90
1

welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

  • Upload
    phambao

  • View
    230

  • Download
    2

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

1

Page 2: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Nodiadau Help Llaw a Gwaith Cartref Ychwanegol

Trwy wrando ar Lais y Dysgwr, dysgon ni fod llawer o’n dysgwyr eisiau cael mwy o esboniadau am y gwaith yng nghwrs Uwch 1. ‘Dyn ni felly wedi ysgrifennu nodiadau i gyd-fynd â’r unedau (heblaw am yr unedau adolygu). Os oes syniadau gyda chi am sut gallen ni wella’r nodiadau, bydden ni’n hoffi clywed oddi wrthoch chi.

Wrth ysgrifennu’r nodiadau i esbonio, penderfynon ni hefyd wneud ychydig mwy o waith cartref, gan gynnwys (including) rhywbeth i ymarfer geirfa – rhywbeth sy’n bwysig iawn ar gwrs Uwch 1.

Helen ProsserGorffennaf 2015

2

Page 3: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 1

Atebion

Fel dych chi’n gwybod, does dim un ffordd o ateb/ ymateb yn Gymraeg. Mae’r tablau isod yn crynhoi (summarise) y prif atebion:

1. PresennolYdw i yn y tîm?/ Dw i yn y tîm Wyt/ YdychWyt ti’n chwarae?/ Rwyt ti’n chwarae YdwYdy e’n mynd?/ Mae e’n mynd YdyYdy hi’n aros?/ Mae hi’n aros YdyYdy’r plant yn dost?/ Mae’r plant yn dost Ydyn (Rhaid ateb – Yes, they are)Ydyn ni’n gweithio?/ Dyn ni’n gweithio Ydyn (Yes, we are) neu Ydych (Yes, you are)Dych chi’n sicr?/ Dych chi’n siŵr Ydw/ YdynYdyn nhw’n gyrru?/ Maen nhw’n gyrru Ydyn

Cofiwch hefyd:Oes car coch gyda ti? OesMae car coch gyda ti. Oes

Byddwch yn ofalus:Oes llyfr ar y bwrdd?/Mae llyfr ar y bwrdd Oes (Yes, there is)Ydy’r llyfr ar y bwrdd?/Mae’r llyfr ar y bwrdd Ydy (Yes, it is) Mae llyfr y tiwtor ar y bwrdd YdyMae Lingo ar y bwrdd Ydy Oes glaw ar y ffordd?/Mae glaw ar y ffordd Oes (Yes, there is)Ydy hi’n bwrw glaw?/Mae hi’n bwrw glaw Ydy (Yes, it is) Mae tywydd oer ar y ffordd OesMae’r tywydd yn Sbaen yn boeth Ydy

2. Amherffaith (roedd….)O’n i’n hwyr?/ Ro’n i’n hwyr O’t/ O’chO’t ti wedi blino?/ Ro’t ti wedi blino O’n Oedd e’n iawn?/ Roedd e’n iawn OeddOedd hi’n oer?/ Roedd hi’n oer OeddOedd y plant yna?/ Roedd y plant yna O’n (Rhaid ateb – Yes, they were)O’n ni’n gweithio?/ Ro’n ni’n gweithio O’n (Yes, we were) neu O’ch (Yes, you were)O’ch chi’n sicr?/ Ro’ch chi’n siŵr O’nO’n nhw’n hapus?/ Ro’n nhw’n gyrru O’n

Cofiwch am y ffurfiau llawn hefyd:Roeddwn i, Roeddet ti, Roedd e/hi, Roedden ni, Roeddech chi, Roedden nhw

3. Gorffennol cryno (short form past tense)Dim ond un ateb sy yma – DO/NADDO – pob person:

Enillais i? Do

3

Page 4: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Glywaist ti? Do

4. Dyfodol (future)Fydda i yn y tîm?/ Bydda i yn y tîm Byddi/ ByddwchFyddi di’n chwarae?/ Byddi di’n chwarae ByddaFydd e’n mynd?/ Bydd e’n mynd ByddFydd hi’n aros?/Bydd hi’n aros ByddFydd y plant yna?/ Bydd y plant yna Byddan (Rhaid ateb – Yes, they will be)Fyddwn ni’n gyrru?/ Byddwn ni’n gyrru Byddwn (Yes, we wil be) neu Byddwch (Yes, you will

be)Fyddwch chi’n talu?/ Byddwch chi’n talu Bydda/ ByddwnFyddan nhw yma?/ Byddan nhw yma Byddan

OND, gyda’r dyfodol mae’n rhaid dysgu’r ffurfiau cryno (short forms) hefyd. Mae dyfodol y ferf ‘gwneud’ yn bwysig iawn achos dyn ni’n defnyddio ‘gwneud’ i ateb.

Dyfodol GwneudBasia i’r arholiad?/ Pasia i’r arholiad Gwnei/ Gwnewch (Yes, you’ll do so)Weli di Siân heno?/ Gweli di Siân heno Gwnaf (Yes, I’ll do so)Helpiff e?/ Helpiff e Gwnaiff (Yes, he’ll do so)Helpiff hi?/ Helpiff hi Gwnaiff (Yes, she’ll do so)Helpiff y plant?/ Helpiff y plant Gwnân (Yes, they’ll do so)Awn ni allan i fwyta?/ Awn ni allan i fwyta Gwnawn (Yes, we’ll do so)Welwch chi fe fory?/ Gwelwch chi fe fory Gwnaf/ GwnawnHelpan nhw?/ Helpan nhw Gwnân

Dyn ni hefyd yn defnyddio dyfodol ‘gwneud’ i ymateb i orchymyn (command):Ffoniwch fi heno! GwnafPeidiwch ag aros yn hir. Na wnaf.

Gyda’r ferf ‘cael’, rhaid i ni ateb gyda ffurfiau ‘cael’.Gaf i fynd? Cei/ CewchGei di ddod allan? CafGaiff e aros? CaiffGaiff hi aros? CaiffGaiff y plant aros? CânGawn ni weld? Cawn (Yes, we may) neu Cewch (Yes,you may)Gewch chi fynd i’r cyfarfod? Caf/CawnGân nhw wylio’r ffilm? Cân

Cofiwch am y treiglad llaes yn y negyddol – cei / na chei

5. Amodol (conditional) – baswn i…..Faswn i’n aros?/ Baswn i’n aros Baset/BasechFaset ti’n prynu car?/ Baset ti’n prynu car BaswnFasai fe’n gofyn?/ Basai fe’n gofyn BasaiFasai hi’n gofyn?/ Basai hi’n gofyn BasaiFasai’r plant yn gofyn?/ Basai’r plant yn gofyn BasenFasen ni’n dweud?/ Basen ni’n dweud Basen (yes, we would) neu basech (yes, you would)Fasech chi’n talu?/ Basech chi’n talu Baswn/ BasenFasen nhw’n cystadlu?/Basen nhw’n Basen

4

Page 5: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

cystadlu

Cofiwch hefyd am y ffurfiau cryno (short forms):

Hoffet ti aros? Hoffwn

Ddylai hi aros? Dylai

Allen nhw aros? Gallen

6. Ie/ NageDyn ni’n ateb yn syml gyda ‘ie’ neu ‘nage’ pan fydd pwyslais (emphasis) neu ddim berf o gwbl yn y cwestiwn neu osodiad (statement):

Jac wyt ti? Ie/ Nage

Siân yw’r dala? Ie/ Nage

Ym Mhontypridd dych chi’n byw? Ie/ Nage

(Dych chi’n byw ym Mhontypridd? Ydw/ Nac ydw

Coffi? Ie/ Nage

Bisgedi? Ie/ Nage

**********

5

Page 6: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 1Atebwch neu ymatebwch:

Mae hi’n braf ________________

Roedd hi’n oer ddoe ________________

Est ti allan o gwbl? ________________

Oedd hi’n brysur yn y dre? ________________

Welaist ti rywun diddorol? ________________

Fyddi di yn y tŷ heno? ________________

Oes rhywbeth da ar y teledu? ________________

Ar S4C mae’r gêm? ________________

Basai bwyd Indian yn dda ________________

Ffonia fi ar ôl pump o’r gloch ________________

Prawf geirfa:1. Pa eiriau newydd sy yn yr eirfa yn Uned 1 sy’n dod o’r geiriau isod?

e.e. hapus hapusrwydd

deall _________________

llawen _________________

canol _________________

1. Sut mae dweud ‘I escaped’ _________________

2. Enwch ardal yng Ngogledd Ffrainc _________________

3. Beth yw?:

Fear _________________

Horror film _________________

Adventure _________________

Adventure novel _________________

To avoid ________________

Pontypridd by-pass _________________

-oOo-

6

Page 7: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 2

Cymal enwol (noun clause) – defnyddio ‘bod’

Pryd mae’n rhaid defnyddio ‘bod’?Dysgwch pryd i ddefnyddio ‘bod’. Dyma restr i’ch helpu chi:

Berfau (verbs) Ansoddeiriau (adjectives) EraillMeddwl bod Siŵr bod Wrth gwrs bodGwybod bod Sicr bod Er bodCredu bod Hapus bod Efallai bodGobeithio bod Balch (glad) bod (achos bod)*Dweud bod (to say that….) Diflas bodClywed bod (to hear that..) Pwysig bod

*Erbyn hyn, mae llawer o bobl yn defnyddio ‘achos mae’ neu ‘ achos roedd’ wrth siarad, ac felly, mae ‘achos bod’ mewn cromfachau (brackets).

Enghreifftiau:

Dw i’n meddwl bod rygbi yn gêm gyffrous.Maen nhw’n dweud bod y ffilm Harry Potter newydd yn drist iawn.Clywais i fod llawer o draffig ar yr A470 ar gylchdro Abercynon.

Dw i’n siŵr bod cyfarfod staff y prynhawn yma.Dw i’n falch bod Twm wedi pasio ei arholiad ar ôl gweithio mor galed.Mae’n bwysig bod pawb yn dysgu geirfa ar y Cwrs Uwch.

Er bod y tywydd yn sych, mae hi’n oer.Mae Jac yn hwyr y bore ‘ma – efallai bod problem wedi codi.

Dych chi ddim yn defnyddio ‘bod’ yn dilyn enwau (nouns):The food I like – y bwyd dw i’n (ei) hoffiThe wine I am drinking – y gwin dw i’n (ei) yfedThe letter I am writing – y llythyr dw i’n (ei) ysgrifennu

Dysgwch:fy mod i ein bod nidy fod ti eich bod chiei fod e eu bod nhwei bod hi

Amserau’r ferfMae ffurfiau ‘bod’ yn gallu bod yn bresennol neu yn amherffaith:

Dw i’n gwybod ei bod hi’n oer – I know that it is cold neu I know that it was coldDw i’n siŵr eu bod nhw’n gwybod – I’m sure that they know neu I’m sure that they knew

7

Page 8: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Dyfodol ac AmodolDyn ni ddim yn defnyddio ‘bod’ gyda’r dyfodol na’r amodol. Mae hi’n bosib uno dau hanner y frawddeg gyda neu heb y gair ‘y’. Byddwch chi’n gweld ‘y’ wrth ddarllen:

Dw i’n gwybod Bydd e’n myndDw i’n gwybod bydd e’n mynd neu Dw i’n gwybod y bydd e’n mynd

Ro’n i’n siŵr Basech chi’n ennillRo’n i’n siŵr basech chi’n ennill neu Ro’n i’n siŵr y basech chi’n ennill.

Mae ‘y’ yn troi yn ‘yr’ o flaen llafariaid (vowels):Dw i’n gobeithio Enillwn ni’r gêmDw i’n gobeithio enillwn ni’r gêm neu Dw i’n gobeithio yr enillwn ni’r gêm.

(Does dim treiglad yn dilyn ‘y’ yn yr achos yma.)

8

Page 9: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 2Unwch ddau hanner y frawddeg, e.e.

Mae Tom yn meddwl Bydd hi’n bwrw glaw yforyMae Tom yn meddwl y bydd hi’n bwrw glaw yfory

1. Dw i’n gwybod Mae Llydaw yn ardal yng Ngogledd Ffrainc

_____________________________________________2. Dw i’n cofio Roedd hi wrth ei bodd yn nofio pan oedd hi’n blentyn

_____________________________________________3. Dych chi’n meddwl Byddwch chi’n dod i’n gweld ni o bryd i’w gilydd?

_____________________________________________4. Dw i’n meddwl Mae’r addasiad Cymraeg yn well na’r llyfr gwreiddiol

_____________________________________________5. Dw i wedi clywed Rhaid i chi atgoffa John bob tro

_____________________________________________6. Do’n i ddim yn meddwl Basai fe’n dianc o’r ysbyty

_____________________________________________7. Dw i’n credu Bydd e eisiau’r crys maint canolig

_____________________________________________8. Dw i’n falch Mae’r dyddiau’n dechrau ymestyn

_____________________________________________9. Efallai Basen nhw’n helpu tasech chi’n gofyn

_____________________________________________10.Roedd e’n drist Roedd rhaid iddo fe adael y ffatri

_____________________________________________

Prawf geirfa:

Pa eiriau o’r eirfa yn Uned 2 sy’n iawn yn y bylchau isod:

11.Roedd pawb yn llawn ____________ cyn i’r gêm ddechrau.

