Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Y CliciadurNewyddion o Gymru a Thu HwntY Cliciadur
Rhifyn 14 / Mai 2020
Newyddion o Gymru a Thu Hwnt
Awduron: Haf Llewelyn, Mali Williams Golygydd: Karen MacIntyre Huws
TUDALEN 2
WYDDOR HEIROGLIFFIG YR EIFFTIAID Fedri di gracio'r
cod heirogliffig?
TUDALEN 4
TUDALEN 9
CARTŴNWyt ti’n gallu
llenwi’r blychau yn y stori?
TUDALEN YCHWANGEOL YN
Y RHIFYN YMA!Syniadau am fwy o
weithgareddau i ti tra dy fod adref.
DYFEISGAR! Mae Ilan Davies yn Beiriannydd Electroneg ac yn gweithio fel arfer yng Nghaerfaddon, ond cafodd ei anfon adref i'r Bala i hunan-ynysu. Roedd wedi clywed fod galw am fygydau ar gyfer pobl sy'n gorfod parhau i weithio fel meddygon, gofalwyr, nyrsys, fferyllwyr a nifer o weithwyr hanfodol eraill.Nôl i'r ysgolRoedd Bethan Emyr Jones, Pennaeth Ysgol Godre'r Berwyn yn falch o groesawu Ilan i ddefnyddio labordy'r ysgol a'r argraffydd 3D, i greu'r mygydau, fel ymateb i ymgyrch y bwrdd iechyd lleol.
Beth ydi'r mygydau?Math o feisor yw'r mwgwd, wedi ei wneud o ddeunydd plastig. Bydd y mwgwd yn caniatáu i'r gweithiwr weld, ond hefyd gadw ei hun yn ddiogel, gan fod y mwgwd yn gorchuddio'r llygaid, trwyn a'r geg.
Beth yw ymateb pobl?'Anhygoel! Mae galw anferth am yr offer. Hyd yma rydym wedi cyflenwi nifer o wasanaethau hanfodol yn lleol,' meddai Ilan, ' mae'r fferyllfa leol wedi derbyn rhai a'r feddygfa, gofalwyr yn y cartref gofal lleol a gofalwyr cymunedol. Does dim digon o amser yn y dydd i ddal fyny efo'r holl archebion!'Mae Ilan yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ei gefnogi. Ond mae Y Cliciadur yn sicr fod pawb yn ddiolchgar iawn i Ilan am ei fentergarwch.
Croeso i Rifyn 14 o’r CliciadurMae’r sefyllfa ychydig yn wahanol i’r arfer ar hyn o bryd felly mae’r Rhifyn yma o’r Cliciadur ychydig yn wahanol i’r arfer hefyd. Gobeithio y bydd ‘na ddigon yma i dy ddiddori, i godi dy galon ac i roi digon o syniadau i ti am bethau i’w gwneud. Cadwch yn ddiogel bawb!
GWERTHFAWROGI’R GIGBob nos Iau am 8 o’r gloch mae pobl ar hyd a lled y wlad yn agor ffenestri neu’n dod allan o’u cartrefi i glapio a gwneud sŵn i ddweud diolch wrth y GIG am eu gwaith caled. Mae rhai yn taro sosbenni, rhai yn gweiddi, rhai yn canu neu’n chwarae offeryn ond pawb yn ymuno yn y
neges bwysig DIOLCH GIG! Cofia ymuno yn y sŵn! Am fwy o wybodaeth dilyna’r linc yma: https://clapforourcarers.co.uk/
ENFYS O OBAITHAr hyd a lled Cymru, mewn tai, strydoedd, caeau ac adeiladau mae ‘na enfys i’w weld. Yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn oherwydd Coronafeirws mae pobl a phlant wedi bod yn creu enfys fel arwydd i godi calon, fel arwydd y daw pethau’n well ac i ddweud diolch wrth weithwyr y GIG (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol). Mae’r Cliciadur yn hoff iawn o’r enfys yma gan Cêt Elen:
Tybed wyt ti wedi gwneud enfys? Byddem wrth ein boddau yn gweld llun ohono. Cofia gysylltu drwy e-bostio [email protected]. Mae ‘na ddigon o syniadau am sut i greu enfys y tu fewn i’r rhifyn yma hefyd ar dudalen 5 a 9.
A B
Ff G
LL M
A B
Ff G
LL M
a’r un yma gan Bedo, Nanw, Nel a Nico.
Lili ac Ela o Efailnewydd yn taro eu sosbeni
2
CARTŴN
Roedd Twm yn gorfod gofalu am ei chwaer fach, Lili. Roedd Lili yn flin, ac yn gweiddi crio! Felly aeth Twm â hi allan i'r ardd, a draw at y siglen o dan yr hen dderwen.
Wyt ti’n gallu meddwl am stori fysa’n gallu llenwi’r blychau yn y cartŵn yma?
Gwthiodd Twm y siglen nes roedd Lili yn hedfan yn uchel, ond roedd Lili yn dal i weiddi. Roedd hi eisiau mynd yn uwch!
................................................................................................................................
................................................................................................................................
................................................................................................................................
................................................................................................................................
................................................................................................................................
................................................................................................................................
................................................................................................................................
................................................................................................................................
................................................................................................................................
Roedd Lili yn ôl ar y gwair yn chwerthin dros yr ardd - o leiaf roedd hi wedi mwynhau'r antur!
