12
Swyddfa’r Cyngor 5 Stryd Fawr Blaenau Ffestiniog Gwynedd LL41 3ES 01766 832 398 clerc @cyngortrefffestiniog.cymru COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 fed HYDREF 2019

COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

Swyddfa’r Cyngor ● 5 Stryd Fawr ● Blaenau Ffestiniog ● Gwynedd ● LL41 3ES 01766 832 398 clerc @cyngortrefffestiniog.cymru

COFNODION

CYFARFOD ARFEROL

10fed HYDREF 2019

Page 2: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

COFNODION CYFARFOD ARFEROL CYNGOR TREF FFESTINIOG A GYNHALIWYD NOS IAU 10fed o HYDREF 2019

YN SIAMBR Y CYNGOR AM 7.00 Y.H. CADEIRYDD : Cynghorydd: Glyn Daniels YN BRESENNOL: Cynghorwyr: Ronwen Roberts, Erwyn Jones, Bedwyr Gwilym,

Mark Thomas, Annwen Daniels, Rory Francis Mel Goch ap Meirion, Will G Roberts, Mari Rees a Gwenlli Evans

10612/10/19 YMDDIHEURIADAU

Cynghorwyr: 10613/10/19 DATGAN DIDDORDEB Cynghorydd Glyn Daniels - 10622/10/19 Pwyllgor Staffio Cynghorydd Erwyn Jones - 10622/10/19 Pwyllgor Staffio Cynghorydd Annwen Daniels - 10622/10/19 Pwyllgor Staffio Cynghorydd Annwen Daniels - 10623/10/19 Dref Werdd

Cynghorydd Rory Francis - 10623/10/19 Dref Werdd 10614/10/19 GWARD CONLYWAL

Bu i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Glyn Daniels groesawu’r Cynghorydd Gwenlli Evans fel cynghorydd ar gyfer gward Conglywal.

10615/10/19 MATERION BRYS

Materion a ddylai, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel rhai brys, yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dalier Sylw trafodaeth yn unig, ni chaniateir unrhyw benderfyniad ar fater a godwyd yn y fan hyn ond ei raglennu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

HOSBIS YN Y CARTREF Bu i Mr Trystan Lewis, prif weithredwr Hosbis Dewi Sant ofyn a gaiff wahoddiad i gyfarfod mis Tachwedd i drafod datblygiadau ynglŷn â gwasanaethau gan y gwasanaeth Hosbis yn y Cartref fydd yn cychwyn yn Canolfan Goffa yn fuan PENDERFYNIAD: I ymestyn gwahoddiad i Mr Lewis i gyfarfod mis Tachwedd CYNGOR GWYNEDD - CYNLLUN PARCIO 10% Rhoddwyd gwybodaeth bod y Cynllun Parcio 10% yn fyw erbyn hyn a bod y peiriannau i fod wedi eu newid i adlewyrchu hyn. Mae’r cynllun yn fyw er mis Awst ond roedd Cyngor Gwynedd wedi anghofio gadael i’r Cyngor Tref wybod. PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth TROSGLWYDDO EIDDO Mae Ms Amanda Murray, Rheolwr Prosiect, Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Cyngor Gwynedd am fynd ar ôl Mr Meilir Huws o’r Adran Eiddo, Cyngor Gwynedd i edrych pam nad oes dim wedi digwydd ynglyn a throsglwyddo eiddo fel y Parc Sglefrio, Cae Sgwâr Oakeley ac eraill i’r Cyngor Tref. PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth

Page 3: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

NEUADD FFESTINIOG Cafwyd gwybodaeth bod trosglwyddo Neuadd Ffestiniog i’r Cyngor Tref yn symud yn ei flaen o’r diwedd. Bu raid creu gweithredoedd newydd oherwydd tir oedd wedi ei ychwanegu at yr adeilad a heb eu cofnodi ar y gweithredoedd. PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth

10616/10/19 MATERION YR HEDDLU Doedd dim aelod o’r Heddlu yn bresennol yn y cyfarfod.

PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth

10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019

PENDERFYNIAD: Derbyn a Chadarnhau’r Cofnodion gyda’r Cynghorydd Erwyn Jones yn cynnig a’r Cynghorydd Mel Goch ap Meirion yn eilio gyda’r chywirdeb ar gofnod 10557/07/19 Pwyllgor Mwynderau 20fed o Fehefin 2019. Ail Godi lloches bws a goleuadau Nadolig ym Manod - Fel ddylai’r argymhellion ddarllen – Bu i’r Pwyllgor drafod cyn ail godi'r lloches bws bod rhaid cysylltu gyda chynrychiolwyr o asiantaeth cefnffyrdd yr A470 i drefnu cyfarfod i drafod symud y lloches bws am ei fod mewn lle peryglus pan mae bws yn codi teithwyr ac i gael groesfan ‘Pelican’ yno gan nad yw gyrrwyr yn gweld cerddwyr ar y groesfan os bydd bws yn aros ger y lloches bws. Mae'r Cyngor yn edrych ar osod Goleuadau Nadolig lawr i Gonglywal.

10618/10/19 CYFRIFON I’W TALU

Owain Aeron (Caeau Chwarae) £ 1,290.00 Rhif Siec. 002914 Cricieth Cleaning (Amrywiol) £ 1,084.46 Rhif Siec. 002915 Viking Direct (Clwb Ieuenctid) £ 129.16 Rhif Siec. 002916 Cyngor Gwynedd (Rhent tir) £ 1.00 Rhif Siec. 002917 D Woolley (Gliniadur) £ 348.00 Rhif Siec. 002918 Viking Direct (Amrywiol) £ 357.73 Rhif Siec. 002924 J P Farrington (Garddio) £ 305.00 Rhif Siec. 002925 Catrin Williams (Cyfieithydd) £ 117.25 Rhif Siec. 002926 British Gas(Trydan Caffi Kiki) £ 240.14 Debyd Uniongyrchol BT (Ffôn) £ 39.60 Debyd Uniongyrchol BT (band eang) £ 40.68 Debyd Uniongyrchol Antur Stiniog (Rhent) £ 636.00 Debyd Uniongyrchol Cyngor Gwynedd (Trethi) £ 216.00 Debyd Uniongyrchol PENDERFYNIAD: Rhoddwyd caniatâd i’r Clerc dalu’r uchod

Page 4: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

10619/10/19 CYFRIFON MISOL Y CYNGOR

Adroddiad Misol Cyfrifon y Cyngor Tref Hydref 2019

I Mewn Balans 01/04/2019 Praesept £ 215,000.00

Cyffreddin £ 311.00 Cyfredol £ 23,864.76

Adran 137 £ - Reserve £ 5,006.07

Llogau £ 111.15 Capital Reserve £ 67,301.23

Llwybrau £ - £ 96,172.06

Nadolig £ - Heb eu talu £ 18,369.81

Mwynderau £ 2,244.00 cr heb eu talu £ -

Caeau Chwarae £ 906.44 £ 77,802.25

Archwilio £ -

£ 218,572.59

Ad-daliad TAW £ 5,857.92

£ 224,430.51

Balans 01/10/2019 Taliadau

Cyflogau £ 30,855.90 54% Cyfredol/Current £ 52,880.97

Cyffredin £ 9,878.15 54% Reserve £ 5,011.15 Cyfraniadau A137 £ 250.00 13% Capital Reserve £ 167,407.30

Cyfraniadau £ 6,310.09 34%

Llwybrau £ - 0% £ 225,299.42

Nadolig £ - 0% Heb eu talu £ 12,827.22

Mwynderau £ 14,359.44 58% £ 212,472.20

Caeau Chwarae £ 15,836.37 30% Cr heb eu talu £ -

Incwm £ - 0% £ 212,472.20

Aelodau £ 1,640.00 17%

Yswiriant ayb £ 3,693.72 54%

Llochesi bws £ 2,166.48 40%

£ 84,990.15 Balans 01/04/19 £ 77,802.25

Arian i mewn £ 224,430.51

Taliadau -£ 89,760.56

Taliadau £ 84,990.15 £ 212,472.20

TAW £ 4,770.41 Mewn Llaw £ 212,472.20

£ 89,760.56 TAW £ 4,770.41

£ 217,242.61

PENDERFYNIAD: I dderbyn y cyfrifon

Page 5: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

10620/10/19 PWYLLGOR MWYNDERAU Derbyn argymhellion Pwyllgor Mwynderau nos Iau 19eg Medi 2019

ARGYMHELLION PWYLLGOR MWYNDERAU

NOS IAU 19eg o FEDI 2019 YN SIAMBR Y CYNGOR AM 7.00 O’R GLOCH YR HWYR

Presennol: Ymddiheuriad:

Cynghorwyr: Cynghorwyr: Mel Goch ap Meirion - Cadeirydd Glyn Daniels Rory Francis Bedwyr Gwilym Annwen Daniels Erwyn Jones Mark Thomas DATGAN DIDDORDEB Ni fu i unrhyw Gynghorydd Datgan Diddordeb 1. Adroddiadau Caeau Chwarae Bu i’r Cyngor drafod adroddiadau mis Medi ar gyfer y caeau chwarae. Argymell: I dderbyn yr adroddiadau ac i weithredu fel a ganlyn - Cae Tanygrisiau

I archebu set siglen plant bach a set i’r siglen fawr o gwmni G L Jones, Bethesda am bris o £371.96 cyn TAW. Bu i’r torrwr gwair y caeau chwarae adrodd bod twll ar gae Tanygrisiau wedi ei guddio gyda darn o bren er i’r gwaith gael ei wneud y llynedd i drwsio peipen o’r ysgol oedd yn gollwng i’r cae. I yrru at bennaeth yr ysgol yn gofyn iddo drefnu i’r twll gael ei lenwi cyn i blentyn frifo.

Parc Sglefrio Cafwyd gwybodaeth nad yw’r biniau ar y Parc Sglefrio ar eu safle gwreiddiol ac o ganlyniad mae sbwriel ar hyd y safle. I holi Jordan Evans os gall drwsio’r twll yn yr offer sglefrio gan fod plant yn mynd i mewn iddo erbyn hyn ac yn cychwyn tan oddi fewn iddo.

Cwt Canŵs Cafwyd gwybodaeth nad oes Clwb Padlo yn y Blaenau erbyn hyn ond bod offer

gweithgareddau awyr agored o eiddo Antur Stiniog yn cael eu cadw yn y cwt ynghyd a canŵs sydd yn cael eu defnyddio ym Mhorthmadog. Tir dan ofal y Cyngor Tref yw hwn a does neb gyda chytundeb ffurfiol ar y cwt nac wedi talu unrhyw rent arno. Mi fydd y person sydd yn defnyddio’r cwt yn dod yn ôl at y Cyngor Tref pan fydd wedi cael gwybodaeth bellach ynglŷn â’r nwyddau sydd yn y cwt.

Cae Manod Mae angen twtio’r safle ble dynnwyd offer yn ystod yr haf, I holi os gall y garddwr wneud y gwaith yma.

2. Cynllun Parcio 10% Cyngor Gwynedd

Bu i’r Cyngor Tref gytuno i fod yn rhan o gynllun parcio 10% Cyngor Gwynedd y llynedd ond doedd dim wedi digwydd ynghylch a hyn gan Gyngor Gwynedd. Bydd y ffi am barcio yn codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod i’r Cyngor Tref tuag at y gost o redeg gwasanaethau yn yr ardal.

Argymell: Bu i’r Cyngor Tref dderbyn ffurflen cytundeb arall gan Gyngor Gwynedd a bu i’r ffurflen newydd gael ei harwyddo.

Page 6: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

3. Ceisiadau Cynllunio Cais Cynllunio Rhif C19/0797/03/AM Ymgeisydd: Mr M Jones Cyn Garej Gwylfa Manod Blaenau Ffestiniog Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 6 tŷ (yn cynnwys 2 dy fforddiadwy) Cytuno i’r cais ond hoffai’r Cyngor Tref weld o leiaf hanner y cynllun yn dai fforddiadwy.

Cais Cynllunio Rhif C19/0240/03/LL Ymgeisydd: Mr M Shoker Tir ger Ffordd Manod Blaenau Ffestiniog Cais i adeiladu 6 tŷ, llefydd troi a ffordd mynediad Gwrthwynebu i’r cais ar sail nad oes tai fforddiadwy yn rhan o’r cynllun a hefyd mae gan y Cyngor Tref bryderon ynglŷn â’r mynediad i’r safle.

4. Cae Manod

Bu i’r Cyngor Tref dderbyn prisiau ar gyfer adnewyddu’r ffensys ar gae Manod a hefyd y dacluso’r fynedfa ble mae giât mochyn. Mae cwmni North Wales Fencing yn cynnig prisiau fel a ganlyn - I osod ffens terfyn ger wal gardd tŷ - £1636 I drwsio ffens terfyn cefn y cae - £386 I osod ffens terfyn cefn y cae newydd - £1172 I osod ffens terfyn ger y ffordd i Gae Clyd - £466 I dacluso’r fynedfa ger y giât mochyn - £800 Argymell: Wedi trafod y prisiau penderfynwyd i’r Cynghorwyr Mel Goch ap Meirion a Mark Thomas fynd draw ac edrych yn fanwl ar y safle a lleoliad a mesuriadau’r ffensys newydd.

