15
Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd yn Lleol Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol Ebrill 2013 Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 1

Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd yn Lleol

Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

Ebrill 2013

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 1

Page 2: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

Document Control Sheet

Document Author: Charlotte Beattie Line Manager: Phil Harrison

Revision History

Date Version No Summary of Changes 22.10.12 1.2 Final Version 2.11.12 1.3 Amendments of dates and versions 7.1.13 1.4 Amendments required to reflect amended

Environmental Report 18.4.13 1.5 Date and Publication circulation list

Approvals

Approved by Signature Date Version Charlotte Beattie 15.01.13 1.4

Charlotte Beattie 18.4.13 1.5

Distribution: Consultation Name Title Date Version Cadw; John Berry 18.4.13 3.1 Countryside Council for Wales

Theresa Kudelska 18.4.13 3.1

Environment Agency Wales

Keith Ivens Linda Thomas

18.4.13 3.1

Clwyd Powys Archaeological Trust

Mark Walters 18.4.13 3.1

English Heritage; Judith Nelson 18.4.13 3.1 Natural England; General Consultations 18.4.13 3.1 Welsh Water Dwr Cymru

Dominic Scott and Gemma Roberts

18.4.13 3.1

Dee Valley Water Morgan Thomas 18.4.13 3.1 Wales and West Stephen Magee 18.4.13 3.1 Scottish Power Linda Lewis 18.4.13 3.1 Severn Trent Tim Smith 18.4.13 3.1 Strategic Flood Group for Wrexham CBC

18.4.13 3.1

Trunk Road Agency David Cooil 18.4.13 3.1 The five adjoining local authorities of Cheshire West and Chester; Powys, Shropshire,

Sandra Carlisle Graham Astley Wayne Hope, Neil Parry, [email protected]

18.4.13 3.1

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 2

Page 3: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

Denbighshire and Flintshire; Canal and River Trust (Formerly British Waterways);

Alison Truman and Lucas Brown 18.4.13 3.1

Forestry Commission;

[email protected] 18.4.13 3.1

Lead Local Member; Cllr Mark Pritchard 18.4.13 3.1 North East Wales Flood Risk Management Wales (FRMW) Member;

Cllr Michael Edwards 18.4.13 3.1

Wrexham Local Planning Authority

Lawrence Isted-Head of Community Wellbeing and Development

18.4.13 3.1

United Utilities Not sent-No contact details 18.4.13 3.1 Network Rail (NR) Claire Wise 18.4.13 3.1 BRB Kevin Giles 18.4.13 3.1 British Telecom Not sent-No contact Details 18.4.13 3.1 Welsh Government Paul Critchley 18.4.13 3.1 General Public 18.4.13 3.1 WLGA Neville Rookes 18.4.13 3.1

18.4.13 3.1 Welsh Government Final submission of documents to

Jo Larner and Paul Critchley 18.4.13 3.1

Wrexham Copyright. All Rights Reserved

Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp sain neu ar ddisg. Gallwn hefyd gyfieithu’r ddogfen hon i ieithoedd eraill.

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 3

Page 4: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

1 Cyflwyniad

Yn sgil Erthygl 5 (1) mae’n ofynnol cael crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan y penawdau uchod:

1.1 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wrthi ar hyn o bryd yn paratoi ei Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd yn Lleol (LFRMS), fel sy’n ofynnol dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 oedd yn rhoi goblygiadau statudol ar awdurdodau lleol i reoli risg o lifogydd lleol yn eu hardal. I baratoi’r strategaeth yma mae gofynion statudol i wneud Asesiad Amgylcheddol Strategol.

1.2 Dyma’r crynodeb Annhechnegol o’r Adroddiad Amgylcheddol a dylid ei ddarllen mewn cydweithrediad â’r fersiwn Drafft o Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd yn Lleol a’r Adroddiad Amgylcheddol (Hydref 2012)

2 Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd yn Lleol

2.1 Yn unol â’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae’n rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddatblygu, cynnal, defnyddio a monitro strategaeth ar gyfer rheoli risg o lifogydd yn lleol yn ei rôl newydd fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA). Mae’r risg o lifogydd yn lleol wedi’i ddiffinio gan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr fel risg o lifogydd o ganlyniad i ddŵr yn rhedeg oddi ar arwynebau, dŵr daear, a dyfrgyrsiau arferol (yn cynnwys llynnoedd a phyllau). Ystyr risg o lifogydd yw’r cyfuniad o’r debygoliaeth (neu’r tebygolrwydd) y bydd digwyddiad llifogydd arbennig yn digwydd a chanlyniad (neu effaith) y digwyddiad llifogydd os bydd yn digwydd.

2.2 Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gofyn bod LFRM yn nodi’r canlynol: ° Yr awdurdodau rheoli risgiau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol

Wrecsam; ° Y swyddogaethau rheoli risgiau arfordirol a llifogydd a allai gael eu

gweithredu gan yr awdurdodau hynny mewn perthynas â Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ;

° Yr amcanion ar gyfer rheoli risgiau lleol o lifogydd; ° Y mesurau sydd wedi’u cynnig i gyflawni’r amcanion hynny; ° Sut a phryd y disgwylir i’r mesurau gael eu gweithredu; ° Costau a manteision y mesurau hynny, a sut y telir am y rheiny; ° Yr asesiad o risg llifogydd lleol i bwrpas y strategaeth; ° Sut a phryd y mae’r strategaeth i gael ei hadolygu, a; ° Sut mae’r strategaeth yn cyfrannu at gyflawni amcanion

amgylcheddol ehangach.