Paid â chwyno o hyd Lili - hishd!
Hwre! Lili isho mynd yn uchel eto!
O! diolch byth! NA! Dwi ddim yn dy wthio di'n uchel eto, rhag ofn!
Bwhw!
Dyna ti!
Uwch! Uwch!
Enw: Andrea MayO Ble? Yn wreiddiol o Gaerffili ond bellach yn byw ac yn gweithio yn Dalian, Gogledd-Ddwyrain China.
Swydd: Pennaeth Addysgol yn y Dalian Royal School.
Sut oedd y Coronafeirws wedi effeithio bywyd yn China?Cafodd y feirws effaith mawr ar fywyd yma yn China. Doeddwn i ddim yn cael gadael y fflat am bythefnos ac roedd Swyddog Diogelwch yn dod â bwyd i mi. Roeddwn yn lwcus iawn fod gen i ffrindiau a chyd-weithwyr oedd yn gallu nôl popeth yr oeddwn ei angen ar fy rhan. Ar ôl i mi gael prawf i ddweud nad oedd y feirws gen i roeddwn yn cael mynd allan. Erbyn hyn rydym yn gallu mynd i lefydd gwahanol ond rhaid i ni gael ‘pass’ sy’n rhoi caniatad i ni ac mae’n rhaid sganio Ap sy’n
dweud nad yw’r feirws ganddon ni.
Dim ond ychydig o bobl sy’n dioddef o’r feirws yn China rŵan felly sut mae pethau erbyn hyn?Mae 'na fwy o ryddid rŵan ac nid yw pethau mor gaeth ac yr oedden nhw, ond mae 'na lawer o bethau nad ydym yn gallu eu wneud ac nid ydy bywyd yn ‘normal’ o bell ffordd.Rydym yn paratoi at fynd yn ôl i’r ysgol ac mae’r adeilad yn cael ei lanhau yn drylwyr. Fe fyddwn yn mynd yn ôl ar amseroedd gwahanol gan mai dim ond 15 o blant fydd yn cael bod mewn un dosbarth ar y tro, oherwydd bod angen cadw digon o le rhwng pawb. Ar hyn o bryd rydym yn dal i ddysgu ar- lein ac mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers 8 wythnos. Mae plant ac athrawon yn awyddus iawn i fynd yn ôl i’r ysgol!
Unrhyw gyngor i ni yma yng Nghymru?I blant mae’n bwysig iawn i gadw’n iach – a hynny yn y corff a’r meddwl! Yma yn China mae plant yn gwneud dau ddosbarth ymarfer corff bob dydd. Mae’n bwysig bwyta’n iach a chael digon o ffrwythau, llysiau a dŵr i yfed. Mae golchi dwylo hefyd yn bwysig iawn.Cadw eich hunain a’ch teulu yn ddiogel yw’r peth pwysicaf, a dal ati i ddysgu. Mae plant yma wedi dysgu drwy chwarae gemau gyda’r teulu a darllen pethau mewn llyfrau ac ar-lein. Mae llawer wedi magu diddordebau newydd fel canu neu chwarae offeryn neu ddysgu Saesneg ac
mae hefyd wedi bod yn bwysig cadw cyswllt efo ffrindiau a theulu. Yma mae plant yn gwneud ymarferion llygaid os ydynt yn gwario llawer o amser yn edrych ar sgrin - efallai y dylai plant wneud hyn yng Nghymru?Cofiwch ei fod yn bwysig cadw’r meddwl yn iach. Mae’n bwysig peidio eistedd o flaen teledu neu gemau fidio drwy’r amser. Ceisiwch gael amserlen o bethau gwahanol ar adegau gwahanol a chofiwch newid o’ch pyjamas yn brydlon yn y bore. Mae’n hawdd iawn bod yn ddiog a cholli ysgogiad ond mae hyn yn gallu effeithio ein hiechyd yn fwy na’r feirws!Daliwch i gredu , ‘daw eto haul ar fryn’. Drwy’r byd rydym yn ymladd y feirws gyda’n gilydd ond mae’n mynd i gymryd amser felly mae angen bod yn amyneddgar. Yn araf bach bydd pethau’n dod yn ôl i ‘normal,’ ond bydd rhywbeth ynddoch chi wedi newid hefyd. Fel plant, mae ganddo’ch chi gyfrifoldeb dros eich hunain ac mae’n rhaid i ni gyd wneud ein rhan!
GWAITH A GYRFAOEDDATHRAWES YN CHINA
3
CerAmdaniCerAmdani
1
'
‘Na, does gen i ddim 'mynedd!'’ Doedd Dafydd ddim wedi dweud y geiriau'n uchel, dim ond eu sibrwd dan ei wynt. Roedd wedi cael llond bol ar fod adre, dim ond yn cael mynd lawr i waelod y ffordd ag yn ôl ers mis bellach. A nawr roedd Mam wedi paratoi rhan o'r ardd, wedi palu a chwynnu, ac wedi creu gardd...wel darn o bridd...yn arbennig i Dafydd. 'Be' am blannu tatws yn fan yma, neu foron, neu flodau os ydi'n well gen ti?' gofynnodd Mam.
