Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Bwletin Llên Natur Golwg newydd ar y byd o’n cwmpas
Rhifyn
26Ebrill 2010
modd penderfynu drwy symudiadau'r nodwydd - "Fel hyn,"
meddai'r artist, "y byddai teuluoedd ffermydd o gwmpas fy
nghartref yn penderfynu p'run ai ceiliog ynte iar fyddai'r cyw
yn yr wy."
Y Bras Bach yw'r lleiaf o'r holl dylwyth, yn mesur rhyw
13cm. Mae ei liwiau o frown a du yn ei wneud yn anodd i'w
weld a gellir yn hawdd fethu a gwahaniaethu rhyngddo a
Bras y Cyrs (Reed Bunting). Bu'r aderyn fyw am yn agos i
ddwy flynedd mewn adardy yng nghwmni rhai adar eraill. Yr
ydym yn ffodus iawn ym Môn fod y Cyngor Sir wedi
cynhyrchu llyfr rhyfeddol gyda'r teitl Adar Mon gan Peter
Hope Jones a Paul Whalley - llyfr dwyieithog gwerth chweil
yn llawn o ffeithiau adaryddol. Fe gofnodir ynddo ddarganfod
y Bras Bach hwn yn Llanddeusant, ynghyd ag un record arall
ar Ynys y Moelrhoniaid ar 25 Medi 1961. Aderyn arall o'r un
teulu yw'r Bras Melyn (Yellow Hammer) ond wrth yr enw
'Dinas Felen' y byddwn ni yn ei adnabod”.
O lygad y ffynnonYm Mwletin 19 adroddwyd y stori hon gan Wil Evans yn ail
law. Dyma fynd i lygad y ffynnon, sef papur bro Y Glorian
2010, a chael ei adroddiad cyflawn o’r digwyddiad: “Bore oer
iawn oedd hi ar 8fed lonawr, 1957 a minnau'n trafeilio o
Langefni i gyfeiriad Llanfaethlu pan welais aderyn bychan
mewn trafferthion ar fin y ffordd; sylweddolais yn syth bin bod
un adain wedi derbyn niwed go arw. Bum allan o hydion yn
ceisio ei ddal, ac wedi llwyddo, ei osod yn ofalus mewn bocs
bychan i fynd ag o adra. Roedd un adain yn hongian yn llipa
o'i ochor a sylweddolais ei fod yn un o deulu'r Brasiaid
(Buntings) ond ni allwn benderfynu'n siwr pa un ohonynt.
P'run bynnag, adref a ni a gosod y 'deryn mewn cawell
pwrpasol gan ofalu fod ganddo fwyd a diod mewn lle cyfleus.
Aeth rhai dyddiau heibio cyn i mi benderfynu dangos y 'deryn
i'm cyfaill T. G. Walker, Ysgol Henblas, yntau wedyn yn fy
siarsio i'w ddangos i Charles Tunnicliffe, yr artist
adnabyddus oedd yn byw ym Malltraeth. Drannoeth, es i
weld yr artist a'i wraig Winnie yn 'Shorelands', Malltraeth.
Doedd yr un o'r ddau wedi gweld y math hwn o dderyn o'r
blaen a mawr oedd eu diddordeb ynddo. Penderfynwyd fod
rhaid creu llun ohono a gadewais ef ym Malltraeth am
ddiwrnod neu ddau er mwyn i'r artist enwog gofnodi llun
ohono. Daethant i'r penderfyniad fod un adain wedi ei thorri'n
ddrwg iawn ac mai'r Bras Bach oedd yr aderyn dan sylw, ac
nad oedd yr un o'r ddau wedi gweld un erioed o'r blaen.
