Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
1 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau
Cartrefi Cymunedol Cymru
Pecyn Swydd
2 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Gwnewch Wahaniaeth fel ein Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau
Cartrefi Cymunedol Cymru yw'r corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai Cymru. Rydym yn
elusen gofrestredig ac yn cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai a sefydliadau cymunedol
cydfuddiannol dielw sy'n darparu dros 153,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm cyfathrebu prysur a rhagweithiol lle byddwch yn
dylanwadu ar agenda'r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt, yn hybu ymgyrchoedd i
hyrwyddo gwaith y sector a'n haelodau, arwain ar bresenoldeb ar-lein CHC a llunio ffyrdd
arloesol i farchnata digwyddiadau CHC.
Yn y swydd werth chweil a chyflym hon, bydd gennych rôl allweddol wrth ddod ag
ymgyrchoedd CHC yn fyw drwy amrywiaeth o wahanol sianeli. Byddwch yn gweithio gyda'n
haelodau i gasglu astudiaethau achos a hefyd yn gweithio'n agos gyda'n tîm Polisi a
Materion Cyhoeddus i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi ymgyrchoedd CHC.
Gallwch droi set gymhleth o ffeithiau a ffigurau yn naratif cadarn.
Byddwch angen trwyn da am stori a byddwch yn arbenigwr pan ddaw i werthu eich stori i
amrywiaeth o gyfryngau. Gan gysylltu'n rheolaidd gyda gohebwyr a rhanddeiliaid, byddwch
yn gyfrifol am wneud yn siŵr y caiff llais CHC a'r sector ei glywed ym mhob rhan o Gymru a
thu hwnt!
Dyddiad cau Dydd Mawrth 30 Mai 9am
Cyfweliadau Dydd Llun 12 Mehefin
3 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Sut i wneud cais
Llawer o ddiolch am ddangos diddordeb yn y swydd uchod.
Mae'r pecyn swydd yn cynnwys y manylion dilynol:
Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o'r broses
recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich cais yn syth pan y'i derbynnir. Bydd
unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau'n gyfrinachol a dim ond ar gyfer
dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.
Gwybodaeth gefndir ar CHC
Strwythur trefniadol
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd, gofynnwn i chi ysgrifennu cyflwyniad dwy dudalen
sy'n amlinellu pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd a sut yr ydych yn cyflawni’r fanyleb
person yn nhermau sgiliau, profiad ac agwedd. Dylid anfon hyn gyda CV wedi'i nodi'n Preifat
a Chyfrinachol - Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau at:
Borbala Martos Cartrefi Cymunedol Cymru 2 Ocean Way Caerdydd CF24 5TG Neu drwy e-bost gyda Preifat a Chyfrinachol - Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau yn y tab
pwnc [email protected] erbyn 9am 30 Mai. Dylid nodi NA dderbynnir CVs AR
EU PEN EU HUNAIN.
Cynhelir cyfweliadau ar 12 Mehefin yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cyflwyniad maes o law.
Yn gywir iawn
Phillipa Knowles
Cyfarwyddydd Datblygu Sefydliadol ac Adnoddau
4 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau
Cyflog: £27,700 yn codi i £29,158 ar ôl cyfnod prawf 6 mis llwyddiannus +
buddion hael
Adrodd i: Rheolydd Cyfathrebu
Oriau: Llawn-amser - 35 awr yr wythnos
Cysylltiadau
Cymdeithasau tai, gohebwyr mewn ystod eang o gyfryngau, rhanddeiliaid allweddol,
gwleidyddion a chynghorwyr, cyflenwyr allanol, ymgynghorwyr a staff mewnol, bwrdd a
thenantiaid.
Prif Ddiben y Swydd
Arwain ar ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus
blaengar i godi proffil CHC a'r sector a chodi ymwybyddiaeth am faterion allweddol sy'n
effeithio ar aelodau a'u cymunedau, weithiau'n ymwneud â materion sensitif.
Gweithio gyda'r Rheolydd Cyfathrebu ar ddatblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu
integredig ar gyfer CHC yn seiliedig ar flaenoriaethau ein cynllun corfforaethol a'r strategaeth
datblygu busnes.
