12
Cafodd pawb eu syfr- danu a'u siomi gan y newyddion bod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystyried cau'r ysgol gynradd leol a throsglwyddo'r holl ddis- gyblion i Ysgol Gynradd Treorci. Y rhesymau a roddir dros hyn yw'r gostyngiad yn nifer y disgyblion a chyflwr gwael yr adeilad a agor- wyd yn 1874. Hon bel- lach yw'r ail ysgol hynaf yn y fwrdeistref. Mae'r penderfyniad hwn yn rhan o'r ymgyrch i gael llai o lefydd gwag mewn ysgolion trwy gau ysgo- lion bach fel y gwnaed yn barod yng Nghwm Clydach, Y Maerdy, Pen- rhiwfer ac Ynyshir. Ar hyn o bryd mae 73 o blant yn mynychu Ysgol y Pentre ynghyd â 15 yn yr adran feithrin- a hynny mewn ysgol all 230 o ddisgyblion. Golyga hyn fod 63.9% o lefydd gwag y ganran uchaf yn y sir. Dadleuir bod 41 o blant sy'n byw yn nalgylch Ysgol y Pen- tre yn dewis mynd i Dreorci yn barod. Pan gynhaliwyd arolwg yn Y Pentre yn 2010, fe'i cafwyd yn brin gan y corff arolygu, Estyn. Pan ddychwelodd yr arolyg- wyr yn 2011 penderfyn- wyd nad oedd yr ysgol 20c y gloran Mae antur yn aros amdanoch… Dewch i ddarganfod traethau ysblennydd, teithiau cerdded hyfryd a rhaglen weithgareddau yn llawn cyffro. Neu ymwelwch ag un o’n hatyniadau gwych i’r teulu cyfan: teithiwch yn ôl mewn amser a darganfod eich rhyfelwr mewnol yng Nghastell Henllys, ymunwch â’r hwyl ganoloesol yng Nghastell Caeriw, neu manteisiwch ar gyfle i fod yn artist yn Oriel y Parc. Cewch fwy o wybodaeth ar www.arfordirpenfro.org.uk. Ymwelwch â’n stondin yn Eisteddfod yr Urdd i ddarganfod diwrnod allan gwych. YSGOL Y PENTRE I GAU? Parhad ar dud 3

Y Gloran mis Mai 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

papur bro misol

Citation preview

Page 1: Y Gloran mis Mai 2013

Cafodd pawb eu syfr-danu a'u siomi gan ynewyddion bod Cabinet

Cyngor Rhondda CynonTaf yn ystyried cau'rysgol gynradd leol a

throsglwyddo'r holl ddis-gyblion i Ysgol GynraddTreorci. Y rhesymau aroddir dros hyn yw'rgostyngiad yn nifer ydisgyblion a chyflwrgwael yr adeilad a agor-wyd yn 1874. Hon bel-lach yw'r ail ysgol hynafyn y fwrdeistref. Mae'rpenderfyniad hwn ynrhan o'r ymgyrch i gaelllai o lefydd gwag mewnysgolion trwy gau ysgo-lion bach fel y gwnaedyn barod yng NghwmClydach, Y Maerdy, Pen-rhiwfer ac Ynyshir. Arhyn o bryd mae 73 oblant yn mynychu Ysgol

y Pentre ynghyd â 15 ynyr adran feithrin- ahynny mewn ysgol all230 o ddisgyblion.Golyga hyn fod 63.9% olefydd gwag y ganranuchaf yn y sir. Dadleuirbod 41 o blant sy'n bywyn nalgylch Ysgol y Pen-tre yn dewis mynd iDreorci yn barod.Pan gynhaliwyd arolwgyn Y Pentre yn 2010, fe'icafwyd yn brin gan ycorff arolygu, Estyn. Panddychwelodd yr arolyg-wyr yn 2011 penderfyn-wyd nad oedd yr ysgol

20cy gloran

Mae antur yn aros amdanoch…Dewch i ddarganfod traethau ysblennydd, teithiau cerdded hyfryd a rhaglenweithgareddau yn llawn cyffro. Neu ymwelwch ag un o’n hatyniadau gwych i’rteulu cyfan: teithiwch yn ôl mewn amser a darganfod eich rhyfelwr mewnolyng Nghastell Henllys, ymunwch â’r hwyl ganoloesol yng Nghastell Caeriw,neu manteisiwch ar gyfle i fod yn artist yn Oriel y Parc.

Cewch fwy o wybodaeth ar www.arfordirpenfro.org.uk.

Ymwelwch â’n stondin yn Eisteddfod yr Urdd i ddarganfod diwrnod allan gwych.

YSGOL Y PENTRE I GAU?Parhad ar dud 3

Page 2: Y Gloran mis Mai 2013

Mae pwnc melinaugwynt, yn ddiamau, ynun llosg. Bydd rhai ynhonni eu bod yn ddrud,yn hyll ac yn aneffeithioltra bo eraill o'r farn eubod yn rhan hanfodol o'rateb i'r cynhesu bydeangsy'n ein bygwth. Bethbynnag yw ein barn am-danynt, maen nhw ymaac mae'r cwmniau sy'nberchen arnynt yn dweudeu bod am helpu'rgymdeithas leol trwygyfrwng eu cronfeyddariannol cymunedol.Wrth i Gyngor RhonddaCynon Taf ystyried ceisi-adau cynllunio fesul un,mae perygl ein bod yndiystyrru'r darlun cyfan.Felly, beth yw'r sefyllfaym mlaenau'r Rhondda?Hyd yma, codwyd 8 twr-bein 76m o uchder arFynydd Tyntyle, YstradRhondda, 8 sy'n 145m ouchder uwchben yFforch, Treorci a maes olaw bydd 76 o'r unuchder yn cael eu codi arsafle Pen y Cymoedduwchben Blaenrhonddaa Blaenycwm ynghyd â9 ychydig yn llai arFynydd y Bwllfa ger-llaw. Deallwn y byddcais am 3 ychwanegol ynymyl rhai'r Fforch yncael ei gyflwyno cyn bohir. Dyna gyfanswm o104 ar dir RhCT heb sônam y rhai ychydig y tufa's i ffiniau'r fwrdeisdref

