13
y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr 20c rhifyn 271 2il gyfrol mai 12 Roedd dydd Iau, 3 Mai yn ddiwrnod o lawen chwedl i'r Blaid Lafur wrth iddi ysgubo ei gwrthwynebwyr o'r neilltu trwy Loegr a Chymru. Cafodd polisiau cwtogi'r Toriaid a'r Democratiaid Rhy- ddfrydol eu gwrthod yn gyffredinol a dioddefodd Plaid Cymru yn sgil hynny yn ôl y disgwyl wrth i'r etholwyr ddefny- ddio eu pleidlais i roi cic i lywodraeth San Stef- fan. Fodd bynnag, yn ardal Y Gloran aeth y bleidlais yn erbyn y llif. Yma enillodd Plaid Cymru 3 sedd oddi ar Lafur, 2 yn Nhon Pentre a'r Pentre a'r llall yn Nhreherbert. Bellach bydd tair merch newydd yn ein cynrychioli, sef Maureen Weaver a'r LLWYDDIANT I FUSNESAU TREORCI Mewn Cinio a Chyfarfod Gwobrwyo Arbenniga drefnwyd gan Glwb Busnes Rhondda Cynon Taf yng ngwesty Maenor Meisgyn, nos Wener, 27 Ebrill, profodd dau o fus- nesau stryd fawr Treorci lwyddiant mawr. Cipi- wyd y wobr am Fusnes Amgylcheddol y Flwyd- dyn gan Undeb Credyd Dragonsavers, Stryd Bute. Christina Stone- man, Cymraes Gymraeg sy'n hanu o Sir Benfro ond bellach wedi ym- gartrefu yng Nghwmparc, yw Rheolwraig Gyffredi- nol yr Undeb yn yr ardal. Yn ogystal, cipiwyd gwobr Manwerthwr An- nibynnol y Flwyddyn gan Louise Evans, perchennog Sparkili- cious, busnes sydd wedi ymsefydlu yn y Stryd Fawr. Yn y llun, gwelir Louise yn derbyn ei gwobr ac wrth ei hochr mae Ashley Crowther, un o ohebwyr chwaraeon BBC Cymru, oedd yn cyflwyno'r noson. Y siaradwr gwadd oedd Colin Jackson, y cyn-ath- letwr enwog. Llongy- farchiadau calonnog i'r ddau gwmni o Dreorci ar eu llwyddiant. Y llynedd Wonderstuff, eto o stryd fawr Treorci, a gipiodd un o'r prif wobrau. Ar adeg pan yw'n anodd ar fusnesau'n gyffredinol, da yw gweld bod stryd fawr Treorci'n dal i ffynnu. Hir y parhaed! Yn y llun: Shelley-Ann Rees Owen, Leanne Wood (Arweinydd Plaid Cymru), Maureen Weaver, Irene Pearce, Emyr Webster ac yn eistedd y Cyngynghorydd Ted Hancock YR ETHOLIADAU LLEOL Louise yn derbyn ei gwobr Parhad ar dudalen 3 12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 1

Y Gloran Mai 2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

papur bro blaenau rhondda fawr papur misol

Citation preview

Page 1: Y Gloran   Mai 2012

y gloranpapur bro blaenau’r rhondda fawr

20crhifyn 271 2il gyfrol

mai 12

Roedd dydd Iau, 3 Maiyn ddiwrnod o lawenchwedl i'r Blaid Lafurwrth iddi ysgubo eigwrthwynebwyr o'rneilltu trwy Loegr aChymru. Cafoddpolisiau cwtogi'r Toriaida'r Democratiaid Rhy-ddfrydol eu gwrthod yngyffredinol a dioddefoddPlaid Cymru yn sgil

hynny yn ôl y disgwylwrth i'r etholwyr ddefny-ddio eu pleidlais i roi cici lywodraeth San Stef-fan. Fodd bynnag, ynardal Y Gloran aeth y

bleidlais yn erbyn y llif.Yma enillodd PlaidCymru 3 sedd oddi arLafur, 2 yn Nhon Pentrea'r Pentre a'r llall ynNhreherbert. Bellachbydd tair merch newyddyn ein cynrychioli, sefMaureen Weaver a'r

LLWYDDIANT IFUSNESAUTREORCIMewn Cinio a ChyfarfodGwobrwyo Arbennigadrefnwyd gan GlwbBusnes Rhondda CynonTaf yng ngwesty MaenorMeisgyn, nos Wener, 27Ebrill, profodd dau o fus-nesau stryd fawr Treorcilwyddiant mawr. Cipi-wyd y wobr am FusnesAmgylcheddol y Flwyd-dyn gan Undeb CredydDragonsavers, StrydBute. Christina Stone-man, Cymraes Gymraegsy'n hanu o Sir Benfroond bellach wedi ym-gartrefu yng Nghwmparc,yw Rheolwraig Gyffredi-nol yr Undeb yn yr ardal.Yn ogystal, cipiwydgwobr Manwerthwr An-nibynnol y Flwyddyn ganLouise Evans,perchennog Sparkili-cious, busnes sydd wediymsefydlu yn y StrydFawr. Yn y llun, gwelirLouise yn derbyn eigwobr ac wrth ei hochrmae Ashley Crowther, uno ohebwyr chwaraeonBBC Cymru, oedd yncyflwyno'r noson. Ysiaradwr gwadd oeddColin Jackson, y cyn-ath-letwr enwog. Llongy-farchiadau calonnog i'rddau gwmni o Dreorci areu llwyddiant. Y llyneddWonderstuff, eto o strydfawr Treorci, a gipioddun o'r prif wobrau. Aradeg pan yw'n anodd arfusnesau'n gyffredinol, dayw gweld bod stryd fawrTreorci'n dal i ffynnu. Hiry parhaed!

Yn y llun: Shelley-Ann ReesOwen, Leanne Wood(Arweinydd Plaid Cymru),Maureen Weaver, IrenePearce, Emyr Webster acyn eistedd y CyngynghoryddTed Hancock

YR ETHOLIADAU LLEOL

Louise yn derbyn ei gwobr

Parhad ar dudalen 3

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 1

Page 2: Y Gloran   Mai 2012

Ddydd Sadwrn, 26 Maibydd y Fflam Olympa-idd yn cyrraedd CwmRhondda ac yn cael eichludo trwy ardal YGloran. Bydd yncyrraedd Stryd Aberton-llwyd, Treherbert am1.04 p.m. ac yn cael eichludo i lawr trwy StrydBute, Stryd Baglan nescyrraedd Stryd Bute,Treorci gan DanielleRussell (Merthyr),Bronte Bowen (Trehar-ris) a Gwyn Lein(Caerdydd). MarkThomas, 47 oed o Dony-pandy sy'n cael yr an-

rhydedd o'i chariotrwy Ynyswen cyn eithrosglwyddo i AdyLewis (Y Coed-duon), Kathryn Obria(Caerdydd) a MichaelShears (Porthcawl) afydd yn gyfrifol am-dani trwy Treorci arhyd Stryd Bute, YStryd Fawr a Heol yr