5. Parc Sglefrio Bu i’r garddwr drysu ynglŷn â therfyn y Parc Sglefrio ac nid oedd wedi prisio’r llwybr ger y

Cwt Canŵs a’r ardal at y giât ddwbl pan fu i’r Cyngor Tref dderbyn ei bris am dorri gwair a chadw’r safle yn daclus. Bu iddo gynnig pris o £60 pob pythefnos ar gyfer y safle yn gyfan. Argymell: I gytuno i’r pris a gynigir ac i newid y cytundeb presennol. Penderfynwyd bod torri’r gwair a thacluso’r safle unwaith y mis yn ddigonol rhwng diwedd Hydref a dechrau Ebrill gyda’r gwaith i’w wneud pob pythefnos drwy fisoedd yr haf.

6. Gŵyl Aeaf Ffestiniog

Bu i’r Cyngor Tref gael sawl un yn holi a oes Gŵyl Aeaf Ffestiniog eleni. Mae arian wedi ei neilltuo yn y braesept ar gyfer hyn ond mae’n golygu llawer iawn o waith gan nad oes fawr o neb yn fodlon helpu i gynnal yr Ŵyl. Argymell: I holi’r Cynghorydd Will G Roberts os yw’r stondinau wnaeth awgrymu ar gael. I gynnal Gŵyl am bedwar diwrnod o Noson Goleuo Stiniog hyd at y Dydd Sul. I edrych os yw’n bosib cael rinc ia unwaith eto o gofio’r problemau enfawr cafwyd wrth gael y cwmni i symud eu hoffer o’r Parc ar ddiwedd yr Ŵyl. I gynnal cystadleuaeth ‘Blaenau’s Got Talent’ unwaith eto gan iddo fod mor llwyddiannus. I geisio cael rhai o du allan i’r Cyngor Tref i helpu i drefnu’r Ŵyl.

Page 7: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

7. Caffi’r Parc Cafwyd cais gan denant y Caffi i gael gosod canllaw ar y grisiau sydd yn arwain o’r Parc i Ffordd Wynne a hefyd i gael gosod golau ger y grisiau. Mae hyn oherwydd i fwy nac un cwsmer faglu am ei bod mor dywyll yno erbyn hyn. Argymell: I holi Jordan Evans os gall greu canllaw addas i’r grisiau ac i drafod gosod golau gyda Chyngor Gwynedd pan fydd swyddogion yn dod draw i drafod gosod mwy o oleuadau ar lwybrau’r Parc.

8. Cyngor Gwynedd – Rhaglen Waith Hydref 2019

Llwybr Rhif 83 Tanygrisiau Atgyweirio Pont Droed Argymell: I dderbyn y wybodaeth

PENDERFYNIAD: Derbyn a chadarnhau’r argymhellion gyda’r Cynghorydd Mel Goch ap

Meirionyn cynnig a’r Cynghorydd Erwyn Jones yn eilio

10621/10/19 PWYLLGOR RHEOLEIDDIO

Derbyn argymhellion Pwyllgor Rheoleiddio nos Fawrth 1af Hydref 2019

ARGYMHELLION PWYLLGOR RHEOLEIDDIO NOS FAWRTH 1af o HYDREF 2019

YN SIAMBR Y CYNGOR AM 7.00 O’R GLOCH YR HWYR Presennol: Ymddiheuriad:

Cynghorwyr: Cynghorwyr: Rory Francis - Cadeirydd Annwen Daniels Glyn Daniels Bedwyr Gwilym Erwyn Jones Mel Goch ap Meirion

Mark Thomas Will G Roberts Geraint Parry Mari Rees

DATGAN DIDDORDEB Ni fu i unrhyw Gynghorydd Datgan Diddordeb

1. Adolygu’r Rheolau Sefydlog

Yn sgil gwybodaeth gan UnLlais Cymru ynglŷn â diweddariad i’r Rheolau Sefydlog er mwyn adlewyrchu newidiadau cyfreithiol ynglŷn â diogelu data, rheoliadau ariannol ac yn y blaen, bu i’r Cyngor edrych yn fanwl ar y Rheolau Sefydlog wedi eu diweddaru a gwneud newidiadau fel eu bod yn berthnasol i Gyngor Tref Ffestiniog.