a fydd yn ymestyn drawi gyfeiriad Cwm Afan.Er bod llawer yn cytunoy dylem dderbyn eincyfran o gyfrifoldeb amgynhyrchu ynni ad-

newyddol, teimlent ar yrun pryd ein bod wedicael mwy na'n siâr deg.Yr ail gŵyn a glywir ywbod y cwmniau sy'nberchen ar y ffermydd yngwneud elw mawr iawnac eto ond yn rhoi ychy-dig iawn yn ôl i'r cy-munedau sy'n gorfoddygymod â nhw. Er bodrhai o'r cronfeydd cy-munedol yn ymddangosyn hael iawn ar yrwyneb, cynrychiolantran fach y unig o'r elw awneir gan gwmniau nadoes ganddynt gysylltiadâ'r ardal. Yn wir, cwm-niau tramor yw llawer

ohonynt.Mewnforir y tyrau a'rllafnau o'r cyfandir acfelly ychydig iawn ofudd a gaiff unrhyw fus-nesau o Gymru. Yn

ogystal, daw'r is-gontractwyr â'u pobl euhunain i ymgymryd â'rgwaith, ac o ganlyniad nichreir swyddi i bobl leol.Er enghraifft, mae llaweriawn o'r gweithwyr arsafle'r Fforch ar hyn obryd yn hanu o'r Alban.Efallai bod y ffermyddgwynt yn enghraifft bel-lach o bobl a thir Cym-ru'n caeleu hec-spoitio a'relw ynmynd allano'r ardal.Oni wel-som se-

fyllfa debyg gyda'r di-wydiant glo yn y ganrifddiwethaf pan gymer-wyd y deunydd crai,gadael y sbwriel a'r

2

golygyddoll

y gloranmai 2013

YN Y RHIFYN HWNYsgol Y Pentre i Gau?...1

Golygyddol..2Darganfyddiad o

Bwys...3Llwyddiant Côr y Cwm -4

Newyddion Lleol...5-9Y Gornel Iaith ...9

Cân yr Adeilad...10Ysgolion..11-12

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davisongyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

MELINAU GWYNT A'R GYMUNED

Page 3: Y Gloran mis Mai 2013

Wrth fynd ati i osodsylfeini ar gyfer twr-beini gwynt ar ymynydd uwchben Ffermy Fforch, Treorci, dar-ganfyddwyd darn o brenhynod wedi ei gladdu yny mawn. Oherwyddpwysigrwydd archeole-gol pen y mynydd roeddyn ofynnol i Sgurr En-ergy, y cwmni sy'n ym-gymryd â gwaith codiFferm Wynt y Maerdygyflogi archeolegydd.Richard Jones yw'r per-

son hwnnw a phanddaeth un o'r gweithwyry darn o bren iddo, syn-hwyrodd ei fod yn ddid-dorol er nad oeddganddo lawer o syniado'i oed. Cafodd dipyn osioc felly pan gafoddadroddiad o Gaer Efrog[York] lle y cafodd ypren ei anfon i'w ddyd-dio ei fod dros 6,000oed a'i fod, yn ôl pobtebyg yn arwyddbost yndynodi ffiniau tiriogaethllwyth oedd yn byw ar

ben y mynydd yn ystody cyfnod pellenighwnnw. Credir ar hyn obryd bod y patrymausydd wedi eu cerfio ar ypostyn wedi eu gwneudgan berson yn hytrachna'u bod wedi digwyddoherwydd prosesau na-turiol yn y ddaear, ondrhaid aros am yr adrod-diad terfynol cyn y byddsicrwydd. Os yw'rwybodaeth sydd i lawnyn gywir, golygir bod ypostyn hwn yn hŷn na

phiramidiau'r Aifft a bodi'r darganfyddiad arwyd-docad rhyngwladol. Erbod pawb yn synnu athyn, efallai na ddylent ogofio am yr holl fflintiaua phennau bwyeill ycafwyd hyd iddynt panblannwyd coed ar ymynydd flynyddoeddlawer yn ôl a bod celchynod Llyn Fawr wediei ddarganfod nid nepello'r fan hon.

3

Golygyddol parhadafiechydon a chymrydyr elw?Efallai y dylem fod wedirhagweld y canlyniadauac o gael melinau gwynto'n cwmpas, sicrhau bodgennym reolaeth arnynt

a'r holl elw yn aros ofewn y gymuned leol.Ond synnwyr trannoethyw hynny, a rhaid bod-loni bellach ar y briw-sion a gynigir inni. Golygydd

wedi gwneud cynnydd digonol ond erbyn 2012cafwyd bod pethau'n gwella o dan arweiniad pri-fathrawes newydd. Y tro diwethaf i Dreorci gaelarolwg oedd 2008 pryd yr oedd yn foddhaol..Gwelliannau i Ysgol TreorciEr mwyn darparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y dis-gyblion bydd gofyn codi adeilad newydd yn Nhre-orci ar gyfer 120 o blant ac addasu'r prif adeilad ynogystal am gost o £1.5 miliwn. Gofid rhieni yno ywbydd hyn o raid yn cwtogi ar yr iard chwarae ac yngolygu colli dosbarth yn yr hen adeilad. Rhagwelir ybydd 407 o blant yn Nhreorci erbyn 2017. Gan fod yrhan fwyaf o'r Pentre o fewn 1.5 milltir i ysgo Tre-orci ni ragwelir y bydd rhaid i'r sir dalu am gludollawer o blant i'r ysgol.Bydd RhCT y ymgynghori â'r cyhoedd rhwng 7 Mai- 21 Mehefin, 2013 ac adroddir nôl i'r cabinet ymmis Gorffennaf. Os derbynia'r cabinet yr argymhel-lion, cyhoeddir yr Hysbysiadau Statudol ym misMedi ac am fis bydd hawl gan y cyhoedd i wrth-wynebu neu gynnig sylwadau. Y cynnig fydd i gauYsgol y Pentre 31 Awst, 2014 a'r plant yn cael eutrosglwyddo i Dreorci ar 1 Medi. Os bydd gwrth-wynebiad, trosglwyddir yr achos i LywodraethCymru i'w benderfynu.Gwelir y penderfyniad yn ergyd drom i gymuned yPentre sydd eisoes wedi colli llu o gyfleusterau gangynnwys y Swyddfa Bost, sinema, tafarnau, clybiau,capeli a Banc HSBC. Mae'n anodd gweld sut maependerfyniad o'r fath yn dderbyniol i Gyngor sy'nhonni yn ei Gynllun Datblgu Lleol ei fod am gadwcymunedau hyfyw ym mlaenau'r cymoedd.

