8
Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 Cadair i’r Tactegydd o Fodffordd ‘Roedd seremoni cadeirio tra gwahanol i’r arfer yn Eisteddfod Bodffordd eleni. Cafodd y beirniad, Aled Lewis Evans o Wrecsam ei blesio’n fawr gyda’r safon gyda dros ugain wedi cystadlu. Yr enillydd oedd Dafydd Guto Ifan, Penisaerwaun. Fel y soniwyd yn y rhifyn diwethaf o Steddfota, mae Dafydd Guto Ifan wedi ennill sawl cadair dros y blynyddoedd ers cychwyn yn Llanllyfni yn 1969, ac erbyn hyn mae ganddo dros 60 yn ei gasgliad. Pan wnaeth yr Ysgrifennydd Llên gysylltu â’r bardd buddugol rhyw wythnos cyn yr Eisteddfod i ddweud wrtho am ei lwyddiant ym Modffordd, dwedodd ei fod wedi penderfynu rhoi’r gadair i un o enwogion y fro sef Osian Roberts, Rheolwr Cynorthwyol Tîm Peldroed Cymru. Yn ystod y seremoni, dyma ddywedodd Meistres y Seremoni, ‘Y mae’r bardd yn deisyfu rhoi’r gadair heno i ofal un y mae’n ei edmygu’n enfawr a hynny am ei ddygnwch, ymroddiad, ei Gymreictod, ie’r tactegydd tra medrus, y dyn wrth ochr Chris Coleman, ie, Osian Roberts, Bodffordd. Yn ei hunangofiant y mae Osian Bodffordd yn talu teyrnged o’r mwyaf i’w bentref a’r Eisteddfod a gynhelir yma’n flynyddol. Os na ddarllenasoch yr Hunangofiant, mynnwch brynu gopi.’ Yn anffodus nid oedd yn bosib i Osian fod yn bresennol yn yr Eisteddfod eleni ond mi oedd ei rieni, sef Ellis Wyn ag Ann Roberts yn bresennol i dderbyn y gadair ar ei ran - mewn seremoni a oedd yn dod ag ambell ddeigryn i’r llygaid. ‘Roedd yr holl ddigwyddiad yn dipyn o sioc i Osian a’i deulu! Mae pentrefi a threfydd dros Gymru gyfan wedi newid eu henwau yn ystod ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth yr Ewros - Y Bala wedi newid i ‘Y Bale’ a thrigolion Bancffosfelen am newid enw’r pentref I ‘Bancffosallen’. Newidiadau dros dro yw’r rhain wrth gwrs - Ond ym Modffordd rhoddwyd anrhydedd parhaol dra gwahanol i’r person oedd yng ngofal yr ‘Osian’s Eleven’. Osian Roberts Enillydd y gadair, Dafydd Guto Ifan a rhieni Osian Roberts, Ellis Wyn ac Ann (sydd yn eistedd yn Gadair)

Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016

Cadair i’r Tactegydd o Fodffordd

‘Roedd seremoni cadeirio tragwahanol i’r arfer yn EisteddfodBodffordd eleni. Cafodd y beirniad,Aled Lewis Evans o Wrecsam eiblesio’n fawr gyda’r safon gyda drosugain wedi cystadlu. Yr enillydd oeddDafydd Guto Ifan, Penisaerwaun. Fely soniwyd yn y rhifyn diwethaf oSteddfota, mae Dafydd Guto Ifanwedi ennill sawl cadair dros yblynyddoedd ers cychwyn ynLlanllyfni yn 1969, ac erbyn hyn maeganddo dros 60 yn ei gasgliad.

Pan wnaeth yr Ysgrifennydd Llêngysylltu â’r bardd buddugol rhywwythnos cyn yr Eisteddfod i ddweudwrtho am ei lwyddiant ymModffordd, dwedodd ei fod wedipenderfynu rhoi’r gadair i un oenwogion y fro sef Osian Roberts,Rheolwr Cynorthwyol Tîm PeldroedCymru.

