8
Dyddiadur Wythnosol … t. 7 • Hysbyseb Swydd… t. 8 • Diolchgarwch … t. 8 CYFROL CXLVIII RHIF 24 DYDD GWENER, MEHEFIN 12, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n iach ac yn ddiogel, ac yn dygymod â bywyd ychydig yn wahanol. Mae gennym gymaint i fod yn ddiolchgar amdano bob dydd, a dydi’r cyfnod yma ddim gwahanol. Diolch am ofal iechyd, diolch am ddfir glân, digonedd o fwyd a chartref cysurus. Diolch am gymdogion, teulu a ffrindiau. Rydw i eisiau diolch am yr holl roddion hael tuag at waith Cymorth Cristnogol, ac am eich gweddïau a’ch anogaeth i mi ar fy her yn ystod y mis. Mae’r gronfa erbyn heddiw wedi cyrraedd £5549! Diolch o galon i chi! Rwyf bellach wedi rhedeg 160km (100 milltir) fesul rhyw 10 – 12km dair gwaith yr wythnos, ac wedi cael tywydd braf ar hyd y daith. Un peth da sydd wedi dod o gyfyngiadau cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod yma yw’r gofal a’r cariad sydd wedi ei ddangos yn ein cymunedau. Rydym, hefyd, wedi dod yn fwy ymwybodol o’n cymdogion byd eang. Mae’r angen yn ein byd wedi ei amlygu eto, fel ym mywydau merched a’u plant yn Nigeria sydd wedi gorfod dianc rhag terfysgwyr Boko Haram i wersylloedd am loches. Yno maen nhw’n wynebu perygl deublyg y coronavirus a diffyg maeth. Bydd eich cyfraniadau yn cynorthwyo pobl sydd mewn angen tebyg ar draws y byd. Bydd cronfa fy sialens yn agored tan Mehefin 12ed. Gallwch gyfrannu trwy yrru siec wedi ei gwneud i ‘Nia Williams’, neu trwy’r dudalen Just Giving: justgiving.com/fundraising/ nia-williams28 Diolch yn fawr! Nia Williams (Capel y Drindod, Pwllheli) Diolch yn fawr! !Yn y cyfnod rhyfedd yma rydyn ni i gyd wedi gorfod addasu. Yng nghanol yr holl ofid a’r ansicrwydd rydyn ni wedi gorfod dod i drefn newydd. Gwneud y gorau o sefyllfa hunllefus byd-eang. Mae’n gyfnod anodd iawn i fugeilio, ond wedi dweud hynny ma’ angen bugeilio nawr yn fwy nag erioed gyda chymaint o broblemau, nifer wedi colli swyddi, eraill yn llawn gofid am y dyfodol a rhai wedi rhewi mewn ofn oherwydd y presennol. Gyda’r pwyslais enfawr i ddiogelu ein hunain, i ynysu a chadw draw o’n gilydd mae hyn ynddo’i hunan yn creu problemau meddyliol a straen emosiynol. Rydym fel eglwysi wedi gorfod ymateb mewn ffyrdd newydd yn go gyflym. Yr un yw pwrpas yr Eglwys. Rydyn ni ar agor, rydyn ni ar waith, ond yn gorfod dysgu gwahanol ffyrdd o gyfathrebu ac i gyrraedd ein pobl, i gynnig cysur a gobaith ac i sicrhau bod ein cymunedau yn dod trwy hyn i gyd. Nid cystadleuaeth yw hyn fodd bynnag oherwydd mae pob ardal a gofalaeth yn addasu y ffordd orau gallan nhw ac yn gweithredu mewn dulliau gwahanol. Mae sawl un wedi cael blas ar yr oedfaon teledu, radio a gwasanaeth ffôn yr EBC. Mae nifer yn ysgrifennu myfyrdodau a gwasanaethau ac yn eu postio ymlaen. Mae myfyrdodau a gweddïau ar lein ar youtube ac ar y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Trydar ac Instagram. Mae nifer wedi ffurfio grwpiau Whatsapp ac yn trosglwyddo pethau. Rydyn ni i gyd wedi bod yn ffonio fflat out i sgwrsio, cysuro, gwrando a chlywed lleisiau cyfarwydd. Gyda theulu diolch byth am skype a facetime. Ond beth am deulu estynedig? Nid oeddwn wedi clywed am Zoom 11 wythnos yn ôl ond nawr mae e wedi dod yn rhan annatod o fy mywyd fel Gweinidog a’r Zfimsanaeth yn uchafbwynt wythnosol! Mae llawer yn defnyddio Facebook Live sydd yn gyfrwng grêt, ond yn anffodus, dydy pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd. Dyna fantais Zoom. Diolch yn fan hyn i’r rheiny wnaeth fy helpu yn fawr a rhoi “crash course” i fi mewn mater o oriau ar sut i ddefnyddio ac addasu ar gyfer oedfa. Roedd gen i ddiffyg hyder yn wir ac roedd yr hen ddywediad Saesneg, “you can’t teach an old dog new tricks” yn mynnu neidio i fy meddwl! Ond diolchwn am ddoniau eraill a’r gallu sydd ganddynt i ddysgu hyd yn oed un mor ddigidol anllythrennog a fi! “Steep learning curve ” yn wir. Ond dyna yw bywyd a rhaid i’r Eglwys fod yn barod i ddysgu ac i fabwysiadu’r holl gyfryngau sydd ar gael i ni er mwyn lledaenu Ei Neges Ef. Fel Bugail mae’r gallu gweld fy mhraidd yn hwb i’r galon. Roeddwn dan deimlad mawr yn yr oedfa gynta, wrth weld pawb yn “logio ‘mlaen” a sgwâr ar ôl sgwâr o wynebau cyfarwydd a chyfeillgar yn ymddangos, roedd rhaid i mi binsio fy hun i brofi fod hyn i gyd yn digwydd! Yng nghanol yr holl gymorth ymarferol rydyn ni’n gallu ei gynnig fel siopa a.y.y.b diolchwn am dechnoleg sydd yn gymorth enfawr i gadw’r ymdeimlad o berthyn yn fyw ac yn berthnasol. Rwy’n ymwybodol bod aelodau iau yn defnyddio Zoom yn gyson gyda’u gwaith Ssssssswwwwwmmmmmm! (parhad ar dudalen 2)

yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

Dyddiadur Wythnosol … t. 7 • Hysbyseb Swydd… t. 8 • Diolchgarwch … t. 8

CYFROL CXLVIII RHIF 24 DYDD GWENER, MEHEFIN 12, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G L W Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n iachac yn ddiogel, ac yn dygymod â bywydychydig yn wahanol. Mae gennymgymaint i fod yn ddiolchgar amdano bobdydd, a dydi’r cyfnod yma ddimgwahanol. Diolch am ofal iechyd, diolcham ddfir glân, digonedd o fwyd a chartrefcysurus. Diolch am gymdogion, teulu affrindiau.

Rydw i eisiau diolch am yr holl roddionhael tuag at waith Cymorth Cristnogol, acam eich gweddïau a’ch anogaeth i mi arfy her yn ystod y mis. Mae’r gronfa erbynheddiw wedi cyrraedd £5549! Diolch ogalon i chi! Rwyf bellach wedi rhedeg160km (100 milltir) fesul rhyw 10 – 12kmdair gwaith yr wythnos, ac wedi caeltywydd braf ar hyd y daith.

Un peth da sydd wedi dod o gyfyngiadaucadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod ymayw’r gofal a’r cariad sydd wedi ei ddangos

yn ein cymunedau. Rydym, hefyd, wedidod yn fwy ymwybodol o’n cymdogionbyd eang. Mae’r angen yn ein byd wedi eiamlygu eto, fel ym mywydau merched a’uplant yn Nigeria sydd wedi gorfod diancrhag terfysgwyr Boko Haram iwersylloedd am loches. Yno maen nhw’nwynebu perygl deublyg y coronavirus adiffyg maeth. Bydd eich cyfraniadau yncynorthwyo pobl sydd mewn angen tebygar draws y byd.

Bydd cronfa fy sialens yn agored tanMehefin 12ed. Gallwch gyfrannu trwy yrrusiec wedi ei gwneud i ‘Nia Williams’, neutrwy’r dudalen Just Giving:justgiving.com/fundraising/nia-williams28

Diolch yn fawr!

