14
Yn y pennill cyntaf _ Yn yr ail bennill _ Yn y pennill olaf __ CYNNWY S Cerdd yn y wers rydd Hyd llinellau, odl, ailadrodd Cyffelybia eth, cyflythren iad, cymhariaet h geirfa – ansoddeiri au, berfau ARDDUL L Wyt ti’n hoffi’r gerdd? Pam? Sut mae’r gerdd yn gwneud i ti deimlo? Oes neges i’r gerdd heddiw? DIWEDD BECSO AM Y BOCSYS “Be sy,” medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r fan sbwriel: “be wnaem hebddynt” Bo csys esgidiau Bocsys i gadw stampiau Bocsys i gadw teganau Bocsys brown i gadw nw yddau Bocsys bach a mawr Ar draws tŷ ni. Ond heddiw gweles focsys O’r bocs o sgrîn Plant ar y stryd – A’u gobennydd oedd focs Eu cartref nhw ar bafin Ydoedd focs neu falle dau A dyna pam rwyn syllu – Ac yn becso am y bocsys. Menna Elfyn hebddynt = without them i gadw = to keep gobennydd = pillow syllu = to stare THEMA Cyfrifolde b

BECSO AM Y BOCSYS “Be sy ,” medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r fan sbwriel :

  • Upload
    linnea

  • View
    137

  • Download
    2

Embed Size (px)

DESCRIPTION

BECSO AM Y BOCSYS “Be sy ,” medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r fan sbwriel : “be wnaem hebddynt ” Bocsys esgidiau Bocsys i gadw stampiau Bocsys i gadw teganau Bocsys brown i gadw nwyddau Bocsys bach a mawr Ar draws t ŷ ni. Ond heddiw gweles focsys - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

• Yn y pennill

cyntaf _

• Yn yr ail bennill

_

• Yn y pennill

olaf __

CYNNWYS

• Cerdd yn y

wers rydd

• Hyd llinellau,

odl, ailadrodd

• Cyffelybiaeth,

cyflythreniad,

cymhariaeth

• geirfa –

ansoddeiriau,

berfau …

ARDDULL

• Wyt ti’n hoffi’r

gerdd? Pam?

• Sut mae’r

gerdd yn

gwneud i ti

deimlo?

• Oes neges i’r

gerdd heddiw?

DIWEDD

BECSO AM Y BOCSYS

“Be sy,” m

edd mam

Wrth fy ngweld yn sy

llu

Ar focsy

s parod i’r

fan sbwrie

l:

“be wnaem hebddynt”

Bocsys e

sgidiau

Bocsys i

gadw stampiau

Bocsys i

gadw teganau

Bocsys b

rown i gadw nwyddau

Bocsys b

ach a mawr

Ar draws tŷ

ni.

Ond heddiw gweles focsy

s

O’r bocs

o sgrîn

Plant ar y

stryd –

A’u gobennydd oedd focs

Eu cartr

ef nhw ar b

afin

Ydoedd focs

neu falle dau

A dyna pam rwyn sy

llu –

Ac yn becso

am y bocsys.

Menna Elfyn

hebddynt = without them i gadw = to keepgobennydd = pillow syllu = to stare

THEMACyfrifoldeb

Page 2: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Wedi’r Ŵyl

Heno fe rown fel llynedd

ŵyl y byw yn ôl i’w bedd,

gan gloi doli’r babi bach

i gadw mewn hen gadach,

ac i’r atig rhoi eto

ddisgleirdeb ei wyneb o

ar y llawr yng ngwely’r llwch,

yn ddoli o eiddilwch.

yno ‘nghrud ei alltudiaeth

mae’n rhith o gorff, mae’n wyrth gaeth,

ac o ogof ein hangof ni

ni wêl heno’i oleuni

Ceri Wyn Jones

2009

20112010

“Heno .. fel llynedd ..”

