6
Creu Cymunedau Gwledig Cynhwysol DATBLYGU DULLIAU EFFEITHIOL I YMGYNGHORI Â LLEIAFRIFOEDD CROENDDU AG ETHNIG MEWN MANNAU GWLEDIG RHAGLEN YMCHWIL GWEITHREDOL GWLEDIG Ymddiriedolaeth Carnegie y D.U. Thema: ‘Creu Cymunedau Gwledig Cynhwysol’ Ionawr 2009 Charlotte Williams a Tue Hong Baker Asiantaeth Arweiniol: Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru (NWREN) Asiantaeth Partner: Prifysgol Keele, Swydd Stafford.

Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig

  • Upload
    nwren

  • View
    133

  • Download
    3

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig

Creu Cymunedau Gwledig Cynhwysol

DATBLYGU DULLIAU EFFEITHIOL I YMGYNGHORI Â LLEIAFRIFOEDD CROENDDU AG ETHNIG MEWN MANNAU

GWLEDIG

RHAGLEN YMCHWIL GWEITHREDOL GWLEDIG Ymddiriedolaeth Carnegie y D.U.

Thema: ‘Creu Cymunedau Gwledig Cynhwysol’

Ionawr 2009

Charlotte Williams a Tue Hong Baker Asiantaeth Arweiniol: Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru (NWREN ) Asiantaeth Partner: Prifysgol Keele, Swydd Stafford.

Page 2: Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig

Crynodeb Gweithredol

Cefndir

Ariennir y prosiect ymchwil hwn gan Carnegie UK Trust o dan y Rural Research Action Programme (RARP). Fe’i gynlluniwyd trwy bartneriaeth rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru (North Wales Race Equality Network (NWREN) a’r Athro Charlotte Williams OBE o Brifysgol Keele, Swydd Stafford. Mae’n codi o ymarfer rhychwantu a ymgymerwyd gan weithwyr prosiect Ymchwil a Gwasanaeth Cefnogaeth a Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru/Wales Equality and Diversity in Health and Social Care Research and Support Service (WEDHS) a geisiodd benderfynu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil yn unol â’r rhai a leisiwyd gan unigolion a grwpiau lleiafrifol yn ardaloedd gwledig Gogledd Cymru a’r rhai sy’n gweithio gyda hwy. Un pryder allweddol oedd lefel a natur yr ymgynghoriad a chysylltiad rhwng asiantaethau prif-ffrwd ac unigolion/cartrefi lleiafrifol. Ystyriwyd hyn yn wael gan ddeiliaid diddordeb darparwyr gwasanaeth a gan aelodau’r boblogaeth lleiafrif ethnig. Amcan cyffredinol y prosiect ymchwil gweithredol yma oedd archwilio natur y cysylltiad rhwng grwpiau lleiafrif ethnig a chyrff gwasanaeth cyhoeddus a cheisio gwella’r strategaethau ymgynghoriad rhwng cyrff cyhoeddus. Ymdrechodd y prosiect hefyd i ymchwilio’r ffactorau ‘ ansawdd bywyd’ sy’n annog atyniad a dargadwedd grwpiau lleiafrif ethnig mewn ardaloedd gwledig ac archwilio agweddau eu cysylltiad dinesig.