12.Roedd hi mor boeth yn yr ystafell, roedd sawl person wedi __________ .

13.Mae’r cyfreithiwr yn dweud y bydd e’n _____________ yn y llys.

14.Rhaid i fi ______________’r ffurflen erbyn fory.

15.Croesais i’r ffordd er mwyn ___________ siarad â’r tiwtor Cymraeg.

16.Dw i’n mynd yn ___________ pan dw i’n gweld pobl yn taflu ysbwriel.

**********

9

Page 10: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1– Help Llaw Uned 3

Cymal enwol – negyddol

Mae Uned 2 yn edrych ar ddefnyddio ‘bod’ (y cymal enwol) mewn cymalau cadarnhaol (positive clauses), e.e.

Dw i’n gwybod bod Dafydd yn byw yn Nhreorci Dw i’n gwybod ei fod e’n byw yn Nhreorci.

Yn y negyddol, mae hi’n bosib defnyddio dwy ffurf – ffurf lafar (siarad) a ffurf ysgrifenedig ond sydd hefyd yn cael ei defnyddio ar lafar, yn enwedig yn yr amherffaith (roedd), y dyfodol a’r amodol (baswn….). Mae’r gair ‘na’ yn mynd yn lle ‘bod’ neu yn lle ‘y’. Mae ‘na’ yn troi yn ‘nad’ o flaen llafariaid (vowels).

PresennolDw i’n siŵr fy mod i ddim yn gweithio heno neu Dw i’n siŵr nad ydw i’n gweithio heno Dw i’n siŵr dy fod ti ddim yn gweithio heno neu Dw i’n siŵr nad wyt ti’n gweithio henoDw i’n siŵr fod Twm ddim yn gweithio heno neu Dw i’n siŵr nad yw Twm yn gweithio Dw i’n siŵr ei fod e ddim yn gweithio heno neu Dw i’n siŵr nad yw/ydy e’n gweithio Dw i’n siŵr ei bod hi ddim yn gweithio heno neu Dw i’n siŵr nad yw/ydy hi’n gweithio Dw i’n siŵr ein bod ni ddim yn gweithio henoneu Dw i’n siŵr nad ydyn ni’n gweithio henoDw i’n siŵr eich bod chi ddim yn gweithio neu Dw i’n siŵr nad ydych chi’n gweithioDw i’n siŵr eu bod nhw ddim yn gweithio neu Dw i’n siŵr nad ydyn nhw’n gweithio

Byddwch yn ofalus:Dw i’n siŵr bod bara ar ôl Dw i’n siŵr fod dim bara ar ôl

neuDw i’n siŵr nad oes bara ar ôl

I’m sure that there is bread left I’m sure that there isn’t bread left

Dw i’n siŵr bod y bara ar y bwrdd Dw i’n siŵr fod y bara ddim ar y bwrddneuDw i’n siŵr nad yw’r bara ar y bwrdd

I’m sure that the bread is on the table I’m sure that the bread isn’t on the table

Amherffaith (roedd)Mewn cymalau cadarnhaol, dyw hi ddim yn bosib gwahaniaethu (differentiate) rhwng yr amser presennol a’r amherffaith – ond mae hi’n bosib wrth ddefnyddio ‘na’.

Ro’n i’n gwybod nad o’n/oeddwn i yn y tîmRo’n i’n gwybod nad o’t/oeddet ti yn y tîmRo’n i’n gwybod nad oedd e yn y tîmRo’n i’n gwybod nad oedd hi yn y tîmRo’n i’n gwybod nad o’n/oedden ni yn y tîmRo’n i’n gwybod nad o’ch/oeddech chi yn y tîmRo’n i’n gwybod nad o’n/oedden nhw yn y tîm

Dyfodol AmodolGobeithio na fydda i’n colli Ro’n i’n gobeithio na faswn i’n colliGobeithio na fyddi di’n colli Ro’n i’n gobeithio na faset ti’n colli

10

Page 11: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gobeithio na fydd e’n colli Ro’n i’n gobeithio na fasai fe’n colliGobeithio na fydd hi’n colli Ro’n i’n gobeithio na fasai hi’n colliGobeithio na fyddwn ni’n colli Ro’n i’n gobeithio na fasen ni’n colliGobeithio na fyddwch chi’n colli Ro’n i’n gobeithio na fasech chi’n colliGobeithio na fyddan nhw’n colli Ro’n i’n gobeithio na fasen nhw’n colli

Sylwch fod treiglad meddal ar ôl ‘na’ yn y dyfodol a’r amodol.

11

Page 12: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 3

Trowch y cymalau i’r negyddol:

1. Dwedodd y rhieni fod y plant yn llawn cyffro._______________________________________

2. Dw i’n siŵr bod lle yn y gwesty._______________________________________

3. Dw i’n gwybod bod rhaid i mi gwblhau pob adran yn y ffurflen._______________________________________

4. Mae’r llywodraeth yn honni y bydd yr economi yn gwella._______________________________________

5. Ro’n i’n meddwl y basai hi’n llewygu._______________________________________

6. Dwedodd e ei fod e’n ddieuog._______________________________________

7. Mae’r plant yn dweud ei bod hi’n athrawes ddymunol iawn._______________________________________

8. Dw i’n gwybod y bydd Cymru’n ennill y gêm nesaf._______________________________________

9. Gobeithio y bydd hi’n bwrw eira dros y Nadolig._______________________________________

10.Dwedodd e fod llawer o fwyd ar ôl ar ddiwedd y parti._______________________________________

Prawf geirfa:

1. Pa eiriau newydd yn yr uned sy’n dod o’r geiriau isod:

Awyr ________________________

Drwg ________________________

Brenin ________________________

Iach ________________________

2. Defnyddiwch y geiriau isod mewn brawddegau:

Llofruddiaeth ___________________________________________

Awyrgylch ___________________________________________

Rhybudd ____________________________________________

**********

12

Page 13: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 4

Cymal enwol – gorffennol crynoMae uned 4 yn dysgu gwaith newydd, sef beth sy’n digwydd pan fydd berf yn y gorffennol cryno (short form past tense) yn y cymal enwol. Cyn uned 3, roedd yr amserau isod wedi cael eu cyflwyno:

Dw i’n gwybod ei bod hi’n dysgu I know that she is learningRo’n i’n gwybod ei bod hi’n dysgu I knew that she was learningDw i’n gwybod y bydd hi’n dysgu I know that she will learnRo’n i’n gwybod y basai hi’n dysgu I knew that she would learn

I ddweud ‘I know that she learnt her vocabulary last night’, rhaid i ni ddefnyddio ‘i’:

Dw i’n gwybod iddi hi ddysgu ei geirfa neithiwr.

Mae’r patrwm yr un peth ag sy’n digwydd ar ôl ‘rhaid’ (Rhaid iddi hi ddysgu ei geirfa).

Dw i’n siŵr i fi orffen y gwaith I’m sure that I finished the workDw i’n siŵr i ti orffen y gwaith I’m sure that you finished the workDw i’n siŵr iddo fe orffen y gwaith I’m sure that he finished the workDw i’n siŵr iddi hi orffen y gwaith I’m sure that she finished the workDw i’n siŵr i ni orffen y gwaith I’m sure that we finished the workDw i’n siŵr i chi orffen y gwaith I’m sure that you finished the workDw i’n siŵr iddyn nhw orffen y gwaith I’m sure that they finished the work

Edrychwch ar y patrwm treiglo:

Gwariodd e lawer o arian (Treiglad Meddal ar ôl y gorffennol cryno)

Ond

Dw i’n meddwl iddo fe wario llawer o arian (Tr. meddal ar ôl ‘i’ ond dim treiglad wedyn)

Ceisiwch gofio’r patrwm yma pan fyddwch chi’n ysgrifennu ond wrth siarad peidiwch â phoeni os byddwch chi’n anghofio. Bydd pawb yn deall os byddwch chi’n dweud ‘Dw i’n siŵr gorffennais i’r gwaith’.

13

Page 14: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol

Unwch y ddau hanner, e.e.Cyhoeddodd yr arolygydd Arestiodd Heddlu Dyfed Powys dri lleidr peryglus Cyhoeddodd yr arolygydd i Heddlu Dyfed Powys arestio dri lleidr peryglus

1. Dw i’n meddwl Teimlais i ddiferyn o law __________________________________________________ 2. Dw i’n siŵr Cyrhaeddodd e mewn pryd __________________________________________________ 3. Clywais i Canaist ti’n dda yn y cyngerdd __________________________________________________ 4. Maen nhw’n dweud Enillodd y cymdogion dros filiwn ar y loteri __________________________________________________ 5. Dw i’n gwybod Prynodd e gyfrifiadur newydd __________________________________________________ 6. Dw i’n meddwl Mae e wedi byw yn y pentref ar hyd ei oes __________________________________________________ 7. Clywais i ar y radio Roedd llofruddiaeth yn y dref neithiwr __________________________________________________ 8. Mae pawb yn dweud Bydd yr awyrgylch yn wych yn y stadiwm __________________________________________________ 9. Do’n i ddim yn gwybod Basen ni’n bwyta yn y ffreutur __________________________________________________ 10.Dw i’n siŵr Rhoiais i’r llythyr yn y post __________________________________________________

Prawf geirfa: Parwch y gair a’r diffiniad (definition):

Mae un llwyd yn fy ngwallt mwg

Mae’n codi o dân sach cysgu

Rhywbeth i gysgu ynddo brodor

Person sy’n dod o le yn wreiddiol blewyn

Ailysgrifennwch y brawddegau gan ddefnyddio ‘gorfod’:

Rhaid i fi fynd ______________________________

Rhaid i ti dalu heddiw ______________________________

**********

14

Page 15: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 5

Pwyslais (emphasis)

Mae pwyslais yn bwysig iawn yn y Gymraeg. Yn Saesneg, dyn ni’n defnyddio ein llais i bwysleisio yn aml. Yn Gymraeg, dyn ni’n defnyddio patrwm pwysleisiol.

Rhaid cael pwyslais ar gyfer y patrymau isod:

Siân dw iSiân yw hiSiân yw’r tiwtorJohn yw’r tala

Ond mae dewis gyda’r brawddegau nesaf:

Tiwtor dw i Dw i’n diwtor I am a tutorondFi yw’r tiwtor I am the tutor

Meddyg yw hi Mae hi’n feddyg She is a doctorondHi yw’r meddyg She is the doctor

Edrychwch ar yr amserau eraill hefyd:

Siân oedd y tiwtor Siân fydd y tiwtor (Sylwch ar y treiglad meddal)Hi oedd y meddyg Hi fydd y meddyg

Tiwtor o’n i neu Ro’n i’n diwtor I was a tutorondFi oedd y tiwtor I was the tutor

Tiwtor fydda i Bydda i’n diwtor I will be a tutorondFi fydd y tiwtor I will be the tutor

I ddeall pwyslais, mae angen deall pwy neu beth yw goddrych (subject) brawddeg. Nodir y goddrych yn y brawddegau isod:

Dw i’n mynd i’r gwaith Mae hi’n byw ym MhontypriddMaen nhw’n helpuMae Pobl y Cwm ar S4C

Nawr, sylwch ar beth sy’n digwydd wrth bwysleisio’r goddrych yn y brawddegau uchod:

Fi sy’n mynd i’r gwaith Hi sy’n byw ym Mhontypridd

15

Page 16: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Nhw sy’n helpuPobl y Cwm sy ar S4C

Os dych chi eisiau pwysleisio rhywbeth arall heblaw am y goddrych, mae eisiau newid trefn y frawddeg:

I’r gwaith dw i’n mynd Ym Mhontypridd mae hi’n bywHelpu maen nhwAr S4C mae Pobl y Cwm

Edrychwch ar amserau eraill y ferf:

Dw i’n talu am y bwyd Fi sy’n talu am y bwyd Am y bwyd dw i’n taluRo’n i’n talu am y bwyd Fi oedd yn talu am y bwyd Am y bwyd ro’n i’n taluBydda i’n talu am y bwyd Fi fydd yn talu am y bwyd Am y bwyd bydda i’n taluBaswn i’n talu am y bwyd Fi fasai’n talu am y bwyd Am y bwyd baswn i’n taluTalais i am y bwyd Fi dalodd am y bwyd Am y bwyd talais iTala i am y bwyd Fi daliff am y bwyd Am y bwyd tala i

Sylwch fod treiglad meddal yn digwydd ar ôl y goddrych:

Dwedais i Fi ddwedoddGofynnon nhw Nhw ofynnoddGadawodd hi Hi adawoddClywon ni Ni glywodd

Un camgymeriad cyffredin iawn yw dweud

Ar y llawr yw e Ar y llawr mae e

Rhaid i’r enwau sy’n dod o flaen ac ar ôl ‘yw’ fod yr un peth. Meddyliwch am ‘yw’ fel =. (The nouns either side of ‘yw’ have to be the same. Think of ‘yw’ as =.)

