16
Goroesi’r newid i fudd-daliadau Mynd ar-lein, ffynnu ar-lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24 SIR DDINBYCH RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 SYLW AR ARDAL

WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

The latest news about the work of Wales & West Housing in the Denbighshire area

Citation preview

Page 1: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

Goroesi’r newid ifudd­daliadau

Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein

Ein datblygiadau diweddaraf yn eichardal

Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24

SIR DDINBYCHRHIFYN 5 | GWANWYN 2013

SYLW AR ARDAL

Page 2: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

2 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf oFodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn oddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedidweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH.Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg awnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7%ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf oSylw ar ardal Sir Ddinbych yw ein buddsoddiadmewn saith swydd arloesol, sef y SwyddogionCefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogionnewydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu einpreswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau.

Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae einrhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, acyn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith ohelpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd arddod i fudd­daliadau.

Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedicael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefifforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledledCymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithassy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnesatoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedomwrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefinewydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn ypedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ondrhan yn unig o’r hynrydym yn ei wneud ywdatblygu cartrefi newydd,ac felly i sicrhau ein bodyn parhau i ganolbwyntioar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn awnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw ia’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal einsioeau teithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydymwedi siarad â thros dri chwarter ein holl staff ledledCymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau llemaen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw.

Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthychfod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymruam yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fedsafle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nidyn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012,ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aurTair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fodhwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waithcaled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’ngobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd oroi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’ngwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal âdarlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyncysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadauynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywirAnne Hinchey, Prif Weithredwr.

CYFLWYNIAD ANNECroeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Sir Ddinbych, sy’n rhoi’rdiweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi.Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddionynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’r sir, ynghyd â’rdiweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan.

Page 3: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

3 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Sir Ddinbych, rydym wedigallu nodi’r 43 o aelwydydd WWH yn y sir afydd yn cael eu heffeithio gan y newid.

Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyra gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau,trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydda gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy.

Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’npreswylwyr wedi dweud wrthym eu bodnhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol,er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’rarian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir.

Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyrangen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau,rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewndarparu cymorth parhaus drwy greu saithswydd gwbl newydd – y Swyddogion CefnogiTenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gydani yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (NatalieDavies, Amanda Collins, Stuart Lock a SharonJones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey)yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddannhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpunhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwyscyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaithiddyn nhw allu goroesi’r storm.

Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhaio’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefiteuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaitheto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phobpartner priodol arall, i sicrhau fod y boblbriodol sydd angen tai yn cael mynediad at ycartrefi fforddiadwy hyn.

GOROESI’R NEWIDI FUDD-DALIADAU

Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwgar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill.

Page 4: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

4 | | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn.Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bobdydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoeddhyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy.

Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTubewwhahomesforwales.

Page 5: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

5 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falchiawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar obob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn eiddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’igymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, acyn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadaua gawsom yn 2007.

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriauar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaidpan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn.Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yraelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni amnatur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Ynogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70yn flaenorol).

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr ynfodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr unfath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch)na’r sgoriau a nodwyd yn 2011.

Canlyniadau penodol i Sir Ddinbych Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig ynlefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord.Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr

yn Sir Ddinbych wedi rhoi sgôr gyfartalog o8.2 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth – diolch i’r ffaith bod drosdraean wedi rhoi sgôr berffaith o 10. Y rhesymau pennaf a nodwyd oedd cymdogionda, gyda thros chwarter yr ymatebwyr ynnodi fod ganddyn nhw gymdogion da, a bywmewn man tawel (30% a 27% yn eu trefn).

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eubarn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yndangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’rmodd rydym yn darparu gwasanaethau sy’nberthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr yn Sir Ddinbych yw:

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni

• adolygu sut rydym yn gosod cymhorthion ac addasiadau yng nghartrefi preswylwyr anabl

• adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwiliocanlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gangraffu ar sylwadau penodol y preswylwyr.Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symudymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.

AROLWG BODLONRWYDDPRESWYLWYR – SIR DDINBYCHRydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o FodlonrwyddPreswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bobblwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol,a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012.Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hynsy’n bwysig i’n preswylwyr yn Sir Ddinbych.

Page 6: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

6 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDD YN SIR DDINBYCH

Mae ein datblygiad tai â chymorth yng Nghil y Coed yn Henllan yn mynd o nerth i nerth,gydag adborth cadarnhaol iawn gan breswylwyr, gofalwyr a’u teuluoedd ar gyfer ycyfleusterau arbenigol a ddarperir yn y byngalos mewn grwpiau o dri.

