28
Rhif Elusen - 1022320

Rhif Elusen - 1022320 · 2019. 10. 1. · Gan amlaf, mae rhestr ar ddiwedd pob ffurflen gais i nodi pa ddogfennau sydd angen eu hanfon. Dylid cadw cofnod o sut y daethpwyd i’r costau

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Rhif Elusen - 1022320

  • Y blynyddoedd cyntaf ym mywyd plentyn yw’r rhai mwyaf arwyddocaol o safbwynt ei ddatblygiad, mae Cylch Meithrin yn cynnig nifer o brofiadau gwerthfawr i bob plentyn bach. Mae datblygiad llwyddiannus y cylchoedd hyn yn dibynnu’n helaeth ar gefnogaeth rhieni/gofalwyr a’r gymuned leol. Rhieni/gofalwyr sy’n gyfrifol am ffurfio’r Gymdeithas yn y man cychwyn a’r Gymdeithas honno fydd yn gyfrifol am sefydlu’r Cylch Meithrin. Cyfrifoldeb y Gymdeithas fydd ethol Pwyllgor Rheoli i fod yn gyfrifol am reolaeth a gweithrediad dydd i ddydd y Cylch Meithrin ac i gyfethol eraill o’r gymuned leol i gynorthwyo gyda’r gwaith. Y Pwyllgor fydd yn gyfrifol am weithredu fel cyflogwr gan gynnwys penodi, cyflogi, cefnogi a rheoli staff. Nod y llyfryn yma yw nodi’r prif elfennau dylai Pwyllgor Rheoli ystyried wrth sefydlu strwythurau ariannol cadarn y Cylch Meithrin. Canllaw

    ydyw a dylid hefyd cyfeirio at ffeil am ragor o wybodaeth.

  • Rhan bwysig o gynnal Cylch Meithrin llwyddiannus yw sicrhau

    gweinyddiaeth ariannol gadarn. Fel elusen, cyfrifoldeb y Pwyllgor (yr

    ymddiriedolwyr) yw sicrhau bod cyfrifon cywir yn cael eu cadw. Rhaid i bob

    Cylch Meithrin ethol Trysorydd i’r pwyllgor i ymgymryd â’r gwaith. Y Trysorydd

    sydd yn gyfrifol am baratoi adroddiadau ar gyfer pob cyfarfod pwyllgor rheoli

    ynghyd â :

    rhoi crynodeb o’r sefyllfa ariannol i’r Pwyllgor ymhob cyfarfod paratoi’r cyfrifon ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol a’r Comisiwn Elusennau paratoi cyllideb flynyddol er mwyn i’r Pwyllgor ei thrafod gwneud yn siŵr bod y cyfrifon wedi’u harchwilio gan berson cymwys

    ac annibynnol, yn unol â gofynion y Comisiwn Elusennau. rhoi gwybod i’r banc pan fydd aelodau’r Pwyllgor / Swyddogion y cylch

    yn newid talu cyflogau a chostau eraill cyfrannu i syniadau ar sut i godi arian

    Bydd y Trysorydd yn gyfrifol am y canlynol: agor cyfrif banc yn enw’r Cylch Meithrin (gall y banc ofyn am weld copi

    o gyfansoddiad y cylch)

    sicrhau bod o leiaf 2 lofnod ar bob siec

    casglu ffioedd y cylch, yn ôl trefniant rhwng y Pwyllgor a’r Arweinydd

    talu’r holl arian a dderbynnir, â llaw neu siec, i’r cyfrif banc gan

    ddefnyddio llyfr talu i mewn

    cadw cofnodion o’r holl arian a dderbyniwyd ac a dalwyd allan yn

    enw’r Cylch Meithrin yn y Llyfr Cyfrifon (sy’n cael ei ddarparu gan

    Mudiad Meithrin) neu ar feddalwedd cyfrifon/taenlen Excel

    trefnu bod arian parod gan yr Arweinydd i brynu eitemau mân i’r Cylch

    Meithrin.

    Ni ddylid defnyddio arian ffioedd fel arian mân.

    Rhaid nodi pob eitem mewn Llyfr Arian Parod, a rhaid gwirio cyfanswm

    yr arian â’r cofnod yn y llyfr yn gyson.

