67
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 1 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017 Adroddiad Blynyddol 2016-17 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017 I gael rhagor o gopïau o’r adroddiad hwn, copïau o’r cyfrifon archwiliedig cyflawn ac unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r Bwrdd Iechyd cysylltwch â : Mr Robert Williams, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol / Ysgrifennydd y Bwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Tŷ Ynysmeurig, Parc Navigation, Abercynon, Rhondda Cynon Taf, CF45 4SN.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

  • Upload
    lenhi

  • View
    219

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 1 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Adroddiad Blynyddol 2016-17

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017

I gael rhagor o gopïau o’r adroddiad hwn, copïau o’r cyfrifon archwiliedig cyflawn ac unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r Bwrdd Iechyd cysylltwch â :

Mr Robert Williams, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol /

Ysgrifennydd y Bwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Tŷ Ynysmeurig, Parc Navigation, Abercynon,

Rhondda Cynon Taf, CF45 4SN.

Page 2: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 2 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

CYNNWYS

Rhif Tudalen

Cyflwyniad 3

Croeso gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr 6

Amdanom ni 11

Ein Llwyddiannau 15

Adroddiad Perfformiad Trosolwg Dadansoddiad Perfformiad Adroddiad Cynaliadwyedd

17 19 29 38

Ein Staff 55

Addysg, Hyfforddiant, Ymchwil a Dysgu 61

Dogfennau allweddol

Cyfrifon Blynyddol Cymeradwy 2016-2017

Adroddiad Atebolrwydd Cymeradwy 2016-2017 o Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol o Adroddiad Cydnabyddiaethau a Staff o Adroddiad Archwilio ac Atebolrwydd Cynulliad

Cenedlaethol Cymru

Cynllun Tymor Canolig Integredig Cymeradwy Cwm Taf 2016-2019

Crynodeb o’r Cynllun Tymor Canolig Integredig 2016-2019

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2016-2017

Dogfennau Cyfeiriol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Cyfrifon Blynyddol Cymeradwy (Cymeradwywyd 31 Mai 2017)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Adroddiad Atebolrwydd 2016-2017 Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Cynllun Tymor Canolig Integredig 2016-2019

Page 3: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 3 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2016-17

Beth welwch chi yn ein Adroddiad Blynyddol?

Cyflwyniad

Yn 2015-16, bu Trysorlys Ei Mawrhydi yn gweithio ar brosiect i symleiddio a moderneiddio’r ffordd y caiff yr Adroddiad a’r Cyfrifon blynyddol eu cyflwyno. O’r herwydd, mae Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, sef y canllaw cyfrifo technegol ar gyfer paratoi datganiadau ariannol, wedi diwygio fformat yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol y mae’n ofynnol i gyrff y GIG eu cyhoeddi. Y gofyniad nawr yw cyhoeddi adroddiad a chyfrifon blynyddol tair rhan yn un ddogfen.

Mae Adroddiad Blynyddol 2016-17 yn rhan o gyfres o ddogfennau sy’n sôn am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a’i waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys y gofal yr ydym ni’n ei ddarparu a’r cynnydd a wnaethom gyda’n cynlluniau i ddarparu gwell gwasanaethau i gymunedau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut yr ydym ni wedi perfformio yn ystod 2016-17, o’i gymharu â thargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru a rhai lleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a sut y byddwn ni’n gwella y flwyddyn nesaf. Bydd hefyd yn egluro pa mor bwysig yw hi i weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid i ddatblygu a darparu gwasanaethau gwell sy’n cwrdd ag anghenion ein cymunedau.

Wrth symud i’r dyfodol, caiff ein blaenoriaethau eu llywio gan ein “Cynllun Tymor Canolig Integredig 2016-19” cymeradwy, sy’n nodi ein hamcanion a’n cynlluniau hyd at 2019. Gallwch ddarllen hwn a dod i wybod mwy amdanom ni trwy ymweld â’n dolen ar-lein isod: Cynllun Tymor Canolig Integredig 2016-2019. Mae’n bwysig nodi hefyd ar adeg ysgrifennu’r ddogfen hon, rydym wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod ein Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2017 – 2020 wedi ei dderbyn.

Rydym hefyd, gyda’n partneriaid, gan gynnwys Cyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf a’n Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid, wedi llunio fersiwn gryno o’r ddogfen hon ar gyfer y cyhoedd, sydd hefyd ar gael ar-lein yn Gymraeg a Saesneg: Cynllun Tymor Canolig Integredig 2016-19

Os ydych chi’n edrych am wybodaeth am gyflogau, taliadau a chydnabyddiaeth ariannol uwch-reolwyr neu gyfarwyddwyr, gallwch ddod o hyd i hyn yn yr Adroddiad Atebolrwydd sy’n dechrau ar dudalen 76 o’r adroddiad.

Page 4: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 4 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Eleni, oherwydd bod yn rhaid i’n Hadroddiad Blynyddol ganolbwyntio ar dri adroddiad allweddol, ac er mwyn helpu i’w gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud yw clicio, ac mae dau adroddiad wedi’u darparu trwy ddolen electronig:

Mae’r Adroddiad Atebolrwydd yn nodi ein gofynion atebolrwydd allweddol dan Ddeddf Cwmnïau 2006 a Rheoliadau Cwmnïau a Grwpiau Mawr a Chanolig (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008. Cafodd yr Adroddiad Atebolrwydd ei dderbyn a’i gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol mewn cyfarfod cyhoeddus o’r Bwrdd a gynhaliwyd ar 31 Mai 2017. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys nifer o adroddiadau allweddol eraill, gan gynnwys: o Yr Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol (t6) - mae hwn yn egluro cyfansoddiad a

threfniadaeth strwythurau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a sut maent yn cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion yr endid. Paratowyd yr adroddiad gan Ysgrifennydd y Bwrdd a’r tîm Gwasanaethau Corfforaethol, a’r brif ddogfen yw’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (AGS - t7). Cafodd yr adroddiad hwn ei lunio gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o adolygiad o’r Bwrdd a busnes ei Is-bwyllgorau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a chafwyd mewnbwn gan y Prif Weithredwr, fel y Swyddog Atebolrwydd, y Weithrediaeth ac Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio;

o Yr Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff (t 69) - Mae’r adran hon yn cynnwys

gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol uwch-reolwyr, cymarebau cyflog teg, cyfraddau absenoldeb salwch staff ac ati. Cafodd ei baratoi gan yr adran Gyllid a chyfarwyddiaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol; a chyfarwyddiaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol; a’r

o Adroddiad Atebolrwydd ac Archwilio Seneddol y Cynulliad Cenedlaethol (t 84) – Mae’r

adran hon yn cynnwys amrywiaeth o ddatgeliadau ar reoleidd-dra gwariant, ffioedd a thaliadau, cydymffurfiad â’r dyraniadau cost a’r gofynion codi tâl a bennir yng nghanllaw Trysorlys ei Mawrhydi, rhwymedigaethau amodol sylweddol o bell, tueddiadau gwariant hirdymor a’r dystysgrif a’r adroddiad archwilio. Er mwyn dod o hyd i ddogfennau’n hawdd, mae dolenni electronig wedi’u darparu i’r Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol a dogfennau perthnasol. Cymeradwywyd a mabwysiadwyd y rhain gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn ei gyfarfod ar 31 Mai 2017.

Ein Hadroddiad Perfformiad, sy’n nodi sut y gwnaethom berfformio yn ystod 2016-17 yn erbyn y targedau a osodwyd yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru a thargedau lleol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a sut y byddwn yn mynd ati i wella ymhellach yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae ein Cyfrifon Ariannol 2016-17, a fabwysiadwyd a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol, yn ei gyfarfod ar 31 Mai 2016, yn nodi sut yr ydym wedi gwario ein harian ac wedi bodloni ein rhwymedigaethau dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Mae dolen electronig wedi’i darparu er mwyn dod o hyd yn hawdd i’r cyfrifon cymeradwy llawn yma; Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf – Cyfrifon Blynyddol Cymeradwy 2016-17.

Page 5: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 5 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Ein Datganiad Blynyddol ar Ansawdd (AQS) 2016-17, yw ein dogfen gyhoeddus. Mae’n rhoi’r manylion am yr hyn yr ydym wedi ei wneud i wella ansawdd ein gwasanaethau i’n cymuned, a chaiff hwn ei gyhoeddi a’i lansio ochr yn ochr â’n Hadroddiad Blynyddol. Gellir cael dolen electronig i’n Datganiad Blynyddol ar Ansawdd 2016-17.

Os oes angen unrhyw un o’r cyhoeddiadau hyn arnoch chi mewn print neu mewn fformat arall, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Pencadlys Corfforaethol, Tŷ Ynysmeurig, Parc Navigation, Abercynon, Rhondda Cynon Taf CF45 4SN Ffôn: 01443 744800 E-bost: [email protected] Website: http://cwmtaf.wales

Page 6: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 6 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Dr C D V Jones (Cadeirydd) Mrs A Williams (Prif Weithredwr)

Hwn yw’r Adroddiad Blynyddol olaf y byddwn ni’n ein gyflwyno ar y cyd, gan fod fy amser i fel Cadeirydd yn dod i ben ym mis Medi 2017, ar ôl gwasanaethu’r uchafswm amser y mae’r Rheoliadau yn eu caniatáu. Byddwn hefyd yn colli (am yr un rheswm) dri Aelod allweddol arall o’n Bwrdd; John Hill-Tout; y Cynghorydd Clive Jones ac Anthony Seculer, ac fe hoffem ni ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth a’u hymroddiad i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol ers sawl blwyddyn. Fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol, rwy’n falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyd-gyflawni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf dros yr wyth mlynedd diwethaf a hoffwn ddiolch i bob un o’r staff, Aelodau’r Bwrdd, staff cytundebol annibynnol, ein partneriaid, rhanddeiliad a’n cymunedau am gefnogi’r Bwrdd Iechyd yn ystod y cyfnod hwn. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr awenau yn cael eu trosglwyddo’n briodol i’r Athro Marcus Longley, ein Cadeirydd newydd, a fydd yn dechrau ar y swydd ym mis Hydref 2017. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i sicrhau bod ansawdd a diogelwch yn ganolog i’n gwasanaethau a bod arlosedd yn parhau i fod yn sail i’n hagenda ail-ddylunio gwasanaethau, ac y caiff hyn ei gefnogi drwy gynnwys cleifion, y cyhoedd a phartneriaid. Mae’r pwyslais ar ansawdd, diogelwch a gwelliant yn cael ei adlewyrchu’n fwy manwl yn ein Datganiad Blynyddol ar Ansawdd (AQS), yr ydym yn ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r Adroddiad Blynyddol hwn. Mae modd gweld yr adroddiad ar ein gwefan drwy glicio ar Datganiad Ansawdd Blynyddol 2016-17. Ond er gwaethaf gwaith beunyddiol rhagorol ein staff, ein partneriaid a’n Contractwyr Gofal Sylfaenol, nid ydym bob amser yn llwyddo i gael popeth yn iawn i’n cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac mae bod yn agored, yn dryloyw ac yn onest pan fydd pethau’n mynd o’i le, gyda phwyslais ar ddysgu a chywiro, yn bwysig i ni.

Gwyddom fod meysydd yn bodoli o hyd y mae angen i ni eu gwella, ac mae’r adroddiad hwn yn gyfle i ystyried y cynnydd sydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn yn ogystal â nodi meysydd sydd angen eu gwella ymhellach.

Mae’n bleser gennym gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2016/17, sy’n gyfle i ni fwrw golwg dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac ystyried yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, o’i gymharu â’r hyn yr oeddem yn ceisio ei gyflawni. Mae hefyd yn gyfle inni, am y tro cyntaf erioed, ystyried sut yr ydym wedi cyflawni ein dyletswydd ariannol tair blynedd, sy’n un o ofynion Deddf Ariannu’r GIG (Cymru) 2014.

Page 7: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 7 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Rydym wedi parhau i gysylltu â’n cymunedau lleol, cleifion, staff, darparwyr statudol a sefydliadau gwirfoddol eraill er mwyn cynllunio a darparu gwasanaethau gwell. Ond gwyddom fod mwy y gallwn ni ei wneud i weithio gyda’n cleifion a phobl leol.

Rydym yn hapus ac yn falch iawn o allu dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ym mis Mehefin 2017, wedi cymeradwyo ein Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2017-20. Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Cwm Taf yw’r unig Fwrdd Iechyd yng Nghymru y cymeradwywyd ei Gynllun gan y Bwrdd a Llywodraeth Cymru am bedair blynedd yn olynol. Eleni hefyd rydym wedi cyflawni ein dyletswydd ariannol tair blynedd, sy’n un o ofynion Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Nid ar chwarae bach y cyflawnwyd ein targed ariannol statudol dair blynedd yn olynol, ac mae hynny’n dipyn o gamp o ystyried y pwysau y mae’r sefydliad wedi’i wynebu o ran ei wasanaeth a’i gyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’r flwyddyn ddiwethaf yn arbennig. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad a gwaith caled staff y Bwrdd Iechyd Prifysgol, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono wrth i ni edrych tuag at 2017/2018, lle mae sawl her gwahanol a sylweddol i’w hwynebu. Yn gyffredinol, rydym yn parhau i wneud cynnydd cadarn a rheolaidd o ran cyflawni agenda weddnewidiol sy’n fwy aeddfed, arloesol a chyffrous ar gyfer y Bwrdd Iechyd Prifysgol, fel yr amlinellwyd yn ein Cynllun Integredig 3 Blynedd.

Dyma rai uchafbwyntiau o bwys a welsom yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

Gwneud gwelliannau sylweddol wrth gwrdd â thargedau Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth, gyda dim un claf yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth (o 1,390 ym mis Ebrill 2016);

Gwneud gwelliannau sylweddol i amseroedd aros ar gyfer archwiliadau diagnostig gyda nifer fechan o gleifion yn aros mwy nac 8 wythnos am driniaeth (o 2,843 ym mis Ebrill 2016 i 92 ym mis Mawrth 2016);

Cynnig gwasanaethau Meddyg Teulu y Tu Hwnt i Oriau sy’n well ac yn fwy cyson, ar ôl cyfuno gwasanaethau mewn un lleoliad yn Ysbyty Brenhinol Morgannnwg ac Ysbyty’r Tywysog Siarl. Mabwysiadwyd y cynllun hwn yn ystod y flwyddyn ar ôl arbrofi gyda’r model yn ystod 2015/16.;

Cyfuno a datblygu ein Cynllun Gofal Sylfaenol a Chymunedol Tair Blynedd, sy’n cynnwys datblygu pedair ‘Canolfan’ sy’n cynnig gwasanaethau arbenigol a Meddyg Teulu gwell fel modd o ymyrryd yn gynt pan fo pobl yn sâl fel nad oes angen mynd i’r ysbytu’n ddi-angen. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig gwell cyfleoedd gyrfa ac agwedd arloesol tuag at ofal iechyd, gyda’r bwriad o recriwtio mwy o feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn y gymuned i weithio yng Nghymoedd De Cymru;

Anghydraddoldebau – soniwyd y llynedd yn adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus fod y bwlch rhwng disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng y mwyaf a’r lleiaf cyfoethog wedi lleihau yng Nghwm Taf, sef yr unig Fwrdd Iechyd yng Nghymru i weld y gostyngiad hwn ar gyfer dynion a menywod. Fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng y mwyaf a’r lleiaf cyfoethog yn dal i fod yn 7.4 blwyddyn i ddynion ac yn 3.7 blynedd i fenywod. Yn yr un modd, y gwahaniaeth mewn disgwyliad oes iach yw 14.8 mlynedd i ddynion a 15 mlynedd i ferched. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn dal i barhau ac yn dal i fod yn rhan allweddol o waith y Bwrdd Iechyd Cyhoeddus yn y dyfodol;

Page 8: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 8 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Eiddilwch – wrth inni fyw yn hirach, mae mwy ohonom yn byw gyda nifer o gyflyrau cronig sy’n cael effaith negyddol ar ansawdd ein bywyd am flynyddoedd lawer. Rydym yn gwybod y gallwn fyw yn hirach a’n hiechyd yn dda os ydym yn arddel pedwar neu bump o’r arferion iachus canlynol: peidio ag ysmygu, cynnal pwysau iach a gwneud ymarfer corff, bwyta pum dogn neu fwy o lysiau a ffrwythau bob dydd, a chyfyngu ar faint o alcohol yr ydym ni’n ei yfed. Yr her gyda’n gwaith Iechyd Cyhoeddus / Iechyd y Boblogaeth, yn awr ac yn y dyfodol, yw cefnogi ein poblogaeth i newid eu ffordd o fyw er gwell er mwyn cynyddu eu disgwyliad oes a’u disgwyliad oes iach a lleihau drwy hynny eu heiddilwch;

Mae ein Bwrdd yn dal i roi pwyslais mawr ar ansawdd, perfformiad a darparu a gallwn ddangos ein bod yn fudiad sydd wedi aeddfedu o ran ein trefniadau llywodraethu a sicrwydd. Nid yw’r ffaith i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol allu cydbwyso’r fantolen yn 2016-17, a oedd yn llwyddiant o ystyried natur heriol y cynllun, yn gwadu bodolaeth yr heriau fydd yn ein hwynebu wrth inni gamu i’r dyfodol. Mae gennym ddiffyg ariannol sylweddol rheolaidd, ond mae’n bwysig parhau i adeiladu ar ein cyflawniadau a dathlu ein llwyddiant gyda gwelliannau nodedig mewn perfformiad a gwireddu canlyniadau o ansawdd ar gyfer ein cymunedau. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n staff a’u cynrychiolwyr, ein cydweithwyr cytundebol a’n mudiadau partner ac i aelodau’r Bwrdd am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. 2016/17 oedd trydedd flwyddyn Cynllun Tymor Canolig Integredig gwreiddiol y Bwrdd Iechyd Prifysgol ar gyfer 2014-2017. Mae’n bwysig felly cofio pa mor bell y mae’r Bwrdd Iechyd wedi dod ers dechrau cynllunio cyfuno gwasanaethau, a chofio am fanteision cael cynllun cymeradwy a phroses gynllunio gyfunol yn lleol ac am y newidiadau i’r gwasanaethau a gafodd eu gweithredu o ganlyniad i hynny. Dylai Bwrdd Iechyd y Brifysgol felly fod yn hyderus yn yr enw da sydd ganddo fel mudiad sy’n gallu cyflawni, ac mae hyn i’w weld yn ei uchelgais ar gyfer 2016/17 a thu hwnt. Caiff hyn ei wneud drwy ddefnyddio modelau gweithlu arloesol a thrwy gydweithio’n agos gyda’n staff, proffesiynau contractio, cynrychiolwyr staff, partneriaid, gan gynnwys y Cyngor Iechyd Cymunedol a chymunedau lleol. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ac fel yr amlinellir yn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig diwygiedig a chymeradwy (2017-20), byddwn yn rhoi sylw a phwylais ar ddarparu, ac yn blaenoriaethu’r meysydd allweddol canolol;

Gwella gofal cleifion oedrannus bregus;

Parhau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau;

Cytuno ar y cyd ynglŷn â sut i fynd i’r afael â’r cyfraddau gordewdra, sy’n parhau i godi ymysg plant ac oedolion yng Nghwm Taf ac sydd y mwyaf yng Nghymru;

Dirywiad mewn lles – mae anghydraddoldeb o ran cyfleoedd ac iechyd yn effeithio’n wael ar les. Mae hyn yn amlygu ei hun ar ffurf lefelau uchel o bryder, iselder, meddigyniaeth gaethiwus a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau. At hyn, mae llawer o bobl yn byw am gyfnod hirach gyda dementia, oherwydd rydym yn gwybod bod arferion iach yn ein hamddiffyn ni ac y gallant gadw dementia draw am gyfnod hirach.

Page 9: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 9 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Mae’r heriau hyn yn gymhleth ac mae angen i’r gymdeithas gyfan roi sylw trylwyr i bob un ohonyn nhw. Mae yna gyfleoedd i ennyn diddordeb ein sector cyhoeddus, y sector busnes, y sector academaidd, y sector gwirfoddol, pobol a chymunedau i lunio a darparu ffordd gyfunol o fynd ati fel cymdeithas i wella lles yng Nghwm Taf. Bydd tair elfen i’r ffordd strategol hon o fynd ati :

Cynllun strategol ar gyfer lles y boblogaeth a gaiff ei ddarparu’r drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

Cynllun rheoli iechyd y boblogaeth sy’n rhoi lle creiddiol i ofal iechyd yn seiliedig ar werth; a

Chanolfan ymchwil lles y boblogaeth i werthuso a llunio cwrs cynnydd. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu;

Gofal Iechyd Darbodus, gyda phwyslais arbennig ar Reoli Meddyginiaethau ac Iechyd Cyhoeddus;

Cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu trwy gyfathrebu a dysgu. Yn ategu’r rhain mae ystod o brosiectau gwella gwasanaeth, ac mae pob un wedi’u hamlinellu yn ein cynllun. Byddwn hefyd yn cryfhau’r gwelliannau ansawdd canlynol mewn gofal sylfaenol a chymunedol:

Gwella’r amrywiaeth o Wasanaethau Meddygol Cyffredinol a ddarperir o fewn pob un o ardaloedd clwstwr meddygon teulu, a gwella ansawdd y rhain.

Annog meddygon teulu i gydweithio mewn grwpiau clwstwr er mwyn darparu gwasanaethau mwy arbenigol i’r holl boblogaeth.

Gwella nifer y cleifion sy’n cael eu rheoli yn y ffordd orau bosibl gan eu meddygon teulu.

Lleihau’r bwlch yn y disgwyliad oes rhwng y rheini sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf a’r lleiaf difreintiedig.

Cynyddu gweithgarwch deintyddol yn ardal Merthyr Tudful: mynd i’r afael ag iechyd y geg i gleifion ym Merthyr Tudful, lle mae hyn ar ei waethaf yng Nghymru.

Dysgu o adolygiadau marwolaethau ar draws ysbytai cymunedol a meddygfeydd.

Gwella’r llif trwy ysbytai cymunedol: mae cadw cleifion yn annibynnol trwy leihau’r amser diangen a gaiff ei dreulio mewn ysbytai cymunedol yn bwysig tu hwnt i gynnal iechyd a lles.

Parhau i gyflwyno Hyfforddiant Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd (IQT) i’n staff. Mae BIPCT yn gweithio gyda thîm Gwella 1000 o Fywydau i gynllunio rhaglen IQT ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol.

Rydym wedi parhau i fynd ati i gysylltu â’n cymunedau lleol, cleifion, staff, darparwyr statudol a sefydliadau gwirfoddol eraill er mwyn cynllunio a darparu gwasanaethau gwell. Ond gwyddom fod mwy y gallwn ni ei wneud i weithio gyda’n cleifion a phobl leol.

Yn seremoni flynyddol gwobrwyo a chydnabod staff Bwrdd Iechyd y Prifysgol, cafodd staff a rhai o’n partneriaid eu cydnabod am eu gwaith arloesol ac am roi gofal rhagorol i gleifion.

‘Dychwelyd i’r Rheng Flaen’: Mae Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol (a’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol eleni hefyd) wedi parhau â’u cynlluniau i ddychwelyd i’r rheng flaen gan weithio shifftiau gyda staff rheng flaen i ddarganfod sut y gallan nhw wella gwasanaethau gofal iechyd rheng flaen drwy ymwneud yn uniongyrchol â staff a chleifon. Mae Staff uwch

Page 10: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 10 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

wedi gweithio shifftiau mewn amryw o adrannau mewn ysbytai ac ym maes gofal sylfaenol a chymunedol, ac mae hyn yn ffordd gadarnhaol o helpu i ddatblygu diwylliant y mudiad.