Rheoli a chynnal cysylltiadau â'r cyfryngau ar draws pob llwyfan, gan sicrhau fod gan CHC
ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol at gysylltiadau cyhoeddus a pherthynas dda gyda
newyddiadurwyr.
Rheoli a chynnal perthynas ardderchog gyda'n haelodau er mwyn cynnal ymgyrchoedd
cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus effeithlon drwy amrywiaeth o gyfryngau.
Llunio ffyrdd blaengar ac wedi'u targedu i farchnata ein digwyddiadau i gynulleidfa eang ar
sail leol, ranbarthol a chenedlaethol.
5 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Rheoli perthynas CHC gyda'r cyfryngau drwy roi'r ymatebion dechreuol i ymholiadau'r cyfryngau, cadw cofnod o ymholiadau a rheoli ac ymateb i geisiadau gan ohebwyr a chysylltiadau eraill yn y cyfryngau yn ogystal ag arwain ar ddatganiadau rhagweithiol i'r wasg. Bydd hyn hefyd yn cynnwys datblygu perthynas gyda chysylltiadau allweddol yn y cyfryngau (ar-lein, radio, teledu a phrint) drwy ddull rhagweithiol ac wedi'i dargedu.
2. Arwain ar weithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus i'r sector. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a gweithredu ymgyrchoedd diddorol, ymchwil a ffurfio negeseuon allweddol a sicrhau eu cefnogaeth, canfod astudiaethau achos a negeseuon blog, ysgrifennu copi ar gyfer datganiadau i'r wasg a chynnwys ar-lein, a delio gyda phob ymholiad cysylltiedig gan y cyfryngau.
3. Gweithio gyda'r Rheolydd Cyfathrebu ar ddatblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu integredig yn seiliedig ar ein cynllun corfforaethol (sy'n cynnwys ein strategaeth datblygu busnes), gan hyrwyddo gwaith da ein haelodau ledled Cymru gyda ffocws ar gyfleoedd rhagweithiol ac ymatebol yn y cyfryngau.
4. Sefydlu perthynas ardderchog gyda'n haelodau ac yn ddilynol ddatblygu cronfa o astudiaethau achos gan ein haelodau i ddod â'n negeseuon allweddol yn fyw.
5. Arwain ar bresenoldeb digidol CHC, gan weithio'n agos gyda'n Swyddog Brand a Dylunio fydd yn cynnwys diweddaru ein sianeli presennol (Twitter, Facebook, LinkedIn, blog, llwyfan podlediad, Yammer, gwefan), ymchwilio defnydd sianeli newydd a gwerthuso ein presenoldeb digidol.
6. Gweithio'n agos gyda thîm Gwasanaethau Aelodau a Datblygu Busnes CHC i lunio ffyrdd blaengar ac wedi'u targedu i farchnata ein digwyddiadau a hyfforddiant fel rhan o'n strategaeth datblygu busnes.
7. Gweithio gyda'r Uwch Grŵp Rheoli i ddatblygu a gweithredu cynllun cyfathrebu argyfwng fydd yn eistedd wrth ochr cofrestr risg CHC.
8. Arwain ar gasglu gwerthusiad sylw yn y wasg, ymgyrchoedd a'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer adroddiadau rheolaidd, a rhannu ar sail amserol gyda staff a bwrdd CHC.
9. Gweithio gyda'r Rheolydd Cyfathrebu a'r Swyddog Brand a Dylunio ar sicrhau y caiff pob
darn o waith a gynhyrchir gan CHC ei frandio'n gywir ac yn gyson.
10. Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill er mwyn sicrhau y caiff nodau ac amcanion y swydd eu cyflawni.
6 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Manyleb Person
Islaw mae'r gofynion sydd eu hangen i ymgymryd â'r swydd hon. Byddant yn ffurfio rhan
allweddol o'r broses ddethol a dylid dangos yn yr adrannau perthnasol o'r ffurflen gais eich
gallu i gyflawni'r meini prawf hyn.
