4
Y NEGESYDD HAF 2017 RHIFYN 7 Dathliadau Undeb Bedyddwyr Cymru Or Llwyfan Dewch i Nepal yn 2018… ar Ymweliad gydar BMS Rydym yn chwilio am 6-10 person o Gymru i ymweld â Nepal. Bydd y Parchedig Haydn Davies (Llywydd yr Adran Iaith Saesneg) yn arwain y daith gyffrous hon a fydd yn rhoi blas ar waith cenhadol. Pryd? 13-22 Ebrill 2018. Ymhle? 4 diwrnod yn Kathmandu a 4 diwrnod yn Pokhara. Amcan gost? Bydd angen i chi godi tua £1,200. Cyn i chi fynd ar y daith, byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn gan staff profiadol y BMS. Bydd UBC yn barod i gyfrannu swm cyfatebol i fyny at £250 ar gyfer pob unigolyn a fydd yn derbyn rhoddion oddi wrth y Cymanfaoedd neur Eglwysi tuag at gostaur daith. Dyddiad Cau: 29 Medi 2017 Y GYNHADLEDD : TORRI TIR NEWYDD Croesawu Cynrychiolwyr yr Enwadau a r Cyrff Ecwmenaidd ar ddiwedd sesiwn y prynhawn. CEIR MWY O HANES DATHLIADAU MEHEFIN 16eg a 17eg Y TU MEWN: DIGWYDDIADAU DYDD GWENER YN PARHAU AR Y DUDALEN GEFN A HANES CYFFROUS DATHLIAD DYDD SADWRN AR Y DDWY DUDALEN GANOL. Dau lywydd yn cael eu hurddo yn yr un oedfa: Y Parchedig Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb yn sefydlur Parchg Haydn Davies yn Llywydd yr Adran ddi-Gymraeg ar Parchg John Talfryn Jones yn Llywydd yr Adran Gymraeg. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch âr Parchedig Haydn Da- vies ([email protected]) neu Mrs Bonni Davies: 01267 245660 ([email protected])

Y N SY - Resourcing · 2017. 8. 4. · angen i ni ei ddysgu neu ei gyflawni yn ddiymdroi? Ac wrth feddwl am y dyfodol, gofynnodd: A oedd angen i Fedyddwyr Cym-ru ystyried sut y gallwn

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Y NEGESYDD HAF 2017 RHIFYN 7

    Dathliadau Undeb

    Bedyddwyr Cymru

    O’r Llwyfan Dewch i Nepal yn 2018… ar Ymweliad gyda’r BMS

    Rydym yn chwilio am 6-10 person o Gymru i ymweld â Nepal.

    Bydd y Parchedig Haydn Davies (Llywydd yr Adran Iaith Saesneg) yn arwain y daith gyffrous hon a fydd yn rhoi blas ar waith cenhadol.

    • Pryd? 13-22 Ebrill 2018.

    • Ymhle? 4 diwrnod yn Kathmandu a 4 diwrnod yn Pokhara.

    • Amcan gost? Bydd angen i chi godi tua £1,200.

    • Cyn i chi fynd ar y daith, byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn gan staff profiadol y BMS.

    • Bydd UBC yn barod i gyfrannu swm cyfatebol i fyny at £250 ar gyfer pob unigolyn a fydd yn derbyn rhoddion oddi wrth y Cymanfaoedd neu’r Eglwysi tuag at gostau’r daith.

    Dyddiad Cau: 29 Medi 2017

    Y GYNHADLEDD : TORRI TIR NEWYDD

    Croesawu Cynrychiolwyr yr Enwadau a’r Cyrff Ecwmenaidd ar ddiwedd sesiwn

    y prynhawn.

    CEIR MWY O HANES DATHLIADAU MEHEFIN 16eg a 17eg Y TU

    MEWN: DIGWYDDIADAU DYDD GWENER YN PARHAU AR Y

    DUDALEN GEFN A HANES CYFFROUS DATHLIAD DYDD

    SADWRN AR Y DDWY DUDALEN GANOL.