Nia Williams(Capel y Drindod, Pwllheli)

Diolch yn fawr!

!Yn y cyfnod rhyfedd yma rydyn ni i gydwedi gorfod addasu. Yng nghanol yr hollofid a’r ansicrwydd rydyn ni wedi gorfoddod i drefn newydd. Gwneud y gorau osefyllfa hunllefus byd-eang. Mae’n gyfnodanodd iawn i fugeilio, ond wedi dweudhynny ma’ angen bugeilio nawr yn fwy nagerioed gyda chymaint o broblemau, niferwedi colli swyddi, eraill yn llawn gofid am ydyfodol a rhai wedi rhewi mewn ofnoherwydd y presennol. Gyda’r pwyslaisenfawr i ddiogelu ein hunain, i ynysu achadw draw o’n gilydd mae hyn ynddo’ihunan yn creu problemau meddyliol astraen emosiynol.

Rydym fel eglwysi wedi gorfod ymatebmewn ffyrdd newydd yn go gyflym. Yr unyw pwrpas yr Eglwys. Rydyn ni ar agor,rydyn ni ar waith, ond yn gorfod dysgugwahanol ffyrdd o gyfathrebu ac igyrraedd ein pobl, i gynnig cysur a gobaithac i sicrhau bod ein cymunedau yn dodtrwy hyn i gyd. Nid cystadleuaeth yw hynfodd bynnag oherwydd mae pob ardal agofalaeth yn addasu y ffordd orau gallannhw ac yn gweithredu mewn dulliaugwahanol. Mae sawl un wedi cael blas aryr oedfaon teledu, radio a gwasanaethffôn yr EBC. Mae nifer yn ysgrifennumyfyrdodau a gwasanaethau ac yn eu

postio ymlaen. Mae myfyrdodau agweddïau ar lein ar youtube ac ar ycyfryngau cymdeithasol fel Facebook,Trydar ac Instagram. Mae nifer wedi ffurfiogrwpiau Whatsapp ac yn trosglwyddopethau. Rydyn ni i gyd wedi bod yn ffoniofflat out i sgwrsio, cysuro, gwrando achlywed lleisiau cyfarwydd. Gyda theuludiolch byth am skype a facetime. Ond betham deulu estynedig? Nid oeddwn wediclywed am Zoom 11 wythnos yn ôl ondnawr mae e wedi dod yn rhan annatod ofy mywyd fel Gweinidog a’r Zfimsanaethyn uchafbwynt wythnosol!

Mae llawer yn defnyddio Facebook Livesydd yn gyfrwng grêt, ond yn anffodus,dydy pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd.

Dyna fantais Zoom. Diolch yn fan hyn i’rrheiny wnaeth fy helpu yn fawr a rhoi“crash course” i fi mewn mater o oriau arsut i ddefnyddio ac addasu ar gyfer oedfa.Roedd gen i ddiffyg hyder yn wir ac roeddyr hen ddywediad Saesneg, “you can’tteach an old dog new tricks” yn mynnuneidio i fy meddwl! Ond diolchwn amddoniau eraill a’r gallu sydd ganddynt iddysgu hyd yn oed un mor ddigidolanllythrennog a fi! “Steep learning curve ”yn wir. Ond dyna yw bywyd a rhaid i’rEglwys fod yn barod i ddysgu ac ifabwysiadu’r holl gyfryngau sydd ar gael ini er mwyn lledaenu Ei Neges Ef.

Fel Bugail mae’r gallu gweld fy mhraidd ynhwb i’r galon. Roeddwn dan deimlad mawryn yr oedfa gynta, wrth weld pawb yn“logio ‘mlaen” a sgwâr ar ôl sgwâr owynebau cyfarwydd a chyfeillgar ynymddangos, roedd rhaid i mi binsio fy huni brofi fod hyn i gyd yn digwydd! Yngnghanol yr holl gymorth ymarferol rydynni’n gallu ei gynnig fel siopa a.y.y.bdiolchwn am dechnoleg sydd yn gymorthenfawr i gadw’r ymdeimlad o berthyn ynfyw ac yn berthnasol.

Rwy’n ymwybodol bod aelodau iau yndefnyddio Zoom yn gyson gyda’u gwaith

Ssssssswwwwwmmmmmm!

(parhad ar dudalen 2)

Page 2: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

Bu Syr John Houghton, a fu farw ar y15fed o Ebrill eleni, yn flaenor yn EglwysBresbyteraidd Aberdyfi (Y Capel Saesneg) ers 2005 mewn cyfnod pan welwydcynnydd yn ei haelodaeth. Gorfodwyd iddoildio’r awenau y llynedd o ganlyniad ieffeithiau afiechyd Alzheimer.

Ganwyd John Houghton yn Nyserth.Symudodd ei rieni i’r Rhyl cwta ddwy filltiroddi yno yn fuan wedi hynny. Perthynai eifam i’r caeth Fedyddwyr; roedd ei dad, ynFethodist rhyddfrydol pan gyfarfu’r ddaugyntaf. Wedi iddynt symud i’r Rhyl aethant iaddoli yng Nghynulliad y Brodyr yn y dre’.Ym 1948, pan oedd yn 16 oed, llwyddoddJohn i ennill ysgoloriaeth i Rydychen. Daethyn aelod brwd o Undeb Gristnogol yBrifysgol ac wrth edrych yn ôl roedd ynddiolchgar am ddylanwad a chymdeithas yraelodau hªn, nifer ohonynt newyddddychwelyd o’r Rhyfel, a fu’n gyfrwng iddodyfu yn y ffydd Gristnogol a’i baratoi ar gyfery byd oedd ohoni.

Yn ystod ei yrfa bu Syr John yn AthroFfiseg Atmosfferig yn Rhydychen, ynBennaeth y Swyddfa Feteorolegol ac yn

Gadeirydd y Bwrdd Rhynglywodraethol arGynhesu Byd Eang (IPCC). Bu’n ffigwrblaenllaw yn y frwydr ryngwladol yn erbyncynhesu byd eang; mae llyfr ganddo,Global Warming – the Complete Briefing,sy’n ymdrin â’r pwnc yn dal i gael eiddefnyddio fel prif gyfeirlyfr ar gyferis-raddedigion.

Ym 1988 pan ffurfiwyd yr IPCC(Intergovernmental Panel on ClimateChange), bu John yn cadeirio neu’n cydgadeirio’r grfip gwaith asesu gwyddonolam oddeutu 14 mlynedd. Ef oedd prifolygydd y tri adroddiad cyntaf ddaeth o’rIPCC. Urddwyd ef yn farchog ym 1990; acyn 2007 casglodd y Wobr Nobel ar ran yrIPCC ynghyd ag Al Gore.Ymdrechodd yn ddygn i ddiogeluconsensws yr adain dde Gristnogol yn UnolDaleithiau’r Amerig a’u darbwyllo bod newidhinsawdd yn real. I hyrwyddo agenda hwnbu’n darlithio’n gyson i ddwyn perswâd ar eigynnulleidfa. Rhoddodd un o weinidogionefengylaidd blaenllaw’r UD deyrnged i SyrJohn a’i ddisgrifio fel “un o wyddonwyrmwya’r byd a gyfunodd yr wybodaethwyddonol sylweddol oedd ganddo â’i ffyddefengylaidd ddidwyll.”

Bu’n gyfrannwr cyson i raglen Today ar yBBC; ar y rhaglen roeddent yn awyddusiddo fod yn fwy dadleuol wrth fynegi eisafbwynt – ond pwysleisiai Syr John ei fod,fel Cristion a gwyddonydd, am gyflwyno’rhyn oedd yn wir gan osgoi codi dadleuon di-bwrpas ! Ymddangosodd ddwywaith arSongs of Praise, a chafodd ei gyfweld ynaml a’i wahodd i areithio ar draws y byd.

Wedi gyrfa hir ac wedi iddo ymddeol yn ôl iGymru gweithiodd yn ddiflino i hyrwyddo’refengyl yn Aberdyfi a’i chyffiniau; byddai’nmwynhau cerdded a hwylio a phregethai’ngyson gan gefnogi unrhyw ymgyrchGristnogol i estyn allan at eraill. Hyd at y

cyfnod pan na fedrai wneud hynny mwyach,byddai’n llywyddu cyfarfodydd y Sul os nadoedd gweinidog yn bresennol. Adeggwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’ideulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi acyr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’upresenoldeb yn ein gwasanaethau.