  • gweinyddu cyflogau’r staff (oni bai bod cwmni arall yn

    gweinyddu cyflogau ar rhan y Cylch Meithrin) talu costau’r Cylch Meithrin gyda siec y Cylch Meithrin neu

    drosglwyddiad banc (lle mae 2 lofnod ei angen) arwyddo sieciau ar ran y Cylch Meithrin. Dylid sicrhau llofnod un

    swyddog arall ar bob siec. gwneud cais am ad-daliad o’r arian a dalwyd am laeth yn y Cylch

    Meithrin (oni bai fod y cylch yn rhan o gynllun cyflenwi llaeth e.e Cool Milk).

    cadw cofnod o’i g/chostau, e.e. postio a galwadau ffôn a wneir ar ran y Cylch Meithrin ac ar fusnes y cylch yn unig, a hawlio ad-daliad.

    rhoi adroddiad ariannol byr, neu baratoi mantolen syml, ymhob cyfarfod pwyllgor

    gwneud ceisiadau am grantiau i’r cylch gyda’r swyddogion eraill cyflwyno adroddiad ffurfiol o’r cyfrifon yn y Cyfarfod Blynyddol, gellir

    defnyddio ffurflen sydd wedi’i darparu gan Mudiad Meithrin fel rhan o’r Ffurflen Gofrestru. Bydd person annibynnol, sy’n deall cyfrifon ac wedi cael ei gymeradwyo gan aelodau’r Pwyllgor, yn archwilio’r cyfrifon cyn y cyfarfod.

    sicrhau gyda’r swyddogion eraill, bod y cylch yn ymaelodi â Mudiad Meithrin, yn talu tâl yswiriant, ynghyd â chyflwyno Mantolen i Mudiad Meithrin yn flynyddol.

    paratoi cyfrifon i’r Comisiwn Elusennau (os yn berthnasol) cefnogi staff y Cylch Meithrin ymhob ffordd bosibl.

    Pan fydd cyfnod y Trysorydd yn dod i ben, rhaid trosglwyddo pob dogfen

    berthnasol i’r Trysorydd newydd.

  • Mae’n ofynnol i bob Cylch Meithrin gael cyfrif banc

    ni ddylai staff y cylch arwyddo sieciau dylid talu pob bil â siec neu yn uniongyrchol drwy’r banc rhaid sicrhau bod o leiaf dau berson yn arwyddo pob siec ni ddylid ar unrhyw gyfrif arwyddo sieciau dienw nac ychwaith arwyddo

    sieciau gwag dylid cadw cyfrifon cywir, gan ddefnyddio’r Llyfr Cyfrifon a ddarperir gan

    Mudiad Meithrin neu ar feddalwedd cyfrifon/taenlen Excel.

    Wrth drosglwyddo’r drysoryddiaeth rhaid:

    cael mandad o’r banc i newid y llofnodwyr newid cyfeiriad i yrru datganiadau banc iddo

    Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, dylai’r Trysorydd baratoi cyllideb er mwyn

    i’r Pwyllgor drafod sefyllfa ariannol y cylch am y flwyddyn i ddod, ynghyd ag

    unrhyw gamau sydd angen eu gweithredu. Dylai’r Pwyllgor asesu’r nifer o

    blant sydd yn mynychu neu ar fin cychwyn yn y Cylch Meithrin a’r grantiau sy’n

    debygol o gael eu derbyn, ac o hynny gyfrifo a oes modd ariannu oriau’r staff,

    gan ystyried costau eraill, e.e. adeilad, costau banc, adnoddau. Os oes

    gorwariant arfaethedig, dylid ystyried a oes angen cynllunio codi arian neu

    leihau ar y costau.

    Mae’n ofynnol i bob Cylch Meithrin gadw cyfrifon sydd yn nodi incwm a

    gwariant y Cylch. Rhaid i bob cofnod o dderbyniadau a thaliadau yn y Llyfr

    Cyfrifon ddangos:

    y dyddiad y talwyd neu y derbyniwyd yr arian manylion yr hyn a dalwyd neu a dderbyniwyd rhif y siec neu’r dderbynneb cyfanswm y taliadau neu’r derbyniadau.

