17
Goroesi’r newid i fudd-daliadau Mynd ar-lein, ffynnu ar-lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24 CAERDYDD RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 SYLW AR ARDAL

WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

The latest news about the work of Wales & West Housing in the Cardiff area

Citation preview

Page 1: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

Goroesi’r newid ifudd­daliadau

Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein

Ein datblygiadau diweddaraf yn eichardal

Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24

CAERDYDDRHIFYN 5 | GWANWYN 2013

SYLW AR ARDAL

Page 2: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

2 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf oFodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn oddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedidweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH.Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwga wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethafo Sylw ar ardal Caerdydd yw ein buddsoddiadmewn saith swydd arloesol, sef y SwyddogionCefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogionnewydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd yfoment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’ncymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpuein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau.

Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio abuddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae einrhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, acyn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith ohelpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau syddar ddod i fudd­daliadau.

Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bodwedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol ganLywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefifforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledledCymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd,dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 ogartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolchi’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yny pedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ondrhan yn unig o’r hynrydym yn ei wneud ywdatblygu cartrefinewydd, ac felly isicrhau ein bod ynparhau i ganolbwyntioar gwsmeriaid, ac ynatebol am yr hyn awnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeauteithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedisiarad â thros dri chwarter ein holl staff ledledCymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedaulle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw.

Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweudwrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Timesyn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorauCymru am yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fewnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle agawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddalgafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri.Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio ybydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roigwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaithar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlunehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltuunrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywirAnne Hinchey, Prif Weithredwr.

CYFLWYNIAD ANNECroeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Caerdydd, sy’n rhoi’rdiweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi.Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’rsir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan.

Page 3: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Caerdydd, rydym wedi gallunodi’r 333 o aelwydydd WWH yn y sir a fyddyn cael eu heffeithio gan y newid.

Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyra gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau,trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydda gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy.

Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’npreswylwyr wedi dweud wrthym eu bodnhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol,er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’rarian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir.

Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyrangen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau,rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewndarparu cymorth parhaus drwy greu saithswydd gwbl newydd – y Swyddogion CefnogiTenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gydani yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (NatalieDavies, Amanda Collins, Stuart Lock a SharonJones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey)yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddannhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpunhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwyscyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaithiddyn nhw allu goroesi’r storm.

Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhaio’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefiteuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaitheto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phobpartner priodol arall, i sicrhau fod y boblbriodol sydd angen tai yn cael mynediad at ycartrefi fforddiadwy hyn.

GOROESI’R NEWIDI FUDD-DALIADAU

Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwgar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill.

3 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Page 4: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

4 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn.Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bobdydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoeddhyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy.

Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTubewwhahomesforwales.

Page 5: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

5 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falchiawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar obob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn eiddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’igymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, acyn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadaua gawsom yn 2007.

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriauar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaidpan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn.Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yraelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni amnatur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Ynogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70yn flaenorol).

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr ynfodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr unfath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch)na’r sgoriau a nodwyd yn 2011.

Canlyniadau penodol i Gaerdydd Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig ynlefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord.Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr

yng Nghaerdydd wedi rhoi sgôr gyfartalog o8.8 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth – gyda thros hanner (56%) ynrhoi sgôr berffaith o 10. Y rhesymau pennaf anodwyd oedd ‘man tawel’ (26%), ‘cymdogionda’ (24%) a mynediad at fwynderau (23%).

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eubarn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yndangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’rmodd rydym yn darparu gwasanaethau sy’nberthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr yngNghaerdydd yw:

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni

• adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

• adolygu’r gwasanaethau i gefnogi preswylwyr hŷn a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi

Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwiliocanlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gangraffu ar sylwadau penodol y preswylwyr.Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symudymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.

AROLWG BODLONRWYDDPRESWYLWYR - CAERDYDDRydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o FodlonrwyddPreswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bobblwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol,a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012.Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hynsy’n bwysig i’n preswylwyr yng Nghaerdydd.