“ŵyl y byw”

HELPBedd = graveHen gadach = old clothDisgleirdeb = shineLlwch = dustEiddilwch = feeblenessAlltudiaeth = banishmentRhith = illusion, formWyrth = miracleOgof = caveEin hangof ni Our forgetfulnessGoleuni = light

“yn ôl i’w bedd”

“Yno ‘nghrud ei alltudiaeth, mae’n rhith o gorff, mae’n wyrth gaeth”

Trafodwch gynnwys y gerdd. Oes neges yma i ni heddiw?

Dadansoddwch arddull y gerdd. Chwiliwch am y technegau arbennig. Pam eu bod nhw’n effeithiol?

Ydych chi wedi darllen unrhyw beth arall ar y thema yma? Trafodwch.

Page 3: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Alltudion yn troii Fecca’r pererindodunwaith mewn blwyddyn.Esgyn ar lwyfan bywydam awr fechani golli dagrau.

Diwerth yr afonydda thon diboblogiyr ecsodusa thon mewnlifiadyn gwneud i wlad gyfanfoddimewn Seisnigrwydd.

Cyfoethogion y wâc lâthyn dosbarthu cyfoethar ddrws cymdogaethwrth ddychwel adrefi lywyddua sôn am y dyddiau a fu.

Alltudion anffyddlonfel gŵr yn ysgaru’i wraiggan lefaru cyfrolau’nllawn o eiriau grymus, gwag,diwerth.

CYMRO AR WASGARgan Cen Llwyd

HELPRoedd seremoni “Cymry ar Wasgar” arfer bod yn yr Eisteddfod tan 2006. Roedd cyfle i bobl ar draws y byd ddod i’r Eisteddfod a bod yn rhan o’r dathlu ar y diwrnod hwnnw.alltudion = exilespererindod = pilgrimageesgyn = rise dagrau = tearscyfoeth = riches dychwel = returnllywyddu = to preside (over)anffyddlon = unfaithfulysgaru = to divorcecyfrolau = volumes grymus = powerfuldiwerth = worthless

CYMRU

CYNNWYS• Beth ydy stori’r gerdd? Sut mae’r gerdd yn datblygu?• Sut fath o ddarlun ydyn ni’n cael? Positif neu negyddol?

ARDDULL• Penillion yn adeiladu beth?• Geirfa e.e. berfau ac ansoddeiriau• Cymhariaeth, trosiad, delwedd …• Ailadrodd, cyflythreniad …

Page 4: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

TWYLL

Darllen y silffoedd:siwgr coch o Jamaicagwenith i La Plataafalau pîn o Malaysiadatys o Arabiacnau o’r Himalayacoco o Ghanaindia corn o Guatemala ,

- maen nhw’n ein bwydo ni.

Darllen y papurau newydd: arian at anrhefn Rwanda

at newyn yn Ethiopiaat ddyfrio Botswanaat ysgolion Bolifiaat dlodion daeargryn yn India

- dan ni’n eu bwydo nhw.

Cil-dwrn ein cydymdeimlad,hatling ein help llawat dractorauat helynt yr holl dymhorauac at logau banc y ni a’r Ianc.

Darllen rhwng y silffoedd:reis o grochonau gwag Cambodia,te gan noethion Sri Lanka,coffi o shantis Colombia,

- maen nhw’n ein bwydo ni, dan ni’n eu bwyta nhw.

Myrddin ap Dafydd

CYFRIFOLDEB

HELP gwenith = wheat india corn = maize newyn = famine dyfrio = to irrigate daeargrym = earthquake cil-dwrn = tip, back-hander hatling = small coin cydymdeimlad = sympathy llogau bank = bank interest crochanau = cauldrons noethion = naked people

• Trafodwch gynnwys y gerdd hon. Oes neges iddi?•Dadansoddwch arddull y gerdd.• Trafodwch unrhyw ddeunydd arall rydych chi wedi darllen neu astudio ar y thema yma.

Page 5: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Y FAM DDIBRIOD

Merch ifanc dim ond ugain oedHeb gartref cysurus, heb deuluHeb wr i edrych ar eu hôl;Mam ddibriod.

Merch ifanc dim ond ugain oedWedi lluchio ei dyfodol fel sbwrielOherwydd un nosonDros flwyddyn yn ôl,Mam ddibriod.