  • Gall cylchoedd elwa o wahanol fathau o incwm:

    Cyllid sirol megis arian Addysg/ Cyfnod Sylfaen Plant 3 oed ac arian

    Dechrau’n Deg

    Grant Mudiad Meithrin

    Cronfeydd nawdd, grantiau atodol a chynlluniau codi arian

    Ffioedd sesiynau – i’w talu gan y rhieni/gofalwyr.

    Bydd y Swyddog Cefnogi yn gallu helpu gyda’r trefniadau angenrheidiol

    gan gefnogi a chynorthwyo’r pwyllgor i ymgeisio am grantiau neu i gwblhau

    tendr.

    Mae Mudiad Meithrin yn dyfarnu grantiau blynyddol i’r cylchoedd. Gofynnir

    am wybodaeth ariannol ynghyd a ffurflen gais ar gyfer asesu cais y Cylch

    Meithrin.

    Mae nifer o gynghorau sir yn cynnig grantiau cynaladwyedd i gylchoedd. Dylid

    cysylltu â’ch Swyddog Cefnogi lleol am wybodaeth bellach.

    Mae disgwyl i bob rhiant/gofalwr dalu ffi am bob sesiwn llawn, heblaw am yr

    oriau hynny a gyllidir gan gynllun Addysg Plant 3 oed y sir neu Dechrau’n Deg.

    Y Pwyllgor sy’n penderfynu ar y ffi am bob sesiwn. Dylai’r Trysorydd sicrhau bod

    y ffioedd sesiynau a dderbynnir yn cyfateb i’r nifer o blant oedd yn bresennol ar

    y gofrestr, a dylid bancio’r ffioedd yn wythnosol. Os oes cynllun cymhorthdal

    ffioedd ar gyfer teuluoedd incwm isel yn y sir, dylid hysbysu teuluoedd o’i

    fodolaeth. Mae’n ofynnol i bob rhiant/gofalwr dalu yn brydlon yn wythnosol.

  • Ni ddylai’r cylch ganiatáu i rieni grynhoi dyled. Mae canllawiau a

    chyngor ynglyn â sut i ddelio gyda dyledwyr ar gael gan y Swyddog

    Cefnogi lleol.

    Mae’r Cynllun Lles Bwyd yn caniatáu i blant o dan 5 dderbyn 189ml (un

    rhan o dair o beint) o laeth yn rhad ac am ddim bob dydd maent yn

    mynychu darpariaeth gofal plant am 2 awr neu fwy. Gall babanod o

    dan 1 oed dderbyn llaeth fformiwla baban (llaeth sych baban) wedi ei

    gymysgu i 189ml (un rhan o dair o beint) o hylif. Gall darparwyr Gofal

    Dydd sydd wedi eu cymeradwyo i gyflenwi llaeth o dan y Cynllun

    dderbyn ad-daliad am gost y llaeth a gyflenwir.

    Os yw’r cylch yn darparu llaeth i’r plant ac yn cyfarfod am o leiaf 2 awr y

    dydd, yna gellir cael ad-daliad o gost y llaeth am hyd at y ddwy flynedd

    flaenorol. Am wybodaeth bellach ynglyn â’r cynllun gellir cysylltu â WFS

    (Welfare Food Scheme) ar 08707 203063.

    Mae asiantaethau ar gael sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflenwi llaeth

    am ddim i blant y Cylch Meithrin. Mae Mudiad Meithrin yn gweithio

    mewn partneriaeth â chwmni Cool Milk ar gyfer hwyluso’r broses hon i’r

    cylchoedd. Am ragor o wybodaeth dylid cysylltu â’r Swyddog Cefnogi

    lleol.

