View
227
Download
1
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Croeso i rifyn arbennig y flwyddyn newydd Cynnal Lles, cylchlythyr y Tîm cynaladwyedd am faterion Cynaladwyedd a Lles yn y Brifysgol! Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys golwg ar uchafbwyntiau cynaladwyedd 2014, mae’n cyhoeddi hyrwyddwyr cynaladwyedd y tymor ac yn rhoi’r holl newyddion am gerrig milltir i chi, gan gynnwys canlyniadau Blacowt y Nadolig. Mwynhewch ei ddarllen ac mae croeso i chi gysylltu â ni yn [email protected].
Citation preview
Cynnal Lles 6 Chwefror 2015
Chw
eched
Rhifyn
C roeso i rifyn arbennig y flwyddyn newydd Cynnal Lles,
cylchlythyr y Tîm cynaladwyedd am faterion
Cynaladwyedd a Lles
yn y Brifysgol! Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys golwg ar uchafbwyntiau cynaladwyedd 2014, mae’n cyhoeddi hyrwyddwyr cynaladwyedd y tymor ac yn rhoi’r holl newyddion am gerrig milltir i chi, gan gynnwys canlyniadau Blacowt y Nadolig. Mwynhewch ei ddarllen ac mae croeso i chi gysylltu â ni yn [email protected] neu galwch heibio’r swyddfa yn ystafell 6 ar lawr gwaelod y Techniwm Digidol.
www.swan .ac .uk/susta inab i l i ty/
G o l w g a r Uchafbwyntiau Cynaladwyedd 2014
Cerrig Milltir
Fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd archwiliad allanol o'r Brifysgol ac mae wedi ennill achrediad ISO 14001 a statws Platinwm EcoCampws am yr ail flwyddyn yn olynol.
O ganlyniad i ymdrechion diwyd a chydweithredu gan adrannau ar draws y Brifysgol, mae gweithdrefnau cynaladwyedd yn cael eu gwreiddio ymhellach ac yn parhau i wella gweithrediadau.
Newyddion gwych! Cafodd Prifysgol Abertawe ddosbarth cyntaf unwaith eto yng nghanlyniadau Cynghrair Prifysgolion People and Planet. Mae'r holl waith caled a wnaed y llynedd wedi dwyn ffrwyth wrth i Brifysgol Abertawe symud 18 safle i fyny'r tabl i'r 21ain safle.
Mae'r Brifysgol wedi cael sgôr lawn yn y categorïau canlynol: Polisi amgylcheddol, staff amgylcheddol, system archwilio a rheoli'r amgylchedd ac addysg.
Dyma gamp wych a fydd yn sbarduno'r Brifysgol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n dal i'w hwynebu, fel lleihau gwastraff a charbon a gwella ein gweithdrefnau buddsoddi moesegol.
I weld dadansoddiad llawn o'r sgorau, ewch i dabl cynghrair People and Planet.
Rhagor o newyddion da!
Abbey Cyllid Haldane Keir Hardie Richard Price Tŵr Vivian Y Llyfrgell
Cyfradd ddiffodd Mae'r gyfradd ddiffodd yn dangos arferion arbed ynni, a chaiff ei chyfrifo fel canran yr holl ddyfeisiadau trydanol a gofnodwyd a
oedd wedi'u diffodd gan ddefnyddwyr adeilad.
Canlyniadau Blacowt Mawr y NADOLIG
19%
4%
63%
2% 8%
1%
12%
78%
53%
33%
56%
Ar 5 Rhagfyr, gwnaeth 4 aelod staff ac 11 myfyriwr
wirfoddoli ar gyfer Blacowt Mawr y NADOLIG fel
rhan o ymdrech barhaus y Brifysgol i wella arferion
arbed ynni.
Gwnaed gwaith gwych gan y gwirfoddolwyr a aeth ati
i gofnodi a diffodd dyfeisiadau diangen lle bynnag yr
oedd modd a gwobrwyo staff am arbed ynni drwy roi
losin iddyn nhw. Byddai'r digwyddiad wedi bod yn
amhosib heb ddiwydrwydd a chefnogaeth frwd ein
gwirfoddolwyr a Gwasanaeth Arlwyo'r Campws a
ddarparodd pizzas blasus i bawb a gymerodd ran!