Profiad,
Gwybodaeth a
Sgiliau
Hanfodol
O leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio gyda'r cyfryngau, gan ddangos hanes cryf o lwyddiant mewn gwerthu straeon ac ymchwilio llwybrau newydd
Sgiliau ysgrifennu copi a golygu ardderchog, yn cynnwys y gallu i deilwra cynnwys a fformat i anghenion gwahanol gynulleidfaoedd a llygad am fanylion
Profiad o reoli strategaeth cyfryngau cymdeithasol sefydliad
Profiad o ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd
Sgiliau rhwydweithio a rhyngbersonol ardderchog i adeiladu cysylltiadau cryf ar bob lefel
Profiad o weithio mewn amgylchedd tîm
Profiad o weithio mewn amgylchedd dan bwysau
Sgiliau rheoli amser a phrosiect ardderchog
Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a chyflwyno ardderchog
Gwybodaeth gyfredol a diddordeb mewn materion cyfoes a gwleidyddiaeth
Dangos creadigrwydd a defnyddio dychymyg
Sgiliau gwerthuso ardderchog i roi adroddiad effeithlon ar bob gweithgaredd cyfathrebu
Sgiliau TG effeithiol iawn, yn cynnwys defnydd rhaglenni Microsoft Office, rhaglenni e-bost a dulliau seiliedig ar y we, e.e. hysbysiadau Google, llwyfannau postio a chronfa ddata CRM
Agwedd 'gallu gwneud' - gallwch wneud i bethau ddigwydd!
Cymhelliant a'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol
Diplomatig gyda sgiliau rhyngbersonol a gwrando cryf
Aelod tîm sy'n hapus i fynd tu hwnt i'ch cyfrifoldebau eich hun i helpu eraill ar adegau prysur
Gramadeg a sillafu rhagorol
Perthynas a chysylltiadau presennol gyda'r cyfryngau
Sgiliau negodi a dylanwadu cryf
Ysgrifennu copi a phrawfddarllen
Gallu i ddehongli negeseuon allweddol o ddata cymhleth.
7 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Dymunol:
Y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg
Gwybodaeth o'r sector tai yng Nghymru
Lleoliad
Bydd y swydd yn seiliedig yn swyddfeydd Cartrefi Cymunedol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Bydd angen medru a pharodrwydd i wneud gwaith tu allan i oriau arferol swyddfa yn
achlysurol.
8 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Amlinelliad o Fuddion
Swyddfa Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau
Lleoliad Seiliedig yng Nghaerdydd, ond disgwylir teithio ledled Cymru a
hefyd efallai ymhellach o fewn y Deyrnas Unedig
Cyflog £27,700 yn codi i £29,158 ôl cyfnod prawf chwe mis
llwyddiannus
buddion hael
Oriau 35 awr - ond bydd weithiau angen gweithio tu allan i oriau
swyddfa i fynychu digwyddiadau/cyfarfodydd
Gwyliau
25 diwrnod, yn codi gan un diwrnod am bob blwyddyn o
wasanaeth a gwblheir, hyd at uchafswm o 30 diwrnod a phob
gwyliau cyhoeddus
Pedwar diwrnod ychwanegol i ffwrdd yn ystod gwyliau'r Nadolig
a'r Flwyddyn Newydd
Cyfnod Prawf Chwe mis
Campfa £25 cymhorthdal / mis
Cynllun Iechyd Arian Talu am gynllun iechyd arian (Simply Health)
Pensiwn Cynllun Cyfraniadau Diffiniedig Cynllun Pensiwn Tai
Cymdeithasol.
Cyfraniadau cyflogwr rhwng 1% - 5%
Dysgu a Datblygu Darpariaeth cyllideb ardderchog ar gyfer Dysgu a Datblygu o
fewn CHC
Swyddfeydd Swyddfeydd modern gyda maes parcio ar y safle.
9 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Gwybodaeth gefndir
CYNLLUN CORFFORAETHOL CHC
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2016 – 2019
Cartrefi Cymunedol Cymru
Fel corff ymbarél cymdeithasau tai 1 yng Nghymru, rydym yn falch i gynrychioli ein haelodau sy'n
darparu cartrefi a gwasanaethau i 10% o boblogaeth Cymru.
Y llynedd, cyfrannodd ein haelodau dros £1 biliwn i'r economi, adeiladu bron 2,000 o gartrefi
fforddiadwy a darparu swyddi i 8,800 o bobl ledled Cymru.
