27
© Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig. Casgliad o Casgliad o Casgliad o Casgliad o weithgareddau sy’n weithgareddau sy’n weithgareddau sy’n weithgareddau sy’n cyd cyd cyd cyd-fynd â’r llyfr ... fynd â’r llyfr ... fynd â’r llyfr ... fynd â’r llyfr ... Gweithdy Swyddogion Iaith y Gogledd Ebrill 2014 Fersiwn y De

Casgliad o weithgareddau sy’n weithgareddau sy’n cyd ... · • Llinell rif i helpu cyfri am yn ôl • Offeryn i gyfleu sŵn lansio’r roced • Darn o ffabrig / blanced fawr

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Casgliad o Casgliad o Casgliad o Casgliad o weithgareddau sy’n weithgareddau sy’n weithgareddau sy’n weithgareddau sy’n cydcydcydcyd----fynd â’r llyfr ...fynd â’r llyfr ...fynd â’r llyfr ...fynd â’r llyfr ...

    Gweithdy Swyddogion Iaith y Gogledd Ebrill 2014

    Fersiwn y De

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    CyflwyniadCyflwyniadCyflwyniadCyflwyniad

    Dyma gasgliad o weithgareddau o weithdy Swyddogion Iaith y Gogledd

    sy’n cyd-fynd â’r llyfr Ar wib! o gyfres Dewin.

    Yn y llyfr mae Dewin, Doti a phlant y cylch meithrin yn mynd ar daith

    gyffrous i'r gofod yn eu roced hudol. Cofiwch gynnwys Dewin a Doti

    wrth i chi wneud y gweithgareddau. Wrth eu defnyddio yn rheolaidd yn

    y cylch y bydd Dewin a Doti yn gwneud eu gwaith ac yn annog plant

    bach Cymru i siarad Cymraeg.

    Mae holl lyfrau Dewin ynghyd â nifer o adnoddau Dewin eraill ar gael i’w

    brynu o siop Mabon a Mabli (www.mabonamabli.co.uk).

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Dewin Bwriad Dewin yw annog pob plentyn sy’n mynychu cylch meithrin i

    siarad Cymraeg. Dim ond Cymraeg mae Dewin yn ei siarad â’i ddeall

    - mae hyn yn holl bwysig. Mae Dewin yn rhan o weithgareddau dyddiol

    y cylch ac yn cael ei adnabod fel ffrind plant bach Cymru.

    Mae pob cylch meithrin wedi derbyn Pecyn Adnoddau Dewin. Mae

    manylion llawn am gynnwys y pecyn hwn ar dudalen 63 Canllawiau

    Rheoli Cylch Meithrin 2013 ac ar fewnrwyd Mudiad Meithrin (https://

    intranet.meithrin.co.uk/dewin/ ).

    Mae amrywiaeth o ddeunyddiau Dewin (llyfrau, mygiau, pensiliau lliw,

    tegan meddal Doti) ar werth trwy Siop Mabon a Mabli

    (www.mabonamabli.co.uk). Mae’r adnoddau yn ffordd wych i

    atgyfnerthu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y cylch ac yn ffordd o annog

    rhieni i’w defnyddio gyda’u plant yn y cartref. Cofiwch fod Mabon a

    Mabli yn cynnig gostyngiad o 10% i bob cylch meithrin.

    Cofiwch hefyd fod gan Dewin ei wefan ei hun (www.dewin.co.uk) sy’n

    cynnwys nifer o gemau rhyngweithiol a logos a thempledi Dewin.

    Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Datblygu neu’r Swyddog

    Iaith lleol.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    CynnwysCynnwysCynnwysCynnwys

    1 Rhestr Adnoddau ar gyfer creu sach stori’r llyfr Ar wib!.

    2 Creu Cerrig Lleuad

    4 Gwneud Bisgedi Sêr a Lleuad

    6 Adeiladu Lleuad

    8 Trefnu Planedau

    10 Creu Planed Crempog

    12 Adeiladu Roced Potiau Blodau

    14 Gwneud Telesgôp Sêr

    16 Bwyta’r Lleuad

    18 Rhestr o Syniadau Ychwanegol

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Rhestr Adnoddau Sach Stori'r Llyfr Rhestr Adnoddau Sach Stori'r Llyfr Rhestr Adnoddau Sach Stori'r Llyfr Rhestr Adnoddau Sach Stori'r Llyfr

    Ar Wib!Ar Wib!Ar Wib!Ar Wib!

    • Het Dewin

    • Seren

    • Lleuad (siâp hanner lleuad)

    • Model neu lun o roced

    • Sêr hudol i’w tasgu

    • Llinell rif i helpu cyfri am yn ôl

    • Offeryn i gyfleu sŵn lansio’r roced

    • Darn o ffabrig / blanced fawr i eistedd oddi tano gyda sêr goleuol

    wedi eu gosod arni.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Creu Cerrig Lleuad Cofiwch sicrhau nad oes gan unrhyw blentyn alergedd at y cynhwysion a ddefnyddir.

    Grŵp Bach

    Nod y gweithgaredd: Cyfle i ddatblygu sgiliau creadigol gyda bwydydd.