Gwnaethpwyd lluniau o'r aderyn prin. Pan elwais i gyrchu'r
deryn yn ôl, dywedodd Tunnicliffe ei fod wedi cario allan hen
arferiad cefn gwlad ei gartref yn Sir Amwythig i geisio
penderfynu rhyw y deryn bach. Defnyddiwyd nodwydd ddur
gyffredin a'i hongian wrth edau dros y deryn. Dywedodd bod
Cymdeithas Edward Llwyd: Rhif Elusen Gofrestredig : 1126027 Ychwanegwch ddeunydd i [email protected] Golygydd: Duncan Brown, Cysodi: Ifor Williams.
siglen lwyd, siglen las, brith y fuches llwyd, tinsigl lwyd, sigldin lwyd, shigwti lwyd, gwingdin y dwr, sigldin y gwys, brith y fuches,
sigl-i -gwt, sigldin y gwys, tinsigl brith, brith yr oged, sigwti fach y dwr, siglen, brith yr had, llwyd y baw, pioden fach yr afon.
Dyma rhai o’r enwau a gasglodd Dewi Lewis ar gyfer ei ddwy gyfrol Enwau Adar a Rhagor o Enwau Adar a gyhoeddwyd
gan Wasg Carreg Gwalch yn 1994 a 2006. Mae nhw mewn print o hyd. Pa rai sy’n perthyn i’ch ardal chi?
Siglen Lwyd ar Afon Ffyddion
yn Niserth, 12 Chwefror 2010.
Eifion Griffiths
Siglenni Eifion ac Alun
Siglen Fraith Ardal Llyn
Brenig, 13 Mehefin.
Alun Williams
Dyma garreg fedd i gi o'r enw Clwyd...
...a fu farw ym 1849 ar dir Castell y Waun, ger Wrecsam.
Sylwer ar y mwsog yn tyfu o fewn y llythrennau. Dwi'n siŵr
bod y ci hwn wedi cael mwy o barch gan yr arglwydd na'r
gweision a fu'n ei fwydo. Llun a sylw gan Gwyn Williams
Symbylu da...eto“Ymddengys fod rhyw berthynas neilltuol rhwng y
gerdinen a da corniog. Clywais rai yn dywedyd
flynyddoedd yn ôl yn sir Gaerfyrddin mai â gwialen
gerdinen y dylid gyrru da; na wnâi cerdinen ddim gadael
gwrym ar groen anifail corniog er ei daro'n galed â hi. Ond
â ffon onnen yn gyffredin y gyrrir da i'r ffair, ac am yr onnen
y mae traddodiad yn nwyreinbarth y sir na wna ddim
niwed i'r creadur”. Cofnod o wefan Llên Natur
Gornchwiglen a’r dylluanYn ôl rhyw hen
chwedl, roedd y
gornchwiglen yn arfer
nythu yn y coed fel
adar eraill... a'r dylluan
(twyll-Lleu, o chwedl
Blodeuwedd) yn nythu
ar y llawr. Un diwrnod
perswadiwyd y
gornchwiglen gan y
dylluan i gyfnewid eu
llefydd nythu, ac felly y
bu. Ond yn fuan iawn
fe welodd y
gornchwiglen ei bod
wedi gwneud
camgymeriad mawr...
ac ers hynny mae hi yn gweiddi ar y dylluan i newid nôl -
'NEWID, NEWID' yw ei chri. Sion Roberts
Mwy o enwau Dewi: hen het, cornicyll, gwae fi (fel pee-
wit y Saesneg), criglen y gornwich, chwilgorn y gwynt,
Cwymp ac imp y dailManon Lewis ar Galwad Cynnar bore 6 Mawrth 2010 yn
son bod blinder y corff yn dilyn "cwymp ac imp y dail" yn
ôl ei nain o ardal Carreglefn, Môn.