Siân yw hi Nyrs yw hi Bachgen yw e Llyfr yw eondYn ward 9 mae hi Yn fy mag mae’r llyfr Ar y llawr mae’r bag

16

Page 17: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol

Ailysgrifennwch y brawddegau ddwywaith, i bwysleisio’r ddau beth sy wedi’u nodi, e.e.

Mae John yn byw ym Mhorthcawl.John sy’n byw ym Mhorthcawl. Ym Mhorthcawl mae John yn byw.

1. Maen nhw’n mynd ar eu gwyliau ym mis Awst.a. ______________________________________________

b. ______________________________________________

2. Aethon nhw ar eu gwyliau i Dwrci.

a. ______________________________________________

b. ______________________________________________

3. Gwelais i Dewi yn y stryd.

a. ______________________________________________

b. ______________________________________________

4. Bydd yr ail gyfarfod yn neuadd y dre.

a. ______________________________________________

b. ______________________________________________

5. Mae dillad Dewi ar y llawr .

a. ______________________________________________

b. ______________________________________________

Prawf geirfa:

Pa eiriau yn Uned 5 sy wedi tyfu allan o’r geiriau isod:

cywilydd _____________________________deg _____________________________gwir _____________________________niwed _____________________________

Defnyddiwch y geiriau isod mewn brawddegau:

Croen ____________________________________________________

Arbed ____________________________________________________

Golygus ____________________________________________________

**********

17

Page 18: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 6

Pwyslais yn dilyn cymal enwol

Rhaid meddwl yn ôl i Uned 2 a chofio pryd rydyn ni’n defnyddio ‘bod’ neu ‘y’ mewn cymal e.e.

Berfau (verbs) Ansoddeiriau (adjectives) EraillMeddwl bod Siŵr bod Wrth gwrs bodGwybod bod Sicr bod Er bodCredu bod Hapus bod Efallai bodGobeithio bod Balch (glad) bod (achos bod)*Dweud bod (to say that….) Diflas bodClywed bod (to hear that..) Pwysig bod

Pan fydd patrwm pwysleisiol (gweler Uned 5) yn dilyn un o’r uchod, yna dydyn ni ddim yn newid y patrwm o gwbl – y cyfan rydyn ni’n ei wneud yw defnyddio’r gair taw i uno dau hanner y frawddeg:

Dw i’n gwybod + John yw e = Dw i’n gwybod taw John yw eDw i’n sicr + Ym Maesteg mae hi’n byw = Dw i’n sicr taw ym Maesteg mae hi’n bywEfallai + Siân sy’n gyrru heno = Efallai taw Siân sy’n gyrru henoMae e’n dweud + Fi dorrodd y ffenest = Mae e’n dweud taw fi dorrodd y ffenest

Edrychwch ar y gwahaniaethau yn y brawddegau isod:Mae Dafydd yn diwtor Cymraeg (dim pwyslais)Tiwtor Cymraeg yw Dafydd (pwyslais)

Rhowch ‘Dw i’n gwybod’ o flaen y brawddegau yma:Dw i’n gwybod bod Dafydd yn diwtor CymraegDw i’n gwybod taw tiwtor Cymraeg yw Dafydd

Mae’n bwysig eich bod hefyd yn dod i adnabod y gair mai. Rydyn ni’n dweud taw yn y De, ond mai mae’r Gogleddwyr yn ei ddweud. Byddwch chi hefyd yn gweld mai yn aml iawn wedi’i ysgrifennu mewn cylchgronau, nofelau ac adroddiadau.

18

Page 19: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 6Dechreuwch eich atebion gyda ‘Dw i’n credu.............’ neu ‘Dw i’n gwybod.......’

1. Beth yw eich hoff ffilm?__________________________________________________

2. Beth yw eich hoff bryd o fwyd?__________________________________________________

3. Pwy eich hoff awdur?__________________________________________________

4. Pwy yw gwraig Michael Douglas?__________________________________________________

5. Pwy fydd Prif Weinidog nesaf Prydain?__________________________________________________

6. Pwy enillodd bencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad y tymor diwethaf?__________________________________________________

Prawf geirfa:

Pa eiriau yn Uned 6 sy wedi tyfu allan o’r geiriau isod:

brwd _________________ cymdeithas __________________cywir _________________ diogel __________________hoff _________________ llwnc __________________

Parwch y geiriau isod ac yna ysgrifennwch frawddegau yn cynnwys y geiriau pâr:mantais cyntafbrithyll tiwtor Cymraegcymorth tenniscyfansoddi Usain Boltcywiro pysgotwrgwibio Beethoven

1. _____________________________________________________________

2. _____________________________________________________________

3. _____________________________________________________________

4. _____________________________________________________________

5. _____________________________________________________________

6. _____________________________________________________________

19

Page 20: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 7Mewn ac Yn

Ar yr wyneb, mae mewn ac yn yn ddigon hawdd:Mewn = in aYn = in gyda rhywle neu rywbeth pendant e.e.

Amhendant (Indefinite):mewn + enw

Pendant (Definite):yn + y + enw

Pendant (Definite):yn + enw pendant

Dw i’n gweithio mewn ffatri Dw i’n gweithio yn y ffatri Dw i’n gweithio yn ffatri Sony

Dw i’n byw mewn tref Dw i’n byw yn y dref Dw i’n byw yn nhref Aberhonddu

Dw i’n gweithio mewn llyfrgell

Dw i’n gweithio yn y llyfrgell

Dw i’n gweithio yn llyfrgell y dref

Dw i’n gweithio mewn ysbyty

Dw i’n gweithio yn yr ysbyty

Dw i’n gweithio yn Ysbyty Tywysog Charles

Mae diddordeb gyda fi mewn llyfrau

Mae diddordeb gyda fi yn y llyfrau

Mae diddordeb gyda fi yn llyfrau Charles Dickens

Mae diddordeb gyda fi mewn hanes

Mae diddordeb gyda fi yn yr hanes

Mae diddordeb gyda fi yn hanes Cymru

Mae’r parti mewn tŷ Mae’r parti yn y tŷ Mae’r parti yn nhŷ DafyddOnd mae rhai rheolau newydd i’w dysgu:

1. Rhaid cael mewn cyn berfau:Does dim diddordeb gyda fi mewn garddio.Dyw e ddim yn credu mewn prynu tocynnau raffl.

2. Defnyddir mewn cyn rhifau:Bydda i gyda chi mewn dwy funud.Torrodd e ei goes mewn tri lle.Mae e mewn dau ddosbarth gwahanol.OndMae e’n chwarae yn y ddau dîm (in the two/in both)

3. Cofiwch fod y geiriau rhyw a rhai (some) yn amhendant felly mae angen mewn:Mewn rhai gwledyddMewn rhai swyddfeydd

4. Mae rhagenwau (fy, dy, ei, ein, eich, eu) yn bendant ac felly mae angen yn:Yn fy marn iYn eich amser eich hunYn ei waith

5. Mae’r gair pob yn bendant ac felly mae angen yn:pob gwlad ym mhob gwladpob dosbarth ym mhob dosbarth

6. Cofiwch ein bod ni’n aml yn gadael allan ‘the’ yn Saesneg:in town yn y dref in work yn y gwaithin bed yn y gwely in class yn y dosbarthin work yn y gwaithin class yn y dosbarthin chapel yn y capelin church yn yr eglwys

20

Page 21: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol

Cyfieithwch:I live in a small town called Llanaber. In the town of Llanaber there are many societies and sports clubs. I have no interest in societies to be honest but I am very interested in the sports clubs. I play in three different teams – in both the football teams and in a volley ball team. I enjoy keeping fit and therefore I don’t believe in drinking.........only on a Saturday night. See you in the club – in Llanaber Club of course.

Prawf geirfa:Beth yw’r ateb:

Anifail sy’n byw ar y mynyddoedd yng Nghymru ___________________Gair arall am ‘lwcus’ ___________________Cefn y droed ___________________Mae dŵr yn ................................ ___________________Person sy’n gweithio mewn capel ___________________

Defnyddiwch y geiriau isod mewn brawddegau:

Heb ei ail _____________________________________________

Cwningen _____________________________________________

Llenyddiaeth _____________________________________________

Trais _____________________________________________

Rhegi _____________________________________________

21

Page 22: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 8

Yr Amodol (baswn i, byddwn i)

Yn lefel Mynediad, Sylfaen a Chanolradd, fel arfer mae ‘I would’ yn cael ei ddysgu fel ‘Baswn i’ (neu ‘swn i). Mae hyn yn berffaith iawn, ond yn Ne Cymru byddwch chi hefyd yn dod ar draws y ffurf ‘Byddwn i’. Y rheswm am ddysgu ‘Baswn i’ ar y dechrau yw ei bod yn hawdd cymysgu (to mix up) ‘Byddwn i’ (I would) a ‘Bydda i’ (I will).

Mae’r terfyniadau (endings) a’r treigladau yn union yr un peth â ffurfiau ‘baswn i’.

Cadarnhaol (positive)

Negyddol Cwestiwn Ateb i’r cwestiwn

Byddwn i (I would) Fyddwn i ddim Fyddwn i? Byddet, byddechByddet ti (you would)

Fyddet ti ddim Fyddet ti? Byddwn

Byddai fe/hi (He/she would)

Fyddai fe/hi ddim Fyddai fe/hi? Byddai

Bydden ni (we would)

Fydden ni ddim Fydden ni? Bydden, byddech

Byddech chi (You would)

Fyddech chi ddim Fyddech chi? Byddwn, bydden

Bydden nhw (They would)

Fydden nhw ddim Fydden nhw? Bydden

22

Page 23: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol

Atebwch y cwestiynau yn llawn, gan roi rheswm dros eich ateb e.e.

Fyddech chi’n gallu byw yn y wlad?Byddwn, byddwn i’n gallu byw yn y wlad achos fy mod i’n hoffi bywyd tawel.neuNa fyddwn, fyddwn i ddim yn gallu byw yn y wlad achos fy mod i’n hoff iawn o fyw mewn tref.

1. Fyddech chi’n gallu byw yn y wlad?__________________________________________________

__________________________________________________

2. Fyddech chi’n mynd i weld drama Gymraeg?__________________________________________________

__________________________________________________

3. Fyddech chi’n mynd i fyw mewn gwlad arall?__________________________________________________

__________________________________________________

4. Fyddech chi’n gallu cysgu trwy’r dydd?__________________________________________________

__________________________________________________

5. Fyddech chi’n ffonio cwis ar y radio?__________________________________________________

__________________________________________________

Prawf geirfa:Ysgrifennwch frawddegau yn cynnwys y geiriau isod, gan ddangos eich bod yn gwybod a yw’r gair yn wrywaidd neu yn fenywaidd (Write a sentence containing each of the following words, demonstrating that you understand whether the word is masculine of feminine):

1. Dalfa _____________________________________________

2. Ffrae _____________________________________________

3. Emyn _____________________________________________

4. Rhosyn ____________________________________________

23

Page 24: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 9

Ffurfiau Cryno’r AmodolMae’r ffurfiau hoffwn i, gallwn i a dylwn i yn gyfarwydd (familiar) yn barod. Does dim byd newydd felly yn Uned 9 – dim ond dangos ei bod yn bosib cael ffurfiau cryno (short forms) gyda phob berf:

Synnu Gofyn TaluSynnwn i Gofynnwn i Talwn iSynnet ti Gofynnet ti Talet tiSynnai fe/hi Gofynnai fe/hi Talai fe/hiSynnen ni Gofynnen ni Talen niSynnech chi Gofynnech chi Talech chiSynnen nhw Gofynnen nhw Talen nhw

Fel gyda phob ffurf gryno, mae treiglad meddal:

Gofynnwn i gwestiwnMae’r gair ‘ddim’ yn stopio’r treiglad yn y negyddol:Ofynnwn i ddim cwestiwn

Mae’r tabl isod (sy hefyd yn y Cwrs Uwch) er gwybodaeth (for information) yn unig. Does dim rhaid i chi ddysgu’r ffurfiau yma ond mae’n bosib byddwch chi’n eu gweld nhw mewn llyfrau, cylchgronau ac adroddiadau – ffurfiau llenyddol ydyn nhw.

Mynd Gwneud Cael DodAwn i Gwnawn i Cawn i Down iAet ti Gwnaet ti Caet ti Doet tiÂi e/hi Gwnâi e/hi Câi e/hi Dôi e/hiAen ni Gwnaen ni Caen ni Doen niAech chi Gwnaech chi Caech chi Doech chiAen nhw Gwnaen nhw Caen nhw Doen nhw

Y Gorffennol

Pan dych chi eisiau defnyddio’r amodol yn y gorffennol (e.e. I would have liked), a dych chi’n defnyddio ffurf gryno, mae angen y gair ‘bod’.

