52
Y llawlyfr colli swydd Eich hawliau Gwneud y gorau o’ch arian Symud ymlaen Camau i’ch helpu i ymdopi â cholli eich swydd

Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

Y llawlyfr colli swydd

Eich hawliau

Gwneud y gorau o’ch arian

Symud ymlaen

Camau i’ch helpu i ymdopi â cholli eich swydd

Page 2: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

Mae Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn annibynnol. Sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu pobl gwneud y mwyaf o'i arian trwy gynnig cyngor diduedd a di-dâl. Yn ogystal â chyngor ar ddiswyddiad, rydyn ni'n cynnig gwybodaeth ar ystod eang o themâu ariannol eraill.

Ewch i’n gwefan heddiw am gyngor, awgrymiadau ac offer i’ch helpu gwneud penderfyniadau gwybodus ac i gynllunio ar gyfer dyfodol gwell.

moneyadviceservice.org.uk/cy

Cyngor di-duedd am ddim ar-lein dros y ffôn

Page 3: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

moneyadviceservice.org.uk/cy

Yma i'ch helpu

Cynnwys

Y pethau cyntaf i'w gwneud 2

Dewisiadau eraill i golli swydd 4

Gwybod eich hawliau colli swydd 8

Tâl diswyddiad 13

Penderfynu beth i’w wneud am eich pensiwn 17

Gadael gwaith 19

Hawliadau a budd-daliadau’r wladwriaeth 21

Gwneud y gorau o’ch tâl colli swydd 27

Sut i ymdopi ar lai o arian 31

Cael help gyda benthyciadau a dyledion 35

Diogelu eich cartref 37

Gweithio ar eich chwiliad gwaith 40

Cysylltiadau defnyddiol 46

Mae’r canllaw hwn yn addas i chi os oes bygythiad i’ch swydd neu os ydych newydd golli eich swydd. Bydd yn esbonio eich hawliau ac yn dangos i chi y camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich arian.

1

Page 4: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

2 moneyadviceservice.org.uk/cy

Eich cynllun gweithredu

Gallwch gael gwybodaeth am ddewisiadau eraill i golli swydd Os ydych yn credu y gallai eich swydd fod mewn perygl, dylech fod yn ymwybodol o’r dewisiadau eraill i golli swydd a’ch hawliau chi os bydd eich cyflogwr yn awgrymu gweithio llai o oriau, rhyddhau neu wneud newidiadau i’ch cytundeb – gweler tudalennau 4 i 7.

Ewch i moneyadviceservice.org.uk/ gweithio-llai-o-oriau

Y pethau cyntaf i'w gwneud

Gwybod eich hawliau colli swydd Os ydych yn wynebu colli eich swydd, gwnewch yn siŵr bod eich diswyddiad yn deg, a oes gennych hawl i dâl colli swydd a gwybod pa hawliau eraill sydd gennych - gweler tudalennau 8 i 15.

Ewch i moneyadviceservice.org.uk/ dileu-swydd

Gwneud y gorau o’ch arian Gwnewch y gorau o’ch tâl colli swydd, adolygwch eich cyllideb, edrychwch i weld pa yswiriant a buddiannau y gallech eu hawlio a threfnwch arian eich cartref – gweler tudalennau 16 i 34.

Ewch i moneyadviceservice.org.uk/ adolygu-cyllideb

Page 5: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

3moneyadviceservice.org.uk/cy

Cael help gyda benthyciadau a dyledion Gallwch gael cyngor diduedd am ddim os ydych yn cael anhawster gyda’ch dyledion ac yn poeni pa filiau i’w blaenoriaethu a sut i ddiogelu eich cartref – gweler tudalennau 35 i 39.

Ewch i moneyadviceservice.org.uk/ dyled-os-byddwch-yn-colli-swydd

Gweithio ar eich chwiliad gwaith Diweddaru eich CV a’ch techneg cyfweliad. Dylech ystyried diweddaru eich sgiliau a dysgu rhai newydd, neu ddechrau eich busnes eich hun hyd yn oed – gweler tudalennau 40 i 45.

Ewch i moneyadviceservice.org.uk/dod-o-hyd-i-swydd

Trafod y mater

Os oes gennych bartner, teulu neu ffrind y gallwch ymddiried ynddynt, trafodwch eich pryderon am eich swydd gyda hwy. Efallai na fyddwch yn datrys y broblem ond dylai ymddangos yn llai llethol i chi.

Ac os yw pryderon am eich swydd yn rhoi straen ar berthnasau, ffoniwch linell gymorth Relate ar 0300 100 1234.

Page 6: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

4 moneyadviceservice.org.uk/cy

Dewisiadau eraill i golli swydd

Mae’n anodd parhau i weithio fel arfer pan fydd sibrydion am anghyflogaeth o amgylch. Efallai y byddwch yn penderfynu eich bod eisiau dechrau chwilio am swydd arall a gadael cyn i unrhyw gyhoeddiad gael ei wneud ar anghyflogaeth.

Cyn gwneud hyn, gwnewch yn siŵr na fyddwch yn colli allan ar hawliau colli swydd gwerthfawr - gweler tudalen 8.

Os yw’r busnes yr ydych yn gweithio iddynt yn profi dirywiad dros dro, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig dewisiadau eraill i golli swydd.

Beth i’w wneud am ostyngiad incwm

Cael gwaith arall. Ar yr amod bod eich cytundeb yn caniatáu hynny a bod eich cyflogwr yn cytuno, efallai y gallwch gymryd swydd arall tra byddwch yn gweithio llai o oriau neu wedi’ch rhyddhau. Ond os byddwch yn gwneud hyn ni allwch gael tâl gwarantedig statudol hefyd – gweler tudalen 5.

Hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth. Efallai y gallwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu’r Credyd Cynhwysol – a budd-daliadau eraill y wladwriaeth – os ydych yn gweithio llai o oriau neu wedi’ch rhyddhau. Dylech gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith (Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon) i gael cyngor pellach – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Er enghraifft, gallant ofyn i chi:

■ leihau nifer y dyddiau neu’r oriau yr ydych yn eu gweithio drwy’r wythnos (a elwir yn gweithio llai o oriau)

■ gymryd dyddiau cyfan i ffwrdd (a elwir yn rhyddhau)

■ wneud swydd gwbl wahanol

■ newid eich cytundeb.

Beth bynnag yw’r cynnig, mae’n werth ystyried a chymryd cyngor gan eich undeb llafur neu’ch cynrychiolydd yn y gwaith, os oes gennych un, cyn gwneud eich penderfyniad.

Os nad ydych yn aelod o undeb llafur neu gymdeithas staff, gallech drafod eich dewisiadau gyda chynghorydd yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol.

Page 7: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

5moneyadviceservice.org.uk/cy

Gweithio llai o oriauMae hyn yn golygu gweithio llai o oriau bob dydd neu lai o ddyddiau bob wythnos am lai o gyflog. Edrychwch i weld a yw eich cytundeb cyflogaeth eisoes yn caniatáu ar gyfer hyn.

Os nad yw, bydd y gymdeithas staff neu eich undeb llafur, os oes gennych un, fel arfer yn gorfod cytuno ar y cytundeb.

Os nad oes gennych gymdeithas staff neu undeb llafur, chi fydd yn penderfynu derbyn hyn ai peidio, oni fydd eich cytundeb yn dweud bod yn rhaid i chi.

Efallai y bydd gennych hawl hefyd i daliad gwarantedig, ar yr amod nad ydych yn cytuno i newid eich oriau gwaith yn barhaol. Dylech drafod hyn gyda’ch cyflogwr.

Rhyddhau Mae hyn yn golygu y gofynnir i chi beidio mynd i’r gwaith a bydd eich cyflog yn cael ei leihau fel arfer. Fodd bynnag, rydych yn parhau i fod yn gyflogedig. Bydd eich cyflogwr ond yn gallu gofyn i chi wneud hyn os bydd eich cytundeb cyflogaeth yn caniatáu hynny, neu eich bod yn cytuno i newid eich cytundeb.

Tâl gwarantedig Os ydych yn gweithio llai o oriau neu’n cael eich rhyddhau, gallai fod gennych hawl i ‘dâl gwarantedig statudol.’ Uchafswm y tâl hwn yw £26 y dydd hyd at uchafswm o £130 am bum diwrnod mewn unrhyw gyfnod o dri mis. Mae’r swm yn cael ei leihau pro rata os ydych yn gweithio’n rhan amser. Os bydd eich cytundeb yn caniatáu ar gyfer cyfnodau rhyddhau di-dâl efallai na fyddwch yn cael unrhyw dâl gwarantedig.

Am ba hyd y gall hyn barhau?

Nid oes terfyn ar y cyfnod y gallwch gael eich rhyddhau neu weithio llai o oriau. Fodd bynnag, os ydych wedi’ch rhyddhau am bedair wythnos yn olynol - neu chwe wythnos heb fod yn olynol mewn cyfnod o 13 wythnos - gallech fod â hawl i hawlio tâl colli swydd gweler tudalen 13.

Page 8: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

6 moneyadviceservice.org.uk/cy

Newidiadau i’ch cytundeb

Efallai y bydd eich cyflogwr yn dymuno newid telerau eich cytundeb – er enghraifft, lleihau eich cyflog neu eich newid i gyflogaeth rhan amser. Ni allant wneud hyn heb eich caniatâd chi oni fydd eich cytundeb yn dweud y gallant wneud hynny.

Dylech drafod eich opsiynau gyda’ch undeb llafur neu gynrychiolydd staff, eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol neu Acas (yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Acas. Mae’n sefydliad sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth ac sy’n darparu gwybodaeth a chyngor diduedd am hawliau cyflogeion. Maent hefyd yn datrys anghydfodau rhwng cyflogeion a’u cyflogwyr. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur. Gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Gwaith arall Cyn diswyddo, dylai eich cyflogwr geisio cynnig swydd addas arall i chi, neu ganiatáu i chi wneud cais am swyddi eraill, hyd yn oed os nad yw’r rolau hyn yn addas.

Os cynigir swydd arall addas i chi, gallwch roi cynnig ar y swydd am gyfnod prawf. Bydd hyn yn dibynnu a fydd unrhyw wahaniaethau rhwng eich hen swydd a’ch swydd newydd. Os bydd y cyfnod prawf yn llwyddiannus, bydd eich cyflogaeth yn parhau, ac ni fydd gennych hawl i unrhyw dâl colli gwaith statudol.

Os byddwch yn penderfynu bod y swydd yn anaddas, ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawliau colli swydd. Os byddwch yn gwrthod swydd arall addas yn afresymol, gallech golli eich hawl i dâl colli swydd.

Page 9: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

7moneyadviceservice.org.uk/cy

Mae derbyn ymddeoliad cynnar yn wahanol iawn i golli eich swydd, nid oes gennych unrhyw hawliau colli swydd ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw dâl colli swydd.

Os cynigir ymddeoliad cynnar i chi a’ch bod yn penderfynu ei gymryd, rydych yn debygol o dderbyn pensiwn llai nag y byddech ar ôl gweithio hyd at eich oedran ymddeol arferol.

Bydd y graddau y bydd hyn yn effeithio ar eich pensiwn yn dibynnu ar delerau eich pecyn ymddeol yn gynnar a’r math o gynllun pensiwn sydd gennych.

Mae pecynnau ymddeol yn gynnar yn aml yn cynnwys cymhellion sy’n gwella’r pensiwn a gewch, er enghraifft:

■ cyfandaliad i mewn i’ch cronfa bensiwn i gynyddu ei werth os ydych mewn cynllun cyfraniadau diffiniedig, neu

■ mae’r buddiannau pensiwn yn cael eu cyfrifo fel pe byddech wedi gweithio i’ch oedran ymddeol arferol os ydych mewn cynllun buddiannau diffiniedig.