Dr Chris Jones CBE Mrs Allison Williams Cadeirydd Prif Weithredwr 6 Gorffennaf 2017 6 Gorffennaf 2017

Page 11: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 11 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

AMDANOM NI

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Cwm Taf ym mis Hydref 2009, gan ennill statws ‘Prifysgol’ ym mis Gorffennaf 2013. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau iechyd sylfaenol a chymunedol, gofal mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer bron 300,000 o bobl sy’n byw ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a’r cyffiniau. Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) yn gyfrifol hefyd am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc ledled De Cymru, ac mae’n lletya Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (GIAC/WHSS) a Phwyllgor y Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Rydym yn cyflogi bron 8,000 o aelodau staff, yn comisiynu gwasanaethau gofal sylfaenol ac yn cynnig gofal mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd meddwl as chymunedol i boblogaeth y dalgylch. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal safonol, cydymdeimladol, cyfartal a diogel i bawb.

Cadeirydd y Bwrdd yw Dr Chris Jones CBE, a Mrs Allison Williams yw’r Prif Weithredydd a’r swyddog atebol dros y Bwrdd Iechyd. Yn ogystal ag Adroddiad Blynyddol, yn unol â gweledigaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Iechyd a’r gofyniad y bydd tryloywder llwyr ynghylch perfformiad Cynlluniau Sicrhau Ansawdd y Byrddau Iechyd, cyhoeddir ein Datganiad Blynyddol ar Ansawdd ochr yn ochr â’r Adroddiad Blynyddol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (‘y Bwrdd Iechyd’) yn gyfrifol am ddarparu gofal iechyd i bron 300,000 o bobl sy’n byw ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Rydym hefyd yn darparu rhai gwasanaethau GIG i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd cyfagos sef Cwm Rhymni Uchaf, De Powys, Gogledd Caerdydd a Gorllewin y Fro. Y Bwrdd Iechyd yw’r ail gyflogwr mwyaf yn yr ardal ac mae’n cyflogi bron iawn 8 mil o bobl, gyda llawer o’r rhain yn byw yn yr ardal leol. Yn y maes gofal sylfaenol, mae Meddygon Teulu yn berchen ar nifer fawr o leoliadau ac yn eu rheoli, ac mae’r Bwrdd Iechyd yn rhannu neu yn defnyddio llawer o’r rhain i gynnig rhyw fesur o wasanaethau ategol. Mae’r diagram gyferbyn yn rhoi dadansoddiad o’r gwasanaethau contractio annibynnol yn y sector gofal sylfaenol ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Page 12: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 12 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Rydym yn rheoli dau Ysbyty Ardal Cyffredinol, pum ysbyty cymunedol, a 27 canolfan iechyd / clinic / cyfleuster cymorth. Mae prif ysbytai a lleoliadau cymuneol Cwm Taf i’w gweld yn y diagram.

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) http://www.whssc.wales.nhs.uk/home Sefydlwyd Cydbwyllgor PGIAC yn is-bwyllgor statudol i bob un o Fyrddau Iechyd Lleol Cymru. Fe’i harweinir gan Gadeirydd annibynnol a benodir gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae’r aelodaeth yn cynnwys tri aelod annibynnol, y mae’r Is-Gadeirydd yn un ohonynt, Prif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol, Aelodau Cyswllt a nifer o Swyddogion. Er bod y Cydbwyllgor yn gweithredu ar ran y saith Bwrdd Iechyd wrth gyflawni ei swyddogaethau, erys cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd unigol dros eu trigolion ac maent felly yn atebol i ddinasyddion a rhanddeiliaid eraill o ran darparu gwasanaethau arbenigol a thrydyddol. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, y sefydliad sy’n lletya PGIAC, sy’n cyflogi’r aelodau staff sy’n cynorthwyo’r Cydbwyllgor, ac mae’r datganiadau ariannol wedi eu hymgorffori yn ein cyfrifon ariannol ni. Mae adroddiad blynyddol wedi cael ei lunio ar wahân i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) ac mae hwn ar gael ar y wefan: http://www.whssc.wales.nhs.uk/home

Pwyllgor y Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB/EASC) http://www.wales.nhs.uk/easc/about-us Ym mis Ebrill 2014 sefydlwyd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn is-bwyllgor statudol i bob un o Fyrddau Iechyd Lleol Cymru. Fe’i harweinir gan Gadeirydd annibynnol a benodir gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae’r aelodaeth yn cynnwys Prif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol, Aelodau Cyswllt a Phrif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans. Er bod y Cydbwyllgor yn gweithredu ar ran y saith Bwrdd Iechyd wrth gyflawni ei swyddogaethau, erys cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd unigol dros eu trigolion ac maent felly yn atebol i ddinasyddion a

Page 13: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 13 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

rhanddeiliaid eraill o ran darparu gwasanaethau ambiwlans brys. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, y sefydliad sy’n lletya PGAB, sy’n cyflogi’r aelodau staff sy’n cynorthwyo’r Cydbwyllgor, ac mae’r datganiadau ariannol, a gynhwysir ar hyn o bryd yn natganiadau ariannol PGIAC, wedi eu hymgorffori yn ein cyfrifon ariannol ni. Pwyllgorau a Grwpiau Cynghori Mae ystod o Bwyllgorau a Grwpiau Cynghori yn cefnogi gweithgareddau’r Bwrdd, ac mae diagram sy’n adlewyrchu’r strwythur llywodraethu a sicrwydd hon, sy’n dal i ddatblygu ac aeddfedu, wedi’i amlinellu’n fwy manwl yn yr Adroddiad Atebolrwydd. Mae Llywodraethu y Bwrdd Iechyd a'r risgiau cysylltiedig y mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn eu rheoli wedi eu hamlinellu yn fanylach yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Mae hwn wedi’i gynnwys yn ein Hadroddiad Atebolrwydd, a gafodd ei dderbyn a’i ystyried gan y Bwrdd yn ei gyfarfod cyhoeddus ar 1 Mehefin 2016 lle cymeradwywyd Cyfrifon Blynyddol 2015-16 hefyd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf – Adroddiad Atebolrwydd 2016-17

Ar y dudalen nesaf mae diagram sy’n amlinellu strwythur llywodraethu’r Bwrdd Iechyd Prifysgol.

Page 14: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 14 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Fframwaith Llywodraethu a Sicrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Y Bwrdd

Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Cronfeydd Elusennol

Bwrdd Partneriaeth Academaidd

Pwyllgor Cyllid,

Perfformiad a’r Gweithlu

Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch

Pwyllgor Cydnabyddiaeth

Ariannol ac Amodau

Gwasanaeth

Pwyllgor Monitro’r

Ddeddf Iechyd

Meddwl

Pwyllgor Gofal

Sylfaenol

Pwyllgor Risg Corfforaethol

Pwyllgor Llywodraethu

Integredig

Bwrdd Rhaglen Weithredol / Grŵp Cynllunio Strategol

Grŵp Partneriaethau Strategol / Grŵp Rheoli Cyfalaf Gweithredol / Bwrdd Rhaglen Gyfalaf

Cyfarwyddiaethau Corfforaethol a Chlinigol (o’r Ward i’r Bwrdd)

Mathau o Sicrwydd Mewnol ac Allanol

Pwyllgor y Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB)

Fforwm Gweithio mewn Partneriaeth

Grwpiau Cynghori Llywodraeth Cymru

Cydbwyllgorau

Arolygiadau Statudol (Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch)

Comisiynydd Gwybodaeth Comisiynydd y Gymraeg

Archwiliad Clinigol ac Effeithiolrwydd

1,000 o Fywydau a Mwy

Cynghorau Iechyd Cymuned,

Comisiynydd Pobl Hŷn, Grwpiau Cleifion

Cyrff Rheoleiddio

(Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, y Comisiwn Ansawdd Gofal)

Archwiliad Mewnol ac Allanol

Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC)

Fforwm Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NHSWSSPC)

An

sawd

d, Safo

nau

a Dio

gelwch

y Cleifio

n a’r Staff

Rh

eoli R

isgiau C

orffo

raetho

l a Ch

linigo

l

Bwrdd Gweithredol

Page 15: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 15 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Ein llwyddiannau yn ystod 2016-17 Er y dylid ystyried ein Datganiad Ansawdd Blynyddol 2016-17 ochr yn ochr â’r Adroddiad Blynyddol hwn, dyma rai o’n llwyddiannau yn ystod y flwyddyn:

Cafodd ein Cynllun Tymor Canolig Integredig 3 Blynedd ar gyfer 2016-2019 ei gymeradwyo gan Weinidogion, a dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i ni gael statws cynllun cymeradwy;

Cyflawnwyd ein dyletswydd statudol i fantoli’r gyllideb yn ogystal â’n dyletswydd ariannol tair blynedd, sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014;

Mae’r Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau, ar ei newydd wedd, bellach wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd a’i weithredu’n llawn ar ôl ei dreialu am 18 mis;

Parhawyd i weld lleihad yn nifer y merched yn eu harddegau sy’n feichiog; Lleihawyd cyfraddau salwch staff; Wedi trin pob claf oedd yn aros am driniaeth gynlluniedig o fewn y targed o 36 wythnos a

bennwyd gan Lywodraeth Cymru; Wedi lleihau’r amseroedd aros am archwiliadau diagnostig yn sylweddol, gyda bron pob claf

yn cael ei weld o fewn y targed wyth wythnos a bennwyd gan Lywodraeth Cymru; Cynhaliwyd 2 Ddigwyddiad Ansawdd i ddathlu gwaith gwella ansawdd sy’n canolbwyntio ar y

claf ym mhob un o’n Cyfarwyddiaethau Clinigol; Wedi ehangu ein Gwasanaeth Cyswllt Seiciatrig (sy’n cefnogi cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty

gydag anghenion iechyd meddwl) o dri diwrnod i bum diwrnod yr wythnos; Wedi treialu’n llwyddiannus yr Uned Asesu Pediatrig arfaethedig ar gyfer Ysbyty Breinhinol

Morganwg. Roedd y canlyniadau yn tystio i’w lwyddiant yn lleihau nifer y derbyniadau i’r ysbyty yr oedd modd eu hosgoi a chadw gofal plant mor agos at y cartref â phosib;

Wedi gwneud cynnydd gyda datblygu cynlluniau ar gyfer Uned Newyddenedigol ac Obstetrig yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, a fydd yn agor yn 2018;

Ar y cyd â Macmillan, rydym ni wedi gwneud cynnydd gyda chynlluniau i ddatblygu Uned Gofal Lliniarol newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg;

Wedi cytuno i ddatblygu cynllun peilot Diagnosteg Canser Cynnar newydd yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol Cwm Cynon;

Wedi gwneud cynnydd sylweddol, gyda £6miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, wrth ddatblygu cam cyntaf y ganolfan ddiagnosteg, a fydd yn ehangu cymhwysedd delweddu CT ac MRI yn Ysbyty Brenhinol Glanmorgan. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Rhagfyr 2016 a bydd wedi gorffen ym mis Hydref 2017;

Wedi cwblhau Cam 1 y cynllun i drawsnewid Ysbyty Dewi Sant yn Barc Iechyd gan weithio’n agos gyda Chlwstwr Gofal Sylfaenol Taf Elai, gyda’r gyfran gyntaf o wasanaethau wedi eu trosglwyddo ym mis Ionawr 2017;

Am yr ail flwyddyn fe wnaeth Cyfarwyddwyr Gweithredol Cwm Taf, ynghyd â’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol eleni, ‘ddychwelyd i’r Rheng Flaen’ i ganfod sut y gallan nhw wella gwasanaethau iechyd ymhellach drwy drafod yn uniongyrchol â staff a chleifion;

Lansiwyd ymgyrch ddigidol genedlaethol i recriwtio nyrsys ym mis Awst 2016, a oedd yn dangos bywyd yng Nghwm Taf. Mae’r ymgyrch wedi arwain at gynnydd yn nifer y ceisiadau am swyddi nyrsio, ac fe wnaethom ni hefyd ennill Gwobr HFMA Cenedlaethol;

Wedi ehangu ein Cynllun Hyfforddi Rheoli Graddedigion, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth; Wedi cryfhau ymhellach ein trefniadau partneriaeth o ran cydweithio ac integreiddio yn ystod

datbygiad gwasanaeth arloesol o’r enw Stay Well @Home (Byw’n Dda Gartref) ar y cyd â phartneriaid ac yn rhan o’n hystod o atebion cynaliadwy i wella perfformiad gofal heb ei

Page 16: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 16 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

drefnu; Yn unol â’n cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol rydym wedi cwblhau gwaith ymgynghori. At hyn, gyda’n partneriaid rydym ni wedi llunio fersiwn derfynol a chyhoeddi asesiad o anghenion y boblogaeth a hefyd asesiad lles i gefnogi gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae modd dod o hyd i’r asesiadau hyn ar ein porthol partneriaeth ‘Ein Cwm Taf Ni’

Er bod sawl her yn dal i’n hwynebu wrth inni symud ymlaen, byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau a dathlu yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni lle bu gwelliannau nodedig o ran perfformiad a lle darparwyd canlyniadau cadarnhol i’n cymunedau.

Page 17: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 17 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Adroddiad Perfformiad

2016/2017

Page 18: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 18 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

ADRODDIAD PERFFORMIAD - CYNNWYS

Rhif tudalen

Trosolwg o Berfformiad

18

Ffeithiau a Ffigyrau allweddol

20

Cerdyn sgorio cytbwys

22

Dadansoddi’r perfformiad

26

Cynllun Tymor Canolig Integredig 2016-2019

30

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2016 – Datganiad Llesiant

32

Page 19: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 19 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

TROSOLWG O BERFFORMIAD Cyrraedd targedau: Cyflawni Gwelliannau i’n Cleifion

Rwyf i, yn rhinwedd fy swydd fel Prif Weithredwr a Swyddog Atebol Bwrdd Iechyd y Brifysgol, yn atebol i’r Bwrdd am berfformiad y sefydliad. Cyflwynir adroddiad ar berfformiad i’r Bwrdd ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd Iechyd, a chaiff hwn ei gefnogi gan ddangosfwrdd perfformiad integredig manwl. Caiff perfformiad hefyd ei graffu’n fanwl bob mis gan is-bwyllgor Cyllid, Perfformiad a Gweithlu’r Bwrdd, sy’n cyfarfod 10 gwaith y flwyddyn.

Rydym yn parhau i wneud cynnydd da o ran cyflawni ar draws nifer o feysydd targed. Gweler y manylion yn y tablau isod. Ond mae 2016/17 wedi bod yn flwyddyn heriol i’r GIG ledled Cymru a Lloegr, yn enwedig o ran pwysau gofal heb ei drefnu rhwng mis Rhagfyr 2016 a diwedd y flwyddyn ariannol. Profodd y Bwrdd Iechyd a’i weithwyr contractio proffesiynol annibynnol heriau sylweddol hefyd yn y system gofal heb ei drefnu yn ystod y cyfnod hwn. Cafodd hyn effaith niweidiol ar berfformiad gofal wedi ei drefnu, gan gynnwys amseroedd aros yn ein hadrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Ym mis Hydref 2015, gwnaeth y Bwrdd y penderfyniad anodd i leihau nifer y gwelyau ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg dros dro oherwydd prinder nyrsys cofrestredig ar y staff. Roedd angen gwneud y penderfyniad hwn er mwyn cynnal ansawdd a diogelwch cleifion, ond yn anffodus, effeithiwyd ar ein gallu i reoli pwysau gofal heb ei drefnu dros gyfnod prysur y gaeaf. Fodd bynnag, er gwaethaf y pwysau hwn, rydym wedi parhau i berfformio’n dda o ran amseroedd trosglwyddo Ambiwlans yn ein hadrannau Damweiniau ac Achosion Brys. O ganlyniad i weithio gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) o fewn y Model Ymateb Clinigol newydd, gwelwyd gwelliant yn amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer argyfyngau Categori Coch 1. Nid problem unigryw i Gwm Taf yw prinder nyrsys cofrestredig, ac yn ystod y 12 mis diwethaf mae cynlluniau ychwanegol wedi’u datblygu a’u gweithredu i wella’r recriwtio ac i leihau ein dibyniaeth ar staff nyrsio asiantaeth. Eto’i gyd, mae hyn yn dal yn fater heriol. O ran Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT), er gwaethaf y pwysau yn y system gofal heb ei drefnu, llwyddwyd i gyflawni’r targed Amseroedd Aros o 36 wythnos ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r cyflawniad rhagorol hwn yn adlewyrchu’r pwysigrwydd mae’r Bwrdd Iechyd yn ei roi ar ddarparu’r agenda Gofal Wedi’i Drefnu ac ymdrech enfawr y timau Cyfarwyddo i gyflawni ar gyfer ein poblogaeth. Rydym wedi parhau i ddefnyddio capasiti allanol o ran gofal wedi’i gynllunio i wella’r amseroedd amser ymhellach eto y flwyddyn hon. Mae gwaith sylweddol wedi’i gyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf i leihau’r amseroedd aros ar gyfer ymchwiliadau diagnostig. Roedd perfformiad diwedd y flwyddyn unwaith eto yn gadarnhaol iawn i’r Bwrdd Iechyd, gyda dim cleifion yn aros mwy nac 8 wythnos am archwiliadau Radioleg a 92 claf yn aros am archwiliadau Endosgopi. At hynny, nid arhosodd yr un claf fwy na 14 wythnos am wasanaethau Therapi.

O ran targedau Canser a pherfformiad perthnasol, gwelwyd ychydig o welliant ym mherfformiad y Bwrdd Iechyd yn ystod y flwyddyn, gan fethu’r targedau 31 diwrnod a 62

Page 20: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 20 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

diwrnod o drwch blewyn. Llwyddwyd i gyrraedd y targed 31 diwrnod gyda chanran o 98.2% yn ystod y flwyddyn ac 88.4% oedd y targed 62 diwrnod. Niferoedd bychain sy’n syrthio y tu allan i’r targed, a’r rheswm dros rai o’r rhain yw’r angen i gael triniaeth gymhleth mewn canolfannau arbenigol. Byddwn yn parhau i gymryd camau i sicrhau ein bod yn gwneud yn well yn y maes hwn wrth gamu i’r dyfodol.

O ran gwasanaethau strôc, cefnogodd y Bwrdd ein cynnig i ailwampio ein gwasanaethau er mwyn gwella’r canlyniadau i gleifion, yn ogystal â chydymffurfio â’r Archwiliad Strôc Cenedlaethol. Yn dilyn y newid i’r gwasanaeth, rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da, gan gynnwys cael gwerthusiad 6 mis o’r prosiect newid. Ond mae heriau’n parhau o hyd mewn rhai rhannau o’r driniaeth strôc. Mae grŵp a arweinir gan glinigwyr yn parhau i gyfarfod ac yn adolygu data ar arferion mewn rhannau eraill o Gymru a’r DU ac mae’n cymryd camau gwella perthnasol i fynd i’r afael â materion perfformio ac, yn y pen draw, i wella’r canlyniadau i gleifion. Rydym yn dal i wneud gwelliannau cadarnhaol, yn enwedig o ran elfennau Thrombolysis y driniaeth. Rydym yn parhau i berfformio’n dda o ran rhaglenni brechu ac imiwneiddio yn ystod plentyndod a hefyd o ran atal a rheoli heintiau. Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran dangosyddion y gweithlu. Llwyddwyd i gynnal y safon o ran Adolygiadau Datblygu Perfformiad (PDRs) ac mae absenoldebau salwch ymhlith staff wedi parhau’n gyson o’i gymharu â 2015/16. Mae heriau’n parhau o ran recriwtio staff mewn nifer o grwpiau proffesiynol, ac mae prinder staff yn genedlaethol hefyd yn effeithio ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Ond mae gan y BIP gynlluniau ar droed i dargedu recriwtio a hefyd ailwampio’r gwasanaeth a’r gweithlu mewn ffyrdd arloesol.

Caiff adroddiadau perfformiad manwl eu cyflwyno yn rheolaidd ym mhob cyfarfod Bwrdd ac maent hefyd ar gael ar wefan y Bwrdd. Mae’r Pwyllgor Cyllid, Perfformiad a Gweithlu yn cyfarfod 10 gwaith y flwyddyn ac yn craffu ar berfformiad y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn rheolaidd. Caiff materion sy’n peri gofid, lle bo’n briodol, eu cyfeirio at y Bwrdd ac o bryd i’w gilydd, caiff y rhain eu hystyried a’u trafod yn Is-bwyllgor Llywodraethu Integredig y Bwrdd.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod ac adolygu’r perfformiad yn ebryn y targedau cytunedig. Mae hyn yn cynnwys yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn gwella pan nad ydym yn perfformio fel y dylem wneud.

Mae’r Bwrdd yn cael adroddiad perfformiad blynyddol a nod y rhan hon o’r Adroddiad Blynyddol yw crynhoi’r perfformiad allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a darparu ychydig o sylwadau ar y rhesymau perthnasol a sut y byddwn yn symud ymlaen. Mrs Allison Williams

Prif Weithredwr 6 Gorffennaf 2017

Page 21: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 21 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

RHAI FFEITHIAU A FFIGURAU ALLWEDDOL 2016-2017

Page 22: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 22 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

O ran ansawdd a pherfformiad, rydym wedi gwneud ystod o welliannau yn 2016-2017, a dyma rai enghreifftiau:

Yn gyffredinol mae cyfraddau ysmygu ymysg oedolion yn gostwng. Yn ystod 2012-2015 mae cyfraddau ysmygu Cwm Taf wedi gostwng o 24% i 23%. Mae cyfraddau Rhondda Cynon Taf wedi gostwng o 25% i 22%, tra ym Merthyr Tudful, mae’r cyfraddau wedi cynyddu o 23% i 25% er bod gan Ferthyr Tudful poblogaeth fach, mae amrywiadau mewn data arolwg yn cael ei weld yn aml.

Ni yw’r unig fwrdd iechyd a lwyddodd i gyrraedd y targed 36 wythnos ar gyfer Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth ac rydym ychydig iawn o dan y targed ar gyfer amseroedd aros am ddiagnosis (92 yn is) Dyma oedd ein perfformiad gorau ers 2012.

Y Bwrdd Iechyd sy’n parhau berfformio orau o blith holl Fyrddau Iechyd Cymru o ran brechu plant, gyda chyfradd gyffredinol o 87.3% (fel ag yr oedd ym mis Medi 2016).

Mae meddygfeydd Cwm Taf yn dal i berfformio’n dda o ran gallu cleifion i gael apwyntiad gyda’u meddyg teulu, er ein bod yn cydnabod bod hyn yn dal yn destun pryder i gleifion a’r cyhoedd mewn ambell ardal.

Rydym yn dal i berfformio’n dda o ran cyfraddau heintiau a ddelir mewn ysbytai e.e. Clostridium Difficile ac MRSA.

Rydym yn parhau i fod â’r perfformiad gorau yng Nghymru o’i gymharu â’r targedau o ran nifer y cleifion sy’n cael eu trosglwyddo o ambiwlans mewn argyfwng mewn chwarter awr a throsc awr.

O ran canran y cleifion sy’n cael eu cyfeirio fel rhai yr amheuir fod ganddynt ganser, ond heb fod yn achosion brys, rydym ni’n gyson yn cwrdd â’r targed o weld 98% o’r cleifion o fewn 31 diwrnod, ffigur y bwriadwn ei gynnal.