YSGOL Y PENTRE I GAU?parhad

DARGYNFYDDIAD O BWYS

Page 4: Y Gloran mis Mai 2013

4

Llongyfarchiadaucalonnog i Gôr y Cwmar ei lwyddiant yngnghystadleuaeth S4C'Côr Cymru'. Cys-tadleuaeth yw hon a rennir yn adrannau -corau merched, coraumeibion, corau plant etc.a'r buddugol ym mhobadran yn cystadlu amwobr o £4,000 yn yrownd derfynol. Côr IauGlanaethwy, Bangoroedd yn fuddugol ynadran corau plant ondgwnaeth Côr y Cwm gymaint o argraff nes i'rbeirniaid fynnu eu bodyn ymdangos yn yrownd derfynol. O gan-lyniad, cafwyd 6 o gorauyn hytrach na 5 ynymgiprys am y brif wobr, sef CF1 [Caerdydd],Glanaethwy, Côr

Meibion y Rhos, CôrMęrched y Wiber[Ceredigion], Côr Ael-wyd y Waun Ddyfal[Caerdydd] a Chôr yCwm.Daw aelodau Côr yCwm yn bennaf o YsgolGyfun Cymer Rhonddaynghyd â rhai aelodau oYsgol Gyfun Treorci acYsgol Gynradd Llwyncelyn. Yr arweinydd yw Elin Llywelyn-Williams, sy'nathrawes yn Ysgol Gym-raeg Bodringallt ac aelodo staff Llwyncelyn,Gafin Ashcroft yw'rcyfeilydd. Cynhaliwyd yrownd derfynol yng Ng-hanolfan CelfyddydauPrifysgol Aberystwythac aeth llawer o gefnog-wyr y côr yno i ddangoseu hochr. Roedd tri beir-

niad o statws rhyng-wladol yn tafoli'r corau,sef Andre van de Merwe,De'r Affrig, côrfeistrCadeirlan St Paul's,Llundain, Dr Barry Rosea'r Gymraes fu'n arwainy BBC Singers a ChôrMenteverdi, KatieThomas.Cafwyd canu ysbry-doledig gan bo un o'rcorau. Ym marn y beir-niaid answyddogol ar yteledu, Caryl Parry Jonesa'r cyfansoddwr, GarethGlyn, CF1 ddylai fodwedi ennill, er i Carylddweud bod ei chalon yntueddu at Gôr y Cwm.Yn ogystal â'r dyfarniadswyddogol, roedd ganwylwyr S4C gyfle i blei-dleisio dros eu ffefrynau.Er syndod i rai CôrMerched yWiber gipiodd

y brif wobr, ond er mawrfoddhad i blant yRhondda, y nhw gafoddgefnogaeth y gwylwyr.O ganlyniad, derbynionnhw wobr o £400 yn-ghyd â thlws. Ar ôlwythnosau o waith caleda chyffro felly, dych-welodd aelodau Côr yCwm i'r Rhondda'nflinedig ond yn hynod ofodlon a hapus eu bodwedi derbyn cymaint oglod mewn cys-tadleuaeth o safon moruchel. Gallwn ni i gydfod yn falch iawn o'ucamp a'u llongyfarch areu llwyddiant. Deallwn ybydd y côr yn cyhoeddiCD yn y dyfodol agos.Bachwch un - cewch chifodd i fyw yn gwrandoarnynt.

LLWYDDIANT YSGUBOL CÔR Y CWM

Page 5: Y Gloran mis Mai 2013

5

newyddion lleolDEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN

ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDATREHERBERTAr Ebrill 3ydd lawnsiwdy corff cyfun newyddCyfoeth Naturiol Cymruym Mhrosiect Penyreng-lyn Stryd Corbett, Tre-herbert. Mae’r corff newydd yndod â'r Commisiwn Co-edwigaeth. Asiantaeth yrAmgylchedd a ChyngorCefn Gwlad Cymru at eigilydd I sicrhau fodadnoddau naturiol Cym-ru’n cael eu cynnal. eugwella a’u defyddio'ngynaliadwy.Anerchwyd y cyfarfodgan Alun Davies,Gweinidog Cyfoeth Na-turiol a Bwyd Lly-wodraeth Cymru addywedodd"Mae'r am-gylchedd naturiol ynhanfodol i'n heconomiyma yng Nghymru, fellymae'n hollbwysig y caiffei reoli yn y moddmwyaf effeithiol ac ef-feithlon posib.Ychwanegodd EmyrRoberts, Prif WeithredwrCyfoeth NaturiolCymru,“Byddwn hefydyn dechrau ailffurfio’rgwaith rydym yn eiwneud gydag agweddffres a chyfeiriadnewydd – i gael yr am-gylchedd i wneud rhagori bobl, i economi ac ifywyd gwyllt Cymru."Siaradodd Ceri Nicholaso Brosiect Penyrenglynam y gwahonol gweith-gareddau amgylcheddol