2.3 Roedd angen i nifer o adrannau gydweithio ar y strategaeth. Ffurfiwyd grŵp strategol llifogydd, gyda phenaethiaid adrannau allweddol yn aelodau ohono (Atodiad B y strategaeth). Defnyddiwyd ffrwyth eu gwaith i lunio a datblygu’r strategaeth. Trwy ddefnyddio’r dull yma

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 4

Page 5: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

rydyn ni wedi medru gwireddu prif amcan y strategaeth, ar sail amcanion sy’n ° lleihau effeithiau llifogi ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau,

busnesau a’r amgylchedd ° cynyddu ymwybyddiaeth o lifogi ac erydu arfordirol, a chynnwys

pobl yn yr ymateb iddynt ° darparu ymateb effeithiol a chyson i lifogi ac erydiad arfordirol ° blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sydd dan fwyaf o

fygythiad.

2.4 Mae gan y strategaeth nifer o fesurau i gyflawni’r amcanion:­° L1. Gwella dealltwriaeth leol o’r perygl, a hyrwyddo meddylfryd

strategol o reoli’r perygl o fewn y prif awdurdod rheoli llifogi, y partneriaid a chyfranogwyr eraill

° L2. Hyrwyddo cynllun datblygu a dull rheoli llwyddiannus yng nghyd-destun trefi’n tyfu, gwydnwch, dylunio addas a systemau draenio cynaliadwy

° L3. Creu cofrestr rheoli asedau effeithiol sy’n cynnwys adeiladau dynodedig, ac amserlenni cynnal a chadw wedi eu seilio ar asesiad o’r perygl o lifogi

° L4. Casglu a chywain gwybodaeth am lifogydd yn effeithiol, trwy ddefnyddio systemau gwybodaeth daearyddol a chronfeydd data i ganfod a blaenoriaethu tarddiadau, a sgil effeithiau llifogi ar gymunedau

° L5. Hyrwyddo a datblygu cyfleoedd i ddefnyddio dulliau naturiol ar gyfer rheoli peryglon llifogi, a rheoli tir yn gyffredinol. Trwy hynny, defnyddio mesurau rheoli tarddiadau a gwaredu llifogydd er mwyn lleihau dŵr wyneb

° L6. Gweithredu polisi o beidio defnyddio ceuffosydd ar gyrsiau dŵr arferol

° L7. Ymateb i lifogydd ° L8. Hyrwyddo mwy o ddycnwch cymunedol, ymwybyddiaeth a

pharatoad sy’n annog cynnal a chadw cyfrifol o asedau ac amddiffynfeydd sydd mewn dwylo preifat

° L9. Gwella’r ymateb i lifogydd gan y gwasanaethau brys, unigolion a busnesau

° L10. Manteisio ar bob cyfle am gydweithredu rhwng y prif awdurdod, y partneriaid a chyfranogwyr eraill

° L11. Canfod cynlluniau a rhaglenni fforddiadwy, gan wneud popeth posib i gasglu arian cyfalaf o ffynonellau allanol.

2.6 Mae cyfraith gwlad yn mynnu ein bod yn datblygu, cynnal, gweithredu, adolygu ac arolygu’r cynllun. Mae’r strategaeth yn gynllun lefel uchel, wedi ei seilio ar ddadansoddiad o’r peryglon. Mi fydd cylch arolygu’r PFRA (sef pob chwe blynedd) yn berthnasol i’r strategaeth ac i’r mapiau a’r cynllun rheoli perygl llifogi sy’n cael eu paratoi.

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 5

Page 6: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

2.7 Mae rhestr o dermau technegol yn ymwneud â’r rheolaeth o risg llifogydd i’w chael yn y fersiwn drafft o’r Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd yn Lleol (Hydref 2012).

3 Asesiad Amgylcheddol Strategol

3.1 Mae’r Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) yn un o ofynion statudol Cyfarwyddyd SEA yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n cynnwys arfarniad o effeithiau amgylcheddol posibl (positif a negyddol) cynlluniau a rhaglenni (gan gynnwys strategaethau) fel bod modd eu cymryd i ystyriaeth cyn iddynt gael eu cymeradwyo a’u mabwysiadau’n ffurfiol. Yng Nghymru, mae’r Cyfarwyddyd SEA wedi’i weithredu gan Reoliadau’r Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Rheoliadau SEA). Am fod strategaethau lleol yn cael eu hystyried yn gynlluniau statudol, mae LFRMS Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn atebol i’r broses SEA.

3.2 Yn ogystal, am fod yr LFRMS wedi’i bennu fel strategaeth sydd â’r potensial i gael effeithiau sylweddol ar safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol o ran cadwraeth natur, cynhaliwyd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA), yn unol â Chyfarwyddyd Cynefinoedd yr UE (a weithredir yn y Deyrnas Unedig gan Asesiad y Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth (2010) ochr yn ochr â’r SEA.