Page 23: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 23 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Page 24: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 24 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Mesurau misol

Ebr 16

Mai 16

Meh 16

Gor 16

Awst 16

Medi 16

Hyd 16

Tach 16

Rhag 16

Ion 17

Chw 17

Maw 17

Tue dd

O’r meddygfeydd hynny sydd wedi’u cofrestru i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein, y % sy’n cynnig bwcio apwyntiadau

39.5% 39.5

% 41.9

% 40.5

% 45.2

% 45.2%

26.2%

21.4%

21.4%

23.8% 23.8

% 28.6% 2

O’r meddygfeydd hynny sydd wedi’u cofrestru i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein, y % sy’n cynnig ail bresgripsiwn

53.5% 53.5

% 60.5

% 59.5

% 61.9

% 61.9%

47.6%

47.6%

52.4%

47.6% 52.4

% 81.0% 1

% y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos am driniaeth (RTT) 86.6% 86.2

% 88.0

% 87.6

% 86.7

% 87.4%

86.7%

88.0%

87.3%

88.9% 90.8

% 91.9% 1

Nifer y cleifion sy’n aros yn hwy na’r cyfnod o 36 wythnos 1,392 1,41

6 989

1,148

1,426

1,038 1,20

3 1,13

8 1,15

4 962 698 0 1

Nifer y cleifion sy’n aros mwy nag 8 wythnos am ddiagnosis penodol 2,843 2,11

2 2,11

5 2,02

5 2,33

4 2,314

1,732

1,549

1,782

1,347 716 92 1

Nifer yr apwyntiadau dilynol wedi eu gohirio y tu hwnt i’r dyddiad targed (wedi a heb eu bwcio) 24,590 25,644 24,346 26,038 25,277 23,347 22,992 22,065 23,385 23,261 22,943 22,793 1

% cydymffurfio â QIMS strôc (<4 awr = Mynediad uniongyrchol i Uned Strôc Acíwt) 41.7% 56.8

% 51.4

% 56.4

% 53.2

% 66.7%

41.5%

42.1%

46.7%

40.9% 42.9

% 44.4% 2

% cydymffurfio â QIMS strôc (<12 awr = Sgan CT) 94.4% 97.9

% 97.4

% 91.7

% 98.1

% 100.0

% 95.7

% 97.7

% 98.5

% 100.0

% 93.2

% 95.6% 1

% cydymffurfio â QIMS strôc (<24 awr = Asesiad gan Ymgynghorydd Strôc) 66.7% 83.0

% 82.1

% 70.8

% 66.7

% 68.2%

65.2%

81.8%

70.8%

70.0% 79.5

% 85.3% 1

% cydymffurfio â QIMS strôc (<45 mun = Thrombolysis drws i nodwydd) 0.0% 33.3

% 25.0

% 16.7

% 12.5

% 0.0% 0.0% 0.0%

20.0%

25.0% 0.0% 14.3% 2

% cleifion newydd nad ydyn nhw’n gwario mwy na 4 awr mewn uned gofal brys 79.4% 81.7

% 84.4

% 88.9

% 89.3

% 86.8%

83.4%

82.5%

84.1%

80.6% 82.8

% 82.7% 2

% o ambiwlansiau sy’n ymateb i alwad goch o fewn 8 munud 72.8% 78.0

% 72.5

% 74.5

% 73.0

% 80.1%

75.2%

75.5%

77.4%

74.7% 74.6

% 73.8% 1

Nifer y trosglwyddiadau sy’n fwy nag awr 4 1 2 0 0 1 8 2 1 8 3 3 2

Nifer y cleifion sy’n treulio 12 awr neu fwy mewn uned gofal brys 309 247 193 71 85 206 312 422 251 545 293 292 2

% cleifion nad ydynt yn achosion brys yr amheur fod ganddynt ganser, a welir o fewn 31 diwrnod 95.9% 99.1

% 97.0

% 98.9

% 96.6

% 100.0

% 99.1

% 98.5

% 98.1

% 97.4%

97.2%

100.0%

1

% cleifion brys yr amheuir fod ganddynt ganser, a welir o fewn 62 diwrnod 89.8% 94.1

% 92.6

% 94.2

% 91.5

% 81.3%

78.3%

86.8%

87.8%

90.3% 90.4

% 85.7% 2

% yr asesiadau gan yr LPMSS a wneir o fewn 28 diwrnod i’r atgyfeiriad 46.1% 66.8

% 61.0

% 51.7

% 45.0

% 51.2%

66.6%

88.1%

91.4%

83.3% 87.7

% 85.0% 1

% y triniaethau therapiwtig a ddechreuir o fewn 28 diwrnod i gael asesiad gan yr LPMSS 91.3% 90.6

% 85.9

% 83.0

% 81.8

% 78.6%

85.3%

83.2%

72.3%

68.2% 87.0

% 87.9% 2

% y triniaethau a ohiriwyd ar > un achlysur, a gafodd y driniaeth <=14 diwrnod/cyn gynted ag yr oedd yn gyfleus

63.5% 35.9

% 55.6

% 92.3

% 33.3

% 52.9%

57.1%

39.0%

45.0%

32.1% 36.4

% 82.4% 2

Nifer yr achosion o C Difficile fesul poblogaeth o 100,000 20.50 15.8

7 20.5

0 11.9

0 19.8

4 20.50 7.94

20.50

27.78

19.84 4.39 11.90 1

Nifer yr achosion o S. Aureus Bacteraemia fesul poblogaeth o 100,000 20.50 35.7

1 20.5

0 23.8

1 7.94 12.30

39.68

41.00

23.81

23.81 43.9

3 27.78 2

Page 25: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 25 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Mesurau misol

Ebr 16

Mai 16

Meh 16

Gor 16

Awst 16

Medi 16

Hyd 16

Tach 16

Rhag 16

Ion 17

Chw 17

Maw 17

Tue dd

Nifer y Rhybuddion Cleifion gan Ddiogelwch Cleifion Cymru na chawsant eu sicrhau o fewn yr amser cytunedig

1

2

1 -

Nifer yr Hysbysiadau Cleifion gan Ddiogelwch Cleifion Cymru na chawsant eu sicrhau o fewn yr amser cytunedig

3 2 1 1 1

-

O blith yr Achosion Difrifol sydd angen sicrwydd o fewn y mis, y % y cawsant eu sicrhau o fewn yr amser cytunedig

61.5% 46.7

% 42.9

% 0.0%

37.5%

80.0% 58.8

% 76.0

% 76.9

% 70.0%

65.4%

23.5% 1

Nifer y digwyddiadau “byth” newydd 0 1 1 1 1 0 0 0 1 0 0 1 1

Cyfraddau DNA cleifion allanol newydd ar gyfer arbenigeddau penodol 9.1% 10.2

% 9.5%

10.1%

9.8% 10.1% 10.1

% 10.0

% 11.1

% 9.5% 8.6% 8.6% 1

Cyfraddau DNA dilynol ar gyfer arbenigeddau penodol 11.6% 12.1

% 12.9

% 12.9

% 13.2

% 14.0%

13.1%

12.9%

14.0%

13.2% 11.9

% 11.1% 1

% y digwyddiadau sy’n cael cod digidol o fewn mis i’r dyddiad cwblhau 28.6% 20.9

% 20.1

% 15.6

% 14.7

% 72.5%

64.2%

48.2%

57.6%

54.0% 58.6

% 19.6% 1

% trigolion y Bwrdd Iechyd Lleol (pob oedran) i gael cynllun CTP dilys wedi ei gwblhau ar ddiwedd pob mis

83.4% 86.2

% 88.7

% 89.5

% 90.4

% 91.1%

90.2%

91.3%

92.0%

93.6% 92.5

% 93.3% 1

% trigolion y Bwrdd Iechyd Lleol yr anfonwyd eu hadroddiad asesiad atynt 10 diwrnod gwaith ar ôl cael eu hasesu

100.0%

23.1%

77.8%

75.0%

66.7%

42.9% 33.3

% 88.9

% 100.0

% 85.7

% 100.0

% 1

Chw16

Mar-16

Ebr 16

Mai 16

Meh16

Gor 16

Awst16

Medi16

Hyd 16

Tach16

Rhag16

Ion 17

Tue dd

Nifer y gweithdrefnau nad ydyn nhw’n cydymffurfio â chanllaw ‘Peidiwch â Gwneud’ NICE – ENT 6 11 6 9 5 5 8 11 8 3 5 8

1

Nifer y gweithdrefnau nad ydyn nhw’n cydymffurfio â chanllaw ‘Peidiwch â Gwneud’ NICE - Opthalmeg 2 0 1 0 1 0 1 0 1 2 1 0

1

Nifer y gweithdrefnau nad ydyn nhw’n cydymffurfio â chanllaw ‘Peidiwch â Gwneud’ NICE - Orthopaedeg 2 0 0 5 7 2 2 7 2 2 2 3

2

Nifer y gweithdrefnau nad ydyn nhw’n cydymffurfio â chanllaw ‘Peidiwch â Gwneud’ NICE - Iwroleg 0 1 1 0 0 1 0 0 0 1 0 1

2

Page 26: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 26 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

12 mis dilynol yn gorffen

Chwe

16 Maw

16 Ebr 16

Mai 16

Meh 16

Gor 16

Awst 16

Medi 16

Hyd16 Tach

16 Rhag

16 Ion 17

Tuedd

Nifer y derbyniadau brys ar gyfer basged o 8 cyflwr cronig fesul 100,000 o’r boblogaeth (12 mis dilynol) 1,551 1,568 1,579 1,597 1,592 1,557 1,532 1,530 1,518 1,500 1,480 1,423

1

Nifer yr ail-dderbyniadau brys ar gyfer basged o 8 cyflwr cronig fesul 100,000 o’r boblogaeth (12 mis dilynol) 344 345 342 348 350 352 356 359 357 356 350 337

2

Ebr 16

Mai 16

Meh 16

Gor 16

Awst 16

Medi 16

Hyd 16

Tach 16

Rhag 16

Ion 17

Feb 17

Mar 17

Tuedd

% absenoldeb salwch staff (12 mis dilynol) 5.52% 5.52% 5.52% 5.51% 5.53% 5.54% 5.56% 5.57% 5.61% 5.64% 5.66% 5.65% 2

Cyflawniad DToC fesul poblogaeth Bwrdd Iechyd Lleol o 10,000 – dim achosion iechyd meddwl (12 mis dilynol) 141.2 142.4 145.0 150.9 147.1 147.1 152.1 155.5 158.5 160.1 149.2 148.3

2

Cyflawniad DToC fesul poblogaeth Bwrdd Iechyd Lleol o 10,000 –iechyd meddwl (12 mis dilynol) 3.8 3.8 3.8 3.7 3.7 3.7 3.8 3.8 3.7 3.5 3.3 3.1

1

% marwolaethau crai iau na 75 oed (12 mis dilynol) 1.04% 1.03% 1.02% 1.03% 1.00% 1.01% 1.03% 1.04% 1.02% 1.01% 1.02% 1.01% 1

Mesurau Chwarterol

Q1 2016/17 Q2 2016/17 Q3 2016/17 Q4 2016/17 Tuedd

% y plant a gafodd eu brechiadau rheolaidd yn bedair oed 87.3% 87.3% 88.8% 87.3% 1

Q1 2016/17 Q2 2016/17 Q3 2016/17 Q4 2016/17 Tuedd

Eitemau fluoroquinolone fel % o gyfanswm yr eitemau gwrthfacteria a roddwyd ar bresgripsiwn 1.72% 2.04% 1.68% 1.67% 1

Eitemau cephalosporin fel % o gyfanswm yr eitemau gwrthfacteria a roddwyd ar bresgripsiwn 4.84% 5.10% 4.59% 4.50% 1

Eitemau co-amoxiclav fel % o gyfanswm yr eitemau gwrthfacteria a roddwyd ar bresgripsiwn 4.83% 4.28% 3.79% 3.79% 1

Cyfanswm dyddiol cyfartalog NSAID fesul 1,000 STAR-Pus 1,863 1,834 1,756 1,728 1

% y corticosteroids gwan a anadlir y rhoddir ar bresgripsiwn mewn gofal sylfaenol 51.3% 51.9% 53.0% 56.4% 1

Cyfradd y galwadau gan bobl Cymru i linell gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L. fesul 100,00 o boblogaeth y BI 84.3 72.8 97.4 82.9 1

Cyfradd y galwadau gan bobl Cymru i linell gymorth Dementia Cymru fesul poblogaeth o 100,00 (40 a hŷn) 4.0 0.7 6.7 3.4 1

Cyfradd y galwadau gan bobl Cymru i linell gymorth DAN 24/7 fesul 100,00 o boblogaeth y BI 29.0 25.3 29.7 30.7 1

Page 27: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 27 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Mesurau Blynyddol

2015 2016 Tuedd

% y meddygfeydd teulu sy’n cynnig apwyntiad rhwng 17:00 a 18:00 5 diwrnod yr wythnos 93% 95% ↑

% y meddygfeydd teulu sydd ar agor yn ystod yr oriau craidd beunyddiol neu o fewn awr i’r oriau gofal beunyddiol 93% 90% ↓

2013 2016 Tuedd

% y staff a wnaeth werthusiad perfformiad y cytunasant y bu o help iddyn nhw wella’u ffordd o weithio 47% 55% ↑

Sgôr ymgysylltiad staff cyffredinol 3.42 3.68 ↑

% y staff a fyddai’n hapus gyda gofal eu sefydliad petai cyfaill/perthynas angen triniaeth 56% 72% ↑

Q1 - Q3 2015/16

Q1 - Q3 2016/17

Tuedd

% amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr yn ardal y BILl a gafodd driniaeth drwy wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu y GIG 2.77% 2.88% ↑

% yr ysmygwyr a gafodd driniaeth drwy wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu y GIG sydd wedi cael dilysiad CO iddynt fod yn llwyddiannus 36.76% 37.60% ↑

Nifer Astudiaethau Portffolio Ymchwil Clinigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 35 44 ↑

Nifer yr astudiaethau sy’n derbyn nawdd masnachol 2 2 →

Nifer y cleifion wedi eu recriwtio i Astudiaethau Portffolio Ymchwil Clinigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 561 1,055 ↑

Nifer y cleifion wedi eu recriwtio i astudiaethau sy’n derbyn nawdd masnachol 5 3 ↓

2014/15 2015/16 Tuedd

% y bobl dros 65 oed sy’n cael brechiad rhag ffliw 67.5% 65.0% ↓

% y bobl dan 65 oed mewn grwpiau risg sy’n cael brechiad rhag ffliw 49.8% 45.9% ↓

% y menywod beichiog sy’n cael brechiad rhag ffliw 45.8% 43.5% ↓

% y gweithwyr gofal iechyd sy’n cael brechiad rhag ffliw 44.9% 48.3% ↑

% y cleifion gyda phwysedd gwaed uchel yn y 12 mis diwethaf oedd â darlleniad <=150/90mmHG 84.4% 82.6% ↓

% y bobl sydd â dementia,dan 65 oed, sydd wedi cael diagnosis 45.7% 47.9% ↑

% timau meddygfeydd teulu sydd wedi cwblhau DES iechyd meddwl mewn gofal dementia neu hyfforddiant uniongyrchol arall 4.4% 2.3% ↓

2015/16 2016/17 Tuedd

% meddygfeydd teulu>=targed cenedlaethol o ran cyflwyno cardiau melyn sy’n monitro diogelwch meddyginiaethau 6.8% 9.5% ↑

Page 28: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 28 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

24 mis yn dod i ben

Maw16 Meh16 Medi16 Rhag16 Tuedd

Cleifion wedi eu trin gan ddeintydd GIG yn ystod y 24 mis diwethaf fel % o’r boblogaeth 57.1% 57.3% 57.4% 58.1% 1

6 mis yn dod i ben

Maw16 Maw17 Tuedd

% yr ysbytai sydd â threfniadau i sicrhau bod eiriolaeth ar gael i gleifion cymwys 100.0% 100.0% →

Page 29: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 29 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Crynodeb o Berfformiad Fesul Maes

Yn anffodus gwelwyd llai o bobl dros 65 oed, llai o ferched beichiog, a llai o bobl dan 65 oed ond mewn peryg o gael y ffliw, yn cael brechiadau ffliw dros y 12 mis diwethaf. Fodd bynnag, parhaodd y Bwrdd Iechyd gyda’i gynllun brechu staff ar gyfer y ffliw tymhorol, a chyflawni cyfradd o 50.1% sy’n uwch na’r targed. Llwyddodd y Bwrdd Iechyd unwaith eto i gyflawni’r lleihad angenrheidiol o ran nifer y cleifion a gaiff eu derbyn mewn cysylltiad â’r gyfres o wyth cyflwr cronig yn 2016/17. Y targed oedd gostyngiad dros 12 mis mewn poblogaeth o 100,000 fesul Bwrdd Iechyd. Yng Nghwm Taf rhoddwyd pwyslais ar leihau’r targed fesul 100,000 o drigolion. O ran aildderbyn cleifion, dim ond lleihad bychan a welodd y Bwrdd Iechyd o’i gymharu â’r llynedd. Fel Bwrdd Iechyd byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihad pellach yn ystod 2017/18. Gwelwyd cynnydd yn y nifer o bobl oedd yn defnyddio gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn ystod 2016/17. Roedd hyn yn bennaf oherwydd i’r gwasanaeth fferylliaeth cymunedol weld mwy o bobl, sy’n adlewyrchu’r nifer cynyddol o fferyllfeydd sy’n darparu’r gwasanaeth hwn. Roedd y cynnydd hwn yn gwrthbwyso’r lleihad cyson yn y niferoedd drwy Stop Smoking Wales: y bwriad yw cyflwyno gwasanaeth “neges destun ac atgoffa” fel y gall fferyllfeydd cymunedol helpu i ddarparu’r Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu. Yn chwarter 2 2016/2017, roedd 39.1% o drigolion Cymru a oedd yn ysmygwyr wedi cael dilysiad CO iddynt lwyddo i roi’r gorau i ysmygu ar ôl 4 wythnos, sy’n awgrymu y bydd gwelliant ar ffigurau’r llynedd. At hynny, arweiniodd darpariaeth gwasanaeth MAMSS (Models for Access to Maternal Smoking Cessation Support) ar gyfer ysmwygwyr beichiog yn y Rhondda, Cynon a Thaf Elai at fwy o bobl yn mantieiso ar gymorth. Er bod cynnydd yn nifer y menywod beichiog 36-38 wythnos a oedd yn ysmygu, cafodd hyn ei wrthbwyso gan ostyniad ar ddechrau’r flwyddyn galendr o ran y canran o fenywod a roddodd y gorau i ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd.

Hyd at, ac yn cynnwys, chwarter 3 2016/17, roedd 88.8% o blant pedair oed wedi cael eu brechiadau rheolaidd (y targed oedd 95%). Roedd hyn yn fwy na’r targed o 85.7% ar gyfer Cymru gyfan.

Roedd cynnydd cyffredinol yng nghanran y cleifion â darlleniad pwysedd gwaed wedi ei gofnodi. Clwstwr Cynon oedd yr uchaf, gyda chlwstwr y Rhondda yn ail agos (mesur pwysig o iechyd cyhoeddus).

Mae meddygfeydd Cwm Taf wedi gweld niferoedd cyson o gleifion yn mynd i apwyntiadau gyda’u Meddyg Teulu ac i’r meddygfeydd hynny sy’n cynnig cynnig ail-brescribsiwn, gyda Meddygfeydd Gofal Sylfaenol yn parhau i ddefnyddio a ddiweddaru drwy My Health Online. Fodd bynnag, mae Cwm Taf yn dal yn cymharu’n wael â Byrddau Iechyd eraill.

Mae menter Camau’r Cymoedd, a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo lles yn y gymuned, wedi parhau i dyfu yn 2016/17, gan adeildau ar bartneriaethau a chydweithio gydag asiantaethau, unigolion a mudiadau.

Page 30: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 30 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Gwnaed cynnydd sylweddol yn ystyd y flwyddyn gyda Chwm Taf yn cyflawni’r gyfradd isaf o Clostridium difficile (C.Difficile) o’r holl brif Fyrddau Iechyd h.y. 16.29 fesul poblogaeth o 100,000 ar gyfer y cyfnod Ebrill 2016 – Chwefror 2017 (ar y llwybr cywir i gyrraedd y gostyngiad o 25.34 fesul poblogaeth o 100,000). Roedd y gyfradd bacteraemia MRSA yn 1.48 fesul 100,000 ar gyfer yr un cyfnod, sef y gyfradd isaf hefyd. Yn anffodus, ni lwyddodd BIP Cwm Taf, na’r Byrddau Iechyd eraill, i gyrraedd y gyfradd darged ddisgwyliedig ar gyfer bacteraemia S. Aureus. Dechreuwyd cyflwyno ffigyrau misol i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2016 ynglŷn â sepsis. Byddwn yn cadw golwg ar hyn wrth symud ymlaen ac mae’n un o fesurau perfformiad allweddol y Bwrdd Iechyd. O ran difrod pwyso i’r croen a gafwyd yn yr ysbyty, mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio tuag at wneud cynnydd ar brosiectau gwella er mwyn gweld tueddiadau perthnasol yn fwy manwl a dylanwaau ar welliannau mewn ysbytai, cymunedau a chartrefi gofal i warchod cleifion rhag niwed y mae modd ei osgoi. Roedd y rhan fwyaf o’r digwyddiadau diogelwch cleifion yr adroddwyd arnyn nhw yn faterion o ddim niwed/niwed bychan. Yn y cyfnod 12 mis bu gostyngiad yn y nifer o achosion difrifol. Wrth symud i 2017/2018 bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i geisio lleihau’r nifer hwn ymhellach. Dros y flwyddyn ddiwethaf parhaodd y Bwrdd Iechyd i wella’r ffordd yr oedd yn cydymffurfio â hylendid dwylo ac â darpariaeth maeth, hydradiad ac ymataliaeth. Parhaodd y Bwrdd Iechyd i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru o ran ansawdd a diogelwch cleifion.

Petai llawdriniaeth claf yn cael ei ohirio ar fwy nag un achlysur, gyda llai nac 8 diwrnod o rybudd, mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymo i gynnig y driniaeth o fewn 14 diwrnod i’r ail ohiriad, neu cyn gynted ag y bo hynny’n gyfleus i’r claf. Yn anffodus, roedd amrywiaeth yn y ganran gydymffurfio yn ystod y gaeaf yn enwedig oherwydd pwysau cynyddol o achos gofal heb ei drefnu. Bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu ei gynllun gaeaf eto eleni, ac yn edrych yn benodol ar y gwersi a ddysgwyd o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, faint o gleifion preswyl y mae modd eu derbyn, ac ar niferoedd y staff meddygol a nyrsys cofrestredig. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd lai o gwynion ar y cyfan. Ar ddiwedd mis Chwefror 2017 roedd 70 cwyn ffurfiol yn dal yn agored –gostyngiad o’r 146 a oedd yn dal heb eu datrys ar ddiwedd mis Mawrth 2016. Hefyd, bu’r Bwrdd Iechyd yn monitro sut y llwyddwyd i ddangos yr un lefel o barch ac urddas i gleifion â dementia a’r cleifion hynny yr oedd angen gofal lliniarol arnynt.

Page 31: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 31 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Rydym yn parhau i gymryd rhan mewn archwiliad clinigol cenedlaethol a rhaglenni adolygu canlyniadau, er mwyn asesu ansawdd ac effeithiolrwydd y gofal yr ydym yn ei ddarparu mewn nifer o feysydd sydd wedi’u blaenoriaethu’n genedlaethol. Rydym hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn treialon ymchwil. Yn 2016/2017 parhaodd y Bwrdd Iechyd gyda’i broses o adolygu nodiadau achos marwolaethau mewnol, lle caiff pob marwolaeth mewn ysbyty ei hadolygu gan dîm amlddisgyblaeth ac unrhyw wersi perthnasol eu nodi a’u lledaenu. Mae hyn yn fodd i’r Bwrdd Iechyd gynnal proses ddysgu fanwl ble mae angen hynny o ran gofal cymunedol a gofal acíwt. Bob blwyddyn mae’r Bwrdd Iechyd yn cael cyflwyniad ac Adroddiad Blynyddol ar y maes pwysig hwn sy’n rhoi sylw i’r prif bethau i’w dysgu a’r meysydd i wella arnynt sy’n deillio o’r arolwg ar nodiadau achos marwolaethau. Mae hyn hefyd yn dylanwadu ar ein blaenoriaethau gwella ansawdd wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’i gymydog, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, i ddatblygu adnodd gwybodaeth busnes ar gyfer marwolaeth i ychwanegu gwerth at ddulliau adrodd.