'Yn y sied mae gen i datws yn barod i'w plannu ac mae gen i hadau...''Iawn.' atebodd Dafydd yn bwdlyd. Doedd ganddo ddim awydd garddio, doedd ganddo ddim awydd bod allan o gwbl a dweud y gwir, byddai'n well ganddo fynd i'r tŷ i chwarae ar y PlayStation.Roedd Taid yn ffonio Dafydd bod p'nawn i holi beth roedd wedi bod yn ei wneud. Roedd Dafydd wedi addo rhoi bwyd allan i'r adar bob dydd ond roedd wedi anghofio ers wythnos. Doedd yr un aderyn wedi dod yn agos at y bwrdd adar beth bynnag. 'Mae'r adar yn dal angen bwyd 'sti Daf', meddau Taid.'Rhaid i ti gofio rhoi bwyd allan o hyd, paid â gadael y bwrdd yn wag neu bydd yr adar yn mynd i rhywle arall i chwilio am fwyd. ‘Mae’n rhaid i ti ddal ati...' Roedd
yn iawn i Taid ddweud hyn wrth Dafydd. Roedd digon o adar yn dod i ardd Taid a Nain. 'Mi wna i anfon robin goch draw i tŷ chi...' meddai Taid gan chwerthin. Dim ond ochneidio gwnaeth Dafydd - roedd Taid yn dweud pethau twp weithiau.Gwyliodd Dafydd ei fam wrthi'n palu, a theimlodd yn euog. Fe ddylai ei helpu. Aeth i'r tŷ i chwilio am rhywbeth i'w fwyta ond dim ond dwy gacen oedd ar ôl yn y tun. Aeth â diod o ddŵr allan i Mam, a'r ddwy gacen.'Diod Mam!' galwodd. Rhoddodd y cacenni i lawr ar y gwair wrth ymyl y darn pridd, lle'r oedd Mam wedi bod yn palu.
'Diolch Daf!' Daeth Mam draw i eistedd ar y gwair. 'Mi ges i ymwelydd ‘sti...' meddai Mam a throi i bwyntio at y pridd, 'O wel, mae wedi mynd...roedd yna robin goch yn fy helpu, ac yn bwyta mwydod. Wnest ti roi hadau ar y bwrdd adar heddiw Dafydd?''Na, anghofies i.' Trodd Dafydd i estyn am ei gacen - edrychodd dau lygad bywiog du arno, roedd llond ei big o gacen.'Hei!' galwodd Dafydd. Hedfanodd y robin goch i ben y bwrdd adar, a'i ben ar un ochr. Yna canodd y ffôn.'Mae Taid eisiau gair eto' meddai Mam cyn troi'n ôl at y palu.
YMWELYDD
ENFYS I GODI CALONMae’n braf iawn gweld enfys yn ffenestri pobl, fel arwydd y daw pethau’n well ac i ddangos ein gwerthfawrogiad o weithwyr y GIG. Dyma syniadau digon syml am rai y gelli di eu gwneud gyda phethau sydd gen ti, o bosib, yn y tŷ'n barod.
• Papur neu gerdyn du
• Papur sidan (tissue paper) mewn
gwahanol liwiau
• Glud, pensil a siswrn
• Llinyn i’w hongian neu diâp
gludiog i’w lynu ar y ffenest
Byddi di angen:
ENFYS 1CALON FFENEST LIW:
Gwna siâp calon ar bapur neu gerdyn du a gwna galon ychydig yn llai y tu mewn iddo. Torra'r galon allan fel bod y tu mewn yn wag.
Torra stribedi o bapur sidan. Rho ychydig o lud ar y papur du a gosod y stribedi ar draws y galon mewn unrhyw gyfeiriad.
2
3 Defnyddia siswrn i dorri'r papur sidan oddi ar ochrau’r galon. Os wyt ti eisiau gelli di roi llinyn ar y top i’w hongian.
TUDALEN YCHWANEGOL!Yn y rhifyn unigryw yma o’r Cliciadur mae yna dudalen ychwanegol gyda mwy o syniadau o
weithgareddau i ti. Dos i dudalen 9 i gael gweld.
4
LLWYFANLLWYFAN
Oes gen ti ddiddordeb mewn mymis, pyramidiau a thrysorau hynafol?Dos i’r gwefannau yma i ddysgu mwy am yr Hen Aifft ac i ymweld â llwyth o safleoedd gwahanol:Mae’n bosib gweld y Galerïau Eifftaidd ar daith rithwir y British Museum yn Llundain: https://britishmuseum.withgoogle.com/Neu:Usborne: http://tiny.cc/m851mzTripsavvy: http://tiny.cc/m951mz
Er bod pob Amgueddfa, Theatr a Galeri ar gau oherwydd y Coronafeirws mae’n dal yn bosib gweld celf, hanes a diwylliant y byd heb orfod gadael eich cartref! Mae llawer iawn o amgueddfeydd, galerïau a safleoedd hanesyddol y byd yn gadael i chi ymweld â nhw yn ‘rhithwir’ (virtual) ar eich cyfrifiadur, ffôn neu dabled.Dyma ddewis y Cliciadur o lefydd i ymweld â nhw:
YR HEN AIFFT
Defnyddiwch yr wyddor heirogliffig i ddatrys y neges bwysig gan Y Cliciadur:
AMGUEDDFA ANNE FRANK YN AMSTERDAM
Mae’n bosib mynd ar daith rithwir o amgylch y fflat neu’r ‘annex’ ble roedd Anne yn cuddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd a ble ysgrifennodd ei dyddiadur enwog.https://www.annefrank.org/en/anne-frank/secret-annex/Mae hanes Anne Frank yn Rhifyn 9 tud 7.
