4
byw creu cynhyrchu… BA Cerddoriaeth 0300 500 1822 www.ydds.ac.uk

BA Cerddoriaeth

Embed Size (px)

DESCRIPTION

BA Cerddoriaeth - Ysgol y Celfyddydau Perfformio

Citation preview

Page 1: BA Cerddoriaeth

bywcreu

cynhyrchu…

BA Cerddoriaeth

0300 500 1822www.ydds.ac.uk

Page 2: BA Cerddoriaeth

Y CELFYDDYDAU PERFFORMIO

2 | www.ydds.ac.uk

Page 3: BA Cerddoriaeth

PRIF FFEITHIAU

Y CELFYDDYDAU PERFFORMIO

www.ydds.ac.uk | 3

PRIF FFEITHIAUCynnwys y cwrsNod ein gradd yw creu cerddorion sy’nmeddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogii weithio mewn amryw o feysyddproffesiynol cerddorol. Bydddatblygiad cerddorol y myfyrwyr yncael ei feithrin yn ofalus ac fe fyddemyn eu hannog i ddod o hyd i’w llaiscerddorol unigryw – dyna sy’ngwneud ein cwrs yn un cyffrous agwahanol. Mae pwyslais yr Ysgol ynbenodol ar ddatblygu a hyfforddi‘gwneuthurwyr’. Hynny yw, cerddorionsydd â’r gallu a’r parodrwydd i fentro’ngreadigol drwy greu, datblygu acarddangos eu gwaith ar draws sawlmath o lwyfan, cyfrwng a genre. Yn ystod eich cyfnod o astudio yma,byddwch yn canolbwyntio ar y pedairagwedd ganlynol: • Perfformio • Creadigrwydd Cerddorol • Hanfodion Cerddoriaeth • Y Diwydiant Cerddorol

Wrth astudio BA Cerddoriaeth, byddcyfle, o dan arweiniad darlithwyr athiwtoriaid profiadol ac arbenigwyr o’rbyd proffesiynol, i feithrin eich sgiliaucerddorol unigryw chi. Yn ogystal,trefnir datganiadau cyson adosbarthiadau meistr gan gerddorionproffesiynol o sawl genre cerddorol. Er mwyn sicrhau y bydd gennychddealltwriaeth gytbwys ac eang a fyddyn sail i weddill eich astudiaeth a’chgyrfa, mae’r radd hon yn cynnwyselfennau academaidd megisdadansoddi, hanfodion a hanescerddoriaeth. Byddwn hefyd ynehangu eich dealltwriaeth am feysyddgalwedigaethol penodol,Felly, bydd y cwrs arbennig hwn yncryfhau eich dealltwriaeth gerddorol,

yn datblygu eich potensial cerddorola’ch creadigrwydd ehangach a fydd yneich paratoi ar gyfer gweithio yn ydiwydiant cerddorol.

Meysydd astudiaeth• Hyfforddiant Lleisiol / Offerynnol • Cyfarwyddo Cerdd • Cyfansoddi • Gwaith Sesiwn / Chwarae mewn

band• Dosbarthiadau Meistr• Trefnu digwyddiadau cerddorol• Technoleg Cerdd• Cynhyrchu CD / DVD • Theori a Dadansoddi Cerddorol• Cyfansoddi ar gyfer y Cyfryngau

Prif nodweddion • Cwrs lle rhoddir blaenoriaeth i

ddatblygu potensial pob unigolynyn llawn

• Cyfle i astudio dramor • Cysylltiadau gyda’r diwydiant

proffesiynol • Defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf • Cyfleoedd cyson i berfformio mewn

digwyddiadau celfyddydol megis yrŵyl gelfyddydol flynyddol, Gŵyl!

• Cyfleoedd cyson i fod yn rhan oDdosbarthiadau Meistr.

Cod UCASBA Cerddoriaeth - W390

LleoliadCampws Caerfyrddin

Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser

Gofynion derbynGwahoddir pob ymgeisydd iglyweliad er mwyn asesu eupriodoldeb i'r rhaglen. Mae angenmeddu ar sgiliau llythrennedd da,gan amlaf, gyda TGAU Gradd Cneu uwch yn y Gymraeg.

Cyfleoedd GyrfaBwriad y cwrs yw creu unigolionsy'n meddu ar sgiliau cerddorolcyfredol ac yn sgil naturalwedigaethol y ra dd a'r cysylltiadcyson â'r diwydiant cerddorol,mae cyfran uchel o’ngraddedigion wedi canfodswyddi ym meysydd teledu,radio, theatr, gwasanaethaucyhoeddus ac addysg.

BA Cerddoriaeth

Page 4: BA Cerddoriaeth

Gwybodaeth bellachAm fwy o wybodaeth, cysyllter â:

Mair George01267 [email protected]

Neu ewch i’r wefan www.ydds.ac.uk/cy/ysgoltheatrcerddarcyfryngau