Yn ystod y seremoni, dymaddywedodd Meistres y Seremoni,

‘Y mae’r bardd yn deisyfu rhoi’rgadair heno i ofal un y mae’n eiedmygu’n enfawr a hynny am eiddygnwch, ymroddiad, eiGymreictod, ie’r tactegydd tramedrus, y dyn wrth ochr ChrisColeman, ie, Osian Roberts,Bodffordd. Yn ei hunangofiant y maeOsian Bodffordd yn talu teyrnged o’rmwyaf i’w bentref a’r Eisteddfod agynhelir yma’n flynyddol. Os naddarllenasoch yr Hunangofiant,mynnwch brynu gopi.’

Yn anffodus nid oedd yn bosib iOsian fod yn bresennol yn yrEisteddfod eleni ond mi oedd ei rieni,sef Ellis Wyn ag Ann Roberts ynbresennol i dderbyn y gadair ar ei ran- mewn seremoni a oedd yn dod agambell ddeigryn i’r llygaid.

‘Roedd yr holl ddigwyddiad yndipyn o sioc i Osian a’i deulu!

Mae pentrefi a threfydd drosGymru gyfan wedi newid eu henwau

yn ystod ymgyrch Cymru ymMhencampwriaeth yr Ewros - Y Balawedi newid i ‘Y Bale’ a thrigolionBancffosfelen am newid enw’r pentrefI ‘Bancffosallen’. Newidiadau dros droyw’r rhain wrth gwrs - Ond ymModffordd rhoddwyd anrhydeddparhaol dra gwahanol i’r person oeddyng ngofal yr ‘Osian’s Eleven’.

Osian Roberts

Enillydd y gadair, Dafydd Guto Ifan a rhieni Osian Roberts, Ellis Wyn ac Ann (sydd yn eistedd yn Gadair)

Page 2: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

2

Ganwyd Augusta Waddington yn TyUchaf, Llanofer ar 21 Fawrth, 1802. Hioedd yr ifancaf o dair merch Benjamin aGeorgina Waddington, Saeson asymudodd i Lanofer o SwyddNottingham ym 1792. Fis Rhagfyr 1823,ymbriododd Augusta â Benjamin Hall ostâd gyfagos Abercarn. Bu Benjamin Hallyn aelod seneddol am 22 mlynedd tan1859, pan ddyrchafwyd ef i Dy’rArglwyddi, a’i alw’n Baron Llanover.Daethai’n GomisiynwrGwaith fisGorffennaf 1855,ond nidanghofiodd eideyrngarwchtuag at Gymru,a brwydrodd ynddygn erhyrwyddo’i llesdiwylliannol.Amdiffynnodd hawl pobl Cymru i gaelgwasanaethau crefyddol yn eu hiaith euhunain, gan fynnu na phenodid unrhywesgob newydd di-Gymraeg, a sicrhauhefyd, fod yr esgob hwnnw’n byw yngNghymru.

Ym 1828, derbyniodd ThomasHopper wahoddiad Sir Benjamin a’rArglwyddes Hall i gynllunio ty ar eu cyfer,a gorffenwyd ei adeiladu ym 1837. Eubwriad oedd troi’u cartref newydd ynganolfan i’w holl weithgaredddaudiwylliannol, gan roi’r pwyslais arddiogelu’r iaith Gymraeg, a hyrwyddodiwylliant Cymru

Gydol ei hoes, rhoddodd nawdd achefnogaeth amhrisiadwy i ddiwylliantCymreig, a gwelir ôl ei dylanwad mewnllawer maes, megis:-

CerddoriaethO ganlyniad i’r ffaith fod cysylltiad ydelyn a dawns yn annerbyniol yng ngolwganghydffurfwyr Cymru, ac yn atgasganddynt, aethai’r delyn deiresdraddodiadol yn offeryn prin. GwenynenGwent, yn anad neb arall, a’i hachuboddrhag y difodiant llwyr a ddaeth i’w rhanym mhob gwlad arall Ewropeaidd arall, aciddi hi mae’r clod a’r diolch am gadwraethy delyn deires a’i thraddodiadau Cymreig.• Cadwai delynorion teulu yn ei

chartref yn llys Llanofer. Y deires oeddofferyn y datgeiniaid hyn, a’r cyntafohonynt oedd John Wood Jones, agyflogid yno o 1826 tan ei farwolaeth.Fe’i dilynwyd gan yr enwog Gruffydd(Thomas Griffiths,), a’r telynor

rhannol-ddall hwn, yn ei dro, yn caelei ddilyn gan ei ferch, y weddw ifancSusanna Berrington Gruffydd-Richards.