Cafodd Alzheimer’s effaith andwyol ar eigof ac o herwydd yr afiechyd crebachoddyr hyn y medrai ei gyflawni yn enbyd. Ynystod yr wythnosau diwethaf, cyncychwyn ar y cyfnod clo, byddwn yncyfarfod yn ei gartref i weddïo bobwythnos – roedd ei allu i fynegi ei hun ynpylu. Ond os oedd ei allu dynol yngwanhau roedd ei Dad nefol yn deallhynny – byddai John yn ymhyfrydu mewngweddi ac ar ei fwyaf diddig wrth siaradgyda’i Dad nefol.

Disgrifiodd ein Trysorydd ef fel hyn,“Roedd yn fir bonheddig ac urddasol agallu o’r radd flaenaf yn perthyn iddo.”

Wrth feddwl am John byddaf yn cofio amei ffydd Gristnogol ddisglair a fu’n gymainto ysbrydoliaeth i eraill. Roedd ynwyddonydd o’r radd uchaf; syllodd arddryswch dirgelwch y bydysawd agwelodd harddwch a realiti dwylo’rCreawdwr ar ei greadigaeth.

Mae’n gadael gwraig, Sheila, a etholwydyn flaenor, yn ogystal â mab a saith owyrion – plant o’i briodas gyntaf âMargaret, fu farw o gancr ym 1986. MaeHannah Malcolm, yr hynaf o’i wyresau, yndilyn ôl traed ei thaid. Mae’n ymgeisyddam y Weinidogaeth gyda’r EglwysAnglicanaidd ac wedi ennill Doethuriaetham ddiwinyddiaeth trallod hinsawdd acecoleg. Mae’n gyfrannwr cyson i raglenni’rBBC.

Wedi ei farwolaeth canfuwyd ei fod yndioddef o COVID-19. Cynhaliwydgwasanaeth angladdol byr ym MynwentAberdyfi â’r teulu agosaf yn bresennol;roedd hi’n amser o ddathlu’r fuddugoliaethdros angau. Canwyd yr emyn "It is wellwith my soul.." Emyn ydyw sy'n cloi gydagobaith yr efengyl.

“Ond Arglwydd, disgwyliwn amdanat Ti dyHun;

Y nef, nid y bedd fydd i ni;Ar ganiad yr utgorn cawn weled ein Duw!Hyfryd obaith a nod f’enaid i!”

(addasiad Dafydd Job )

Cynhelir gwasanaeth o ddiolch am eifywyd pan fydd yr amgylchiadau yncaniatáu hynny.

Simon Morgan(Arweinydd Capel Saesneg Aberdyfi)

2 Y Goleuad Mehefin 12, 2020

Gwyddonydd, Ymgyrchydd, Cristion

“Roedd yn wyddonydd o’r radduchaf; syllodd ar ddryswchdirgelwch y bydysawd agwelodd harddwch a realitidwylo’r Creawdwr ar eigreadigaeth.”

ac yn gymdeithasol ond dwi’n llawnedmygedd o’n haelodau hªn sydd wedicymryd ato a rhai wrth gwrs yn galluffonio i mewn i wrando a bod yn rhan o’rgwmnïaeth. Profiad unigryw yw i gyfarchcannoedd o bobl ar ddechrau’r oedfa acun sy’n fy atgoffa o’r rhaglen “CelebritySquares” wrth weld pawb yn chwifio’nhwyliog o fy mlaen ar y sgrin. Mae poblyn eistedd gyda mygiau anferthol o deneu goffi, rhai wedi ystyried y cefndir ynofalus!! Mae sawl un mewn pajamascudd ac eraill gyda’u cfin ac mae hyd ynoed Wali’r mochyn cwta yn rhan o’r oedfa!Gwelwn un pâr yn wythnosol lle mae’rwraig yn cribo gwallt y gfir cyn setlo lawr!Ie wrth gwrs nid yw yr un fath â’r cofleidioa’r cusanu ar fore Sul ond gobeithiaf eifod o gysur a bendith i’r rhai sy’n ymuno.Nid yw yn gyfrwng perffaith o bell ffordd,mae heriau.

Rhaid “mudo” pawb i gadw ansawdd ysain, nid yw’n ddelfrydol canu

cerddoriaeth drwyddo ac mae’rprofiad o gyd adrodd gweddi’r Arglwyddyn “unmuted” gyda’r oedi amser agati yn brofiad arallfydol ac unigryw ynsicr!

Ond rydyn ni i gyd, lle bynnag yr ydym yngwneud ein gorau dros eincynulleidfaoedd a dwi wedi dysgu, os allai ddod i ddeall technoleg, ma na obaith ibawb!

Fel dywedodd Christopher Robin wrthWinnie the Pooh.”Promise me you’llalways remember: You’re braver than youbelieve, and stronger than you seem, andsmarter than you think.”

Diolch i chi gyd am eich gwaith diflino ynyr Eglwysi i gyd, pa bynnag ddull bynnagyr ydych yn ei ddefnyddio a phob bendithi chi gyd.

Parch Evan Morgan,Darpar Lywydd y Gymanfa Gyffredinol

Ssssssswwwwwmmmmmm! (parhad)

Page 3: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

Gwers 39 – Sul, 21 Mehefin

‘Mae ffrydiau ’ngorfoledd yn tarddu’ (Caneuon Ffydd, 747)

SEFFANEIA

y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn dyganol,

yn rhyfelwr i’th waredu;fe orfoledda’n llawen ynot,a’th adnewyddu yn ei gariad;llawenycha ynot â chân.(Seffaneia 3:17; tud. 285 yn y Gwerslyfr)

Darllen: Seffaneia 1:3:9–20; Rhufein -iaid 8:12–17, 37–9

Gweddi:Ddiddanydd anfonedig nef,fendigaid Ysbryd Glân,

hiraethwn am yr awel gref a’r tafod tân.

Erglyw ein herfyniadau prudd am brofi o’th rad yn llawn,

gwêl a oes ynom bechod cuddar ffordd dy ddawn.

Cyfranna i’n heneidiau tristorfoledd meibion Duw,

a dangos inni olud Crist yn fodd i fyw.

(Caneuon Ffydd, 593)

Sut rai ydych chi am ysgrifennucyfarchiad mewn cerdyn? Rwyf i’n eichael yn dasg lafurus, yn aml yn methucanfod be ydw i am ei ddweud. Nid fellyy mae hi yn y darlleniad o Seffaneia:mae’r cyfarchiad yn gorlifo o deimladgwirioneddol, cadarnhaol, yn hyfrydwchi’w ddarllen. Ond os ydych wedi darllengweddill y broffwyd oliaeth fer honmae’n annisgwyl, a dweud y lleiaf.‘Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at

Seffaneia fab Cushi, fab Gedaleia, fabAmareia, fab Heseceia, yn nyddiauJoseia fab Amon, brenin Jwda’ (1:1). Felhyn y cyflwyna’r proffwyd ei hun, a’rtebygrwydd yw ei fod yn orwyr i’rbrenin Heseceia ei hun (2 Brenhinoedd18:1d). Treuliodd ei febyd, breintiedig, odan ddau o frenhinoedd gwaethaf Jwda,Manasse ac Amon, a drodd galonnau’rbobl oddi wrth yr Arglwydd. Ond dawgair yr Arglwydd iddo yn nheyrnasiadJoseia, a ddaeth i’r orsedd yn wyth oed(2 Brenhinoedd 22) ac a oedd felly’ncydoesi â Habacuc a Jeremeia. Joseiaoedd yr un a ganfu Llyfr y Gyfraith yn ydeml ac a ddiwygiodd grefydd Jwda;mae’n gwneud synnwyr felly i feddwlfod y broffwydoliaeth yma wedi dodadeg mebyd y brenin hwn. Nid yw’r penodau cyntaf yn dal dim

yn ôl wrth gyhoeddi barn Duw ar Jwda a

Jerwsalem, ynghyd â gwledydd cyfagos.Ond, yr un pryd â’r farn, mae llwybrgwaredigaeth ar agor drwy geisiocuddfan yn yr Arglwydd (2:1–3).Sylwch, o 3:9 ymlaen, fel y mae eifwriadau llesol i’w cyflawni. O edrych ary broffwydoliaeth yn ei chyfanrwydd,gwelwn agwedd Tad at blentynanystywallt a’i gyfoedion. Rhaid eudwrdio a’u cosbi am eu hanufudd-dodffôl, ond mae ynddo faddeuant, nid ynunig i’w ffefryn, fel petai, ond i’wgyfoedion. A dyma hyfrydwch ycyfarchiad serchus yma: ‘Cân, ferchSeion; gwaedda’n uchel, O Israel;llawenha a gorfoledda â’th hollgalon, ferch Jerwsalem. Trodd yrARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt, asymud dy elynion. Y mae brenin Israel,yr ARGLWYDD, yn dy ganol, ac nidofni ddrwg mwyach’ (3:14–15).