Y FATICAN A CHAPEL Y SISTINE YN RHUFAIN
http://tiny.cc/2k91mzFel arfer mae 'na 25,000 o bobl yn ymweld â Chapel y Sistine bob dydd i weld y to anhygoel a gafodd ei beintio gan yr artist enwog Michelangelo. Dyma gyfle i ti ei weld heb orfod talu, na chiwio na’i rannu gyda miloedd o bobl eraill!
WYDDOR HEIROGLIFFIG YR EIFFTIAID
Dyma ran enwog o’r darlun ble mae Duw yn creu Adda. Hwn yw un o’r delweddau mwyaf enwog yn y byd!Mae Capel y Sistine yn y Fatican yn Rhufain. Yma mae’r Pab yn byw ac mae’n defnyddio'r Capel ar gyfer gwasanaethau pwysig. Peintiodd Michelangelo y llun anferthol yma (sy’n mesur 14m x 40m) rhwng 1508 a 1512 ac roedd yn hynod o anodd ei beintio gan fod yn rhaid i’r artist orwedd ar ei gefn ar lwyfan uchel neu sefyll yn peintio gyda’i freichiau uwch ei ben!
TŴR EIFFEL,PARIS
WAL FAWR CHINA
http://tiny.cc/laa2mzDyma dy gyfle i ddringo’r tŵr enwog gafodd ei ddylunio gan Gustav Eiffel a’i agor ym 1889. Wyt ti’n ddigon dewr i ddringo dros 300m?
http://tiny.cc/gua2mzBeth am gerdded ar hyd Wal Fawr China? Nid yw’r wal yn un darn hir ond yn llawer o ddarnau llai, yn 21,196 km i gyd, gyda rhannau ohono yn 2,500 oed! Fel arfer mae dros 10 miliwn o bobl yn ymweld â’r wal bob blwyddyn.
AMGUEDDFEYDD CYMRU:
Gallwch ymweld â phob un o’r 7 Amgueddfa Genedlaethol yng Nghymru drwy ddilyn y linc: https://bit.ly/2yhMIcS
AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD
SAIN FFAGAN AMGUEDDFA WERIN CYMRU
AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y GLANNAU
BIG PIT AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU
AMGUEDDFA LECHI CYMRU
AMGUEDDFA WLÂN CYMRU
AMGUEDDFA LLENG RUFEINIG CYMRU
Phot
o co
llect
ion
Ann
e Fr
ank
Hous
e, A
mst
erda
m
A B C Ch D E
Ff G H I J L
LL M N O P R
S Si T U W Y
Diolch i Gareth Roberts,University of Pennsylvania
https://www.annefrank.org/en/anne-frank/secret-annex/https://www.cynnal.co.uk/cliciadur/papurau/rhifyn_9/index.html?p=7
PWYSO A MESURBE GA' I WNEUD HEDDIW?
5
ANTI DOT YN DWEUD Mae'n amser rhyfedd i bawb ar hyn o bryd, a ninnau ddim yn cael mynd i'r ysgol na chyfarfod ein ffrindiau. Dyma ambell beth i gofio:
Paid â bod ofn!
Mae'r pump plentyn yn gorfod aros adre o'r ysgol, ac mae'n anodd meddwl am rywbeth i'w wneud trwy'r dydd. Fedri di ddod o hyd i beth mae pob un yn mwynhau ei wneud fwyaf?1. Mae John yn mwynhau darllen yn fwy
na dim arall.2. Mae Mari a Beth wedi cael llond bol ar
y PlayStation. 3. Mae Cai yn hoffi coginio neu ddarllen.4. Beth sy'n mwynhau crefft fwyaf o'r
plant.
John
Math
Cai
Mari
Beth
PlayStation Adeiladu den Darllen Crefft Coginio
CROESAIRY GWANWYN
Mae teimlo'n bryderus weithiau yn normal, cofia siarad gyda dy rieni neu'r bobl sy'n gofalu amdanat ti am dy deimladau. Mae siarad yn bwysig!
Ceisia fynd i'r gwely a chodi tua'r un amser bob dydd. Paid â threulio pob diwrnod mewn pyjamas!
Mae'n bwysig cael awyr iach. Er nad wyt ti'n cael mynd yn bell o dy gartref, cofia fynd allan i'r ardd, neu am dro, ar dy feic neu i redeg gyda dy deulu os gelli di.