Targed Amser Ymateb i Alwadau Coch am Ambiwlans - Eleni bu gwelliant ym mherfformiad y Bwrdd Iechyd o ran targedau amser ymateb i alwadau coch am ambiwlans. Roedd y perfformiad yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan ac yn sylweddol well na’r targed. Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal y safonau hyn. Perfformiad Unedau Damweiniau ac Achosion Brys – Roedd y Bwrdd Iechyd yn parhau i edrych am gyfleoedd i wella amseroedd aros cleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys. Amseroedd Aros – Llwyddodd y Bwrdd Iechyd i gyrraedd sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn lle nad oedd unrhyw gleifion yn aros mwy na 36 wythnos, a bod 90.9% yn cael triniaeth mewn cyfnod o 26 wythnos. Mae’r cyflawniad rhagorol hwn yn adlewyrchu’r pwysigrwydd y mae’r Bwrdd Iechyd yn ei roi ar gyflawni’r agenda Gofal wedi’i Drefnu ac ymdrech aruthrol y timau Cyfarwyddo i gyflawni ar gyfer ein poblogaeth. Canser – Mae’r Bwrdd yn perfformio’n gyson yn erbyn y targed canser 31 diwrnod a llwyddodd i gyrraedd y targed o 98% mewn saith mis o blith deuddeg. Mae’r targed 62 diwrnod yn parhau i fod yn heriol. Gwelwyd gwelliant yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, ond gwaethygodd y perfformiad yn ystod y misoedd olaf. Disgwylir gweld gwelliannau yn gynnar yn 2017/18. Strôc - Adolygwyd y driniaeth thrombolysis ac adferiad a gynigir i gleifion. Eleni cyflwynodd y

Page 32: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 32 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

gwasanaeth Strôc becyn meddalwedd o’r enw “Capture Stroke” er mwyn cadw golwg fanylach ar strociau a symptomau sy’n ymdebygu i symptomau strôc. Mae’r pecyn yn gysylltiedig â Chynllun Mynediad Cleifion Cymru (WPAS) Wrth fonitro perfformiad gwelir bod angen canolbwyntio yn y flwyddyn newydd ar yr amser rhwng dechrau’r symptomau, cyrraedd yr ysbyty a chael sgan CT, ac yn enwedig ar yr amser rhwng sganio a mynd i’r uned strôc. Newidiwyd y mesurau eto eleni, yn enwedig o ran yr amser i weld ymgynghorydd/nyrs strôc. Mae’r Bwrdd Iechyd yn perfformio’n arbennig o dda ar yr agwedd hon oni bai am ar benwythnosau oherwydd nad oes gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos. Parhaodd y Tîm Strôc i weithio gyda’r Uned Ddarparu yn ystod y flwyddyn. Bu’r Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus hefyd yn gweithio’n agos gyda'r gwasanaeth Strôc eleni. Gwasanaethau Gofal Sylfaenol – Caiff gofal sylfaenol ei ddarparu gan amrywiaeth eang o gontractwyr annibynnol medrus tu hwnt, gan gynnwys meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr. Ond mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir yn uniongyrchol gan staff a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys staff cymorth. Mae’r dangosyddion gofal sylfaenol yn dda o safbwynt cyfleoedd i weld meddyg teulu. Mae’r Bwrdd Iechyd yn nodi bod angen gwelliannau pellach mewn sawl maes Gofal Sylfaenol, gyda Gwasanaethau Tu Allan i Oriau, Gwasanaethau Canolfannau Clwstwr a Nyrsys Ardal Teithiol yn rhai enghreifftiau. Gwelliannau o’u cymharu â 2015/2016 – Roedd amserau agor ac apwyntiadau meddygfeydd yn parhau i fod yn weddol hwylus yn ystod 2016-17, gyda 95% o’n meddygfeydd yn cynnig apwyntiadau rhwng 5.00pm a 6.30pm bum diwrnod yr wythnos. Er hyn, bu mymryn o ostyngiad yn nifer y meddygfeydd a oedd yn agor o fewn awr i’r oriau craidd dyddiol o 8.00am i 6.30 pm.

Gwelwyd gwelliant parhaus eleni o fewn y gwasanaethau Iechyd Meddwl o ran gwella a chynnal y perfformiad tuag at y targed. (Canolbwyntiwyd unwaith eto ar wella perfformiad a lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn bennaf). Eleni, roedd canran y ddarpariaeth eiriolaeth yn 100%, ac atebwyd mwy o gleifion oedd yn cysylltu â llinellau cymorth cleifion dynodedig e.e. y llinell gymorth Dementia a’r llinell gymorth CALL ar gyfer iechyd meddwl.

Roedd y Bwrdd Iechyd yn parhau i gadw golwg ar gyfraddau’r cleifion nad oeddent yn mynychu: mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posib i’n cleifion. Mae adran yn yr Adroddiad Blynyddol a’r Adroddiad Atebolrwydd sy’n rhoi sylw i faterion perfformiad sy’n ymwneud â’r gweithlu. Yn 2016/2017 roedd gostyngiad yn niferoedd y staff a oedd yn sâl (roedd y ganran o 5.31% ym mis Mawrth 2017 yn llai na chyfraddau’r ddwy flynedd flaenorol). Mae’r canran

Page 33: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 33 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

cydymffurfio â’r Adolygiad Datblygu Personol (PDR) yn 64% ac yn dal i fod yn llai na’r targed o 85%. Mae’r cyfraddau Gwerthuso Meddygol yn parhau’n uchel gyda’r canran yn 92.53%. Gwelwyd gwelliant unwaith eto o ran cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol a statudol ac am y tro cyntaf roedd y canran yn fwy na 50%. Roedd arolygon staff yn dangos y buasai staff yn hapus gyda safon y gofal yr oedd y mudiad yn ei ddarparu (56%) petai angen triniaeth ar gyfaill neu aelod o’u teulu. Mae hyn yn welliant o gydnabod bod angen gwneud gwaith yn y maes hwn o hyd.

CYNLLUN TYMOR CANOLIG INTEGREDIG 2016-19 Roedd y Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol ar gyfer 2016-17 yn gofyn i bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru baratoi a chyflwyno cynllun integredig 3 blynedd a gymeradwywyd gan y Bwrdd i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Mawrth 2016. Roedd angen i’r cyflwyniad terfynol adlewyrchu’r adborth o’r broses asesu a sicrwydd ffurfiol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Cynlluniau drafft a gyflwynwyd gan bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth y GIG ar ddiwedd mis Ionawr 2016. Oherwydd problem yn bennaf gydag amserlen cyfarfodydd y Bwrdd, anfonodd y BIP ddrafft terfynol y Cynllun Tymor Canolig Integredig at Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau sef 31 Mawrth ar y ddealltwriaeth y câi’r drafft terfynol ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Integredig ar 6 Ebrill 2016. Ar ôl i’r Bwrdd cyhoeddus gymeradwyo’r Cynllun Integredig ar 4 Mai 2016, cafodd y BIP gadarnhad ffurfiol ar 29 Mehefin 2016 bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi’i gymeradwyo. Gellir gweld y Cynllun llawn trwy fynd i’r ddolen hon: Cynllun Tymor Canolig Integredig Cymeradwy 2016-2019

Roedd BIP Cwm Taf yn un o dri Bwrdd Iechyd y cymeradwywyd ei Gynllun Integredig gan Ysgrifennydd y Cabinet. At hynny, Cwm Taf oedd yr unig Fwrdd Iechyd y cymeradwywyd ei Gynllun Integredig dair blynedd yn olynol. Roedd y BIP yn falch mai hon oedd y drydedd flwyddyn i’r Bwrdd Iechyd fod ymysg y cyntaf yng Nghymru i gael cymeradwyaeth i’w gynllun, ond roedd hefyd yn ymwybodol iawn o’r heriau, y risgiau a’r cymhlethdodau a fyddai’n codi o’i weithredu.

Ym mis Mehefin 2016 cafodd llythyrau atebolrwydd eu cyfnewid rhwng Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, a’r Prif Weithredwr. Roedd y llythyrau hyn yn egluro’r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y Bwrdd Iechyd wrth gyflawni ei Gynllun, gan gynnwys ei gyfrifoldebau o ran risgiau ariannol.

Roedd Cynllun Integredig BIP Cwm Taf ar gyfer 2016-19 yn seiliedig ar ddull cynllunio integredig, gyda phwyslais ar ansawdd, diogelwch a gofal iechyd darbodus. Cafodd ei ddatblygu yn seiliedig ar drafodaethau helaeth gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ac roedd y drafft terfynol yn cynnwys Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Er mwyn codi mwy o ymwybyddiaeth o’r Cynllun Integredig ar draws y Bwrdd Iechyd, datblygwyd dogfen gryno ar gyfer rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys y cyhoedd. Gellir gweld y ddogfen gryno ar y ddolen we ganlynol: Cynllun Tymor Canol Integredig 2016-2019 – dogfen gryno

Page 34: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 34 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Trwy broses sicrwydd a chraffu’r Bwrdd, bu Aelodau’r Bwrdd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r Cynllun a chyfrannu tuag ato. Yn ogystal â hyn, gwnaeth y Bwrdd Gweithredol a’r Grŵp Cynllunio Integredig chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cynllun a chefnogi’r gwaith o’i gyflenwi.

Yn ystod 2016/17, cynhyrchwyd adroddiadau chwarterol ynglŷn â’r Cynllun Tymor Canolig Integredig i’w hystyried gan Fwrdd Gweithredol a Bwrdd y BIP. Cyflwynwyd yr adroddiadau a gymeradwywyd gan y Bwrdd hefyd i Lywodraeth Cymru a’u defnyddio’n sail i drafodaethau perfformiad ffurfiol mewn cyfarfodydd rhwng y Tîm Cydweithredol (JET) a Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer y cyfnod 2016-2019, nododd Cynllun Tymor Canolig Integredig BIP Cwm Taf yr uchelgais tair blynedd ganlynol:

llai o anhwylderau yn ein cymunedau;

cryfhau gwasanaethau gofal sylfaenol craidd trwy ddarparu gwasanaethau gwell ym mhob meddygfa ffederal er mwyn rhoi’r un cyfle i bawb allu manteisio arnynt;

datblygu Canolfannau Clwstwr i hybu gwaith lleol ymhellach, ac felly hwyluso symudiad amlwg gwasanaethau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol;

rhoi modelau gweithlu a gwasanaeth arloesol ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol sydd wedi arwain at lai o bobl yn mynd i’r ysbyty yn ddiangen ac wedi llwyddo i symud gwasanaethau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol;

wedi cyflawni gwasanaethau hollol integredig gyda’n partneriaid ar draws meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau ail-alluogi, yn enwedig i blant a phobl eiddil oedrannus;

wedi ail-ddylunio modelau gwasanaeth gofal eilaidd a’u rhoi ar waith ar draws ein meysydd gwasanaeth ‘bregus’, yn rhan o drefniadau ymgynghreirio ehangach â’n Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau partner, ac;

wedi seilio’r gwaith o gynllunio a darparu ein gwasanaeth ar ofal iechyd darbodus.

Y nod oedd cyflawni’r holl bethau hyn, cyn belled â bod hynny’n bosibl, gan ddefnyddio modelau gweithlu arloesol a chydweithio’n agos â’n staff, ein partneriaid a chymunedau lleol; yn unol â’n safonau perfformiad ac ansawdd ac o fewn fframwaith ariannol sy’n fforddiadwy ond hefyd yn cynnig gwerth am arian.

Yn gyffredinol, rydym yn dal i wneud cynnydd da o ran darparu ein cynllun tair blynedd. Dyma rai o’n prif lwyddiannau yn ystod 2016-2017:

• Ymestyn y Gwasanaeth Cyswllt Seiciatrig o 5 diwrnod i 7 diwrnod

• Arbrofwyd gyda’r Uned Asesu Bediatrig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Roedd y canlyniadau’n tystio i lwyddiant yr uned yn lleihau nifer yr achosion o fynd i’r ysbyty yn ddiangen a chadw gofal plant mor agos i’r cartref â phosib.

• Datblygu cynlluniau ar gyfer Uned Obstetreg a Newydd-anedig newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.

• Y Bwrdd yn rhoi sêl eu bendith ar gynnig i ganoli gwasanaethau’r fron yn YBG. Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd yn bartner mewn diwrnod codi arian hynod lwyddiannus ‘Giving to Pink’ ym mis Hydref 2016.

• Mewn partneriaeth â Macmillan, rydym wedi datblygu cynlluniau i gael Uned Gofal Lliniarol newydd yn YBG.

• Cytundeb i gynnal arbrawf Diagnosteg Canser Cynnar yng Nghlwstwr Cwm Cynon.

Page 35: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 35 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

• Sicrhawyd £6miliwn o gyllid cyfalaf ym mis Tachwedd 2016 i ddatblygu cam cyntaf y ganolfan ddiagnosteg, a fydd yn ehangu’r cymhwysedd CT ac MRI yn YBG. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Rhagfyr 2016 a bydd yn barod ym mis Hydref 2017.

• Datblygu gwasanaeth Oncoleg Acíwt i gyflymu’r broses o drin a rheoli cleifion Oncoleg sy’n dod i’r ysbyty gyda salwch acíwt. Mae hyn yn arwain at arosiadau byrrach a gwell canlyniadau clinigol.

• Bu cynnydd da gyda cham cyntaf y prosiect i drawsnewid Ysbyty Dewi Sant yn Barc Iechyd a chanolfan glwstwr ar gyfer Taf Elai. Cafodd y gyfran gyntaf o wasanaethau eu trosglwyddo ym mis Ionawr 2017.

• Am yr ail flwyddyn fe wnaeth Cyfarwyddwyr Gweithredol Cwm Taf, ynghyd â’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol eleni, ‘ddychwelyd i’r Rheng Flaen’ ym mis Hydref 2016 i ganfod sut y gallan nhw wella gwasanaethau iechyd ymhellach drwy drafod yn uniongyrchol gyda staff a chleifion.

• Lansiwyd ymgyrch ddigidol genedlaethol i recriwtio nyrsys ym mis Awst 2016 a oedd yn dangos bywyd yng Nghwm Taf. Mae’r ymgyrch wedi arwain at gynnydd mewn ceisiadau am swyddi nyrsio

Mae ein Bwrdd yn parhau i roi pwyslais cryf ar ansawdd, perfformiad a chyflawni a gallwn ddangos ein bod yn sefydliad sydd wedi aeddfedu o ran ein trefniadau llywodraethu a sicrwydd. Er bod heriau’n parhau wrth fynd ymlaen, byddwn yn dal i adeiladu ar ein cyraeddiadau ac yn dathlu ein llwyddiant gyda gwelliannau amlwg ar gyfer ein cymuned o ran canlyniadau perfformiad ac ansawdd yn ystod 2016/17:

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2016 – DATGANIAD LLES Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod amryw o ddyletswyddau ar y Bwrdd Iechyd Prifysgol, fel corff cyhoeddus unigol sy’n rhwym wrth y Ddeddf, ac hefyd ar y cyd fel aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf. Mae gosod Amcanion Lles a chyhoeddi Datganiad Lles ymysg y dyletswyddau hyn. Yn ei Gynllun Tymor Canolig Integredig diwygiedig ar gyfer 2017-20 mae BIP Cwm Taf wedi ymgorffori ei ddatganiad Lles a gwybodaeth ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei Amcanion Lles. Mae hyn er mwyn sicrhau na chaiff yr amcanion hyn eu gweld fel pethau “ategol’ neu ar wahân i’r amcanion sy’n llywio gwaith a phenderfyniadau’r Bwrdd Iechyd. Yn hytrach, mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn ynghylch darparu gwasanaethau. Yn wir, mae Cynllun Tymor Canolig Integredig 2017-20 yn dweud (tudalen 13) mai prif fwriad y cynllun yw: “Effeithio ar newid hirdymor, yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i wella

iechyd, lles a gwytnwch y cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu.” Mae ein Datganiad Lles yn rhan o adran 1.1 o Gynllun Tymor Canolig Integredig 2017-2020. Mae’n manylu ar amcanion Lles y Bwrdd Iechyd a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2017 ac yn rhoi sylw i sut y gwnaethom ni eu datblygu ynghyd â sut yr ydym ni’n gobeithio eu gweithredu. Byddwn yn adolygu’n cynnydd o ran cyflawni’r amcanion lles drwy gyfrwng adroddiadau cynnydd chwarterol ynglŷn â’r Cynllun Integredig sy’n cael eu paratoi ar gyfer y Bwrdd Gweithredol, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru. Dyma rai enghreifftiau o waith a wnaed yn ystod 2016/17 sy’n cyfrannu at ein llwyddiant wrth gyflawni ein Hamcanion Lles: Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i atal iechyd gwael, i amddiffyn iechyd da a hyrwyddo gwell iechyd a lles.

Dechrau cynllun i fynd i’r afael â gordewdra ymysg mamau

Page 36: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 36 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Prosiect MAMSS i gynyddu cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd

Y Bwrdd Iechyd sy’n perfformio orau o ran rhoi brechiadau i blant Byddwn yn darparu gofal o ansawdd mor lleol â phosib lle bynnag y bo hynny’n ddiogel ac yn gynaliadwy.

Clinigau Profi Gwaed INR yn y lleoliad sy’n darparu’r gofal

Gwasanaeth amlddisgyblaethol cyn asesiad Cardioleg

Datblygu Canolfan Eni Tirion, sef Uned Famolaeth Atodol yn YBG

Datblygu Unedau Asesu Llawfeddygol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Gwent, gan leihau’r angen i orfod defnyddio gwelyau cleifion preswyl.

Byddwn yn darparu ein gwasanaeth mewn modd arloesol gan adlewyrchu egwyddorion gofal iechyd darbodus a hyrwyddo gwell gwerth i ddefnyddwyr.

Datblygu’r cynllun chwe blwch ymateb Sepsis a enillodd wobr Comisiwn Bevan am arloesedd

Cyrsiau rheoli straen ac ymwybyddiaeth ofalgar gyda Camau’r Cymoedd, gan helpu i leihau presgripsiynau gwrth-iselder

Prosiect o fri wedi ei ddatblygu gan y Therapyddion Iaith a Llefaredd a thîm Canser y Gwddf a’r Pen i gefnogi cleifion yn gynnar yng nghwrs eu triniaeth

Byddwn yn cydweithio gyda’n partneriaid mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill ynghyd ag ystod ehangach o bartneriaid eraill i gyfuno iechyd a gwasanaethau eraill os yw hyn o bosib yn cynnig gwell gwerth i’n trigolion a’n cleifion.

Creu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus cyfunol ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Datblygu Gwasanaeth Cyfunol Byw yn Dda Gartref a fydd yn dechrau gweithredu’n llawn yn 2017/18

Wedi ariannu cymorth i brosiectau Trydydd Sector drwy gyfrwng grant Cymhwysedd Cymunedol lleol. Mae cynlluniau wedi gwella iechyd a lles pobl a lleihau unigrwydd ac unigedd e.e. 5 Cydlynydd Cymunedol yn gweithio gyda phobl hŷn a’r Prosiect Y 5 Ffordd at Les sydd yng ngofal gwirfoddolwyr.

Drwy gyfrwng ein hymrwymiad i gyfrifoldeb corfforaethol cymdeithasol ac i wella cydraddoldeb cymdeithasol a chydraddoldeb iechyd, byddwn yn gweithio gyda’n staff, partneriaid a chymunedau i adeiladu ar gysylltiadau cryf a sylfeini cadarn y gorffennol.

Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu Cynllun Ailsefydlu Pobl Fregus ar gyfer ffoaduriaid o Syria

Yn parhau i gefnogi partneriaethau rhyngwladol, gan gynnwys PONT a gwaith yn Zimbabwe a Vanuatu.

Parodrwydd am Argyfwng

Mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn gofyn bod cynlluniau brys gan sefydliadau er mwyn sicrhau y gall y sefydliad ymateb ar y cyd â’i asiantaethau partner pe bai sefyllfa o’r fath yn codi, boed hyn ar ffurf camau i atal neu i leihau’r risg o argyfwng neu ei effeithiau. Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am gyflawni rhwymedigaethau’r Bwrdd Iechyd o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, ond o ddydd i ddydd, y prif reolwyr sy’n sicrhau y caiff cynlluniau cyfredol eu diweddaru’n unol â newidiadau deddfwriaethol a chanllawiau cenedlaethol.

Mae Cynllun Digwyddiadau Mawr gan y Bwrdd Iechyd sy’n rhoi ystyriaeth lawn i ofynion y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i GIG Cymru a’r holl ganllawiau cysylltiedig. Lluniwyd y cynllun

Page 37: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 37 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Digwyddiad Mawr i gael ei weithredu yn y naill neu’r llall o ysbytai acíwt y Bwrdd Iechyd, neu yn y ddau ysbyty. Mae hefyd yn ystyried datblygiadau diweddar sy’n ymwneud â chynllunio ac ymateb i nifer fawr o bobl ag anafiadau.

Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn parhau i gynnal ei ddyletswyddau fel ymatebwr Categori 1. Mae wedi cryfhau ei lefel gydymffurfio gyda datblygiad pecyn Hyfforddi Comander Arian a gyflwynwyd i uwch-reolwyr, Gweithredwyr sy’n mynychu hyfforddiant Aur Cymru a’i Reolwr Argyfyngau Sifil Posibl sydd wrthi’n astudio Diploma mewn Cynllunio at Argyfwng Iechyd.

Mae’r sefydliad hefyd wedi datblygu cynllun i wagio safle’r ysbyty yn llwyr petai achos o berygl ac mae wrthi’n cynnwys cynllun y gwersi a ddysgwyd o ymarferiad byw gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac o sesiwn drafod anffurfiol gyda phartneriaid o sawl asiantaeth wahanol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf hefyd wedi datblygu cynllun GIG Cymru Gyfan ar gyfer Ymateb i Nifer Fawr o Bobl ag Anafiadau, yn dilyn gwersi a ddysgwyd o’r ymosodiadau ym Mharis. Nod y cynllun hwn yw cydlynu adnoddau a chyfathrebiadau’r GIG ledled Cymru er mwyn rheoli digwyddiad sylweddol sy’n ymwneud â nifer fawr o bobl wedi’u hanafu. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Ambiwlans Cymru ac adnoddau arbenigol ac mae wedi’i gynnwys yn ein cynllun Digwyddiadau Mawr.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth / Deddf Diogelu Data Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i fod yn fwy agored yn y sector cyhoeddus. Ei hegwyddor sylfaenol yw y dylai unrhyw wybodaeth nad yw’n bersonol a gedwir gan gorff cyhoeddus fod ar gael i bawb oni bai bod eithriad yn berthnasol. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i ymatebion gael eu prosesu o fewn 20 diwrnod gwaith, oni bai bod angen ystyried diddordeb y cyhoedd ehangach o ran datgelu darn o wybodaeth neu fod angen mwy o eglurder ynghylch yr wybodaeth sydd ei hangen. Mae gan y Bwrdd drefniadau ar waith i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ac mae’n perfformio’n dda, gyda mwy na 90% o’r ymatebion yn cael eu cyflawni o fewn y targed 20 diwrnod. Mae proses apelio hefyd ar waith pan fo’r rheini sy’n derbyn ymateb yn parhau i fod yn anfodlon. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldebau manwl hefyd dros sicrhau bod data a gwybodaeth bersonol yn cael eu cadw’n ddiogel. Yn ystod 2016/17, cafwyd 7 digwyddiad a oedd yn ymwneud â diogelwch data yr oedd angen eu hadrodd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Ymchwiliwyd i bob un o’r digwyddiadau hyn yn fewnol a, lle bo angen, darparwyd cymorth a chydweithrediad i’r ICO er mwyn eu cynorthwyo gyda’u hymchwiliadau. O ran perfformiad rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017, cafodd y Bwrdd Iechyd 462 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. O’r ceisiadau hynny, nid oedd eithriadau yn perthyn i 361 o’r ymatebion, ac ymatebwyd i 419 ohonynt o fewn yr amserlen 20 diwrnod gwaith. Mae’r holl ymatebion i’w gweld ar y ddolen ganlynol: http://cwmtaf.wales/foi/disclosure-log/.