Gwnewch ymholiadau i fanteision ac anfanteision ymddeol yn gynnar.

Chwiliwch am ‘Ymddeoliad cynnar’ ar

moneyadviceservice.org.uk/cy

Gallwch hefyd archebu ein llyfryn am ddim ‘Eich pensiwn: mae'n bryd dewis’ yn

moneyadviceservice.org.uk/canllawiauamddim

Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd

Eich pensiwn: mae’n bryd i chi ddewis

Yn gweithio mewn ymgynghoriad â: Ystyried ymddeoliad

Penderfynu sut i gymryd eich incwm ymddeoliad

Chwilio am yr incwm gorau

Page 10: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

8 moneyadviceservice.org.uk/cy

Er bod colli swydd yn fath o ddiswyddiad, pan fyddwch yn colli eich swydd nid ydych wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac nid yw unrhyw un yn cwestiynu eich gallu i wneud eich swydd.

Y rhesymau cyffredin pam y gallai eich cyflogwr eich diswyddo yw:

■ mae angen iddynt leihau eu costau

■ mae angen iddynt gau

■ maent yn adleoli

■ nid oes angen y gwaith yr ydych yn ei wneud mwyach.

Mae’r rhain yn hysbys fel rhesymau teg dros ddiswyddo. Gall eich cyflogwr eich diswyddo, ar yr amod eu bod yn dilyn proses ddethol deg hefyd.

Gwybod eich hawliau colli swydd

Os na fydd eich cyflogwr yn dilyn proses deg ar gyfer diswyddo neu os nad oes rheswm gwirioneddol dros ddileu’r swydd, gallech wneud hawliad am ddiswyddiad annheg i dribiwnlys cyflogaeth os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am ddwy flynedd neu fwy. Gweler tudalen 10.

Mewn rhai achosion, er enghraifft gwahaniaethu neu pan fyddwch yn credu eich bod wedi’ch diswyddo am rywbeth a wnaethoch, megis codi pryderon am hawliau cyflogaeth neu chwythu’r chwiban, gallwch wneud hawliad waeth am ba hyd yr ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr. Os ydych yn credu eich bod wedi colli eich swydd am unrhyw rai o’r rhesymau hyn, dylech ofyn am gyngor cyn gynted â phosibl. Gweler tudalen 11.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr drafod beth fydd yn digwydd gyda phawb perthnasol. Dylent ddweud wrthych pam eu bod yn cynnig diswyddiadau a sut y byddant yn effeithio ar bobl. I gael rhagor o fanylion, gweler gov.uk/redundant-your-rights/consultation

Page 11: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

9moneyadviceservice.org.uk/cy

Pwynt allweddol

Os ydych yn credu eich bod wedi’ch diswyddo yn annheg, gofynnwch am gyngor cyn gynted â phosibl gan eich undeb llafur neu gynrychiolydd cyflogeion, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, Acas neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46. Mae yna gyfyngiad amser caeth ar gyfer gwneud hawliad.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’n rhaid i chi hysbysu Acas cyn gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Apelio yn erbyn penderfyniad colli swydd

Cam 1 – Apelio yn ysgrifenedig i’ch cyflogwr.

Os ydych yn credu bod y penderfyniad i ddileu swydd yn annheg, esboniwch pam eich bod yn credu eich bod wedi’ch dewis yn annheg a’r hyn yr ydych eisiau i’ch cyflogwr ei wneud i unioni’r sefyllfa. Os na fydd hyn yn datrys y broblem, gallwch wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Cam 2 – Cymodi cynnar. Cyn y gallwch wneud hawliad tribiwnlys, mae’n rhaid i chi hysbysu Acas yn acas.org.uk/earlyconciliation. Bydd Acas yn cynnig cysylltu â’ch cyflogwr i geisio datrys yr achos. Nid oes rheidrwydd arnoch chi na’ch cyflogwr i gytuno i hyn.

Cam 3 – Ewch â’ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth.

Ar ôl i chi dderbyn tystysgrif cymodi cynnar gan Acas, gallwch wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Mae’n rhaid eich bod wedi’ch cyflogi am o leiaf ddwy flynedd – oni bai eich bod yn gwneud hawliad am wahaniaethu a/neu ddiswyddiad awtomatig annheg.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i ddefnyddio tribiwnlys (ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon) ar gyfer hawliadau am ddiswyddo annheg. Mae’n bosibl y bydd y ffioedd yn cael eu lleihau neu eu hepgor os yw eich incwm a’ch cynilion yn isel. Os ydych yn aelod o undeb llafur, mae’n bosibl y byddant yn talu’r ffioedd i chi.

Page 12: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

10 moneyadviceservice.org.uk/cy

A yw eich diswyddiad yn deg?

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr sicrhau eu bod yn eich diswyddo am reswm teg, nid oherwydd pwy ydych chi neu rywbeth rydych wedi’i wneud, megis codi pryderon am y gweithle. Mae’n rhaid iddynt ddilyn proses deg pan fyddant yn dewis pwy sydd yn colli swyddi.

A yw’r broses diswyddo yn deg?

Mae yna brosesau gwahanol ar gyfer diswyddo'n deg. Bydd y broses y bydd eich cyflogwr yn ei dilyn yn dibynnu ar:

■ faint o bobl sy’n gweithio i’ch cyflogwr

■ nifer y swyddi y maent yn bwriadu eu dileu

■ a oes gan y cwmni bolisi diswyddo

■ unrhyw gytundeb sydd mewn grym gydag undeb llafur.

Dylai eich cyflogwr bob amser:

■ ymgynghori gyda chi i weld a oes ffyrdd o osgoi eich diswyddo

■ caniatáu i gydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur fynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd

■ ysgrifennu atoch ynglŷn â’ch hawl i gael tâl colli swydd statudol (gweler tudalen 13)

■ rhoi cyfle i chi apelio yn erbyn y penderfyniad

■ ystyried a oes unrhyw swyddi eraill addas (gweler tudalen 6).

Colli swydd a gwahaniaethu

Os ydych yn credu mai’r rheswm gwirioneddol pam eich bod yn cael eich diswyddo yw am unrhyw un o’r rhesymau canlynol:

■ oedran

■ anabledd

■ ailbennu rhywedd

■ priodas neu bartneriaeth sifil

■ beichiogrwydd a mamolaeth

■ hil

■ crefydd neu gredo

■ rhyw

■ cyfeiriadedd rhywiol,

gallech wneud hawliad ar sail gwahaniaethu i dribiwnlys cyflogaeth waeth pa mor hir yr ydych wedi’ch cyflogi. Efallai y gallwch hefyd wneud hawliad am ddiswyddo annheg os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am ddwy flynedd neu fwy.

Page 13: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

11moneyadviceservice.org.uk/cy

Staff i mewn, staff allan

Mae gan eich cyflogwr hawl cyfreithiol i gyflogi staff newydd, hyd yn oed os ydynt yn diswyddo pobl. Efallai y byddant yn cyflogi rhywun i wneud swydd wahanol lle’r ydych chi’n gweithio, neu i wneud eich swydd mewn lleoliad gwahanol. Os ydych yn credu y dylech fod wedi cael cynnig swydd yn y strwythur newydd, neu os ydych yn credu eich bod wedi’ch disodli yn annheg, darllenwch eich cytundeb cyflogaeth. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch am gyngor gan gynrychiolydd undeb, Acas (yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yng Ngogledd Iwerddon) neu eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol.

Diswyddo annheg awtomatig

Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich diswyddo am resymau penodol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

■ beichiogrwydd neu famolaeth

■ rhesymau teuluol, yn cynnwys cymryd absenoldeb rhiant neu i ofalu am ddibynyddion

■ perthyn i undeb llafur neu weithredu fel cynrychiolydd staff

■ chwythu’r chwiban ar arfer gwael neu faterion iechyd a diogelwch

■ gweithio’n rhan amser neu ar gytundeb tymor penodol

■ oherwydd eich bod wedi gofyn am oriau gweithio hyblyg

■ oherwydd eich bod wedi mynegi pryderon ynglŷn â hawliau cyflogaeth statudol, yn cynnwys problemau gyda chyflog, oriau gwaith neu wyliau blynyddol.

Os ydych yn credu y gallai hyn fod y gwir reswm dros golli eich swydd, efallai'r gallwch honni bod eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig. Gallwch wneud hawliad waeth pa mor hir yr ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr.

Page 14: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

12 moneyadviceservice.org.uk/cy

Y broses a’r amserlen colli swyddBydd y broses y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dilyn yn dibynnu ar nifer y swyddi y bwriedir eu dileu. Gweler y tabl isod.

Y nifer o gyflogeion fydd yn colli eu swyddi

Y math o ymgynghoriad sydd ei angen Amseriad yr ymgynghoriad

Llai nac 20 o gyflogeion

Mae angen i’ch cyflogwr ymgynghori â chi yn unigol yn unig.

O fewn amser rhesymol.

20–99 o gyflogeion

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad ar y cyd. Mae hyn yn golygu ymgynghori â’ch cynrychiolydd undeb os oes un neu, os nad oes gennych un, gyda’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr cyflogeion etholedig.

Mae’n arfer da iddynt ymgynghori â phob un ohonoch yn unigol hefyd. Os bydd y cyflogeion yn penderfynu peidio ethol cynrychiolydd, yna cynhelir ymgynghoriad gydag unigolion yn unig.

Isafswm o 30 diwrnod cyn dileu’r swydd gyntaf.

100+ o gyflogeion

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad ar y cyd. Mae hyn yn golygu ymgynghori â’ch cynrychiolydd undeb os oes un neu, os nad oes gennych un, gyda’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr cyflogeion etholedig

Mae’n arfer da iddynt ymgynghori â phob un ohonoch yn unigol hefyd. Os bydd y cyflogeion yn penderfynu peidio ethol cynrychiolydd, yna cynhelir ymgynghoriad gydag unigolion yn unig.

Isafswm o 45 diwrnod cyn y diswyddiad cyntaf.

Ar ôl i’r broses ymgynghori ddod i ben, mae’n rhaid eich bod wedi derbyn y cyfnod rhybudd statudol o leiaf, os bydd eich swydd yn cael ei golli. Mae hyn yn amrywio o un i 12 wythnos, yn unol â’r cyfnod o amser yr ydych wedi’ch cyflogi. Fodd bynnag, efallai y bydd eich cyfnod rhybudd yn hwy, yn dibynnu ar beth sydd yn eich cytundeb cyflogaeth. Ar ôl y pwynt hwn, bydd eich swydd yn dod i ben.

Ymgynghoriad colli swydd

Page 15: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

13moneyadviceservice.org.uk/cy

Tâl colli swydd

Gallai fod gennych hawl i gael tâl colli swydd statudol – cyfandaliad i wneud iawn i chi am golli eich swydd. Dyma yw’r isafswm cyfreithlon y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dalu. Mae’n bosibl y bydd rhai cyflogwyr yn cynnig pecynnau mwy hael.

Pwy sy’n cael tâl colli swydd statudol?

Gallai fod gennych hawl i dâl colli swydd statudol os ydych wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr am o leiaf dwy flynedd. Os ydych yn gweithio’n achlysurol, neu os ydych yn weithiwr asiantaeth neu’n weithiwr dros dro, mae’n debyg na fyddwch yn gymwys i gael tâl colli swydd.

Os ydych ar gytundeb dim oriau, h.y. os ydych ‘ar alwad’ heb oriau penodol neu amserlen ddiffiniedig, mae hyn yn faes annelwig. Gofynnwch am gyngor Acas (neu’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yng Ngogledd Iwerddon) neu eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol - gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Faint fyddwch chi’n ei gael?