• Roedd gan Gwenynen Gwentddiddordeb brwd mewn casglucaneuon a cherddoriaeth werin.Anogodd ffrindiau megis Maria JaneWilliams, Aberpergwm i’w dilyn, ahonno’n fuddugol yn y gystadleuaetham y casgliad gorau yn EisteddfodCymreigyddion Y Fenni ym 1837. Fefu’r Arglwyddes Llanofer yn allweddolwrth gyhoeddi’r casglaid hwn ym1844, dan yr enw ‘Ancient Airs ofGwent and Morgannwg’.

• Ar gyfer Eisteddfodau CymreigyddionY Fenni, fe ddarbwyllai gyfoethogiony sir i gomisiynu telynau teires ganwneuthurwyr megis Bassett Jones,Abraham Jeremiah ac Elias Francis,a’u cynnig fel gwobrau yn y gwahanolgystadlaethau.

EisteddfodO 1826 ymlaen, pan dalodd eihymweliad cyntaf â’r Eisteddfod ynAberhonddu, a dod o dan ddylanwadThomas Price (Carnhuanawc), daeth yneisteddfodwraig frwd. Ym 1834, ynEisteddfod Caerdydd, fe ennillodd wobram draethawd (yn Saesneg) ar FanteisionCadwraeth yr Iaith Gymraeg a’r WisgGenedlaethol. Y ffug-enw a ddefnyddioddbryd hynny oedd Gwenynen Gwent, acwrth yr enw hwnnw y’i hadnabyddidweddill ei hoes. Ei brwdfrydedd, ei hegni,a’i hysbrydoliaeth sicrhaodd lwyddiantEisteddfodau enwog Cymreigyddion YFenni, y cynhaliwyd deg ohonynt rhwng1834 a 1853.

Gwisg• Gwenynen Gwent oedd yn gyfrifol

am ddyfeisio’r ‘wisg Gymreig’ fel yrydym yn ei hadnabod, ac feddisgwylid i weithwyr y stâd,tenantiaid a gwesteion fel ei gilydd, eigwisgo ar bob achlysur.

• Cyhoeddwyd ei thraethawd buddugol(Eisteddfod Caerdydd, 1834), ynghydâ chyfres o ddarluniau lliw o wisgoeddCymreig; atgynhyrchwyd y rhain oddyfrlliwiau a baentiwyd ganddi.

• Yn Eisteddfod Cymreigydion Y Fenniym 1853, cynigiodd wobr ar gyfer‘sicrhau dilysrwydd gwead henbatrymau sgwarog a rhesog Cymru asicrhau eu cadwraeth’.

Yr Iaith GymraegBu’n ddygn yn sicrhau enwau Cymreig ibob adeilad ar y stâd, a mynnai bod eithenantiaid a’i holl weithwyr yn siaradCymraeg bob amser. Yn wyneb y ffaithfod sicrhau tenantiaid lleol Cymraeg euhiaith yn mynd yn fwy-fwy anodd,anogodd Gymry a’r Gymraeg yn famiaithiddynt, i symud o orllewin Cymru i fywyn Llanofer.

Traddodiadau• Adferwyd hen draddodiadau

Cymreig, megis y Fari Lwyd a’rPlygain adeg y Nadolig, a’r Calennigddiwrnod cynta’r flwyddyn newydd.

• Ddydd Sul y Blodau, fe addurnid pobbedd â thusw o flodau.

• Galan Mai, fe gynnid y tanautraddodiadol. Noswyl Ifan, fe gesgliduchelwydd, ac fe gynhelid seremonïauarbennig i ddathlu’r Cynhaeaf aChalan Gaeaf.

• Dosberthid gwisgoedd Cymreig i’ranghenus, a rhoddid gwisgoeddCymreig i’r rheiny o blant YsgolLlanofer a fedrai ddangos eugwybodaeth o draddodiadauCymreig.

