28
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16 Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 1 Llywodraeth Leol ~ Cymru Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16 Mae’n bleser gennym gyflwyno hwn, yr un-ar-ddegfed bwletin blynyddol ar berfformiad awdurdodau lleol. Mae’r bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth am amrediad o wasanaethau awdurdodau lleol. Rydym wedi defnyddio’r data i amlygu lefel gyffredinol ac amrediad perfformiad ar hyd a lled Cymru. Mae’r set ddata lawn ar gael ar ein gwefan. Rydym hefyd wedi diweddaru pecyn rhyngweithiol newydd sy’n gadael i’r cyhoedd, cynghorwyr, swyddogion a phartneriaid gymharu perfformiad cynghorau ledled Cymru a thros amser yn rhwydd. Cafodd “FyNghyngorLleol” (www.fynghyngorlleol.info) ei ddylunio i fod yn sythweledol ac yn hawdd ei ddefnyddio er mwyn i’r wybodaeth berfformiad allweddol ddiweddaraf i 22 cyngor Cymru fod yn fwy hygyrch. Perfformiad cyffredinol Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf) ei gulhau mewn 59% (23) o’r dangosyddion. Yn achos 41% (16) o’r dangosyddion, gwellodd perfformiad a chulhaodd y bwlch rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf. Gwelliant gwasanaethau Yn aml, awdurdodau lleol yw un o gyflogwyr mwyaf ardal gan ddarparu amrediad o wasanaethau i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae’r tabl isod yn dangos perfformiad y gwasanaethau hyn yn 2015-16 o’u cymharu â 2014-15. Maes Gwasanaeth Nifer y dangosyddion cymaradwy % o ddangosyddi on lle gwellodd perfformiad % o ddangosyddion lle culhawyd y bwlch % o ddangosyddion lle gwellodd perfformiad a chulhawyd y bwlch Addysg 11 91% 64% 55% Gofal Cymdeithasol 16 (15) 69% 73%* 50%* Tai 2 0% 50% 0% Amgylchedd a Thrafnidiaeth 6 67% 67% 33% Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio 2 50% 0% 0% Hamdden a Diwylliant 2 0% 0% 0% Iechyd Corfforaethol 1 0% 0% 0% Cyffredinol 40 (39)* 65% 59%* 41%* * Nid oedd un dangosydd (SCA/002a) yn gymharol rhwng awdurdodau lleol, ac felly newidwyd nifer y dangosyddion cymharol lle bo angen.

Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 1

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Mae’n bleser gennym gyflwyno hwn, yr un-ar-ddegfed bwletin blynyddol ar

berfformiad awdurdodau lleol. Mae’r bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth am

amrediad o wasanaethau awdurdodau lleol. Rydym wedi defnyddio’r data i

amlygu lefel gyffredinol ac amrediad perfformiad ar hyd a lled Cymru. Mae’r

set ddata lawn ar gael ar ein gwefan.

Rydym hefyd wedi diweddaru pecyn rhyngweithiol newydd sy’n gadael i’r

cyhoedd, cynghorwyr, swyddogion a phartneriaid gymharu perfformiad

cynghorau ledled Cymru a thros amser yn rhwydd. Cafodd “FyNghyngorLleol”

(www.fynghyngorlleol.info) ei ddylunio i fod yn sythweledol ac yn hawdd ei

ddefnyddio er mwyn i’r wybodaeth berfformiad allweddol ddiweddaraf i 22

cyngor Cymru fod yn fwy hygyrch.

Perfformiad cyffredinol

Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy

rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant.

Cafodd y bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio

orau a’r rhai gwaethaf) ei gulhau mewn 59% (23) o’r dangosyddion.

Yn achos 41% (16) o’r dangosyddion, gwellodd perfformiad a chulhaodd y

bwlch rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf.

Gwelliant gwasanaethau

Yn aml, awdurdodau lleol yw un o gyflogwyr mwyaf ardal gan ddarparu

amrediad o wasanaethau i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae’r

tabl isod yn dangos perfformiad y gwasanaethau hyn yn 2015-16 o’u

cymharu â 2014-15.