Cynllunia dy amser.Beth am rannu'r diwrnod neu'r wythnos yn gyfnodau. Felly bydd gen ti bethau gwahanol i'w gwneud o hyd.Cofia gael cyfnod i:• ymlacio• chwarae• dysgu• gwneud ymarfer corff
Atebion ‘Be ga’i wneud heddiw’: John:Darllen Math: PlayStation Cai: Coginio Mari: Adeiladu den Beth: CrefftAtebion y Croesair : Ar draws: 4. grifft 6. clychaurgog 9.penbyliaid 10.wennolI lawr: 1.mawrth 2. prancio 3.blagur 5.draenog 7.cenninpedr 8.wigNeges Heirogliffig: Aros adre i arbed bywydau
1 2
3
4
5
6
7
8
9 10
Ar draws3. Creadur pigog sy’n deffro yn y gwanwyn ar ôl gaeafgysgu (7)5. Gair am neidio neu chwarae gan oen bach (7)6. Babis llyffantod neu frogaod (10)8. Blodau glas/piws sydd i’w gweld tua diwedd Ebrill a Mai (7,3)9. Blodyn neu ddeilen heb agor ar goeden (6)
I lawr1. Blodyn Cenedlaethol Cymru (6,4)2. Côr y ........ yw pan mae’r adar yn canu ar doriad y wawr (3)4. Un .................... ni wna wanwyn (6)7. Mis cyntaf tymor y gwanwyn (5)10. Wyau llyffant neu froga (5)
TI’N SEREN!MAGI GLWYS THOMAS
6
DAN Y CHWYDD WYDR
MYND MEWN CYLCH!Mae'r gwanwyn yma, ac mae byd natur wedi hen ddeffro ar ôl misoedd y gaeaf. Mae pob anifail a chreadur yn rhan o gylchred fywyd. Os oes gen ti bwll dŵr neu nant fas yn ymyl y tŷ edrycha i weld os oes penbyliaid yno. Nawr yw'r amser i'w gweld.
Dyma gylchred fywyd y llyffant a'r broga -
12
34
5
1 Grifft Mae'r llyffant ar broga yn dodwy wyau mewn dŵr bâs, neu fannau llaith, dyma'r grifft. Byddant yn dodwy llawer iawn o wyau gan y fod nifer fawr ohonynt yn cael eu bwyta gan greaduriaid eraill neu'n cael eu difetha.
2 PenbyliaidAr ôl tua mis bydd y penbyliaid yn deor o'r wyau. Maen nhw'n fach iawn i ddechrau ac yn glynu mewn darnau o wair o dan y dŵr. Yna maen nhw'n defnyddio eu cynffonau i symud ac yn bwydo ar algi. Maent yn anadlu o dan y dŵr.
3 Tyfu coesauAr ôl tua 6 wythnos, bydd coesau yn ymddangos, y ddwy goes ôl i ddechrau, yna'r ddwy goes flaen. Ond mae'r gynffon yn aros am ychydig eto i'w helpu i symud.
4 Datblygu ysgyfaintBydd y penbyliaid erbyn hyn yn fwy tebyg i lyffant neu froga bach, ac yn dod i wyneb y dŵr i anadlu. Bydd y gynffon yn diflannu hefyd.
5 Broogga, broogga!Erbyn tua 12 wythnos mae'r llyffant neu'r broga bach yn barod i adael y dŵr. Bydd yn chwilio am gymar, yn dodwy grifft ei hun, a bydd y cylch bywyd yn dechrau eto!WAW! Mae natur yn wych!
Cofia – paid â mynd yn bell o'r cartref – chwilia mewn pyllau pan fyddi di’n cael mynd allan am ymarfer corff. Bydda’n ofalus wrth ymyl dŵr.Covid-19
Ffrind yn yr ardd.Mae'r garddwr yn croesawu llyffant a brogaod i'r ardd gan eu bod yn bwyta malwod a gwlithod.
Teulu: AmffibiadPwysau: tua 20gHyd oes: 5-10 mlynedd
Dyma Hanes Magi o Ben Llŷn a sut mae hi’n ymdopi gyda’r sefyllfa ar hyn o bryd o orfod aros adref.Pa fath o bethau wyt ti’n wneud i lenwi’r diwrnod?Rydw i wedi cychwyn rhedeg o gwmpas y pentref gyda Mam a Beti fy chwaer. Mi fyddwn ni’n mynd bob yn ail diwrnod ac yn ceisio curo ein hamser diwethaf bob tro. Mae gen i dair chwaer ac un brawd ac rwy’n treulio llawer o’r diwrnod yn chwarae gyda phawb. Rydw i’n ymarfer carati oherwydd fy mod yn gweithio tuag at fy melt brown a gwyn. Ambell dro byddaf yn helpu mam a dad yn y tŷ a’r ardd. Os rwy’n gwneud gwaith da byddaf yn cael arian bach ac mae hyn yn helpu i mi gynilo. Rydym hefyd wedi bod yn cerdded milltiroedd fel teulu wrth fynd am dro.
Wyt ti’n dal i fyny efo dy waith ysgol? Sut?Gan fod pump ohonom angen gwneud gwaith ysgol mae gan bawb ei gyfnod ar y cyfrifiadur. Bydd Mam yn argraffu rhai o’r tasgau i mi gael gwneud wrth fy nesg yn fy llofft hefyd. Dw i’n treulio llawer o amser yn darllen hefyd. Bob bore o’r wythnos ysgol bydd Dad yn rhoi gwers ymarfer corff i ni gyd yn yr ardd. Mae hynny’n hwyl!Sut wyt ti’n cysylltu gyda dy ffrindiau a dy deulu?Ar ôl llwyddo cael nain a taid i ddeall ‘FaceTime’ rydym yn gallu siarad a gweld nhw’n ddyddiol, ac aelodau eraill o’r teulu yn rheolaidd hefyd. Rhyw ddwywaith yr wythnos dw i’n cael ‘face time’ gyda Cadi, fy ffrind o’r ysgol. Rydym hefyd yn gyrru lluniau i wahanol aelodau o’r teulu.