3.3 Roedd yr agwedd a gymerwyd ar gyfer yr SEA wedi’i seilio ar Ganllaw Ymarferol Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (2005) i SEA a Chanllaw Topig SEA CCW (2007). Mae pum prif gam yn y Broses SEA, sydd wedi’u rhestru fel a ganlyn;

Tabl 3.1 Yn Dangos Pum Prif Gam y Broses SEA Camau SEA: Cam A: Gosod y cyd-destun a’r amcanion, sefydlu’r waelodlin phenderfynu ar rychwant yr SEA

a

Cam B: Datblygu a mireinio opsiynau ac asesu effeithiau

Cam C: Paratoi’r Adroddiad Amgylcheddol

Cam D: Ymgynghori ar y rhaglen neu gynllun draft a’r Adroddiad Amgylcheddol

Cam E: Monitro gweithrediad y cynllun neu’r rhaglen

3.4 Cam A: Rhychwantu Mae Rheoliadau SEA yn gofyn bod ymarfer Rhychwantu wedi’i gwblhau cyn cychwyn gyda’r SEA ac ysgrifennu'r Adroddiad Amgylcheddol. Cwblhawyd yr Adroddiad Rhychwantu ym misoedd Gorffennaf-Awst 2012 ac roedd yn cynnwys:

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 6

Page 7: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

° Rhestr o gynlluniau, rhaglenni ac amcanion amddiffyniad amgylcheddol perthnasol, yn canolbwyntio ar y rheiny a allai ddylanwadu ar neu gael eu dylanwadu gan yr LFRMS;

° Crynodebau wedi’u seilio ar dopigau o’r wybodaeth amgylcheddol gwaelodlin gyfredol, yn nhermau poblogaeth, strwythur mewnol, bioamrywiaeth, archeoleg a newid yn yr hinsawdd;

° Amcanion SEA a gynigiwyd, meini prawf asesu a dangosyddion monitro, wedi’u seilio ar faterion amgylcheddol allweddol.

Cyflwynwyd yr Adroddiad Rhychwantu i Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (EAW) fel y cyrff ymgynghori Cymreig statudol i SEA. Cafwyd ymgynghoriadau hefyd gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (CPAT); English Heritage, Natural England, Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW), Dŵr Dyffryn Dyfrdwy (DVW), Wales and West (WaW), Scottish Power (SP); Severn Trent (ST), Bwrdd R Prydain (BRB), Railtrack (RT), yr Asiantaeth Cefnffyrdd (TRA), a’r pum awdurdod lleol cyfagos Gorllewin Swydd Gaer a Chaer; Powys; Swydd Amwythig, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd (Dyfrffyrdd Prydain gynt), y Comisiwn Coedwigaeth (FC), Aelod Lleol Arweiniol, Aelod o Reoli’r Risg o Lifogydd Gogledd Ddwyrain Cymru (FRMW) ac Awdurdod Cynllunio Lleol Wrecsam. Roedd yr ymatebion wedi dylanwadu ar yr SEA a’r Adroddiad Amgylcheddol.

Diffinio Amcanion ar gyfer yr SEA Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli’r Risg o Lifogydd ac Erydiad Arfordirol yng Nghymru’n cynnwys pedwar Nod trosfwaol i ymdrin â rheoli risg o lifogydd, ac un ar ddeg o is-amcanion a mesurau cysylltiedig a ddefnyddir i’w gweithredu nhw. Mae’r amcanion Cenedlaethol hyn wedi dylanwadu ar ddatblygiad Mesurau L1-10 LFRMS i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r SEA wedi ystyried effeithiau amgylcheddol posibl opiniynau ac opsiynau eraill sy’n gysylltiedig â’r mesurau sydd wedi’u cynnig yn yr LFRMS.

3.5 Cam B: Ystyried Opsiynau Eraill ac Asesu Effeithiau Mae’r asesiad o opsiynau’n dilyn dull wedi’i seilio ar risgiau o addasu i effeithiau a risgiau o lifogydd ar lefel leol. Mae’r rhain wedi’u hasesu yn erbyn amcanion SEA i ganfod unrhyw effeithiau amgylcheddol sylweddol sy’n codi ohonynt. Mae hyn wedi helpu i ganfod y mesurau (opsiynau) hynny y bydd angen eu mireinio efallai er mwyn osgoi neu ostwng eu heffeithiau amgylcheddol.

Mae pum elfen i’r rhan yma:­

• Cymharu’r cynllun neu amcanion y rhaglen ag amcanion yr SEA • Datblygu dewisiadau strategol eraill • Rhagweld effeithiau’r cynllun neu’r rhaglen, a’r dewisiadau eraill • Gwerthuso effeithiau’r cynllun neu’r rhaglen, a’r dewisiadau eraill

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 7

Page 8: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

• Lliniaru effeithiau andwyol, ac awgrymu mesurau i asesu effeithiau amgylcheddol y cynllun neu’r rhaglen

Mae sefyllfa o ‘Wneud y Lleiafswm neu Wneud dim’ wedi’i ystyried hefyd fel un o’r opsiynau o fewn yr holl fesurau, er mwyn darparu cymhariaeth o’r hyn a allai ddigwydd heb yr LFRMS. Byddai’r sefyllfa yma’n golygu na fyddai’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â rheoli risg o lifogydd yn newid ac y gallai gynyddu gyda thywydd y dyfodol sy’n gysylltiedig â rhagolygon am newid yn yr hinsawdd.