sydd yn cael eu cynnalyn ardal Treherbert.Pwysleisiodd eu bod nidyn unig wedi gwella’ramgylchedd ond hefydffitrwydd ac iechyd ybobol leol sydd wedicymryd rhan.Y gobaith I bobol leolyw ybydd ein ham-gylchedd anhygoel ymmhen uchaf CwmRhondda yn gallu ad-newyddu ein ardal achreu swyddi sydd morbrin ar hyn o bryd.Dros yr wythnosau di-wethaf, achoswyd llawero drafferth i drigolion yrardal gan ddefaid yn cr-wydro o gwmpas y stry-doedd ar ôl dianc o'ucartref ar hen safle pwllFernhill. Mae euperchennog, Gordon Hillyn awyddus i'w gwerthu,ond yn y cyfamser burhaid gohirio gêm bêl-droed ar Barc Blaen-rhondda er mwyn caelgwared ar faw defaidcyn dechrau. Cafodd rhaieu dal a'u corlannu ganswyddogion y Cyngor,ond maen nhw'n dal i fodyn niwsans i bobl yrardal.Roedd yn ddrwg ganbawb dderbyn y newyd-dion am farwolaethColin Smith, Stryd yCapel, Blaencwm.Roedd Colin yn adnaby-ddus am gadwcolomennod a'u rasio.Cynhaliwyd ei

wasanaeth angladdol yngNghapel Blaen-y-cwm odan ofal y Parch DavodBrownnutt. Cy-dymdeimlwn â'i weddw,Ruby, a'r teulu oll yn eucolled.Llongyfarchiadau i Stef-fan Davies, Clos St Maryar gael ei benodi i swyddymchwilydd gyda'r BBCym Mangor. Bydd Stef-fan yn graddio o Aberys-twyth eleni. Pobdymuniad da iddo i'r dy-fodol.Yn ystod yr wythnosaudiwethaf gweddnewidi-wyd Stryd Bute. Ad-newyddwyd wyneb yrhewl ac mae'r gwaith osymud y mannau croesia'r safle bysys wedi eigwblhau. Mae pawb ynfalch o weld bod ysafleoedd parcio wedi eidynodi'n fwy clir..Yn sydyn iawn, bu farwMrs Gwenda Culver-house, Stryd Dumfries,un o aelodau amlycafCymdeithas GelfYstradyfodwg. Gwelir eiheisiau'n fawr mewnsawl cylch. Cofiwn amei gŵr, Graham a'imerched Ann ac Enfysyn eu hiraeth

TREORCIBu farw Mrs YvonneHopkins, Stryd Dumfriesganol mis Mawrth.Roedd Yvonne yn wraig

fusnes yn y dre, ynberchen ar y Laundretteyn Stryd Bute. RoeddYvonne yn Gymraesfrwd oedd wedi mynd atii ddysgu'r iaith ynoedolyn ac yn gefnogol ibopeth yn gysylltedig âChymru. Cy-dymdeimlwn â'r teulu ollyn eu profedigaeth.Nos Iau, 21 Mawrth cyn-haliodd Pwyllgor Ymch-wil i Gancer UK Treorcinoson Datrys Llofruddi-aeth lwyddiannus iawnyn nhafarn y RAFA yngnghwmni rhai o actorionPlayers Anonymous. ll-wyddwyd i godi swmsylweddol o arian at yrachos teilwng hwn.Llongyfarchiadau i AnnaBrown, Stryd Regent arddod yn fam-gu a hefydi'w merch, Victoria a'igŵr, John ar enedigaeth

EICH GOHEBWYRLLEOL:Rhowch wybodiddyn nhw os byd-dwch chi eisiaurhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Treherbert:GERAINT a MERRILL DAVIES

Treorci:MARY PRICE

Cwmparc:NERYS BOWENDAVID LLOYD

Y Pentre:TESNI POWELLANNE BROOKE

Ton Pentre a’rGelli:HILARY CLAYTONGRAHAM JOHN

Page 6: Y Gloran mis Mai 2013

6

eu plentyn cyntaf, merchfach, Amy Evan. Mae'rteulu ifanc yn byw ynBournemouth lle bu Vic-toria'n gweithio ersblynyddoedd lawer.Yn dilyn cystudd hir addioddefodd yn ddewr,bu farw Donald Rees,Stryd Regent. Der-byniodd bob gofal gan eiwraig, Betty a'i fab, An-thony. Roedd ef a'i wraigyn aelodau yn Hermon.Cydymdeimlwn â'r teuluoll yn eu profedigaeth.Daeth cynulleidfa luosogynghyd yn Hermon,brynhawn Sul, 14 Ebrillpan fedyddiwyd OliviaGrace, merch Amy aChristopher Jones, StrydDumries mewngwasanaeth dan ofal yParch Cyril Llewelyn.Y darlledwr poblogaiddo Don Pentre, Dewi

Griffiths fydd y gŵrgwadd yn Noson Caws aGwin Pwyllgor Ymchwili Gancr a gynhelir ynNeuadd Sant Matthew,nos Iau 23 Mai. Pris ytocynnaU yw £5 gyda'relw yn mynd i CancerReseach UK.Tristoedd derbyn ynewyddion am far-wolaeth Mr Haydn Eras-mus, Stryd Dumfries uno hoelion wyth CôrMeibion Treorci gynt.Cyrhaeddodd Haydn oe-dran teg ar ôl bywbywyd llawn. Canodd yCôr Meibion yn eiwasanaeth angladdol ymMethlehem. Gy-dymdeimlwn â'i wraigJean, ei unig ferch, Julia,a'r teulu oll yn eu hi-raeth.Cafodd pawb sioc odderbyn y newyddion

am farwolaeth sydynMrs Margaret Wilkins,Styd Regent. RoeddMargaret yn aelod selogo'r WI a Chymdeithas yrHenoed a gwelir ei heisi-au'n fawr yn y cylchoeddhynny. Cydymdeimlwnâ'i mab. Robert a'r teuluac â Peter a Marilyn,Stryd Rees, ei brawd a'ichwaer yng nghyfraith.Pob dymuniad da am ad-feriad llwyr a buan i MrsMyra Davies, StrydBute, sydd wedi derbyntriniaeth yn YsbytyBrenhinol Morgannwgyn ddiweddar. Cofiwnhefyd am Mrs ClariceLewis, Stryd Senghen-nydd ac Elwyn Lewis,Woodland Vale syddhefyd wedi bod yn yrysbyty'n ddiweddar.Eleni, cynhaliwyd Cyfar-fod Blynyddol WI'r ran-

barth ym Mhorthcawl acaeth nifer o aelodau o'rgangen leol yno i fwyn-hau'r achlysur. Ysiaradwr gwadd oeddAdam Hanson, yffermwr adnabyddus o'rCorswolds. Siaradoddam ei waith ar y fferm ymagu mathau prin o ddaac o foch. Cafwyd hefydbeth o'i hanes yngyflwynydd ar y rhaglendeledu boblogaidd,Country File. Cafoddpawb ddiwrnod pleserusa buddiol.Y siaradwr yng nghfar-fod mis Ebrill o Gymdei-thas yr Henoed oedd ycyn-ŵr busnes lleol,Mario Bassini a drad-dododd sgwrs ddiddorolar hanes ei deulu a ymfu-dodd o Bardi yn yr Eidali Dreorci ac ymsefydluyma.