Yn ychwanegol:-• Bu’n allweddol gyfrifol wrth sefydlu

Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni,a daeth yn un o’i haelodau cynharaf.Noddodd y ‘Welsh ManuscriptsSociety’, a thrwy gydweithrediad âThaliesin Williams, fe brynoddlawysgrifau ei dad, Iolo Morgannwg.

• Ym 1861 a 1862, golygodd achyhoeddodd chwe chyfrol‘Hunangofiant a Gohebiaeth MrsDelany’.

• Bu’n hael ei nawdd wrth sefydluColeg Llanymddyfri ym 1847.

• Gwaddolodd ddwy eglwysBresbyteraidd – Capeli Rhyd yMeirch ac Abercarn – lle’r oedd ygwasanaeth i’w chynnal yn Gymraeg.

• Sefydlodd ddiadell o ddefaidmynyddig duon Cymreig ar dir ParcLlanofer.

• Bu farw Arglwydd Llanofer ym 1867,ond fe’i goroeswyd ymron i 30mlynedd gan yr Arglwyddes, na fufarw tan 17 Ionawr, 1896. Cleddir yddau yn yr un cofadail, ym mynwenteglwys y plwyf, sef Eglwys SantBartholomew, Llanofer.

Hanes Arglwyddes Llanofer – Gwenynen Gwent

Page 3: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

3

Eisteddfod GenedlaetholSir Fynwy a’r Cyffiniau29 Gorffennaf – 6 Awst

Unwaith eto, bydd gan y Gymdeithas stondin ar Faes yrEisteddfod Genedlaethol - cyfle i gasglu rhaglenni, cystadlu ary llinell goll yn ddyddiol, cael sgwrs gyda swyddogion yGymdeithas, prynu tocyn raffl neu alw am baned! Bydd cyflehefyd i roi tro ar ddarganfod y gair cudd yng nghystadleuaethyr wythnos (cyfle i ennill £25!). Rhif y stondin - 426 / 427.Cofiwch alw heibio

Dyma restr o’r hyn sydd wedi’ trefnu gan y Gymdeithas ynystod yr wythnos:

Dydd Llun2.30 o’r gloch dydd Llun, 1af o Awst - Lolfa LênEisteddfod Odli gyda Anni Llyn, Bardd Plant Cymru

Dydd Mawrth4.30 o’r gloch dydd Mawrth 2il o Awst - Adeilad ‘Dawns’Cyfarfod Blynyddol y GymdeithasYno, ymysg pethau eraill bydd y Gymdeithas yn cyflwynotystysgrifau i anrhydeddu’r gwirfoddolwyr hynny sydd wediymroi mor ddygn â selog i’w heisteddfodau lleol dros nifer fawro flynyddoedd. Yn ogystal bydd cyfle i wybod mwy am yr hynmae’r Gymdeithas wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddynddiwethaf. Dyma gyfle i drin a thrafod gwaith y Gymdeithas abyd yr eisteddfodau yn gyffredinol. Croeso cynnes i bawb

Dydd Mercher12.00 o’r gloch. dydd Mercher, 3ydd o Awst - Lolfa Lên‘RHYWUN MAWR YN Y MAN’ - LLENORION YDYFODOLDarlleniadau a gair neu ddau am y profiad o gystadlu mewnEisteddfodau lleol gan griw dethol o lenorion ifanc sydd wediennill tlysau’r ifanc mewn amryw Eisteddfodau. Yn eu holibydd y Prifardd a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.Trefnir ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru

Cystadleuaeth Ddyddiol - Gorffen LimrigPob prynhawn bydd rhai o gymeriadau rhaglen Ysbyty HospitalS4C a Chyflwynwyr y rhaglen Tag yn galw heibio i feirniadu’rgystadleuaeth. Cyfle i rhywun ennill £10 pob dydd

Cystadleuaeth yr Wythnos - Darganfod y Gair Cudd!Cliwiau i gyd ar y stondin! - Cyfle i rhywun ennill £25 arddiwedd yr wythnos