Orsaf cyn iddi groesi'rBwlch i Gwm Ogwr.Mae hi'n siomedig nadyw pobl leol yn cael yfraint o dywys y ffam tr-wy'r ardal ond deellir ybydd Jeffrey Cowland oDonypandy yn ei chludotrwy Fryncethin yn ddi-weddarach ar y daith.Sefydlodd Jeffrey grŵpyn ei ganolfan ddydd llemae 22 oedolyn yn tyfumiloedd o blanhigion acyn creu basgedi crogllawn blodau i'w hon-gian ar byst lamp ar hydy cwm Yn ogystal âgwneud hyn, mae Jef-

frey'n gofalu am ei rienioedrannus. Pobl eraillo'r Rhondda a fydd yncludo'r fflam yw AlunDavies, 80 oed (trwyNantymoel), RhysJones, 17 oed o Dony-pandy (trwy Lansawel /Britton Ferry) a TaraLewis o Ferndale (trwyFargam).Mae'n siwr y byddllawer yn mwynhauhwyl yr achlysur ondroedd hi'n drist nodi tawprin iawn yw'r cyfleoeddi fasnachwyr lleol fan-teisio ar yr achlysur.Cyn i'r fflam ddechrauar ei thaith, rhybuddi-wyd pawb nad oedd

ganddynt hawl i ddefny-ddio emblem y pumcylch Olympaidd ar un-rhyw gynnyrch na hydyn oed rhif y flwyddyn2012! Roedd hawlfrainty rhain gan bwyllgor yGemau a rhoddwyd yrhawl i hysbysebu ond i'rprif noddwyr. O ganly-niad, bydd holl sbloethysbysebu cwmniau by-deang fel MacDonald aCoca-Cola ynrhagflaenu'r fflam ei huntrwy ein pentrefi ganwthio mentrau lleol i'rymylon.Yn y cyfnod cyn ygemau, collodd nifer oelusennau lleol nawddgan y Loteri Fawr achafodd cwmniau oGymru fawr o lwyddiantwrth gynnig am rai o'rcytundebau mawr oeddar gael. Er y bydd rhaio'r campau ymylol yncael eu cynnal yngNghaerdydd, ychydig oelw a ddaw i Gymru yny pen draw. Mae eironiyn y ffaith taw de-ddwyrain Lloegr, rhan-barth mwyaf llewyrchusyr ynysoedd hyn, fyddyn elwa o'r Gemau ardraul rhai o'r ardaloeddtlotaf. Yn ddiau, caiff yfflam groeso ar ei thaithond i lawer ohonombydd yn sumbol o gyfleeuraidd a gollwyd ihybu ein heconomi leol.Golygydd

2

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISONgyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

golygyddol

E-bost: [email protected]

y gloranygloran

mai 2012YN Y RHIFYN HWNEtholiadau lleol/

Llwyddiant i fusnesauTreorci -1

Golygyddol-2CIG yn 50 -3Y Rhondda

yn Noddfa -4

NEWYDDIONTREHERBERT

TREORCICWMPARCY PENTRE

TON PENTRE/Y GELLI/YSTRAD

Cwis/Côr y Garth- 5-6-7-8-9

Ysgolion/Prifysgolion-10-11-12

Na, ti syʼn rhedeg dros y Bwlch!!!

Όχι, μπορείτε ναεκτελέσετε το χάσμα!!!

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 2

Page 3: Y Gloran   Mai 2012

3

Annwyl ddarllenwyr,Mae’n siŵr y byddnifer ohonoch ynymwybodol o’r ffaithbod Cymdeithas yrIaith Gymraeg yndathlu ei hanner canml-wyddiant eleni. Byddrhai ohonoch hefydwedi clywed am ŵylgerddorol arbennig,‘50’, sy’n cael ei chyn-nal fel rhan o’r dathli-adau hannercanmlwyddiant, ahynny yn y Pafiliwn ymMhontrhydfendigaid ar13-14 Gorffennaf (mwyo wybodaeth ar y wefanhannercant.com).Bydd 50 o grwpiau acartistiaid unigol cerd-dorol yn cymryd rhanyn y gig arbennig yma,a bydd nifer o weith-gareddau ymylol hefydyn cyfrannu at yr hynsy’n siŵr o fod yn ddig-wyddiad cofiadwy.Un o’r gweithgareddauymylol hynny fydd ard-dangosfa arbennig yndathlu perthynas agos yGymdeithas â’r singerddoriaeth Gymraeg,ac rydym yn lansio apêlam eitemau a allai fodyn ddefnyddiol wrthbaratoi'r arddangosfahon.Bydd yr arddangosfa’nrhoi sylw i weithgareddcerddorol y Gymdeithasdros y pum degawd di-wethaf ac rydym yn

chwilio am bob math oeitemau, boed ynbosteri gigs, lluniau oddigwyddiadau, crysauT, ffansins neu unrhywmemorabilia arall.Rydym hefyd yn awyd-dus iawn i glywed at-gofion arbennig pobl ogigs a digwyddiadauadloniadol y Gymdei-thas dros y blynyd-doedd. Oes ynaddigwyddiadau yn arosyn y cof? Fu i chigwrdd ag unrhyw un ar-bennig yn un o’r gigs?Pa fandiau ddaethochchi ar eu traws gyntaffyn un o gigs yGymdeithas?Os oes gennych unrhyweitemau fyddai’nddefnyddiol i ni greu’rarddangosfa arbennigyma, neu atgofion yrhoffech anfon i ni ynagallwch wneud hynnytrwy e-bostio [email protected] nad oes modd anfoneitem yn electronig ynagallwch ffonioswyddfa’r Gymdeithasar 01970 624 501 iwneud trefniadau eraill.Rydym yn ddiolchgariawn am unrhyw gyfra-niad i’r arddangosfa agobeithio y bydd moddi chi ymuno â ni ymmis Gorffennaf iddathlu gorffennol, pre-sennol a dyfodolperthynas Cymdeithasyr Iaith â’r sin gerddori-aeth Gymraeg.Yn gywir iawn,Toni Schiavone

