31
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Chapter Chwefror 14

  • Upload
    chapter

  • View
    227

  • Download
    6

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Chapter Chwefror 14

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Chwefror 14

Mae cariad ar yr awyr y mis hwn, ac er nad ydym ni’n or-hoff o dedis a chalonnau, rydym wrth ein boddau â Dydd San Ffolant — esgus perffaith i fwynhau detholiad o ffilmiau a bwydydd gothig. Mae manylion ein cynigion arbennig ‘ffilm a phryd San Ffolant’ ar dudalennau 22-23 — mae’r rhain yn cynnwys stori garu dyner, amgen Spike Jonze, Her. Mae mis Chwefror yn llawn gigs a digwyddiadau arbennig — o’r dangosiad arbennig o’r campwaith swrrealaidd cynnar, Nosferatu, ynghyd â sgôr fyw gan Steepways Sound Collective (t19) i From Now On, ein gŵyl gerddoriaeth anturus (t12-13), sy’n cynnwys detholiad ardderchog o fandiau yn hanu o Los Angeles, Caerdydd a llawer man arall hefyd. Ydych chi’n dechrau eich noson gyda thamaid i’w fwyta yn ein Caffi Bar? Gallwch barhau ar eich taith gerddorol yng nghwmni arddangosfa gyfredol Celfyddyd yn y Bar, Hollywood Dooom (t6-7), gan Stanley Donwood — mae e’n enwog am ei waith ar y rhan fwyaf o gloriau recordiau Radiohead. Ategir ein mis prysur o berfformiadau, arddangosfeydd a ffilmiau gan raglen addysg gynhwysfawr a digonedd o weithdai a gweithgareddau i’r teulu cyfan. Ewch i dudalen 28 i weld sut y gallwch chi gymryd rhan. Gobeithiwn yn fawr y mwynhewch chi’r hyn sydd gennym i’w gynnig ym mis Chwefror. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

Croeso02 chapter.org

Delwedd y clawr: Only Lovers Left Alive

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

Page 3: Chapter Chwefror 14

chapter.org

Oriel Tudalennau 4-8

Chapter Mix Tudalen 9

Theatr Tudalennau 10–17

SinemaTudalennau 18–27

AddysgTudalen 28

Bwyta Yfed LlogiTudalen 29

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau Tudalen 30

03Uchafbwyntiau

CYMRYD RHAN

Cymryd Rhan Tudalen 31

Calendr Tudalennau 32-33

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/[email protected]

Page 4: Chapter Chwefror 14

Oriel04 029 2030 4400

Tan ddydd Sul 2 Mawrth

Francis Alÿs, Tonico Lemos Auad, Jordan Baseman, Sandra Cinto, Dorothy Cross, Dornith Doherty,Anthony Goicolea, Marc Hulson, Rachel Kneebone, Nathan Mabry, Michael Palm & Willi Dorner, HirschPerlman, Ed Pien, Lucy Reynolds, Sophy Rickett, Paul Rooney, Anj Smith, Fred Tomaselli, DannyTreacy, Bettina von Zwehl a Tom Wood.Mae hi’n 3 o’r gloch y bore, awr y blaidd, ac r’ych chi ar ddihun. A fydd y nos yn eich arwain i diroedd anhysbys? A gewch chi eich llyncu gan eich dychymyg? A fydd y tywyllwch yn eich goresgyn?Mae’r arddangosfa hon yn archwilio’r cyflyrau meddwl sy’n gysylltiedig â’r oriau mân. Mae 3 o’r gloch y bore yn ofod diderfyn, yn cynrychioli rhyddid ac antur. Y mae hefyd yn ysbaid rhwng dau gyflwr. Awr i fodau diobaith ac unig, awr yn llawn ysbrydion ac angenfilod, ac awr o natur wyllt, wrth i anifeiliaid fentro allan.Mae’r arddangosfa hon yn gwahodd

dau-ar-hugain o artistiaid i fentro i fannau tywyllaf y nos — cyfnod ein hanturiaethau mwyaf gwallgo’ a’n hofnau dyfnaf. Mae eu gweithiau yn archwilio cyffroadau agwyrdroadau’r nos.Mae 3am: wonder, paranoia and the restless night yn arddangosfa gan Bluecoat a guradwyd gan AngelaKingston. Mae catalog 3am, sy’n cynnwys lluniau o’r gweithiau ynghyd ag ysgrifau amdanynt, ar gael gan Wasg Prifysgol Lerpwl, a gellir ei brynu yn Chapter.

3AM: wonder, paranoia and the restless night

Arddangosfa ar agor:Dyddiau Mawrth, Mercher,Sadwrn a Sul 12-6pm;dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm;ar gau ar ddydd Llun

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Ed Pien, Topsy Turvy, 2012. Inc ar bapur, 76.2 x 114.3 cm, Gyda chaniatâd yr artist, Pierre-François Ouellette Art Contemporain, Montreal, a Birch Libralato, Toronto; Sandra Cinto, Nights of Hope, 2013, inc annileadwy ar ffabrig, pren ac alwminiwm, dimensiynau amrywiol, comisiwn gan y Bluecoat Liverpool, llun: Warren Orchard; Tonico Lemos Auad, Sleep Walkers, 2009. Les o Frasil a Gwlad Belgian a darnau trydanol, 17 o lanternau wedi’u gwnïo â llaw. Dimensiynau amrywiol. Darn unigryw mewn cyfres o dri amrywiad. Gyda chaniatâd yr artist a MUHKA (Museum van Hedendaagse Kunst Antwerpen); Lucy Reynolds, Lake (Nocturne), 2009, ffilm 16mm, gyda chaniatâd yr artist.

Page 5: Chapter Chwefror 14

Oriel 05chapter.org

DIGWYDDIADAU

Sgwrs am 2Sad 8 + Sad 22 Chwefror 2pmCynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein arddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Samuel Hasler. Yn deithiau a sgyrsiau anffurfiol, mae’r rhain yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau unigryw yr artist. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw bob amser yn ddiddorol ac yn agored. RHAD AC AM DDIM

Tooth & ClawrMaw 11 Chwefror 7pm Yn ôl am y tro cyntaf eleni â fformat fymryn yn wahanol, bydd Tooth & Clawr, gyda Phil Owen o Arnolfini a Catherine Angle o Chapter, yn canolbwyntio ar rai o themâu a syniadau ein harddangosfa gyfredol, ‘3am: wonder, paranoia and the restless night’.Bydd testunau dethol ar gael ar y noson ac fe ddefnyddir y rhain i sbarduno dadleuon cyffrous a difyr. Felly ymunwch â ni i rannu eich barn, i gyfrannu testun neu i eistedd a gwrando — mae croeso cynnes i bawb.£3 (Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda)

Page 6: Chapter Chwefror 14

Oriel06 029 2030 4400

Mae Stanley Donwood yn llawn direidi. Mae e mor hoff o chwarae â’n canfyddiad o realiti a bywyd go iawnag y mae o greu ei ddarnau celf. Mae’n cynnig llygedyn o oleuni sydd fel petai’n egluro pethau ond, o edrych yn fanylach, fe gewch chi bod ffynhonnell y golau’n artiffisial neu’n anhysbys. R’ych chi’n ymdroelli mewn gwe o ddehongliadau ac yn ymgolli yn eich dadansoddiadau eich hun. Nid yw’r real yn real. Mae datganiadau a sylwadau yn gwrthddweud ei gilydd. Mae Donwood yn solet, ond mae hi’n amhosib cael gafael gadarn arno.Os oes yna neges yng ngweithiau Donwood, mae’r neges honno’n mynnu bod ystyr a chanfyddiad yn bethau cymhleth. Mae safbwyntiau’n newid. Caiff y cyd-destun ei ystumio.Mae ei gasgliad Lost Angeles yn gyfres o doriadau leino wedi’u hysbrydoli gan Ddydd y Farn ac yn cynnwys y panorama enfawr, Hollywood Dooom. Wedi’i gerfio’n wreiddiol ar ddeunaw o baneli linoliwm unigol, cyn i’r cyfan gael ei lathru â llaw ar bapur Kozo o Japan, mae’r gwaith yn dangos Dinas yr Angylion yn

cael ei datgymalu a’i rhwygo mewn ffyrdd cwbl ddiamwys.Ond nid yw Lost Angeles yn feirniadaeth un-llygeidiog o’n diwylliant materol modern. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch chi fwy a mwy o gyfeiriadau, mwy o elfennau, mwy o ystyron a chyd-destunau. Edrychwch ar unrhyw un o weithiau Donwood ac fe welwch chi mor gymhleth y gall delwedd ymddangosiadol syml fod.Fe welwch chi, yn union fel y mae bywyd Donwood ei hun yn jig-so o ddarnau o wybodaeth a hannergwirioneddau, bod y gwaith hefyd yn jig-so o ddylanwadau, ystyron a chanfyddiadau. Hyd yn oedpan mae e fel petai’n eich tywys chi at farn sefydlog, fel yn Lost Angeles, mae’n eich tywys at ddarnau ynunig o’r pos. O ran y gweddill, wel, rhaid i chi ei ddehongli drosoch chi’ch hun.Jon SeversMae Jon Severs yn awdur a newyddiadurwr llawryddMae’r testun hwn yn fersiwn wedi’i thalfyrru o draethawd a gomisiynwyd gan ac sydd ar gael yn Chapter.