    Dau lywydd yn cael eu hurddo yn yr un oedfa: Y Parchedig Judith

    Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb yn sefydlu’r Parchg Haydn

    Davies yn Llywydd yr Adran ddi-Gymraeg a’r Parchg John Talfryn

    Jones yn Llywydd yr Adran Gymraeg.

    Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’r Parchedig Haydn Da-vies ([email protected])

    neu Mrs Bonni Davies: 01267 245660 ([email protected])

    mailto:[email protected])

  • Dathliadau 150 yr Undeb

    Yn ganolbwynt ar y llwyfan trwy gydol yr Oedfa Agoriadol oedd Teisen y Dathlu o waith Siân Davies o Gwm Gwaun Sir Benfro ac fe’i rhannwyd (ynghyd â thair teisen arall!) i bawb yn ystod yr awr ginio. Roedd yr hufen iâ a fwynhawyd gan bawb o bob oed ar ôl pecyn picnic yr oedolion a ‘pizzas’ y plant a’r ieuenctid hefyd yn gymorth i atgoffa pawb o fod mewn parti mawr.

    Y Gair, y Gymdeithas a’r Genhadaeth: D. Densil Morgan

    Yn ystod y prynhawn, roedd ystafell Teifi wedi ei llenwi gan gyfeillion a ddaeth i wrando ar ddarlith Y Parchedig Athro Emeritws D Densil Morgan. Daliodd ein sylw yn astud drwy’r sesiwn, gyda chymysgfa o ffeithiau a lluniau. Datblygwyd darlun lliwgar ganddo wrth iddo nodi hanes a chefndir eang ein traddodiad gyda’i gyswllt cynnar â’r enwadau eraill. Cyfeiriodd at y newidiadau yn y berthynas rhwng yr eglwys a’r llywodraeth ac hefyd, at ddatblygiadau cynnar Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Soniodd am y cyfnod allweddol yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i’r chwyldro diwydiannol greu angen am eglwysi a chapeli i ymateb i ofynion y boblogaeth a oedd yn tyfu yn y trefi diwydiannol. Tra oedd diwygiadau’r gorffennol wedi gadael eu hôl ar eglwysi’r Undeb, gyda thristwch y cafwyd dirywiad yn dilyn y ddau Ryfel Byd. Ond eto, roedd y siaradwr yn ffyddiog y gwelid datblygiadau cadarnhaol yn hanes yr eglwys yn y dyfodol. Mawr yw ein diolch am gyfraniad yr Athro Densil Morgan i ddigwyddiadau’r dydd, ac am ei barodrwydd i gydlynu'r ddau lyfr ardderchog a gyhoeddwyd i ddathlu pen-blwydd arbennig yr Undeb.

    Parchedig Ieuan Elfryn Jones

    Tyrrodd dros 400 o bobl, plant ac ieuenctid o bob rhan o Gymru i Ganolfan yr Halliwell ar y dydd Sadwrn ar gyfer ‘Dathliad’ ar gyfer y teulu Bedyddiedig cyfan. Darlun hyfryd iawn i’r llygad, yn yr oedfa Agoriadol a’r Oedfa Glo, oedd gweld pob un o bob oed yn moli’r Arglwydd mewn llawenydd yn unol ag anogaeth Salm 150.

    DIOLCH YN FAWR!

    Diolch o galon i’r canlynol am y nawdd a dderbyniwyd ar gyfer y dathliadau: SWBA, Cwmni Dai Lewis, Gwasg Gomer, Infinity Document Solutions, S & A Stationers, Ecclesiastical, Cross & Bowen a Chwmni Cyfreithwyr Pothecary Witham Wells. Diolch hefyd i’r Parchedig Eirian Wyn, Mr Hefin Parri Robert a’r Parchedig Bryan Ford am dynnu lluniau’r digwyddiad.

