12
y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr 20c rhifyn 269 2il gyfrol CHWEFROR 12 Bydd cynllun y Lly- wodraeth i newid trefn budd-daliadau yn cael llawer o effaith arnom i gyd yn Rhondda Cynon Taf. Amcan y newidi- adau yw symleiddio'r system, cymell mwy o bobl i weithio ac arbed £7 biliwn o bunnau'r flwyddyn i'r lly- wodraeth. O hyn allan, un taliad cyffredinol a geir yn lle'r amrywiol ffynonellau sydd ar gael ar hyn o bryd ac ni fydd yr un teulu yn derbyn mwy na £500 yr wyth- nos. Bydd y cynllun newydd yn dechrau yn 2013 ac mewn grym yn llwyr erbyn 2017. Dy- wedir na fydd y trefni- adau hyn yn effeithio ar gymorth at Dreth y Cyn- gor ond gan y bydd cyn- ghorau'n derbyn 10% yn llai gan y Llywodraeth, mae hynny'n rhwym o ddigwydd. Yn wahanol i'r drefn bresennol, y tenant ac nid perchen y tŷ fydd yn derbyn y tâl rhent, ffaith a fydd yn sicr yn esgor ar fwy o broblemau dyled. Bydd y system newydd yn effeithio ar 30,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd ar hyn o bryd yn derbyn £86 miliwn y flwyddyn rhwng budd- daliadau Tai a Threth y Cyngor. Ar hyn o bryd dyw 23,000 o'r rhain ddim yn talu na rhent na threth y Cyngor, ond bydd hyn yn newid a disgwylir cynnydd yn y ddyled i'r Cyngor pan ddisgwylir iddynt gyfrannu. Er bod £26,000 efallai'n ymd- dangos yn swm mawr, mae'n amlwg na fydd yn ddigonol mewn ardaloedd lle mae rhen- ti'n uchel, megis de- ddwyrain Lloegr. Y gofid yw y bydd teulu- oedd yn gorfod symud ma's o'r ardaloedd hynny i ardaloedd llai llewyrchus. Y cyngho- rau yn yr ardaloedd tlawd hynny wedyn fydd yn gorfod datrys eu problemau. Yn lleol, bydd yn ofynnol i'r Cyn- gor asesu rhai o'n teulu- oedd mwyaf bregus a bydd hyn yn arwain at fwyfwy o bwysau ar y gwasanaethau cynghori a chynnal, yn enwedig o gofio nad oes swyddi yn yr ardal i gyfeirio'r bobl hyn iddynt. Mae'r nifer- oedd dan sylw'n fawr. Er enghraifft, amcangyfrifir yr effeithir ar 11,000 gan y newidiadau yn y Rha- glen Waith; 13,700 pan newidir y Budd-daliadau Anabledd; 3,200 gan newidiadau i'r Lwfans Cynnal Cyflogaeth; 3,430 o rieni sengl sy'n derbyn Cefnogaeth Incwm; tua 23,800 sy'n derbyn Lwfans Byw An- abledd. Bydd hyn oll yn golygu gostyngiad o £30 miliwn i'r economi leol gyda chanlyniadau brawychus i'n siopau a busnesau. Dadleua'r llywodraeth asgell dde bresennol fod derbyn £26,000 yn eich llaw yn gyfwerth ag en- nill £35,000 y flwyddyn, cyflog sy'n fwy nag y derbynnir gan y mwyafrif o deuluoedd yr NEWID BUDD-DALIADAU drosodd CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 1

Y Gloran Chwefror 2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

papur bro, local paper

Citation preview

Page 1: Y Gloran Chwefror 2012

y gloranpapur bro blaenau’r rhondda fawr

20crhifyn 269 2il gyfrol

CHWEFROR 12

Bydd cynllun y Lly-wodraeth i newid trefnbudd-daliadau yn caelllawer o effaith arnom igyd yn Rhondda CynonTaf. Amcan y newidi-adau yw symleiddio'rsystem, cymell mwy obobl i weithio ac arbed£7 biliwn o bunnau'rflwyddyn i'r lly-wodraeth. O hyn allan,un taliad cyffredinol ageir yn lle'r amrywiolffynonellau sydd ar gaelar hyn o bryd ac ni fyddyr un teulu yn derbynmwy na £500 yr wyth-nos. Bydd y cynllunnewydd yn dechrau yn2013 ac mewn grym yn

llwyr erbyn 2017. Dy-wedir na fydd y trefni-adau hyn yn effeithio argymorth at Dreth y Cyn-gor ond gan y bydd cyn-ghorau'n derbyn 10% ynllai gan y Llywodraeth,mae hynny'n rhwym oddigwydd. Yn wahanoli'r drefn bresennol, ytenant ac nid perchen ytŷ fydd yn derbyn y tâlrhent, ffaith a fydd ynsicr yn esgor ar fwy obroblemau dyled.

Bydd y system newyddyn effeithio ar 30,000 obobl yn Rhondda CynonTaf sydd ar hyn o brydyn derbyn £86 miliwn y

flwyddyn rhwng budd-daliadau Tai a Threth yCyngor. Ar hyn o bryddyw 23,000 o'r rhainddim yn talu na rhent nathreth y Cyngor, ondbydd hyn yn newid adisgwylir cynnydd yn yddyled i'r Cyngor panddisgwylir iddyntgyfrannu. Er bod£26,000 efallai'n ymd-dangos yn swm mawr,mae'n amlwg na fydd ynddigonol mewnardaloedd lle mae rhen-ti'n uchel, megis de-ddwyrain Lloegr. Ygofid yw y bydd teulu-oedd yn gorfod symudma's o'r ardaloedd hynny

i ardaloedd llaillewyrchus. Y cyngho-rau yn yr ardaloeddtlawd hynny wedyn fyddyn gorfod datrys euproblemau. Yn lleol,bydd yn ofynnol i'r Cyn-gor asesu rhai o'n teulu-oedd mwyaf bregus abydd hyn yn arwain atfwyfwy o bwysau ar ygwasanaethau cynghoria chynnal, yn enwedig ogofio nad oes swyddi ynyr ardal i gyfeirio'r boblhyn iddynt. Mae'r nifer-oedd dan sylw'n fawr. Erenghraifft, amcangyfrifiryr effeithir ar 11,000 gany newidiadau yn y Rha-glen Waith; 13,700 pannewidir y Budd-daliadauAnabledd; 3,200 gannewidiadau i'r LwfansCynnal Cyflogaeth;3,430 o rieni sengl sy'nderbyn CefnogaethIncwm; tua 23,800 sy'nderbyn Lwfans Byw An-abledd. Bydd hyn oll yngolygu gostyngiad o £30miliwn i'r economi leolgyda chanlyniadaubrawychus i'n siopau abusnesau.