CELFYDDYD YN Y BAR Stanley Donwood: Hollywood DooomTan ddydd Sul 2 Mawrth

Page 7: Chapter Chwefror 14

Oriel 07chapter.org

BywgraffiadGanwyd Stanley Donwood ym 1968 yn Essex ac mae e bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerfaddon.Enillodd Donwood gydnabyddiaeth ym 1994 pan ddechreuodd greu gwaith ar gyfer albymau’r grŵp rocbyd-enwog, Radiohead. Ers hynny, defnyddiwyd ei waith ar 15 o senglau, 9 EP a gwahanol albymau stiwdio gan gynnwys The Bends, Kid A, OK Computer, a Hail to the Thief.Yn ogystal â’i waith gyda Radiohead, mae Donwood wedi arddangos mewn orielau ledled Ewrop, Asia a’rUnol Daleithiau. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: ‘Far Away is Close at Hand in Images ofElsewhere’, The Outsiders, Llundain: ‘The Drawing Room’, Atoms For Peace Pop Up, The Enterprise, Llundain (2013) ‘Lost Angeles’ Subliminal Projects, Los Angeles, UDA (2012), ‘Minotaur’, Twneli’r Old Vic,Llundain, y DG (2011), ‘RED MAZE’ Schunck, Heerlen, Yr Iseldiroedd (2010); ‘Palimpsest’ Oriel Mondo Bizzarro, Rhufain, Yr Eidal, ‘OVER NORMAL’, Oriel Fifty24SF, San Francisco, UDA (2010), ‘I LOVE THE MODERN WORLD’ Oriel Tokyo + BTAP, Tokyo (2008)

Stanley Donwood, Hollywood Dooom, 2013. Photo: Warren Orchard

Page 8: Chapter Chwefror 14

Oriel08 029 2030 4400

Mae gan Andy Fung arddull ddarluniadol unigryw sy’n gyfuniad o egwyddorion swrealaeth a diwylliant pop.Yn rhydd a chwareus, mae ei fersiynau o iwtopia graffig yn ymddangos ar gynfasau ond maent hefyd yn ymddangos, yn fwy annisgwyl efallai, ar ffurf paentiadau uniongyrchol ar fur. Fel graffiti, maen nhw’n gwrthsefyll prosesau masnachol ac yn para tan i rywun beintio drostyn nhw.Wedi dweud hynny, mae hi’n anos diffinio’r sffêr sy’n ffynhonnell i’r gweithiau hyn. Graffiti go iawn, darluniau gwyddonias, celfyddyd ffantasïol, cartwnau, dylunio graffeg a diwylliant cerddoriaeth a chlybio, ynghyd â’r hyn sy’n organig ym myd natur — caiff y cyfan ei hidlo drwy anymwybod yr artist. Mae ei waith yn teimlo’n ddyfodolaidd ar adegau, y math o gelfyddyd y gellid ei dychmygu’n rhan o ffilm wyddonias, wedi’i gosod mewn dyfodol lle mae’r cysylltiad â’r gorffennol wedi’i rwygo neu’n ddim ond atgof annelwig.Ar gyfer ei gomisiwn i Chapter, mae Andy wedi creu gwaith safle-benodol — màs o siapiau a ffurfiau, pob un wedi’i rendro’n fanwl ac yn dod i’r amlwg fel tonnau seicedelig o dwll du.

BywgraffiadCwblhaodd Andy radd BA yn Ysgol Celfyddyd a Dylunio Falmouth a gradd MA yn UWIC, Caerdydd, lle mae ebellach yn byw ac yn gweithio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys ‘Customisation Piano’, Oriel Marburae, Macclesfield, ‘Chasing the Line’, Mello Mello, Lerpwl (y ddau yn 2013); ‘Artist Cymreig y Flwyddyn’, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (2012) a chomisiwn safle-benodol ar gyfer y Boiler House, Caerdydd (2011). Cyflwynodd arddangosfa unigol yn Oriel UNI.ART, Gothenburg, Sweden, ym mis Tachwedd 2013, ac mae e’n gweithio ar y foment gyda DEBUT Contemporary, Llundain.Ar y cyd â’i waith celfyddydol, mae Andy yn aelod o No Thee No Ess. Rhyddhawyd eu halbwm, ‘Spring DawnGlow’ llynedd, ac fe gafodd trydydd albwm ei brosiect solo, Cymbient, ‘I Saw Energy’ (Folkwit Records) eiryddhau ym mis Mawrth 2013.www.andyfung.co.uk

BLWCH GOLAU Andy Fung: Tech WavesTan ddydd Llun 31 Mawrth

Andy

Fun

g, T

ech

Wav

es, 2

013

Page 9: Chapter Chwefror 14

Chapter Mix 09chapter.org

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 2 Chwefror 8pmStraeon ar Droad y Flwyddyn — straeon a chaneuon i nodi diwedd y gaeaf. Croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Clwb Comedi The DronesGwe 7 + Gwe 21 Chwefror Drysau’n agor: 8.30pm. Perfformiad: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener bob mis. £3.50 (wrth y drws)

ON THE EDGE:Number 5 Cwmdonkin DriveGan Liz WrideMaw 11 Chwefror 8pmMae dathliadau pen-blwydd Tom Dylan yn 18 oed yn digwydd ar yr un diwrnod â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas. Ac mae yna gyd-ddigwyddiad arall: mae ei rieni ac ef yn byw ym man geni Dylan, sef 5 Cwmdonkin Drive. Yn nrama ddigrif Liz Wride mae rhai o gymeriadau Dylan Thomas yn dod yn fyw er mwyn sicrhau bod Tom yn mwynhau pen-blwydd i’w gofio.Cyfarwyddo gan D J Britton.£4

DARLITH SWDFASY defnydd o bapur wal mewn cartrefi Prydeinig (1685 – y presennol): Diana LloydIau 13 Chwefror 2pmDechreuodd papur wal gael ei ddefnyddio o ddifrif ar ddiwedd yr 17eg ganrif, pan oedd Llundain yn ganolfan gynhyrchu o bwys. Erbyn y 18fed ganrif, roedd papur wal hefyd yn cael ei greu yn Leeds ac yn Efrog ac roedd y Madame de Pompadour ei hun yn un a archebai bapur wal ar gyfer ei fflatiau preifat.£6 (wrth y drws yn ddibynnol ar le)

Jazz ar y Sul Sul 19 Chwefror 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIM

Hadau ar ddydd SadwrnSad 22 Chwefror 11am — 2pmCyfle gwych i rannu eich hadau, planhigion ac offer garddio diangen, ac i ddysgu gan arddwyr profiadol am faterion fel hogi a chynnal eich offer garddio a chadw gwenyn. Dod â’r teulu gyda chi? Fe fydd yna weithgareddau i blant wedi’u trefnu gan Grŵp Gerddi Cymunedau Treganna a Caerdydd yn ei Blodau.I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Sue Waring, [email protected] neu Ruth Mumford, [email protected] neu ffoniwch (029) 2068 4000.

Music Geek MonthlyIau 30 Ionawr 8pm + Sad 8 Chwefror 3.30pmIau 27 Chwefror 8pm + Sad 15 Mawrth 3.30pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn.RHAD AC AM DDIMwww.musicgeekmonthly.tumblr.com

Clonc yn y CwtshBob dydd Llun 6.30 — 8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIMAr y cyd â Menter Caerdydd

Page 10: Chapter Chwefror 14

Theatr10 029 2030 4400

Llei

siau

Page 11: Chapter Chwefror 14

Theatr 11chapter.orgLl

eisi

au

GALW AM GYFRANOGWYR

Lleisiau/VoicesMae “Lleisiau/Voices” yn brosiect perfformio a gynhyrchir drwy gyfrwng partneriaeth greadigol rhwng Chapter a good cop bad cop. Comisiynwyd y prosiect yn rhan o ŵyl 100 Dylan Thomas, rhaglen flwyddyn o hyd o weithgareddau diwylliannol ac academaidd i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas.Nod Lleisiau/Voices yw datgelu a chyflwyno i’r cyhoedd y defnydd eang a wneir o’r llais yn nwy iaith swyddogol Cymru, ac mewn ieithoedd eraill a siaredir gan drigolion Cymru. Bydd yn cyflwyno perfformiadau byw a recordiadau o gyfoeth o arddulliau, fformatau a thechnegau lleisiol o Gymru a thu hwnt. Nod Lleisiau/Voices yw rhoi sylw i enghreifftiau mwy anarferol o’r ffyrdd y defnyddir y llais, boed hynny yn y gweithle neu mewn cyd-destunau eraill. Arwerthwyr, sylwebyddion, galwyr bingo, bugeiliaid, gwerthwyr papurau newydd, artistiaid trosleisio, dynwaredwyr adar, chwibanwyr, iodelwyr a ffurfiau lleisiol Cymreig unigryw fel cyd-adrodd a chanu penillion.Bydd y prosiect yn mynd ar daith yn ystod hanner cyntaf 2014 a bydd croeso i bob un gyflwyno ei arbenigedd lleisiol ei hun yn ystod ein diwrnodau agored. O’r fan honno, byddwn yn dewis pobl i gymryd rhan mewn cyfres o dri pherfformiad byw yn Chapter, rhwng 8 a 10 Mai.Os na fyddwch yn gallu mynychu un o’r diwrnodau agored, bydd cyfle i chi gyflwyno recordiadau sain a fideo hefyd ac fe gynhwysir detholiad o’r rhain yn y cyflwyniad byw, yn ogystal â chyfraniadau dethol a phenodol o Efrog Newydd, Seland Newydd a Chymru.Dyddiau agored:Sad 1 Chwefror: Chapter, CaerdyddSad 15 Chwefror: Y Ffwrnes, Llanelli Sul 16 Chwefror: Theatr Mwldan, AberteifiSad 15 Mawrth: Canolfan Gymunedol Hirael, Bangor Sul 16 Mawrth: Oriel Wrecsam, Wrecsam