Er bod ein harchwilwyr yn ceisio cofnodi cymaint o
wybodaeth â phosib, nid yw bob amser yn hawdd.
Penderfynodd rhai adeiladau gymryd rhan yn
annibynnol yn y Blacowt yn hytrach na bod yn rhan
o'r archwiliad ac mae’r canlyniadau arbed ynni, ar sail
mesuryddion, wedi'u cynnwys yn y graff isod. Mae'r
wybodaeth a gasglwyd yn ddarlun pwyllog o arferion
arbed ynni a'r potensial i arbed ynni mewn adeiladau
amrywiol ar y campws.
Bu archwilwyr y Blacowt wrthi'n ofalus i gofnodi
goleuadau, cyfrifiaduron, monitorau, argraffwyr,
gwefryddion ayyb heb eu diffodd, i ganfod canran yr
ynni y gellid ei arbed pe bai dyfeisiadau diangen yn
cael eu diffodd yn rheolaidd. Mae canlyniadau'r
archwiliad yn dangos bod lle sylweddol i wella.
Cafwyd y perfformiad
gorau yn Adeilad Richard
Price gyda staff yn diffodd
78% o'r holl ddyfeisiadau a
gafodd eu harchwilio. Mae'r
data o'r mesuryddion yn yr
Abaty yn dangos, pe bai
dyfeisiadau diangen yn cael
eu diffodd, gallai'r Abaty
gyflawni gostyngiad enfawr o 63% yn yr ynni mae'n ei
ddefnyddio. Mae'r graff isod yn dangos y canlyniadau
amrywiol iawn ar gyfer yr adeiladau a gafodd eu
harchwilio a chanlyniadau’r mesuryddion.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Garbon, gall mabwysiadu
mesurau arbed ynni syml (h.y. diffodd dyfeisiadau
ymysg pethau eraill) leihau biliau ynni hyd at 20%.
Mae Canllawiau i Swyddfeydd o eiddo’r
Ymddiriedolaeth Garbon yn darparu cyngor
defnyddiol ar sut i leihau defnydd o ynni ac arbed
arian.
Yn seiliedig ar ostyngiad cyfartalog posib o 5% yn ei
defnydd o ynni, gallai'r Brifysgol arbed tua £26,000 ar
ei bil trydan blynyddol drwy ddiffodd dyfeisiadau
diangen mewn adeiladau a swyddfeydd academaidd.
Gydag ymdrech bendant gan yr holl staff, gallem
arbed hyd yn oed mwy o arian!
Cyfradd Arbed Ynni Mae'r gyfradd arbed ynni'n
seiliedig ar yr ynni a ddefnyddiwyd - yn ôl mesuryddion - yn ystod
penwythnos y Blacowt o'i gymharu â meincnod y defnydd cyfartalog dros ddau benwythnos blaenorol.
Cyflawni gyda'n gilydd
Ym mhob rhifyn rydym yn cydnabod staff am eu
hymdrechion i wneud eu gweithle, eu bywyd a'u
cymuned yn fwy cynaliadwy. Hoffem ddiolch i'r
Hyrwyddwyr Cynaladwyedd am eu
cyfraniadau a'u mentrau arbennig.
Yn y rhifyn hwn o ‘Cynnal Lles hoffem DDIOLCH i
Les Carmichael (Rheolwr Arlwyo) am ei
waith arwrol yn plannu coed ar Fynydd Cilfái
ym mis Hydref diwethaf. Cafodd Les ei fagu yng
nghymuned St Thomas ac aeth ati o'i ben a'i bastwn
ei hun i gadw ac adfywio rhan helaeth o ardal
Mynydd Cilfái.
Gyda chymorth ei bartner busnes, Darganfod a'r
Tîm Cynaladwyedd arweiniodd Les fenter i blannu
130 o goed. Rhodd garedig yr Athro Tariq Butt oedd
y pinwydd ifanc, enghraifft o gydweithrediad gwych
rhwng gwahanol adrannau'r Brifysgol.