  • (Deddf Elusennau 1993)

    Y Comisiwn Elusennau sydd yn cofrestru, cynghori a diogelu elusennau er lles y cyhoedd. Os yw’r Cylch Meithrin ag incwm dros £5,000 y flwyddyn, o dan gyfraith gwlad mae’n rhaid i’r cylch gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Bellach mae’n ofynnol i gylchoedd gofrestru gyda’r comisiwn ar lein. Mae gwybodaeth fanwl ynglŷn â chofrestru ar safle gwe'r comisiwn sef: http://www.comisiwnelusennau.gov.uk Mae angen i bob elusen fod â chyfansoddiad cyfredol a phwyllgor/ ymddiriedolwyr. Wrth gofrestru bydd angen hefyd cwblhau ffurflen datganiad gan ymddiriedolwyr yr elusen a chwblhau ffurflen gofrestru. Mae’r ffurflenni hyn ar gael ar wefan Y Comisiwn Elusennau (Tudalen Cofrestru Eich Elusen). Mae Deddf Elusennau 1993 yn mynnu bod elusennau cofrestredig yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ac arolwg ariannol; ond os yw’r incwm neu’r gwariant blynyddol yn llai na £25,000, ni fydd yn rhaid eu danfon at y Comisiwn, oni bai i’r cylch dderbyn cais amdanynt. Ar ôl cofrestru bydd y cylch yn derbyn rhif elusen. Mae Deddf Elusennau 1993 yn hawlio bod elusennau cofrestredig ag incwm neu wariant o dros £10,000 y flwyddyn yn datgan eu rhif ar ddogfennau megis llenyddiaeth codi arian, sieciau, derbynebau, anfonebau a biliau, ac mae’n rhaid cynnwys y rhif elusen ar unrhyw ddeunydd ysgrifennu arall.

    e.e. Elusen Gofrestredig Rhif / Registered Charity Number ………….......

    http://www.comisiwnelusennau.gov.uk/

  • Mae Swyddog Nawdd a Marchnata Mudiad Meithrin yn cynnig cefnogaeth i

    gylchoedd trwy chwilio am gronfeydd nawdd a allai fod o fudd iddynt.

    Darperir gwybodaeth gyfredol am nawdd a chynlluniau grant newydd ar

    gyfrifon Trydar a Facebook y Mudiad er mwyn hysbysu cylchoedd am

    gronfeydd penodol, at beth y dylid anelu ceisiadau, sut, ac erbyn pryd i

    ymgeisio.

    Yn ogystal â ffynonellau cenedlaethol sy’n rhoi grantiau, bydd rhai

    asiantaethau lleol yn barod i noddi elusennau yn eu cymuned. Mae Cyngor

    Mudiadau Gwirfoddol ymhob sir, ac maent yn gallu rhoi gwybodaeth am

    gynlluniau cyllido lleol, a chynghori ar sut i lunio ceisiadau.

    Bydd angen cwblhau ffurflen gais ar gyfer rhai grantiau; ar gyfer eraill bydd

    angen anfon llythyr cais. Ni ddylai cais trwy lythyr fod yn or-hir ond mae’r

    cynnwys yn holl bwysig. Bydd angen cyflwyno’r wybodaeth ganlynol:

    rhif elusen (os yn berthnasol) nod ac amcanion y cylch nifer y plant a’u teuluoedd cynllun y prosiect: a. sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio

    b. amserlen, gyda dyddiadau targed

    c. pa fanteision a ddaw i ddefnyddwyr y cylch

    cynllun ariannol a. gwybodaeth glir a chywir

    b. amcan brisiau ysgrifenedig

    c. yr holl gostau wedi’u cynnwys

    ch. dogfennau ychwanegol, e.e. adroddiad blynyddol, cyfansoddiad y cylch. d. Sut y bydd y cylch yn monitro a gwerthuso cyflawniad y prosiect

  • Gan amlaf, mae rhestr ar ddiwedd pob ffurflen gais i nodi pa ddogfennau sydd angen eu hanfon. Dylid cadw cofnod o sut y daethpwyd i’r costau terfynol, ynghyd â chopi o’r cais terfynol.

    Dylid targedu’r cronfeydd yn ofalus, ni ddylid gofyn i gronfa fechan am

    swm mawr o arian, na gofyn i gronfa fawr am swm bychan. Nodir

    isafswm neu uchafswm grant ar gyfer rhai cronfeydd. Bydd angen arian

    cyfatebol ar gyfer rhai grantiau, h.y. arian ychwanegol o ffynhonnell

    wahanol. Gall arian cyfatebol gynnwys oriau staff a gwirfoddolwyr

    mewn rhai achosion.