PENDERFYNIAD: Derbyn a chadarnhau’r argymhellion gyda’r Cynghorydd Will G

Roberts yn cynnig a’r Cynghorydd Erwyn Jones yn eilio.

Page 8: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

10622/10/19 PWYLLGOR STAFFIO DATGAN DIDDORDEB Cynghorydd Glyn Daniels Cynghorydd Erwyn Jones Derbyn argymhellion Pwyllgor Staffio nos Fawrth 1af Hydref 2019

ARGYMHELLION PWYLLGOR STAFFIO

NOS FAWRTH 1af HYDREF 2019 YN SIAMBR Y CYNGOR AM 9.00 O’R GLOCH YR HWYR

Presennol: Ymddiheuriad: Cynghorwyr: Cynghorydd: Glyn Daniels - Cadeirydd Annwen Daniels Rory Francis Bedwyr Gwilym Erwyn Jones Mark Thomas Will G Roberts Geraint Parry Mari Rees

DATGAN DIDDORDEB Cynghorydd Glyn Daniels – Adolygu Swydd Dirprwy Cynghorydd Erwyn Jones – Adolygu Swydd Dirprwy

Trafod ymddeoliad Clerc y Dref Mae Mrs Ann Coxon, Clerc y Dref yn ymddeol ar 1af o Fawrth 2020. Argymhelliad: I baratoi toriad ar y gwaith er mwyn gallu paratoi hysbyseb swydd cyn gynted â modd.

Gwerthuso Swydd Ddirprwy Clerc y Dref

DATGAN DIDDORDEB Cynghorydd Glyn Daniels Cynghorydd Erwyn Jones

Bu i’r Cynghorydd Rory Francis ei benodi yn Gadeirydd

Mae cyfnod prawf Mrs Eirian Barkess fel Dirprwy Clerc y Dref bron a dod i ben ac mae angen gwerthuso ei gwaith a chadarnhau ei phenodiad parhaol fel Dirprwy Clerc y Dref. Bu i’r Cynghorwyr Rory Francis, Geraint Parry a Chlerc y Dref eu penodi i wneud y gwaith gwerthuso. Argymhelliad: Y Clerc a’r Dirprwy Glerc i gwblhau ffurflenni gwerthuso ar drefn Society of Local Clerks ac i gwrdd am 6.00 nos Iau 17eg o Hydref i wneud y gwerthusiad.

PENDERFYNIAD: Derbyn a chadarnhau’r argymhellion gyda’r Cynghorydd Will G Roberts yn

cynnig a’r Cynghorydd Mark Thomas yn eilio.

Page 9: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

10623/10/19 PWYLLGOR ADNODDAU DATGAN DIDDORDEB

CYNGHORYDD RORY FRANCIS Derbyn argymhellion Pwyllgor Adnoddau 8fed o Hydref 2019

ARGYMHELLION PWYLLGOR ADNODDAU

NOS FAWRTH 8fed HYDREF 2019 YN SIAMBR Y CYNGOR AM 7.00 O’R GLOCH YR HWYR

Presennol: Ymddiheuriad: Cynghorwyr: Cynghorydd:

Glyn Daniels- Cadeirydd Annwen Daniels Erwyn Jones Mark Thomas Rory Francis Geraint Parry

Bedwyr Gwilym Wil G Roberts Ronwen D Roberts

Mari Rees DATGAN DIDDORDEB Cynghorydd Rory Francis - Y Dref Werdd

1. Cyfrifon 2018/2019 Nid yw cwmni BDO wedi darfod archwilio cyfrifon y Cyngor am y flwyddyn 2018-2019. Maent wedi gyrru i ddweud eu bod yn bwriadu amodi’r archwiliad gyda’r canlynol - Nid yw'r cyngor wedi cyhoeddi'r hysbysiad o ymarfer hawliau etholwyr ar ei wefan yn ystod y cyfnod hysbysu. Argymell: I dderbyn y wybodaeth

2. Cyfrifon 2019/2020

Bu i’r Cynghorydd Ronwen D Roberts adael y cyfarfod cyn trafod mwyafrif o’r cyfrifon Bu i’r Pwyllgor edrych yn fanwl ar y cyfrifon i’r dyddiad. Bu iddynt dderbyn copi o bob adran o’r cyfrifon sydd ar y rhaglen Scribe sydd yn cadarnhau’r ffigyrau ac yn dangos pa ganran o’r gyllideb ar gyfer pob adran sydd wedi ei wario i’r dyddiad. Argymell: Cafwyd fod y cyfrifon fod yn gywir ac argymhellwyd iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn.