LlythyrCIG yn 50

Etholiadau lleol parhadactores Shelley Rees-Owen yn y Ton ac Irene Pearceyn Nhreherbert. Cadwodd Geraint Davies ei sedd ynNhreherbert ac ymunodd aelod newydd, Emyr Web-ster, â Sera Evans-Fear a Cennard Davies yn Nhre-orci. Roedd Emyr yn cymryd lle Edward Hancockoedd yn ymddeol ar ôl dal y sedd dros Blaid Cymruer 1999. Cadwodd John Watts a Paul Cannon sed-dau'r Blaid Lafur yn Ystrad Rhondda.Dyma'r canlyniadau'n llawn:Y PentreElaine Barnett [Llafur] 741; Kris Evans [Llafur]724; Leigh Martin Evas [Y Blaid Werdd] 87; LindaEvas [Y Blaid Werdd] 82; Shelley Rees-Owen[Plaid] 867; Maureen Weaver [Plaid] 789.TreherbertLuke Bouchard [Llafur] 835; Geraint Rhys Davies[Plaid] 1081]; Irene Elizabeth Pearce [Plaid] 978;Paul Russell [Llafur] 726.TreorciCennard Davies [Plaid] 1252; Dr Hardev SinghSingh [Llafur] 1081; Sêra Evans-Fear [Plaid]1247;Ron Jones [Llafur] 1096; Graham Thomas [Llafur]1099; Emyr John Webster [Plaid] 1140.Ystrad RhonddaPaul Cannon [Llafur] 979; Angharad Bethan Jones[Rhyddfrydwr] 121; Larraine Jones [Plaid] 591; Es-ther Ruth Nagle [Plaid] 536; Malcolm John Watts[Llafur] 804

A dyma’r tair merch newydd..

Shelley aMaureen ynY Pentreac Irene ynNhreherbert

Llongyfarch-iadau iʼncynghorwyri gyd !!!

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 3

Page 4: Y Gloran   Mai 2012

4

Yn ddiweddar ynAbertawe lansiwydcyfrol sy’n adrodd hanesysgytwol un teulu yngnghyfnod twf Natsïaethyn nhridegau’r ganrifddiwethaf a chyfnod yrAil Ryfel Byd. Mae YrErlid yn berthnasol i’rRhondda gan i un o’rteulu sef Kate Bosse-

Griffiths symud i’rRhondda a dod yn llenorCymraeg. HeiniGruffudd, ei mab, ywawdur y gyfrol.

Llwyddodd Kate-Bosse-Griffiths i ffoi o’rAlmaen i wledydd Pry-dain yn 1937. Caru, pri-odi, cychwyn llenyddayng Nghymru a sefydlu

Cylch Cadwganyn y Rhondda oedd eihanes pan droes y Nat-sïaid fywyd pobl yr Al-maen ac Ewrop ynuffern. Ymgartrefodd ynSt Stephen's Avenue, YPentre gyda'i gŵr Gwynoedd yn aelod o staffYsgol Ramadeg yBechgyn yn y Porth.ErlidigaethDraw yn yr Almaencafodd ei theulu ei erlidyn annhrugarog.Ceisiodd rhai fod ynrhan o’r system, roedderaill yn ymdrechu i fywer gwaetha’r system, aceraill yn ei gwrthwyneb-u’n hunanaberthol.

Ni fyddai’r storiyn bosib ei hadrodd onibai am y mil a mwy oddalennau a gadwyd ymmeddiant y teulu, ynllythyrau a dyddiaduron,yn ysgrifau a dogfennau.Soniant am ymosodi-adau Kristallnacht,bywyd o dan y drefnwallgof, manylion gwer-sylloedd carchar, ffoi iShanghai, hunanladdiad,carcharu a lladd. Maeyma hanes o garu a

chasáu, gwarchod acerlid, dyheu a dychrynyn y cyfnod mwyaf din-istriol a welodd Ewrop.Ceir hanes llofruddiaethmam Kate Bosse-Grif-fiths, hunanladdiad eimodryb ac erlid y teulu ibob cwr o’r byd.

Ar ôl ffoi i Bry-dain i fyw, priododdKate a symud i Gymrugan fyw yn y Rhondda,y Bala ac Abertawe.Daeth yn adnabyddusam ei nofelau a’i storïau,yn ogystal ag am ei did-dordeb mewn archaeo-leg ac Eifftoleg, amagodd ddau o blant ynGymry pybyr. Trafod-wyd peth o’r hanes yn yrhaglen ddogfen, Y Trêni Ravensbruck a enilloddddwy o wobrau BAFTACymru.

Mae HeiniGruffudd yn awdurtoreth o lyfrau, yn ym-gyrchydd dros addysgGymraeg ac yn awdur-dod ar gymdeithasegiaith. Ei frawd yw RobatGruffudd, sefydlyddGwasg Y Lolfa.

Y Rhondda'n Noddfarhag y Natsiaid

Heini Gruffudd gyda chopi oʼi gyfrol newyddYr Erlid

Kate Bosse Griffiths a Gwyn Griffiths

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 4

Page 5: Y Gloran   Mai 2012

5

TREHERBERTDaeth nifer fawr o west-eion ynghyd i GlwbCymdeithasol Blaen-rhondda i ddathlu priodasRichard Jenkins a CariMellor. Priododd y pâr fisyn ôl yn Jamaca ondroedden nhw’n awyddus igael parti gyda’uffrindiau a’r teulu nadoedd yn bresennol yn yseremoni. Mae Richard aCari eisioes wedi ymga-trefu yn Ross Rise Trehe-bert. Pob lwc i’r ddau i'rdyfodol.Cynhaliwyd gwasanaethsefydlu'r Capten RalphUpton yn weinidog arEglwys Blaenycwm Tre-hebert. ar 28 Ebrill 2012.Daeth nifer sylweddol i’rcyfarfod a oedd yn llawngobaith a hyder am y dy-fodol. Roedd ygwasanaeth dan ofal yParchedig Dafydd HenriEdwards, Ainon, Ynyshir,Arolygydd CymanfaDwyrain Morgannwg. Ypregethwr gwadd oedd yParchedig JulianRichards o eglwys wreid-dol.CornastoneAbertawe. Un o uchafb-wyntiau'r cyfarfod oeddcyfarchion gan yParchedig Denis Young,cyn weinidog yr eglwys.Cafodd Mr Young ei or-deinio yn y capel ym1954 ac roedd e a’i wraigwedi teithio yr holl ffordd

o Llanfair PG, Ynys Moni fod yn bresennol, Daethy noson i ben gydachymdeithasu dros banedo de a lluniaeth ysgafn ynystafell newydd y capel.Dymunwn wellhad aphob cysur i’r ParchedigD J Long o Taff St sygartref o Ysbyty Tre-forus. Mae Mr Longwedi bod yn weithgar ynyr ardal am ddegawdauac mae pawb yn dymunogwellhad buan iddo.Llongyfarchiadau i IrenePearce a gafodd ei hetholyn gynghorydd dros wardTreherbert..Mae Irenesy'n wreiddiol o’r Alban,wedi byw yn Nhreherbertam dros 40 mlynedd aceisioes wedi ei mab-wsiadu fel Cymraes!Bydd y Cyngorwr Pearceyn ymuno ar CynghorwrGeraint Davies i gynry-chiolu’r ardal ar GyngorRhCT. Pob lwc iddynt.