    Gweithgaredd Ardal Creadigol

    Offer ac Adnoddau Cynhwysion ar gyfer y cerrig lleuad (Yn gwneud tua 20).: olew olewydden neu lysiau, 250g siocled gwyn, 4 cwpan o Rice Krispies, 200g darnau siocled gwyn, 2 gwpan o mashmallows bach. Llwyau cymysgu, 2 lwy fach, powlen gymysgu, oergell, casys cacennau bach, plât/hambwrdd sy’n ffitio yn yr oergell, powlen i doddi siocled, microdon neu ffwrn a sosban, cwpan fesur a chlorian.

    Cyfarwyddiadau • Dangoswch luniau o arwyneb y lleuad i’r plant gan drafod yr arwynebedd.

    • Eglurwch eich bod yn mynd i greu cacen sy’n edrych fel arwyneb y lleuad.

    • Atgoffwch y plant am bwysigrwydd hylendid wrth drin bwyd, a golchi dwylo cyn bwyta neu goginio.

    • Toddwch y 250g o siocled - naill ai yn y ficrodon am tua 2 funud, gan gymysgu’r siocled bob 30 eiliad i’w arbed rhag llosgi neu mewn powlen dros sosban o ddŵr berwedig.

    • Cymysgwch y siocled nes ei fod yn llyfn. Gadewch iddo oeri ychydig.

    • Mesurwch y Rice Krispies, y darnau siocled a’r mashmallows un ar y tro a’u hychwanegu at y siocled wedi’i doddi. Gadewch i’r plant eich helpu i’r gymysgu gan eu hannog i gymryd tro a rhannu’r offer.

    • Rhowch ychydig o olew ar fysedd y plant (mae hyn yn helpu stopio’r gymysgedd rhag sticio gormod).

    • Defnyddiwch y llwyau bach i roi peth o’r gymysgedd i bawb. Anogwch y plant i rolio’r gymysgedd i greu siâp pêl.

    • Gosodwch pob “carreg lleuad” mewn cas gacen unigol ar y plât/hambwrdd a chadwch nhw yn yr oergell nes eich bod yn barod i’w bwyta.

    Iaith a gyflwynir Geirfa ac ymadroddion sy’n ymwneud â choginio. Enwau’r offer a’r cynhwysion sy’n cael eu defnyddio. Trafod arwyneb y lleuad - ansoddeiriau e.e. garw, llyfn, caled, meddal, tyllog, mynyddig, crwn. Geirfa fathemategol e.e. siâp, mwyaf, lleiaf, cyfri.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Trafod arfer dda fel golchi dwylo cyn trin bwyd a bwyta. Rhannu’r profiad ag eraill, rhannu offer ac aros tro. Cydweithio a thacluso ar ddiwedd y gweithgaredd.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod y lleuad a’i nodweddion. Ble mae’r lleuad? Pryd rydym ni’n gweld y lleuad?

    Siarad, Gwrando a Darllen Defnyddio iaith bwrpasol – gweler y daflen iaith.

    Datblygiad Corfforol Sgiliau Llawdriniol wrth gymysgu’r cynhwysion ac wrth greu eu cacen carreg lleuad.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siapiau a maint.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Creu Cerrig LleuadCreu Cerrig LleuadCreu Cerrig LleuadCreu Cerrig Lleuad Torchwch eich llewys. / Torcha dy lewys. Golchwch eich dwylo. / Golcha dy ddwylo. Sychwch eich dwylo. / Sycha dy ddwylo. Gwisgwch eich ffedogau. / Gwisga dy ffedog. Pa siâp ydy’r lleuad? Ydy’r lleuad yn llyfn / arw? Dyma … Pwy sy’n hoffi siocled? Ydy’r siocled yn galed / feddal? Mae angen torri’r siocled. Dewch i ni gael pwyso’r … Dere i bwyso’r ... Da iawn. Dyna ddigon. Arllwys y … i mewn i’r bowlen yn ofalus. Sut mae’r … yn teimlo? Mae angen cymysgu’r … Tro … i gymysgu. Rownd a rownd. Sawl … sydd angen? Dewch i gyfri … Dere i gyfri ... Rhwbiwch eich dwylo gyda’i gilydd. Rhwbia dy ddwylo gyda’i gilydd. Rholiwch y gymysgedd i wneud pêl. Rholia’r gymysgedd i wneud pêl. Sut mae’r gymysgedd yn teimlo? Ydy’r gymysgedd yn galed / feddal / ludiog / arw / grensiog? Rhowch y bêl yn y casyn. Rho’r bêl yn y casyn.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Gwneud Bisgedi Sêr a Lleuad Cofiwch sicrhau nad oes gan unrhyw blentyn alergedd at y cynhwysion a ddefnyddir.

    Grŵp Bach

    Nod y gweithgaredd: Cyfle i ddatblygu sgiliau llawdriniol wrth drafod y gofod.

    Gweithgaredd Ardal Marcio a Chreadigol

    Offer ac Adnoddau Rysáit gwreiddiol ar gael yma www.bbcgoodfood.com/recipes/4506/birthday-biscuits- Cynhwysion i wneud y bisgedi: 250g blawd gwyn, 85g siwgr mân euraidd, 175g menyn heb halen ar dymheredd ystafell wedi ei dorri i giwbiau, 2 lwy fwrdd o geuled lemwn, 250g siwgr eisin gwyn. Tegell, papur gwrthsaim, torwyr siâp seren a chylch, ffwrn, llwy gymysgu, 2 powlen gymysgu, silffoedd pobi, rhidyll, clorian, rholbren a phrosesydd bwyd.

    Cyfarwyddiadau • Gwresogwch y ffwrn at 180C/160C(ffan)/Nwy 4.