3.6 Cam C: Paratoi’r Adroddiad Amgylcheddol Yr Adroddiad Amgylcheddol a’r Crynodeb Annhechnegol yw canlyniadau Cam C.

3.7 Cam D: Ymgynghori ar y Rhaglen neu’r Cynllun Drafft a’r Adroddiad Amgylcheddol Mae’r Strategaeth Risg o Lifogydd Lleol Drafft yn digwydd rhwng diwedd mis Hydref a mis Rhagfyr am gyfnod o chwe wythnos. Mae’r dogfennau ar gael i’r cyrff amgylcheddol statudol yn ogystal ag amrediad o bobl eraill yr ymgynghorir â hwy ac aelodau’r cyhoedd. Mae’r Adroddiad Amgylcheddol a’r Crynodeb Annhechnegol yn rhan o’r ymgynghoriad am y Strategaeth Drafft.

Bydd unrhyw sylwadau am yr LFRMS drafft wedi’u cymryd i ystyriaeth wrth wneud y newidiadau terfynol i’r strategaeth a bydd y dogfennau SEA yn ymdrin â nhw hefyd lle bo’n berthnasol. I gyflwyno sylwadau neu i ofyn am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan ddefnyddio’r manylion cysylltu sydd wedi’u darparu yn adran 6. Bydd yr Adroddiad Amgylcheddol a’r Strategaeth wedi’u llunio’n derfynol a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol ym misoedd Ionawr/Chwefror 2013.

3.8 Cam E: Monitro gweithrediad y Cynllun neu’r Rhaglen Darperir cynigion ar gyfer monitro gweithrediad a defnydd y dangosyddion yn yr Adroddiad Amgylcheddol.

4 Gwybodaeth Sylfaenol 4.1 Mae’n rhaid i’r LFRMS gydymffurfio, a pheidio gwrthdaro â pholisïau

cynlluniau a rhaglenni presennol ar lefelau rhyngwladol i leol a chryfhau a chefnogi strategaethau a chynlluniau lleol. Felly, pennwyd polisïau, cynlluniau, rhaglenni ac amcanion gwarchod amgylcheddol sy’n berthnasol i’r LFRMS a’r SEA fel ei gilydd a chawsent eu hadolygu i adael i unrhyw synergeddau posibl ac anghysonderau neu gyfyngiadau dderbyn sylw. Mae disgrifiad cynhwysfawr o’r rhain, ynghyd â’u perthnasedd i’r LFRMS, yn Atodiad A yr Adroddiad Amgylcheddol.

4.2 Ystyriwyd amrediad o dopigau amgylcheddol ar y cam rhychwantu a derbyniodd y topigau a rychwantwyd o fewn yr Adroddiad Rhychwantu

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 8

Page 9: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

gytundeb CCW a EAW. Mae’r topigau yma’n cynnwys, Poblogaeth, Iechyd Dynol a Hamdden; Asedau Materol; Bioamrywiaeth, Fflora a Ffawna a Chadwraeth Natur; Geomorffoleg Priddoedd a Daeareg; Dŵr, Treftadaeth Ddiwylliannol, Bensaernïol ac Archeolegol; Tirlun ac Amwynder Gweledol a Ffactorau Hinsoddol a’r berthynas rhwng y topigau hyn.

4.3 Mae nodweddion allweddol Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’u perthnasedd i’r LFRMS wedi’u hamlinellu fel a ganlyn:

4.4 Poblogaeth, Iechyd Dynol a Hamdden Gall llifogydd gael canlyniadau cymdeithasol-economaidd pellgyrhaeddol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam drwy ddylanwadu ar safon bywyd pobl, drwy niwed uniongyrchol i’w heidio a’r straen cysylltiedig a thrwy gyfyngu ar fynediad i gyflogaeth a gwasanaethau allweddol. Gall llifogydd hefyd gael eu gwaethygu gan gynnydd mewn pwysau i ddatblygu sy’n ofynnol i ymdrin â thyfiant mewn poblogaeth, yn enwedig os nad yw’r datblygiad yn ystyried yr effaith ar lifogydd neu’n cynnwys systemau draenio cynaliadwy. Roedd LFRMS a’r opsiynau a ystyriwyd oddi mewn iddo’n ceisio rheoli’r risg o lifogydd er budd poblogaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dylai LFRMS wella gwydnwch y gymuned a gostwng effaith llifogydd ar anheddau a busnesau, drwy wneud pobl yn fwy ymwybodol ac amddiffyn eiddo a’u gwneud yn gadarnach.

4.5 Asedau Materol Mae Wrecsam yn Sir strategol yng Nghymru a’r DU a chanddo ystod amrywiol o asedau materol sy’n cynnwys ei dirlun naturiol ac amrywiol, amaethyddiaeth a thwristiaeth. Mae cludiant Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys seilwaith mewnol y ffyrdd, rheilffyrdd a’r seilwaith cymunedol megis ysbytai, ysgolion, a’r gwasanaethau heddlu ac ambiwlans yn bwysig i gynaliadwyedd Wrecsam. Mae gan holl asedau Wrecsam y potensial i gael eu heffeithio gan lifogydd i wahanol raddau. Gallai’r galw cynyddol am dai a thyfiant economaidd waethygu’r risg o lifogydd mewn ardaloedd os nad yw wedi’i gynllunio a’i lunio i roi ystyriaeth lawn i’r risgiau a dulliau rheoli’r LFRMS.