Page 6: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

6 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bydd Mandy yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf,bydd Mandy yn canolbwyntio ei hymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynnysydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai syddmewn perygl o wynebu caledi ariannol, neufynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau ynsgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau. Rheolwr llinell Mandy yw’rRheolwr Tai Jenny Williams.

CEFNOGAETH Â THENANTIAETHHELPU PRESWYLWYR I DDEALL NEWIDIADAU I

FUDD-DALIADAU A CHYLLIDEBU

Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno Mandy Collins, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Caerdydd

Er mwyn gwneud hyn, mae Moneyline nawryn gweithredu o’n Canolfan GwasanaethauCwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth ygwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, ac mae’rtîm o dri wrthi’n ateb galwadau dros ben ganganghennau presennol Moneyline Cymru.

MONEYLINE CYMRUNAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer oganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, gan gynnwys cangenCaerdydd ar Heol Ddwyreiniol y Bont­faen, ac maen nhwnawr yn ymestyn y ddarpariaeth i gynnig gwasanaeth dros yffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nad ydyn nhw’ngallu cyrraedd eu swyddfeydd.

Page 7: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

7 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDDYNG NGHAERDYDD

Llaneirwg: Rydym yn falch iawn o allu cynnig12 cartref newydd yn Brython Drive,Llaneirwg. Mae naw ar gael am rent fforddiadwy i bobl ar Restr Aros GyffredinCaerdydd, tra bod y tri arall yn cynnig dewisiadau perchen cartrefi am bris isel. Taylor Wimpey yw’r contractwr ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddod i ben ynystod yr hydref eleni.

Penylan: Rydym hefyd yn y broses o gyfnewidcontractau ar bedwar cartref newydd a gaiffeu hadeiladu ar Tŷ Gwyn Road, Penylan. Einbwriad yw cynnig y rhain ar rent canolradd,ac rydym yn gobeithio y gallwn ddechraudyrannu’n fuan. Bellway Homes yw’r contractwr, ac mae disgwyl i’r cartrefi hungael eu cwblhau yn ystod yr haf.

Fel arfer, byddai’r cartrefi dwy ystafell welyhyn yn costio dros £119,000, ond rydym yneu gwerthu am £83,300 dan ein cynllunecwiti a rennir. Am ragor o fanylion, gwelerein gwefan www.wwha.co.uk

Y Rhath: Mae disgwyl i Wates Living Spaceddechrau gweithio ar 10 rhandy i ni yn ElmStreet, y Rhath. Mae’r datblygiad hwn, sy’nwerth £1 miliwn ac a gefnogir gan grant taicymdeithasol, i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd yr holl gartrefi argael am rent fforddiadwy, ac fe’u dyrennirdrwy Restr Aros Gyffredin Caerdydd.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd ynein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 ounedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ardraws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu. Mae darparu digon o gartrefifforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod ynfater o bwys yng Nghymru.

Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’ngallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion.Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn galluadeiladu rhagor o gartrefi newydd, ondrhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galwlleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau oddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaidcyfredol ac arfaethedig hefyd.

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth âChyngor Caerdydd ar amrywiaeth o gartrefi fforddiadwynewydd ledled y ddinas. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys:

Page 8: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

8 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

BOREAU COFFI CAERAU COURTAC YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED

Rydym yn falch o ddweud bod y gwelliannauamgylcheddol sylweddol rydym wedi eugwneud i’r ardal yn cael effaith o ddifrif erbynhyn, gyda phreswylwyr yn awr yn ymgysylltu’nfwy brwd. Mae gan yr ardal ei gylchlythyr cymunedol ei hun gan WWH, ac mae disgwyl inifer o breswylwyr elwa ar hyfforddiant addarperir fel rhan o’n Rhaglen CyfranogiadPreswylwyr i’w helpu nhw i ysgrifennu a chynhyrchu eu newyddion eu hunain.

Mae dau grŵp preswylwyr gweithgar erbynhyn, sef y Caerau Potters a Grŵp Gweithredu’rTowerblock.

