yn meddu ar wybodaeth am gymunedau yng Nghymru sy’n cael eu tangynrychioli.

4. Yn Gymro/Gymraes neu wedi’u lleoli yng Nghymru.5. Yn dangos ymrwymiad i werthfawrogi a datblygu diwylliant a

hunaniaeth yng Nghymru ym mhob agwedd ar weithgareddau’r Ganolfan.

6. Yn brofiadol wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus. (Dymunol)

7. Yn meddu ar wybodaeth eang am y sector celfyddydau perfformio lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

8. Yn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook.

9. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch cyfredol a chydymffurfio â safonau’r diwydiant.

10.Yn meddu ar brofiad o godi arian ac yn deall pwysigrwydd hyn.11.Yn berson cadarnhaol a chyfeillgar gyda’r hyder i ymdrin â phobl ar

bob lefel. Bydd ganddo’r gallu i feithrin a chynnal ystod o bartneriaethau. Bydd wedi’i ysgogi’n fawr, a bydd ganddo’r gallu i weithio dan bwysau. Bydd yn ysgogi, yn cefnogi, yn datblygu ac yn rheoli eraill.

12.Yn barod i weithio’n hyblyg mewn ymateb i anghenion cyfnewidiol y prosiect.

13.Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.14.Yn ymwybodol o’r effaith y mae eich gwaith yn ei gael ar yr

amgylchedd a cheisio lleihau hyn i’r eithaf. Bydd yn atebol i’r artistiaid a’r cymunedau y mae’r Ganolfan yn gweithio gyda nhw. Bydd yn gwneud penderfyniadau wedi’u gyrru gan gyfrifoldeb cymdeithasol.

CefndirMae’r Ganolfan wedi bod yn cynhyrchu cynyrchiadau mewnol ers 2016. O greu’r sioe gerdd newydd ar raddfa fawr Only the Brave yn 2016, a ddychmygwyd gan y cyfansoddwr o Gaerdydd, Matthew Brind ac a berfformiwyd gan gast o sêr cerddorol Cymru dan arweiniad Caroline Sheen a David Thaxton i’r sioe wobrwyol Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), sef sioe gerdd gyntaf a grëwyd gan Carys Eleri, mae syniadau arloesol a chyffrous artistiaid o Gymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w creu. Yn ogystal, rydym wedi buddsoddi mewn datblygu theatr yn Gymraeg gyda chwmnïau megis Neontopia ac unigolion megis Daf James. Rydym wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynyrchiadau megis Double Vision (a

Page 5: res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

gynhyrchwyd ar y cyd gyda Gagglebabble), The Last Five Years gan Leeway Productions a’r artist annibynnol Kaite O’Reilly i archwilio theatr hygyrch a’r celfyddydau i’r anabl. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r Ganolfan wedi datblygu ei allbwn cynhyrchu drwy fuddsoddi mwy o’i hadnoddau i wireddu’r syniadau hyn yn cynnwys staff, buddsoddiad ariannol a chefnogaeth anariannol.

Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi bod ar Artistiaid angen cefnogaeth i ddatblygu eu gyrfaoedd gan sefydliadau megis ein hun ni. O ganlyniad, ar hyn o bryd rydym yn cynnig y gefnogaeth a ganlyn i Ddatblygu Artistiaid:

Cyflwyno galwad agored Scratch Nights fel rhan o’n rhaglen Perfformiadau i’r Chwilfrydig.

Mynediad i weld ymarferion ein cynyrchiadau ein hunain. Gweithdai datblygu gyrfaoedd rhad ac am ddim gyda phobl

broffesiynol sy’n ymweld. Gofod ymarfer yn rhad ac am ddim. Rolau Cyfarwyddwr Cynorthwyol â thâl ar ein cynyrchiadau ac ar

gwmnïau yr ydym yn eu cyflwyno. Rolau Darpar Gynhyrchwyr â thâl lle’r ydym yn cefnogi cynhyrchydd i

gymryd y cam nesaf yn ei yrfa. Mentora gan ein tîm Cynhyrchu a Rhaglennu. Ein Gweithgaredd Dysgu Creadigol gyda phobl ifanc. Cefnogi Mentrau Datblygu Artistiaid sefydliadau eraill.

Ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau megis: Unlimited Carnifal Butetown Theatr Genedlaethol Cymru National Theatre Wales Cyngor Hil Cymru Gwobr Verity Bargate Celfyddydau Anabledd Cymru

Fodd bynnag, rydym yn deall bod arnom angen cefnogaeth i’n galluogi ni i amrywio’r gwaith a wneir ar ein llwyfannau megis creu rôl newydd mewn partneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, sef y Cydymaith Datblygu Artistiaid.

Mae hon yn rôl hyfforddi am 13 mis a chaiff ei chyflawni mewn partneriaeth ag Adran Rheoli’r Celfyddydau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ar gyfer y Ganolfan, bydd y rôl yn gweithredu fel Llysgennad a Phryfociwr. Y dasg fydd creu llwybrau i ddatblygu Artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli ar ein

Page 6: res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

llwyfannau gyda ffocws ar y Gymraeg, artistiaid lliw ac artistiaid anabl. Bydd yr ymgeisydd addas yn datblygu gweithgareddau yn y Ganolfan a ledled Cymru gan gyfuno uchelgeisiau artistiaid a’r Ganolfan. Ar ddiwedd y rôl, bydd yn gadael y Ganolfan gyda Strategaeth Datblygu Artistig.