Roeddem hefyd wrth ein bodd yn ymuno agYsgol Henllan gerllaw’r datblygiad i helpu i enwi’r chwe chartref anghenion cyffredinolarall yr ydym wedi eu datblygu ar y tir hwn ynGarn Road. Mae preswylwyr cyntaf y cartrefinewydd hyfryd hyn ar rent fforddiadwy wediymgartrefu yno erbyn hyn. Yn awr, rydym ynystyried cynlluniau ar gyfer y llain o dir syddgennym yn weddill yn Henllan, ynghyd agystyried dewisiadau eraill i gwrdd ag amrywiaeth o ofynion tai i’r gymunedehangach.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd ynein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 ounedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ardraws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.

Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy osafon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys.Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’ngallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion.Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn galluadeiladu rhagor o gartrefi newydd, ondrhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galwlleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau oddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaidcyfredol ac arfaethedig hefyd.

Page 7: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

Bydd William yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Yn y lle cyntaf, bydd William yn canolbwyntio ei ymdrechion ar helpu’rpreswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eunodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebucaledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth arystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau.

Bydd William yn gweithio ochr yn ochr â Jen Bailey, ein hail Swyddog Cefnogi Tenantiaeth dros ardal gogledd Cymru, syddar hyn o bryd yn gweithio fel Cydlynydd yProsiect Cynhwysiant Digidol Take Control.

CEFNOGAETHÂ THENANTIAETH

Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno William Brook, einSwyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Sir Ddinbych.

7 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Page 8: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

8 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni eincartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae LlywodraethCymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr ynarbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac ynllai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydymhefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pummlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd ynein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddimewn mesurau i wella’r sefyllfa.

Un enghraifft o hyn yw’r gwaith uwchraddio i’rsystemau awyru mecanyddol ac adfer gwres ynein cartrefi yn Erw Hir, Coychurch. Bydd ygwaith hwn yn sicrhau bod y system yn awyru’nrhagorol ac yn cadw’r cartrefi’n gynnes yr unpryd.

Rydym hefyd yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol yn yr ardal hon, o’r rhai bychaniawn i rai tipyn mwy o faint. Un enghraifft yw’rprosiect gardd gymunedol yng nghynllun erymddeol Buxton Court yn y Rhyl, lle’r ydym yncefnogi preswylwyr i greu eu gerddi eu hunain. Mae preswylwyr yn awyddus i dyfu eucynnyrch eu hunain, ac wedi clustnodi llain o diry gallan nhw ei defnyddio, ac yn fuan byddannhw’n arloesi drwy adeiladu gwelyau llysiauwedi’u codi a gosod casgenni dŵr.

Mae cefnogaeth i’r grŵp wedi cynnwys biniaucompost a gyfrannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, £250 o gynllun Grantiau Cyfalaf BachSir Ddinbych, ac yswiriant i grwpiau cymunedolgan Cadwch Gymru’n Daclus, ynghyd â GrantAmgylcheddol gan WWH. Mae preswylwyrhefyd wedi cyflwyno cais i Cadwch Gymru’nDaclus am dalebau i brynu eitemau amrywiol,gan gynnwys hadau. Nod y grŵp yw sicrhau ybydd yr ardd yn wirioneddol organig, ganddefnyddio pethau a ailgylchwyd lle bynnag y

mae hynny’n bosibl. Fe wnaeth Owen Jones,Swyddog yr Amgylchedd a ChynaladwyeddWWH, ddyrannu £2,000 o’r Gronfa Amgylcheddol, gan ddweud “Maen nhw’n grŵpo unigolion gweithgar a llawn cymhelliant”

Mewn mannau eraill yn Sir Ddinbych, cafoddpreswylwyr cynllun gofal ychwanegol Nant yMôr ym Mhrestatyn chwe math o goed ffrwythau o Gymru, a gafodd eu plannu yngnghefn y cynllun ym mis Rhagfyr. Mae grŵpgarddio Nant y Môr yn tyfu eu llysiau eu hunain(ac yn awr, eu ffrwythau eu hunain) gydachefnogaeth ein Cronfa Amgylcheddol. Maegan y grŵp fannau plannu newydd hefyd, wedieu gwneud o loriau pren wedi’u hailgylchu.

Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’rRheolwr Masnachol, Mike Wellock.

Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaithAmgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, einSwyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YN SIR DDINBYCH

Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghydag effaith ein preswylwyr, hefyd.

O’r chwith I’r dde – Margi Sharpe, Eric Fitton a Betty ei wraig.

Page 9: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

8 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’nCanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn einPrif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnodprawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym misChwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n atebgalwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.