Fe â ymhellach yn awr:

Nac ofna, Seion, ac na laesa dy ddwylo;y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn dyganol,

yn rhyfelwr i’th waredu; fe orfoledda’n llawen ynot, a’th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot â chânfel ar ddydd gfiyl. Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt, rhag bod iti gywilydd o’i blegid.

Ar adeg pan na fedrwn fwynhau canumewn cynulleidfa, mor dda yw cael einhatgoffa fod Duw yn gorfoleddu ynomni yn llawen â chân. Gadewch iwirionedd a hyfrydwch y geiriau hyn lifodrosoch a mwydo i fêr eich enaid. FelTad mae’n gorfoleddu’n llawen ynom,am ein hadnewyddu yn ei gariad, ac ynwir yn canu’n llawen trosom. Glywsochchi gân y Tad drosoch ac ynoch?

a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yndychwelyd.

Dônt i Seion dan ganu,bob un gyda llawenydd tragwyddol;hebryngir hwy gan lawenydd agorfoledd,

a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.(Eseia 35:10)

Trafod ac ymateb:

1. Pam ei bod hi’n anodd cyhoeddi barnDuw heddiw?

2. Ystyriwch yr adnodau i’w darllen oRufeiniaid 8 ochr yn ochr â’r adran oSeffaneia. A yw’r ‘Abba! Dad’ ynatseinio o’ch mewn?

3. Myfyriwch ar y gwirionedd fod Iesuwedi dwyn y farn a oedd i ni, ermwyn i ni dderbyn y fraint o fod ynblant i Dduw. Fe fydd yr emynau hynyn gymorth: Caneuon Ffydd, 518,530, 747.

Mehefin 12, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

LlythyrauOedfa deledu: gwerthfawrogiad

Annwyl Syr,

EISIAU CEFNOGAETH – PREGETHAR Y SUL

Undebau, enwadau a Chytûn wedicydgerdded ag S4C ers blynyddoedd aheb drefnu i gael pregeth ar y Sul, ondCoronafeirws wedi llwyddo mewn rhaidyddiau!Fe roddodd fywyd newydd i’r

bregeth, sy’n glanio bellach am un arddeg o’r gloch ar fore Sul ar aelwydyddCymru, a’r hen a’r methedig ynllawenhau am fendith y bregeth ar lawreu cartref.Sianel yr ymdrechu, er mwyn ei chael

hi, fu hon. Pobol yn y carchar – acaberthu i’r eithaf er mwyn ei chael hi.

Bydded i’r bregeth gael cadw ei lle ary Sul ar S4C y dyfodol.

Gyda llawer o ddiolch,

Ithel Parri-RobertsHendy-gwyn ar Daf

––––––––––

Annwyl Olygydd,

Hoffwn ddiolch i’r Parch. John GwilymJones am ei erthygl ar y bardd EmilyDickinson. Roedd un o ymadroddionrhyfeddol E.D. yn gwneud i mi feddwl achofio am y rhai o blith gweithwyr yGIG sydd wedi colli eu bywyd ynein gwasanaethu yn ddiweddar –‘calvaries of love’. Ni allwn ond diolch achofio.

Yn gywir,

Dafydd F. JonesWrecsam

Page 4: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

Y manylion sy’n dal y dychymyg – yrhen wraig o flaen ei chartref cyn iddiymadael, y swyddog o’r fyddin oedd ynmethu ynganu enwau’r lleoedd, y dyn yffrwydrwyd ei gartref – maent i gyd ynatgofion o gymuned a ddadwreiddiwyd.Dydi chwalu cymunedau o’r fath

ddim yn beth newydd, dim ond iddoddigwydd yng Nghymru, ac nidTryweryn mohono. Mae stori dristCapel Celyn wedi ennill ei phlwyf yngnghalonnau pobl Cymru. Dydi Epyntddim. Dyna pam, 80 mlynedd wedi’rChwalfa, y dylai Cymru fod yn cofioam y bennod enbyd hon yn ei hanes.Roedd y fyddin â’i llygad ar Epynt

(ystyr yr enw yw hynt, neu lwybr, yrebolion) ers y Rhyfel Byd Cyntaf, panwnaed y rhestr gyntaf o enwau’rffermydd. Ond ym Medi 1939, panddaeth yr Hillman Minx brown i fyny’rallt, yr hyn dynnodd sylw pobl oedd maimerch oedd y gyrrwr. Daeth swyddogo’r fyddin o’r car a mynd i’r ysgol. Gannad oedd yr athrawes yn lleol,gofynnodd i’r plant helpu’r swyddog.Chwarddodd y plant yn harti wrthglywed ymdrechion y swyddog iynganu Ffos yr Hwyaid, Gilfach yrHaidd, Cefnbryn Isaf a LlwyntegUchaf. Ond y swyddog gafodd y gairolaf. Erbyn mis Rhagfyr, roedd si ybyddai’n rhaid iddynt adael eu cartrefi.Roedd Epynt am gael ei droi’n faestanio i’r fyddin.

Am bedwar o’r gloch fore dyddNadolig 1939, cerddodd trigolion Epyntefo’u llusernau, rhai ar gefn ceffylau, iGapel y Babell, fel y gwnaethent erscanrifoedd, i’r gwasanaeth plygain.Buont yn canu tan doriad gwawr. Diaufod rhai wedi myfyrio lle y byddentymhen y flwyddyn; roedd yn amhosibldychmygu gadael. Y Babell oedd canoly gymuned fynyddig. Yma y deuent

deirgwaith ar y Sul. Yma y bedyddiwydeu plant, y priodwyd cariadon, ycladdwyd eu hanwyliaid. Dyma llecynhelid y gymanfa a’r eisteddfodflynyddol.Drannoeth yr eisteddfod, ar Fawrth

4ydd, y daeth y llythyr swyddogol gan yWestern Command. Roedd yn rhaid ideuluoedd 52 o ffermydd Epynt adaeleu cartrefi erbyn diwedd Ebrill.Anfonwyd ateb at y fyddin yn dweud ybyddai hynny ynghanol y tymor wyna,onid oedd modd ei ohirio? Mis yn unigyn hwy a gawsant. Nid oedd protest;roedd y gymdogaeth yn gegrwth.Cymerodd y fyddin 30,000 o erwau

yn Epynt, a bu raid i dros ddeucant obobl a phlant adael eu cartrefi. Erbyndiwedd Mehefin, ar fore niwlog, roeddyr olaf o’r teuluoedd yn gadael. Yr unpryd, roedd Caerdydd ac Abertawe yncael eu bomio’n ddidrugaredd gan yrAlmaenwyr. Sifir iawn ei fod ynachlysur trist, ond roedd Prydain yncael ei bygwth. Pa ddewis oedd?Fe geisiodd Plaid Cymru

wrthwynebu. Bu Gwynfor Evans a J. E.Jones yn ymweld â’r cartrefi danfygythiad a chawsant groesotywysogaidd. Yn anffodus, y diwrnod ytrafodwyd y mater yn y Senedd oedd ydydd y dewisodd Hitler i oresgynNorwy. Doedd dim gobaith. MeddaiJ. E. Daniel, “Mae Cymru yn fwydiamddiffyn o flaen Swyddfa RyfelLloegr nag oedd y Ffindir o flaenRwsia.” A hyd yn oed os oedd Epynt ynddiarffordd a gwledig, roedd yn safle obwys yn hanes Cymru. Roedd ycyfeiriad cyntaf at yr ardal yn LlyfrLlandaf yn 1135. Yma y mae cartrefWilliam Williams, Pantycelyn, aChefnbrith, cartref John Penry.Fesul un ac un, gadawsant eu