Dadleua'r llywodraethasgell dde bresennol fodderbyn £26,000 yn eichllaw yn gyfwerth ag en-nill £35,000 y flwyddyn,cyflog sy'n fwy nag yderbynnir gan ymwyafrif o deuluoedd yr

NEWID BUDD-DALIADAU

drosodd

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 1

Page 2: Y Gloran Chwefror 2012

Ddiwedd y flwyddynenwyd labordy newyddyn Sefydliad Ffiseg aMathemateg PrifysgolAberystwyth er cof amwyddonydd a hanai oDreherbert. Ac yntauwedi cael gyrfa acade-maidd ddisglair iawn,ymunodd Dr TudorJenkins â staff PrifysgolAberystwyth yn 1983.

Fe'i dyrchafwyd ynuwch-ddarlithydd yn1990 ac yna'n ddarl-lenydd mewn ffiseg yn2007. Fe'i cydnabyddidyn athro penigamp ac yn2005 cyflwynodd yBrifysgol iddo Wobr amRagoriaeth Addysgu.

Ganed Tudor yn 1949,yn fab i Morgan a VioletJenkins ac ar ôl derbynei addysg gynnar ynNhreherbert ac Ysgol yBechgyn, Y Porth, enil-lodd ysgoloriaeth agoredi Goleg Corpus Cristi,

Rhydychen. Wedi grad-dio, gweithiodd yn-Labordy Clarendon aderbyn gradd D.Phil.yno cyn symud amgyfnod byr i BrifysgolCaerdydd cyn cael eibenodi yn ddarlithyddym Mhrifysgol St An-drew yn yr Alban yn1973. Oddi yno ymun-odd â staff Aberystwythyn 1983 ac ymgartrefuym mhentref Bow St.

Datblygodd Tudor ddul-liau newydd o astudionodweddion

2

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISONgyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

golygyddol

E-bost: [email protected]

y gloranygloran

chwefror 2012YN Y RHIFYN HWN

Newidbudd-daliadau -1

Golygyddol/Cymdei-thas Gymraeg -2Tudor Jenkins/

Brynfab -3Norman Harris -4

NEWYDDIONTREHERBERT

TREORCICWMPARCY PENTRE

TON PENTRE/Y GELLI/YSTRAD- 5-6-7-8-9-10

Ysgolion/Prifysgolion-10-11-12

Newidbudd-daliadauardal hon. Yn ddiamau,mae hyn yn wir, ondwrth geisio creu gwrth-daro rhwng y di-waith atheuluoedd gweithwyr argyflog isel, efallai eubod am dynnu sylw oddiar ben arall y spectrwm,sef y rheini a achosodd ycawlach economaiddpresennol ond sy'n dal idderbyn cyflogau a thali-adau bonws anferth.

Oes, mae angen poeniam weithwyr ar gyflog

isel, ond efallai yn llerhefru am fod y di-waithyn gallu derbyn £26,000y flwyddyn, dylem droiein sylw at y bancwyr aachosodd y cawl yn y llecyntaf ond sydd nawr yncael eu gwobrwyo âthaliadau bonws anferth!Hynny sy'n wirioneddolanfoesol. Oes, maeangen cosbi'r rhai sy'nhawlio budd-daliadau'nanghyfreithlon, onddylid gwneud hynny hebniweidio'r gwir anghen-nus.Golygydd

Y siaradwr gwadd yngnghyfarfod mis Chwe-fror y Gymdeithas oeddIolo ap Dafydd, gohe-bydd amgylchedd BBCCymru. Cafwyd ganddogipolwg hynod ddid-dorol ar waith newyd-diadurwyr a sut maewedi newid yn sylfaenolyn ystod y blynyddoedddiwethaf oherwydd dat-blygiadau ym maes tech-noleg. Soniodd am eibrofiadau'n gweithio yny Dwyrain Canol a'rmodd roedd y dechnolegnewydd wedi galluogigwrthryfelwyr Libia acIrac i ddangos i'r bydbeth yn union oedd y se-fyllfa er gwaethaf ym-drechion yr awdurdodau

i'w rhwystro. Aeth Ioloymlaen i sôn am newyd-diadura ymchwiliadolgan drafod achos yr ys-biwr o Sir Fôn a lofrud-diwyd yn ei fflat ynLlundain a hefyd eibrofiadau yn dilyn y'con-man' o Gaernarfon,Ken Jones, ar drawsEwrop. Roedd y sgwrsar ei hyd yn ddiddorol acyn ddadlennol a chafoddyr aelodau gyfle i godinifer o gwestiynau ar ydiwedd. Yr archaeole-gydd o AmgueddfaCymru, Ken Brasil, fyddy siaradwr ar 23 Chwe-fror pan fydd y Gymdei-thas yn cwrdd nesaf ynfestri Hermon, Treorciam 7.15pm.

CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI

PRIFYSGOL YN ANRHYDEDDUGWYDDONYDD O DREHERBERT

drosodd

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 2

Page 3: Y Gloran Chwefror 2012

3

electronig solidau ac en-nill enw iddo'i hun felathro ysbrydoledig. Ondnid gŵr academaidd en-cilgar mohono'n unigoherwydd chwaraeoddran flaenllaw ym mywydy dre yn ogystal. Am 26blynedd bu'n aelod oFand Arian Aberystwythgan chwarae'r tiwba.

Roedd ganddo gariadmawr at gerddoriaeth acyn ogystal ag offerynnaupres gallai chwarae'rliwt, y gitâr, y piano a'rorgan. Chwaraeai bad-minton yn selog yn eioriau hamdden ac roedd

ganddo ddiddordebmawr mewn Karate. Ynanffodus, bu farw'nsydyn ym mis Tachwedd2009, yn 60 oed, yndilyn cystudd byr. Gada-wodd weddw, Susan athri o blant, Bethan,Meurig a Morgan. Mae'ndda gweld bod PrifysgolAberystwyth yn cydna-bod ei gyfraniad nodedigtrwy agor y labordy hwna fydd yn coffau enw unarall o feibion disglairCwm Rhondda.

PRIFYSGOL YN ANRHYDEDDUGWYDDONYDD O DREHERBERTparhad

O'r chwith: Athro Manuel Grande [Pennaeth Adran], AthroApril McMahon [Is-Ganghellor Aberystwyth], Mrs SusanJenkins, Morgan a Meurig Jenkins (meibion)

Y labordy newyddyn Adran Mathemateg a Ffiseg Aberystwyth

Tua diwedd ei oes, cyhoeddwyd bod ThomasWilliams, neu Brynfab fel ei adnabyddid ganbawb, i dderbyn pensiwn brenhinol o £50 y flwyd-dyn gan y llywodraeth am ei gyfraniad i lenyddi-aeth Gymraeg. Er nad yw'r swm yn ymddangos ynfawr iawn heddiw, ddechrau'r ganrif ddiwethafroedd yn arian sylweddol iawn a'r swm yn arwyddo'r parch enfawr at gyfraniad y ffermwr cyffredinhwn a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar ar FfermFforch Orchwy, Treorci.

Ganed Thomas Williams ar 8 Medi, 1848 yn fab iThomas a Gwenllian Williams a ffermiai FforchAman, Cwmaman, Aberdâr, ond pan oedd yn ifanciawn symudodd y teulu i fferm y Fforch, Treorciac yno y bu'n byw tan oedd yn 25 oed. Yn Nhre-orci y cafodd ei addysg ac yno, mae'n debyg, ydechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth. Cwmy Fforch yw'r unig gwmwd sy'n canghennu i'rdwyrain yn y Rhondda Fawr ac mae ffermdygwreiddiol yno yn perthyn i'r ail ganrif arbymtheg. Ym mlynyddoedd cynnar y 19 ganrifdechreuwyd codi glo o lefel yn y cwmwd ac erbyn1863 roedd J.H.Insole wedi suddo pwll Abergorci.Fe'i prynwyd yn 1874 gan Burnyeat, Brown a'uCwmni, grŵp o ddiwydianwyr o Lerpwl a White-haven ac erbyn 1875 roedd y pwll, a oedd wedi eiddyfnhau eto, yn cynhyrchu 220,786 tunnell o lo.

Newid BydSymudodd Brynfab o'r Fforch yn 1873 ac yntau'n25 oed ac ymsefydlu yn yr Hendre, Eglwysilian ary llethr uwchben Trefforest. Yn ddiamau, roedd ewedi gweld newidiadau mawr yng nghwm yFforch, gyda phwll Abergorci'n ffinio ei dir affermio o'r herwydd yn mynd yn fwy anodd. Yn1912 cyhoeddodd nofelig, 'Pan Oedd Rhondda'nBur' yn darlunio'r cwm yn y cyfnod cyn-ddiwydi-annol. Ynddi, cawn gwrdd â rhai o hen gymeri-adau'r ardal fel Walter Edwards, y porthmon offerm Abergorci, Gweni Pencelli a Cyrnol Ed-wards, Tynewydd. Fel yr awgryma'r teitl, gresynudiflaniad yr hen arferion a'r hen gymeriadau awna'r awdur gan feio diwydiant am y dirywiad.Ond mae'r gwaith yn rhoi inni ddarlun gwerthfawro hen ffordd o fyw gwŷr a gwragedd y Gloran.

THOMASWILLIAMS[BRYNFAB] 1848-1927BARDD, ATHRO A LLENOR

parhad ar dudalen 8

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 3

Page 4: Y Gloran Chwefror 2012

4

Daeth cynulleidfa fawr ynghydyng nghapel Bethlehem, Treorci,ddydd Mawrth, 24 Ionawr argyfer gwasanaeth angladdol Nor-man Harris, organydd y capel acun a gyfrannodd yn helaeth ifywyd cerddorol yr ardal hon athu hwnt. Talwyd teyrnged iddogan Miss Rhian Ellis, pri-fathrawes Ysgol Gyfun y Cymera'r Parch Cyril Llewellyn achafwyd eitemau gan GôrMeibion Cwmaman, y côr y buNorman yn ei arwain.

Er iddo ddioddef o hemoffilia er

yn blentyn a gorfod treulio blyny-ddoedd ei blentyndod a'i ieuenc-tid mewn cadair olwynion, niadawodd Norman i'w anabledd eirwystro rhag byw bywyd i'r ymy-lon. Ar ôl derbyn addysg ynYsgol Gynradd Treorci ac YsgolRamadeg Ferndale aeth ymlaen iymgymhwyso'n athro yng Ngho-leg Addysg Caerllion, Gwent.