Page 38: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 38 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

ADRODDIAD CYNALIADWYEDD Ers 2011-12, rhaid i bob corff y mae’n ofynnol iddynt gynhyrchu Adroddiad Cynaliadwyedd yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM), gynnwys adran ar wahân yn ei Adroddiad Blynyddol yn trafod ei berfformiad o ran cynaliadwyedd yn ystod y flwyddyn, a rhaid iddi gynnwys:

Crynodeb byr yn trafod y mentrau a’r rhaglenni a sefydlwyd i wella cynaliadwyedd yn y sefydliad a’r effeithiau a gyflawnwyd. Dylai hyn gynnwys trafodaeth lefel uchel o dargedau a chyfeiriad sefydliadol.

Cynnig trosolwg o strategaeth y sefydliad ar gyfer y dyfodol i wella perfformiad. Dylid cyfeirio hefyd at achosion pan fo cynaliadwyedd pellach a rheoli ystadau wedi eu

cyhoeddi, gan gynnwys cyfeiriadau gwe. Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adran hon o’n hadroddiad yn ymwneud â’r Flwyddyn Ariannol 2016-17 a, phan oedd gwybodaeth ar gael, mae cymariaethau wedi’u gwneud â’r blynyddoedd blaenorol. Mae’r Cynaliadwyedd Amgylcheddol mwy manwl ar gyfer 2016-17 a chynllun gweithredu ar gael yn <http://cwmtaf.wales/how-we-work/plans-and-reports/>. Bydd yr adroddiad Ystadau Blynyddol yn cael ei dderbyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn yr hydref. Gan adeiladu ar waith da blaenorol, bydd y sefydliad yn cyfuno’r elfennau newid ymddygiadol a thechnegol.

Yn benodol, byddwn yn:

Sicrhau bod pob gweithiwr, gan gynnwys contractwyr, yn gyfrifol am weithio mewn modd sy’n diogelu’r amgylchedd.

Integreiddio rheolaeth amgylcheddol i drefniadau gweithredu er mwyn sicrhau bod materion amgylcheddol hirdymor a thymor byr yn cael eu hystyried.

Sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella’n barhaus ac i atal llygredd ym mhob maes a allai gael effaith ar yr amgylchedd.

Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol, Safonau Iechyd a Gofal Cymru a Chyfarwyddebau Llywodraeth Cymru.

Rydym hefyd yn gwella cyfathrebu trwy ddefnyddio pwynt rhannu Mewnrwyd y sefydliad a thudalennau hafan Cyfleusterau, sy’n cynnwys rheoli amgylcheddol.

Rydym yn bwriadu lleihau ein heffaith amgylcheddol yn benodol trwy:

Leihau’r adnoddau a ddefnyddir sydd â phen draw iddynt a chael gwared â gwastraff lle bo’n bosibl;

Mabwysiadu dull rheoli ar sail carbon sydd wedi’i anelu’n benodol at leihau allyriadau CO2 a

gynhyrchir gan ynni, gwastraff a thrafnidiaeth trwy gyrraedd amcan darged Llywodraeth Cymru i leihau ein hôl-troed carbon 3% o un flwyddyn i’r llall, a gweithio i ehangu’r targed hwn a lleihau costau ynni.

Rydym hefyd yn bwriadu prynu neu gynhyrchu cyfran o’r ynni o ffynonellau adnewyddadwy;

Hyrwyddo’r gwaith o leihau’r gwastraff a gynhyrchir trwy weithgareddau’r Bwrdd Iechyd a lleihau effaith amgylcheddol gwaredu gwastraff lle bynnag y bo’n bosibl trwy arallgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ailgylchu;

Mabwysiadu cynlluniau teithio sy’n benodol i’r safle, sy’n annog newid moddol o deithiau car

Page 39: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 39 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

gyrrwr yn unig i ddulliau teithio mwy cynaliadwy, fel cludiant cyhoeddus, rhannu ceir a theithio llesol;

Integreiddio egwyddorion datblygiad cynaliadwy mewn penderfyniadau prynu bob dydd;

Byddwn yn gweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i ddod o hyd i ddatrysiadau cydgysylltiedig ac amgylcheddol;

Byddwn yn gweithio gyda’n staff, ein partneriaid a’n cymunedau, gan adeiladu ar ein cysylltiadau lleol cryf.

Mae ystad y BIP yn cwmpasu 74 Hectar o dir, ac mae arno adeiladau â chyfanswm arwynebedd lloriau mewnol gros o 179,446m2. Mae’r adeiladau’n cynnwys:

2 Ysbyty Acíwt Mawr 1 Ysbyty i Gleifion sy’n Aros yn Hir 2 Ysbyty Cymuned 2 Ysbyty Arbenigol 18 o Gyfleusterau eraill i gleifion 6 Chyfleuster Cymorth arall

O ystyried maint y sefydliad hwn, mae ei effaith ar yr amgylchedd yn sylweddol. Oherwydd hyn, mae mesurau ar waith gennym i reoli a lleihau’r baich amgylcheddol a gynhyrchir gan ein gweithrediadau arferol bob dydd.

Uchafbwyntiau o ran perfformiad Mae’r Grŵp Rheolaeth Amgylcheddol (EMG) yn monitro perfformiad, nodau a thargedau gan roi gwybod am broblemau amgylcheddol i Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Risg y Bwrdd drwy’r Cyfarwyddwr, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am y Gyfarwyddiaeth Cyfleusterau. Trosglwyddwyd y gyfarwyddiaeth Cyfleusterau o Gyfarwyddwr y Bwrdd i bortffolio’r Prif Swyddog Gweithredu. Cadeirydd yr EMG yw’r Pennaeth Cyfleusterau sy’n arwain ynghylch materion amgylcheddol gyda chymorth tîm sy’n cynnwys y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, y Rheolwr Cydymffurfio, Rheolwyr Cymorth y Cyfleusterau, Rheolwyr Ynni, Rheolwyr Safle Ysbytai Cymuned a’r Rheolwr Gwastraff a Thrafnidiaeth. Mae cynrychiolwyr y grŵp yn dod o wahanol rannau o’r sefydliad gan gynnwys nyrsio, caffael, patholeg, fferylliaeth a gwasanaethau cymunedol.

Mae’r Grŵp Rheolaeth Amgylcheddol (EMG) yn monitro ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad yn rheolaidd yn y meysydd gwaith canlynol:

Y defnydd o ynni Y defnydd o ddŵr Allyriadau carbon ac aer Rheoli gwastraff o ran targedau a pherfformiad ailgylchu Staff sy’n hawlio milltiroedd car preifat Milltiroedd rhannu teithiau, bws gwennol a fflyd, allyriadau carbon ac effeithiolrwydd cost Arolwg trafnidiaeth a theithio

Yn rhan o’r systemau rheoli amgylcheddol sydd ar waith, gall staff gynnig adborth trwy e-bost neu dros y ffôn ar agweddau neu bryderon amgylcheddol sy’n cynnwys materion gwastraff, cludiant a theithio i ddesg gymorth ganolog cyfleusterau.

Page 40: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 40 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Llwyddiannau yn 2016-2017

Bodlonwyd targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae gostyngiad i’w hallyriadau carbon o un flwyddyn i’r llall (Tablau 1 a 2) yn cael ei gyflawni (yn amodol ar gadarnhad o’r biliau ynni a amcangyfrifir); mae allyriadau yn gostwng yn raddol yn bennaf oherwydd defnydd cynyddol o sglodion coed ar gyfer unedau gwres a phŵer cyfunedig ac effaith y paneli solar;

Ar y trywydd iawn i sicrhau’r gostyngiad o 2% y flwyddyn i’r defnydd o ddŵr (yn amodol ar gadarnhad o’r biliau dŵr a amcangyfrifir);

Gostyngwyd cyfanswm y gwastraff o ychydig yn llai nag 1%;

Mae tunelledd gwastraff ailgylchu wedi cynyddu 11.5%. Rhagwelir mai 36% fydd y gyfradd ailgylchu ar draws y sefydliad ar gyfer y cyfnod, i fyny o 32% yn 2015-2016. Er bod hyn yn welliant, mae’n is na’r targed o 38% a osodwyd gennym i’n hunain ar gyfer 2016-2017;

Cadwyd achrediad ISO 14001:2015 ar gyfer pob safle gofal iechyd;

Defnyddiwyd cyllid cyfalaf i leihau defnydd a chost yn cynnwys uwchraddio goleuadau Deuodau Allyrru Golau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Clinig Glynrhedynog, adeilad Gweinyddol Dewi Sant, Gwasanaethau Golchi Dwyrain Morgannwg, Parc Navigation a’r Uned Gynhyrchu Ganolog;

Mae cyfanswm y costau gwaredu wedi cynyddu 4.3% o un flwyddyn i’r llall oherwydd codiad yn y prisiau;

Parhau’r ymgyrch ymwybyddiaeth gwahanu gwastraff;

Dechreuwyd anfon gwastraff bwyd i gael ei drin trwy dreulio anaerobig (mwy cynhwysfawr na chompostio a nwy methan a ddefnyddiwyd i gynhyrchu trydan – cynhyrchwyd gwrtaith hylif a chompost brau);

Mae’r modiwl e-ddysgu yn cael ei hyrwyddo i’r staff ei ddefnyddio ar draws y sefydliad a chwblhawyd hyfforddiant gan 43%;

Cynnydd o 10.21% i allyriadau cerbydau fflyd a rhannu teithiau wedi ei briodoli i gerbydau ychwanegol yn y fflyd a galw am wasanaethau;

Hawliadau milltiredd staff a defnyddwyr ceir les - cynnydd o 8.07% i dunelledd CO2 yn adlewyrchu’r cynnydd o ran y newid o wasanaethau ysbyty i wasanaethau yn y gymuned.

Cerdyn sgorio cydymffurfiad Yn rhan o’i drefniadau llywodraethu, mae BIP Cwm Taf wedi cynhyrchu cardiau sgorio cydymffurfiaeth sy’n rhoi manylion y gofynion deddfwriaethol a statudol a’r gofynion arfer gorau sy’n ymwneud â gweithgareddau penodol. Er mwyn cynorthwyo â’r gwaith o reoli materion amgylcheddol yn briodol, datblygwyd y cardiau sgorio canlynol:

Cerdyn sgorio’r amgylchedd;

Cerdyn sgorio trafnidiaeth a theithio;

Cerdyn sgorio ynni;

Cerdyn sgorio gwastraff;

Cerdyn sgorio dŵr.

Mae’r dull gweithredu seiliedig ar gardiau sgorio wedi’i ymwreiddio bellach o fewn y sefydliad a gwnaed gwelliannau o ran cydymffurfio ym mhob un o’r meysydd hyn:

Systemau casglu data Darlleniadau mesuryddion misol (Casglu â Llaw) Darlleniadau bob hanner hawr ar bob mesurydd trydan sydd dros 100kW (ar y we) Bwydo darlleniadau o is-fesuryddion trydan yn ôl i’r BMS (Ether-rwyd)

Page 41: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 41 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Bwydo darlleniadau o is-fesuryddion dŵr yn ôl i’r BMS (Ether-rwyd) Bwydo darlleniadau o fesuryddion gwres yn ôl i’r BMS (Ether-rwyd) Mae mesuryddion nwy yn cael eu cysylltu’n delemetrig ar hyn o bryd (ar y we) Mae’r data i gyd yn cael ei fewnbynnu i becyn meddalwedd TEAM a ddefnyddir i Ddadansoddi

ac Archwilio Ynni Rheoli gwastraff Trafnidiaeth a Theithio

Allyriadau Carbon ac Aer Yn ystod 2012, cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Garbon, mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, adolygiad cenedlaethol o sefydliadau iechyd yng Nghymru. Nod eu hastudiaeth oedd asesu’r perfformiad cyfredol, cael gafael ar enghreifftiau ymarferol o lwyddiant ac annog a hybu arfer da.

Dangosodd yr adolygiad y gallai potensial sylweddol fodoli i leihau’r ynni a ddefnyddir. Gosododd Llywodraeth Cymru darged o 3% o un flwyddyn i’r llall, a byddai hyn yn cyflawni’r targed lleihau carbon. Mae’r targed hwn ar gyfer lleihau CO2 yn ogystal ag ynni; mae hefyd yn cynnwys gwastraff a theithio / trafnidiaeth. Caiff hwn ei adolygu bob blwyddyn er mwyn pennu o’r tueddiad mewn prisiau cyfleustodau a yw’r targed wedi’i gyrraedd ac a ystyrir bod angen ehangu’r targed ymhellach er mwyn lleihau unrhyw gostau ynni cynyddol. Mae ein hallyriadau wedi gostwng yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf yn sgil cynhyrchu gwres o’n dau osodiad Biomas a lleihau’r trydan a ddefnyddir o’r grid. Mae’r uned newydd i Israddedigion ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie yn cynhyrchu trydan o Baneli Solar ac mae ein dau ysbyty acíwt wedi cyfuno unedau gwres a phŵer (CHP) sy’n defnyddio nwy i gynhyrchu trydan a gwres ar y safleoedd, gan leihau ein hôl-troed carbon cyffredinol.

Rydym wedi buddsoddi mewn mwy o ynni Carbon Isel neu Ddi-garbon trwy arian Buddsoddi i Arbed (Twf Gwyrdd Cymru) i ddiweddaru’r goleuadau i rai LED a chynhaliwyd astudiaeth ymarferoldeb i asesu cost-effeithlonrwydd gosod offer Optimeiddio Foltedd ar safleoedd amrywiol. Ni chefnogwyd hynny. Mae Tabl 1 yn dangos bod y perfformiad ar y trywydd cywir i gyflawni’r gostyngiad o 7% a argymhellir ac mae Tabl 2 yn dangos crynodeb mwy manwl.

60%

50%

30%

40%

30% 10%

20%

20%

10%

10%

Cynhyrchu Adnewyddadwy

Rheoli Cynlluniau ac Aseday

Buddsoddi i Arbed

Cadw Tŷ Da

Page 42: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 42 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Cynnydd CO2 yn erbyn y Targed

Tabl 1 Mae Tabl 1 yn darparu gwybodaeth am Allyriadau Carbon yn erbyn targed o 7% o ostyngiad o un flwyddyn i’r llall ac mae’r Bwrdd Iechyd yn dal i fod ar y trywydd cywir;

(Mae’r rhai o’r ffigurau ynni yn (Nhablau 1 a 2) ar gyfer Blwyddyn Gyllidol 2014-2015, 2015-2016 a 2016-2017 yn seiliedig ar ffigurau amcangyfrifedig, gan nad oedd yr holl ddata ar gael ar adeg yr adroddiad hwn. Problemau trafodiadol parhaus gyda’r manylion yn y datganiadau ynni a ddarparwyd gan y cyflenwyr ynni yw’r rheswm am hyn. Mae hwn yn fater Cymru gyfan sy’n effeithio ar bob Bwrdd Iechyd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd).

Cynnydd CO2 yn erbyn y Targed Cyfanswm yr Allyriau

Targed

Page 43: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 43 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Tabl 2

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2014-15 2015-16 2016-17

* Yn dynodi ffigurau amcangyfrifedig

Dangosyddion heb fod yn Ariannol

(1,000 tCO2e)

Allyriadau Crynswth Cwmpas 1 (uniongyrchol) – Ynni (Nwy)

11,163.60* 11,538.52* 10,487.09*

Allyriadau Crynswth Cwmpas 2 (Anuniongyrchol) – Ynni (Trydan)

10,281* 8652.75* 7,787.74*

Allyriadau Crynswth Cwmpas 1 (uniongyrchol) - Teithio

0.278 0.26 0.287*

Allyriadau Crynswth Cwmpas 2 (Anuniongyrchol) - Ynni (CHP)

0.67 0.73 0.24*

Allyriadau Crynswth Cwmpas 2 a 3 (Anuniongyrchol) - Teithio

1.2 1.271 1.373*

Cyfanswm Allyriadau Crynswth Ynni a Theithio

21,446.75 20,193.53 16,571.48*

Defnydd Ynni

Perthnasol (miliwn

Wh)

Trydan: Na ellir ei adnewyddu 19.2 17.39 14.7*

Trydan: Adnewyddadwy

Nwy 60.48 62.358 57.10*

LPG 0 0 0

Arall - Biomas (Sglodion coed) 3.527 2.428 3.067*

Arall - Olew 0.24 0.33 0.013*

Dangosyddion Ariannol (£miliwn)

Gwariant ar Ynni £4.33 £4.01 £4.84*

Gwariant ar Drwydded CRC (2010 ymlaen)

£0.32 £0.32 £0.32

Gwariant ar wrthbwysiadau achrededig (e.e. GCOF)

£0.39 £0.33 £0.29

Gwariant ar deithio busnes swyddogol

1,822,244 £1,615,200 1,782,282*

Yn 2016-2017, newidiodd y ffactorau Carbon o’r flwyddyn cynt:

Trydan a Fewnforiwyd –0.49636 i 0.44662 (-2.46%) Nwy – 0.18407 i 0.183645 (-0.007%) Trydan a Gynhyrchwyd – 0.4585 i 0.40957 (-2.24%).

Page 44: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 44 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Allyriadau Crynswth Cwmpas 1 (uniongyrchol) Nwy Mae hyn yn ymwneud â’r defnydd o nwy. Rydym yn aros am anfonebau terfynol ar gyfer defnydd mis Mawrth ar hyn o bryd. Mae’r data a ddangosir yn amcangyfrif felly, sy’n dangos ar hyn o bryd mân-ostyngiad yn erbyn 15-16 a fydd oherwydd amser rhedeg llai y CHPau a’r bwyleri ar safleoedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty’r Tywysog Siarl. Allyriadau Crynswth Cwmpas 2 (Anuniongyrchol) Trydan Mae’r adran hon yn ymwneud â’r trydan a brynwyd o’r Grid Cenedlaethol ac yn dynodi mân-ostyngiad o’r flwyddyn 15 – 16 cynt oherwydd parhad o ran cynhyrchu trydan ar y safle yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Unwaith eto, amcangyfrif yw’r ffigur tra’r ydym yn aros am filiau defnydd ar gyfer mis Mawrth. Allyriadau Crynswth Cwmpas 2 (Anuniongyrchol) Ynni (CHP) Mae hyn yn ymwneud â phrynu gwres gan Veolia sy’n rheoli’r tŷ bwyler yn Ysbyty’r Tywysog Siarl lle mae’r CHP (Gwres a Phŵer Cyfunedig) wedi ei leoli o dan gynllun rheoli ynni contract. Mae’r gostyngiad o’r flwyddyn flaenorol yn ganlyniad uniongyrchol i ostyngiad yn amser rhedeg y CHP. Biomas (Sglodion Coed) Mae’r cynnydd i’r defnydd o sglodion coed gan fod y gwaith yn rhedeg yn hwy heb dorri i lawr neu broblemau gyda thanwydd halogedig (sglodion coed) fel yr adroddwyd eisoes. Mae’n ymddangos bod parhad y cyflenwr sglodion coed i fonitro’r materion rheoli ansawdd wedi talu ar ei ganfed. Bu rhai pryderon yn y gorffennol ynghylch effeithlonrwydd y gwaith a allai fod yn gysylltiedig â gweithrediad y taradr ac mae hyn yn cael ei ymchwilio nawr. Roedd y ffigurau defnydd blaenorol yn nhabl 2 yn seiliedig ar M³ ac nid Kwh, ac mae hyn wedi cael ei newid bellach i adlewyrchu hyn. Milltiredd Teithio ac Allyriadau CO2 Mae data allyriadau teithio yn Nhabl 2 yn dynodi cyfanswm yr allyriadau CO2e, a’r dadansoddiad Cwmpas 1 a Chwmpas 3 ar gyfer faniau fflyd, ceir rhannu teithiau a hawliadau milltiredd staff a defnyddwyr ceir les.

Milltiroedd

busnes Cost Milltiroedd les Cost

2012-2013 3,216,653 £1,602,161.82 1,130,460 £151,969.23 2013-2014 3,363,917 £1,932,089.18 999,125 £133,752.40 2014-2015 3,032,808 £1,695,173.70 870,525 £127,070.35 2015-2016 3,196,668 £1,475,889.10 818896.00 £139,311.70

Cerbydau fflyd Pennwyd tanwydd a ddefnyddiwyd mewn litrau o adroddiadau trafodion misol a ddarparwyd gan ein darparwr cerdyn tanwydd. Dim ond data ar gyfer y cyfnod 04-2016 – 01-2017 oedd ar gael ar adeg paratoi’r adroddiad hwn. Allosodwyd y rhain am ddeuddeg mis i roi cyfanswm diwedd blwyddyn amcangyfrifedig a ddynodir yn y tabl gan *. Pennwyd y kgCO2e Cwmpas 1 ar gyfer y cyfnod adrodd hwn trwy gymhwyso’r trosiad kgCO2e/ltr ar gyfer diesel a phetrol di-blwm o Greenhouse Gas Conversion Factor Repository - Government conversion factors for company reporting – 2016 Defra. http://www.ukconversionfactorscarbonsmart.co.uk/ Mae hwn yn cynnig asesiad mwy cywir o allyriadau CO2e na throsiadau sy’n seiliedig ar drosiad milltir/galwyn amcangyfrifedig yn ymwneud â

Page 45: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 45 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

math o gerbyd a maint injan. Mae allyriadau trafnidiaeth Cwmpas 1 a bennwyd gan ddefnyddio litrau o danwydd a ddefnyddiwyd a’r data trosi Defra uchod yn dynodi cynnydd o 10.21% i allyriadau cerbydau fflyd a rhannu teithiau o 260 tCO2e i 287 tCO2e. Caiff hyn ei briodoli i gerbydau ychwanegol yn y fflyd a defnydd gweithredol cynyddol o gerbydau sy’n adlewyrchu newidiadau i’r galw am wasanaethau. Cerbydau les Busnes a Staff Ni ellir pennu’r defnydd o danwydd yn gysylltiedig â milltiredd ceir les, ac felly ni ellir defnyddio sail tanwydd a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo kgCO2e Cwmpas 3. Mae CarDio: Cyfrifydd Carbon GIG Cymru a ddefnyddiwyd i bennu CO2e mewn blynyddoedd a fu wedi dod i ben, ond er mwyn sicrhau cysondeb wrth adrodd data allyriadau Cwmpas 3 yn yr adroddiad hwn, rydym wedi parhau i ddefnyddio’r ffactorau trosi yn CarDio: Cyfrifydd Carbon GIG Cymru, sy’n defnyddio ffactorau trosi a ddarparwyd gan Defra ar gyfer allyriadau CO2 cerbydau. Mae Tabl 2 yn dynodi mai allyriadau Cwmpas 3 yn ymwneud â hawliadau milltiredd staff a defnyddwyr ceir les yw’r elfen fwyaf o allyriadau kgCO2e trafnidiaeth o hyd. Bu cynnydd o 8.07% i’r tunelledd CO2e ar gyfer allyriadau teithio Cwmpas 3 sy’n gysylltiedig â’r un cynnydd cyffredinol i filltiredd Cwmpas 3. Ystyrir fod y cynnydd i hawliadau milltiredd busnes yn adlewyrchiad o’r tueddiad parhaus i ddefnyddwyr ceir les newid i gerbyd a ddarperir dan y Cynllun Aberthu Cyflog. Mae nifer ceir les staff wedi gostwng i 157 o 196 yn ystod y cyfnod adrodd diwethaf, a oedd ei hun yn ostyngiad o 253 yn 2015. Bydd staff sy’n defnyddio car dan y Cynllun Aberthu Cyflog yn gymwys i hawlio milltiredd busnes ar y gyfradd berthnasol a byddant yn gwneud hynny yn hytrach na hawliad am y milltiredd car les staff cyfradd is. Mae’r cynnydd i hawliadau milltiredd Ceir Les Staff yn erbyn cefndir o ostyngiad i nifer y cerbydau les yn adlewyrchu’r newid o wasanaethau ysbyty i wasanaethau yn y gymuned a’r angen cynyddol dilynol i staff deithio. Rheoli Trafnidiaeth a Theithio Caiff y Bwrdd Iechyd ei gynrychioli ar Grŵp Trafnidiaeth a Theithio Cymru Gyfan sy’n edrych ar Newidiadau Gwasanaeth a Chynlluniau Teithio’r GIG. Mae hwn yn rhan o’r prosiect Ysbytai Iach a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd ei sefydlu mewn ymateb i geisiadau gan Fyrddau Iechyd Lleol i drafod sut y gall cynllunio teithiau helpu i fynd i’r afael â’r problemau a’r heriau trafnidiaeth mawr y maen nhw’n eu hwynebu sy’n deillio o’r newidiadau i’r gwasanaeth sy’n cael eu datblygu. Cynhyrchwyd cynlluniau teithio sy’n hyrwyddo beicio, cerdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cynhaliwyd yr arolwg teithio diwethaf yn ystod 2014 a bydd yr wybodaeth yn hysbysu ac yn dylanwadu ar y broses o gynllunio teithiau wrth fynd ymlaen. Mae’r cynlluniau canlynol ar waith ar hyn o bryd:

Bws gwennol Rhannu ceir Beicio i’r gwaith Cynllun Aberthu Cyflog i lesio car

Egwyddorion Teithio Lluniwyd cyfres o egwyddorion trafnidiaeth a theithio staff a chynhyrchwyd taflen ganllaw ar reoli trafnidiaeth a theithio:

Page 46: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 46 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Dyma’r egwyddorion a’r dewisiadau craidd y mae angen i reolwyr a staff eu mabwysiadu wrth gynllunio trefniadau trafnidiaeth a theithio:

A yw’r daith/cyfarfod yn hanfodol? Fel dewis cyntaf, dylid ystyried dulliau eraill fel: sgwrs dros y ffôn, darparu adroddiad, fideo-

gynadledda? Defnyddio beiciau, bysiau a threnau, rhannu ceir/faniau, ceir sydd wedi’u neilltuo/dynodi i’w

rhannu, ceir a faniau clwb ceir, llogi ceir, lesio ceir, aberthu cyflog a chymhellion i rannu teithiau.