    • Atgoffwch y plant am bwysigrwydd hylendid wrth drin bwyd, a golchi dwylo cyn bwyta neu goginio.

    • Dangoswch luniau o sêr a’r lleuad i’r plant gan drafod eu siâp gyda nhw.

    • Gosodwch y cynhwysion ar y bwrdd gan enwi bob un yn eu tro.

    • Gofynnwch i’r plant eich helpu i fesur a phwyso’r blawd, siwgr a’r menyn a’u harllwys i’r prosesydd bwyd.

    • Cydweithiwch gyda’r plant i gymysgu’r cynhwysion nes eu bod yn ffurfio pêl yn y prosesydd bwyd.

    • Gosodwch ddarn mawr o bapur gwrthsaim ar y bwrdd a gosodwch y toes arno.

    • Cydweithiwch gyda’r plant i’w rholio allan nes eu bod tua 1cm o drwch.

    • Torrwch y bisgedi gan ddefnyddio’r torwyr sêr a lleuad a’u gosod ar y silffoedd pobi.

    • Pobwch y bisgedi am 10 munud nes eu bod yn lliw euraidd golau ac yna gadewch iddynt oeri.

    • Yn y cyfamser, mesurwch y ceuled lemwn i fowlen cymysgu ac ychwanegwch 2 lwy fwrdd o ddŵr wedi ei ferwi. Cymysgwch gyda’i gilydd nes ei bod yn llyfn.

    • Gwnewch yr un fath gyda’r jam coch.

    • Cydweithiwch gyda’r plant i hidlo 175g o’r siwgr eisin i’r gymysgedd ceuled lemwn a’i gymysgu’n dda.

    • Hidlwch weddill y siwgr eisin i’r gymysgedd jam.

    • Anogwch y plant i daenu’r eisin dros y bisgedi.

    • Gadewch i’r bisgedi sychu (o leiaf 20 munud) ac yna rhannwch y bisgedi yn ystod amser byrbryd neu rhowch y bisgedi i’r plant fynd adref gyda nhw.

    Iaith a gyflwynir Geirfa ac ymadroddion sy’n ymwneud â choginio. Enwau’r offer a’r cynhwysion sy’n cael eu defnyddio. Ansoddeiriau e.e. seren, crwn, pigog, lliwiau, sych, gwlyb, caled meddal. Geirfa fathemategol e.e. siâp, mwyaf, lleiaf, cyfri.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Trafod arferion da fel golchi dwylo cyn trin bwyd a bwyta. Rhannu’r profiad a’r offer gydag eraill.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hylendid bwyd.

    Siarad, Gwrando a Darllen Dilyn cyfarwyddiadau, trafod wrth greu a datblygu geirfa berthnasol.

    Datblygiad Corfforol Datblygu sgiliau llawdriniol wrth dorri’r siapiau a’u gosod yn barod i goginio ac wrth daenu’r eisin ar y bisgedi.

    Datblygiad Mathemategol Clywed a defnyddio iaith fathemategol i bwrpas. Trafod siâp y bisgedi a’u cyfri i wneud yn siŵr fod digon i bawb.

    Datblygiad Creadigol Addurno’r bisgedi mewn ffordd o’u dewis.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Bisgedi Sêr a LleuadBisgedi Sêr a LleuadBisgedi Sêr a LleuadBisgedi Sêr a Lleuad Torchwch eich llewys. / Torcha dy lewys. Golchwch eich dwylo. / Golcha dy ddwylo. Sychwch eich dwylo. / Sycha dy ddwylo. Gwisgwch eich ffedogau. / Gwisga dy ffedog. Pa siâp yw hwn? Sawl ochr sydd gan …? Beth sydd eu hangen i wneud bisgedi? Dyma … Dewch i ni gael pwyso’r … Dere i bwyso’r ... Da iawn. Dyna ddigon. Arllwys y … i mewn i’r prosesydd bwyd. Mae angen gwasgu’r botwm i gymysgu’r cynhwysion. Tro … i wasgu’r botwm. Pa siâp yw’r toes? Ydy’r toes yn … Rhaid i ni rolio’r toes. Sawl bisged sydd angen? Dewch i ni gyfri sawl bisged sydd angen … Pawb i ddewis torrwr. Wyt ti eisiau seren neu lleuad? Rhowch y torrwr ar y toes. / Rho’r torrwr ar y toes. Gwasgwch y torrwr i lawr. / Gwasga’r torrwr i lawr. Rhaid codi’r fisged yn ofalus. Rhowch y fisged ar y silff pobi. / Rho’r fisged ar y silff pobi. Rhowch y … yn y fowlen. / Rho’r ... yn y fowlen. Mae angen gwasgu’r siwgr drwy’r tyllau. Mae angen cymysgu’r … Tro … i gymysgu. Rownd a rownd. Pa liw eisin wyt ti eisiau? Rhowch yr eisin ar y fisged. / Rho’r eisin ar y fisged. Smwddiwch yr eisin nôl ac ymlaen. Smwddia’r eisin nôl ac ymlaen.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Adeiladu Lleuad Pawb i helpu yn eu tro.

    Grŵp Bach

    Nod y gweithgaredd: Rhoi cyfle i’r plant creu i bwrpas. Datblygu sgiliau llawdriniol wrth drafod planedau.

    Gweithgaredd Ardal Creadigol ac Adeiladu

    Offer ac Adnoddau Past papur wal, hen bapurau newydd, balŵn neu debyg ar gyfer creu’r siâp, paent (melyn, oren a

    gwyn) a brwshys paent.