Page 7: Y Gloran mis Mai 2013

7

Pob dymuniad da i An-drea Griffiths, Stryd Stu-art sydd wedi derbynllawdriniaeth yn YsbytyLlandocahau. Brysiwch iwella, medd eich hollffrindiau.Roedd yn flin gan bawbdderbyn y newyddionam farwolaeth Mr DewiMorgan, Stryd Trevor.Bu am gyfnod yng ng-hartref Ystradfechan arôl dioddef cystuddhir.Cofiwn am ei unigferch, Ann a'r teulu ollyn eu hiraeth. Cy-dymdeimlwn hefyd âtheulu Maldwyn Samp-son oedd yn cadw siopyn Stryd Bute ac a fu far-w'n ddiweddar.Pob dymuniad da i MrAlbert Stubbs, StrydDumfries gynt a oedd ydathlu ei ben-blwydd yn100 oed ar 14 Mai. BuAbert yn gweithio iGwmni'r Ocean a hefydgyda'r llu awyr yn Sain

Tathan. Gobeithio y caiffddiwrnod i'w gofio aphob cysur i'r dyfodol.CWMPARC

CWMPARCEstynnwn bob dymuniadda am adferiad llwyr abuan i Mrs LillianEvans, Stryd Tallis a MrsPat Rees, Heol Chep-stow sydd ill dwy wediderbyn triniaeth yn yrysbyty'n ddiweddar.

Mae India White, StrydTallis,(y baban sy'n diod-def o aplastic anaemia),wedi derbyn newyddionda. Maen nhw wedi dodo hyd i fenyw yn yr Al-maen â'r un math o fêresgyrn. Felly, y gobaithyw y bydd derbyn mêro'r ffynhonnell honno yngwella ei chyflwr. Maeffordd hir o'i blaen, yn ôlei rhieni, Ryan a Shelley,

ond mae pawb yng Ngh-wmparc yn falch iawn oglywed y newyddion da.

Mae 'gŵyl flodau' yncael ei chynllunio ynEglwys San Siôr. Byddyr ŵyl yn cael ei chynnaldros y penwythnos 5 - 7Gorffennaf. Bydd yreglwys yn cael ei had-durno â nifer o drefni-adau blodau gwahanol,ar thema emynau gwa-hanol trwy'r flwyddyneglwysig.

Mae blwyddyn 5 a 6 ynYsgol Gynradd y Parcwedi bod ar wibdaeth iwersyll Llangrannog amdri diwrnod. Roeddcyfle i'r plant ymarfer euCymraeg a chymrydrhan mewn chwaraeon agweithgareddau gwa-hanol.

Mae dirprwy prifathronewydd yn dechrau yn

Ysgol y Parc ar ol yPasg. Mae Robert Tay-lor yn dod o Drecelyn[Newbridge] yn wreid-diol, ond yn byw yngNghwmparc. Roedd e'narfer bod yn brifathro ynYsgol Gynradd Tonyre-fail. Mae e'n briod âmerch o Gwmparc, Lisa,sy'n gweithio felathrawes yn Ysgol Fa-banod Ton Pentre. MaeRob yn dad i James, 5mis, a Frances, 6 oed,sydd yn mynd i Ysgol yParc hefyd.

Llongyfarchiadau aphen-blwydd hapus iawni Elizabeth Rose Bowen,Heol Conway Road oeddyn dathlu ei phen-blwydd yn un oed ar 11Ebrill.

Mae Megan Gillard, dis-gybl yn Ysgol y Parc,wedi enill cystadleuathCerddor Ifanc y Flawyd-

Page 8: Y Gloran mis Mai 2013

dyn a drefnwyd gan GôrMeibion Treorci. MaeMegan ym mlwyddyn 6yn yr ysgol ac yn canu'rcornet. Enillodd hi £200a thlws, yn ogystal athlws arall i'r ysgol.Mae Megan yn ferch iChristine a RichardGillard.

Llongyfarchiadau iNerys Bowen, HeolConway ar ennill y FedalRyddiaith yn eisteddfoddysgwyr y sir a gynhali-wyd yng NghanolfanGarthowg, 15 Mawrth.Roedd saith yn cystadlu,a Nerys a orfu. Y pri-fardd Cyril Jones oeddyn beirniadu. Hefyd enil-lodd 1af, 2l a 3ydd ynadran y gwaith cartref achyflwyno stori ddoniol.Noson ardderchog owaith!Oherwydd y gwyliau,cynhaliwyd y bore coffi iddysgwyr a siaradwyrCymraeg ar 8 Ebrill - ailddydd Llun y mis.. Felarfer, cynhelir y bore ary bore Llun cyntaf am10 a.m. Croeso i bawb.Croeso i Isaac ThomasMichael Williams a aned4 Mawrth yn fab i Gavina Victoria Williams, 3Stryd Clifton ac ynfrawd i Ioan, 3 oed.Mae dathlu dwbl iSharon a Glyn Morris,Heol y Parc Road, wrthiddynt estyn croeso iddwy wyres newydd.Cafodd Ellie Morris eigeni ar 17/1/13 i'w mabLee a'i wraig Claire.Mae'n nhw'n byw ynYstrad. Cafodd TaiomiLloyd ei geni ar 13/3/13i'w merch Melanie a'igŵr Andrew. Mae'nnhw'n byw yn Stryd

Tallis.