Cynllun Rheoli Ynni Mae’r sefydliad yn sylweddoli bod defnyddio ynni a dŵr yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd, ond mae hefyd yn gyfrifol am fod yn effeithlon o ran ynni ac adnoddau ac am leihau’r defnydd diangen o ynni. Mae polisi a chynllun cyflenwi ynni yn cael ei gyflwyno sydd â nifer o fentrau a anelwyd at leihau’r ynni a ddefnyddir, yr allyriadau carbon a’r gost. Bydd lleihau’r ynni a ddefnyddir yn cyflwyno buddion megis:

Lleihau costau a fydd yn caniatáu i ni fuddsoddi mwy mewn gofal iechyd. Lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi buddsoddi mewn technolegau carbon isel a di-garbon amrywiol, sy’n cynnwys pympiau gwresogi biomas, solar thermol ac aer a fydd yn helpu i sbarduno’r Bwrdd Iechyd i fod yn sefydliad Di-garbon. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi elwa o’r uwchraddio i un o’i ysbytai acíwt, a oedd yn cynnwys gosod peiriant awyru newydd gyda chynlluniau system awyru, ynysu thermal a rheolyddion goleuo. Dengys y dystiolaeth y gallem ni leihau’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio o 10%, sydd gyfwerth ag arbediad posibl o £0.5 miliwn ar draws y sefydliad. Gellir cyflawni llawer o hyn trwy drefniadau cadw tŷ syml, fel diffodd offer trydanol pan fyddwn wedi gorffen eu defnyddio. Rydym wedi gweithio gyda’n cyflenwyr i osod mesuryddion deallus. Mae hyn hefyd wedi’i gynnwys yn ein contract Nwy, felly gellir casglu data trwy’r we. Rheoli Gwastraff Dim ond data ar gyfer deg mis oedd ar gael ar adeg paratoi’r adroddiad. Defnyddiwyd y data a oedd ar gael i allosod y ffigurau diwedd blwyddyn a ddangosir yn yr adroddiad. Dynodir ffigurau a allosodwyd yn y tablau gyda *.

Mae cyfanswm y data ar wastraff yn cynnwys gwaredu gwastraff clinigol peryglus trwy ‘driniaeth amgen’ (triniaeth wres) neu losgi. Mae’r data hefyd yn cynnwys Gwastraff Hylendid Ffiaidd. Gwastraff clinigol nad yw’n peri risg o haint yw hwn, ac felly nid oes angen ei drin i’w wneud yn ddiogel cyn ei waredu. Gweler y Tunelledd/Costau ar gyfer y mathau hyn o wastraff yn Nhabl 3 fel a ganlyn: Tabl 3

Blwyddyn Ariannol * Yn dynodi ffigurau amcangyfrifedig

Gwastraff Clinigol Gwastraff Hylendid Ffiaidd

Tunelli Cost

(£miliwn) Tunelli

Cost (£miliwn)

2014-2015 733 £0.407 111 £0.03977

2015-2016 613 £0.348 259 £0.082

2016-2017 620* £0.3392* 297* £0.1054*

Page 47: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 47 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Rheoli gwastraff yn gynaliadwy Mae cyfanswm y data ar wastraff yn cynnwys gwaredu gwastraff clinigol peryglus trwy ‘driniaeth amgen’ (triniaeth wres) neu losgi. Gweler y Tunelledd/Costau ar gyfer y gwastraff hwn yn Nhabl 4 fel a ganlyn:

Tabl 4 Gwastraff * Yn dynodi ffigurau amcangyfrifedig

2014-15 2015-16 2016-17*

Dangosyddion heb fod yn

ariannol (tunelli)

Cyfanswm Gwastraff 2170 2281 2286*

Safle Tirlenwi 331 404 384*

Ailddefnyddio/Ailgylchu 343 447 499*

Compostio 0 0 0

Treulio anaerobig 71 tunnell

Llosgi ac adfer ynni 1496 1430 1403*

Llosgi heb adfer ynni 0 0 0

Dangosyddion Ariannol (£miliwn)

Cyfanswm Cost (Gweler y nodyn isod)

£0.722102 £0.758654 £0.791372*

Safle Tirlenwi £0.119165 £0.125795 £0.125612*

Ailddefnyddio/Ailgylchu £0.072746 £0.108969 £0.121732*

Compostio 0 0 0

Treulio anaerobig £0.510193 0.503378 £0.521017*

Llosgi ac adfer ynni 0 0 0

Sylwer: Mae’r cyfanswm cost a ddangosir yn Nhabl 4 yn cynnwys y dogfennau gwastraff peryglus a chostau hysbysu am gasgliadau Cyfoeth Naturiol Cymru, nad ydynt wedi eu cynnwys yn y costau ffrwd gwastraff priodol yn y tabl. Rheoli Dŵr Amcangyfrifon yw darlleniadau’r mesuryddion dŵr ar gyfer 2016-2017 gan na chymerwyd unrhyw ddarlleniadau o fesuryddion rhai o’r safleoedd pan gafodd yr adroddiad hwn ei gwblhau. Mae Tabl 5 yn darparu data ar ddefnydd. Ychwanegwyd telemetreg at fesurydd dŵr Ysbyty George Thomas yn 2016-17. Bydd hyn yn monitro’r defnydd ac yn ein hysbysu os gwelir bod swm eithafol yn cael ei ddefnyddio mewn cyfnod penodol. Bwriedir ehangu’r gwasanaeth hwn ar draws yr ystad. Mae mesuryddion dŵr wedi’u gosod bellach ym mhob adeilad llai o faint sy’n defnyddio llai o ddŵr, fel Canolfannau Iechyd a chlinigau.

Gostyngiad o 2% y flwyddyn yw targed y BIP ar gyfer dŵr ar hyn o bryd.

Page 48: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 48 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Tabl 5

Roedd y cynnydd amcangyfrifedig hwn yn ganlyniad dau ollyngiad dŵr. Cymhwysodd Dŵr Cymru Welsh Water lwfans i’r biliau ar gyfer y cyfnodau pan ddigwyddodd y ddau ollyngiad, un yn ysbyty’r Tywysog Siarl a’r llall ar safleoedd Ysbyty Dewi Sant. Canfuwyd cynnydd i ddefnydd dŵr yn yr adeilad Calon y Cymoedd sydd newydd gael ei gaffael yn Williamstown lle canfuwyd cydran ddiffygiol yn y system chwistrellu a gafodd ei newid.

Tabl 6

Defnydd o Adnoddau y mae Pen Draw iddynt Defnydd o Adnoddau Dŵr 2014-15 2015-16 2016-17

*yn dynodi ffigurau amcangyfrifedig

Dangosyddion heb fod yn

ariannol (000m3)

Dŵr a ddefnyddiwyd

Wedi’i gyflenwi

228.553 228,260 236,946*

Dangosyddion Ariannol (£million)

Costau Cyflenwi Dŵr (Ystad nad yw’n swyddfa)

Wedi’i gyflenwi

£0.58 £0.56 £0.58*

Dŵr a ddefnyddiwyd yn erbyn y Targed Cyfanswm a ddefnyddiwyd

Targed Dŵr

Page 49: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 49 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Egwyddorion Unioni Cam

Yng Nghwm Taf, rydym yn gwbl ymrwymedig i wrando ar yr hyn sydd gan ein cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr i’w ddweud wrthym, a dysgu o hyn. Yn ogystal â’n Cynllun Profiad y Claf a’n Strategaeth Cyflenwi Ansawdd, mae gennym amrywiaeth eang o systemau a phrosesau ar waith i hyrwyddo dealltwriaeth well o brofiad y claf. Mae cyfraniad y Bwrdd Iechyd at ddatblygiad y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Profiad Defnyddwyr Gwasanaethau a’i weithredu’n lleol yn cryfhau’r ymrwymiad hwn ymhellach. Er mwyn cefnogi ein cleifion a sicrhau eu bod yn cael profiad da o ofal, rydym yn parhau i weithio’n agos â’n partneriaid yn y Trydydd Sector i gryfhau a datblygu ein gwasanaeth gwirfoddoli. Mae cyflwyno gwasanaeth O’r Ysbyty i’r Cartref i gleifion sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, mewn cydweithrediad â’r Groes Goch Brydeinig, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’r gwasanaeth yn darparu cynllun cyfeillio cyn i’r claf gael ei ryddhau o’r ysbyty, ac mae’r gwirfoddolwr yn cynnig mwy o gymorth yn y cartref am 6 wythnos i helpu gyda thasgau megis siopa, mynd â’r ci am dro a chymhennu gwelyau.

Yn ogystal â darparu cymorth i wella profiad y claf, mae’n bwysig hefyd bod cleifion yn cael yr wybodaeth gywir ar yr amser cywir i’w helpu i wneud penderfyniadau cytbwys. Yng Nghwm Taf, mae gennym broses gadarn ar waith ar gyfer datblygu, adolygu, cymeradwyo a monitro’r wybodaeth a ddatblygir i gleifion o fewn ein sefydliad. Mae grŵp darllen wedi’i sefydlu i gefnogi’r broses. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect cenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd eraill i edrych ar wella cysondeb yr wybodaeth i gleifion yn genedlaethol. Mae cael gwybod am brofiadau aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, a gwella’r profiadau hynny, yn faes allweddol y mae’r Bwrdd iechyd yn canolbwyntio arno. Rydym wedi ymgysylltu’n eang â’r gymuned gyda grwpiau fel Combat Stress a’r Lleng Prydeinig, ac mae hyn wedi arwain at ddatblygu’r cynllun ‘ Darpariaeth Gofal Iechyd i gymuned y Lluoedd Arfog’ ar gyfer 2015- 2018. Yn ogystal â hyn, sefydlwyd fforwm Lluoedd Arfog Cwm Taf i hybu’r gwaith hwn ac i fonitro cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu. Yn dilyn adborth gan ein cyn-filwyr sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), rydym wedi cyflwyno “ystafelloedd tawel” fel mannau aros i’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd iawn eistedd am gyfnodau hir mewn ystafell aros brysur, sy’n helpu i leihau eu straen a’u gorbryder.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i greu diwylliant sy’n croesawu ac yn ei gwneud hi’n hawdd i gleifion, perthnasau a gofalwyr o bob cymuned y mae’n ei wasanaethu fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu, gwella a monitro gwasanaethau a gofal cleifion, ac mae’n manteisio ar bob cyfle i ddangos yr ymrwymiad hwn. Mae’r gwaith rhagweithiol a wnawn o ran ymgysylltu â dinasyddion a phrofiad y claf yn cynnwys:

Datblygu Cynlluniau’r Bwrdd Iechyd ar gyfer Ymgysylltu â Dinasyddion a Phrofiad y Claf, sy’n

seiliedig ar egwyddorion y cytunwyd arnynt. Cyfarfodydd rheolaidd gan Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid (SRG) y Bwrdd Iechyd sy’n rhoi

cyngor i’r Bwrdd, gan sicrhau bod safbwyntiau ystod o randdeiliaid (gan gynnwys

Page 50: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 50 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

cynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol, y trydydd sector, y cyngor iechyd cymuned, grwpiau cymunedol, y sector annibynnol, cleifion a gofalwyr) yn cael eu clywed ac yn gallu dylanwadu ar y gwaith o gynllunio, dylunio a darparu gwasanaethau.

Caiff cyfarfodydd rheolaidd pedwar Fforwm Cyhoeddus Ardal y Bwrdd eu defnyddio fel rhan o’n dull gweithredu i sicrhau ymgysylltu parhaus, yn ogystal â chynnal ymgynghoriadau ffurfiol ar ddyluniad a darpariaeth ein gwasanaethau. Rydym yn cynnwys cymunedau ar amrywiaeth o faterion er mwyn sicrhau llais i’r cyhoedd.

Mae’r pynciau a drafodwyd yn ystod 2016-2017 yn cynnwys ail-ddylunio gwasanaethau meddygon teulu tu allan i oriau a gwasanaethau iechyd meddwl, mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol, datblygu Parc Iechyd Dewi Sant, cyflwyno model meddygaeth acíwt yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, canoli gwasanaethau gofal y fron a'r rhaglen i leihau risg cardiofasgwlaidd.

Trwy gydweithio â’n partneriaid ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol (BGLl) Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, sefydlwyd dull cydweithredol o gynnal gweithgareddau ymgynghori ar draws a rhwng partneriaid y BGLl. Mae’r ‘hwb ymgynghori’ ar-lein yn darparu amrywiaeth o offer i ddatblygu holiaduron, dadansoddi canlyniadau a chreu dulliau adborth er mwyn sicrhau bod:

o Ymgynghoriadau yn effeithiol;

o Canlyniadau’n cael eu defnyddio i wella gwasanaethau

o Adborth yn cael ei ddarparu i’r cyhoedd.

o Yn ogystal â hyn, mae Panel Dinasyddion sy’n cynnwys 1,600 o bobl ledled Merthyr

Tudful a Rhondda Cynon Taf wedi cofrestru i roi eu barn ar bynciau ymgynghori.

Gan adeiladu ar yr ymgysylltu eang a’r ymgynghori ffurfiol sydd wedi’u cynnal o ran Rhaglen De Cymru – byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd cyfagos ar gyfnod nesaf y Rhaglen. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos â’r cyngor iechyd cymuned i sicrhau bod yr ymgysylltu’n cael ei wneud mewn modd amserol ac ystyrlon fel y gall pobl ddeall yr achos dros newid yn well a’r dewisiadau sy’n cael eu hystyried. O ganlyniad i’r gwaith eang sydd wedi’i wneud, rydym wedi gallu ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau “anodd eu cyrraedd” a datblygu dull gweithio mwy cadarn o ran asesu’r effaith ar gydraddoldeb.

Datblygu amrywiaeth o ddewisiadau adborth i gleifion er mwyn galluogi defnyddwyr/teuluoedd/gofalwyr i roi adborth ar unrhyw adeg. Mae hyn yn cynnwys arolygon ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, trafodaethau grŵp gyda chlinigau Care to Share a systemau ar bapur gan ddefnyddio’r cardiau Dweud eich Dweud. Yn ogystal â hyn, byddwn yn parhau i gael adborth o gwynion, honiadau, digwyddiadau clinigol, canmoliaeth a straeon cleifion. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei storio yn offeryn adrodd risg Datix ar hyn o bryd. Mae Apiau profiad y claf wedi cael eu datblygu i allosod y data o Data a chyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd ystyrlon a fydd ar gael o’r ward i’r bwrdd. Bydd angen dadansoddi’r adborth yn fanwl er mwyn dadansoddi’r data a’u rhannu ar draws y bwrdd iechyd.

Mae gan y Bwrdd Iechyd drefniadau ar waith i wrando ar Bryderon a godir gan gleifion, gofalwyr a/neu eu cynrychiolwyr ac i ddysgu o’r rhain. Mae rhagor o wybodaeth a dolenni i’n hadroddiad Pryderon Blynyddol wedi’u cynnwys yn ein Datganiad Ansawdd Blynyddol. Cyhoeddwyd Egwyddorion Unioni Cam diwygiedig gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ym mis Mai 2010. Roedd yn nodi chwe egwyddor sy’n cynrychioli arfer gorau ac sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithdrefnau’r GIG.

Page 51: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 51 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Dyma’r Egwyddorion yn gryno:

Cael pethau’n iawn – cydnabod yn fuan achosion o gamweinyddiaeth neu wasanaeth gwael sydd wedi arwain at anghyfiawnder neu galedi ac unioni pethau.

Canolbwyntio ar y cwsmer – ymddiheuro am y camweinyddu neu’r gwasanaeth gwael ac egluro beth ddigwyddodd, gan gynnwys deall a rheoli disgwyliadau ac anghenion pobl.

Bod yn agored ac yn atebol – bod yn agored ac yn glir ynglŷn â sut y penderfynir ar atebion. Gweithredu system briodol sy’n seiliedig ar atebolrwydd a dirprwyo wrth ddarparu atebion. Cadw cofnodion clir.

Gweithredu’n deg ac yn gymesur – cynnig atebion sy’n deg ac yn gymesur ag anghyfiawnder neu galedi’r achwynydd.

Unioni pethau – ystyried pob ffordd o unioni cam yn drylwyr gan gynnwys iawndal ariannol. Anelu at welliant parhaus - defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o gwynion er mwyn sicrhau nad

yw gwasanaeth gwael yn digwydd eto. Cofnodi a defnyddio gwybodaeth ynglŷn â chanlyniad cwynion er mwyn gwella gwasanaethau.

Rydym wedi mabwysiadu’r holl egwyddorion yn llawn ac yn cydymffurfio â nhw yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o’r ffordd yr ydym yn ymdrin â chwynion ar draws yr holl wasanaethau. Rydym yn gloywi’r prosesau ar gyfer derbyn adborth gan gleifion yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio ac yn rhoi pwyslais ar fynd at wraidd pryderon ac ymdrin â nhw. Ceir manylion am ein perfformiad o ran ymdrin â chwynion a’r prosesau ar gyfer dysgu gwersi ar ein gwefan.

Y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i ddatblygu ein staff fel y gallwn ddysgu, gwella a chyflawni’n barhaus. Rydym wedi ymrwymo i strategaeth ddatblygu sefydliadol amlddimensiwn sy’n anelu at ddatblygu ein gweithlu ar y cyd.

Yn ystod 2016-17, datblygwyd hyn trwy dair prif ffrwd:

Adeiladu Capasiti a Gallu Arweinyddiaeth a Rheoli. Datblygu timau trwy raglen Gweithio Tîm Aston OD. Comisiynau Datblygu Sefydliadol pwrpasol.

Adeiladu Capasiti a Gallu Arweinyddiaeth a Rheoli Mae gennym dair rhaglen datblygu arweinyddiaeth sefydledig.

PACT - Rhaglen 18 mis yw Perfformiad Ar waith o fewn Cwm Taf, a gynlluniwyd i gynorthwyo â’r gwaith o newid modelau darparu gwasanaethau ar draws y Bwrdd a thu hwnt a chael effaith gadarnhaol ar ofal cleifion. Bydd y rhaglen hon, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2015 gyda 36 o uwch-reolwyr / partneriaid busnes, yn parhau tan Haf 2017. Rydym eisoes wedi dechrau gweld effeithiau cadarnhaol o ganlyniad i rwydweithiau cysylltu cryfach ar draws y sefydliad.

ELM – Rhaglen 6 mis yw Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheoli Hanfodol (Essential Leadership and Management skills) sydd wedi’i thargedu at y gweithlu clinigol a rheoli. Mae’n datblygu rhwydweithiau beirniadol a chymunedau dysgu ar draws y sefydliad er mwyn galluogi sgiliau a gwybodaeth i gael eu rhannu, ac felly’n cynyddu’r capasiti a’r gallu ledled y gweithlu. Darparwyd 3 cohort o ELM yn ystod 2016-17 ac mae’r galw’n dal i fod yn uchel. Bydd

Page 52: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 52 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

cohortau pellach yn cael eu cynnal yn ystod 2017-18.

Twf Graddedigion yw ein rhaglen hyfforddi Arweinyddiaeth a Rheoli 2 flynedd o hyd i Raddedigion. Rydym yn awyddus i fuddsoddi yn ein capasiti a gallu rheoli trwy dyfu arweinwyr ein dyfodol o’r tu mewn, fel eu bod yn datblygu dealltwriaeth o’n diwylliant, ein poblogaeth leol, ein cyd-destun partneriaeth a chwmpas y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu o’r cychwyn cyntaf. Bellach yn ei hail flwyddyn, mae’r rhaglen wedi ehangu i weithio mewn partneriaeth â dau fwrdd iechyd arall yn ogystal â’r partneriaid gwreiddiol; Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru. Mae’r rhaglen wedi bod yn boblogaidd iawn wrth i nifer y ceisiadau ddyblu ar gyfer yr ail gohort. Bydd y broses recriwtio ar gyfer trydydd cohort yn cychwyn yn ystod haf 2017, gan fod y sefydliad yn dal i fod wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu.

Model Gweithio Tîm Aston Crëwyd Aston OD gan yr Athro Michael West yn 2003, i gynorthwyo sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy wella ymgysylltiad a pherfformiad staff, ac ansawdd gofal cleifion trwy weithio effeithiol fel tîm. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod datblygu technegau cyfathrebu effeithiol; bod ag amcanion eglur ac eglurder o ran swyddogaethau yn gwella perfformiad tîm, yn lleihau lefelau straen staff ac yn cynyddu lefelau ymgysylltiad ac arloesedd staff. Mae pob un o’r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad a chanlyniadau’r claf. Fe’i lansiwyd ym mis Tachwedd 2016 ac mae gennym 17 o hyfforddwyr yn hyfforddi erbyn hyn i ddarparu ‘Gofal Tîm Aston’ ochr yn ochr ag arweinwyr tîm. Mae timau ar eu taith Gofal Tîm Aston yn cynnwys y meysydd canlynol; Gofal Sylfaenol, Patholeg, Gweithlu, Cyfleusterau, Meddygaeth, Llawdriniaeth, Therapïau ac Obstetreg. Er mwyn galluogi ymsefydliad a chynaliadwyedd Gofal Tîm Aston yn ein sefydliad, rydym wedi datblygu Cymuned Arfer i gefnogi datblygiad sgiliau a rhannu arfer da. Comisiynau Datblygu Sefydliadol Pwrpasol Mae gwaith comisiynu datblygu sefydliadol pwrpasol yn ategu’r strategaeth hon, gan olygu y gallwn ymateb yn brydlon i’r anghenion sy’n ymddangos yn y Cyfarwyddiaethau er mwyn eu cynorthwyo i roi newidiadau ar waith a gweithio trwy broblemau tîm cymhleth. Mae’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2016-17 yn cynnwys:

Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys

Patholeg

Adfer

Cyfleusterau

Iechyd a Llesiant Galwedigaethol Ymgysylltu â Gweithwyr Bu dau arolwg cenedlaethol mawr yn ymwneud ag Ymgysylltu â Gweithwyr yn ystod 2016/17;

Graddfa Ymgysylltu Meddygol, diben yr arolwg hwn, a gynhaliwyd am y tro cyntaf, oedd darparu llinell sylfaen ddibynadwy a dilys o dybiaethau meddygon Cymru am y cyfleoedd a’r diddordebau sydd ganddynt mewn mabwysiadu swyddogaethau meddygol ehangach, yn enwedig o ran cynllunio, dylunio a darparu gwell gwasanaethau i gleifion. 34% oedd y gyfradd ymateb wrth i 225 o feddygon ar draws ein sefydliad gyfrannu at yr arolwg. Roedd sgoriau

Page 53: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 53 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Ymgysylltu Meddygol yn dangos ymgysylltu cymharol uchel, a oedd yn ymateb cyson a chadarnhaol o’i gymharu â byrddau iechyd eraill.