    Cyfarwyddiadau • Dangoswch luniau o’r lleuad i’r plant ac eglurwch eich bod yn mynd i wneud model o’r lleuad.

    • Cydweithiwch gyda’r plant i greu model o’r lleuad (neu sawl model ar gyfer y planedau os ydych yn dymuno) y gallwch ei ddefnyddio fel rhan o arddangosfa neu yn yr ardal chwarae rôl.

    • Trafodwch ei siâp a gofynnwch i’r plant eich helpu i greu’r model gan rwygo’r papur newydd i stribedi a’u gludo ar y balŵn. Nid oes angen iddi fod yn llyfn gan nad ydy arwyneb y lleuad yn llyfn! Fe fydd angen ychwanegu sawl haen o bapur i’r siâp dros wythnos gan adael iddynt sychu dros nos bob tro.

    • Wedi i’r haen olaf o bapier maché sychu, gofynnwch i’r plant beintio’r lleuad a chydweithiwch gyda nhw i’w wneud.

    • Unwaith y bydd y paent wedi sychu, gosodwch y lleuad yn yr ardal chwarae rôl neu fel rhan o arddangosfa yn y cylch.

    Iaith a gyflwynir Geirfa sy’n ymwneud â’r gofod, siapiau, lliwiau, ansoddeiriau e.e. mawr, bach, llyfn, garw.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Rhannu’r profiad ag eraill. Cymryd tro a rhannu adnoddau. Cymdeithasu a thrafod wrth wneud.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod y gofod a’i nodweddion. Datblygu ymwybyddiaeth o ddydd a nos.

    Siarad, Gwrando a Darllen Defnyddio iaith bwrpasol wrth adeiladu’r lleuad.

    Datblygiad Corfforol Datblygu sgiliau llawdriniol wrth rwygo, gludo a pheintio.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siâp a maint y lleuad.

    Datblygiad Creadigol Arbrofi gyda phaent. Cymysgu lliwiau a datblygu syniadau.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Adeiladu LleuadAdeiladu LleuadAdeiladu LleuadAdeiladu Lleuad

    Pa siâp ydy’r lleuad? Ydy hi’n gylch / sgwâr / driongl? Pa liw ydy’r lleuad? Ydy’r lleuad yn ... ? Dewch i greu model o’r lleuad ... Dere i greu model o’r lleuad ... Pwy sydd eisiau gwneud model o’r lleuad? Rhwygwch y papur. / Rhwyga’r papur. Rhowch y papur yn y past. / Rho’r papur yn y past. Sut mae’r past yn teimlo? Ydy’r past yn sych / wlyb?

    Rhowch y papur ar y balŵn.

    Rho’r papur ar y balŵn.

    Rhowch y papur ar ben y papur arall. Rho’r papur ar ben y papur arall. Smwddiwch y papur gyda’ch dwylo. Smwddia’r papur gyda dy ddwylo. Gadewch i’r papur sychu. Gad i’r papur sychu. Pa liw paent wyt ti eisiau? Wyt ti eisiau’r paent ... ? Dyna ti! Lan a lawr ...

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Trefnu Planedau Pawb i helpu yn eu tro.

    Grŵp Bach

    Nod y gweithgaredd: Datblygu sgiliau mathemategol wrth osod y planedau yn y drefn gywir.

    Gweithgaredd Ardal Y Tu Allan

    Offer ac Adnoddau Lluniau A4 o’r planedau gyda rhif arnynt, lein ddillad a phegiau neu digon o wagle i greu llinell o’r planedau ar y llawr.

    Cyfarwyddiadau • Dangoswch lun o’r planedau yn y gofod i’r plant a chyfrwch sawl planed sydd yna.

    • Esboniwch fod eich planedau wedi cymysgu i fyny a bod angen eu gosod yn y drefn gywir.

    • Gofynnwch i’r plant ddod o hyd i’r blaned gyntaf a’i gosod ar y lein ddillad.

    • Trafodwch liwiau a siapau’r planedau gyda’r plant wrth iddynt eu gosod yn y drefn gywir ar y lein ddillad.

    • *Os ydy’r plant yn hyderus yn rhifo, gallwch gyflwyno enwau’r planedau hefyd. I wneud hyn fe fydd angen i chi rhoi enw’r blaned ar y llun, a gosod llythyren gyntaf y planedau yn y drefn gywir ar y lein ddillad yn barod. Yna, gofynnwch i’r plant i’w gosod yn y drefn gywir gan gyfateb llythyren gyntaf yr enw gyda’r llythyren sydd ar y lein ddillad yn barod.

    Iaith a gyflwynir Geirfa sy’n ymwneud â’r gofod. Enwau’r planedau. Lliwiau, wedyn, nesaf. Iaith fathemategol e.e. Rhifau, cyntaf, ail, trydydd, bach, mawr, mwyaf, lleiaf.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Rhannu’r profiad ag eraill. Cymdeithasu wrth wneud hynny. Gwrando ar eraill, rhannu a chymryd tro.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Ymwybyddiaeth o’r ‘gofod’ ac o fodolaeth planedau.

    Siarad, Gwrando a Darllen Defnyddio iaith bwrpasol – planed fawr/fach, y blaned fwyaf/leiaf, nesaf, wedyn. Dod yn ymwybodol o eirfa newydd e.e. enwau’r planedau.