Ar gyfer y Ganolfan, golyga hyn amser o fyfyrio, datblygu ac esblygu. Ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus, bydd hwn yn gyfle i ennill profiad yn gweithio mewn sefydliad mawr mewn rôl strategol a byddai’n cefnogi eu dyhead i fod yn Gyfarwyddwr Artistig. Byddant yn derbyn mentora gyrfa gan Graeme Farrow, ein Cyfarwyddwr Artistig a Chredigol, ynghyd â mentor ychwanegol a ddewisir yn benodol gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.

Canolfan Mileniwm Cymru

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn lleoliad celfyddydol nodedig; mae hi’n gyrchfan diwylliannol sy’n cyflwyno talent deithiol orau’r byd ac yn creu ei chynyrchiadau ei hun o’r un safon uchel. Mae’r Ganolfan yn elusen sydd â’r nod o Ysbrydoli ein Cenedl, creu argraff ar y Byd. Rydym yn cyflawni hyn trwy greu profiadau ysbrydoledig, bythgofiadwy sy’n lledu gorwelion, a buddsoddi mewn – a chyflwyno – amrywiaeth eang o theatr newydd, gwaith cyfoes, ac artistiaid a pherfformwyr rhyngwladol o’r radd flaenaf.

Dros gyfnod o 15 mlynedd, mae’r Ganolfan wedi creu portffolio o gynyrchiadau – o operâu, dramâu a sioeau cerdd i brif-wyliau – ac yn cyflwyno gwaith ledled y byd, o Efrog Newydd a Llundain i Dubai, yn ogystal ag ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r cynyrchiadau a chyd-gynyrchiadau diweddar yn cynnwys: Man to Man gan Manfred Karge mewn fersiwn newydd wedi’i gyfieithu gan Alexandra Wood a berfformiwyd yn Llundain, Efrog Newydd ac ar daith yn y DG; Only the Brave, cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Soho, Daniel Sparrow Productions a Birdsong Productions; Mandela Trilogy, taith yn y DG ac Iwerddon sy’n deyrnged operatig i un o ffigurau mwyaf eiconig y byd; a La Voix Humaine, opera hollgynhwysol gan Francis Poulenc, gyda’r geiriau gwreiddiol o’r ddrama gan Jean Cocteau, mewn cyd-gynhyrchiad gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Yn 2016 a 2018, croesawodd y Ganolfan ddigwyddiad anhygoel, sef Gŵyl y Llais. Roedd y digwyddiad 10-diwrnod yma yn cynnwys dros 100 o berfformiadau ar draws y ddinas, gan drochi Caerdydd mewn talentau anhygoel o bob cwr o’r byd. Yn 2017, fe wnaeth y Ganolfan gynhyrchu a pherfformio Tiger Bay the Musical am y tro cyntaf – sioe gerdd newydd oedd hon, wedi’i gosod yn Nhre-biwt, Caerdydd, ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Page 7: res.cloudinary.com  · Web viewYn meddu ar sgiliau gweinyddol a threfniadaethol yn cynnwys profiad o Word, Excel ac Outlook. Yn meddu ar wybodaeth ynghylch arferion Iechyd a Diogelwch

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama CymruColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru; mae’n gweithredu o fewn marchnad ryngwladol Conservatoires ac Ysgolion Drama arweiniol ac mae’n darparu hyfforddiant arbenigol, ymarferol ar sail perfformiad i alluogi i artistiaid proffesiynol gael mynediad i fyd y ddrama, cerddoriaeth a’r proffesiynau cysylltiedig a chael dylanwad yno. Mae’r Coleg yn chwarae rôl allweddol wrth adnabod a datblygu doniau newydd ac yn darparu hyfforddiant o safon uchel sydd wedi’i deilwra i alwadau’r celfyddydau cyfoes a’r diwydiannau creadigol. Mae’r Coleg yn hyfforddi ac yn addysgu rhai o’r myfyrwyr mwyaf dawnus o bedwar ban byd, gan anelu nid yn unig i roi’r sgiliau technegol a chrefft y byddant eu hangen i weithio ar frig eu proffesiwn iddynt, ond hefyd i helpu i’w cefnogi nhw wrth adeiladu’r gwytnwch a’r llais artistig neilltuol sy’n tanategu gyrfa gynaliadwy yn y celfyddydau.

Caiff y Coleg ei yrru gan yr egwyddorion arweiniol a ganlyn i sicrhau ei fod yn gweithredu ei rôl fel conservatoire cenedlaethol Cymru yn llawn:

Cyflawni rhaglenni sy’n cefnogi ymarfer proffesiynol i’r 21ain ganrif Meithrin arloesedd i ddatblygu ffurfiau celf a siapio dyfodol y

proffesiwn Cyfrannu at ecoleg o ymgysylltiad celfyddydol ar gyfer cenedlaethau’r

dyfodol drwy ymagwedd Cymru gyfan Gweithio’n rhyngwladol ar draws cyfandiroedd

Mae’r adran Rheoli’r Celfyddydau yn ymfalchïo mewn creu graddedigion sy’n barod i weithio drwy gyfuniad o hyfforddiant ar sail sgiliau a ddarperir gan bobl broffesiynol yn y diwydiant a chyfleoedd dysgu drwy weithio a ddarperir yn ei ganolfan gelfyddydau a drwy rwydwaith o bartneriaid y diwydiant hefyd. Mae’r adran wedi cael cryn lwyddiant gyda’i hymagwedd i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr celfyddydol: mae’r sector bob amser yn chwilio am raddedigion ac mae’r gymhareb cwrs i swydd wedi parhau ar 100% ers 2012. Fel un o’r amrywiaeth o gyrsiau yn y portffolio, mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli’r Celfyddydau (a astudir yn rhan amser dros flwyddyn) yn canolbwyntio ar Reolaeth ac Arweinyddiaeth yn y sector ac mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl broffesiynol sydd ar ganol eu gyrfaoedd.