Bydd LFRMS Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ceisio rheoli’r risg llifogydd i seilwaith mewnol critigol ac asedau materol ar draws y Sir. Gallai’r opsiynau yn yr LFRMS newid amlder a maint y llifogydd gan arwain at newidiadau dilynol (positif a negyddol) yn y ffordd y defnyddir y tir a chan effeithio ar ei hyblygedd a’i gynhyrchiant. Gallai’r LFRMS hefyd elwa a chyfaddawdu mynediad at adnoddau mwynol ac echdyniad a physgodfeydd a gallai ddiraddio ansawdd neu swyddogaeth pridd a allai effeithio ar y defnydd a wneir o’r tir yn y dyfodol. Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae gan yr LFRMS y potensial i effeithio ar y tirlun, sy’n atyniad pwysig i dwristiaid i’r ardal.

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 9

Page 10: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

4.6 Bioamrywiaeth, Fflora a Ffawna a Chadwraeth Natur Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys nifer fawr o safleoedd, rhywogaethau planhigion a chynefinoedd sy’n amrywiol ac wedi’u diogelu sy’n agored i niwed gan ddatblygiad a newid yn y defnydd a wneir o’r tir. Mae gan yr LFMRS y potensial i effeithio’n ddrwg ar nodweddion o’r fath, yn enwedig nodweddion dyfrol o ganlyniad i unrhyw fesurau rheoli llifogydd a weithredir. Gallai’r opsiynau ar gyfer yr LFRMS gynnwys adeiladu, newid yn y defnydd a wneir o’r tir, newidiadau ym mhatrymwedd y llifogydd ac amlder neu newidiadau mewn lefelau dwr sydd â’r potensial i effeithio’n ddrwg ar gadwraeth natur a nodweddion bioamrywiaeth. Ar y llaw arall, mae newidiadau o’r fath yn cyflwyno cyfleoedd i wella cyflwr y cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd. Mae coed yn creu cymeriad a swyddogaethau pwysig mewn ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth a draeniad. Mae coed o fewn ardaloedd trefol a Rhwydweithiau Gwyrdd yn bwysig i allu rheoli’r risg o lifogydd o ran ansawdd, maint ac amwynder yr ardal.

4.7 Priddoedd , Daeareg a Geomorffoleg Gallai’r LRMS effeithio ar briddoedd, daeareg a geomorffoleg drwy newid yn y defnydd a wneir o’r tir, newidiadau mewn patrymlun llifogydd ac amlder neu newidiadau mewn lefelau dŵr. Mae gan yr effeithiau hyn y potensial i effeithio priddoedd yn niweidiol, gan arwain at effeithiau ar y defnydd a wneir o dir amaethyddol neu effeithiau ar nodweddion daearegol pwysig. Ar y llaw arall, gallai newidiadau o’r fath gyflwyno cyfleoedd i wella cyflwr neu ddadorchuddio nodweddion daearegol newydd. Gallai newidiadau i batrymluniau llifogydd a draeniad gynyddu neu ostwng lefelau llygru dŵr a thir mewn ardaloedd lle mae gwaddodion metel trwm.

4.8 Dŵr Mae Wrecsam yn cynnwys nifer fawr o ddyfrgyrsiau y mae gan lawer ohonynt ddŵr o safon dda ynddynt ac meant yn adnoddau gwerthfawr i fywyd gwyllt, tyniad, twristiaeth a physgodfeydd. Mae’r WFD yn rhoi goblygiadau ar gyfer cyflawni statws ansawdd dŵr boddhaol erbyn 2015. Felly mae’n rhaid i LFRMS sicrhau drwy wella draeniad a gostwng risg o lifogydd ar draws y Fwrdeistref, nad oes unrhyw effeithiau niweidiol ar ansawdd y dŵr na phatrymedd hydrolegol cynefinoedd dyfrol. Felly mae’n rhaid iddo sicrhau bod safon y dŵr yfed, dŵr daear ac iechyd dynol wedi’u diogelu ac nad yw gofynion y Fframwaith Dŵr wedi’i rwystro.

4.9 Treftadaeth Ddiwylliannol, Archeolegol a Phensaernïol Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam ystod amrywiol o nodweddion diwylliannol a phensaernïol ac archeolegol dynodedig, yn amrywio o adeiladau rhestredig i dirluniau hanesyddol. Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam mae 22 o ardaloedd cadwraeth dynodedig ac un ardal gadwraeth sydd ar y gweill. Mae nifer fawr o’r ardaloedd cadwraeth hyn wedi’u lleoli yn Wrecsam a’r pentrefi trefol, sydd wedi’u pennu yn y PFRA (2011) fel ardaloedd lle mae risg o lifogydd lleol. Bydd angen i’r

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 10

Page 11: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

LFRMS sicrhau nad yw’r canlyniadau’n gwrthdaro â’r amcanion i gadw a gwella cymeriad hanesyddol ac ymddangosiad yr ardaloedd yma. Gallai’r LFRMS gynnwys newidiadau neu addasiadau i batrymweddau llifogydd a allai effeithio’n ddrwg ar safleoedd hanesyddol a’u lleoliadau. Gallai’r LFRMS ostwng y risg o lifogydd i nodweddion treftadaeth dynodedig neu arwain at well mynediad at safleoedd amgylcheddol hanesyddol.