    Datblygiad Corfforol Datblygu sgiliau llawdriniol wrth drin a thrafod y lluniau a’u gosod ar y lein ddillad.

    Datblygiad Mathemategol Trafod rhifau. Adnabod y rhifau a’u gosod yn y drefn gywir i greu llinell rhif. Trafod lliw, siâp a maint y gwahanol blanedau.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Trefnu PlanedauTrefnu PlanedauTrefnu PlanedauTrefnu Planedau

    Dewch i edrych ar y llun. Dere i edrych ar y llun. Beth sydd yn y llun? Dyma lun o’r gofod. Sawl planed sydd yn y llun? Dewch i ni gael cyfri. Dere i gyfri. Pa liw ydy’r blaned? Ydy hi’n ... ? Ble mae’r blaned fwyaf / leiaf? Ydy’r blaned hon yn un fawr / fach? Mae’r planedau i gyd wedi eu cymysgu. Pa blaned sydd gyntaf? Pwy sy’n gallu dod o hyd i blaned rhif 1? Pa blaned / rif sydd nesaf? Da iawn. Rhowch y blaned ar y lein. Rho’r blaned ar y lein. Dewch i ni gyfri ... Ydy’r planedau yn y drefn gywir?

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Gwneud Planed Crempog Cofiwch sicrhau nad oes gan unrhyw blentyn alergedd at y cynhwysion a

    ddefnyddir. Pawb i gymryd rhan yn eu tro.

    Grŵp Bach

    Nod y gweithgaredd: Cyfle i ddatblygu sgiliau creu gyda bwydydd.

    Gweithgaredd Ardal Creadigol

    Offer ac Adnoddau Lluniau o’r planedau, crempog fach barod, jam, darnau o wahanol ffrwythau wedi eu torri yn barod ar blatiau, plât/napcyn i bob plentyn, cyllyll.

    Cyfarwyddiadau • Trafodwch nodweddion y gwahanol blanedau wrth edrych ar y llun.

    • Gofynnwch i’r plant olchi eu dwylo cyn dechrau’r gweithgaredd ac atgoffwch y plant am bwysigrwydd hylendid wrth drin bwyd.

    • Gofynnwch i’r plant gymryd crempog yr un ac i ddewis pa jam maent am daenu arni.

    • Rhowch gyfle i’r plant daenu’r jam ar ei grempog a gofyn iddynt ddewis pa ffrwythau maent am ychwanegu.

    • Eisteddwch o amgylch y bwrdd a rhannu’r profiad o fwyta gydag eraill.

    Iaith a gyflwynir Geirfa sy’n ymwneud â hylendid bwyd - golchi dwylo, sgrwbio, germau, glân. Geirfa sy’n ymwneud â choginio - enwau’r cynhwysion, siapiau, taenu.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Trafod arferion da a phwysigrwydd golchi dwylo cyn trin bwyd a bwyta. Rhannu’r profiad ag eraill. Rhannu’r offer a thacluso ar y diwedd.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod bwyta’n iach. Pwysigrwydd bwyta ffrwythau, o ble mae’r ffrwythau’n dod.

    Siarad, Gwrando a Darllen Trafod lliwiau a theimlad y cynhwysion. Dilyn cyfarwyddiadau, rhannu, sgwrsio wrth greu a datblygu geirfa berthnasol.

    Datblygiad Corfforol Datblygu sgiliau llawdriniol wrth daenu’r jam ar y grempog a gosod y ffrwythau arni.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siâp y grempog a siapiau’r ffrwythau gwahanol.

    Datblygiad Creadigol Gwneud byrbryd gyda’r cynhwysion o’u dewis.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Gwneud Planed CrempogGwneud Planed CrempogGwneud Planed CrempogGwneud Planed Crempog

    Torchwch eich llewys. / Torcha dy lewys. Golchwch eich dwylo. / Golcha dy ddwylo. Sychwch eich dwylo. / Sycha dy ddwylo. Gwisgwch eich ffedogau. / Gwisga dy ffedog. Pa siâp ydy’r planedau? Mae’r planedau yn grwn. Pa liw ydy’r blaned hon? Pawb i gymryd crempog. Pa jam wyt ti isio? Wyt ti eisiau’r jam coch / porffor / oren? Pwy sy’n hoffi mefus / aeronen glas / bricyll? Rhowch y jam ar y grempog. Rho’r jam ar y grempog. Taenwch y jam efo’r gyllell. Taena’r jam efo’r gyllell. Nol a ‘mlaen. Pa ffrwythau wyt ti eisiau? Wyt ti’n hoffi ... ? Rhowch y ... ar ben y jam. Rho’r ... ar ben y jam. Pa ffrwyth arall wyt ti isio? Ydy dy grempog yn flasus?

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Adeiladu Roced Potiau Blodau

    Grŵp Bach

    Nod y gweithgaredd: Datblygu sgiliau llawdriniol a chreadigol drwy adeiladu roced.

    Gweithgaredd Ardal Creadigol ac Adeiladu

    Offer ac Adnoddau Potiau planhigion o wahanol feintiau (i’w stacio un ar ben y llall) mae angen 2/3 i bob plentyn, ffoil, tâp selo, siswrn, lluniau o rocedi, offer addurno’r roced, papur tisw coch, oren a melyn ar gyfer fflamau.

    Cyfarwyddiadau • Dangoswch a thafodwch y lluniau o rocedi gyda’r plant.