Am fwy o wybodaeth: [email protected] www.chapter.org/Lleisiau www.facebook.com/Lleisiau #gcbcLleisiau

Gweithdy Grŵp Gŵyl Berfformio CaerdyddYn wythnosol o ddydd Iau 6 Chwefror ymlaen 7.30pmYm mis Mehefin 2014, bydd Chapter yn cynnal Gŵyl Berfformio Ryngwladol newydd, wedi’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr theatr a chyn-Raglennydd Theatr Chapter, James Tyson (Intangible Studio). Bydd yr ŵyl yn gyfle i ymwneud ag artistiaid y mae eu gwaith yn estyn syniadau am bosibiliadau celfyddyd, a gwaith sydd yn seiliedig ar syniadau am le a newid cymdeithasol a chymunedol. O fis Chwefror ymlaen, bydd James yn arwain gweithdy/trafodaeth/grŵp astudio wythnosol i artistiaid, cynulleidfaoedd a myfyrwyr lleol er mwyn archwilio rhai o syniadau a chyd-destunau’r ŵyl. Bydd yna wahoddiad hefyd i gynnig modelau posib ar gyfer creu gwaith, boed hynny’n unigol neu mewn modd cydweithredol. Er mwyn mynychu Gweithdy Grŵp Gŵyl Berfformio Caerdydd, anfonwch e-bost i nodi’ch diddordeb at [email protected]

Page 12: Chapter Chwefror 14

Theatr12 029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Bridget Hayden, llun: Dirk de Aantrekker; Lucky Dragons, llun: David Horvitz; Laura J Martin, llun: Jvon Wuxga; Richard Dawson, llun: Declan Kelly

Page 13: Chapter Chwefror 14

Theatr 13chapter.org

From Now OnGwe 14 — Sad 15 ChwefrorGŵyl o gerddoriaeth anturus sy’n cyflwyno amrywiaeth o artistiaid Cymreig a rhyngwladol.

Euros Childs, Lucky Dragons, Richard Dawson, Laura J Martin, Rhodri Davies, Thought Forms, Trwbador, Dan Haywood, Bridget Hayden, R. Seiliog, Serafina Steer, Trust Fund, Hail! The Planes, Tender Prey, Aidan Richard Taylor, Gwenno, Serafina Steer, The Jelas + grwpiau eraill i’w cadarnhau.

Gŵyl newydd o gerddoriaeth a sain heb ffiniau wedi’i churadu gan Shape Records.Mae’r grwpiau’n cynnwys y band arbrofol o LA, Lucky Dragons, sy’n adnabyddus am eu dulliau cyfranogol o greu cerddoriaeth a sioeau byw radical a chynhwysol, perfformiad piano solo arbennig gan Euros Childs a’r ffliwtydd seicedelig, Laura J Martin, o Lerpwl.Bydd dau o gerddorion ymylol mwyaf diddorol y DG, y telynor blaengar Rhodri Davies a’r trwbador ôl-werin, Richard Dawson, yn perfformio’n unigol ac yn cyflwyno hefyd eu deuawd gydweithredol nodedig, ‘Hen Ogledd’.Tocynnau: Dydd Gwener: £12 Dydd Sadwrn: £15 Y ddau ddiwrnod: £25

I weld y rhaglen lawn ac i gael gwybodaeth bellach, ewch i fromnowonfestival.co.ukCynhyrchir From Now On gan Shape Records a Chapter.shaperecords.co.ukGyda chefnogaeth cynllun New Music Plus Sefydliad Cerddoriaeth PRS y DG.

Mark Daman ThomasShape Records (sy’n gweithio gyda Chapter ar gynllun New Music Plus Sefydliad Cerddoriaeth PRS). Dw i’n edrych ymlaen at ‘From Now On’, gŵyl newydd o gerddoriaeth anturus a gynhelir ar 14 & 15 Chwefror. Mae’r bandiau dw i wedi eu dewis yn herio diffiniadau ac yn gweithio y tu hwnt i’r brif ffrwd. Cafodd pob un o’r bandiau ei ddewis ar sail agwedd unigryw ac anghyffredin at gerddoriaeth. Dw i wrth fy modd bod Lucky Dragons yn dod i Gaerdydd — gellid diffinio eu perfformiadau fel celfyddyd sonig yn ogystal â cherddoriaeth. Bydd yr ŵyl yn ddeuddydd o gerddoriaeth ddifyr, archwiliadol a gwefreiddiol. Welwn ni chi yno!

Page 14: Chapter Chwefror 14

Theatr14 029 2030 4400

CLWB IFOR BACH YN CYFLWYNO

Steve Eaves + Blodau GwylltionSul 2 Chwefror 8pm Bu Steve Eaves yn perfformio fel cerddor ers dros 40 mlynedd. Daeth i amlygrwydd fel bardd ac mae disgyblaeth gynnil ei grefft barddol i’w gweld yn glir yn ei ganeuon. Y blŵs yw’r dylanwad pennaf ar ei waith, ond mae yna hefyd ddylanwadau o fyd jazz a gwahanol fathau o ganu roc a gwerin. Yn ystod gwanwyn 2011, cyhoeddwyd ‘Ffoaduriaid’, casgliad 5 CD o’i hen recordiadau, sy’n cynnwys saith albwm a nifer o ganeuon unigol a gyhoeddwyd rhwng 1984 a 1999. Mae Steve wrthi ar hyn o bryd yn recordio albwm newydd.£10/£8

In Chapter 16: SosialaethIau 27 Chwefror 8pmMae In Chapters yn dychwelyd ac yn codi’r faner goch. Fel bob amser, bydd cast amrywiol o gerddorion ac awduron sefydledig ac addawol yn perfformio gwaith newydd yn seiliedig ar thema’r mis. Eich Cynrychiolwyr Undebol ar gyfer y noson unigryw hon fydd John Williams (geiriau) — sydd newydd ysgrifennu cofiant i’r chwyldroadwraig nodedig, Eartha Kitt — a Richard James (cerddoriaeth) — a fu’n lledaenu’r efengyl am ganu gwerin Cymreig yn Nagaland (chwiliwch ar fap!).£6/£5

The Furrow CollectiveMaw 15 Chwefror 8pmRachel Newton, Lucy Farrell, Emily Portman ac Alasdair Roberts.Mae’r grŵp newydd hwn yn dwyn ynghyd bedwar o gerddorion gwobrwyol gorau sîn werin y DG er mwyn archwilio byd tywyll a rhyfedd canu baledi. Bydd pob canwr yn cyflwyno perlau llai adnabyddus o’r repertoire traddodiadol i gyfeiliant eclectig telyn, gitâr, fiola, consertina, banjo, llif gerddorol a harmonïau bywiog. Ag arddull feiddgar, fyrfyfyriol, maen nhw’n cyfleu eithafion amrwd a pheth o hud a lledrith byrhoedlog baledi â thechnegau chwedleua wrth galon y perfformiad. Mae Emily ac Alasdair yn adnabyddus ill dau am eu caneuon gwreiddiol, wedi’u dylanwadu gan lên gwerin ac, ar ôl cael eu hunain yn perfformio yn yr un cyngherddau, fe benderfynon nhw gydweithio, rhannu’r un llwyfan a chydweithio ar eu recordiau ei gilydd. Mae Lucy a Rachel fel ei gilydd yn artistiaid unigol hudolus. Maen nhw hefyd yn gerddorion sesiwn y mae galw mawr am eu gwasanaeth ac maent yn cydweithio’n rheolaidd yn rhan o driawd Emily Portman.Bydd y grŵp yn rhyddhau albwm ym mis Chwefror 2014 ar label Furrow Records.£10/£8

Carreg Lafar a Ffrindiau Gwe 28 Chwefror 8pmBu Carreg Lafar yn perfformio ar y sîn werin yng Nghymru ers rhyw 20 mlynedd ac mae eu perfformiadau angerddol a bywiog wedi newid agweddau llawer o bobl at gerddoriaeth werin Gymreig. Â chyfuniad o gerddoriaeth draddodiadol a gwreiddiol, mae’r grŵp yn cyfleu ysbryd iach ag egnïol y mae ei wreiddiau’n ddwfn yn nhraddodiadau canu a dawnsio Cymru. Recordiodd y band EP newydd, ‘Y Cadno’, yn ddiweddar ac maent yn bwriadu rhyddhau albwm newydd eleni. £10/£8

The

Furr

ow C

olle

ctiv

e

Page 15: Chapter Chwefror 14

Theatr 15chapter.org

CHOLMONDELEY PRODUCTIONS YN CYFLWYNO

Ladies and GentlemenMaw 4 — Sad 8 Chwefror 7.30pmSoirée swynol a hwyliog o gerddoriaeth, hud a lledrith a dawns. Yng nghanol amrywiaeth o bropiau rhyfedd, mae disgynyddion olaf teulu ‘music hall’ chwedlonol yn mynd ati’n ddiwyd i geisio ail-greu darnau o sgetsys, golygfeydd a jôcs mewn ymgais ofer i chwythu bywyd newydd i’w sioe ‘Music Hall’ anghofiedig.Perfformwyr: Gareth Clark, Lauren Lee-Jones, Belinda Neave, Marega Palser, Caroline Sabin a Bert Van Gorp.Coreograffi a chyfarwyddo: Lea Anderson Geiriau, cerddoriaeth a chyfarwyddo cerddorol: Steve Blake Cynllunio: Tim SpoonerGyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Coreo Cymru a Chapter£10/£8