Mae Ysgol y Parc yncodi arian am gofeb ilowyr pyllau'r Parc a'rDâr. Cafodd cwpl oGwmparc olwyn o bwllglo'r Dâr, ac nawr maennhw eisiau ei rhoi i'rysgol i fod yn rhan o'rgofeb. Mae PTA yr ysgolyn gobeithio rhoi'r olwynar blatfform cerrig ar diryr ysgol. Os oes lluniaugennych neu hen storiauam y pyllau yng Ngh-wmparc, rhowch wybodi'r ysgol trwy [email protected]

Mae Mrs Pat Rees,Ffordd Chepstow, yn dalyn yr ysbyty ar ôl caeltriniaeth ar ei chlun nifero wythnosau yn ôl.Brysiwch yn wella.

Mae Lynwen Lewis a'imam, Mair Steadman, yddwy o Stryd Tallis, ynsal ar hyn o bryd. ,ob dy-muniad da a brysiwch iwella.

Bu farw Mrs. PeggyGiles, Vicarage Terracear 26 Ebrill. Yn ôl ycymdogion, hi oedd uno'r hynaf ac un o'r boblsydd wedi byw hiraf yny stryd.

Pen-blwydd Hapus iLorraine Jones, Neuaddy Parc, sy'n dathlu pen-blwydd ar 4ydd Mai.

Mae dosbarth newydd"Kettle Bells" wedidechrau yn Neuadd yParc. Mae'r dosbarthi-adau yn cael eu cynnal arddydd Llun a dyddMercher, 7 - 8 yn y nos.

Mae pobl newydd ynrhedeg y Siop Bapurauar Heol y Parc . MaeChristina a MatthewStoneman yn rhedeg ybusnes erbyn hyn. MaeChristina, sy'n siaradCymraeg, yn wynebadnabyddus yn Nhreorci,fel rheolwraig yr UnebCredyd. Pob lwc iddynnhw yn eu menternewydd!

Y PENTRE Cafodd pawb yn yr ardalsiom o ddeall bod Cyn-gor RhCT yn ystyriedcau'r ysgol gynradd leola throsglwyddo'r hollblant i Dreorci.Siaradodd y ddau gyng-horydd lleol yn erbyn ybwriad mewn cyfarfod ogabinet y Cyngor yn ddi-weddar a daeth niferfawr o rieni i'r cyfarfodi'w cefnogi. Bydd y cyn-ghorwyr a'r GymdeithasRhieni Athrawon yn tre-fnu nifer o gyfarfodyddprotest yn ystod y flwyd-dyn.Roedd pawb yn LlysSiloh yn falch iawn ogael eu warden, DianeWakeford yn ôl yn ddio-gel yn eu plith yn diln eithaith ddyngarol i Indiayn rhan o grŵp o EglwysOasis ac yn edrych ym-laen at glywed ei hanes.Llongyfarchiadau i Mikea Tesni Powell, eto o'rLlys, ar ddathlu 38mlynedd o fywyd prio-dasol ym mis Mawrth.Pob dymuniad da iddynti'r dyfodol. A phen-blwydd hapus iawn iJohn Pearce, Fflat 8 afydd yn dathlu ar 16Mai.

Mae ei gymdogion ynLlys Siloh yn dymunoadferiad llwyr a buan iMr Viv Williams oeddyn Ysbyty BrenhinolMorgannwg ddiweddmis Mawrth ac yn dy-muno'n dda i OlwynWilliams a Lilly Shep-pard sydd newydd ddodma's o'r ysbyty. Cofiwnhefyd am Mrs MargaretWhatley, Stryd Baglansy'n gwella gartref arhyn o bryd.Pob dymuniad da allongyfarchiadau i'r can-lynol o Dŷ'r Pentre oeddyn dathlu eu pen blwyddym mis Ebrill: MaryParry [6ed.], GladysBuchby [17eg] a CharlesPhipps [20fed]. Y mishwn bydd GwynwynClacy yn dathlu ar 18Mai a bydd DorothyGriffiths yn ei dilyn ar yr20fed. Pob hwyl i'rddwy.Mae preswylwyr Tŷ'rPentre yn yn dymuno'ndda i Jessies Merrit syddyn Ysbyty CwmRhondda ar hyn o brydac yn gobeithio y byddyn gwella'n fuan.Mae croeso i blant o boboedran ymuno yng ng-weithgareddau 'ChwaraePlant' a gynhelir rhwng3.30 - 5.15 bob pryn-hawn Mercher ar Barc yPentre. Cânt gyfle i gym-ryd rhan mewn amry-wiaeth o chwaraeon odan gyfarwyddyd gofal-wyr. Ond gwisgwch henddillad ac esgidiau addaspan yw'r tywydd ynwlyb.Yn anffodus, cafodd yrardal nifer o golledionyn ddiweddar. Bu farwdau o hen drigolionStryd y Frenhines, sef

8

Page 9: Y Gloran mis Mai 2013

9

John Jones a Derek De-vonett a chollwyd LesJones, Stryd Albert ynogystal. Cofiwn am euteuluoedd yn eu profedi-gaeth a dymuno pobcysur iddynt.Roedd aelodau Byddinyr Iachawdwriaeth yndathlu 23ain pen-blwyddagor eu neuadd ar 30Ebrill ac yn edrych ym-laen at fynd i'r rali deu-luol a drefnir gan yFyddin ym Mhorthcawlar 14 Mai.Dewch i Lys Nazaretham 6pm ar y dyddMawrth cyntaf o bob misi'r cyfarfod PACT. Ynocewch gyfle i drafodeich problemau gyda'chcynghorwyr lleol ac â'rHeddlu a rhoi eich barnbeth y dylid ei wneud iwella'r ardal.. Croeso ibawb.