Merch ifanc dim ond ugain oedA thasg anodd o’i blaen,Magu plentynAr ychydig o bunnoedd yr wythnos,Mam ddibriod.

Merch ifanc dim ond ugain oedEisiau ei mwynhau ei hunGadael y fflat am ddwy awrO dan drwyn busneslyd y cymdogionMam ddibriod

Merch ifanc dim ond ugain oed –“Beth yw’r cyhuddiad, ngeneth i?”“Gadael y babi i sgrechian Am ddwy awr,” ebe’r cymdogion.Mam ddibriod

Merch ifanc dim ond ugain oedYn dychwelyd i’w chartref llwm –Fflat dwy ystafellHeb garped, heb lenniMam ddibriod.

Merch ifanc dim ond ugain oed,Unwaith yr wythnos caiff ymwelydd –Swyddog ar ran y WeinyddiaethYn dod i weldY fam ddibriod.

Elspeth F. Roberts

CYFRIFOLDEB

HELP

lluchio to throw away, to toss

cysurus comfortablecymdogion neighbourscyhuddiad accusationdychwelyd

to return

ail adrodd

deialog

ansoddeiriau effeithiol

geirfa effeithiol

disgrifiadau clir

hyd llinellau

Page 6: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

OND

“Wel, be gest ti te?”

“Dim ond Nintendo 64,teledu lliw,Gêm CD-ROMA fideo Pam fi Duw? …… O, ia, a thôn gron Mam,“Ti ‘di gwylio dy siâr,Tro’r teledu ‘na i ffwrddCyn i’th lygaid droi’n sgwâr” OND …

… ar y bocs sgwâr hwnnwwedi’r noswyl,gwelais wynebau diolchgara dwylo cynhyrfusyn gwagio’u trysorau--o’r bocsys esgidiaudwy bensil a beiro,hen oriawr a io-io,brws dannedd a sebon,gwlanen lliw lemwn.yng ngwaelod y bocs –tedi bach tirionyn gysur i’r amddifadar nosweithi hirion.

“Dad, mae Dei drws nesa’‘di cael y beic diweddara’;Mae ‘mhenblwydd i’n dod tocAc, ew, mi fasa’n brafCael pâr o sgidiau Reebok …” gan Siân Teleri Davies

GEIRFAtôn gron = nagging noswyl = eve cynhyrfus = excited trysorau = traesures oriawr = a watch gwlanen = flannel tirion = gentle diweddara = latest toc = sooncysur i’r amddifad = a comfort for the orphan

1. Beth ydy cynnwys y gerdd?

2. Beth ydy neges y bardd? Ydy’r neges

yma yn bwrpasol yn eich barn chi?

3. Trafodwch arddull y gerdd. Beth sydd

yma?

Cyflythreniad Cyffelybiaeth Trosiad Delwedd Llinellau byr Llinellau hir Odl Cwestiwn rhethregol Ailadrodd

Ansoddeiriau effeithiol DeialogGeirfa gyfoethog Cwestiynau

Page 7: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Taid (gan Gwynne Williams)

I Nhaid rhyw dir nebYdy daear blin y gegin gefnA dydy DadNa hyd yn oed Nan yn neb iddo nawr.

Mae amserYn glynu wrth ei sliperi

fel slwjy Somme

Wrth iddo symudO’i gadair i’r bwrddAc o’r bwrdd yn ara bachYn ôl i’r aelwyd.

Ac yno mwyYn sŵn y gynnau

mudMae Nhaid dim mwy i’w wneudYn swatio yn ffos ei goAc yn gweldÂ’i lygad marw gwagHen lygod mawr y gwyllSy’n dod o PasschendaeleO YpresAc o nos Pilkem RidgeYn nesu

Ac yntau’n aros aros

y waeddI fynd dros y t…o…o…p

GEIRFAtir neb = no-man’s land

daear blin = troubled earth glynu = to stick slwj = sludge

aelwyd = hearth swatio = crouching

ffos ei go = the trench of his memory gwyll = dusk, twilight

gwaedd = shout

TAID gan Gwynne Williams

CYNNWYSDechrau’r gerdd > penillion unigol > stori, syniadau, disgrifio > diwedd y gerdd

ARDDULL

Mesur, odl, hyd

llinellau, berfau ac

andosseiriau

arbennig, geirfa

effeithiol,

cyflythreniad,

cyffelybiaeth,

trosiad, delwedd …

SYNOPTIGY thema yn y gerddNofelau eraillDramau, storiauCerddiFfilmiau

Sioeau …

Page 8: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Pres y Palmant

Pres, pres,Fel aur,Pedwar darn p[untCryf, crwn,Fel aur yn fy llaw.