MAI OH MAI PRODUCTIONS AR Y CYD â THEATR Y TORCH A CHAPTER YN CYFLWYNO

The Harri Parris: The Big DayIau 20 – Sad 22 Chwefror 8pmDrama gomedi newydd sbon gyda chaneuon gan y criw a gyflwynodd ‘The Leaving Do.’Mae’r Harri-Parris wedi bod yn paratoi ar gyfer priodas Anni ers misoedd ac yn awyddus i ddathlu’r diwrnod mawr gyda chi. Wel, nid y diwrnod mawr ei hun — ‘dyn nhw ddim yn graig o arian. Beth am y noson flaenorol? Y noson y maen nhw’n mynd i gwrdd â dyweddi Anni am y tro cyntaf. Mae yna wahoddiad i chi hefyd i ddod i gael cip arno.Beth fydd barn yr Harri-Parris ar ddyn newydd Anni? Beth fydd ei farn e ar ei deulu yng nghyfraith o Orllewin Cymru? Tynnwch eich hetiau crand o’r cwpwrdd ac ymunwch â’r Harri-Parris am noson o ganeuon, straeon a chacen.Ysgrifennu gan Llinos MaiCyfarwyddo gan Owen LewisGyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr y Torch a Chapter. £12/£10

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Lad

ies

and

Gent

lem

en, T

he H

arri

Parr

is: T

he B

ig D

ay

Page 16: Chapter Chwefror 14

Theatr16 029 2030 4400

GO FASTER STRIPE

Robin InceMer 5 Chwefror 8pmMae Robin Ince yn dychwelyd i recordio ei DVD newydd, ‘The Importance of Being Interested.’Bydd y sioe yn cynnwys Robin a’i liniadur a sgyrsiau am Charles Darwin, Richard Feynman, Aristotle a’r pleser o gasglu cregyn ar y traeth a sylweddoli bod bod yn hunanymwybodol mewn bydysawd enfawr yn beth da ar y naw.Robin yw cyflwynydd y sioe Infinite Monkey Cage ar Radio 4 – rhaglen a enillodd wobr Sony Aur. Ac mae hi’n bosib y bydd hwn yn gyfle i chi glywed y gyfrinach am wallt hyfryd yr Athro Brian Cox.£10

Mitch Benn is the 37th Beatle Iau 13 Chwefror 8pmMae sioe newydd Mitch yn cyfuno’i fagwraeth ar Lannau Mersi, ei hoffter o gerddoriaeth a’i obsesiwn â meibion enwocaf Lerpwl. Mae Mitch yn bendant iawn nad sioe deyrnged mo hon ac er nad yw ei hoffter o’r pedwarawd byd-enwog yn gyfrinach, gallwch ddisgwyl enghreifftiau lu o’r dychan sy’n nodweddu ei waith. Fel y dywed Mitch ei hun: “Mae llawer wedi hawlio’r teitl ‘Y Pumed Beatle’. Allan nhw ddim i gyd fod yn gywir; roedd rhai yn fwy cywir na’i gilydd...”£12/£10(Oed 16+)

“Bydd unrhyw un sy’n hoffi cerddoriaeth, yn casáu Simon Cowell ac yn hoffi dysgu pethau newydd wrth ei fodd.” Chortle

SHOW AND TELL YN CYFLWYNO

Simon Munnery: Fylm Sad 1 Mawrth 8pmMae’r digrifwr arobryn Simon Munnery yn rhoi cynnig unwaith eto ar lanw’r gwagle rhwng ffilm a chomedi fyw, yn ei sioe fyw ffylm-tastig ddiweddaraf — dilyniant i’w waith nodedig ‘Fylm Makker’. Mae ‘Fylm’ yn sioe sy’n llawn comedi feiddgar a dychmygus a sgetsys byw. Caiff y cwbl oll ei berfformio gan Simon o’i sedd ymhlith y gynulleidfa a’i daflunio’n fyw ar sgrin fawr. Mae Simon yn gyfrannwr rheolaidd at raglenni fel Stewart Lee’s Comedy Vehicle (BBC2), The Culture Show, The Alternative Comedy Experience ar Comedy Central a’r News Quiz ar Radio 4.Enwebwyd Simon am Wobr Comedi Prydain a Gwobr Perrier ac mae e’n enillydd Gwobr Chortle a Gwobr Radio Sony. £12/£11/£10

“Mae yna fwy o syniadau disglair yn un o sioeau Munnery nag yng ngyrfaoedd cyfain rhai digrifwyr eraill.” The Times

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: R

obin

Ince

, Mit

ch B

enn,

Sim

on M

unne

ry

Page 17: Chapter Chwefror 14

Theatr 17chapter.org

TIN SHED THEATRE

Of Mice and MenIau 6 + Gwe 7 Chwefror 8pm “Mae angen rhywun ar ddyn — i fod yn gwmni iddo. Dim ots pwy yw e, dim ond ei fod e gyda chi.”Mae Of Mice and Men yn adrodd hanes George Milton a Lenny Small, dau ddyn gwahanol iawn y mae rhagluniaeth wedi’u rhwymo at ei gilydd. Yng nghyd-destun y Dirwasgiad Mawr Americanaidd, mae’r prif gymeriadau truenus yn ffurfio cynllun i gefnu ar eu bywydau tlawd a dechrau o’r newydd. Mae’r cyfan yn ymddangos yn syml — ac efallai taw dyna pam y mae’r cynllun mor atyniadol — ond mae gan dynged gynlluniau eraill ar eu cyfer.Prin fod angen cyflwyno Of Mice and Men gan John Steinbeck. Ers y cyflwyniad llwyfan cyntaf ym 1937, bu’r gwaith yn hynod boblogaidd yn y theatr ym Mhrydain.Caiff stori afaelgar a dramatig Steinbeck am ddau ddyn a’u breuddwydion ei hadrodd â dewrder a manylder trawiadol gan Tin Shed Theatre Co, cwmni sy’n ymfalchïo yn ei allu i gyflwyno straeon cyfarwydd mewn ffyrdd newydd. Ffurfiwyd y cwmni yn 2008 gan Justin Cliffe, Georgina Harris a Antonio Rimola. £12/£10

“Mae’r bobl yma’n rhyfeddol ac yn llawn talent a dychymyg. Cadwch lygad ar agor am eu cynhyrchiad nesaf.” Buzz Magazine yn sôn am Operation Blackbox

Tree of Leaf and FlameMer 12 Chwefror 7.30pm Chwedlau o’r Mabinogi. Daw crefft y cyfarwydd a sgiliau cerddorol disglair at ei gilydd yn y fersiynau unigryw hyn o’r Mabinogi, straeon hynaf Prydain. Mae Daniel Morden yn un o storïwyr mwyaf poblogaidd y DG. Mae Oliver ac ef eisoes wedi swyno cynulleidfaoedd Chapter yn rhan o The Devil’s Violin Company.Daniel Morden — StorïwrOliver Wilson-Dickson — FfidilDylan Fowler – GitârCyflwyniad ar y cyd â Gŵyl Chwedleua Beyond the Border. Cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru£12/£10/£8(Oed 11+)www.treeofleafandflame.co.uk

“Meistri ar adrodd straeon.” The Guardian

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Of M

ice

and

Men

, Tre

e of

Lea

f and

Fla

me

Page 18: Chapter Chwefror 14

Sinema18 029 2030 4400

Nosf

erat

u

SiNEMA

Page 19: Chapter Chwefror 14

Sinema 19chapter.org

Agor byd o ffilmiau Gyda chefnogaeth gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI www.chapter.org/filmhub

YSTAFELLOEDD TYWYLL:Castell Coch, Sad 1 + Sul 2 ChwefrorCastell Caerffili, Sad 8 + Sul 9 ChwefrorYmunwch â ni mewn dau leoliad gwirioneddol ryfeddol wrth i Ystafelloedd Tywyll deithio i Gastell Coch a Chastell Caerffili i barhau â’r rhaglen hon o ddangosiadau safle-benodol. Bydd y straeon hyn am gariad yn llawn cynhesrwydd ond fydd hynny ddim yn ddigon i warchod rhag oerfel y gaeaf yn ystod y dangosiadau awyr agored hyn, felly gwisgwch ddillad cynnes os gwelwch yn dda. Mae tocynnau ar gael ar ein gwefan www.chapter.org neu o’n swyddfa docynnau 02920 304400.www.darkenedrooms.com

Nosferatu Sad 1 + Sul 9 ChwefrorYr Almaen/1922/94mun/PG. Cyf: FW Murnau. Gyda: Max Schreck, Greta Schroder.

Mae dêl eiddo syml yn arwain gŵr busnes eiddgar i galon ofergoelus bywyd pentrefol, lle mae’r Cownt Orlok arallfydol yn tra-arglwyddiaethu. Mae chwedl fynegiadol swrrealaidd Murnau yn dal i fod yn un o weithiau clasurol traddodiad byd-eang “y ffilm arswyd” ac yn dal i aflonyddu cynulleidfaoedd â’i phŵer hunllefus digamsyniol. Bydd cyfeiliant byw i’r stori gothig hon gan Steepways Sound Collective a fydd yn cynnwys offerynnau acwstig a seiniau wedi’u prosesu. £12/£10

Tangled Sad 1 + Sul 9 ChwefrorUDA/2010/101mun/PG. Cyf: Bryan Howard, Nathan Greno. Gyda: Mandy Moore, Zachary Levi, Donna Murphy.