ffermydd, gan gredu y byddent yndychwelyd, unwaith y byddai’r rhyfelfelltith drosodd. Mae rhywun yncydymdeimlo’n arbennig â ThomasMorgan a ddeuai’n ddyddiol i Glandfiri gynnau tân ar yr aelwyd i arbed y llerhag tampio. Dywedodd y milwyrwrtho am beidio dod, ond dal ati awnaeth. Un dydd, roedd yn nesu at y fanpan ganfu fod Glandfir wedi diflannu.Roedd y fyddin wedi ffrwydro’rffermdy.Yn raddol, fe wawriodd arnynt –

doedden nhw byth yn mynd iddychwelyd i’r Epynt. Falle fod rhai yngwybod hynny o’r dechrau. Mynnoddun wraig fynd â drws y tª gyda hi;

doedd o ddim defnydd i neb arall.Penderfynodd Iorwerth Peate, pennaethSain Ffagan, fynd draw efo’i gamera ary diwrnod olaf i gofnodi’r achlysur.Wrth gefn Waunlwyd roedd lorriddodrefn yn brysur yn pacio. AethIorwerth Peate rownd i flaen y tª wedicael caniatâd i dynnu lluniau. Yno ygwelodd wraig 82 oed yn eistedd mewncadair freichiau, a dyma eiriau IorwerthPeate:

Nis anghofiaf byth: yno yr eisteddaifel delw gan syllu i’r mynydd-dir a’rdagrau’n llifo i lawr ei gruddiau.Fe’i ganesid yno, a’i thad a’i thaido’i blaen. Mae’n mynd heddiw adyma hi’n cronni i’w munudau olafyr olwg gyfoethog ar yr hen fynyddneu’n ail-gofio dyddiau ei heinioesyn yr hen dyddyn. ’Dwn i ddim: onddyna lle yr oedd ac ni welwn i onddagrau ei hing. Teimlwn fy modwedi torri ar sacrament a cheisiaisddianc yn dawel oddi yno. Ond fe’mgwelsai. Heb symud na llaw na phenna llygad, gwaeddodd arnaf: “Oble’r ych chi’n dod?” “O Gaerdydd,”meddwn innau. Wrth weld maiCymro oeddwn, ciliodd ysarugrwydd, ac amlhaodd y dagrau.“Fy machgen bach i,” ebe hi, “ewchyn ôl yno gynted ag y medrwch,mae’n ddiwedd byd yma.” Ac er fymod yn gwybod fod bomiau’rEllmyn yn disgyn ar Forgannwg ydyddiau hynny, gwyddwn mai hioedd yn iawn: yr oedd yn ddiweddar ei byd hi.

Y Llenor (1941)1

A fyddai Epynt wedi gallu cael eiachub? O ystyried yr hinsawddwleidyddol ym 1940, dwi’n amau’n

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 12, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

‘Mae’n ddiwedd byd yma’ – pam dylem gofio80 mlynedd ers clirio Epynt

Cywain gwair yng Nghefnbryn Isaf(cartref David ac Ann Lewis,

hen dad-cu a hen fam-gu yr actoresNia Roberts)

Waunlwyd – yma, ar ddiwrnod’madael y teulu, y dywedodd y fam-gu

wrth Iorwerth Peate am fynd ar eiunion yn ôl i Gaerdydd am ei bod hi’n

‘ddiwedd byd fan hyn’

(parhad ar y dudalen nesaf)

Page 5: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

fawr. Ac eto, yn wahanol i Gapel Celyn,nid yw’r tir wedi diflannu. Efallai fodgobaith o’i gael yn ôl ...Ymwelais ag Epynt gyntaf ym 1992.

Ro’n i wedi cael gwahoddiad ganGymdeithas y Cymod i siarad mewnrali yno, wedi iddynt gael caniatâd yngyntaf gan y fyddin. Er mawr gywilyddi mi, doeddwn i ddim wedi clywedhanes Epynt o’r blaen. Yr hyn a’mdychrynodd fwyaf oedd y pentref ffugyno, y FIBUA (Fighting in Built-upAreas). Wedi dymchwel y capel, yrysgol a’r ffermydd, cododd y fyddin,ym 1988, ffug bentref i ymarfer lladd.Mae yno ffug fynwent, credwch neubeidio, efo ffug feddi fel y gall y milwyrguddio tu ôl iddynt. Ddechrau’rnawdegau, gan mai yn Bosnia yr oedd y

brwydro’n digwydd, roedd hyd yn oedenwau Serbo-Croat ar y strydoedd. Nidtir cysegredig mohono bellach, ondmaes lladd.Roedd teulu Glyn Powell ymysg y

rhai gafodd eu troi o’u tai, onddychwelodd Glyn i Epynt. Nid o ddewis– roedd yn gwneud ei WasanaethCenedlaethol yn y pumdegau. RhyfelKorea oedd yn digwydd bryd hynny, adysgwyd Glyn i fod yn filwr ar dir eigyndeidiau. Mae bellach yn einawdegau, ac yn cofio’r amodau caled:cysgu ym muarth Ffos yr Hwyiaid,‘ynghanol y gwybed a’r dom defaid’. Eiofid o oedd fod calon CymreictodBrycheiniog wedi ei rhwygo. Mae Glyn Powell a gweddill plant

Epynt yn dal i ymgyrchu. Gan fod tir

Epynt wedi ei ddifetha am byth ganffrwydron, mae’n amhosibl ei ffermiobyth eto – mae gormod o wenwynynddo. Ac ers y nawdegau, yn hytrachna chilio, mae’r fyddin wedi perchnogimwy o dir yn yr ardal. Yma yrhyfforddwyd y milwyr fu’n ymladd ynAfghanistan ac Irac. Mae’n felltith sy’nparhau.Ond hyd yn oed os na ellir cael y tir

yn ôl, mae Glyn ac eraill yn benderfynolna chaiff yr hanes mo’i anghofio. Mae owedi trosglwyddo’r stori i Bethan eiferch, sydd wedi ei throsglwyddo i’wmerch hithau. Yn ddiweddar, sefydlwydtudalen Facebook o’r enw AtgofionEpynt, a phob dydd, tan ddiweddMehefin, mae enw un fferm a gollwydyn cael ei ddangos yn ddyddiol. Panoedd teuluoedd Epynt mewn angen ynyr hen ddyddiau, byddent yn gosodcyfnas wen o flaen y tª, a deuaicymdogion i’r adwy. Dwi’n ystyried ydudalen Facebook fel fersiwn fodern o’rgyfnas wen. Mae’n alwad am gymorth,mae’n gri o’r galon arnom i beidiogadael i Epynt fynd yn angof. Damegydyw, am gamddefnydd o dir, amdrechu cymdogaeth, am golli cymuned.Dylai fod ar faes llafur pob ysgol yngNghymru a thu hwnt.

Angharad Tomos

(Fersiwn lawnach o erthygl Saesneg aymddangosodd gyntaf ar wefanNation.Cymru)

Lluniau a chapsiynau drwy law EurosLewis.

1 Atgynhyrchwyd yn llyfr HerbertHughes, Mae’n ddiwedd byd yma.(Gwasg Gomer, 1997)

Mehefin 12, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Sioe stalwyni ar fynydd Epynt, 1930

Caroline Evans, tafarnwraig y Drovers(Tynymynydd) a Jack, ei mab, wrth

ddrws y dafarn

‘Mae’n ddiwedd byd yma’ (parhad)

Caniadaeth y CysegrSul, 14eg Mehefin7:30yb a 4:30yp

Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno Saith ar y Sul, is-gyfresCaniadaeth y Cysegr. Heddiw,cantorion capeli Bedyddwyr gogleddPenfro sy’n dewis eu hoff emynau ogymanfa a gynhaliwyd yng nghapelBlaenffos

Oedfa Radio Cymruam 12:00yp,14 Mehefin:

Aled Lewis Evans, Wrecsam.