    Pawb a’i Farn Yng nghwmi’r cyflwynydd radio a theledu Dewi Llwyd, a’r panelwyr, y Barchg Ddr Jennie Hurd, Ms Ann Beynon, Parch Ddr Noel Davies a Mr John Davies gwahoddwyd y cwestiynau canlynol o blith y gynulleidfa: Mae'n hen bryd i Undeb y Bedyddwyr ac Undeb yr Annibynwyr uno â’i gilydd. Beth yw barn y panel? (Mrs Iris Owen, Caerfyrddin). Mae’r Llywodraeth yn gobeithio sicrhau y bydd miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Oes gan yr eglwysi gyfraniad i’w wneud? (Mr Gwilym Dafydd, Tonyfelin). Onid oes angen cyfryngau newydd i gyfathrebu’r neges Gristnogol i gwrdd â gofynion ein hoes? (Y Parchedig Wynn Vittle, Caerfyrddin). Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hannog i basio deddfwriaeth a fydd yn dileu’r angen i gynnal gwasanaeth addoli crefyddol yn ein hysgolion. Pa ddyfodol sydd yna i wasanaethau Cristnogol yn ein hysgolion gan gofio hefyd fod cyn lleied o’n hathrawon yn mynychu eglwys neu gapel? (Mrs Eirian Dafydd, Tonyfelin). Cafwyd trafodaeth arbennig o fywiog a diddorol wrth i’r panel ac aelodau o’r gynulleidfa ymateb.

    Cymru i’r Byd: Dai Woolridge, Sound of Wales mewn partneriaeth â

    Chymdeithas y Beibl Y sesiwn olaf i’w chynnal yn Theatr yr Halliwell oedd cyflwyniad Dai a Cath Woolridge a Sound of Wales. Trwy gyfrwng caneuon a geiriau, cawsom gyfle i ddathlu ein treftadaeth ysbrydol wrth wrando ar hanesion pobl fel William Morgan, Daniel Rowland, Howell Harris, Thomas Charles a Jermain Thomas. Nid yn unig yr oedd y sesiwn hon yn gofnod o’r gorffennol ond roedd hefyd yn gyfle i ymateb mewn diolchgarwch ac ymrwymiad am ein bod yn rhan o’r stori sy’n parhau yma yng Nghymru.

    Parchedig Susan Stevenson

    Rhwng y ddwy oedfa o dan arweiniad Martyn Geraint bu’r plant a’r ieuenctid yn mwynhau gweithgareddau yn y Neuadd Chwaraeon tra bu’r oedolion yn mynychu dewis o seminarau amrywiol. Diolchir i’r cyfranwyr a ddanfonodd adroddiadau.

    Daeth yn amlwg fod pawb o bob oed yn mwynhau hufen iâ.

  • Diolchir i bawb a gyfrannodd i’r casgliadau a wnaed yn ystod y Dathlu.

    Casglwyd £329 i’r BMS a £1,066.30 i drychineb Tŵr Grenfell.

    Arddangosfa o Liw a Llun: Kevin Davies Cafwyd awr arbennig iawn yng nghwmni’r Parchedig Kevin Davies wrth iddo ein tywys i fyd gosod blodau yng nghyd-destun neges yr Efengyl. Roedd y pwyslais ar ddefnyddio gwyrddni a blodau tymhorol. Yn gyntaf, cawsom fynd i’r briodas yng Nghana Galilea pan ddaeth yr Arglwydd Iesu i’r adwy a throi’r dŵr yn win. Darluniwyd hynny mewn gosodiad o flodau pinc a phorffor golau. Wedyn, buom yn hwylio ar Fôr Galilea – y blodau yn las ac yn wyn – a’r disgyblion yn cael llwyddiant ar ôl i’r Iesu ddweud wrthynt am daflu eu rhwydau i ochr arall y cwch. Ac i ddiweddu, cafwyd dehongli-ad o’r Pentecost a Dyfodiad yr Ysbryd Glân mewn blodau coch, oren a melyn. Mae dathliad yn haeddu blodau ac yn sicr fe gafwyd hynny yng nghyflwyni-ad cyfoethog y Parchedig Kevin Davies.