Maes Gwasanaeth

Nifer y dangosyddion

cymaradwy

% o ddangosyddi

on lle gwellodd

perfformiad

% o ddangosyddion lle culhawyd y

bwlch

% o ddangosyddion

lle gwellodd perfformiad a chulhawyd y

bwlch

Addysg 11 91% 64% 55%

Gofal

Cymdeithasol

16 (15) 69% 73%* 50%*

Tai 2 0% 50% 0%

Amgylchedd a

Thrafnidiaeth

6 67% 67% 33%

Cynllunio a

Gwasanaethau

Rheoleiddio

2 50% 0% 0%

Hamdden a

Diwylliant

2 0% 0% 0%

Iechyd

Corfforaethol

1 0% 0% 0%

Cyffredinol 40 (39)* 65% 59%* 41%*

* Nid oedd un dangosydd (SCA/002a) yn gymharol rhwng awdurdodau

lleol, ac felly newidwyd nifer y dangosyddion cymharol lle bo angen.

Page 2: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 2

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Perfformiad dros amser

Mae perfformiad awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gwella’n gyson dros y

blynyddoedd diwethaf.

Y llynedd fe wnaethom adrodd bod 63% o’r dangosyddion perfformiad

cymaradwy wedi dangos gwelliant dros y cyfnod hynnu, a bod pob awdurdod

wedi gwella neu cynnal ei perfformiad mewn mwy na hanner y dangosyddion.

Yn 2015-16, mae 65% o’r dangosyddion cymaradwy yn dangos gwelliant ar

lefel Cymru.

Ar lefel lleol, o’r 40 dangosydd sydd yn gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-

16, gwellodd Rhondda Cynon Taf mewn 29 (73%), tra wnaeth Sir Fynwy

wella mewn 16 (40%).

Perfformiad cymharol ar draws Cymru

Tra bod gwelliant eithafol yn bwysig, bydd gan dinasyddion ddiddordeb mewn

sut mae eu hawdurdod yn cymharu ag eraill. Yn gyffredinol yn 2015-16,

roedd gan Bro Morgannwg fwy o ddangosyddion yn y chwarter uchaf o

awdurdodau lleol Cymru, tra roedd gan Casnewydd y lleiaf.

Page 3: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 3

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Ar y tudalennau sy’n dilyn fe welwch wybodaeth manwl am berfformiad

awdurdodau lleol wrth iddynt ddarparu canlyniadau pwysig i’n cymunedau.

Nodyn

Mae teitlau dangosyddion perfformiad wedi cael eu symleiddio i

gynorthwyo dealltwriaeth.

Rydym wedi talgrynnu’r data lle mae hyn yn gwneud cymharu yn haws.

Page 4: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 4

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Darparu amgylchedd glân a diogel…

Awdurdodau lleol sy’n sicrhau bod y mannau lle rydym yn byw ac yn gweithio

yn lân ac yn ddiogel.

Ledled Cymru, roedd 96.5% o briffyrdd a thir perthnasol a archwiliwyd o

safon uchel neu dderbyniol yn 2015-16 (o’u cymharu â 96.9% in 2014-15).

Roedd hyn yn amrywio o 100.0% yn Sir Ddinbych a Rhondda Cynon Taf i

89.6% ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cododd level glendid ym Merthyr Tudful 5.1 pwynt canran, tra roedd y level

glendid yng Ngeredigion yn 5.7 pwynt canran yn llai na llynedd.

Yn 2015-16, roedd 11.2% o holl ffyrdd mewn cyflwr “gwael” cyffredinol o’u

cymharu ag 11.9% yn 2014-15.

Page 5: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 5

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Roedd canran yr holl ffyrdd mewn cyflwr “gwael” cyffredinol yn amrywio o

4% yn Sir y Fflint i 19% ym Mhowys.

Mae cyflwr ffyrdd wedi gwell’n flynyddol ers 2011-12.

Page 6: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 6

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Roedd 3.7% o ffyrdd dosbarth A mewn cyflwr “gwael” yn 2015-16 o’u

cymharu â 4.1% yn 2014-15, ac yn amrywio o 1.4% yn Nhorfaen i 7.2% yn

Rhondda Cynon Taf.

Am ffyrdd dosbarth B, roedd 4.3% mewn cyflwr “gwael” yn 2015-16 o’u

cymharu â 5.0% in 2014-15, yn amrywio o 1.5% yn Sir y Fflint i 8.8% ym

Merthyr Tudful, ac am ffyrdd dosbarth C roedd 15.9% mewn cyflwr “gwael”

o’u cymharu â 17.2% in 2014-15, yn amrywio o 5.2% ym Merthyr Tudful i

25.1% ym Mhowys.