Pethau sy’n dda am y sefyllfa...Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ddewis dillad gwahanol i’w gwisgo bob diwrnod! Mae cael bod adref a threulio amser gyda’r teulu yn grêt ac mae’n braf cael amser i gael sgwrs wrth y bwrdd bwyd, i gerdded yn bell a chwarae gemau bwrdd. Rwyf wedi cael amser i fraslunio a pheintio, defnyddio fy mhecyn blodau sych a chwarae’r piano. Mae’r tywydd braf wedi gwneud y sefyllfa’n bositif. Rydym wedi treulio oriau’n chwarae yn yr ardd bob dydd a chadw’n heini.
Pethau sy’ ddim mor dda...Rhan amlaf byddaf yn nofio bedair gwaith yr wythnos. Oherwydd y sefyllfa ar y funud does dim posib i mi wneud hyn ac rwyf yn ei golli’n fawr. Rwyf yn ddisgybl Blwyddyn 6 ac mae’r syniad fy mod ddim yn cael mynd yn ôl i Ysgol Edern i ffarwelio yn iawn yn drist ofnadwy. Mae gennyf lawer o atgofion melys y buaswn yn hoffi cofio gyda fy ffrindiau ac athrawon ar y diwrnod diwethaf yno. Yn ogystal rwyf fymryn yn bryderus ac ofnus fy mod yn methu'r camau sydd yn fy mharatoi cyn cychwyn yr Ysgol Uwchradd. Mae gas gen i feddwl ein bod wedi methu allan ar y trip i Gaerdydd mis Mai, mae hynny’n siom fawr.Mae dau beth negatif arall am y sefyllfa sef fy mod yn colli gweld fy ffrindiau a theulu a bod Mam a Dad yn ffeindio hi’n anodd cael slot ‘home delivery’ Asda i gael pitsa i mi bob dydd Mawrth!!!
7
GWIBIO TRWYAMSERGWIBIO TRWYAMSER
500: Dewi Sant (Rhifyn 1)1136: Cestyll Cymru (Rhifyn 3)1859: Trychineb Y Royal Charter (Rhifyn 8)1867-1934: Marie Curie (Rhifyn 7)1912: Cyrraedd Pegwn y De (Rhifyn 6)
1914: Cadoediad Dydd Nadolig yn y ffosydd y Rhyfel byd 1af (Rhifyn 5)1942-1945: Anne Frank (Rhifyn 9)1948: Sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd (Rhifyn 4)1960au: Chwyldro’r Chwedegau (Rhifyn 2)1af Tachwedd: Calan Gaeaf
Nadolig: Traddodiadau’r Nadolig (Rhifyn 11)Dŵr yn dy wneud yn well (Rhifyn 12)Anifeiliaid Arwrol (Rhifyn 13)
ERTHYGLAU A DYDDIADAU MEWN RHIFYNAU BLAENOROL O'R CLICIADUR
BETSI CADWALADR
Mae 7 Bwrdd Iechyd yng Nghymru, maen nhw'n rhan o Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG Cymru).Mae 3 o'r byrddau wedi eu henwi ar ôl pobl arbennig sef - Bwrdd Iechyd Aneirin Bevan, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Ond pwy oedd y bobl hyn?
BYRDDAUIECHYDCYMRU
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofalu am iechyd pobl Gogledd Cymru.
HYWEL DDA Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gofalu am iechyd pobl Gorllewin Cymru.
ANEURIN BEVAN Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gofalu am iechyd pobl De- Ddwyrain Cymru.
Clicia yma am hanes Aneurin Bevan yn Rhifyn 4 Y Cliciadur
Allan trwy ffenestr y llofft!Roedd ei thad yn gwrthod gadael i Betsi fynd allan i
ddawnsio nac i chwilio am antur, felly un noson, pan
roedd pawb arall yn y tŷ yn cysgu, sleifiodd Betsi allan
trwy ffenestr y llofft. I ffwrdd â hi!
Gweld y bydMae sôn iddi grwydro nifer o wledydd y byd gan
gynnwys India, China a'r Ariannin. Ond daeth Betsi yn
enwog pan gyrhaeddodd feysydd Rhyfel y Crimea yn
Nwyrain Ewrop. Erbyn hynny roedd yn wraig 65 oed,
ond roedd yn benderfynol o geisio helpu'r milwyr oedd
wedi eu hanafu yn y brwydro. Gweithiodd yn galed iawn
yno, ac oherwydd ei gwaith yno, rydym yn cofio amdani
heddiw fel nyrs arbennig.
Ffansi Ffaith?Roedd Betsi Cadwaladr yn adnabod Florence Nightingale, gan i’r ddwy wasanaethu yn Rhyfel y Crimea. Ysgrifennodd Florence am Betsi yn ei dyddiadur, gan ei chanmol fel nyrs a chogyddes!
Ffansi Ffaith?Hywel Dda yw'r unig frenin neu dywysog Cymreig o'r Oesoedd Canol sydd wedi ymddangos ar ddarn o arian.
Brenin o'r ddegfed ganrif oedd Hywel ap
Cadell, neu Hywel Dda. Erbyn 942 AD roedd
yn teyrnasu Cymru gyfan ac eithrio
Morgannwg a Gwent. Roedd yn cael ei gyfrif
yn frenin doeth, ac rydym yn cofio amdano
heddiw am ei ddeddfau sef Cyfraith Hywel
Dda.
Cyfarfod pwysigYn ystod teyrnasiad Hywel Dda, bu cyfarfod
arbennig iawn yn Hendy Gwyn ar Daf. Daeth
nifer o bobl ddylanwadol Cymru at ei gilydd
i drafod a chreu deddfau ar gyfer y wlad.