Dechreuodd ei yrfa'n athro ynYsgol Gynradd y Pentre cynymuno ag adran gerdd YsgolGyfun y Maerdy lle y bu'n aelodgweithgar o'r staff nes i afiechyd

ei orfodi i ymddeol yn gynnar. Ytu allan i'r ysgol, nid oedd pall arei weithgarwch, yn enwedig ymmaes canu corawl a'r cymdei-thasau opera lleol. Bu am gyfnodyn arweinydd Côr Cymysg Tre-orci ac yn gyfarwyddwr cerdd yneu tro ar gymdeithasau opera'rSelsig, Spotlight a Llandaf. Amflynyddoedd, bu'n gyfrifol amgynhyrchu a chyflwyno rhaglen ogerddoriaeth ar radio Ysbyty'rWaun [Heath], Cardydd, sefy-dliad y teimlai'n ddyledus iddoam y gofal ardderchog a gafoddganddynt ar hyd y blynyddoedd.

Roedd Norman yn Gymro i'r carnac yn gwneud poeth yn ei allu ihyrwyddo addysg gyfrwngCymraeg fel llywodraethwr ynYsgol Ynyswen ac Ysgol Gyfuny Cymer. Cafodd ei wneud ynflaenor yn ei gapel ym Methle-hem a gwasanaethai hefyd arbwyllgor cerdd Henaduriaeth yPresbyteriaid. Roedd hefyd ynarweinydd cymanfaoeddpoblogaidd.

Ymddiddorai Norman yn fawrmewn pob math o ddyfeisiadautechnegol yn enwedig ym mydcerdd a hoffai grwydro gyda'ideulu yn eu carafan adeggwyliau. Roedd ei hoffter o geiryn ddiarhebol ond yn ddiweddarmentrodd oddi ar dir sych aphrynu rhan o gwch a gadwyd ymMae Caerdydd!

Doedd dim pall ar ei fenter na'iawydd i fyw bywyd i'r eithaf.Gwelir ei eisiau mewn sawl cylchond yn bennaf cydymdeimlwn â'ideulu yn ei hiraeth. Roedd yn dadac yn dad-cu balch. Coffa daamdano.

NORMAN HARRIS 1946 - 2012

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 4

Page 5: Y Gloran Chwefror 2012

5

TREHERBERTAr ôl gwrthod cais i godinifer fawr o dai ar y saflear waelod ffordd y Rhi-gos, newidiodd PwyllgorCynllunio Rh.C.T. ei fed-dwl pan ailystyriwyd ymater. O ganlyniad, byddy tai nawr yn cael eu codier gwaethaf gofidiau yn-glŷn â diogelwch, drae-niad a'r cynnyddcyffredinol yn y traffig.Dewiswyd Cwm Saebrenyn Ardal GoedwigaethArbennig gan yComisiwn Coedwigaeth.Pedair coedwig yn uniggafodd eu dewis i gaelblaenoriaeth ym Mlae-nau'r Cymoedd. Daeth ycynllun o Uned econo-maidd llywodraethCymru pan oedd IeuanWyn Jones yn weinidoggyda'r bwriad o ddefnyd-dio coedwigoedd lleol iadnewyddu'r cymdo-gaethau cyfagos a hybutwritiaeth. Ym mis Ion-awr, sefydlwyd pwyllgorlleol ac ar hyn o brydmaen nhw'n ystyried sy-niadau fel creu llwybr be-iciau i gysylltu Treherberta Glyncorrwg, creu ll-wybrau marchogaeth adatblygu hen safle'r argaeyn ardal hamddena.Mae'n dda gweld bod yllywodraeth yn fodlonbuddsoddi o'r diwedd ynyr amgylchedd prydferthym mlaenau'r Rhondda.

Llongyfarchiadau iDaniel Morris, Tynewydda Calum Phillips a GarinDaniels, ill dau o Flaen-rhondda, sydd wedi eudewis i gynrychioliClybiau Bechgyn Cymrumewn rygbi. Bydd eugêm gyntaf yn erbynGwlad Belg yn ystodgwyliau'r Pasg. pob ll-wyddiant iddynt.Cynheliwyd prynhawn oweithgareddau storiau achrefftau i blant ynllyfrgell Treherbert, 7Chwefror am 2.30p.m.Mae siop bapurau DavidRutledge yn Stryd Butewedi cau tra bod yradeilad yn cael ei ad-newyddu. Gobeithio ybydd yn ailagor cyn bohir gan fod llawer yngweld ei heisiau.

Da yw deall bod HowardWilliams, BlaenrhonddaRd. ma's o'r ysbyty arhyn o bryd ac yn arosdros dro yng NghartrefNyrsio Tŷ Ross. Dy-munwn wellhad buaniddo.

Mae'n flin gennym gofn-odi marwolaeth ddisyfydMr Huw Alun George,Stryd Dumfries. RoeddMr George yn un o drigo-lion mwyaf adnabyddusyr ardal gan ei fod wedigwasanaethu'r gymdo-gaeth am dros 30

mlynedd fel fferyllyddo'i siop yn Stryd Wynd-ham yn Nhynewydd. Arôl ymddeol, bu'n gwei-thio ar brydiau fellocwm yn fferyllfaGeraint Davies. Roeddyn aelod ffyddlon iawnyng Ngharmel lle bu'nddiacon ac yn dryso-rydd. Bydd bwlch mawrar ei ôl. Cydymdeimlwnâ'i fab, Roland a'r teuluoll yn eu profedigaeth.

Yn dilyn cystudd hir, bufarw Rene Jones, StrydCorbett oedd wedi ym-gartrefu yn Nhŷ Ross erspeth amser. Cyn eigwaeledd, bu'n weithgaryn y gymdogaeth, yn en-wedig fel cynrychiolyddtenantiaid Treherbert a'rcylch. Cofiwn am eimerch, Jane a'r holl deuluyn eu hiraeth.Cafodd pawb sioc wrthdderbyn y newyddion amfarwolaeth Ernest Jones,Stryd Gwendoline, yndilyn damwain yn eigartref. Cofiwn am eiwraig, Margaret a'r teuluoll ar yr adeg drist hon yneu hanes acestynnwn id-dynt ein cydymdeimladcywiraf.