Graddfa Ymgysylltu Meddygol BIPCT 2016.

Arolwg Staff Cenedlaethol 2016, dyma’r ail waith y cynhaliwyd yr arolwg hwn yn GIG Cymru a darparodd ddata cymharol ag arolwg 2013. Yn dilyn cyfradd ymateb o 38% ar draws y sefydliad, sy’n gynnydd o arolwg 2013 (25%), bu gwelliant cadarnhaol yn gyffredinol gyda gwelliant sylweddol mewn rhai meysydd. Bodlonrwydd yn y swydd - dywedodd 71% o’r staff eu bod yn fodlon gyda’u swyddi presennol, sy’n gynnydd o 63% yn 2013. Newid sefydliadol - mae 72% o staff yn dweud eu bod yn cefnogi’r angen am newid; mae 32% yn dweud bod newid yn cael ei reoli’n dda. Cyfathrebu - cofnodwyd gwelliannau sylweddol i bob un o’r sgoriau cyfathrebu. Fodd bynnag, dim ond 42% o’r staff sy’n dweud eu bod yn gallu darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg pan fydd hynny’n ddymuniad gan y defnyddiwr gwasanaeth (i fyny o 33% yn 2013). Fodd bynnag, mae hyn 6% yn is na sgôr cyffredin presennol GIG Cymru. Mae’r holl sgoriau ar iechyd, llesiant a diogelwch yn y gweithle wedi gwella.

Er ein bod yn hapus gyda’r cynnydd cadarnhaol, mae rhai meysydd pellach y gellir rhoi sylw iddynt o hyd o ran urddas yn y gweithle a sut y mae rheolwyr yn ymateb i hynny. Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein staff ac rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i ddysgu o’r arolygon hyn. Mae rhagor o waith dadansoddi ac ymgysylltu yn digwydd ar draws y sefydliad i adeiladu ar y gwaith ymgysylltu hwn.

Llwybrau i Waith Mae’r gyfarwyddiaeth yn parhau i weithio gyda Llywodraeth leol, ysgolion a sefydliadau cymunedol i gynnig lleoliadau profiad gwaith i blant ysgol ac aelodau o’r gymuned leol sy’n ddi-waith.

Bodlonrwydd

yn y Gwaith

Cyfeiriad Datblygu

Cymryd Rhan yn y Broses o Newid a Penderfyniad

Cysylltiadau Rhyng-

bersonol Da

Hinsawdd ar gyfer Dysgu Cadarnhaol

Gwerthfawrogiad a

Grymusiad

Bod â Phwrpas a Chyfeiriad

Gweithio Diwylliant

Cydweithredol

Ymgysylltu Meddygol

Gwerthuso a Gwobrau ‘di

halinio’n Effeithiol

Page 54: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 54 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Rhaglenni Cyn Cyflogi Ar hyn o bryd, mae’r BIP yn cynnig rhaglen lle mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni cwrs cyflogadwyedd pythefnos o hyd a ddarperir gan Lywodraeth Leol a phythefnos arall ar “Raglen Sylfaen Glinigol” a ddarperir gan y BIP. Dilynir hyn wedyn gan brofiad gwaith ymarferol yn y BIP.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, cafodd 85 o leoliadau eu cynnig, a llenwyd pob un o’r rhain. O’r rhain, aeth 80 o unigolion ymlaen i gwblhau shifft â thâl fel rhan o Gronfa Staff y BIP.

ESGYN ESGYN yw prosiect Llywodraeth Cymru sy’n targedu pobl ddi-waith mewn aelwydydd heb waith gan gynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith iddynt. Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio gyda dau Dîm ESGYN ar hyn o bryd, un o Rondda Cynon Taf sy’n gwasanaethu Gilfach Goch a Thonyrefail ac un o Flaenau Gwent, sy’n gwasanaethu ardal Blaenau’r Cymoedd. Mae’r BIP yn parhau i gynnig 24 o leoliadau profiad gwaith bob chwarter. Caiff y rhain eu rhannu rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty’r Tywysog Siarl. Cafodd 20 o leoedd eu llenwi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae 5 o’r rhain wedi llwyddo i gael swydd gyda’r BIP o ganlyniad uniongyrchol i gymryd rhan yn y cynllun. Profiad gwaith (plant ysgol) Mae’r BIP wedi cynyddu ei gysylltiad ag ysgolion a cholegau yn nalgylchoedd Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn sylweddol ac yn cynnig mwy o gyfleoedd byth i blant ysgol lleol gael profiad gwaith gwerthfawr mewn lleoliad gofal iechyd. Mae’r BIP wedi darparu rhaglenni peilot arloesol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a threuliodd myfyrwyr blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Treorci wythnos yn ennill gwybodaeth werthfawr am waith yn y swyddi amrywiol sydd ar gael iddynt yn y GIG. Hefyd, cynorthwywyd myfyrwyr Blwyddyn 13 o Goleg Merthyr i ddatblygu cynigion ar gyfer “Ap” recriwtio ar gyfer y GIG yn rhan o’u cymhwyster bagloriaeth Cymru. Mae’r ddau gynllun peilot wedi bod yn llwyddiant a byddant yn cael eu cynnig i ysgolion eraill yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r BIP yn parhau i ymateb i geisiadau ad-hoc ar gyfer y lleoliadau profiad gwaith wythnos o hyd traddodiadol a chyflawnwyd 50 o leoliadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hefyd yn parhau i annog a chynorthwyo ei staff i gymryd rhan mewn Diwrnodau Diwydiant a digwyddiadau gyrfaoedd a drefnir gan Gyrfa Cymru a Llywodraeth Leol.

Page 55: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 55 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Ein Staff Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi 7,031 o staff cyfwerth ag amser cyflawn ar gyfartaledd, sy’n gyfwerth ag oddeutu 7,892 o unigolion. Mae ganddo gyfanswm bil cyflog o oddeutu £297 miliwn y flwyddyn. Mae’r diagram canlynol yn dangos y grwpiau staff sy’n llunio ein gweithlu. Gan mai ni yw’r ail gyflogwr mwyaf yn yr ardal, mae nifer sylweddol o’n gweithlu yn byw ac yn gweithio o fewn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein staff yn elfen anhepgor o’n llwyddiant ac, os ydym am gwrdd â’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau, rydym yn cydnabod bod angen i ni sicrhau bod ein staff a chontractwyr gofal sylfaenol megis ein meddygon teulu, wedi ymrwymo cant y cant i gofleidio egwyddorion ‘Gweithio’n Wahanol, Gweithio Gyda’n Gilydd’. Ein staff yw’r bobl fydd yn rhoi ein Cynllun Tymor Canolig Integredig ar waith. Gwnawn hyn trwy weithio gyda’n gilydd ac mewn partneriaeth â chynrychiolwyr ein staff a’r Undebau Llafur, gan rannu ein cynigion ar y cyfle cyntaf posibl; gwrando ar bryderon a chefnogi’r staff trwy unrhyw newidiadau. Cynhelir deialog reolaidd, a thrafodir materion allweddol yn y ‘Fforwm Gweithio mewn Partneriaeth’ misol a’r ‘Grŵp Cyd-gynghori’.

Adolygwyd ein portffolios Rheoli Gweithredol gennym yn ystod 2016/17, a’r strwythurau dilynol i gefnogi darpariaeth ein newid gwasanaeth. Bu’r rhain yn destun ymgynghoriad hirfaith â rhanddeiliaid i lunio strwythur darparu’r dyfodol. Dyma’r ysgogwyr newid allweddol, fel y’u rhannwyd drwy’r broses ymgysylltu ac ymgynghori:

Y flaenoriaeth gynyddol a roddir i’r agenda gofal sylfaenol: Fel gofal sylfaenol ac yn y rhyngwyneb â gofal cymunedol ac eilaidd.

Goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Yr angen cynyddol am fodelau gwasanaeth newydd ym maes gofal eilaidd.

Sefydlu’r swyddogaeth Comisiynu Ambiwlansys Brys.

Page 56: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 56 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Pwysau ar y system gofal heb ei drefnu a sefydlu’r Bwrdd Gofal Heb ei Drefnu Cenedlaethol.

Cwblhau’r gwaith o ailstrwythuro swyddogaethau Cynllunio a Pherfformiad, Cyllid, Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol a Gwasanaethau Corfforaethol.

Mae’r prif heriau a wynebir gan y Bwrdd Iechyd o ran staffio’n cynnwys:

Cynaliadwyedd cylchrestrau gwaith meddygon iau – lleihawyd nifer y lleoedd hyfforddi ac mae problemau penodol wedi codi ynghylch recriwtio ar gyfer rhai arbenigeddau, gan orfod dibynnu fwyfwy ar ddirprwy feddygon.

Yr angen am newid mewn gwasanaethau a modelau gweithio newydd – mae hyn yn cynnwys datblygu swyddi newydd i’r staff, gwahanol batrymau gweithio mewn gwahanol leoliadau. Mae gwneud yn siŵr bod gennym y staff priodol i ddarparu’r gwasanaethau cywir yn y lle cywir yn golygu bod angen newid yn barhaus. Rydym wedi cyflwyno swyddi a chyfleoedd gyrfaol newydd megis ymarferwyr nyrsio uwch mewn meysydd fel Damweiniau ac Achosion Brys a Phediatreg.

Mae datblygiad ein Model Meddygaeth Acíwt newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn enghraifft flaenllaw o’r newid hwn.

Recriwtio i swyddi allweddol i gynorthwyo sefydliad prosiectau blaenllaw fel y ganolfan ddiagnostig a’r Academi Ddelweddu.

Mae Rhaglen De Cymru, sy’n goruchwylio’r gwaith o ailddatblygu gwasanaethau ledled yr ardal, wedi cadarnhau cyfres o egwyddorion sydd bellach yn cefnogi’r rhaglen waith a’r ymgais i gadw, ailgyflogi, cylchdroi a recriwtio staff o fewn ac ar draws cynghreiriau Canolbarth y De a’r De-ddwyrain. Mae’r BIP yn parhau i gynnal gwasanaethau Pediatreg, Newyddenedigol ac Obstetreg a arweinir gan feddygon ymgynghorol ar safle’r ddau ysbyty Cyffredinol Dosbarth a chaiff rotâu eu monitro bob dydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfnodau newid drosodd meddygon iau. Mae gweithdai ar waith ar ddatblygiadau’r gwasanaethau Pediatreg yn y dyfodol, sy’n cynnwys sefydlu Uned Asesu Bediatreg, a bydd y rhain yn helpu i hysbysu a datblygu cynlluniau’r gweithlu lleol a chynllun cynghrair. Mae cynllun manwl wrth gefn wedi’i ddatblygu o fewn Cwm Taf, ac mae trafodaethau wedi’u cynnal gydag aelodau unigol a grwpiau o staff i fynd i’r afael â’r angen posibl am adleoli gwasanaethau ar frys o fewn y BIP hyd nes y bydd y gwaith yn PCH ac UHW wedi’i gwblhau.

Er bod cynnydd sylweddol wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn o ran recriwtio meddygon teulu i’n gwasanaeth y Tu allan i Oriau, mae’r BIP yn sylweddoli ei fod yn wynebu heriau sylweddol o fewn y gwasanaeth gofal sylfaenol. Mae’r sefyllfa ehangach o gefnogi Meddygfeydd yn parhau i fod yn her ac mae’r BIP yn parhau i ymyrryd a sicrhau, lle bynnag y bo’n bosibl, bod gwasanaethau meddyg teulu yn y gymuned yn cael eu cynnal pan fydd Practisau yn wynebu anawsterau.

Mae newidiadau deddfwriaeth diweddar i drethi a phensiynau wedi gwaethygu problemau recriwtio i’n Gweithlu Meddygol gan gynnwys meddygon teulu a meddygon ymgynghorol.

Mae anawsterau recriwtio, yn enwedig yn ein lleoliadau Acíwt a Chymunedol ar wardiau, gan gynnwys Damweiniau ac Achosion Brys, yn parhau i fod yn her. Mae hyn, ynghyd â chyflwyno’r Rheoliadau Staffio newydd i Nyrsys gan Lywodraeth Cymru, wedi creu prinder yn y cyflenwad o staff nyrsio cofrestredig sydd ar gael. Mae’r BIP yn parhau i fynd ati i recriwtio o’i boblogaeth leol o fyfyrwyr, yn ogystal â chymryd rhan mewn ymgyrchoedd recriwtio cenedlaethol a rhyngwladol.

Page 57: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 57 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Iechyd a Llesiant Staff Gwyddom fod cynorthwyo ein staff i aros yn iach yn bwysig iawn os ydym am wneud yn siŵr bod cleifion yn derbyn y gofal gorau. Dyma rai esiamplau o’r gwaith a gefnogir gan y Bwrdd Iechyd:

Gweithio gyda Valley Steps i gyfeirio gweithwyr at y cyrsiau hunan-help cymunedol ar ‘Reoli straen’ ac ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ gyda sesiynau blasu wedi’u teilwra yn cael eu cynnal yn y ddau Ysbyty Cyffredinol.

Y cyfle i staff brynu beic drwy’r ‘cynllun beicio i’r gwaith’ sy’n cael ei redeg ar y cyd â Halfords.

Cynnwys iCARE ac iechyd a llesiant staff yn y sesiynau Ymgyfarwyddo Corfforaethol yn amlygu pwysigrwydd ‘hunanofal’ a manteision cymryd rhan mewn mentrau llesiant

Hyrwyddo dewisiadau bwyd ‘iachach’ yn y bwytai i staff ac ymwelwyr.

Tudalennau gwe penodol ‘Iechyd a Llesiant Galwedigaethol’ a ‘Feeling Fine, Working Well’ i staff.

Hyrwyddo unrhyw gyfle i staff gymryd rhan mewn ymgyrchoedd iechyd lleol a chenedlaethol fel ‘Diwrnod Ar Eich Traed Brydain’.

Rhaglen hyfforddiant ‘iechyd a llesiant’ wedi’i theilwra i’r holl staff.

Darparu proses hunangyfeirio i Iechyd a Llesiant Galwedigaethol gyda mynediad at wasanaeth cwnsela.

Proffil y Gweithlu Mae’r BIP yn cefnogi gweithlu sy’n heneiddio, ac mae ganddo broffil oedran heriol gyda chyfran uchel o grwpiau staff dros 51 oed o fewn cyfanswm ein gweithlu. Y grwpiau staff sydd â’r gyfran uchaf (mwy na 30%) o staff dros 51 oed yw Nyrsio a Bydwreigiaeth, Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol, Ystadau ac Ategol, a Gweinyddiaeth a Chlerigol. Mae’r siart isod yn dangos y proffiliau oedran o fewn y BIP fesul proffesiwn.

Mae gan y Bwrdd Iechyd broffil oedran heriol gyda 35% o staff y Bwrdd Iechyd dros 51 oed. Mae hyn un uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. Mae proffil y grŵp staff Ystadau ac Atodol yn peri pryder, gyda

28.7%

37.4%

38.1%

15.9%

57.5%

26.9%

22.9%

30.5%

71.3%

62.6%

61.9%

84.1%

42.5%

73.1%

77.1%

69.5%

0.0% 20.0% 40.0% 60.0% 80.0% 100.0%

Add Prof Scientific and Technic

Additional Clinical Services

Administrative and Clerical

Allied Health Professionals

Estates and Ancillary

Healthcare Scientists

Medical and Dental

Nursing and Midwifery Registered

Staff BIP Cwm Taf fesul Nifer/Dros a than 51 Oed

% Under 51 Staff Group % Over 51 Staff Group

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig

Meddygol a Deintyddol

Gwyddonwyr Gofal Iechyd

Ystadau ac Ategol

Gweithwyr Proffesiynol

Perthynol i Iechyd

Gweinyddol a Chlerigol

Gwasanaethau Clinigol

Ychwanegol

Staff Gwyddonol a Thechnegol Proffesiynol

Ychwanegol

% Grŵp Staff dan 51 Oed

% Grŵp Staff dros 51 Oed

Page 58: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 58 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

thros 57% o’u staff yn hŷn na 51 oed. Mae Ystadau yn cael anawsterau recriwtio arbennig ac mae’r Bwrdd iechyd wedi cyflwyno cynllun RRP yn ddiweddar. O ran y grŵp staff meddygol a deintyddol, nid yw’r heriau sydd gennym yn ymwneud â swyddi Meddygon Ymgynghorol yn unig, maent hefyd yn gysylltiedig â’r raddfa SAS. Mae heriau cynaliadwyedd yn ymwneud â staff Gweinyddol a Chlerigol, ACS a Nyrsio a Bydwreigiaeth hefyd, lle mae’n bosibl y gallai traean neu fwy o’r grwpiau staff hyn ymddeol yn ystod y 5 mlynedd nesaf a mwy.

Mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd a heriau o ran ailgynllunio’r gymysgedd o sgiliau a’n gallu i gadw gweithwyr profiadol gan recriwtio gweithwyr newydd ar yr un pryd. Rydym wedi adolygu ac ailwampio ein canllawiau ymddeol a dychwelyd, a chymeradwywyd y rhain ym mis Tachwedd 2015. Byddwn yn defnyddio’r rhain er mwyn ceisio cadw gweithwyr mewn meysydd allweddol, gan fynd ati i farchnata’r cyfle i symud yn raddol at ymddeoliad gyda chydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Rheoli Presenoldeb Ni yw’r ail gyflogwr mwyaf yn yr ardal â’r lefelau uchaf o amddifadedd yng Nghymru. Mae 88% o’n gweithlu yn byw yng nghymuned Cwm Taf a nhw fydd ein cleifion hefyd ar ryw adeg, gan dderbyn ein gwasanaethau. Mae lefel yr amddifadedd yn ein cymunedau yn debygol o fod yn ffactor sy’n cyfrannu at ganrannau salwch cyfartalog uchel ein gweithlu.

0.00%

2.00%

4.00%

6.00%

8.00%

10.00%

12.00%

Ad

d P

rof

Scientific an

d …

Ad

ditio

nal C

linical

Services

Ad

min

istrative an

d C

lerical

Allied

Health

P

rofessio

nals

Estates and

A

ncillary

Health

care Scien

tists

Med

ical and

D

ental

Nu

rsing an

d

Mid

wifery …

Stud

ents

Staff Turnover by Headcount Er i’r trosiant staff presennol gynyddu yn ystod y flwyddyn i 7.29%, mae’n dal i fod yn gymharol isel. Mae’r trosiant yn amrywio o fewn grwpiau staff penodol a cheir heriau recriwtio a chynaliadwyedd mewn rhai grwpiau uwch, gyda chostau locwm ac asiantaeth uchel. Dylid nodi hefyd bod trosiant yn yr adrannau Ystadau a Chyfleusterau yn isel.

Trosiant Staff Fesul Nifer

Myfyrw

yr N

yrsys a Byd

wraged

d

Co

frestred

ig M

edd

ygol a

Dein

tydd

ol

Gw

ydd

on

wyr

Go

fal Iech

yd

Ystadau

ac Atego

l G

weith

wyr P

roffe

siyno

l

Perth

yno

l i Iechyd

Gw

einyd

do

l a C

hlerigo

l

Gw

asanaeth

au C

linigo

l

Ychw

ane

gol

Staff Gw

ydd

on

ol a Th

echn

egol

Pro

ffesiyn

ol Ych

wan

egol

Page 59: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 59 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Mae ein perfformiad o ran absenoldeb salwch yn gwella – ond mae’n parhau i fod yn her.

Isod, ceir tabl sy’n crynhoi’r oriau a gollwyd gan staff. Mae’r Bwrdd yn sylweddoli bod angen i hyn wella ymhellach ac mae’n canolbwyntio ar nifer o weithgareddau allweddol er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

gwella iechyd a llesiant staff; cynyddu ymgysylltiad; sicrhau bod yr wybodaeth a gesglir yn cael ei gwella gan ddefnyddio’r Cofnod Staff

Electronig (ESR), ac adrodd yn amserol i reolwyr; nodi mannau problemus; helpu rheolwyr llinell i fynd ati i reoli salwch gan ddefnyddio dull

gweithio partner busnes Adnoddau Dynol (AD);

gwella mynediad staff cymorth at wasanaethau Iechyd a Lles Galwedigaethol (OHWB) o ansawdd uchel, a chyflwyno ein Model Rheoli Achosion Nyrsys Iechyd Galwedigaethol;

cyflwyno Polisi Absenoldeb Salwch Cymru Gyfan newydd, a rhoi hyfforddiant i Reolwyr Llinell ar sut i’w weithredu.

% Salwch BIP Cwm Taf Cymhariaeth Tueddiadau Misol 3 Blynedd 2014 i 2017

Mai Meh Gor Aws Hyd Med Tach Rhag Ion Chwe Maw Ebr

Page 60: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 60 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Nifer

2016-2017 Nifer

2015-2016 Nifer

2014-2015 Diwrnodau a gollwyd Hirdymor (28

diwrnod a mwy) 108289.95 98,347.40 112,388.83

Diwrnodau a gollwyd (tymor byr) 38439.20 40,914.09 41,930.58

Cyfanswm y Diwrnodau a gollwyd 146729.15 139,261.49 154,319.41

Cyfanswm Blynyddoedd y Staff 7114.21 6,930.15 6,948.23

Diwrnodau Gwaith a gollwyd ar gyfartaledd

12.90 12.51 13.86

Cyfanswm y staff a gyflogwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (y pen)

8142 7,865 7,991

Cyfanswm y staff a gyflogwyd yn ystod y cyfnod hwnnw nad

oeddent yn absennol (y pen) 3211 3,055 2,706

Canran y staff heb unrhyw absenoldebau salwch 39% 38% 35%

Effeithlonrwydd y Gweithlu Mae sicrhau effeithiolrwydd a chyfraniad cynhyrchiol mwyaf posibl y gweithlu yn elfen allweddol o’n cynllun gweithlu. Mae’r blaenoriaethau’n amrywio o sicrhau bod ein systemau/prosesau gweithredol a rheoli yn gadarn i hwyluso rheolaeth a defnydd effeithiol o’n staff i ddefnyddio systemau e-gyflogaeth i sicrhau bod cyn lleied o wastraff â phosibl.

Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran defnyddio technoleg a mentrau eraill i wella effeithlonrwydd sy’n ymwneud â staff, gan gynnwys:

E-dreuliau Mae’r defnydd o e-dreuliau wedi cynyddu i 100%, sydd wedi arwain at ad-dalu staff yn fwy amserol a gwella’r gallu i archwilio’r taliadau a wnaed. Mae’r system hefyd yn sicrhau bod y rheolau’n cael eu dilyn yn awtomatig. E-gynllunio Swyddi ac E-restr Ddyletswyddau i Staff Meddygol a Deintyddol Bydd cyflwyno meddalwedd e-gynllunio Swyddi ac E-restr Ddyletswyddau yn cynorthwyo Cyfarwyddiaethau i sicrhau effeithlonrwydd system Allocate Software® i symleiddio, safoni a gwella’r broses weinyddol i gefnogi gwaith cynllunio swyddi, rheoli absenoldeb a threfnu rotâu ar draws y BIP. Mae E-gynllunio Swyddi wedi ei gyflwyno ar draws pob cyfarwyddiaeth erbyn hyn a byddwn yn cwblhau cyflwyniad E-restr Ddyletswyddau ym mhob cyfarwyddiaeth yn fuan.