Mae’r swm o dâl colli swydd statudol a gewch yn dibynnu ar hyd y cyfnod yr ydych wedi’i weithio i’ch cyflogwr, eich oedran, a faint yw eich cyflog.

Mae’r gyfraith yn datgan bod gennych hawl i:

■ hanner wythnos o gyflog am bob blwyddyn lawn o wasanaeth tra'r oeddech o dan 22 oed

■ un wythnos o gyflog am bob blwyddyn lawn o wasanaeth tra’r oeddech rhwng 22 a 41 oed, ac

■ wythnos a hanner o gyflog am bob blwyddyn lawn o wasanaeth ar ôl eich pen-blwydd yn 41 oed.

Mae’r uchafswm o dâl dileu swydd statudol y gallwch ei gael yn 2016-17 yn seiliedig ar uchafswm o 20 mlynedd o wasanaeth a chyflog wythnosol o hyd at £489 (£500 yng Ngogledd Iwerddon). Mae’r uchafswm o dâl colli swydd statudol y gallwch ei gael wedi’i gapio ar £14,670 (£15,000 yng Ngogledd Iwerddon) hyd yn oed os yw eich enillion yn uwch neu hyd eich gwasanaeth yn hwy na hyn.

Pwynt allweddol

Gallai fod gennych hawl i dâl colli swydd statudol os ydych wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr am o leiaf dwy flynedd.

Page 16: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

14 moneyadviceservice.org.uk/cy

I ganfod a oes gennych hawl i dâl colli swydd statudol a faint, defnyddiwch y gyfrifiannell tâl colli swydd gov.uk/calculate-your-redundancy-pay

Enghraifft

Mae Michelle yn 48 oed. Mae wedi gweithio i’w chyflogwr am 22 o flynyddoedd ac mae’n ennill £700 yr wythnos. Mae ganddi hawl i dâl colli swydd statudol yn seiliedig ar yr uchafswm o £489 yr wythnos am 20 mlynedd o wasanaeth. Bydd Michelle yn derbyn £11,491.50 sydd wedi’i gyfrifo fel â ganlyn:

Cam 11.5 wythnos x 7 mlynedd o wasanaeth pan oedd yn 41 oed a throsodd

= 10.5 wythnos

Cam 21 wythnos x 13 mlynedd o wasanaeth pan oedd rhwng 22 a 41

= 13 wythnos

Cam 310.5 wythnos + 13 wythnos

= 23.5 wythnos x £489

Cyfanswm

£11,491.50 o dâl colli swydd

Fy nhâl colli swydd

4579 5321 4789 1331 6791

£

/

Beth os bydd eich cyflogwr yn rhoi’r gorau i fasnachu?

Os yw busnes eich cyflogwr wedi methu neu os na allant eich talu, bydd Swyddfa Taliadau Colli Swydd y llywodraeth yn talu’r swm statudol i chi. Dylai’r cwmni ansolfedd sy’n delio â’ch cyflogwr roi ffurflen RP1 i chi wneud hawliad.

Mynnwch gyngor gan y Gwasanaeth Taliadau Colli Swydd yn Acas: 0845 145 0004

Page 17: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

15moneyadviceservice.org.uk/cy

Nid ydych yn talu treth ar unrhyw dâl colli swydd hyd at £30,000.

Os byddwch yn derbyn mwy na £30,000, bydd rhaid i chi dalu treth ar eich cyfradd uchaf ar y swm dros £30,000.

Os byddwch yn derbyn unrhyw fuddiannau nad ydynt yn arian fel rhan o’ch pecyn colli swydd, megis car cwmni neu gyfrifiadur, bydd hyn yn cael ei gyfrifo fel gwerth arian parod ac yn cael ei ychwanegu at eich tâl colli swydd at ddibenion treth.

Felly, er enghraifft, os byddwch yn derbyn car cwmni sy’n werth £10,000 a’ch bod yn derbyn tâl colli swydd o £25,000, bydd eich pecyn diswyddo yn werth £35,000 at ddibenion treth. Bydd rhaid i chi dalu treth ar y £5,000 sydd dros y terfyn di-dreth o £30,000.

Dylech neilltuo digon o arian i dalu unrhyw dreth ychwanegol

Pan fyddwch yn cael eich tâl colli swydd, fel arfer bydd eich cyflogwr eisoes wedi didynnu treth ohono. Ond, oherwydd bod eich treth yn cael ei chyfrifo’n flynyddol mae’n gyffredin iawn y bydd gormod neu ddim digon o dreth wedi’i didynnu.

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu, felly mae’n rhaid i chi wneud yn siwr eich bod wedi talu’r swm cywir ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Os ydych wedi talu gormod o dreth, bydd angen i chi hawlio ad-daliad. Os nad ydych wedi talu digon, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth.

Gofyn am help a chyngor gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Treth a thâl colli swydd

Dylech gofio y gallai maint y taliad olygu y byddwch yn dod yn drethdalwr cyfradd uwch neu ychwanegol am y flwyddyn, hyd yn oed os ydych yn drethdalwr y gyfradd sylfaenol fel arfer.

Page 18: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

16 moneyadviceservice.org.uk/cy

Gallech dderbyn cyfandaliadau eraill yn eich pecyn cyflog olaf pan fyddwch yn cael eich diswyddo. Os yw’r rhain yn ddyledus i chi o dan eich cytundeb cyflogaeth (yn hytrach nac fel iawndal am golli eich swydd), byddant yn cael eu trethu yn yr un ffordd â’ch cyflog arferol.

Gallai taliadau gynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

Sut mae hyn yn gweithio? Sut mae’n cael ei drethu?

Cyflog a thaliadau bonws dyledus

Dyma eich cyflog hyd at y diwrnod y bydd eich cytundeb yn dod i ben gydag unrhyw daliadau bonws sy’n ddyledus i chi o dan eich cytundeb cyflogaeth.

Bydd treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u didynnu fel arfer o’r taliadau hyn cyn i chi eu derbyn.

Taliad yn lle cyfnod rhybudd

Telir hyn pan nad yw eich cyflogwr yn dymuno i chi weithio eich cyfnod rhybudd ac yn cynnig cyfandaliad i chi yn lle hynny.

Fel arfer, bydd tâl yn lle cyfnod rhybudd yn gyflog trethadwy ac felly bydd treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u didynnu. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar delerau eich cytundeb. Dylech ofyn am gyngor gan eich undeb llafur neu gynrychiolydd staff neu Acas (neu’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yng Ngogledd Iwerddon).

Tâl gwyliau dyledus

Gall eich cyflogwr ofyn i chi gymryd rhywfaint o wyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd colli swydd. Bydd ond yn rhaid i chi wneud hyn os bydd eich cytundeb cyflogaeth yn datgan bod rhaid i chi. Fel arall, eich dewis chi yw gwneud hyn ai peidio. Efallai y byddwch yn penderfynu bod yr arian yn fwy defnyddiol os ydych ar fin dod yn ddi-waith.

Bydd treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u didynnu fel arfer o’r taliadau hyn cyn i chi eu derbyn.

Taliadau eraill pan fyddwch yn gadael

Page 19: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

17moneyadviceservice.org.uk/cy

Penderfynu beth i’w wneud ynglŷn â’ch pensiwn

Os ydych yn rhan o bensiwn gweithle, mae angen i chi benderfynu beth i’w wneud gyda’ch pensiwn ar ôl i chi adael. Mae’r dewisiadau yn dibynnu ar y math o gynllun sy’n weithredol.

I ganfod pa fath o gynllun pensiwn yr ydych yn rhan ohono a’r hawliau sydd gennych, cysylltwch â’ch adran pensiynau neu adnoddau dynol yn y gwaith. I gael gwybodaeth gyffredinol am bensiynau, yn cynnwys diffiniadau o’r gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn, gweler:

moneyadviceservice.org.uk/cy/categories/pensions-and-retirement neu wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Pensiwn gweithleOs byddwch yn cael eich diswyddo, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol fel arfer:

■ Gadael eich pensiwn gyda’ch cyflogwr a phan fyddwch yn ymddeol byddwch yn derbyn incwm ymddeol o’r cynllun hwnnw. Dyma yw’r dewis gorau fel arfer os ydych yn perthyn i gynllun buddiannau diffiniedig.

■ Trosglwyddo eich potyn pensiwn. Gallech wneud hyn i gynllun cyflogwr newydd pan fyddwch yn dod o hyd i swydd newydd, os bydd y cynllun newydd yn caniatáu hynny, neu i’ch pensiwn personol eich hun. Dylech gymharu’r costau a’r termau yn ofalus gyda chynllun eich cyflogwr blaenorol a byddwch yn wyliadwrus rhag ildio unrhyw fuddiannau diffiniedig.

■ Os ydych yn ddigon hen, efallai y gallwch gymryd ymddeoliad cynnar. Gweler tudalen 7.

Ystyriwch gael cyngor proffesiynol gan gynghorydd ariannol a fydd yn gallu trafod eich opsiynau gyda chi – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Page 20: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

18 moneyadviceservice.org.uk/cy

Yr Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol (NEST)

Mae NEST yn gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Os yw eich cyflogwr wedi’ch cofrestru chi yn NEST, er eich bod yn gadael y swydd, byddwch yn parhau i fod yn aelod o NEST a gallwch barhau i gyfranogi ynddo (ond bydd cyfraniadau eich cyflogwr yn dod i ben).

Mae eich cyfraniadau i NEST yn hyblyg. Efallai y byddwch yn dymuno atal y cyfraniadau os yw arian yn brin yn awr neu os ydych yn cael swydd newydd gyda chynllun pensiwn gwahanol. Ond gallwch barhau i gadw eich potyn pensiwn gyda NEST.

Pensiwn personolEfallai eich bod yn perthyn i gynllun gweithle sy’n bensiwn personol (fel arfer bydd yn bensiwn personol grŵp neu’n gynllun cyfranddeiliaid) neu efallai bod gennych bensiwn personol eich hun. Mae’r cynlluniau hyn wedi’u cysylltu i chi, nid i swydd benodol.

Mae hyn yn golygu, wrth adael swydd, y gallwch barhau i dalu i mewn i’r cynllun os byddwch yn dymuno, ond bydd eich cyflogwr yn rhoi’r gorau i gyfrannu. Os oedd eich cyflogwr wedi negodi termau arbennig, megis taliadau is, efallai na fydd y rhain yn parhau i fod ar gael i chi.

A wyddech chi?

Ar hyn o bryd, os ydych wedi bod yn aelod o gynllun cwmni am lai na dwy flynedd, mae gennych ddewis i gael ad-daliad o’r cyfraniadau rydych wedi’u talu (ond nid unrhyw gyfraniadau a dalwyd i chi gan eich cyflogwr.) Didynnir treth o’r ad-daliad.

Page 21: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

19moneyadviceservice.org.uk/cy

Gadael gwaith

Ar ôl i chi gael gwybod y byddwch yn colli eich swydd, mae gennych hawliau amrywiol i’ch helpu i addasu a dod o hyd i waith newydd. Mae gennych hawl hefyd i isafswm cyfnod o rybudd.

Rhybudd Dangosir isafswm y cyfnod y dylech ei gael yn y tabl isod. Fodd bynnag, os yw eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi cyfnod o rybudd hwy i chi, mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi hwn i chi.

Cadarnhewch hyn drwy ddarllen eich cytundeb.

Isafswm cyfnod o rybudd

Os ydych wedi bod yn gyflogedig:

Yr isafswm cyfnod o rybudd y dylid ei roi i chi yw: Enghraifft:

O leiaf 1 mis a hyd at 2 flynedd

1 wythnos Os ydych wedi’ch cyflogi am 18 mis, dylid rhoi o leiaf un wythnos o rybudd i chi.