Ar ol cystudd hir bu farwDoreen Lee o StrydMiskin yn Ysbyty GeorgeThomas y mis diwethaf.Roedd Mrs Lee ynaddnabyddus felcofrestrydd genedi-gaethau a marwolaethaucyn eiymddeoliad. Feldarlunydd talentog roeddei lluniau wastad ynboblogaidd yn Sioe CelfBlynyddol Ystradafodwg.Cydymdeimlwn a’r teulu

yn ei colled.Mae'n flin cofnodi mar-wolaeth Ron Jones oDumfries St ar ôl cys-tudd hir. Roedd MrJones yn gweithio ar yreilffyrdd cyn ei ymdde-holiad. Roedd yn ddrwggan bawb glywed hefydam farwolaeth sydynPhillip Webber ( Chaz) oHendreselsig Treherbert.Cydymdeinlwn â’rteuleoedd hyn oll yn euprofedigaeth

TREORCICafodd pawb a ddaeth ifwynhau noson o 'Poems& Pints' yng NghlwbRygbi Treorci fodd i fywyn gwrando ar gyfrani-adau nifer o dalentau'rardal. Ymhlith y rhai agymerodd ran oedd Kath-leen Evans, ChristineTucket, Sêra Evans-Fear,Kelly Rees, CarolineBowen, Pat Wright,Wayne Thomas a'r DrTony lloyd. Arweiniwydy noson gan Mr SelwynJones ac aeth yr holl elwat Glybiau bechgyn aMerched yr ardal.Roedd yn ddrwg ganbawb glywed bod MrsEirlys Davies, StrydLuton wedi dioddefcwymp yn ei chartref acar hyn o bryd yn YsbytyBrenhinl Morgannwg.

Mae pawb yn dymunoiddi adferiad llwyr abuan.Mae'n dda gan bawb gly-wed bod Mrs MarionJones, Stryd Dumfriesallan o'r ysbyty ac yngwella ar ôl derbyn llaw-driniaeth. Pob dymuniadda, Marion, am adferiadllwyr a buan.Mae aelodau Hermon a'ichymdogion yn StrydDumfries yn dymuno pobcysur ia bendith i MrsMay Thomas, StrydDumfries sydd yn YsbytyBrenhinol Morgannwg arôl cwympo yn ei chartrefyn ddiweddar.Roedd yn ddrwg gan

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’RMIS OS GWELWCH YN DDA

newyddion lleol EICHGOHEBWYRLLEOL :Rhowch wybodiddyn nhwos byddwch chieisiau rhoirhywbeth ynY GLORAN

Treherbert:GERAINT aMERRILL DAVIES

Cwmparc:D.G.LLOYD

TreorciMARY PRICE

Y Pentre:TESNI POWELLANNE BROOKE

Ton Pentre a'rGelli:HILARYCLAYTONGRAHAM JOHN

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 5

Page 6: Y Gloran   Mai 2012

bawb dderbyn y newyddion amfarwolaeth Vivienne Morris,merch y diweddar Ddr. IslwynMorris a Mrs Morris, Heol Glyn-coli, yn San Francisco lle y bu'nbyw ers nifer o flynyddoedd. Cy-dymdeilwn â'r teulu yn eu colled.Cafodd aelodau cangen Treorci o'rWI sgwrs ddiddorol iawn yn eucyfarfod misol yn Ebrill gan MrSteven Jones, un o swyddogionAmbiwlans Awyr Cymru. Mae'rgwasanaeth gwerthfawr hwn yndibynnu yn llwyr ar gyfraniadaugan Gymry i'w gynnal.

Pob dymuniad da i Mr Barry Grin-stead, Stryd Clark sydd adre erbynhyn ar ôl derbyn triniaeth yn Ys-byty Brenhinol Morgannwg.Roedd yn ddrwg gan bawb dder-byn y newyddion am farwolaethMrs Gwennie Evans, Stryd Re-gent, gweddw'r diweddar JohnStanley Evans. Roedd Gwennie'ngymdoges gymwynasgar ac yn

boblogaidd gan bawb. Cy-dymdeimlwn â'i hunig ferch, Jan-ice a'i gŵr Tony a fu'n fawr eugofal drosti a hefyd ei hwyrion,Daniel a Tomos.Bydd Sefydliad y Merched yncynnal cyngerdd yn Neuadd yDderwen ar 23 Mai am 7 pm iddathu Jiwbili'r Frenhines. Croesoi bawb.Llongyfarchiadau i Anna Brown,Stryd Regent ar ennill y wobr gy-ntaf yn y gystadleuaeth flynyddola gynhelir gan Sefydliad yMerched, Ton Pentre er cof amGwyneth Jarman. Y gamp elenioedd cyfansoddi cerdd am GwmRhondda.Llongyfarchiadau i dîm cyntafClwb Rygbi Treorci ar gwblhautymor llwyddiannus yn Adran 1Undeb Rygbi Cymru. Gan fod ybechgyn yn gwbl amatur ac ynifanc iawn, doedd dim disgwyl id-dynt wneud cystal. Gyda phrofiadeleni'n gefn iddynt, edrychwn ym-

laen at ragor o lwyddiant y tymornesaf.Cynhaliwyd noson yn y ClwbRygbi i godi arian i helpu eu cyn-chwaraewr, Paul Knight sy'n gaethi gadair olwynion. Roedd nifer ochwaraewyr rhyngwladol yn bre-sennol, gan gynnwys JPRWilliams a J J Williams.

Cynhaliwyd noson yng NghlwbRygbi Treorci, nos Fawrth, 8 Mai iddathlu llwyddiant ei hymgeiswyryn yr etholiadau diweddar a hefydi dalu teyrnged i Edward Hancockoedd wedi cynrychioli'r ardal yngydwybodol ar Gyngor RhonddaCynon Taf er 1999. Cyflwynwydanrheg fach i Edward i nodi'rachlysur ac fe'i gwnaed yn Lly-wydd Anrhydeddus y gangen. Tal-wyd teyrnged iddo gan nifer o'raelodau a chadeiriwyd y cyfarfodgan Huw Davies, Ynyswen.