Mae’r dywysoges hirwallt Rapunzel wedi treulio’i bywyd cyfan mewn tŵr, ond ar ôl iddi syrthio mewn cariad â Bandit sy’n pasio’i thŵr, rhaid iddi fentro am y tro cyntaf i’r byd mawr y tu allan er mwyn dod o hyd iddo.£6

Bride of Frankenstein Sul 2 + Sad 8 ChwefrorUDA/1935/75mun/PG. Cyf: James Whale. Gyda: Boris Karloff, Elsa Lanchester.

Ar ôl i’r Anghenfil ofyn am gydymaith, rhaid i Henry Frankenstein ddod o hyd i’r fenyw berffaith i’w greadigaeth. Wedi’i wreiddio yn is-blot Mary Shelley, derbyniodd y dilyniant hwn i ffilm Whale, Frankenstein (1931), glod gan y beirniaid a’r cyhoedd ac fe ddywedir yn aml taw’r ffilm hon yw campwaith Whale.£12/£10

Edward Scissorhands Sul 2 + Sad 8 ChwefrorUDA/1990/105mun/12. Cyf: Tim Burton. Gyda: Johnny Depp, Wynona Ryder.

Ar ôl i ddyfeisiwr farw cyn cael cyfle i gwblhau ei greadigaeth, mae’r Edward diniwed yn ei gael ei hun â set o gyllyll miniog ar bob braich. Ar ei ben ei hun mewn plasty sy’n dadfeilio, daw un o fenywod Avon i darfu ar ei fywyd unig ac mae e’n ceisio dysgu sut i fyw bywyd ‘normal’ ymysg pobl sydd yn barnu ar sail nodweddion corfforol yn unig.£6

Chapter yn y Tywyllwch: Y Diafol CariadHiraeth a grym nerthol yr enaid unig yw thema ein ffilmiau y mis hwn.

SiNEMA

Brid

e of

Fra

nken

stei

n

Page 20: Chapter Chwefror 14

Sinema20 029 2030 4400

Beth am gymryd eich enaid hoff am bryd o fwyd ac i weld ffilm gothig hyfryd?

Mae pob un o’n ffilmiau San Ffolant (wedi’u nodi â chalon dywyll!) yn rhan o’n pecyn San Ffolant gwych. Am £37.50, gallwch fwynhau dau docyn sinema, pryd o fwyd i ddau a photel o win. (Pris arferol £50).

Destiny — Fritz Lang ♥ Sul 2 Chwefror Yr Almaen/1921/114mun/15. Cyf: Fritz Lang. Gyda: Lil Dagover, Bernhard Goetzke.

Ar ôl taro bargen â’r Angau er mwyn sicrhau atgyfodiad ei gŵr marw, mae menyw ifanc yn cael ei danfon yn ôl i dri chyfnod mewn hanes lle mae’n rhaid iddi chwarae rôl gwraig mewn amgylchiadau tebyg. Os gall hi achub ei chariad, bydd ei bargen yn llwyddo. Hwn oedd archwiliad cyntaf Lang o natur Tynged ac mae’n cyflwyno tri chyfnod cyferbyniol, bob un wedi’i ategu gan gerddoriaeth sy’n cynrychioli natur ddidrugaredd a thywyll Tynged. Bydd HarmonieBand yn cyfeilio ac yn cyflwyno sgôr arbennig a gyfansoddwyd gan Paul Robinson. £12/£10/£8www.harmonieband.com www.paulrobinsoncomposer.co.uk

Night of the Hunter ♥Sul 9 — Maw 11 ChwefrorUDA/1955/93mun/12A. Cyf: Charles Laughton. Gyda: Robert Mitchum, Shelley Winters, Lillian Gish.

Mae dau ddiniweityn ifanc yn cael eu gadael heb dad ar ôl i Pa, sy’n dwyn o fanciau, gael ei grogi. Fe guddiodd ef ei gyfoeth cyn cael ei arestio a buan y clyw ei gyd-garcharor, yr efengylwr sinistr, Harry Powell, am y trysor. Mae Powell yn hela’r plant fel cath yn chwarae a’i hysglyfaeth; mae perfformiad ffyrnig a bythgofiadwy Mitchum yn rhan o stori dylwyth teg dywyll a beiddgar a fydd yn corddi’ch perfeddion.

Her ♥ Gwe 14 — Iau 20 ChwefrorUDA/2013/126mun/15. Cyf: Spike Jonze. Gyda: Joaquin Phoenix, Amy Adams, Scarlett Johansson.

Yn LA yn y dyfodol agos, mae Theodore Twombly yn unig ac yn glaf o gariad ar ôl i’w briodas ddod i ben. Mae e’n gwneud bywoliaeth yn ysgrifennu llythyrau personol ar ran pobl eraill. Ar ôl iddo brynu system weithredu sydd yn diwallu pob un o’i anghenion, maent yn datblygu perthynas annhebygol ac mae eu cyfeillgarwch yn dyfnhau. Stori hyfryd a rhyfedd am gariad modern.

La Belle et La Bête ♥Sul 16 + Maw 18 ChwefrorFfrainc/1946/99mun/is-deitlau/PG. Cyf: Jean Cocteau. Gyda: Jean Marais, Josette Day, Mila Parely.

Mae masnachwr yn mynd ar goll yn y goedwig ac yn cyrraedd castell rhyfedd. Mae’n plygu i godi rhosyn i’w ferch, Beauty, ac mae hyn yn achosi i berchennog y castell – anghenfil — ymddangos. Yn hanner dyn, hanner bwystfil a chanddo bwerau hud, mae’r anghenfil yn dedfrydu’r masnachwr i farwolaeth, oni ddaw un o’i ferched i gymryd ei le. Mae’r Beauty ifanc yn ei haberthu’i hun er mwyn ei thad ac yn teithio i’r castell. Yno, mae hi’n cael nad yw’r bwystfil mor wyllt ac annynol ag yr ymddengys. Mae Cocteau yn cyflwyno byd rhithiol, meddwol lle mae breuddwydion yn cuddio mewn hunllefau.

The General ♥ Sul 23 + Maw 25 Chwefror UDA/1926/89mun/U. Cyf: Buster Keaton, Clyde Bruckman. Gyda: Buster Keaton, Marion Mack.

Ar ôl cael ei alw’n llwfrgi a’i wrthod gan ei gariad a Byddin y Cydffederalwyr am iddo golli ei locomotif i filwyr yr Undeb, mae’r peiriannydd Johnnie Gray yn mynd ar drywydd lladron y trên. Wedi’i ffilmio ar reilffyrdd cul Oregon, mae’r gwaith clasurol hwn o gyfnod y gomedi fud yn llawn cyffro ac asbri nodweddiadol Keaton.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Nig

ht o

f the

Hun

ter,

Her

Page 21: Chapter Chwefror 14

Sinema 21chapter.orgO’

r chw

ith

i’r d

de: O

nly

Love

rs L

eft

Aliv

e, T

he In

visi

ble

Wom

an

Only Lovers Left Alive ♥Gwe 28 Chwefror — Iau 13 MawrthUDA/2013/123mun/15. Cyf: Jim Jarmush. Gyda: Tilda Swinton, Tom Hiddleston, Mia Wasikowska, John Hurt.

Mae’r ffilm ramant fampiraidd hon yn adrodd hanes Adam, fampir hynafol a cherddor tanddaearol sy’n methu ac ymgyfarwyddo â’r byd modern a’r datblygiadau diflas mewn cymdeithas. Ar ôl mynd i chwilio am ei gariad, Eve, cânt eu haduno ond caiff ei ddelfryd ei brofi i’r eithaf gan ei chwaer fach wyllt ac afreolus. Ffilm lawn steil ag iddi drac sain anhygoel a stori gothig aeafol a ‘cool’.

Cyflwyniad i Ffilmiau ArswydNosweithiau Llun, 13 Ionawr — 10 Chwefror 7-9pmYmunwch â’r gwneuthurwr ffilm a’r ffan arswyd, Ben Ewart-Dean, ar gyfer archwiliad dros gyfnod o bumwythnos o themâu a thechnegau ffilmiau arswyd. Bydd pob sesiwn wythnosol yn canolbwyntio ar thema wahanol, o flynyddoedd cynnar ffilmiau arswyd i arswyd gwerin Prydeinig y 1970au, o gyfresi arswydAmericanaidd y 1980au hyd at weithiau arswyd y presennol.Bydd y sesiynau’n cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd a thrafodaethau anffurfiol, ynghyd â detholiad o glipiauo glasuron y genre a gweithiau gwych eraill sy’n llai adnabyddus. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wediarchwilio rhai o gorneli cudd un o feysydd mwyaf diddorol ac amrywiol astudiaethau ffilm.Cost y cwrs yw £55.00 / £45.00, a bydd aelodau’r cwrs yn gallu prynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o ffilmiau tymor Gothig y BFI am bris gostyngol. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion a chysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n swyddfa docynnau i archebu tocynnau.

The Invisible Woman ♥Gwe 28 Chwefror — Iau 6 MawrthDG/2013/111mun/12A. Cyf: Ralph Fiennes. Gyda: Ralph Fiennes, Felicity Jones, Joanna Scanlan, Kristen Scott Thomas.