Nadroedd brithionSiaced hud o grwyn
nadroedd In looking up
another word in
Chambers' Scots
Dictionary I came across
a word which might just
have the most specialised
meaning in any language:
warlock-fecket, 'a magic
jacket woven from the
skin of water-snakes at a
certain period of a March
moon'. The existence of
this word is a reminder
that, contrary to common
belief the grass-snake or
water-snake does in
Britain occur sporadically
in Scotland (and in
northern England), not only in the south of England -
though of course famously not in Ireland where there are
no native snakes. Refererences in Gaelic place-names to
nathair may be to this snake which likes shallow water and
wetland for feeding and dry warm slopes for nesting, and
not necessarily to the adder which keeps to the dry
ground. It is tempting to see an inflated reference to Natrix
natrix, usually larger than the adder, as a possibility for
Scots names such as Drakemyre - 'dragon myre', which
would have been natural habitat for a creature which must
have became much rarer as lowland pools and myres
were drained in recent centuries. Bill Patterson, [email protected]
(diolch i Ifor Williams am dynnu’r sylw i Llen Natur)
Neidr fraith Cwm Gwendraeth Rydym yn byw ym
Mhenbryn, Heol yr Eglwys Gorslas, Llanelli. Tynnwyd y llun
acw yn yr ardd gefn a
chae go wyllt drws nesa -
a digon o wair! [neidr
wair yw enw arall arno].
Cymydog yw'r
ffotograffydd wedi dwli ar
nadroedd - Winsey
Taylor. Mae'r ardd yn
agos i Lyn Llech Owain -
digon o fywyd gwyllt yno.Ken Williams
...a Sain Ffagan Dyma gyw neidr fraith a dynnwyd 23 Tach
1997 yn ngerddi Sain
Ffagan, Caerdydd.
Sylwch ar y dorch felen
am ei wddf - nodwedd
sydd yn rhoi ei enw
amgen “ringed snake” i
hon yn Saesneg. Am
drafodaeth am y dyddiad
hwyr gweler y Bwletin
nesaf. Dewch ag
ychwaneg o gofnodion -
hen a newydd.
G ŵ y l S a n t A m b r o s 1 4 E b r i l l
Sylwch ba mor fawr
yw ei gopa erbyn y
dyddiad hwn. Yn ôl
y gwyn ar blu'r
adain, cyw yn
aeddfedu yw hwn.
Map o
gofnodion y
neidr fraith
yn Nghymru
o gronfeydd
Llên Natur.
Dewch â
mwy atom...
Llun: Eifion Roberts 22 Chwefror 2010,
Morfa Conwy.
O ddyddiadur y WardenGwarchodfa Natur Genedlaethol Allt
y Benglog; 26 Chwefror 2010
SH606238: Yr arwydd cyntaf i mi
weld eleni o flodyn benywaidd collen
ar fin agor [gweler isod]. Cynffonau
ŵyn bach yn gollwng paill wythnos a
hanner yn ôl. Dau dalp o gen Lobaria
pulmonaria [llabed yr ysgyfaint] wedi
disgyn oddi ar onnen fawr. Wedi
gosod un ar fonyn onnen arall
gerllaw, ac am chwilio am gartref i'r
llall adre, er nad yw trawsblaniadau
fel hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn yn fy mhrofiad i.
Lefel pH y rhisgl yn holl bwysig mae'n debyg cyn iddo hyd
yn oed dechrau ystyried cymryd at ei le! Dwi ddim gwaeth
a thrio. Paul Williams, Warden CCGC
Fflamau bach cochion Yn nofel D H Lawrence "Women
in Love" cyfeiriodd Ursula at flodau benywaidd y gollen fel
"fflamau bach cochion".
O Sianel Llên NaturI weld yr ar arlwy newydd ewch i
http://www.llennatur.com/cy/node/136
Drudwennod rhyfeddol Aberystwyth. Ym mha gyfnod
neu flwyddyn y sylwyd cyntaf ar glwydfa ddrudwennod
Aberystwyth. Ewch i Fwletin 4 i weld hanes clwydfeydd
Cymru yn 1933...does dim son amdani'r adeg honno.
Dirgelwch y gwningen Roedd gweld y clip am y
gwningen yn fy atgoffa fi o'r broblem gefais yma am 2-3
blynedd yn ôl. Cwningen yn dod yma o'r cae ac yn tyllu o
dan fy nionod i a phan es i yno wedyn mewn hanner awr
roedd y twll wedi ei gau. Fedrwn i ddim deall beth oedd
yno ar y pryd gan na welais gwningen o gwmpas ond bore
wedyn gwelais y genawes yn tyllu’n union yr un lle a be
ddaeth allan ond 6 o gywion. Fedrwn i ddim credu ei bod
wedi claddu'r rhai bach fel hyn gan na chlywais na gweld
am hyn cynt. Tom Jones
Bydd croeso mawr i’ch clipiau fideo amgylcheddol (llai na 10
munud yr un cofiwch). Mae gennym sianel ar ‘You Tube’ -
cysylltwch os oes gennych gyfraniad.