Roedd gan 85.6% o oedolion 60 mlwydd oed neu’n hŷn cherdyn bws rhatach

(o’u cymharu â 85.8% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 96.5% yng

Ngaerdydd i 68.6% ym Mhowys.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol difrifol sy’n gallu achosi

halogi hirdymor, llygredd a pheri risg i iechyd dynol. Mae’n ofynnol i

awdurdodau lleol lanhau digwyddiadau tipio anghyfreithlon graddfa fach ar

dir cyhoeddus o fewn pum niwrnod ar ôl iddynt gael eu hadrodd. Yn 2015-16,

Page 7: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 7

Llywodraeth Leol ~ Cymru

cafodd 95.3% o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon a adroddwyd i

awdurdodau lleol eu clirio o fewn pum niwrnod gwaith (o’u cymharu â 93.1%

yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 99.8% yng Ngheredigion i 67.7% yng

Nhastell Nedd Port Talbot.

Gwnaeth awdurdodau gynnal eu perfformiad wrth ddiogelu’r bwyd rydym yn

ei fwyta, gyda 94.2% o sefydliadau bwyd yn dal i “gydymffurfio’n fras” â

safonau hylendid bwyd yn 2015-16. Roedd hyn yn amrywio o 90.2% yn

Nhorfaen i 98.7% ar Ynys Môn.

O hybu effeithlonrwydd ynni, i sicrhau bod adnoddau’n cael eu hailddefnyddio

a’u hailgylchu, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan fawr mewn helpu i

sicrhau’r dyfodol am y genhedlaeth nesaf.

Awdurdodau lleol sy’n casglu ac yn prosesu ein gwastraff. Mae’r lle sydd ar

gael ar gyfer tirlenwi yng Nghymru yn prysur ddirwyn i ben ac mae trethi

tirlenwi yn golygu na allwn fforddio parhau i anfon gwastraff i dirlenwi. Gall

tirlenwi achosi llygredd i aer, pridd a dŵr. Bydd datblygu dulliau o atal

gwastraff, lleihau’r gwastraff sy’n mynd i dirlenwi a chynyddu ailgylchu,

compostio a threulio anaerobig yn cael effaith arwyddocaol ar ein gallu i

oresgyn newid yn yr hinsawdd.

Yn 2015-16, anfonwyd 18.1% o’r gwastraff trefol a gafodd ei gasglu gan

awdurdodau lleol i dirlenwi, o’i gymharu â 29.4% yn 2014-15. Roedd hyn yn

amrywio o 5.3% yn Sir Gaerfyrddin i 37.8% yn Abertawe.

Nodyn: Mae sefydliad sy’n “cydymffurfio’n fras” yn un lle nad oes unrhyw

broblemau arwyddocaol o ran hylendid bwyd. Diffinnir y term “cydymffurfio’n fras” yn llawn yn yr arweiniad i ddangosyddion perfformiad ar ein gwefan.

Page 8: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 8

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Mae canran y gwastraff a anfonwyd i dirlenwi wedi parhau i ostwng yn

raddol ers 2012.

Cafodd 60.2% o’r gwastraff trefol a gasglwyd ei ailddefnyddio neu ei

ailgylchu yn 2015-16 o’i gymharu â 56.2% yn 2014-15. Roedd hyn yn

amrywio o 68.1% yng Ngheredigion i 48.7% ym Mlaenau Gwent.

Page 9: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 9

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Mae canran y gwastraff sydd wedi ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu wedi

parhau i wella yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Page 10: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 10

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Darparu tai fforddiadwy a phriodol…

Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i’w chwarae mewn sicrhau bod

cyflenwad digonol o dai fforddiadwy i ddiwallu’r angen sydd wedi ei nodi. Tai

fforddiadwy oedd 36% o’r holl unedau tai ychwanegol a ddarparwyd yn

ystod 2015-16 (o’u cymharu â 41% yn 2014-15).

I bobl anabl o bob oedran, mae tai yn ddull allweddol o alluogi byw yn

annibynnol. Mae tai wedi eu haddasu yn galluogi pobl i gadw eu

hannibyniaeth, aros yn eu cymunedau ac arfer dewis o ran sut maent yn

byw eu bywydau. Gall Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl helpu tuag at gost

addasu cartref rhywun sy’n anabl.