    Bydd angen paratoi adroddiadau ar wariant y prosiect. Dylid cofnodi

    gwybodaeth am gyflawniad a gwariant y prosiect yn unol ag amodau’r

    grant. Os nad yw’r prosiect yn datblygu fel y dylai, dylid rhoi gwybod i’r

    cyllidwyr ar unwaith a thrafod os oes modd amrywio’r gwariant. Oni

    wneir hyn, gall methu cwrdd â’r targedau arwain at hawlio’n ôl cyfran

    o’r grant.

    Yn aml gall cyllidwyr ofyn am gyhoeddusrwydd. O dan amodau o’r fath

    mae’n rhaid sicrhau bod manylion enw’r cyllidwyr a/neu logo yn gywir,

    a’u cynnwys ar bob dogfennaeth a gohebiaeth berthnasol. Os oes

    digwyddiad arbennig i lansio’r prosiect neu ddathliad ar ei ddiwedd,

    dylid gwahodd y cyllidwyr.

  • Sicrhau bod o leiaf 2 lofnod ar bob siec

    Ni ddylai 2 aelod o’r un teulu llofnodi sieciau

    Talu’r holl arian a dderbynnir, â llaw neu siec, i’r cyfrif banc yn

    rheolaidd

    Cadw cofnodion o’r holl arian a dderbyniwyd ac a dalwyd allan

    yn enw’r Cylch Meithrin yn y Llyfr Cyfrifon neu ar feddalwedd

    cyfrifon/taenlen Excel

    Rhoi adroddiad ariannol byr, neu baratoi mantolen syml,

    ymhob cyfarfod pwyllgor

    Paratoi cyfrifon i’r Comisiwn Elusennau ac yn brydlon. Ni ddylai staff y cylch arwyddo sieciau ni ddylid ar unrhyw gyfrif arwyddo sieciau dienw nac ychwaith

    arwyddo sieciau gwag sicrhau newid manylion y llofnodwyr a newid cyfeiriad i yrru

    datganiadau banc iddo pan fo newid mewn Trysorydd. Cysylltu â’r Swyddog Cefnogi am gymorth/ cyngor.

  • Ffurflen Derbyn Arian Mân / Petty Cash Acceptance Form

    Ffurflen talu Cylch Ti a Fi _____________________- £__________ y sesiwn

    Payment form Cylch Ti a Fi _____________________- £__________ per session

    Derbyn ar Ran Cylch/

    Meithrinfa /Receiving on behalf of Cylch/Nursery

    Swm / Sum

    £

    Enw / Name

    Swydd / Job

    Llofnod / Signature

    Dyddiad / Date

  • Dyddiad / Date

    __/__/__

    Enw

    Name

    Talu £

    Pay £

    1

    2

    3

    4

    5

    6

    7

    8

    9

    10

    11

    12

    20

    Cyfanswm dyddiol

    Daily Total

    £

    Llai gwariant (rhaid cadw derbyneb)

    Less spending (must keep a receipt)

    £

    Rhent/Rent £

    Cyfanswm i’w fancio / Total for banking £

    http://www.charitycommission.gov.uk

    https://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/guideforemployeesininsolvency.pdf

    https://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/rheoli_trafferthion_ariannol_ac_ansolfedd_mewn_elusennau.pdf

    www.meithrin.cymru

    Ffurflen bancio ffioedd / Fees banking form

    http://www.charitycommission.gov.ukhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/guideforemployeesininsolvency.pdfhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/guideforemployeesininsolvency.pdfhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/rheoli_trafferthion_ariannol_ac_ansolfedd_mewn_elusennau.pdfhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/rheoli_trafferthion_ariannol_ac_ansolfedd_mewn_elusennau.pdfhttp://www.meithrin.cymru

  • Charity Number - 1022320

  • The early years of a child’s life are the most significant as far as his/her development is concerned, and a Cylch Meithrin offers every young child a number of valuable experiences. The successful development of these cylchoedd depend largely upon the support of parents/ carers / guardians and the local community. Parents/ carers/ guardians are responsible for establishing the Society in the first place and this Society will be responsible for establishing the Cylch Meithrin. The Society will be responsible for electing a Committee to be responsible for the day to day management and running of the Cylch Meithrin and acting as the employer including appointing, employing, supporting and managing staff. The aim of this booklet is to highlight the main elements a management committee should consider when establishing the Cylch Meithrin’s financial structures. This booklet offers guidance and management committees

    should also refer to the for further information.