Mae Radio Cymru wedi newid trefn yddarpariaeth grefyddol ar y Sul ers misEbrill, gyda’r arlwy yn edrych fel hynbellach:

7:30yb Caniadaeth y Cysegr12:00yp Yr oedfa12:30yp Bwrw Golwg16:30yp Caniadaeth y Cysegr

(ailddarllediad)

Sul, 14 Mehefin

Oedfa Dechrau CanuDechrau Canmol

am 11:00ybgyda’r Parch. Ddr. Alun Tudur,

Caerdydd, yn arwain.

Dechrau CanuDechrau Canmolnos Sul am 7:30yh

(ailddarlledir y bore Sul canlynolcyn yr oedfa)

Yr wythnos yma cawn weld sut maecymunedau yn dod at ei gilydd mewnffyrdd gwahanol yn ystod y cyfnodyma. Byddwn yn treulio amser gydachymuned egnïol y Ffynnon ynLlandysul, a hefyd yn gweld sut maecymuned glòs Llanuwchllyn ynymgynnull i gyd-ganu emynau ar ystryd. Cawn hefyd fwynhau perfform -iad gan y mezzo-soprano Sian Meiniro Emyn yr Ynysu.

Page 6: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

• Dywed bron i hanner oedolion yDeyrnas Unedig (44%) eu bod yngweddïo

• Mae chwarter (24%) oedolion yDeyrnas Unedig yn dweud eu bod wedigwylio neu wrando ar wasanaethcrefyddol ers dechrau’r cyfyngiadauoherwydd y pandemig

• Mae dros hanner y rhai sy’n gweddïo(56%) yn cytuno bod gweddi yn newidy byd

Mae gweddi yn rhan hanfodol o fywyd i’rcyhoedd, gydag ychydig llai na hanneroedolion y Deyrnas Unedig (44%) yndweud eu bod yn gweddïo, ac ymhlith yrhai sy’n gweddïo, mae traean (33%) yndweud eu bod wedi gweddïo erscyfyngiadau COVID-19 oherwydd eu bodnhw’n credu ei fod yn gwneudgwahaniaeth. Dyna ganlyniadau arolwgbarn newydd o 2,101 o oedolion agynhaliwyd ledled Prydain gan SavantaComRes1 ar gyfer yr asiantaeth ddatblyguGristnogol Tearfund.Gydag eglwysi ar gau oherwydd y

cyfyngiadau ar gynulliadau o bobl, maemiloedd o eglwysi yn ffrydio’ugwasanaethau ar-lein. Mae chwarter(24%) oedolion y Deyrnas Unedig yndweud eu bod wedi gwylio neu wrando arwasanaeth crefyddol ers y cyfyngiadau (ary radio, yn fyw ar y teledu, ar alw neuwedi’i ffrydio ar-lein); mae hyn yn neidioi dri chwarter (76%) ymhlith eglwyswyrrheolaidd. Nid yw un o bob ugain ooedolion y Deyrnas Unedig (5%) sy’ndweud eu bod wedi gwylio neu wrando arwasanaeth crefyddol ers y cyfyngiadauerioed wedi bod mewn eglwys.Mae traean (34%) oedolion y Deyrnas

Unedig rhwng 18 a 34 oed yn dweud eubod wedi gwylio neu wrando arwasanaeth crefyddol ers y cyfyngiadau (ary radio, yn fyw ar y teledu, ar alw neuwedi’i ffrydio ar-lein); mae hyn yncymharu ag un o bob pump (19%) ooedolion dros 55 oed.Er y gall rhai ystyried bod crefydd yn

fwy deniadol i’r genhedlaeth hªn, mae’rymchwil yn dangos bod oedolion iau,18–34 oed, yn sylweddol fwy tebygol oddweud eu bod yn gweddïo’n rheolaidd(o leiaf unwaith y mis) nag oedolion 55oed a hªn (30% o’i gymharu â 25%).O ran pynciau gweddi poblogaidd

ymhlith y rhai sy’n dweud eu bod yngweddïo, mae dros eu hanner (53%) yndweud eu bod wedi gweddïo drosaelodau’r teulu, mae chwarter (27%) wedigweddïo dros wasanaethau rheng flaen acmae un o bob pump (20%) yn dweud eubod wedi gweddïo dros rywun sy’n sâlgyda COVID-19. Dywed ychydig dros unrhan o chwech o’r rhai sy’n gweddïo

(15%) eu bod wedi gweddïo droswledydd eraill gyda COVID-19, gandynnu sylw at yr her i’r elusen Tearfundac eraill tebyg i annog mwy o bobl iweddïo dros faterion byd-eang.Mae’r canfyddiadau newydd ar weddi

yn datgelu cred gref yng ngrym gweddi isicrhau newid cadarnhaol yn y byd.Ymhlith y rhai sy’n gweddïo, dywed dwyran o dair (66%) eu bod yn cytuno bodDuw yn clywed eu gweddïau ac mae droseu hanner (56%) yn dweud eu bod yncytuno bod gweddi yn newid y byd. Maehanner y rhai sy’n gweddïo (51%) yncytuno’u bod wedi bod yn dystion iatebion i’w gweddïau eu hunain ac maedros ddwy ran o bump (43%) yn cytunobod eu gweddi yn newid bywydau poblsy’n byw mewn tlodi mewn gwledyddsy’n datblygu.

Dywed Dr Ruth Valerio, CyfarwyddwrEiriolaeth Byd-eang, Tearfund: ‘Mae’ngalonogol gweld faint o bobl y DeyrnasUnedig sy’n gweddïo yn ystod cyfnodmor heriol. Ein profiad yn Tearfund ywbod gweddi a gweithredu ymarferol ynmynd law yn llaw, ac maent ill dau ynffyrdd hanfodol o ymateb. Gydachyfraddau COVID-19 yn parhau i godiledled y byd, rydym yn galw ar fwy obobl i weddïo a gweithredu.’Ochr yn ochr â gweddïo am y sefyllfa,

mae Tearfund yn ymateb i’r pandemigCoronafirws ledled y byd drwy ddarparucymorth hylendid a glanweithdrahanfodol i leihau’r risg o gael yr haint.I ddarganfod mwy am waithTearfund ac i anfon rhodd, ewch iwww.tearfund.org/covidinfo.Mae canfyddiadau eraill yr arolwg yn

cynnwys y canlynol:

• Bod chwarter oedolion y DeyrnasUnedig (26%) yn dweud eu bod yngweddïo’n rheolaidd (o leiaf unwaith ymis).

• Bod un o bob ugain (5%) o oedolion yDeyrnas Unedig yn dweud eu bod wedidechrau gweddïo yn ystod cyfnod ycyfyngiadau ond heb fod wedigweddïo o’r blaen.

• Ymhlith y rhai sy’n gweddïo, dywedbron eu hanner (45%) eu bod wedigweddïo ers y cyfyngiadau oherwyddeu bod yn credu yn Nuw; mae traeanyn credu bod gweddi yn gwneudgwahaniaeth (33%); mae chwarter(26%) yn dweud eu bod wedi gweddïoar adegau o argyfwng personol neudrasiedi; a dywed chwarter (24%) eubod wedi gweddïo er mwyn cael cysurneu i deimlo’n llai unig.

• Mae chwarter (25%) y rhai 18–24 oedsy’n gweddïo yn dweud eu bod wedigweddïo dros ymateb llywodraeth yDeyrnas Unedig i COVID-19; mae’rffigwr hwn yn fwy na’r ffigwr ar gyferpob grfip oedran arall (15% ar gyfer yrhai 25–64 oed a 23% ar gyfer yrhai 65+).

• Mae dynion yn sylweddol fwy tebygolna menywod i ddweud eu bod wedigwylio neu wrando ar wasanaethcrefyddol ers y cyfyngiadau (ar y radio,yn fyw ar y teledu, ar alw neu wedi’iffrydio ar-lein) (28% o’i gymharu â21%, yn y drefn honno).

• Ers y cyfyngiadau, mae un o bob pump(18%) o oedolion y Deyrnas Unedigwedi gofyn i rywun arall ddweudgweddi ac mae un o bob pump (19%) ooedolion y Deyrnas Unedig yn dweudeu bod wedi darllen testun crefyddolyn ystod y cyfnod.

• Y pum peth uchaf ar y rhestr i weddïoyn eu cylch yn ystod y cyfyngiadauymysg oedolion y Deyrnas Unedigsy’n gweddïo yw: teulu (53%),ffrindiau (34%), diolch i Dduw (34%),chi’ch hun (28%) a’r gwasanaethaurheng flaen (27%).