    Miss Aldyth Williams

    A fydd yna unrhyw fath o Gristnogion yn y Dyfodol, heb sôn am Fedyddwyr? Treuliwyd awr ddiddorol dros ben yng nghwmni'r Parchedig Ddr Nigel Wright, ysgolhaig sy’n adnabyddus iawn am ei lyfrau diwinyddol, yn ogystal â'i waith arbennig yn hyfforddi cenedlaethau o weinidogion Bedyddiedig. Aeth Nigel i'r afael â’r cwestiwn canlynol: beth fydd natur a ffurf yr enwad, ac yn wir, natur a ffurf yr eglwys gyfan yn y dyfodol agos? Ar ôl iddo drafod rhai ystadegau eithaf negyddol, cawsom ychydig o gysur ganddo wrth iddo egluro bod arddull cyfathrebu’r byd o'n cwmpas wedi newid, a bod angen i’r eglwys heddiw addasu. Ond cyfeiriodd hefyd at rai pethau na ddylid cyfaddawdu yn eu cylch, gan gynnwys athrawiaeth uniongred yr eglwys. Yn dilyn hyn, cafwyd trafodaeth ddiddorol mewn perthynas ag athrawiaeth uniongred yng nghyd-destun diwinyddiaeth Fedyddiedig. Yn rhy fuan o lawer, daeth yr awr i ben! Parchedig Ddr Rosa Hunt

    Ystyried beth yw bod yn ddisgybl: yr Athro John Drane

    Yn ystod y seminar Ystyried beth yw bod yn ddisgybl, cawson ein herio gan yr Athro John Drane i ystyried yn ofalus beth yw bod yn ddisgybl wrth iddo ein harwain drwy nifer o ddigwyddiadau ym mywyd yr apostol Pedr. Yn yr Efengylau, gwelwn Pedr a’i gyd-bysgotwyr yn ymateb i weledigaeth fawr Iesu am deyrnas Dduw ac yn cychwyn ar yr anturiaeth o fod yn ddisgyblion iddo. Ar y dechrau nid oedd gan Pedr nac un o’r disgyblion eraill unrhyw syniadau diwinyddol pendant am bwy oedd Iesu. Yna wrth i’r stori symud i Cesarea Philipi (yn Marc 8) canfyddwn fel y gofynnir i Pedr adlewyrchu ar ei brofiad o fod gyda Iesu, ac mewn ymateb mae’n cyffesu mai Iesu yw’r Meseia. Ar y naill llaw mae adroddiadau’r Efengylau yn awgrymu y profodd Pedr droedigaeth ddramatig, ond ar y llaw arall y mae rhai digwyddiadau yn peri i ni holi faint o droedigaeth a gafodd Pedr mewn gwirionedd? Pan welwn Pedr yn tynnu ei gleddyf er mwyn amddiffyn Tywysog Tangnefedd (Ioan 18:10-11) neu’n gwrando arno yn gwadu Iesu deirgwaith (Ioan 18:15-27), daw’n glir nad yw troedigaeth Pedr wedi cyrraedd ei llawn dwf. Mewn modd cyffelyb, mae’r cyfarfyddiad â Cornelius ym mhennod 10 o Lyfr yr Actau yn dangos bod angen i’r disgybl aeddfed honedig hwn o’r enw Pedr gael ei argyhoeddi o’i hiliaeth. Yn y seminar hwn a oedd yn ddealladwy i bawb, dangosodd John Drane sut yr oedd Iesu wedi meithrin disgyblion drwy gyfrwng profiadau amrywiol ac yna wedi gofyn iddynt i fyfyrio ar y profiadau hynny. I ni, fel yn hanes yr apostol Pedr, nid digwyddiad unwaith ac am byth yw dod yn Gristion aeddfed ond mae’n broses sy’n gofyn i ni fyfyrio yn ddiwinyddol ar faterion a chwestiynau sy’n codi o ddydd i ddydd. Nid yw bod yn ddisgybl yn fater o gasglu gwybodaeth yn unig ond mae’n fater o gael ein ffurfio i fod yn Grist debyg. Y mae bod yn ddisgybl yn broses ac nid yn rhaglen gan fod yna bethau newydd i ni eu dysgu bob dydd. Bu’r seminar yn anogaeth i bob un ohonom barhau i dyfu fel disgyblion ac i greu gofod er mwyn i eraill dyfu fel disgyblion hefyd.