E-restr Ddyletswyddau i Staff Nyrsio ac Ategol Mae pob un o wardiau ein hysbytai yn defnyddio e-restr Ddyletswyddau ar hyn o bryd. Rydym wedi cyflwyno cynnyrch newydd a fydd yn caniatáu i ni gyflwyno newidiadau i’r system a fydd yn ei gwneud yn fwy hyblyg ac ymarferol ac yn ei hintegreiddio’n uniongyrchol â’r gyflogres. Mae hyn hefyd wedi rhoi modiwl integredig i ni, sy’n caniatáu i ni drefnu amserlenni Staff Dros Dro, naill ai trwy’r Gronfa neu Asiantaeth Allanol, gan gael gwared ar weinyddu a darparu modd o gyflawni archwiliadau ac adroddiadau llawn.

Page 61: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 61 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

System Cofnodion Staff Electronig (ESR) – Hunanwasanaeth Yn yr un modd â’r datblygiadau ar e-dreuliau, rydym yn cyflwyno mynediad electronig at ein system Cofnodion Staff. Caiff 97% o’n gweithwyr eu rheoli trwy gyfrifon hunanwasanaeth gan Reolwyr ar hyn o bryd, sy’n caniatáu mynediad amserol at ddata. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cyflwyno mynediad i weithwyr, ac mae 76% o’r gweithwyr yn gallu defnyddio’r system yn electronig bellach. Mae hyn yn ategu ein gwaith ar Ail-ddilysu Nyrsys, y Fframwaith Hyfforddi Sgiliau Craidd a’r mynediad at e-ddysgu gan mai’r ESR fydd yr unig gyfrwng mynediad yn y dyfodol. Modiwl Recriwtio Trac Rydym wedi cyflwyno dull electronig newydd o reoli ein proses recriwtio, sy’n cysylltu â swyddi yn y GIG a’r ESR. Mae’r weithdrefn hon yn lleihau yr amser a dreulir yn rheoli’r broses recriwtio, a’r broses o gwblhau yr holl wiriadau cyflogaeth perthnasol cyn y bydd gweithwyr yn dechrau gweithio i ni. Sicrwydd Treth i’r rheini a benodir nad ydynt ar y gyflogres Gellir dod o hyd i drefniadau pan fydd unigolion yn cael eu talu trwy eu cwmnïau eu hunain, yn unol â DAO (Cymru) 01/14 - Adolygiad o Drefniadau Treth Penodeion Sector Cyhoeddus ar ein gwefan trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://cwmtaf.wales/how-we-work/financial-information/

Addysg, Hyfforddiant, Ymchwil a Dysgu

Cynnydd y Bwrdd Academaidd Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol Fwrdd Partneriaeth Academaidd sefydledig, sy’n gweithio gyda phartneriaid y Brifysgol i sicrhau ymrwymiad parhaus pob sefydliad i’r cydweithrediad hirdymor, strategol a gweithredol er mwyn hybu iechyd a llesiant y boblogaeth leol. Mae rhaglen waith ar droed wedi ei chefnogi gan Grŵp Llywio Partneriaeth Academaidd, lle mae’r holl bartneriaid yn dod ynghyd i sicrhau cynnydd yn y maes pwysig hwn o waith. Addysgu, Ymchwil a Datblygu Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i ddatblygu, hyrwyddo, cefnogi a hwyluso diwylliant ymchwil a datblygu gweithredol ac arloesol er mwyn cyflawni ein hamcanion strategol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau ymchwil lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym yn ymrwymedig i waith ymchwil o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau a gwelliannau er lles cleifion. Mae’r adran Ymchwil a Datblygu yn cydgysylltu ac yn darparu hyfforddiant mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol, ar gyfer gweithwyr proffesiynol y BIP sy’n weithredol o ran ymchwil ar bynciau fel “Llywodraethu”, “Arfer Clinigol Da”, “Ysgrifennu ceisiadau effeithiol” a “Sut i gyhoeddi”. Mae dyraniad cyllid Ymchwil a Datblygu GIG Cwm Taf yn parhau i gynyddu, gan hwyluso buddsoddiad parhaus yn natblygiad seilwaith ymchwil y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn darparu cymorth ac yn cynyddu gallu staff y Bwrdd Iechyd i wneud eu gweithgarwch ymchwil, yn unol â blaenoriaethau ymchwil lleol a chenedlaethol, gan roi’r cyfle i gleifion Cwm Taf gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a phrofi therapïau a threfnau triniaeth newydd. Mae’r adran Ymchwil a Datblygu a’r BIP hefyd yn defnyddio’r cyllid sydd ar gael i gynyddu cymorth a chapasiti ar gyfer gwaith ymchwil gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd y Cyhoedd. Rhoddodd yr Adran Ymchwil a Datblygu gefnogaeth ymarferol i brosiect cenedlaethol Doeth am Iechyd Cymru hefyd, trwy ddarparu cyllid a ddefnyddiwyd i gynorthwyo’r broses o recriwtio i’r astudiaeth hon.

Page 62: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 62 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi llwyddo i gael arian grant allanol i wneud gwaith ymchwil mewn meysydd fel gordewdra mewn beichiogrwydd, rheoli clefyd thyroid a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Mae’r cyllid yn rhoi’r capasiti i staff wneud gwaith ymchwil a darparu offer dadansoddi arbenigol. Mae’r cyllid hwn a safon uchel y gwaith ymchwil wedi galluogi’r prosiectau i gael eu mabwysiadu ar Bortffolio Ymchwil Clinigol (CRP) Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae gan Gwm Taf bortffolio ymchwil gweithredol sy’n cynnwys:

Astudiaethau agored a recriwtio (2016-2017): 54 anfasnachol (12 Astudiaeth Gofal Sylfaenol / 42 Gofal Eilaidd) 4 masnachol (2 Gofal Sylfaenol / 2 Gofal Eilaidd) 52 Gwerthusiadau Gwasanaeth (2 Gofal Sylfaenol / 50 Gofal Eilaidd) 8 PICs (6 Gofal Sylfaenol / 2 Gofal Eilaidd) 11 adalw bloc meinwe Agored i recriwtio (yn disgwyl y recriwt cyntaf) neu wneud gwaith dilynol 12 anfasnachol (2 Gofal Sylfaenol / 10 Gofal Eilaidd) 3 masnachol (1 Gofal Sylfaenol / 2 Gofal Eilaidd) 94 adalw bloc meinwe

2016/17 25 Astudiaeth Gofal Sylfaenol / 213 astudiaeth gofal eilaidd. Mae 117 o’r astudiaethau gofal eilaidd yn astudiaethau sy’n ymwneud â chanser, naill ai ar agor i recriwtio cleifion yng Nghwm Taf neu mae angen darpariaeth gwasanaethau cymorth Cwm Taf arnynt. Yn 2016/17, cynyddodd nifer y cyfranogwyr a recriwtiwyd i astudiaethau ymchwil anfasnachol a masnachol 79%, gyda 1,480 o gyfranogwyr yn cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghwm Taf.

Bodlonodd adran Ymchwil a Datblygu Cwm Taf yr holl ddangosyddion perfformiad allweddol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â nifer yr astudiaethau agored a chleifion a recriwtiwyd ar gyfer ymchwil masnachol ac anfasnachol (ar y CRP).

Yn ystod 2016-17, daeth 16 o Brif Ymchwilwyr (hynny yw, ymchwilwyr sy’n arwain ar astudiaethau a gofrestrwyd gyda Phortffolio Ymchwil Clinigol (CRP) Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gysylltiedig â Chwm Taf. Roedd chwech o’r rhain yn ymchwilwyr mewnol; roedd wyth o Brifysgol Caerdydd a dau o Brifysgol De Cymru. Bydd buddsoddi pellach yn nyraniad cyllid Ymchwil a Datblygu’r GIG yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd gynyddu a datblygu Prif Ymchwilwyr mewnol ymhellach.

Mae’r BIP yn parhau i ddatblygu partneriaethau ymchwil cryf gyda’r byd academaidd a diwydiant, er mwyn cryfhau ansawdd yr astudiaethau a gwella mynediad a chyfleoedd ymchwil i gleifion Cwm Taf. Gwnaed sawl cais ymchwil i Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy’r rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS II). Rhaglen cyllid Cydgyfeirio Ewropeaidd fawr yw hon sy’n cynnig prosiectau ymchwil cydweithredol (Meistr Ymchwil a PhD) yn gysylltiedg â phartner diwydiant lleol. Mae Cwm Taf wedi cefnogi pum cais KESS llwyddiannus ac mae dau arall ar y gweill. Bydd ceisiadau KESS II llwyddiannus yn cael eu cynnal yng Nghwm Taf fel a ganlyn:

Page 63: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 63 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

(Gweithredol ac yn Recriwtio) -MRes: Cywasgiadau Niwmatig Ysbeidiol ar gyfer trin fflebolymffoedema braich isaf (BIP Cwm Taf / Huntleigh Diagnostics / Prifysgol De Cymru)

(Yn cael ei sefydlu) MRes: Addysg, Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw gyda Diabetes (BIP Cwm Taf /Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

(Yn cael ei sefydlu) PhD: Cadw mewn Cysylltiad: cyfleoedd a rhwystrau i bobl ifanc o ran cynnal cysylltiadau â theuluoedd, ffrindiau ac addysg yn ystod cyfnodau o ofal iechyd meddwl cleifion mewnol (CAMHS / BIP Cwm Taf / Prifysgol Caerdydd)

(Yn cael ei sefydlu) MRes: Gwell Sgript Iechyd (BIP Cwm Taf / Iechyd Cyhoeddus Cymru / Prifysgol De Cymru) cais llwyddiannus.

(Yn cael ei sefydlu) MRes: Archwilio Gwybodaeth a Dealltwriaeth Ymarferwyr Iechyd Meddwl o ran Anhwylderau Niwroddatblygiadol ac anghenion defnyddwyr gwasanaeth sy’n defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn BIPCT” (BIP Cwm Taf / Prifysgol De Cymru)

Ceisiadau KESS II sydd ar y gweill:

Astudiaeth Asesu ac Atgyfeirio Cynnar ar gyfer Ymchwiliad LGI (EARLI) (BIP Cwm Taf / Alpha Laboratory)

I ymchwilio mecanweithiau molecwlaidd caethiwed i sylweddau a rhoi’r gorau i gymryd sylweddau, a tyrosine hydrocsylase yn benodol. (BIP Cwm Taf / Prifysgol De Cymru)

Bydd y prosiectau hyn hefyd yn helpu diwydiant lleol, yn enwedig cwmnïau sy’n gysylltiedig â Thechnoleg Iechyd ac yn cefnogi agenda’r BIP o ran cyfrifoldeb cymdeithasol i’r boblogaeth gyfagos.

Mae ymchwilwyr BIP hefyd yn gweithio gyda phartneriaid academaidd ar ddatblygu ceisiadau Horizon 2020. Cyflwynodd Cwm Taf gais ar gyfer prosiect i alwad “First into Research Fellowship” RCBC Wales, a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Cynllun cydweithredol yw hwn gyda chwe Phrifysgol yng Nghymru sy’n cynnig cyfleoedd ymchwil ar gyfer meysydd nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd. “Bonding After Birth Initiative (BABI): What are Parents’ Experiences?” yw teitl y prosiect. Mae Cwm Taf yn un o brif bartneriaid y cais cydweithredol am gyllid (ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd-RfPPB) ar gyfer astudiaeth PARAFRICTA yn ymchwilio i hosannau bach Parafricta ac a allant leihau’r achosion o wlserau pwyso ar y sawdl. Mae’r partneriaid yn cynnwys y Canolfan Arloesi ym Maes Gwella Clwyfau a Phrifysgol Caerdydd. Cefnogodd y tîm Ymchwil a Datblygu feddygfeydd lleol a chydlynu eu cyflwyniadau i’r Cynllun i Gymell Ymchwil mewn Gofal Sylfaenol (PiCRIS), sy’n darparu cyllid i feddygfeydd sy’n ymrwymo i gefnogi a gwneud lleiafswm o waith ymchwil. Cyflwynwyd 13 o geisiadau llwyddiannus gan Bractisau Gofal Sylfaenol Cwm Taf, a dyfarnwyd cyfanswm cyllid gwerth £32500 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’r Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Cynorthwyol yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer datblygu Cyfleuster Ymchwil Clinigol yn BIP Cwm Taf gyda chefnogaeth y Swyddogion Gweithredol.

Cynhaliwyd y Gynhadledd Ymchwil a Datblygu flynyddol ar Gampws Trefforest, Prifysgol De Cymru, ym mis Tachwedd 2016. Cafwyd 10 cyflwyniad llafar, 44 o gyflwyniadau poster ac roedd 153 o gynrychiolwyr yn bresennol. Bu’r gynhadledd yn llwyddiannus dros ben a chafodd ei gwerthuso’n

Page 64: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 64 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

gadarnhaol trwy ein ffurflenni adborth ac ar Twitter. Gwnaeth yr adran Ymchwil a Datblygu ei gwaith ymchwil ei hun “The perspective of Health Care Professionals’ towards undertaking Research within the National Health Service in Wales”, y cyflwynwyd ei ganfyddiadau yn y Fforwm Ymchwil Cenedlaethol yn Birmingham ym mis Mai 2016. Addysg Feddygol Mae’r Gyfadran Addysg Feddygol wedi cyflwyno eu hamcanion tîm ac wedi gwneud rhai penodiadau hollbwysig i swyddi fel y Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Strategol dros Addysg a swydd addysg Arweinydd Clinigol Gweithredol. Mae newidiadau eraill yn cynnwys swyddi darlithwyr anrhydeddus a Rheolwr Addysg Feddygol newydd. Mae’r newidiadau hyn wedi rhoi canolbwynt o’r newydd i’r tîm a chyfle i ailystyried prosesau ymsefydlu a mecanwaith gymorth i fyfyrwyr. Mae’r tîm hefyd yn archwilio dulliau arloesol o farchnata a sicrhau bod y deunyddiau hyn ar gael ar-lein yn ogystal â’r ddarpariaeth o fecanweithiau adborth ar-lein.

Mae’r Tîm Addysg Feddygol wedi cael blwyddyn gyffrous yn cynnal ei Gynhadledd Datblygu Hyfforddwyr ac Addysgwyr gyntaf. Roedd 96 o ymgynghorwyr yn bresennol yn y digwyddiad hwn a gynhaliwyd yn llwyddiannus gan y Gyfadran. Cynhaliwyd Digwyddiad Gwella Ansawdd cyntaf erioed Cwm Taf eleni hefyd gan roi gwobrau i Dimau Amlddisgyblaeth sydd wedi ymgymryd â phrosiectau yn ymwneud â gwelliannau i ofal cleifion.

Mae’r tîm Addysg Feddygol hefyd wedi cynorthwyo myfyrwyr lleol o Goleg Merthyr i gyflawni dyfarniad technoleg arloesedd a gwneud cyflwyniadau yng Nghynhadledd Arloesedd Cwm Taf yn rhan o’u cyrsiau bagloriaeth Cymru. Rydym yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn yn 2017-2018 a chynnig mwy o ymweliadau wedi eu trefnu i’n gweithlu gofal iechyd ifanc sy’n dod i’r amlwg.

Dechreuodd y penodiad i’r swydd rheolwr Cyswllt Academaidd newydd ym mis Mehefin 2017. Mae deiliad y swydd yn brysur yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddod â’r radd fewnosod Anghydraddoldebau ym Maes Gofal Iechyd i fyny i Ganolfan Academaidd Keir Hardie Academic ar gyfer mis Medi 2017. Mae hon yn gynghrair a fydd yn tyfu yn y dyfodol i gynyddu capasiti'r ganolfan i gynnal rhaglenni sy’n ein helpu i ddangos ein poblogaeth i feddygon y dyfodol ac i gynorthwyo a hybu iechyd y boblogaeth.

Addysg Nyrsio Nid oes amheuaeth mai arloesedd fu arwyddair y tîm addysg nyrsio eleni. Mae’r tîm wedi tyfu i 4 aelod ychwanegol, ac mae tair nyrs datblygu arfer wedi ymuno i ystyried prosbectws ar gyfer nyrsys cymwysedig yn benodol. Ceir swydd cymorth gweinyddol ychwanegol yn y tîm hefyd. Mae’r swydd hon yn cynorthwyo’r tîm ac yn ymdrin â’r holl faterion ailddilysu ar gyfer nyrsio yn bennaf. Mae’r tîm Addysg Nyrsio yn gweithio’n agos gyda’r tîm pryderon i sicrhau y gellir dysgu gwersi yn gyflym ac y gellir gwneud newidiadau yn ddiogel yn ôl yr angen.Mae’r tîm eisoes wedi dechrau ar gwrs cynefino nyrsys i raddedigion a rhaglen gynefino i ddechreuwyr newydd. Mae hyn yn olwg cynhwysfawr ar bympiau, meddyginiaeth, NEWS a dogfennaeth, i enwi dim ond rhai o’r pynciau sydd yno i helpu i fagu hyder ein dechreuwyr newydd.

Page 65: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 65 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid Prifysgol ac yn cynnal contract ar gyfer addysg ôl-raddedig sy’n golygu y gall staff gael mynediad at sgiliau sy’n berthnasol i’w swyddi a chael cyllid o 50-100%. Mae’r tîm cyfan yn cymryd rhan ymarferol yn yr adolygiad o safonau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a datblygiad y cwricwlwm newydd i fyfyrwyr israddedig. Fel sefydliad, rydym wedi bwrw ymlaen â’r rhaglen i gynyddu capasiti i’n HCSW baratoi i ymuno â’u hyfforddiant mewn lleoedd a gomisiynwyd a bydd grŵp cyntaf Prifysgol De Cymru o 11 myfyriwr yn ymuno â’r rhaglen hon ym mis Medi. Cynhaliwyd cynhadledd CNO wych yn 2017 lle siaradodd nifer o staff BIPCT gan gyflwyno posteri ar y pethau arloesol a’r gwelliannau y maent wedi eu gwneud ar gyfer gofal cleifion yn ymarferol. Cyflwynwyd swyddogaeth newydd gennym yn rhan o’n tîm addysg newydd i’n helpu i ddatblygu gweithlu sy’n barod ar gyfer yr heriau sydd i ddod. Dechreuodd ein Nyrs Rheoli Meddyginiaethau newydd ym mis Ebrill 2017 ac mae eisoes wedi cyflwyno cynllun rheoli meddyginiaethau i faes nyrsio, ac mae’n darparu ar gyfer meysydd meddygaeth a HCSW hefyd. Bydd y trosolwg hwn o baratoadau’r gweithlu yn rhoi’r gallu i ni sicrhau bod pob swydd yn deall ei photensial a’i chyfyngiadau. Mae’r swyddogaeth yno i gefnogi a meithrin y rhagnodwyr annibynnol yn ein gweithlu hefyd.

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Nyrsio (HCSW) Mae’r tîm hyfforddwyr HCSW yn dîm o weithwyr proffesiynol sy’n tyfu ac wedi datblygu rhaglen sylfaen ar gyfer ein HCSW sy’n rhagorol. Dechreuodd hwn ym mis Medi 2016 ac fe’i cynhelir fel rhaglen gynefino i’r sefydliad yn fisol. Mae hyn yn caniatau i ni gyflawni’r mandad gweinidogol i baratoi ein staff HCSW a’u hachredu’n academaidd i fod yn gymwys ar erchwyn y gwely ac yn y gymuned. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae’r tîm yn tyfu gweddill y fframwaith bellach, fel bod gennym ni’n capasiti i baratoi a meithrin ein staff o fand 2-4 mewn rhaglenni addysg lefel 1-4. Eleni, rydym yn parhau i gefnogi’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Nyrsio (120 credyd ar lefel 4 CQFW) a bydd 8 o’n staff yn dilyn y rhaglen hon ym is Medi 2017.

Yr HCSW sydd wedi cyflawni’r rhaglen hon yn y gorffennol fydd y rhai cyntaf o’n staff i gychwyn eu hyfforddiant eleni ar le rhan-amser wedi ei ariannu’n llawn mewn model prentisiaeth. Byddant yn derbyn eu cyflog i gyflawni eu hyfforddiant felly.

Addysg ryng-broffesiynol/ Dadebru

Mae gan BIP Cwm Taf enw da am fod yn sefydliad rhyng-broffesiynol a dyma ein dyfodol, ac mae’n darparu’r gofal gorau posibl i’n poblogaeth. Mae datblygu mwy o gyfleoedd rhyng-broffesiynol i’n poblogaeth o israddedigion yn brif bwyslais yn 2017-2018, yn ogystal â chyflwyno mwy o gynadleddau a dyfarniadau rhyng-broffesiynol. Mae llawer o’n timau addysg yn cwmpasu gwaith amlbroffesiwn ac mae’r tîm dadberu yn un tîm o’r fath. Mae’n dîm bach o weithwyr proffesiynol penodol a hyfforddodd dros 16,000 o bobl (myfyrwyr, staff a chydweithwyr allanol) yn 2016-2017 mewn cyrsiau achub bywyd fel achub bywydau oedolion. Mae’r tîm yn cynghori’r sefydliad ac mae ganddo gytundebau partneriaeth gyda sefydliadau gofal iechyd a darparwyr addysg cyfagos hefyd.

Page 66: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 66 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth

Mae’r swyddogaeth llyfrgell wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn yn 2016. Mae hyn wedi arwain at y llyfrgell ar agor 24/7 ar safleoedd Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hon wedi bod yn broses raddol gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn mynd gyntaf a bydd Ysbyty’r Tywosg Siarl yn ymuno â’r mynediad 24/7 yr haf hwn. Ailwampiwyd Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda charped newydd sbon ac mae hyn wedi adnewyddu’r amgylchedd addysg. Mae’r tîm yn dal i fod yn un o brif gynheiliaid pob rhaglen ymsefydlu ac mae bellach yn cynnig sesiynau cryno ar gyngor chwilio ar Google. Ailwampiwyd y dudalen “llygaid ar y dystiolaeth” ac ymddengys y bydd yn datblygu i fod yn gronfa o wybodaeth gofal iechyd ddefnyddiol a chredadwy â mynediad clicio rhwydd i’r holl staff. Uwchgynhadledd Ansawdd Yn ystod mis Hydref 2015, cynhaliodd Cwm Taf ei ail Uwchgynhadledd Ansawdd i staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid, er mwyn rhannu dulliau gofalu arloesol ac arferion gorau sydd wedi cyfrannu at welliannau i gleifion. Roedd cynrychiolwyr o swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) hefyd yn bresennol. Roedd un o’r prosiectau, a gyflwynwyd gan arweinydd y tîm Ffisiotherapyddion, Kelly Brown, “Peidiwch ag aros, anogwch”, yn brosiect gwella sydd wedi arwain at ostyngiad aruthrol yn y rhestri aros am driniaeth Ffysio i gleifion allanol. Mae hefyd wedi arwain at fwy o fodlonrwydd i gleifion a staff trwy gyflwyno gwasanaeth gwybodaeth a chymorth sy’n galluogi cleifion i gychwyn rhaglenni ymarfer corff cyn gynted ag y cânt eu hatgyfeirio i’r adran. Mae hyn wedi arwain at newid yn y diwylliant i fod yn un sy’n hunanreoli ac yn cynnwys y claf, ac mae wedi gwella profiad y claf gan groesawu’r dechnoleg sydd ar gael i helpu i wella’r canlyniadau i gleifion.

Page 67: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016 - 2017cwmtaf.wales/Docs/Annual Reports/Cwm Taf UHB Annual Report 2016-17... · er mwyn helpu iw gwneud yn haws eu darllen, y cwbl sydd angen ichi ei wneud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Tudalen 67 o 67 Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Tŷ Ynysmeurig, Parc Navigation, Abercynon.

Rhondda Cynon Taf

CF45 4SN

Ffôn: 01443 744800

http://cwmtaf.wales/