CymdeithasEisteddfodau Cymruyn EisteddfodGenedlaethol SirFynwy a’r Cyffiniau

Y Prifardd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru

Criw Ysbyty Hospital

Anni Llyn, Bardd Plant CymruLl

un: E

myr

You

ng

Page 4: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

4

Dyma rhai o enillwyr a chystadleuwyr

Eisteddfod Y Fenni 2016

Enillwyr y cystadlaethau llenyddiaeth yn derbyn eu gwobrau gan y Maer, y Cynghorydd Mauree

n Powell, a’r Cynghorydd Martin Hickman

Grãp o Ysgol Cantref yn y gystadleuaeth Dawnsio Gwerin bl 1-3

Disgyblion Ysgol Gymraeg y Fenni - 3ydd yn y gystadleuaethDeuawd neu Driawd Offerynnol bl 6 ac iau

Lisa Davies - rhan o’r ddeuawd Katie a Lisa Davies a enillodd yrEnsemble Offerynnol

Lily Newsam, 2il yn y gystadleuaethDweud Stori 11-18 oed

Llongyfarchiadau • Llongyfarchiadau

Page 5: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

5

Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon - Enillydd y Gadair

1af Parti Cerdd Dant Bl. 6 ac iau - Ysgol Ysbyty Ifan

Parti Canu lleol dan 12 - 1. Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Llangennech

Enillwyr cystadleuaeth Llefaru dan 8 oed

Enillydd Y Gadair - Siw Jones o Felinfach gyda’r

Beirniad Llen Aneirin Karadog

Unawd offerynnol dros 15 oed 1af ElainRhys Jones, Bodedern

…Ac yn Eisteddfod Yr Hendy

Enillwyr yn Eisteddfod Dyffryn Conwy, Llanrwst

Page 6: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

6

Y Gymdeithas yn Eisteddfodyr Urdd, Fflint 2016

Gair gan y CadeiryddBle aeth y flwyddyn ddiwethaf, dwedwch? Dyma hi bronyn adeg yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto aphawb yn edrych ymlaen at fynd lawr am Y Fenni ifwynhau wythnos o ddigwyddiadau diwylliannol ar eugorau.

Rhaid dathlu penllanw ffrwyth blwyddyn oddyfalbarhad yr eisteddfodau lleol drwy Gymrubenbaladr, gan obeithio eich bod wedi cael eisteddfodauffyniannus yn eich ardaloedd ac y cewch gyfle i weld rhaio’ch enillwyr yn ymddangos ar y llwyfan mawr yn YFenni. Rhaid cofio hefyd mae’r eisteddfodau bychan syddyn rhoi’r platform i’r cystadleuwyr i ddechrau ar y daith iberfformio ac i feithrin y dalent o ymddangos o flaencynulleidfa.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf hyn wedi bod yn unprysur iawn i ni fel Cymdeithas, ac rwyf yn teimlo einbod wedi sefydlu ein hunain erbyn hyn i fod yn apelgar isawl gwahanol garfan o bobl, gan gynnwys pwyllgorau’reisteddfodau lleol, cystadleuwyr, beirniaid, cyfeilyddionayyb.

Mae’r cydweithio rhwng y Gymdeithas a swyddogiony ddwy brifwyl wedi dwyn ffrwyth a gobeithir y byddrhagor o gydweithredu yn digwydd yn y dyfodol er llespawb sydd yn gweithio/gwirfoddoli ym myd yreisteddfodau yng Nghymru

Da gweld bod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’ngwefan erbyn hyn a bod cynnydd wedi bod yn yrhaglenni sydd yn ymddangos arni. Hyn yn arwydd bodmodd hysbysebu eich eisteddfod yn rhad ac am ddim iddarpar gystadleuwyr drwy ddefnyddio’r wefan.

Ni wedi gweld cynnydd mawr yn y bobl sydd yndefnyddio ein tudalen ar “facebook”. Mae’n bwysig einbod yn defnyddio’r cyfryngau hyn er mwyn cael ehangu’rneges am waith y Gymdeithas. Hefyd mae mwy o boblwedi tanysgrifio i dderbyn ‘Steddfota, sef newyddlen yGymdeithas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Hyn eto ynbrawf bod y diddordeb mewn digwyddiadau eisteddfodolar i fynny.