Mae’r athrawes swil Ellen yn cario’i gorffennol fel carreg drom, wedi’i meddiannu gan atgofion am ei hieuenctid pan oedd hi’n adnabyddus fel actores o’r enw Nelly Ternan ac yn caru’n angerddol â dyn llawer hŷn na hi, yr awdur Charles Dickens. Doedd hi ddim yn bosib i’r garwriaeth, a ddatblygodd ar anterth ei enwogrwydd ef, gael ei chydnabod yn gyhoeddus oherwydd rheolau llym eu cymdeithas ormesol, heb sôn am wraig Dickens a’i ddeg o blant. Roedd Nelly, felly, yn gyfrinach yr oedd yn rhaid ei chadw. Â pherfformiadau cain, mae hwn yn ail ffilm bwerus a chynnil gan y cyfarwyddwr, Ralph Fiennes.

Page 22: Chapter Chwefror 14

Sinema22 029 2030 4400

NT Live: CoriolanusIau 30 Ion + Dangosiad Matinée Encore: Maw 4 Chwefror Cyf: Josie Rourke. Gyda: Tom Hiddleston, Mark Gatiss.

Mae Tom Hiddleston yn chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf diddorol Shakespeare — y cadfridog Rhufeinig alltud sy’n gorfod cydweithio â’i elyn er mwyn dial — yn y fersiwn hir-ddisgwyliedig hon o’r ddrama.Mae tocynnau i’r dangosiadau byw yn £17.50/£14/£13 a thocynnau i’r encore wedi’i recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10.

NT Live: War HorseIau 27 ChwefrorPerfformiadau encore ar ddyddiau Sul 16, Maw 18, Sul 30 Mawrth + Sul 13 EbrillCyf: Nick Stafford.

Yn seiliedig ar nofel Michael Morpurgo, ac wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Nick Stafford, mae War Horse yn arwain cynulleidfaoedd ar daith ryfeddol o gefn gwlad Dyfnaint i ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys pypedau maint llawn gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sydd yn llwyddo i ddod â cheffylau yn fyw ar y llwyfan. Sioe wedi’i darlledu’n fyw o West End Llundain.Mae tocynnau i’r dangosiadau byw yn £17.50/£14/£13 a thocynnau i’r encore wedi’i recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10.

Clwb Ffilmiau Gwael: BailoutSul 2 ChwefrorUDA/1989/87mun/15. Cyf: Max Kleven. Gyda: David Hasselhoff, Linda Blair.

Mae David Hasselhoff a Linda Blair yn dod at ei gilydd mewn ffilm am griw o ‘bounty hunters’ sy’n cael eu recriwtio gan ddyn dirgel i warchod tyst mewn achos llys am gyffuriau. Dim cyffro, dim drama, dim doniau actio — ac 87 munud o’ch bywyd na chewch chi mohonyn nhw’n ôl...Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilm yn cynnwys sylwebaeth fyw ar ei hyd.

Chapter MoviemakerLlun 3 ChwefrorCyfle rheolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos gweithiau newydd. O bryd i’w gilydd,cyflwynir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau, felly awgrymwn bod sesiynau MoviemakerChapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.RHAD AC AM DDIM

NT L

ive:

War

Hor

se

Page 23: Chapter Chwefror 14

23chapter.org Sinema

12 Years a SlaveGwe 24 Ionawr — Iau 6 ChwefrorUDA/2013/134mun/15. Cyf: Steve McQueen. Gyda: Chiwetel Ejiofor, Michael Fassbender, Paul Giamatti, Paul Dano.

Yn seiliedig ar stori wir, a gyhoeddwyd ym 1853, mae Solomon Northup yn ddyn du a anwyd yn rhydd ac sy’n byw yn nhalaith Efrog Newydd yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America. O’i fywyd braf, fel feiolinydd yn byw gyda’i wraig a’i blant, caiff ei fradychu, ei gipio a’i werthu’n gaethwas i blanhigfa yn Louisiana. Yn y fan honno, rhaid iddo ddysgu celu meddylfryd y dyn rhydd rhag ei berchnogion creulon+ Ymunwch â ni am sesiwn Come Along Do, ein trafodaeth reolaidd o gelfyddyd a ffilm gyda Gill Nicol, ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 28 Ionawr am 6pm. Mae tocynnau’n £2.50 ac maent ar gael trwy ein swyddfa docynnau ac ar-lein.

“Dogfen amrwd, huawdl, arswydus ac anhepgorol.” Time

Clwb Ffilm WOW i Ferched Mer 5 ChwefrorMae’r dangosiadau poblogaidd hyn i ferched yn unig yn cynnig cyfle i weld ffilm ac i sgwrsio â ffrindiau hen a newydd.

Mandela: Long Walk to FreedomDG-De Affrica/2013/152mun/12A. Cyf: Justin Chadwick. Gyda: Idris Alba, Naomie Harris.

Yn seiliedig ar hunangofiant Mandela, mae’r ffilm yn archwiliad sensitif o fywyd cynnar yr ymgyrchwrgwrth-apartheid chwyldroadol. Mae’r ffilm yn croniclo ei daith o’i blentyndod mewn pentref gwledig yngnghanol y Xhosa. Mae’n edrych ar ei addysg a’r modd y cafodd ei radicaleiddio, ac yn ei ddilyn o’i gyfnod felcyfreithiwr ifanc cegog drwy’r 27 mlynedd a dreuliodd yn y carchar, cyn iddo gael ei urddo’n arlywydddemocrataidd cyntaf De Affrica.

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Chydlynydd y Clwb Ffilm, Rabab Ghazoul, ar 07759 933311 neu anfonwch e-bost at [email protected]. Pris tocyn £3.50, gostyngiadau’n bosib. Gweler cylchgrawn mis Mawrth am fanylion y dangosiadau a’r digwyddiadau arbennig sy’n rhan o Ŵyl Ffilm WOW, 21-27 Mawrth.www.wowfilmfestival.com

O’r c

hwit

h i’r

dde

: 12

Year

s a

Slav

e, M

ande

la: L

ong

Wal

k to

Fre

edom

CELFYDDYD FFILM

Page 24: Chapter Chwefror 14

Sinema24 029 2030 4400

August: Osage CountyGwe 31 Ionawr — Iau 13 ChwefrorUDA/2013/130mun/15. Cyf: John Wells. Gyda: Meryl Streep, Chris Cooper, Julia Roberts, Benedict Cumberbatch.

Daw merched cryfion teulu Weston, y mae bywyd wedi eu gwahanu, yn ôl at ei gilydd yn ystod argyfwngteuluol sy’n eu harwain yn ôl i’r tŷ yn y Midwest lle cawsant eu magu, ac at y fenyw gamweithredol a’umagodd. Mae cyfrinachau tywyll y teulu yn dod i’r wyneb ar ôl i’r patriarch alcoholig fynd ar goll.

American HustleGwe 31 Ionawr — Iau 13 ChwefrorUDA/2013/129mun/15. Cyf: David O Russell. Gyda: Bradley Cooper, Christian Bale, Amy Adams, Jennifer Lawrence.

Ffilm sy’n edrych ar un o’r sgandalau mwyaf trawiadol yn hanes America. Mae Irving Rosenfeld yn cael eiorfodi i weithio i asiant FBI gwyllt, Richie DiMaso, ac yn cael ei wthio i fyd o wehilion a maffia Jersey, bydsydd ar y naill law yn hynod beryglus ac ar y llaw arall yn gwbl hudolus. Wedi’i ddal rhwng y drwgweithredwyr a’r Feds, mae Carmine Polito yn wleidydd yn New Jersey — ond gwraig ansefydlogIrving yw’r person sy’n bygwth tynnu popeth yn deilchion o’u cwmpas.

The Missing PictureGwe 31 Ionawr — Iau 6 ChwefrorCambodia/2013/90mun/is-deitlau/12A. Cyf: Rithy Panh.

Ym mis Ebrill 1975, pan ddaeth y Khmer Rouge i Phnom Penh, roedd y gwneuthurwr ffilmiau Rithy Panh yn 13 mlwydd oed. Yn sgil y coup milwrol, cafodd cymunedau a theuluoedd eu dinistrio, ynghyd â diwylliant cyfan a’i arteffactau. Heb ffotograffau a chofroddion ei blentyndod, mae Panh yn defnyddio cyfuniad anarferol o ffilm archif ac animeiddio ‘stop-motion’ er mwyn adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd i’w bobl a’i frwydr bersonol ef mewn ffilm ddogfen hypnotig a barddonol.Enillydd Gwobr Un Certain Regard Cannes 2013.

“Mae The Missing Picture yn gosod y sinema yng nghyd-destun hudoliaeth (cyfrwng sy’n gallu trawsffurfio) ac hefyd yng nghyd-destun chwyldro.” Nick McCarthy, Slant

The PatrolGwe 7 — Iau 13 ChwefrorDG/2013/85mun/TiCh. Cyf: Tom Petch. Gyda: Owain Arthur, Nicholas Beveney.

Mae Rhanbarth Helmand yn Affganistan yn un o’r lleoedd mwyaf peryglus ar wyneb y ddaear wrth i’r Fyddin Brydeinig drefnu cyrchoedd i gadarnle’r Taliban. Mae patrôl y fyddin Brydeinig yn ceisio cadw trefn dan amodau cynyddol anodd. Wedi’i ffilmio’n gelfydd, mae’r ffilm yn astudiaeth bwerus wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Petch, a dreuliodd wyth mlynedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, gan gynnwys sawl taith i Fosnia.