Saesneg Defnyddio byddwn i ac ati

Defnyddio berf gryno

I would like to have gone Byddwn i wedi hoffi mynd Hoffwn i fod wedi myndWe could have won Bydden ni wedi gallu ennill Gallen ni fod wedi ennillShe should have asked Dylai hi fod wedi gofynI wouldn’t have liked to have gone

Fyddwn i ddim wedi hoffi mynd

Hoffwn i ddim bod wedi mynd

We couldn’t have won Fydden ni ddim wedi gallu ennill

Allen ni ddim bod wedi ennill

She shouldn’t have asked Ddylai hi ddim bod wedi gofyn

24

Page 25: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 9Atebwch y cwestiynau yn llawn:

1. Beth hoffech chi wneud dros y Sul?

___________________________________________________

2. Beth ddylech chi wneud cyn mynd ar daith hir yn y car?

___________________________________________________

3. Nodwch un peth na allech chi ei fwyta.

___________________________________________________

4. Beth hoffech chi fod wedi’i wneud neithiwr?

___________________________________________________

5. Beth ddylech chi fod wedi’i wneud pan oeddech chi’n ifancach?

___________________________________________________

6. Pam na allech chi fod wedi dysgu Cymraeg yn rhugl pan oeddech chi yn yr ysgol?____________________________________________________

Prawf geirfa:

1. Ble byddech chi’n ffeindio:Neidr ________________________________Clawr ________________________________Offeiriad ________________________________

2. Pa ferf sy’n dod o’r geiriau isod:Cylch ________________________________Cadarn ________________________________Gwasanaeth ________________________________Archeb ________________________________Cyfran ________________________________

25

Page 26: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 11

Y LluosogMae’r lluosog yn llawer iawn mwy amrywiol yn Gymraeg nag yn Saesneg, ond mae popeth yn dilyn un o’r tri phatrwm hyn:

Ychwanegu terfyniad Colli terfyniad Newid llafariad (+ weithiau ychwanegu neu golli terfyniad)

Mae’r tabl yn nodi nifer o enghreifftiau gyda lle i chi ychwanegu eich geiriau eich hun.-au -iau -ion -oedd -odAfalauAddasiadauCamauAdroddiadauGosodiadau

FfilmiauFfrindiauCyffuriaupwyntiauseibiau

NodweddionRhybuddionLlofruddionBrodorionmanteision

MynyddoeddBlynyddoeddByddinoeddOesoeddBrenhinoedd

LlewodCwningodCathodMwncïodGwyddelod

-i -wyr Gollwng terfyniad

Newid llafariad

Newid llafariad ac ychwanegu terfyniad

CapeliEglwysiPentrefiTrefiCorneli

TroseddwyrSiaradwyrProtestwyrArolygwyrFfermwyr

PysgodLlygodBlewCoedAdar

DefaidFfyrcCeirTaiCŵn

MeibionBrodyrSodlauNadroeddCloriau

Ychydig o bethau i helpu: Mae llawer o anifeiliaid yn ffurfio’r lluosog trwy ychwanegu od:

llewod, cwningod, cathod, mwncïod, llwynogod, teigrod, camelod, eliffantod, eryrod, asynnod, buchod.

Pan fydd geiriau unigol yn gorffen gyda nt, yn aml bydd nn yn y lluosog:Dant – dannedd; Cant – cannoedd; Punt – punnau/punnoeddOnd sylwch ar nant – nentydd.

Pan fydd y sain aw mewn gair, mae’n aml yn troi’n o wrth ffurfiau lluosog:Brawd – brodyr; Cylchgrawn – cylchgronau; Sawdl – sodlauOnd sylwch ar lawnt – lawntiau.

Os bydd gair yn gorffen gyda fa, mae’n newid i feydd:Swyddfa – swyddfeydd; amgueddfa – amgueddfeydd;

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 1126

Page 27: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Beth yw’r lluosog? Beth yw’r unigol?

Tiwtor __________________ Rhieni _________________Dosbarth ________________ Buchod ________________Llaw____________________ Chwiorydd ______________Sais ____________________ Cloddiau _______________Cymro __________________ Ceisiadau ______________Cwm____________________ Ffyn __________________Gwaith __________________ Cefndryd _______________Traethawd _______________ Tylwyth ________________Stori ____________________ Tanau _________________Cyllell____________________ Gwestai ________________Llyn ____________________ Gwragedd ______________Gŵr ____________________ Cyfeillion _______________Llythyr __________________ Llythrennau _____________Allwedd _________________ Goleuadau ______________

Beth yw ystyr y rhain?

Cais ______________________; ceisiau ____________; ceisiadau ____________Llwyth _____________________; llwythau ___________;llwythi ______________Pryd _______________________;prydau ____________;prydiau _____________Nodyn _____________________; nodiadau ___________; nodau _____________

Prawf geirfa:

Ces i fy ___________ rhag mynd i mewn i’r clwb.

Mae ___________ y babi yn frwnt eto!

Tasg ddyddiol yw _________________ i’r ffermwyr.

Mae taflu trolis siopa yn yr afon yn achosi _______________ .

Mae _______________ yn gweithio mewn adran famolaeth mewn ysbyty.

Bu’n rhaid cau’r ysgol oherwydd y tywydd ____________ .

Aeth yr afal yn sownd yn fy llwnc a bu bron i fi ____________ .

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 1227

Page 28: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Y Dyfodol Cryno

Edrychwch ar yr enghreifftiau isod:

Person yn cnocio ar ddrws y tŷ: Dylech chi ymateb trwy ddweud Af i nid Bydda i’n mynd.

Mae’r ffôn yn canu:Dylech chi ymateb trwy ddweud Ateba i nid Bydda i’n ateb.

Mae ffrind eisiau cwmni i fynd i’r sinema:Dylech chi ymateb trwy ddweud Dof i ‘da ti nid Bydda i’n dod ‘da ti.

Yn ffarwelio wrth adael y gwaith:Dylech chi ddweud Gwela i chi yfory nid Bydda i’n eich gweld chi yfory.

Mae’n bwysig iawn gwybod ffurfiau dyfodol ‘bod’ yn dda iawn er mwyn trosglwyddo’r terfyniadau i fôn y ferf i greu’r ffurfiau cryno. Dim ond y trydydd person unigol (e/hi) sy’n wahanol:

Bod DarllenBydda i Darllena iByddi di Darlleni diBydd e/hi Darlleniff hi/eByddwn ni Darllenwn niByddwch chi Darllenwch chiByddan nhw Darllenan nhw

Sylwch ar y patrwm treiglo (fel y gorffennol cryno):Bydda i’n prynu llyfr newydd Pryna i lyfr newydd

Sylwch hefyd ein bod yn dweud Darlleni di, sy’n wahanol i’r gorffennol cryno – Darllenaist ti.

Mae angen dysgu’r berfau afreolaidd

Mynd Cael Gwneud DodAf i Caf i Gwnaf i Dof iEi di Cei di Gwnei di Doi diAiff e/hi Caiff hi/e Gwnaiff e/hi Daw hi/eAwn ni Cawn ni Gwnawn ni Down niEwch chi Cewch chi Gwnewch chi Dewch chiÂn nhw Cân nhw Gwnân nhw Dôn nhw

Atebion

Fel arfer dyn ni’n ateb cwestiynau yn y dyfodol cryno trwy ddefnyddio ffurfiau cryno’r ferf ‘gwneud’.

Cwestiwn Ateb √ Ateb XWeli di Dafydd yfory? Gwnaf Na wnafWela i ti yfory? Gwnei Na wneiWeliff e Dafydd yfory? Gwnaiff Na wnaiffWelwch chi ni yfory? Gwnawn GwnawnWelwn ni chi yfory? Gwnewch Na wnewchWelan nhw Dafydd yfory? Gwnân Na wnân

‘Dyn ni hefyd yn defnyddio ffurfiau dyfodol cryno ‘gwneud’ i ymateb i orchmynion (commands):

28

Page 29: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Ffonia ar ôl i ti gyrraedd GwnafCofia fi ato fe GwnafGyrrwch yn ofalus GwnawnCymerwch eich amser Gwnawn

Sylwch fod yn rhaid defnyddio ffurfiau ‘cael’ i ateb cwestiynau sy’n cynnwys y ferf ‘cael’:

Gei di ddod mas i chwarae? Caf/na chafGaf i afal? Cei/na cheiGaiff e frechdan? Caiff/na chaiffGewch chi ddod gyda ni? Cawn/na chawnGawn ni helpu’n hunain? Cewch/na chewchGân nhw aros i ginio? Cân/na chân

Sylwch ein bod ni’n ffurfio gorchmynion lluosog o’r ffurfiau cryno:

Eisteddwch!Helpwch!Sefwch!

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 12

29

Page 30: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Llenwch y bylchau:

Dw i ddim yn siŵr beth ___________ (gwneud) i dros y Sul eto. Os _________ hi’n

braf, mae’n bosib _________ (mynd) i am dro yn y car i lan y môr. Os na ________

hi’n braf _____________ (aros) i gartref i wneud ychydig o waith tŷ - ____________

(glanhau) i’r ffenestri, _____________ (golchi) i ddillad a _______________

(coginio) i. ________ (dod) mam a dad draw nos Sul fel arfer, ac

________________ (edrych) ni ar y teledu gyda’n gilydd. ________ (mynd) nhw

adref tua 10 o’r gloch a ____________ (cael) i noson gynnar, yn barod ar gyfer

wythnos brysur arall.

Prawf geirfa:Beth yw’r gair yn yr uned:Buwch ifanc ____________________Gallu ____________________Poleit ____________________Cyn hir ____________________Person sy ddim yn bwyta cig ____________________

Pa air sy’n tyfu allan o:Arbennig ____________________Addysg ____________________Cenedl ____________________Arwydd ____________________

Beth yw:Pan - ____________________Frying pan - ____________________

Youth - ____________________Youth club - ____________________

Llenwch y bylchau:Mae Shane Williams yn chwarae ar yr _______________ .Dysgwch y _________ cyntaf a’r cytgan erbyn yr ymarfer nesaf.Mae’n actio yn y _______________ newydd fydd yn agor yr wythnos nesaf.Mae adar __________ i’w gweld yng nghanolbarth Cymru.Doedd hi ddim yn bosib chwarae’r gêm am fod y __________ yn rhy galed.

30

Page 31: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 13

Y GoddefolEr mwyn creu brawddegau yn y goddefol, mae’n rhaid cael:

Y ferf cael (Ces i) + rhagenw (fy) + berfenw (ngeni)

1. Mae’n bwysig iawn bod yn gyfarwydd â’r ferf ‘cael’ ym mhob amser:

Presennol Amherffaith(Imperfect)

Dyfodol Amodol*(Conditional)

Gorffennol cryno

Dyfodol cryno

Dw i’n cael Ro’n i’n cael Bydda i’n cael

Byddwn i’n cael

Ces i Caf i

Rwyt ti’n cael

Ro’t ti’n cael Byddi di’n cael

Byddet ti’n cael

Cest ti Cei di

Mae e/hi’n cael

Roedd e/hi’n cael

Bydd e/hi’n cael

Byddai e/hi’n cael

Cafodd e/hi Caiff e/hi

Dyn ni’n cael

Ro’n ni’n cael

Byddwn ni’n cael

Bydden ni’ncael

Cawson ni Cawn ni

Dych chi’n cael

Ro’ch chi’n cael

Byddwch chi’n cael

Byddech chi’n cael

Cawsoch chi

Cewch chi

Maen nhw’n cael

Ro’n nhw’n cael

Byddan nhw’n cael

Bydden nhw’n cael

Cawson nhw

Cân nhw

2. Mae hefyd yn bwysig gwybod pa dreigladau sy’n dilyn y rhagenwau:

Rhagenw Treiglad EnghraifftFy Treiglad trwynol Fy ngeniDy Treiglad meddal Dy eniEi (gwrywaidd) Treiglad meddal Ei eniEi (benywaidd) Treiglad llaes

‘h’ o flaen llafariaidEi geniEi henwi

Ein Dim treiglad ond ‘h’ o flaen llafariaid

Ein geniEin henwi

Eich Dim treiglad Eich geniEu Dim treiglad ond ‘h’ o flaen

llafariaidEu geniEu henwi

3. Rhaid i’r person yn y ferf a’r rhagenw gytuno:Ces i fy ngeniCawson ni ein geniCawson nhw eu geni

Byddwch yn ofalus:Cafodd y plant eu geni

4. Cenedl enwau (gender of nouns)

Os ydych yn disgrifio enw, er mwyn bod yn berffaith gywir, rhaid i chi wybod beth yw cenedl yr enw er mwyn cael y treiglad yn gywir. Ond mae dweud y patrwm yn iawn a chael y treiglad yn anghywir yn llawer gwell na defnyddio’r patrwm yn anghywir.

Cafodd y llyfr ei ddarllen – Mae llyfr yn wrywaidd felly treiglad meddal ar ôl ‘ei’Cafodd y daflen ei darllen – Mae taflen yn fenywaidd felly dim treiglad yma ar ôl ‘ei’.

31

Page 32: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Mae’r lluosog yn hawdd – does dim angen gwybod y cenedl:Cafodd y llyfrau eu darllen

5. Fel arfer, y peth mwyaf anodd i ddysgwyr yw cofio defnyddio’r patrwm yma wrth siarad. Pan fyddwch chi’n meddwl yn Saesneg, dych chi’n meddwl am y gair Saesneg ‘was’ ac yn meddwl yn syth am yr amherffaith (roedd ac ati). Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y parau isod:

Roedd y bachgen yn cicio - The boy was kickingCafodd y bachgen ei gicio - The boy was kicked

Roedd y ferch yn dysgu - The girl was teachingCafodd y ferch ei dysgu - The girl was taught

Roedd y plant yn gwisgo - The children were dressingCafodd y plant eu gwisgo - The children were dressed

Ro’n i’n holi - I was questioningCes i fy holi - I was questioned

Ro’n ni’n arwain - We were leadingCawson ni ein harwain - We were led

Ro’n nhw’n amseru - They were timingCawson nhw eu hamseru - They were timed

O’ch chi’n beirniadu? - Were you criticising/adjudicating?Gawsoch chi eich beirniadu? - Were you criticised?