6

CARPETS ʻNʼ CARPETS117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349

Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni adewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton,Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewchgroeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich

siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.� Mesur cynllunio a phrisio am ddim� Storio a chludiant am ddim� Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer� Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa� Credydd parod at £1,000� Gosodir eich carpet gan arbenigwy� Gwarantir ansawdd� Ol-wasanaeth am ddim� Cyngor a chymorth ar gael bob amser� Dewiswch eich carped yn eich cartref� Gellir prynu a gosod yr un diwrnod� Gosod unrhyw bryd� Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol� Carpedi llydan at 10ʼ5”� Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad� Y dewis mwyaf yn yr ardal� Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop

50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYNo GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR

MILOEDD o BATRYMAU aCHYNLLUNIAU yn ein

HARDDANGOSFADDEULAWR

Dewch yma-Cewch werth eich arian

Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop osam fargen arbennig

CARPETS ʻNʼ CARPETSAr agor 6 diwrnod 8.30-5.30

Hefyd amser cinio ddydd Sul

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 6

Page 7: Y Gloran   Mai 2012

7

cwiscwiscwis

????????????

y gloranCwestiynau am Gymru sydd ganein cwisfeistr sefydlog,Graham Davies Johnar ein cyfer y mis hwm.Yr her a osodir gan ein cwis-feistr sefydlog y mis hwn ywadnabod gwŷr a gwrageddenwog Cymru. Pam na rowchchi gynnig arni?

1. Ble mae Shirley Bassey ynbyw ar hyn o bryd?

2. Pwy yw gohebydd tramor yBBC yr oedd ei dad yn ohebyddar Radio Wales?

3. Pwy sy'n cael ei alw'n 'Ty-wysog Chwerthin Cymru'?

4. Beth yw enw iawn yr Ar-glwydd Crickhowell?

5. Ble ganed Gwynfor Evans?

6. Pwy enilloddd Pencamp-wriaeth Embassy'r Byd yn 1979?

7. Pwy oedd Sandra yngnghyfres lwyddiannus y BBC'The Liver Birds'?

8. Dros ba etholaeth y bu NeilKinnock yn Aelod Seneddol?

9. Pa gantores sy'n byw mewn tŷhelaeth sydd â golygfeydd eangar draws Bae Abertawe?

10. Pwy enillodd cystadleuaethgolff Meistri America yn 1991?

11. Enwch YsgrifennyddGwladol cyntaf Cymru.

12. Pwy yw'r gohebydd tramoryn y BBC a faged ym Mancein-ion [Manchester] ac sy'n siaradCymraeg?

Atebion:1.MonteCarlo2.JeremyBowen3.WynCalvin4.NicholasEdwards5.YBarri6.TerryGriffiths7.NerysHughes8.Islwyn9.BonnyTyler10.IanWoosnam11.JamesGrif-fiths12.WyreDavies

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 7

Page 8: Y Gloran   Mai 2012

CWMPARCTrist yw cofnodi marwSue Moses, un oathrawesau Ysgol Gyn-radd Cwmparc am brony cwbl o’i gyrfa. Yroedd yn boblogaiddiawn gyda’r plant aphawb a daeth i gysyll-tiad a’r ysgol ac yn frwdiawn gyda chwaraeon.Mae bwlch mawr iawno’i cholli a chydymdeilirâ’i theulu yn eu colled.Yr oedd y gwasanaethangladd yn eglwys StSiôr a oedd yn llawn i’rymylon.

Cydymdeimlir hefyd âSybil Bevan a’i theulu ,Heol y Parc ym mar-wolaeth ei gŵr Steve.

Hefyd ond ychydigwythnosau ar ôl marw eiwraig Enid Nutt (Mill-ward gynt) bu farw EricNutt a chydymdeimlirâ’r teulu yn eu colledtrist.

Bu farw Bernice LeonieEverett priod RonEverett, Heol y Parc. Yroedd yn gogyddes yngnghartref Ystradfechancyn ymddeol. Yr oedd yrangladd yn y Barri o leyr oedd yn wreiddiol.

Ar Mercher 6ed o Fe-hefin bydd bore Goffi ynNeuadd GymunedCwmparc i ddathlu Ju-bili Diamwnt y Fren-hines rhwng 10 a 12 o’rgloch ac hefyd Gweith-gareddau Crefft o 10 i12 yn y Neuadd.

Cynhelir Job Clwb bobLlun a Iau o 11 i 5 o’rgloch. Croeso i bawb i

ymuno. Ffoniwch776920 am wybodaetham y cynllun.

Y PENTRECroeso yn ôl i'n gohe-bydd Dr Anne Brooke,sydd wedi bod gartregyda'i theulu yn Nor-folk, Virginia am bethamser yn dilyndamwain a gafodd ymayn y Pentre. Mawr ywein diolch i Tesni Pow-ell am gymryd ei lle moreffeithiol. Bydd Tesniyn gallu mwynhau hoeam ddau fis o leiaf cynailafael yn yr awenau.Gol.

Fe lenwyd bwlch mawryn ein cymuned ddyddCalan mai pan agorwydein siop bapuraunewydd 'Morgan'sNews' ar Stryd llywelyn,gyferbyn ag Eglwys SanPedr. Merch o'r Pentrefyw perchennog y siop,Nicola Morgan a enil-lodd radd BSc ym Mhri-fysgol Morgannwg yllynedd ond penderfynuwedyn agor ei busnes eihun gan nad oeddswyddi ar gael yn eimaes. Bydd y siop, sy'ngwerthu losin a chardiauyn ogystal â phapurau aragor rhwng 5.30 am -5.30 pm yn ystod yrwythnos, rhwng 7am -2pm ddydd Sadwrn a7am - 12 p ddydd Sul.

Bydd y siop hefyd yndosbarthu papurau igartrefi'r ardal rhwng 7 -8am. Croeso mawr i chi,Nicola a phb llwyddiantichi yn eich menter

newydd.

Mae sesiynau Clwb Cr-efftau Lemon Blues a ar-ianwyd yn rhannol gan yCo-op eleni, newyddddod i ben. Prosiect olafy grŵp oedd cynhyrchupedwar llyfr mawr awnaethpwyd o ffabrig obob lliw a llun ar gyferplant Ysgol Arbennig yRhondda. Adnodd dysgucyffrous a gogoneddus.

Bydd rhaglen hafLemon Blues yn cyn-nwys cyfres o weithdaimisol rhwng mis Mai amis Awst. Sesiwn dwyawr 'Tirluniau mewnEdau' yw'r cyntaf a fyddyn costio £6. Rhaidsicrhau lle ymlaen llaw.Gallwch wneud hynnytrwy ffonio MelissaWarren [0443] 422266 /438939 neu trwy alw yny siop. Y fantais owneud yr olaf yw caelcyfle i weld y ddaudirlun rhyfeddol sy'ncael eu harddangos yn yffenest!

Llongyfarchiadau iShirley Jones, Heol yrYstrad, a ddathlodd eiphen-blwydd yn 60 oedar 15 Mai. Bydd dathla-iadau'r teulu cyfan yndilyn wythnos hamdde-nol gyda'i chwaer,Wendy, yn haul (gobei-thio!) Ynys Cyprus -ffordd hyfryd oddechrau ar ddegawdnewydd!