    • Esboniwch eich bod yn mynd i greu roced i fynd at y lleuad.

    • Cydweithiwch gyda’r plant i osod 2 neu 3 pot planhigyn un ar ben y llall a’i sticio at ei gilydd.

    • Helpwch y plant i lapio’r roced mewn ffoil, ac yna gadewch iddynt addurno’i roced fel y maent yn dymuno.

    • Gadewch i’r plant dorri stribedi o bapur tisw i greu’r fflamau a’i sticio i waelod ei roced.

    • Wedi iddynt orffen, fe all y plant chwarae gyda’u rocedi yn yr ardal byd bach neu fe allwch greu arddangosfa ohonynt.

    Iaith a gyflwynir Geirfa sy’n ymwneud â’r gofod, siapiau, geirfa’r ardal adeiladu, ansoddeiriau e.e. cryf, cadarn, mawr, diogel.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Rhannu’r profiad ag eraill. Annog i rannu offer ac aros tro. Annog i helpu tacluso ar ddiwedd y gweithgaredd.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Ymwybyddiaeth o’r gofod fel lle y gallwn deithio iddo.

    Siarad, Gwrando a Darllen Trafod wrth greu’r roced. Defnyddio iaith adeiladu i bwrpas.

    Datblygiad Corfforol Sgiliau llawdriniol wrth adeiladu’r roced a’i addurno.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siâp a maint y potiau planhigion, siâp a maint y rocedi a chyfri’r potiau wrth adeiladu’r roced.

    Datblygiad Creadigol Defnyddio’r dychymyg wrth greu ac addurno’r roced.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Adeiladu Roced Potiau BlodauAdeiladu Roced Potiau BlodauAdeiladu Roced Potiau BlodauAdeiladu Roced Potiau Blodau

    Pwy sy’n gwybod beth yw roced? Pwy sydd wedi bod mewn awyren? Math o awyren arbennig sy’n teithio i’r gofod ydy roced. Pa siâp ydy’r roced? Ydy’r roced yn hir / fyr / dew / denau? Ydyn ni’n gallu gwneud roced i fynd i’r gofod? Beth am ludo’r potiau at ei gilydd? Un ar ben y llall. Beth am droi’r pot yna o gwmpas? Dyma ddarn o ffoil i ti. Rholia’r ffoil o amgylch y potiau blodau. Wyt ti’n gallu torri’r tâp selo? Wyt ti eisiau help i dorri’r tâp selo? Wyt ti eisiau addurno dy roced? Pa addurniadau wyt ti eisiau? Wyt ti’n barod i lansio dy roced? Mae angen sticio’r stribedi i waelod y roced. Tri – dau – un, i ffwrdd â ni! Mae’r roced yn saethu i’r gofod. Raaaaaaarrrrrrrrr!!!

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Creu Telesgop Sêr

    Grŵp Bach

    Nod y gweithgaredd: Cyfle i’r plant “weld” clystyrau sêr.

    Gweithgaredd Ardal Y Tu Allan

    Offer ac Adnoddau Lluniau o sêr y nos, tiwbiau cardfwrdd, cerdyn du, pin, tâp masgio, siswrn.

    Cyfarwyddiadau • Dangoswch luniau o sêr y nos i’r plant.

    • Trafodwch y ffaith ein bod dim ond yn medru gweld y sêr pan mae hi’n dywyll.

    • Cydweithiwch gyda’r plant i osod cylchoedd o gerdyn du dros un pen pob tiwb papur.

    • Defnyddiwch y pin o roi tyllau bach yn y cerdyn du.

    • Rhowch gyfle i’r plant edrych drwy’r telesgop i weld y sêr.

    • Trafodwch faint o sêr maent yn gallu eu gweld.

    Iaith a gyflwynir Geirfa sy’n ymwneud â’r nos e.e. Du, tywyll, sêr, disgleirio. Iaith fathemategol e.e. Rhifau, mwyaf, lleiaf, hir, byr.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Rhannu’r profiad ag eraill, dysgu cymryd tro a rhannu offer ag eraill.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Dod yn ymwybodol o bwrpas telesgop a datblygu ymwybyddiaeth o’r gofod.

    Siarad, Gwrando a Darllen Defnyddio iaith bwrpasol wrth adeiladu’r telesgop. Edrych ar luniau a phrint mewn llyfrau.

    Datblygiad Corfforol Datblygu sgiliau llawdriniol wrth ddal a thrin y telesgop yn gywir.

    Datblygiad Mathemategol Cyfri sawl seren maent yn gallu eu gweld. Trafod siapiau a maint wrth adeiladu’r telesgop.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Creu Telesgop SêrCreu Telesgop SêrCreu Telesgop SêrCreu Telesgop Sêr

    Dewch i edrych ar y llun. Dere i edrych ar y llun. Beth sydd yn y llun? Dyma lun o sêr. Sawl seren sydd yn y llun? Ydy’r sêr yn gwneud patrwm hir / byr / igam-ogam? Pryd ydyn ni’n gallu gweld y sêr? Ydyn ni’n gallu gweld y sêr pan mae hi’n heulog / gymylog / dywyll? Pwy sy’n gwybod beth ydy hwn? Rydym ni’n mynd i neud telesgop arbennig i weld y sêr. Pawb i gymryd tiwb cardfwrdd. Wyt ti’n gallu helpu i sticio’r cerdyn du i lawr? Nawr i dasgu’r sêr i’r telesgop ... dyna ni! Ydy’r sêr yn disgleirio? Sawl seren wyt ti’n gallu gweld? Wyt ti’n gallu gweld y sêr heb y telesgop?