Dros 2 flynedd a hyd at 12 mlynedd

1 wythnos o rybudd am bob blwyddyn a weithiwyd

Os ydych wedi’ch cyflogi am bum mlynedd, dylech gael o leiaf pum wythnos o rybudd.

Mwy na 12 mlynedd

12 wythnos o rybudd Os ydych wedi’ch cyflogi am fwy na 12 mlynedd, dylech gael o leiaf 12 wythnos o rybudd.

Amser i ffwrdd i chwilio am waith neu hyfforddiant

Mae gennych hawl i gael amser i ffwrdd i chwilio am waith neu ymgymryd â hyfforddiant, ar yr amod eich bod wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr am o leiaf dwy flynedd.

Mae’n rhaid i’r swm o amser y gallwch ei gael fod yn rhesymol ac mae gennych hawl i ddwy ran o bump (40%) o gyflog wythnosol tra byddwch i ffwrdd. Er enghraifft, os ydych yn gweithio wythnos pum niwrnod a’ch bod yn cymryd dau ddiwrnod i ffwrdd i fynd i gyfweliadau, yna bydd eich cyflogwr yn eich talu chi am yr amser hwn. Os byddwch yn cymryd cyfanswm o bedwar diwrnod i ffwrdd, efallai y byddwch ond yn cael eich talu am y ddau ddiwrnod cyntaf. Mae rhai cyflogwyr yn fwy hael, felly mae’n werth trafod hyn wrth negodi eich telerau colli swydd.

Page 22: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

20 moneyadviceservice.org.uk/cy

Absenoldeb garddioEfallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gyflawni eich cyfnod o rybudd colli swydd i ffwrdd o’r gwaith (a elwir yn ‘absenoldeb garddio’). Rydych yn parhau i fod wedi’ch cyflogi yn gyfreithiol felly mae’n rhaid i chi ddilyn rheolau eich cytundeb, megis is-gymalau cyfrinachedd. Gall eich cyflogwr gynnig absenoldeb garddio i chi oherwydd, er enghraifft, bod gennych fynediad at wybodaeth gyfrinachol neu gwsmeriaid, neu maent eisiau i rywfaint o amser fynd heibio cyn i chi ddechrau gweithio i gystadleuwr.

Os ydych ar absenoldeb garddio, gall eich cyflogwr eich galw yn ôl i’r gwaith os bydd eich angen. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn derbyn eich cyflog a’ch buddiannau arferol ond ni chewch ddechrau swydd gyda chyflogwr newydd.

Awgrym defnyddiol

Os cynigir swydd i chi a bod eich cyflogwr newydd eisiau i chi ddechrau cyn i’r cyfnod o rybudd ddod i ben, dylech drafod hyn gyda’ch cyflogwr presennol. Mae angen i chi fod yn ymwybodol y gallech golli eich hawl i dâl colli swydd a/neu eich tâl cyfnod o rybudd.

Os ydych yn ansicr am hyn gofynnwch am gyngor eich undeb llafur, Acas neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Rhestr wirio diwrnod olaf

Ar eich diwrnod olaf yn y gwaith dylech dderbyn y canlynol:

Unrhyw dâl colli swydd, cyflogau, tâl gwyliau ac unrhyw arian arall sy’n ddyledus i chi.

Geirdaon gan eich cyflogwr.

Llythyr yn nodi dyddiad eich diswyddiad.

Eich ffurflen dreth P45 (neu gadarnhau pryd y bydd yn cael ei hanfon atoch).

Manylion eich trefniadau pensiwn.

Page 23: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

21moneyadviceservice.org.uk/cy

Hawlio budd-daliadau a hawliadau’r wladwriaeth

Cyn gynted ag y byddwch yn rhoi’r gorau i weithio, dylech gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon. Asiantaethau’r llywodraeth yw’r rhain sy’n gyfrifol am ddelio â hawliadau budd-daliadau.

Credydau Yswiriant Gwladol

Mae’r swm o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch yn y pen draw a’ch hawl i rai budd-daliadau eraill y wladwriaeth yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Yn gyffredinol, byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn gweithio. Mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft pan fyddwch yn ddi-waith, cewch eich credydu fel pe byddech wedi talu cyfraniadau. Cewch y credydau hyn yn awtomatig os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith wrth hawlio Lwfans Ceisio Gwaith a budd-daliadau eraill sy’n dibynnu ar brawf modd.

Os ydych yn ddyn di-waith sydd wedi cyrraedd oedran cymhwyso, cewch gredydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig heb orfod chwilio am waith neu hawlio budd-daliadau. Yr oedran cymhwyso yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth merched, sy’n cynyddu’n raddol i 65 erbyn Tachwedd 2018.

Lwfans Ceisio Gwaith

Mae dau brif fath o fudd-dal:

■ Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Gyfraniadau (dim prawf modd). Cewch y budd-daliadau hyn os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol pan oeddech yn gweithio (neu os ydych wedi’ch credydu â chyfraniadau, er enghraifft, pan oeddech ar absenoldeb mamolaeth). Mae gennych hawl i’r budd-daliadau hyn waeth faint o gynilion sydd gan eich aelwyd, ond gallai rhai mathau o incwm effeithio ar y swm a gewch.

■ Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (yn dibynnu ar brawf modd). Mae eich cymhwysedd i gael y rhain yn dibynnu ar y ffaith bod incwm a chynilion eich aelwyd yn isel, nid eich cofnod Yswiriant Gwladol.

A wyddech chi

Os ydych yn hawlio Lwfans ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, yn amodol ar lle’r ydych yn byw a’ch amgylchiadau personol, efallai y gofynnir i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn hytrach – gweler tudalen 23.

Page 24: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

22 moneyadviceservice.org.uk/cy

Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn seiliedig ar Gyfraniadau

Pwy all hawlio hyn?Hwn yw’r prif fudd-dal i bobl di-waith. I fod yn gymwys, rhaid eich bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a’ch bod ar gael ar gyfer, ac wrthi’n chwilio am waith. Fel arfer gallwch hawlio hyn os ydych wedi bod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol fel cyflogai am y ddwy flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf. (Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill mewn un flwyddyn tan 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol). Bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad fel rhan o’ch hawliad a ‘chofrestru’ yn rheolaidd drwy fynychu eich Canolfan Byd Gwaith leol (neu Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon).

Faint yw hyn?Telir LCG yn seiliedig ar Gyfraniadau am hyd at 182 diwrnod (tua chwe mis) ac nid yw cynilion eich aelwyd yn effeithio arno. Yn 2017-18, telir LCG ar gyfradd sefydlog o £73.10 yr wythnos, neu £57.90 yr wythnos os ydych o dan 25 oed.

Mae’r swm o LCG a gewch yn cael ei leihau yn ôl unrhyw enillion sydd gennych dros £5 yr wythnos ac unrhyw bensiwn galwedigaethol neu bersonol o fwy na £50 yr wythnos. Nid yw incwm arall - er enghraifft llog o gynilion - yn effeithio’r swm o LCG a gewch. Os oes gennych bartner, nid yw eu henillion hwy yn effeithio ar eich LCG yn seiliedig ar Gyfraniadau chi.

Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm

Pwy all hawlio hyn? Mae hwn yn fudd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd y gallech ei gael os:

■ nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod â hawl i gael LCG yn seiliedig ar Gyfraniadau, neu

■ fod eich hawliad chwe mis i LCG yn seiliedig ar Gyfraniadau wedi dod i ben.

Mae LCG yn seiliedig ar incwm yn cael ei seilio ar eich aelwyd yn hytrach na’ch amgylchiadau unigol. Mae hyn yn golygu bod LCG yn seiliedig ar incwm yn cael ei effeithio gan incwm a chynilion eich partner a’ch rhai chi. Mae un unigolyn yn hawlio ar gyfer yr aelwyd gyfan.

Os oes gennych bartner sy’n gweithio, bydd hyn yn effeithio ar y swm a gewch. Os yw eich partner yn gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos, mae’n annhebygol y byddwch yn gymwys i gael LCG yn seiliedig ar incwm.

Cynilion a LCG yn seiliedig ar incwm

Bydd cynilion dros £6,000 yn dechrau lleihau’r LCG yn seiliedig ar incwm a gewch a bydd cynilion dros £16,000 yn golygu na fyddwch yn gymwys i’w gael.

Page 25: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

23moneyadviceservice.org.uk/cy

Faint yw hyn?Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar yr incwm yr ystyrir sydd ei angen ar eich aelwyd (a elwir yn ‘swm cymwys’), llai unrhyw incwm sydd gennych chi.

Yn 2017-18, y symiau cymwys safonol yw:

■ £73.10 yr wythnos i bobl sengl 25 oed neu hŷn

■ £57.90 yr wythnos i bobl o dan 25 oed

■ £114.85 yr wythnos i gyplau lle mae’r ddau yn 18 oed neu hŷn.

Fodd bynnag, gall y swm fod yn uwch yn ôl eich amgylchiadau chi.

Hawlio Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, bydd angen i chi fynychu cyfweliad wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Byd Gwaith. Gelwir hyn yn ‘gyfweliad ceisiwr gwaith newydd’. Bydd cynghorydd personol yn eich helpu i lunio cytundeb sy’n nodi’r camau yr ydych yn cytuno eu cymryd i ddod o hyd i waith. Bydd yn rhaid i chi fynychu’r Ganolfan Byd Gwaith yn rheolaidd i gadarnhau eich hawliad budd-dal.

I gael gwybodaeth bellach am Lwfans Ceisio Gwaith a sut i’w hawlio, ewch i gov.uk/jobseekers-allowance

Credyd CynhwysolMae’r Credyd Cynhwysol yn fudd-dal newydd sy’n dibynnu ar brawf modd sy’n cael ei gyflwyno’n raddol.

Mae’n cymryd lle:

■ Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

■ Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

■ Cymhorthdal Incwm

■ Credyd Treth Plant

■ Credyd Treth Gwaith

■ Budd-dal Tai.

Ni fydd yn disodli budd-daliadau sy’n seiliedig ar gyfraniadau, fel Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau.

Un taliad misolYn wahanol i’r budd-daliadau y maent yn eu disodli, byddwch yn cael un taliad Credyd Cynhwysol bob mis, sy’n cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Bydd angen i chi gyllidebu’n ofalus i sicrhau eich bod yn talu biliau hollbwysig, yn cynnwys eich rhent neu forgais, a gwneud yn siŵr bod y gweddill yn parhau i chi am y mis nes eich taliad nesaf.

Mae gwybodaeth bellach ar ein gwefan am y Credyd Cynhwysol a chyllidebu ar gyfer taliad misol –

moneyadviceservice.org.uk/cy/categories/universal-credit

Page 26: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

24 moneyadviceservice.org.uk/cy

Budd-daliadau i helpu gyda chostau tai

Help gyda’ch rhent Mae Budd-dal Tai yn eich helpu i dalu eich rhent (ac, yng Ngogledd Iwerddon, eich Cyfraddau).

Mae eich cymhwysedd a’r swm a gewch yn dibynnu ar nifer o ffactorau megis eich amgylchiadau personol, lle’r ydych chi’n byw ac a ydych yn rhentu’n breifat neu gan gymdeithas tai neu gyngor.

Gallwch wneud cais cyfunol am Fudd-dal Tai a Lwfans Ceisio Gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith (neu’r Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon).

I gael gwybodaeth bellach am Fudd-dal Tai, yn cynnwys pwy sy’n gymwys a’r swm a gewch: gov.uk/housing-benefit

Mae’r Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan y Credyd Cynhwysol.