TREORCIRoedd yn flin gennymdderbyn y newyddion amfarwolaeth Mr Keith

Woods, Stryd Treasure arôl dioddef cystudd hir.Roedd Mr Woods ynadnabyddus yn yr ardalfel cyfrifydd ac yn aelodblaenllaw o'r ClwbBusnes a Chlwb RygbiTreorci. Cofiwn am eiweddw a'r teulu oll yn euhiraeth.

Gwrthododd PwyllgorCynllunio Rh.C.T. gais igodi tri thŷ tu ôl i'r RedCow oherwydd prinderllefydd parcio yn ycyffiniau. Y bwriad oedddymchwel rhan gefn y ta-farn er mwyn codi'r tai.Cydymdeimlwn yn gywiriawn â theuluoedd Mr

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’RMIS OS GWELWCH YN DDA

newyddion lleol EICHGOHEBWYRLLEOL :Rhowch wybodiddyn nhwos byddwch chieisiau rhoirhywbeth ynY GLORAN

Treherbert:GERAINT aMERRILL DAVIES

Cwmparc:D.G.LLOYD

TreorciMARY PRICE

Y Pentre:TESNI POWELL

Ton Pentre a'rGelli:HILARYCLAYTONGRAHAM JOHN

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 5

Page 6: Y Gloran Chwefror 2012

Donald Vaughan, Stryd Dyfodwga Mrs Betty Taylor, Stryd Illtyd afu farw'n ddiweddar.Pob dymuniad da i Mr FredMears, Y Stryd Fawr sydd ar hyno bryd yn derbyn triniaeth yn Ys-byty Brenhinol Morgannwg.Bu nifer o bobl yr ardal yn dathlueu pen-blwyddi yn ddiweddar.Roedd Mrs Gweneira Lawthom yn85 ddiwedd Ionawr, Mrs GladysGray, Stryd Tynybedw yn 95 aMrs May Thomas, Stryd Dumfriesyn 97. Llongyfarchiadau calonnogi'r tair a phob dymuniad da iddynti'r dyfodol.

Mae ffrindiau a chymdogion MrsGwennie Evans, Stryd Regent igyd yn dymuno adferiad buaniddi, a hithau wedi bod yn dost ynei chartref ers peth amser.Y mis hwn bydd Côr Merched WITreorci yn ailddechrau eu hymar-ferion wythnosol y mis hwn. maennhw'n croesawu aelodau newydd.

Os oes gennych ddiddordeb, cy-sylltwch â'r arweinydd, Mrs MaryPrice ar 773395.Y siaradwr yng nghyfarfod misoly WI ddechrau Chwefror oeddCennard Davies a soniodd am raio gymeriadau lliwgar RhonddaUchaf. Llywyddwyd gan PaulineWorman.Pob dymuniad da i MilwynPearce, Heol Ynyswen, ar eihymddeoliad ar ôl bod yn gwei-thio am 35 mlynedd yn dderbyn-wraig yn Syrjeri Calfaria.Dymunwn iddi ymddeoliad hir ahapus.

CWMPARCTrist yw cofnodi marwolaeth MrsAnn Davies (Everett gynt) priodJohn ar ôl salwch byr diwedd Ion-awr.

Hefyd bu farw Mrs Eunice Blow,

Heol Conwy dechrau mis Chwe-fror.Cydymdeimlir â’r ddau deulu ymayn eu colled.

Cynhelir sesiwn bob mis yn yganolfan gymuned gan yr heddlui’r cyhoedd cael trafod unrhywbroblem. Mae hyn ar Fawrth 7fedac Ebrill 11eg rhwng 2 a 4 y pryn-hawn.

Hefyd bydd Job Club yn cael eicynnal bob dydd Llun a Ddyddmawrth ac mae croeso i bawbrhwng 11y b a 5 y prynhawn.Ffoniwch 01443 776920.

Dymuniadau gorau i David Mor-gan Vicarage Terrace ar ôl iddogwympo yn Nhreorci. Aed ag efi’r ysbyty ond mae e gartref ynawr a rhywfraint yn well.

Llongyfarchiadau i Lou Reed,Heol y Parc, ar gael ei ddewis yn

6

CARPETS ʻNʼ CARPETS117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349

Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni adewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton,Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewchgroeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich

siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.� Mesur cynllunio a phrisio am ddim� Storio a chludiant am ddim� Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer� Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa� Credydd parod at £1,000� Gosodir eich carpet gan arbenigwy� Gwarantir ansawdd� Ol-wasanaeth am ddim� Cyngor a chymorth ar gael bob amser� Dewiswch eich carped yn eich cartref� Gellir prynu a gosod yr un diwrnod� Gosod unrhyw bryd� Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol� Carpedi llydan at 10ʼ5”� Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad� Y dewis mwyaf yn yr ardal� Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop

50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYNo GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR

MILOEDD o BATRYMAU aCHYNLLUNIAU yn ein

HARDDANGOSFADDEULAWR

Dewch yma-Cewch werth eich arian

Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop osam fargen arbennig

CARPETS ʻNʼ CARPETSAr agor 6 diwrnod 8.30-5.30

Hefyd amser cinio ddydd Sul

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 6

Page 7: Y Gloran Chwefror 2012

7

rhan o garfan Cymru argyfer Pencampwriaeth yChwe Gwlad. Mae Lou,sy'n chwarae yn yr ailreng, yn aelod o dîmScarlets Llanelli. Pobdymuniad da iddo yn yrhewgell yng NgwladPŵyl a mawr obeithiwny caiff ei ddewis i'r gar-fan derfynol!

Bob dydd Llun a dyddIau rhwng 11-5pm maehelp ar gael yng Ng-hanolfan GymunedolNeuadd y Parc i'r rheinysy'n chwilio am waith.Cewch wybod paswyddi sydd ar gael, suti lunio CV a chymorth iysgrifennu llythyron.Cofiwch alw heibio.