Mae'r deddfau yn cael eu cyfrif yn ddiddorol
gan haneswyr, oherwydd eu bod yn
wahanol i ddeddfau Lloegr o'r un cyfnod.
Un enghraifft oedd deddf etifeddu tir -• pan fyddai'r penteulu (y tad fel arfer) yn marw, yna byddai pob un o'r meibion
yn cael rhan o'r tir. Byddai'r mab ieuengaf yn rhannu'r tir, ac yna'r brodyr eraill
yn cael dewis, gan gychwyn gyda'r brawd hynaf. Roedd hyn yn wahanol i'r
gyfraith yn Lloegr, gan mai dim ond y mab hynaf oedd yn etifeddu tir yno.
Cafodd Betsi ei geni yn y Bala yn
1789, roedd yn un o 15 o blant, a bu
farw ei mam pan oedd yn blentyn.
Roedd Betsi eisiau bod yn nyrs,
ond yn yr oes honno nid
oedd yn hawdd i ferched
ddilyn gyrfa. Roedd tad
Betsi am iddi aros adre i
ofalu am y cartref. Ond roedd
Betsi yn casáu bod yn sownd
yn y tŷ - roedd hi am gael antur.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Betsi Cadwaladr
University Health Board
https://www.cynnal.co.uk/cliciadur/papurau/rhifyn_4/index.html?p=7
8
Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar ddydd Llun 15fed Mehefin. Cofia gysylltu drwy e-bostio [email protected] - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.
TRYSORAU CYMRU
WWW.TOKYO2020OFFICIAL.COM
FFEITHIAUFFABY GEMAU OLYMPAIDD
Mae Gemau Olympaidd Tokyo 2020 wedi eu gohirio oherwydd y Coronafeirws. Dyma rai ffeithiau efallai nad oeddet ti’n eu gwybod am y Gemau Olympaidd.• Mae’r medalau aur wedi eu gwneud o arian! Ers 1912 mae pob medal aur wedi ei wneud o arian gyda haen denau o aur drosti.
Byddai’n costio gormod o arian i’w gwneud o aur yn unig.
• 2020 yw’r 4ydd gwaith i’r gemau Olympaidd beidio â chymryd lle. Cafodd y gemau eu canslo oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1916 ac oherwydd
yr Ail Ryfel Byd ym 1940 a 1944.
• Roedd athletwyr yn y Gemau Olympaidd hynafol yn cystadlu yn noeth! Dynion oedd y cystadleuwyr i gyd ac nid oeddynt yn gwisgo unrhyw ddillad o
gwbl.
• 10 oed yw cystadleuydd ieuengaf y Gemau Olympaidd. Roedd Dimitrios Loundras yn cystadlu mewn gymnasteg yn y gemau yn Athens
ym 1896. Marjorie Gestring, 13 oed, yw'r ieuengaf erioed i ennill medal aur.
• Dim ond un person sydd wedi ennill medal aur yn ngemau'r Haf a'r Gaeaf. Ym 1920 enillodd yr Americanwr Eddie Eagan fedal aur am focsio yn y Gemau Haf
ac yna yn ddiweddarach enillodd fedal aur am gystadleuaeth bobsled yng
ngemau'r Gaeaf ym 1932.
• Gemau Olympaidd Tokyo 2020. Er bod y gemau wedi eu gohirio tan 2021, byddant yn dal i gael ei galw'n Gemau
Olympaidd Tokyo 2020.
Diolch i’r holl bobl sy’n ein helpu yn ystod y cyfnod anodd yma. Dyma rai o’n harwyr!
Catrin Elin Owen sydd yn Feddyg Sylfaen yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ond dros dro yn Hafan Iechyd, Caernarfon.
Staff Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli
Dyma Siop a Swyddfa Post ym Mhentre Llanrhaeadr. Mae’n bosib archebu bwyd a nwyddau dros y ffon neu’r We a gall y staff eu cludo i bobl sydd ddim yn gallu dod allan i’w nol. Mae’r siop yn gwerthu llawer o gynnyrch lleol ac felly yn cefnogi busnesau lleol. Diolch i siopau bach fel hyn am ddarparu gwasanaeth mor bwysig, a diolch i’r staff am eu gwaith caled.
Betsan Haf Morris sy’n nyrs yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Gofalwyr Cysgod y Coleg, Bala.
Staff Ysgol Tirdeunaw, Abertawe.
WWW.TOKYO2020OFFICIAL.COM
9
• Stribedi o bapur mewn lliwiau gwahanol. (Mae’r
Cliciadur wedi defnyddio stribedi A3 ond mae
unrhyw faint yn iawn)
• 2 x siâp cwmwl wedi ei dorri o bapur neu
gerdyn gwyn. Cofia wneud y cwmwl yn ddigon
llydan i ffitio’r stribedi papur!
• Siswrn, pin ffelt a glud.
• Llinyn i’w hongian (does dim rhaid i ti gael hwn)
Byddi di angen:
MWY O SYNIADAU ENFYS I GODI CALONENFYS 2CWMWL:
Os nag oes gen ti bapur lliw yn y tŷ gelli di liwio neu beintio darn o bapur A4 a’i dorri’n stribedi. Does dim rhaid i ti gael 7 lliw gwahanol chwaith – gelli di gael 3 neu 4 a’u hail-adrodd.