TON PENTRE A’RGELLILlongyfarchiadaucalonnog i'n gohebyddlleol Graham DaviesJohn, Tŷ Ddewi arddathlu pen blwyddpwysig ar 17 Ebrill. MaeGraham yn weithgariawn yn Nhŷ Ddewi acyn yr eglwys ac mae eiholl ffrindiau'n dy-muno'n dda iddo i'r dy-fodol. Gobeithio hefyd ycaiff hwyl ar ei drip iBrighton y mis 'ma.[Gol.]Cafodd pawb yn yr ardaleu syfrdanu gan far-wolaeth Mr Alun Paul, YParêd. Roedd Alun ynaelod o deulu adnabyd-dus yn yr ardal a bu amflynyddoedd yn cynnalbusnes fel adeiladydd.

Fel aelodau eraill o'rteulu, roedd ganddoddiddordeb arbennigmewn chwaraeon a bu'nchwaraewr rygbi a golffbrwd. Yn ŵr ifanc,chwaraeodd dros dimaurygbi Treherbert, Pon-typridd a Phenarth achafodd gap ieuenctiddros Gymru. Cy-dymdeimlwn â'i weddw,Helen a'i ddwy ferchSally a Jenny ynghyd â'rteulu oll yn eu hiraeth.Colled arall i'r ardal yndilyn cystudd creulon ohir oedd marwolaeth MrJohn Gimson a fu gyntyn rheolwr y New Inn.Cyn hynny bu'n cadw yTreorchy Hotel. Daeth iamlgrwydd fel canwrpoblogaidd a bu'ngyfrifol am drefnu llawero gyngherddau yn yddau dafarn. Estynnwnein cydymdeimlad i'wferch, Larraine a fu'ngyn-faer yRhnddaCynon Taf ac i'r teulu ollyn eu hiraeth.Er gwaethaf nifer o br-blemau mawr, bu cyn-hyrchiad Grŵp TheatrAct 1 o 'Grease' yn The-atr y Ffenics yn llwyddi-annus iawn. Cafodd ycantorion a'r dawnswyrglod am eu gwaith ondcafodd pawb fraw wrthrihyrsio pan ddechreuddy llwyfan ddatgymalu odan draed y perf-formwyr. Trwy dru-garedd, chafodd neb eianafu a llwyddwyd i at-gyweirio'r llwyfan mewnpryd ar gyfer y sioe ago-riadol. Mae'r cwmni ynedrych ymlaen atgyflwyno 'The Phantomof the Opera' yn y Ffen-ics ym mis Awst. Osydych am gymryd rhan,

cynhelir clyweliadau ymis hwn gan ddechrauddydd Sadwrn, 4 Mai.Rhaid canmol RhysWilliams, cyfarwyddwry cwmni a Peter Rad-more, y cyfarwyddwrcerdd ar eu gwaithgwych yn hyfforddi bron40 o bobl ifainc o dan 18oed.Daeth tymor llwyddian-nus arall yn hanes Clwby Cameo i ben gyda'rholl aelodau yn mynd arwibdaith i Gaerfyrddin,ddydd Mawrth, 28Ebrill. Cafodd pawbamser da a bydd y Clwbyn ailddechrau ym misMedi.Trefnir Noson Skittles gaaelodau Eglwys SantIoan Fedyddiwr, nos Iau,23 Mai am 7pm yngNghlwb Pêl-droed TonPentre. Maen nhw hefydwrthi'n barod yn trefnuar gyfer eu GarddwestFlynyddol a fydd yn dig-wydd ddydd Sadwrn, 6Gorffennaf. Croeso i

bawb i'r ddau ddigwyd-diad.Llongyfarchiadau iLaura Davies, merchSusan a'r diweddarMansel Davies, StrydClara ar gael un o'r prifrannau yn y sioe gerdd'Priscilla' sy'n cael ei ll-wyfannu ym Mryste arhyn o bryd. Mae nifer owibdeithiau wedi eu tre-fnu o'r ardal hon i'wgweld y serennu ochr ynochr â Jason Donovon adymunwn bob llwyddi-ant iddi yn ei gyrfa.Cafodd nifer o deulu-oedd yr ardal brofedi-gaethau yn ystod yrwythnosau diwethaf.Cofiwn yn arbennig amdeuluoedd y canlynol:Marion Pugh, Stryd Al-bion; Christabel Tapper,Dinam Park Avenue;Nancy Jones, StrydParry; Brian Clemett,Maindy Grove; AllanHobbs, Heol Stanley aNigel James, Stryd Can-ning.

Y GORNEL IAITH DAU AIR OD - MATH A GOLWG Mae'r defnydd a wneir o'r geiriau hyn yn galluperi trafferth.

MathPan olyga 'math' deip, dosbarth neu rywiogaeth,mae bob amser yn wrywaidd. Felly ceir, y ddaufath; y math hwnnw o berson; y math drutaf owin. Fodd bynnag, pan y'i defnyddir yn ystyr 'ycyfryw, such a' fe'i treiglir ar ôl y fannod ynghydâr enw sy'n ei ddilyn - y fath beth; y fath olwg.

GolwgPan ddefnyddir golwg i sôn am ymddangosiad,sut mae rhywbeth yn edrych, bydd yn fenywaidde.e. Roedd golwg flinedig arni; Doeddwn i ddimyn hoffi'r olwg arno. Ond pan gyfeiria at yr hynrydyn ni'n ei weld, bydd yn wrywaidd e.e. Aeth ydyn o'r golwg; Gweidda pan ddaw'r car i'r golwg.

Page 10: Y Gloran mis Mai 2013

10

Digon siomedig oeddachlysur cyntaf dathlucanmlwyddiant Theatr yParc a'r Dâr, sef 'Cân yrAdeilad'. Gwaith y cy-fansoddwr ifanc o Gas-newydd, Jack White,oedd hwn a'i fwriad oeddcreu 'y tapestri hwn olais a cherddoriaeth ynadlewyrchu hanes cy-foethog yr adeiladnodedig hwn, ei leoliada'i bobl, gan ddal cysyll-tiad ystod o aelodau o'rgymuned, megis ysgo-lion, myfyrwyr, disgy-blion ysgolion arbennig,offerynwyr a chantoriondrwy gyfres o weithdai asesiynau ymarfer agoredynglŷn â chreu a pherf-formio'r gwaith hwn.'