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 12, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi’ – pobl Prydainyn chwilio am ffydd o dan gyfyngiadau Covid-19

Llun: Edrei Cueto/Tearfund

Gweddi wrth ddosbarthu 500o becynnau bwyd i deuluoedd bregus ynnghynghorau Algodonal a Santa Lucíayn Barranquilla, Colombia, fel ymateb

i’r pandemig Covid 19.

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 7: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

Yn ystod y swper arbennig cyn iddo gaelei gymryd i’r ddalfa, ac i’r groes, maeIesu’n cyfeirio ato’i hun fel Athro acArglwydd. Mae wedi cyfeirio ato’i hun felArglwydd wrth draddodi’r bregeth sy’n caelei chofnodi gan Mathew ac ar nifer oachlysuron eraill. Mae’nwerth nodi rhai o eiriauIesu wrth ei ddisgyblioncyn iddo eu gadael am ytro olaf;

Rhoddwyd i mi bobawdurdod yn y nef ac ary ddaear. Ewch, ganhynny, a gwnewchddisgyblion o’r hollgenhedloedd, gan eubedyddio hwy yn enw’rTad a’r Mab a’r YsbrydGlân, a dysgu iddyntgadw’r hollorchmynion a roddaisi chwi.

Yn ei lythyr at yr eglwysyn Philipi mae gan Paulhyn i’w ddweud;

Am hynny tradyrchafodd Duw ef, arhoi iddo’r enw syddgoruwch pob enw, felwrth enw Iesu y plygaipob glin yn y nef ac ar yddaear a than y ddaear,ac y cyffesai pob tafodfod Iesu Grist ynArglwydd, er gogoniant Duw Dad.(Philipiaid 2.9-11).

Mae nifer o’n hemynau yn dechrau trwygyfarch Iesu fel Arglwydd. Dyma unenghraifft;

Arglwydd Iesu, llanw d’Eglwys â’th LânYsbryd di dy hun

Fel y gwasanaetho’r nefoedd drwy roi’illaw i achub dyn;

Mae’r geiriau uchod gan Iesu, a hefyd ganun o brif arweinyddion yr Eglwys fore, yn

ein atgoffa bod ein bywydo ddydd i ddydd dan Eiarglwyddiaeth.

Mae’n debyg mai’rcwestiwn ddylem ni eiofyn yw beth mae einHarglwydd yn ei ddisgwylgennym fel ei ddilynwyr?A ydyw wedi rhoicanllawiau inni i’w dilyn?

Pwyslais Iesu wrthegluro’i weithred yn golchitraed y disgyblion oeddiddynt fod â gofal dros eigilydd. Mewn rhan arall o’isgwrs mae’n dweud hyn;

Os ydych yn fy ngharui, fe gadwch fyngorchmynion i. Ac feofynnaf innau i’m Tad, acfe rydd ef i chwi Eiriolwr(Cyfnerthwr) arall i fodgyda chwi am byth. (Ioan14.15-16)

Mae’n sefyll i reswm fodpob un sy’n dilyn yr Iesu,ac yn ei gydnabod ynWaredwr, yn awyddus i

fod yn ufudd iddo. Y broblem yw gwybodsut i wneud hynny. Yr hyn sy’n galondidinni yw nad oes raid inni fod yn ytywyllwch. Mae geiriau Iesu gennym acmae addewid Iesu o bresenoldeb yrYsbryd Glân ar gael inni.

Mewn erthygl gan Stephen NantlaisWilliams, fiyr i Nantlais, mae’n trafod yposibilrwydd o “Ddiwygiad” fel yr un ynnechrau’r ganrif o’r blaen, mae’n nodi’r lleamlwg sydd i edifeirwch ymhob deffroadysbrydol.

Pan yn meddwl am edifeirwch yr ydym yntueddu i feddwl yn nhermau pechodaurhywiol neu anfoesol yn unig. Efallai maiein hesgeulustod a’n difaterwch ysbrydolsy’n gyfrifol am gyflwr ysbrydol llawerohonom ar hyn o bryd.

I ba raddau tybed y dylem ni orfodcyfaddef ac edifarhau nad yw’r Beibl yngolygu llawer inni. Pa mor aml ydym ni ynei ddarllen yn feddylgar ac yn ymateb yngadarnhaol i’w ofynion arnom yn einbywyd bob dydd? Gwyddom fod Iesu ynrhoi pwyslais mawr ar yr Ysgrythurau (HenDestament) gan bwysleisio fod llawerynddynt amdano ef ei hun. Fe gofiwn eieiriau wrth y ddau ar y ffordd i Emaus acwrth y disgyblion yn Jerwsalem, wedi iddoatgyfodi. Dyma beth oedd ymateb y ddauyn Emaus wedi i Iesu eu gadael.

Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrthiddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd ynegluro’r Ysgrythurau inni?Gall yr un peth fod yn wir am ein methiantmewn gweddi, er bod Iesu wedi rhoipwyslais mawr ar hynny hefyd. Mae Lucyn nodi dwy enghraifft lle mae Iesu’n rhoipwys ar ein cyfrifoldeb i weddïo.Gwyddom, wrth gwrs, bod gennymbatrwm gweddi wedi ei roi inni. Mae hyn igyd yn dweud bod gweddi i fod yn rhanganolog o’n profiad ysbrydol.

A oes angen i ni sy’n cyfrif ein hunain ynGristnogion gydnabod ein bod ar fai? Aoes angen inni ail feddwl,? A oes ganunrhyw eglwys obaith i lwyddo’n ysbrydoloni bae ei bod yn rhoi amser i astudio’rBeibl yn feddylgar, ac i geisio Duw mewngweddi?

Tom Williams, Dinbych.

Mehefin 12, 2020 Y Goleuad 7

Iesu yn Arglwydd

Ar gychwyn yr hunanynysu ym misMawrth roeddwn i’n methu meddwl sutbyddwn yn llenwi fy nyddiau. Erbyn hyndw i’n methu meddwl sut mod i morbrysur. Ond os ydych chi’n awyddus iwneud defnydd o’r cyfnod arbennigyma, mae yna gyrsiau Beiblaiddgwerth chweil ar gael ar lein.

Mae nifer ohonom yn cyfarfod ynwythnosol dros Zoom i wneud Cwrs yBeibl, sef cwrs y Feibl Gymdeithassy’n rhoi trosolwg o’r Beibl, gangarlamu mewn 8 pennod o “Y Creu a’rCyfamod” drwodd i’r ‘Datguddiad’. Maeyna fideo byr a llyfryn, sy’n cysylltu efoadnodau perthnasol. Bu’n ddiddorolclywed hanesion rhai o gymeriadaulliwgar llai cyfarwydd yr HenDestament. Ond arbenigedd y cwrs ywei fod yn egluro stori cyfan y Beibl –ble mae’r darnau gwahanol yn ffitio i’rdarlun mawr, o ymwneud Duw âdynoliaeth.

Delyth Oswy Shaw(Cyd-lynydd Hyfforddiant EBC)

Hunanynysu – cyfle i astudio?

Page 8: yGOLEUAD...gwyliau’r haf yn arbennig byddai aelodau o’i deulu estynedig yn ymweld ag Aberdyfi ac yr ydym, fel eglwys, wedi elwa o’u presenoldeb yn ein gwasanaethau. Cafodd Alzheimer’s

• Wythnos nesaf – ???????????????? •

8 Y Goleuad Mehefin 12, 2020

Yn ystod y cyfnod hwn gwerthfawr yw oedi a threulio amser yn myfyrio ar air Duw yng nghwmni’n gilydd.Yr ydym yn dilyn awgrymiadau gan y Llithiadur Diwygiedig Cyffredin ar gyfer y Sul.

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

Tystiolaeth a thystion

Yn ein darlleniadau yr wythnos diwethafgwelsom Iesu’n anfon ei Apostolion i’r bydnid yn gymaint i gael “aelodau” i glwbsanctaidd ond i “wneud disgyblion” drwy’rbyd. Rhoddwyd iddo bob awdurdod, ymmhob oes, ym mhob sefyllfa am byth a’rhawl i alw’r ddaear yn grwn i ufuddhauiddo.

Wedi bod yng nghwmni’r Iesu caiff yrEglwys ei anfon allan ar ei ran am y trocyntaf.