O’t ti’n galw? - Were you calling?Gest ti dy alw? - Were you called?

6. Byddwch yn ofalus!Fy ngŵr neu fy ngŵr i ond Ces i fy ngeniDy salad neu dy salad di ond Ces ti dy stopioEi waith neu ei waith e ond Cafodd e ei weldEi mam neu ei mam hi ond Cafodd hi ei magu

32

Page 33: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 13

Ysgrifennwch 6 brawddeg yn defnyddio’r parau isod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio amser (tense) gwahanol bob tro.

Cynhyrchiad llwyfannu (to stage)Rhwydwaith sefydluCystadleuaeth hysbysebuClawr dylunioRheol torriEmynau canu

_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

Prawf geirfa:

Pa eiriau yn yr uned sy wedi tyfu o’r geiriau isod?Bwyd _______________Cryf _______________Amser _______________Dweud _______________Oer _______________Pryd _______________

Pa air yn yr uned sy’n cyfateb i:Pobl sy’n prynu mewn siop _____________________ Mewn pryd _____________________Pethau dyn ni’n eu gwneud yn rheolaidd _____________________Y ffordd dych chi’n dweud rhywbeth _____________________Hapus _____________________ Gwynt ysgafn _____________________Tawel _____________________ Diflas _____________________

Llyw Pwy oedd Llywelyn ein Llyw Olaf? ________________________

Corn Ble byddech chi’n clywed y geiriau “Ar alwad y corn gwlad....”?____________________________________________________

33

Page 34: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 14

Yr Amhersonol

‘Dyn ni’n gallu defnyddio dwy ffordd yn Gymraeg i fynegi un syniad yn Saesneg:

I was paid: Ces i fy nhalu neu Talwyd fiI get paid: Dw i’n cael fy nhalu neu Telir fiI used to get paid: Ro’n i’n cael fy nhalu neu Telid fi

Mae’r ffurfiau mewn teip du, tywyll yn haws ond maen nhw’n ffurfiol iawn a dyn ni ddim yn arfer eu clywed mewn sgwrs bob dydd. Dych chi ddim hyd yn oed yn eu clywed mewn bwletin newyddion bob amser erbyn hyn. Ond byddwch chi’n dod ar eu traws nhw wrth ddarllen felly mae’n bwysig eich bod yn eu deall.

Ychydig o bwyntiau i’w cofio:

1. Ir – Mae ir yn gallu bod yn bresennol neu’n ddyfodol:Perfformir y ddrama – The play is being performed neu The play will be performed.

2. Does dim treiglad yn dilyn wyd, ir, id. Dim person = dim treigladGwelwyd bachgen ifanc yn y parcCodir cant o dai newydd dros y chwe mis nesafGolchid dillad yn yr afon yn yr hen ddyddiau.

3. Mae ir ac id yn troi’r llythyren ‘a’ yn ‘e’:Canu cenir cenid (ond canwyd)Cynnal cynhelir cynhelid (ond cynhaliwyd)Talu telir telid (ond talwyd)Gallu gellir gellid

4. Mae’r berfau mynd, cael, gwneud a dod bob amser yn afreolaidd:

wyd ir idMynd Aethpwyd/aed Eir EidGwneud Gwnaethpwyd/gwnaed Gwneir GwneidCael Cafwyd Ceir CeidDod Daethpwyd Deuir Deuid

34

Page 35: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 14

Ysgrifennwch 6 brawddeg yn defnyddio’r geiriau isod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio amser (tense) gwahanol bob tro.

Telir CarcharwydGellir CosbidCynhaliwyd Clywid_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

_________________________________________________________

Prawf geirfa:

Beth yw:

A vote ____________________ To punish _______________________Secret ballot ________________ Capital punishment ________________

To sentence (yn y llys) _________________________Life sentence ________________________________

Pa air yn yr uned sy’n cael ei ddisgrifio isod:

Mae dŵr yn rhedeg trwy hon _____________________ Maen nhw’n paratoi bwyd _____________________Symud o un lle i un arall _____________________Cynnal ar ddyddiad hwyrach _____________________Mae’n tyfu ar gangen ar goeden _____________________ Grŵp o bobl _____________________Mae’n stopio dŵr rhag llifo _____________________ Trafferth _____________________Gwrthod _____________________

35

Page 36: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 15

Ansoddeiriau (1)

Yn Uned 15, ‘dyn ni’n edrych ar sut i ddweud ‘as fast as’. O ran diddordeb, y term gramadegol Cymraeg yw’r Radd Gysefin ond does dim angen i chi wybod hyn.

Gydag ansoddeiriau rheolaidd, mae’r patrwm yn eithaf hawdd:Mor + ansoddair (treiglad meddal) + â (treiglad llaes)

cyflym Mae e’n rhedeg mor gyflym â’r gwyntcyffrous Dyw rygbi ddim mor gyffrous â chricedpell Dw i ddim yn gallu rhedeg mor bell â chigwyntog Dyw hi ddim mor wyntog heddiw â ddoediddorol Dyw’r ail lyfr ddim mor ddiddorol â’r cyntaf

Rhaid cofio fod ‘ll’ a ‘rh’ ddim yn treiglo’n feddal ar ôl ‘mor’ –mor llawen â’r gog

Mae ‘â’ yn troi yn ‘ag’ o flaen llafariaid (vowels)Mae John yn rhedeg mor gyflym ag Aled

Mae angen dysgu 4 ansoddair afreolaidd (irregular): mawr, bach, da, drwg

mawr Cymaint Cymaint â...

so much/manyas much/many as...

Dyw’r gwyliau ddim wedi costio cymaint â’r llynedd Dw i erioed wedi gweld cymaint o bobl

bach Cyn lleied Cyn lleied â...

so little/fewas little/few as...

Mae hi’n dweud cyn lleied â phosiblDw i erioed wedi talu cyn lleied am gar

da CystalCystal â...

so goodas good as...

Sut mae e heddiw? Dim cystal heddiwMae e’n chwarae cystal â’i frawd

drwg CynddrwgCynddrwg â...

so badas bad as...

Doedd y canlyniadau ddim cynddrwg wedi’r cyfanMae’r efeilliaid cynddrwg â’i gilydd

I ddweud as big as/as small as, ry’n ni’n defnyddio mor fawr â/mor fach â

Mae un ffurf arall mae eisiau i chi ei hadnabod – does dim rhaid i chi ei defnyddio.Mae’n gyffredin mewn diarhebion (proverbs) ac ymadroddion (phrases).Mor bell â – cyn belled â mor gryf â – cyn gryfed âMor dal â – cyn daled â mor sych â – cyn syched âDyw hi ddim yn bosib defnyddio’r ffurf hon gydag ansoddeiriau hir:Mor ddiddorol â mor esgeulus â mor ofalus âDysgwch un ymadrodd sy’n ddefnyddiol ar ddiwedd llythyr:Dw i’n edrych ymlaen at glywed oddi wrthoch chi cyn gynted ag y bo modd (as soon as possible)

36

Page 37: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 15

Defnyddiwch yr isod mewn brawddegau. Ddylai’r ansoddeiriau ddim dod ar ddechrau’r brawddegau:

Mor ddiddorol â _____________________________________________________

Cystal â ___________________________________________________________

Mor bell â __________________________________________________________

Cyn lleied â ________________________________________________________

Cynddrwg â ________________________________________________________

Mor siaradus â ______________________________________________________

Cynddrwg â ________________________________________________________

Prawf geirfa:

Pa air yn yr uned sy’n gysylltiedig â’r geiriau isod?

Gair yn yr uned YstyrCreuHoliPwyntioMethuWyneb

Pa air yn yr uned sy’n cael ei ddisgrifio isod:

Person sy’n gweithio mewn capel _____________________ Tri diwrnod _____________________Heb stopio _____________________Aelod Cynulliad _____________________Para am byth _____________________

37

Page 38: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 16

Ansoddeiriau (2)

Yn Uned 16, ‘dyn ni’n edrych ar sut i ddweud ‘taller than’. O ran diddordeb, y term gramadegol Cymraeg yw’r Radd Gymharol.

Gydag ansoddeiriau rheolaidd sy’n eithaf byr , mae’r patrwm yn eithaf hawdd:[ansoddair] -ach na(g) (Treiglad Llaes)

tal Mae fy mab yn dalach na fy merchoer Mae hi’n oerach heddiw na ddoepell Mae Abertawe’n bellach na Chaerdyddtwym Mae hi’n dwymach nag arfer

Cofiwch fod ‘â’ yn troi yn ‘ag’ o flaen llafariaid (vowels)Mae John yn rhedeg mor gyflym ag Aled

Os bydd ansoddair byr yn gorffen gyda d, g, b, mae’r llythyren yma’n newid (‘caledu’) pan dyn ni’n ychwanegu –ach:Rhad rhatach drud drutachTeg tecach (♫ “tecach yw na’r lili dlos” ♫)Gwlyb gwlypach

Mae w yn gallu troi yn y, e.e. trwm trymach

Gydag ansoddeiriau hir, mae’r patrwm eto’n eithaf hawdd:Mwy [ansoddair] na(g) (Treiglad Llaes)

gofalus Mae fy mhartner yn fwy gofalus na fillonydd Mae llynnoedd yn fwy llonydd nag afonydddiddorol Mae golff yn fwy diddorol na chriced

Fel bob amser mae angen dysgu y pedwar ansoddair afreolaidd (irregular): mawr, bach, da, drwg:mawr mwy bigger

moreMae Llundain yn fwy na ChaerdyddMae mwy o bobl yn y dosbarth na’r llynedd

bach llai smallerless, fewer

Mae Tonypandy’n llai na PhontypriddMae llai o bobl yn y dosbarth na’r llynedd

da gwell better Dw i’n teimlo’n llawer gwell na ddoedrwg gwaeth worse Mae’r tywydd yn waeth heddiw na ddoe

Yn y tabl isod, mae rhagor o ansoddeiriau sy ychydig yn wahanol:

Ansoddair Ffurf gymharol Mae’r ffurfiau yma’n bosib hawdd haws hawddachanodd anos anoddachifanc iau ifancachhen hŷn henachcynnar cynt* cynharach

Mae cynt hefyd yn cael ei defnyddio fel ffurf gymharol cyflym.

38

Page 39: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 16

Llenwch y bylchau:

Mae’r Nadolig yn dechrau’n __________ bob blwyddyn.

Mae e ddwy flynedd yn _______________ na’i chwaer fawr.

Roedd y tîm yn dda y llynedd ond maen nhw’n __________ byth eleni.

Rwyt ti’n mynd yn _____________ bob tro dw i’n dy weld.

Roedd y gaeaf yn galed y llynedd ond mae’n ________________ byth eleni.

Roedd yr arholiad hanes yn anodd ond roedd daearyddiaeth yn ____________ byth.

Prawf geirfa:Pa air yn yr uned sy’n gysylltiedig â’r geiriau isod?

awgrym _____________________

cyngor _____________________

anadl _____________________

arian _____________________

sâl _____________________

rhwystr _____________________

cof _____________________

cyfartal _____________________

gwaed _____________________

prin _____________________

Llenwch y bylchau gyda gair o’r uned:

Mae plant yn mwynhau _________________ canhwyllau ar gacen.

Mae’r ffilm yn _________________ i rai dros bymtheg oed.

Ar ôl prawf, mae rhywun yn disgwyl ___________________.

39

Page 40: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 17

Ansoddeiriau (3)Yn Uned 17, ‘dyn ni’n edrych ar sut i ddweud ‘the tallest’. O ran diddordeb, y term gramadegol Cymraeg yw’r Radd Eithaf.

Gydag ansoddeiriau rheolaidd sy’n eithaf byr , rhaid ychwanegu’r terfyniad –a, neu yn fwy ffurfiol –af. Rhaid cofio defnyddio patrwm pwysleisiol gyda’r ansoddeiriau hyn.

tal Fy mab yw’r tala yn y dosbarth/Fy merch yw’r dala yn y dosbarthcyflym Siôn yw’r cyflyma/Siân yw’r gyflyma

Mae treiglad meddal os disgrifir un person benywaidd neu un peth benywaidd. Os bydd ansoddair byr yn gorffen gyda d, g, b, mae’r llythyren yma’n newid pan dyn ni’n

ychwanegu –a:

Rhad rhata drud druta Cyfoethog cyfoethoca Gwlyb gwlypa

Mae w yn gallu troi yn y, e.e. trwm tryma

Gydag ansoddeiriau eithaf hir, rhaid i ni rhoi’r gair mwya o flaen yr ansoddair:

gofalus Gwyn yw’r mwya gofalus/Gwen yw’r fwya gofalusdiddorol Y llyfr hwn yw’r mwya diddorol/Y nofel hon yw’r fwya diddorol

Fel bob amser, mae angen dysgu y 4 ansoddair afreolaidd (irregular): mawr, bach, da, drwg

mawr mwya biggestmost

Jac yw’r mwya yn y dosbarthSiân yw’r fwya esgeulus

bach llai smallestleast

Fy mab yw’r lleia yn y dosbarthSiôn yw’r lleia esgeulus yn y teulu

da gorau best Cymru yw’r wlad oraudrwg gwaetha worst Fe yw’r gwaetha yn y tîm eleni

Yn y tabl isod, mae rhagor o ansoddeiriau sy ychydig yn wahanol:

Ansoddair Ffurf gymharol Mae’r ffurfiau yma’n bosib hawdd hawsahen hyna henatlawd tlotallydan lleta

40

Page 41: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 17

Llenwch y bylchau:

Dyna’r arholiad ______________ i fi ei sefyll erioed.