Cymerodd awdurdodau lleol gyfartaledd o 241 diwrnod i ddarparu Grant

Cyfleusterau i’r Anabl yn 2015-16 (o’u cymharu â 231 o ddyddiau yn 2014-

15); y codiad cyntaf yn y dangosydd hwn ers 2010-11.

Yn 2015-16, roedd nifer cyfartalog y dyddiau a gymerwyd i ddarparu Grant

Cyfleusterau i’r Anabl yn amrywio o 133 o ddyddiau yn Sir Ddinbych i 340 o

ddyddiau yn Abertawe.

Nodyn: Y diffiniad cyffredinol o fforddiadwyedd yw gallu aelwydydd i brynu eiddo sy’n diwallu anghenion yr aelwyd heb unrhyw gymhorthdal

Page 11: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 11

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Yn ystod y cyfnod, lleihaodd 14 o’r 22 awdurdod lleol nifer y dyddiau maent

yn eu cymryd i ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

Mae tai gwag yn ddarpar adnodd tai sydd, o bosibl, yn cael ei

danddefnyddio ar hyn o bryd. Gall tai gwag fod yn ffocws lefelau uwch o

drosedd, fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd

cyffuriau. Cafodd 11.1% o anheddau sector preifat gwag hirdymor eu

dychwelyd i ddeiliadaeth drwy weithredu uniongyrchol gan awdurdodau lleol

yn 2015-16 (o’u cymharu â 11.8% yn 2014-15); y gostyngiad cyntaf yn y

dangosydd hwn ers 2005-06.

Page 12: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 12

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Roedd hyn yn amrywio o 42.5% yn Nhorfaen i 1.6% ym Mhowys.

Page 13: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 13

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Cefnogi bywydau diogel ac annibynnol…

Mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn darparu cefnogaeth i

rai o’r bobl hawsaf eu niweidio yn ein cymunedau. Mae awdurdodau lleol yn

cefnogi tua 100 mil o bobl yn y gymuned neu mewn cartrefi preswyl pob

blwyddyn.

Mae ‘cynllun gofal’ yn disgrifio’r amrediad o wasanaethau sy’n cael eu

sefydlu i ddiwallu anghenion gofal unigolion. Dylai’r rhain gael eu

hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu

darparu yn parhau i fod yn briodol. Adolygwyd 83% o gynlluniau gofal a

ddylai fod wedi eu hadolygu yn ystod y flwyddyn o’u cymharu ag 80% yn

2014-15.

Amrywiodd canran y cynlluniau gofal a adolygwyd o 97.2% yn Sir y Fflint i

68.3% ym Mlaenau Gwent.

Page 14: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 14

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y bobl

hawsaf eu niweidio yn ein cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.

Rheolwyd y risg i’r unigolyn mewn 97% o gyfeiriadau amddiffyn oedolion a

dderbyniwyd gan awdurdodau lleol yn ystod 2015-16 (o’u cymharu ag 96%

yn 2014-15) – y pumed gwelliant blynyddol olynol am y dangosydd hwn.

Roedd hyn yn amrywio o 100.0% yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint,

Ceredigion, Sir Benfro, Castell Nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Rhondda

Cynon Taf a Thorfaen i 91.1% ym Mlaenau Gwent.

Mae oedi wrth drosglwyddo gofal – a elwir hefyd yn “blocio gwelyau” – yn

digwydd pan fydd rywun nad oes angen triniaeth ysbyty arno mwyach yn

methu â gadael yr ysbyty i ddychwelyd i’w gartref ei hun neu leoliad gofal

cymdeithasol, fel cartref preswyl. Yn 2015-16 adroddwyd y gyfradd oedi

trosglwyddiadau oherwydd rhesymau gofal cymdeithasol fel 4.87 am bob

1,000 o’r boblogaeth 75 mlwydd oed neu’n hŷn – codiad arall ar y ffigur a

adroddwyd yn 2014-15.

Gwellhaodd y gyfradd oedi trosglwyddiadau gofal mewn 9 o’r 22 awdurdod

lleol ar draws Cymru.

Amrywiodd y gyfradd oedi trosglwyddiadau gofal rhwng 0.82 am bob 1,000

o’r boblogaeth 75 mlwydd oed neu’n hŷn yng Nghonwy i 11.18 am bob

1,000 yng Nghaerdydd.