  • An important aspect of running a Cylch Meithrin is to have sound financial management. As a charity, the Committee (the trustees) is responsible for ensuring that accurate accounts are kept. Every Cylch Meithrin must elect a Treasurer who will be responsible for the Cylch Meithrin’s financial matters and will prepare financial reports for every Committee meeting, as well as: Presenting a summary of the financial situation to the Committee in

    every meeting Preparing accounts for the AGM and the Charity Commission Preparing an annual budget for the Committee to discuss Ensuring that the accounts have been audited by a qualified and

    independent person, in accordance with the requirements of the Charity Commission

    Informing the bank when the members of the committee/ Officers change

    Paying wages and other costs Contributing ideas for fundraising.

    The Treasurer will be responsible for:

    Opening a bank account in the Cylch Meithrin’s name (the bank can

    ask to see a copy of the cylch’s constitution)

    Ensuring that there are at least 2 signatures on every cheque

    Collecting the fees of the Cylch Meithrin, as arranged by the Committee

    and the Leader

    Paying all monies received, by cheque or by hand, into the bank

    account using the bank’s paying-in book

    Keeping records of all the monies received or paid out in the name of

    the Cylch Meithrin, in the Account Book, (which is provided by Mudiad

    Meithrin) or on suitable financial software/excel spreadsheet

    Arranging that the Leader has petty cash to buy small items for the

    Cylch Meithrin. Fee monies should not be used as petty cash. Every

    item should be recorded in a Petty Cash Book; the total amount should

    be checked regularly against the record in the book

  • Administering staff wages (unless an independent company

    administer the wages on behalf of the Cylch Meithrin)

    Paying the Cylch Meithrin’s costs by cheque from the cylch’s cheque

    book or bank transaction (2 signatures are needed)

    Signing cheques on behalf of the Cylch Meithrin. The signature of

    one other officer should be on every cheque

    Applying for a refund of the amount paid for milk in the Cylch

    Meithrin (unless the cylch is part of a milk supply scheme e.g. Cool

    Milk).

    Keeping a record of costs incurred, e.g. postage and phone calls,

    made on behalf of the Cylch Meithrin and on Cylch Meithrin

    business only, and reimbursing them

    Presenting a short financial report, or producing a simple statement

    at every management committee meeting.

    Applying for grants for the Cylch Meithrin together with the other

    officers

    Preparing a formal report of the balance sheet for the Annual

    General Meeting, a form provided by Mudiad Meithrin as part of the

    Registration Form can be used. An independent person, who

    understands accounts, and has been approved by members of the

    Committee, will audit the accounts before the meeting

    Ensuring, with the other officers, that the cylch registers with Mudiad

    Meithrin, pays the insurance premium and presents a Balance

    Sheet to Mudiad Meithrin annually

    Preparing accounts for the Charity Commission (if relevant)

    Supporting the staff of the Cylch Meithrin in every possible way

    At the end of the Treasurer’s term of office, all relevant documents should

    be handed over to the new Treasurer.

  • Every Cylch Meithrin must have a bank account.

    Cylch Meithrin staff should not sign cheques

    Every bill should be paid by cheque or directly through the bank. Two

    persons (minimum) are required to sign every cheque and authorize

    bank transfers.

    On no account should nameless cheques be signed nor empty cheques

    signed

    Accurate accounts should be kept, using the Accounts Book provided by

    Mudiad Meithrin or on suitable financial software/excel spreadsheet.