Mae Mrs Margaret Mor-ris, un o breswylwyr TŷSiloh, newydd roi maincbren yn yr ardd yno ercof am ei gŵr, Gwyn a

hanai o Stanleytown a'umab, John, a fu farw illdau yn ystod y flwyddynddiwethaf. Roedd hi a'rpreswylwyr eraill ynfalch o groesawu'rMajor Wrstgate, Byddinyr Iachawdwriaeth, i'wharwain mewn seremonia weddai i'r achlysur.

Yn anffodus, ar hyn obryd mae pedair obreswylwyr Tŷ Siloh ynYsbyty Brenhinol Mor-gannwg, sef Lily Shep-pard, Phoebe Roberts,Margaret Mumford aJoan Rossiter. Pob dy-muniad da am wellhadllwyr a buan a gobeithioy byddwch chi nôl ynholliach yn y Llys cynbo hir.

Mae pawb yn Llys Silohyn edrych ymlaen yn ei-ddgar at barti a gynhelir1 Mehefin i nodi Jiwbil-i'r Frenhines ac yn mawrobeithio y bydd pawbsydd yn yr ysbyty ar hyno bryd yn ôl i gyfranogio'r dathlu.

Gwahoddir plant 3 - 11oed i ymuno â ChlwbPlant y Trailblazers sy'ncwrdd bob nos Wenerrhwng 6 - 7 o'r glochyng nghapel Pente-costaidd Oasis. Yn ôl ysôn, mae'r aelodau ynmwynhau amrywiaeth oweithgareddau sydd argael iddynt yno.Pen-blwydd Hapus iddau o Dŷ'r Pentre sy'nddigon ffodus i fod yndathlu eu pen-blwydd ymis hwm, sef DorothyWilliams a Griffith Grif-fiths.

8

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 8

Page 9: Y Gloran   Mai 2012

TON PENTREMae'n dda gweld bod eingohebydd lleol GrahamDavies John yn well arôl iddo gael ei daro'nwael tra ar ei wyliau yngnghanolbarth Lloegr. Buam ychydig yn yr ysbytyyng Nghaerlŷr ondmae'n dda ei gael yn ôlyn Nhŷ Ddewi erbynhyn. Bellach, mae e'nrhoi'r gorau i'w swyddyn Ysgrifennydd Eglwysy Plwyf ar ôl cyflawni eiddyletswyddau ynoyn gy-dwybodol am flynyd-doedd lawer. Diolchwniddo am ei ymroddiad a'ilafur a dymuno'n ddaiddo i'r dyfodol. Gol.

Llongyfarchiadau i FandPres Cory ar ennill ywobr gyntaf unwaith ynrhagor eleni ym mhen-campwriaeth y bandiaupres.Dymunwn wellhad buan iMr Steve Canale, MaindyGrove ar ôl iddo dreuliocyfnod yn yr ysbyty ynddiweddar.

Roedd yn flin gan bawbdderbyn y newyddion amfarwolaeth Mrs BrendaFitzpatrick, Heol Avon-dale. Cydymdeimlwn yngywir iawn â'i theulu yneu profedigaeth.

Roedd pawb a fu'nddigon ffodus i weldcynhyrchiad diweddarafGrŵp Thaetr IeuenctidAct 1 o 'Joseph and theAmazing TechnicolorDreamcoat' yn uchel eucanmoliaeth. Roedd hi'namlwg bod y gerddori-aeth, yr actio, y gwis-goedd a'r llwyfannu wrtheu bodd. Roedd JamesOwen, Ynyswen, cyn-ddisgybl yn Ysgol GyfunCymer Rhondda ynhaeddu clod arbennig am

ei bortread o Joseph, ybrif ran a chreodd y lle-farydd, Lucy Elson, acArwel Harris oedd ynchwarae Jacob a Potipharargraff arbennig ar bawb.Cyfarwyddwyd y sioegan Rhys Williams a'rCyfarwyddwr Cerddoedd Peter Radmore.Mae pawb yn awr ynedrych ymlaen at y cyn-hyrchiad nesaf ym misAwst, sef 'Evita' gan TimRice ac Andrew LloydWebber.Cafodd CymdeithasCameo golled fawr ynddiweddar ym mar-wolaeth Mrs BettyHayter a fu'n drysoryddi'r gymdeithas am ydeuddeng mlynedd di-wethaf. Talwyd teyrngedarbennig iddi yng nghy-farfod mis Mawrth apharchwyd ei choffad-wriaeth ag ysbaid odawelwch. Daeth nifer offrindiau a pherthnasauynghyd i'w gwasanaethangladdol a gynhaliwydyn Hebron.

Mae'n ddrwg gennymhefyd gofnodi mar-wolaeth dau o drigolionhynaf Tŷ Ddewi, MrsGlenys a Mrs IreneWoods. Er bod Glenys ynhanu o'r Gelli, bu hi a'igŵr, ðave, yn byw amflynyddoedd yn Luton.Cydymdeimlwn yn gywiriawn â'r teuluoedd hyn yneu profedigaeth.

Y siaradwr yng nghyfar-fod olaf y tymor o Fraw-doliaeth Eglwys SantIoan oedd y cyn-ddy-farnwr pêl-droed oDreorci, Clive Thomassy'n adnabyddus fel dy-farnwr lliwgar a dadleuol.Bu'n dyfarnu ym mhrifgynghrair Lloegr ac yngyfrifol yn ogystal am

ddyfarnu RowndDerfynol Cwpan Lloegrynghyd â Chwpan Ewropa Chwpan y Byd. Panofynnwyd iddo pwy oeddy peldroediwr gorau ydaeth e ar ei draws ynystod ei yrfa, atebodd ynddibetrus, George Best!

Mae aelodau EglwysSant Ioan i gyd am anfoneu dymuniadau gorau atun o'r ffyddloniaid, sefMrs Doris Edwards syddar hyn o bryd yn dod drosgwymp yn ei chartref ynYsbyty Dewi Sant. Brysi-wch i wella!