4.10 Tirlun ac Amwynder Gweledol Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam dirlun amrywiol a deniadol gyda llawer o ddynodiadau statudol ac anstatudol. Mae Wrecsam yn denu llawer o dwristiaid drwy ei dirlun a’i asedau naturiol ac mae’r adnodd yma’n elfen bwysig o’r economi lleol, sy’n sensitif i newid. Gallai’r LFRMS gynnwys newid mewn tir, newidiadau mewn patrymweddau llifogydd ac amlder neu newidiadau mewn lefelau dŵr sydd â’r potensial i effeithio’n wael ar olwg y tirlun a’r nodweddion. Ar y llaw arall gallai newidiadau o’r fath greu cyfleoedd i wella cyflwr nodweddion y tirlun presennol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam drwy ostwng y risg o lifogydd. Mae’n rhaid i’r LFRMS ystyried pwysigrwydd y dynodiadau AHNE a SLA yng nghyd-destun unrhyw weithgareddau neu fesurau rheoli risg o lifogydd sydd wedi’u cynnig.

4.11 Newid yn yr Hinsawdd Mae Asesiad o Risg Newid yn yr Hinsawdd1 a’r Strategaeth Addasu i Newid yn yr Hinsawdd2 yn cysylltu â’r LFRMS. Gallai llifogydd effeithio ar themâu cyd-destunol allweddol yr amgylchedd naturiol, amaethyddiaeth a choedwigaeth, busnes, adeiladau a seilwaith mewnol ac iechyd a lles. Mae’r cyfle i ddefnyddio’r CCRA i hysbysu gweithredoedd a chynlluniau LFRMS. Dylai’r LFRMS gyflenwi’r risgiau a geir yn y CCRA.

5 Asesiad o Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd yn Lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

5.1 Seiliwyd yr asesiad perygl ar asesiad o dri dewis – ‘gwneud dim’, ‘cynnal y perygl presennol’, a ‘lleihau’r perygl presennol’. Casgliad y dadansoddiad oedd mai’r unig ddewis sy’n cydfnyd â’r strategaeth genedlaethol i leihau’r perygl ymhob ardal dan fygythiad sylweddol ydi ‘lleihau’r perygl presennol’. Er bod cyfyngiadau ar fanylder yr asesiad o fewn yr SEA, mae’n bosib asesu effeithiau amgylcheddol pob un o fesurau’r LFRMS. Defnyddiwyd dull matrics i asesu pob un o’r dewisiadau oedd yn cael eu hystyried i gyflawni amcanion yr LFRMS yn erbyn tair graddfa – tymor byr (pum mlynedd), tymor canol (5-10 mlynedd) a thymor hir (dros ddeg mlynedd).

Yn dilyn rhychwantu topigau amgylcheddol, casglu’r wybodaeth waelodlin a phennu materion a phroblemau amgylcheddol, datblygwyd

1 LlC (2012) Asesiad o Risg Newid yn yr Hinsawdd 2 LlC (2010) Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd i Gymru.

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 11

Page 12: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

cyfres o amcanion y defnyddiwyd proses yr SEA yn eu herbyn i asesu effeithiau amgylcheddol posibl yr LFRMS. Amcanion SEA yw:

5.2 I gymharu’r effeithiau amgylcheddol posibl ar gyfer pob un o fesurau’r LFRMA defnyddiwyd dull matrics lle mae pob un o’r Opsiynau a gynigir i gyflawni’r Mesurau LFRMS wedi’u hasesu yn erbyn yr Amcanion SEA, ac yn erbyn tair graddfa wahanol, tymor byr (5 mlynedd), Canolig (5-10 mlynedd) a Thymor hir (mwy na 10 mlynedd).

5.3 Mae graddfa a natur pob effaith bosibl (e.e. sylweddol bositif neu negyddol, a sylweddol negyddol neu ansicr) ei debygolrwydd a’i amlder, yn ogystal â’r posibilrwydd o effeithiau eilaidd (anuniongyrchol), cronnus neu synergaidd wedi’u hystyried hefyd. Defnyddiwyd barn h broffesiynol i bennu maint tebygol pob effaith bosibl, a aseswyd gan ystyried y waelodlin amgylcheddol bresennol. Rhoddwyd lefel maint i bob effaith bosibl, fel a ganlyn:

+ + Sylweddol Bositif

+ Positif

0 Niwtral

- Negyddol

- - Sylweddol Negyddol

? Ansicr

5.4 Drwy beidio ystyried y risgiau cynyddol yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a thrwy beidio mynd i’r afael yn fwy effeithiol â’r rheolaeth ar lifogydd yn lleol, casglwyd y byddai’r senario ‘Gwneud dim byd’ yn achosi effeithiau negyddol ar gyfer holl amcanion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol.

5.5 Yn dilyn proses yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, casglwyd y byddai pob un o’r mesurau’n arwain at effeithiau a oedd i raddau helaeth yn gadarnhaol. Mae’n debygol y gallai L5 arwain at welliant sylweddol o ran amcan 4 yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae ganddo’r potensial i ddiogelu ac/neu wella bioamrywiaeth yn Wrecsam. Mae potensial i’r mesur hwn leihau’r risg o lifogydd a helpu i greu cynefinoedd newydd neu adfer cynefinoedd presennol; gallai wneud rhywogaethau’n fwy gwydn yn wyneb y newid yn yr hinsawdd drwy wella cynefinoedd a chynyddu cysylltedd o fewn y dirwedd ar gyfer rhywogaethau.