Dulliau Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Mai 2006 a Medi 2008. Roedd yr ymchwil yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, arolwg awdurdodau cyhoeddus detholedig yn yr ardal i asesu eu strategaethau ymgynghoriad a ddefnyddir a hyrwyddiad y prosesau ymgynghoriad gyda thri chorff cyhoeddus. Yn ogystal ymgymerwyd ag arolwg holiadur o unigolion lleiafrfif ethnig yn byw yn y rhanbarth a chyfres o gyfweliadau grwpiau ffocws er mwyn asesu agweddau allweddol bywyd gwledig; Belonging: Family, Friends and Community Association; Getting Involved and Influencing Decisions. Cyd-destun Polisi a Negeseuon o’r Llenyddiaeth Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r berthynas rhwng y cyrff cyhoeddus a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu wedi eu trawsnewid gan amrediad o fentrau polisi. Yng Nghymru mae Gwneud Cysylltiadau (LlCC 2004) yn rhoi ffocws dinesydd wrth wraidd polisi cyhoeddus ac yn ymrwymo i ddatblygiad cymunedau cynhwysol cryf. Mae Deddf Cydberthynas Hiliol (Gwelliant) 2000 yn rhoi dyletswyddau eglur ar gyrff cyhoeddus i wybod ehangder a natur eu poblogaethau lleiafrif ethnig ac i ymgynghori â hwy ar amrediad o faterion polisi. Ni ellir gor-fynegi gwerth ymgynghoriad da . Nid yn unig y mae’n sicrhau corfforiad mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr grwpiau ymylol ac unigolion ond mae hefyd yn rhoi cyfreitholdeb ar gyfer penderfyniadau a gweithrediad polisi. Er hynny, fe gydnabyddir bod sefydlu ymarfer da a chasglu barn grwpiau lleiafrifol mewn ardaloedd gwledig yn cyflwyno sialensiau neilltuol. Prif rwystr i ymgynghoriad yw dwysedd isel a gwasgariad daearyddol ac amrywiaeth lleiafrifoedd ethnig yn yr ardal a’u diffyg gwelededd – yr hyn a elwir yn ‘grŵp anodd cyrraedd ato’ . Rhwystrau cyffredin eraill i ymgynghoriad effeithiol a nodir yn y llenyddiaeth yw:

Page 3: Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig

• Amser a gallu cynhyrchu • Ariannu a materion adnoddau eraill • Profiad mewn creu cydberthynas • Diffyg eglurder y broses • Bod ynghlwm i fethodoleg draddodiadol neu brif ffrwd • Dibynnu ar un fethodoleg • Diffyg data demograffig da • Diffyg ymwybyddiaeth o faterion diwylliannol/ ‘llythrennedd’ cysylltiad • Bod yn or -uchelgeisiol – niferoedd yn hytrach nag ansawdd • Lefelau amrywiol o ymrwymiad o’r top.

Mae yna lenyddiaeth lwyd yn ymddangos ynglŷn ag Arweiniad Ymarfer Da ar gyfer cysylltiad effeithiol gyda lleiafrifoedd ethnig a grwpiau eraill sy’n anodd eu cyrraedd ac ond ychydig yn unig o ‘enghreifftiau gweithiol’ o sut y gallasai’r technegau hyn gael eu defnyddio yn yr ardaloedd gwledig. Yn nodweddiadol. mae diffyg grym gwleidyddol ymhlith lleiafrifoedd ethnig mewn ardaloedd gwledig yn rhwystro lleisio barn a chyfranogi’n llawn mewn achosion lleol. Mae ganddynt gynrychiolaeth wael ar fyrddau lleol, pwyllgorau a fforymau penderfynu eraill neu mewn swyddi cyhoeddus. Fe ddogfennir yn eglur yr anwybyddir neu neilltuir eu hanghenion gwasanaeth a bod rhwystrau sylweddol iddynt gael mynediad at wasanaethau a derbyn cyngor a gwybodaeth. Yn ychwanegol maent yn wynebu hiliaeth a gwahaniaethu yn eu cymunedau. Mae sefydliadau, grwpiau ac unigolion lleiafrif ethnig yn datgan yr ymdeimlad o ‘or-ymgynghori’ a ‘lludded ymgynghori’ sy’n bodoli wrth i’r mandad polisi wthio’r cyrff cyhoeddus i gysylltu â hwy. Ar hyn o bryd ychydig yn unig a wyddys am lefel a natur eu cysylltiad dinesig mewn ardaloedd gwledig.

Ymchwil Gweithrediad gyda Darparwyr Gwasanaethau

Dros gyfnod o 18 mis dewiswyd nifer o ddarparwyr gwasanaeth yn yr ardal ar gyfer gwaith datblygiadol ar ymgynghori gyda lefelau amrywiol o ymyrraeth gan y gweithiwr prosiect. Fe’u harolygwyd er mwyn nodi’r prif gyfyngiadau o ymgynghoriad ar waith. Cynhaliwyd gweithdy i drafod y negeseuon o’r llenyddiaeth ac i gyflwyno ystod ac amrywiaeth o fecanweithiau ymgynghoriad sydd ar gael iddynt. O’r 18 o gyfranogwyr gwreiddiol dewiswyd 3 awdurdod ar gyfer gwaith manwl. Mae’r astudiaethau achos yn cynnwys gwaith ymgynghorol ar Bolisi Cydraddoldeb Hil awdurdod, ar ddatblygiad strategaeth Ysbrydol, Grefyddol a Gofal Diwylliannol awdurdod, ar waith gyda merched lleiafrifol, anghenion cartrefi awdurdod, a digwyddiad cydweithredol traws awdurdod ‘Digwyddiad Ymgynghoriad Cydraddoldeb Hil Ar y Cyd’.