3. Y Dref Werdd

Bu i’r Cyngor dderbyn e-bost gan Y Dref Werdd yn holi os yw’n bosib cael cyfarfod anffurfiol i drafod y ffordd orau ymlaen yn sgil ymgynghoriad y Cyngor Tref ynglŷn â’r posibilrwydd o ail-leoli'r Siambr a swyddfeydd. Argymell: I adael i’r Dref Werdd wybod nad yw’r Cyngor Tref mewn sefyllfa i drafod y posibilrwydd o ail-leoli Siambr a swyddfeydd y Cyngor Tref nes bydd yr ymgynghoriad gyda thrigolion yr ardal wedi ei gwblhau. Mae’r Cyngor wedi gyrru erthygl i Llafar Bro at rifyn mis Hydref, ynghyd a holiadur mewn siopau lleol ac mae’n hanfodol bod y Cyngor yn rhoi digon o amser i’r trigolion cael ymateb cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Er lles democratiaeth tybir na fydd penderfyniad yn cael ei wneud nes Cyfarfod Arferol o’r Cyngor Tref ym mis Rhagfyr.

PENDERFYNIAD: Derbyn a chadarnhau’r argymhellion gyda’r Cynghorydd Erwyn Jones yn

cynnig a’r Cynghorydd Mari Rees yn eilio.

Page 10: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

10624/10/19 CEISIADAU CYNLLUNIO Trafod ceisiadau sydd i law a derbyn penderfyniadau Awdurdodau Cynllunio.

CEISIADAU WEDI DERBYN PENDERFYNIAD

AWDURDOD CYNLLUNIO

1. Cais Cynllunio Rhif C19/0656/03/LL

Ymgeisydd Mr & Mrs Ward 1 Pant yr Onnen

Rhiwbryfdir Blaenau Ffestiniog Estyniad deulawr ar ochr yr eiddo gyda balconi yn y cefn a modurdy ar y llawr daear Caniatáu PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth

10625/10/19 WIFI CYMUNEDOL Cafwyd gwybodaeth bod y sustem yn weithredol yn Blaenau Ffestiniog er mis Awst ac yn Llan Ffestiniog er ddechrau mis Hydref. Mae ‘Dashboard’ ar y sustem er mwyn marchnata lleol. Bydd y Cynghorydd Bedwyr Gwilym a’r Dirprwy Glerc yn trefnu i fynd o gwmpas cwmnïau lleol i gael noddwyr i’r safle. Mae’n debyg y bydd y costau i osod y sustem tu fewn i’r Ganolfan Gymdeithasol yn uchel iawn oherwydd trwch y waliau. Mae’n bosib iddo gael ei osod ar y llawr cyntaf am bris eithaf rhesymol and fydd yn rhu ddrud i fynd i’r llawr gwaelod. Mae sticeri ar eu ffordd er mwyn hysbysu’r gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth am ddim am y ddwy awr gyntaf gyda chost yn cael ei godi ar ôl hyn. Bydd y Cyngor Tref yn derbyn 80% o’r elw sydd yn cael ei godi pob tri mis yn uniongyrchol i gyfrif banc y Cyngor Tref. Bydd yn bosib rhoi taleb i rai sydd heb y modd i dalu ac am ddefnyddio’r sustem i e.e. chwilio am waith. Mae’r sustem tu fewn i Neuadd Ffestiniog yn fyw ac yn cael ei ariannu o fewn y cynllun gan y Cyngor Tref. PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth

10626/10/19 IECHYD Bu i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Glyn Daniels roddi adroddiad yn dilyn sgwrs ffon rhwng

Mark Wilkinson, BIPBC, Cynghorydd Glyn Daniels a Chlerc y Dref dydd Gwener 27ain o Fedi 2019. Dywedodd i’r sgwrs fod yn un galonnog gyda Mr Wilkinson yn agored iawn i wrando ar beth

oedd yn cael ei adrodd iddo. Bu i ni egluro i Mr Wilkinson bod cyfarfod wedi ei gynnal yn Siambr y Cyngor Tref ar 3ydd o Fedi 2019 gyda 16 o gynghorau o fewn cylch o 15 milltir i’r Blaenau, ynghyd a meddygon teulu, nyrsys cymunedol a chynrychiolaeth o Hosbis Dewi Sant wedi eu gwahodd. Dywedwyd bod y cyfarfod hwn yn galw’n unfrydol am hosbis leol ond i ni gytuno nad oedd yr hen adeilad ffisiotherapi yn addas ar gyfer hyn.