Page 15: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 15

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Cafodd 91.4% o ofalwyr oedolion sy’n hysbys i’r gwasanaethau

cymdeithasol gynnig asesiad neu adolygiad o’u hanghenion yn 2015-16 (o’u

cymharu â 88.3% yn 2014-15).

Amrywiodd y ganran o ofalwyr a gynigwyd asesiad neu adolygiad o’u

hanghenion o 100.0% yng Wrecsam, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell

Nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf i 66.2% ym Merthyr

Tudful.

Page 16: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 16

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Arhosodd awdurdodau lleol ar draws Cymru mewn cysylltiad a 93.2% o’r

bobl ifanc 19 oed a fu’n derbyn gofal ganddynt. Yn 2015-16, roedd yn

hysbys bod 93.5% o’r bobl ifanc 19 oed a fu’n derbyn gofal o’r blaen roedd

yr awdurdod mewn cysylltiad â nhw mewn llety addas, heb fod yn llety

argyfyng, o’u cymharu â 93.1% yn 2014-15.

Roedd hyn yn amrywio o 100.0% ar Ynys Môn, yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint,

Powys, Ceredigion, Bro Morgannwg, Caerffili, a Blaenau Gwent i 80.0% yn

Sir Fynwy.

Yn 2015-16, roedd 60.7% o’r bobl ifanc hyn mewn addysg, hyfforddiant neu

waith i’w gymharu â 59.5% yn 2014-15. Roedd hyn yn amrywio o 87.5% yn

Sir y Fflint i 30.8% yn Nhorfaen.

Page 17: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 17

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Diogelu plant…

Mae awdurdodau lleol yn derbyn tua 35 mil o gyfeiriadau mewn perthynas â

phlant bob blwyddyn. Maent yn darparu amrediad o gefnogaeth i sicrhau

bod plant yn aros yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i gyflawni’r gorau y

gallant mewn bywyd.

Mae’n bwysig bod barn plant yn cael ei chymryd i ystyriaeth wrth gynllunio

am eu gofal. Mae tystiolaeth i’r plentyn gael ei weld ar ei ben ei hun mewn

49.5% o asesiadau cychwynnol o'i gymharu â 44.8% yn 2014-15. Roedd

hyn yn amrywio o 88.8% yn Sir Benfro i 19.8% ym Mro Morgannwg.

Fel rhieni corfforaethol mae’n ofynnol bod awdurdodau lleol yn sicrhau

diogelwch a lles plant sy’n derbyn gofal, a sicrhau eu bod yn cael yr un

cyfleoedd â’u cymheiriaid.

Yn 2015-16, digwyddodd 88.1% o ymweliadau statudol â phlant sy’n derbyn

gofal yn unol â’r rheoliadau (o’u cymharu ag 87.7% yn 2014-15).

Page 18: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 18

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Amrywiodd canran ymweliadau statudol â phlant sy’n derbyn gofal yn unol

â’r rheoliadau o 98.4% yn Sir Benfro i 77.6% yn Nhorfaen.

Cydnabyddir bod sefydlogrwydd yn bwysig i les plant mewn gofal. Cafodd

9.8% o blant sy’n derbyn gofal dri neu fwy o leoliadau yn ystod 2015-16

(o’u cymharu â 9.0% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 5.9% yn

Rhondda Cynon Taf i 14.9% yn Sir Gaerfyrddin.

Page 19: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 19

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Yn 2015-16, cafodd 90.3% adolygiadau plant eu cynnal o fewn amserlenni

statudol (o’u cymharu ag 88.9% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o

99.2% yng Nghasnewydd i 81.0% yn Abertawe.

Page 20: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 20

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Addysgu plant…

Mae ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn addysgu tua 460 mil o

blant bob blwyddyn.

Mae presenoldeb da yn bwysig er mwyn i blant ddysgu. Yn 2015-16, cododd

presenoldeb disgyblion mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru o 94.8% i

95.0%.

Dros yr un cyfnod, cododd presenoldeb ysgolion uwchradd o 93.6% i

93.9%.

Parhaodd y sgôr pwyntiau cyfartalog i ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a

gynhelir gan awdurdodau lleol i godi (am y nawfed blwyddyn yn olynol) i

539 o bwyntiau.