Mae'n rhaid DIOLCH yn arbennig i'r hyrwyddwyr
prysur hyn: Claudio Donofrio (ASTUTE) a
Dr Natascha Kljun (Daearyddiaeth) am
sefydlu'r prosiect ‘Cyfrifiaduron i Affrica’. Hyd
yn hyn, mae tua 650 o eitemau cyfarpar TG sy'n
addas i'w hailddefnyddio wedi'u rhoi i'r elusen
Brydeinig, IT Schools Africa, sy'n adnewyddu hen
gyfrifiaduron ac yn eu dosbarthu i ysgolion yn
Affrica.
Dros y ddwy flynedd diwethaf, bu Claudio a
Natascha yn chwarae rôl allweddol wrth drefnu,
cefnogi a hyrwyddo'r casgliadau hyn gan arbed
costau gwaredu i'r Brifysgol. O ganlyniad i lefel
wych o gydweithredu, cymorth dosbarthu gan
Carillion ac ymateb da i alwadau am ragor o
roddion gan adrannau a staff unigol, mae'r Tîm
Cynaladwyedd yn ystyried dynodi mannau casglu
cyfarpar TG diangen fel y bydd staff yn gallu eu rhoi
drwy gydol y flwyddyn.
Ydych chi'n adnabod neu'n gweithio gyda rhywun
yn y Brifysgol a ddylai gael ei gydnabod am ei
gyfraniad at gynaladwyedd? Rhowch wybod i ni!
Hoffem glywed am eich ffrind neu'ch cydweithiwr
a diolch iddo am ei fenter. Rhowch ei enw a
disgrifiad byr i'r Tîm Cynaladwyedd.
Edrychwn ymlaen at dderbyn
eich enwebiadau!
Hyrwyddwyr Cynaladwyedd y Tymor
Mae Lles yn y
gweithle’n
yn
bwysig
Dros y misoedd diwethaf, cynhaliodd y Tîm Cynaladwyedd arolwg lles ymhlith staff y Brifysgol er mwyn creu darlun o les yn y gweithle.
Cafwyd ymateb da i'r arolwg lles gydag oddeutu 550 o staff yn ymateb. Mae eich atebion bellach yn cael eu dadansoddi ar sail gorfforaethol a fesul coleg/adran (yn ddienw) a bydd yr holl reolwyr yn derbyn adroddiad am faterion sy'n berthnasol i'w meysydd penodol a'r
Brifysgol. Diolch yn fawr iawn i'r holl staff sydd wedi llenwi'r arolwg. Rydym yn gwerthfawrogi'ch adborth a bydd yn cyfrannu at greu amgylchedd gwaith ysgogol i chi a'ch cydweithwyr.
I gael mwy o syniadau am yr hyn sy'n gwneud i ni deimlo'n dda am ein gwaith, gwyliwch y sgwrs TED ddifyr hon gan yr economegydd ymddygiadol Dan Ariely
Ar y gweill
Ydych chi'n hoff o wylio adar neu oes gennych lygad
da am adnabod pethau? Os ydych, dyma her i chi!
Mae Adran y Biowyddorau'n recriwtio myfyrwyr a staff newydd i wella ar
ganlyniad y llynedd pan enillodd wobr gyntaf am adnabod 113 o rywogaethau adar
ar diroedd y Brifysgol! Drwy gofnodi rhywogaethau adar a welir ar Gampws
Singleton neu Dwyni Crymlyn a'r cyffiniau, gallwch ennill gwobrau mewn sawl
categori (yn unigol ac fel prifysgol).
Dyma gyfle gwych i feithrin sgiliau tacsonomig, dysgu technegau arolygu pwysig,
cyfrannu at gynllun casglu data cenedlaethol ar gyfer dinasyddion er mwyn helpu i
warchod rhywogaethau penodol A rhyfeddu at nifer y rhywogaethau adar sydd
i'w gweld ar y campws!