Dyma’r allweddiI ddrws Star WarsYn sinema’r dre.Pedwar darn am docyn,Pedair allwedd i agor y drws.

Ond pwy ydy hwnAr y palmant oer?Y llygaid cryf, crwn, Yn wag henoFel y nos.

“Big Issue, syr? Dim ond punt …”

Dim ond punt? Ond dw i eisiau pob puntAm docyn i’r sêr!Star Wars neu’r Big Issue?Fi – neu fe?

Cerdded adre, Big Issue yn fy llaw.

Ond, heno, fydd y palmant ddim mor oer.

Robat Powell

crwn = roundallweddi = keys

palmant = pavementgwag / yn wag = empty

CYNNWYS • Dechrau’r gerdd > penillion gwahanol > Diwedd y gerdd• Cynnwys y gerdd > adeiladwaith y gerdd > thema’r gerdd

ARDDULL • Mesur a thechnegau arbennig e.e. ailadrodd, cyflythreniad, cymhariaeth, odl, hyd llinellau, delwedd, ansoddeiriau effeithiol …• Pwrpas / effeithiolrwydd y technegau hyn#

SYNOPTIG • Cerddi neu storiau eraill ar y thema hon• Ffilmiau, sioeau neu raglenni teledu ar y thema hon

Page 9: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

RHAN OHONA I

Alla i ddim dy rwbio di allanO ’mrênsHefo rhwbiwr, wsti.

Rwyt ti ynoYn lojioFel rhyw dderyn bachDan fondo fy nhŷ.Fel llyffantYng ngwaelod y ffynnon.Fel llygoden fachTu hwnt i’r sgertin.

A phan fydda i’n llwyr greduDy fod ti wedi mynd,Dwi’n cael cip arnat ti, fel hyn,Mewn breuddwyd ...

Blydi niwsans, yn dwyt?

Nesta Wyn Jones

HELP rhan = part efo = gydawsti = you know

bondo = eaves llyffant = toadffynnon = well sgertin = skirting

llwyr gredu = truly believecael cip ar = to catch a glimpse of

• Dadansoddwch gynnwys y

gerdd Rhan Ohona I.

• Dadansoddwch arddull y

gerdd Rhan Ohona I ac

esboniwch resymau’r bardd am

ddefnyddio’r technegau hyn.

• Prif thema’r gerdd yw

perthynas a chariad. Manylwch

ar y thema yma drwy gyfeirio at

y gerdd ac at unrhyw

lenyddiaeth a ddarllenwyd neu

lunyddiaeth a wyliwyd gennych

ar y thema yma.

mesur

cyffelybiaeth

iaith

cwestiwn rhethregol

odl

cyflythreniad

hyd

llinellau

geirfa

effeithiol

CARIAD

Page 10: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Graf(Er cof annwyl am Ray Gravell)

Cefaist dy ddewisYn laslancI ddangos dy ddoniau a’th dalentAr faes y gad –Ar gae rygbi’r genedl.Arwr.

Cefaist dy ddewis eilwaithYn ŵr yn ei oed a’i amserI ddangos dy wên a’th wroldebAr faes y gad –O gwmpas bwrdd te’r genedlGwir arwr.

(Carys Jones)

Sut ydych chi’n teimlo ar ôl darllen y gerdd hon?

Beth ydyn ni’n dysgu am Graf yn y gerdd hon?

Mae sawl disgrifiad ohono yn y gerdd. Ydy’r disgrifiadau yma yn dda yn eich barn chi?