    When transferring the office of Treasurer the cylch must:

    Obtain a bank mandate to change signatories

    Change the address for receiving bank statements

    At the beginning of every financial year, the Treasurer should prepare a

    budget so that the Committee can discuss the Cylch Meithrin’s financial

    situation for the forthcoming year, as well as any actions which need to be

    taken. The Committee should assess the number of children attending or are

    due to attend the Cylch Meithrin, the grants likely to be received, and from this,

    calculate whether it can fund staffing hours, while considering other costs, e.g.

    the building, banking costs, resources. If there is a projected over-spend, the

    Cylch Meithrin should consider whether it needs to plan fundraising activities

    or to reduce costs.

    Every record of receipts and payments in the Account Book must show: The date the money was paid out or received Details of all payments and receipts The cheque or receipt numbers The total of the payments or receipts

  • Cylchoedd Meithrin can benefit from several sources of income:

    Local Authority revenue such as Education / Foundation Phase funding for

    three-year-olds or Flying Start.

    Mudiad Meithrin’s annual grant

    Funding sources, supplementary grants, fundraising schemes

    Session fees – payable by parents.

    The Support Officer can help with the necessary arrangements and provide

    support and guidance with applying for funding or completing a tender.

    Mudiad Meithrin award annual grants to the cylchoedd. Financial information,

    as well as an application form is sought as part of the application process.

    A number of Local Authorities offer sustainability grants to cylchoedd. The cylch

    should contact the Support Officer for further information.

    Every parent/carer/guardian is expected to pay fees for every full session, with

    the exception of the hours funded by the Education Grant for 3 year olds or

    Flying Start. The Committee decides upon the fees per session. The Treasurer

    should ensure that the session fees received correspond to the number of

    children present on the register, and the fees should be banked weekly. If there

    is a scheme to subsidise fees for low income families in the county, families

    should be informed of it. Every parent/carer/guardian is required to pay

    promptly and weekly.

    Guidance and advice

    on how to deal with debtors is available from the local Support Officer.

  • The Welfare Food Scheme enables children under five to receive, free of

    charge, 189ml (one third of a pint) of milk for each day they attend

    approved day care facilities for two hours or more. Babies aged under

    one may instead receive infant formula milk (dried baby milk) made up

    to 189ml (one third of a pint). Day care providers who have been

    approved to supply milk under the Scheme can be reimbursed for the

    cost of the milk they supply.

    If the Cylch Meithrin provides milk for the children and it is open for at

    least two hours a day, then a refund for the cost of the milk can be

    claimed for up to two previous years. For further information contact the

    WFS (Welfare Food Scheme) on 08707 203063.

    Other agencies also take responsibility for supplying free milk to Cylch

    Meithrin children. Mudiad Meithrin works in partnership with the Cool

    Milk company to facilitate this process for cylchoedd. For more

    information contact the local Development Officer.

  • (The Charities Act 1993) The Charity Commission registers, advises and protects charities in the public interest. If the Cylch Meithrin has an income of over £5,000 a year, by law the cylch must register with the Charity Commission. Currently, Cylchoedd Meithrin must register with the commission on line. There is detailed information about registering on the commission’s website http://www.charitycommission.gov.uk Every charity must have a current constitution and an elected board of Trustees (Committee) when registering it will also be necessary to complete a declaration by the charity’s trustees and complete a registration form. The forms are available on the Charity Commission’s website ‘Registering Your Charity’ Page. The Charities Act 1993 requires that registered charities produce an Annual Report and a financial review; but if the annual income or expenditure is under £25,000, the Cylch Meithrin will not be required to send them to the Commission, unless it receives a request for them. When the registration has been completed, the Cylch Meithrin will be allocated a charity number. The 1993 Charities Act requires that registered charities with an income or expenditure of over £10,000 a year must declare their charity number on documents, such as fundraising literature, cheques, receipts, invoices and bills, and it is good practice to include the charity number on any other stationery. E.g. Registered Charity Number / Elusen Gofrestredig Rhif ........................