Ni waeth beth yw'ch disgyblaeth, mae croeso i chi gyfrannu! Mae'n hawdd
cofnodi'r adar rydych yn eu gweld a gallwch gymryd rhan ni waeth beth yw'ch
sgiliau adnabod adar. Bydd Adran y Biowyddorau yn falch i'ch helpu wella'ch
sgiliau adnabod. I gymryd rhan yn yr her, cysylltwch ag Emma Cole
neu Dr Dan Foreman.
GWYLIWCH
AM Y GWDIHŴ Dewch o hyd i'ch Bydi Teithio
eich hun yn Abertawe
Wyddech chi? Gallwch arbed hyd at £1000
y flwyddyn drwy rannu car. Chiliwch am eich
bydi teithio i ddechrau arbed nawr. Mae'n
hawdd ...defnyddiwch Gynllun Bydi Teithio
Prifysgol Abertawe sydd newydd gael ei
lansio. Drwy fewngofnodi i'r wefan rhannu
taith ar ei newydd wedd, gallwch ddod o hyd
i'r bydi teithio perffaith i rannu car,
beicio neu gerdded.
Mae Pythefnos Masnach Deg ar y Trothwy!
Mae'r pwyslais eleni ar dynnu sylw at straeon y bobl sy'n cynhyrchu cynifer o'r nwyddau Masnach Deg rydym yn eu prynu bob dydd, gan gynnwys te, siwgr a choco. I gynyddu ymwybyddiaeth o'r cynhyrchwyr Masnach Deg hyn bydd Gwasanaeth Arlwyo'r Campws yn darparu nifer o gynigion a mentrau arbennig gan gynnwys:
> Cyfle i flasu Coffi Masnach Deg Eros mewn nifer o leoedd arlwyo > Ffrwythau Masnach Deg am ddim gyda phob salad sy'n cael ei brynu (y Venue) > Raffl Gwin Masnach Deg (y Venue) > Dangosiad 'Black Gold (Caffi Fusion)
Serch hynny, mae llawer o waith i'w wneud i sicrhau bod yr holl farchnadoedd
yn deg - dim ond 1.2% o goco a llai na 10% o de sy'n cae ei fasnachu yn ôl
telerau teg yn fyd-eang. Helpwch ni i gyflawni'r nod!
“Mae 78% o'r cyhoedd yn y DU yn adnabod nod MASNACH DEG.”
Mis Chwefror yw Mis y Galon, y cyfle perffaith i chi a'ch cydweithwyr
ofalu am eich calonnau a chymryd rhan yn Her 10 Munud Mis y Galon.
Ewch ati i gadw'n heini neu gwnewch newidiadau yn eich deiet - camau
bach sy'n gallu arwain at ffordd iachach o fyw a gwella'ch lles yn y gweithle.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi creu pecyn cymorth gyda phopeth
mae ei angen arnoch i herio pawb yn eich gweithle i wneud newid bach bob
dydd am 10 niwrnod.
Gall y 'llun gorau' a'r 'astudiaeth achos' orau
sy'n cael eu derbyn erbyn 6 Mawrth 2015
ennill talebau Love2Shop
gwerth £20!
Cofrestru ar gyfer yr her i
dderbyn eich pecyn cymorth
.
MIS Y G LON YR HER 10 MUNUD
16-27 Chwefror 2015
Mae enwau enillwyr yr Arolwg
Teithio wedi’u cyhoeddi! Fe’ch
hysbysir os byddwch wedi ennill
un ai Pryd Carferi i ddau, un o’n
cloeon beic solet, neu lyfr o ‘10
tocyn diwrnod ’ ar gyfer Taith
Fws First Cymru
(gwerth £50).
ENILLWYR
Cofrestrwch ar gyfer
Hyfforddiant Hyrwyddwyr
Teithio Cynaliadwy gyda
Jayne Cornelius!
CYNNIG HYFFORDDIANT
AM DDIM
PYTHEFNOS MASNACH DEG 2015 23 Chwefror – 8 Mawrth
GWRANDEWCH AR EU
STRAEON, RHENNWCH EU
STRAEON, NEWIDIWCH
RAGOR O FYWYDAU.