Llyn Nantlle ISAF
Dyma lithograff gan C. Haghe o’r Wyddfa o lan llyn isaf
Nantlle a ddylunwyd yn 1854. Yn 1884 torrodd y dŵr i
mewn i chwarel Dorothea, ac o’r herwydd, yn 1883
dechreuodd y gwaith o wagio’r llyn. Dyma’r olygfa a
baentiodd Richard Wilson a Turner. Holais yr hanesydd
Dafydd Gwyn: “gwelir ager-beiriant yn codi ar y chwith yn
Nghloddfa’r Lôn, a osodwyd ym 1840-41, a thomennydd
yn ymestyn allan i'r dde. Erbyn arolygiad ordnans 1889,
mae'r llyn wedi mwy neu lai diflannu”.
Pa un o’r ddau lyn gwreiddiol, yr “isaf” a’r “uchaf” yw Llyn
Baladeulyn tybed, a beth yw’r gwahaniaeth rhwng Llyn
Nantlle a Llyn Baladeulyn - os oes gwahaniaeth? Dyma
ddywed Twm Elias: “Mae ‘bala’ yn golygu lle mae afon yn
llifo allan o lyn – fel gweli yn ‘Y Bala’, ac mae’r elfen
‘deulyn’ yn ei leoli rhwng y ddau lyn ’decini”. Felly, priodol
yw gofyn ai rhan o bentre’ Nantlle yw Baladeulyn? Meddai
Wicipedia: “Ar un adeg roedd dau lyn yma, ond gyda
datblygiad y diwydiant llechi sychwyd Llyn Nantlle Isaf i
geisio lleihau llifogydd yng ngweithfeydd Chwarel
Dorothea gerllaw. Mae cysylltiadau â chwedl Math fab
Mathonwy; rhwng y ddau lyn y cafodd Gwydion hyd i Leu
Llaw Gyffes ar ffurf eryr. Yn ddiweddarach, roedd Marged
uch Ifan yn cadw tafarn gerllaw”.
Trychineb arall yn 1884: Ochtertyre, Crieff, 26 Ionawr
1884: An exceptionally stormy week ends today with the
lowest unchallenged pressure reading ever recorded in
the British Isles - 925.6 mbar. A violent gale ensues,
blowing down a million trees on one Scottish estate alone
Woodward A. & Penn R. , The Wrong Kind of Snow (Hodder & Stoughton)
G ŵ y l B a d a r n 1 7 E b r i l l
The clean white Cumulus clouds drifting across Mon against an eggshell blue sky - an early promise of Spring to come after the coldestwinter since 1978-79. The increasing warmth of an early March sun has warmed the ground sufficiently to allow enough convection tobuild cumulus. There is a gentle SW breeze (a rare wind direction in this cold winter, there were only 8 days with SW winds in the wholewinter), and the clouds are moving from left to right. No cloud over the cold Irish sea (too cold for convection currents ), then as the airmoves across Mon the first clouds form, getting bigger and bigger as the ground heats up away from the coast, resulting in a classiccloud street. Tynnwyd y llun gan DB ar y 2 Mawrth 2010. Y sylw gan Huw Holland Jones
Lobaria pulmonariaAbergwyngregin
Gwell marw na ’maedduAu cours d’une
chevauchée, le Roi Breton
Conan Meriadec apercu
dans les roseaux d’une
ruisseau aux abords
fangeux une forme
blanche qui allait et
venaiit. Youenn Kermorgen
(gyda diolch i Dominig Kervegant)
I ddarllen y gweddill yn
Ffrangeg ewch i gronfa
Llên y Pethau Byw ar
ein gwefan a chwiliwch
am Conan Meriadec.