Augu

st: O

sage

Cou

nty

Page 25: Chapter Chwefror 14

25chapter.org Sinema

Inside Llewyn DavisIau 7 – Iau 20 ChwefrorUDA/2012/105mun/15. Cyf: Ethan & Joel Coen. Gyda: Oscar Isaac, John Goodman, Carey Mulligan.

Mae Llewyn Davis wedi cyrraedd croesffordd. Gyda’i gitâr a’i gath yn gwmni, ac yng nghyd-destun gaeaf caled Efrog Newydd ym 1961, mae e’n brwydro i wneud gyrfa fel cerddor ar sîn werin Greenwich Village ac yn wynebu rhwystrau sydd fel petaent yn anorchfygol – a rhai ohonynt yn rhwystrau o’i wneuthuriad ei hun. Yn byw ar drugaredd ffrindiau a dieithriaid fel ei gilydd, ac yn gweithio pan all, mae Llewyn yn symud rhwng tai y Village a chlwb gwag yn Chicago — ac yn mynd ar daith i berfformio o flaen ‘mogul’ cerddorol.+ Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar ddydd Llun 10 Chwefror (nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Noys R Us yn The Full Moon

Mae Sinema Chapter, ar y cyd â The Full Moon, yn cyflwyno noson ffilm Noys R Us. Unwaith y mis byddwn yn dangos y ffilmiau alt / roc / metel / pync gorau. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

Anvil! The Story of AnvilLlun 24 ChwefrorDrysau’n agor am 7pm, ffilm am 8pmDG/2008/80mun/15. Cyf: Sacha Gervasi.

Ers 1978, bu Anvil yn un o fandiau metel mwyaf dylanwadol y sîn — ac eto d’yn nhw ddim wedi llwyddo’n fasnachol. Mae’r ffilm ddogfen hon yn dilyn y band wrth iddyn nhw fynd ati i recordio eu trydydd albwm ar ddeg a pharhau i ddilyn eu breuddwydion. Astudiaeth drist a chynnes am ymrwymiad, angerdd a’r egni sydd ei angen i lwyddo waeth beth fo’r gost. Mae Anvil: The Story of Anvil yn dal y berthynas rhwng yr aelodau gwreiddiol, Lips a Rob, a’u helyntion wrth iddyn nhw geisio cyrraedd eu nod o fod yn sêr roc. Mae hi’n freuddwyd sydd mor fyw i’r dynion 50 oed ag yr oedd hi pan oedden nhw yn eu harddegau. Pa un ai ydych chi’n ffan o’r gerddoriaeth ai peidio, mae ‘Anvil: The Story of Anvil’ yn stori wych am gyfeillgarwch, colled a’r awydd hollgynhwysol i lwyddo.Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org a The Full Moon

““Er mwyn cyflawni pethau mawrion mae angen dau beth: cynllun a dim digon o amser.” Leonard Berstein

Insi

de L

lew

yn D

avis

Sine FFonig

Page 26: Chapter Chwefror 14

Sinema26 029 2030 4400

Kill Your DarlingsGwe 14 — Iau 27 ChwefrorUDA/2103/104mun/15. Cyf: John Krokidas. Gyda: Ben Foster, Daniel Radcliffe.

Yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Columbia ym 1944, mae’r bardd Allen Ginsberg yn cwrdd â Lucien Carr y mae ei safbwyntiau angerddol ar gelfyddyd a bywyd yn arwain y bardd ifanc i fyd tanddaearol llenyddol cyffrous ac amgen. Maen nhw’n cwrdd â David Kammerer — dyn hŷn obsesiynol y mae ei serch at Carr yn arwain at drasiedi. Y digwyddiad hwn oedd y ffrwydrad a fyddai’n uno aelodau’r mudiad — Ginsberg, Jack Kerouac a William S. Burroughs — ac yn eu gwthio ar eu teithiau unigol. Golwg feddwol a chyfareddol ar rythm cenhedlaeth y Beats.

“Archwiliad hardd o wir ystyr ysbrydoliaeth.” Damon Wise, Empire

Out of the FurnaceGwe 14 — Mer 26 ChwefrorUDA/2013/116mun/15. Cyf: Scott Cooper. Gyda: Casey Affleck, Christian Bale, Forest Whitaker.

Mae Russell a’i frawd iau, Rodney ,yn byw yn ardal dlawd y Rust Belt ac yn breuddwydio am ddianc i fywyd gwell. Ar ôl tro creulon, mae Russell yn ei gael ei hun yn y carchar ac fe gaiff ei frawd ei hun yn rhan o un o grwpiau troseddol mwyaf treisgar a didostur y Gogledd Ddwyrain. Ar ôl iddo gael ei ryddhau, rhaid i Russell ddewis rhwng ei ryddid ei hun neu geisio cyfiawnder i’w frawd. Ffilm gyffro afaelgar a garw am dynged a chyfiawnder sy’n cynnwys perfformiadau grymus.

Dallas Buyers ClubGwe 21 Chwefror — Iau 6 MawrthUDA/2013/117mun/15. Cyf: Jean-Marc Vallée. Gyda: Matthew McConaughey, Jennifer Garner, Jared Leto.

Mae byd y cowboi homoffobig o Decsas, Ron Woodruff, yn cael ei droi wyneb i waered ar ôl iddo glywed bod HIV arno — a taw deg diwrnod ar hugain yn unig sydd ganddo i fyw. Wedi’i syfrdanu a’i wrthod gan ei hen gyfeillion, mae e’n chwilio am rywbeth, unrhyw beth, i’w gadw’n fyw. Ar ôl smyglo meddyginiaeth anghyfreithlon dros y ffin o Fecsico, mae’n dechrau cyfeillgarwch annisgwyl â brenhines drag o’r enw Reion. Maen nhw’n cydweithio er mwyn gwerthu triniaethau i’r nifer cynyddol o gleifion HIV ac AIDS sy’n cael eu hesgeuluso gan y sefydliad meddygol ac yn dod o hyd i urddas a nerth wrth iddyn nhw frwydro i gael eu derbyn. Stori wir fythgofiadwy am bŵer trawsnewidiol yr awydd i oroesi sy’n cynnwys perfformiadau tanllyd a sgript finiog.

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 25 Chwefror ar gyfer cyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBT Chapter. Ar y cyd â Mis Hanes LGBT.

“Yn Dallas Buyers Club mae Matthew McConaughey yn chwarae rôl sydd yn sicr o blesio aelodau Academi’r Oscars.” The Telegraph

The Wolf of Wall StreetGwe 21 — Gwe 28 ChwefrorUDA/2013/165mun/18. Cyf: Martin Scorsese. Gyda: Leonardo DiCaprio, Jon Favreau, Jonah Hill.

Stori wir Jordan Belfort: mae ganddo long a arferai berthyn i Coco Chanel, cariad sy’n fodel, champagne sy’n llifo’n ddi-baid a chyfoeth rhyfeddol. Roedd ei ddatblygiad — a’i gwymp — ar Wall Street yn cynnwys twyll, y maffia, llygredd a’r llywodraeth ffederal. Drama drosedd gyffrous gan Scorsese a DiCaprio’n pefrio yn y brif ran.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Kill

You

r Dar

lings

, Dal

las

Buye

rs C

lub

Page 27: Chapter Chwefror 14

27chapter.org Sinema

The Hobbit: The Desolation of SmaugSad 22 + Sul 23 ChwefrorSeland Newydd/2013/161mun/12A. Cyf: Peter Jackson Gyda: Martin Freeman, Benedict Cumberbatch, Ian McKellen

Mae Bilbo Baggins, sydd bellach yn meddu ar fodrwy hud, yn teithio gyda Gandalf a’r corachod er mwyn ceisio adennill Erebor, teyrnas goll y corachod, gan Smaug, y ddraig.

YSTafelloeDD TYwYllYmunwch â ni mewn dau leoliad gwirioneddol ryfeddol wrth i Ystafelloedd Tywyll deithio i Gastell Coch a Chastell Caerffili i barhau â’r rhaglen hon o ddangosiadau safle-benodol. Fe allai hi fod yn oer iawn felly gwisgwch ddillad cynnes. Mae tocynnau ar gyfer dangosiadau i deuluoedd yn £6 ac maent ar gael ar ein gwefan www.chapter.org neu yn ein swyddfa docynnau, 02920 304400. Trowch i dudalen 19 am fwy o wybodaeth am ein Ffilmiau Ystafelloedd Tywyll eraill.

Tangled Sad 1 + Sul 9 ChwefrorUDA/2010/101mun/PG. Cyf: Bryan Howard, Nathan Greno. Gyda: Mandy Moore, Zachary Levi, Donna Murphy.

Mae’r dywysoges Rapunzel wedi treulio’i bywyd cyfan mewn tŵr, ond ar ôl iddi gwympo mewn cariad â bandit, rhaid iddi fentro am y tro cyntaf i’r byd mawr y tu allan er mwyn dod o hyd iddo.

edward Scissorhands Sul 2 + Sad 8 ChwefrorUDA/1990/105mun/12. Cyf: Tim Burton. Gyda: Johnny Depp, Wynona Ryder.

Ar ôl i ddyfeisiwr farw cyn cael cyfle i gwblhau ei greadigaeth, mae’r Edward diniwed yn ei gael ei hun â set o gyllyll miniog ar bob braich. Ar ei ben ei hun mewn plasty sy’n dadfeilio, daw un o fenywod Avon i darfu ar ei fywyd unig.