Dull:Gluda'r stribedi mewn rhes ar hyd un siâp cwmwl a gluda'r cwmwl arall ar ei ben. Gelli di wneud llun wyneb hapus ar un ochr y cwmwl ac os wyt ti eisiau gelli di ei hongian gyda darn o linyn.
• Stribedi o bapur mewn lliwiau gwahanol.
• Rholyn cardfwrdd (tu mewn papur tŷ-bach
neu bapur cegin)
Byddi di angen:
ENFYS 3RHOLYN CARDFWRDD:
Dull:Gluda'r stribedi mewn rhes ar hyd un siâp cwmwl a gluda'r cwmwl arall ar ei ben. Gelli di wneud llun wyneb hapus ar un ochr y cwmwl ac os wyt ti eisiau gelli di ei hongian gyda darn o linyn.
Dull:Gwneud cadwyni papur drwy ludo stribedi papur mewn cylchoedd. (Wyt ti’n cofio barf Siôn Corn yn Rhifyn 11?) Mae’r Cliciadur wedi gwneud 8 cylch yn y gadwyn fyrraf a gwneud pob lliw arall un cylch yn fwy. Gelli di ddewis pa mor hir i wneud pob cadwyn - does dim ots! Bydd angen rhoi'r cadwyni ar ffon i’w hongian.
TUDALEN YCHWANGEOL!
• Stribedi papur mewn lliwiau gwahanol
• Ffon a darn o linyn i’w hongian.
Byddi di angen:
ENFYS 4CADWYNI PAPUR:
Tip:
Uwchgylchu darn o sbwriel i greu rhywbeth newydd.
Defnyddio teganau i greu sioe ddychmygol i’r teulu.
Defnyddio Ap fel Zing neu Stickbot i wneud animeiddiad.
Adeiladu rhywbeth gwych allan o Lego.
Creu darn o gelf y tu allan gan ddefnyddio pethau naturiol fel dail, brigau a cherrig.
Adeiladu cuddfan (den) tu mewn neu du allan.
Actio stori draddodiadol e.e. Elen Benfelen, Jac a’i Goeden Ffa.
Creu neu adeiladu rhywbeth i ddenu bywyd gwyllt e.e. gwesty trychfilod, bwyd i’r adar.
Chwilio am 5 arwydd o’r Gwanwyn e.e. planhigion, adar. Gwneud rhestr neu dynnu llun ohonynt.
Chwilio am 5 o drychfilod e.e. malwen, chwilen. Gwneud rhestr neu dynnu llun ohonynt.
Chwilio am ddarn o gerddoriaeth a gwneud dawns. Ymarfer a pherfformio'r ddawns.
Creu llyfr bach neu boster gyda lluniau a gwybodaeth am anifail neu aderyn.
Gwneud awyrennau o bapur a chynnal cystadleuaeth y tafliad pellaf.
Dyfeisio rhywbeth newydd e.e. peiriant gwneud brecwast neu esgidiau hedfan. Gwneud diagram, wedi ei labelu, o’r ddyfais.
Creu cwrs rhwystrau yn y tŷ neu’r ardd. Amseru aelodau o’r teulu i weld pwy yw’r cyflymaf.
BETH AM FYND ATI I GREU BLWCH AMSER?
1 2 3 4 5
6 7 8 9 10
11 12 13 14 15
TEIMLO’N DDIFLAS? DIM BYD I’W WNEUD? DYMA 15 HER HWYLIOG I DY GADW’N BRYSUR:
Beth ydi blwch amser?Blwch i roi pethau sy'n cynrychioli dy fywyd ynddo. Gall fod yn flwch, yn botel blastig, neu'n fag - ond bydd yn rhaid iddo ddal dŵr, neu bydd y pethau rwyt ti wedi eu dewis yn difetha.
Lle ddylwn i ei roi?Mae rhai pobl yn claddu'r blwch yn yr ardd, neu os nad oes
gardd, medri ei roi ar silff, yn yr atig, yn y seler, neu unrhyw le nad wyt ti'n ei weld yn aml - o dan dy wely hyd yn oed!Efallai, yn y dyfodol pell, bydd rhywun arall yn dod o hyd i dy flwch amser di ac yn dod i ddeall mwy am ein bywyd ni nawr. Neu efallai mai ti dy hun fydd yn ei agor pan fyddi di'n hen!
Beth ddylwn roi ynddo?Gei di ddewis! Rho bethau sydd yn rhoi cliwiau am dy fywyd di nawr ynddo. Dyma rai syniadau:• lluniau• llythyr yn sôn am - - hoff lyfr, cerddoriaeth, ffilm, - hoff fwyd - chwaraeon - dy deulu - beth wyt ti'n wneud yn dy
amser hamdden - pethau sy'n digwydd yn dy
fywyd
• papur newydd yn cynnwys straeon heddiw
• rhywbeth rwyt ti wedi ei wneud• rhywbeth rwyt ti wedi gorffen ei
ddefnyddio ond fydd yn dweud rhywbeth am ein bywydau heddiw e.e. hen oriawr neu degan.
Rhifyn_14_CYM_T1Rhifyn_14_CYM_T2Rhifyn_14_CYM_T3Rhifyn_14_CYM_T4Rhifyn_14_CYM_T5Rhifyn_14_CYM_T6Rhifyn_14_CYM_T7Rhifyn_14_CYM_T8Rhifyn_14_CYM_T9