5.6 Ceir cyfyngiadau i’r Asesiad Amgylcheddol Strategol hwn ar y raddfa strategol eang hon o ran deall lefel yr effeithiau. Bydd angen gwneud gwaith pellach ar lefel prosiect, cynllun a rhaglen ar ffurf gofynion a deddfwriaeth Asesu Rheoliadau Cynefinoedd ac Asesu Effaith Amgylcheddol, o ran unrhyw asesiadau effaith a sgrinio safleoedd Natura 2000/Ramsar, ac Ardal Gadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 12

Page 13: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

SEA Objectives

Mesurau LFRMS

SE

AO

1.A

mdd

iffyn

a g

wel

laie

chyd

a ll

es d

ynol

;

SE

AO

2. L

leih

au’r

risg

olif

ogyd

d a

sicr

hau

bod

datb

lygi

ad n

ewyd

d w

edi’i

leol

iy

tu a

llan

i TA

N 1

5 pa

rtha

uC

1 a

C2

a bo

d yr

hol

ldd

atbl

ygia

dau

‘n d

efny

ddio

egw

yddo

rion

cynl

lun

sens

itif

drae

niad

a dŵ

r cy

nalia

dwy;

SE

AO

3. S

icrh

au b

od e

ffaith

bosi

bl ll

ifogy

dd a

r se

ilwai

thcr

itigo

l pre

senn

ol a

’r dy

fodo

lw

edi’i

leih

au;

SE

AO

4. A

mdd

iffyn

a g

wel

labi

oam

ryw

iaet

h a

gwar

chod

natu

r ym

Mw

rdei

stre

f Siro

lW

recs

am

SE

AO

5. A

mdd

iffyn

y p

ridd

gora

u a

gwel

la a

nsaw

dd a

chym

eria

d y

tirlu

n;

SE

AO

6. C

ynna

l a/n

eu w

ella

cym

eria

d tr

eflu

niau

,tr

efta

daet

h dd

iwyl

liann

ol a

c as

edau

ym

Mw

rdei

stre

f Siro

lW

recs

am.

SE

AO

7. C

ynna

l a g

wel

laad

nodd

au dŵ

r ac

ans

awdd

dŵr

SE

AO

8. A

mdd

iffyn

a G

wel

laA

mw

ynde

r gw

eled

ol a

Thi

rlun

Bw

rdei

stre

f Siro

l Wre

csam

;

SE

AO

9. A

ddas

u da

tbly

giad

iw

rths

efyl

l effe

ithia

u ne

wid

yn

yr h

insa

wdd

;

L1. Gwella’r lefel o ddealltwriaeth o risg llifogydd lleol a hybu dull strategol o reoli’r risg o lifogydd o fewn yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, Partneriaid Risg Llifogydd a Rhanddeiliaid;

++ ++ ++ ++ ++ ++ ++ ++ ++

L2. Hybu cynllun datblygu llwyddiannus a dull o reoli materion yn ymwneud â risg o lifogydd lleol i ymdrin â phroblemau ymgripiad trefol, gwydnwch, cynllun sy’n sensitif i ddŵr a systemau draenio cynaliadwy;

+ + + + + + + + +

L3. Sefydlu cofrestr rheoli asedau effeithiol sy’n cynnwys strwythurau dynodedig ac agwedd wedi’i seilio ar risgiau o gadw amserlenni cynnal a chadw;

+ ++ ++ + + ++ ++ ++ ++

L4. Casglu a choladu gwybodaeth am achosion o lifogydd yn effeithiol drwy ddefnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol a chronfeydd data i bennu a blaenoriaethu ffynonellau a chanlyniadau’r risg o lifogydd mewn cymunedau

+ ++ ++ + + + ++ ++ ++

L5. Hybu a datblygu’r gallu i ddefnyddio dulliau naturiol o ymdrin â rheoli’r risg o lifogydd a rheoli’r defnydd a wneir o’r tir, fel bod modd defnyddio mesurau rheoli ffynonellau, gwanhau llifogydd a storio (systemau draenio cynaliadwy) i ostwng y dŵr arwyneb sy’n llifo i ffwrdd.

+ ++ ++ + + +/­ ++ ++ ++

L6. Mabwysiadu polisi o beidio defnyddio cylfatiau + + + ++ + +/­ ++ ++ ++

L7. Ymchwilio digwyddiadau llifogydd + + ++ + + + + + ++

L8. Hybu mwy o wydnwch, ymwybyddiaeth a pharodrwydd cymunedol sy’n annog gwaith cynnal a chadw cyfrifol a rhagweithiol ar asedau perchnogion preifat ac amddiffyniadau rhag llifogydd

++ ++ + + + + ++ ++ ++

L9. Gwella ymateb i lifogydd ac adferiad ar ôl digwyddiad drwy unigolion, busnesau a sefydliadau argyfwng

++ + + + + + + + +

L10 Gwneud yn fawr o’r cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth yn yr LLFA, partneriaid risg llifogydd a rhanddeiliaid

+ + + + + + + + +

L11. Pennu prosiectau a rhaglenni sy’n fforddiadwy, gan wneud yn fawr o gyllid cyfalaf o ffynonellau allanol

+ + + + + + + + +

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 1

Page 14: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

6 Canlyniadau ac Effeithiau

6.1 Roedd canlyniad y gwerthusiad opsiynau ar gyfer y mesurau’n bositif neu’n sylweddol bositif. Bydd nifer o’r manteision sy’n gysylltiedig â rheoli risgiau llifogydd yn lleol yn cael effeithiau positif anuniongyrchol. Gellir addasu unrhyw effeithiau negyddol drwy weithredu’r LRFMS i gynnwys mesurau lleihau a gwella. Mae’r mesurau lleihau a gwella yma’n debygol o gynnwys: ° Glynu at y mesurau rheoli a enwyd yn yr Asesiad Rheoliadau