Page 4: Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig

Negeseuon allweddol

� Mae cyfanswm da o frwdfrydedd ac ymrwymiad tuag at gysylltiad gydag

unigolion a chartrefi lleiafrif ethnig yn bodoli ym hlith gweithwyr rheng flaen � Mae diffyg arweiniad o’r top yn nhermau ymrwymiad i fentrau, dyraniad

adnoddau priodol, ac elwa i’r eithaf ar enillion a wnaethpwyd gan y gweithwyr rheng flaen..

� Diffyg dysgu trwy gyfrwng yr adnoddau sydd mewn lle neu’r wybodaeth ddealledig oddi fewn i’r sefydliad ymhlith y cyfran ogwyr. Mae llawer o’r cyfranogwyr yn cael eu digalonni gan sialensiau cys ylltiad mewn ardaloedd gwledig ac mae angen cryn gefnogaeth

� Nid yw sefydliadau yn greadigol nac ychwaith yn def nyddio technegau arloesol

yn ddigonol i ateb y sialensiau amlwg ac mae diffyg defnydd o fethodoleg gymysg.

� Mae gweithio traws awdurdod a datblygiad partneriae thau mewn ymarferion

cydraddoldeb yn gam positif, er bod cylchrediadau s efydliadol yn cynhyrchu eu cyfyngiadau eu hunain yng nghyswllt datblygid ym arferion da.

� Mae trosiant staff yn golygu colled arbenigedd, cyf alaf a rhwydweithiau

sefydledig sy’n arwain at ymarfer da cynaliadwy yn yr ardal hon. Mae cof sefydliadol yn wael.

� Mae sefydliadau Trydydd Sector yn hanfodol er mwyn cefnogi ymgynghoriad a

chysylltiad effeithiol.

� NI ellir cael ateb cyflym i ddatrys materion cysyl ltiad gyda lleiafrifoedd ethnig yn yr ardal. Bydd angen adeiladu ymddiriedaeth, ymr wymiad amser ac adnoddau ac adeiladu gallu parhaol

� Mae pryderon yn parhau yngl ŷn â chynhyrchu deialog diffuant ac agored yn y

broses ymgynghori ble weithredir ar yr allbynnau a ble roi’r adborth priodol i gyfranogwyr.

� Bydd angen gwneud ymdrechion i gynyddu’r gynrychiol aeth o unigolion

lleiafrif ethnig ar gyrff a fforymau sy’n gwneud pe nderfyniadau.