Carry on Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfodpoeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod blwydd oed neu iau.

The Harry Hill MovieSad 1 — Sul 2 + Mer 26 + Gwe 28 ChwefrorDG/2013/88mun/PG. Cyf: Steve Bendelack. Gyda: Harry Hill, Julie Walters, Simon Bird.

Dw i’n hoff iawn o’r rhaglen Harry Hill’s TV Burp a dw i’n hoffi’r ffaith ei fod e wedi gwneud ffilm. Ond pa un yw’r gorau? Dim ond un ffordd sydd yna i ateb y cwestiwn...”FIGHT”!!!

Moshi Monsters: The Movie (2D)Sad 8 — Sul 9 + Maw 25 + Iau 27 ChwefrorDG/2013/81mun/U. Cyf: Wip Vernooij, Morgan Francis. Gyda: Keith Wickahm.

Ymunwch â Katsuma, Poppet, Mr Snoodle a’r Moshi Monsters eraill mewn ffilm lawn cyffro a chanu wrth iddyn nhw rasio i geisio atal y Dr Strangeglove drwg a’i gynorthwy-ydd di-glem, Glump.

The Hunger Games: Catching FireGwe 14 — Sul 16 ChwefrorUDA/2013/146mun/12A. Cyf: Francis Lawrence. Gyda: Jennifer Lawrence, Josh Hutcherson.

Mae’r Capitol yn targedu Katniss Everdeen a Peeta Mellark ar ôl i’w buddugoliaeth yn Hunger Games Rhif 74 danio gwrthryfel yn Panem.

FFilmiau i’r Teulu CyFanDetholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

The

Hung

er G

ames

: Cat

chin

g Fi

re

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

Page 28: Chapter Chwefror 14

Addysg28 029 2030 4400

Animeiddio i Bobl IfaincDyddiau Mawrth rhwng 21 Ionawr a 25 Mawrth 6 — 7.30pmOs ydych chi rhwng 12 a 18 oed ac yn awyddus i ddysgu neu ddatblygu sgiliau animeiddio sylfaenol, a defnyddio iPads, gliniaduron a chamerâu fideo, nodwch eich diddordeb yn ein dosbarthiadau animeiddio rheolaidd, i’w cynnal ar nosweithiau Mawrth. Gallwch archebu lle ar gyfer un sesiwn neu ar gyfer pob un, ond bydd nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Gyda chefnogaeth gan elusen Plant mewn Angen, mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig, ac ar gyfer pobl ifanc ar sbectrwm awtistiaeth. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at [email protected]

Diwrnod Gweithgareddau Ffilm Hanner-TymorMer 26 Chwefror 9am — 5pm Addas i bobl ifainc 12-15 oedYmunwch â’n Swyddog Dysgu a Chyfranogi, Matt Beere, ar gyfer dangosiad o The Hobbit: The Desolation of Smaug, wedi’i ddilyn gan gyfres o weithgareddau a fydd yn archwilio byd ‘Middle Earth’ mewn modd hwyliog a rhyngweithiol. £20 y pen. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Angen pecyn cinio. I archebu lle, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 304400 neu anfonwch e-bost at [email protected]

FFILM YN AFAN: ACADEMI FFILM DEULUOL

Canolfan Gymunedol CroeserwSad 15 Chwefror 10am — 2pmYn rhan o’n cefnogaeth barhaol i’r prosiect ‘Ffilm yn Afan’ yng Nghwm Afan, byddwn yn cyflwyno ‘Academi Ffilm Deuluol’, cyfle i bobl ifainc a’u perthnasau hŷn ddysgu am ffilm gyda’i gilydd. Bydd dangosiad a gweithdy rhyngweithiol mis Chwefror yn canolbwyntio ar Hanes Sinema.

Gweithio gyda’r rheiny sydd mewn perygl o drosedduLlun 24 — Gwe 28 Chwefror 10am — 3pmBydd Chapter yn parhau â’i rhaglen o weithdai i bobl ifainc sydd mewn perygl o droseddu yn ystod gwyliau hanner-tymor. Ar y cyd â Thîmau Troseddwyr Ifainc lleol, byddwn yn cyflwyno wythnos o weithdai wedi’u seilio ar waith yn yr Oriel ac yn gwahodd pobl ifainc i ymateb yn greadigol i’n harddangosfa gyfredol, ‘3am: wonder, paranoia and the restless night’.

I ddod yn fuan: Animeiddio i OedolionDewch i ddysgu sut i animeiddio y gwanwyn hwn! Dewch i ddysgu crefft newydd ar y cwrs Animeiddio i Ddechreuwyr hwn i Oedolion yn Chapter, sy’n dechrau ym mis Ebrill 2014. Gallwch arbrofi â gwahanol dechnegau animeiddio fel darlunio, torri allan, ‘stop-motion’, peintio ar wydr ac animeiddio tywod, a phrofi’r hud o weld pethau’n dod yn fyw o flaen eich llygaid. Arweinir y cwrs gan animeiddiwr proffesiynol gwobrwyol o Winding Snake Productions a bydd yn para am chwe wythnos. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected] weld manylion ein sgyrsiau a’n digwyddiadau yn yr Oriel, trowch i dudalen 5 os gwelwch yn dda.

ADDYSG

Page 29: Chapter Chwefror 14

29chapter.org Bwyta Yfed Llogi

Pop Up ProduceBob dydd Mercher 4 — 7pmMae ein marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasusa chrefftus. Mae Charcutier Ltd yn cynnig y cigoedd gorau wedi’u halltu a’u mygu o Brydain, Ewrop a Gogledd America, mae Sourdough Bakery yn cynnig bara crefftus hyfryd ac, i’r nifer yn eich plith y mae hoffter o bethau melys yn wendid digamsyniol, bydd Your Indulgence yn cynnig cacennau, melysion a siocledi cartref arbennig.

LlogiMae nifer o leoedd a chyfleusterau ar gael i’w llogi yn Chapter, ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gangymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod,cynhadledd, neu er mwyn ffilmio fideo, ar gyfer ymarferion neu weithgareddau tîm, bydd ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Bydd rheolwr ein caffi hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at [email protected]

I ddod yn fuan

Sup ‘n’ Scran Gŵyl Gwrw Swydd EfrogMis Mawrth, dyddiad i’w gadarnhauBob blwyddyn rydym yn hoffi cynnal gŵyl sy’n dathlu archwaeth a bwydydd gwahanol ranbarthau Prydain. Yn 2012, cynhaliwyd Gŵyl Hopscotch, a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o gwrw a chwisgi o’r Alban. Y llynedd, tro Cernyw oedd hi ac roedd ein Gŵyl Peint a Phastai, ‘Perrantide’, yn llwyddiant ysgubol. Yn 2014, rydym wedi penderfynu cynnig blas ar Swydd Efrog i chi. Nid yw’r rhestr gwrw wedi’i chwblhau eto — am fod gan Swydd Efrog ryw 120 o fragdai! — ond gallwch fod yn sicr y byddwn yn cynnig sawl cwrw nad ydyn nhw i’w gweld yn y parthau deheuol hyn fel arfer. O ran bwyd, mae Swydd Efrog yn enwog am brif gyrsiau swmpus a chyfoethog, ynghyd â phwdinau melys, gludiog (ydych chi wedi blasu Parkin Cake?) — a byddwn yn cynnig ein fersiynau ni o’r prydau hyn ar fwydlen yr ŵyl. Felly, os ydych chi’n teimlo’n ‘parky’ ym mis Mawrth, dewch draw i flasu peth o luniaeth ein cymdogion Gogleddol. O.N. Bydd yna waharddiad llwyr ar yr arfer o ‘ferret-legging’ (chwiliwch ar y we...).

BWYTA YFED LLOGi

Page 30: Chapter Chwefror 14

Archebu / Gwybodaeth30 029 2030 4400

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddango-siadau — £4.40

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

GwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys bale, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterSut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map uchod. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Canton

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — safle bws — rac feics

Page 31: Chapter Chwefror 14

31chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Landfill Community FundEsmée Fairbairn FoundationEU Culture ProgrammeThe Baring FoundationGarfield Weston FoundationFoyle Foundation Biffa AwardColwinston Charitable TrustAdmiral Group plcMoondance FoundationFoundation for Sport and the ArtsTrusthouse Charitable FoundationCommunity Foundation in WalesBBC Children in Need The Welsh Broadcasting TrustSEWTA Richer Sounds

The Clothworkers’ Foundation MomentumThe Henry Moore FoundationGoogleJane Hodge FoundationSimon Gibson Charitable TrustPeople’s Postcode TrustDunhill Medical TrustLegal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.VMillennium Stadium Charitable TrustThe Ernest Cook Trust Lloyds TSBMorgan SignsGarrick Charitable Trust BarclaysArts & Business Cymru

PenderynThe Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International FoundationPuma Hotels Collection: Cardiff Angel HotelCardiff AirportWales Arts InternationalGibbs Charitable TrustCeredigion Community SchemeThe Steel Charitable TrustThe Boshier-Hinton FoundationOakdale TrustNelmes DesignThe Coutts Charitable TrustBruce Wake CharityFunky Monkey Feet

Finnis Scott FoundationUnity Trust BankHugh JamesContemporary Art Society for WalesThe Dot FoundryJVHGidden & ReesWestern Power DistributionFollett TrustArts & Kids CymruCanton High School Girl’s ReunionCo-operative GroupIKEARenault CardiffEmbassy of BelgiumQueensland Government

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.