    Parchedig Ddr Peter Stevenson

    Bedyddwyr –Gwersi o’r Gorffennol, Ffydd ar gyfer Heddiw a Gobaith ar

    gyfer ein Dyfodol Mewn ystafell a oedd yn llawn i’r ymylon, fe’n harweiniwyd gan Roy Jenkins mewn trafodaeth gyffrous ar y bywyd bedyddiedig: y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Tri bedyddiwr amlwg oedd aelodau’r panel: Densil Morgan, David Kerrigan a Nigel Wright. Yn ei ffordd arbennig ei hun, holodd Roy gwestiynau a oedd yn canolbwyntio ar addoli, y gymdeithas a’r Ysgrythur. Wrth edrych yn ôl i’r gorffennol, gofynnodd Roy: Pa fewnwelediad hanesyddol sydd yn cyfiawnhau ein bodolaeth barhaus? Wrth feddwl am heddiw, gofynnodd: Beth sydd angen i ni ei ddysgu neu ei gyflawni yn ddiymdroi? Ac wrth feddwl am y dyfodol, gofynnodd: A oedd angen i Fedyddwyr Cym-ru ystyried sut y gallwn symud o natur or-chestol i ddysgu mwy am ddyfalbarhad a dycnwch. Ysgogodd y cwestiynau drafodaeth fywiog. Dywedodd Densil Morgan er ein bod yn edrych yn ôl yn hiraethus at y cyfnod pan oedd yr enwad yn gryf yn y gorffennol, mae’n debyg na fu ein hadeiladau mawrion erioed yn llawn. Roedd Densil wedi’i ysbrydoli o glywed am y gwaith a gyflawnwyd gan eglwysi a chymanfaoedd heddiw. Cyfaddefodd mai gwaith ar raddfa fechan oedd yn cael ei gyflawni ond mynnodd na ddylid dirmygu y ‘pethau by-chain’. Wrth siarad am genhadaeth ac estyn allan, cyfeiriodd David Kerrigan at yr angen i fod yn ymwybodol o wahanol fathau o gen-hadaeth ac i ganfod ffyrdd o symud cenha-daeth y tu hwnt i furiau eglwys. Y themâu pwysig a ddeilliodd o’r drafodaeth oedd Y Gair, Y Gymdeithas a’r Genhadaeth. Wrth gloi’r drafodaeth gofynnodd Roy i’r pan-elwyr i enwi un person o bwys i’r bywyd bedyddiedig. Cyfeiriodd Densil at yr hanesydd Joshua Thomas. Cyfeiriodd Nigel at y New Connexion General Baptist Leader

    o’r ddeunawfed ganrif, Dan Taylor, a oedd bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i rannu’r Efengyl. Atgoffodd David y rhai oedd yn bresennol fod Hannah Marshman wedi cynorthwyo i sefydlu gwaith cenhadol cynnar yn Serampore. Wrth gwrs, fel y soniodd David, ni dderbyniodd Hannah eri-oed y sylw haeddiannol am ei gwaith, yn wahanol i’r dynion, Triawd Serampore, fel a gofnodir yn y llyfrau hanes. Er hynny, bu’n ddygn gyda’r gwaith y galwyd hi iddi. No-dyn amserol i’n hatgoffa bod ffyddlondeb i waith Duw yn mynnu dycnwch a dyfalbarhad ac na ddylid byth dirmygu diwrnod y pethau bychain.