Page 5: Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig

Byw a Gweithio mewn Ardaloedd Gwledig – Barn Lleiafrif Ethnig

Cynhyrchodd ymatebion dros 90 o unigolion a thri grŵp ffocws adroddiad cyfoethog o farn y lleiafrif ynglŷn â byw a gweithio yn ardal Gogledd Cymru. Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr wedi byw yn yr ardal am dros 5 mlynedd a thraean am dros 20 mlynedd. Roedd yr ymatebwyr yn gwerthfawrogi llawer o nodweddion traddodiadol bywyd gwledig, yn cynnwys yr harddwch, heddwch, tawelwch a buddion amgylcheddol. Mae pobl yn cyfrannu i amrywiaeth o weithgareddau yn eu cymuned trwy ysgogiad eu hymdeimlad o ‘ddyletswydd’ a ‘rhoi’n ôl i gymdeithas’. Mae rhwystrau allweddol yn cynnwys diffyg amser, cyfrifoldebau gofal, ond hefyd rhwystrau iaith a diwylliant a phryderon ynglŷn â gwahaniaethu a hiliaeth. Mewn cadarnhad o’r llenyddiaeth ar hiliaeth wledig mae’n amlwg bod clwstwr ffactorau unigedd, amlygrwydd, ofn hiliaeth a gwahaniaethu yn troshaenu gallu’r unigolyn i gyfranogi’n ystyrlon ar lefel lleol. Mae’n amlwg nad yw pobl yn disgwyl neu’n chwilio am gydgysylltiad cyd-ethnig ar lefel lleol, tu hwnt i gysylltiadau teuluol a chrefyddol, gan yn hytrach gynnal cydgysylltiad ‘ethnig’ positif yn genedlaethol a rhyngwladol trwy rwydweithiau gwirioneddol neu rithwir. Mae darganfyddiadau yr adroddiad yma yn awgrymu darlun o unigolion gyda buddsoddiad uchel yn eu cymdogaeth a lefelau da o integriad yn erbyn ystod eang o ddangosyddion amholiticaidd. Ble mae locws rheolaeth yn nwylo’r unigolyn yn nhermau ymfyddino gwasanaethau. oddi fewn y sector preifat er enghraifft, y dewis yw ffafrio’r lleol yn nhermau gwasanaethau. Ymddengys fodd bynnag ymdeimlad isel o atafael neu gysylltiad gyda’r sefyllfa leol ac ymdeimlad gwan o’r gallu i ddylanwadu a ffurfio penderfyniadau. Mae cynrychiolaeth ar gyrff lleol (gwasanaethau cyhoeddus) yn isel. Yn nhermau cysylltiad ac ymgynghoriad gydag asiantaethau’r sector cyhoeddus, er bod arwyddion positif o gynnydd mewn ymwybyddiaeth a chymhwysedd gan sefydliadau, mae profiadau yn awgrymu bod ‘llythrennedd ymgynghoriad’ sefydliadau yn parhau yn wael.

Negeseuon allweddolNegeseuon allweddolNegeseuon allweddolNegeseuon allweddol

� Mae unigolion lleiafrif ethnig yn dal barn positif ynglyn â byw mewn cymuned wledig.

� Lleisir lefelau uchel o atafael a pherthyn i’w cymd ogaethau lleol gan

leiafrifoedd ethnig

� Ymddengys bod yr ymatebwyr wedi integreiddio yn dda yn nhermau defnydd amrediad o wasanaethau lleol, cymdogrwydd a bywyd cymdeithasol

� Roedd pobl yn cael eu cynnwys yn rheolaidd mewn gwe ithgareddau

gwirfoddol, gan gyfrannu yn nhermau gofal a chefnog i eraill.

� Mae cyfranogaeth wleidyddol ffurfiol ar lefel leol yn isel ond nid yw pobl yn anwleidyddol.

Page 6: Crynodeb gweithredol datblygu dulliau effeithiol i ymgynghori â lleiafrifoedd croenddu ag ethnig mewn mannau gwledig

� Mae ysgogiad pobl ar gyfer cymryd rhan yn adlewyrch u’r anogyddion a’r cyfyngiadau cydnabyddedig i weithgaredd gwirfoddo l.

� Yng nghyswllt rhai fe gyfyngir ar wirfoddoli a chyf rannu’n lleol gan ofn

gwahaniaethu, hiliaeth ac ofn allanoliaeth.

� Mae unigolion lleiafrif ethnig yn croesawu ymgyngho riad sy’n cynhyrchu allbynnau.

� Mae diffyg ‘llythrennedd ymgynghoriad’ yn parhau ym hlith cyrff cyhoeddus

yng nghyswllt cymunedau lleiafrifol.

Casgliad

Mae’r enillion a gronnir i ymgynghoriad a chysylltiad da yn niferus. Nid yn unig y mae’n gwella a chyfreithloni penderfyniadau polisi trwy ymgorffori mewnwelediadau a phrofiadau gwerthfawr grwpiau ymylol ond mae hefyd yn meithrin buddsoddiad ac integreiddiad da ar gyfer pobl o sectorau traddodiadol eithriedig y gymuned. Er mwyn i ymarferion cysylltiad ac ymgynghoriad priodol ddigwydd ac er mwyn i gyd weithio rhyngberthnasol ffrwythlon ddatblygu mae angen arweiniad da, paratoad gofalus, hyfforddiant, cefnogaeth ac ariannu priodol i hwyluso’r ymdrechion. Heb hyn, ni fydd ymgynghoriad ond yn un symbolaidd ac ecsploitiedig. Mae lleiafrif ethnig a chartrefi ymfudol yn gwneud cyfraniad hanfodol (economaidd, cymdeithasol a dinesig) i gymunedau gwledig. Dylid gwerthfawrogi a chydnabod eu cyfraniad.