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Bwyta’r Lleuad Cofiwch sicrhau nad oes gan unrhyw blentyn alergedd at y cynhwysion a ddefnyddir.

    Grŵp Mawr

    Nod y gweithgaredd: Cyfle i’r plant brofi ochr cymdeithasol amser bwyd.

    Gweithgaredd

    Amser Byrbryd

    Offer ac Adnoddau Tostiwr, cramwythen i bob plentyn, compot ffrwythau, cyllyll, platiau.

    Cyfarwyddiadau • Paratowch gramwythen/grwmpet wedi ei dostio ar gyfer pob plentyn - gwnewch y mwyafrif o

    flaen llaw os ydy hi’n bosib eu cadw’n gynnes, ond gadewch i’r plant eich gwylio yn tostio rhai ohonynt.

    • Atgoffwch y plant am bwysigrwydd hylendid wrth drin bwyd, a golchi dwylo cyn bwyta.

    • Esboniwch fod cramwythen/crwmpet yn un o hoff fwydydd Dewin a Doti a’u bod yn awyddus eu rhannu gyda’r plant.

    • Esboniwch nad ydy Dewin yn hoffi menyn ar ei gramwythen/grwmpet, ac felly bod y plant yn mynd i gael compot ffrwythau gyda’r gramwythen/grwmpet.

    • Anogwch y plant i gymryd un gramwythen/grwmpet o’r plât mawr a’i osod ar ei phlatiau unigol.

    • Cydweithiwch gyda’r plant i daenu compot ffrwythau ar bob cramwythen/crwmpet a thrafodwch y ffaith bod arwyneb y lleuad yn edrych yn debyg i gramwythen/grwmpet - arwyneb anesmwyth gyda llawer o fynyddoedd bach a phyllau ynddi.

    • Gadewch i’r plant fwynhau’r profiad o fwyta’r gramwythen/grwmpet.

    Iaith a gyflwynir Geirfa sy’n ymwneud â hylendid bwyd - golchi dwylo, sgrwbio, germau, glân. Iaith gymdeithasol wrth fwyta.

    Sut mae’r gweithgaredd yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen?

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Trafod arfer dda fel golchi dwylo cyn trin bwyd a bwyta. Rhannu’r profiad ag eraill, rhannu offer ac aros tro.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod y lleuad a’i nodweddion. Ble mae’r lleuad? Pryd rydym ni’n gweld y lleuad?

    Siarad, Gwrando a Darllen Dilyn cyfarwyddiadau, rhannu, sgwrsio cymdeithasol amser bwyd.

    Datblygiad Corfforol Datblygu sgiliau llawdriniol wrth daenu’r menyn ar y gramwythen.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siâp y gramwythen a’u cyfri i wneud yn siŵr fod digon i bawb.

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Bwyta’r LleuadBwyta’r LleuadBwyta’r LleuadBwyta’r Lleuad Golchwch eich dwylo. Golcha dy ddwylo. Sychwch eich dwylo. Sycha dy ddwylo. Pa siâp ydy’r lleuad? Pa liw ydy’r lleuad? Ydy arwyneb y lleuad yn llyfn / yn arw? Pawb i gymryd cramwythen/crwmpet . Ydy’r gramwythen yn edrych fel y lleuad? Maen nhw'r un siâp / lliw. Edrychwch mae yna dyllau yn y gramwythen/grwmpet ... oes tyllau ar wyneb y lleuad hefyd? Edrycha mae yna dyllau yn y gramwythen/grwmpet ... oes tyllau ar wyneb y lleuad hefyd? Rhowch y compot ar y gramwythen/grwmpet . Rho’r compot ar y gramwythen/grwmpet . Taenwch y compot gyda’r gyllell. Taena’r compot gyda’r gyllell. Nol a ‘mlaen. Wyt ti’n hoffi’r gramwythen/grwmpet ? Ydy’r gramwythen/grwmpet yn flasus?

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    Rhestr o Syniadau YchwanegolRhestr o Syniadau YchwanegolRhestr o Syniadau YchwanegolRhestr o Syniadau Ychwanegol

    20 – 23 Gweithgareddau’r llyfr Ar Wib! Cyflwyno’r stori Creu Planedau, Lleuad a Sêr Creu Roced i Dewin a Doti Gwneud ‘Brechdanau Ar Wib’

    Creadigol a Darganfod

    7 Creu Llun o’r Awyr yn y Nos Marcio

    14

    Chwilio am Sêr Defnyddiwch deganau a gwrthrychau sy’n ymwneud â’r gofod yn lle glan y môr.

    Dŵr a Thywod

    17

    Gêm ‘cofio’ yn y Goedwig Defnyddiwch offer ac adnoddau sydd yn ymwneud â’r gofod yn lle’r goedwig.

    Amser Cylch

    TudalenTudalenTudalenTudalen GweithgareddGweithgareddGweithgareddGweithgaredd ArdalArdalArdalArdal

    TudalenTudalenTudalenTudalen GweithgareddGweithgareddGweithgareddGweithgaredd ArdalArdalArdalArdal

    5

    Creu Anifeiliaid y Fferm o Bwlp Papur Yn lle anifeiliaid y fferm, defnyddiwch dorwyr toes siâp sêr, cylch, y lleuad a roced.