Cymerwyd rhan gan GôrSiambr Rh.C.T. ynghydâ Cherddorfa IeuenctidHŷn y Sir a oedd o dangyfarwyddyd y cerddorprofiadol ac adnabyddus,John Quirk. Canwydhefyd gan gôr cyfun oysgolion cynradd yGelli, Pen-pych aPhenyrenglyn a chafwydeitemau 'Cloddio am Lo'gan ddisgyblion YsgolArbennig Hen FelinYstrad Rhondda. Ynogystal, cafwyd unawdgan Kizzy Crawford acunawd corned.Gwaith byr iawn oeddhwn gyda'r cyfan yncymryd llai nag awr ondy diffyg mwyaf oedd ygeirio aneglur ac esgeu-

lus gan yr unawdydd a'rcorau. Yn rhyfedd iawn,cafwyd yr ynganu goraupan ganwyd geiriauCymraeg a hynny, mae'ndebyg, gan fod y planto'r ysgolion Saesnegwedi cael cyfarwyddi-adau manwl sut i ynganupob gair. Mae'n druenina wnaed hyn gyda'rSaesneg yn ogystal gantaw bwriad y noson oeddadrodd stori'r adeilad. Igyflwyno gwaith o'rmath hwn yn llwyddian-nus, rhaid wrth goraudisgybledig ond yn anf-fodus, ni chafwyd hyn ytro hwn.Does ond gobeithio ybydd gweddill y rhaglenyn fwy llwyddiannus. Ar

y 14, 15 a 18 Maicyflwynir Hedfa'r Dy-chymyg gan gast o dros100 o ddawnswyr, canto-rion a cherddorion ac ar21 Mehefin llwyfennircyngerdd y canmlwyddi-ant 'Yn 100 oed ac Ymao Hyd'. Dilynir hyn ymmis Medi gan Y Cys-tadleuwr gan Mal Pope abydd cynhyrchiad oddrama gyntaf yr awduro Gwmparc, Rachel Tre-size, 'Tonypandemo-nium'. Edrychwn ymlaenat y digwyddiadau hyngan obeithio y byddantyn deilwng o draddodiadcyfoethog y Parc a'r Dâr.

Cân yr Adeilad

Page 11: Y Gloran mis Mai 2013

11

Ysgo

l Gyfu

n Cym

er Rh

ondd

aYsgol Gyfun Cymer Rhondda

LLWYDDIANT SEICLOLlongyfarchiadau gwresog i Niamh Jones, sy’n ddisgybl yn7R, ar ei llwyddiant anhygoel ym myd seiclo yn ddiweddar.Cipiodd Niamh yr ail wobr yn y râs 10 milltir ym Mhen-campwriaeth Seiclo Ysgolion Cymru yn ystod y penwyth-nos. Mae Niamh, sy’n aelod o glwb seiclo ‘NewportOlympic’ a chlwb ‘Bike Doctor’ yn hyfforddi bum gwaithyr wythnos a gall seiclo hyd at 50 milltir ar y tro.Camp anhygoel Niamh – llongyfarchiadau mawr i ti!

LLONGYFARCHIADAU AARON!Mae gwaith caled ac ymroddiad un o’n myfyrwyrchweched dosbarth wedi’i gydnabod yn genedlaethol.Llwyddodd Aaron Fowler o Flwyddyn 12 i ennill Lleo-liad Bwsari Gwyddoniaeth Nuffield, sef 5 wythnos oleoliad gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod yrhaf eleni yn ymchwilio ym meysydd Bioleg a Geneteg.Mae’r gystadleuaeth yn gryf ar gyfer ennill lleoliad – 4lle yn unig sydd.Dyma lwyddiant arbennig sy’n destament i holl waithcaled Aaron hyd yma yn ei bynciau Uwch Gyfrannol.Diolch i’r Adran Fioleg a Dr Thomas am gynorthwyoAaron gyda’i gais. Llongyfarchiadau mawr i ti Aaron– gwn y byddi’n genhadwr gwych!

CWRDD AG ENWOGION CYMRU YN Y CYMERCawsom y fraint o wahodd yr actorion amryddawn Maureen Rhys a John Ogwen i’r ysgol ar ddydd Iau,Ebrill 11eg. Arweiniwyd gweithdy ar y ddrama ‘Siwan’ gan Saunders Lewis gan y ddau i fyfyrwyr einChweched Dosbarth a chawsant fodd i fyw yn gwylio’r ddauwrth eu crefft. Diolch didwyll i Maureen a John am eu hys-brydoliaeth.

Page 12: Y Gloran mis Mai 2013

12

LLWYDDIANT RYGBI 7Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion a gynrychiolodd yr ysgol mewn Cystadleuaeth Rygbi 7 pob ochr YrUrdd yr wythnos ddiwethaf, yn enwedig bechgyn y Tîm Cyntaf. Mewn cystadleuaeth lle roedd dros ddeu-gain o ysgolion a cholegau Cymru yn cystadlu, llwyddodd y bechgyn i guro ysgolion fel Ysgol Gyfun Glan-tâf, Ysgol Gyfun Y Pant ac Ysgol Howells i gyrraedd y rownd derfynol. Llwyddodd y bechgyn i ennill ygystadleuaeth ar ôl curo Ysgol Bro Morgannwg 35 - 31 yn y gem derfynol mewn gem hynod o agos.Llongyfarchiadau mawr iBradley Tudor, Alex Judd, Sam Davies, Anthony Pearce, Callum Norris, Ashley John, Corey Sheppard, CarlLewis, Jacob Lloyd, Ieuan Rees, Jordan Morgan a Luke Harris.

SMWDDIS YN CYRRAEDD Y CYMER!Lawnsiwyd ein bar smwddi newydd ‘Xing’ yn yr ysgol yr wythnos ddiwethaf. Dyma fenter gyffrous gan raio ddisgyblion yr ysgol ac fe fyddant yn gwerthu’u cynnyrch bob amser cinio. Dewch yn llu i flasu smwddi!