Yn olaf, byddwn yn parhau i weithio gydaphreswylwyr i ystyried gwneud rhagor owelliannau i’r ardal. Ar hyn o bryd, rydym yncanolbwyntio ar adnewyddu’r garejis o bosibl,gwella mannau wedi’u palmantu a pharhau igefnogi’r grŵp rhagweithiol iawn, Caerau Potters – grŵp amgylcheddol dan arweiniad ypreswylwyr.

Rydym yn falch iawn o weld bod ymgysylltu â’r gymuned hefyd yn tyfu yng ngorllewin y brifddinas, gyda boreau coffi wythnosol a sesiynau cyfnewid llyfrau yn nodwedd reolaidd ynCaerau Court, Caerau.

Grŵp Caerau Potters

Page 9: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

9 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni eincartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae LlywodraethCymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr ynarbed arian, yn defnyddio llai o danwydd acyn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd.Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn ypum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn nibarhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’rsefyllfa.

Fe wnaethom osod gwres canolog nwy yn llegwres canolog trydan mewn 300 o gartrefi ledled Cymru yn ystod 2012. Rydym wedi disodli gwresogyddion storio dros nos, a oeddyn ddrud, trwsgl a chyfleusterau rheoli cyfyngedig, i wres canolog nwy effeithlon yn ycartrefi a ganlyn yng Nghaerdydd:

• 32 fflat yn Doyle Court, y Tyllgoed• 5 fflat yn School Court, Grangetown• 22 tŷ ym Moorland Court• 6 thŷ yn Dugdale Walk ac Albert Street yng

Nglan­yr­afon• 35 fflat yn Penhill Close, Llandaf• 2 dŷ yn Firtree Close

Rydym hefyd yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol yn yr ardal hon, o’r rhai bachiawn irai mwy o faint. Un enghraifft yw LordPontypridd House, Treganna, lle darparoddein Cronfa Amgylcheddol £100 o dalebaugarddio i wella eu mannau bywyd gwyllt ogwmpas yr adeilad, ac i ategu’r lleiniau llysiausydd wedi’u gosod yn barod ar y tir.

Ym mis Medi 2012, gosododd WWH fan llechfeini yn St Clements Court, Pentwyn.Adeiladodd y preswylwyr welyau plannuwedi’u codi o gynnyrch blociau pren pîn ar­loesol fel y gallan nhw dyfu eu ffrwythau a’ullysiau eu hunain. Gosodwyd drysau newyddyn y lolfa, gan ei wneud yn fwy agored ibreswylwyr sydd eisiau tyfu eu ffrwythau a’ullysiau eu hunain. Darparodd Cronfa Amgylcheddol WWH £1,500 tuag at bridd,gwelyau plannu wedi’u codi, offer a hadau.

Am ragor o fanylion ynghylch ein RhaglenCynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwchâ’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock.

Ac am ragor o wybodaeth ynghylch eingwaith Amgylcheddol; gan gynnwys einCronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag OwenJones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

GOFALU AMYR AMGYLCHEDD YNG NGHAERDYDDMae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghydag effaith ein preswylwyr, hefyd.

Page 10: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

10 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyrsymud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’rdreth ar ystafelloedd gwely, rydym wediymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc igefnogi creu prosiect House Swap Wales arFacebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. HouseSwap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati –ac mae House Swap Wales wedi ei anelu atdenantiaid tai cymdeithasol sydd angensymud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth arystafelloedd wely, neu sydd eisiau symudam resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebueu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim,chwilio am gartrefi posibl y gallen nhwsymud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith osymud eu hunain.

Rhagor o wybodaethwww.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter@HouseSwapWales

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES

Page 11: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

11 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyri fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fodar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Ein bwriad yw:• helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a

delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol

• mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt

• cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein

• annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein.

Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediadfforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych ini ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnagy bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru.

Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant yMôr, ein cynllun gofal ychwanegol ymMhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifero’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a deCymru.

Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘TakeCtrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm GalluAriannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, maeTake Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr ifynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.

MYND AR-LEINFFYNNU AR-LEIN

Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Maemwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid ywmwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we.