    Creadigol

    7

    Cuddio Bisgedi Doti yn y Tywod Yn lle bisgedi cŵn, cuddiwch sêr o wahanol liwiau / meintiau yn y tywod a’u didoli yn ôl eu tebygrwydd.

    Dŵr a

    Thywod

    TudalenTudalenTudalenTudalen GweithgareddGweithgareddGweithgareddGweithgaredd ArdalArdalArdalArdal

    9

    Sachau Gwlân Yn lle pwyso gwlân fe allwch bwyso’r planedau drwy ddefnyddio pêl wahanol i bob planed.

    Mathemateg

    11

    Creu Rhythm Migldi Magldi Defnyddiwch yr offer cerddoriaeth i greu rhythm ar gyfer lansio roced Dewin i’r gofod.

    Sain a Cherdd

  • © Hawlfraint Mudiad Meithrin. At ddefnydd Cylchoedd Meithrin a darpariaethau Mudiad Meithrin yn unig.

    TudalenTudalenTudalenTudalen GweithgareddGweithgareddGweithgareddGweithgaredd ArdalArdalArdalArdal

    9

    Neidio Cymylau Yn lle neidio cymylau fe allwch neidio sêr, ac yn methu glanio os oes yna seren wib ar y cefn.

    Y Tu Allan

    11

    Adeiladu Cacen Ben-blwydd Yn lle cacen ben-blwydd, rhowch lun syml o roced y gellid ei hadeiladu yn y gornel adeiladu.

    Adeiladu

    30

    Paru Menig Esboniwch ei bod yn bwysig gwisgo menig fel rhan o wisg gofodwr, ond bod Dewin wedi cymysgu ei holl fenig a bod angen help arno i’w didoli yn ôl yn eu parau.

    Mathemateg

    31

    Dylunio Menig Newydd i Beni Yn lle menig newydd i Beni, mae angen dylunio menig newydd i Doti ar gyfer ei hanturiaethau yn y gofod.

    Creadigol a

    Marcio

    38

    Symud fel ... Gofynnwch i’r plant defnyddio’u dychymyg i symud fel gofodwr / roced / seren ayb.

    Y Tu Allan a

    Sain a Cherdd

    39

    Murlun Swigod Gallwch ddefnyddio’r papur wedi’i farmori fel sail i luniau o’r planedau ar gyfer arddangosfa yn y cylch.

    Creadigol

    46

    Llun Sensori Creu murlun sensori ar thema’r gofod.

    Creadigol

    TudalenTudalenTudalenTudalen GweithgareddGweithgareddGweithgareddGweithgaredd ArdalArdalArdalArdal

    18

    Patrwm Rhythm gan Ddefnyddio Eitemau Bob-dydd

    Defnyddiwch yr offer cerddoriaeth i greu rhythm ar gyfer lansio roced Dewin i’r gofod.

    Sain a Cherdd

  • 1 …

    2 …

    3 …

    4 …

    5

    © H

    aw

    lfra

    int

    Mud

    iad M

    eithrin. A

    t ddefn

    yd

    d C

    ylc

    hoe

    dd M

    eithrin

    a d

    arp

    ari

    aeth

    au

    Mudia

    d M

    eithrin

    yn

    unig

    .

  • © H

    aw

    lfra

    int

    Mud

    iad M

    eithrin. A

    t ddefn

    yd

    d C

    ylc

    hoe

    dd M

    eithrin

    a d

    arp

    ari

    aeth

    au

    Mudia

    d M

    eithrin

    yn

    unig

    .

    5 …

    4 …

    3 …

    2 …

    1

  • Tegan Meddal Doti Doti Soft Toy £9.99

    Cwpan Blastig Dewin Plastic Dewin Cup £2

    CD Dewin £5 6 o ganeuon 6 songs

    Pad Ysgrifennu a Beiro Writing Pad with Biro £2.50

    CD-Romau / CD-Roms:

    Dysgu Chwarae gyda Dewin 1 £14.99 Dysgu Chwarae gyda Dewin 2 £14.99 neu’r ddau am or both for

    £25

    Cas Pensiliau Dewin Dewin Pencil Case £2.50

    Pensiliau lliwio gyda cas a miniwr Colouring pencils with case and

    sharpener £1

    Crys-T Doti / Doti T-shirt £8.50 (Maint/Size 1-2, 3-4, 5-6 oed/age)

    Crys-T Dewin / Dewin T-shirt £8.50 (Maint/Size 3-4, 5-6 oed/age)

    Nwyddau Dewin a Doti Dewin and Doti merchandise

    Cerdyn Pen-blwydd

    Birthday Card £1.99

    Jig-so Het Hud Dewin Dewin’s Magic Hat Jigsaw

    £8.99

    Llyfrau Clawr Meddal / Paperback Books Ar Lan y Môr £4.99

    Ffrindiau’r Goedwig £4.99 Ar Wib! £4.99

    Llyfrau / Books

    Plât Blastig Dewin Plastic Dewin Plate £2.99

    Het Dewin Dewin Cap £5 Ffedog Dewin

    Dewin Apron £6.99

    1. Dewin, Doti a’r Balalŵn 2. Dewin a Doti yn y Cylch Meithrin £4.99 yr un/each

    Llyfrau Bwrdd / Board Books Amser Gwely Dewin £3.99

    Syrpreis Doti £3.99 Het Hud Dewin £3.99

    Stampiau Peintio Painting Stamps

    £4.99