Cynefinoedd; ° Cwblhau asesiadau ac adroddiadau amgylcheddol ar lefel prosiect cyn

i’r gwaith gychwyn (yn cynnwys HRA a EIA, lle bo’n briodol); ° Ymgynghori â’r cyrff amgylcheddol statudol ar gam cynllunio a

dichonolrwydd y prosiectau LFRMS; ° Cynnal arferion safle da yn ystod cynlluniau lefel prosiect i ostwng

unrhyw effeithiau negyddol ar ansawdd dŵr (e.e. glynu at PPG5); ° Gweithredu datganiadau dull a sicrhau unrhyw drwyddedau/chaniatadau

perthnasol cyn gwneud gwaith ar lefel prosiect; ° Bydd y drefn ganiatáu ar gyfer unrhyw waith mewn safleoedd dynodedig

a amddiffynnir yn cynnwys asesiad sgrinio gorfodol y rheoliadau cynefinoedd.

° Bydd y gronfa ddata asedau draenio yn cynnwys gwybodaeth am nodweddion amgylcheddol sensitif sy’n gysylltiedig â’r ased megis unrhyw ddynodiadau bioamrywiaeth a/neu archeolegol, fel bod modd ystyried y rhain wrth i unrhyw waith cynnal a chadw godi.

6.2 Drwy ganfod effeithiau amgylcheddol potensial niweidiol a chynnig mesurau lleihau a gwella, ystyrir bod y broses SEA wedi gwneud gwahaniaeth buddiol i’r LFRMS drafft cyn iddo gael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu’n ffurfiol.

7. Monitro

7.1 Mae’n bwysig monitro gweithrediad yr LFRSM i sicrhau bod unrhyw effeithiau amgylcheddol negyddol na ragwelwyd yn cael eu canfod, bod effeithiau a ragwelwyd yn cael eu mesur a bod modd cymryd camau adferol os yw hynny’n ofynnol.

7.2 Bydd yr LFRMS yn cael ei adolygu’n ddigon aml i gydymffurfio ag adolygiad Asiantaeth yr Amgylchedd o’r Strategaeth Genedlaethol i Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. Disgwylir i hyn gynnwys cylch adrodd chwech blynyddol a bydd yr adolygiad cyntaf o’r Strategaeth Genedlaethol yn 2016, gydag adolygiadau dilynol bob chwe blynedd wedi hynny. Felly, cynigir bod gwaith monitro’r SEA ac adrodd yr LFRMS wedi’i lunio i gyd-fynd â hynny.

7.3 Hefyd bydd raid gwneud adolygiadau bychain os bydd unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth neu ffactorau eraill sy’n newid dealltwriaeth yr LLFA o risg llifogydd.

7.4 Bydd y monitro’n cynnwys profi’r meini prawf asesu sydd wedi’u cynnig ar gyfer yr Amcanion SEA gan ddefnyddio’r dangosyddion perthnasol. Bydd adrodd yn digwydd yn dilyn pob adolygiad monitro. Bydd adroddiadau

Page 15: Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol (Ebrill 2013)€¦ · Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd i’w chael yn y ddogfen hon mewn fformatau gwahanol: print mawr, braille, tâp

Strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd Lleol Drafft Crynodeb Annhechnegol: Adroddiad Amgylcheddol

monitro’n cael eu cyflwyno i’r cyrff amgylcheddol statudol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sef: Cadw (yn cynnwys Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys), Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (EAW), yn ogystal ag Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (LLFA). Hysbysir LLFA am unrhyw bryderon a bennir gan y broses fonitro ac adrodd fel bod modd adolygu, diweddaru a gwella’r LFRMS i ymateb i’r rheiny.

8. Y Cam Nesaf

8.1 Mae’r Strategaeth Risg o Lifogydd Lleol Drafft yn digwydd rhwng diwedd mis Hydref a mis Rhagfyr am gyfnod o chwe wythnos. Mae’r dogfennau ar gael i’r cyrff amgylcheddol statudol yn ogystal ag amrediad o bobl eraill yr ymgynghorir â hwy ac aelodau’r cyhoedd. Mae’r Adroddiad Amgylcheddol a’r Crynodeb Annhechnegol yn rhan o’r ymgynghoriad am y Strategaeth Drafft.

8.2 Bydd unrhyw sylwadau am yr LFRMS drafft wedi’u cymryd i ystyriaeth wrth wneud y newidiadau terfynol i’r strategaeth a bydd y dogfennau SEA yn ymdrin â nhw hefyd lle bo’n berthnasol. I gyflwyno sylwadau neu i ofyn am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan ddefnyddio’r manylion cysylltu sydd wedi’u darparu isod. Bydd yr Adroddiad Amgylcheddol a’r Strategaeth wedi’u llunio’n derfynol a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol ym misoedd Ionawr/Chwefror 2013.

Y Swyddog Rheoli Llifogydd a Dŵr Cynllunio Brys Lles a Datblygiad Cymunedol Stryt yr Arglwydd Wrecsam LL11 1LG

Ebost: [email protected]

Ffôn: Claire Denoven 01978 298828 neu Charlotte Beattie 01978 298827

Ebrill 2013 Fersiwn 1.5 2