Y PENTREDaeth newyddion o'rUnol Daleithiau nad

oedd angen llawdrini-aeth ar arddwrn Dr AnneBrooke wedi'r cyfan. Arôl gweld ei harbenigwryn Norfolk, Virginiapenderfynwyd bod yrarddwrn yn gwella o ranei hun. Pob dymuniad daiddi a gobeithio y byddyn ôl yn y Rhondda cynbo hir.

Mae pobl hirhoedlogiawn yn Nhŷ'r Pentre,ffaith syn brawf o'r gofalarbennig a gân nhw yno.Y mis hwn bydd dwy o'rpreswylwyr yn dathlupenblwyddi - PhyllisThomas yn 91 ar 2Chwefror a bydd Cerid-wen Davies yn cyrraedd90 ar yr 8fed. Llongy-farchiadau hefyd i Den-nis Parlour sydd hefydyn dathlu.

Deallwn fod JeanRossitter, Llys Siloh yn

dal yn Ysbyty DewiSant. Mae pawb yn eihannog i frysio i wellaer mwyn iddi ddodadre'n fuan. Mae pawbyn y Llys yn gweld eicheisiau, Jean!Croeso i faban newyddEmma Tusan, gyn oStryd Llewellyn a'iphartner Cyrhaeddodd ybaban ar ddiwrnodcyntaf Chwefror ynpwyso 8.9 pwys. Pobdymuniad da i'r dyfodoli'r teulu bach.

Os oes dathlu pen-blwyddi yn Nhŷ'r Pen-tre, dyw preswylwyrLlys Siloh ddim yn bellar eu hôl. Pob dymuniadda a phen-blwydd hapusiawn i'r canlynol sy'nychwanegu blwydd at euhoed y mis hwn: PhoebeRoberts [14 Chwef.],Frank Rabbaiotti [21Chwef.]. Llongyfarchi-

adau i'r ddau a hefyd iCarina Holley, StrydRobert sy'n cynorthwyoyn y Llys a fydd yn torriei theisen ar 28 Chwe-fror. Ar 3 Chwef., i roipen ar y mwdwl, roeddAnn, sy'n casglu rhenti'rLlys, yn dathlu. Pob ha-pusrwydd a rhwyddinebi'r rhain oll yn ystod2012!

TON PENTRELlongyfarchiadau iRhys, Mab Mr a MrsAlan Gill, Parc Tyntyla,ar gael ei ddewis ynrhan o garfan tîm rygbiCymru ac i'r tîm cened-laethol yn erbyn Iwerd-don. Cafodd Rhys gêmardderchog yn y fud-dugoliaeth wych. Dyma,mae'n siwr, yr ail o niferfawr o gapiau i'r proppen rhydd sy'n gyn-ddis-

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 7

Page 8: Y Gloran Chwefror 2012

gybl o Ysgol y Cymer acsy'n chwarae dros ySaraseniaid yn Lloegr.Ynghyd â Gethin Jenk-ins a Matthew Rees maee'n aelod o reng flaensydd i gyd wedi chwaraedros Dreorci. Pan ych-wanegwch yr ail rengLou Reed, o Gwmparc,gwelir y bydd tipyn oddylanwad gan GwmRhondda ar garfanCymru eleni.

Cafwyd hwyl a sbri ynNeuadd y Ffenics wrth igwmni o bobl ifainc Act1 berfformio'r sioe 'Jackand the Beanstalk' ynddiweddar. Da yw gweldy bobl ifainc hyn ynmeithrin eu doniau o dangyfarwyddyd RhysWilliams a gweddill eigwmni. Roedd pawb awelodd y sioe wtrh eubodd, nid yn unig gyda'rperfformiadau unigolond hefyd gyda'r gwis-goedd lliwgar a'r hollgynhyrchiad. llongy-farchiadau arbennig iLydia Howells agymerodd y brif ran,Lucy Elson achwaraeodd Jill, PeterPadmore, heb anghofioDaisy'r fuwch!Daeth cynulleidfa ddaynghyd ar gyfer cyfar-fod mis Ionawr Cymdei-thas Cameo. Ysiaradwraig wadd oeddMenna James owasanaeth llyfrgelloeddRhondda Cynon Taf asiaradodd am ymchwilioi hanes y teulu. Cafoddpawb fwynhad a gwybo-daeth o'i sgwrs ddid-dorol a ategwyd âsleidiau. Fel arfer byddaelodau Cameo yn

dathlu Gŵyl Ddewi,eleni ar 29 Chwefror.Côr Ysgol Gynradd TonPentre fydd yn darparu'radlonian a dilynir euheitemau gan de a phi-cau ar y maen.

Yn ddiweddar bu farwMrs Glenys Stowe,Stryd Kennard a MrFrancis Pugh, YstadNebo. Cydymdeimlwnyn gywir iawn â'u teulu-oedd yn eu colled.Croeso adre i Mr DaveWoods, Tŷ Ddewi, syddwedi bod yn yr ysbyty.Yn anffodus, mae eiwraig, Irene yn dal i fodyn Ysbyty Dewi Sant.Mawr obeithiwn y byddhi hefyd yn dychwelydi'n plith yn y dyfodolagos.

Daeth Shelley ReesOwen i siarad â ChylchCymraeg Tŷ Ddewi ynddiweddar. Mae'r ac-tores, a fu'n rhan o gastPobl y Cwm, yn byw yny Ton a chafwyd hwylyn ei chwmni wrthdrafod rhai o gymeri-adau Pobl y Cwm a rhaio hen gymeriadau'r ardalhon. Edrychwn ymlaenat ei chroesawu yn ôlcyn bo hir.

Roedd yn chwith iawngan breswylwyr TŷDdewi dderbyn ynewyddion am far-wolaeth Mr AlbertDawes yn dilyn cystuddbyr iawn. Gwelir ei eisi-au'n fawr a chofiwn amei deulu a'i ffrindiau yneu profedigaeth.