Gostyngiad yn y Dreth GyngorMae’n rhaid i’r rhan fwyaf o oedolion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban dalu Treth Gyngor i’w cyngor lleol. Fodd bynnag, os yw eich incwm yn isel, gallai eich cyngor gytuno i leihau eich bil. Bydd maint y gostyngiad yn dibynnu ar gynllun lleol eich cyngor chi.

Hawlio drwy eich cyngor lleol. I gael gwybodaeth bellach am sut i wneud cais: gov.uk/council-tax-reduction

Help gyda chostau morgais Mae’n bosibl y gall perchenogion tai sy’n cael rhai budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd gael help gyda thaliadau llog eu morgais, a elwir yn Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn cael ei dalu am y 39 wythnos gyntaf o’ch hawliad.

I gael gwybodaeth bellach am Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais, yn cynnwys pwy sy’n gymwys a faint y byddwch yn ei gael: gov.uk/support-for-mortgage-interest

I gael cyngor a chymorth ar dai gweler tudalennau 37 i 39.

Page 27: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

25moneyadviceservice.org.uk/cy

Budd-daliadau eraill Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu’r Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gredydau treth eraill sy’n dibynnu ar brawf modd, yn amodol ar eich incwm, eich cynilion ac amodau eraill.

Gallwch gael gwybodaeth bellach am holl fudd-daliadau’r wladwriaeth a sut i’w hawlio drwy fynd i’r wefan GOV.UK – gweler gov.uk/benefits-calculators

Credydau Treth Os ydych wedi bod yn gweithio a’ch bod yn cael credydau treth, a'ch bod yn colli'ch swydd, mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith. Gallai’r ffaith nad ydych yn gweithio olygu nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach. Fodd bynnag, gallai’r gostyngiad yn eich incwm aelwyd olygu cynnydd mewn credydau treth eraill.

Os ydych wedi colli'ch swydd a’ch bod yn credu y gallech fod yn gymwys i gael credydau treth oherwydd eich incwm is, dylech gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth ar 0345 300 3900. Neu gallwch weld a ydych yn debygol o fod yn gymwys ai peidio yma: gov.uk/qualify-tax-credits

Os yw eich incwm yn rhy uchel yn awr i fod yn gymwys i gael credydau treth ond eich bod yn credu y gallech golli eich swydd, dylech ystyried gwneud ‘hawliad amddiffynnol’. Mae hyn yn golygu hawlio credydau treth yn awr er mwyn sicrhau eich bod yn y system er y byddwch ond yn derbyn £0. Os ydych wedi colli'ch swydd, mae’n bosibl y bydd eich dyfarniad £0 presennol yn cael ei adolygu. Os byddwch yn aros nes y byddwch yn colli eich swydd i hawlio, bydd ond yn bosibl ôl-ddyddio eich hawliad o un mis.

Mae system budd-daliadau’r DU yn gymhleth. I gael cyngor sy’n seiliedig ar eich sefyllfa chi, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith neu, yng Ngogledd Iwerddon, eich Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau lleol – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Page 28: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

26 moneyadviceservice.org.uk/cy

Hawlio ar eich yswiriant

Yswiriant diogelu taliadau (PPI)

Cynlluniwyd yswiriant diogelu taliadau i’ch helpu i barhau i dalu taliadau ar eich dyledion os na allwch weithio am eich bod yn sâl, rydych yn cael damwain neu rydych yn colli eich swydd. Gelwir hyn hefyd yn yswiriant credyd, yswiriant diogelwch benthyciadau ac yswiriant damweiniau, salwch a diweithdra (ASU).

Efallai y bydd hyn wedi’i werthu i chi gyda’ch morgais, benthyciadau, cardiau credyd neu gardiau siopau. Dylai dalu rhywfaint neu bob un o’ch ad-daliadau pan fyddwch wedi colli eich swydd. Mae’r polisïau hyn fel arfer yn dechrau talu rhwng un a thri mis ar ôl i’ch incwm ddod i ben a byddant yn parhau i gael eu talu am hyd at 12 neu 24 mis.

Darllenwch eich dogfennau yn ofalus i weld a oes gennych unrhyw rai o’r polisïau canlynol:

■ yswiriant diogelu taliadau morgais

■ yswiriant diogelu taliadau ar unrhyw fenthyciadau neu gardiau credyd

■ yswiriant diogelu incwm

■ yswiriant diogelu incwm tymor byr.

Os oes gennych PPI, gwnewch hawliad ar unwaith – mae cyfnod aros fel arfer cyn y bydd eich taliad yn dechrau, ond dylai gwneud yr hawliad yn gynnar olygu taliad prydlon.

Hawliad wedi’i wrthod? Os oes gennych yswiriant a bod eich hawliad yn cael ei wrthod, efallai bod y polisi wedi’i gam-werthu i chi a gallech fod yn gymwys i hawlio iawndal.

Gwybodaeth bellach: Chwiliwch am‘Adennill Yswiriant Diogelu Taliadau a Gamwerthwyd’ ar

 moneyadviceservice.org.uk/cy

Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio cwmni hawlio hawliadau masnachol. Maent fel arfer yn codi 30% o unrhyw iawndal sy’n cael ei ddyfarnu i chi ac nid oes angen yr help hwn arnoch o gwbl.

Awgrym defnyddiol

Oherwydd y ffordd y gwerthwyd polisïau gwarchod taliadau yn y gorffennol, efallai nad ydych yn sylweddoli bod gennych yr yswiriant hwn. Felly mae bob amser yn werth cadarnhau gyda darparwr eich morgais, benthyciad neu gerdyn credyd, hyd yn oed os nad ydych yn credu bod yr yswiriant hwn gennych.

Page 29: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

27moneyadviceservice.org.uk/cy

Gwneud y gorau o’ch tâl colli swydd

Efallai eich bod wedi derbyn cyfandaliad colli swydd. Tra byddwch yn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r arian, mae yna ddau beth y mae angen i chi eu gwneud i ddechrau.

Cam 1 – Rhoi rhywfaint o’r arian o’r neilltu ar gyfer treth.

Felly, os cewch fil treth ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn barod amdano. Mae gwybodaeth bellach ar dudalen 15 am dreth ar dâl colli swydd.

Cam 2 – Rhoi’r arian mewn cyfrif cynilo mynediad hawdd.

Bydd hyn yn golygu y bydd yn ennill mwy o log na chyfrif cyfredol ond bydd yn eich galluogi i gael gafael arno’n gyflym pan fyddwch ei angen.

Mae’r tabl ar y dudalen nesaf yn rhoi rhai syniadau o sut i wneud y defnydd gorau o’ch arian.

Canfod arian parod yn gyflym Angen canfod arian yn gyflym? Cynilwch ar gyfer y pethau rydych eu heisiau drwy dorri’n ôl ar bethau rydych yn eu prynu’n rheolaidd gyda’n hoffer Canfod Arian Cyflym.

Treuliwch bum munud yn mynd i moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/

canfod-arian-parod-yn-gyflym

Sêl

Page 30: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

28 moneyadviceservice.org.uk/cy

Defnyddio eich tâl colli swydd

Dylech ategu eich incwm nes y byddwch yn cael swydd newydd

■ Defnyddiwch y lluniwr Cyllideb ar dudalen 32 i gyfrifo faint sydd ei angen arnoch bob wythnos neu fis, ac am ba hyd y gallwch wneud i’r arian bara.

Cliriwch eich dyledion, os bydd hyn yn llwyddo i leihau eich gwariant i lefel sy’n haws ei reoli

■ Defnyddiwch y lluniwr Cyllideb ar dudalen 32 i gyfrifo effaith yr arbediad wythnosol neu fisol ar ad-daliadau.

■ Mae’r llog a godir ar ddyledion bron bob amser yn uwch na’r llog a delir ar gynilion. Os gallwch, anelwch at glirio unrhyw ddyledion blaenoriaeth cyn gynted ag y bo modd.

■ Edrychwch i weld a oes unrhyw gosbau ad-dalu cynnar ar ddyledion yr ydych yn ystyried eu had-dalu yn llawn.

■ Gallai ad-dalu dyledion effeithio ar unrhyw hawliad am fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd os nad oedd rhaid i chi ad-dalu’r dyledion a’ch bod wedi gwneud hynny o leiaf yn rhannol er mwyn cynyddu eich budd-daliadau drwy leihau eich cynilion. Ond mae’n annhebygol y bydd ad-dalu dyledion blaenoriaeth, megis morgais neu ôl-ddyledion rhent, yn debygol o effeithio ar eich budd-daliadau. Mae hyn yn faes cymhleth felly gofynnwch am gyngor gan gynghorydd budd-daliadau neu ddyledion – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Defnyddiwch fel cyfalaf i ailhyfforddi neu ddechrau eich busnes eich hun

■ Talwch i ailhyfforddi neu ehangu eich sgiliau.

■ Os ydych yn hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, gofynnwch i’r Ganolfan Byd Gwaith (Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon) am gymorth ariannol tra byddwch yn dechrau eich busnes.

Gallwch roi hwb i’ch cynilion pensiwn neu fuddsoddi mewn ffyrdd eraill

■ Cewch ryddhad treth ar y swm y byddwch yn ei dalu i gynllun pensiwn (hyd at uchafsymiau penodol – gweler tudalen 30).

■ Os ydych yn ystyried gwneud hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor gan gynghorydd ariannol – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Awgrym defnyddiol

Ceisiwch gadw rhywfaint o’ch arian colli swydd ar gyfer costau annisgwyl, megis car neu atgyweiriadau i’ch cartref. Y rheol gyffredinol yw y dylech geisio neilltuo swm sy’n gyfwerth â thri mis o wariant hanfodol.

Page 31: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

29moneyadviceservice.org.uk/cy

Os nad ydych eisiau dechrau defnyddio eich tâl colli swydd ar unwaith efallai y byddwch yn dymuno ei gynilo neu ei fuddsoddi.

Cynilo tymor byr risg isel Os bydd angen i chi gael gafael ar yr arian i’ch helpu nawr neu yn y pum mlynedd nesaf, mae cyfrif cynilo yn debygol o fod yn addas. Gallech ystyried er enghraifft:

■ ISA Arian Parod. Mae’r llog yn ddi-dreth ac mae nifer ohonynt yn rhoi mynediad rhwydd i chi at eich arian. Gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn ISA arian parod yn y flwyddyn dreth bresennol 2017-18.

■ Cyfrifon tymor. Os ydych yn hyderus nad oes angen yr arian arnoch yn awr, gallwch gael cyfradd llog gwell fel arfer drwy gytuno i beidio cyffwrdd â'r arian am gyfnod penodol, fel arfer rhwng un a phum mlynedd.

Gwnewch ymholiadau i ganfod y cyfrifon cynilo gorau ar-lein neu edrychwch ar y tablau ‘best buy’ mewn papurau newydd.

Buddsoddiadau tymor hwy Os nad oes angen eich tâl colli swydd arnoch i dalu am bethau ar unwaith, gallech ystyried ei fuddsoddi. Ond os nad ydych yn siŵr am ba hyd y byddwch yn ddi-waith, mae’n bosibl na fydd hyn yn syniad da.

Dros gyfnod o ddeg mlynedd neu fwy, mae buddsoddiadau, megis cyfranddaliadau, yn dueddol o rai elw uwch na chyfrifon cynilo. Ond mae mwy o risg yn gysylltiedig â buddsoddiadau sy’n seiliedig ar gyfranddaliadau oherwydd gall gwerth eich buddsoddiad ostwng yn ogystal â chynyddu, felly nid ydynt yn gartref i arian y gallai fod ei angen arnoch yn fuan neu ar fyr rybudd.