Mae ein haelodau'n rhan o'r hyn y gellid ei ddisgrifio fel y bartneriaeth fwyaf llwyddiannus rhwng y
sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn y Deyrnas Unedig. Maent yn gyrff annibynnol
dim-er-elw a gaiff eu rhedeg yn effeithiol sy'n buddsoddi mewn cymunedau a newid bywydau yn
ogystal â darparu tai fforddiadwy.
Ein gwaith ni yw sicrhau fod y sector yn parhau i ffynnu yng Nghymru ac yn barod am y dyfodol.
Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn parhau i roi llais unedig i'r sector, gan eirioli a negodi ar eu
rhan. Byddwn yn dylanwadu a lobio ar faterion sy'n bwysig i'r sector. Byddwn yn sicrhau'r
wybodaeth ddiweddaraf ac yn deall tueddiadau i helpu aelodau i addasu i fyd sy'n newid. Byddwn yn
ymchwilio modelau busnes newydd i sicrhau fod y sector yn parhau'n addas i'r diben.
Byddwn yn parhau i weithio ar ran aelodau i ddylanwadu, cysylltu, cefnogi a hysbysu fel y gallant
barhau i fuddsoddi mewn cymunedau a newid bywydau.
Ein cenhadaeth:
‘Dylanwadu'n gadarnhaol ar bolisi Llywodraeth Cymru. Cefnogi a hyrwyddo llais ein haelodau. Siarad
gydag un llais. Rhoi aelodau yng nghanol popeth a wnawn. Gweithio fel un tîm i gyflawni ein
cenhadaeth.’
1 ‘Cymdeithasau Tai' yw'r term a ddefnyddiwn y gyfeirio at aelodau llawn CHC sy'n landlordiaid cymdeithasol
cofrestredig. Maent yn cynnwys cwmnïau cymunedol cydfuddiannol, mentrau cydweithredol tai, cymdeithasau
diwydiannol a darbodus ac elusennau.
10 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Ein Nod:
Erbyn 2019 bydd aelodau yn ein hystyried yn gorff ymbarél gwerthfawr ac effeithlon iawn. Byddwn
yn parhau i hyrwyddo amrywiaeth ein haelodaeth a byddwn wedi helpu i lunio'r amgylchedd allanol
i'w galluogi i ffynnu. Ni fydd y sefydliad mynd-ato ar faterion tai yng Nghymru, partner o ddewis ar
gyfer rhanddeiliaid, ac yn cael ein cydnabod a'n gwerthfawrogi gan Lywodraeth Cymru fel sector sy'n
cyflawni.
Bydd ein gwaith dros y tair blynedd nesaf yn dod o fewn pedair thema strategol:
1 Cefnogi aelodau i fod yn fusnesau cryf
2 Galluogi aelodau i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy ansawdd da
3 Cefnogi aelodau i adeiladu cymunedau cynaliadwy y mae pobl eisiau byw ynddynt
Rhedeg sefydliad gwych i aelodau
1 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Chief Executive
Stuart Ropke
Director
Policy/Deputy Chief
ExecutiveClarissaCorbisiero-Peters
Assistant Director
Communications & Members Services
Edwina O’Hart
Comms &
Media Officer
Vacant
Brand &
Design
Officer
Chris Lamb
Policy & Programmes
Manager
Hayley MacNamara
Public Affairs Manager
Aaron Hill
Member Services & Business
Development Manager
Adele Harries-Nicholas
Events &Business
Officer
Rhian
Robinson
Policy
Officer
Will
Atkinson
Learning &
Development
Officer
Leslie Smith
Public Affairs
Assistant
Vacant
Governance
Officer
Claire
McDougall
Director
Resources& OD
Phillipa Knowles
Assistant Director
Finance & IT
Steve Evans
Central
Services
Officer
Sue
Williams
Exec Support
Officer
Borbala
Martos
Communications
Manager
Bethan Davies
Member of Senior Management Group
Directors Team
Head of
Business
Development
Paul Langley
Policy
Officer
Selina
Moyo
Policy
Officer
Hugh
Russell
Health&
Housing
Policy
Officer
Carly Dix Admin
Assistant
Vacant
1 Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru Pecyn Swydd
Mae'r staff yn disgrifio gweithio yn CHC fel hyn:
Research
Assistant
Liam
Townsend