9

Côr Merched y GarthWedi’n agos i 35 mlynedd o ganu, cystadlu achymdeithasu mae Côr Merched y Garth yn dod iben. Bu’n gyfnod eithriadol o lewyrchus achyfrannodd y Côr yn fawr at fywyd diwylliannoly de-ddwyrain a Chymru gyfan o dan bump o ar-weinyddion dawnus – Meinir Heulyn, AlwenaRoberts, Menna Thomas, Llinos Swain a GavinAshcroft. Enillwyd gwobrau uchaf yr Ŵyl GerddDant, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Ban-Geltaidd, perfformiwyd ledled Cymru, gan gyn-nwys yn y gwasanaeth i agor y CynulliadCenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, achafwyd teithiau i wahanol rannau o Loegr ac iFfrainc, Iwerddon a Phatagonia bell.Mae’r pwyllgor yn trefnu dau ddigwyddiad iddathlu llwyddiannau’r Côr. Y cyntaf fydd nosonanffurfiol yng nghwmni Merched y Garth, disgy-blion Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg ac Ael-wyd Porth-cawl, i’w chynnal yng NghanolfanGartholwg ar Fai 24ain am 7 or gloch. Byddcroeso i bawb i’r noson hon.Swper ffarwelio – gwahoddiad i gyn-aelodauYr ail ddigwyddiad fydd swper ffarwelio yng ng-westy’r Heritage Park, y Rhondda NOS WENERGORFFENAF 6ED. Mae’r côr yn gobeithio ybydd criw mawr o gyn-aelodau’n medru ymunoâ’r aelodau presennol yn y noson hon. Dros yblynyddoedd bu cryn fynd a dod, ac mae rhai o’ncyn-aelodau i’w cael ym mhob cwr o Gymru bel-lach, ac nid hawdd yw cysylltu â nhw i gyd! Ondos ydych yn gyn-aelod ac yn darllen hwn, byddemwrth ein bodd pe gallech ddod. Cost y bwffe fydd£10 a bydd y côr yn cyfrannu gweddill y gost.Os hoffech ddod i’r swper ffarwelio, gofynnir ichianfon eich enwau, ynghyd â’r tâl, erbyn 1Mehefin. Anfonwch y siec am £10 os gwelwch yndda at Avril Pickard, 15 Ffordd y Gollen, TontegPontypridd, CF38 1TA (ffôn symudol07906889169), neu at Efiona Hewitt , 35 Pen-y-waun, Efail Isaf Pontypridd, CF38 1AY (ffônsymudol 07792798093).Os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch â’r ys-grifenyddes, Eleri Roberts drwy e-bost –[email protected]

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 9

Page 10: Y Gloran   Mai 2012

CAMPCHLOEBellach mae'r nofwraigdalentog, Chloe Tutton,no�lyn yr ysgol ac yn paratoiar gyfer ei harholiadauTGAU ymhen rhaiwythnosau. Dyma lunohoni argychwyn ra�s ynnhreialon nofio Prydainar gyfer yGemau Olympaidd ynLlundain. Rydym ynfalch iawn ohonot Chloe,ac yn dymuno'n dda i tiyn dy yrfa nofio - ac ynd'arholiadau TGAU!

KELSEY'N CYNRY-CHIOLI CYMRUPEL FOLIDymunwn yn dda iKelsey Johns o Flwyd-dyn 10 wrth iddi deithioi Lundain i gynrychioliCymru yn gemauSainsbury's yr wythnosnesaf. Mae Kelsey, s'ynaelod o diXm pe�l-foliCymru, eisoesgwyliau'r Pasg er mwynymarfer gyda'r garfan.Dyma'r ail dro i Kelseyfynychu'r ge�Mae Kesley yn cynry-chioli Cymru yn y gys-tadleuaeth SainsburysSchool Games yn

Dros y Pasg aeth hi gydathim Cymru i'r Almaenam wythnos o ymarfer,tua 30 awrAr y noson olaf mewnseremoni gwofrwyo,cafodd hi gwobrchwaraewraig sydd weMae hi'n chwarae saflesetter, hi sydd yn pasio'rpel at yr ymosodwyr,tebyg at safleDyma ail tro iddi myndi'r gemau hyn.

10

ysgolio

nap

hrify

sgoli

on

NEWYDDIONYSGOL GYFUNCYMER RHONDDA

NEWYDDIONYSGOL GYFUNCYMER RHONDDA

NEWYDDIONYSGOL GYFUNCYMER RHONDDA

Newid BydTelesgop

E.thosHeol y Brenin

AbertaweSA1 8AS

[email protected] 824567

Annwyl bawbYsgrifennaf atoch iʼch hysbysu am gyfle anhygoel allaiwynebu rhai o bobl ifanc eich ardal. Yn sgil llwyddiant ygyfres gyntaf o NEWID BYD ar S4C, mae Cwmni Teles-gop cyfres fydd yn cynnig y cyfle i 6 person ifanc rhwng17-18 oed ymweld â gwlad tramor am dair wythnos drosyr haf i gyflawni gwaith gwirfoddol, dan ofal arweinyddprofiadol. Rydym yn chwilio am bobl ifanc addas ac felly,os ydych chiʼn adnabod rhywun fyddai â diddordeb, awnewch chi dynnuʼu sylw at y cyfle, os gwelwch yn dda?Mae Newid Byd yn ôl am ail gyfres!Maeʼr newyddion yn llawn o straeon am ryfeddodau athrychinebauʼr byd - tlodi, newyn, llifogydd, sychderfforestydd glaw wediʼu dinistrio ac anifeiliaid gwyllt ynprinhau. Mae llawer o bobl ifanc yn poeni nad oes gand-dyn nhwʼr pwêr i newid pethau ac yn ysu i helpu. Wel, dy-maʼu cyfle i wneud gwahaniaeth mewn rhan fach oʼr byd.Mi fydd y gyfres Newid Byd yn cynnig y cyfle i 6 personifanc rhwng 17-18 oed ymweld â gwlad tramor am dairwythnos i gyflawni gwaith gwirfoddol pwysig.Y Prosiectau:Bydd y criw yn gweithio ar 4 prosiect traʼn y wlad. Fe fyddy prosiectau penodol yn helpuʼr bobl a/neuʼr byd natur yny rhan honno oʼr byd, ac fe fydd yn cynnig her bythgofi-adwy. Llynedd, fe aeth un criw i Malawi i helpu adeiladuysgol uwchradd i ferched a gweithio mewn canolfanbywyd gwyllt. Fe aeth criw arall i Gambodia i helpu mewncartref i blant amddifad ac i weithio ar brosiect eco-dwris-tiaeth mewn coedwig law.Beth bynnag foʼr prosiect y tro hwn, maeʼn sicr o fod ynun iʼw gofio ac mi fydd y teimlad o fod wedi cyflawni rhyw-beth gwerthchweil ar ddiwedd y daith yn anhygoel.Pwy fydd y 6?Bydd y 6 yn bobl ifanc hyderus sy'n gallu mynegu euteimladau a'u hargraffiadau. Byddan nhw yn gallu cyd-weithio'n dda ag eraill, yn gallu cael hwyl a chwerthin arun llaw ond yn ddigon aeddfed i sylweddoli sensitifrwyddrhai sefyllfaoedd ac ymateb yn synhwyrol. Bydd 2 bersonarall yn cael eu dewis i fod ar y rhestr wrth-gefn. Mae'nbosib y bydd yr unigolion eisoes yn gwirfoddoli, yn codiarian, er enghraifft, i elusen neu'n cyfrannu mewn rhywffordd at eu cymuned leol neu yn eu hysgolion.Diddordeb?Felly, os ydech chiʼn adnabod rhywun addas fyddai â did-dordeb, mae manylion llawn am y gyfres, amseroedd ydaith, y termau aʼr rheolau i gyd ar y wefanwww.s4c.co.uk/newidbyd neu [email protected]. Bydd ffurflen gais iʼw llenwi aʼidychwelyd cyn y 14eg o Fai 2012.Yn gywirMiss Mererid WigleyCynhyrchydd, Newid Byd,Cwmni Teledu Telesgop