Beth ydy ystyr y gair “arwr”? Beth sy’n gwneud arwr yn eich barn chi?

GEIRFAglaslanc / laslanc – young boydoniau = talentsar faes y gad = on the battlefieldeilwaith = a second timegwroldeb = braveryy genedl = the nationgwir = true

Page 11: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Y CIW DÔL

Llingeren hiro fywydau’n pydrumewn diddymdrawrth fethu bodoli.

Moesymgrymu i ffurflen.

Fy ngosod mewn ffeil

GyfleusAm wythnos arall

Pymtheg puntI dalu am golled Hunan-barchAc urddas.

Hwre! Minnau’nUn o’r miliynauSy’n sicrhau swyddi’r

Biwrocratiaid.Ystadegau cyfleusI wleidyddionEu trafodA dadlau. Rhoi’r baiAr bawbOnd y nhw eu hunain.

Cen Llwyd

Llingeren = wormpydru = to rotmewn diddymdra = in a voidbodoli = to existmoesymgrymu = to bow downystadegau = statisticsi wleidyddion = for politiciansdadlau = argue

Thema : Cyfrifoldeb

Beth ydy cynnwys y gerdd?• Cyflwyniad syml• Cynnwys• Diwedd priodol

Mae’r bardd / gerdd yn dechrau ____Yn y pennill cyntaf, rydyn ni’n gweld ____Yn yr ail bennillYn y pennill nesafYn y pennill olafMae’r bardd yn disgrifio ______Ceir llun o _________Rydyn ni’n dysgu am ______Mae’r gerdd / llun yn _____ yn enwedig achos y __________

Trafodwch arddull y gerdd

hyd llinellau cyflythreniad

Berfau effeithiol

Ansoddeiriau effeithiol

delwedd

trosiad

diwedd cryf

atalnodi

Cerdd yn y wers rydd ydy honDoes dim mydr nag odl bendant iddiMae ___ pennill yn y gerddCeir enghraifft o odl, sef _____Dengys hyn ____Mae hyn yn effeithiol achos _____Mae’r bardd yn defnyddio ____ er mwyn Gwelwn ____ yn llinell ___Mae hyn yn bwysig achos mae’n ____Ceir cyflythreniad wedyn gyda ____Mae dewis y bardd o ferfau / ansoddeiriau yn ___Mae hyn yn helpu adeiladu’r llunMae hyn yn dangos teimladau’r barddMae’n pwysleisio ___Mae’n syml ond effeithiol

odl

cyffelybiaethcymhariaeth

Page 12: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

SIAPIAU O GYMRU

Ei diffinio ownar fwrdd glânrhoi ffurf i’w ffiniauei gyrru i’w gororaumewn inc coch;ac meddai myfyriwr o bant“It’s like a pig running away”,wedi bennu chwerthin,rwy’n ei chredu;y swch gogleddolyn heglu’n gyntna’r swrn deheuolar ffo rhag y lladdwyr.

siapiau yw hi siwr iawn:

yr hen geg hanner rhwthneu’r fraich laes ddiogsy’n gorffwys ar ei rhwyfau:y jwmpwr, wrth gwrs, ar ei hanner,gweill a darn o bellen ynddi,ynteu’n debyg i siswrnparod i ddarnio’i hun.cyllell ddeucarn anturiaethydd,neu biser o briddcraciedig a gwag.

Dadansoddwch gynnwys y gerdd yn ofalus.

Dadansoddwch arddull y gerdd e.e.

Trafodwch thema’r gerdd : Cymru.

ansoddeiriau

effeithiol

trosiadcyffelybiaeth

delwedd

odl

Hyd llinellau

berfau da

Ffilmiau

Storiau

Cerddi

Erthyglau

a lluniau amlsillafogyw’r tirbeth o droeona ffeiriaf â’m cydnaboda chyda’r estronsy’n ei gweld am yr hyn yw:

digri o wasgaredigsyamfymywyd fel bwmerang diffael yn mynnu mynnu ffeindio’i ffordd ynôlatfy nhraed.

gan Menna Elfyn

HelpDiffinio = to defineHeglu = to run awayAnturiaethydd adventurerCydnabod acquaintance

Page 13: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

CYMRUCynnwys• Sut mae’r gerdd yn dechrau?• Trafodwch y penillion gwahanol.• Sut mae’r gerdd yn gorffen?