Gyda siom mawr rwyf am eich hysbysu bod MeirionMacIntyre Huws un o’n Swyddogion Datblygu wediymddiswyddo o’i waith yn ystod y mis diwethaf,oherwydd resymau teuluol. Rwyf am gymryd y cyfle hwni ddiolch i Mei am ei holl waith arbennig yn natblygiad yGymdeithas yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac amddymuno yn dda iddo yn y dyfodol.

Mi fyddwn yn hysbysebu’r swydd o fewn yrwythnosau nesaf, ond rwyf am holi yn garedig i bawb fodyn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn, gan nafydd y wefan yn cael ei diweddaru!

Wrth derfynu rwyf am dalu teyrnged i’m cydswyddogion, i aelodau o’r pwyllgor ac i Mei a Shân ameu gwaith diflino er budd y Gymdeithas ac wrth gwrs erlles ein heisteddfodau ym mhob cwr o Gymru.

Edrych ymlaen at eich gweld yn Y Fenni.Megan

D.J. Sal a LoisWilliams o Ysbyty Hospital S4C ac Owain Williams,cyflwynydd Tag yn beirniadu cystadleuaeth y dydd

Myrddin yn gwasgaru hud alledrith ar y stondin!

Iestyn Tyne o Bwllheli, Enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd, yn galwheibio stondin y Gymdeithas ac yn ymddiheurio nad oedd wedi caelcyfle i geisio ar y cystadleuaeth dyddiol!!! Yn siwr bod pethaupwysicach ganddo ar ei feddwl! Mae Iestyn yn hen ffrind i’rGymdeithas ac wedi codi sawl rhaglen oddiar ein stondin a’n gwefandros y ddwy flynedd diwethaf – ac yn wir wedi llwyddo mewn sawlEisteddfod leol gan gynnwys ennill Cadair Eisteddfod y Wladfa

Susan Price o Lanwrtyd a JohnThomas o Gastell NewyddEmlyn - dau o’r gwirfoddolwyrbu’n helpu ar y stondin

Page 7: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

7

Manylion Cystadleuaeth y Gymdeithas ar gyfer 2016/17

Mynnu GairOs hoffech chi ddefnyddiogwasanaeth ein Swyddog Datblygu,Shân Crofft, dyma’r manylion:

[email protected] 02920 213596 07770 870605

Galw am luniauDiflas iawn fyddai’rnewyddlen hon,yn ogystal â’ngwefan, hebluniau da.Cofiwch anfonunrhyw luniausydd gennych o fyd yr eisteddfodauat Shân.

‘Ffrindiau ‘steddfodolCofiwch, am ba bynnagreswm, bod modd i chigysylltu â ni ar Facebook:CymdeithasEisteddfodau Cymru

Bydd ennill mewn dwy eisteddfod leol – a dwy yn unig – rhwngEisteddfod Genedlaethol 2016 a diwedd Gorffennaf 2017 yn rhoi’rhawl i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol 2017 am wobrau o £150,£100 a £50.

Enillwyr Ysgoloriaeth 2015A sut gwariwyd yr ysgoloriaeth?Dyma beth mae un o'r enillwyr, Owain JohnJones wedi dweud “ Mae ennill yr Ysgoloriaethwedi bod o gymorth mawr i mi ddatblygu fysgiliau perfformio.

‘Rwyf wedi buddsoddi’r arian a’r wersi mewnamryw o feysydd sy’n ymwneud a chanu, llefaru apherfformio.

‘Rwyf eisiau diolch yn fawr i GymdeithasEisteddfodau Cymru am gynnig yr Ysgoloriaeth aci Cymrodoriaeth Eisteddfod Talaith a ChadairPowys am ei noddi. Mae’n gyfle amhrisiadwy i’rifanc gael derbyn hyfforddiant pellach yn y maesperfformio.”

Mae Mali Elwy yn arall gyfeirio rhywfaint - meddai‘Er mod i wedi gwario rhywfaint o’r arian ar wersillefaru a chanu, bydd rhan helaeth o’r ysgoloriaeth yn cael ei gwario ar gwrs preswyl perfformio rwyngobeithio mynychu yn y dyfodol. Hoffem ddiolch i sefydliadau fel Cymdeithas Eisteddfodau Cymru acwrth Eisteddfod Powys sydd yn cynnig cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc’

2016

-201

7

Enillwyr Ysgoloriaeth y Gymdeithas 2015 – Mali Elwy acOwain John Jones gyda Edwin Hughes, Cofiadur EisteddfodTalaith a Chadair Powys, noddwyr yr Ysgoloriaeth

Steddfota drwy’r post’Hoffech chi dderbyn copi o’Steddfota drwy’r post? Cysylltwch âShân neu ewch i’n gwefan.