Fe yw’r _____________ yn y teulu – mae e’n naw deg tair oed.

Ni oedd y tîm ____________ y llynedd – enillon ni’r bencampwriaeth.

Mae ein tŷ ni yn llydan iawn – y ________________ yn y stryd.

Y llynedd oedd y gaeaf _______________ ers ugain mlynedd.

Yr Wyddfa yw’r mynydd ______________ yng Nghymru.

Prawf geirfa:Os bydd enw yn gorffen gyda -fa, maen nhw bob amser yn fenywaidd. Pa air o’r uned sy’n gorffen gyda -fa?

____________________

Rhestrwch gymaint â phosibl o eiriau eraill sy’n gorffen gyda –fa.

Beth yw:

Maid ____________________Bridesmaid _____________________

Care _____________________Child care _____________________

Path _____________________Public footpath _____________________

To plead _____________________To plead guilty _____________________

41

Page 42: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 18

ArddodiaidBydd y tabl isod yn eich helpu i wybod pryd i ddefnyddio pa arddodiad. Dyw’r rhestr ddim yn gyflawn (complete):ar am â atedrychgwrandogwenuymosodblinogweiddidwlusylwidylanwadueffeithio

arostaludarllensiaradclywedchwiliosôn

siaradcytunoanghytunoymweldcyfweldcwrddpeidiomynddodcyffwrdd

ysgrifennuanfoncyfeirioanelu

i wrth rhag yngofyndiolchaddollwyddo

dweud cuddioatalrhwystrocysgodidianc

ymddiriedcydiogafael

Mae llawer o arddodiaid yn rhedeg. Edrychwch ar ar fel enghraifft:Arno i Arnon niArnot ti Arnoch chiArno fe Arnyn nhwArni hi

Mae’r terfyniadau yr un peth bob tro (er ei bod yn bosib defnyddio arna i, arnat ti, amdana i, amdanat ti, ata i, atat ti).

Rhoddir isod y person cyntaf ar gyfer nifer o arddodiaid:Am amdano/a iAt ato/a iWrth wrtho iRhag rhagddo iRhwng rhyngddo iHeb hebddo iTrwy trwyddo iDros drosto i

Byddwch yn ofalus gyda ‘i’. Dim ond y trydydd person (fe, hi, nhw) sy’n newid:i fi i nii ti i chiiddo fe iddyn nhwiddi hi

42

Page 43: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 18

Llenwch y bylchau:

Hoffwn i ddiolch _____ _________ am eich gwaith.

Dwedais i ____________ _______ ddoe, ond do’t ti ddim yn gwrando _________ ______.

Dw i’n anghytuno’n llwyr _________ chi.

Gwenodd e _______ y camera.

Dw i ddim eisiau sôn _______ beth ddigwyddodd.

Dyw hi ddim yn ymddiried _______________ fe.

Prawf geirfa:Pa eiriau o’r uned sy’n tyfu o’r geiriau hyn:rhydd __________________________

mwg __________________________

byw __________________________

tebyg __________________________

ffoi __________________________

lle __________________________

byr __________________________

hedd __________________________

Dych chi wedi dysgu’r gair ‘ardderchog’. Pa eiriau eraill dych chi’n eu gwybod sy’n golygu’r un peth?

43

Page 44: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 19

Gorffen brawddeg ag arddodiaidYn Gymraeg, yn ramadegol dyw hi ddim yn bosib gorffen brawddeg ag arddodiad sy heb ei redeg (which hasn’t been conjugated). Mae’n wych os dych chi’n gwybod cenedl (gender) y peth ‘dych chi’n siarad amdano fel yn y brawddegau isod ond os dych chi ddim yn siŵr, defnyddiwch y terfyniad gwrywaidd (masculine ending) – dyna beth mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn ei wneud yn naturiol.

Dyma’r rhaglen dw i’n edrych arni hi bob wythnos.Dyna’r bws dw i’n aros amdano fe.Dyma’r bobl dw i’n ysgrifennu atyn nhw bob wythnos.Ble mae’r ferch mae’n rhaid i fi ofyn iddi hi?Dyna’r bachgen dwedais i wrtho fe.Maen nhw’n bobl dych chi’n gallu ymddiried ynddyn nhw.Ble mae’r dyn ro’n i’n siarad â fe?Dyna’r dyn dw i’n gweithio gyda fe.(Dyw ‘â’ a ‘gyda’ ddim yn rhedeg ond rhaid i ni nodi’r rhagenw (pronoun)).

Mewn cwestiwn, dylai’r arddodiad yn dod ar y dechrau, ond byddwch chi weithiau’n clywed pobl ar lafar yn dweud pethau fel ‘Ble rwyt ti’n dod o?’dod o O ble dych chi’n dod?gwenu ar Ar bwy dych chi’n gwenu?chwilio am Am beth dych chi’n chwilio?cwrdd â Â phwy dych chi’n cwrdd?cyfeirio at At beth dych chi’n cyfeirio?gofyn i I bwy dych chi wedi gofyn?dweud wrth Wrth bwy dwedaist ti?cuddio rhag Rhag pwy dych chi’n cuddio?gafael yn Yn beth dych chi’n gafael?cerdded gyda Gyda phwy dych chi’n cerdded?(Sylwch nad yw’r ferf yn treiglo pan fydd cwestiwn yn dechrau ag arddodiad – Wrth bwy dwedaist ti? Eto, ar lafar, byddwch chi’n clywed siaradwyr Cymraeg yn treiglo’n feddal bob tro gyda chwestiwn.)

44

Page 45: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 19

Llenwch y bylchau:

Basech chi’n mwynhau’r rhaglen gwrandawais i ________ neithiwr.

Dw i wedi ffeindio’r llyfr ro’n ti’n chwilio _____________ .

Dyna’r plant anfonais i wahoddiad ____________ nhw.

Dyna’r dyn mae angen i ti ofyn ____________ .

Hi yw’r ferch dwedais i ____________ .

Dewch i weld y tŷ ro’n i’n arfer byw ___________ .

Mae rhywun yn y pentref dw i eisiau i ti gwrdd __________ _______ .

Edrychwch ar yr atebion ac ysgrifennwch gwestiwn sy’n dechrau ag arddodiad:

__________________________ ? Siaradais i â fy ffrind neithiwr.

__________________________ ? Dwedais i wrth y tiwtor.

__________________________ ? Gofynnais i am win coch.

__________________________ ? Gofynnais i i’r plant.

__________________________ ? Ysgrifennais i at fy modryb.

__________________________ ? Dw i’n edrych ar Pobol y Cwm.

Prawf geirfa:Beth yw’r gair?:person sy’n gweithio mewn labordy __________________________

stori yn y Beibl __________________________

symud nwyddau i mewn i wlad __________________________

y bobl yn Stadiwm y Mileniwm __________________________

ble mae afon yn dechrau __________________________

45

Page 46: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 21

Arddodiaid cyfansawdd (mewn dwy ran)Mae nifer o arddodiaid sy’n dod mewn dwy ran ac maen nhw’n gweithio’n wahanol i arddodiaid arferol (e.e. ar, am, at). Dyma rai ohonyn nhw:

ar ôl wrth ochr yn ymyl yn erbyn er mwyn (for the sake of, nid in order to)

ar fy ôl iar dy ôl diar ei ôl e ar ei hôl hiar ein hôl ni ar eich ôl chiar eu hôl nhw

wrth fy ochr iwrth dy ochr diwrth ei ochr ewrth ei hochr hiwrth ein hochr ni wrth eich ochr chiwrth eu hochr nhw

yn fy ymyl iyn dy ymyl diyn ei ymyl eyn ei hymyl hiyn ein hymyl niyn eich ymyl chiyn eu hymyl nhw

yn fy erbyn iyn dy erbyn diyn ei erbyn e yn ei herbyn hiyn ein herbyn ni yn eich erbyn chiyn eu herbyn nhw

er fy mwyn ier dy fwyn di er ei fwyn e er ei mwyn hier ein mwyn nier eich mwyn chi er eu mwyn nhw

Yn y grŵp nesaf, rhaid i ni wybod beth yw’r gair gwreiddiol sy’n dilyn yr arddodiad, er mwyn treiglo’n gywir:

ar bwys (pwys) ar draws (traws) ar gyfer (cyfer)ar fy mhwys iar dy bwys di ar ei bwys ear ei phwys hiar ein pwys niar eich pwys chiar eu pwys nhw

ar fy nhraws iar dy draws di ar ei draws ear ei thraws hiar ein traws ni ar eich traws chiar eu traws nhw

ar fy nghyfer iar dy gyfer diar ei gyfer ear ei chyfer hiar ein cyfer niar eich cyfer chiar eu cyfer nhw

Yn y grŵp nesaf, rhaid i ni fod yn ofalus gyda’r cwtogiadau (contractions) ar ôl ‘o’ a gwybod beth yw’r gair gwreiddiol:

o flaen (blaen) o gwmpas (cwmpas) o blaid (plaid)o fy mlaen io dy flaen dio’i flaen eo’i blaen hi o’n blaen nio’ch blaen chi o’u blaen nhw

o fy nghwmpas io dy gwmpas dio’i gwmpas eo’i chwmpas hio’n cwmpas nio’ch cwmpas chio’u cwmpas nhw

o fy mhlaid i o dy blaid dio’i blaid eo’i phlaid hio’n plaid nio’ch plaid chio’u plaid nhw

Mae’r arddodiaid isod hefyd yn rhannu’n ddwy ran:

uwchben (uwch + pen) Ynghylch (yn + cylch)uwch fy mhenuwch dy benuwch ei benuwch ei phenuwch ein penuwch eich penuwch eu pen

yn fy nghylchyn dy gylchyn ei gylch yn ei chylchyn ein cylch yn eich cylchyn eu cylch

Byddwch yn ofalus gyda ‘tu ôl’, ‘tu allan’, ‘tu mewn’, ‘tu hwnt’ – maen nhw’n wahanol achos dyn ni’n defnyddio’r arddodiad ‘i’:(y) tu ôl i’r ysgol(y) tu allan i’r ysgol

46

Page 47: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 21Cyfieithwch:

The rest were in front of me.

You were punctual but he arrived after you.

There was a lot of damage to the flat above her.

The result will go against us.

The Chief Executive sat next to me in the meeting.

Did you do this for them (for their sake)?

Prawf geirfa:Beth yw’r gair a beth yw’r ystyr yn Saesneg? Mae pob llinell yn cynrychioli un llythyren.

ll _ _ _ _ n _ _ _ __________________________

_e _ _ _ d __________________________

_ _ st _ _ __________________________

_ _ f _ _ _ _ i __________________________

_ _ _ s _ _ d __________________________

Beth yw:medium ___________________________through the medium of Welsh ___________________________

Beth yw:self pity ___________________________Ysgrifennwch dri gair arall sy’n dechrau gyda ‘hunan’:_______________ _________________ _________________

Beth yw:Chief Executive _____________________________

Ysgrifennwch dri gair neu ymadrodd (phrase) arall sy’n dechrau gyda ‘prif’:

_______________ ___________________ _____________________

47

Page 48: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 22

RhifolionMae angen dysgu’r ffordd draddodiadol o gyfrif hyd at 31:

1 un 11 un ar ddeg 21 un ar hugain2 dau (dwy) 12 deuddeg 22 dau (dwy) ar hugain3 tri (tair) 13 tri (tair) ar ddeg 23 tri (tair) ar hugain4 pedwar (pedair) 14 pedwar (pedair) ar

ddeg24 pedwar (pedair) ar

hugain5 pump 15 pymtheg 25 pump ar hugain6 chwech 16 un ar bymtheg 26 chwech ar hugain7 saith 17 dau (dwy) ar

bymtheg27 saith ar hugain

8 wyth 18 deunaw 28 wyth ar hugain9 naw 19 pedwar (pedair) ar

bymtheg29 naw ar hugain

10 deg 20 ugain 30 deg ar hugain31 un ar ddeg ar hugain

Dysgwch hefyd:

40 deugain (un a deugain, dau a deugain, tri a deugain ayb)50 hanner cant (hanner cant ac un, hanner cant a dau, hanner cant a thri ayb)60 trigain (un a thrigain, dau a thrigain, tri a thrigain ayb)80 pedwar ugain(un a phedwar ugain, dau a phedwar ugain ayb)

‘Dyn ni’n dal i ddefnyddio deugain, hanner cant, trigain a phedwar ugain ond i ddweud geiriau fel 41, 52, 63, 84, mae’n fwy arferol gweld:41 pedwar deg un52 pum deg dau63 chwe deg tri84 wyth deg pedwar

Os byddwn ni’n defnyddio enw gyda rhif ac yn defnyddio’r ffordd draddodiadol, mae’r enw yn dod ar ôl yr elfen gyntaf, e.e.