8

Clic y BontAr ôl symud i ardal Pontypridd bu Brynfab ynaelod brwd o Glic y Bont, grŵp hwyliog o feirdd allenorion yn cynnwys Glanffrwd, hanesydd Llan-wonno, y bardd Carnelian a Dewi Alaw a fyddai'ncwrdd yn nhafarndai ardal Pontypridd. Erbyn hed-diw, ychydig o waith Brynfab a gedwir ar gof, arwahân efalai i'w englyn rhagorol i 'Cymru'.

O wlad fach, cofleidiaf hi. - Angorafllong fy nghariad wrthi;Boed i foroedd byd frewi,Nefoedd o'i mewn fydd i mi.

Er na ellir ei ystyried yn fardd mawr, roedd ynathro beirdd o bwys ac yntau'n gyfrifol am ygolofn farddol yn Tarian y Gweithwyr, y papurCymraeg dosbarth gweithiol a gyhoeddid yn wyth-nosol yn Aberdâr. Bu hefyd yn gystadleuydd brwdmewn eisteddfodau lleol gan eu gweld yn gyfrwngychwanegu swllt neu ddau at ei

THOMASWILLIAMS parhad o dud 3

[BRYNFAB] 1848-1927BARDD, ATHRO A LLENOR

drosodd

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 8

Page 9: Y Gloran Chwefror 2012

Am y tro cyntaf erioed mae gwaith Rachel Tresize,y nofelydd o Gwmparc, wedi'i gyfieithu i'r Gym-raeg...(Diolch i Olygydd y cylchgrawn Golwg am gani-atâd i gyhoeddi’r erthygl hon.)

Fala Surion yw enw addasiad llwyfan Cwmni'r FrânWen o nofel Rachel Tresize, Fresh Apples, a enil-lodd wobr Dylan Thomas yn 2006. Mae'r nofeleisoes wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd. "Mae'nwych ei bod hi'n Gymraeg," meddai Rachel Tresizea gyhoeddodd ei nofel gyntaf 'In and Out of theGoldfish Bowl' pan oedd hi'n dal yn y coleg. 'Maewedi ei chyfieithu i ieithoedd eraill, felly mae'n bethbraf ei bod hi'n cael ei chyfieithu i'r Gymraeg. Amei fod yn llyfr Cymreig drwyddi draw, siwr o fod."

Straeon cignoeth am fywyd pobol ifanc y Cymoeddyw 'Fresh Apples', wedi'u sgrifennu mewn arddulldi-lol, onest a digon anghysurus ar brydiau. Realiti'rRhondda heddiw sydd yma, o gyffuriau caled a ffa-trioedd unnos sy'n cynnig fawr o ddyfodol i'r bobolifanc. "Mae'r llyfr yn reit dywyll," meddai'r nofe-lydd. "Prif gynulleidfa Cwmni'r Frân Wen yw pobolifanc, felly maen nhw wedi gorfod cymryd llawer obynciau'r llyfr allan a chanolbwyntio ar yr hiwmor,sef yr hyn mae'r rhan fwyaf o bobol yn dwlu arnobeth bynnag. Mae yna gydbwysedd yn y llyfr oelfennau tywyll a golau- dim ots pa mor wael

9

enillion prin fel amaethwr. Cystadleuaeth boblo-gaidd yn eisteddfodau dechrau'r ganrif ddiwethafoedd sgrifennu marwnadau i aelodau amlwg o'rgymdeithas oedd wedi marw yn ystod y flwyddyn.Er mwyn rhoi ychydig o efdir yr ymadawedig by-ddai ysgrifennydd yr eisteddfod yn anfon cryn-odeb o'i hanes. Mewn eisteddfod a gynhaliwyd ymMelin Ifan Ddu yng Nghwm Ogwr, roedd tri gŵrwedi marw yn yr ardal yn ystod y flwyddyn acroedd modd dewis rhyngddynt. Anfonodd Brynfabam fanylion dau ohonynt a chael cymaint o hwylyn sgrifennu teyrngedau iddynt nes iddo ben-derfynu rhoi cynnig ar y trydydd yn ogstal. Wedi'rcyfan, roedd tair gwobr o 5 gini, 3 gini a 2 gini.Yn anffodus, doedd dim amser i anfon am ymanylion angenrheidiol ond fe benderfynodd roicynnig arni beth bynnag.

Ar ddiwrnod yr eisteddfod roedd e uwchben eiddigon wrth glywed y beirniad yn cyhoeddi taw efoedd wedi cipio'r wobr gyntaf a'r ail. Roedd ybeirniad wedi bod mewn tipyn o gyfyng gyngorynglŷn â'r drydedd wobr, ond pan gyhoeddodd fod'Cadwgan' yn deilwng, sylweddolodd Brynfab eifod wedi cipio'r wobr honno hefyd! Fodd bynnag,pan aeth i dderbyn ei wobrau, dyma'r beirniad yncael gair yn ei glust yn ei rybuddio rhag cyhoeddi'rdrydedd gerdd. "Pam na ddylwn i?" gofynnoddBrynfab. "Wel," atebodd y beirniad 'ar ddiwedd ygerdd rych chi'n sôn am yr olygfa ar lan y bedd yndisgrifio'r plant yn llefain ar ôl eu tad." "Do, bethsydd o'i le ar hynny?" holodd y bardd. "Nag o'chchi'n gwybod ei fod yn hen lanc?"

Yn sicr, roedd Thomas Williams yn gymeriad lliw-gar a gyfrannodd yn helaeth i'n diwylliant. Ar ôlymddeol aeth i fyw i'r Hendre Wen yn Sant Athanac yno y bu farw ar 18 Ionawr 1927. Mae ei feddym mynwent Eglwysilian.