Os nad ydych wedi buddsoddi o’r blaen, neu os oes gennych swm mawr i’w fuddsoddi, gofynnwch am gymorth gan gynghorydd ariannol – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Chwiliwch am ‘Buddsoddi – canllaw i ddechreuwyr' ar

moneyadviceservice.org.uk/cy

Cynilo neu fuddsoddi tâl colli swydd

Pwynt allweddol

Os ydych yn credu y gallai fod angen i chi gael mynediad i’ch arian yn y 5 mlynedd nesaf, bydd cyfrif cynilo yn fwy addas na chyfranddaliadau neu fuddsoddiadau eraill.

Page 32: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

30 moneyadviceservice.org.uk/cy

Defnyddio eich arian colli swydd i roi hwb i’ch pensiwn

Os ydych yn agos at oedran ymddeol, gallech roi rhan neu’ch holl arian colli swydd i mewn i’ch cynllun pensiwn yn y gwaith i roi hwb i’r pensiwn yr ydych ar fin ei dderbyn. Trafodwch hyn gyda’ch adran adnoddau dynol i ganfod sut y gallai gynyddu’r pensiwn y gallech ei gael.

Os yw eich oedran ymddeol peth amser i ffwrdd, gallech fuddsoddi eich arian colli swydd mewn cynllun pensiwn personol i helpu i roi hwb i’ch incwm ar ôl ymddeol. Os ydych yn aelod o NEST, gallwch roi rhywfaint o'ch arian diswyddo yno yn lle..

Gostyngiad treth ar bensiynauMae rhoi arian i mewn i bensiwn yn ffordd treth-effeithlon o fuddsoddi, ond ni fyddwch fel arfer yn gallu cael gafael ar eich cynilion nes y byddwch yn o leiaf 55 mlwydd oed.

Gallai’r swm yr ydych yn ei dalu i mewn i bensiwn eich cymhwyso i gael gostyngiad treth, o fewn cyfyngiadau. Os ydych yn drethdalwr yn y DU, yn y flwyddyn dreth 2016-17, gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn o hyd at 100% o’ch enillion neu lwfans blynyddol o £40,000, pa un bynnag yw’r isaf.

Er enghraifft, os ydych yn ennill cyfanswm o £20,000 yn ystod y flwyddyn dreth, gallwch gael gostyngiad treth ar hyd at £20,000 o gyfraniadau pensiwn.

Mae hwn yn faes cymhleth felly dylech bob amser ofyn am gymorth gan gynghorydd ariannol. Gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Page 33: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

31moneyadviceservice.org.uk/cy

Sut i ymdopi ar lai o arian

P’un a yw eich swydd eisoes mewn perygl neu os ydych yn poeni am doriadau posibl, un o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud ar yr adeg hon yw arolygu eich sefyllfa ariannol a dechrau ei rheoli.

Llunio cyllideb Cyllideb yw rhestr o’ch holl incwm a gwariant. Os ydych eisoes wedi colli eich gwaith, efallai y bydd angen i chi gyllidebu’n ofalus nes y cewch swydd newydd.

Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb ar-lein yn

moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/cynllunydd-cyllideb/start

Neu cwblhewch y Cynllunydd Cyllideb – ar dudalen 32.

Meddyliwch am eich gwariant nad yw’n hanfodol. Allwch chi dorri hyn o’ch incwm os yw’n cael ei ymestyn yn ormodol?

Darganfyddwch sut. Chwiliwch am ‘Rheoli eich arian os yw eich swydd mewn perygl’ yn

moneyadviceservice.org.uk/cy

Cynllunydd cyllideb

Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i gyfrifo sut y gallwch wneud newidiadau er mwyn ymestyn eich arian.

Bydd yr offeryn hwn yn rhoi darlun clir i chi o beth sydd gennych yn dod i mewn a’r arian sydd ei angen i fynd allan.

Ewch i moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/cynllunydd-cyllideb/start

Sêl

Page 34: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

32 moneyadviceservice.org.uk/cy

Adeiladydd cyllideb

Eich incwm £

Budd-daliadau’r wladwriaeth (Lwfans Ceisio Gwaith, Credyd Cynhwysol, arall)

Incwm o unrhyw bolisïau yswiriant

Enillion o unrhyw swyddi neu hunangyflogaeth

Incwm arall (er enghraifft, o gynilion, incwm rhent)

Cyfanswm incwm A

Eich gwariant £

Costau tai (rhent neu forgais, tâl gwasanaeth/rhent tir, y Dreth Gyngor, Cyfraddau yng Ngogledd Iwerddon, cynhaliaeth/atgyweiriadau) ond nid unrhyw symiau sy’n cael eu talu gan y Gostyngiad Treth Gyngor neu Fudd-dal Tai

Biliau’r cartref (trydan, nwy, olew/tanwydd solet, dŵr, ffôn, band eang, teledu)

Bwyd a siopa cyffredinol

Yswiriant (adeiladau, cynnwys, car, bywyd, iechyd, anifail anwes)

Costau teithio (petrol/disel, treth cerbyd, cynnal a chadw car ac MOT, parcio, bws, trên, tiwb, arall)

Ad-daliadau benthyciadau (ar wahân i forgais)

Cynilion arferol

Costau chwilio am waith (papurau newydd, defnyddio’r rhyngrwyd, galwadau ffôn, llungopïo, postio, teithio i gyfweliadau)

Gwariant arall

Cyfanswm gwariant B

Gwarged neu ddiffyg A-B

Page 35: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

33moneyadviceservice.org.uk/cy

Awgrymiadau gwneud arian

Ydych chi'n wynebu diswyddiad? Mae yna lawer o ffyrdd gwahanol i roi hwb i’ch incwm pan fydd cyfnodau caled. Yn yr adran hon rydym yn disgrifio rhai o’r pethau y gallwch eu gwneud.

Gwneud ymholiadau i arbed arian

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cytundebau gorau ar filiau cyfleustodau a biliau eraill. Defnyddiwch fwy nac un gwefan gymharu i chwilio am y cytundeb gorau.

Gwnewch ymholiadau pan fydd angen adnewyddu eich yswiriant car a’ch yswiriant cartref oherwydd gallai nifer o yswirwyr godi tâl uwch os ydych yn ddi-waith.

Chwiliwch i weld a oes ffyrdd eraill o wario llai a siopa’n craff. Chwiliwch am ‘Awgrymiadau i arbed arian’ ar

moneyadviceservice.org.uk/cy

Ceisiwch leihau pethau nad ydynt yn hanfodol. Defnyddiwch ein offeryn Canfod arian parod yn gyflym yn

moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/canfod-arian-parod-yn-gyflym

Cael help gyda biliau gwresogi

Mae gan y rhan fwyaf o’r prif gyflenwyr ynni Ddisgownt Cartref Cynnes i gwsmeriaid sy’n agored i niwed. Bydd pob darparwr tanwydd unigol yn penderfynu pwy y maent yn eu hystyried sy’n agored i niwed. Rhaid bod eich incwm yn isel, ond efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni rhai amodau eraill hefyd, megis cael plant neu unigolyn hŷn neu anabl yn rhan o’ch cartref.

Am wybodaeth cysylltwch â’ch darparwr ynni’n uniongyrchol.

A wyddech chi?

Mae troi eich gwres i lawr un radd yn gallu arbed tua £55 i chi y flwyddyn mewn cartref nodweddiadol. Ffynhonnell: Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Page 36: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

34 moneyadviceservice.org.uk/cy

Cymryd lletywrO dan gynllun gosod ystafell, gallwch ennill hyd at £7,500 y flwyddyn mewn incwm rhent, yn ddi-dâl, os byddwch yn cymryd lletwyr. Fodd bynnag, dylech gofio y bydd unrhyw rent y byddant yn ei dalu yn cael ei ystyried wrth gyfrifo eich hawl i rai budd-daliadau’r wladwriaeth.

Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gan eich darparwr morgais neu landlord.

Dywedwch wrth yswiriwr eich cartref – gallai cael effeithio ar eich yswiriant neu bremiwm.

Chwiliwch am ‘Gosod ystafell’ ar

moneyadviceservice.org.uk/cy

Gwneud gwaith achlysurol

Efallai y gallwch gael rhywfaint o waith dros dro neu waith achlysurol, ond bydd yn effeithio ar eich hawl i gael rhai budd-daliadau’r wladwriaeth.

Am ragor o syniadau chwiliwch am ‘Awgrymiadau da ar gyfer gwneud arian pan fyddwch yn wynebu colli’ch swydd’ yn

moneyadviceservice.org.uk/cy

YSTAFELL I’W GOSOD

Ystafell ddwbl fawr Rhent rhesymol

Ffoniwch am fanylion

Gallai cymharu cytundebau ar ffonau symudol, band eang, teledu lloeren a chardiau credyd, yn ogystal â biliau ynni, arbed cannoedd o bunnoedd i chi bob blwyddyn.

Edrychwch i weld a allwch hawlio ad-daliad treth

Gofynnwch i’ch swyddfa dreth a allwch gael ad-daliad treth nawr bod eich incwm yn is. Os bydd eich enillion yn dod i ben rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn, efallai y bydd gennych rywfaint o lwfans heb ei ddefnyddio ar gyfer y flwyddyn ac y gallwch hawlio ad-daliad treth.

Chwiliwch am ‘Ad-daliadau treth’ ar

moneyadviceservice.org.uk/cy

Awgrym defnyddiol

Page 37: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

35moneyadviceservice.org.uk/cy

Cael help gyda benthyciadau a dyledion

Mae benthyca a chredyd yn rhan o fywyd pob dydd, p’un a yw’n forgais, benthyciad car neu ad-daliadau cerdyn. Mae’r taliadau hyn yn hawdd i’w gwneud pan fydd arian gennych yn dod i mewn, ond gall fod yn anodd os ydych yn colli’ch swydd.

Defnyddiwch eich cynilion i ad-dalu benthyciadau

Nid yw’n gwneud synnwyr eistedd ar eich cynilion tra byddwch yn talu am fenthyciadau drud. Defnyddiwch eich cynilion os oes gennych rai i dalu biliau cerdyn credyd a benthyciadau. Mae cynilion fel arfer yn ennill llai o log na’r llog a godir ar fenthyciadau, felly bydd hyn fel arfer yn gwella eich sefyllfa ariannol.

I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘A ddylech chi gynilo neu glirio eich dyledion’ yn

moneyadviceservice.org.uk/cy

Siaradwch gyda’r bobl y mae arnoch arian iddynt

Os ydych yn dechrau cael problemau gyda’ch dyledion, dylech lunio cyllideb, blaenoriaethu eich dyledion (gweler y dudalen nesaf) a siarad gyda’r bobl y mae arnoch arian iddynt.

I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘Siarad gyda’r bobl y mae arnoch arian iddynt’ yn

moneyadviceservice.org.uk/cy

Gofyn am gymorth os ydych yn cael anhawster gyda dyledion

Os oes gennych bryderon ariannol mawr, y peth olaf y byddwch yn teimlo fel ei wneud yw trafod y rhain gyda dieithryn. Ond, gall fod y peth gorau y gallwch ei wneud.

Y newyddion da yw bod cymorth cyfrinachol, am ddim, ar gael i bawb. Mae Cyngor ar Bopeth, y Llinell Ddyled Genedlaethol, StepChange ac elusennau eraill sy’n darparu cyngor ar ddyledion yn cael eu cynnal gan bobl brofiadol a gwybodus, a fydd yn gallu eich helpu.

Gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46 neu ewch i:

moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/canfyddwr-cyngor-ar-ddyledion/organisations

Page 38: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

36 moneyadviceservice.org.uk/cy

Dyledion blaenoriaeth a dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Drwy dalu’r dyledion cywir yn gyntaf, rydych yn fwy tebygol o allu cadw eich cartref – a’r gwres ymlaen. A thrwy fod yn graff ynghylch sut y byddwch yn ad-dalu, gallech arbed arian hefyd a chlirio eich dyledion yn gyflymach.

Dyledion blaenoriaeth Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Mae’r rhain yn flaenoriaeth oherwydd y canlyniadau difrifol os na fyddwch yn eu talu, er enghraifft gallech golli eich cartref neu gallai eich nwy neu drydan gael eu diffodd. Ond hyn fyddai’r dewis olaf.

Os na fyddwch yn talu’r rhain, gallech orfod mynd i’r llys a gallai hyn arwain at feilïaid yn mynd â’ch eiddo o’ch cartref.

Enghreifftiau o ddyledion blaenoriaeth Enghreifftiau o ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

■ Eich rhent neu forgais (neu fenthyciad arall wedi’i warantu ar eich cartref)

■ Biliau tanwydd

■ Eitemau hanfodol sy’n cael eu prynu drwy hurbwrcas (megis car sydd ei angen arnoch ar gyfer y gwaith)

■ Ôl-ddyledion y Dreth Gyngor (Cymru a Lloegr yn unig)

■ Dirwyon llys a thaliadau cynhaliaeth

■ Trwydded deledu

■ Dyledion treth.

■ Dyledion credyd, megis gorddrafftiau, benthyciadau, hurbwrcas ar eitemau nad ydynt yn hanfodol, cardiau credyd a dyledion catalogau

■ Benthyciadau myfyrwyr (er y dylai ad-daliadau gael eu gohirio os bydd eich incwm yn is na lefel benodedig)

■ Arian sydd wedi’i fenthyca gan ffrindiau a theulu.

Gwybodaeth bellach. Search for ‘Sut i flaenoriaethu’ch dyledion’ yn moneyadviceservice.org.uk/cy

Byddwch yn wyliadwrus o gwmnïau gydag enwau camarweiniol, sy’n swnio fel elusennau dyledion ond sy’n fusnesau mewn gwirionedd. Peidiwch byth â thalu am wasanaethau cyngor ar ddyledion. Defnyddiwch un o’r gwasanaethau sydd ar gael am ddim – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46 neu ewch i

moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/canfyddwr-cyngor- ar-ddyledion/organisations

Page 39: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

37moneyadviceservice.org.uk/cy

Diogelu eich cartref

Os byddwch yn colli eich swydd efallai eich bod yn poeni am golli eich cartref hefyd. Dylech sicrhau bod talu eich rhent neu forgais (neu unrhyw fenthyciad arall sydd wedi’i warantu ar eich cartref) yn flaenoriaeth a gofynnwch am gyngor yn gyflym os byddwch yn profi unrhyw anawsterau.

Os oes gennych broblemau yn talu eich rhent neu forgais, peidiwch dioddef mewn tawelwch – mae help ar gael. Mae nifer o sefydliadau yn cynnig cyngor am ddim ar dai a gallant eich helpu i hawlio unrhyw fudd-daliadau’r wladwriaeth y mae gennych hawl iddynt. Mae gennych hawliau tai hefyd, sy’n sicrhau na ellir eich gorfodi i adael eich cartref heb rybudd.

Shelter (Lloegr a’r Alban)0808 800 4444 shelter.org.uk

Shelter Cymru (Cymru) 0345 075 5005 sheltercymru.org.uk

Gwasanaeth Hawliau Tai (Gogledd Iwerddon)028 9024 5640 housingrights.org.uk

Page 40: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

38 moneyadviceservice.org.uk/cy

Os ydych yn cael anhawster talu eich rhent, gwnewch ymholiadau i weld a ydych yn gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau’r wladwriaeth. Gallai hyn gynnwys:

■ Budd-dal Tai neu’r Credyd Cynhwysol tuag at eich taliadau rhent (gweler tudalennau 23 a 24), neu

■ fudd-daliadau eraill a allai helpu i leddfu’r straen ar eich cyllideb (gweler tudalen 25).

Mynd ar drywydd eich hawliad Budd-dal Tai

Os nad ydych wedi gallu talu eich rhent oherwydd bod eich hawliad Budd-dal Tai wedi’i oedi, cysylltwch â’ch Swyddfa Budd-dal Tai leol i wneud yn siwr eich bod wedi cwblhau’r holl ffurflenni angenrheidiol. Cadwch nodyn o enwau’r bobl y byddwch yn siarad â hwy.

Cysylltwch â’ch landlord ar unwaith

Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau profi anhawster wrth dalu eich rhent, cysylltwch â’ch landlord ac esboniwch eich sefyllfa. Efallai y gallwch ddod i gytundeb gyda hwy i ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion mewn rhandaliadau bob wythnos, yn ychwanegol at eich taliadau rhent arferol. Os ydych yn denant y cyngor, bydd gan eich cyngor lleol bolisi ynglŷn â sut mae’n casglu ôl-ddyledion rhent.

Cael help a chyngor Os yw eich landlord eisiau eich troi allan am nad ydych wedi bod yn talu eich rhent yn brydlon, peidiwch â chynhyrfu. Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i’ch landlord ddilyn gweithdrefnau penodol ar gyfer eich troi allan, a thra bydd hyn yn digwydd, bydd gennych gyfle i gael cyngor a chymorth i ddod o hyd i gartref newydd. Beth bynnag yw eich amgylchiadau, mae help a chymorth am ddim ar gael bob amser.

Gwybodaeth bellach. Chwiliwch am ‘Ôl-ddyledion rhent’ yn

moneyadviceservice.org.uk/cy

Anhawster talu’ch rhent

Shelter (Lloegr a’r Alban)0808 800 4444 shelter.org.uk

Shelter Cymru (Cymru) 0345 075 5005 sheltercymru.org.uk

Gwasanaeth Hawliau Tai (Gogledd Iwerddon)028 9024 5640 housingrights.org.uk

Page 41: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

39moneyadviceservice.org.uk/cy

Os ydych yn berchen ar eich cartref a’ch bod yn cael anhawster i dalu eich morgais, mae yna ddau beth y dylech eu gwneud i ddechrau:

1. Edrychwch i weld a oes gennych yswiriant diogelu taliadau morgais y gallwch ei hawlio i’ch helpu gyda’ch ad-daliadau morgais (gweler tudalen 26).

2. Siaradwch gyda’ch benthyciwr morgais i ganfod a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau’r wladwriaeth i’ch helpu gyda’ch costau tai (gweler tudalen 24).

Os ydych yn credu na allwch barhau i wneud eich taliadau morgais, cysylltwch â’r benthyciwr ar unwaith. Dylai eich benthyciwr drafod gyda chi y ffyrdd y gallwch wneud eich ad-daliadau yn fwy fforddiadwy. Gallai’r rhain gynnwys:

■ lleihau eich ad-daliadau misol drwy ymestyn cyfnod eich morgais

■ cymryd gwyliau talu neu gytuno ar ostyngiad dros dro i’ch taliadau

■ rhentu eich eiddo dros dro tra byddwch yn byw rhywle rhatach

■ rhoi amser i chi werthu eich cartref, oherwydd rydych yn debygol o gael pris gwell nag y byddech petai eich benthycwr yn adfeddiannu eich cartref ac yn ei werthu ar eich rhan.

Help gyda chostau morgais

Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol sy’n dibynnu ar brawf modd, yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, efallai y gallwch gael help gyda’r taliadau llog ar eich morgais, o’r enw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei dalu am 39 o wythnosau cyntaf eich hawliad.

I gael gwybodaeth bellach am Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais, yn cynnwys pwy sy’n gymwys a faint byddwch yn ei gael: gov.uk/support-for-mortgage-interest

Os ydych yn cael anhawster talu eich morgais neu eich bod yn wynebu adfeddiannu, gofynnwch am gyngor ar unwaith. Ffoniwch Linell Gymorth Shelter ar 0808 800 4444.

Anhawster talu morgais

Page 42: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

40 moneyadviceservice.org.uk/cy

Gweithiwch ar eich chwiliad gwaith

Cymorth y wladwriaeth i ddod o hyd i swydd

Bydd eich Canolfan Byd Gwaith (Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon) yn rhoi cymorth a chyngor i chi ar ddychwelyd i’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys:

■ Swyddi gwag – Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith y gronfa ddata fwyaf yn y DU o swyddi gwag (o’r enw Paru Swyddi Ar-lein neu JobCentre Online NI yng Ngogledd Iwerddon).

■ Help a chyngor ar ysgrifennu CV, gwneud cais am swyddi, llenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Gallant drafod gyda chi hefyd yr help ychwanegol a allai fod ar gael os bydd angen help arnoch i ddarllen, gyda mathemateg neu'r Saesneg, neu os oes angen help arnoch i chwilio am swyddi proffesiynol neu weithredol.

Os ydych yn parhau i fod yn ddi-waith ar ôl tri mis, efallai y bydd angen i chi ymuno â Rhaglen Waith. Mae’r rhain yn cael eu cynnal gan sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r llywodraeth ac yn darparu help wedi’i deilwra i baratoi ar gyfer a dod o hyd i waith.

Mae’n bosibl y gall y Ganolfan Byd Gwaith drefnu treial gwaith i chi. Bydd hyn yn eich galluogi i roi cynnig ar swydd i weld ai chi yw’r person cywir ar ei chyfer. Gall treialon gwaith bara am hyd at 30 diwrnod a bydd eich budd-daliadau yn parhau drwy’r cyfnod hwn. Os nad yw’r treial yn llwyddo, ac nad ydych yn cael cynnig swydd, ni fydd hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau.

Chwilio am swydd newydd

Mae swyddi’n cael eu hysbysebu mewn nifer o leoedd, a dangosir rhai ohonynt gyferbyn. Mae hefyd yn werth cysylltu â chyflogwyr yn uniongyrchol, oherwydd nid yw cwmnïau bob amser yn hysbysebu eu swyddi gwag – sy’n golygu y bydd llai o bobl yn gwybod am swyddi gwag ac felly bydd llai o gystadleuaeth ar gyfer y swydd.

CVSgiliauHanes

Cyflogaeth

Page 43: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

41moneyadviceservice.org.uk/cy

Lle? Beth maent yn ei gynnig

Y Ganolfan Byd Gwaith (Paru Swyddi Ar-lein) a’r Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau (Jobcentre Online NI)

■ Y rhain yw cronfeydd data swyddi gwag mwyaf yn y DU.

■ Gallwch gael gwybodaeth am swyddi ar y rhyngrwyd, dros y ffôn, neu ffôn testun os ydych yn drwm eich clyw neu os ydych yn cael anawsterau gyda’ch lleferydd.

■ Gallwch chwilio am swyddi yn Ewrop yn ogystal â’r DU.

Asiantaethau recriwtio

■ Ar gyfer asiantaethau yn eich ardal chi, edrychwch yn eich llyfr ffôn lleol neu cysylltwch â’r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

■ Ar gyfer asiantaethau sy’n cwmpasu mathau penodol o swyddi, edrychwch yn y cyfeirlyfrau busnes a’r rhyngrwyd.

Y rhyngrwyd ■ Mae nifer o gyflogwyr a phapurau newydd yn hysbysebu swyddi ar eu gwefannau.

■ Mae yna asiantaethau cyflogaeth ar-lein hefyd yn ogystal â gwefannau asiantaeth recriwtio leol.

■ Defnyddiwch y rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus os nad oes gennych fynediad eich hun i’r rhyngrwyd.

Papurau newydd

■ Mae nifer o bapurau newydd lleol yn hysbysebu swyddi ac mae papurau newydd cenedlaethol yn aml yn hysbysebu gwahanol fathau o swyddi ar ddyddiau gwahanol .