Heddiw gwelwn enghraifft o'r apostolion,wedi iddynt fod yng nghwmni'r Iesu, yncael eu hanfon allan am y tro cyntaf

EMYN 364 – O tyred Arglwydd mawr

DARLLEN – Mathew 9:35–10:4.

Gwelwn yn yr adnodau nad fel“disgyblion” yr adnabyddir y deuddegmwyach ond fel “apostolion” – y rhai agafodd eu hanfon. Adeiladwyd yr eglwysar dystiolaeth yr apostolion cynharaf i’rArglwydd Iesu Grist a dibynna ei pharhadar ein ffyddlondeb ninnau i’r dystiolaethheddiw.

Cawn ninnau os ydym yn ffyddlon i’wtystiolaeth, ein symbylu gan dosturiCrist-debyg (ad 36). Oni welwn ninnau einCymru ni, a’n byd yn ei ddryswch, fel“defaid heb fugail” ar chwâl, yn wledd ifleiddiaid difäol ein hoes? Deisyfwn “arArglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’wgynhaeaf” heddiw.

GWEDDI

Cyflwyniad i’r darlleniad

Mae’r adnodau nesaf yn herio’nblaenoriaethau i gyd fel unigolion aceglwysi. Wrth i ni ufuddhau iddo maeIesu'n disgwyl y daw gwrthwynebiadau acerledigaeth i'n rhan. Mae Iesu’ndefnyddio’r gair “peidiwch” (ad. 5, 9,19, 26, 34) a “gochelwch” (ad. 17) felrhybuddion i’n cadw rhag colli golwg arein galwad.

Darllen Mathew 10:5-8 – Peidiwch âcholli golwg ar eich cenhadaeth i’chcenhedlaeth

Dim ond yn eu cenhadaeth mae adnabodpobl Iesu Grist ym mhob cenhedlaeth.Ond fel cwningen wedi ei ddallu gan olaucar ac nad yw’n gwybod ble i droi amddihangfa gallwn ninnau edrych ar y byd,ei drafferthion a’i angen a chael ein drysugan yr holl angen. Ble mae dechrau? Cyn

mentro i’r “holl fyd” (ac mae hwnnw’n rhanannatod o’n galwad) cafodd y disgyblioneu cyfeirio at y lleol, yr agos atynt, eupobl eu hunain – at “ddefaid colledig tªIsrael”. Bydd eu neges a’i gweithgarwchsy’n tyfu o’i argyhoeddiad yn ddatganiadi’r byd nad ymerodraethau, arlywyddionna Phrif Weinidogion sy’n rheoli, nachreulondeb dieflig, na dioddefaint. DaethTeyrnasiad Duw yn agos yn Iesu Grist ynllawn gras a gwirionedd. Sylweddoliadgrasol i’w rannu’n hael yw’r sylweddoliadhwn am ddyfodiad Teyrnasiad Duw atomyng Nghrist.

Darllen Mathew 10:9-15 – Peidiwch agoedi ar y daith

Camau babi oedd yr ymgyrch hwn, nid ymarathon diweddarach. Ac eto mae ynaegwyddorion syml, perthnasol i ni heddiwyn yr adnodau. Meddyliwch er enghraifftam faint o arian sy’n cael ei wario yn eincapeli’n lleol ar gynnal yr adeiladau. (Niddweud yr ydym ein bod yn ddibris o’ncyfrifoldebau yr ydym fan hyn!) Ond o’igymharu â faint ydym yn ei wario ar eincenhadaeth, ar estyn allan, ar rannu’rnewyddion da- pryn sy’n cael yflaenoriaeth? Onid yw Iesu’n awgrymu ydylem deithio’n ysgafn? Peidiwch âchario’r holl fagiau trwm sy’n ein arafu.Neges o dangnefedd- o gyfannu, amddyfodiad Teyrnasiad newydd gydagegwyddorion newydd yw ein neges.Cyhoeddwch eich neges ac o’i dderbyndaw “tangnefedd” i’r tª ac i’r ardal meddai.Ond mae gwrthod yr efengyl yn dwyn eiganlyniadau hefyd. Lle trist iawn yw’r dref,y ddinas neu’r wlad a wrthododdddyfodiad Teyrnasiad yr Un Nefol. Nidnifer ei gapeli, neu ei Feiblau, neu pa moraml y bydd ei arweinwyr yn proffesuymlyniad crefyddol sy’n mesur derbyniadArglwydd “tangnefedd”. Os gwrthodir yrArglwydd gwrthodir ei dangnefeddiachusol. Ac nid yw ei effeithiau, meddaiIesu, yn gyfyngedig i fyd hanes ac amser.“ Caiff tir Sodom a Gomorra lai i’wddioddef yn Nydd y Farn na’r dref honno”yw asesiad y brenin a barnwr byd. Mae’rcyfan a welwn fel pe bai’n cael ei ysgwydmewn gogrwn tragwyddol fawr.

Darllen Mathew 10:16-23 – Peidiwch âphryderu

Ar draws y byd heddiw mae yna filoedd oGristnogion sy’n ofni cnoc ar ddrws ganheddlu neu swyddogion y wladwriaeth i’wcipio i garchar. Caiff rhai eu cyhuddo o fodyn deyrnfradwyr, eraill gan lysoeddcrefyddol am gabledd. Caiff eraill eu

poenydio, eu treisio, eu cam-drin – dimond am fod enw Iesu yn eu calon ac ar eugwefusau. Mae hanes Cymru’n frith ohanesion pobl ddioddefodd er mwyn euffydd.

I ymddwyn fel ei ddilynwyr yn y byd niddylem fod yn naïf ond yn hytrach yn gallac yn ddiniwed. Ni ddylem chwaith gredupopeth a ddywedir nac a glywn gan bobleraill. Gall satan ymddangos yn rhithangel goleuni!

Mae gwrthwynebiad meddai Iesu’nanorfod. Ond drwy bob amgylchiad cawngyfle i “ddwyn tystiolaeth” i Arglwydd yDeyrnas. Daw gwrthwynebiad o lefyddannisgwyl- gan lywodraethau, o ganol einteuluoedd hyd yn oed. Mae rhywbeth amenw Iesu sy’n pegynnu barn!

Ond beth os na wyddom beth i’w ddweudneu beth os nad yw pobl yn credu’nhamddiffyniad? Peidiwch â phoeni – maeYsbryd Duw o’ch mewn yn eich tywys ifod yn ddoeth ac yn hyderus. A beth osfydd yr her yn ormod i’w ddioddef?Addewid Iesu yw hyn- fe fydd y rhai sy’nparhau hyd y diwedd yn cael eu hachub.Nid dyfalbarhad sy’n ennill “achubiaeth”ond gwaith gras ynom sy’n ein galluogi iddyfalbarhau hyd y diwedd.

Mae amser yn fyr. Mae’n hamser yn fyr.Mae’r cynhaeaf yn fawr. Mae’r alwad ynfawr. Mae’r her yn fawr. Ond diolch Iddo.Mae’r Arglwydd yn fwy na’r cyfan oll a’ideyrnas dragwyddol a’i heddwchtragwyddol yn sicr o gyrraedd ei benllanw!

EMYN 746 – Dilynaf fy mugail

GWEDDI A’R FENDITH

O Arglwydd ein Duw, rwyt bob amser yndeilwng o’n mawl a’n haddoliad. Nid wyt tibyth yn torri dy Air na’th addewidion.Diolchwn i ti ein bod ym mywyd,marwolaeth atgyfodiad a theyrnasiad yrArglwydd Iesu Grist yn cael deall go iawnbeth yw cariad, cyfiawnder, trugaredd, abuddugoliaeth ar holl alluoedd y fall. Tyrdatom heddiw yn dy gariad. Yng nghanolbyd mor anghyfiawn tyrd atom mewncyfiawnder. Mewn oes lle mae pobl yncael eu gwasgu gan amgylchiadau, tyrdatom mewn trugaredd. Ac mewn oes llemae pobl yn gwangalonni, tyrd atommewn nerth i’n hadfywio a’n hysbrydoli.Hyn a ofynnwn er mwyn Iesu Grist drwy’rYsbryd Glân. Bendigedig fyddo dy enw ynoes oesoedd.Amen.

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.