Page 8: Rhif 39 Hybu Eisteddfodau, cynnal cymunedau Gorffennaf 2016 …smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2013/11/steddfota-Gorffenn… · bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid

8

Dyddiad Enw’r Eisteddfod Ysgrifennydd Rhif Cyswllt

AWST 2016 27 – 29 Awst Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan Dorian Jones 01570 422678

MEDI 20162 Medi Eisteddfod Dwyieithog Pobl Hyn Môn - Celf a Chrefft Helen Elis 01286 830886 / 7249709 – 10 Medi Eisteddfod Gadeiriol Tregaron Ffion Medi Lewis-Hughes 01974 298730 / 07795 50786617 Medi Eisteddfod Gadeiriol Cwmystwyth Mrs. Mair Davies 01970 89024517 Medi Eisteddfod Gadeiriol Y Tymbl Anwen Evans 01269 83356824 Medi Eisteddfod Gadeiriol Felinfach Meinir Lewis 01570 47005024 Medi Eisteddfod Gadeiriol Llanwrtyd Susan Price 01591 61030330 Medi Eisteddfod Dwyieithog Pobl Hyn Môn - Cystadlaethau Llwyfan Helen Elis 01286 830886 / 724970

HYDREF 2016 1 Hydref Eisteddfod Bethel Melin y Coed Anwen Hughes 01492-6402881 Hydref Eisteddfod Gadeiriol Trefeglwys Margaret Jones 01686 4304747 Hydref Eisteddfod Calfaria, Garnant Gwladys Davies 01269 8231387 Hydref Eisteddfod Stesion Trawsfynydd R.Derfel Roberts 07833 5065008 Hydref Eisteddfod Gadeiriol Llanarth Catrin Bellamy Jones 01545 5802798 Hydref Eisteddfod Y Plant, Llandrindod Mrs Gill Wilson 01597 8247268 Hydref Eisteddfod Troedrhiwdalar Megan Price 01591 62064014 Hydref Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas Ruth Jones 01248 85395715 Hydref Eisteddfod Gadeiriol Bancffosfelen a Chrwbin Davinia Davies 01269 87049021 Hydref Eisteddfod Gadeiriol Felindre, Abertawe Helen Evans 01792 88325222 Hydref Eisteddfod Gadeiriol Deiniolen a’r Cylch Eirlys M. Hughes 01286 87089829 Hydref Eisteddfod Gadeiriol Llanrhaeadr ym Mochnant Menna Richards 01691 78035529 Hydref Eisteddfod Gadeiriol Pumsaint Mair Williams 01558 650292

TACHWEDD 2016 4 Tachwedd Eisteddfod Ciliau Aeron Iris Hawkins 01570 4705544 Tachwedd Eisteddfod y Cymoedd, Ystrad Mynach Luned Jones 02920 8612814 Tachwedd Eisteddfod Llandyrnog Ffiona Evans 01824 790875 Ceri Roberts 01824 7901875 Tachwedd Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog Geraint Roberts 01267 2290475 Tachwedd Eisteddfod Y Talwrn,Ynys Môn Helen Evans 01248 7230385 Tachwedd Eisteddfod Trallong Mary Robinson 01874 62435012 Tachwedd Eisteddfod Cwmdu Jean Huxley 01874 73028212 Tachwedd Gãyl Cerdd Dant Llñn ac Eifionydd Gwyn Parry Williams 01766 81071719 Tachwedd Eisteddfod Gadeiriol Y Treuddyn Ceinwen Parry 01352 77133319 Tachwedd Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc – Shir Gâr Ffion Medi Rees 01982 55350226 Tachwedd Eisteddfod Y Foel Dawn Jones 01938 82027226 Tachwedd Eisteddfod Gadeiriol Abergorlech Heulwen Francis 01558 68539826 Tachwedd Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn Mary C. Jones 01286 660768