    Parchedig Ddr Karen Smith

    Beth yw gweithio ond creu cân? Mererid Hopwood a Tecwyn Ifan

    I’r Cymry Cymraeg yn ein plith, hon oedd seminar ola’r dydd, ac ar ôl y dathliadau campus mawr oedd yr edrych ymlaen. Bu’n gyfarfod poblogaidd iawn. Orig yng nghwmni Dr. Mererid Hopwood a’r Parch Tecwyn Ifan oedd hon, a phwy yn well i gau pen y mwdwl ac ymlacio yn eu cwmni! Ond nid felly yn union y bu. Er yr awyrgylch ysgafn, hwyliog, cawsom hefyd ein procio a’n dwysbigo gan ambell gerdd o eiddo Mererid ac ambell gân gan Tecwyn. Roedd mwy nag un cerdd a chân yn peri i ni holi ein hunain am ein teyrngarwch i’n hiaith a’n gwlad a’n cyd-ddyn, hyn oll yng ngoeuni'r egwyddorion hynny y dylem fod yn eu harddel fel Cristnogion. Erys eu cyfraniad fel dwy gannwyll ddisglair ar y gacen pen-blwydd!

    Mrs Cath Williams

  • Ar fore heulog braf, daeth cynrychiolwyr eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru ynghyd i Ystafell Cothi yn Theatr yr Halliwell ar safle’r Brifysgol ar gyfer y ddau sesiwn cyntaf o’r gynhadledd, gyda chinio ym Mwyty Myrddin ar hanner dydd.

    Cynhadledd Undeb Bedyddwyr Cymru 2017 “Dathlu 150 mlwyddiant Undeb Bedyddwyr Cymru” oedd thema’r gynhadledd flynyddol a gynhaliwyd eleni yng Nghanolfan yr Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Gyda’r Undeb yn dathlu pen-blwydd y gynhadledd gyntaf a gynhaliwyd erioed, achubwyd ar y cyfle i ddathlu mewn modd gwahanol iawn. Gwahoddwyd y ddwy adran sy’n ffurfio Undeb Bedyddwyr Cymru - yr Adran Gymraeg a’r Adran Ddi-gymraeg - i ddod at ei gilydd i gynnal cyfarfodydd ar y cyd dros ddau ddiwrnod. Croeso ac Addoliad: Llywyddion sesiwn y bore oedd cyn-lywydd UBC, y Parchedig Ieuan Elfryn Jones (yn absenoldeb anorfod y llywydd y Parchedig Peter Dewi Richards) a llywydd BUW y Parchg Mark Thomas. Cyflwynwyd y croeso a’r defosiwn gan y ddau lywydd yn y ddwy iaith, gyda chyfieithiad ar y pryd yn cael ei ddarparu ar gyfer y rhai di-Gymraeg. Canwyd yr emynau, gyda’r geiriau Cymraeg a Saesneg ar y sgrin fawr, yn ôl dewis yr unigolyn. Cofiwyd yn arbennig yn y gweddïau am y rhai a ddioddefodd o dan law’r terfysgwyr a’r rhai a effeithiwyd gan y tân erchyll yn fflatiau Grenfell yn Llundain yn ystod yr wythnos. Y Cyfarfod Busnes: Dilynwyd yr addoliad gan y cyfarfod busnes pryd y bu cadeiryddion bob pwyllgor a Bwrdd yn cyflwyno eu hadroddiadau yn eu tro a’r cynrychiolwyr yn cael siawns i’w trafod a’u derbyn yn ffurfiol. Cafwyd siawns hefyd i glywed am weithgareddau Mudiad y Chwiorydd dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i’r llywydd, yr is-lywydd a’r ysgrifennydd gynnal sgwrs fach hamddenol. Is-lywyddion: Wedi derbyn cofnodion y Cynghorau fel dogfennau cywir, cyflwynwyd gan y Parchedig Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, yr is-lywyddion am 2017-2018. Enwebwyd y Parchg Terry Broadhurst, o Gymanfa Penfro, yn is-lywydd yr Adran Saesneg a’r Parchg Aled Davies o Gymanfa Arfon, yn is-lywydd yr Adran Gymraeg. Derbyniwyd y ddau enw’n unfrydol a nodwyd y byddai Undeb Gymraeg 2018 yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn ar Fehefin 11-13. Lansio Llyfrau: Ar derfyn y cyfarfod busnes cafwyd cyfle i lansio’r gyfrol a argraffwyd yn arbennig ar gyfer y Dathlu, sef Undeb Ysbryd a Rhwymyn Tangnefedd: Crynodeb o hanes Undeb Bedyddwyr Cymru 1866-2016 a olygwyd gan yr Athro Emeritws D Densil Morgan ynghyd â’r gyfrol Saesneg a argraffwyd. Cyflwynwyd gan Yr Athro hefyd y gyfrol ddiweddaraf o’r Trafodion. Lansiwyd hefyd dwy gyfrol arall sef “Open Hands, Open Heart” a ysgrifennwyd gan y Parchg Ifor Williams pan achubodd ar y cyfle a gynigiwyd gan gynllun Cyfnod Sabothol Undeb Bedyddwyr Cymru; a chyfrol Mrs Einir Wyn Jones “O Big y Gigfran”. Ffilm y Dathlu: Cyfeiriwyd ar ddiwedd y cyfarfod at y ffilm a gynhyrchwyd ar y cyd gan y Parchg Peter Thomas ac Elin Rhys o Gwmni Telesgop yn arbennig ar gyfer y dathliad ac sydd ar gael bellach ar wefan UBC ac ar You Tube. Cyflwyniadau’r Cymanfaoedd: Mewn ymgais i roi cyfle i’r gwahanol Gymanfaoedd ddod i adnabod ei gilydd yn well, gwahoddwyd pob un ohonynt i roi cyflwyniad o’r hyn ’roedd yn digwydd o fewn pob Cymanfa yn ei thro. Wrth groesawu pawb ynghyd rhannodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol ei gobaith y