Yn y lluniau:Llun 1 - Chloe Tutton

Llun 2 - Tîm Pêl Foli

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 10

Page 11: Y Gloran   Mai 2012

11

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 11

Page 12: Y Gloran   Mai 2012

Fy nymuniadau ar gyfery dyfodol!Hoffwn i fod yn ganwr,dawnsrau ac actoress yny ‘westend’, oherwyddrwyn mwynhau fo acoherwydd dwi eisiaumynd trwyr brofiad obeth ydyn ni fod wneud iwella. Os na gallwn igyrraedd fy nod hoffwn ifod yn athrawes . Byddafyn hapus i fod ynathrawes oherwydd rwyneisiau helpu plant, acrhannu fy nhalent!Gobeithiaf byddaf yn ll-wyddo yn fy T.G.A.U acfy lefalau A, os ydwi’naross yn yr ysgol wedynmynd i Goleg. Edrychaf iymlaen at aros rhywlearall or ty, pan fyddaf ynfynd i goleg!Hoffaf i hefyd codi arianam elusen. Hoffwn igwneud hyny oherwydddyle pawb yn y byd caelyr un cyfle!Edrychaf ymlaen at gaelcar a gobeithio llwyddoyn fy nhrwydded gyrru!Hoffwn i gael car i yrrilleoedd dydw i erioedwedi bod i.Edrychaf i ymlaem atlwyddo yn arholiad yngymnasteg .hefyd gallaf iddechrau mynd i’r gym.

Hoffwn i briodi ac chaelplant pan fyddaf yn hun.Byddaf yn hoffi caelplant oherwydd byddafyn ddarn arallo fy mywydac bydd phlant newyddyn yr teulu. Hoffaf i gaeltŷ yng nghymru, ac myndar wyliau i yr Aift, Dubai,Spain, Tenerife, a lleoeddarall!Rydw’n edrych ymlaen atyr hyn fydd yn diwyddyn y dyfodol!ganEllie Smith 11

Fy nymuniadau ar gyfery dyfodolHoffwn i fynd i ysgolGyfyn Cymer. Ac arhosafam y ddwy blynnyddychwanegol. Gobeithiafmynd i goleg a chaelmarciau uchel i gaeljobyn da. gobeithiaf fodrydw’n cael digon osgiliau i wneud yr hollbeth yma. Hefyd gobei-thiaf i wneud fy T.G.A.U.Hoffwn gwned ffrindiaunewydd yn y Cymer acoleg. Os bydd gennymdigon o farciau gobeithiafbod yn athrawes.

Gobeithiaffod yn athrawes i blantmeithryn. Y rheswn amhyn yw rwyn hoffi blant.Cyn rydw i’n galluwneud hyn byddaf angenbod yn athrawescyflenwy o gwympas yysgolion cymraeg yn yRhondda. Ond cyn bodyn athrawes hoffwn caelcar. Hoffwn I fyw ynRhondda Cynnon Taf.

Hoffwn bywar fferm a chael llawer ogeffylau . y rheswnm amhyn yw rwy’n caru ceffy-

lau ac anifeiliaid. Byddafhefyd eisiau teithio y bydgyda fy nheulu. Hefydhoffen fynd I Sharm elshahke yn yr Aift.

Gobeithiafbod gallu marchogaethceffylau yn dda oher-wydd rydw i yn caruceffylau. Hefyd gobei-thiaf bod yn dda archwarae y corned. Yrheswm yw mae gennyfddiddordeb yn y corned.

Pan ffyddaf ynhen hoffwn priodi a chaelplant. Oherwydd rydw iyn hoffi plant. Edrychafymlaen at yr hyn sydd yny dyfodol.Gan: Abbie Snooks 11

Fy nymuniadau ar gyfery dyfodolByddaf yn cymryd dramayn yr ysgol ac os dwiddim yn cyrraedd y nodactoress , hoffwn i bod ynpatholegydd. Hoffwn icymryd 13 TGAU I gaelswydd da. Chwaraeafpel-rwydd I cael hwyl aci enill llawer o tlysau.By-ddaf yn hoffi cael llawero ffrindiau da hefyd.Gallaf hyffoddwr ardder-chog i dysgu mi sut iyrru. Prynaf i SAB agyrru o gwmpas yngyflym iawn . Wrth gwrscyn i mi brynu car byddafyn mynachu i goleg adysgu i bod yn actoresproffesiynol.Hoffaf i mynd teithiodros y byd i lleoeddtlawd i helpu pobl aprynnu nhw dwr. Hoffwni actio yn ffilmiau ynHollywood. Byddaf ynhelpu pobl tlawd i ffein-dio lle i nhw byw .

Bwytaf llawer o bresycha llysiau a yfed llawer odwr. Cerddaf am eluse-nau gwahanol a rhedig.Hoffwn i fod yn iach acmae ganddynt gorff ynheini ac yn edrych ar ôlfy hun a fy teulu.Hoffwn i fyw mewn tŷmawr yn y ynysoeddCaribî gyda phedwar oblant a briod â dyn neis.Hoffaf priodi pan dwi’n30 mlwydd oed. Byddafyn cael ci bach chuwawaa 2 cwningen.Brydie Stephans 11

Fy nymuniadau ar gyfery dyfodolHoffwn I fod yn athrawesgynradd pan fyddaf yntyfu lan.Edrychaf ymlaenat ddysgu addysg I plant .Gobeithio byddaf ynmwynhau fy ngwaith .Gobeithio byddaf yn caelddau plenty un ferch unfachgen . Hoffwn I briodia symud I dŷ fawrEdrychaf ymlaen atYsgol y Cymer . Gobei-thaf fyddaf yn gwneud ydda yn fy ngwaith accyflawny fy TGAU . By-ddaf yn enill lle yn ycoleg ac ngorffen fylefalau A .Hoffwn I fynd ar gwchenfawr am un blwyddynac mynd I bob wlad , accwrddo teulu dydw I bythwedi cwrddo o blaen .Gobeithaf byddaf yn bywti fewn I tŷ enfawr yngNghymru . Hoffwn I gaelpwll nofio a byw yngagos I fy nheulu .GanMia Dayment Jones 11

12

NEWYDDIONYSGOL GG

BRONLLWYN

NEWYDDIONYSGOL GG

BRONLLWYN

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 12

Page 13: Y Gloran   Mai 2012

12maigloran:Layout 1 10/5/12 23:58 Page 16