Page 12: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

Mae’r prosiect hwn yn datblygu’n dda, a gyda’r gwanwyn ar ddod – a thywydd brafiach yn fwy cyson, gobeithio – rydym ynedrych ymlaen at blannu rhagor o goed ffrwythau cynhenid o Gymru ar y safle ynNewent Road, Llaneirwg, ynghyd â gosod yrisadeiledd, gan gynnwys gwelyau plannuwedi’u codi. Mae grŵp craidd o hannerdwsin o breswylwyr yn chwarae rhan

weithredol yn y prosiect cyffrous hwn, ac maegennym obeithion mawr y bydd y grŵp yntyfu, diolch i safle Facebook y prosiectwww.facebook.com/StMellonsCommunity­Garden. Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi caelei gyllido drwy £1,500 a gyfrannwyd ganWWH, ac aelodau eraill o Gompact Llaneirwg,ynghyd â grant o £500 gan Gronfa TNT GrŵpRheoli Cymdogaethau Dwyrain Caerdydd.

GERDDI CYMUNEDOLLLANEIRWG

12 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Glenys Vandervolk, breswilwyr, Alison Hayes ac Alyson Robinson o WWH yn paratoi tir ar Newent Road

Page 13: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

13 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24 GWASANAETHAUFFÔN A THELEOFAL YN WWH

Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltupobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangeni’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eucartrefi.

A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparugwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydyddledled Cymru, ac mae gennym gontractaugyda:

• Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr

• Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru

• Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru

Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyferunigolion mewn llety ar rent ynghyd âpherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys ycyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwchmeddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed feleu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnolyn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennymgontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’ngolygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tuallan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledledCymru:

• Hafan Cymru ledled Cymru• Grŵp Gwalia ledled Cymru• Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24,ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neucysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neuCate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.

Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ersdros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaithfel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24.

Page 14: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

14 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartnerym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codidros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadauyn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl DyddGŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymionoddedig.

Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, DiBarnes, gwmni’r swyddog gweinyddol VerityKimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey ynyr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedduwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAUAr ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr£25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru.

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennola chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac arTwitter @wwha.

Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgilgwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a BanciauBwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd,Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg aPhen­y­bont ar Ogwr.

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Page 15: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

15 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilynei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor arArian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yny Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelodgweithgar o Fforwm Gallu Ariannol GogleddCymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac ynuchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaithgadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewncysylltiad ag ef.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr WesternCourt’ o’n cynllun er ymddeol Western Courtym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restrfer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr feryng nghategori hynod boblogaidd CydweithiwrYsbrydoledig.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn AdnoddauDynol:

Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedicael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwrsy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sectorElusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle arrestr fer y wobr hon.

CRYNODEB GWOBRAUPan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael llear restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys:

Les Cooper Helen Jones Anne Hinchey

Ecoryfelwyr Western Court

Page 16: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

16 | Sylw ar ardal CAERDYDD | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Pob ardal: O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid)Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal: Lynnette Glover, Pennaeth TaiNikki Cole, Pennaeth DatblyguAlex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Caerdydd

Rheolwr Tai: Chris Walton (Anghenion cyffredinol)Rheolwr Tai: Jackie Bloxham (Tai er ymddeol)Rheolwr Masnachol: Robin Alldred (Atgyweiriadau)Rheolwr Masnachol: Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio)Rheolwr Datblygu: Swydd wag (i’w benodi/i’w phenodi)

Swyddogion Tai: Anghenion Cyffredinol Tai er ymddeolAlyson Robinson Elizabeth McEwanAlison Hayes Deborah CadwalladerClaire JonesSarah BoltonJo Brennan­LloydMeryl Thomas

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget GarrodHerman Valentin (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau)Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr)

Swyddogion Rheoli Asedau: Grant Gibbon Roy PreeceGlyn Smith David Morgan

Yr Amgylchedd: Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth: Mandy Collins

Ffôn: 0800 052 2526E­bost: [email protected]: www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL

Page 17: WWH Spotlight on Cardiff Spring 2013 (Welsh)

Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013