Page 21: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 21

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Amrywiodd y sgôr pwyntiau cyfartalog o 617 o bwyntiau yng Ngwynedd i

449 ym Mlaenau Gwent.

Cafodd 11.9% o blant sy’n derbyn gofal brofiad o un neu fwy o newidiadau

ysgol yn y 12 mis diwethaf (o’u cymharu â 13.5% yn 2014-15). Roedd hyn

yn amrywio o 3.8% yng Nghonwy i 20.6% yn Sir Fynwy.

Page 22: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 22

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Gwelwyd gostyngiad yn sgôr pwyntiau cyfartalog plant mewn gofal o 276 o

bwyntiau yn 2014-15 i 269 o bwyntiau yn 2015-16; y gostyngiad cyntaf yn

y dangosydd hwn ers 2007-08.

Yn 2015-16, roedd yn amrywio o 504 o bwyntiau yn Sir Benfro i 161 o

bwyntiau yng Ngheredigion.

Page 23: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 23

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Cododd canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2,

mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a gyflawnodd y Dangosydd

Pynciau Craidd unwaith eto o 86.4% yn 2014-15 i 88.1% yn 2015-16.

Roedd hyn yn amrywio o 92.5% yn Sir Fynwy i 83.3% yng Nghastell Nedd

Port Talbot.

Dros yr un cyfnod, cododd canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd

Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a

gyflawnodd y Dangosydd Pynciau Craidd hefyd o 81.2% i 84.1%. Roedd hyn

yn amrywio o 91.3% yng Ngwynedd i 77.8% yng Nhastell Nedd Port Talbot.

Yn 2015-16, cyflawnodd 58.3% o ddisgyblion y trothwy lefel 2, gan

gynnwys gradd TGAU A*-C mewn Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a

Mathemateg. (o’u cymharu â 55.5% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o

66.9% yn Sir Fynwy i 47.7% ym Mlaenau Gwent.

Page 24: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 24

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Ledled Cymru, derbyniodd 17.8% o’r disgyblion a aseswyd Asesiad Athro yn

y Gymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (o’u cymharu â

17.2% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 83.2% yng Ngwynedd i 0.0%

ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Yn 2015-16, gwnaeth 0.2% o’r holl blant a adawodd addysg orfodol yn 15

neu’n 16 oed (heb fynd ymlaen i addysg amser llawn, hyfforddiant neu

ddysgu seiliedig ar waith) adael heb gymhwyster cydnabyddedig (o’u

cymharu â 0.3% yn 2014-15).

I blant mewn gofal, gadawodd 0.5% o blant heb gymhwyster

cydnabyddedig (o’u cymharu â 1.2% yn 2014-15) – y perfformiad gorau ar

gyfer y dangosydd hwn.

Nodyn: Does dim Ysgolion Uwchradd Cymraeg ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy na Chasnewydd..

Page 25: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 25

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Mae gan awdurdodau lleol rwymedigaethau statudol o ran asesu a rhoi

datganiad, i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol

Arbennig (AAA) yn derbyn cefnogaeth briodol i’w galluogi i gyrraedd eu

potensial. Fel arfer dylai datganiadau AAA fod wedi eu sefydlu o fewn 26

wythnos ar ôl cais am asesiad (mewn rhai achosion eithriadol, gall hyn

gymryd mwy o amser).

Cafodd 68.1% o’r holl ddatganiadau eu rhoi o fewn 26 wythnos yn 2015-16

(o’u cymharu â 64.5% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 100.0% yng

Ngheredigion, Sir Benfro, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent i

10.5% yng Nghastell Nedd Port Talbot.

Dros yr un cyfnod, rhoddwyd 94.5% o ddatganiadau (heb gynnwys

eithriadau) o fewn 26 wythnos (o’u cymharu â 95.6% yn 2014-15).

Page 26: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 26

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Cefnogi Hamdden a Diwylliant…

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn darparu amrediad o wasanaethau

sy’n cynnig cyfleoedd hamdden a diwylliannol i’r bobl yn eu cymunedau.

Yn 2015-16, roedd 8,409 o ymweliadau â chyfleusterau chwaraeon a

hamdden awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn am bob 1,000 o’r

boblogaeth lle bydd yr ymwelydd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch

corfforol. Mae hyn yn cymharu ag 8,657 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn

2014-15.