HELPcrafu = to scratchyn amlach na pheidio more often than notamau = to doubtofni = to fear

TYNGED YR IAITH

Anseo …All present and correct

Was the first word of Irish I spoke.Ciaran Carson

“Yma”Dyna’r gairA ddaw yn ôlAta i, yn y co’ –Sŵn desgiau’n agor,Sŵn satsiel yn crafu’r llawr,Cotiau’n cael eu taflu.

Ond nid “yma”Ddwedwn ni,Ond “yes” a “no”Neu’n amlach na pheidio “don’t know”.

Ac yn dawel bach,Heb ddweud yr un gair,Rwy’n cofio meddwl ei bod “yma”,Heb fod “yno”.

A thrwy’r amserau,Rwy wedi amau’r geiriauSy’n sôn am fod,Ac am beidio …

Gan ofni y daw haf, rywbryd,A “hi” heb fod “yma”

(Menna Elfyn)

Arddull• Mesur a thechnegau arbennig e.e. ailadrodd, cyflythreniad, hyd llinellau, dyfyn-nodau …• Pwrpas ac effeithiolrwydd y technegau gwahanol

Beth ydych chi’n meddwl am deitl y gerdd?

Ydych chi wedi darllen neges Saunders Lewis erioed – Tynged Yr Iaith?

Beth am wneud gwaith ymchwil ar hanes yr iaith Gymraeg?

Wedyn beth am drafod dyfodol yr iaith?

Mae’r dyfodol yn eich dwylo chi!!

Page 14: BECSO AM Y BOCSYS “Be  sy ,”  medd mam Wrth fy ngweld yn syllu Ar focsys parod i’r  fan  sbwriel :

Dwy fil o flynyddoedd (Selwyn Griffith)

Dwy fil o flynyddoedd yn ôl, Dywedodd Duw –

“Mi drefnaf Ŵyl,ac mi alwaf yr ŴylYn Nadolig”

A Duw a greodd seren, ac fe’i gosododd uwchben y byd, ac fe drefnodd daith i dri Santa Clôs ei dilyn ar gefn eu camelod.

A Duw a ofalodd nad oedd lle yn y llety i Joseff a Mair. Fe styrbiodd gwsg y bugeiliaid, ac fe ddysgodd gân o orfoledd i’r angylion.

A phan stopiodd y seren uwchben y beudy, penliniodd y tri Santa Clôs wrth erchwyn y preseb gan lenwi hosan yr hen foi bach.

Ac yn ei balas ‘roedd Herod yn gwingo.

* * * *

A dwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach daeth Herod i Dunblane.

Dunblane : Tref yn yr Alban. Ym mis Mawrth 1996 cafodd 16 o blant bach a’r athrawes eu lladd yn yr ysgol yno. Daeth dyn o’r enw Thomas Hamilton i emwn i’r ysgol a’u saethu nhw

• Dadansoddwch gynnwys y gerdd. Cofiwch drafod y 5 pennill yn llawn.

• Dadansoddwch yr arddull yn ofalus.

Trafodwch adeiladwaith a thechngeau

arbennig y gerdd e.e. ailadrodd,

delweddau, cyflythreniad, cyffelybiaeth,

cymhariaeth, hyd llinellau, trosiad,

ansoddeiriau effeithiol, atalnodi …

Gwaith Ymchwil

Chwiliwch am gerddi eraill sydd

wedi cael eu hysgrifennu yn dilyn

trasiedi.

CARIAD

CYFRIFOLDEB

GEIRFAmi drefnaf = I will arrange gŵyl = festival mi a alwaf = I will callgosod = to place lle yn y llety = room at the inn styrbio = to disturbgorfoledd = rejoicing beudy = cowshed penlinio = to kneel erchwyn = edgegwingo = to writhe yn ddiweddarach = later