Bu i ni ofyn i Mark Wilkinson a fyddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn fodlon i ni ymweld a Canolfa Goffa i edrych a oedd stafelloedd addas ar gyfer hosbis yno. Bu i ni egluro i Mr Trystan Lewis, prif weithredwr Hosbis Dewi Sant fynychu’r cyfarfod yn y Siambr ac iddo gytuno bod y dref hon yn fan canolog ar gyfer hosbis. Bu i ni ddweud hefyd mor bwysig yw cael hosbis mewn ardal Gymreig. Cytunodd Mr Wilkinson i drefnu cyfarfod ar y safle rhwng cynrychiolaeth o’r ardal a chynrychiolaeth o BIPBC.

Page 11: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

Gofynnodd Mr Wilkinson os oedd y penderfyniad yma yn golygu y gall BIPBC symud ymlaen i werthu’r adeilad gydag elw ohono i’w wario’n lleol. Bu i ni gadarnhau hyn a gofyn a chaiff y plac sydd er cof am rai lleol a gollodd eu bywydau yn yr ail Ryfel Byd ei symud i Canolfa Goffa er mwyn ei warchod a chytunodd i hyn. PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth.

10627/10/19 CAEAU CHWARAE Ni chodwyd unrhyw fater. 10628/10/19 CYFLE I GYNGHORWYR ADRODD YN ÔL I’R CYNGOR YN DILYN EU

PRESENOLDEB MEWN PWYLLGORAU ALLANOL Bu i’r Cynghorydd Mel Goch ap Meirion adrodd yn ôl yn dilyn ei bresenoldeb

yng nghyfarfod diweddar nosweithiau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Cynghorau Tref a Chymuned ym Mhlas Tan y Bwlch ar 1af Hydref. Dywedodd iddynt gael diweddariad cyffredinol gan y Prif Weithredwr a bod arian Ewrop ar gael iddynt hyd at 2025.

Dywedodd y bydd tirfeddianwyr o fewn y Parc yn gorfod bod yn gyfrifol am unrhyw ddodrefn llwybrau e.e. gamfa. PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth Adroddodd y Cynghorydd Ronwen D Roberts yn dilyn ei phresenoldeb mewn cyfarfod Blaenau Bendigedig yn ddiweddar. Dywedodd y bydd Noson Tân Gwyllt yn cael ei chynnal yn Tanygrisiau ar 3ydd Tachwedd gyda chaniatâd First Hydro. Bydd Noson Goleuo Stiniog yn cael ei gynnal ar 5ed Rhagfyr. Dywedwyd hefyd mai'r gobaith oedd cynnal Gŵyl y Gaeaf yn y Parc i gyd-fynd â Noson Goleuo Stiniog.

10629/10/19 NEWYDDION O GYNGOR GWYNEDD Ni chafwyd unrhyw wybodaeth

PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth

10630/10/19 RHEILFFORDD FFESTINIOG Cyfnodolyn

PENDERFYNIAD: I dderbyn y wybodaeth.

Daeth y cyfarfod i ben am 8.42yh

CADEIRYDD

Page 12: COFNODION CYFARFOD ARFEROL 10 HYDREF 2019 · 2020-01-21 · 10617/10/19 DERBYN A CHADARNHAU COFNODION CYFARFOD ARFEROL 12fed O FEDI 2019 ... codi gyda 10% gyda’r arian yma yn dod

CYNHELIR CYFARFOD ARFEROL NESAF Y CYNGOR TREF NOS IAU 14eg TACHWEDD 2019

YN SIAMBR Y CYNGOR am 7.00 y.h.

CAEIR RHAGLEN AR GYFER CYFARFOD ARFEROL 14eg TACHWEDD 2019

AR Y 7fed TACHWEDD 2019