11 o chwaraewyr un chwaraewr ar ddeg25 o funudau pum munud ar hugain

48

Page 49: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 22Cyfieithwch:

The Ospreys won by 23 points to 16 points.

I’ll be home in twenty five minutes.

She’ll be fifty on her next birthday.

I owe you forty pounds.

I would like to retire when I’m sixty.

The children had seventeen Easter eggs each!

Prawf geirfa:Pa eiriau newydd yn yr uned sy’n gysylltiedig (connected) â geiriau dych chi’n eu gwybod yn barod?

magu __________________________

ymarfer __________________________

symud __________________________

gwahoddiad __________________________

casglu __________________________

Beth yw’r ansoddair croes (opposite adjective)? , e.e.hapus anhapusaddas ___________________________difyr ___________________________ymarferol ___________________________

Beth yw:13 speeches ___________________________13 prayers ___________________________13 dialects ___________________________13 certificates ___________________________13 collections ___________________________13 movements ___________________________

49

Page 50: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 23Trefnolion

Mae angen dysgu’r trefnolion hyd at 31 er mwyn gallu dweud y dyddiad. Cofiwch fod y dyddiad yn wrywaidd.

1 cyntaf (1af) 11 unfed ar ddeg (11eg)

21 unfed ar hugain (21ain)

2 ail (2ail) 12 deuddegfed (12fed) 22 ail ar hugain (22ain)3 trydydd (3ydd)

/trydedd13 trydydd ar ddeg

(13eg)23 trydydd ar hugain

(23ain)4 pedwerydd (4ydd)

/pedwaredd14 pedwerydd ar ddeg

(14eg)24 pedwerydd ar hugain

(24ain)5 pumed (5ed) 15 pymthegfed (15fed) 25 pumed ar hugain

(25ain)6 chweched (6ed) 16 unfed ar bymtheg

(16eg)26 chweched ar hugain

(26ain)7 seithfed (7fed) 17 ail ar bymtheg

(17eg)27 seithfed ar hugain

(27ain)8 wythfed (8fed) 18 deunawfed (18fed) 28 wythfed ar hugain

(28ain)9 nawfed (9fed) 19 pedwerydd ar

bymtheg (19eg)29 nawfed ar hugain

(29ain)10 degfed (10fed) 20 ugeinfed (20fed) 30 degfed ar hugain

(30ain)31 unfed ar ddeg ar

hugain (31ain)Dysgwch hefyd:

40 deugeinfed100 canfed

Ffurfiau benywaiddCofiwch fod dwy ffurf fenywaidd:trydydd (gwrywaidd) y trydydd bachgentrydedd (benywaidd) y drydedd ferch (sylwch ar y treiglad meddal)

pedwerydd (gwrywaidd) y pedwerydd bachgenpedwaredd (benywaidd) y bedwaredd ferch (sylwch ar y treiglad meddal)

Mae’r treiglad meddal yn parhau ar ôl y trefnolion eraill hefyd:y bumed ferchy chweched ferch

Ffurfio’r trefnolionOs bydd un gair, e.e. deuddeg – ‘dyn ni’n rhoi’r terfyniad (ending) ar y gair yna. Os bydd tri gair, e.e. pedwar ar bymtheg – ‘dyn ni’n newid y gair cyntaf.

Trefnolyn + enwOs bydd tri gair yn y trefnolyn, mae’r enw (noun) yn dod ar ôl y gair cyntaf:un ar ddeg yr unfed awr ar ddegtrydydd/trydedd ar ddeg y drydedd Eisteddfod ar ddegpump ar hugain y pumed tro ar hugain

50

Page 51: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 23Cyfieithwch:

the third owner the third year

the twentieth century the twenty first century

the fifteenth minute the eleventh player

the thirtieth Eisteddfod the first Eisteddfod

the twenty fifth concert the eighth symphony

Prawf geirfa:Defnyddiwch air o’r eirfa yn yr uned i lenwi’r bylchau:

Mae’r plant yn sefyll mewn _____________ cyn mynd i mewn i’r dosbarth yn y bore.

Roedd yr ystafell mor dwym, ro’n i’n teimlo’n ____________ iawn – do’n i ddim yn gallu cadw fy llygaid ar agor.

Mae’r plant yn __________________’r cymorth maen nhw’n ei gael gan eu hathrawon yn fawr iawn.

Roedd llawer o ______________ pen-blwydd i Anti Mair ar Radio Cymru y bore ‘ma.

Roedd y ferch yn edrych yn ____________ iawn ar ôl llewygu yn y stryd.

Ysgrifennwch air arall yn lle’r gair sy mewn ffont trwm:

Gorffennodd y bachgen yr arholiad yn gyflym iawn. _________

Mae’r wlad yn hardd iawn. _________

Mae pawb yn y grŵp yn frwd. _________

51

Page 52: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 24

Blwyddyn, Diwrnod, Noson

Blwyddyn

Yn Gymraeg, mae tri gair i gyfieithu ‘year’:

Blynedd – gyda rhifau ar ôl ‘un’. Rhaid bod yn ofalus gyda’r treiglad:dwy flyneddtair blyneddpedair blyneddpum mlyneddchwe blyneddsaith mlyneddwyth mlyneddnaw mlyneddde(n)g mlynedddeuddeg mlyneddugain mlynedd

(Mae rhai pobl yn hoffi cofio fish fingers, baked beans, more bread, mmmm i gofio’r treigladau – mae’r llythrennau cyntaf yn dynodi’r treiglad ar y gair ‘blynedd’ o 2 – 10).

Sylwch hefyd (er ein bod yn dweud un flwyddyn):11 un mlynedd ar ddeg (neu un ar ddeg o flynyddoedd)16 un mlynedd ar bymtheg (neu un ar bymtheg/un deg chwech o flynyddoedd)21 un mlynedd ar hugain (neu un ar hugain/dau ddeg un o flynyddoedd)

Blwydd – i ddisgrifio oedran yn unig. Efallai bydd y gair ‘pen-blwydd’ yn help i gofio hyn. Does dim rhaid defnyddio’r gair i ddisgrifio oedran – gellir dweud ‘dwy oed’ neu ‘dwy’. Mae’r rhif yn fenywaidd am fod y gair ‘blwydd’ yn fenywaidd.

1 blwydd oed2 dwy flwydd oed3 tair blwydd oed4 pedair blwydd oed5 pum mlwydd oed6 chwe blwydd oed7 saith mlwydd oed8 wyth mlwydd oed9 naw mlwydd oed10 deg mlwydd oed

Mae’r patrwm treiglo yr un peth â ‘blynedd’.

Blwyddyn – Yn syml iawn, os nad ydyn ni’n defnyddio ‘blynedd’ neu ‘blwydd’, ‘dyn ni’n defnyddio ‘blwyddyn’, e.e.ar ôl un un flwyddyncyn ansoddeiriau blwyddyn galed, blwyddyn lwyddiannus, Blwyddyn Newydd Dda!

52

Page 53: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Diwrnod

Mae dau air i gyfieithu ‘day’:

Dydd – ‘Dyn ni bob amser yn defnyddio 'dydd’ gyda enw penodol (specific), e.e.:Dyddiau’r wythnos – dydd Llun, dydd Mawrth aybDydd Calan, Dydd Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi, Dydd Nadolig

Diwrnod – ‘Dyn ni fel arfer yn defnyddio diwrnod ar ôl rhifau, gyda ansoddeiriau a phan fydd teitl (dim enw):Dau ddiwrnod, tri diwrnod, pedwar diwrnod aybDiwrnod da, diwrnod blinedig, diwrnod hir, diwrnod cyffrousDiwrnod y Llyfr, Diwrnod Dim Ysmygu, Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Hefyd:Diwrnod y parti, diwrnod y ffair haf, diwrnod y cyngerdd.

Dysgwch hefyd:deuddydd – dau ddiwrnodtridiau – tri diwrnod

Noson

Mae dau air i gyfieithu ‘night’ ac mae’r rheolau’n debyg i dydd/diwrnod

Nos – gyda enw penodol:Nos Lun, nos Fawrth aybNos Galan (ond Noson Guto Ffowc)

a hefyd wrth gwrs, ‘Nos da’.

Noson – ‘Dyn ni’n defnyddio noson ar ôl rhifau a gyda ansoddeiriau:Un noson, dwy noson, tair noson aybNoson dda, noson flinedig, noson hir, noson gyffrous, noson lawen

Hefyd:Noson y parti, noson y ddawns haf, noson y cyngerdd.

(Yr unig dro mae eisiau defnyddio ‘noswaith’ yw wrth ddweud Noswaith dda.)

Rhai ymadroddion ddydd a nos day and nightgyda’r nos in the eveningnosi to become night (become dark)llygad y dydd daisy

53

Page 54: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 24Cyfieithwch:

I work six nights a week.

_________________________________________________

Last year was the best year of my life.

_________________________________________________

I have been in my job for three years.

_________________________________________________

We will be away for ten days.

_________________________________________________

I have to work day and night to pay all the bills.

_________________________________________________

Prawf geirfa:

Beth yw’r gair?

mae modd torri pren â hon _______________

cytundeb cyfreithiol ar ôl i briodas dorri _______________

mae’n digwydd gyda bomiau _______________

merch dych chi’n gweithio gyda hi _______________

diwrnod chwaraeon yn yr ysgol _______________

gorwedd ar y gwely i ymlacio _______________

54

Page 55: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 25

Byth/ErioedErioed

Mae 3 ystyr i erioed:‘never’ mewn brawddeg negyddol‘ever’ mewn cwestiwn‘always’ mewn brawddeg gadarnhaol (positive)

Edrychwch ar y brawddegau isod:

Dw i erioed wedi bod yn Awstralia I have never been in Australia(weithiau dych chi’n clywed ‘Dw i ddim wedi bod yn Awstralia erioed’ hefyd)Do’n i erioed wedi bod yna cyn ddoe I had never been there before yesterday(neu Do’n i ddim wedi bod yna cyn ddoe erioed)Welais i erioed mohono fe’n chwarae I never saw him playDych chi wedi ennill y loteri erioed?/Dych chi erioed wedi ennill y loteri? Have you ever won the lottery?Dw i wedi byw yng Nghymru erioed I have always lived in Wales

Felly, mae ‘erioed’ (never) yn y gorffennol yn unig:perffaith Dw i erioed wedi....gorberffaith Do’n i erioed wedi....gorffennol cryno Welais i erioed

Dysgwch hefyd:mor bigog ag erioed as touchy as evercystal ag erioed as good as everyn well nag erioed better than ever

Erioed! Never! (pan mae’n anodd credu rhywbeth)

BythMae 2 ystyr i ‘byth’:never mewn brawddeg negyddolever mewn cwestiwn

Edrychwch ar y brawddegau isod:Dw i byth yn gweithio dydd Sul I never work on a Sunday(neu Dw i ddim yn gweithio dydd Sul byth)Fydda i byth yn yfed te I never drink tea (yn defnyddio’r dyfodol i siarad am y presennol)Fydda i byth yn mynd yna eto/Af i byth yna eto I will never go there againFyddwn/Faswn i byth yn talu I would never payDo’n i byth yn arfer bwyta ma’s I never used to eat out

Dych chi byth yn yfed te?(neu Dych chi’n yfed te byth?) Do you ever drink tea?Fyddwch chi byth yn mynd yna eto?/ Will you ever go there again?Ewch chi byth yna eto?

55

Page 56: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Fyddech/fasech chi byth yn hedfan? Would you ever fly?O’ch chi byth yn arfer chwarae gemau? Did you ever used to play games?

Cymru am byth! Wales for ever!(Sylwch: dyw’r gair ‘byth’ ddim yn treiglo)

Felly, mae byth yn perthyn i:y presennol Dw i byth...y dyfodol Fydda i byth....yr amodol Fyddwn/Faswn i bythyr amherffaith Do’n i byth

Dysgwch hefyd:yn well byth even betteryn ddrutach byth even more expensive

56

Page 57: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 25Cyfieithwch:

I never drink hot drinks.

_________________________________________________

I never used to drink hot drinks.

_________________________________________________

He has never worked outside Wales.

_________________________________________________

He has always worked outside Wales.

_________________________________________________

I never went there again.

_________________________________________________

I would never go there again.

_________________________________________________

Prawf geirfa:

Beth yw:

an act of Parliament _______________

the Welsh language act _______________

review, survey _______________

an opinion survey _______________

parliamentary _______________

a Member of Parliament _______________

57

Page 58: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 26

CynffoneiriauPan fydd brawddeg gadarnhaol (positive), bydd cynffonair negyddol – yn dechrau gyda on’d (o flaen llafariaid), neu oni (o flaen cytseiniaid). Mae oni yn achosi treiglad meddal.