Wrth iddo farchogaeth heibio afon fechan un diwrnod
cafodd sylw Conan Meriadec, Brenin Llydaw, ei dynnu at
anifail bach lliw eira yn yr hesg yn mynd yn ôl a blaen wrth
geisio croesi’r afon. Daliodd Conan ei geffyl yn ôl i edrych,
ac fe welodd y creadur yn ceisio croesi ar frigyn rhy wan
i’w gynnal - ac ymddangosai’n llawn ofn y byddai’n disgyn
i’r llaid. Cododd y creadur ei lygaid fel petai’n dyheu am
gymorth. “Paham y mae cymaint o ofn ar y creadur”
meddai Conan wrth ei gydymaith. “Fy mrenin” meddai,
“ermin yw hwn. Ni chafodd ei frifo - mae arno ofn baeddu
ei ffwr gwyn difrycheulyd yn y baw wrth groesi’r afonig”. “O
Ryfeddod o Burdeb” meddai Meriadec, “mae anrhydedd
yn galw arnaf i’w achub a’i amddiffyn”.
Fel petai’r carlwm wedi deall y sgwrs rhwng y ddau ddyn
ac wedi gwerthfawrogi daioni Conan, rhedodd ar hyd y
fraich yr estynnodd y brenin ato, a chuddiodd ym
mhlygiadau ei fantell. Dan deimlad a chan fwytho’r
creadur bach dywedodd Conan “Fel hyn mae hi am fod,
well gen ti farw na chael dy ddifwyno” “Kentoc’h mervel
eget bezan saotret”. O hyn ymlaen dyma fydd arwyddair y
Llydäwyr, a thithau ermin fach fydd yr ymgnawdoliad byw
ohono”.
Pa chwedl Gymraeg y mae hwn yn eich atgoffa o hono
tybed?
Gwanwyn hwyr
Dyma graff o fesuriadau Dyn Tywydd Llên Natur, Huw Holland
Jones. Cymerodd y mesuriadau 20cm. o dan wyneb y pridd pob
dydd ers 2002. Wrth ymestyn y llinell goch yn ôl i le mae’n
cyffwrdd y llinell felen, meddai Huw, gwelwn fod gwanwyn eleni
bythefnos dda yn hwyrach na’r cyfartaledd o’i fesur wrth godiad
tymheredd y pridd....yn y Waunfawr o leiaf
Eira Ebrill 1908
“4th week of April 1908 - the series of snowstorms which
visited nearly all parts of the British Isles was probably
unprecedented for so late a date in spring. In early afternoon
of 23rd a cold rain gave place to snow and lasted without
cessation for 16 hours.. 24th the country around Herts was
covered with snow to depth of 8" . British Birds 2 1908
23 Ebrill 1908 Snowing at intervals all m[orning]. and
a[fternoon]. Snowing heavily in night. Llyfrau Nodiadau Arthur Lockwood)
Dyma un eryr llwglyd iawn gyfaill...!
Meddai Bill
Weaver, un o
gydnabod yr
a r t i s t - b l o d a u
D o r e e n
Hamilton o Fôn
sydd wedi
dangos ei gwaith
yn y Bwletin fwy
nac unwaith:
“Ever wonder
just how big a
Golden Eagle
is? This should
give you all an
idea”. Tynnwyd y
lluniau gan
heliwr gyda ffôn
symudol fach yn
M o n t a n a ,
Canada yn
ddiweddar. Diolch i’r heliwr, Bill, Doreen,
a Wil Williams am sicrhau
bod y lluniau gwych hyn yn
gweld golau dydd.
Oes gennych
chithau gyfresi o
luniau i rannu ym
Mwletin Llen Natur?
Hen Ŵyl Farc Efengylwr 25 Ebrill
“Arwydd o Eira” gan Gill Brown (2010)
oren cyfartaledd 2002-2009
glas 2009 (y llynedd)
coch 2010 (hyd at 21/3/2010)