8
Camwahaniaethu yn y gweithle Dim mwy Bellach, mae’r gyfraith yn golygu nad oes rhaid i chi ddioddef diflastod o achos eich cyfeiriadedd rhywiol. Byth eto.

Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Briffio'r Cyflogedig

Citation preview

Page 1: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

Camwahaniaethu yn y gweithleDim mwy

Bellach, mae’r gyfraith yngolygu nad oes rhaid i chiddioddef diflastod o achoseich cyfeiriadedd rhywiol.Byth eto.

Page 2: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!
Page 3: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

Gadewch i ni wybod am ydyddiau a fuPan ddiflaswyd bywyd Shirleyfel athrawes gan ddisgyblionhomoffobaidd, dywedodd eiphennaeth wrthi y byddai’nrhaid iddi “ddiodde’n dawel”.Bellach, mae hynny’nanghyfreithlon.

Pan sylweddolodd Peter nadoedd ei yrfa fel gweithiwriechyd yn symud ymlaen,gwyddai mai’r rheswm oedd yffaith ei fod yn hoyw. Sut?Roedd ei reolwr yn ei fwlio.Bellach, mae hynny’nanghyfreithlon.

Pan wrthodwyd tocyn teithio iLisa ar gyfer ei phartner, erbod ei chytundeb yn addoteithio am ddim ar gyfer ei“phartner neu ddibynyddion”,y rheswm oedd bod eiphartner yn fenyw.Bellach, mae hynny’nanghyfreithlon.

Mae’r driniaeth mae dynionhoyw, lesbiaid a phobldeurywiol wedi gorfod eiddioddef o achos eucyfeiriadedd rhywiol –diswyddiadau, aflonyddu, llaio fanteision, diffyg dyrchafiad– bellach drosodd. Wedi dod iben. Yn anghyfreithlon.

Sicrhewch eich bod yndefnyddio’r gyfraith.

Page 4: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

O dan y cyfreithiau hyn, maetri math o driniaeth annhegnad oes angen i chi eudioddef bellach yn y gweithle.

CamwahaniaethuuniongyrcholMae unrhyw beth sy’n iawn iweithwyr strêt bellach yn iawni chi. Os yw’n dderbyniol ibobl strêt ddal dwylo yn ygwaith, er enghraifft, ynagallwch chi wneud hynnyhefyd. Yn amlwg, os nad ywpobl strêt yn cael ei wneud,mae hynny’n berthnasol i chihefyd.

Mae un o bob 25 personlesbiaidd, hoyw a deurywiolyn credu eu bod wedi cael eudiswyddo o achos eucyfeiriadedd rhywiol. Nid oesrhaid ei ddioddef mwyach.

Page 5: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

CamwahaniaethuanuniongyrcholMae hyn yn golygu na all eichcyflogwr ddosbarthumanteision – buddiannau,beth bynnag yr ydych yn eugalw – i weithwyr strêt, heb ichi allu eu mwynhau hefyd.Os gwahoddir partneriaid poblstrêt i bartïon gwaith, maecroeso i’ch partner chi hefyd.Dim dadl.

AflonydduOs yw cyflogwyr neugydweithwyr yn credu ymedrant eich poenydio yn ygwaith drwy greu awyrgylchcyffredinol na fyddai unrhywberson lesbiaidd, hoyw nadeurywiol eisiau bod ynddo,mae’n bryd iddynt ailfeddwl.

Hyd yn oed os nad ydychallan yn y gwaith, nid oes ynrhaid i chi ei ddioddef bellach.

Mae un o bob pump personlesbiaidd, hoyw a deurywiol yncredu eu bod wedi dioddefaflonyddu o achos eucyfeiriadedd rhywiol. Nid oesyn rhaid iddyn nhw ei ddioddefbellach chwaith.

Page 6: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

Eithriadau

Crefydd GyfundrefnolMewn rhai eithriadau prin, feall cyflogwyr o fewn crefyddaucyfundrefnol barhau i wrthodcyflogi pobl lesbiaidd, hoywneu ddeurywiol, os yw ynerbyn eu argyhoeddiadcrefyddol.Ond mae’r llysoedd wedidweud y bydd hyn ynberthnasol mewn nifer bychaniawn o achosion, megisoffeiriaid neu imamiaid. Osydych yn gweithio mewnysgol ffydd neu ar gyferelusen grefyddol, rydych yncael eich amddiffyn. Ac niallwch gael eich trin yn llai tegos ydych eisoes yn eichswydd.

Manteision ar gyfer cyplaupriodMewn rhai achosion, ni fyddpensiynau a rhai manteisionariannol ar gyfer partneriaidpriod (strêt) ar gael ynawtomatig ar gyfer partneriaidhoyw. Ond mae cyflogwyr daeisoes yn darparu rhain.Serch hynny, bydd yn rhaidtrin cyplau hoyw sydd yn unomewn partneriaeth sifil yr unfath â chyplau priod, a byddmodd iddynt gael yr hawliaupensiynau hyn.

Anghenion SwyddogaetholYn ddamcaniaethol, efallai bodambell swydd lle bo rhaid i chifod yn strêt (neu lesbiaidd,hoyw neu ddeurywiol) ermwyn medru ei wneud yniawn. Ar hyn o bryd, gall nebfeddwl am enghraifft.

Page 7: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

Felly, beth ydych chi’nmynd i wneud am y peth?Oes modd i chi siarad gyda’run sy’n eich aflonyddu?A fyddai modd i chi esboniopam eu bod yn achosi poen ichi?

Os nad yw’n bosibl, a oesgennych adran adnoddaudynol neu reolwr personél da?A fyddai popeth y byddech ynei ddweud yn gyfrinachol?Ceisiwch ddod o hyd i’r ateb.

A ydych yn aelod o fudiadstaff neu undeb llafur?Byddant yn cymryd eich cwyno ddifrif, byddant yn gwybodmanylion y ddeddfwriaeth acyn gwneud dim ond yr hyn yrydych am iddynt ei wneud.

A yw’n haws siarad gydadieithryn yn eich CanolfanCAB neu linell gymorthlesbiaidd a hoyw?

Os ddaw hi i’r pen, maetribiwnlys ar gael, sydd âphwerau i roi arian i chi oddiwrth eich cyflogwr fel iawndalam gamwahaniaethu neuaflonyddu, heb derfyn, ganddibynnu ar ddifrifoldeb yrachos.

A rhag i chi ddychryn, maehefyd yn anghyfreithlon igyflogwr eich erlid os ydychyn penderfynu gwneud cwynswyddogol.

Dylai hynny sicrhau bod pawbyn deall bod camwahaniaethuar ben.Am byth.

Page 8: Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto!

ACAS08457 474 747

Cyngor Ar Bopeth (CAB)www.citizensadvice.org.uk

Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedolwww.clsdirect.org.uk0845 608 1122

Llinell Hawliau TUC0870 600 4882

Cyngor ar Bopeth Cymru02920 376 750

Citizens Advice Scotlandwww.cas.org.uk0131 550 1000ebost [email protected]

Scottish EmploymentRights Network0131 556 3006

Stonewall020 7881 9440www.stonewall.org.ukMinicom 020 7881 9996

Stonewall Scotland0131 557 3679

Stonewall Cymru02920 237 744 / 01248 370082www.stonewallcymru.org.uk

Cyfarwyddyd Celf Yacht AssociatesFfotograffiaeth Jason Tozer