MONEYLINE CYMRUNAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN

GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer oganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, ac maen nhw eisiaucynnig gwasanaeth dros y ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru,a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd.

Y nod yw i bob darparwr tai ddefnyddio dullcyson, gan ei gwneud yn haws i bobl ymgeisioam dai a darparu gwasanaeth gwell i unrhywun sy’n chwilio am gartref newydd. Daw’r

cyfnod ymgynghori i ben ar 30 Ebrill 2013.Gallwch weld yr wybodaeth ymgynghori, yrarolwg a’r polisi llawn fan hyn:www.conwy.gov.uk/singleaccesssurvey

UN LLWYBR MYNEDIADAT DAI (SARTH)

Ynghyd â darparwyr tai eraill yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir yFflint, rydym wrthi’n ymgynghori â phreswylwyr, ymgeiswyr arhanddeiliaid eraill ynghylch cofrestr dai gyffredin ar gyferGogledd Ddwyrain Cymru.

Page 10: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

9 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyrsymud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’rdreth ar ystafelloedd gwely, rydym wediymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc igefnogi creu prosiect House Swap Wales arFacebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. HouseSwap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati – ac mae House Swap Wales wedi ei aneluat denantiaid tai cymdeithasol sydd angensymud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth arystafelloedd wely, neu sydd eisiau symudam resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebueu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim,chwilio am gartrefi posibl y gallen nhwsymud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith osymud eu hunain.

Rhagor o wybodaethwww.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter@HouseSwapWales

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES

Page 11: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

10 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyri fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fodar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Ein bwriad yw:• helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a

delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol

• mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt

• cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein

• annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein.

Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediadfforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych ini ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnagy bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru.

Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant yMôr, ein cynllun gofal ychwanegol ymMhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifero’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a deCymru.

Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘TakeCtrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm GalluAriannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, maeTake Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr ifynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.

MYND AR-LEINFFYNNU AR-LEIN

Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Maemwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid ywmwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we.

Page 12: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

11 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24 GWASANAETHAUFFÔN A THELEOFAL YN WWH

Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltupobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangeni’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eucartrefi.

A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparugwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydyddledled Cymru, ac mae gennym gontractaugyda:

• Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr

• Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru

• Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru

Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyferunigolion mewn llety ar rent ynghyd âpherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys ycyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwchmeddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed feleu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnolyn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennymgontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’ngolygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tuallan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledledCymru:

• Hafan Cymru ledled Cymru• Grŵp Gwalia ledled Cymru• Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24,ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neucysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neuCate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.

Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ersdros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaithfel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24.

Page 13: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

12 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartnerym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codidros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadauyn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl DyddGŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymionoddedig.

Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, DiBarnes, gwmni’r swyddog gweinyddol VerityKimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey ynyr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedduwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAUAr ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr£25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru.

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennola chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac arTwitter @wwha.

Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgilgwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a BanciauBwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd,Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg aPhen­y­bont ar Ogwr.

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWHA.

Page 14: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

12 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilynei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor arArian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yny Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelodgweithgar o Fforwm Gallu Ariannol GogleddCymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac ynuchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaithgadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewncysylltiad ag ef.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr WesternCourt’ o’n cynllun er ymddeol Western Courtym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restrfer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr feryng nghategori hynod boblogaidd CydweithiwrYsbrydoledig.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn AdnoddauDynol:

Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedicael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwrsy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sectorElusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle arrestr fer y wobr hon.

CRYNODEB GWOBRAUPan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael llear restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys:

Les Cooper Helen Jones Anne Hinchey

Ecoryfelwyr Western Court

Page 15: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

13 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Pob ardal: O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid)Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal: Lynnette Glover, Pennaeth TaiNikki Cole, Pennaeth DatblyguAlex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

SIR DDINBYCH

Rheolwr Tai: Cate Porter (Anghenion cyffredinol) Rheolwr Tai: Anne Caloe (Tai er ymddeol)Rheolwr Masnachol: Andrew Richards (Atgyweiriadau)Rheolwr Masnachol: Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio)Rheolwr Datblygu: Craig Sparrow

Swyddogion Tai: Anghenion Cyffredinol Tai er ymddeolClaire Sumner Lindy Brettell

Karen Boyce(Dim swyddog Tai yn Nant y Môr)

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget GarrodVy Cochran (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau)Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr )

Swyddogion Rheoli Asedau: Dave HughesVaughan Williams

Yr Amgylchedd: Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth: William BrookJen Bailey

Ffôn: 0800 052 2526E­bost: [email protected]: www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL

Page 16: WWH Spotlight on Denbighshire Spring 2013 (Welsh)

Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013