AFALAU'N TROI'N SUR -CWMNI'R FRÂNWEN YNADDASU NOFEL SAESNEG

drosodd

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 9

Page 10: Y Gloran Chwefror 2012

10

mae pethau'n mynd, mae yna wastad obaith. Dynaoedd neges y llyfr. Mi wnaeth llawer o bobol eicholli. Dw i'n gobeithio bod hynny'n dod ma's ar yllwyfan hefyd."

Bydd y ddrama sydd wedi'i chyfieithu gan CatrinDafydd yn teithio i rai o brif theatrau Cymru tanddiwedd Mawrth. Mae'r stori gyntaf, 'Fresh Apples'- "which is the grittiest", yn ôl yr awdur - wedisymud o'r Cymoedd i stad gyngor yng Nghaernar-fon. "Mae'n anodd i mi," meddai "achos dw i ddimyn siarad Cymraeg. Dw i'n deall ychydig wrth i miwylio'r ddrama, ond yr unig beth alla'i wneud ywrhoi cyngor ymarferol ar rai pethau nad oedd ynbenodol yn y stori."

O'rAfal Mawr i DonypandyMae nofel ddiweddaraf Rachel Tresize wedi'i lleoliyn Efrog Newydd. Does dim enw swyddogol ar yllyfr sydd yn nwylo ei chyhoeddwyr Harper-Collnsers tro byd. Mae'r awdur yn cyfeirio ati fel, "TheWhore's Hustler", "ond maen nhw'n siŵr o'i newid,"

meddai. Stori yw hi am Iddew Uniongred ynBrooklyn yn syrthio mewn cariad gyda phutain ynei harddegau sydd wedi ffoi o'i chynefin yn y'South". "Maen nhw o gefndiroedd hollol wahanol,"meddai'r awdur. "Stori garu yw hi mewn gwiri-onedd."

Dyma'r tro cyntaf iddi gamu o'i chynefin yn neCymru ar gyfer llyfr a threuliodd dri mis yn Amer-ica yn ymchwilio i'r gwahanol gyfnodau. "dw iddim wedi cael fy nghyhoeddi yn America eto,"meddai "gobeithio y caf i nawr, gyda'r llyfr yma. Mifaswn yn dwlu cael mynd nôl."

Ond yn y Rhondda - a Thonypandy - y mae eidrama newydd sbon ar gyfer National TheatreWales. Drama am berthynas rhwng mam a merchyw Tonypandemonium. a'r gobaith yw ei chyn-hyrchu yn 2013. Mae'n cael blas ar weithio gyda'rCyfarwyddwr Artistig John McGrath. "Mae'n dda.Dw i'n mwynhau, mae'n brofiad gwahanol isgrifennu llyfrau. Mae'n her hefyd."

AFALAU'N TROI'N SUR parhad o dudalen 9

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 10

Page 11: Y Gloran Chwefror 2012

11

ysgo

lion

aphrify

sgoli

on

NEWYDDIONYSGOL GYFUNCYMER RHONDDA

NEWYDDIONYSGOL GYFUNCYMER RHONDDA

CYMERYN CIPIO'R WOBR GYNTAF ETO!Llongyfarchiadau mawr i dîm siarad cyhoeddus Ysgol Gyfun Cymer Rhonddaar ennill y wobr gyntaf yn rownd y Rhondda o gystadleuaeth ' Youth Speaks' yRotari am yr wythfed tro yn olynnol. Mae'r tîm eisoes wedi cipio'r wobr gyntafyn rownd derfynol y gystadleuaeth Gymraeg. Llwyddodd y tîm, sef SarahLouise Jones, Daniel Davies a Lloyd Macey i gyrraedd rownd derfynol y gys-tadleuaeth Brydeinig y llynedd, a dymunwn yn dda iddynt wrth iddyn nhw gys-tadlu yn ail rownd y gystadleuath yr wythnos nesaf.

CENHADON CHWARAEONLlongyfarchiadau mawr i ddau ddisgybl ar gael eu dewis i hyfforddi yn Gen-hadon Arian i Fudiad Chwaraeon yr Ifanc. Mae'r mudiad yn cefnogi pobl ifanci fod yn genhadon ac yn arweinwyr ym maes chwaraeon, a gwn y bydd IsabelleDavies, Blwyddyn 10 a Garyn Daniel Bl 13 yn genhadon gwych - nid yn unigi'r mudiad, ond i'r Cymer hefyd.

Yn y lluniau:Tîm Siarad Cyhoeddusy Cymer - DanielDavies, Sarah LouiseJones a Lloyd Macey

Cenhadon Chwaraeon -Isabelle Davies a GarynDaniel

drosodd:Cantorion y Cymergyda Peter Karrie

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 11

Page 12: Y Gloran Chwefror 2012

12

GWEITHDYCERDDORIAETHGYDAPETER KARRIECafodd griw o gantoriondawnus y Cymer y cyflei fynychu gweithdy gy-da’r canwr enwog PeterKarrie yr wythnos hon.Yn ogystal â chyflegwych i ddysgu o’igrefft, bydd y disgyblionhefyd yn rhannu llwyfangyda Peter mewn cyn-gerdd arbennig yng Ng-haerdydd, lle byddant ynperfformio detholiad oganeuon sioeau cerdd‘Broadway’ a’r ‘WestEnd’. Diolch yn fawr iMrs Williams o’r AdranGerddoriaeth am y cyfleac i Peter am roi o’iamser ac am y cyngorgwerthfawr.

ONLY CONNECT Y GLORAN

Cwis i chi�

Jean Valjean 911 Sierra Nevada Beijing

K2 Fagin Blue Don Quixote

A1 Eryri Athens Mont Blanc

Sydney East 17 Atlanta Y Phantom

Dyma reolauʼr gêm:Rhaid i chi ail-drefnuʼr blociau mewn 4 rhes o 4 lle mae bob untestun yn cysylltiedig mewn rhyw ffordd âʼr 3 testun arall yn yrun rhes ar draws.Bydd angen pensil neu bin a phapur arnoch chi.

CHWE12:Layout 1 12/2/12 11:40 Page 12