Presennol Amherffaith Gorffennol crynoDw i’n iawn, on’d (y)dw i? Ro’n i’n iawn, on’d o’n i? Gwelais i fe, on’d do?Rwyt ti’n iawn, on’d wyt ti? Ro’t ti’n iawn, on’d o’t ti? Gwelaist ti fe, on’d do?Mae e’n iawn, on’d yw e? Roedd e’n iawn, on’d oedd e? Gwelodd e fe, on’d do?Mae hi’n iawn, on’d yw hi? Roedd hi’n iawn, on’d oedd hi? Gwelodd hi fe, on’d do?‘Dyn ni’n iawn, on’d (y)dyn ni? Ro’n ni’n iawn, on’d o’n ni? Gwelon ni fe, on’d do?Dych chi’n iawn, on’d (y)dych chi? Ro’ch chi’n iawn, on’d o’ch chi? Gweloch chi fe, on’d do?Maen nhw’n iawn, on’d (y)dyn nhw?

Ro’n nhw’n iawn, on’d o’n nhw? Gwelon nhw fe, on’d do?

Mae llawer o bobl yma, on’d oes? Roedd llawer o bobl yma, on’d oedd?

Mae twll yn y to, on’d oes? Roedd twll yn y to,on’d oedd?

Dyfodol Amodol Dyfodol crynoBydda i’n iawn, oni fydda i? Byddwn i’n gwybod, oni fyddwn i? Gwela i fe, oni wnaf i?Byddi di’n iawn, oni fyddi di? Byddet ti’n gwybod, oni fyddet ti? Gweli di fe, oni wnei di?Bydd e’n iawn, oni fydd e? Byddai fe’n gwybod, oni fyddai fe? Gweliff e fe, oni wnaiff e?Bydd hi’n iawn, oni fydd hi? Byddai hi’n gwybod, oni fyddai hi? Gweliff hi fe, oni wnaiff hi?Byddwn ni’n iawn, oni fyddwn ni? Bydden ni’n gwybod, oni fydden

ni?Gwelwn ni fe, oni wnawn ni?

Byddwch chi’n iawn, oni fyddwch chi?

Byddech chi’n gwybod, oni fyddech chi?

Gwelwch chi fe, oni wnewch chi?

Byddan nhw’n iawn, oni fyddan nhw?

Bydden nhw’n gwybod, oni fydden nhw?

Gwelan nhw fe, oni wnân nhw?

Bydd llawer o bobl yma, oni fydd? Byddai llawer o bobl yn mynd, oni fyddai?

Bydd te a choffi, oni fydd?

Pwyslais Byddwch yn ofalus!Yn yr ardd mae hi, on’d ife? Mae popeth gyda ti, on’d yw e?Yn yr ardd roedd hi, on’d ife? Mae pawb yn mynd, on’d (y)dyn nhw?Yn yr ardd bydd hi, on’d ife?Yn yr ardd byddai hi, on’d ife?Fi sy’n mynd, on’d ife?Fi aeth, on’d ife?Fi fydd yn mynd, on’d ife?Nhw fyddai’n mynd, on’d ife?Nhw oedd yn y parc, on’d ife?

Wrth siarad, mae pobl fel arfer yn dweud ‘on’ yn lle oni: Bydda i yn y tîm, on’ fydda i?

58

Page 59: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Pan fydd brawddeg negyddol, bydd cynffonair cadarnhaol. Mae’r un peth yn digwydd yn Saesneg.

Presennol Amherffaith Gorffennol crynoDw i ddim yn iawn, ydw i? Do’n i ddim yn iawn, o’n i? Chlywais i ddim, do fe?Dwyt ti ddim yn iawn, wyt ti? Do’t ti ddim yn iawn, o’t ti? Chlywaist ti ddim, do fe?Dyw e ddim yn iawn, ydy e? Doedd e ddim yn iawn, oedd e? Chlywodd e ddim, do fe?Dyw hi ddim yn iawn, ydy hi? Doedd hi ddim yn iawn, oedd hi? Chlywodd hi ddim, do fe?‘Dyn ni ddim yn iawn, ydyn ni? Do’n ni ddim yn iawn, o’n ni? Chlywon ni ddim, do fe?Dych chi ddim yn iawn, (y)dych chi?

Do’ch chi ddim yn iawn, o’ch chi? Chlywoch chi ddim, do fe?

‘Dyn nhw ddim yn iawn, ydyn nhw?

Do’n nhw ddim yn iawn, o’n nhw? Chlywon nhw ddim, do fe?

Does dim llawer o bobl yma, oes e?

Doedd dim llawer o bobl yma, oedd e?

Does dim twll yn y to, oes e? Doedd dim twll yn y to,oedd e?

Dyfodol Amodol Dyfodol crynoFydda i ddim yn iawn, fydda i? Fyddwn i ddim yn gwybod,

fyddwn i?Chlywa i ddim, wnaf i?

Fyddi di ddim yn iawn, fyddi di? Fyddet ti ddim yn gwybod, fyddet ti?

Chlywi di ddim, wnei di?

Fydd e ddim yn iawn, fydd e? Fyddai fe ddim yn gwybod, fyddai fe?

Chlywiff e ddim, wnaiff e?

Fydd hi ddim yn iawn, fydd hi? Fyddai hi ddim yn gwybod, fyddai hi?

Chlywiff hi ddim, wnaiff hi?

Fyddwn ni ddim yn iawn, fyddwn ni?

Fydden ni ddim yn gwybod, fydden ni?

Chlywn ni ddim, wnawn ni?

Fyddwch chi ddim yn iawn, fyddwch chi?

Fyddech chi ddim yn gwybod, fyddech chi?

Chlywch chi ddim, wnewch chi?

Fyddan nhw ddim yn iawn, fyddan nhw?

Fydden nhw ddim yn gwybod, fydden nhw?

Chlywan nhw ddim, wnân nhw?

Fydd dim llawer o bobl yma, fydd e?

Fyddai dim llawer o bobl yn mynd, fyddai fe?

Fydd dim te na choffi, fydd e?

Pwyslais Byddwch yn ofalus!Nid yn yr ardd mae hi, ife? Dyw popeth ddim yn y bag, ydy e?Nid yn yr ardd roedd hi, ife? Dyw pawb ddim yn mynd, ydyn nhw?Nid yn yr ardd bydd hi, ife?Nid yn yr ardd byddai hi, ife?Nid fi sy’n mynd, ife?Nid fi aeth, ife?Nid fi fydd yn mynd, ife?Nid nhw fyddai’n mynd, ife?Nid nhw oedd yn y parc, ife?

59

Page 60: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 26

Ysgrifennwch y cynffoneiriau:

Mae hi’n braf, _______________________ ?

Roedd llawer o bobl yna, _____________________ ?

Gwela i ti yfory, ___________________________ ?

Am saith o’r gloch mae’r dosbarth yn dechrau, ________________ ?

Does dim llawer o fwyd yma, ______________________ ?

Fyddi di ddim yn y parti, _________________________ ?

Thalaist ti ddim o’r bil, _____________________ ?

Nid ti dalodd y bil, ______________________ ?

Ysgrifennwch rywbeth i ddod cyn y cynffoneiriau:

__________________________________________________ , on’d wyt ti?

__________________________________________________ , on’d o’n nhw?

__________________________________________________ , on’d ife?

__________________________________________________ , oni fyddwch?

__________________________________________________ , oes e?

__________________________________________________ , fydd hi?

__________________________________________________ , oni wnei di?

__________________________________________________ , ife?

Prawf Geirfa

Beth yw’r gair?

cofio am rywun/rywbeth ________________________

gair o’r Beibl ________________________

ar ôl meddwi, rhaid ________________________

person sy’n ysgrifennu cerddi ________________________

cael rhywbeth gan rywun sy wedi marw ________________________

Beth yw:lord ________________________the House of Lords ________________________

subject ________________________the subject of pride ________________________

60

Page 61: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 27

Bues i

Fel arfer, os ydyn ni’n defnyddio ‘bues i’ (a phob person arall wrth gwrs), mae’n bosib defnyddio rhywbeth arall, fel arfer yr amherffaith (ro’n i/roeddwn i). Ond mae’n bwysig eich bod chi’n adnabod y ffurfiau achos byddwch yn eu clywed wrth wrando ar y radio neu wrth wylio’r teledu, ac yn gweld y ffurfiau wrth ddarllen.

Edrychwch ar y brawddegau isod:Bues i’n gweithio Ro’n i’n gweithioBuodd hi yng Nghaerdydd Roedd hi yng Nghaerdydd

Fydd pobl ddim yn poeni pa un o’r brawddegau yma byddwch chi’n eu defnyddio i ddweud ‘I was/she was’.

Weithiau, mae’n bosib defnyddio ‘bues i’ yn lle ‘es i’. Mae hyn yn gyffredin iawn wrth drafod gwyliau.

Bues i yn Sbaen y llynedd Es i i Sbaen y llyneddBuon ni ym Mhorthcawl ym mis Mai Aethon ni i Borthcawl ym mis Mai

Rhai rheolau

1. Gyda’r ferf ‘marw’, mae angen defnyddio ‘buodd’

Buodd e farw (Bu farw yn ffurfiol) He diedBuon nhw farw They died

OndRoedd e’n marw He was dying

2. Os byddwn ni’n defnyddio amser (y cloc), rhaid defnyddio’r amherffaith (ro’n i):Ro’n i yn y dre am naw o’r glochRo’n ni mewn cyfarfod am dri

3. Am y tro, defnyddiwch yr amherffaith bob amser gydag ansoddeiriau:Roedd hi’n brafRoedd e’n oer

61

Page 62: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 27

Cyfieithwch y brawddegau mewn dwy ffordd, e.e.Bues i yng Nghaerdydd ddoe/Es i i Gaerdydd ddoe. I was in Spain last July/I went to Spain last July

He was in town/He went to town

They were in class last week/They went to class last week

Cyfieithwch:

I was in work at two o’clock

_____________________________________________

They died ten years ago

_____________________________________________

He was very disappointed

_____________________________________________

Prawf geirfa:Beth yw’r gair?Amser chwarae yn yr ysgol ____________________

Maen nhw mewn llyfrau coginio ____________________

Yn dost ar ôl cymryd tabled ____________________

Bwyd sy’n dda i ni Bwyd _______________

Rhaid talu hon i’r llys ____________________

Person sy’n gwneud bara’n broffesiynol ____________________

Beth yw:Honour ______________________Honours degree ______________________

Christening ______________________God father ______________________

62

Page 63: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Cwrs Uwch 1 – Help Llaw Uned 28

Hwn, hon, hynCyfieithu ‘this’/’these’. Edrychwch ar y tabl:

gwrywaidd benywaidd lluosog haniaethol (abstract)

y bachgen yma = y bachgen hwn

y ferch yma= y ferch hon

y plant yma = y plant hyn

Mae hwn yn fachgen cryfMae hwn yn gar da

Mae hon yn ferch alluogMae hon yn siop dda

Mae’r rhain yn blant drwgMae’r rhain yn esgidiau cyfforddus

Mae hyn yn anodd

Cyfieithu ‘that’/’those’. Edrychwch ar y tabl:

gwrywaidd benywaidd lluosog haniaethol (abstract)

y bachgen yna = y bachgen hwnnw

y ferch yna= y ferch honno

y plant yna= y plant hynny

Mae hwnna’n fachgen cryf Mae hwnnw’n gar da

Mae honna’n ferch alluogMae honno’n siop dda

Mae’r rheina’n blant drwgMae’r rheini’n esgidiau cyfforddus

Mae hynny’n anodd

Mae hwnna, honna a’r rheina’n ffurfiau mwy llafar. Mae rhai pobl yn eu defnyddio i ddangos bod rhywbeth yn agos, o ran amser neu bellter.

63

Page 64: welshlearners.southwales.ac.ukwelshlearners.southwales.ac.uk/...10-03/...Uwch_1.docx  · Web viewTiwtor dw iDw i’n diwtorI am . a . tutor. ond. Fi yw’r tiwtor. I am . the . tutor

Gwaith Cartref Ychwanegol – Uned 28

Ysgrifennwch 5 brawddeg yn defnyddio ‘hwn’, gan ddilyn y patrwm:Mae hwn yn gyfrifiadur cyflym.1.__________________________________________________

2.__________________________________________________

3. __________________________________________________

4. __________________________________________________

5. __________________________________________________

Ysgrifennwch 5 brawddeg yn defnyddio ‘hon’, gan ddilyn y patrwm:Mae hon yn flwyddyn galed.1.__________________________________________________

2.__________________________________________________

3. __________________________________________________

4. __________________________________________________

5. __________________________________________________

Prawf Geirfa

Beth yw ‘misunderstanding’? ____________________

Ysgrifennwch 3 gair arall sy’n dechrau gyda ‘cam’:

_______________________ _____________________ ___________________

Beth yw ‘apathy’? _____________________

Ysgrifennwch 3 gair arall sy’n dechrau gyda ‘di’:

_______________________ _____________________ ___________________

Beth yw’r geiriau croes (opposites)?

perthnasol _________________________

swyddogol _________________________

ymwybodol _________________________

64