  • Mudiad Meithrin’s Fundraising and Marketing Officer offers support to cylchoedd Meithrin by searching for sponsorship funds which could benefit them. Regular updates on fundraising and new grants are provided via the Mudiad's Twitter and Facebook pages to inform cylchoedd about specific funds, noting it criteria and how and when to apply. As well as national funding sources which award grants, some local organisations are prepared to sponsor charities in their community. There is a Council for Voluntary Services in every county which can give information on local funding schemes and advice on grant applications. Application forms will have to be completed for some grants; for others a letter of application will be required. An application letter should not be over-long and its content is all important. The following information will be required: Charity number Aim and objectives of the Cylch Meithrin Numbers of children and families Project plan a. how the money will be spent b. a timetable, with target dates c. what the benefits will be to the families/ children attending Cylch

    Meithrin Financial plan a. clear and correct information b. written estimates c. all items of expenditure included d. additional documents, e.g. annual report, the Cylch Meithrin’s

    constitution. How the cylch will monitor and evaluate the project’s achievement Usually a list of the documents to be sent appears at the end of every application form. There should be a record of how the final costs were calculated and a copy of the final application.

  • Funding sources should be targeted carefully, a small funder should not

    be asked for a large sum, nor a large funder for a small sum. Some

    funders denote a minimum or maximum grant. Some grants may

    require match funding, i.e. additional money from a different source. In

    some cases, match funding can include staff and volunteers’ hours.

    The cylch Meithrin will be required to prepare a report on how the grant

    was spent. Information on how the money has been spent in

    accordance with the grant conditions should be recorded. If the project

    does not progress as it should, the grant provider should be informed at

    once, in order to discuss whether it would be possible to vary the

    expenditure. Unless this is done, failure to achieve targets may result in

    part of the grant being reclaimed.

    Some grant providers will ask for publicity. Under such conditions,

    ensure that the details of the fund provider’s name and/or logo are

    correct, and are included on every relevant documentation and

    correspondence. If there is a special event to launch the project or a

    celebration at its completion, the grant provider/s should be invited.

  • Ensure that at least two persons sign every cheque

    No 2 members of the same family should be bank signatories.

    Paying all monies received, by cheque or by hand, into the bank

    account regularly

    Keeping records of all the monies received or paid out in the name of

    the Cylch Meithrin, in the Account Book or on suitable financial

    software/excel spreadsheet

    Presenting a short financial report, or producing a simple statement at

    every management committee meeting.

    Preparing accounts for the Charity Commission.

    Cylch Meithrin staff should not sign cheques

    On no account should nameless cheques be signed nor empty

    cheques signed

    Ensure to obtain a bank mandate to change signatories and change

    the address for receiving bank statements when new officers are

    elected.

    Contact your Support Officer for advice and guidance.

    On no account should nameless cheques be signed nor empty

    cheques signed

    Ensure to obtain a bank mandate to change signatories and change

    the address for receiving bank statements when new officers are

    elected.

    Contact your Support Officer for advice and guidance.

  • Ffurflen Derbyn Arian Mân / Petty Cash Acceptance Form

    Ffurflen talu Cylch Ti a Fi _____________________- £__________ y sesiwn

    Payment form Cylch Ti a Fi _____________________- £__________ per session

    Derbyn ar Ran Cylch/

    Meithrinfa /Receiving on behalf of Cylch/Nursery

    Swm / Sum

    £

    Enw / Name

    Swydd / Job

    Llofnod / Signature

    Dyddiad / Date

  • Dyddiad / Date

    __/__/__

    Enw

    Name

    Talu £

    Pay £

    1

    2

    3

    4

    5

    6

    7

    8

    9

    10

    11

    12

    20

    Cyfanswm dyddiol

    Daily Total

    £

    Llai gwariant (rhaid cadw derbyneb)

    Less spending (must keep a receipt)

    £

    Rhent/Rent £

    Cyfanswm i’w fancio / Total for banking £

    http://www.charitycommission.gov.uk

    https://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/guideforemployeesininsolvency.pdf

    https://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/rheoli_trafferthion_ariannol_ac_ansolfedd_mewn_elusennau.pdf

    www.meithrin.cymru

    Ffurflen bancio ffioedd / Fees banking form

    http://www.charitycommission.gov.ukhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/guideforemployeesininsolvency.pdfhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/guideforemployeesininsolvency.pdfhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/rheoli_trafferthion_ariannol_ac_ansolfedd_mewn_elusennau.pdfhttps://intranet.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/rheoli_trafferthion_ariannol_ac_ansolfedd_mewn_elusennau.pdfhttp://www.meithrin.cymru