■ Dylai eich siop bapur newydd neu lyfrgell gyhoeddus allu dweud wrthych am hyn ac unrhyw gyfnodolion masnach arbenigol sy’n hysbysebu swyddi y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.

Cyfnodolion proffesiynol a masnach

■ Os ydych yn chwilio am waith mewn maes penodol, edrychwch i weld a oes cyfnodolyn ar gyfer y math hwnnw o waith – dylai eich llyfrgell gyhoeddus wybod hyn. Mae’r cyfnodolion hyn yn aml yn cynnwys hysbysebion swyddi.

Chwiliwch am swydd newydd

Page 44: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

42 moneyadviceservice.org.uk/cy

Lle? Beth maent yn ei gynnig

Ffenestri siopau

■ Mae siopau, busnesau ac archfarchnadoedd lleol yn aml yn gosod cerdyn yn eu ffenestr neu ar hysbysfwrdd y tu mewn.

Cysylltiadau gwaith

■ Peidiwch â theimlo cywilydd yn sôn wrth bobl eich bod yn chwilio am swydd newydd. Gofynnwch iddynt a ydynt yn gwybod am unrhyw swyddi posibl a allai fod yn addas i chi, yn eu cwmni hwy neu gwmni arall.

Ffrindiau a theulu

■ Efallai y byddant yn clywed am gyfleoedd swyddi, o bosibl yn eu cwmni eu hunain, ac efallai y gallant roi gair da ar eich rhan.

Page 45: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

43moneyadviceservice.org.uk/cy

Ysgrifennu CV effeithiol

Eich CV yw eich porth i gael cyfweliadau. Mae’n bwysig iawn bod eich CV yn tynnu sylw’r sawl sy’n recriwtio a’i fod yn rhoi’r wybodaeth maent yn chwilio amdani.

Defnyddiwch yr ysgrifennydd CV am ddim ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol - gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

I gael help a chyngor am ddim ar ysgrifennu CV effeithiol, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith ar 0345 6060 234.

Gwella eich techneg cyfweliad

Mae cyfweliadau yn gwneud i’r rhan fwyaf o bobl deimlo’n nerfus. Ond gall gwaith paratoi da eich helpu i deimlo’n fwy hyderus a gall wella eich rhagolygon o gael swydd.

Fel rhan o’r broses colli swydd, mae’n bosibl y bydd eich cyn gyflogwr yn cynnig hyfforddiant cyfweliad ac, os ydych wedi ymuno ag asiantaeth recriwtio, byddant yn rhoi cyngor i chi. Mae canllawiau ar gael hefyd ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Page 46: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

44 moneyadviceservice.org.uk/cy

Ystyriwch ailhyfforddiGall colli eich swydd fod yn gyfle i ail-asesu eich uchelgeisiau gwaith. Efallai y byddwch yn penderfynu diweddaru eich sgiliau neu ddysgu rhai newydd i wella eich rhagolygon o gael swydd neu i roi cyfleoedd gwaith newydd i chi.

Cyrsiau hyfforddiantMae yna gannoedd o gyrsiau hyfforddiant sy’n cael eu cynnal mewn colegau lleol a phreifat ar wahanol adegau. Mae’n rhaid i chi dalu am y rhan fwyaf o gyrsiau, ond os ydych yn ddi-waith efallai y byddant am ddim neu am bris gostyngol.

Cysylltwch â cholegau lleol neu Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol (Lloegr), Skills Development Scotland neu Wasanaeth Gyrfaoedd Gogledd Iwerddon neu golegau lleol - gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Os oes diddordeb gennych mewn dysgu o bell, mae Learn Direct yn cynnig ystod eang o gyrsiau y gallwch eu gwneud ar eich cyflymder eich hun ar y rhyngrwyd, neu gallech ystyried cyrsiau sy’n cael eu cynnig gan Y Brifysgol Agored – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

PrentisiaethauFel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth gael eich hyfforddi a gallech ennill cymhwyster yn y pen draw. I gael manylion am gynlluniau prentisiaethau gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Dewisiadau eraill i hyfforddiant ffurfiol Mae yna nifer o bethau eraill y gallwch eu gwneud i gael profiad buddiol, a all wneud i chi deimlo’n fwy hyderus a gwella eich rhagolygon o ddod o hyd i swydd. Gallai’r rhain gynnwys:

■ cymryd gwaith rhan amser neu waith achlysurol

■ cymryd rhan mewn grŵp cymunedol

■ gwirfoddoli.

Fodd bynnag, dylech wneud yn siwr i ddechrau a allai hyn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu hawlio – cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith, neu y Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon, neu gynghorydd budd-daliadau – gweler Cysylltiadau defnyddiol ar dudalen 46.

Page 47: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

45moneyadviceservice.org.uk/cy

Dechrau eich busnes eich hun

Gall gweithio i chi eich hun fod yn foddhaus iawn ac, mewn rhai achosion, yn broffidiol iawn hefyd. Mae’n gyfle i chi wneud rhywbeth sydd wir o ddiddordeb i chi mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw a’ch ymrwymiadau.

Fodd bynnag, mae busnesau newydd yn anwadal iawn ac mae nifer ohonynt yn methu. Nid ydych eisiau ymroi oriau o waith caled a buddsoddi llawer o arian, a bod y busnes yn methu yn y pen draw.

Yn ffodus, os ydych yn ystyried dechrau eich busnes eich hun, mae yna ddigon o help a chyngor ar gael i chi.

Gall y Ganolfan Byd Gwaith (Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon) ddweud wrthych am y cymorth ariannol sydd ar gael i helpu pobl ar fudd-daliadau i ddechrau busnes.

Ewch i wefan GOV.UK am gyfarwyddyd ar sut i gofrestru busnes newydd er mwyn sicrhau eich bod n cyflawni’r rheolau treth, ac am gyngor ar bob agwedd ar ddechrau busnes newydd.

ar agorRydym

Cofiwch

Mae’r neges yn syml – pan fyddwch yn sefydlu busnes, cynlluniwch, cynlluniwch, yna cynlluniwch ychydig mwy.

Page 48: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

46 moneyadviceservice.org.uk/cy

Problemau dyledion

Cyngor ar Bopethcitizensadvice.org.uk/cymraeg/

Elusen Dyledion StepChange0800 138 1111 stepchange.org

Llinell Ddyled Genedlaethol0808 808 4000 nationaldebtline.org

Gwasanaeth Cynghori Ariannol yr Alban0141 572 0237 moneyadvicescotland.org.uk

Debt Action Gogledd Iwerddon028 9064 5919 adviceni.net/advice/debt

Dod o hyd i gynghorydd ariannol

Unbiased.co.ukAr gyfer broceriaid morgais neu gynghorwyr ariannol annibynnol yn eich ardal chi.unbiased.co.uk

Y Sefydliad Cynllunio AriannolI gael help ar ddod o hyd i gynllunwyr ariannol yn eich ardal chi. financialplanning.org.uk/wayfinder

Y Gymdeithas Cyllid PersonolAm gynghorwyr ariannol yn eich ardal.thepfs.org

Cysylltiadau defnyddiol

Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol ac wedi'i sefydlu gan y llywodraeth i helpu pobl gwneud y mwyaf allan o'i arian trwy roi cyngor ariannol diduedd a di-dâl i bawb ledled y DU – ar-lein a dros y ffôn.

Rydyn ni'n rhoi cyngor, awgrymiadau ac offer ar ystod eang o themâu gan gynnwys rheoli arian o ddydd i ddydd, cynilion, cynllunio'ch ymddeoliad a'ch dyfodol, yn ogystal â rhoi cymorth a chyngor am ddigwyddiadau sy'n newid bywyd megis cychwyn teulu neu golli swydd.

Am gyngor a mynediad at ein hoffer a chynllunwyr, ewch i

moneyadviceservice.org.uk/cy

Neu ffoniwch linell Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0800 138 0555

Typetalk 1800 1 0300 500 5000

Page 49: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

47moneyadviceservice.org.uk/cy

Dod o hyd i swydd

Y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth 020 7009 2100 rec.uk.com

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol0800 100 900 nationalcareersservice.direct.gov.uk

Cyngor ar dai

Shelter (Lloegr a’r Alban) 0808 800 4444 shelter.org.uk

Shelter Cymru (Cymru) 0345 075 5005 sheltercymru.org.uk

Gwasanaeth Hawliau Tai (Gogledd Iwerddon) 028 9024 5640 housingadviceni.org

Cyngor ar Bopeth citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Canolfan Gwaith

Canolfan Byd Gwaith (Prydain Fawr) Llinell budd-daliadau: 0800 055 6688 Llinell Ceiswyr Gwaith: 0345 604 3719. Gwnewch ymholiadau gyda’ch darparwr ffôn i ganfod y costau isaf. gov.uk/contact-jobcentre-plus

Swyddi gwag: Paru Swyddi Ar-lein gov.uk/jobsearch

Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau neu’r Swyddfa Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon)

Chwilio am swyddi a budd-daliadau nidirect.gov.uk

Swyddi gwag: Jobcentre Online NI jobcentreonline.com

Awdurdod neu gyngor lleolCyngor lleol – i ganfod eich un chi gov.uk/find-your-local-council

Pensiynau

Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau 0300 123 1047 pensionsadvisoryservice.org.uk

Page 50: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

48 moneyadviceservice.org.uk/cy

Colli Swydd

Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) 0300 123 1100 acas.org.uk

Cyngor ar Bopeth citizensadvice.org.uk/cymraeg

Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (Gogledd Iwerddon) 028 9032 1442 lra.org.uk

Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth employmenttribunals.gov.uk

Ailhyfforddi

Cynlluniau prentisiaethLloegr: apprenticeships.org.uk

Cymru: gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/

Yr Alban: skillsdevelopmentscotland.co.uk/our-services/modern-apprenticeships/

Gogledd Iwerddon: nidirect.gov.uk/apprenticeships

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol0800 100 900 nationalcareersservice.direct.gov.uk

Gyrfa Cymru 0800 028 4844 gyrfacymru.com

Gwasanaeth Gyrfaoedd Gogledd Iwerddon0300 200 7820 nidirect.gov.uk/careers

Learn Direct0800 101 901 learndirect.com

Skills Development Scotland0800 917 8000 skillsdevelopmentscotland.co.uk

Treth

Cyllid a Thollau EM (HMRC)0300 200 3600 hmrc.gov.uk

Page 51: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

49moneyadviceservice.org.uk/cy

Defnyddiwch y dudalen hon i gofnodi'ch nodiadau

Page 52: Y llawlyfr colli swydd - Microsoft€¦ · bryd dewis’ yn moneyadviceservice.org.uk/ canllawiauamddim Ymddeoliad cynnar fel dewis arall i golli swydd Eich pensiwn: mae’n bryd

Y llawlyfr colli swydd yw un o'r canllawiau sydd ar gael o'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol. I gael golwg ar ystod lawn ein canllawiau ac i fynnu gopi, ewch i

moneyadviceservice.org.uk/cy

Llinell Cyngor Ariannol 0800 138 0555* Typetalk 1800 1 0300 500 5000

Ebrill 2017 © Gwasanaeth Cynghori Ariannol Ebrill 2017 Cyfeirnod: CymraegRH0002_W

* Galwadau am ddim. I'n helpu ni i gynnal a gwella ein gwasanaeth, gall galwadau cael eu recordio neu eu monitro.

Gwybodaeth yn gywir adeg mynd i'r wasg (Ebrill 2017)

Os hoffech y canllaw hwn mewn fformat Braille, print bras neu ar ffurf sain cysylltwch â ni ar y rhifau uchod.