Amrywiodd ymweliadau â chyfleusterau chwaraeon a hamdden o 16,306 am

bob 1,000 o’r boblogaeth ym Mlaenau Gwent i 5,331 am bob 1,000 o’r

boblogaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot.

Roedd 5,374 o ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod y flwyddyn

am bob 1,000 o’r boblogaeth yn 2015-16 o’u cymharu â 5,526 am bob

1,000 o’r boblogaeth yn 2014-15. Roedd hyn yn amrywio o 8,660 y 1,000

yng Nghaerdydd i 3,249 y 1,000 yng Nghasnewydd.

Note: Nid yw “llyfrgelleodd cyhoeddus” yn cynnwys llyfrgelloedd sy'n cael eu cynnal gan ymddiriedolaeth allanol neu gyngor cymuned

Nodyn: Mae “Canolfannau chwaraeon Awdurdod Leol” yn cynnwys canolfannau ar gontract i ymddiriedolaeth allanol neu gyngor cymunedol

Page 27: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 27

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Iechyd Corfforaethol Mae cynghorau lleol ar draws Cymru yn cyflogi tua 130 mil o bobl.

Yn 2015-16, gollwyd cyfartaledd o 10.2 diwrnod/shifft gwaith fesul

gweithiwr llawn amser oherwydd salwch. Roedd hyn yn amrywio o 6.6

diwrnod ym Merthyr Tudful i 12.0 diwrnod ar Ynys Môn.

Page 28: Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16...Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant. Cafodd y bwlch mewn

Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16

Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 28

Llywodraeth Leol ~ Cymru

Manylion cyswllt Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r bwletin

hwn cysylltwch â:

Richard Palmer

Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru

029 2090 9500

[email protected]

Cyhoeddir y set ddata gyflawn o ddangosyddion perfformiad ar ein gwefan

(www.unedddatacymru.gov.uk).

Nodiadau

Un o swyddogaethau pennaf Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru yw

casglu, prosesu, dehongli a lledaenu data ystadegol am wasanaethau a

gweithgareddau llywodraeth leol i gefnogi gwella llywodraeth leol.

Mae’r dangosyddion a enwir yma yn rhan o’r Fframwaith Gwella Perfformiad

ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r dangosyddion yn adlewyrchu

blaenoriaethau allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol

yng Nghymru.

Cafodd data’r Dangosyddion Strategol Cenedlaethol, sy’n is-set o’r data a

ddefnyddir yma, ei gasglu a’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Seilir gwerthoedd Cymru ar y data sylfaen a gyflwynwyd gan yr awdurdodau.

Lle na fydd awdurdodau wedi cyflenwi eu data sylfaen, nid yw eu ffigurau yn

cyfrannu at werthoedd Cymru.

Lle bo’n briodol, talgrynnwyd data at ddibenion y bwletin hwn. Mae’r set

ddata gyflawn ar gael ar ein gwefan www.unedddatacymru.gov.uk.

Cewch hyd i FyNghyngorLleol ar www.MyLocalCouncil.info lle cewch dewis

iaith.

Mae dogfennau canllaw mewn perthynas â setiau dangosyddion 2015-16 ar

gael ar ein gwefan hefyd (Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus) ac ar wefan

Llywodraeth Cymru (Dangosyddion Strategol Cenedlaethol). Mae’r rhain yn

rhoi diffiniad manwl am bob un o’r dangosyddion ynghyd â’i ddosbarthiad

h.y. Dangosydd Strategol Cenedlaethol neu Fesur Atebolrwydd Cyhoeddus.

Mae’r lliwiau a ddefnyddir yn y siartiau graddio perfformiad wedi eu seilio ar

yr amrediad o werthoedd DP. Mae’r lliwiau’n dangos sut mae perfformiad yr

awdurdod yn cymharu ag eraill: █ - Perfformiad yn y chwarter uchaf o awdurdodau

█ - Perfformiad yn y chwarter canolog uchaf o awdurdodau

█ - Perfformiad yn y chwarter canolog isaf o awdurdodau

█ - Perfformiad yn y chwarter isaf o awdurdodau

Mewn siartiau ystod perfformiad, mae glas yn cynrychioli gwerth DP Cymru,

mae gwyrdd yn dangos y gwerth DP am berfformiad gorau awdurdod lleol, ac

mae coch yn dangos y gwerth DP am berfformiad gwaethaf awdurdod lleol.