    Mae hanes mwy manwl o’r ddau ddiwrnod i’w gweld yn rhifynnau

    5118 a 5119 o Seren Cymru

    Graham Oakes ac Anne Thomas, aelodau o Mount Pleasant, Coed Duon, oedd y

    cyfeilyddion yn addoliad y bore - un ar yr allweddellau a’r llall ar y ffliwt.

    Daeth Cynhadledd Ddwyieithog Undeb

    Bedyddwyr Cymru 2017 i ben mewn modd nad

    yw’n arferol i’r Adran Gymraeg, sef trwy gyd

    gyfranogi o’r Cymun Bendigaid. Roedd hynny

    trwy wahoddiad aelodau Ebeneser Rhydaman,

    a gyda’r Parchg Haydn Davies, Llywydd BUW

    yn gweinyddu.

    byddai’r sesiwn yn gyfle i’r Cymanfaoedd galonogi ei gilydd - ac yn wir dyna a ddigwyddodd. Soniwyd am sêr disglair yn ymddangos mewn awyr dywyll ac am yr egin gwyrddion yn tyfu allan o’r boncyffion. Bu’r sesiwn hyfryd yma’n gyfle i ddathlu beth yr oedd Duw yn ei wneud. Oedfa’r Llywyddion: Bu’r Oedfa Hwyrol a gynhaliwyd yn Theatr yr Halliwell yn oedfa arbennig iawn gyda defod urddo’r ddau lywydd gyda’i gilydd yn gofiadwy, yn effeithiol ac yn fendithiol. Seliodd y Parchg John Talfryn Jones ei neges ar I Brenhinoedd 14, 25-27 wedi ei gyplysu gydag Ioan 12, adnod 25 gan ddatgan, Os nad yw Ef yn Arglwydd ar y cwbl, nid yw’n Arglwydd o gwbl. Nid yw’n arferiad gan Lywydd yr Adran Saesneg i draethu anerchiad ond cyhoeddwyd neges y Parchg Haydn Davies - a seliwyd ar Eseia 49, adnod 15 - ynghyd â neges y Parchg John Talfryn Jones mewn llyfryn a argraffwyd gan Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae copïau o’r llyfryn ar gael o Swyddfa Undeb Cymru, Caerfyrddin (rhif ffôn: 01267 245660). Bu’n gynhadledd fendithiol iawn, gydag aelodau’r Adran Gymraeg a’r Adran Ddi-Gymraeg wedi elwa o fod yng nghwmni ei gilydd a Duw wedi bod yn amlwg iawn yng nghanol y gweithgareddau.